12.07.2015 Views

Y Tincer 330 Meh 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 330 Meh 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 330 Meh 10 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

12 Y TINCER MEHEFIN 20<strong>10</strong>RHOI`R FFIDIL YN Y TO AR ÔL 50 MLYNEDD:MAIR LEWIS YN HOLI VERNON JONESWedi`r holl edrych ymlaen a`r holl baratoi maeEisteddfod Genedlaethol yr Urdd drosodd amflwyddyn arall ac mae`n rhaid i mi gyfaddef bodyna wacter mawr yn tñ ni ar ôl yr holl gyffro. Yroeddwn wedi breuddwydio ers tro am wythnoswrth fy modd ac yn dychmygu y byddwn ynôl ar yr aelwyd adref yng Nghwm Cilio ynEifionnydd yng nghanol y pethe fel petai; llondy lle o fwyd, llond tñ o Gogs, ac eraill yn galw igael tro dros eu Cerdd Dant, eu hunawd offerynpres a`u hadrodd cyn mynd am y rhagbrofion.Rhai yn lwcus ac yn cyrraedd y llwyfan a rhaiddim mor ffodus y tro hwn. `Roedd y Gogs fuefo ni yn meddwl bod y Cardis wedi trefnuchwip o `Steddfod a bod y tywydd wedi bod yngoron ar y cyfan. Do mi gefais wythnos wrth fymodd.“Wedi elwch tawelwch fu” yw geiriau llinell ynun o`r ceddi Cymraeg hynaf sydd ar gael, achan mai cryn dawelwch sydd yn teyrnasu yntñ ni erbyn hyn y mae rhywun yn cael cyflei edrych yn ôl a hel meddyliau. Ac wrth helmeddyliau sylweddoli fy mod wedi byw ynBow Street am dros ddeng mlynedd ar hugainbellach ac yn ystod y cyfnod hwnnw wedicael cyfle helpu rhai degau o blant oedd ynymddiddori mewn adrodd - llefaru yn iaithheddiw. Sylweddoli hefyd gymaint o bleser syddi`w gael yng nghwmni`r plant hyn ac wrth eugweld yn llwyddo yn eu dewis feysydd ac o droi dro yn galw heibio i ddweud eu hanes ac yndweud eu bod yn teimlo bod dysgu adrodda chystadlu mewn eisteddfodau wedi bod ynbrofiad gwerthfawr iawn iddynt. Cofio hefydam sgwrs a gefais efo Vernon Jones, Gaerwen,yn Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen ymMhontrhydfendigaid flwyddyn yn ôl ac yntau`ndweud wrthyf ei fod wedi penderfynu ymddeolo fod yn feirniad ar ôl bod wrthi am droshanner can mlynedd.Yr oedd gwrando ar Vernon yn beirniadu mewneisteddfod yn bleser bob amser ac yn esiampl osut i feirniadu i lawer beirniad arall; yn llefaru`nglir a`r Gymraeg yn llifo fel grisial pur. Diolch ogallon iddo am ei gefnogaeth gadarn i ddegau oeisteddfodau bach a mawr ar hyd a lled y wlada phob dymuniad da iddo ar y cystadlu o hynymlaen.Mae`n rhaid cofio nad yw beirniad byth ynplesio pawb. Mi fydde dad bob amser yn dweudbod steddfod a sioe yn tynnu`r gwaethaf allan obobl; o gael gwobr gan feirniad mae o`n feirniadda, o beidio cael gwobr tydio`n deall dim ac wedirhoi cam i chi! Wel Vernon medrwch gysgu`ndawel o hyn ymlaen! Dyma ddeg cwestiwn agyflwynais i Vernon yn ddiweddar ynghñd â`rdeg ateb:ML: Fedrwch chi gofio`r profiad o fod ynfeirniad am y tro cyntaf?VJ: Gaeaf 1954. Cyrraedd i Sosial Bont-goch acyn ystod y te, Wil Defi Saer yn gofyn i mi “Wneidi feirniadu`r plant yn adrodd heno?” Y cyfandwi`n cofio nawr yw am Tegwen Cwmglo ynadrodd Guto Penfelyn. Bu rhaid aros tan 1960cyn cael gwahoddiad go iawn sef i EisteddfodCapeli cylch Gosen, Rhydyfelin. Hynny o flaencynulleidfa oedd o bosib yn fy nghofio yngwrthod dweud adnod yn y sêt fawr oherwyddswildod. Dwy flynedd yn ddiweddarachcychwynais ar