10.07.2015 Views

Y Tincer 309 Mai 08 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 309 Mai 08 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 309 Mai 08 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Y TINCERPRIS40cRhif 309Mai2008P A P U R B R O G E N A U ’ R - G L Y N , M E L I N D W R , T I R Y M Y N A C H , T R E F E U R I G A ’ R B O R T HEtholiadauEnnill SeddauOs ydi rhai yn cwyno fodgwleidyddiaeth yn colli ei sbarc, fefyddai trip i fro’r Tincer ar ddiwrnod yretholiadau lleol wedi bod yn agoriadllygad! Ceir canlyniad clos ym Melindwra newyddion syfrdanol o Dirymynach,ble collodd Penri James ei sedd i’rrhyddfrydwr, Paul Hinge.Fe gipiwyd y sedd o drwch blewyn,gyda Mr Hinge yn ennill 434 o bleidleisiaui 420 y deiliad, gan wrthdroi mwyafrifo dros 40%. Nid dymchwel cefnogaethPlaid Cymru oedd yn gyfrifol, foddbynnag, gan fod cyfanswm pleidleisiauMr James dim ond 45 yn is nag yn 2004– ymddengys mai prif lwyddiant yrhyddfrydwyr oedd denu pleidleiswyrnewydd, a gwella’n aruthrol ar gyfanswm2004 o 185 o bleidleisiau. Adlewyrchirhyn gan gyfran poblogaeth yr ardal a aethi’r blwch pleidleisio ar y cyntaf o Fai, agododd o 44% yn 2004 i 58% y tro hwn.Roedd yna newyddion gwell iBlaid Cymru yn etholaeth Melindwr,lle trodd y pendil yn ôl o gyfeiriad yRhyddfrydwyr. Yno fe gollodd FredWilliams ei fwyafrif o 20% i’r ymgeisyddRhodri Davies. Yn y pendraw, roeddei 489 pleidlais yn ddigonol i faeddu432 y deiliad, a gollodd dros gant obleidleisiau ers etholiad 2004, gydachanran pleidleisio’r etholaeth o 58% yrunion gyfanswm a’r etholiad diwethaf.Fe gafwyd llwyddiant ysgubol i DaiSuter yn Nhrefeurig, lle adeiladoddcynghorydd Plaid Cymru ar ei fwyafrifgan ennill 461 o bleidleisiau - dros 350yn fwy na’i wrthwynebwr agosaf. Yny Borth fe fu’r annibynnwr Ray Quantunwaith eto’n llwyddiannus, gyda’igyfanswm o 436 o bleidleisiau ychydigyn is nag yn 2004.Dim ond yn ward Pen-llwyn y cafwydetholiad ar gyfer y Cyngor Cymuned ytro hwn, gyda Gareth Daniel, RichardEdwards, Arnold Selwyn Lloyd Evans,Wynne Jones, ac Aled G. Lewis yn cael euhethol yn llwyddiannus. Mae’r Tincer yndymuno’n dda i bob un o’r cynghorwyr,hen a newydd, dros y misoedd a’rblynyddoedd i ddod. HLlW(Gwelir canlyniadau’r etholiadau ynllawn ar dudalen 9)Paul HingeEnnillCadairRhodri DaviesRocet Arwel Jones,Aberystwyth, PennaethDatblygiadau Digidol yny Llyfrgell Genedlaetholenillodd gadairEisteddfod Penrhyn-cocheleni. Wythnos ynghyntroedd yn rhedeg ymmarathon Llundain – panorffennodd mewn 4:36:46– a chodi arian i’r elusenMIND. Cyflwynodd wobrariannol y Steddfod i’relusen a llwyddodd hydyn hyn i godi £4063.20– aeth £1823 i Lundainac mae’r gweddill yncael eu cyflwyno i MINDAberystwyth. Mae’rcyfri ar agor tan y 9fedo Fehefin (Arwel Jones(Mind) d/o Y LlyfrgellGenedlaethol.(Gwelir cerdd Arwel ardudalen 11 a hanes yrEisteddfod ar dudalennau10-11)

Y TINCER MAI 2008MarwolaethBu farw’n sydyn Mr Peter Glover,Sea Cliff, Y Graig, nos Iau, 17Ebrill, yn 68 oed.Dewi, sef Grãp Rhieni a Phlantsy’n cyfarfod yn wythnosol yn yNeuadd.Sefydliad y MerchedY BORTHYr oedd gan Peter gylch eango ffrindiau yn Y Borth ac fefyddai’n mwynhau eu cwmni ynenwedig yng ngweithgareddauClwb yr Henoed ac yn y ClwbCroeso, lle ‘roedd yn Gadeiryddy Clwb. Cofir amdano feldyn haelionus, diffuant adiwylliedig. ’Roedd ganddorychwant eang o ddiddordebaugan gynnwys archaeoleg, haneslleol, athroniaeth a chrefftau.Ers blynddoedd fe fu arweinyddgrwp mosaig sydd wedi cyfrannuat addurno morglawdd a gorsafreilffordd Y Borth.Cynhaliwyd yr angladd ynAmlosgfa Aberystwyth ddyddMawrth, 29 Ebrill. Talwydteyrnged i Peter gan Pod Clare,Ray Quant, Diane Richards aGeorge Romary.Boreau CoffiBu dau Fore Coffi yn ystod y mis.Trefnwyd y naill gan MargaretGriffiths yn Nhafarn Ceffyl YMôr, ddydd Gwener, 25 Ebrill,pan godwyd dros £250 er buddTñ Hafan, Hosbis i Blant.Digwyddodd y llall yn NeuaddGymunedol Y Borth ddyddSadwrn, 26 Ebrill, at achos PlantDydd Mercher, 16 Ebrill,mwynhaodd SYM Y Borthbrynhawn braf o wanwyn yngnghartref “Wyau Birchgrove”rhwng Trawsgoed a Llanilar.Ymwelodd y grãp â’rystafelloedd lle caiff yr wyaueu pwyso a’u pacio, ac feedmygwyd y 3000 o ieir oedd ynysgythru o gwmpas yn hapusyn yr awyr agored neu’n llowciobwyd yn eu sied enfawr. Diolchyn fawr i Tony a Gwen Burgessam eu croeso, eu coffi a’u teisenflasus ac am eu rhoddion o wyau.Ymwelodd Freda Darby,Susan James a Jo Jones a CholegDenman yn ystod penwythnosolaf mis Ebrill a mwynhaugwibdaith i Waddesdon Manorfel rhan o’u cwrs yno.Cymorth CristionogolCynhelir Gwasanaeth CydenwadolDwyieithog yng Nghapel y Gerlannos Sul, Mehefin 1af, am 6:30o’r gloch, pryd yr anerchir gan yParchedig Wyn Morris.Bore Coffi a Stondinau er buddyr uchod ym Mwyty Ceffyl y Môrfore Sadwrn 7ed Mehefin o 10:00i 12:00 o’r gloch.COFIWCH Y DYDDIADAU.CROESO CYNNES I’R DDAUACHLYSUR.CyngerddCynhaliwyd cyngerdd ynNeuadd Gymunedol Y Borth,nos Sadwrn, 26 Ebrill, erbudd Cyngor Henoed Cymru.Ymhlith y rhai oedd yn cymrydrhan roedd Dawnswyr DisgoYsgol Rhydypennau, MichaelJames (adroddiad ac unawdwrth y piano), Philip Edwards,Sophie Rudge a Sam Ebenezer(cantorion), myfyrwyr o AdranDdrama Prifysgol Aberystwyth,a Chôr Staff Cartref Tregerddan.Roedd te a bisgedi ar gael ynystod yr egwyl.Diolchir i’r perfformwyr, i MrMark Williams AS a weinyddoddfel Meistr y Seremoniau, ac ynarbennig i Mrs Rosa Davies adrefnodd y cyfan.Rhys HeddClwb yr HenoedBraidd yn hwyr roedd Te-parti’rPasg yng Nghlwb yr Henoedeleni, ond ddydd Iau, 10 Ebrill,yn Neuadd Gymunedol yBorth, fe fwynhaodd yr aelodauwledd dymhorol wedi’i darparugan aelodau o’r pwyllgor.Cyflwynwyd cwis gan yCadeirydd, Betty Horton, o danenw “Y Cwis Mawr Cymreig”.Gweddol anodd oedd e hefyd!Pwy a fyddai wedi meddwl maiCymro (Robert Recorde 1510-1558) ddyfeisiodd yr hafalnod?Plant Chernobyl oedd pwncanerchiad Mrs Sue Williams yny Neuadd Gymunedol ddyddIau, 24 Ebrill. Dangosoddsleidiau ynglñn â’i hymweliadâ Belarus, a ddioddefodd rai oeffeithiau gwaethaf y ffrwydradniwclear yn Chernobyl drosugain mlynedd yn ôl. Aethpwyda dillad, teganau a chyfarparaddysgol i’r plant anabl yngnghartrefi Plant Amddifaid yno.Ers blynyddoedd, erbyn hyn,mae pobl haelionus Aberystwytha´r ardal wedi´i gwneud ynbosibl i lawer o´r plant dreuliogwyliau haf yn Aberystwyth,ond bellach y maent yn apelio amwirfoddolwyr eraill i fynd ymlaengyda´r prosiect gwerth chweilhwn. Diolchwyd i’r siaradwraiggan Betty Horton.Rhys Hedd a Mared Emyr.Llongyfarchiadau i Rhys aMared, 5 Ffordd Clarach, ar eullwyddiannau diweddar. Bu’rddau yn cystadlu yn EisteddfodPenrhyn-coch a llwyddodd yddau i ennill nifer o wobrau. Ynogystal derbyniodd Rhys y frainto ganu Cân y Cadeirio am y trocyntaf a bu Mared yn cyfeilioar y delyn i’r osgordd gyrchu’rbardd buddugol i’r llwyfan etoeleni.Mae Rhys yn aelod o Gôrac Ensemble Ger y Lli, danArweiniad Greg Roberts, ynghydâ Chôr Bechgyn a Chôr CymysgYsgol Penweddig. Yn ystodEisteddfod Genedlaethol yr Urddbydd yn cystadlu gyda’r pedwargrãp. Pob dymuniad da iddo ynyr Eisteddfod.Hefyd, cafodd wybod ynddiweddar ei fod wedi eidderbyn (ar ôl gwrandawiad) iadran y Baswyr yng Nghôr y TairSir (Ceredigion, Penfro a Sir Gâr)dan arweiniad y CyfarwyddwrCerdd Mr Emyr Wynne Jones.Bydd yn awr yn mynychu cwrspreswyl rhwng y 5-9 o Orffennafyn Llanymddyfri, a chynhelir ycyngerdd ar ddiwedd y cwrs yn yNeuadd Fawr, Aberystwyth – bley byddwn yn siãr o gael gwledd.Pob dymuniad da iddo.

