26.11.2012 Views

Rhifyn 10 - S4C

Rhifyn 10 - S4C

Rhifyn 10 - S4C

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Cylchgrawn Gwylwyr S4C

Rhifyn 10

Sgrîn

COFIwCH FOd MOdd GwyLIO’R MwyAFRIF

O RAGLEnnI s4C AR-LEIn, AR s4C.CO.UK/CLIC

AM 35 dIwRnOd AR ÔL y dARLLEdIAd CynTAF.

REmEmBER To Go To S4C.Co.uk/CLiC iF you

WAnT To WATCH A PRoGRAmmE AGAin, AS moST

PRoGRAmmES ARE AVAiLABLE To ViEW onLinE

FoR 35 dAyS.

sUT I ddERByn s4C dIGIdOL/

HoW To RECEiVE S4C diGidoL:

(CyMRU/wALEs) sKy 104

FREEvIEw 004

vIRGIn Tv 167

FREEsAT 104

(dU/UK) sKy 134

FREEsAT 120

GwIFREn GwyLwyR s4C

S4C ViEWERS’ HoTLinE

0870 6004141

Allwedd/Key

Y Dylluan/The Owl

Isdeitlau ar gael.

Subtitles available.

Y Cyfrifiadur/The Computer

Ar gael ar fand llydan.

Available on broadband.

Mae’n siwr ˆ

y bydd nifer o gyfresi’r gwanwyn yn codi awydd

arnoch chi i ddarganfod mwy am wledydd egsotig y byd.

dyna yw hanes y naturiaethwr, Iolo williams a’r gomedïwraig,

Beth Angell. Bydd Iolo yn troi tua’r dwyrain, i archwilio byd natur

rhyfeddol Rwsia, tra bod Beth yn dilyn ôl-troed aelodau ei theulu

i India ac yn ein cyflwyno i holl fwrlwm y wlad. y cynllunydd Leah

Hughes sy’n ymuno ag Aled samuel i godi cwr y llen ar westai

arbennig ledled y byd.

Ar dir Cymru, bydd 18 o gorau o bob rhan o’r wlad yn cystadlu

yn y gystadleuaeth gorawl wreiddiol—Côr Cymru— a bydd digon

o fiwsig yng nghyfres nos sadwrn newydd shân Cothi.

Mae shân wedi swyno cynulleidfaoedd ledled Prydain a thu hwnt

gyda’i llais peraidd a’i phersonoliaeth fyrlymus ac fe ddisgleiriodd

fel davina yn Con Passionate. Bydd nifer o westeion blaenllaw—

Bryn Terfel, Connie Fisher ac Elin Manahan Thomas yn eu plith

—yn ymuno â hi yn y gyfres. Un peth sy’n sicr, bydd digon o sbort

a chanu swynol yn y sioe hynod gerddorol hon.

A number of S4C series this spring will inspire you to find out

more about some of the world’s most exotic countries. nature

expert iolo Williams heads to Russia where he explores the

country’s wildlife, while comedian Beth Angell uses a family

connection to shed light on modern india. At home, eighteen

Welsh choirs will be competing in S4C’s biennial choral

extravaganza, Côr Cymru, while there’ll be plenty of

music and entertainment as multi-talented performer,

Shân Cothi hosts a new Saturday night show.

HAnnAH THOMAs

GoLyGydd

Arwyddo/

Signing.

Sain ddisgrifio/

Audio description.

Cynnwys

CLAWR shân Cothi gan warren Orchard

Tîm GoLyGyddoL Eleri Twynog davies, Einir Wynn Jones, Rachel matthews, owain Pennar, Jane Felix Richards, Hannah Thomas dyLunio Vicky Beech

CyFRAnWyR Beth Angell, Ciron Gruffydd, Eurgain Haf, Sharon Howells, mansel Jones, marred Glynn Jones FFoToGRAFFiAETH Warren orchard

FFoToGRAFFiAETH yCHWAnEGoL Aled Jenkins, dewi Glyn Jones, iolo Williams dioLCHiAdAu Gwesty Park Plaza, Caerdydd.

GWAnWyn 2009

—04—

GwEsTAI GORAU’R Byd

LeAh hUGheS Ar drywydd GweSTAi

TrAwiAdOL yn 04wAL.

—06—

CAnU GydA COTHI

SiOe newydd Shân COThi.

—10—

CÔR CyMRU

CAnU COrAwL CymrU Ar y mAp—hOLi

ALwyn hUmphreyS A Tim rhyS-evAnS.

—14—

HOLL LIw IndIA

BeTh AnGeLL yn Bwrw GOLwG

Ar fwrLwm indiA.

—20—

IOLO A RwsIA

iOLO wiLLiAmS yn dArGAnfOd

nATUr wyLLT rwSiA.

—24—

LLE AETH PAwB?

dwyn i GOf hOLL hwyL

CArnifAL BeTheSdA.

—26—

Byw yn yR ARdd

TipS TymhOrOL GAn rUSSeLL JOneS.

—32—

Fy HOFF LE I

y dyfArnwr niGeL OwenS,

dyn ei fiLLTir SGwâr.

—33—

y GAIR OLAF

y CAnwr A’r ACTOr ryLAnd

Teifi yn rhOi’r Byd yn ei Le.

s G R Î n 1 0

CyMRU

A’R

Byd

Ciron Gruffydd sy’n holi’r cynllunydd Leah Hughes.

–04–

Rwyt ti’n ymuno ag Aled samuel ar

gyfer cyfres newydd sbon ar s4C, 04Wal:

Gwestai’r Byd. wyt ti wedi mwynhau’r

profiad? Dwi’n teimlo’n lwcus iawn i

gael ymuno ag Aled wrth i ni ymweld

â sawl gwesty o amgylch y byd—a

phob un ohonyn nhw yn wahanol ac yn

anhygoel mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.

Mae’n brofiad gweld beth sydd tu ôl y

drws, o fewn y pedair wal. Ei weld am

y tro cyntaf sy’n gwneud y profiad yn

arbennig—y rhyfeddu a’r synnu! Rhan

o’m swydd i yw rhannu fy syniadau a

thynnu sylw’r gynulleidfa at elfennau

gwahanol o gynllunio, at y manylion

sydd weithiau yn cael eu colli. Ac er

mai fi yw’r person newydd ar y tîm,

mae Aled a’r criw wedi gwneud

i mi deimlo’n gartrefol iawn.

Oes dewis da o westai i’w gael yma

yng nghymru? Mae pob gwesty dan

sylw yn y gyfres o safon uchel iawn o

ran pensaernïaeth a chynllun mewnol,

a dydi’r gwestai yma yng Nghymru ddim

gwahanol. Rydym ni’n chwilio am westai

sydd â stori arbennig neu sy’n wahanol

mewn rhyw ffordd—dyna sy’n eu

gwneud nhw’n unigryw.

CysTAdLEUAETH

I gael cyfle i ennill casgliad

o fagiau gwerth £97, atebwch

y cwestiwn canlynol:

BETH yw Enw CyFLwynydd

04WAL sy’n yMwELd Â’R

GwEsTAI GydA LEAH?

1/ ALEd JOnEs

2/ ALEd sAMUEL

3/ ALEd BREw

Anfonwch eich ateb ar e-bost at

sgrin@s4c.co.uk neu ar gerdyn post

at: Cystadleuaeth 04 Wal, Sgrîn,

S4C, Blwch Post 353, Caerdydd

CF24 5XA. Y dyddiad cau yw 9 Ebrill.

s G R Î n 1 0

Pa westy yw’r un mwyaf moethus i ti

aros ynddo? A pha elfennau sy’n gwneud

gwesty da? I mi, nid yw moethusrwydd yn

hanfodol i lwyddiant cynllun da.

Yn bersonol, rwy’n edrych am rywbeth

sy’n cynnig profiad gwahanol. Y gwesty

Riad El Fenn yn Marakech, Moroco yw

un o’m ffefrynnau. Mae ei gynllun yn

uno’r hen, y newydd a’r diwylliedig.

Mae’n hynod chwareus yn ei syniadau

a’r deunyddiau, ac yn gwthio’r

‘disgwyliadau cynllunio’ i’r eithaf!

Rwyt ti hefyd yn gynllunydd i’r rhaglen

blant Hip neu Sgip?, sy’n trawsnewid

ystafelloedd ar draws Cymru—beth oedd

dy sialens fwyaf? Cadw trefn ar y dynion

cryf a’u perswadio nhw fod pob dim

yn bosib! Ond ar wahân i hynny (ac

roedd honno yn ddigon o sialens),

un o’r prosiectau cynta’ wnes i gyda

Hip neu Sgip? oedd Lolfa Chweched

Dosbarth yn Ysgol Ystalyfera, ger

Abertawe. Y camgymeriad mwyaf

wnes i erioed oedd trio arbed ychydig

ar y gyllideb drwy brynu paent rhad

iawn—a’r paent mor denau â llaeth!

Roedd hi’n achos o brynu’n rhad,

prynu eilwaith!

Beth wyt ti’n meddwl yw cyfrinach

cynllunio da? Ffurf yn dilyn pwrpas,

a bod yn ymarferol ond gwthio’r

disgwyliadau. Bod yn chwareus

a pheidio cymryd cynllunio gormod

o ddifri. Pethau sy’n rhoi gwên ar wyneb,

ac mae gen i dipyn o obsesiwn gyda

phethau aml bwrpas!

–05–

ym maes cynllunio, beth sy’n gas gen ti?

Cyfaddawdu! Weithiau mae cynllun

yn datblygu ac o ganlyniad i

gymhlethdodau, mae’n symud yn

rhy bell o’r syniad gwreiddiol—gall

hynny fod yn boenus! Ond eto, weithiau

gall y cymhlethdodau hynny greu

pethau annisgwyl a diddorol iawn.

