12.07.2015 Views

Tachwedd - Tafod Elai

Tachwedd - Tafod Elai

Tachwedd - Tafod Elai

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Teyrnged iAndrew O’Neill– Canwr a DawnsiwrDim ond mis yn ôl roeddwn ynysgrifennu fy nheyrnged gyntaf iaelod o Ddawnswyr Nantgarw agyda thristwch mawr ‘rwyf eto’n myndati i goffáu cyn­aelod. YmunoddAndrew O’Neill â Nantgarw yngnghanol yr wythdegau a bu’n aelodffyddlon a thalentog o’r dawnswyr a’rband am flynyddoedd lawer.Daethom ar draws Andrew gyntaf yneisteddfod genedlaethol Llangefni yn1983 ­ y flwyddyn gyntaf i ni gystadlu.Roedd e’n cystadlu hefyd, gyda thîm yroedd e’i hun wedi ei sefydlu yn ardalPontarddulais ond cyn hir roedd ar eiffordd i Gaerdydd i weithio yn y BBC arDechrau Canu Dechrau Canmol a chyndim o amser roedd wedi ymuno â ni.Roedd Andrew yn gaffaeliad i unrhywdîm ­ pan wnaem gyngherddau roedd eiddawn fel canwr gwerin a chanwr cerdddant yn amhrisiadwy ond wedyn ar ôl ygyngerdd roedd Andrew yn serennu.Roedd yn ysbrydoliaeth i ddenu ‘amserda’ ­ wrth gyrraedd tafarn neu westy arôl cyngerdd byddai clawr y piano aragor ac Andrew yn morio chwarae achanu. Pwy all anghofio fersiwn CerddDant Andrew o ‘Mynnwn gael siaradein hiaith ein hun’ gafodd ei wneud ynhysbys ar gyfer S4C. Doedd pawb ddimyn ei hoffi ac yn tybio ei fod ynchwerthin ar ben cerdd dant a’r hendraddodiad ond roedd gan Andrewddigon o hyder a ffydd yn y grefft iwneud hwyl am y peth.R o e d d A n d r e w ’ n g ym e r i a drhyngwladol, eangfrydig oedd ynberchen ar orwelion pell iawn. Pan ynifanc aeth i Goleg y Brenin, Caergrawntfel ysgolor corawl, wedyn i Rufain iastudio a hyfforddi i fod yn offeiriadCatholig, dod yn ôl wedyn a serennu yny diwylliant Cymreig cyn unwaith etomynd i deithio’r byd i chwarae’r piano adiddanu ar y llongau mawr – mae’n siŵri’r gwesteion ar y mordeithiau hynnygael gwerth eu harian!!Mae’r math o gyngherddau mae’rdawnswyr yn eu wneud yn mynd trwywahanol gyfnodau. Ar hyn o bryd maesawl galwad yn dod i mewn i ddawnsioa chynnal twmpath mewn priodasau ondflynydde’n ôl byddem yn teithio’n bellyn cynnal nosweithiau amrywiol.Byddem yn perfformio sgetsus, eitemauofferynnol a cherddorol, deuaigwesteion eraill fel Suzanne Georgegyda ni ond yma hefyd byddaiAndrew’n serennu. Gallai gynnal noson12ar ei ben ei hun! Yn aml byddem eindau’n perfformio deialogau mewn dragwedi eu hysgrifennu’n arbennig i’rgynulleidfa honno ar y noson ­ tebyg iddeialogau Les Dawson gynt ­ acAndrew, fel y gallwch ddychmygu, wrthei fodd yn gwisgo’i fyny. Un gyngerddsy’n sefyll allan yw’r un yn y Tymbl ­anghofia’i fyth dad Ellis (un arall o’ndawnswyr) yn ei ddagrau’n chwerthin.Wedi iddo sefydlu ei gôr cerdd dant eihun fe fyddem yn aml yn rhannucyngerdd gyda nhw ac Andrew yngwibio rhwng y ddau