12.07.2015 Views

Y Morglawdd - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Morglawdd - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Morglawdd - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

4 Y TINCER EBRILL 2011Dwy Daith Gerdded:Taith y Crynwyr aThaith Mari JonesMae Pwyllgor Taith Dewi Sant wedipenderfynu trefnu dwy daith gerddeda fydd o ddidordeb i bawb sydd ynymddiddori yn hanes Cristnogol Cymru.Byddant yn digwydd yn ystod misoeddMai a Mehefin ac estynnir croeso cynnes ibawb.Wele’r manylion isod:Taith 1Dydd Sadwrn, 7fed Mai 2011: Taith yCrynwyr yn NolgellauPwrpas y daith hon fydd dysgu am hanesy Crynwyr yn ardal Dolgellau a chael cyfleyr un pryd i fwynhau prydferthwch ardalMeirionnydd. Rhoddwyd sylw i’r daithhon yn ystod y gyfres ‘Y Daith’ ar S4C ynddiweddar, ac mae Miss Catherine James oDdolgellau (a welwyd yn arwain y daith ary teledu) wedi cytuno i’n harwain. Hyd ydaith fydd oddeutu 7-8 milltir ac er y byddyn weddol hamddenol ni fydd yn addas iberson sy’n cael anhawster cerdded. Byddwnyn mynd ar hyd llwybrau cyhoeddus ac fefydd y daith yn cymryd rhyw 4-5 awr. Byddangen esgidiau cryfion a dillad glaw, ynogystal â phecyn bwyd a diod.Pe bai diddordeb gan rai i ddod ar ydaith ond am fynd mewn car (yn hytrachna cherdded) fe fydd hi’n bosib i 5 car ar ymwyaf fynd ar hyd y lonydd. Yn naturiolbydd gwaith disgwyl am y cerddwyrwrth fynd o fan i fan ond os oes gennychddiddordeb, ac yn teimlo na fedrwchgerdded cymaint â 7-8 milltir, bydd moddi chi ymuno â’r daith fel hyn. Bydd y daithhon yn cychwyn ac yn diweddu y tu allan iDdolgellau.Os hoffech ymuno â ni ar y daith,cysylltwch â’r Parchedig Judith Morris ar01970 820939 neu drwy e-bost: berwynfa@btinternet.com cyn gynted ag y bo modd.Taith 2Taith Mari Jones: Dydd Gwener a DyddSadwrn, 3ydd a 4ydd o Fehefin 2011Pwrpas y daith hon yw cofio amymdrech aruthrol Mari Jones yn teithio oLanfihangel-y-Pennant i’r Bala i brynu copio’r Beibl gan Thomas Charles. Hyd y daith,a fydd yn digwydd dros ddau ddiwrnod,yw 28 milltir ac felly ar gyfer cerddwyrprofiadol yn unig y mae’n addas. Rydymyn hynod falch bod Mr John Leeding oRehoboth, Taliesin sy’n gerddwr profiadol,wedi cytuno i arwain y daith. Bydd y rhanfwyaf o’r daith dros dir mynyddig ondbyddwn hefyd yn dilyn y ffordd fawr obryd i’w gilydd. Byddwn yn trefnu lletyar gyfer y nos Wener ond nid yw’r lleoliadeto wedi’i gadarnhau. Cynhelir cyfarfod ynweddol fuan i drefnu hyn ac i drafod hydy daith. Fe fydd yn bosib hefyd ymuno â’rdaith am un o’r diwrnodau yn unig.Os hoffech ymuno â’r daith hon neu amgael sgwrs amdani, cysylltwch â Mr JohnLeeding ar 01970 832672 neu drwy e-bost:glannant@googlemail.com.Dymuno’n ddaAr ôl adferiad iechyd yn y Flwyddyn Newydd,siom i Glynne Evans, Moorlands, a’r teuluoedd clywed bod posibilrwydd y gallaiwynebu llawdriniaeth. Ond, gyda dyfodiad yGwanwyn, cafwyd y newyddion da na fyddaihynny’n reidrwydd, er bod mynychu clinig ynyr ysbyty’n angenrheidiol y misoedd nesa’.Wrth ddymuno’n dda iddo, rydym yncydlawenhau ag ef, ac Elizabeth, wedi iJonathan a’r teulu lwyddo i ymweld wedi i’rgwaethaf o’r rhew a’r eira gilio. Roedd yngyfle i gwrdd am y tro cynta’ â’r diweddarafo’r wyrion, Daniel, a hynny’n gystal tonig ag ygallai unrhyw feddyg ei gynnig i Glynne.Hwb arall i’r galon oedd ymweliad Nansi aDes Hayes (Dunstall, gynt) â’u hen ffrindiauyn Moorlands pan oedden nhw ar eu fforddi’r Clwb Golff, yn wahoddedigion Cinio’rGymdeithas Gymraeg ym mis Mawrth. Byddhir gofio tymor diwyd Nansi ac Elizabeth ynohebwyr ‘Y Tincer’ yn y pentre.Cerddorion ifancWedi holl brysurdeb Eisteddfodau Cylch aSir yr Urdd, bu nifer o gerddorion ifanc yrardal wrthi’n ddiwyd yn ymarfer ar gyfercyngerdd Band Chwyth a Cherddorfa Iau, aBand Pres Ieuenctid a Chôr Canolradd y sir, aY BORTHgynhaliwyd yn y Neuadd Fawr, Aberystwyth,nos Fawrth, Ebrill 5ed.Yn eu plith roedd Megan Clift, StationHouse, Teras y Cambrian, a oedd wedi llwyrfwynhau’r gwaith corawl o dan arweiniadEmyr Wynne Jones. Yn wyneb y toriadauyng nghyllid addysg gerddorol Cymru rhaidedmygu ei waith ef, a dyfalbarhad yr athrawoncerdd teithiol sy’n paratoi’r bandiau a’rcerddorfeydd ieuenctid mor raenus: GeraintEvans, Pen y Môr, Ffordd y Fulfran, yn euplith.Newyddion da…Newyddion da iawn oedd clywed fodGwyneth Edwards, Gwarallt, Gwastad, ynllawer iawn gwell. Cafodd Gwyneth godwmcas adeg oerfel mawr y gaeaf, a thorri’rgwregys pelfig. Yn dilyn triniaeth ynYsbyty Bron-glais a chyfnod hir yn aros ynamyneddgar i’r asgwrn weu yn ei ôl, maeGwyneth yn teimlo’n llawer gwell, er bod ynrhaid iddi dychwelyd eto i’r ysbyty y mis hwni gael sganio’r esgyrn.Mae’n ein hatgoffa mor bwysig yw cael ysbytygerllaw.…a theimladau cymysgSerch hynny, o gael iechyd, gyda theimladaucymysg y gobeithiai Gwyneth, a’i phriodGwyliau bach yn Y BorthMerch lan y môr ydw i. Mi ges fy magu ynFfynnongroyw, pentref ar arfordir GogleddDdwyrain Cymru, cyn symud i Brestatynac yna i “Sunny Rhyl” yn fy arddegau. Maeatgofion y dyddiau hynny yn euraid, ynhaf o hyd, yn hufen iâ ac yn Ambre Solaire,heli yn y ffroenau a chri gwylanod yn gloclarwm.Bellach, dwi’n byw yn y wlad, mewnpentref bach ( os pentref hefyd) ym MroMorgannwg. Mae fy ngãr, sy’n enedigol oLanafan, yn fachgen cefn gwlad ac mae caeaua chloddiau wedi bod yn rhan annatod o’ifagwraeth o. Ond môr oedd fy nghaeau i a’rtonnau oedd y “sietinne” ac ermor ddedwydd fy myd, dwibob amser yn teimlo mod i’ndod adre pan glywaf a gwelafy môr.A diolch byth mae dau o fyffrindiau agosaf wedi setlo yny “Beach Hut” mwyaf moethuswelais erioed a hynny ar ytraeth yn Y Borth. Dwi wedisôn ar raglen Daf a fi ar RadioCymru droeon mod i’n dodi’r pentref hwn o dro i dro iaros gyda gyda nhw ac maepob arhosiad, hyd yn oed osydi o am un noson yn unig,gyfwerth â mis o wyliau. MaeY Borth yn feicrocosm o drefigwyliau – siopau “rubber rings”, 99s, fish &chips, promenade, B&Bs – ac eto mae iddo’rwedd fohemaidd, artistic hefyd gyda’i siopaucrefftau chwaethus a’i artistiaid niferus. Apha ryfedd bod cymaint o greadigrwydd ynperthyn i gynifer o drigolion Y Borth gydaMôr Iwerddon yn geflen i fywyd bob dyddyma?Mae eistedd ar y dec yn Ynyswen ynsipian diod ddiddorol(!) yn heulwen yr Haf,neu’n clebran wrth i’r haul fachlud ynddramatic wedi’n lapio mewn carthenni ynyfed mygiau o de poeth yn drît amheuthun.Rhoi’r byd yn ei le i rythm hypnotic ytonnau a fel arfer mae’r bydhwnnw yn lle gwell ar ôlsesiwn o drafod a hel atgofion.Amser gwely a’r llanw ynein siglo i drwmgwsg bodloncyn i’r gwylanod ddod arddyletswydd i’n croesawu nôli ddiwrnod arall.’Dach chi’n lwcus iawn,bois bach, yn byw mewn llemor hudolus a phob tro yraf nôl i Fro Morgannwg ar ôlhoe fach yn Ynyswen, dwi’nmynd ag ychydig o’r Borthyn ôl gyda fi ac yn ei sgîl,talp o blentynod a’r cofionmelysaf.Caryl Parry Jones


Y TINCER EBRILL 2011 5DOLAUIfor, fynychu gwasanaeth yng nghapel yGerlan nos Iau, Ebrill 14eg, i nodi cau EglwysAnnibynnol y Morfa.Bu Gwyneth a’i chwaer-yng-nghyfraith yddiweddar Tegwen Edwards gyda’r ffyddlonafo aelodau’r achos, yno ar bob tywydd, acwedyn yn y Gerlan wedi’r uno â’r EglwysBresbyteraidd. Ym mhob ‘te yn y festri’,eu cacennau hwy oedd ymhlith y mwyafpoblogaidd – yn enwedig y cacs bach coconýt!At hyn, pleser arbennig bob amser oeddcroesawu eu brawd-yng-nghyfraith annwyl,‘O. T.’ i’r pulpud, yn y Morfa cyn cau’r capel,a’r Gerlan wedyn, yn ystod blynyddoedd ycyd-addoli yno. Yn amlach na heb, adeg yrymweliadau hyn byddai ei briod ymhlith ygynulleidfa werthfawrogol (Wenna yn chwaeri Tegwen, a’u brodyr Ifor ac Owen). Atgofdisglair yw’r gwasanaethau hyfryd hynnyerbyn hyn, a phregethu gwych o’r calibry byddai ‘O.T.’ bob amser yn llwyddo i’wgynhyrchu.Er y mawr gwyno fu ar Caneuon Ffydd amnifer o resymau, mae wedi trysori i ni uno emynau mawr y Pasg, sydd hefyd ynarddangos holl fawredd y Parchedig O. T.Evans fel emynydd praff. Coffa da amdano,a bydd ein meddyliau gyda’r teulu ffyddlonhwn ar adeg drist yn hanes y pentref.Gresyn i’r achos ddod i ben, ond arhosedbendith Duw ar holl deuluoedd cred:‘Arglwydd bywyd, tyred atom,gobaith holl dylwythau’r llawr,yn dy wanwyn gwena arnom,rho i’n llwydni degwch gwawr;tyred, Arglwydd,ti yw’r atgyfodiad mawr…’O. T. Evans (1916-2004). Caneuon Ffydd, Rhif 551Llongyfarchiadau!Croeso mawr i Gari Raggett, babi newyddsbon Rhiain a Heath, Golwg y Môr (a ChigyddBow St.). Mae Gari yn frawd bach newydd iMoana,Celyn a Morus.Eisteddfodwyr brwdMae tymor yr Eisteddfodau yn ei anterth acy mae Glesni a Teleri yn cael cryn hwyl wrthfynd o steddfod i steddfod. Yn Abergynolwynyn ddiweddar cafodd y ddwy ohonynt grynlwyddiant gyda Teleri yn cael 1af a Glesniyn cael 3ydd. Ers hynny buont yn brysur ynSteddfodau yr Urdd a Phenrhyn-coch.Cyfrol o’r wasgLlongfyarchiadau i Huw Williams, Sãn yrAwel, ar gyhoeddi llyfr gyda’r wasg, PalgraveMacMillan. Teitl y gwaith yw On Rawls,Development and Global Justice: the Freedomof Peoples. Ynddo mae Huw yn trafoddyletswyddau moesol gwledydd cyfoethogi bobloedd anghenus y byd - yng nghyswlltsyniadau’r athronydd, John Rawls. Dyma eigyhoeddiad academaidd cyntaf, a dymunwnpob llwyddiant iddo yn y dyfodol. Gwelirerthygl ganddo ar t.17Dathlu Gw^ yl Ddewi yn yr AlbanEleni, am y tro cyntaf erioed fe ddathlwydDydd Gãyl Ddewi ym mhentrefCarrbridge, Sir Inverness yn ucheldir yrAlban, yng ngwesty Craigellachie. Gwelerhttp://www.craigellachiehouse.co.uk/Paratowyd y cinio gan Shân (gynt ShânRees Davies o’r Borth) a Terry Dudleston -cawl, caws Caerffili, bara ffres, tarten afalaua hufen a paned i orffen. Mi ‘roedd pobun o’r gwesteion - Albanwyr a Saeson igyd - wedi mwynhau y bwyd dros ben acyn gofyn am rysêt y cawl a ble ‘roedd caelprynu’r caws! Addurnwyd y tñ â blodaucennin Pedr, lluniau o’r Ddraig Goch, yllun “Salem”, copiau o’r Tincer a bwydlennidwy-ieithog. Chwaraewyd cryno-ddisg ogorau meibion Treforus a Pontarddulaisi hybu’r awyrgylch Cymreig ac yn dopar bopeth mi ‘roedd Shân mewn gwisgdraddodiadol!Codwyd £240 at elusennau Urdd Eglwysyr Alban, a pawb am wneud yr un pethDydd Gãyl Ddewi y flwyddyn nesaf!CIGYDDBOW STREETEich cigydd lleolPen-y-garnFfôn 828 447Llun: 9-4.30Maw-Sad 8.00-5.30Gwerthir ein cynnyrch mewnrhai siopau lleolGwellhad buanGwellhad buan i Mrs Mabel Rees, Talardeg,sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Bronglais.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Peter Leggett ar gael eibenodi yn Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Craigyr Wylfa, y Borth. Roedd Peter hefyd ynaelod o Cywair - y côr enillodd cystadleuaethCôr Cymru 2011.