Beth wnaeth i ti eisiau bod yn gynllunydd

cartref? A sut y gwnest ti ddechrau yn

y maes? Wedi i mi wneud cwrs sylfaen

mewn Celf a Dylunio, dilynais gwrs tair

blynedd mewn Cynllunio 3D, a oedd yn

pontio sawl disgyblaeth. Ar ôl i mi raddio,

fe dries i am swydd cynllunio mewnol

masnachol, ac mae pethau wedi

datblygu o’r fan honno.

Beth yw dy brosiectau nesaf yn 2009?

Dwi ddim yn siŵr iawn eto. Hyd yn hyn

dwi ’di cael gyrfa amrywiol iawn. Ar ôl y

profiad o gynllunio ar Hip neu Sgip? rwyf

wedi mynd i fwynhau’r broses o gynllunio

rhywbeth yn sydyn. Cynllunio setiau

nesaf falle? Ond ar y llaw arall mae creu

rhywbeth parhaol a mynd drwy’r broses

o ddatrys problemau yn foddhaol iawn.

Ond fe gawn ni weld. Ar hyn o bryd dwi

wrth fy modd yn crwydro gwestai

Cymru a’r byd gydag Aled!

interior designer Leah hughes joins Aled

Samuel and the 04Wal team for a special

series looking at hotels in wales and

abroad. Leah’s role is to draw attention

to the different design features and

elements within the hotels that might

otherwise go unnoticed. Leah doesn’t

believe that luxurious fixtures and fittings

necessarily make a good hotel. instead,

she looks for somewhere that offers

guests a unique experience and her

favourite hotel is the riad el fenn in

marrakech, morocco. working on the

series has been a change for Leah who’s

used to keeping a team of burly builders

under control and working to tight

deadlines as the designer on children’s

makeover show, Hip neu Sgip?

04WAL:

GWESTAI’r byd

Mis Ebrill

O Gymru gan Fflic,

rhan o Grŵp Boomerang

Plus ccc

s4c.co.uk/04wal

s G R Î n 1 0

CÂn

’dA

sHÂn

CyFuno diGon o GAnu AC AmBELL SGWRS Fydd

SHân CoTHi yn Ei SioE nEWydd. EuRGAin HAF

Fu’n SGWRSio â’R BERFFoRmWRAiG AmRyddAWn...

–06–

s G R Î n 1 0

–07–

CysTAdLEUAETH

I gael cyfle i ennill teledu

digidol newydd sbon, atebwch

y cwestiwn canlynol:

dyFALwCH Pwy yw’R GwEsTAI

EnwOG yn sIOE sHÂn COTHI.

1/ MAE’n dOd O BAnTGLAs

2/ MAE’n CAnU BAs-BARITOn

3/ MAE’n CARU GOLFF

s G R Î n 1 0

Anfonwch eich ateb ar e-bost at

sgrin@s4c.co.uk neu ar gerdyn

post at: Cystadleuaeth Shân Cothi,

Sgrîn, S4C, Blwch Post 353, Caerdydd

CF24 5XA. Y dyddiad cau yw 9 Ebrill.

–08–

Mae Shân Cothi yn un sy’n byrlymu

â brwdfrydedd—a does dim byd yn

ei gwneud hi’n fwy angerddol na

cherddoriaeth a Chymru.

Does dim rhyfedd ei bod mor frwd

felly am ei sioe newydd nos Sadwrn

Shân Cothi ar S4C—fe fydd yn gyfle iddi

roi llwyfan i rai o ddoniau cerddorol

mwyaf Cymru.

Mae’r rhestr gwesteion yn un drawiadol

ar gyfer y gyfres chwe sioe, gyda’r

cawr o Bantglas, Bryn Terfel, y soprano

Rebecca Evans, y gantores West End,

Connie Fisher a’r delynores Catrin Finch

ymhlith yr enwau amlwg.

Bydd ambell lais newydd yn taro nodyn

hefyd. Un enw a fydd yn siŵr o ddenu

sylw yw Mark Evans, a ddaeth yn

drydydd yn y gystadleuaeth i berfformio

cân yr Eurovision yn y sioe deledu

your Country needs you.

Mae’r sioe gerddorol hefyd yn gyfle

i Shân fynd ar drywydd ei diddordeb

mawr arall—cael clonc go dda!

“Shân is a real chatterbox,” oedd

y geiriau a ysgrifennodd ei hathro

Mathemateg ar ei hadroddiad ysgol

un flwyddyn, ac mae Shân Cothi

y gyntaf i gyfaddef ei bod yn un

sy’n hoff iawn o siarad.

“Mae’n rhedeg yn y teulu! Wy ddim yn

teimlo’n hapus pan fo tawelwch llethol

ac yn ysu i lenwi’r bwlch. Dyna falle pam

y dechreuais i ganu! Ond o ddifri, mae

cyfuno digon o ganu ac ambell sgwrs

yn berffaith i mi,” meddai’r ferch i ofaint

o Ffarmers, Sir Gaerfyrddin.

Mae ei phersonoliaeth fyrlymus ac

agos-atoch-chi yn golygu fod gan

Shân y ddawn i gael y gorau allan

o bobl ac yn enwedig pobl sy’n rhannu’r

un angerdd â hi am gerddoriaeth.

“Fe fydd y sioe newydd yn eitha’ sialens

a’r her fwya’ yw ceisio cofio popeth! Fel

wy’n mynd yn hŷn mae mrên i’n dechrau

arafu,” cellweira. “Ry’n ni’n mynd o

fyd yr opera i fyd y theatr i alawon

traddodiadol Cymreig ac ry’n ni wedi

treial dewis pethe fyddai’r gynulleidfa

yn eu mwynhau.”

sHAROn MORGAn

Gyda set foethus, gwisgoedd

ysblennydd a cherddorfa fechan yn

gefnlen bydd Shân yn perfformio rhai

caneuon ei hunan ac yn ymuno gyda’i

gwesteion i berfformio eraill.

“Mae ’na real trawsdoriad o westeion

ac wy’n cael cyfle i gael sgwrs

hamddenol ’da nhw i gyd,” eglura.

“Gyda rhai personoliaethau mae pawb

yn eu ’nabod nhw yn y byd cerddorol,

ond wy’n trio gofyn rhywbeth bach yn

wahanol iddyn nhw. ’Da Bryn Terfel,

gallen ni siarad drwy’r dydd am Wagner

ond wy’n gwybod mai dim ond crybwyll

golff a gwin da sy’ ei angen ac mae

e wrth ei fodd yn cael siarad. Y tric

yw ffeindio mas beth mae pobl yn

angerddol amdano.

“Wy’n credu fod y gyfres yn rhoi mwy

o amser i fi gyfleu fy mhersonoliaeth a

rhoi mwy o amser i sgwrsio a chynhesu’r

gwesteion a’r gynulleidfa a’u cael nhw

i ymlacio. Wy’n gobeithio y bydd pobl

yn edrych ymlaen at eistedd lawr ’da

glasied o win ac yn holi ‘Be’ sy’ ’da

hon ar ein cyfer ni heno?’ Ac fe fydda

i’n hapus os ydyn nhw’n mwynhau,”

ychwanega.

Yn sicr roedd yno ymdeimlad cynnes

gyda phawb yn mwynhau wrth recordio’r

gyfres yn ôl y cynhyrchydd ar ran cwmni

Presentable, Siân G Lloyd: “Dwi ddim

yn adnabod unrhyw un sydd â thalent

Shân i allu newid steil o ganu opera

i sioe gerdd i ganeuon traddodiadol

Cymreig a gwneud y cyfan mor

broffesiynol.

“Roedd yna deimlad rhwydd iawn yn y

stiwdio pan oedden ni yn recordio ac

roedd hynny i gyd lawr i Shân. Oherwydd

ei natur gyfeillgar roedd y gwesteion yn

barod iawn i rannu eu straeon â hi am

eu bywyd cerddorol a hefyd eu bywyd

personol ac roedd gan Shân ambell

syrpreis i fyny ei llawes iddyn nhw hefyd.”

“ wy ddIM yn

TEIMLO’n HAPUs

PAn FO TAwELwCH

LLETHOL AC yn ysU

I LEnwI’R BwLCH.”

s G R Î n 1 0

GwEsTEIOn GwyCH

Dyma farn Shân am rai o’r gwesteion

y mae’n eu croesawu ar y gyfres:

BRyn TERFEL

Mae e’n fawr ym mhob ystyr y gair.

Mae ’da fe bersonoliaeth fawr, llais

mawr ond yn fwy na dim ma’ da fe galon

fawr. Wy’n ei adnabod e ers y dyddiau

’nny pan oedden ni’n cystadlu mewn

eisteddfodau yn ein harddegau, ac wy

wedi perfformio ’da fe sawl gwaith ers

hynny. Fe ges i wahoddiad i berfformio

yng ngŵyl gyntaf y Faenol ac fe ddaeth

e i ngweld i yn perfformio yn un o fy

sioeau cyntaf o phantom of the Opera.

Mae’n ddyn teulu mawr wrth gwrs

a hefyd wastad yn barod i helpu

ei ffrindie. Er ei brysurdeb fe gytunodd

i ddod ar y sioe ac roedd yn anhygoel

ei weld yn rocio gyda Tiger Tails, band

fy niweddar ŵr Justin yn y stiwdio ac

yna’r bore canlynol roedd e yn Covent

Garden yn dechre ’da opera The

flying dutchman.

dAnIEL EvAns

Mae gwên ffantastig ’da Daniel—

mae’n ymledu o glust i glust ac ma’

’da fe bersonoliaeth mor gynnes a

hawddgar. Mae’n dalentog tu hwnt

ac wedi ennill gwobr Olivier a chael ei

enwebu am wobr Tony yn Broadway,

un o’r anrhydeddau mwya’. Ond pan ti’n

cwrdd ag e, mae e jest fel ti a fi. Mae

’da fe bresenoldeb arbennig ar lwyfan—

y ffocws yna a’r gallu i dynnu cynulleidfa

i mewn. Yn ystod y gyfres fe fydda i’n

perfformio deuawd mas o sioe gerdd

Sondheim, Sweeney Todd ’da fe ac

yn mwynhau pob eiliad.

