11.07.2015 Views

Gorffennaf - Tafod Elai

Gorffennaf - Tafod Elai

Gorffennaf - Tafod Elai

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

EFAIL ISAFGohebydd Lleol:Loreen WilliamsNewyddionDysgwyrMorgannwgLlwyddiant EisteddfodolLlongyfarchiadau i Trystan, mab hynafHefin a Lowri Gruffudd, Nantcelyn, arennill yr ail wobr am y ddawns stepio iblant o dan 15 oed yn EisteddfodGenedlaethol yr Urdd. Tipyn o gampgan fod Trystan yn dal i fod yn yr ysgolgynradd.Roedd amryw o blant y pentref yncystadlu gydag Adran Bro Taf achafwyd llwyddiant mawr mewn sawlcystadleuaeth. Enillwyd yr ail wobr amy ddawns stepio i grŵp, a’r Parti Llefarua’r drydedd wobr am y parti dawnswerin. Llongyfarchiadau mawr i chigyd.CydymdeimloTrist yw cofnodi marwolaeth annhymigJesse Thorne yng Ngwlad Thai.Ganwyd Jesse yn y pentref ac roedd yngyn­ddisgybl yn Ysgol Gynradd GarthOlwg ac Ysgol Gyfun Llanhari.Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant i’rteulu i gyd.Her y Tri ChopaLlongyfarchiadau i Matthew Thomas,Penywaun, ar gyflawni tipyn o gamp ynHer y Tri Chopa ddydd Sadwrn,Mehefin 14eg. Cododd Matthew gyda’rwawr gan ddechrau dringo’r Wyddfa ynfuan ar ôl pedwar o’r gloch y bore.Ymlaen wedyn i ddringo Cader Idris agorffen hwyr y prynhawn trwy ddringoPenyfan ar Fannau Brycheiniog. Roeddwyth deg o dimau’n dringo a phob tîmwedi addunedu i godi dros fil obunnoedd tuag at Dŷ Hafan. Roedd yprofiad wedi bod yn un rhyfeddol iMatthew ac mae wedi penderfynuwynebu’r her y flwyddyn nesaf eto. Nôlar Pobl y Cwm. Cofiwch wylio Pobl yCwm yn ystod yr wythnosau nesaf ymagan fod Tomos West, Nantcelyn, einhactor bach ni o’r pentref yn ôl yngNghwmderi.Corau’r PentrefMae tri chôr y pentref, Côr Godre’rGarth, Côr Merched y Garth a Pharti’rEfail yn brysur iawn yn paratoi ar gyferyr Eisteddfod Genedlaethol. Pob hwyli’r tri chôr gan obeithio y bydd yna rywgwpan neu ddau yn dod yn ôl i’r pentrefddechre Awst.GraddioLlongyfarchiadau gwresog i ddwyfyfyrwraig o’r pentref sydd wedigraddio eleni. Enillodd Enfys Dixey,Heol y Ffynnon radd yn y Gyfraith aSbaeneg ym Mhrifysgol Caerdyd aFfion Rees, Penywaun, radd mewnHanes ac Astudiaethau Americanaiddym Mhrifysgol Abertawe.Y TABERNACLGwellhad BuanMae amryw o’n haelodau wedi bod ynderbyn triniaeth yn yr ysbyty ynddiweddar. Dymunwn yn dda i AneiraDavies, Tonteg, Keith Rowlands, Tremy Garth, Eric Davies a Nia Donelly,Llantrisant. Dymunwn wellhad buan allwyr i chi i gyd.CyngerddCynhelir Cyngerdd yn y capel gan blantYsgol Gynradd Garth Olwg ac artistiaideraill Nos Fawrth, <strong>Gorffennaf</strong> 1af iddechrau am saith o’r gloch yr hwyr.Cyflwynir elw’r noson at gronfa maesparcio newydd, Neuadd y Pentref.Croeso cynnes i bawb.Gwyliau Teulu TwmBydd aelodau Teulu Twm yn cael cyflei fynd i ffwrdd am benwythnos nosWener 11eg o Orffennaf tan fore Sul<strong>Gorffennaf</strong> 13eg. Ceir amrywiaeth oweithgareddau gan gynnwys canŵio,cyfeiriannu ac adeiladu rafftiau.Gobeithio cewch amser da a thywyddffafriol.Merched y CapelBydd cyfarfod nesaf Merched y CapelDdydd Mawrth, <strong>Gorffennaf</strong> 1af.Byddwn yn mynd ar daith ar un o’rbysiau agored o amgylch DinasCaerdydd. Cyfarfod wrth y Castell am11 o’r gloch y bore.Dolen LesothoMae’r gwaith o efeillio gyda chapel ynLesotho yn mynd rhagddo’n dda ac maeElenid eisoes wedi ymweld â Mohale’sHoek yn ne­orllewin y wlad i sefydluperthynas. Mae’r gweinidog, SusTekulisa, yn edrych ymlaen yn eiddgarat y cyd­weithio rhyngom. Cysylltwchag Elenid os oes gennych ddiddordebmewn bod yn aelod o’r gweithgor.Ddydd Sadwrn 14eg o Fehefin aeth criwohonon ni mewn bws i Landysul iymweld â Gwasg Gomer a ThelynauTeifi.Ar ôl siwrnai hwylus cyrhaeddon nigartref newydd moethus Gomer argyrion Llandysul a chawson ni eintywys o amgylch gan Jonathan Lewis yprif weithredwr. Aeth Jonathan â ni oamgylch yr adeilad a’r stafell argraffuyn egluro defnydd y gwahanolbeiriannau enfawr oedd yno ac fe welonni rai o’r llyfrau newydd sy’n cael euhargraffu ganddyn nhw ar hyn o bryd.Cyn gadael cawson ni gyfle i brynu rhaio’u llyfrau hefyd.Ar ôl hyn aethon ni i gyd i gael ciniomewn bwyty cyfagos a chan fod ytywydd yn braf roedd yn gyfle i eisteddallan yn yr