12.07.2015 Views

y tincer - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

y tincer - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

y tincer - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Y TINCER MAWRTH 2008 15CYNGOR CYMUNED TREFEURIGMargaret Y VicCyfarfu’r Cyngor Cymuned nosFawrth 19 Chwefror yn Neuaddy Penrhyn, gyda’r Cadeirydd,Cyng. Kari Walker, yn ygadair a naw o’r cynghorwyreraill ynghyd â’r Clerc a’rCynghorydd Sir yn bresennol.Adroddwyd fod y biniau bawcŵn yn cael eu defnyddio’nhelaeth, a phenderfynwydgofyn iddynt gael eu gwagio’namlach (bob pythefnos).Adroddodd y Cyng. RichardOwen ei fod wedi anfonsylwadau cychwynnol i’rCyngor Sir am y CynllunDatblygu Lleol ar ran y CyngorCymuned, gan dynnu sylw fodyr adran ar yr iaith Gymraegbraidd yn denau.Ymwelodd yr heddwascymunedol, PC Hefin Jones,â’r cyfarfod am gyfnod byr.Nododd gynlluniau’r heddlu argyfer cyfarfodydd cyhoeddusyn yr ardal yn y dyfodol, aholodd am unrhyw faterionperthnasol a oedd wedi codiers iddo ymweld â’r Cyngorddiwethaf.Adroddodd Kari Walker aDaniel Huws ar y cyfarfod afu yn Ysgol Penrhyn-coch amy cynllun Llwybr Diogel i’rYsgol. Roedd y llwybr trwy’rcae chwarae a heibio’r cae pêldroed wedi cael ei altro, acroedd bellach yn dderbyniol allawer o’r gwaith wedi’i wneudarno. Ni fyddai gwario ar yllwybr heibio i’r Bwthyn yn yflwyddyn ariannol bresennol.Roedd cyfarfod wedi’igynnal yn Ysgol <strong>Trefeurig</strong>bnawn Sadwrn, 9 Chwefror,i drafod dyfodol adeilad yrysgol. Cafwyd siaradwr oFfarmers, Sir Gaerfyrddin, isôn am eu gwaith hwy yn yrardal honno’n codi arian at sawlcynllun cymunedol. Roeddnifer o’r cynghorwyr wedi bodyn bresennol, a theimlwydbod y cyfarfod wedi bod yn unbuddiol iawn.Roedd Kari Walker a RichardOwen wedi bod mewn seminarar gynllunio mewn perthynasâ’r Cynllun Datblygu Lleolnewydd. Hefyd roedd trio’r cynghorwyr wedi bodmewn cyfarfod ymgynghorola gynhaliwyd gan y CyngorSir yn Ysgol Penweddig ar11 Chwefror. Cafwyd cyfleyno i dynnu sylw at y diffygymgynghori a fu am y cynllunLlwybr Diogel i’r Ysgol.Trafodwyd ceisiadau addaeth ar gyfer grantiau gany Cyngor ar gyfer 2007/08.Roedd mwy o arian nag arfer ynweddill eleni a phenderfynwydcyfrannu fel a ganlyn: Neuaddy Penrhyn £1,000; Clwb PêldroedPenrhyn-coch £1,800;Cymdeithas Cae ChwaraePenrhyn (PATRASA) £1,500;Cylch Meithrin £500; CaeChwarae Pen-bont £500; Clwbar ôl Ysgol £300; Y Tincer £300;Cartref Tregerddan £250; ProjectCymuned <strong>Trefeurig</strong> £200;Brownies Penrhyn-coch £100;Clwb yr Ymddeolwyr £50;Ambiwlans Awyr Cymru £500;Gofal Marie Curie £100; BobathCymru £100. Cytunwyd hefyd ygellid ystyried cais gan Bwyllgor<strong>Trefeurig</strong>, Apêl Eisteddfod yrUrdd Ceredigion 2010, yngnghyfarfod mis Mawrth aneilltuwyd £500 ar gyfer hynny.Cytunwyd hefyd i wario hydat £3,000 ar brynu meinciaunewydd ar gyfer defnydd ygymuned.Cynhelir y cyfarfod nesaf ynYsgol <strong>Trefeurig</strong> nos Fawrth, 18Mawrth am 7.00pm.Ers rhyw fis bellach, mae’r Borthwedi colli un o ganolfannaucymdeithasol y pentre-mae’rVic wedi cau - Glyn wedi tynnuei