–09–

OnLy MEn ALOUd

Maen nhw’n ddrygionus dros ben,

a dwi’n dwlu arnyn nhw. Wy’n eu nabod

nhw ers blynyddoedd pan wnaethon

ni’r daith Cothi & Cream ’da’n gilydd ac

oherwydd ein bod ni’n nabod ein gilydd

mor dda mae’r rapport ’na da ni. Mae

Tim Rhys-Evans, eu harweinydd, mor

ddawnus ac fel athro mae e’n deall y llais

clasurol a’r llais sioe gerdd i’r dim. Maen

nhw wedi gweithio’n galed ac rwy’n falch

iawn o’u llwyddiant nhw. Roedd e’n braf

i bobl Prydain glywed a gweld eu talent

ac yn bluen arall yn het Tim. Byddaf yn

perfformio mewn cyngerdd ’da Only men

Aloud ddiwedd yr haf i godi arian ar gyfer

elusen Justin-time, er cof am fy niweddar

ŵr, ac yna fis Ebrill a Mai bydda i’n mynd

ar daith ’da nhw o amgylch Prydain.

Wy wedi bod yn gofyn i’n hunan ‘ydw

i’n gall yn mynd ar fws ’da’r holl fois

yma’—ond wrth gwrs, mae’n anrhydedd

i gael y gwahoddiad ac rwy’n edrych

ymlaen yn fawr.

ELIn MAnAHAn THOMAs

Ma’ ’da hi un o’r lleisiau pura i mi ei

glywed, ac mae brêns da hi ’fyd! Mae’n

arbennig yn ei maes ei hun sef cyfnod

y baroc a dyw hi ddim wedi ei themtio

i groesi i gerddoriaeth arall, ac mae

hynny’n cymryd dewrder. Mae hi’n berson

hyfryd ac mor dlws ac yn y gyfres hon

wy’n cael y fraint o berfformio ’da hi am

y tro cyntaf. Gan ein bod ni’n dwy yn

sopranos, dy’n ni ddim wedi cael y cyfle

o’r blaen i gyd-berfformio ac fe fyddwn

ni’n canu fersiwn Andrew Lloyd Webber

o Pie Jesu.

multi-talented performer Shân Cothi is

about to embark on her latest project

for S4C, a Saturday-night musical

entertainment show featuring a host

of top guests such as Bryn Terfel, daniel

evans, elin manahan Thomas and Only

men Aloud. The six-part series, called

Shân Cothi, will showcase a range of

different music, from opera to musical

theatre to traditional welsh songs.

here, Shân talks about some of her

guests. As a teenager, she used to

compete in eisteddfodau alongside Bryn

Terfel and she’s thrilled with Tim rhysevans’

recent success with his choir,

Only men Aloud.

SHÂn CoTHI

11 Ebrill

O Gymru

gan Presentable

s4c.co.uk/cerddoriaeth

s G R Î n 1 0

y

CyTHRAUL

CAnU yn

sBARdUnO

CORAU CyMRU...

SToRi: oWAin PEnnAR

Bydd CySTAdLEuAETH Côr Cymru 2009 yn AmLWG yn AmSERLEn

S4C yn ySTod y miS nESAF A GALL GWyLWyR FWynHAu CySTAdLu o’R

SAFon uCHAF yn y RoWndiAu CyndERFynoL A’R RoWnd dERFynoL

o LWyFAn TRAWiAdoL y nEuAdd FAWR yn ABERySTWyTH.

–010–

ALwyn HUMPHREys

“ Mae Côr Cymru

yn gosod safon

arbennig, does dim

amheuaeth am hynny.”

s G R Î n 1 0

Hon fydd pedwaredd gystadleuaeth

Côr Cymru, sydd yn un o uchafbwyntiau’r

calendr cerddorol. A hithau’n gyfle mor

arbennig i gorau o bob maint ac arddull,

fe fydd y gystadleuaeth eleni’n debyg

o fod yn bennod gyffrous arall yn y stori

ddiweddar o lwyddiant i gorau’r genedl.

Gydag Only men Aloud a Chôr

Ysgol Glanaethwy yn disgleirio yn y

gystadleuaeth Last Choir Standing,

a Chôr Meibion y Fron yn gwerthu fel

slecs ledled y byd ar ôl cael eu derbyn

gan label ryngwladol fawr, mae’n

ymddangos yn oes aur newydd i’r

byd corawl yng Nghymru.

Mae’r arweinydd rhyngwladol a’r

cyflwynydd profiadol, Alwyn Humphreys,

yn croesawu cyfresi cystadlu corawl gan

eu bod, yn eu ffyrdd gwahanol, yn codi

proffeil canu a chanu corawl.

“Does dim amheuaeth bod yr holl gyfresi

yma’n hwb i ganu corawl yng Nghymru.

Mae’r ffaith bod dau gôr o Gymru wedi

ymladd am deitl Last Choir Standing

yn hwb fawr i’n delwedd fel Gwlad y

Gân. Mae’n dangos ein bod yn Wlad

y Gân mewn ystyr fodern hefyd,”

meddai Alwyn, cyn arweinydd y côr

byd-enwog, Côr Orpheus Treforys.

“Y gwir yw bod ein corau meibion yn

enwedig yn ennyn cenfigen gwledydd

eraill y byd ers blynyddoedd mawr.

Mae pobl yn Lloegr, Awstralia, Seland

Newydd a Chanada wedi dyheu ers

degawdau am draddodiad corau

meibion fel ein traddodiad ni. Ond nawr

gallwn ddangos i’r byd fod gennym

gorau ifanc, brwdfrydig sy’n canu

mewn arddulliau ifanc, brwdfrydig,”

ychwanega Alwyn, a fu yn un o

arweinwyr côr cefnogwyr rygbi’r

Gweilch yn y gyfres Codi Canu.

–011–

Mae’r ffaith fod Only men Aloud a

Chôr Ysgol Glanaethwy wedi cystadlu

yn Côr Cymru yn eu tro yn destun

balchder i’r cwmni cynhyrchu,

Rondo Media, ac i S4C.

“Mae Côr Cymru yn gosod safon

arbennig, does dim amheuaeth am

hynny. Mae’r ffaith y cedwir enwau’r

panel rhyngwladol o feirniaid yn

gyfrinachol yn dangos bod S4C

yn benderfynol o sicrhau bod y

feirniadaeth yn deg a gwrthrychol,”

meddai Alwyn.

“Mae cystadlu’n beth da ac mae

teledu’n bwysig. Mae’n cynnig llwyfan

i’r cystadlu ac yn dangos y bwrlwm

cymdeithasol sy’n gysylltiedig â bod

yn aelod o gôr. Mae côr yn rhywbeth

sy’n tynnu pobl at ei gilydd. Mae Côr

Cymru yn sicr yn dangos hynny ac mae’r

safon uchel yn dangos y gellir cael

y bwrlwm cymdeithasol ac uchelgais

cerddorol ar yr un pryd.”

Wrth groesawu cystadlaethau corawl,

mae Alwyn hefyd yn rhybuddio na

ddylwn feddwi’n ormodol ar y llwyddiant

diweddar a chredu ein bod yn taro’r

nodau uchel wastad yng Nghymru.

“Mae dyfodol ein corau meibion yn

fy mhryderu i’n arw gan nad oes digon

o waed ifanc yn ymuno hefo nhw.

Y pryder mawr arall sydd gen i yw nad

oes digon o arweinyddion corau newydd

yn dod i’r amlwg. Mae yna ormod yn

dechrau codi’r baton ar hap am nad oes

neb arall i gael yn y côr i arwain. Dwi’n

meddwl fod angen i ni sefydlu cwrs

yng Nghymru ar gyfer arweinyddion

corau gan fod yna brinder mor ddybryd

ohonyn nhw,” meddai.

Ond dywed arweinydd Cerddorfa

Siambr Cymru, sydd hefyd yn gyfarwydd

fel un o gyflwynwyr dechrau Canu

dechrau Canmol ac fel y llais sylwebu

craff yn yr Eisteddfod Genedlaethol

ac Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol

Llangollen, fod cystadlu’n parhau

i fod wrth galon ein traddodiad canu.

“ Mae cystadlu mewn

cystadlaethau o safon

Côr Cymru yn

miniogi perfformiad.”

s G R Î n 1 0

“Mae cystadlu yn dod mor naturiol i ni

fel Cymry â bwyta ac yfed ac mae’n sicr

o fod yn ffactor yn llwyddiant Only men

Aloud a Chôr Ysgol Glanaethwy. Mae

cymaint ohonom ni wedi’n magu i fod

ar lwyfan o ddim o beth ac mae hynny

wedi arwain yn achos rhai at yrfaoedd

disglair fel perfformwyr rhyngwladol

ac i’r gweddill, at ddealltwriaeth a

gwerthfawrogiad o ganu

a cherddoriaeth.

–012–

“Mae cystadlu mewn cystadlaethau

o safon Côr Cymru yn miniogi

perfformiad. Mae cystadleuaeth

o’r ansawdd yma’n ffordd o sicrhau

ein bod yn cael hyd i’r balans iawn

rhwng plesio cynulleidfa a bodloni

beirniaid. Ni allwn wneud y naill ar

draul y llall gan fod yn rhaid cael

hyd i’r man canol rhwng emosiwn

a thechneg.”