Y TINCER MAI 2008Blodau i bob achlysurBlodau’r BedolPriodasau . Pen blwydd .Genedigaeth . Angladdau .Blodau i Eglwysi aChapeli neu unrhyw achlysurDonald MorganHen Efail, Llanrhystud SY23 5ABFfôn 01974 202233Danfon am ddim o fewn dalgylch y TincerCIGYDDBOW STREETEich cigydd lleolPen-y-garnFfôn 828 447Llun: 9-4.30Maw-Sad 8.00-5.30Gwerthir ein cynnyrch mewnrhai siopau lleolTreftadaeth LlandreFe ddaeth Gerald Morgan, yrhanesydd lleol, i’n hannerch ar ytestun ‘Pobl Llanfihangel Genau’rglynyn yr 17eg Ganrif’. Er bod ywybodaeth ffeithiol am yr adegyma - 400 cant o flynyddoedd ynôl yn brin, cawsom stori ddiddorola seliwyd ar ewyllysiau.Yn arferol ffynhonnell bwysigarall o wybodaeth am y cyfnodyma yw gweithrediadau Llys ySesiwn Fawr yng Nghymru ondeto prin iawn yw’r defnydd. Rhaidbod pobl Genau’r-glyn erioed ynparchu’r gyfraith.Ychydig iawn o bobol oeddyn medru ysgrifennu a deallSaesneg a’r un wrth law oedd yPerson lleol. Nid rhyfedd felly fodpump o ewyllysiau a roddwyd felenghreifftiau yn deillio o’r maesyma. I bobol anllythrennol rhaidoedd cael trafodaeth gyda’r Personac yntau yn mynd ymlaen acysgrifennu’r ewyllys.Ar ôl y rhagarweiniad arferolfe fyddai’r ewyllys yn rhestrueiddo parhaol ac yna rhestr o’reiddo symudol a chyfeiriadausut i’w dosbarth. Prisiwyd yreiddo symudol ar raddfa safonol- buwch £1, dafad dau swllt, oenswllt ac yna celfi tŷ.Yr ewyllys gyntaf a drafodwydoedd un Morgan ap Howell, Ficery plwyf a fu farw ym 1563 yngadael ugain swllt i’r tlodion, 55 oddefaid ond dim rhestr o eiddo argael, ond yn ddyledus am 42 pwyso gaws. Ficer Thomas Gwyn a fufarw ym 1590 yn gadael £60 i’wfrawd, ac yna i’w weddw, ac i’wfab anghyfreithlon.Rhestr eiddo Evan Clayton(1661) gof o’r plwyf oedd buwch£1, £24 o ddefaid £2, offergweithdy £1, pres a piwtar £1.1.6c,gwely 15 swllt, casgen gwrw 5s acoffor 7s 8c, yn gwneud cyfanswmo £6. 11.2c.Ar y llaw arall masnachwrariannog o Glan Lerry yn gadaelswm o 288 punt mewn arian paroda thyddynnod yn yr Amwythig aChaer. Wrth ddarllen y dogfennaumae’n bosib cael cipolwg ar raiagweddau o fywyd yn y dyddiaucynt. Er bod enwau rhai o’rdeiliadau wedi llwyr ddiflannuerys rhai hyd y dyddiau yma.Yn ein cyfarfod nesaf ar y 29ainLLANDRERhai aelodau o ganghenau lleol o Ferched y Wawr yng nghinio’r De yn ddiweddar.o Fai fe fydd Vernon Jones yntrafod – “Llenyddiaeth CerrigBeddau” yn Ysgoldy Bethlehemam 7.30.Merched y WawrNos Lun, Ebrill 21ain bu’r aelodauar ymweliad a chartref newyddy Bad Achub yn y Borth. Mae’radeilad ysblennydd wedi ei daluamdano gan wirfoddolwyr. Ynoi’n croesawu roedd Mrs MargaretGriffiths, Mrs Elizabeth Evans aMrs Brenda Davies. RhoddoddMargaret fraslun o hanes y badachub ac arweiniwyd yr aelodau ogwmpas gyda Mrs Mair Englandyn edrych yn hardd iawn yn eigwisg achub! Cafwyd panedo de a bisgedi blasus tra bu’rLlywydd yn talu’r diolchiadauac yn llongyfarch Llinos ar ddodyn nain i Macsen. Roedd yn flingan yr aelodau glywed fod Bill- gãr Buddug a thad Gwenowedi ei gymryd i’r ysbyty yngynharach y diwrnod hwnnw.Hefyd dymunwyd gwellhad buani Megan. Cynhelir y cyfarfodblynyddol y tro nesaf ar Fai 19eg.GenedigaethLlongyfarchiadau i Glyn aMargaret Williams, Bryngolau, arddod yn hen dad-cu a hen fam-guam yr ail dro. Ganwyd merch fach- Ffion Elinor, - i Elain a Tomi yngNghroesoswallt.Gwellhad buanDymunwn wellhad buan i BillThomas, Troed y Bryn sydd wedibod yn Ysbyty Bron-glais, acerbyn hyn yn Ysbyty Tregaron. Eincofion cynnes ato.Merched yn mwynhau!Daeth dros 600 o aelodau Merchedy Wawr a Chlybiau Gwawr ynghydi ddau ginio Llywydd CenedlaetholMerched y Wawr, Mary Price ynddiweddar.Cynhaliwyd y digwyddiadyn y de ar Ebrill y 5ed yn TheatrHalliwell Coleg y Drindodac roedd y diwrnod yn unllwyddiannus iawn ac yn gyflei bawb ddod at eu gilydd iddathlu eu Cymreictod ac hefyd ianrhydeddu’r llywydd. Dyma raio aelodau canghenau’r ardal fuyno.DyweddïadLlongyfarchiadau i Joe Hill aSandy Stewart ar eu dyweddïadyn ddiweddar.CydymdeimloCydymdeimlwn â MargaretThomas, Sãn y Nant, ar gollicefnder yn Aberystwyth.

Y TINCER MAI 2008 BOW STREETSuliau MehefinY Garn10 a 5www.capelygarn.org1 J.R. Jenkins Bugail8 Alwyn Roberts15 Bugail22 Huw Roderick J.T. Williams29 R.W. JonesNoddfa1 10.00 Gweinidog8 2.00 Parch Terry Edwards15 10.00 Oedfa Undebol yn Y Gerlan22 5.00 Parch Roger Thomas29 10.00 Gweinidog. CymundebDiolchDymuna Rhian, Bob, Aled a Gwenan â’r teulu(Wrecsam) ddiolch i bawb am y cardiau a’rgalwadau ffôn yn mynegi cydymdeimlad ani ar golli ein tad, Lewis Evans. Bu’r cyfanyn gysur mawr i ni. Anfonwn ein cofion atbawb.CydymdeimloCydymdeimlwn â Vivian a Teresa Davies,Garn Villa ar farwolaeth perthynas i Teresa ynLlanilar - sef Gary Pugh.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau gwresog i Hywel Williams,46 Bryncastell, ond yn wreiddiol o HeolAberwennol, Y Borth, ar lwyddo yn eiarholiadau cyfrifyddiaeth, a dod yn aelodcymwys o’r Gymdeithas CyfrifyddionSiartredig Ardystiedig (ACCA).Symud ardalDymuniadau gorau i Mike Filek, Y Ffald, gerBryncastell, yn ei swydd newydd yn YsbytyGobowen. Yn wreiddiol o Ganada, mae Mikewedi dysgu Cymraeg yn arbennig o dda, aLlongyfarchiadau i’r merched am nofio’n dda yn GalaNofio Brownies Ceredigion a gynhaliwyd yn Aberaeronyn ddiweddar. Kelly Harper (2il Rhydd a 2il Cefn), CaraLucas (4ydd Rhydd a 3ydd Broga), Lorna Harper (2 ailBroga), Ras Cyfnewid Cymysg 2 il a Ras Cyfnewid Rhydd2il.bu’n aelod ffyddlon o Gôr ABC, gan gefnogiplygain ac Eisteddfod Penrhyn-coch. Byddwnyn gweld ei eisiau’n fawr wrth iddo symudo’r ardal ond da deall y bydd yn parhau ynaelod o’r Côr.CydymdeimloCydymdeimlwn â Mr Vernon Jones, Gaerwen,ar farwolaeth Mr Tom Jones, Tregaron ar ôlcystudd blin.â Mr a Mrs Rowland Ellis Jones, 1Maesceiro, ar farwolaeth ei chwaer, sef MrsNellie Williams, Tñ Newydd, Blaenpennal.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Paul Hinge ar gaelei ethol fel Cynghorydd Sir dros ardalTirymynach.Llongyfarchiadau i Mari Wyn Lewis,Carregwen , Bow Street am ennillyr ‘Unawd o Sioe Gerdd dan 19’ ynEisteddfod y Sir yn ddiweddar.Connie Fisher o’r ‘Sound of Music(a Sir Benfro!) oedd yn beirniadu, adwedodd hi fod cystadlu yn gysonar lwyfan yr Urdd wedi rhoi llawer ohyder iddi ac wedi ei hannog i ddilyngyrfa ym myd y Celfyddydau.Mae Mari Wyn yn cystadlu mewnchwe chystadleuaeth yn Llandudnoar ddiwedd y mis, ar yr Unawd,y Ddeuawd Blwyddyn 10-13 gydaCatrin Woodruff o Ysgol Penweddig,Ensemble Lleisiol (gyda Ffion Evanso Maes Afallen, Bow Steet a GwennoHealy o Maesmeurig, Trefeurig), a hefydgyda chôr merched a chôr SATB YsgolPenweddig a Chôr Ger-y-lli.Mae hefyd wedi hyfforddi tîmdawnsio disgo Ysgol Rhydypennaugyda’i ffrind Bethan Jenkins oLangorwen ac maent hwy hefyd wedicyrraedd Bae Penrhyn.Felly pob lwc i Mari Wyn, tîmdawnsio disgo Rhydypennau a phawbarall sy’n cystadlu ar ddiwedd y mis.Llongyfarchiadau i beldroedwyr ardal y Tincer ar ennillCystadleuaeth Cynghreiriau Canolbarth Cymru ynddiweddar a diolch i’r Hyfforddwyr Rhys Lewis a RichardLucas.

