12.07.2015 Views

Y Tincer 330 Meh 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 330 Meh 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 330 Meh 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Y TINCER MEHEFIN 20<strong>10</strong> 7TeyrngedTrist yw cofnodi marwolaeth JimKittle, Haulfryn, Cwmbrwynoat Fai 30, yn Ysbyty Treforus.Ganwyd Jim yn Corringham,Essex ar Dachwedd 27, 1938,ac ar ôl gadael ysgol fe wnaethbrentisiaeth saer cyn symud iHenffordd i weithio gyda’i ewythryn ei fusnes crochenwaith “FowneHope”. Yn ystod yr amser ynHenfforddd fe aned ei blant, sefPaul, Jane ac Adam.Symudoedd i Dan-y-graig,ger Ystrad Meurig i dñ o’r enwTyngraig ac ar y pryd nid oedddãr na thrydan yn y cartref ymafelly dyma sut y datblygodd Jimy gallu i adnewyddu adeiladau.Pan symudodd y teulu i’r cartrefyma roedd Jim yn dal i deithioyn ôl ac ymlaen i Henfforddi weithio yn y crochenwaith.Penderfynodd ewythr Jim, ar ôlychydig flynyddol symud i Gymrua sefydlu “Crochenwaith Abaty” ynMhontrhydfendigaid felly roeddhyn yn haws i Jim.Yn ystod yr amser yma roeddJim a’i wraig Janet yn gwarchodtafarnau i’w ffrindiau yn ystodgwyliau neu ambell i benwythnosac yma darganfu ei gariad at ymath yma o waith, roedd yn hoffiawn o’r agwedd gymdeithasol.Ym 1974 fe gymrodd Jim aJanet denantiaeth y “Llew Du” ynLlanbadarn Fawr ond yn ystod yramser yma fe ddaeth trychineblem i’r teulu lle bu ei wraig farwdrwy ddamwain ac o’r herwydd nifu Jim yn hapus i aros yn y “LlewDu” a symudodd i’r Plough Innyn Aberystwyth.Symud wedyn i London House,Goginan, a rhedeg fan Pysgoda Sglodion o amgylch pentreficyfagos yn ystod yr wythnos.Min nos oedd y gwaith gyda’rfan symudol felly byddai Jimyn brysur iawn yn ystod y dyddyn adnewyddu adeiladau. Ynystod yr amser yma, ddechrauyr wythdegau, fe ddaeth y cyflei brynu y dafarn yn Goginan,sef Y Druid, lle eto gwnaethllawer o waith yn ei hadnewyddugan aildrefnu lleoliad y bar a’rcyfleusterau gan ddefnyddio tipyno dderw lleol.Pan yn rhedeg y Druid fegyfarfu â’i ail wraig Olga acunwaith eto fe ddarganfu Jimgariad arall, sef teithio’r byd,Ym 1999 penderfynnoddymddeol a symud i Haulfrynac unwaith eto gwneud llawer owaith ar y tñ. Rheswm arall amsymud oedd i gael y rhyddid ideithio ac fe fyddai ef ac Olgayn teithio dwy, dair gwaith yflwyddyn ond daeth newyddiondrwg pan gafodd Jim wybod ybyddai yn gorfod cael triniaethdialysis, ond ar ôl y siom gyntaf feedrychodd Jim mewn i’r broblemgan ddeall nad oedd rhaid iddoroi fyny ei deithiau, gan ei bodyn bosib i drefnu y driniaethtra mewn gwledydd tramor, fellycariodd ymlaen i deithio nes yGOGINANgorfu ymweld â’r ysbyty i gaeldialysis deirgwaith yr wythnos.Cynhaliwyd ei gynhebrwngar Fehefin <strong>10</strong> yn AmlosgfaAberystwyth pryd y daeth llawero’i ffrindiau a’r teulu i dalu’rdeyrnged olaf, Roedd y cynhebrwgyng ngofal Peter Jones, Melody,ffrind i’r teulu a thalwyd teyrngediddo gan ei wraig Olga.Cydymdeimlwm gydag Olga,Jane ac Adam, ei