“ Roedd ennill y

gystadleuaeth yn

gymaint o wefr i mi

ag ennill Last Choir

Standing.”

ARwEInydd

onLy mEn

ALoud yn

sICR O wyLIO…

s G R Î n 1 0

Un arweinydd côr fydd yn bendant yn gwylio

pob munud o gystadleuaeth Côr Cymru ar

s4C yw arweinydd corau only men Aloud

a Serendipity, Tim Rhys-Evans.

Mae’r arweinydd byrlymus, brwdfrydig

yn brysur yn paratoi ar gyfer taith

cyngherddau Only men Aloud ac yn

gweithio’n ddyfal ar ail albwm y côr.

Ond bydd baton y maestro 36 mlwydd

oed yn cael llonydd pan fydd Côr

Cymru ar yr awyr.

Mae gan Tim atgofion melys iawn

o godi Tlws Côr Cymru 2005 fel arweinydd

côr cymysg Serendipity ac o gyrraedd

rownd derfynol y gystadleuaeth gyntaf

yn 2003 gydag Only men Aloud.

“Dwi’n edmygydd mawr o’r gystadleuaeth

—ac nid oherwydd bod un o’m corau

i wedi ennill y brif wobr! Yn fy marn i,

hon yw’r gystadleuaeth gorawl orau a

gynhelir yng Nghymru ac mae’n gosod

y safonau uchaf un. Mae’n un o gerrig

milltir y calendr cerddorol bob dwy

flynedd,” meddai Tim.

Dim ond dau arweinydd sydd wedi

ennill yn hanes byr, cyffrous y

gystadleuaeth—Tim ac arweinydd

disglair arall, Islwyn Evans, sydd wedi

llwyddo gyda dau gôr, Ysgol Gerdd

Ceredigion (2003) a Cywair (2007).

–013–

“Roedd ennill y gystadleuaeth yn gymaint

o wefr i mi ag ennill Last Choir Standing.

Wrth gwrs, roedd y sylw yn wahanol a’r

ddwy gystadleuaeth yn wahanol iawn o

ran naws a natur. Ond roedd y balchder

a deimlais i a’r côr yn 2005 yn brofiad na

fydda i’n anghofio,” meddai Tim.

“Fe agorodd gyfleoedd newydd, cyffrous

i Serendipity ac o ganlyniad, rydym wedi

cydweithio gyda’r cantor Bryn Terfel a’r

cyfansoddwr Karl Jenkins ers hynny.

Rwy’n credu y bydd yn parhau’n llwyfan

ac yn gyfle i genhedlaeth newydd

o gorau yng Nghymru.”

with the recent success of Only men Aloud

and Côr Glanaethwy and the return of

S4C’s biennial choral competition, Côr

Cymru, we could be looking at a golden

age of welsh choral singing. renowned

conductor Alwyn humphreys shares his

thoughts on Côr Cymru, which attracts high

calibre choirs of every style and size from

all corners of wales. A former Côr Cymru

winner, Tim rhys-evans, tells Sgrîn that

winning the competition with his mixed

choir, Serendipity, meant as much to him

as his success on Last Choir Standing with

Only men Aloud. Tim won’t be missing

this year’s event, which promises to be

another success story for the choirs

of wales.

CÔr CyMrU

6 Mawrth

O Gymru gan Rondo

s4c.co.uk/cerddoriaeth

s G R Î n 1 0

HOLL

FwRLwM

IndIA

FOdERn

Roedd taid y gomedïwraig Beth Angell yn genhadwr ym mryniau khasia yn india, ac yno y ganed

a magwyd ei thad. Breuddwyd Beth oedd ymweld â’r wlad a’r ardaloedd yn gysylltiedig â’i theulu,

ac yn y gyfres liwgar Angell yn India mae’n llwyddo i wneud hynny. Wrth iddi ddilyn ôl-troed ei

thylwyth, cawn olwg ar fywyd yn india fodern—gan gynnwys y datblygiadau cyffrous a’r cyfoeth

newydd sy’n bodoli ochr yn ochr â thlodi torcalonnus. mae Beth yn rhannu ei hargraffiadau â Sgrîn...

–014–

HEn FARCHnAd dELHI

s G R Î n 1 0

–015–

BETH AnGELL

“ dROs y

BLynyddOEdd

dIwETHAF MAE

IndIA wEdI BOd

yn y nEwyddIOn

yn FEUnyddIOL.”

s G R Î n 1 0

ATGOF PLEnTyn

Un haf roedd fy ffrind gorau wedi cael

cath newydd a bûm yn crefu ar fy nhad

i brynu anifail anwes i mi. Gwrthod

gwnaeth o, gan ategu ein bod ni’n rhy

brysur ac y byddwn i’n colli diddordeb

ymhen dim (yr un bregeth fyddai’n rhoi

i’m plant heddiw!). Dwi’n cofio cyhuddo

yn bwdlyd “ma’ siŵr bo’ chdi di cael

anifail.” Mi ddwedodd iddo gael mwnci

unwaith, ond yn anffodus cafodd y

mwnci ei fwyta gan deigr yn ystod y nos!

Mae gen i hefyd go’ plentyn o lun dyfrlliw

yn hongian ar y wal yn y ’stafell fwyta yn

fy nghartref. Llun o dŷ syml oedd hwn,

ac er nad oedd dim yn anghyffredin

amdano, roedd yn freuddwyd gennyf i

ymweld â’r lle bu’n gartref i fy nhad a’i

rieni. Ond gallwn ond freuddwydio, gan

fod yr adeilad arbennig hwn yn sefyll

mewn pentref bach o’r enw Jowai—

yng ngogledd ddwyrain India.

–016–

FFynIAnT IndIA FOdERn

Dros y blynyddoedd diwethaf mae India

wedi bod yn y newyddion yn feunyddiol.

Mae economi’r wlad yn tyfu ar raddfa

anhygoel—stori debyg i’r hyn a welwyd

yn China. Mae’r gair superpower yn cael

ei gysylltu â’r wlad, er bod nifer fawr

o wahanol esboniadau i ystyr y term

arbennig hwn. Ond wrth i economi’r

wlad dyfu, does dim dwywaith bod

India bellach â’r modd i ddylanwadu

o amgylch y byd.

Bob tro yr oeddwn yn mynd ati i

agor papur roedd llun o ganolfan

gyfrifiadurol newydd yn Bangalore neu

ysbyty newydd yn Delhi a’r rhain yn

ganolfannau arloesol yn eu meysydd.

Roedd yr adnoddau yn ddi-fai a’r

neges yn glir—mae India ar i fyny!

Mae’r ystadegau am economi a ffyniant

y wlad yn drawiadol. Mae 37% o bobl

bellach yn cyfrif eu hunain yn ddosbarth

canol a 61,000 o filiwnyddion yn byw yn

y wlad, heb sôn am 70 o ganolfannau

siopa yn mynd i fyny yn Mumbai yn 2008

—a’r rhain yn ganolfannau na fydda

mo’u cywilydd yn yr UDA.

GwEITHwyR GLO yM MRynIAU KHAsIA

s G R Î n 1 0

REALITI Bywyd

Peidiwch â’m camddeall, pan dwi’n sôn

am lewyrch India, roeddwn i hefyd yn

ymwybodol bod tlodi enbyd yn perthyn

iddi. Yn wir, treuliodd fy rhieni flwyddyn

gyfan yn codi arian i’r ysbyty cenhadol

yn Jowai er mwyn prynu offer paediatric,

ac roedd clywed y straeon o’r ysbyty

bychan hwn yn rhoi syniad i rywun

o’r problemau, ond, roeddwn yn teimlo

fy mod yn barod i wynebu’r her.

Pan gamais oddi ar yr awyren, y peth

cyntaf i’m bwrw oedd yr arogl yn y maes

awyr, yn gymysgedd melys o fwyd,

gwres a chwys. Yna, wrth gamu allan

i’r stryd i geisio cael tacsi ces fy mwrw

gan yr holl bobl yn cynnig ceir, llety

a chario bagiau. Un môr o wynebau

yn awchu am gael helpu, er mwyn

cael hawlio’r Rupee prin. Wrth weld y

rhyddhad ar wynebau’r rhai a gafodd

y gwaith, dechreuodd hi wawrio arnaf

ba mor dlawd oedd ochr arall y geiniog.

Heblaw am Ewrop a’r Unol Daleithiau,

dydw i erioed wedi bod yn ‘teithio’,

felly nid oeddwn wedi paratoi fy hun

o gwbl am yr hyn oedd am fy wynebu’n

ddyddiol yn India, sef y tlodi erchyll.

Roedd pawb wedi sôn wrtha i am beidio

rhoi arian i bobl yn begera ond doedd

neb wedi dweud efallai mai plentyn

amddifad chwech oed a’i brawd bach

fyddai’n curo’n ddagreuol ar ffenest y

car. Doeddwn i ddim wedi fy mharatoi

yn feddyliol i wynebu’r fath beth ac

roedd y sefyllfa yn fy ngwylltio.

–017–

Ces deithio yn helaeth o amgylch India

a’r un oedd y stori yn y dinasoedd

mawrion a’r pentrefi bychain. Roedd

cyfoeth a thlodi ochr yn ochr, os nad

yn cyd-fyw yna’n bendant yn cydfodoli.

Wrth i un garfan ffynnu edrychai’n

debyg mai suddo fyddai’r garfan arall.

y dyFOdOL

Wrth deithio’r wlad a chwrdd â phobl

anhygoel—pobl oedd am weld India

yn llwyddo i bawb—clywais straeon

am rai oedd yn meddwl ar raddfa leol

ac yn ceisio gwella eu cymunedau,

ynghyd ag eraill oedd yn meddwl yn

fwy cenedlaethol. Er bod eu dulliau yn

wahanol iawn, yr un oedd eu bwriad—

sef tynnu’r wlad at ei gilydd ac

adeiladu sylfaen ar gyfer y dyfodol.

s G R Î n 1 0

“HOFFwn FEddwL y Bydd Bywyd

wEdI GwELLA I BAwB–wEL dynA’R

FREUddwyd...”