Y TINCER MAI 2008HorebSuliau Mehefin1 2.30 Oedfa gymun a neilltuodiaconiaid newyddGweinidog8 10.30 Oedfa deuluolGweinidog15 2.30 Oedfa bregethuGweinidog22 10.30 Oedfa bregethuGweinidog29 10.30 Oedfa bregethuGweinidogCydymdeimladCydymdeimlwn â Dr RhiannonIfans, Rhandir, ar farwolaeth sydynei thad ar Ynys Môn ganol EbrillAc â John Ifor Jones a’r teulu,Maesyfelin ar farwolaeth Lil ar 13EbrillTwm Siôn Cati oBenrhyn-cochMarc Roberts o Gae Mawr,Penrhyn-coch yw Twm Siôn Cati!Mae Marc, sy’n 20 oed ,wedi eiddewis i chwarae rhan Twm ynsioe haf Cwmni Theatr Arad Goch.Mae Marc wedi actio gyda’r cwmnio’r blaen yn ogystal a chyda TheatrCenedlaethol Ieuenctid Cymrua Impact – cwmni theatr mewnaddysg a’i bencadlys yn Leeds.Bydd sioe Twm Sion Cati ynteithio ledled Cymru o Fai 21 iOrffennaf 5ed – a bydd Marc yncael y cyfle i berfformio mewntheatrau mawr fel y Riverfront yngNghasnewydd a Theatr Gwyneddyn ogystal â neuaddau cymunedol.Mae’n amlwg yn edrych ymlaenat y daith; “Rwy wrth fy modd ynperfformio ac mae cael gwneudhynny gyda chriw sy’n gymysgeddo bobl ifanc ac actorion mwyprofiadol fel Emyr Bell a Ffion WynBowen yn werthfawr dros ben; maePENRHYN-COCHhefyd yn lot o hwyl.”Bydd plant 7-11 oed nifer oysgolion y cylch yn cael cyfle i weldperfformiadau Cymraeg a Saesnegyng Nghanolfan y CelfyddydauAberystwyth, ac mae cyfle ideuluoedd hefyd weld perfformiadCymraeg o’r sioe yno ar ddydd Sul1 Mehefin am 2.30 y pnawn (rhifffôn y swyddfa docynnau 623232).A beth nesa i Marc? Wel maeMarc yn gobeithio sicrhau lle argwrs actio naill ai yng Nghaerdyddneu Llundain. Pob lwc iddo.MarwolaethAr y 10fed o Ebrill, bu farw MrsJoyce Davies, Llan-non, yn 82mlwydd oed. Merch i’r diweddarMartha ac J. D. Jones, Fferm TñMawr, Penrhyn-coch gynt. Joyceoedd yr olaf o bedwar plentyn, bufarw ei brodyr sef Elfed, Alun acEric o’i blaen. Ganwyd iddi bumpo blant: Derrick, Roy, Yvonne, Lyna Philip, mynychodd y tri phlentynhynaf ysgol Penrhyn-coch cyn i’rteulu symud i fyw i Lan-non. Bufarw Derrick ddeng mlynedd yn ôlac fe’i claddwyd ym mynwent SantIoan, ble dymunodd Joyce gael eichladdu gydag ef. Gwasanaethwydyn yr angladd gan y Parchg J.Livingstone, a’r organydd oeddEirwen Hughes.Urdd y GwrageddCynhaliwyd cyfarfod cyffredinolblynyddol Urdd y Gwragedd arddechrau mis Ebrill. Trafodwydgweithgareddau’r flwyddyn drosbaned o de. Gweithgareddaullwyddiannus fel sialens yr aelodau,cyngerdd, a nosweithiau bingo ienwi ond rhai, ac yn awr mae’ramser i drafod syniadau newydd argyfer rhaglen y flwyddyn i ddod.Ar ddydd Sadwrn 10fed o fis Mai,cynhelir trip diwrnod yr Urdd, yngngofal Mrs Dwynwen Belsey.Pen blwydd hapusLlongyfarchiadau i Idwal, BrogyninFach, ar ei ben blwydd yn 80 oed ary 15fed o Fai. Pen blwydd hapusiawn i ti. Gwen.Gwellhad buanDymunwn wellhad buan i Phillip,Bronderw, ar ôl damwain ar ei goesyn ddiweddar.CydymdeimladEstynnwn ein cydymdeimlad dwysâ Jane Jenkins, Kerry a’r teulu arDaeth 8 tîm ynghyd o wahanol fudiadau a chymdeithasau y plwyf nos WenerMai 9fed yng Nghlwb Pêl-droed Penrhyn-coch i gystadlu mewn cwis wedi eidrefnu gan Angharad Fychan. Codwyd £105 ar y noson tuag at gronfa plwyfTrefeurig i Eisteddfod yr Urdd 2010. Mae nod o £7,000 i’r plwyf a da deall fodtua £2,500 eisoes wedi ei gasglu. Cyflwynodd Ensemble Côr ABC eu gwobr ynEisteddfod Penrhyn-coch i’r gronfa.Dosbarthwyd taflen yn gwahodd rhai sydd yn byw yn y plwyf i gyfrannutuag at Eisteddfod yr Urdd 2010 Ceredigion. Mae swyddogion y pwyllgor amatgoffa y rhai sydd am gyfrannu yn y dull yma i ddychwelyd eu ffurflenni i’rcyfeiriad yn Llanuwchllyn.golli modryb yn ddiweddar, sefNans Evans, Llwynhywel, Llanilar.Merched y WawrNos Iau, 10fed o Ebrill cafwydnoson arbennig unwaith eto.Croesawodd ein Llywydd, MairEvans, bawb i’r cyfarfod. Ganei bod ag apwyntiad arall yr unnoson aeth ein Llywydd ymlaeni gyflwyno ein gãr gwadd sefSion Jones, perchennog y tñ bwyta“Blue Creek” yn Aberystwyth. Feddangosodd i ni sut i goginio rhaio’r bwydydd mae yn defnyddioyn ei dñ bwyta ac yn ddiddoroliawn dangos i ni rhai o’r offer maeyn defnyddio yn rheolaidd yn eigegin. Ar ôl iddo gwblhau gwneudy coginio fe roddodd gyfle i bawbi’w flasu. Roedd yn hyfryd drosben. Diolchwyd iddo gan SandraBeechey a dymunwyd yn dda iddoyn ei dñ bwyta.Yna aed ymlaen i wneudy busnes arferol a myndtrwy yr ohebiaeth a ddaeth ilaw. Cydymdeimlwyd â rhaioedd wedi colli anwyliaid ynddiweddar. Yna fe ddymunwydyn dda i’r merched hynny fyddyn cymryd rhan yn chwaraeonterfynol Merched y Wawr ymMachynlleth yn ystod mis Mai,ac i’r rhai fydd yn cymryd rhanyng nghystadlaethau Ffair CelfCronfa 2010a Chrefft Merched y Wawr ynAberaeron ym mis Mai.Edrychir ymlaen at y tripddirgel a’r cyfarfod blynyddol iddiweddu’r tymor.Bu swyddogion y gangen yngyfrifol am sicrhau bod yr ardalwyryn cael cyfle i gymryd rhan yngnghystadleuaeth y côr a’r partillefaru yn Eisteddfod Penrhyncoch.Diolch i’r canlynol am eucefnogaeth ac am roi o’i hamser igefnogi’r Eisteddfod leol:- Aelodau’r côr a’r parti llefaru- Alun John (Hyfforddwr acArweinydd y Côr)- Heddwen Pugh Evans(Cyfeilyddes)- Y Parchg Judith Morris(Hyfforddwraig y Parti Llefaru)- Pwyllgor Neuadd y Penrhynac Emyr Pugh Evans (Pennaethyr Ysgol)Cyflwynir y gwobrau cyntaf iWard Meurig, Ysbyty Bron-glais(gwobr cynta’r côr) ac i gronfa Brian(Yogi) Davies (gwobr y parti llefaru).CydymdeimloCydymdenimlwn â Alwen aThomas, Rhys a Tomos Fanning,69 Ger-y-llan, ar farwolaeth mamThomas yn ddiweddar.