awyr agored a chymdeithasu.Yn y prynhawn aethon ni i ymweld âThelynau Teifi sy wedi eu lleoli yn yrhen ysgol yn y dre. Mae’r cwmni ar hyno bryd ond yn cynhyrchu telynau bach,ac fe welon ni gasgliad hardd ohonynnhw, ond o fewn y ddwy flynedd nesafbyddan nhw’n cynhyrchu telynau mawrh efyd. Rh oddodd J ohn Jon esgyflwyniad difyr iawn yn sôn am hanesy cwmni a’i ddatblygiad a sut roedd ygwahanol delynau yn cael eu gwneuda’r deunyddiau ro’n nhw’n eudefnyddio.Cyn dechrau ar y daith hir nol iBentre’r Eglwys roedd amser am banedmewn caffi cyfagos a phawb yn sôncymaint ro’n nhw wedi mwynhau’rdiwrnod.Trefn yr Oedfaon<strong>Gorffennaf</strong> 6. Oedfa Gymun o dan ofaly Gweinidog<strong>Gorffennaf</strong> 13. Oedfa deuluol<strong>Gorffennaf</strong> 20. Sul y Cyfundeb ynYsgol Plasmawr<strong>Gorffennaf</strong> 27. Cyd­addoli ymMethlehem, Gwaelod y Garth.Awst 3. Oedfa Gymun o dan ofal eingweinidogAwst 10. Cyd­addoli ym Methlehem,Gwaelod y GarthAwst 17. Y Parchedig Eirian ReesAwst 24. Cyd­addoli ym Methlehem,Gwaelod y GarthAwst 31. Y Parchedig D.H. Owen,Caerdydd3


YsgolGarth OlwgPentyrchChwaraeonAthletauBu plant o flynyddoedd 5 a 6 yncystadlu yng Nghanolfan HamddenAbercynon mewn cystadleuaeth dan do.Llongyfarchiadau i'r plant a fuodd yncystadlu a llwyddodd yr ysgol i ddod yngydradd gyntaf.NofioBuodd plant o flynyddoedd 4, 5 a 6 yncystadlu mewn Gala Nofio yngNghanolfan Hamdden Llantrisant ynddiweddar. Diolch i bawb am euhymdrechion.`Skydive'Llongyfarchiadau i Mrs Evans am godiswm sylweddol o arian drwy neidio maso awyren yn ddiweddar. Roedd hi'nawyddus i godi ymwybyddiaeth pobl o'rafiechyd `Mysciwlar Dystroffi'. Maemab Mrs Evans yn dioddef o'r afiechyd.Sara Evans ei merch wnaeth y dasganodd, sef helpu dod o hyd i'r hollnoddwyr!Dosbarth Mrs EvansAeth dosbarth Mrs Evans i gaelbrecwast Ffrengig yn y Caffi `Cyber' ynddiweddar. Cafodd plant hwyl yn blasu`Croissants' ac amrywiaeth o fwydyddFfrengig eraill. Diolch i'r staff ambaratoi'r holl fwydydd ac am euhymdrechion i siarad Ffrangeg gyda'rplant. Cafodd y plant gyfle i ymarfer yFfrangeg roeddynt wedi dysgu gyda MrsWest.Dosbarth Mrs WidgeryTrip i'r traethAr Fehefin 11eg, aeth plant dosbarthMrs Widgery am drip i draethPorthcawl. Bu'n rhaid i'r plant ymdrin âgweithgareddau amrywiol yn ystod ydydd, gan gynnwys helfa drysor drwy'rdref ac wrth y môr, casglu pethauamrywiol, gemau y tywod a phadlo yn ymôr oer. Hoffai Mrs Widgery a MissY Tîm AthletauMorris ddiolch i Mrs Short, un o'nmenywod cinio ac i'r holl famau addaeth gyda ni ar ein trip.Gwasanaeth dosbarth Mrs WidgeryAr Fehefin l2eg, bu plant dosbarth MrsWidgery yn cymryd rhan yn eugwasanaeth ar gyfer eu rhieni. Daeth yplant i'r ysgol wedi eu gwisgo fel arwyrgwahanol, ac fe ddysgodd pawb amarwyr byd y ffilm, arwyr bob dydd, acIesu yr arwr pennaf.Côr yr ysgolDiolch yn fawr i gôr yr ysgol am euperfformiadau yn y Ganolfan Gydol Oesac yng Nghapel Y Tabernacl, Efail Isaf.Hoffwn estyn diolch i'r rhieni am eucefnogaeth arferol, ac i Mr. Cooper amei waith caled yn hyfforddi'r côr.Dosbarth Mrs Morris a Mr ReesTeithiodd Blwyddyn 3 a 4 Mrs Morris aMr Rhys yn ôl mewn amser gyda'ihymweliad â'r hen ysgol yn SainFfagan. Gwisgodd y plant mewn dilladOes Fictoria, a chawsant flas o weldMrs Morris yn chwarae rôl athrawes ycyfnod. Dywedodd Tory Webb`Roeddwn i'n teimlo'n ofnus a chrynais ioherwydd roedd Mrs Morris yn gweiddiac yn llym iawn!'Gwydion a Mali GriffithsPriodas yn Efrog NewyddMenter IaithKevin DaviesLindsay Jones, Marion Griffiths aCath Craven yn Seremoni Interlink iWobrwyo Gwirfoddolwyr4