Un O BOBL AGRA

–018–

s G R Î n 1 0

y GyFREs

Y gobaith yn y rhaglenni Angell yn

India yw rhoi argraff o wlad gyffrous,

gwlad sydd yn newid a gwella ond wrth

wneud hyn, mae dwy ochr—neu sawl

ochr— i bob stori. Hoffwn fynd yn ôl i

India, yn wir yn ôl i’r un ardaloedd ac

at yr un bobl i weld beth fydd eu hanes

ymhen 10 mlynedd. Hoffwn feddwl y

bydd bywyd wedi gwella i bawb—

wel dyna’r freuddwyd, a sôn am

freuddwydio, do, ces i ymweld â

chartref fy nhad yn Jowai.

–019–

Comedian Beth Angell shares her

experiences and feelings as she

realises her dream of visiting her

father’s birthplace in the Khasia

hills in india. As Beth undertakes an

emotional journey, she sheds light on

the massive changes taking place in

india. it’s a colourful, exciting journey

as she follows in her family’s footsteps

and travels to the places where her

grandfather was a missionary. in a

country where 37% of the population

now count themselves as middle-class,

heartbreaking poverty lies alongside

exciting new developments and

great wealth in modern india.

AnGELL yn IndIA

21∑00

4 Mawrth

O Gymru gan Cwmni Da

s4c.co.uk/ffeithiol

AFOn BELAyA AR dROEd MynyddOEdd yR wRAL

s G R Î n 1 0

RwsIA wyLLT

yn AGORIAd

LLyGAId I IOLO

–020–

s G R Î n 1 0

miLLTiRoEdd LAWER o GoEdWiGoEdd CoLLddAiL A

CHonWydd, CAn miL o AFonydd, LLynnoEdd dWR FFRES

PuRA’R Byd, 23,000 miLLTiR o ARFoRdiR, 40 GWARCHodFA

BioSFFER unESCo… A’R CyFAn yn GynEFin i GREAduRiAid

TRAWiAdoL, o’R EiRTH BRoWn i ERyRod y môR.

ioLo WiLLiAmS Sy’n RHoi HAnES Ei GyFRES

ddiWEddARAF i oWAin PEnnAR..

Does dim rhyfedd fod y naturiaethwr

Iolo Williams yn cyfaddef iddo deimlo

eiddigedd mawr ar brydiau wrth

sylweddoli faint o dirwedd naturiol

heb ei difetha sydd yn Rwsia.

Ond efallai nad yw hynny’n syndod

o ystyried maint anferthol y wlad.

Mae’n ymestyn o’r Arctig yn y gogledd

i’r Môr Du yn y de ac o ffin Norwy i China,

gan gyfri am wythfed ran y ddaear.

Mentrodd Iolo yno fel cyflwynydd y

gyfres natur chwe rhan, Iolo yn rwsia

gyda chwmni cynhyrchu Telesgôp

mewn prosiect Manylder Uwch sy’n

gydgynhyrchiad cyffrous rhwng S4C,

Parthenon Entertainment Limited ac

NDR Naturfilm o’r Almaen.

–021–

Mae Iolo wedi hen arfer â bod yn rhan

o gyfresi natur o’r safon uchaf—roedd

yn gyflwynydd un o uchafbwyntiau

blwyddyn ‘rhaglenni gwyrdd’ S4C y

llynedd, y gyfres natur Cymru. Ond

roedd darganfod natur wyllt Rwsia

yn brosiect gwahanol iawn.

“Mae poblogaeth Rwsia yn fach

pan ydych yn ystyried maint y wlad,”

meddai’r naturiaethwr 46 oed o ardal

Meifod yn yr hen sir Drefaldwyn, Powys.

“Dim ond 142 miliwn o bobl sydd yn byw

yn Rwsia—ond mae’n mesur dros 17

miliwn cilomedr sgwâr ac mae’n rhaid

newid clociau mewn 11 rhan wahanol

o’r wlad.

“Mae maint a graddfa’r wlad bob amser

yn fy synnu. Fe allech chi gerdded am

fisoedd mewn rhannau o’r wlad heb

weld yr un enaid byw. Dwi’n cofio mynd

ar un daith mewn bws mini a gweld

dim ond caeau ŷd am ddeg awr solet.”

Aeth Iolo, ynghyd â Catrin Roberts,

sy’n cynhyrchu a chyfarwyddo’r gyfres,

yno am chwe wythnos i gyd. Mae’r

gyfres hefyd yn defnyddio’r deunydd

rhyfeddol a ffilmiwyd gan griwiau

camera arbenigol NDR ledled Rwsia

dros gyfnod o ddwy flynedd.

“Efallai y gwnaethon ni’r penderfyniad

anodda’ un cyn cyrraedd yno,” eglura

Iolo.“Roedden ni’n gorfod dewis chwe

ardal i adlewyrchu pob cynefin posibl

yn Rwsia. Doedd hynny ddim yn dasg

hawdd o ystyried maint y wlad ac

amrywiaeth y cynefinoedd.”

Roedd y daith yn cynnwys mynyddoedd

anferth y Cawcasws, sy’n gartref i

nifer o anifeiliaid prin, ac i’r dwyrain o’r

Cawcasws, cadwyn o fynyddoedd eraill,

yr Ural, sy’n llai ac yn fwy Alpaidd ei naws.

Fe aeth y tîm i ganol Yr Arctig i gael blas

ar dyfiant ei haf byr ac yna i’r dwyrain

ac i Siberia, lle gwelon nhw fywyd gwyllt

a physgod anarferol Llyn Baikal.

Yna, ymlaen i Ussuriland yn nwyrain

pellaf y wlad a gweld arfordir y Môr

Tawel a’i dirwedd Asiaidd cyn mentro

yn olaf i ardal anghysbell Kamchatka.

Roedd Iolo wedi bod yn Rwsia nifer

o weithiau o’r blaen ac wedi dwlu bob

tro ar ei chefn gwlad. Does ganddo fawr

o gariad at ei dinasoedd a’i threfi serch

hynny ac yn eu gweld yn gyffredinol fel

cynnyrch concrit, dienaid yr hen drefn

Gomiwnyddol.

“ FE ALLECH CHI

GERddEd AM

FIsOEdd MEwn

RHAnnAU O’R

wLAd HEB wELd

yR Un EnAId

Byw.”

s G R Î n 1 0

“O’m profiad i, mae pobl y wlad yn

llawer cynhesach a chroesawgar

hefyd. Mae pobl y trefi a’r dinasoedd yn

dueddol o fod yn fwy drwgdybus o bobl

ddieithr, dramor a hwyrach bod hynny

o ganlyniad i’r hen sustem Sofietaidd,”

meddai Iolo.

“Yn sicr, doedd teithio a ffilmio yno

ddim yn hawdd bob amser o ganlyniad

i’r sustem drafnidiaeth, biwrocratiaeth

ac agwedd pobl at waith. Fe gyflawnodd

Catrin wyrthiau yn trefnu’r cyfan. Ond

mi oedd o werth o—gwelson ni bethau

anhygoel ac roedd ’na gymaint o

uchafbwyntiau.”

Un o’r uchafbwyntiau hynny oedd

ymweld â phenrhyn 800 milltir

Kamchatka. Yn ardal yn llawn

llosgfynyddoedd, llawer ohonynt

yn fyw ac yn dal i fyrlymu a ffrwydro,

mae’r coetiroedd yn gynefin perffaith

i’r eirth brown.

“Yr adeg yr aethon ni yno, roedd yr eirth

brown ar drywydd y samwn niferus sy’n

mudo lan y penrhyn o’r môr,” eglura Iolo.

“Roedd hynny’n golygu ein bod yn gallu

mynd yn agos at yr eirth i’w ffilmio gan

eu bod yn brysur yn hela.

“Ond hyd yn oed yn y tymor samwn,

fedrwch chi ddim ymlacio’n llwyr yn eu

cwmni. Maen nhw’n gallu troi arnoch

chi’n ddirybudd. Mae’n bwysig eich bod

yn eu parchu. Roedden ni’n aros mewn

cytiau yn y goedwig ac fe ddes i ar

draws un neu ddwy arth wrth fynd i’r tŷ

bach gyda’r nos! Does dim rhyfedd fod

y wardeiniaid bob amser yn gorfod

cario gynau.”

Ond efallai mai mynd i Fynyddoedd

y Cawcasws oedd y profiad mwyaf

newydd i Iolo gan iddo weld nifer o

anifeiliaid prin nad oedd wedi dod ar

eu traws o’r blaen. Yn eu plith, mae’r

Bual (Bison) Ewropeaidd, y Twr (Tur)

Cawcasws, a’r Baedd Gwyllt.

–022–

“Roedd y natur a ffordd o fyw’r bobl

yn yr Urals yn agoriad llygad hefyd.

Roedd y trigolion yn dal i ddefnyddio

ceffyl a chert fel eu prif ffordd o deithio

a’r rhan fwyaf yn ffermio mêl gwenyn

gwyllt mewn ffordd naturiol. Roedd y

caeau gwair fel y coetiroedd yn gyfoeth

o natur, yn blanhigion a thrychfilod,”

meddai Iolo.

Er cymaint yw’r dirwedd naturiol yno,

mae Iolo yn poeni am ddyfodol llawer

o’r cynefinoedd sy’n gartref i gymaint

o fauna a flora prin neu anarferol.