grŵp yn arwain,yn canu, yn dawnsio a chyfeilio.Perswadiodd Andrew ni hefyd i groesdorriac uno’r traddodiadau a chynnwysalawon gwerin a cherdd dant yn einperfformiadau dawns. Credai fod dawnsa chanu yn cerdded law yn llaw ynhytrach na fel dau draddodiad ar wahânac yn yr Ŵyl Gerdd Dant yngNghorwen fe ddawnsion ni Rîl Llanoferac yntau’n canu cerdd dant yr un pryd.Eleni yng Nghasnewydd ‘roedd wedicytuno i ganu i ni gan fod Rîl Llanofereto’n ddawns osod ­ yn anffodus erbynhynny roedd yn yr ysbyty’n Llandochauond dyna falch yr oeddem iddo ddweudwrthon ni ei fod wedi ein clywed yncanu ei osodiad. Mae grwpiau led ledCymru bellach yn gwneud yr un modd.Bu’n helpu yn Ysgol Heol y Celyngyda’r cerdd dant a’r gerddoriaeth panoedd Gwenan Dafydd yn athrawes ynoac yn cyfeilio dawns i Emma Caddy aDonna Jones o Rydfelen. Roedd morbarod ei gymwynas ac yn ymfalchïo yneu llwyddiant.Mae marwolaeth Andrew’n golledfawr i ni fel grŵp (fel aelod o isbwyllgoradloniant!!) ond hefyd iGymru fel talent cerddorol aruthrol ­ yny meysydd alawon gwerin a cherdd dantyn enwedig. Roedd mor eangfrydig acyn casáu culni o bob math, yn hwyliog,ac wrth ei fodd yn gwneud i bobolchwerthin – ‘mi rydyn yn dal ichwerthin Andrew, wrth dy gofio’.Cliff JonesMENTER CAERDYDD029 20565658Clwb Pêl­RwydFe fydd Clwb Pêl­Rwyd y Fenter wedicychwyn. Mae’r Clwb yn cyfarfod ynwythnosol ar Nos Fawrth am 8.30yhyng Nghanolfan Gymunedol Treganna.Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.Taith Siopa i GaerfaddonMae’r Fenter yn trefnu Taith Diwrnod iGaerfaddon, Ddydd Sadwrn, <strong>Tachwedd</strong>y 27ain. Cyfle gwych i wneud eichSiopa Nadolig!! Fe fydd y bws yngadael o Erddi Soffia am 9.30yb ac yndychwelyd i Gaerdydd erbyn 7yh. £10yr un.Gwyl Aeaf Caerdydd ­ CF1, CôrCaerdydd a Chôr Aelwyd HamddenUnwaith eto eleni, mae’r Fenter yntrefnu adloniant Cymraeg gyda’r hwyryng Nghwyl Aeaf Caerdydd. Mae’rŴyl yn ganolbwynt dathliadau NadoligCyngor Caerdydd. Bob Nos Lun ynystod mis Rhagfyr, fe fydd yna gorau oGaerdydd yn canu carolau Cymraeg yny Bandstand wrth y Rinc Iâ. Felly betham alw draw i ymuno â ni ar un o’rdyddiadau isod – yn ogystal â’r corau yncanu carolau, fe fydd cyfle i chi sglefrio,fynd i’r ffair, neu ymlacio â gwydriadbach o win cynnes!! Nos Lun, Rhagfyr6ed CF1. Nos Lun, Rhagfyr 13eg. CôrAelwyd Hamdden Caerdydd. Nos Lun,Rhagfyr 20fed Côr Caerdydd.SWYDDOGGWEITHGAREDDAU PLANTGraddfa Cyflog: £18,000 yflwyddyn + PensiwnMae Menter Caerdydd yn edrychi benodi unigolyn i gydlynuCynlluniau Gofal y Fenter a hefydi ddatblygu gweithgareddauplant 3 – 5 oed.Dyddiad cau 19eg Dachwedd2004.Am fanylion pellach cysylltwch âSwyddfa’r Fenter ar029 20 565658 neu ebostiwchSianLewis@Mentercaerdydd.org

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!