6 Y TINCER EBRILL 2011ABER-FFRWD A CHWMRHEIDOLPen blwyddi arbennig!Llongyfarchiadau a phen blwyddhapus iawn i Aneurin Morgan,y Byngalo, a Mercia Railson,Maesawelon y ddau yn dathlupen blwydd arbennig iawn ynystod mis Ebrill.CydymdeimladEstynnwn ein cydymdeimladdwysaf â Paul a Norma Stephens,Blaenddol, ar farwolaeth tadNorma ddechrau mis Mawrth.Brysiwch wellaTreuliodd Richard Davies,Troedrhiwceir, rai dyddiau yn yrYsbyty y mis yma eto, gobeithioy bydd y droed yn gwella ynllwyr yn fuan.Urdd y BenywodCynhaliwyd ein pwyllgorblynyddol yng NghanolfanNant yr Arian. Cawsom brydhyfryd o fwyd wedi ei baratoigan Staff y Ganolfan ac ynacyflwynodd Mair Stanleighein gãr gwadd sef cyn ddisgybliddi o ddyddiau Coleg AddysgBellach sef David Lloyd. MaeDavid wedi ysgrifennu llyfro’i atgofion o’i blentyndod ynAberystwyth (Tales of an Aberlad Y Lolfa) ac mae ei ail lyfr arfin dod o’r wasg. Cyn ymddeoli ardal Aberystwyth bu yngweithio ym myd teledu achawsom lawer o hanesion difyriawn ganddo am ei waith drwyy blynyddoedd. Diolchwydyn gynnes iawn iddo ganJenny Hall ein llywydd am yflwyddyn nesaf. CyflwynoddCarol Marshall, ein trysoryddes,siec o £100 i brosiect Haul yngNghanolfan y Celfyddydau.Prosiect yw hwn sydd yn rhoicyfle i blant o dan anfantaisi gael profiad ym myd celf.Cyflwynwyd siec o £50 hefydi Ellie Doidge, Cae Gynon,sydd wrthi ar hyn o bryd yncasglu arian i fynd i weithiogyda plant yn Affrica trwy’relusen “Thrive Africa” yn ystodgwyliau yr haf.Cerddor ifancLlongyfarchiadau a phob dymuniad da iSeren Powell-Taylor, Troed-y-bryn, sydd ynddisgybl yn Ysgol Gynradd Tal-y-bont fyddyn cynrychioli Ceredigion yn EisteddfodGenedlaethol yr Urdd Abertawe a’r Fro ary gystadleuaeth unawd chwythbrennaublwyddyn 6 ac iau.CydymdeimladDdydd Iau 17 Mawrth bu farw Mrs GladysJones, Bron Berllan, yn Ysbyty Bron-glais yn98 mlwydd oed; gwraig ddiymhongar a fu’nffyddlon iawn i achosion lleol.. Cynhaliwydei hangladd dan ofal ei Gweinidog ddyddGwener, 25 Mawrth, a chydymdeimlir â’rteulu a’i ffrindiau.Treftadaeth LlandreBydd cyfarfod nesaf Treftadaeth Lladnre arEbrill 28 yn Ysgoldy Bethlehem am 7.30 panddaw Helen Palmer i ddweud – Beth sy’nnewydd yn yr Archifdy Sirol?Ennill ysgoloriaethLlongyfarchiadau i Gwion Llñr, Tremedd,ar ennill un o brif ysgoloriaethau y ColegCymraeg Cenedlaethol.Sefydliad y MerchedGenau’r-glynAr ddechrau’r flwyddyn newyddcynhaliwyd pwyllgor i drefnu ein rhaglenam y flwyddyn 2011. Ar Ionawr 12fedtrefnwyd noson i Ganolfan y Celfyddydaui gael pryd o fwyd cyn ymweld â’rpantomeim Cinderella. Yn ein cyfarfodmis Chwefror cawson noson o ioga ysgafnyng ngofal Lesley Wheatley. Mwynhaoddnifer fawr o’r aelodau oedd yn bresennol ynoson. Ar ddiwedd mis Chwefror cawsomwahoddiad i Dwmpath Dawns yng ngofalSefydliad y Merched y Borth. Cafwydpryd da o gawl, tarten afal a hufen, tea chacennau cri wedi eu paratoi gan yraelodau. Diweddodd y noson gan wared einLLANDREswper wrth ddawnsio. Cawsom hwyl fawr oddawnsio o dan ofal Mr Erwyd Howells a’rorganydd. Dathlwyd diwrnod Gãyl Ddewiar Fawrth 2il ym Methlehem gyda byr brydCymreig. Cafwyd adloniant gan ddwy aelodo’r gangen yn canu caneuon digri, sef Hazela Margaret ac arddangosfa o osod blodaugan aelod arall, Rose.PriodasLlongyfarchiadau i James ac Amy, Sunmead,Lôn Glanfred ar eu priodas, yn EglwysMihangel Sant Aberystwyth ar yr 2il oEbrill. Pob lwc i’r dyfodol.Llyfr NewyddMae llyfr diweddaraf Randall Enochwedi ei chyhoeddi. Teitl y gyfrol ywLlanfihangel Genau’r Glyn : The Historyof a Community, ac mae’n cyflwynohanes Llandre a’r cyffiniau o’r dyddiaucynharaf hyd heddiw. Pris y gyfrol yw£9.50 a bydd elw o werthiant y llyfr ynmynd tuag at Treftadaeth Llandre. Gellirprynu copïau gan Roger Haggar - ffôn:01970 820314 neu gan Randall Enoch ffon :01970 828328Dydd Gweddi Byd-eang yChwioryddYn Eglwys Llanfihangel Genau’r-glyn ycynhaliwyd y cyfarfod uchod eleni arbrynhawn dydd Gwener, Mawrth 4yddgyda’r Garn a Noddfa yn uno.Y rhai a gymerodd ran oedd:Eglwys Llanfihangel Genau’r-glynMrs Glenys Evans, Mrs Joy Evans, MrsHelen Jones, Mrs Sue Jones, Mrs Hazel Pitt,Mrs Averil Thomas, Mrs Margery Gill, MrsAngela Wise.Capel y GarnMrs Ann Jones, Mrs Shân Hayward, MrsMeinir Lawry, Mrs Meinir Roberts, MissKathleen Lewis, Mrs Mary Thomas, MrsElen Evans, Mrs Llinos Dafis, Mrs TegwenPryse.Capel NoddfaMrs Mair Lewis, Mrs Beryl Bowen, Mrs ErylIfans, Mrs Diana Jones. Mrs Susan Jenkinsoedd wrth yr organ.Chwiorydd yr eglwys fu’n casglu achasglwyd £39.00 tuag at waith y Mudiad allenyddiaeth Gristnogol a £4.50 o’r eglwystuag at gludiad y rhaglenni.Mrs Lona Jones, Penrhyn-coch draddododdyr anerchiad ar y thema “Pa sawl torthsydd gennych”. Gwragedd Cristnogol Chilebaratôdd y daflen. Thema addas iawn ganeu bod yn bwyta bara yn ystod pob prydbwyd. Cyfieithwyd y daflen ar ein rhan ganMrs Nan Lewis, Peniel, Caerfyrddin.Addurnwyd yr eglwys gyda ffrwythaua blodau a pharatowyd basgedaid ofrechdanau gan Mrs Glenys Evans a’i rhoiar y bwrdd gyda lliain drostynt, yna eurhannu gyda chwpanaid o de ar ddiwedd yroedfa a chyfeillachu.Gwlad debyg i Gymru yw Chile mewn llawerystyr gydag arfordir hyfryd, mynyddoedd,llawer o adnoddau naturiol - copr, aur acarian, - pysgod, amaethyddiaeth, coedwigaetha thwristiaeth yn brif ffynhonnell incwm.Roedd Cymru a hyd yn oed Ceredigionwedi gallu uniaethu â’r mwynwyr a fu’ngaeth yn nyfnder daear yng ngwaith coprac aur San Jose cyn y Nadolig.Gweddi, ffydd a chanu clychau’r eglwysa wnaeth pobl Chile, fel y Cymry gyntgweddi a chanu emyn arbennig i’r sefyllfaEmyn 736 Caneuon Ffydd gwaith DafyddWilliam (1721-94) pan lifodd dãr i bwll glo’rTñ Newydd, Y Rhondda.Yn y dyfroedd mawr a’r tonnaunid oes neb a ddeil fy mhenond fy annwyl Briod Iesua fu farw ar y pren.Cyfaill yw yn afon angau,ddeil fy mhen i uwch y don;golwg arno wna im ganuyn yr afon ddofon hon.


Y TINCER EBRILL 2011 7Gyrhaeddais i Batagonia ychydig dros dairwythnos nôl, ond mae’n teimlo fel tipynhirach a dweud y gwir. Dwi wedi proficymaint o groeso a chyfeillgarwch erscyrraedd, nes ‘mod i wedi teimlo’n gartrefoliawn yma o’r cychwyn cyntaf. Yn yGaiman dwi’n byw, ond hefyd yn gweithioyn Nhrelew, Dolavon a Phorth Madryn – adechreuais i ar y gwaith yn syth bin.Ddeuddydd ar ôl i fi gyrraedd y Gaiman,cyrhaeddodd bws llawn pobl o’r UnolDaleithiau i glywed Tegai Roberts yn rhoisgwrs ar hanes y Wladfa yng NghapelBethel. Er mai’r bwriad o’dd eistedd yny cefn yn gwrando, ges i ‘ngalw i ddarllenSalm 23 yn Gymraeg, cyn rhoi cyflwyniadbyr iddyn nhw o ‘ngwaith gyda MenterPatagonia, ac ateb eu cwestiynau!Dwi wedi ymaelodi â Chôr y Gaiman, abydda i’n cystadlu gyda nhw yn EisteddfodTrevelin ddiwedd Ebrill. Bydda i hefydyn beirniadu’r adrodd a’r dawnsio gwerin– ‘Cawl a Chân’ Ysgol Rhydypennau yw’runig brofiad sy gen i o ddawnsio gwerin!Dwi’n cynnal gwersi yn ystod yrwythnos, a fy swydd i yw chwaraegyda’r plant trwy gyfrwng y Gymraeg –gwych! Bob prynhawn Llun dwi’n cynnalcylch chwarae yn Nolavon, ac yn Ysgolyr Hendre, Trelew ar brynhawn Gwener.Mae gen i ddau ddosbarth ôl-feithrin (5-10oed) – un yn y Gaiman ac un yn Nhrelew.Dwi’n mynd i Ysgol Feithrin y Gaimanbob prynhawn Mercher i ddarllen storii’r tri dosbarth, ac yn dysgu rhieni rhai o’rplant hynny ar brynhawn Gwener. Cefaisi brofiad rhyfedd un diwrnod pan gerddaisi mewn i’r Ysgol Feithrin a chlywed cd‘Rala-la-la’ – ugain mlynedd ar ôl i fi a’mLois gydag aelodau Clwb y GaimanCynog Dafis, Fabio Gonzalez, Llinos Dafis a Lois; rhesflaen: y ddwy chwaer Luned Gonzalez a Tegai RobertsHola o Batagonia!Lois y tu allan i hen orsaf y Gaiman - lleoliad yr Amgueddfaffrindiau yn nosbarthiadau B ac C YsgolRhydypennau ei recordio yng Nghapel yGarn!Ro’dd Cynog a Llinos Dafis, a Garetha Gina Miles yn ymweld â Phatagoniafis diwethaf, a chytunodd Cynog Dafis aGareth Miles i roi sgwrs yn Salon CulturalGaiman – y naill ar ddatganoli yngNghymru, a’r llall ar fywyd llenor. A’rprynhawn canlynol, siaradodd Llinos Dafisyn Ysgol Camwy ar ei gyrfa hi ynghlwmwrth ddwyieithrwydd yng Nghymru.Ro’dd hi’n wych ca’l croesawu dau o BowStreet, a chawson ni amser braf iawn yn eucwmni.Dwi wedi dechrau ‘Clwb’ yn y Gaimanbob nos Wener, er mwyn i’r bobl ifancgymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.Bwyta amryw o gacennau a gwylio’r ffilm‘Separado’ wnaethon ni’r tro cynta, a daethpawb â thri pheth sy’n eu disgrifio nhw i’rail gyfarfod er mwyn i ni ddod i adnabodein gilydd yn well. Ro’dd yr eitemau’namrywio o sbatiwla, ffon hoci, cactws,jam llaeth (dulce de leche), clustog, ffôn,cerddoriaeth a bagiau te. Fi ddaeth â’rbagiau te – yr holl ffordd o Gymru!Cafodd Ffair Amaethyddol ei chynnalyn y Gaiman benwythnos cyntaf Ebrill, adaeth ymwelwyr o Drelew, Rawson, PorthMadryn ac Esquel i brynu a gwerthucynnyrch cartref. Heblaw crwydro’rstondinau a blasu rhai o’r cynnyrch, buesi’n gweini yn Nhe Cymreig y côr, ac yncynorthwyo ar stondin yr Ysgol Feithrin.Roedd y penwythnos hwnnw hefyd ynbenwythnos diolchgarwch, a threfnais iGwrdd Diolchgarwch Capel Bethel. Profiadrhyfedd oedd sôn am y cynhaeaf gyda’rhaul yn tywynnu’n gynnes braf y tu allan!Ond ro’dd hi’n braf iawn cwrdd i addoligyda’n gilydd yn Gymraeg, yn enwedig ganmai prin yw’r oedfaon Cymraeg sy’n caeleu cynnal yma erbyn hyn.Felly dyna bigion o’r hyn dwi wedi bodyn ei wneud yma. Ma’r prysurdeb yngolygu nad ydw i wedi llwyddo i ga’l unsiesta hyd yn hyn – ond ma’ wyth mis ifynd!Lois DafyddGellir dilyn Lois yn y Gaiman drwy eiblog http://loisdafydd.blogspot.com/CLWB CW^Penrhyn-cochCLWB AR ÔL YSGOLAr Agor Llun-Gwener o3.30 y.p - 5.30 y.p.£6 y sesiwn £5 ail blentynSesiynau wrth yr awr ar gaelBwyd a Diod Iachus yn GynwysedigGofal Plant CofrestredigCLWB GWYLIAUMae’r clwb hefyd ar agor yn ystodgwyliau’r ysgol a diwrnodau HMS08.30 y.b. – 5.30 y.p.£20 y diwrnod plentyn cyntaf£18 y diwrnod ail plentynLSesiwn hanner diwrnod08.30 – 1.00 y.p. neu 1.00 y.p. – 5.30 y.p.£10 plentyn cyntaf . £9 ail plentynwww.facebook.com/pages/Clwb-Cwl-Penrhyncoch-After-School-Club/235577369148?ref=tsI fwcio cysylltwch âDelyth James neu Katy Nash ar07972 315392clwbcwl@googlemail.comNeu cipiwch mewn i’r clwb ar ôl Ysgol