beint olaf a Margaret wedidiffodd y ffwrn yn ei cheginbrysur.Er hyn, nid segura byddMargaret tra’n aros am gyfnodnewydd arall yn ei bywyd; nifydd yr elusennau y mae hi’n eucefnogi a’r cymdeithasau y mae’nperthyn iddynt ar eu colled- bydd hi’n dal yr un mor brysurag erioed. Mae’n nhw’n dweudfod merched fferm yn ddiwyd, adyw Margaret ddim yn eithriadi’r rheol honno.Cyn colli ei mam yn dair arddeg oed ei dymuniad oedd caelhyfforddiant ym maes coginio,ond oherwydd yr amgylchiadaubu rhaid iddi gamu i esgidiau eimam dros nos fel petae a llanw’rbwlch anferthol oedd wediei adael ar ei hôl. Wrth siaradgyda Margaret ar drothwy Suly mamau, mae’n amlwg mae’rdylanwad mwyaf arni oedd eimam. Y ddwy yn selog yn yreglwys, yn weithgar dros benyn y gymuned, yn codi arian atachosion da ac yn ddylanwadmawr ar eu plant- y naill ymMhenrhyn-coch a’r llall yn yBorth.Symudodd Margaret i’r Borth37 mlynedd yn ôl, prynu tñ ynCambrian Terrace a dechraubusnes gwely a brecwast yno ahithau’n fam sengl i Wayne. Ynogystal a chadw’r fusnes, bu’ngweithio yn hen feddygfa’r Bortham flynyddoedd, a thra yn yswydd hon yr aeth yn wythnosolar ei diwrnod rhydd i astudio yngNgholeg Ceredigion ag ennillnifer amrywiol o gymwysterauarlwyo . Bu hefyd am gyfnod yngweithio i Norman a Doreen yneu fferyllfa, swydd arall oeddwrth ei bodd am ei bod yngnghanol y gymdeithas ac ynymwneud â’i hoff beth, sef pobl.Am un cyfnod yn ei bywyd buhi a’i gãr yn cadw Clwb Golff ynKidderminstera doeddbwydo hyd at2,500 o boblyn mennudim arni!Fodd bynnagroedd gweldtrên y ‘BorthExpress’ ynpasio’r clwbyn ddyddiolyn ormod iddia dychwelydi’r Borth oedd rhaid!Ar hyn o bryd, tra’n aros amy fenter nesa, sef agor gwely abrecwast a bwyty bach yn yrhen ‘Pebbles’, mae hi yn caelrhywfaint o amser i ymlacio,ond nid drwy roi ei thraed ifyny bydd Margaret yn gwneudhynny! Mae’n dal i godi am5.45 ac yn treulio hanner awrgyda’i mab Jonathan cyn iddoef ddechrau ar ei ddiwrnodgwaith- munudau gwerthfawriawn , munudau efallai nachafodd eu sawri gyda’i mam eihunain slawer dydd . Yna efallai,ychydig o ddarllen,(hunangofiantMacmillan sydd ar y gweill ary funud) gwnïo, gwau a ‘crossstich’ ac efallai paratoi ei hoffmath o fwyd sef pryd Cheineaiddyn ogystal â gweld ei hwyrion,Tuen a Caleb.Mae’n wyth mlynedd bellachers iddi fynd i ffwrdd ar wyliau,ond pe bae’n cael dewis, iBortiwgal fydda’n anelu, nid ilan y môr i ganol twristiaid ondallan i’r wlad â’r mynyddoedd igymysgu a’r bobl a mwynhau euffordd o fyw-bwyta bwyd fel PiriPiri a sardins ffresh.Ers bod yn y Vic, a’r Hafrencyn hynny, fe gododd Margaret(gyda help ei ffrindiau meddai)y ffigwr anhygoel o £39,428 ielusennau, a hynny i gyd tra’nrhedeg ei thafarn brysur, bod ynweithgar gydag Eglwys y Borth,bod yn Lywydd Sefydliad yMerched, bod ar bwyllgorau felyr Henoed, Llywydd codi ariangyda merched y Bad Achub ...Edrychwn ymlaen i’w chefnogiyn y ‘Pebbles’ ar ei newydd weddsef, ‘Ceffyl y Mor’ a dymunwnpob hapusrwydd a llwyddiantiddi hi a’i theulu gwerthfawr. Hiroes a iechyd da!Elin Hefin

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!