MENTER IAITHRhondda Cynon TafYn hybu’r Gymraeg01443 226386www.menteriaith.orgPrifweithredwr NewyddMae Kevin Davies newydd ddechrau arei swydd fel Prifweithredwr MenterIaith Rhondda Cynon Taf. Mae Kevin,sy’n dod o gefndir darlledu yn edrychymlaen yn fawr iawn at yr her sydd ynei wynebu :“ Mae hi’n mynd i fod yn newid bydenfawr, ond yn newid rwy’n edrychymlaen ato. ‘Rwy hefyd yn edrychymlaen at yr her o gynnal hollweithgareddau’r Fenter fel y maen nhwar hyn o bryd, ac mewn amserdatblygu’r Fenter fel ei bod hi’n parhaui gyflawni’r nod o fod yn gefn ac ynsbardun i holl Gymry Cymraeg y Sir.Newid StaffDymunwn yn dda i nifer o aelodau staffy Fenter sydd wedi symund i swyddinewydd. Mae Helen Davies, SwddogGofal Plant, wedi mynd i weithio iBrifysgol Morgannwg. Croesawn SarahThomas i’r swydd Gofal Plant. MaeGeraint Bowen, Pennaeth Cyllid, wedicael swydd yn Fro. Mae LeonnieHorton, Swyddog Ieuenctid wedi caelswydd yn y Fro hefyd. Mae HelenaJones, Swyddog Busnes, wedi caelswydd yn Nhrefforest. Diolch i’rpedwar am eu cyfraniad sylweddol i’rFenter a dymuniadau gorau yn eichswyddi newydd.Gwobr Am WirfoddoliCafodd Cymdeithas Gymraeg Y Maerdyei chydnabod am ei gwaith amhrisiadwyyn hybu'r iaith Gymraeg yn NosonWobrwyo Gwirfoddol wyr 2008Interlink. Enillon nhw'r categori Hybu'rGymraeg, a noddwyd gan Fwrdd yrIaith.Dechreuodd y Gymdeithas dros 4blynedd yn ôl gyda chymorth MenterIaith a Chymunedau'n Gyntaf YMaerdy, ac mae wedi tyfu a datblygu iwneud cyfraniad sylweddol i'r Gymraegyn a r d a l o e d d Y M a e r d y aGlynrhedynnog, Rhondda.Aeth Marion Griffiths, cadeirydd ygrŵp, ymlaen i dderbyn y wobr agyflwynwyd gan Jane Davidson, AelodCynulliad. Mae'r grŵp yn cwrdd yn NhŷTeifi ar foreau Llun 11.00­12.00.Cynlluniau ChwaraeCynhelir Cynlluniau Chwarae y Fentermewn chwe lleoliad o ddydd Llun iPENTYRCHGohebydd Lleol:Marian WynnePRIODASDymunwn yn dda i Mali a GwydionGriffiths, mab Nan a’r diweddar MerfynGriffiths, gynt o Lwyn Celyn, Pentyrch,yn dilyn eu priodas yn Central Park,Efrog Newydd. Mae Mali yn gweithiofel is­deitlydd yn y BBC a Gwydion ynSwyddog y Wasg a Marchnata gydathîm rygbi Gleision Caerdydd.Llongyfarchiadau i’r ddau.PRIFATHRO HAPUSMae Dewi Hughes, prifathro YsgolSantes Tudful, Merthyr, yn ddyn hapusiawn yn dilyn llwyddiant yr ysgol ynEisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn yGogledd. Llwyddodd y disgyblion igyrraedd y llwyfan mewn pumcystadleuaeth gan ddod yn gyntaf yn yrunawd telyn a’r ddawns disgo unigol.Daethant yn ail yn y ddawns cyfrwngcymysg a’r ddawns greadigol ac yndrydydd yn yr ensemble offerynnol.Tipyn o gamp! Llongyfarchiadau.GENEDIGAETHLlongyfarchiadau i Sharon a RhodriJones, Thoiry, Ffrainc ar enedigaeth eupedwaredd merch, Bethan Mair. MaeBethan wedi cael croeso mawr ganFflur, Eiry, a Rhian a gan Elenid eimam­gu hefyd. Mae’n gyfnod cyffrous iRhodri rhwng popeth gan fod CERN,sef Labordy Ffiseg Gronynnau Ewrop,lle mae Rhodri yn gweithio ar finddydd Gwener 21/7/2008 i 29/8/2008rhwng 10 a 12 y bore. Y lleoliadau ywYsgol Gynradd Gymraeg Abercynon,Canolfan Ieuenctid Bronllwyn, YsgolGyfun Llanhari, Ysgol GynraddGymraeg Ll yn yfor wyn, YMCAPontypridd, Ysgol Gyfun Rhydywaun.Mae mynediad am ddim.Cwlwm BusnesNoson o sgwrsio a blasu caws Cymraegyn y Cwtch yn Hoffi Coffi? Trefforest,Pontypridd dyna fu Cwlwm Busnes ynYsgolGwaelod yGarth ynDathlu(O dudalen 1)Bu Mr Lewis yn brifathro yngNgwaelod y Garth am 30 mlynedd hyd1991 a bu’n gefnogol i sefydlu’r UnedGymraeg.Bu nifer o bobl yn chwarae rhanbwysig wrth sefydlu'r Uned Gymraegyn 1967­68. Roedd yn bleser a braintcael eu cwmni yn y gyngerdd.Croesawyd unigolion a fu’n gyfrifol amsefydlu’r Cylch Meithrin yn FfynnonTaf pedwar deg mlynedd yn ôl, GwilymRoberts, Dorothy Bunn a Gordon Bunn.Roedd rhai o’r cyn­ddisgyblion o’rdosbarth cyfrwng Cymraeg gyntaf hefydyn y gynulleidfa.Roedd rhaglen y gyngerdd yncynnwys cyfraniadau gan ddisgyblion yrysgol. Roedd y caneuon a’r eitemau ynadlewyrch digwyddiadau pwysig ynhanes yr ysgol. Perfformiwyd y gân"Ymlaen 'da'n Gilydd" a gyfansoddwydyn arbennig ar gyfer yr achlysur.cychwyn y ‘Large Hadron Collider’ afydd, gobeithio, yn datgelu rhai oddirgelion y cread.LLONGYFARCHIADAULlongyfarchiadau i Cerian Hughes syddwedi llwyddo yn ei chwrs hyfforddi felplismones. Yn dilyn seremoni ymMhrifysgol Morgannwg bydd Cerian yndechrau ar ei gwaith yn ardal Abertawe.Felly drigolion Pentyrch cofiwch fihafioos yn ymweld ag Abertawe!ei gwneud ar 3 Mehefin. Lleoliadhwylus i'r orsaf drên a coffi blasus iawn.Sgwrs ddifyr gan Royston O'Reillyperchennog Hoffi Coffi? ­ pam fod hi'nbleser ac yn synhwyrol i ddefnyddio'rGymraeg mewn busnes. Hefyd roeddCaroline Mortimer yn esbonio ychydigam ei gwaith fel Swyddog Iaith ynRhCT a sut mae modd cael gohebiaeth yCyngor yn Gymraeg. Dosbarthwydllyfrynnau bach gyda rhifau cyswlltllinellau Cymraeg ­ mynnwch gopinawr!5