feirniadu eisteddfodau y “ceffylaurasus” chwedl Cassie Davies, a hynny yn ddigonpell o gartref yn Abergorlech, Sir Gaerfyrddin.ML: Oeddech chi wedi arfer cystadlu aradrodd (llefaru) cyn hynny?VJ: Na, dim cyn Bont-goch. Wedi hynny ycychwynais adrodd – diolch i Glwb FfermwyrIeuainc Tal-y-bont. Y tro cyntaf i mi fynd “allan”oedd i Eisteddfod y Groglith Llanilar 1955 achystadlu ar yr “adrodd twps”. Adroddiad i raiheb ennill o`r blaen oedd yr enw swyddogolwrth gwrs.ML: Beth wnaeth eich ysgogi i ddechraubeirniadu?VJ: Wnes i erioed chwenych y job na chynt nachwedyn. Cael fy nhaflu i mewn iddi, a chael fymherswadio i fynd i Gosen (fy hen gartref), acyna mynd digon pell o gartref i Abergorlech.ML: A oes yna dro trwstan yn dod i`rmeddwl wrth gofio`n ôl?VJ: Nac oes. Diolch byth.ML: Beth oedd rhai o`r prif bwyntiauoeddech chi yn chwilio amdanynt wrthwrando ar unigolion yn adrodd?VJ: Naturioldeb yn cael ei gynnal drwy`rperfformiad a hynny heb ddatgelu dim oddylanwad yr hyfforddwr/wraig. Llefaru clir achynnal y frawddeg gan ddatgelu`r ystyr. Gydagoedolion – ceisio gweld gwreiddioldeb yngngoleuni eu dehongliad.ML: Beth yn eich barn chi y mae plant aphobl ifanc yn ei ennill wrth gystadlu felhyn?VJ: Hyder i wneud gwaith cyhoeddus yny dyfodol. Cyfarwyddo â barddoniaeth allenyddiaeth eu gwlad. Gwrandewch heddiw argyflwynwyr radio a theledu - y rhai sydd wedibod drwy`r felin eisteddfodol yw y llefarwyrgorau.ML: Wrth edrych yn ôl ydech chi`n meddwlbod safon y cystadlu cystal ag y bu?VJ: Siãr o fod. Mae`r niferoedd yn llawer llaimewn cystadlaethau ac efallai mai ond ygoreuon a ddaw i`r llwyfan bellach. Yn yr Urdda`r Genedlaethol y gwelir bod y safon wedicodi fwyaf, hynny oherwydd bod cymaint ohyfforddi proffesiynol yn mynd ymlaen. Ychydigiawn o redeg o dñ i dñ sydd bellach i fynd drosddarn adrodd gyda rhyw hen adroddwr/wraigar y funud olaf. Yn eu dydd fe wnaeth y rhainwaith clodwiw.ML: A yw gweld Osian (y mab) yn cymrydat feirniadu yn rhoi boddhad i chi?VJ: Ydy. Rwyn deall ei fod wedi beirniaduddwywaith yn Eisteddfod Daleithiol Powys, chesi ddim gwahoddiad i fynd yno mewn hannercan mlynedd!ML: Pa gyngor sydd gennych i rywunifanc sydd yn dechrau beirniadu yn yreisteddfodau y dyddiau hyn?VJ: Ewch i`r eisteddfod gyda meddwl agored.Nawr rwy`n cyfyngu ateb y cwestiwn ymai`r adran llên a barddoniaeth. Cymerwch eichgwaith o ddifri. O fod felly mi enillwch barch acymddiriedaeth yr ymgeiswyr. Gwnewch ddwyfeirniadaeth, un fer i`w thraddodi o`r llwyfana`r llall yn gynhwysfawr ar bob cyfansoddiad.Siom oedd clywed yn ystod y blynyddoedddiwethaf hyn am feirniaid ifanc, - yn feirdd allenorion cenedlaethol – heb drafferthu i luniobeirniadaeth ysgrifenedig i`r cystadleuwyr, rhaihefyd yn colli`r gwaith neu heb ddychwelydy cyfansoddiadau i`r ysgrifenyddion. Dymaddanseilio holl bwrpas yr eisteddfod.ML: Ai chwaeth bersonol yw barn ybeirniad yn y pen draw?VJ: Naw gwaith allan o ddeg – ie. Yn enwedig osyw`r nifer yn fawr.Mair LewisCLWB CW^LPenrhyn-cochAr Agor Llun - Gwener3.30 - 5.30£5 y sesiwn . £4 ail blentynBwyd a Diod Iachus yn GynwysedigGofal Plant CofrestredigI fwcio cysylltwch âNicola Meredith 07972 315392Neu cipiwch i mewn i’r clwb ar ôl Ysgol

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!