12.07.2015 Views

y tincer - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

y tincer - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

y tincer - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

12 Y TINCER MAWRTH 2008AdolygiadAnnwyl Smotyn Bach Lleucu RobertsY Lolfa 155t £5.95Merch o Landreyw LleucuRoberts ynwreiddiol,ond mae wediymgartrefu ynRhostryfan,Arfon ersblynyddoeddbellach. Mae’nsgriptio ar gyferteledu a radio,ac yn fam i bedwar o blant. Dyma’ithrydedd nofel. Ei dwy nofel gyntafoedd Iesu Tirion a Troi Clust Fyddar- cyhoeddwyd y ddwy yn 2005.Gosodir y nofel Annwyl SmotynBach yn Eryri yn 2089. Fel IslwynFfowc Elis yn Wythnos yng NghymruFydd, mae’r awdures wedi mynd atii greu darlun o Gymru’r dyfodol.Cyfaddefa ei hun mai darlun duo ddyfodol y cymunedau bachCymraeg a bortreadir ganddi. MegisOceania yn Nineteen eighty-four,mae Cymru o dan warchae’r BrawdMawr. Yma hefyd, mae’r iaithGymraeg yn prysur ddiflannu. Ondyn y gogledd, â criw bach o bobl ati igeisio gwarchod eu treftadaeth, drwyffurfio ysgolion cudd sy’n sicrhauffyniant y Gymraeg.Prif gymeriad y stori yw Llio,mam ddeugain oed, sy’n sgwennudyddiadur i “Smotyn Bach”, y babiyn ei chroth yn 2040. Ynddo, cawngipolwg ar Gymru lle’r mae’r BrawdMawr a’r llywodraeth yn gormesu;lle mae pobl yn gyrru cerbydauhydrogen, pawb yn cael eu monitroa fawr neb yn darllen llyfrau. Gwelirtensiynau hefyd yn ei pherthynasa’i gãr, Siôn. Yn wir, mae popethsy’n bwysig iddi, o dan fygythiad,a phob ymgais ganddi i warchodei diwylliant a’i hiaith yn wyneburhwystrau.Yn nes ymlaen, yn 2089, mae Llioyn hen wraig mewn cartref henoed.Erbyn hyn mae’r sefyllfa wleidyddoldipyn yn well, ond beth am yr iaith?“Does dim mor fregus ag iaith.Mae hi’n llai nag atom…llifa igraciau, yn ddiferion ar ffo, yn marwmor fuan a byw”.Rhydd yma gyfle i’r darllenyddgnoi cil. Beth yw’r sefyllfa mewngwirionedd yn y Gymru sydd ohoni?Ydy hi mor wahanol i Gymru’rSmotyn Bach?Dyma nofel fentrus, uchelgeisiol.Nofel afaelgar - sy’n gwneud i nibwyso a mesur mewn difri gyflwryr iaith yn ein cymunedau Cymraegerbyn hyn - ac arswydo!Non EvansGrãp Datblygu Ysgol <strong>Trefeurig</strong>Cynhaliwyd lansiad yr adroddiad dichonolrwydda’r cynlluniau ar gyfer dyfodol y ganolfan arChwefror 2il yn yr ysgol. Daeth nifer dda ynghydgan gynnwys cymysgedd dda o aelodau Cymdeithas<strong>Trefeurig</strong> a Chynghorwyr Cymunedol. Cafwydsgwrs ddiddorol a chalonogol gan Elfyn Davies oFarmers, Caerfyrddin ar y llwyddiant a gafwyd yneu cymuned nhw. Cafwyd sgwrs ac arddangosiadhefyd gan Gyngor yr Henoed ar Gerdded Nordig.Gan fod dau wirfoddolwr i dderbyn hyfforddiantyn fuan, gobeithiwn gael grãp cerdded at ei gilyddyn barod i archwilio’r ardal leol trwy gydol yrhaf. Yn dilyn te bwffe, ffurfiwyd gwpiau trafodlle cyflwynwyd y camau nesaf tuag at sicrhau’rysgol at ddefnydd y gymuned a ffurfiwyd cynllungweithredu. Roedd y prynhawn yn llwyddiant.Hoffai’r grãp datblygu ddiolch i Antur Teifi, Cynnala’r holl aelodau a Chynghorwyr a gymerodd ranmewn lansiad mor bositif a blaengar.Pwyllgor Sioe <strong>Trefeurig</strong>Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Sioe ddechraumis Chwefror. Ail etholwyd y