Y TINCER MAI 2008 Suliau MehefinMadog2.001 J.R. Jenkins8 Alwyn Roberts15 Bugail22 Huw Roderick29 R.W. JonesGwellhad buanDymunwn wellahd buan i AlwenGriffiths, Lluest Fach, ar ôl derbyntriniaeth yn Ysbyty Singleton.CydymdeimladCydymdeimlwn yn fawr â MrsMyfanwy Pugh, Fron Ddewi,ar farwolaeth ei nai – Mr IeuanEvans, gynt o Lanfarian.MADOGCLARACHDiolchPen blwydd hapusDymuniadau gorau i GwladysEvans, Pen-rhiw, Bont-goch, addathlodd ben blwydd arbennigyn ddiweddarPump CenhedlaethYn y llun yma gwelir Mr a MrsJohn Griffiths, 13 Ger-y-llan,Penrhyn-coch (gynt o Langeitho),Erwyd Howells yn cynrychiolieu diweddar ferch Mari, Elen aMark, a’r hynafgwr Rhys TomGriffiths (98 oed) o Aberaeronsydd yn anwylo ei or-or-wyresSeren Skipp a gafodd ei geni ar yr28ain o Chwefror. Llun: Ian SantDymuna Tilly Davies, Sãn y Don, ddiolch i’w theulu, cymdogion affrindiau pell ac agos am y cardiau, galwadau ffôn a phresantau arachlysur ei phen blwydd yn nawdeg pedwar ar Ebrill y 29ain. Diolcho galon i bawb.Dyma far newydd Clwb Glan-y-môr, Clarach -prosiect diweddara Carwyn Lloyd Jones,Bow Street, saer coed lleol, sy’n asiedydd pensaerniol, a sydd yn gwneud grisiau acholfresi, torri a siapio pren, atgyweirio ac adnewyddu. Os byddwch yn yr ardal mae’nwerth ichi fynd i’w weld.ETHOLIADAU CYNGOR SIRA CHYMUNEDDyma ganlyniadau etholiadauCyngor Sir Ceredigion yn ardalY TincerY BORTHJames Whitlock Davies 333Raymond Paul Quant (Annibynol)43648.05%MELINDWRRhodri Davies (Plaid Cymru)489Fred Williams (Dem. RhyddfrydolCymru) 43258.14%TIRYMYNACHPaul Buckingham James Hinge(B.J.) (Dem. Rhyddfrydol Cymru)434William Penry James (PlaidCymru) 42057.83%TREFEURIGDavid (Dai) Suter (Plaid Cymru)461Martin John Squires (Dem.Rhyddfrydol Cymru) 108Kari Walker 9949.19%CYNGHORAU CYMUNEDYm MELINDWR (ward Penllwyn)yn unig oedd etholiadar gyfer Cyngor Cymuned ynardal Y Tincer; dyma’r canlyniad,lle pleidleisiwyd gan 58.14% o’retholaeth.. Roedd saith ymgeisyddyn sefyll am chwe seddMELINDWRWard Pen-llwynGareth Daniel, Glynrheidol 145EtholwydRichard Edwards, 2 Pen-llwyn 142EtholwydArnold Selwyn Lloyd Evans,Cwmwythig 110 EtholwydWynne Jones, Tan-y-gaer, C B 111EtholwydG. Gwynfor Jones, LlwyniorwerthUchaf; 83Aled G. Lewis, Ystrad. 139EtholwydNid oedd etholiad yn wardiaueraill Meindwr na Cymunedauarall yn ardal Y Tincer. Etholwyd ycanlynol yn ddiwrthwynebiad.Y BORTHAnna Cole, Ar-y-Gors, Ynys-las.Bryn Jones, Cerdd Y Don, Ffordd yFulfran.Jo Jones, RocksideFrank Arnold Hitchings, 4 HeolRhydygarregJackie Lawrence, Argoed,Ffordd yFulfranAnthony John Morris, Glaneifion,High StreetJanet Owen, Ffrancon, Cliff RoadMathew Teasdale, YHA Borth,MorlaisBilly Williams, Ty-Du FarmRita June Wyatt, NewlandsGENAU’R-GLYNSue Davies, LightwoodsDavid England, Pant-y-glynErddyn James, LluarthGwenda James, Tre-meddMoss Jones, GoleufrynThomas Meirion Lewis, Cysgod yGwynt, Dôl-y-BontDylan Raw-Rees , Cilolwg, Y BorthAled Rowlands, Clychau’r GogMELINDWRWard GoginanM. Elizabeth Bebb, Penpistyll,Cwmbrwyno; Brython Davies,Bryngwenlli, Pisgah; Dafydd TimFryer, Melindwr, Hen Goginan.Ward Llanbadarn y CreuddynUchafElizabeth M. Collison, Dolcniw,Blaengeuffordd; T. CeredigWilliams, Tynywern, Aber-ffrwdTIRYMYNACH(Bow Street oni nodir yn wahanol)Ward LlangorwenDewi Evans, 93 Bryncastell; DavidJenkin James, Gilwern, Clarach.DWY SEDD WAGWard TirymynachJohn T. Evans, 39 Maes Ceiro;Tom Hughes, Pantyperan,Llandre; E. Vernon Jones,Gaerwen, Bow Street; HeulwenMorgan, Pan-yr-haul, Dolau;Owain Elystan Morgan, AnneddDeg, Penrhiw; Harry Ll. Petche,20 Maesafallen; D. GwynantPhillips, 1 Cae’r Odyn; RowlandRees, Brysgaga.TREFEURIGEdwina Davies. Darren Villa, Penbont.Trefor Davies. Maes y Rhosyn,Pen-bontMel Evans, GwarcaeauD. Mervyn Hughes, Ger-y-llanEvan Daniel Jones, ClawddmelynTegwyn Lewis. Rhos-gochRichard Owen (Plaid Cymru), 31Glan CeulanD. Rees Morgan, 9 Maes SeiloGwenan Price, DolmaeseiloDavid Sheppard (Plaid Cymru). 1DolhelygKari Walker, Symlog House,Cwmsymlog

10 Y TINCER MAI 2008EISTEDDFOD GADEIRIOL PENRHYN-COCHLluniau: Hugh JonesRhiannon Jones, Bow Street, llywyddnos SadwrnY pump fu’n cystadlu ar y canu emyn dros 60 oed, Alun John, Tecwyn Blainey, MeirionWilliams, Bryn Roberts, Vernon Maher.Aelodau Cylch Meithrin TrefeurigUn o gorau unsain Ysgol Penrhyn-cochMeinir Davies, llywydd nos WenerCynhaliwyd yr eisteddfoddros y penwythnos 18/19ego Ebrill. Cafwyd eisteddfodlwyddiannus dros ben ac arran y pwyllgor carwn ddiolch ibawb a gyfrannodd at lwyddiantyr eisteddfod ymhob fforddeleni eto. Diolch i’r Beirniaid,Cyfeilyddion, Arweinyddion,Llywyddion, Gofalwyr y drws,Merched y gegin, y gynulleidfaac wrth gwrs y Cystadleuwyra ddaeth o bob cwr o Gymru.Hefyd diolch i bawb syddyn cyfrannu yn ariannol arhoi gwobrau yn gyson bobblwyddyn.BEIRNIAID: Nos Wener. Cerdd:Greg Roberts, Bow Street;Llefaru: Owain Phillips, Gorslas.Sadwrn. Cerdd: Eilir OwenGriffiths, Caerdydd. Llefaru: SianTeifi, Caernarfon. Llenyddiaeth:Eurig Salisbury, Aberystwyth.Cyfeilydd: Tudur Jones, FRCO,Tywyn.LLYWYDDION: MeinirDavies, Brynglas, Ponterwyd(nos Wener). Dylan Roberts, 10Garreg Wen, Bow Street (PnawnSadwrn); Rhiannon Jones, 4Garreg Wen, Bow Street (nosSadwrn)ARWEINYDDION: D. ReesMorgan, Penrhyn-coch, EmyrPugh Evans, Y Borth, Aled Llñr,Capel Dewi, Rhian Dobson,Penrhyn-coch, Alun John,Penrhyn-coch.Nos Wener – yn gyfyngedigi blant lleol: y canlynol ynllwyddiannus:Llefaru: Osian Holgarth, NoaRowlands, Arwen Exley, LlionEdwards, Rhys James, CharlotteRichmond, Sioned Exley, ElainDonnelly, Seren Jenkins, DylanEdwards, Sion Jones, MaredPugh Evans, Amber Evans,Gwenno Morris, Carys Jones.Parti Llefaru Ysgol Penrhyn-coch.Cerdd: Arwen Exley, Sion Jones,Osian Holgarth, CharlotteRalphs, Aneurin Rowlands,Charlotte Richmond, SionedExley, Phoebe Elvey, ElainDonnelly, Harry Horwood,Becky Hicks, Mared Pugh Evans,Gwenno Morris, Lowri Donnelly.Unawd Offeryn Cerdd (YG)1. Mared Pugh Evans2. Gwenno Morris3. Anwen Morris Unawd(YU)1. Rhys Hedd Pugh Evans2. Carys Jones3. Rhian Wynne a LeahAdamsParti unsain: Ysgol Penrhyn-coch(Gydradd) Offeryn Cerdd (YU)Elin WallaceSadwrn: cystadleuwyr lleolLlefaru: Catrin Angharad,Aberystwyth, Meleri Mai Pryce,Aberystwyth, Gwenno Morris,Penrhyn-coch, Elen LowriThomas, Ponterwyd, Eilir Pryce,Aberystwyth, Carys Jones,Penrhyn-coch, Elen Gwenllian,AberystwythParti llefaru (agored): Parti Mair,Penrhyn-cochCerdd: Lisa Davies, Aberystwyth,Cadi Williams, Aberystwyth,Anest Eurig, Aberystwyth, MaredPugh Evans, Y Borth, DylanEdwards, Llandre, Efa Edwards,Llandre, Gwenno Morris,Penrhyn-coch, Elen LowriThomas, Ponterwyd, Rhys HeddPugh Evans, Y Borth, RhodriEvans, Bow Street, Leah Adams,Penrhyn-coch, Bryn Roberts, BowStreet, Marianne Jones Powell,Llandre.CÔR: Côr y Penrhyn, danarweiniad Alun John.Ensemble: Parti ABCEnillwyd Tlws yr Ifanc gan CarysMai Davies, Brynsiriol, Lluest.Seremoni Tlws yr Ifanc o danofal Emyr Pugh Evans, prifathroYsgol Penrhyn-coch a phlant yrysgol yn cymryd rhan; MaredPugh Evans wrth y delyn a LydiaAdams ar y trwmped.Enillwyd y gadair gan ArwelRocet Jones, Aberystwyth.Roedd y gadair fach a’r wobryn rhoddedig gan David aJune Griffiths a’r teulu, er cofam Nansi Kenny, Aberystwyth- un a fu’n ffyddlon iawn i’reisteddfod ar hyd ei hoes.Roedd gofal seremoni y cadeirioyn nwylo D Rees Morgan.Mared Pugh Evans wrth y delyna Lydia Adams ar y trwmpeda chanwyd cân y cadeiriogan Rhys Hedd Pugh Evans.Cyrchwyd y bardd i’r llwyfangan Elsie Morgan a BethanDavies. Cyfarchwyd y barddgan Lona Jones, Heddwen PughEvans a Mairwen Jones. Morhyfryd oedd gweld cymainto’r bobl ifanc yn cymrydrhan ymhob peth ynglñn â’reisteddfod fel arfer. Diolch ynfawr iawn i bawb.