blant, Sue partnerPaul ei fab hynaf fu farw o’i flaenHydref diwethaf, yr wyrion a’rgor-wyrion.GenedigaethLlongyfarchiadau i’r Parchg Ifan acAnne Mason Davies, Rhiwfelen arenedigaeth ãyr arall. Ganed DylanMiles i Bedwyr a Shannon ar Fedi7fed yn Seland Newydd. Pob lwci’r teulu bach ac edrychwn ymlaeni’w gweld yn ymweld â Chymru.PriodasLlongyfarchiadau a phob lwc i Roya Mikka, Melindwr Fach, ar eupriodas ar Fehefin 4.Gwobr MenterAberystwythBraf yw cael cyhoeddi fod LewisJohnston, Y Druid wedi ennilly wobr am ddyn busnes ifanc yrardal. Dyma y tro cyntaf i MenterAberystwyth gyflwyno y gwobrauhyn.I gystadlu bu’n rhaid i Lewisysgrifennu erthygl am ei fusnesa pham ei fod yn meddwl y dylaiennill. Wedi hyn cafodd wybod eifod ar y rhestr fer a gwahoddiadi seremoni yn Aberystwyth arFehefin 11. Amser nerfus oedd arosam y canlyniad ond Lewis ddaethi’r brig yn y categori gãr busnesABER-FFRWD A CHWM-RHEIDOLiau y flwyddyn.Mae Lewis wedi bod yn rhedegY Druid ers tair blynedd ac erond yn ei ugeiniau cynnar maewedi adeiladu enw da am y bwyda’r cwrw sydd yn cael eu gwerthuyna. Cryfder arall sydd gan Lewisyw ei fod yn cyflogi saith person iweithio yn y dafarn ac mae rhaini gyd yn byw yn yr ardal sydd ofudd mawr pan fydd dieithraid yngalw gan eu bod i gyd yn medrusôn am yr hanes lleol ac mae hynyn amlygu ei hun wrth weld poblyn dod nol o flwyddyn i flwyddyn.Peth arall mae Lewis yn ymfalchioynddo yw prynu ei gynnyrch ynlleol ac mae hyn yn dangos ynsafon y bwyd.Braf yw cael llongyfarch Lewisar ei lwyddiant a hefyd dymunoyn dda iddo yn y syniadau syddganddo i ymestyn ei fusnes. Maebusnes fel hyn yn bwysig iawn igefn gwlad Cymru felly os ydycham groeso a bwyd da galwch yn yDruid.Trec RheidolDydd Llun Gãyl y Banc ‘roedd Cwmrheidol ynbrysur iawn pan gasglodd 41 o geffylau ar gaeDolfawr. Arweinwyd y daith gan Nerys i fynyCwm y Neuadd yn groes i Gomin Ystumtuenac yn ôl lawr i Gwmrheidol - taith o tua 12milltir. Llwyddwyd i godi tua £500 i goffrau SioeCapel Bangor. Hoffai pwyllgor y Sioe ddiolchi bawb a sicrhaodd fod y diwrnod yn un morllwyddiannus.Ar y RadioDiddorol oedd gwrando ar Mair Stanleigh,Dolfawr, yn hel atgofion am y ddau frawd oNant-y-moch ar raglen Cofio ar fore Sadwrn ynddiweddar.Arddangosfa yn AmgueddfaCeredigionNos Wener 11 <strong>Meh</strong>efin agorwyd ArddangofaMwyngloddio am hanes yn AmgueddfaCeredigion gan Mair Stanleigh. Mae AliceBriggs a Shelia Hourahane wedi bod yn arwainymgyrch i gasglu straeon a lluniau am hanesCwmrheidol ac mi fydd y cyfan i’w weld yn yrAmgueddfa am yr wythnosau nesaf.CydymdeimloEstynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â BerylDavies a’r teulu yn Troedrhiwceir ar farwolaethcefnder yn Nhredegar a brawd yng nghyfraithyn yr Wyddgrug.YsbytyDymuniadau gorau i Meriel Morgan, Is y Coed,Aber-ffrwd sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd.Gobeithio y byddwch yn teimlo yn well ynfuan iawn.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!