8 Y TINCER EBRILL 2011PEN-LLWYN A CAPEL BANGORAdref etoRydym yn falch fod Mrs Sally Evans,Tywynfa, adref o’r ysbyty ac yn teimlo ynwell.Dymunwn Basg hapus i bob un nad ydyntyn teimlo yn dda, ac yn gaeth i’w cartrefi.Gobeithio y byddwch yn well yn fuan.FfarwelDymunwn pob dymuniad da a hapusrwyddi Mrs Siân Spink, 1 Cefnmelindwr, sy’n eingadael ar ddiwedd mis Ebrill. Mae hi a’i gãryn symud i ardal Maenceinion, ble mae yplant wedi ymgartrefu. Colled i’r gymunedyw colli Siân, mae wedi bod yn weithgariawn am flynyddoedd mewn llawer maes.Aelod gwerthfawr o bwyllgor y neuadd, acathrawes ysgol Sul, dim ond i enwi rhai o’icyfrifoldebau.Bydd Megan, Dafydd a Huw yn hapussiwr iawn, ond trist ydym ni yma ymMhen-llwyn. Cofia Siân byddwn yn falchdy weld di a John yn ôl yn ymweld unrhywamser. Pob hwyl a diolch am bopeth.Perfformiad canmoliaethusCafwyd adolygiadau canmoliaethus ynddiweddar i berfformiad Jenny Livsey felNelly yn y cynhyrchiad Wuthering Heightsyng Nghanolfan y Celfyddydau.Pob lwc i’n pêl-droediwrMae Rhydian Davies, Ceunant, yn dal ilwyddo ym myd pêl-droed. Yn ystod ymisoedd diwethaf, mae wedi chwarae i dîmBirmingham, yn erbyn academi Lerpwl,Manchester United, Caerdydd a Peterborough.Mae yn sgorio yn gyson ac yn mwynhau yprofiad yn fawr iawn.Mae Rhydian newydd glywed y byddyn derbyn ei gap am chwarae dros Gymruyn erbyn gwlad Pãyl ddechrau mis Mai,mewn seremoni yng Nghaerdydd. Mae ynedrych ymlaen yn fawr, ac estynnwn ninnauddarllenwyr y Tincer longyfarchiadau aphob dymuniad da iddo ym myd pêl-droedyn y dyfodol. Rydym yn falch ohonotRhydian, dal ati!GWELY ABRECWAST MAIR9 Heol Llangrallo, Pen-y-Bontar Ogwr CF31 3ARCroeso cynnes Cymreig mewnlleoliad delfrydol i ganolfanausiopa gorau de Cymru, Canolfan yMileniwn, Stadiwm y Mileniwm aCae Pêl-droed Caerdydd.www.mairsbedandbreakfast.co.uke-bost : mairbandb@hotmail.com01656 65544207768 286303Cysylltwch â Huw a Sarah TudurR.J.EdwardsAdeiladau Fferm y CwrtCwrt Farm BuildingsPenrhyn-cochContractiwr, masnachwrgwair a gwellt.Arbenigwr ar ailhaduCyflenwi a gwasgaru calchGwrthtaith Fibrophos a rhaiorganigYmgymymerir â phob math owaith amaethyddolam brisiau cystadleuolLorïau a pheirianauamaethyddol i’w llogi01970 82014907980 687475Gofal TraedAberCeiropodydd / Podiatryddcofrestredig H.P.C.Triniaeth ar ewinedd a chyrnLlawdriniaeth ar gasewineddTriniaeth / asesiad arbenigol ardraed diabetigGwadnau ac asesiadbiomecanyddolTRINIAETH YN Y CARTREFAR GAELCysylltwch gyda Shân Jonesneu Richard Ellisonar 01970 617269 amapwyntiadY TINCERytincer@googlemail.comMADOG, DEWI A CEFN-LLWYDGenedigaethLlongyfarchiadau i Angharad acAndrew Rowlands, Talar Deg arenedigaeth merch, Elen Siwan –chwaer i Aneurin a Martha; wyres iAldwyth a Tegwyn Lewis, Rhos-goch,a gor-wyres i Mrs Nan Hughes,Gelliwynebwen.Pob lwcPob lwc i Siân Evans, Llain y Felin arddechrau yn yr ysgol feithrin.Gyrwyr newyddLlongyfarchiadau i Siân Evans, YFronfraith, a Rhys Wallace, Troedrhiw,am basio prawf gyrru.Llefaru cerdd GeralltMae cerdd a gyfansoddwyd ganGerallt Hywel ac a enillodd ynEisteddfod Genedlaethol yr Urdd BaeCaerdydd 2009 yn cael ei defnyddiofel darn ar gyfer cystadleuaeth partillefaru eleni. Cyhoeddwyd y gerdd- Cleisiau - yng NghyfansoddiadauEisteddfod 2009 ac yn ôl Gerallt :“Roeddwn i wedi cael sioc a dweudy gwir a dwi heb glywed y gerdd yncael ei llefaru eto ond yn gobeithiomynd i’r Eisteddfod i wrando ar ypartïon yn ei dweud hi.”“Fe gyfansoddes i’r gerdd pan oeddObama wedi cael ei ethol ac roeddmeddwl am y cleisiau roedd y bobldduon wedi eu dioddef yn y caeauwedi dod i fy meddwl. Meddylies iamdanyn nhw yn gweithio’n galeda dim gobaith dianc ond nawr bodyna ddyn du o’r un tras â nhw ynbennaeth ar y Ty^ Gwyn lle gynt ybydden nhw’n edrych ar dai mawrgwyn eu meistri. Dydw i ddim ynysgrifennu barddoniaeth; mae Taid(D.J. Jones, Llanbedrog) wedi ennill yrenglyn yn y Genedlaethol a dwi wedibod mewn ambell wers gynganedduond heb sticio ati mae arna i ofn!”Pob dymuniad da i barti llefaruYsgol Gyfun Dyffryn Teifi fydd yncynrychioli Ceredigion yn Abertawe.Bydd y gystadleuaeth ar y llwyfan am11.20 fore Iau.Am bob math owaith garddioffoniwch Robert ar(01970) 820924CYSYLLTWCHÂ NIytincer@googlemail.com


Y TINCER EBRILL 2011 9BOW STREETSuliau Ebrill – MaiY Garn10 a 5Gweler http://www.capelygarn.org/Ebrill24 (Pasg) Oedfa’r Ofalaeth – YPasg BugailMai1 Pryderi Llwyd Jones8 Cymanfa Ganu – Seion,Aberystwyth15 Oedfa Cymorth CristnogolGweinidog am 10.30 – ciniobara a chaws i ddilyn. Sylwerar yr amser dechrau.22 M. J. Morris (bore)29 Eifion RobertsNoddfaEbrill24 Oedfaon Undebol Sul y Pasgym Methel, Tal-y-bont am 10.00a 2.00 Y Parchg John GwilymJones, Peniel, CaerfyrddinMai8 Cymanfa Ganu – Seion,AberystwythDyweddiadLlongyfarchiadau a dymuniadaugorau i’r dyfodol i Aled Morgana Heledd Evans, Bryncastell, areu dyweddiad yn ddiweddar.Ennill cameraLlongyfarchiadau i Nia Phillips 1Cae’r Odyn, ar gyrraedd ffeinalrhaglen Stwnsh ar S4C. ac ennillcamera digidol. Da iawn ti NiaGenedigaethLlongyfarchiadau mawr iCarol Davies ac Eifion Evans arenedigaeth merch ar 21 Mawrth.Bu Carol ac Eifion yn byw yn 53Bryncastell tan y llynedd, ondmaent bellach wedi ymgartrefuyn ardal Llanwnnen. Croesomawr i Mari Gwenllian, adymuniadau gorau i’r teulu.Merched y WawrDathlwyd Gãyl Ddewi elenitrwy fynd i weld tair ffilmfer i’r Drwm yn y LlyfrgellGenedlaethol. Daeth nifer oaelodau ynghyd a croesawydni yn gynnes gan ein Llywydd,Shan Hayward. Yna croesawydni gan Anwen o ArchifGenedlaethol Sgrin a SainCymru. Rhoddodd frasluninni o’r tair ffilm oeddym ynmynd i’w gweld. Y gyntaf ynsôn am y Llyfrgell ei hun acfe’n tywyswyd drwy’r adeiladgan y newyddiadurwr HuwEdwards. Dangosodd adrannaumapiau, ffotograffau, BeiblWilliam Morgan a Llyfr DuCaerfyrddihn, ynghyd a nifer obethau diddorol eraill.Roedd yr ail ffilm ambriodasau yn 1911, 1921, 1937a’r pumdegau. Dyna ichibeth oedd gwledd i’r llygad,gwisgoedd anhygoel, ac nidyn unig gan y briodferch, a’rmorynion yn gwisgo hetiau!A’r drydedd ffilm oedd‘Spotlight on Wales’ sef yrEisteddfod Genedlaethol ynNolgellau ym 1949. Y pethoedd yn taro rhywun yn sythoedd gwisgoedd y merched,‘costumes’ fel roeddynt yncael eu galw amser hynny, sefsgert a chot fach, neu ffrogefo cot a het wrth gwrs, a’rdynion yn eu siwtiau a hetiau.Cawsom fraslun o weithgareddyr eisteddfod a’r Coroni,Diolchwyd i Anwen gan Shan achafodd pawb becyn amrywiol ifynd adreFfwrdd a ni wedyn i LletyParc i gael cawl a tharten afal acroedd yn flasus dros ben. Nosoni’w chofio!.PriodasLlongyfarchiadau a dymuniadaugorau am y dyfodol i AnwenJones-Steele a Mike O’Hara ar eupriodas dydd Sadwrn Ebrill 2il.CydymdeimladCydymdeimlwn â Brian acEirian Dafis, Rhys a Sion, 80Bryn Castell ar farwolaeth mamBrian – Mair Davies, 2 AfallenDeg - gynt o Bonterwyd - arFawrth 23ac â’r Parchg Richard H. a MairLewis, a Rheinallt, 40 Maes Ceiroar farwolaeth tad Richard ynLlanfyllin ar 28 Mawrth.Cymdeithas Lenyddol yGarn.I gloi’r tymor am eleni,nos Wener, 11 Mawrth 2011cynhaliwyd ‘Cyfarfod Bach’ ynysgoldy Bethlehem, Llandre.Yn dilyn gwledd o gawl abaratowyd gan y pwyllgor, aethy beirniad, Mr Tegwyn Jones,ati i gloriannu cyfansoddiadauniferus a dderbyniwyd i’rcystadlaethau, a mwynhawydnoson hwyliog a chartrefol.Cyfarchion Pen blwyddPen blwydd hapus i’r ParchgRichard Lewis, 40 Maes Ceiro addathlodd ben blwydd arbennigar 11eg Ebrill. Bellach bydd yndefnyddio’r bws!!Newid aelwydDymuniadau gorau i Ian a GwenCole a ymddeolodd ddiweddMawrth fel gofalwyr Capely Garn, wedi cyfanswm o 24o flynyddoedd o wasanaetharbennig iawn. Bydd colled fawrar eu hôl – nid oedd dim ynormod i’r cwpwl hynaws hwnac fe wnaethant gymwynasaudi-rif ag aelodau’r capel dros yblynyddoedd. Rydym yn falchCYNGOR CYMUNED TIRYMYNACHCyfarfu’r Cyngor ar nos Iau31 Mawrth o dan lywyddiaethy Cynghorydd OwainMorgan. Ar ran y Cyngorcydymdeimlodd â’r Clerc,Y Parchg Richard Lewis, arfarwolaeth ei dad ar ddechrau’rwythnos.Yn codi o’r cofnodiondywedwyd bod pwyllgor yNeuadd yn ymwybodol ogyflwr y toiledau, a’u bodyn dal i ddisgwyl ymateb odan gynllun Gwaith yn yGymuned.Adroddwyd hefyd bod yllwybr yn ystâd Tregerddanwedi ei ddynodi yn llwybrcyhoeddus, ac er bodymgymerwyr yn gosod tarmacar y pafinau yn Nhregerddanyr wythnosau hyn, nid oeddy Cyngor Sir am darmacio’rllwybr hwn am ba reswmbynnag.Hysbyswyd y Cyngor bod trichais cynllunio am godi tai ynyr ardal wedi eu gwrthod arhyn o bryd oherwydd problemy garthffosiaeth. Ceisiadauydynt am anheddau ar dirCaergywydd, Bryncastell a LlysIwan, Dolau. Y mae pwysau arDãr Cymru i fynd i afael â’rnad ydynt yn symud yn belliawn – ac ymddeoliad hir ahapus iddynt yn y Marian, eucartref newydd, sydd o fewntafliad carreg, bron, i’w hengartref.CroesoCroeso cynnes iawn i Michaelac Amanda Roberts i’r Tñ Capel,a phob dymuniad da iddynt felgofalwyr newydd y Garn.Ymddeoliad hapusDymuniadau gorau i R. IestynHughes, 14 Maes y Garn, ar eiymddeoliad o Archif Sgrin aSain y Llyfrgell Genedlaethol.broblem hon yn fuan.Derbyniwyd gohebiaethparthed agor gorsaf trên ynBow Street. Mae’r asesiad wedicyrraedd Adran C, ac ystyrhynny yw bod yr awdurdodauyn tafoli’r posibiliadau rhwngBow Street a Charno ymMhowys. Mae Ceredigion oblaid Bow Street yn gryf gandybio y gallant weithreducynllun Park and Ride iAberystwyth. Hynny yw,pobl o’r gogledd yn gadaeleu cerbydau yn Bow Street aneidio ar y trên i Aberystwythgan rwyddhau problem parciocerbydau yn y dref.Penderfynwyd ymuno elenieto ag Un Llais Cymru ar gostyr aelodaeth o £246.Dywedwyd bod cyfarfody noson ganlynol ynAberystwyth i gefnogi pobymgais i gadw Ysbyty Bron-glaisyn Ysbyty Gyffredinol i’rardaloedd cyfagos ac nid eidiraddio, fel sydd yn beryglar hyn o bryd. Penderfynwydysgrifennu at YmddiriedolaethHywel Dda yn datgan gofid ygymuned.Bydd y cyfarfod nesaf ar 28Ebrill.Y TINCERcofiwch gysylltu â niytincer@googlemail.com