PONTYPRIDDGohebydd Lleol:Jayne ReesCREIGIAUGohebydd Lleol:Nia WilliamsPen blwyddi ArbennigLlongyfarchiadau ar gyrraedd degawdnewydd yn eu bywydau yn ystod ymisoedd diwethaf i’r canlynol ­ DelythBlainey, Lanwood Road, Graigwen, LisMorgan Jones, Maes y Deri, Graigwen aGareth Miles, Parc Graigwen.Amser i joio!!Dymuniadau gorau i rai o drigolionPontypridd sy’n ymddeol. Yn gyntaf iLis Morgan Jones ­ bu Lis yn gweithiofel Ymgynghorydd y Gymraeg iAwdurdod Addysg y Fro. Yn ail iMargaret Francis, Parc Prospect ­ byddMargaret yn gorffen fel DirprwyBennaeth yn Ysgol Bodringallt yr Hafyma. Yn drydydd i Gerwyn Caffery ­ arôl blynyddoedd o wasanaeth byddGerwyn yn gadael Ysgol GyfunRhydfelen. Diolch o galon am eichcyfraniadau i addysg Gymraeg yn yrardal.PriodasauPob lwc i Siwan Francis a’i chariadTom ­ byddant yn priodi yng NghapelSardis ddiwedd <strong>Gorffennaf</strong>. MerchDavid a Margaret Francis, Parc Prospectyw Siwan.Ar yr un diwrnod bydd Branwen,merch Gareth a Gina Miles, ParcGraigwen yn priodi Owain Stickler oGaerdydd yn Sir Benfro.Llyfr y flwyddyn.Llongyfarchiadau i Gareth Miles, ParcGraigwen ­ mae ei lyfr diweddara “YProffwyd a’i ddwy Jesebel” ar restr ferLlyfr y Flwyddyn. Gwobrwyir yrenillydd mewn seremoni yn yr Hiltonddechrau <strong>Gorffennaf</strong>.Gwellhad BuanMae aelodau capel Sardis yn anfon eucyfarchion at eu gweinidog­ bu’r Parch.Hywel Lewis yn derbyn triniaeth ar eiben­glin yn yr ysbyty yn ddiweddar.Brysiwch wella!Elusen arbennigAr ôl ymweliad â Bangladesh ychydigfisoedd yn ôl mae Wil Morus Jones, YComin, wedi sefydlu elusen i helpu taluam lawdriniaethau i nifer o drigolion ywlad sy’n dioddef o daflod hollt (cleftpalate). Mae Wil wedi bod yn rhoicyhoeddusrwydd i’r fenter ar y radio a’rteledu yn ogystal ag ymweld ag6 ysgolion lleol a chapeli. Enw’r elusenyw Bangla Cymru.Babis! Babis! Bwrlwm o fabis!Llongyfarchiadau mawr i ...... Rachel a Steve Jones ar enedigaethMia Haf! Wele lun hyfryd o’r teulu bachgyda’u cyntaf­anedig, gartref ym Mheny bont. Mae Mam­gu a Thad­cuCreigiau (sef Morwen a Byron) ynhynod o falch o’u teitl newydd!... Bethan (Willis gynt) a Ben Levine arddod yn rhieni am y tro cyntaf hefyd.Ganed merch fach, Ela Haf, i Bethan aBen ar yr 17eg o Fehefin. Maen nhw ynbyw yng Nghaerdydd – ddigon agos iDad­cu Eric a Mam­gu Carole warchodweithiau!Ela Haf, merch Bethan a Ben Levine... Richard a Carys Jenkins, Thornhill,Caerdydd ar enedigaeth mab bach, RhysLlewellyn ar y nawfed o fis Mehefin.Mae ‘na Fam­gu a Thad­cu balch iawnarall yn y Creigiau, sef Gill a GarethJenkins, a hen fam­gu ym Mhontsenni,sef Mrs Lorraine Thomas fydd yn dathluei phen blwydd yn nawdeg a dwy oedym mis Awst.Rhys Llewellyn JenkinsSteve a Rachel Jones gyda Mia Haf... Geraint ac Emma Thomas, QueenCharlotte Drive sydd newydd gaelmerch fach, Gwenno Haf – chwaer fachi Mirain Alaw ac Eiry Glain. Croeso i’rbyd, blantos!Gwellhad buan ...... i Brian Davies, Beili Glas. Mae Brianwedi derbyn triniaeth ysbyty yn ddiweddarac anfonwn ein dymuniadau gorauato fel y gall ddychwelyd at ei frwsys yno fuan!DyweddïadLlongyfarchiadau i’r Dr Rhiannon Williams(Parc y Fro gynt) a Giri ar eu dyweddïadyn ddiweddar. Daw Giri o Frasil,ac mae’r ddau yn bwriadu ymgartrefuyng ngwlad enedigol Giri. Pobhapusrwydd eich dau yn ne America.GraddedigionLlongyfarchion i Rhianwen Condron,draw yn Stratford bell ar ennill ei graddB.Sc. 2i mewn materion Iechyd a Diogelwch.Bydd Rhianwen yn dychwelyd iGymru y mis hwn i gychwyn ar eiswydd gyda chwmni o adeiladwyr ynAbertawe. Pob dymuniad da i ti.Llongyfarchion hefyd i Catrin Middletonsy newydd raddio gyda 2i mewnGeneteg o brifysgol Caeredin. Dyw hiddim ond megis ddoe pan adawodd Catrinam yr Alban a dechrau Cymreigiocampus coleg y brifysgol yno yn sythbin!Yn meddwl amdanoch ...... Mrs Winnie Middleton, mam­gu Catrin(ac Eleri) – sy heb fod yn hwylus ymisoedd diwethaf yma – mae eich llu offrindiau yn anfon eu cofion atoch ac yndymuno gwellhad i chi.Llongyfarchiadau i Daniel Calan Jonesar gael 'distinction' yn ei arholiad 'debut'drwms ­ ac ymddiheuriadau i'r cymdogionam y swn!!!