Y TINCER MAI 2008 11RhyddidByd o drefn didrafferthyn blodeuo’n braf yn ei bryd:cusan o rosyn coch ar ruddiau’r lilis gwyniona gwreiddyn o bren afal i’w hudo â gofal a gwên.Cynllunio a thacluso,casglu cyngor bach gan hwn a’r llall,tocio breuddwydion,buddsoddi gobaith mewn blagura disgwyl medi.Prynu teulu parod:cadw ci, cynnal cath, mwytho’r lawnt,chwynnu pob amheuaeth sy’n codi’i phena gwrando grwndi’r gwenynyng nghlust y lilis gwynion.Carys Davies, Aberystwyth, enillydd Tlws yr Ifanc; Carys enillodd y tlwys y llynedd hefyd abu’n fuddugol yn ennill cadair Eisteddfod Ysgol Gyfun Penweddig eleni***Y rhosyn yn ddagrau poeth,y lilis yn gleisiau’n y glaswellta ffrwythau’r pren ’di suroa gollwng gafael ymhell cyn pryd.Mieri, marchwellt, blodau’n bla,breuddwydion wedi hedega’u gwreiddiau fel gelod yn y tir.Y croeso gynt yn faw ci a nyth catha chribin rhyw hen ymdrechyn cael ei sugno fel ango’ i’r gro.Y golwg sydd o’r golwg mewn gardd gefna chraith flêr y mynd a’r dodyn rhedeg yn goch drwy’r brwgaets.***Un o gorau unsain Ysgol Penrhyn-cochFfin. Ffens. Clwyd. Clo.Clwt clir sgwâr.Lawnt o raean mâna’r llwybr llechen, fel trac trênrhwng y car a’r drws cefn,yn mygu’r esgyrn mân a’r gwreiddiau astudsy’n cofio ochenaid yr awel,gwên yr haul a’r grwndi’n y glust;sy’n disgwyl cawod o obaitha chael siom o wenwyn wedi ei fesur yn ofalusa’i amseru i dagu’r greddfausy’n gyrru’r gwraidd i gofioam y gwendid a fu.Cyffiniau cymesur.Cerrig, concrit a dim un crac.Byd taclusheb lilis yn baeddu beunydd,heb ddilyw o ddeiliachna chusan bradwrus ’run rhosyn pigog.Byd o drefn didraffertha charreg wastad y llechen lânyn gwenu yn y glaw.Cerdd fuddugol 2007 - Arwel ‘Rocet’ JonesParti llefaru Ysgol Penrhyn-coch

12 Y TINCER MEDI 2007COLOFN MRS JONES ‘O’R CYNULLIAD’ -ELIN JONES ACBum yn y Bala dydd Ll un gãyly banc. Nid oeddwn wedi treulioamser yno ers blynyddoedd erfe arferwn adnabod y lle yn burdda. Fel y gãyr rhai ohonoch, oGlan Conwy yr hannai fy mam abyddem ninnau yn treulio bob hafyno. Rwan, mae dwy ffordd bosibl igyrraedd Glan Conwy, trwy BlaenauFfestiniog - tros y Crimea - neutrwy’r Bala. Ffafria’r rhan fwyaf obobl sy’n gwneud y siwrne i leoeddmegis Llandudno a Bae Colwyn yffordd trwy’r Blaenau, a’r Crimea,wrth gwrs yw’r enw ar Fwlch ygorddinen, y ffordd o’r Blaenau atDolwyddelan. Y gred yw bod honnoyn fyrrach ffordd ac, er fod yn rhaidi mi gydnabod hynny, fe ffafriaf iffordd y Bala am ei bod ar un cyfnodo leiaf yn well ffordd ac am ei bodhi’n bosibl aros yn y Bala am sgawt aphaned o de.A chyda llaw, os ydych chi’nffansïo trip drwy rhai o fannauharddaf a mwyaf hanesyddolCymru, awgrymaf eich bod ynmynd am Gerrigydrudion a throidros Fynydd Hiraethog i Ddinbycha Rhuthun cyn dod yn ol ar hyd yrarfordir ac i lawr trwy’r Blaenau.Fe gewch gyfle i weld rhywbethsydd yn eich hatgoffa o bob cyfnodyn hanes Cymru a golygfeydd iryfeddu atynt.Ond i ddychwelyd at y Bala. Ini Gymry Cymraeg, mae gan ylle arwyddocad arall, wrth gwrs.Dau,a bod yn fanwl. Un yw ei leyn hanes Methodistiaeth Cymrua’r llall yw mai yma y gosododdIslwyn Ffowc Elis farwolaeth yr iaithGymraeg yn Wythnos yng NghymruFydd. mae llawer ohonom, mi wn,wedi adrodd - rhai ohonom hyd atsyrffed - ddisgrifiad ias oer IslwynFfowc Elis o’r hen wraig yn bregliachyr Arglwydd yw fy mugail ynffwndrus.Ac yn y Bala y dydd o’r blaen, fewelais ddigon o arwyddion hunllefIslwyn Ffowc Elis. Ymwelwyr ynllond pob lle a dim gair o Gymraegrhyngddynt, Saeson yn berchnogionbusnesau ac o’r busnesau oeddar werth, asiantaethau o Lerpwla Manceinion yn eu gwerthu a,chyferbyn a’r Llew Gwyn, rhes ofusnesau bychain Cymraeg eu hiathyn cael eu troi’n wine bar ... diolch i’rdrefn, fe welais ddigon o arwyddionfel arall, hefyd. Arwyddiondwyieithog ymhobman a Chymryifanc yn gweini yn y gwestai a’rsiopau a’r Gymraeg yn euraidganddynt, yr argraff oedd yn fymeddwl i oedd bod y Bala ar dro ynei hanes, gyda gofal, fe all ffynnu ahynny yn Gymraeg ond fe all pethaudroi yn chwerw hefyd.Ac arweiniodd hyn oll fi i feddwlpam.Yn sicr ddigon, y mae’r traiar grefydd ac ar wasanaethaucwbl Gymraeg mewn capel aceglwys wedi bod yn andwyol. Yroedd cyfnod pan mai Cymraegoedd gwasanaethau’r eglwys yny Bala ac fe roedd Coleg y Balaa Methodistiaeth y dref yn rhoicyflogau i bobl y dref a llwyfan i’rGymraeg fel ei gilydd. Nid yw’rtrai ar amaethyddiaeth a’r cynnyddmewn swyddi twristaidd rhanamser ac isel eu cyflogau wedihelpu dim ar bethau ychwaith naanfodlonrwydd Cymry Cymraegi fentro mewn busnes. Er, mewntegwch a hwy, mae’n rhaid cofio eibod hi yn dal yn haws i Sais gaelgrant datblygu na Chymro a’r trodiwethaf i mi ddweud hynny, feroddodd y Bwrdd Datblygu rwystrcyfreithiol arnaf rhag trafod dim arei waith! Yr euog a ffy heb neb yn eierlid?Mae ateb i bob un o’r problemauhyn. Fe all llywodraeth wneud llawerwella’r sefyllfa trwy greu gwaithac amddiffyn prisiau tai yn eincymunedau Cymreiciaf ond y maellawer allwn ni ei wneud drosomein hunain, hefyd. Tristwch y sefyllfaheddiw yw gweld cenedlaetholwyrbrwd yn ymhyfrydu mewn bod ynbobl ddinesig digrefydd a llysieuol.Hynny yw, pam heidio i’r dinasoedda gadael eich cymuned eich hun ynagored i fewnfudo? Pam gweiddiam gyfle i’r Gymraeg a throi cefn ary sefydliadau hynny sy’n ceisio eugorau glas gadw’r iaith i fynd - hydyn oed os nad ydech chi’n Gristion,oni ddylai eich cenedlaetholdeb chieich anfon i gefnogi eich capel neu’cheglwys leol sy’n dal i fynnu bod ynhollol Gymraeg? Mae’n anodd areglwysi fel Elerch a Llancynfelyn ddalati yn eu Cymreictod ond Duw ynunig a ãyr faint o genedlaetholwyrsy’n gwrthod a’u cefnogi. A phwya wyr na enillent gyfle i achub euhenaid yn ogystal? A pha iws ywllysieuwr o genedlaetholwr i boblsy’n dibynnu ar fagu cig? A pha morfoesol yw gwerthu tñ dad a