Y TINCER EBRILL 2011 11thri phlentyn bach – ac unohonynt heb ei geni ar y pryd.Mae profedigaeth o’r fath ynysigo’r goreuon, ac yn aml niddeuir dros y profiad, ond roeddMary yn wydn a dewr. Er bodamseroedd yn galed ni adawoddi ddrwgdeimlad na chwerwder eillethu ond brwydrodd ymlaengan fod yn ffyddlon i’w phlanta rhoi magwraeth dda iddynt, ahynny ar ei phen ei hun. Roeddei theulu’n eithriadol o bwysigiddi – ei merched, ei hwyriona’i hwyresau a’i gorwyriona’i gorwyresau. Pan fu farwRaymond roeddynt yn byw ymMhantybanadl, Comins-coch ondsylweddolodd Mary fod angencartref mwy arnynt a chafwydeiddo yn Nhal-y-bont ac yno, yn 5Penrhiw, y magodd ei phlant.O’i holl swyddi, y gwaith aroddodd fwyaf o foddhad iddioedd nyrsio. Fe ddechreuoddyn yr hen ysbyty yn Fforddy Gogledd, Aberystwyth cynsymud i’r ysbyty newydd ynFfordd Caradog. Nid oedd yndeall ystyr y gair ymddeol aphan ymddeolodd o’r ysbytyyn 60 oed fe barhaodd i wneudgwaith nyrsio preifat am rywddeng mlynedd. Roedd Maryyn gyfarwydd â gwaith caled, ynwraig fonheddig ac yn wraig achanddi ffydd.Cynhaliwyd yr angladd ddyddSadwrn, 5 Chwefror, yn EglwysSant Ioan, Penrhyn-coch panddaeth tyrfa o deulu a ffrindiauynghyd i roi diolch am fywydMary. Roedd y gwasanaeth danofal y Canon Stuart Bell gyda Mrs.Eirwen Hughes wrth yr organ. Yrarchgludwyr oedd Sean Sedore,Shayne Sedore, Alex Roberts,Gareth Reid, Gregory Roberts(wyrion), a Mr Peter Davies (nai).Y prif alarwyr oedd Eleanor aSelwyn, Anne a Ken, Raymondaa Mike (merched a meibionyng nghyfraith); Sean, Shayne,Richelle, Gareth, Ceri, Nicole, Alex,Gregory a Rebecca (gorwyrion agorwyresau). Methodd Mrs EnfysRoberts (chwaer yng nghyfraith)fod yn bresennol oherwyddgwaeledd.DiolchHoffai Eleanor, Anne aRaymonda ddiolch i bawb amy gefnogaeth a’r caredigrwydda ddangoswyd iddynt yn ystodeu profedigaeth ddiweddar.Diolch am y cardiau, y blodau,y galwadau ffôn a’r negeseuono gydymdeimlad; hefyd am yrhoddion hael a dderbyniwyd iEglwys Sant Ioan, Penrhyn-cocha’r Gymdeithas MS. Mae diolcharbennig i wragedd Eglwys SantIoan am ddarparu lluniaeth arôl yr angladd, i’r Canon StuartBell am ei wasanaeth arbenniga chydymdeimladol; Mrs JeanMurray am ei theyrnged; MrsEdwina Davies a Mr Dai AlunJones am ddosbarthu’r taflenni;Mrs Eirwen Hughes am ganu’rorgan; Mr Egryn Evans a MrMax Jenkins (clochyddion);staff D. J. Evans, CyfarwyddwyrAngladdau, am eu gwasanaethurddasol a phroffesiynol, a staffCartref Nyrsio Plas Cwmcynfelynlle treuliodd Mary bymthengmlynedd olaf ei bywyd.Merched y WawrPenrhyn-cochNos Iau 13eg o Fawrth croesawoddein Llywydd, Glenys Morgan, bawbi’r cyfarfod. Trafodwyd y busnesarferol ac fe longyfarchodd yLlywydd y Tîm Dartiau sydd wedimynd trwodd i’r chwaraeon ynMachynlleth ym mis Mai. Y tairaeth ymlaen oedd Eirlys Davies,Glenys Morgan a Susan Hughes.Da iawn ferched.Aeth ein Llywydd ymlaen igroesawu ein gwraig wadd sefMarian Gray o Drefeurig a oeddwedi dod atom ar fyr rybuddoherwydd bod y wraig oeddi fod yn methu dod. Cafwydnoson ddiddorol dros ben. Bu ynsiarad am ei gwaith yn gwneudhomeopathi yn Aberystwyth.Mae amryw o bobl sydd ynisel eu hysbryd yn mynd ati ynrheolaidd, maent hefyd o helpmawr i bobl sydd yn dod drosryw salwch arbennig. Mae ynaml iawn yn gallu gwella pobl ynwell nac unrhyw dabledi. Mae’nbopeth i wneud rhwng meddwla’r corff sydd yn eich iachau. Mae’rhomeopathiaid fel Marian yngwneud gwaith da dros ben.Diolchwyd i Marian ynswyddogol gan Elsie Morgan, acyna cafodd sawl un gair a thrafodpethau dros gwpanaid o de.Tynnwyd y raffl fisol.Ar y teleduGwelwyd Lloyd Edwards ar ‘WediTri’ yn ddiweddar yn dangos suti wneud jams, chutneys ac yn yblaen. Mae wrth ei waith bobdydd ac yn ei amser hamdden ynprysur wneud yr holl gyffeithiauyma. Mae hefyd yn cystadlumewn sioeau dros Gymru gyfana gwelwyd, yn ei gartref, yr hollwobrwyon mae wedi eu hennill.Mae bellach hefyd yn beirniadumewn sioeau ac yn mynychu pobsioe sydd ar gael. Da iawn ti Lloyda phob llwyddiant i ti eto yn ydyfodol.Gwellhad buanDymunwn wellhad buan i’rcanlynol i gyd sydd wedi bod ynyr ysbyty yn ddiweddar, sef: Jamie,15 Dolfach, a gafodd driniaethlawfeddygol yn ddiweddar; ElenPryse, Llys y Cwm, a fu yn YsbytyBron-glais yn ddiweddar, hefydAgnes Morgan, Cwrt Villa, a fu ynyr ysbyty.Daliwch i wella i gyd, mae’rgwanwyn wedi dod.Pen blwydd arbennigDymunwn ben blwydd hapusiawn i Defi John Edwards,Lletyllwyd, ar ei ben blwydd yn80eg oed ar y 18fed o Ebrill.Brysiwch wellaDymunwn wellhad buan i ConnieEvans, Gwawrfryn, a MairwenJones, Tan-y-berth - y ddwywedi cael triniaethau yn YsbytyBron-glais yn ddiweddar.CystadluLlongyfarchiadau i barti deulaisUwch Adran Bro Dafydd a’uharweinydd Greg Roberts sydddrwodd i Eisteddfod Genedlaetholyr Urdd yn Abertawe. Bydd yrhagbrawf fore Mercher gyda’rgystadleuaeth ar y llwyfan am13.40.Pulpud HorebOs byddwch yn ymweld a’rArddangosfa Pregethwyr aPhulpudau yn AmgueddfaCeredigion (yno hyd 14 Mai) fewelwch hen bulpud Horeb ar ochrchwith y llwyfan Fe’i symudwydyma pan gafwyd hen bulpudJezreel, Goginan yn Horeb.CyngerddCynhaliwyd noson arbenniggan Gapel Horeb er mwyn codiarian at Gronfa Tirion Lewis ynNeuadd y Penrhyn nos Wener 15Ebrill. Arweiniwyd y noson ynhwyliog iawn gan Elen Pen-cwm achafwyd eitemau gan Gôr MeibionAberystwyth, Sioned Exley, SionWyn Hurford, Gwenno Morris,Anwen Morris, Gwenno Morris,Alun John, Angharad Fychan acEfan Williams a Greg Roberts. Ycyfeilydd oedd Eirwen Hughes,Pen-cwm. Cafodd y gynulleidfa alanwai’r Neuadd a Tirion ei hunfwynhad arbennig , Y llywyddoedd y Parchg Peter M. Thomasa gyflwynodd araith bwrpasola diffuant. Diolch i bawb agyfrannodd i wneud y noson ynllwyddiantSion Wyn Hurford a Sioned Exley


12 Y TINCER EBRILL 2011EISTEDDFOD PENRHYN-COCH . EISTEDDFOD PENRHYN-COCH . EISTEDDFOD PENRHYN-COCH .Cafwyd Eisteddfod wych unwaith eto - yroedd hon yn un o’r goreuon ers llawerblwyddyn, ac fel Pwyllgor mae ein diolchyn fawr iawn i bawb a gyfrannodd mewnunrhyw fodd i’w gwneud yn eisteddfodlwyddiannus dros ben,Y beirniaid nos Wener oedd Cerdd: MeinirWyn Edwards, Llandre ac Enfys Hatcher,Gors-goch; Emyr Pugh-Evans oedd yn arwaina’r gyfeilyddes Heddwen Pugh-Evans, yBorth. Llywydd y noson oedd Janice Morris,Penrhyn-coch a rhoddwyd y Tlws a’r wobrSiwan Aur George, Llanilar, ddaeth yn gyntaf ar yrunawd a’r llefaru 8-10 oed. Llun: Arvid Parry-Jonesariannol gan Aaron ac Ashley Stephens, GlanSeilo.Ein beirniaid ar y dydd Sadwrn oeddCerdd: Helen Wyn, Brynaman a Llefarua llenyddiaeth: Aled Gwyn, Caerdydd a’rgyfeilyddes oedd Lowri Evans, Caerdydd.Llywyddion y dydd Sadwrn oedd AlwenFanning (prynhawn) a’r CynghoryddRichard Owen (nos) a’r arweinyddion EmyrPugh-Evans a Rhys Hedd, y Borth a CemlynDavies a Rhian Dobson, Penrhyn-coch.Canwyd cân y cadeirio gan Angharad FychanBetsan Fychan, 3 oed, Glanrafon, Penrhyn-coch aenillodd ddwy gystadleuaeth - unawd a llefaru i blantmeithrin. Llun: Arvid Parry-Jonesa’r trwmpedwr oedd Efan Williams.Mae’n diolch hefyd yn fawr i Ferched yGegin am eu gwaith ardderchog, i deuluReynolds a fu â gofal wrth y drws, i bawb o’rpwyllgor a weithiodd mor dda ac i bawb o’rcystadleuwyr a’r gynulleidfa a’r cyfranwyr olla wnaeth eu rhan i gadw yr eisteddfod i fynd.Diolch hefyd i’r beirniaid i gyd am eu gwaithhwy, i’r cyfeilyddion am eu gwaith bendigedigac am haelioni y llywyddion.Gellir gweld y canlyniadau llawn a lluniauo’r Eisteddfod ar http://www.trefeurig.org/‘Gwreiddiau’Wrth dynnu’r llen ysblenyddDaw’r wawr oer i dorri’n rhyddA’i olau i ddatgeluUn wlad a’i hanesion luA naddwyd o’r mynyddoedd;Un hil a grewyd pan oeddY dydd yn rhydd fel breuddwydA’r nos yn dyner ei nwyd.O enaid y pren hynaf,Un fesen mor hen â’r hafEi hun, fu’n arllwys ei hudI’n hanfon tua’r cynfyd,Treiddia un gwreiddyn trwy’r gro,Un genedl yn egino.Fel hud daw’r niwl i’n cofleidio a dwynY dydd i’w drawsffurfio,Yn gyfrwys i’n cymhwyso,Yn brawf o chwedloniaeth bro.Cawn weld gwlad Ysbaddaden, ac ArthurA’r gwyrthiau drwy’r niwlen,Gwelwn Culhwch ac Olwen,Gweld Gwythyr, Gwrhyr â gwên.Yna trwy’r hud daw’r ddrudwen a’i nodynDan adain i Nisien,Am ormes mewn hanes hen,A’r hyn fu’n warth ar Branwen.Daw dau â hualau dialedd, dauDan don o unigedd,A’r ddau? Lleu a Blodeuwedd,Yn gaeth, yn welw eu gwedd.Sawl teyrnas a wel Teyrnon, o hirbellI Arberth daw’n ffyddlon,Yn ei law, llanc a gwên lon,Yr un gollodd Rhiannon.Yna cawn hanes Taliesin, un llawnO’r ddawn i farddoni’nGelfydd a’i ffydd yn hau’r ffin,Yr un fu’n herio Heinin.Arwyr ddoe, gwir wreiddiau henA’u bywyd ym mhob awen,O’r gwyll, o ryw amser gynt,Eneidiau oesol ydynt.Enillwyd y gadair gan Osian Rowlands, Llandwrog - a hynny am yr ail waith gan mai ef enillodd ddwy flynedd nôl.Mae cysylltiad lleol gan Osian - magwyd ei wraig Sioned (Hywel) yn Dolau. Roedd y gadair eleni yn rhodd er cofam eu rhieni gan Alun, Merfyn ac Islwyn Hughes, Trawsnant ynghyd a gwobr ariannol o £100. Diolch yn fawr i’rteulu am eu haelioni. Llun: Arvid Parry JonesYr oes hon ar frys o hydA ninnau heb un ennydI aros, i ystyriedRhyddhau ein gwreiddiau a’r gredO oleuo chwedleuonA’n hawl i’r diriogaeth hon.Mistar Mostyn - Osian Rowlands


14 Y TINCER EBRILL 2011EISTEDDFOD PENRHYN-COCH . EISTEDDFOD PENRHYN-COCH . EISTEDDFOD PENRHYN-COCH .Tlws yr Ifanc - Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch 2011Daeth saith ffolio o waith i law yngnghystadleuaeth Tlws yr Ifanc. Yn eumysg, cafwyd amrywiaeth helaeth owahanol arddulliau a chyfuniadau o leisiauac offerynnau. Braf oedd gweld fod pobymgeisydd wedi cyflwyno gwaith mewnfformat clir gan ddefnyddio meddalweddcerddorol yn broffesiynol. CyfansoddiadaulIeisiol oedd y mwyafrif o’r darnau gydanifer ohonynt yn cynnwys offerynnauamrywiol ar gyfer y cyfeiliant. 0 ystyriedbod yr ymgeiswyr i gyd wedi defnyddiomeddalwedd tebyg i Sibelius er mwyncynhyrchu sgor, dim ond un cystadleuyddmanteisiodd ar y cyfle o gyfrannu recordiadsain.Pleser o’r mwyaf oedd darllen gwaith ysaith ymgeisydd, a dyma ychydig o sylwadauam y ddau a ddaeth i’r brig, sef ‘Stesion Strata’a ‘Ryan Giggs’. Teimlais fod cyfansoddiadau’rddau yma yn dangos nifer o rinweddaumedrus, ac yn gosod eu gwaith ar lefel uwchyn y gystadleuaeth yma.Roedd tri darn yn ffolio ‘Stesion Strata’,darn cerdd-dant ‘Llais Pavarotti’, pedwarawdlIinynnol ‘Hau’r Hadau’ ac ‘Ymdeithgan yWerin’ ar gyfer chwe piano trydanol a drwmochr. Cafwyd ymgais dda yn ‘Ymdeithgany Werin’ i greu darn cyfoes gyda nifer orinweddau cyffrous, megis newid yr arwyddamser ac amrywio’r gwead cerddorol. Yn ypedwarawd llinynnol, cafwyd ymgais dda iddefnyddio harmonïau amrywiol. Roedd ydarn cerdd-dant yn enghraifft draddodiadola chadarn. Hoffais y syniad o arbrofi gydagofferynnau ychwanegol, ond, mae’n rhaid bodyn ofalus wrth ychwanegu offerynnau pres i’rgwead. Mae yna beryg i’r ensemble offerynnoldrechu’r lIeisiau. Serch hyn, dyma gerddormedrus a chreadigol.Casgliad o ganeuon mewn arddull sioegerdd a chafwyd gan ‘Ryan Giggs’. Roeddpedwar darn yn y casgliad, ac yn eu mysgcafwyd cyfuniad medrus o leisiau unawdol,deuawdau ynghyd â gwaith cor SATB. Teimlaisfod iaith harmonig y gyfrol yma yn dangosaeddfedrwydd arbennig. Un o gryfderauamlycaf ‘Ryan Giggs’ yw rhwyddineb y gosodar gyfer y lleisiau a’r defnydd hyderus oofferynnau amrywiol.Sgil y cystadleuydd yw bod y llinel lleisiolbob amser yn flaenllaw yn y gwead. Daw’rgyfrol i ddiwedd grymus gyda’r gân ‘Unydym Ni’. Uchafbwynt teilwng i gasgliadgraenus.Hoffwn longyfarch holl gystadleuwyrTlws yr Ifanc. Roedd hi’n bleser ac yn fraintdarllen eu gwaith, a gobeithio y byddant igyd yn parhau i fireinio’u crefft yn y dyfodol.Mae gwaith addawol ‘Stesion Strata’ ynhaeddu clod ac yn dangos dychymyg a’r gallui arbrofi. Ond, gwaith aeddfed a medrus ‘RyanGiggs’ sydd wedi dod i’r brig eleni. Y mae‘Ryan Giggs’ yn deilwng o glod ac anrhydeddyr Eisteddfod, fel enillydd Tlws yr Ifanc,Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch, 2011.Talfyriad o feirniadaeth Jane Leggett. Gellirdarllen y cyfan yn http://www.trefeurig.org/Llongyfarchiadau i enillydd Tlws yr Ifanc - Eurion JonesWilliams o Cysgod y Pîn, Cwm-ann, Llanbedr PontSteffan. Mae Eurion ar hyn o bryd yn fyfyriwr blwyddyngyntaf ym Mhrifysgol Cymru , Aberystwyth yn astudioEconomeg. Mae’n dweud ei fod yn ddiolchgar i’wrieni ac i athrawon Ysgol Penweddig yn enwedig yradran gerdd am roi arweiniad a chymorth iddo. Ei brifddiddordebau ydy chwarae cello, trombôn a phob matho chwaraeon. Fe’i gwelwyd ar fwy nag un achlysuryn ennill nifer o wobrau am gyfansoddi e.e. Tlws yCerddor yn Eisteddfod Ysgol Penweddig; Gwobr Gyntafam gyfansoddi dan 15eg a 19eg yn Eisteddfod yr Urdd.Tra ym mlwyddyn 12, sgoriodd y marciau uchaf ynArholiad Cerddoriaeth Cyd Bwyllgor Addysg Cymru ardraws y wlad. Llongyfarchiadau mawr iddo am ei hollorchestion.Alwen Fanning, Llywydd pnawn SadwrnCwlwmYm mrig yr hwyrmae genynnau’n gwau,a thincial y ddawns gyfrinyn plethu alaw newyddar gregyn gwynion yfory.Daethost yng nghanol lliwiau drud yr hydrefi euro bywyd dau,a’th wên yn wefr hyfrydi oleuo’r bore bach.Llaw fawr yn cwpanu un laiyn gadwyn o gariad,a ninnau’n gweld y gorwel yn ymestyn yn bell o’n blaenaugyda ti.Adeiladu cestyll tywod a chodi cregyn i’r glusti glywed alawon aberoedd pellyn byrlymu trwy’r dychymyg . . .Sefyll yno’n hir a syllu,wrth ddotio,rhyfeddu,a rhoi diolch amdanat.GwyrthGwyrth - Karina Wyn Dafis, Llanbryn-mairBeirniadaethGwyrthHoffais y gerdd hon ar ydarlleniad cyntaf. Mae ynddiffresni a didwylledd ac mae’rmynegiant drwyddi yn afaelgar.Ceir paragraff agoriadolsynhwyrus. Caiff llawenydd yrhieni sy’n dotio ar yr un bachei gyflwyno’n gynnil ond nidwyf yn siŵr a yw’r ‘llaw fawryn cwpanu un lai yn gadwyno gariad ‘ yn gweithio’n gwblgredadwy.Telyneg dwyllodrus o symlond mae ei datblygiad yn gynnila gafaelgar. Drwy’r delyneg arei hyd mae’r bardd yn amlygu’rddawn i ddewis yr union air a’runion draw neu gywair. Mae’ndisgrifio sefyllfa sydd mor hen â’rcread ond eto mae rhyw ffresnirhyfeddol yn y mynegiant. Ceirrhai trawiadau cwbl gofiadwy e.e.“a’th wên yn wefr hyfryd/i oleuo’rbore bach” a “i glywed alawonaberoedd pell/yn byrlymu drwy’rdychymyg...”Aled Gwyn


