12.07.2015 Views

Y Tincer 330 Meh 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 330 Meh 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 330 Meh 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

18 Y TINCER MEHEFIN 20<strong>10</strong>YSGOL PENRHYN-COCHCodi arianAr ddydd Gwener olaf mis Mai,rhoddwyd y cyfle i’r disgyblioni ddod i’r ysgol heb wisgo gwisgysgol. Bu’n rhaid iddynt ddod âchyfraniad i’r ysgol am y fraint.Yn ystod y prynhawn, cafwydymweliad gan Cpt Colin Jones MBEi sgwrsio gyda holl ddisgyblionyr ysgol am weithgareddau codiarian tuag at Elusen Tirion adrefnwyd am y penwythnoscanlynol. Dangoswyd sleidiau o’rdaith tuag at ac i fyny’r Wyddfa.Cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau amy gweithgareddau. Gwahoddwydrhieni a ffrindiau’r ysgol i mewn ibrynu o’r stondin gacennau. Diolchi bawb a ddaeth i gefnogi ac i CptJones MBE am ei barodrwydd iddod atom. Llwyddwyd i godi £227tuag at yr apêl.GwasanaethCafwyd ymweliad gan weinidogCapel Horeb, y Parchg JudithMorris. Treuliodd gyfnod ynyr ysgol yn cynnal gwasanaethboreol. Diolch iddi am eipharodrwydd i ddod atom.FfilmioAr ôl gwyliau hanner tymor,daeth cwmni teledu i’r ysgol iffilmio ar gyfer rhaglen deledunewydd. Cefais i fy newis fel uno’r cyflwynwyr. Roedd yn rhaidi fi ddysgu sgript ac roedd pawbarall yn gweiddi arnaf i. Roeddwnyn nerfus ar y dechrau am fody camera yn pwyntio tuag ataf.Wrth i’r ffilmio fynd ymlaen,roedd yn haws. Roeddwn yngorfod gofyn cwestiynau i’r lleillac roeddynt yn cael tic neu groes.Ar y diwedd roedd y tîm oeddyn colli yn cael slepjan – caceno ffôm siafio. Nid wyf yn myndi dweud pwy enillodd!! Byddyn rhaid i chi wylio’r rhaglen– “Ffrindiau Ffab neu Ffôl” arraglen Stwnsh ar S4C. Sion Jones.UrddFel rhan o weithgareddau’r Urddcroesawyd Rhydian o Langrannogatom. Treuliodd y sesiwn ynchwarae golff gyda’r aelodau.Cafwyd llawer o hwyl a sbri ynceisio cwblhau y tasgau. Trueni i’rglaw ddod a tharfu ar y sesiwn.Diolch i Rhydian am ddod atom.Wyau BirchgroveYn ystod y tymor, maedosbarthiadau y Cyfnod Sylfaenwedi bod yn astudio wyau. Trwygaredigrwydd Wyau Birchgrovedderbyniwyd nawdd i brynuPeiriant Deor Wyau. Treuliwydwythnosau yn disgwyl i’r wyau iddeor ond erbyn hyn mae gennymchwech o gywion barrus. Mae’rdisgyblion wedi dysgu amdanyntac wedi eu gwylio yn datblygu.Fel rhan o waith y tymor, cafwydgwahoddiad i ymweld â Birchgroveeu hunain yn Nhrawscoed. Cafwydcroeso cynnes yno a gwelwyd yplant yn mwynhau wrth weld sutoeddynt yn casglu’r wyau ac yn eupacio. Diolch yn fawr iawn i Tonya Gwen o gwmni Birchgrove ameu nawdd ac am y croeso a gafwyd.Mae’r disgyblion a’r ysgol wedi elwayn fawr o waith y tymor.Sioe AberystwythEleni eto, aeth llond car owaith i lawr i’w harddangos ymmhabell gwaith plant yn SioeAberystwyth. Cafwyd cystadlubrwd iawn a braf oedd gweldfod yr ysgol wedi ennill nifero wobrau. Llwyddwyd i ennilly gwpan am yr ysgol gyda’rmarciau uchaf. Dyma’r drydeddflwyddyn yn olynol i ni ennill ycwpan. Llongyfarchiadau i bawb aenillodd wobrau a da iawn i bawba gynigiodd waith i’w arddangos.Pêl-droedTeithiodd tîm o fechgyn a tîmo ferched i fyny i Dregaron ynddiweddar i gymryd rhan ynNhwrnament pêl-droed y WI.Chwaraeodd y bechgyn 4 gêm yny rowndiau cyntaf gan ennill dwygêm a chael dwy gêm gyfartal.Llwyddwyd i fynd i’r gêmaucynderfynol lle chwaraewyd tîmy Bont. Er i bawb ond y dyfarnwrweld y bechgyn yn sgorio gôl ddaa’r bêl yn croesi’r linell, 1-1 oedd ysgôr terfynol. Yn anffodus collwydy gêm 2-1 wrth i’r Bont sgorio “gôlaur.” Llongyfarchiadau iddynt archwarae mor dda.Yn nhwrnament y merched,chwaraewyd tair gêm. Llwyddwydi golli dwy a chael un gêmgyfartal. Llongyfarchiadau iddyntam chwarae mor dda yn y gêmaua oedd yn agos iawn.Gwasanaeth FfarwelioYn ôl yr arfer, cynhelirgwasanaeth ffarwelio ar ddiweddy tymor. Eleni, cynhelir yGwasanaeth ar brynhawn Iau y15fed o Orffennaf am 2-30 p.m.Mae croeso i bawb i fynychu’rgwasanaeth.Rhieni ffrindiau’r ysgol wrthi’n prynau cacennau ar gyfer Apêl TirionY disgyblion wrthi’n gwylio wyau yn Wyau BirchgroveCelyn a Llion Edwards yn derbyn y Cwpan oddi wrth Mr Donald Morganam yr Ysgol â’r mwyaf o farciau yn Sioe Aberystwythytincer@googlemail.comTAFARN TYNLLIDIARTTy Bwyta a BarPrydau neilltuol y dyddPrydau pysgod arbennigCinio Dydd SulBwydlen lawn hanner dyddneu yn yr hwyrCROESO(mantais i archebu o fl aen llaw)CAPEL BANGOR01970 880 248

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!