Noson Fawr i Josh Rygbi Pentyrch Dan 7 ac 8Sbectol drwchus a’r gwallt wedi’i griboi un ochr yn arddull y 60au; o fe fyddaiMam­gu wedi bod mor ‘proud’ ohono.Wedi’r cyfan, dyna fel y byddai hi wedidymuno i’w Dad wisgo’i wallt yntaupan yn grwtyn……ond stori arall ywhonna!Ers dechrau mis Ebrill bu Josh Morgano Greigiau yn paratoi ar gyfer eiberfformiad proffesiynol cyntaf ar ôlcael ei ddewis yn aelod o’r cast craiddar gyfer Noson Ola’r Prom, sioe agoriadolEisteddfod yr Urdd Sir Conwy2008. Bu gwaith cynnar i ymgyfuno â’igymeriad Hedd ac yna ddiwedd misEbrill lawr i Fae Caerdydd bob prynhawnar ôl ysgol cyn wythnos solid yn yGogledd yn arwain at y noson fawr.Disgybl yn Ysgol Creigiau yw Josh,sy’n wyneb eithaf cyfarwydd erbyn hynar lwyfannau perfformio. Bu’n canu acyn adrodd mewn nifer o eisteddfodau’rUrdd ar lefel ysgol, sir a chenedlaetholers pan roedd yn chwech. Tair blyneddyn ôl, pan ffurfiwyd adran Bro Taf ymMhontypridd, roedd Josh yn un o’r aelodaucyntaf. Roedd felly yn rhan o’r criwtalentog wnaeth mor dda yn Eisteddfod2007 yng Nghaerfyrddin. A dyma blemewn gwirionedd, o dan arweiniad CliffJones ac Eirlys Britton, y mae Josh wedimeithrin yr hyder a datblygu’r sgiliauperfformio.Ond nôl â ni i’r 60au, oes ffair glanmôr, y candyfloss, y mulod a’r cestylltywod. Dyma flas ar Noson Ola’r Promyn Llanrhygol, tref ddychmygol yn yGogledd ond sy’n siŵr o adlewyrchuatgofion melys ein plentyndod ni ledledCymru. Y sgript raenus gan Mei Jonesa’r caneuon gafaelgar, cofiadwy ganCaryl Parry Jones, roedd y pafiliwn danei sang a’r gymeradwyaeth yn atseinio’nfyddarol.Er taw dim ond 11 oed yw Josh a dyma’iberfformiad proffesiynol cyntaf,Cafodd tîm rygbi dan 7 ac 8 Pentyrchdymor gwych eto eleni. Bob nos Wenerbydd rhwng 30 a 40 o blant yr ardal ynymarfer ym Mhentyrch, ym mhobtywydd, ac yna yn cael gêm ar fore Sul.Ar ddiwedd y tymor, fe aeth y ddau dîmi gymryd rhan mewn twrnament 8 bobroedd ganddo rôl amlwg mewn amrywo’r golygfeydd lliwgar; cafodd ei wlychu’nddidrugaredd mewn un a mynd ary sgrechfyd mewn un arall…….pŵr dabâ fe ! A hyn i gyd yn fyw ar S4C."Roedd yn brofiad gwych" meddaiJosh o’i gartref yn Hollywood (soriCreigiau) "cefais cymaint o groeso gany criw a chyfle i wneud rhywbeth drimis yn ôl fyddai ond yn freuddwyd ffôl"Ychwanegodd Josh "dim ond un pethoedd yn od, roedd fy nhad yn cymrydrhan hefyd a dim ond un llinell oedd ‘dafe i ddweud, pwy chi’n meddwl oedd ynchwysu fwyaf ? "Yn wir, mae Josh yn mwynhau pobagwedd ar berfformio gan gynnwysclocsio, dawnsio gwerin, actio a chanu’rpiano. Yn ystod ei amser hamdden,mae’n nofio ac wedi ennill gwregysgwyn a du mewn Tae Kwon Do.Yn y dyfodol mae ei fryd ar fod yn actor;amser a ddengys. Cyn hynny fefydd yn dechrau yn Ysgol Plasmawrwedi gwyliau’r haf ac wedi Prom arall,sef Prom blwyddyn chwech yn ysgolCreigiau. Tybed a fydd Hedd yn galwheibio?ochr ym Mhencoed, ac wedyn drosGlawdd Offa i Leominster, lle colloddy tîm dan 8 yn y rownd derfynol ynerbyn tîm arall o Gymru, Rhiwbeina. Daoedd gweld dau dîm o Gymru mewnrownd derfynol yn Lloegr. (Maedyfodol rygbi Cymru yn edrych ynaddawol!!)Mae’r chwaraewyr yn dod o’rCreigiau, Pentyrch, Gwaelod y Garth,Caerffili a Chaerdydd, ac mae trichwarter y tîm yn siarad iaith y nefoedd.Uchafbwynt y tymor i’r hogia oeddcael cwrdd â ac ymarfer gyda RhysWilliams, cyn asgellwr Cymru, a hefydy dyn ei hun, Warren Gatland, fuodd ynamyneddgar iawn yn llofnodi llyfrau,crysau…..ac ambell dalcen chwarewr yclwb!!!Aeth 44 o’r tîm i ddathlu diwedd ytymor yn Bowlplex, Nantgarw, cyngorffen y tymor yn y Marquee ymMhentyrch, lle roedd Rhys Williamsunwaith eto yn rhoi ‘tlws’ i’r plant igyd.Mae tymor caled i’r hogia dan 8flwyddyn nesaf gan fod y ‘taclo’ yncychwyn am y tro cyntaf ym mis Medi.Ond ar ôl 2 flynedd o dagio bendigediggan y tîm, mae’r hogia i gyd yn edrychymlaen yn arw.Mae’r tymor yn ail ddechrau ar Medi’r7fed, felly haf o orffwys i’r chwaraewyr(a’r hyfforddwyr), ac amser i weithio ary r h e n h a n d i c a pgolff!!!!.........FOOOOORRREEE.7