Y TINCER EBRILL 2011 15EISTEDDFOD PENRHYN-COCH .TREFEURIGCyflwynwyd Cwpan Parhaol ar gyfer cystadleuaeth yr Her Unawd gan y teuluer cof am Mary Thomas, Bronsaint. Dyma Greg Roberts, wyr Mary Thomas yncyflwyno’r cwpan i’r enillydd cyntaf - Efan Williams, Lledrod.MarwolaethTrist oedd clywed am farwolaethMegan Thomas, Ty’n-gelli gynt,ym Mhlas Cwmcynfelyn ddyddGwener 15 Ebrill.Cinio Urdd <strong>Trefeurig</strong>1960degauChwith i’r ddeRhes gefnBerry Evans, Cefn-llwyd; DavidEvans, 2 Tregerddan, Bow Street;Terry Prescott, <strong>Trefeurig</strong>.Rhes ganolEirlys Jones, Cemlyn, <strong>Trefeurig</strong>;Eifion Lewis, Cwmerfyn; DelythJones, Bronheulwen, <strong>Trefeurig</strong>;George Windsor Pugh (gwasfferm Nantybwla); GwilymEvans, Tegfan, <strong>Trefeurig</strong>; DilwynLewis, Penrhyn-coch; MavisJones, Bwlchydderwen; ElwynJones, Cemlyn, <strong>Trefeurig</strong>.Yn eisteddDilwyn Davies, Llwynderw,<strong>Trefeurig</strong>; Eirlys Jones,Bwlchydderwen; Wil DefiMorgan, Lletycaws (Arweinydd);Menna Lewis, Cwmerfyn; JimRichards, Ceirios, Penrhyn-coch.Englyn Digri: HetUn ddel at haul a heli – neu un dduAt ddydd claddu Magi,Neu un fawr, debyg i Fi,Addas i siarad drwyddi.Phil DaviesSyniad da yn cael ei drafod yn ddeheuig gan weithio yn esmwyth at yr ergydion yny clo. Hwyrach y gallwch ymlafnio i beidio dibynnu ar yr ‘n’ wreiddgoll yn ormodolond eto mae’n ymgais sy’n haeddu’r wobr lawn.Diolch i David Evans, Bow Street am gael benthyg y llun.Côr Ger-y-lliY Tri AmigoLisa Angharad, Maes Meurig, un o gyflwynwyr Ddoe am ddeg ar S4C


16 Y TINCER EBRILL 2011CANLYNIADAU EISTEDDFOD PENRHYN-COCHMEITHRINUnawd1 Betsan Fychan2 Ifan Evans3 Sian Evans a Lleucu ThomasLlefaru1 Betsan Fychan2 Ifan Evans3 Sian Evans a Lleucu ThomasCYNRADDUnawd (Dosbarth Derbyn)1 Cerys Hurford2 Evie Steward3 Carys James & James WilsonUnawd (Blwyddyn 1-2)1 Arwen Exley2 Sian Jenkins3 Olivia Blesovsky & Megan EvansUnawd (Blwyddyn 3-4)1 Zoe Evans2 Cerys Ann Reeves3 Charlotte RalphsUnawd (Blwyddyn 5-6)1 Sioned Exley2 Sion Hurford3 Becky HicksUnawd offeryn cerdd1 Elain Donnelly (piano)2 Sioned Exley (recorder)3 Sion Jones (trwmped)UWCHRADDUnawdDIM CYSTADLUUnawd offeryn cerddDIM CYSTADLULlefaru (Dosbarth Derbyn)1 Carys James2 Cerys Hurford3 Evie StewardLlefaru (Blwyddyn 1-2)1 Megan Evans2 Olivia Blesovsky3 Chloe WatersLlefaru (Blwyddyn 3-4)1 Zoe Evans2 Cerys Ann Reeves3 Steffan HuxtableLlefaru (Blwyddyn 5-6)1 Sion Hurford2 Becky Hicks3 Seren JenkinsUWCHRADDLlefaruGwenno MorrisAnwen MorrisParti Unsain (plant ysgol)Y Côr Blwyddyn 1a 2 a 5 a 6Dosbarth derbyn a cylch meithrinParti Llefaru (plant ysgol)Cerdded i’r ysgolBlwyddyn 1a 2 a 5 a 6Dosbarth derbyn a cylch meithrinLLENYDDIAETHCadair Osian Rowlands, LlandwrogJohn Meurig Edwards, AberhondduTelyneg ‘Cwlwm’Karina Wyn Dafis, Llanbryn-mairEnglyn digri ‘Het’Phil Davies, Tal-y-bontStori fer ‘Y nos’Dafydd Guto Ifan, LlanrugBrawddeg CYNEFINMary Morgan, Llanrhystud a Carys Briddon,Tre’r-ddôlSoned ‘Cartref’John Meurig Edwards, AberhondduLimrig‘Un diwrnod fe brynais i filgi’Phil Davies, Tal-y-bont & Megan Richards,Erthygl i gylchgrawnJohn Meurig Edwards, Aberhonddu &Dafydd Guto Ifan, LlanrugAdolygiad o hunangofiantJohn Meurig Edwards, AberhondduTLWS YR IFANC (dan 21 oed) -darn cerddorolEurion Jones Williams, Cwm-annGellir gweld y canlyniadau llawna lluniau o’r Eisteddfod arwww.trefeurig.org/GWASANAETHTEIPIOCYSYLLTWCH ÂMAIR ENGLANDPANTYGLYNLLANDRECEREDIGIONSY24 5BSFFON: 01970 828693E-BOST:daiamair@pantyglyn.freeserve.co.ukBlodau i bob achlysurBlodau’r BedolPriodasau . Pen blwydd .Genedigaeth . Angladdau .Blodau i Eglwysi aChapeli neu unrhyw achlysurDonald MorganHen Efail, Llanrhystud SY23 5ABFfôn 01974 202233Danfon am ddim o fewn dalgylch y TincerY TINCERytincer@googlemail.com


Y TINCER EBRILL 2011 17Gelwir refferendwm fel rheol pan fonewid mawr yn y fantol, a gan amlafy rheini sydd yn ystyried eu hunainyn wleidyddol flaengar sydd o blaid yfath bleidlais. Mae’r pôl ar y bleidlaisamgen yn achosi cryn benbleth felly,oherwydd yr hyn sy’n ei nodweddumwy na dim yw cyn lleied o newidmae’n addo. Fel sy’n hysbys, roedd ygwleidydd a fynnodd y refferendwm- Nick Clegg y Dirprwy PrifWeinidog - eisoes wedi galw’r sustemyma o bleidleisio yn ‘gyfaddawdbach truenus’. Nid y fath o slogan iysbrydoli’r bleidlais ie! Ac eto, mae’nrhaid bod y sustem yn cynnig rhywogwydd newydd ar ein gwleidyddiaeth- o ryw faint o bwys - neu ni fyddai’rCeidwadwyr am ei gwrthwynebu.Cyn trafod y sgîl effeithiau posibmae yna angen mentro esbonio’rsustem! Y gofyniad yw bodpleidleiswyr yn mynegi eu barn ar yrymgeiswyr trwy osod rhifau gyferbynâ’u henwau, yn ôl eu ffafriaeth - ynhytrach na’r un ‘x’ ar bwys eu dewisblaid. Digon hawdd i’r pleidleiswyrfelly, ond nid felly i’r rheini sy’ngwneud y cyfri! Cyfrifir y bleidlais,ac os nag yw’r ymgeisydd buddugolwedi derbyn 50% neu fwy o ‘rhifau 1’yr etholwyr, mae’r papurau pleidleisioo blaid yr ymgeisydd lleiaf poblogaiddyn cael eu cyfrif eto. Fe’u rhennirymysg yr ymgeiswyr eraill ar sail paenw sydd wedi derbyn rhif ‘2’. Os yw’rymgeisydd fwyaf poblogaidd eto iennill 50% o’r bleidlais, mae’r broses oail-gyfri pleidleisiau’r ymgeisydd lleiafpoblogaidd yn dechrau eto, a dim ondyn gorffen pan bod un o’r ymgeiswyryn cyrraedd y ganran hollbwysig.Pa effaith felly fyddai’r sustemnewydd yn cael? Mae un canlyniado’r bleidlais amgen yn siwr o fod ynberthnasol i nifer yng Ngheredigion,ac etholaethau o’i math. Gan fod ysustem yn eich galluogi i fynegicefnogaeth i fwy nag un o’r ymgeiswyr(yn ôl trefn eich ffafriaeth bersonol),nid oes anghenraid i rheini sydd ami’w pleidlais wir gyfri, bleidleisio’ndactegol. Hynny yw, mae nifer yn einhetholaeth erbyn hyn yn pleidleisionaill ai dros y Blaid Ryddfrydol neuBlaid Cymru, er eu bod yn fwyY Bleidlais Amgencefnogol o’r Ceidwadwyr neu Lafur,am y rheswm syml eu bod yn ystyriedpleidlais i’w dewis blaid yn wastraff- yn wir, mae’r pleidiau poblogaiddwedi anelu eu hymgyrchoedd tuag aty pleidleiswyr yma yn y blynyddoedddiwethaf trwy bwysleisio mai rasdau geffyl sydd yn yr etholaeth hon.Gyda’r bleidlais amgen, mae yna foddiddynt fynegi eu cefnogaeth am euhoff blaid trwy osod ‘1’ gyferbyn â’udewis cyntaf, ac yna ‘2’,’3’ ac yn y blaen,i fynegi eu barn ar y pleidiau sydd ynweddill.Dadleir bod yna fanteisioneraill: bod y fath sustem yn hybugwleidyddiaeth fwy cynwysedig, ganfod gwleidyddion yn gorfod apelio i’rmwyafrif i sicrhau buddugoliaeth. Amyr un rheswm, mi fyddai’n anoddachi blaid fel y BNP ennill sedd nac o dany sustem gyfredol. Ar hyn o bryd gallgwleidydd ennill llai na thraean o’rbleidlais ond eto llwyddo i gipio’r sedd.Mae’r lleiafswm o 50% o’r pleidleisiauhefyd yn sicrhau bod y gwleidyddionhynny sydd yn eistedd ar etholaethausaff yn gorfod gwneud fwy o ymdrechi apelio i’r sawl nad sy’n rhan o’upleidlais graidd. Gall y sustem arwainat etholiadau agosach, ac o’r herwyddseneddau crog - mae’n debyg fe fyddai’rrhyddfrydwyr wedi derbyn tua 30 seddychwanegol yr etholiad diwethaf - ondar y llaw arall ni fyddai’r un sustemwedi creu buddugoliaeth hyd yn oedmwyach i Thatcher yn ‘87 a Blair yn ‘97.Yn y pen draw, dyfalu rydymam effeithiau hir dymor unrhywnewid, yn enwedig oherwydd diffygenghreifftiau o’r sustem ar waith - tairgwlad yn unig sy’n ei defnyddio ar hyno bryd. Oherwydd yr amwyster yma,mae yna le i ddadlau bod rhesymaugwleidyddol, tymor byr, yn cynnigrhesymau atyniadol dros bleidleisio’rnaill fordd neu’r llall - boed hynny igreu embaras i’r Rhyddfrydwyr neugodi gwrychyn y Torïaid. Yn y pendraw, y ddadl bwysicaf, a’r un sy’ndebyg o’m mherswadio i bleidleisio ‘ie’,yw sicrhau bod diwygiad o ryw fathyn digwydd - ac nad yw gobeithion ogreu sustem fwy democrataidd yn ydyfo dol yn cael eu hysgub o i’r neilltu.Huw WilliamsCYNGOR CYMUNED TREFEURIGCyfarfu’r Cyngor nos Fawrth, 22 Chwefror, yn Neuaddy Penrhyn gyda’r Cadeirydd, Trefor Davies, yn y gadair.Roedd saith aelod arall yn bresennol ynghyd â’r clerc,a derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth MervynHughes a Gwenan Price.Adroddodd y Clerc fod llyfrau cofnodion y Cyngor argyfer 1945-2008 bellach wedi’u trosglwyddo i ofal ArchifdyCeredigion; hefyd roedd y Llyfrgell Genedlaethol wedicadarnhau y byddai’r llyfrau cofnodion ar gyfer 1894-1945yn cael eu trosglwyddo o’r Llyfrgell i’r Archifdy fel ybyddai’r cyfan ar gael gyda’i gilydd.Nodwyd fod ymateb y Cyngor i’r Cynllun DatblyguLleol wedi’i anfon i Gyngor Ceredigion erbyn y dyddiadpenodedig.Adroddodd Richard Owen am gyfarfod o BwyllgorCyswllt Cynllun Nant-y-moch a gynhaliwyd ynNhal-y-bont ar 25 Ionawr. Roedd yr aelodau wedigwrthod arwyddo’r ddogfen yn cytuno fod yr hollbroses o ymgynghori â’r gymdeithas leol wedi’ichyflawni’n llwyddiannus. Prif asgwrn y gynnen oeddnad oedd y cwmni (SSE Renewables) yn fodlon caelunrhyw drafodaeth ar faint y gronfa gymdeithasoly bwriedid ei sefydlu pe byddai’r cynllun yn myndyn ei flaen. Felly, roedd cyfarfod arall i fod lle gellidgwyntyllu’r mater ymhellach. Adroddodd Trefor Daviesfod Grãp Datblygu Ysgol <strong>Trefeurig</strong> yn y broses o wneudcais am arian i’r Loteri, ac er mwyn cyd-fynd â rheolau’rLoteri, roedd y Grãp wedi newid ei enw i ‘CanolfanGymunedol Hen Ysgol <strong>Trefeurig</strong> Community CentreLtd’.Cytunwyd i gefnogi cais Elin Jones AC iwrthwynebu’r bwriad i gau gorsaf Gwylwyr y Glannauyn Aberdaugleddau. Daethai llythyr oddi wrth rai odrigolion stâd Maesyrefail yn cwyno am lamp nadoedd yn gweithio ers talwm. Gan nad yw’r stâd wedi’umabwysiadau gan y Cyngor Sir, ni allai’r CyngorCymuned weithredu yn y mater.Cyflwynodd y Clerc Asesiad Risg ar gyfer hollweithgareddau a chyfrifoldebau’r Cyngor, yn enwedigyr holl drafodion ariannol gan gynnwys yswiriant.Roedd yr adolygiad yn un manwl a threfnus, achymeradwywyd ef gan y Cyngor.Roedd un cais cynllunio ar gyfer gwelliannudiogelwch tân ym Mhlas Gogerddan – dimgwrthwynebiad.Adroddwyd fod dau wedi ymgeisio am swydd y Clerc,a dosbarthwyd y ceisiadau i’r aelodau. Penderfynwydcyfweld y ddau ymgeisydd ar 7 Mawrth. Yn dilyn ycyfweliadau, penodwyd Mrs Meinir Jenkins, Llanfarian,yn Glerc y Cyngor, i gychwyn ar ei gwaith ym misEbrill. Mae Mrs Jenkins eisoes yn Glerc i gynghorauLlanfarian a’r Faenor, ac felly’n brofiadol yn y gwaith.Pob dymuniad da iddi yn y swydd newydd.Am gofnodion llawn gweler www.trefeurig.org.RHODRI JONESBrici a chontractiwradeiladu07815 121 238Gwaith cerrigAdeiladu o’r newyddEstyniadau PatiosWaliau garddLlandre Bow StreetFFENESTRIIMEJFFENESTRI PVCu, HEULFANNAU,DRYSAU a.y.y.b. Am y GWASANETH, PRISa’r SAFON GORAU gan GWMNI LLEOLSefydledig dros 30 mlyneddEdrychwch am yTy^ Twt01970 880330Marilyn a Ifor JonesCofrestrwyd gydaytincer@googlemail.com