“Mae’r sefyllfa’n dorcalonnus yno o

safbwynt diogelu’r cynefinoedd pwysig

yma. Roedd y wardeiniaid bron i gyd

yn gytûn bod y sefyllfa o safbwynt

cadwraeth yn well o dan yr hen drefn

Gomiwnyddol. Bellach, mae bywyd

gwyllt a chefn gwlad yn cael eu

haberthu os oes unrhyw botensial

i ecsploetio’r tir ar gyfer diwydiant.

Mae anifeiliaid prin fel y teigr mewn

perygl mawr o ddiflannu’n llwyr

oherwydd hyn.”

Ac, er gwaethaf maint a mawredd

Rwsia, roedd bod yno am gyfnod yn

peri i Iolo werthfawrogi natur Cymru

hyd yn oed yn fwy.

“Y fantais sydd gan Gymru dros Rwsia

yw y medrwch chi weld y dewis mwyaf

trawiadol o gynefinoedd ar daith

gerdded go fawr o ben y mynydd

i lan y môr. Does nunlla yn y byd i

guro’n gwlad ni yn hynny o beth.”

iolo williams sheds light on the wildlife

of russia in a major new high-definition

documentary series for S4C. The six-part

series Iolo yn Rwsia sees the nature

expert visit all four corners of this huge

country. from the Caucasus mountains

to Lake Baikal in Siberia, he explores

russia’s unusual flora and fauna. iolo

catches a glimpse of the brown bear

hunting for salmon on the Kamchatka

peninsula, as well as other rare animals

such as the european Bison and wild

Boar. he also expresses concern about

the dangers facing many of the country’s

wildlife habitats.

“ yR AdEG yR AETHOn

nI ynO, ROEdd yR

EIRTH BROwn AR

dRywydd y sAMwn

nIFERUs sy’n MUdO

LAn y PEnRHyn

O’R MÔR.”

IOLO wRTH

FynyddOEdd y

CAwCAsws sydd

AR y FFÎn RHwnG

RwsIA A GEORGIA.

ARTH KAMCHATKA

AR LAn AFOn

BELAyA yM MHARC

CEnEdLAETHOL

sHULGAn TAsH,

MynyddOEdd

yR URAL.

s G R Î n 1 0

–023–

IoLo yn rWSIA

21∑00

20 Ebrill

O Gymru gan

Telesgôp

s4c.co.uk/ffeithiol

y ddoe

a ddaw

yn ôl

AMAndA JOnEs HEddIw,

AC yn y LLUn GwREIddIOL.

s G R Î n 1 0

Gwenwch!

Clic.

Fflach.

Stori: marred Glyn Jones

–024–

Eiliad mewn amser wedi ei ddal am

byth. Atgof i’w osod yn yr albwm lluniau.

Profiad efallai i hiraethu amdano, neu

i wenu drosto, wrth astudio’r gwisgoedd

hen ffasiwn a’r gwenau swil. Hiraeth

am y ddoe na ddaw yn ôl.

Ond yn awr, mae’r ddoe yn dod yn

ôl, gyda chymorth Lle aeth pawb?

Mae’r gyfres yn olrhain hynt a helynt

y rhai sy’n ymddangos mewn wyth

o wahanol luniau, cyn dod â phawb

yn ôl at ei gilydd unwaith eto i geisio

ail-greu’r lluniau gwreiddiol.

Tynnwyd un o’r lluniau a ddewiswyd

ar gyfer y gyfres newydd yng Ngharnifal

Bethesda yng Ngwynedd 28 mlynedd

yn ôl.

Yn y llun, gwelwn Frenhines Lynne

a’i gosgordd o forwynion a macwyaid

yn gwenu’n swil wrth eistedd ar y fflôt

fyddai’n eu dwyn o amgylch y dref. Mae

steil y gwalltiau a’r gwisgoedd yn awr

yn edrych mor hen ffasiwn, ac mae

rhyw ddiniweidrwydd yn perthyn i’r llun.

Un o’r morynion, Amanda Jones o

Lanllechid, sy’n derbyn yr her o chwilota

am yr unigolion yn y llun, er mwyn

ceisio dod â phawb at ei gilydd i

ail-greu eiliad mewn hanes.

“Mi roedd cymryd rhan yn y gyfres

yn brofiad ffantastig, ac yn brofiad

emosiynol,” meddai Amanda.

Deg oed oedd hi pan dynnwyd y

llun gwreiddiol, ac yn ddisgybl yn

Ysgol Llanllechid. Mae wedi aros yn yr

ardal, ac yn byw ar fferm yn y pentref

gyda’i phartner, Harold Wyn, a’i merch,

Katy sy’n 11 oed. Mae’n gweithio fel

nyrs seiciatryddol yn y gymuned, yn

cynghori’r rhai sydd â phroblemau

gyda chyffuriau ac alcohol,

a’u teuluoedd.

s G R Î n 1 0

Yr hyn sydd wedi aros yn ei chof am

yr achlysur yw’r cyffro wedi iddi gael

ei dewis i fod yn un o’r morynion, a’r

teimlad disgwylgar wrth edrych ymlaen

at y diwrnod mawr. Mae’r noson cyn

y Carnifal hefyd yn fyw yn ei chof.

Roedd Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen ym

Methesda dan ei sang ar gyfer seremoni

goroni’r Frenhines, ac Amanda oedd

â’r dasg o ganu Cân y Coroni.

“Ro’ i’n teimlo’n ofnadwy o nerfus ond

fe aeth pob dim yn iawn,” meddai. “Ar

y diwrnod ei hun, dwi’n cofio’r fflôt yn

mynd i fyny’r stryd a phobol yn casglu

pres wrth i ni basio heibio. Mi roedd ’na

sawl brenhines arall yn yr orymdaith,

ac mi roedd hi’n ddiwrnod mawr.”

Mae ail ddarganfod y llun, a’r broses

o chwilio am ei chyd-deithwyr ar y fflôt,

wedi gwneud iddi feddwl am y dyddiau

a fu, a sylweddoli fod y byd wedi newid

cryn dipyn ers y diwrnod hwnnw ym

Mehefin 1980.

“Mae bywydau pawb wedi newid

gymaint ac mae’r Carnifal wedi hen

fynd. Mae pawb mor brysur heddiw does

neb yn medru rhoi ymrwymiad i rywbeth

fel Pwyllgor Carnifal. Mae’n gymaint

o dasg i hel arian ac i drefnu pethau.

Mae’n biti garw.”

Roedd pawb a ddewiswyd ar gyfer

gosgordd y Frenhines yn aelodau o

gôr yr eglwys leol, ac mae gan Amanda

atgofion hapus o’i chyfnod gyda’r côr

hwnnw. “Mi roedd ’na dros 20 o aelodau,

yn ferched a hogia, ac roedd Mr Brown,

y côr feistr, yn ddylanwad mawr arnon

ni. Mi roedd colli un o ymarferion y côr

fel colli diwrnod yn yr ysgol. Mi roedd

hi’n amser braf...”

–025–

Ym marn cynhyrchydd y gyfres,

Gwenllian Griffith, dyna yw rhan

o apêl Lle aeth pawb?

“Mae pob llun yn dod ag ymwybyddiaeth

o dreigl amser i bobl, a’r awydd i

chwilio am hynt a helynt y bobl yn y

llun arbennig hwnnw. Ac mae ’na ryw

ymdeimlad cynnes o weld pobl yn dod

’nôl at ei gilydd. Mae’r atgofion yn

dal mor gryf, ac mi rydan ni fel criw

cynhyrchu, a’r gwylwyr gartre, yn

cael y fraint o ail-fyw profiad, ac i ailgyffwrdd

mewn ieuenctid am funud fach.”

A moment in time, captured forever.

have you ever wondered what

happened to people in a photograph?

now you can relive the past with the

help of Lle Aeth Pawb?, the series which

traces the story behind a photo. here,

Amanda Jones recalls the 1980 Bethesda

Carnival. She was one of the carnival

queen’s ladies-in-waiting, and only

ten years old at the time. it’s an

emotional journey back in time, but will

she manage to find everyone on the

float that day and reunite them?

LLE AETH pAWb?

21∑00

26 Mawrth

O Gymru gan

Cwmni Da

s4c.co.uk/lleaethpawb

s G R Î n 1 0

–026–

s G R Î n 1 0

Ar y patsh

mae steil naturiol Russell Jones, cyd-gyflwynydd Byw yn yr Ardd, wedi taro deuddeg â’r gwylwyr.

mae’n brysur yn awr yn paratoi ar gyfer y gyfres newydd fydd yn dechrau ddiwedd mawrth.

marred Glynn Jones aeth draw i randir y gyfres, y patsh, i gael sgwrs am yr hyn sydd i ddod.

–027–

s G R Î n 1 0

“Os MEdRA I ARddIO yn FAn Hyn, ynA

MI FEdRwCH CHI ARddIO yn RHywLE!”

–028–

Russell, diolch am y cyfle i fusnesu ac

i gael tipyn o sgwrs yma yn y shed ar

y patsh enwog uwchlaw Rhosgadfan.

Croeso tad. Mae’n wych yma heddiw,

ond mae’r patsh yn lle agored iawn

ac mae hynny’n gallu creu problemau.

Mae’n gallu bod yn wlyb iawn yma yn

y gaeaf, ac yn sych fel asgwrn yn yr haf.

Mi rydan ni’n mynd o un eitha’ i’r llall.

Dwi wedi gweld eira yma ym mis Ebrill!

wyt ti wedi bod yn brysur yn paratoi

ar gyfer y gyfres newydd?

Do. Dwi wedi bod yn twtio ac yn palu,

ac yn clirio’r polytunnel yn barod ar

gyfer y planhigion. Dwi’n edrych ymlaen

at y gyfres newydd. Dwi isho arbrofi efo

rhai pethau, ac mae’r garddwr llysiau

o fri, Medwyn Williams, am roi cyngor

i mi, sy’n wych.

y gyfres gyntaf o Byw yn yr Ardd oedd

y tro cyntaf erioed i ti ymddangos ar

deledu. wyt ti wedi mwynhau’r profiad?