mamam grocbris i Saeson a dychwelydi’ch dinas ddwyieithog i weiddi ambrisiau teg i bobl leol?A ran hynny, paham naddychwelwch chi i’ch ardal enedigola chychwyn busnes?Mentro sydd ei angen arnom igyd, mentro a gwneud yr hyn syddddyletswydd arnom. Oes, maeangen protestio, ond mae protestyn fwy effeithiol lawer pan fydd yncydfynd a byw eich daliadau! A bethbynnag yw gwendidau Mrs Jones,mae hi yn ceisio ei gorau glas fyw i’wphobl ac ymarfer ei phregethau.Erbyn i chi ddarllen y golofnhon bydd holl gyffro’rymgyrchu ar gyfer etholiadauCyngor Sir Ceredigionwedi mynd a dod ac rwy’nllongyfarch ac yn edrychymlaen at gydweithio gydagein Cynghorwyr newydd ynystod y blynyddoedd nesaf.Yn ychwanegol i’r ymgyrchCyngor Sir, mae dyfodolein Swyddfeydd Post yngNgheredigion wedi parhaui hawlio fy sylw yn ystodyr wythnosau diwethaf.Rwyf wedi mynychu cyfreso gyfarfodydd cyhoeddusar hyd a lled Ceredigion iwrthwynebu cynlluniau’rPost Brenhinol i gau’rSwyddfa Bost leol, ac mae’namlwg iawn bod y trigolionlleol yn gwerthfawrogi’rgwasanaeth mae’r postfeistrilleol yn ei gynnig. Rwy’ngobeithio’n fawr fod ycynrychiolwyr o’r PostBrenhinol oedd hefyd ynbresennol yn y cyfarfodyddyma wedi talu sylw i’rteimladau cryf yma yn ygymuned leol ac fe hoffwnatgoffa trigolion Ceredigionbod ganddynt tan 19 Mai2008 i fynegi eu barn ynysgrifenedig i swyddogion yPost Brenhinol.Wrth i’r nifer oSwyddfeydd Post leihau,dim ond dros y ffôn neu ary we y gellir cael mynediadat rai gwasanaethau mewnnifer o gymunedau gwledigerbyn hyn. Mae’r ffaith nadoes gan rannau o Geredigionfodd i dderbyn cysylltiadrhyngrwyd fand-eang fellyyn fy mhoeni’n fawr. Drosy misoedd diwethaf rwyfwedi bod yn casglu manyliontrigolion Ceredigion sy’nwynebu’r drafferth ymaac fe gwrddais â DirprwyBrif Weinidog y Cynulliad,Ieuan Wyn Jones AC, ynddiweddar i drafod y mater.Roeddwn yn falch iawn iglywed bod Llywodraethy Cynulliad bellach mewntrafodaethau gyda BT achwmnïau telathrebu eraill iweld sut y gallant ddelio â’rbroblem hon sy’n effeithio arnifer o gymunedau ar drawsCeredigion.Yn olaf, roedd yn fraintfawr i gael agor bore coffiCymdeithas Clefyd Parkinsonyn Neuadd Waunfawr,Aberystwyth, yn ddiweddar.Roedd y digwyddiad yn nodiwythnos arbennig i godiymwybyddiaeth am y clefydac roedd yn gyfle i gwrdd âdioddefwyr Parkinson o’rardal leol.Elin Jones AC

Y TINCER MAI 2008 13CAPEL BANGOR / PEN-LLWYNMr Hughie Lloyd Reesgynt o Glasnant Pen-llwynHunodd Mr Hughie Reesar Ebrill 10ed yn 80 mlwyddoed, yng nghartref Blaen- nos,Llanymddyfri.Collodd ei briod hoff Iris, ddwyflynedd yn ôl, pan oeddynt illdau wedi ymgartrefu yn hapusgyda’i gilydd yng nghartrefBlaendyffryn, Llandysul,oherwydd diriwiad yn iechyd yddau.Ond, ni bu Hughie byth yr unfath wedi colli Iris, a chafodd eisymud ym mhen amser i Blaennosam ofal arbennig.Bu angladd Mr Rees ynAmlosgfa Aberystwyth ddyddIau Ebrill 17ed yng ngofalParchedig D. J. Goronwy Evans, aroddodd deyrnged haeddiannoliddo.Dyn ei filltir sgwâr oedd Hugh,meddai, a dim yn rhoi mwyo bleser iddo na dychwelyd iParcrhos, Cwm-ann, a chwrddâ ffrindiau bore oes ar sgwârLlambed.Roedd ganddo ddwy chwaerBet a Gwennie, ac aeth i ysgolCoedmor, Cwm-ann pan ynieuanc. Collodd ei fam ym 1947, abu eu chwiorydd yn ofalus iawnohono y pryd hynny.Gwnaeth ei brentisiaeth gydaChigydd , I. G. Williams Llanbed,a’i hyfforddi gan neb llai nathad y Parchg Goronwy Evans,a buont yn ffrindiau mynwesolbyth ers hynny.Collodd Hughie ei dad etoym 1967, ond trodd ei wynebtua ardal Aberystwyth, ble iddogwrdd â’i wraig hyfryd Iris.Cafodd waith efo’r ComisiwnCoedwigaeth, sy’n egluro sut yradnabu ef fel “Hugh Trees”, abuont yn byw yn Glasnant, Penllwynam flynyddoedd lawer.Roedd Hughie yn hoff iawn oganu a deuai o deulu cerddorol.Pan yn ieuanc roedd capelBrondeifi pryd hynny, yn llawn ogantorion. Roedd yn hoff iawn oganeuon Dafydd Iwan.Roedd bob amser yn mynd âhiwmor a llawenydd i ble bynnagyr âi. Mae’r gair llawenydd,meddai’r Parchg Goronwy Evansyn ei ddisgrifio i’r dim.Torrwch y gair yn dri, “Llaw”-roedd Hughie yn helpu pawb,ac yn cynnig llaw i bwy bynnagoedd eisiau cymorth. Byddai arun adeg yn mynd a phlentynanabl allan ar hyd Aberystwythyn wythnosol. A phwy ondHughie a’i wraig fyddai yn agoreu tý i ddau o fechgyn digartref?a ddaethant i Aberystwyth un trogyda’r ffair. Do, bu John a Wayneyn ffodus iawn o’u lletygarwch,a da oedd eu gweled yn yrangladd.Gwên yw rhan nesaf o’r gair, agãr cysurus bob amser yn llawndigrifwch a gwên fawr ar eiãyneb oedd Hughie.Yna “dydd”- roedd yllawenydd hwn yn llanw eifywyd yn ddyddiol. “Byddwchlawen a hyfryd” oedd eiarwyddair yn siwr.Siaradai Hughie â phawb, wedigwisgo yn drwsiadus a phobblewyn yn ei le. Wedi colli ei fam,dywedir na allai Gwennie startsioei grys ddigon caled!Cefnogwyd y gwasanaeth ganamryw o ffrindiau Clwb RygbiAberystwyth, a chyflwynwydteyrnged arall iddo, ar ran yClwb, gan Dilwyn Jones, a arferaifyw, pan yn blentyn, drws nesaf,pan oedd Hughie a’i wraig ynbyw gyda George Harvey, ei dadyng nghyfraith. Garddwr oeddGeorge, a chofia iddo ei ddwrdioyn barhaus pan âi y bêl i mewni’r ardd, ac yntau yn ceisio eichael yn ôl heb ofyn caniatâd.Yr atgofion cyntaf o Hughieyn y ffenest, yn wên i gyd panfyddai hyn yn digwydd, cans fely dywedir eisioes, dyma un o’inodweddion.Cofiai Dilwyn fod gan y dynhwn amser i siarad, dyn smart,a blazer crys a thei bob amser.Ond methu deall am hir, mai i’rClwb Rygbi yr âi bob Sadwrn fely banc.Do, fe wnaeth cymaint owaith gwirfoddol i’r Clwb, o’rchwedegau hyd y nawdegau– yn tacluso a llosgi sbwrielnes bod mwg mawr yn codidros Llanbadarn yn aml iawn.Bu yn gymorth gwerthfawr i’rstiwardiaid a’r chwaraewyr,dros amser maith, a chafodd eiwobrwyo ym 1982 fel aelod oeso’r Clwb, a gwerthfawrogoddhyn yn fawr iawn.Rhaid oedd i