18 Y TINCER EBRILL 2011Clerc yn ymddeolWedi deuddeng mlynedd ar hugain fel clerc CyngorCymuned <strong>Trefeurig</strong>, ymddeolodd Mrs Pat Walker,Sunnyside, Cwmsymlog o’r swydd ddiwedd Mawrth. Byddcolled fawr ar ei hôl. Swydd rhan amser yw swydd y clercond i Pat Walker rhoi gwasanaeth oedd yn bwysig ac nidcyfrif yr oriau, a dros y blynyddoedd rhoddodd oriau mawro waith di-dâl a diflino. Er enghraifft mynd o amgylch yplwyf gyda swyddogion gwahanol gwmniau ac adrannau ofewn y Cyngor Sir (a’r Cyngor Dosbarth cyn hynny) i leolineu chwilio safleoedd addas ar gyfer goleudadau cyhoeddus,seddau parc, hysbysfyrddau ac ati, neu cerdded llwybraucyhoeddus y gymuned i baratoi adroddiad i’r Cyngor ar eucyfer. Roedd yn mynychu cyrsiau a darlithoedd gyda’r nosfyddai o fudd iddi hi fel clerc ac i’r Cyngor.Yn ystod ei chyfnod yn y swydd mae wedi gweld a bodynghlwm â llawer o newidiadau a digwyddiadau pwysig achyffrous ym mywyd y Cyngor. I enwi dim ond rhai:-Newid yn ffiniau’r Gymuned gyda plwy Parsel Canol yncael ei uno â Chyngor <strong>Trefeurig</strong>.Newid yn sut mae’r cofnodion y Cyngor yn cael eucadw. Hyd 1979 roedd y cofnodion yn Gymraeg ynunig, ac yn cael eu cadw mewn llawysgrifen mewn LlyfrCofnodion pwrpasol. Erbyn heddiw maent yn cael eucadw yn ddwyieithog ar gyfrifiadur y Cyngor ac i’w gweldar wefan Gymunedol <strong>Trefeurig</strong> http://www.trefeurig.org/cymuned-cyngor.phpGweld adfer a diogelu Simne Fawr CwmsymlogCynllunio a gosod map o’r ardal a baner y Ddraig Gochar sgwâr Penrhyn-coch i ddathlu’r Mileniwm.Comisiynu bathodyn swydd arbennig ar gyfer Cadeiryddy Cyngor.Wrth ffarwelio â hi, estynnwn ein diolch diffuant iddiam flynyddoedd o wasanaeth clodfawr, a dymunwn iechydiddi fwynhau ymddeoliad haeddiannol.Bydd Pat yn dal i gael ei gweld yn gwneud gwaithcyhoeddus o bryd i’w gilydd gan mai hi yw SwyddogLlywyddu Etholiadau yn yr orsaf bleidleisio leol.EDGwyneth Sadler a Pat Walker yn selio bocs pleidleisiau ar ol etholiad rhaiblynyddoedd nôl.Un peth sydd yn fy rhyfedduyw’r newid sydd wedi bod mewnarferion pobl yn ystod fy mywydi. Merched - fel myfi fy hun! - nasgwelwch hwy mewn sgertiau arwahân i briodasau ac angladdaua chyfweliadau a dynion mewntrowsusau bach. Nid oeddwn i ynhoff o’r ffasiwn am shorts i ddynionond bu’n rhaid i mi ddysgu ei hoffioherwydd yr oedd Meirion yn hoffohonynt, fe dybiech felly y buaswni yn pledio achos unrhyw un a fyneu gwisgo. A mi fyddech yn iawn,dim ond i bawb gofio bod adegaupan nad yw eu gwisgo yn addas.Y mae’n anodd cymryd rhywunsydd yn ceisio am swydd (neu wobreisteddfod !) o ddifrif os yw yngwisgo trowsus bach. Pethau gwyliauac ymlacio ydynt yn eu hanfodac ydech chi yn mynd i benodirhywun i swydd sydd yn prancioi mewn i’w gyfweliad fel petai arfynd ar wyliau? Ac a ydech chi ynmynd i ddyrchafu neu roi adroddiadblynyddol da i rhywun sydd yn dodi’w waith mewn crys T a shorts? Feddylai rhywun wneud, wrth gwrs, feddylai rhywun drin pawb yn ôl yra hyn a haeddai ond dim ond Duwsydd yn medru gwneud hynny, ymae pob meidrolyn yn gaeth i’wfarn a’i ragfarn. Fel yr arferai fy hennain ei ddweud, y dyn yw’r dillad, amae gwisgo dillad ymlacio ar adegaudifrifol megis gwaith yn awgrymunatur wagsaw ac ysgeuwedd. Felly,gair o gyngor i chi hogiau ifanc,cadwch y shorts ar gyfer gwyliau achwaraeon.Mae merched, wrth gwrs yn cadwllygad ar ffasiwn a cholur a steil.Mae hyd yn oed merch fel fi syddddim yn rhyw ferch nodweddiadoliawn yn trio gorau fedraf ar gyferachlysuron arbennig. Nid wyf ynferch nodweddiadol am nad oesgennyf ddiddordeb ysol mewn naffasiwn na cholur, a hyd yn oedpetai gennyf, erys dau ystyriaeth, ymae pethau pwysicaf mewn bywydyw un peth a’r llall yw na fedrirgwneud ‘ a silk purse out of a sow’sear’ fel y dywedwyd wrthyf droeonpan yn ifanc. Ond yr hyn syddyn fy nharo i yw fod dynion felpetaent yn benderfynol o beidio,ychydig o ddynion sydd yn gwisgosiwtiau i ddim byd heblaw angladdna phriodas bellach, yn wir, y maedyn mewn tei wedi mynd yn bethdieithr. Ond gwrandewch ddynion,nid oes dim smartiach na dyn mewnsiwt a gwasgod a thei, neu ddyn wediei wisgo mewn trwsus da a sportsjacket. Hen ffasiwn? Ydi, efallai, ondmae’n llawn steil ac nid yw steil ynmynd allan o ffasiwn. Gochelwch yCOLOFN MRS JONEStrowsusau byr a chofleidiwch eichteis a’ch cufflinks - a chi ferched,mynnwch eu bod nhw yn gwneudfel eu bod hwy yn bartneriaid addasi chi yn eich crandrwydd.Peth arall sydd wedi newid, wrthgwrs, yw ymarweddiad pobl. Nichaniateir ysmygu dan do ond fegewch fronfwydo yn gyhoeddus.Rwan, mae hyn yn fy nharo i ynwirioneddol od ac fe wnâi hynnypetawn i ddim yn ysmgyu fy hun.Un rheswm paham y croesawoddcaffis a gwestai y rhwystr ar ysmyguyw fod pobl yn gadael eu busnesauos oedd ynddynt rhywun oedd ynysmygu. Felly, digon teg rhywsut,iddynt fod yn barod i fabwysiadudim ysmygu - ond pam mynd atiwedyn i ganiatàu arfer sydd hefydyn gwacàu caffis?Synnaf at nodwedd arall yn yffordd y mae pobl yn bihafio panyn bwyta allan neu yn wir, yncael paned yn ffreutur y Llyfrgell!.Bellach, mae’n gwbl fanesol cadwtwrw a gweiddi a chwertthin ardraws yr ystafell fel petai chi yw’runig rai yn y byd ac nad oes otsam gysur a mwynhad neb arall.Mae’n amhosibl i neb glywed dimgan dwrw pobl eraill mewn ambelli gaffi. Beth sydd wedi digwydd i’rsyniad o breifatrwydd cwmniaeth?A beth sydd wedi digwydd i’r syniado gysur corfforol pobl eraill? Yrwyf fi, wrth gwrs, yn fyddar ond,yn ddiweddar, bu’n rhaid i mi ofyni fyrddaid dawelu oherwydd yroeddynt mor swnllyd fel eu bod ynmerwino fy nghlustiau i a minnauheb fy ‘hearnig aids’, duw’n uniga ãyr beth oeddent yn ei wneud ieraill er fe roedd rhai wedi gadaeleu bwyd ar eu hanner oherwyddy sãn. Wrth gwrs, pan fyddaf yngwisgo fy nhaclau clywed, gallgormod sãn f’effeithio, mewn fforddarall, ni allaf glywed yr hyn maefy nghwmni yn ceisio ei ddweudwrthyf oherwydd fod trwst ynfy myddaru, yr wyf wedi gweldGwynn fy mrawd - sydd hefyd ynfyddar - a mi yn gorfod bodloni arwenu ar ein gilydd am fod gormodo sãn amgylchynnol yn golygu nafedrwn siarad â’n gilydd.Felly, ar ôl i chi ymwisgo acymdrwsiadu, cerwch am bryd ofwyd - ond cadwch eich sgwrs i’chbwrdd eich hun heb frefu chwerthindros bob man. Dyna’r ffordd ifwynhau eich hun gan adael i bawbarall fwynhau hefyd. A mi rydw iam fynd i brynu het, mae gennyfbriodas......Boed i chi i gyd gael Pasgbendithiol.