O do, dwi wedi mwynhau’n fawr iawn.

Rwy’n teimlo’n naturiol o flaen y camera

—gobeithio fy mod yn dod drosodd felly!

Mae mor braf cael cyfle i sgwrsio am

arddio a cheisio ennyn diddordeb pobl.

A deud y gwir, dwi’n ei hystyried hi’n

fraint cael gweithio ar y gyfres.

Beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf?

Cael cyfle i gyfarfod pobol, a mynd

i weld eu gerddi nhw. Dwi’n licio bod

yn rhan o dîm sy’n ceisio cael pobl i

godi o’u seti i wneud rhywbeth! Tydi

garddio ddim yn gymhleth. Dwi wedi

dysgu fy hun trwy arbrofi a thrwy

ddarllen. Synnwyr cyffredin ydi o mewn

gwirionedd. Os ydach chi wirioneddol

efo diddordeb yn rhywbeth yna mi

wnewch chi’r ymdrech i ddysgu. Dwi

ddim isho clywed esgusodion am y

tywydd a’r ffaith fod yr ardd mewn lle

anffafriol, neu’r tir yn dir anodd ei drin.

Os medra i arddio yn fan hyn, yna mi

fedrwch chi arddio yn rhywle!

s G R Î n 1 0

Mi rwyt ti’n credu mewn garddio

gwyrdd, yndwyt?

Ydw, yn sicr. Mae’n braf gweld mwy

a mwy o bobol yn cymryd diddordeb,

yn mynd ati i gompostio ac ailgylchu.

Ac mae bwyta’n iach yn dod yn fwyfwy

pwysig. Dwi’n meddwl fod pobol wedi

syrffedu ar brynu pethau mewn pacedi.

Mi rwyt ti’n foi prysur iawn. wrth baratoi

ar gyfer y gyfres newydd, mi rwyt ti wrthi’n

bridio ieir a hwyaid, ac mae un o dy gwn ˆ

Jack Russell di newydd gael cwn ˆ bach.

Do, mae Derwen wedi cael chwech

o gŵn bach, ac maen nhw’n hynod

o ddel. Dwi’n chwilio am gartrefi iddyn

nhw, ond mae’n siŵr y gwnâ i gadw

un i fod gyda’i fam a’i nain! Dwi’n byw

mewn bwthyn yn uwch i fyny na’r patsh.

Mae ’na ddigon o le yno i’r cŵn, ac i’r

ieir bigo a chrwydro. Mae’r olygfa yn

wych hefyd. Mi alla i weld draw tuag

at Ddinas Dinlle, ac ymhellach at yr

Eifl, Ynys Môn ac Ynys Llanddwyn, wrth

gwrs, ac ar ddiwrnod clir, mi fedra i weld

draw i Iwerddon. Mae rhywun yn cael

ei demtio i ista ar y sêt o flaen y tŷ gan

fod yr olygfa mor odidog, ond mae’n

rhaid gweithio gynta’ ac wedyn ista!

Pan fuon ni’n sgwrsio cyn y nadolig,

roeddet ti’n sôn y basa gwraig yn gwneud

anrheg ddelfrydol i ti. dwi’n deall dy

fod wedi cymryd cam bras i’r cyfeiriad

yna yn ddiweddar.

Do! Mi wnaeth un o ffans byw yn yr

Ardd sgwennu ata i, ac mi rydan ni’n

mynd allan efo’n gilydd erbyn hyn.

Mae ganddi hi ddiddordeb mewn

ffermio a garddio, ac mae’n cael trefn

arna i! Dwi ddim yn siŵr os gwnaeth

hi ddarllen yr erthygl yn sôn am fy

nymuniad i gael gafael ar wraig yn

2009, ond mae blwyddyn newydd

wastad yn dod â rhywbeth newydd

a gwahanol i’w chanlyn. Fi oedd yr

unig geiliog yma heb iâr, ac mae

gen i un rŵan!

–029–

Since he started presenting on lifestyle

gardening programme Byw yn yr Ardd,

russell Jones has become a hit with

the viewers, with his natural style and

obvious enthusiasm for meeting people

and learning about their gardens. here

he talks about the upcoming new series

of Byw yn yr Ardd, and how he found

a girlfriend after receiving fan mail! he

also shares his seasonal gardening tips,

and explains why he feels so strongly

about sustainable gardening.

byW yn yr Ardd

20∑25

26 Mawrth

O Gymru gan Cwmni Da

s4c.co.uk/bywynyrardd

TIPs

TyMHOROL

RUssELL

s G R Î n 1 0

–030–

CysTAdLEUAETH

I gael cyfle i ennill dewis gwych o

fylbiau gwerth £70 i blannu yn eich

gardd, atebwch y cwestiwn canlynol:

PA wLAd ARALL MAE RUssELL

JOnEs wEITHIAU’n GwELd O’I

ARdd yn sIR GAERnARFOn?

1/ IwERddOn

2/ FFRAInC

3/ AMERICA

Anfonwch eich ateb ar e-bost at

sgrin@s4c.co.uk neu ar gerdyn post

at: Cystadleuaeth byw yn yr Ardd,

Sgrîn, S4C, Blwch Post 353, Caerdydd

CF24 5XA. Y dyddiad cau yw 9 Ebrill.

s G R Î n 1 0

1 Ewch ati i docio, a bwydo’ch rhosod.

2 Plannwch fylbiau tyner fel blodyn y cleddyf (gladioli), lilis a dahlias.

3 Plannwch friallu a phansis.

4 Cofiwch ddyfrio eich bylbiau yn dda wrth iddynt dyfu.

5 Paratowch y pridd yn ofalus yn eich gardd lysiau ar gyfer plannu.

Bydd ychwanegu tail neu gompost yn gwneud daioni mawr i’r pridd.

6 dyma’r amser gorau i symud eirlysiau. unwaith y mae’r blodau wedi gwywo,

codwch y planhigyn o’r pridd, gan fod yn ofalus i beidio â gwneud unrhyw

ddifrod i’r bylb neu’r dail. Rhannwch y clympiau’n ofalus a’u plannu’n syth i’r

un dyfnder. dyfriwch yn ofalus er mwyn setlo’r pridd o amgylch y gwreiddiau.

7 Cadwch lygad barcud ar eich hostas. maen nhw’n dechrau tyfu rwan ˆ

felly byddwch yn barod i frwydro yn erbyn y slygs a’r malwod!

–031–

s G R Î n 1 0

Mae’n gyfnod prysur iawn i’r dyfarnwr

rygbi a’r diddanwr 37 oed nigel Owens. Mae

e’n dyfarnu dwy o gêmau Pencampwriaeth

y Chwe Gwlad ac yn un o dîm cyflwyno’r

sioe banel boblogaidd, Bwrw’r Bar. Mae

e newydd gyhoeddi ei hunangofiant hynod

onest, Hanner Amser.

Rwy’n un sy’n lico bod yng nghanol

pobl mewn lleoedd yn llawn sŵn a

bwrlwm—ac mae hynny’n ystyriaeth

bwysig wrth i fi drio dewis fy hoff le.

Un o’r rhesymau wy’n joio fy ngwaith

fel reffari yw achos fy mod i’n lico bod

yng nghanol yr achlysur. Chi yn y jobyn

anghywir os nad y’ch chi’n lico pobl.

Rwyf hyd yn oed yn joio’r tynnu coes

o’r terasau er dy fod ti’n dod ar draws

ambell glown.

Mae’n gyfnod prysur i fi ar hyn o bryd

rhwng y Chwe Gwlad a ffilmio bwrw’r

bar. Mae’n lot fawr o sbort cyflwyno

gyda Jonathan Davies, Eleri Siôn a

Rowland Phillips—er mod i’n cael mwy

na fy siâr o’r tynnu coes! Ond ta beth

am hynny, mae’n gyfle i fod yng

nghanol y bwrlwm.

Mae bod yn reffari wedi rhoi cyfle i

fi drafaelu’r byd ac wy wedi gweld y

lleoedd mwyaf ffantastig. Y lle gorau

i fi fod y tu fas i Gymru yw Cape Town.

Mae e mewn lleoliad gwych ac mae’r

golygfeydd o Table Mountain yn

rhywbeth fydd yn aros yn y cof am byth.

Mae De Affrica yn lle diddorol iawn ond

mae’n gallu bod yn danjerus—wedi

dweud hynny, mae ardal y Western

Cape yn teimlo’n eitha’ diogel.

fy hOff

Le i

nIGEL

OwEns

–032–

Wy wedi joio mynd i Dde Ffrainc hefyd

i ddyfarnu. Mae’r bobl yno’n angerddol

am eu rygbi, mae’r tywydd yn gallu

bod yn dda a’r bwyd a’r gwin mor neis.

Fues i’n ddigon ffodus i ddyfarnu yn y

Stadio Flaminio yn Rhufain cyn hyn ac

mae honno’n un o’r dinasoedd mwyaf

diddorol i mi weld erioed.

Wy wedi dyfarnu mewn amryw stadiwm

wych—ond does dim un well na’n

Stadiwm y Mileniwm ni yng Nghaerdydd.

Dyfarnais i ffeinal y Cwpan Heineken

rhwng Munster a Toulouse yno y llynedd

ac roedd yn brofiad bythgofiadwy.

Ond yn y pen draw, bachan fy milltir

sgwâr ydw i ac wy’n lico bod yng

Nghwm Gwendraeth yng nghanol fy

ffrindiau a’r teulu. Mae pawb yn lico bod

ar ben ei hun weithiau ond, ar y cyfan,

wy’n foi cymdeithasol. Rwy’ bellach

yn byw ym Mhontyberem, dwy filltir o

Fynyddcerrig, lle ces i’n magu. Mae’n

gymuned glos—a does dim lle gwell am

gwmnïaeth na Chlwb Rygbi Pontyberem.