Dilwyn yn eideyrnged i grybwyll y “ brên wêf” a gafodd Hughie i gynyrchupentwr o anifeiliaid a dynionbach concrid i’r ardd. Ondanodd credu fod chwaraewyrSir Benfro yn or gyffrous pan yncael eu hanrhegu gyda’r pethaubach concrid bondigrybwyllhyn! Mae’n siwr fod gan lawerohonoch y cofgolofnau bachrhain, o hyd yn eich gerddi.Ie gyda direidi a gwên, ydilynai Hughie hynt a helynt ychwaraewyr.I’r tîmau ieuanc yr ysgolion,roedd Iris wedi gwneud yn siwr,fod gan Hughie ddigon o bicaubach ar y maen, i’r plant ar ôl pobgêm.Fe wnaeth heb os, waith diflinoyn y Clwb Rygbi a phawb ynhapus yn ei gwmni.Coffadwriaeth da amdano felgŵr caredig, a dywed llawerheddiw, diolch am ei fywyd a’igyfeillgarwch.Estynnwn ein cydymdeimladâ’r teulu, ei ffrindiau a’rcysylltiadau oll.Neuadd y PentrefCarai Melanie Hughes (880811)a Liz Lawton (880448) eichatgoffa fod coffi cacennau achymdeithasu yn dal i ddigwyddyn y neuadd pob prynhawn Lluncyntaf y mis, ar wahân i wyliauy banc. Mae hyn wedi profiyn llwyddiant gydag unrhywelw tuag at y neuadd. Gellircymryd rhan hefyd mewn raffl athombola, felly cofiwch amdanoprynhawn Llun cyntaf y mis, anoder fod yr amser newydd o 2– 4 o’r gloch. Dewch yn llu.GenedigaethLlongyfarchiadau i Dewi a NicoleGwynne, Tynffordd Uchaf, arenedigaeth eu hail fab a anwyd22ain o Ebrill. Dymuniadaugorau i’r teulu bach.CydymdeimladCydymdeimlwn â Mr PeterHumphreys Fron, Gareth,Gerallt ac Aled, ar golli tad athad-cu annwyl, sef Mr NormanHumphreys, Waun-fawr.YsbytyWrth fynd i’r wasg, roedd MrsTREFEURIGPen blwydd hapusDymuniadau gorau i LindaGriffiths, Maesmeurig, addathlodd ben blwydd arbennigyn ddiweddar.Gwyneth Harries Cefnmelindwr,a Mrs Kath Cooper Minafon yndal yn yr ysbyty. Dymuniadaugorau i’r ddwy ohonynt.Newyddion am GynDdisgybl yr YsgolLlongyfarchiadau i Glyn Jones(Aelybryn gynt) ‘nawr o Ball &Co Caerdydd, Arolygwr AdeiladauSiartedig yng Nghaerdydd, ardderbyn gwobr Aur yn seremonigwobrwyo cenedlaethol y PostBrenhinol yn Llundain.Derbyniodd y cwmni wobrAur hefyd, am gael 98% ameu gwasanaeth bodlonrwyddCwsmeriaid y Post Brenhinol.Clod yn wir!Hefyd llongyfarchiadau iTeleri priod Glyn, sydd wedi caelswydd newydd yn SwyddogDatblygu i Fudiad YsgolionMeithrin. Mae yn gyfrifol amhelpu i ddatblygu cylchoeddMeithrin Ti a Fi, yn ardalRhondda Cynon Taf.Pob lwc i’r ddau ohonynt.PriodasDymuniadau gorau am BriodasDda i Jonathan Lewis acAngharad Rees, a fyddant erbyndyddiad cyhoeddi wedi clymu’rcwlwm serch yng nghapel Seion,ar y 10fed o Fai. Fe gewch luna rhagor o fanylion yn y rhifynnesaf.DiolchDymuna Fred Williams ddiolchi’w gefnogwyr a bleidleisioddiddo ar Fai 1af. “Mae wedi bodyn fraint ac yn anrhydedd”,meddai, “i wasanaethuCymuned Melindwr yn ystod ydair mlynedd ar ddeg ddiwethaf.“ Llawer o ddiolch. Hefyd, poblwc a dymuniadau da i RhodriDavies i’r dyfodol.TAFARN TYNLLIDIARTTy Bwyta a BarPrydau neilltuol y dyddPrydau pysgod arbennigCinio Dydd SulBwydlen lawn hanner dyddneu yn yr hwyrCROESO(mantais i archebu o flaen llaw)CAPEL BANGOR01970 880 248

14 Y TINCER MAI 2008Gogerddan yn ôl yn rhan o Brifysgol AberystwythGanol fis Ebrill unodd dau o brifsefydliadau ymchwil Cymru i greu canolfannewydd o safon ryngwladol i fynd i’r afael ârhai o’r problemau mwyaf sy’n wynebu’r bydyn yr 21fed ganrif.Roedd y Dirprwy Brif Weinidog, IeuanWyn Jones, a’r Gweinidog Plant, Addysg,Addysg Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt, ynAberystwyth dydd Iau, Ebrill 17 i gyhoeddifod y Sefydliad Ymchwil Tir Glas acAmgylchedd, IGER, yn uno i fod yn rhan oBrifysgol Aberystwyth. O ganlyniad i’r uno,bydd Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi fodsefydliad newydd o bwys yn cael ei greu ymmaes ymchwil ac addysgu.Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol,Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn uniadrhwng IGER a dwy o adrannau presennol yBrifysgol, y Sefydliad Gwyddorau Biolegola’r Sefydliad Gwyddorau Gwledig i greu’rcasgliad mwyaf o wyddonwyr a staff cefnogolyn y maes hwn yn y Deyrnas Unedig. Byddy sefydliad newydd yn chwilio am atebioncreadigol i rai o’r newidiadau mawr ynamgylchedd y byd, gan dynnu at ei gilydddîmau o wyddonwyr i greu gwaith arloesola fydd o gymorth ymarferol i ffermwyrar draws y byd. Gyda staff o fwy na 300 achyllideb o fwy na £20 miliwn y flwyddyn,bydd IBERS mewn sefyllfa ddelfrydol iymateb i’r her fyd-eang mewn meysydd feldefnydd cynaliadwy o dir, newid hinsawdd asicrwydd cyflenwadau dãr a bwyd.Yr AthroWaynePowellBydd IBERS hefyd yn cynnig cyfleoeddnewydd i fwy na 1,000 o fyfyrwyr graddac ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.Bydd y buddsoddiad cychwynnol o fwy na£50 miliwn yn arwain at adnoddau dysguac ymchwil newydd yng Ngogerddan ac argampws Pen-glais yn Aberystwyth.Staff 1958Yn Gyfarwyddwr ar y Sefydliad newyddpenodwyd yr Athro Wayne Powell,sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr aPhrifweithredwr Sefydliad CenedlaetholBotaneg Amaethyddol (NIAB) yngNghaergrawnt. Bydd yr Athro, ddaw’nwreiddiol o Abercraf ym mhen uchaf CwmTawe ac sydd yn raddedig o BrifysgolAberystwyth, yn dechrau ar ei swyddnewydd ym mis Medi 2008.Wrth siarad am ei benodi mynegodd yrAthro Powell ei ymroddiad i gynorthwyoIBERS i ddatblygu yn “adnodd cenedlaetholsydd â dylanwad rhyngwladol”.Dywedodd ei fod wrth ei fodd yndychwelyd i Gymru i “fyw a gweithio mewncymuned gefnogol iawn, a chyfrannu ati.” .Llun o weithwyr Gogerddan – tua 88 – a dynnwyd tua 1910Diolch i Ian Sant am y copiMewn swyddi blaenorol yr Athro Powelloedd pennaeth cyntaf Ysgol Amaeth a Gwin,Prifysgol Adelaide, Awstralia, a DirprwyGyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Cnydauyr Alban. Bu hefyd yn gweithio am gyfnodi gwmni DuPont yn Wilmington, Delaware,Unol Daleithiau’r America.