Y TINCER EBRILL 2011 19Diarmuid Johnson YGwyddel: O Geredigion iGalway, Gwasg Gomer £7.99120t.Yn y llyfr hwn cawn hanesDiarmuid Johnson, gãr afagwyd yn Iwerddon ondsydd â’i fam, Llinos, yndod o Geredigion. Fe aethhi i Goleg Aberystwythyn y 1950au a chyfarfod âGwyddel ifanc, DesmondJohnson, oedd yngwneud ymchwil mewngwyddoniaeth yn y Coleg.Ganwyd Diarmuid yng Nghaerdydd yn1965 ond yn 1969 fe symudodd y teulu iddinas Galway yng ngorllewin Iwerddonpan benodwyd ei dad ar staff Coleg yBrifysgol yno.Felly yn Galway y magwyd y bachgen.Siaradai ei fam Gymraeg ag ef, felly roeddganddo grap da ar Gymraeg llafar, ondni ddaeth i arfer darllen Cymraeg tanddyddiau Coleg. Hefyd byddai’r teulu ynymweld â Tad-cu a Mam-gu yn Aberteifiam dair wythnos bob haf i gadw mewncysylltiad â Chymru. Ond yn Galway, ytu allan i’r cartref Saesneg oedd y brifiaith, ond gyda Gwyddeleg yn yr ysgol. Ailiaith oedd Gwyddeleg i’w dad, ond roeddyn frwd drosti, ac yn ei defnyddio yn eiwaith fel darlithydd gwyddoniaeth yn yBrifysgol. Felly roedd yn falch iawn pangymerodd y bachgen at yr iaith hefyd; ynwir ieithoedd a cherddoriaeth ddaeth ynbrif ddiddordebau Diarmuid.Yn y llyfr cawn ddarlun diddorol oGalway a rhai o’i chymeriadau yn y 1970aua’r 80au. Mae Galway ar lan môr Iweryddwrth gwrs, ‘next stop, America’ fel y dywedrhai. Roedd yr awdur yn hoff iawn onofio yn y môr ar bob adeg o’r flwyddyn,Cheerful withInsufficient Reason, JohnNorrington-Davies.(Cyhoeddwyd gan JohnNorrington-Davies) £19.51428tHanes dyddiau JohnNorrington-Davies,Dôl-y-bont, yn Ysgol SirolEdmonton, 1938-1943, ywprif drywydd y llyfr, ondmae’n ymadael yn gysonâ’r llwybr canol hwnnw iddilyn trywyddau eraill sy’ndigwydd codi. Ymhlith niferfawr o is-draethodau o’r fath,ystyrir pa gyhyrau a ddefnyddir i ddalpladur, beth yw natur y llwch sy’n codio ysgubau barlys, adroddiad ar ymchwil iymddygiad locustiaid, a gwybodaeth amGeorge Stapledon a datblygiad tir glas. Ceirhefyd ddisgrifiad manwl o ddigwyddiadau’rail ryfel byd ar ei hyd, gan gynnwysADOLYGIADAUa cheisio rhwyfo caiacmewn dyfroedd peryglusambell dro. Cawn hanes efa’i dad yn pysgota afonyddhefyd.Cawn hanes treigl ytymhorau yn Galway, ahanes creu’r coelcerthi argyfer noson Calan Gaeaf(dyna’r adeg draddodiadolar gyfer coelcerth; rwy’ncredu mai Protestaniaethoedd yn gyfrifol am symuddyddiad y digwyddiadymlaen ychydig ddyddiauyng Nghymru a Lloegr ermwyn dathlu methiant cynllwyn GutoFfowc, ond go brin y gellid disgwyl i’rCatholigion ddathlu peth felly).Un o’r penodau mwyaf difyr yw’run am gerddoriaeth draddodiadol ynIwerddon a thu hwnt. Dechreuodd yrawdur ddysgu chwarae y chwiban (‘tinwhistle’) yn ifanc, a buan y daeth ynfeistr ar y gwaith. Daeth i adnabod llu ogerddorion gwerin a chawn hanes sawl unohonynt yn y llyfr. Mae hon yn bennodddiddorol iawn ac yn dweud llawerwrthym am fyd canu gwerin Iwerddon.Darlun o Iwerddon y 70au a’r 80au a geiryma. Ar ôl dyddiau coleg, fe grwydrodd yrawdur yn helaeth a gweithio fel darlithydd anewyddiadurwr yng Nghymru, Llydaw, yrAlmaen a Gwlad Pãyl. Tra oedd yn gweithioyn Aberystwyth bu’n byw am gyfnodyn y Borth. Mae newid cymdeithasol ynIwerddon, fel ym mhobman arall, wediparhau a chyflymu yn yr ugain mlynedddiwethaf, felly mae’r awdur yn gweldrhai pethau’n ddieithr iawn pan fydd ynymweld â’r wlad yn awr. Ond rwy’n siãr ybydd arbenigrwydd Iwerddon a’r Gwyddylyn parhau am sbel hir i ddod.Richard Owengwybodaeth dechnegol amawyrennau’r Almaen, sut i’wnabod yn yr awyr a natureu bomiau.Y rhyfeddod pennafyw’r cofnodion trylwyr ogynnydd addysgol yr awduryn ystod ei bum mlyneddyn yr ysgol, yn farciauarholiadau ac yn sylwadauathrawon y pynciau yn yradroddiadau blynyddol hydat ei School Certificate, a’rcyfan yn cynnwys dogn ddao hiwmor.O ystyried bod y llyfrhefyd yn olrhain llinach yr awdur o ochrei fam (Norrington) a’i dad (Davies) gangynnwys enwau’r holl ffermydd y buteulu ei dad yn gysylltiedig â nhw yngngorllewin Cymru oddi ar 1841, mae’ngryn gompendiwm o ffeithiau ac agweddau.Oes rhagor i ddod tybed?Gofal Traed AberystwythFaint ohonoch chi ddarllenwyr Y Tincersydd wedi pasio ffenest un o adeiladau’rPorth Bach (Eastgate) yn Aberystwyth a sylwibod ’na siâp troed mawr ar y gwydr? Niferohonoch, rwy’n siãr. Dyma gartref meddygfaGofal Traed Aber, a ‘falle bod rhai ohonochchi wedi bod mewn i gael triniaeth yn yfeddygfa arbennig hon. Ond a oeddech yngwybod bod ’na gysylltiad agos iawn rhwngy busnes hwn â merch o ardal Y Tincer? Un ogyd-berchnogion y feddygfa yw Shân Jones,sy’n byw ym Mont-goch gyda’i gãr JohnHenry, a’r plant, Alys a Rhodri. Ond un oblant Llandre yw Shân; fe’i ganwyd yn sirGaerfyrddin, ond symudodd y teulu i’r LônGroes, Bow Street, pan oedd Shân yn bedairoed, cyn symud i Landre, lle mae ei rhieni’nbyw o hyd. Un o Landre yw ei gãr hefyd, acyno mae ei rieni yntau’n byw, gyda’r ddaudeulu’n cefnogi gweithgareddau ardal YTincer ers blynyddoedd lawer.Mae’r busnes Gofal Traed wedi ei leoliyn Aberystwyth ers y 1970au, gan symudi’r Porth Bach rhyw saith mlynedd yn ôl,ond dim ers Hydref 2010 mae Shân yngyd-berchennog arno. Cyn hynny bu’ngweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd, lle bu’nfeddyg traed yn arbenigo mewn trin traedunigolion sy’n dioddef o glefyd y siwgr.Mae’r feddygfa yn y Porth Bach yn trinnifer o anhwylderau cyffredin yn ymwneudâ’n traed megis llyfnhau croen caled, torriewinedd poenus, ynghyd â thriniaethau mwyarbenigol megis creu mewnwadnau er mwyncywiro problemau bio-mecanyddol, a chynnigllawdriniaeth dan anaesthetig lleol.A wyddoch chi ein bod, ar gyfartaledd, yncerdded rhwng 8–10,000 cam bob dydd, a’nbod, ar gyfartaledd, yn cerdded dros 100,000o filltiroedd yn ystod ein hoes! Mae’n bwysig,felly, ein bod yn gofalu am ein traed. Dymarai o awgrymiadau Shân ynglyn â sut i’wcadw’n iach:Osgoi torri’r ewinedd yn rhy fyr, ynenwedig ar yr ochrau.Defnyddio ffeil ewinedd i gael gwared arunrhyw ddarnau miniog ar yr ochrau.Golchi’r traed yn ddyddiol – ond peidioâ’u socian am ormod o amser – dylai pummunud fod yn ddigon.Mynd i weld arbenigwr yn syth os oesproblemau’n codi.Cofiwch edrych am y siâp troed tro nesaf ybyddwch yn cerdded ar hyd y Porth Bach!Mae’r Tincer yn dymuno’n dda i Shân a’ichyd-berchennog yn eu menter newydd gydaGofal Traed Aber.Shân efo’i merch Alys


20 Y TINCER EBRILL 2011Myfyrdod y PasgAr ãyl y Pasg daw dau brofiadgwahanol iawn at ei gilydd, sefdioddefaint a llawenydd.Cofiwn yn y lle cyntaf amddioddefaint Crist. Nid ynunig y dioddefaint corfforolarteithiol ar y groes, ond yllwybr caled a gerddodd Iesutuag at Galfaria. Cafodd eifradychu gan un disgybl, eiwadu gan ddisgybl arall, achafodd driniaeth anghyfiawna dirmygus gan y dyrfa, Pilat,yr Archoffeiriad a’r milwyr.Bu’n rhaid iddo gario’i groes arhyd y llwybr serth a chaled iben bryn Calfaria. Ac yno, ary groes, llefodd at ei Dad nefol,“Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt tiwedi troi dy gefn arna i?”Mae llawenydd yn rhan obrofiad y Pasg hefyd gan ygwyddom nad y groes ywdiwedd y stori. Daeth Iesu nôlyn fyw ar y trydydd dydd,ac ymddangosodd i nifer obobl a oedd yn ei adnabod.Gallwn ddathlu ar Sul y Pasggan fod Iesu wedi atgyfodi.Nid dathlu yn unig am fodgwyrth wedi digwydd, onddathlu’n ddiolchgar gan maiam ein camweddau ni y bufarw Iesu. Drwy ei aberth Efar y groes, cawn ninnau eingwneud yn iawn gerbron yDuw sanctaidd.‘Dewch i ni roi ein ffyddo’r newydd yn Iesu y Pasghwn felly, gan gredu y cawnni faddeuant a rhyddid drwyIesu.Fe wyddon ni fod llawenydda dioddefaint yn plethui’w gilydd yng ngwead einprofiadau o fywyd. Er ybyddwn yn wynebu pobmath o dreialon, gallwn brofitangnefedd a llawenydd hefydpan fyddwn yn profi cariadDuw a gofal cyfeillion wrthi ni oresgyn y rhwystrau addaw yn ein ffordd.Pasg llawen iawn i chi i gyd.Siôn Meredithytincer@googlemail.comCOLOFNYDD Y MISBethan EvansO ganlyniad o weithio ar amrywiaeth oraglenni dogfen gan gynnwys yr ‘HumanPlanet’ a gynhyrchir gan y BBC, rwyf wedibod yn hynod o ffodus i gwrdd â llawero bobl diddorol ac wedi medru teithio irai o fannau mwyaf anghysbell y byd. Yrwyf wedi profi amodau rhewllyd GogleddCanada a’r Ynys Las ac yna cyferbyniadeithafol wrth dreulio amser yn y jynglllaith ym Mhapua Guinea Newydd.Ar ôl ystyriaeth rwyf o’r farn taw yrYnys Las (Grønland) yn yr Arctig, yrynys fwyaf yn y byd, oedd fy hoff leoliadi ffilmio. Dim ond 57,000 o fobl sy’nymgartrefu yno a’r mwyafrif yn bywmewn pentrefi ar yr arfordir gorllewinol.I gychwyn ymddangosodd y bobl a’r llei fod yn wahanol iawn i ble gefais fy maguyn y Borth. Dydy Derek y Siop ddim yngwisgo trowsus wedi ei greu o ffwr yr arthwen, gwisg hanfodol i berchennog y siopleol yn Qaanaaq, yng Ngogledd yr YnysLas. Does ddim ‘Eirwen y Llaeth’ gerllaw iwasanaethu’r trigolion a dod a llaeth ffresi’r drws yn ddyddiol, maent yn dibynnuar laeth UHT sy’n cael ei fewnforio ganawyren o Ddenmarc sydd dros 2,300milltir i ffwrdd. Dydy’r haul ddim ynmachlud yno am chwe mis ac mae’n rhaidi’r trigolion ymdopi gyda heulwen llacharam 24 awr y dydd, yna mae’r heulwen yndiflannu a thywyllwch sy’n bodoli am ychwe mis nesaf. Pan yw’r eira’n disgynyng Nghymru rydym i gyd yn cwyno eifod yn ein rhwystro rhag teithio, yn yrYnys Las croesawir yr eira ac mae pawb ynhapus. Mae’r eira yn eu galluogi i deithioyn fwy hwylus, mae’n dynodi’r amser iglymu’r tîmau o gãn i’r slediau ac yn rhoi’rrhyddid i drafeilio’r i’r tiroedd hela neu iymweld â pherthnasau sy’n byw dros yr iasydd wedi ffurfio ar arwyneb y moroedd.I gychwyn mae pobl yr Arctig a’uhamgylchedd yn ymddangos yn wahanoliawn i fywyd yng Nghymru. Foddbynnag, ar ôl i mi ffilmio yna nifer oweithiau a threulio amser yng nghwmniy teuluoedd Inuit, sylweddolais bodein ffordd o fyw yn debyg iawn. Mae’rymdeimlad o gymuned yn ganolig i’wbywydau nhw hefyd. Maent yn wynebuyr un problemau – mae eu hiaith frodorolo dan fygythiad, mae’r plant yn symudo’r pentrefi bach i’r dref neu i Ddenmarci chwilio am waith ac mae’r newid yn yrhinsawdd yn fygythiol. Serch hynny maepobl Inuit yr Ynys Las yn meddu ar unnodwedd sy’n debyg iawn i ni y Cymry,maent yn wydn.Derbynais groeso cynnes iawn tra’n arosgyda’r teuluoedd Inuit, buom yn gofaluamdanaf fel un o’r teulu. Soniodd aelodauhñn y gymuned eu bod yn annog y boblifanc i ddefnyddio a chadw eu mamiaithac i barchu eu treftadaeth, yn debyg iawni’r ymdeimlad o falchder wnaeth Mam-gufeithrin ynof fi. Yn debyg i drigolion yBorth, mae trigolion Qaannaaq wrth euboddau yn dathlu. Gwelwyd tebygrwyddamlwg rhwng y gêmau a chystadlaethau agynhaliwyd ar eu diwrnod cenedlaethola’r rheini a welir yn ystod Carnifal yBorth! Yn bwysicaf oll oedd y ffaith body gymuned yn cydnabod pryd i ddod atei gilydd, boed yn yr amseroedd da neu yrhai drwg.Tra’n teithio trwy’r Arctig roedd ynaluniau o’r Borth a fy nheulu gyda fi iddangos i’r trigolion. Roeddent i gyd ynymateb iddynt yn yr un modd wrthddweud ei fod “yn edrych yn lle gwyrdd,yn anhebyg iawn i fan hyn”. Rhyw ddyddhoffwn cael un o fy ffrindiau o’r YnysLas i ymweld â mi yng Nghymru ermwyn dangos bod y ddwy wlad ddimmor anhebyg wedi’r cyfan.Yn wreiddiol o Perllan Hen,Glanwern, y Borth, mae Bethanbellach yn byw yng Nghaerdydd acyn gweithio fel Is-Gynhyrchydd arraglenni megis ‘Tribe’ ac ‘O GymruFach’Y mis nesaf: Nia Peris


Y TINCER EBRILL 2011 21Eisteddfod yr YsgolAr yr 11eg o Fawrth, cynhaliwyd Eisteddfodyr Ysgol. Ein beirniaid eleni oedd EfanWilliams ac Elen Pen-cwm. Yn wahanol i’rdrefn arferol, cafwyd rhagbrofion yn ystod ybore gyda 2 o bob llys yn symud drwyddoi’r Eisteddfod yn y prynhawn. Ar ddiwedddiwrnod hwyliog o gystadlu, lle gwelwyd pobplentyn yn yr ysgol yn cymryd rhan unigol,Seilo a fu yn fuddugol. Enillwyd cadair yrEisteddfod gan Becky Hicks. Llongyfarchiadaui bawb am eu gwaith caled ac i’n beirniaida’n cyfeilyddes Heddwen Evans am eu gwaitharbennig.Eisteddfod yr UrddGwelwyd criw da o ddisgyblion yr ysgol ynteithio i lawr i Eisteddfod Gylch yr Urdd.Llwyddodd Sion Wyn i ennill y drydedd wobrar y llefaru blwyddyn 5 a 6. Daeth y partillefaru yn gyntaf ynghyd â chor yr ysgol. Ynystod y prynhawn, gwelwyd y parti dawnsiodisgo a’r dawnsio gwerin yn cystadlu ac ynYSGOL PENRHYN-COCHennill drwodd i’r Eisteddfod Ranbarthol.Daeth y grãp dawns creadigol yn ail yn ygystadleuaeth.Teithiodd yr holl bartion i fyny i’r EisteddfodRanbarthol ym Mhontrhydfendigaid. Er nachafwyd unrhyw wobrau gan y Côr na’r Partillefaru, cafwyd beirniadaethau adeiladol iawn.Yn yr Eisteddfod Ddawns, llwyddodd y grãpDawnsio Gwerin i ddod yn drydydd a’r grãpdawnsio disgo yn ail. Llongyfarchiadau i bawbar eu llwyddiant. Diolch i’r holl ddisgybliona’r gwirfoddolwyr am eu hymroddiad, i’r staffam y trefnu ac i’r rhieni am eu parodrwydd igefnogi’r plant.Eisteddfod Penrhyn-cochBu mwyafrif o ddisgyblion yr ysgol yncystadlu yn Eisteddfod Penrhyn-coch.Gwelwyd nifer dda iawn o ddisgyblion yncefnogi ac yn cystadlu yn unigol neu felaelodau o grãp. Llongyfarchiadau i bawb a fuwrthi yn cystadlu.TrawsgwladBu tri o ddisgyblion yr ysgol yn cystadluyn Nhrawsgwlad Rhanbarth Ceredigion ynLlangrannog. Y tri a fu yn cystadlu oeddOwain Wilson, Mathew Merry ac AneurinRowlands. Daeth Mathew yn 10fed yn ei ras.Llongyfarchiadau i’r tri ar eu llwyddiant.Ysgolion EcoLlongyfarchiadau i’r Pwyllgor Eco ar ennill ywobr arian. Byddant yn awr yn gweithio tuagat y faner werdd cyn gynted â phosib.Ras 10K AbertaweAr y 26ain o Fedi, bydd Mr Evans, Mr Robertsa Mr Lewis yn rhedeg ras 10K Abertawe i godiarian i Ysgol Penrhyn-coch. Os hoffech eunoddi cysylltwch â’r ysgol neu un o’r staff.Becky Hicks, enillydd Cadair Eisteddfod yr YsgolCapteiniaid llysoedd yr ysgol gyda’r beirniaid arddiwrnod ein Eisteddfod YsgolTAFARN TYNLLIDIARTTy Bwyta a BarPrydau neilltuol y dyddPrydau pysgod arbennigCinio Dydd SulBwydlen lawn hanner dyddneu yn yr hwyrCROESO(mantais i archebu o flaen llaw)CAPEL BANGOR01970 880 248JONATHANJAMES LEWISsaer coedadeiladyddbronllys, capel bangoraberystwyth01970 88065207773442260Rhys Taylor wrthi yn diddanu y disgyblion yn ystod ei ymweliad â’r ysgol yn ddiweddar.