TONYREFAILGohebydd Lleol:Helen Prosser671577Y CYLCH MEITHRINMae Ysgol Gynradd GymraegTonyrefail yn ffynnu ar hyn o bryd acmae llawer o’r diolch i’n cylch meithrinardderchog a’i arweinydd “Anti Jan”.Mae’r plant wedi bod yn brysur yn codiarian trwy gymryd rhan mewn taithgerdded “camau bach”. Maen nhw wedicodi dros £500 hyd yn hyn.Plant y cylch ar eu taithMae’r rhieni wedi bod yn brysur iawnhefyd ac wedi denu grant gan FenterIaith (cronfa Cymunedau’n Gyntaf) igael Martyn Geraint i berfformio yn ycylch. Bydd cwis yn nhafarn y ‘Bog’ arOrffennaf y cyntaf a Diwrnod Hwyl aSbri i deuluoedd eto yn nhafarn y Bogar Orffennaf 13eg.YSGOL GYNRADD GYM­RAEG TONYREFAILMae’r plant wedi bod yn lwcus iawn ytymor hwn i gael nifer o bethau yn digwyddyn yr ysgol:·Daeth y Frigâd Dan i mewn i siaradam beryglon tân·Daeth Ffair Lyfrau Scholastic a gwerthugwerth dros £900 o lyfrau – diolch iHelen Jeffries a Nicola Magni Jones,aelodau o CRACH, am eu cymorth.·Daeth Canolfan Adar YsglyfaethusCymru â rhai o’u hadar i mewn i’r dosbarth.Nyrsys yn trin Humpty DumptyMae’n dymor y gwasanaethau dosbarth.Tri sy wedi bod hyd yn hyn: OliverTwist, addasiad o Humpty Dumpty, a‘Talentau Ton’.Aeth yr Adran Iau i weld y ddrama‘Twm Siôn Cati’ yn y Miwni ac mae’rBabanod i gyd yn mynd i weldanifeiliaid ‘Arch Noa’ ym Mryste.Yn olaf, pob dymuniad da i’r 26 o ddisgybliona fydd yn mynd i Ysgol Llanhari.Bydd 26 yn gadael, ond 41 yn dodi mewn i’r ysgol – arwydd o’r twf mewncymaint o’n hysgolion cynradd ar hyn obryd.Hanes Lleol aCherddedBu Walter Jones ar y daith gydaChymdeithas Gymraeg Llantrisant acmae’n debyg bod nifer o bobl wedi holiam y gymdeithas hanes ac am‘Ramblers’ Llantrisant.Cymdeithas Hanes LlantrisantDarlithoedd 2008­09.Mae pob noson yng NghanolfanGymunedol Pontyclun am 7pm:Mawrth, Medi 9fed: M r s L o u i s eMumford: Recent Excavations atLlandaf CourtMawrth, Hydref 14eg: M r D e a nPowell: Dr William PriceMawrth, Tachwedd 11eg: Dr MaddyGray: The Cistercian WayMawrth, Ionawr 13eg: D r L l o y dBowen: The Aubreys of Llantrithyd inthe 17 th centuryMawrth, Chwefror 10fed: Mr BarryDavies: William Thomas and his Diary:1762­95Mawrth, Mawrth 10fed: Mr Walter DJones: Pwnc i’w benderfynuCymdeithas Gerdded (‘Ramblers’)Taf <strong>Elai</strong>Mae’r Gymdeithas yn cyfarfod bobdydd Sul a phob nos Iau ym mis<strong>Gorffennaf</strong> a mis Awst, ac ar ddydd SulCanlyniadauEisteddfod yrUrddSir Conwy 2008Ensemble Lleisiol Bl 6 ac iau (Y.C./Adran): 2il, Ysgol Gymraeg Llantrisant.Dawns Stepio Cymysg Bl 6 ac iau:2il, Adran Bro Taf.Unawd Piano Bl 6 ac iau:2il, Georgia Geary, Ysgol Gynradd CreigiauCôr (Y.C.) Bl 6 ac iau (Ysg. dros 150):1af, Ysgol Gymraeg Llantrisant.Parti Deulais (Y.C./Adran) Bl 6 ac iau:1af, Ysgol Gymraeg Llantrisant.Llefaru Unigol Bl 5 a 6 (D): 1af EmileeStephens, Ysgol Gynradd Heol­y­Celyn.Grwp Llefaru (Adran) Bl 6 ac iau:2il, Adran Bro Taf.Dawns Werin Bl 6 ac iau(Ysg. hyd 100/Adran hyd 50): 3ydd, Adran Bro Taf.Unawd allan o Sioe Gerddorol Bl 10­13:3ydd, Jay Worley, Ysgol GyfunRhydfelen.Unawd Piano Bl 7­ 9: 1af, Ifan Jenkin,Ysgol Gyfun LlanhariCyflwyniad Dramatig Bl 7, 8 a 9:1af, Ysgol Gyfun Rhydfelen.Cyflwyniad Dramatig Bl 10 – 13:1af, Ysgol Gyfun RhydfelenDawns Werin Unigol i Fechgyn Bl 9 aciau: 2il, Trystan Gruffydd, YsgolGymraeg Garth Olwg.Grwp Llefaru Bl 10 – 13:3ydd, Ysgol Gyfun RhydfelenPrintiau Du a Gwyn Bl. 5 a 6: 1af, IfanGriffiths, Ysgol Gynradd DolauArgraffu Bl. 7 ac 8: 1af, Morgan Lovet,Ysgol Gyfun Llanhari.Serameg / Crochenwaith Bl. 5 a 6: 3ydd,Betsan Jenkins, Ysgol GynraddGwaelod Y Garth3D Tecstilau Bl. 2 ac iau: 2il, FfinliBarber, Ysgol Gynradd Creigiautrwy gydol y flwyddyn. Maen nhw’ncwrdd ym maes parcio CanolfanHamdden Llantrisant (fel arfer) am9.30am ar foreau Sul ac am 7pm arnosweithiau Iau. Ymhlith y teithiaunesaf y mae:Fan Fawr – Dydd Sul, 20 <strong>Gorffennaf</strong>Tonyrefail – Nos Iau, 31 <strong>Gorffennaf</strong>(cwrdd ym maes parcio Somerfield)Pen­pych – Nos Iau, 14 <strong>Gorffennaf</strong>(cwrdd yng Nghraig­y­nos)Canolfan Mileniwm Trelewis – DyddSul, 24 AwstOs am raglen lawn neu unrhywwybodaeth bellach, gellir cysylltu âWalter Jones ar 01443 670212.9


www.mentercaerdydd.org029 20565658Cynlluniau Gofal Haf 2008Fe fydd trefn y Cynlluniau ychydig ynwahanol dros yr haf eleni. Fe fydd safleYsgol y Berllan Deg ar agor ambythefnos yn unig o Ddydd Llun,<strong>Gorffennaf</strong> 21 – Awst 1, tra bydd safleYsgol Melin Gruffydd ar agor am fiscyfan o Ddydd Llun, <strong>Gorffennaf</strong> 21 iDdydd Gwener, Awst 15. Yn anffodus,oherwydd gwaith adeiladau a chynnal achadw, nid yw safle Ysgol Treganna argael eleni. Fe fydd y cynllun ym MhwllCoch ar agor o Ddydd Llun, <strong>Gorffennaf</strong>21 i Ddydd Gwener, Awst 15. Amffurflen gofrestru, cysylltwch âgwyneth@mentercaerdydd.org/ 029 2056 56 58Ffwrnais Awen yn cyflwyno ANNIEDydd Mawrth, <strong>Gorffennaf</strong> 22Stiwdio Weston, Canolfan MileniwmCymru 1pm a 7pm. Tocynnau: £5 yr un.Ar gael o swyddfa docynnau Canolfany Mileniwm: 08700 40 2000Sefydlwyd Ffwrnais Awen ym misEbrill 2007 fel cwmni drama Cymraeg iblant a phobl ifanc Caerdydd mewncydweithrediad â Menter Caerdydd agUrdd Gobaith Cymru. Mae’r plant yncyfarfod yn wythnosol yng Nghanolfanyr Urdd i ganu, actio a dawnsio.‘Annie’ fydd ein cynhyrchiad cyntaf.Eisteddfod Genedlaethol CaerdyddBydd Menter Caerdydd ar y Maes drwygydol wythnos yr Eisteddfod. Ynogystal â’r stondin, mae’r Fenter yntrefnu nifer o weithgareddau penodol ynystod yr wythnos.