prif swyddogion amdymor arall.Cadeirydd – Eileen RowlandsTrysorydd – Ken EvansYsgrifennydd – Felicity WillsCynhelir cyfarfod nesaf o’r pwyllgor ym mis Mai.Dyddiad Sioe 2008 yw Sadwrn Medi 6ed.Grant Cronfa Risg GymdeithasolCyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru(WCVA)O ganlyniad i dderbyn y grant uchod mae trigolionpentrefi yr ardal yn cael y cyfle i ddysgu sgiliaunewydd e.e. Defnyddio’r rhyngrwyd a drymioSamba. Eisioes mae’r sesiynau 6 wythnos ar gyferymarfer corff “EXTEND” i rai dros 50 oed; drymioSamba a defnyddio’r rhyngrwyd wedi eu cynnalac oherwydd eu poblogrwydd gobeithir cynnalcyfres arall o sesiynau wedi’r Pasg ar y pynciauhyn, ynghyd ag eraill megis dosbarthiadau crefft;mecaneg ceir; Ioga, Tai Chi a Bowlio dan do,ynghyd a gweithgareddau i’r ieuenctid, disgo,tennis bwrdd a dartiau.Diolch i Ruth Davies (Cydlynydd y Prosiect)a’i gãr Trevor am lunio, paratoi ac anfon allanCylchlythyr Misol i aelodau’r Gymdeithas. Maehwn wedi profi i fod yn ddefnyddiol a phoblogaiddiawn yn barod.Dydd Gãyl DdewiNos Fercher, 5ed Mawrth daeth Angharad Fychanac wyth o aelodau o gôr ABC i’r Gymdeithasi’n diddori ac i fwynhau lluniaeth ysgafn oddanteithion Cymreig. Penderfynwyd ein bod yncodi tâl mynediad fechan a chynnal raffl ar y nosona rhoi’r arian tuag at gronfa targed plwyf <strong>Trefeurig</strong>o godi £7,000 tuag at gostau cynnal EisteddfodGenedlaethol yr Urdd yng Ngheredigion yn 2010.Codwyd y swm o £200. Cafwyd noson hwyliog aphleserus iawn. Diolch yn fawr iawn i’r cantorion,cyfeilydd ac Angharad hefyd, y rhai a roddoddwobrau tuag at y raffl a’r bwyd ar gyfer y lluniaeth.Cynhelir cyfarfod nesaf o’r Gymdeithas ar FawrthTREFEURIGWythawd ABC yn diddanu27ain pan fydd Terry Couling yn rhoi sgwrs ar y“Great Western Railway” ac yn darllen peth o’ifarddoniaeth.LlongyfarchiadauYchydig wythnosau yn ôl enillodd Danielle Pryce ywobr Actores Orau dan 16 oed yng nghystadleuaethAdloniant Hanner Awr i glybiau Ffermwyr IfancCeredigion. Mae Danielle yn aelod o glwb Tal-ybontac yn byw yn Y Borth, ond mae yn ymwelyddcyson â Llwyn, Cwmerfyn cartref y teulu Pryce a llemae ei thad John yn ffermio. Pob lwc i ti Daniellewrth i ti fynd ymlaen i gynrychioli Ceredigion yn yrownd nesaf.Gwellhad buanDymuniadau gorau am wellhad buan i DewiEdwards, Ger-y-coed, sydd wedi torri ei benglin wrthchwarae rygbi.Pen blwyddAr y 10fed o Chwefror fe ddathloddWynford Evans ei ben blwydd yn 80 oed.Mae Wynford wedi byw yn Aberystwythers rhai blynyddoedd bellach ond cafodd eieni a’i fagu yn Swyddfa Bost Cwmsymlog,yn fab annwyl i Dic a Lisi’r Post a fu’ncadw’r siop a’r post am dros saith deg oflynyddoedd. Ar ôl colli Lisi fe ymgartrefoddWynford a’i dad yn y dre lle buont ynhapus iawn yno. Mae Wynford yn aelodgwerthfawr o Gôr Meibion Aberystwyth ersrhai blynyddoedd.Yn y llun gwelir Wynford yn gwledda ynei hen gartref i ddathlu y pen blwydd sbesialgyda rhai o’i ffrindiau bore oes, sef EirlysCwmisa, Eirlys Cemlyn, Connie (Andrewsgynt) a Dianne (Forty gynt) Dianne oeddyn gyfrifol am y parti bach. Roedd Wynfordwrth ei fodd yn ei hen gartref, sydd bellachyn gartref i Dianne a’i theulu.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!