22 Y TINCER EBRILL 2011YSGOL RHYDYPENNAUEisteddfod Yr UrddYn dilyn perfformiadau arbennigyn yr Eisteddfod Gylch, dyma’rcanlyniadau:- Cafodd Rhys Tanat ailam ganu Cerdd Dant a thrydyddam ganu unawd. Cafodd CatrinManley drydydd am ganu CerddDant ac fe gafodd Teleri Morgangyntaf am ganu Cerdd Dant.O ran y grãpiau; fe enillodd y PartiUnsain a’r Parti Cerdd Dant ac ailoedd Yr Ymgom.Yn yr Eisteddfod Ranbarthym Montrhydfendigaid; methuo drwch blewyn wnaeth y partiunsain gan ddod yn ail ondllwyddodd y Parti Cerdd Dant iennill a sicrhau lle haeddiannolyn yr Eisteddfod Genedlaethol ynAbertawe fis Mai.Ysgol Iach. Ysgol Eco acYsgol Fasnach Deg.Mae’r ysgol bellach ar fin ennillCam 4 yng nghynllun YsgolionIach Ceredigion. Ac yr ydymnewydd dderbyn dwy fanernewydd er mwyn hyrwyddo’rysgol, am yr ail waith, yn Ysgol Ecoac yn Ysgol Fasnach Deg.YmweliadauW^ yn Bach yn Y DerbynHoffa’r ysgol ddiolch i Carwen(Pantyperan) am ei hymweliadarbennig gyda’r dosbarth Derbyn.Llwyddodd Carwen i ddod â thrioen bach i’r dosbarth er mwyn i’rplant gael gweld, teimlo a bwydo’rcreaduriaid. Cafodd y plant gyflehefyd i wrando ar Carwen ynsgwrsio am sut i ofalu am yr ãyn.Y Ganolfan AmgenAr y 10fed o Ebrill fe aethblwyddyn 4 a 5 i’r GanolfanAmgen ym Machynlleth. Yn ystodyr ymweliad mwynhaodd y plantamrywiaeth o weithgareddaudiddorol gan ddysgu llwyth owybodaeth am ailgylchu ac amfaterion ‘Gwyrdd’ yn gyffredinol.Rhai diwrnodau’n ddiweddarachfe aeth blwyddyn 2 i’r Ganolfan.Buont yn dysgu am ailgylchuhefyd ond yn ychwanegol i hyn, yprif bwrpas oedd dysgu am ynniadnewyddol.Arad GochCafwyd ymweliad arall ganGwmni Arad Goch yn ddiweddar.Y testun y tro hwn oeddcynhyrchiad o’r enw ‘LlyncuGeiriau’. Bwriad y cynhyrchiadoedd hybu darllen a throsglwyddo’rneges i’r plant bod geiriau adarllen yn rhan annatod o fywyd.Defnyddiwyd darnau allan o lyfrauamrywiol gan awduron megis T.Llew Jones a Daniel Glyn. Fel arfercafwyd perfformiadau proffesiynola graenus iawn gan yr actorion.Noson AgoredCynhaliwyd noson agored yn yrysgol ar y 4ydd o Fawrth. Cafoddy rhieni gyfle i weld gwaith yplant a chael sgwrs adeiladol gyda’rathrawon.Mari Lloyd JonesAr y 10fed o Fawrth, cafoddBlwyddyn 5 a 6 y fraint a’ranrhydedd o gwrdd â’r artist enwogMari Lloyd Jones. Mae’r dosbarthwedi bod yn astudio gwaith yrartist Cymreig ac yr oedd hi’ngyfle iddynt i weld oriel o waithMari a chyfle hefyd iddynt holicwesyiynau am gelf a sgwrsio’ngyffredinol am ei bywyd. Ynychwanegol i hyn bu’r plant yncreu darluniau wedi eu selio ararddull unigryw Mari Lloyd Jones.‘Cychwyn Calon’Cynhaliwyd wythnos ‘CychwynCalon’ yn ystod fis Mawrth. Ynystod y sesiynau cafwyd cyfle iatgoffa a chodi ymwybyddiaethy plant o ddamweiniau a allddigwydd yn y cartref. Bwriad ycynllun yw hyfforddi’r plant sut iddelio â sefyllfaoedd argyfyngus.Mae’r ysgol yn aelod o’r cynllunhwn ers wyth mlynedd bellach.ChwaraeonMae tîm hoci’r ysgol wedi caeltymor neilltuol o dda eleni eto.Nid yn unig llwyddodd y tîm iennill y Gynghrair yng nghylchAberystwyth ond cipiodd y tîm yCwpan hefyd. Llongyfarchiadaumawr iddynt am ennill ‘Y Dwbwl!’Dyma’r drydedd flwyddyn ynolynol i’r tîm gwblhau’r orchestarbennig hon. Gwych!Clwb CantYn ystod Cyfarfod CyfarfodRhieni ac Aathrawon diweddarcyhoeddwyd enillwyr Fis Ebrill.Dyma’r canlyniad1af - £25 Dylan Edwards, Llandre.2il - £15 Pine Croft, Llandre.3ydd-£10 Gwawr Morgan, Ger yNant, Dolau.Am fwy o wybodaeth a llwytho luniau cliciwch ar www.rhydypennau.ceredigion.sch.ukY Parti Cerdd Dant Buddugol.Y Dwbl am y trydydd tro! Y Tim Hoci buddugol.Y Cyngor Ysgol a’r Pwyllgor Eco gyda’r ddwy faner newydd.W^ yn bach yn ymweld gyda’r DosbarthDerbyn.Sesiwn ‘Cychwyn Calon’ gyda plantblwyddyn 5 a 6.


Y TINCER EBRILL 2011 23YSGOL PEN-LLWYNPawb ar Fferm Cwmwythig.‘Evolve Sport’Ers Mawrth 14eg mae grãp o blantBlwyddyn 4, 5 a 6 yn mynychucyrsiau evolve sport pob nos Lunac mae’r plant wrth eu bodd yndysgu sgiliau amrywiol.Gwasanaeth gyda’r ParchgRoger ThomasYn ystod y mis bu’r Parchg RogerThomas yn cymryd gwasanaethboreol yn yr ysgol ac fe fuodd ynsôn am wlad Israel, Jeriwsalem aMôr Galilea. Adroddodd stori IesuGrist ar lan y môr yn pregethu i’wbobl.Brigâd DânDaeth Karen Roberts o wasanaethy Frigâd Dân i ddysgu dosbarth1 am ddiogelwch tân. Roedd ynbrynhawn arddechog gyda pawbwrth ei boddau i gwrdd â Tanni.Cafodd rhai o’r plant gyfle i wisgoi fyny hefyd!!Eisteddfod CylchAberystwyth (Mawrth18fed)Yn ystod y dydd fe lwyddoddHaf Evans i gyrraedd y llwyfanac ennill 3ydd yn y gystadleuaethLlefaru Bl3 a 4. Yna yn hwyrachbu’r parti Llefaru a’r GrãpYmgom yn llwyddiannus i ennill3ydd yn eu cystadlaethau.Llongyfarchiadau i chi oll amwneud eich gwaith mor ddayn enwedig Haf Evans a’r GrãpYmgom. Diolch hefyd i Miss FflurJones am ddysgu’r parti a’r grãpYmgom.Diwrnod y Trwynau CochAr ddydd Gwener, Mawrth 18edgwisgodd y disgyblion wisg nosneu wisg coch yn ystod y dydd acfe gyfrannon nhw £1 at achosionda er mwyn gwisgo i fyny. Roeddpawb yn gwisgo trwyn coch ac fegawson ddiwrnod hwyliog iawn.Campau’r Ddraig-GolffCynhelir clwb chwaraeon yn yrysgol bob nos Iau. Mi fu y plantyn lwcus i dderbyn sesiwn gan uno hyfforddwyr arbenigol Campau’rDdraig, sef Bryn Evans.Mi wnaeth y plant fwynhaudysgu am wahanol dechnegau ochwarae golff a dysgu am enwauar wahanol ardaloedd o amgylchcwrs golff.Diwrnod Helpu’r YsgolAr ddydd Sadwrn, Ebrill 2il daethrhai o staff, llywodraethwyr,rhieni a chyn-ddisgyblion yr ysgolynghyd er mwyn trwsio, peintioa garddio o amgylch yr ysgol. Bupawb yn brysur iawn ac erbyndiwedd y prynhawn roedd yrardal yn edrych yn drwsiadus drosben.Fferm CwmwythigAr Ddydd Mercher, Mawrth 23ainfe aeth dosbarth 1 ar wibdaithi Fferm Cwmwythig. Roeddhi’n hyfryd cael help Llñr Evans,disgybl blwyddyn 2, sy’n dipyn oarbenigwr ar ffermio i dywys nio amgylch Cwmwythig. Gwelsomllawer o anifeiliaid a peiriannau yfferm. Ar ddiwedd yr ymweliad fegawsom ddiod, cacennau a bisgedi.Diolch yn fawr iawn i Mr a MrsEvans, Cwmwythig am ganiataudisgyblion yr ysgol i ymweld â’rfferm. Roedd hi’n fore bendigedig!Parti Clwb HwylBwydo oen swci ar y fferm.Ar Nos Fercher, Ebrill 6edcynhaliwyd parti yn y ClwbHwyl i ddathlu’r Pasg ac i ddathludiwedd y tymor. Roedd MrsAnn Davies wedi paratoi bagiauo anrhegion a charden Pasg i’raelodau i gyd. Diolch i Mrs AnnDavies ac aelodau Capel Pen-llwynam ofalu ar ôl y Clwb Hwyl ynystod y tymor a pharatoi’r hollweithgareddau.Diwedd CyfnodFe garwn ni ddiolch o galon ibawb a fu mor gefnogol i mifel Pennaeth Ysgol Pen-llwyndros y deunaw mlynedddiwethaf. Rydw i wedi bodyn hapus iawn yn eich mysg!Carwn ddymuno’r gorau ibawb yn y Gymuned a phoblwc i’r dyfodol!!Christine CharltonParti Ffarwelioâ Mrs Charltonar ddydd Sadwrn,Mai 7fedAm 2 o’r glochYn Neuadd Pen-llwyn,Capel Bangor.Cyfraniadau os dymunir i’r ysgol.Croeso i bawb!Carys a Llñr gyda Karen Roberts owasanaeth y Frigâd Dân.GOLCHDYLLANBADARNCYTUNDEB GOLCHIGWASANAETH GOLCHIDUFET MAWRCITS CHWARAEONFFÔN: 01970 612 459MOB: 07967 235 687GERAINT JAMES


24 Y TINCER EBRILL 2011TASG Y TINCERYdech chi’n mwynhau’rtywydd braf ‘ma, a’r dyddiauhir? Dyma un o’m hoffadegau i o’r flwyddyn.Ydech chi wedi bod ynbrysur gyda’r eisteddfodau?Siwr o fod. Clywais fod rhaiohonoch chi wedi gwneudyn arbennig o dda ynEisteddfod Penrhyn-cochyn ddiweddar. Da iawnchi. Diolch i bawb fu’nlliwio’r llun o’r plant ynmwynhau eu hunainyn y parc y mis diwethaf.Roedd un yn hedfan barcud,un arall ar gefn beic, a chriwyn chwarae pêl-droed. Dymapwy fu’n brysur yn lliwio:Dylan Jenkins, Cwm Ywen,Penrhyn-coch; Mari Morgan,Maes Mieri, Llandre; ElinPierce Williams, Bryncastell,Bow Street; Craig Edwards, 10Pen-llwyn, Capel Bangor.Ti, Mari sy’n ennill y trohwn, ond roedd gwaithbob un ohonoch yn ddaiawn wir. Hoffais liwiau dyfarcud, Mari, ac roeddet wediychwanegu llun haul at yrawyr las.Mae ein siopau wedi bodyn llawn o wyau Pasg obob lliw a llun ers misoedd.Rwy’n hoffi’r cwningodsiocled, a’r holl bethaueraill blasus sydd i’w caeladeg y Pasg. Rwy wedi collicownt sawl bynen hot crossrwy wedi ei fwyta dros yrwythnosau ddiwethaf. Bethamdanoch chi?MariMorganMackenzie Byrne, y Borth,enillydd MawrthMae yna enw arbennigar y dydd Sul cyn y Pasg.Wyddoch chi beth yw’r enwhwnnw? Sul y Blodau. Amenw tlws! Dyma’r Sul sy’ncychwyn gãyl y Pasg. Rydymni’n dathlu ffaith fod IesuGrist wedi mynd i ddinasJeriwsalem ar gefn asyn ary diwrnod hwnnw. Daethcannoedd o bobl i’w wylio,gan chwifio canghennaupalmwydd i’w groesawu i’rddinas. Wyddoch chi bethoedden nhw’n floeddio?“Hosanna”. Y mis hwn, betham liwio’r llun o’r Iesu yncael ei groesawu ar strydoeddJeriwsalem ar Sul y Blodau?Anfonwch eich gwaith ata’ierbyn Calan Mai ( 1 Mai) i’rcyfeiriad arferol: Tasg y Tincer,46 Bryncastell, Bow Street.Ceredigion, SY24 5DE. Ta tatan toc, dymuniadau goraudros y Pasg, a mwynhewch yrwyau siocled!EnwCyfeiriadOedRhif ffônLletyMaes-y-môrAberystwytho £20 y nosonYstafell yn unig . Teledu . Te a choffi .Wi Fi am ddim . Parcio. Shed i feicswww.maesymor.co.ukFfon: 01970 639 270Amrywiaeth eang olyfrau, cardiau,cerddoriaethac anrhegion Cymraeg.Croesawir archebion gan unigolionac ysgolion13 Stryd y BontAberystwyth01970 626200Rhif 338 | EBRILL 2011

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!