* Cyngerdd Ysgolion Cynradd yn yBabell Lên – Dydd Sadwrn, Awst 2, am11.30am* Ffwrnais Awen yn perfformio Annieyn Theatr y Maes – Dydd Sadwrn, Awst2 am 3pm* Clwb Clocsio Menter Caerdydd yn yNeuadd Ddawns ac ar y LlwyfanPerfformio – Dydd Llun, Awst 4, am1pm a 4pm.* Bore Coffi Dysgwyr ym mhabell yFenter ar y maes – Dydd Mawrth, Awst5 am 11am* Lansiad Ffônlyfr 2008 ym mhabell yFenter ar y maes – Dydd Mercher, Awst6 am 12pm* Sgwrs am hanes y Gymraeg yngNghaerdydd yng nghwmni Dr JohnDavies ym mhabell y Fenter ar y Maes –Dydd Gwener, Awst 8 am 2pm.Daeth dros 50 o ddysgwyr i’r Bore CoffiTafwyl yn y Mochyn Du i wrando ar sgwrsgyda Siw Huws ac Angharad MairCornelyPlantPont y glawDyma bont y glaw ac mae hi‛n bwrwhaul. Sawl lliw sydd yna a beth yweu henwau?Lliwiwch y llun hwn o‛r iâr a‛i chywionSawl llygoden sy‛n cuddio fan hyn?10


Ysgol GynraddGymraegEvan JamesLlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Meinir Morris arenedigaeth bachgen. Croeso i Taliesin,brawd bach i Monty a Matea.Ffarwelio‘Rydym fel ysgol yn dymuno’n dda iddau aelod o staff sef Mrs. Bethan Cafferya Mr. Meilir Tomos fydd yn gadaelar ddiwedd tymor yr haf. Diolch i’rddau am eu gwaith caled yn yr ysgol aphob hwyl i Mr. Tomos yn ei swyddnewydd yn Ysgol Gymraeg Penygarth.Yr UrddCafwyd gwasanaeth hyfryd gan ddosbarth6 yn son am neges ‘Ewyllys Da’Yr Urdd; wedyn cafodd holl ddisgyblionyr ysgol gyfle i ymuno i ganu ‘GwresDy Galon’ – cân gafodd ei chyfansoddi’narbennig gan Caryl Parry Jones ­ aryr un adeg a phlant eraill ledled Cymru.Gwobr Tir na n­OgMae plant a staff yr ysgol yn falch olongyfarch y dirprwy bennaeth Mr.Nicholas Daniels ar ennill Gwobr Tir nan­Og am ysgrifennu ‘Y Llyfr Ryseitiau :Gwaed Y Tylwyth’ yn y categori cynradd.Cyflwynwyd y wobr iddo ar lwyfanEisteddfod Yr Urdd yn Llandudno.Bu grŵp o blant o’r ysgol yn brysur yndarllen y llyfr ar gyfer cwis llyfrau ac’roeddent wrth eu boddau pan ddaethMr. Daniels i esbonio sut ’roedd llyfrryseitiau ei fam­gu wedi’i ysbrydoli.Dosbarth 1 a 2Mae’r dosbarthiadau meithrin wedidechrau gwersi ioga ac wedi bod ynysgrifennu at ferch sy’n byw yn Yr Indiao’r enw Dhivya. Oherwydd y cysylltiadgyda’r wlad mae’r plant wedi blasubwydydd Indiaidd ac wedi gwisgo dillado’r India.Gweithdy CelfCafodd dosbarthiadau 7 i 13 wledd yngngweithdy celf Roy Guy yn yr Amgueddfaym Mhontypridd. Cafodd yplant gyfle i feddwl am syniadaunewydd wrth ddefnyddio paent, past aphapur ail­gylchu.Dosbarth 5 a 6’Roedd dosbarthiadau 5 a 6 yn llawncyffro wrth wisgo fel plant o oes Fictoriaam ddiwrnod cyfan. Newidiodd yplant eu henwau, eistedd mewn rhesi achwarae gyda theganau o’r cyfnod.12Diolch i fam­gu Megan Taylor ddaeth iYsgol Gymraeg CastellauGwersi Ffrangeg.Diolch yn fawr i Mrs. Lyn West amgyflwyno ychydig o Ffrangeg i ddisgyblionBlwyddyn 6 cyn iddynt fynd iYsgol Gyfun Gartholwg ym Mis Medi.Maent wedi mwynhau pob munud acmaant yn edrych ymlaen at ddysgu mwyo eirfa. Merci beaucoup !Ymweliadau.Cafwyd mis prysur iawn yn yr ysgolwrth i ddisgyblion yr ysgol mynychutripiau di­ri. Aeth plant blwyddyn 1 ardaith i barc Bryngarw ger Pen–y­bontar Ogwr. Roedd y tywydd yn fendigedigwrth i’r plant arsylwi ar goed aphlanhigion y parc.Braf hefyd oedd y tywydd pan aethplant blwyddyn 2 a 3 ar daith i ogofau‘Dan yr Ogof’. Cafwyd hwyl wrth gerddeddrwy’r ogofau a syllu ar eu prydferthwch.drefnu blodau gyda phlant y dosbarth allongyfarchiadau i Megan a’i brawdTomos am fod ymhlith y tri theulu arddeg olaf fydd yn cael eu dewis ar gyfery gyfres deledu “ Coal House”.“Drum Crazy”Mwynhaodd plant dosbarthiadau 3 i 15y profiad o weithio gyda drymiau o bobmath. Cawson nhw’r cyfle i arbrofi gydachadw curiad cyson a gweithio gyda daurythm ar yr un pryd.MabolgampauEleni buom yn ffodus gyda’r tywyddbraf ar gyfer diwrnod y Mabolgampauym Mharc Ynysangharad. Diolch i bobaelod o staff gyfrannodd at lwyddiant ydiwrnod a llongyfarchiadau i dîm buddugolElái.Ciciau o’r smotyn noddedigCafodd holl ddisgyblion yr ysgol gyfle igymryd ciciau o’r smotyn ar yr iard ermwyn codi arian i’r ysgol. Diolch iglwb pêl­droed Caerdydd am helpu idrefnu’r digwyddiad.Y Llyfr RyseitiauFe gewch chi eich siomi’n fawr osydych yn disgwyl dod o hyd i ryseitiaublasus am darten afalau neu gacenffrwythau wrth ddarllen Y LlyfrRyseitiau! Nofel gyffrous ydy hi wedi eilleoli yng Nghymru yn dilyn hynt ahelynt trindod y tylwyth, y tri dewisol,yn ceisio osgoi cael eu dinistrio gan euprifathrawes erchyll Miss Smith, aelod ogynulliad y cenhadon! Diddorol oeddholi yr awdur, Mr Nicholas Daniels, eindirprwy brifathro!Dafydd Prys RobertsGerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.Aeth aelodau’r clwb garddio gyda Mrs.Siân Lloyd a Mrs. Carol Minton am ydiwrnod i’r gerddi botaneg ynLlanarthne i blannu hadau llysiau mewnrhandir arbennig ar gyfer ysgolion.Byddant yn ail ymweld â’r gerddi ymmis Medi er mwyn gweld ffrwyth eullafur.Gwasanaethau.Diolch yn fawr i Mrs. Gwen Emyr unwaitheto am baratoi 2 wasanaeth hyfrydar ein cyfer. Mae’r plant wrth eu boddyn gwrando ar ei negeseuon.YmweliadauCafwyd amser hwyliog iawn pan aethdisgyblion Blwyddyn 3 a 4 ar ymweliadâ’r ‘Big Pit’, ac yna i Jump yngNghaerdydd. Bu plant y dosbarthMeithrin / Derbyn yn ffodus iawn unwaitheto gyda’r tywydd wrth iddyntymweld â Sain Ffagan.Hefyd bydd 2 ymweliad arall yn ystody mis sef taith blwyddyn 6 i Gaerdyddi’r Theatr Newydd i weld sioeac yna i fowlio deg a thaith plant bach yFeithrin â Chefn Mably hefyd yngNghaerdydd.‘Great School Run’Braf oedd gweld plant yr adran iau arhai o’r athrawon yn rhedeg o amgylchy cae yn ystod y mis. Diolch i Mrs.Griffiths am drefnu’r ras.Ffarwelio.Byddwn yn ffarwelio â Mr Daniel Jonesun o gynorthwywyr yr ysgol ar ddiweddy tymor. Ar ôl cwblhau gradd Seicolegym Mhrifysgol Caerdydd bydd Danielyn dechrau ar gwrs dysgu yn Uwic ymmis Medi. Diolchwn iddo am ei gyfraniadyn ystod y flwyddyn.Mabolgampau.Byddwn yn cynnal ein mabolgampau arDdydd Llun, Mehefin 30 ar gae'r ysgolos yw’n sych neu os yw’r tywydd ynanffafriol yna awn i’r neuadd chwaraeonyn Ysgol Gyfun Bryncelynnog.Cyngherddau.Mae plant yr ysgol yn brysur yn ymarferar gyfer ein cyngherddau haf ar brynhawndydd Mercher <strong>Gorffennaf</strong> 9 aDydd Iau, <strong>Gorffennaf</strong> 10 am 1.45yp.Gweithgareddau’r Gymdeithas Rienia Ffrindiau.Ffair haf – <strong>Gorffennaf</strong> 4 3.30­6.30.Arwerthiant cist car <strong>Gorffennaf</strong> 13 –2­5. Dymunwn wyliau hapus i bawb.


Ysgol GynraddDolauYSGOL GYFUNRHYDFELENwww.rhydfelen.org.uk16Enillydd Eisteddfod yr UrddLlongyfarchiadau i Ifan Griffiths amennill y wobr gyntaf yn Eisteddfod yrUr dd el en i . En i ll odd Ifa n ygystadleuaeth ffotograffiaeth am eigyfres o bedwar ffotograff ar y themagarddio. Da iawn, Ifan.Adeilad NewyddMae adeilad newydd Dolau ar waith!Mae’r gweithwyr a’r peiriannau i mewnyn brysur yn clirio’r cae a pharatoi’r tir.Amser cyffrous i bawb!Gwobr Pobl IfancLlongyfarchiadau i Rosie Evans amennill gwobr ‘Inspirational YoungPerson of the Year’. Cymdeithas y‘Young Carers’ wnaeth enwebu Rosie argyfer y wobr yma sy’n cael ei noddi gany cwmni ‘Legal & General’. CafoddRosie ei gwobr yng nghlwm a chwmniradio Red Dragon ar noson wobrwyoarbennig. Da iawn Rosie ­ enillydd drosGymru gyfan ­ ysbrydoliaeth i ni gyd!Jay Worley Cyflwyniad Dramatig Blynyddoedd 10­13Eisteddfod Yr Urdd Sir Conwy 2008Llongyfarchiadau mawr i bawb a fu’ncystadlu yn Eisteddfod yr Urdd SirConwy 2008. Aeth dros 100 oddisgyblion i fyny i’r Gogledd ac arosyng Nghanolfan Conwy wrth ymyl yFenai. Bu’r cystadlu’n frwd a’rsafonau’n gyson uchel. Enillodd yrysgol ddwy wobr gyn ta f amGyflwyniadau Dramatig Blynyddoedd7­9 a Blynyddoedd 10­13 yn ogystal â’rdrydedd wobr am y Parti LlefaruBlynyddoedd 10­13.Llwyddodd Jay Worley o Flwyddyn10 gipio’r trydydd safle am yr UnawdAllan o Sioe Gerdd Blynyddoedd 10­13.Roedd y disgyblion wedi mwynhau acwedi cynrychioli’r ysgol yn wych.Diolch i’r athrawon a’r rhieni am eichcefnogaeth!Dathlu 96 mlynedd yn y proffesiwn!!Ar ddiwedd y tymor hwn byddwn ynffarwelio gyda thri aelod o staff syddwedi bod yn yr ysgol am gyfanswm o96 o flynyddoedd rhyngddynt ! MaeDr Phil Ellis, Dirprwy’r ysgol a MrGerwyn Caffery, Pennaeth Blwyddyn,yn ymddeol. Mae Dr Ellis wedi bod ynaelod o staff yr ysgol ers 35 mlynedd acyn Ddirprwy am 16 mlynedd, tra bodMr Caffery yn gyn­ddisgybl yr ysgol acwedi bod yn athro yn yr ysgol am 36blynedd. Mae Mr Peter Davies,Arweinydd Drama a Chyfryngau yrysgol yn dychwelyd i’w wreiddiau yngNol i’r 70auMwynheuodd blwyddyn 3 a 4brofiad gwych o gael parti felyr oedd nol yn y 70au.Gwisgodd y plant i fyny igael parti i ddathlu diwedd euhastudiaethau o’r thema.Mwynheuon nhw’r bwyd a’rgemau, gan rannu eugwybodaeth o gerddoriaeth ag wi sg oedd y c yfn odpoblogaidd.Ngogledd Cymru gyda’i deulu ac wedicymryd swydd fel Arweinydd Drama ynYsgol Morgan Llwyd.Diolchwn i’r tri ohonynt am eucyfraniad amhrisiadwy i holl fywyd agwaith ein hysgol. Maent wedic yf o e t h og i p r ofi a d a d d ys g olcenedlaethau o blant a phobl ifanc drwyeu hymroddiad diflino i sicrhau addysgo’r radd flaenaf ynghyd â’r profiadauehangaf i bob unigolyn dyfu mewnhyder, hunaniaeth a llwyddiant. Pobdymuniad da i’r tri ohonynt!Dr Phil EllisMr Gerwyn CafferyMr Peter Davies

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!