Rwy’n teimlo’n gwbl gartrefol yno, yng

nghanol ffrindiau. A dyma fy hoff le i.

it’s a busy period for rugby referee

nigel Owens. he’s officiating at two

games in the Six nations Championship

and he’s also one of the presenters on

Jonathan davies’ rugby entertainment

show Bwrw’r Bar. One of the reasons he

enjoys his job as a referee is because he

likes to be in the thick of things. his work

has taken him to places as far afield as

france, South Africa and italy, but he

says there’s nowhere better to work

than the millennium Stadium. despite

the jet-setting lifestyle, home is where

the heart is for nigel, in the Gwendraeth

valley. he lives in pontyberem, and

enjoys spending time in the village

rugby club in particular.

bWrW’r bAr

21∑00

13 Mawrth/

20 Mawrth

O Gymru gan Avanti

s4c.co.uk/chwaraeon

y CLWb ryGbI

rHynGWLAdoL:

yr EIdAL v CyMrU

13∑30

14 Mawrth

CyMrU v IWErddon

17∑00

21 Mawrth

O Gymru gan BBC Cymru

s4c.co.uk/chwegwlad

y GAir

OLAf

RyLAnd

TEIFI

s G R Î n 1 0

yn enillydd Cân i Gymru a gwobr BAFTA

Cymru, mae Ryland Teifi yn enw blaenllaw

yn y byd cerddorol ac actio. yma mae’n trafod

ei yrfa a’i fywyd yn y Barri fel gwr ˆ i Roisin

a thad i Lowri, 8 a Cifa, 7.

Roedd canu wastad ar yr aelwyd. Ydi, mae’n

swnio fel ystrydeb, ond roedd cerddorion

ar ddwy ochr i’r teulu ac roedd caneuon

yn fath o eirfa i mi o oed cynnar. Mae

hynny wedi ei drosglwyddo i fy nheulu

i ac mae Roisin a minnau a’r merched

yn gwneud lot o ganu yn y gegin—ni

tamaid bach fel teulu’r Von Trapp!

Fy nhad oedd un o sylfaenwyr gwyl ˆ werin

y Cnapan. Roedden ni’n byw mewn siop

reit ynghanol pentref bach Ffostrasol

ac am chwe mis o’r flwyddyn roedd y lle

yn fwrlwm. Roedd pobl yn galw i drefnu

grwpiau, yn dod i brynu tocynnau ac

artistiaid yn ymweld â ni. Roeddwn i’n

byw gyferbyn â’r cae lle roedd yr ŵyl

yn cael ei chynnal ac ro’n i dal yn

mynd yno i wersylla. Dyddiau da.

–033–

Cnewyllyn fy nghaneuon yw profiad. Rwy’n

ysgrifennu am yr hyn a ddaw o reddf.

Rwy’ byth yn eistedd i lawr yn fwriadol

i ysgrifennu cân am wleidyddiaeth neu

gariad neu berson os nad oes rhyw

ddigwyddiad wedi fy ysbrydoli

i wneud hynny.

Fy rôl actio gyntaf oedd mewn fersiwn

ffilm Gymraeg o Back To The Future. Ro’n

i’n 12 oed pan ges i gynnig rhan yn y Cloc

gan Endaf Emlyn. Ro’n i’n chwarae boi

o’r gorffennol a landiodd yn y dyfodol

mewn hen gloc taid yn hytrach na char

Lamborghini! Roedd yn brofiad gwych

i actio gydag enwau fel Rachel Thomas,

Emyr Wyn a Ray Gravell.

Mae’n braf cael chwarae rhan â bach o

ddiawl yn perthyn iddo fe. Rwy’ wedi

chwarae sawl pregethwr a Chrynwr, felly

pan gynigiwyd rhan Peter Marshall i mi yn

Caerdydd ro’n i’n barod i gofleidio’r her.

dyw Peter yn ei hanfod ddim yn ddyn

drwg. Mae e’n ddyn sy’n meddwl ei fod

yn gwneud daioni. Ond oherwydd nad

oes ganddo ddrych mewnol sy’n dangos

ffaeleddau ei gymeriad, mae’n aml yn

cael ei hun i drwbl.

Mae Iwerddon yn agos iawn at fy nghalon.

Gwyddeles yw Roisin fy ngwraig ac roedd

ei thad, y diweddar Bobby Clancy yn

aelod o’r grŵp gwerin Gwyddelig enwog

The Clancy Brothers. Fe briodon ni yn

Iwerddon ac roedd y Cymry a’r Gwyddelod

yn ateb ei gilydd gyda chaneuon

traddodiadol y ddwy wlad.

yr hyn sydd yn fy ngwneud i’n hapus

yw Roisin a’r merched a’r un bach neu

fach sydd ar y ffordd fis Ebrill. Hefyd

cerddoriaeth a rygbi. Yn y drefn yna!

ryland Teifi is an award-winning actor

and musician. he plays the troubled

character of peter in drama Caerdydd

which returns to S4C in the summer. ryland

had a musical upbringing—his father was

one of the founders of the Cnapan folk

music festival. his wife, roisin, is also a

member of the famous irish musical family,

the Clancys. ryland says that family,

music and rugby are the things that

make him happy.

dECHrAU CAnU

dECHrAU CAnMoL

21 CAErdydd a 28 rhagfyr

O yn Gymru dychwelyd gan Avanti

mis Mehefin

O Gymru gan

Fiction Factory

s4c.co.uk/caerdydd

CHwILAIR

GwyL ˆ ddEwI

s G R Î n 1 0

TH E A I r o dd r E C G F

TH r W dd n L W A C E A W

E CH d r y n y L E T p E

A F d E o E o M n n n I

I d A nG p d y y TH A E S

n A L y A n C U M I n T

o TH W C b y I T E L I E

dd L G y TH CH n n TH o H dd

r U A r W r I A n M n F

A G W L E dd o S A E E o

b A U r M y G I n A C d

M A CH o G G I A r d I n

AnTHEM

ARwR

BARddOnIAETH

CÂn I GyMRU

CAwL

CEnHInEn

CEnnIn PEdR

CERddORIAETH

CInIO

CLOd

CynGERdd

dATHLU

dRAIG GOCH

EIsTEddFOd

EMyn

GwLAd

GwLEdd

MAwRTH y CynTAF

MOLIAnT

OEdFA

sAnT

TELyn

–034–

–034–

CysTAdLEUAETH

Enillwch dusw o flodau’r gwanwyn,

i’w anfon at gyfaill, perthynas neu gariad

—neu chi eich hun, wrth gwrs!

I gael cyfle i ennill y wobr, chwiliwch

am y geiriau gerllaw sy’n ymwneud â

thraddodiadau dathlu Gwyl ˆ

ddewi.

Pan ddewch o hyd iddyn nhw i gyd,

bydd y llythrennau sy’n weddill yn

sillafu un o negeseuon enwocaf

ein nawddsant.

Anfonwch eich ateb ar e-bost at

sgrin@s4c.co.uk neu ar gerdyn post at:

Cystadleuaeth y Chwilair, sgrîn, s4C,

Blwch Post 353, Caerdydd CF24 5XA.

y dyddiad cau yw 9 Ebrill.

CysTAdLEUAETH RHydIAn ROBERTs

Mr E Thomas, Porthmadog CysTAdLEUAETH y

CLwB RyGBI Mr steve Evans, Castell-nedd

CysTAdLEUAETH nAdOLIG PLEnTyn ynG

nGHyMRU Ms sarah Barr, Caerdydd

CysTAdLEUAETH y CROEsAIR Ms Meiriona

Jones, Blaenau Ffestiniog

RHEOLAU CysTAdLEUAETH Mae’r cystadlaethau

yn agored i bawb ag eithrio staff s4C, eu teuluoedd

agos a chwmnïau eraill sy’n gysylltiedig â sgrîn. dewisir

yr enillydd/wyr ar hap. Rhoddir gwybod i’r enillydd/

wyr ar ôl y dyddiad cau drwy lythyr neu dros y ffôn.

nid yw’n bosib i’r enillydd gyfnewid y wobr, ond mae

s4C yn cadw’r hawl i gyfnewid y wobr neu unrhyw ran

ohoni ar gyfer gwobr gyfwerth neu o werth ariannol

uwch. Mae penderfyniad y Golygydd yn derfynol.

Cyhoeddir enw’r enillydd/wyr yn rhifyn nesaf sgrîn.

ni dderbynnir cyfrifoldeb am geisiadau a gollir yn y

post neu sy’n methu â chyrraedd erbyn y dyddiad cau.

PRyd Fydd MOdd GwELd IoLo yn rWSIA?

A Fydd IsdEITLAU AR GyFREs CAErDyDD?

Am unrhyw ymholiadau bach a mawr am raglenni

s4C, mae croeso i chi ffonio Gwifren Gwylwyr s4C ar

0870 600 4141 neu e-bostio gwifren@s4c.co.uk. Hefyd,

gallwch gysylltu â’r wifren i archebu copi o sgrîn i’ch

ffrindiau neu deulu. ni ddylai galwad gostio mwy na 6c

y funud o linell BT.

Mwynhewch

fi, rhannwch fi

gyda’ch ffrindiau

ac ail-gylchwch

fi!

Argraffwyd ar

bapur wedi ei

ail-gylchu gydag

inc yn deillio o

lysiau gan

argraffwr ag

Achrediad

Amgylcheddol

ISO 14001.

enjoy me,

share me with

your friends

and recycle me!

printed on

recycled paper

using vegetable

based inks by

a printer holding

environmental

Accreditation

iSO 14001.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!