Y TINCER MAI 2008 15Ymunais a staff Bridfa Planhigion CymruFis Tachwedd 1955. Ar yr adeg yma roedd ySefydliad yn cael ei reoli gan Gyngor y Coleg,ac wedi newydd symud i Gogerddan o Benglais,o dan gyfarwyddyd yr Athro E.T.Jones.Roedd y Fridfa ar gychwyn ar adeg cyffrouso ddatblygiad gyda phenodiad staff newydda rhaglen ehangach o waith.Dechreuais weithio yn yr Adran BridioYdau gyda’r Dr. D.J.Griffiths yn bennaethcefnogol iawn.. Yr uchelgais oedd bridiomathau newydd o yd a chnydau tir ar, igwrdd ag angen y diwydiant ffermio yn yblynyddoedd wedi’r Ail Ryfel Byd, gyda’rpwyslais ar gynhyrchu mwy o fwyd. Ceirchoedd yn cael y sylw mwyaf arbennig yramser hyn. Roedd angen mathau newydd,gyda mwy o rawn da a gwellt cryfach, a allaigadw’r cnwd i sefyll ar ei draed pan yn tyfuar dir oedd yn cael mwy a mwy o wrtaith ganffermwyr. Fel canlyniad o ddefnyddio mwy owrtaith roedd clefydau a.a. yn cynyddu.Felly, roedd pwysigrwydd cynyddol yncael ei roi ar wrthsafiad i glefydau a phla.Roedd yn golygu llawer o ymchwil a chaelgafael am y genynau fyddai’n medru euAtgofion 50au a 60augwrthsefyll. Cafwyd y genynau yma offynnonellau led-led byd, ac hefyd gydaaelodau o’r staff yn casglu mathau cynhenido’r rhywogaeth gwyllt o gaeau ffermwyr ynAdran Môr y Canoldir, a’r Dwyrain Canol.Apwyntiwyd yr Athro P.T.Thomasyn gyfarwyddwr yn gynnar ym 1959.Cynyddodd y gwaith yn yr adran BridioYdau, fel yn adrannau eraill o’r Fridfa yn y60 a’r 70 degau, gan olygu adeiladu labordainewydd, a datblygiad eang mewn tai gwydrsoffistigedig, ac mewn tir ar gyfer arbrofi.Fel âi’r amser ymlaen, roedd polisi’rLlywodraeth yn rhoi pwyslais ar ymchwilmwy sylfaenol, ac fe drosglwyddwyd petho’r gwaith o ddosbarthu mathau newydd orai o’r cropiau i’r Sector Breifat.Yn ystod yr adeg yma gwelwyd cynnyddyn nifer y staff, yn aml o’r tu allan iGymru, ond yn buan y daeth y rhan fwyafohonynt i doddi i mewn yn llwyddiannusi’r gymdeithas leol. Agwedd boddhaolarall oedd y cyfle i gyflogi pobl ifanc lleolwrth adael yr Ysgol, oedd yn eu galluogii gael profiad yng ngwaith y Fridfa, trayn mynychu dosbarthiadau yng NgholegAddysg Pellach, ac ennill tystysgrifau.Roedd rhain yn ogystal a staff y fferm wedirhoi cefnogaeth hanfodol i waith y Fridfadros y blynyddoedd.Roedd y Fridfa yn denu myfyrwyrac Ymchwilwyr profiadol o’r wlad hona thramor, a thrwy hynny sicrhau bodAberystwyth yn enwog fel CanolfanYmchwil Byd-eang.Yn ystod y 50 a 60 degau roedd llawero’r staff yn ifanc, sengl neu newydd briodi,ac yn creu cymdeithas fywiog, gyda nawsdeuluol hapus. Ffurfiwyd timau Hoci, Tennis,a Chriced, ac roedd y partïon Nadolig yngNgwesty’r Hafod, a’r W^ yl Haf flynyddol arlawnt y Plas yn chwedlonol.Wrth edrych yn ôl rwyn sylweddoli fy modwedi mwynhau amser hapus a boddhaol ynfy ngyrfa yn y Fridfa , ac o gael y cyfle eto, nifyddwn wedi dewis dim arall.Yr Athro Emeritws Desmond Hayes,Y Borth,Ymweliad David GibsonWatt, Gweinidog GwladolCymru yn nechrau’r 1970auEdward Heath ar ymweliadâ’r Fridfa - Roy Hughes, DesmondHayes, Goronwy ap Griffith, P.T.Thomas, Ted Heath a Dafydd MilesYm 1919 sefydlwyd BridfaBlanhigion Cymru trwyweledigaeth a brwdfrydeddheintus Athro BotanegAmaethyddol y Brifysgol- George Stapledon a haelioni yrArglwydd Milford. Pryd hynnyroedd yr adran yn cartrefu yn yrhen ffowndri yn Heol Alecsandraa Stapledon yn cymryd swyddychwanegol fel Cyfarwyddwr ySefydliad newydd.Penodwyd grãp o raddedigiontalentog i arwain ymchwil ifridio glaswellt, meillion a llafurac i astudio ffyrdd manteisiolyw tyfu. Er bod y cyfleusteraulabordai i’n tyb ni heddiw yngyntefig, fe wnaed gwaith daY Rhod yn Troi i’r Fridfaa sylfaenol mewn maes hollolnewydd. Roedd y tiroedd arbrofiyn ymestyn o erddi Caergog(cartrefi nyrsys heddiw) i Benglais(campws y Brifysgol) affermydd Brynamlwg a Frongoch.Dechreuais ar fy ngyrfayn y Fridfa ym 1944 - amserargyfyngus i bawb. Fe ddaethcynhyrchu bwyd yn destuntyngedfennol. Ar ddechrau’rRhyfel fe adawodd Syr GeorgeStapledon a’r Dr William Daviesa’i gydweithwyr yn yr AdranAgronomeg i ffurfio SefydliadYmchwil Tir Glas yn Stratford.Ar ben hyn ym 1940 secondiwydpenaethiaid yr adrannau i fodAdran Bridio Yd y Fridfa 1962 - Rhes gefn: Trevor Peregrine, Dafydd Lewis, MargaretMorgan, Ethel Lewis, D.L. (Dei) Jones, I.T. Jones; rhes flaen: Tom Johnston, GarethRowlands, D.J. Griffiths, Desmond Hayes, Idris Jonesyn Swyddogion i’r “War Ag”yn siroedd dalgylch y Brifysgol.Symudodd pencadlys y Fridfaym 1940 i adeilad newydd - ycyntaf ar Gampws Pen-glais.Prynwyd Stad Gogerddangan y Brifysgol a symudoddy Fridfa i Blas Gogerddan ym1953. Codwyd labordai, taigwydr a chyfleusterau erailla defnyddiwyd fferm y Plas igynnal arbrofion. Roedd y tirgwastad yn welliant mawr ary safleoedd a adwyd ar ôl ymMhen-glais a Fron-goch.Roedd rhif y staff yn cynydduoddi ar ddiwedd y rhyfel, yncael eu hariannu gan GyngorYmchwil Amaethyddol ynLlundain ac yn y man fe ddaethy Fridfa dan lwyr reolaeth yCyngor. O’r wythdegau ymlaenpolisi’r llywodraeth oeddtorri ar wario cyhoeddus ophreifateiddio lle roedd hyn ynbosibl.A dyma ni nawr yn 2008,y rhod wedi troi a’r Fridfayn nôl dan adain y Brifysgol.Ond y tro hyn mae yn rhan osefydliad newydd - IBERS sy’ncyfannu Sefydliadau presennolGwyddorau Biolegol a Gwledigy Brifysgol ac IGER, gydagoddeutu 300 o staff.W. Ellis Davies, Llandre

16 Y TINCER MAI 2008YSGOL PEN-LLWYNDisgybl newyddMae’n hyfryd cael croesawuplentyn newydd i’n plith - sefLlñr Evans, Pwllcenawon.Trawsgwlad yr UrddAeth pedwar o blant yr Urddi gynrychioli’r ysgol yn ycystadlaethau trawsgwlad.Llongyfarchiadau i AmyDryburgh, Tomos Evans aJo Jones am ddod o fewn ypymtheg cyntaf.Diwrnod coch gwyn agwyrddCyfranwyd £40 at GronfaEisteddfod yr Urdd 2010. Roeddy plant wedi gwisgo dillad cochgwyn a gwyrdd i ddod i’r ysgolar y diwrnod arbennig hwn.Cystadleuaeth Pêl-droedAeth naw o fechgyn yrysgol i gystadlu pêl-droed.Llongyfarchiadau fechgyn amymdrechu mor dda. Dyma’rcanlyniadau: Ennill -2 Cyfartal-1 Colli-2Diolch yn fawr i M&C Cabs am gyfrannu’n haelat ein hysbysfwrdd allanol newydd. Rydymyn siwr y bydd yr hysbysfwrdd o fantaismawr i’r ysgol, er mwyn hysbysu’r rhieni o’rgweithgareddau sydd ynghlwm â’r ysgol.Argraffu 5-lliwa gwasanaeth di-ail:holwch Paul am brisar paul@ylolfa.comJo, Tomos ac Amy a wnaeth mor dda yngnghystadleuaeth trawsglad y Sioe.TALYBONT CEREDIGION SY24 5HE01970 832 304ylolfa@ylolfa.comwww.ylolfa.comTim saith-bob-ochr Ysgol Pen-llwyn

Y TINCER MAI 2008 17YSGOL PENRHYN-COCHLlanerchaeron“Aethon ni i Lanerchaeron iddysgu mwy am hen gartrefi.Roedden ni yn y grŵp gwyrdd.Roedd pawb yn golchi dilladgyda sebon, brws, twb a doli.Gwaith caled!Wedyn, cawsom gyfle ichwarae gyda hen deganau.Hwyl a sbri!!Roedden yn llwgu ar ôl hyn.Cyfle i gael cinio.Cyn mynd yn ôl i’r ysgolaethon ni yn y plas. Roedd y lleyn enfawr! – mwy o faint na’rysgol.Mae Llanerchaeron yn wych!Gobeithio y cawn fynd nôl eto.Seren a CharlesPêl-droedYn ddiweddar bu tîmau pêldroedyr ysgol yn chwaraeyn nhwrnament pêl-droed yrUrdd. Bu’r merched a’r bechgynwrthi yn cystadlu yn frwd iawnac er ennill nifer o gemau nilwyddwyd i fynd ymhellach. Daiawn i bawb a fu’n chwarae.Mererid HopwoodCafwyd gwahoddiad i rai oddisgyblion Blwyddyn 5 yr ysgoli fynychu gweithdai barddonidan arweiniad y PrifarddMererid Hopwood. Treuliwyd unsesiwn eisioes yn edrych ar suti fynd ati i gychwyn ar farddonicyn creu darn syml. Yn ystod yrail sesiwn aethpwyd ar y treni Friog, ger y Bermo. Yn ystody daith rhaid oedd sylwi ar yrolygfa a nodi yr hyn a welwyd.Yn Friog, cafwyd cyfle i deithioi lawr i lan y môr er mwyn nodibeth a glywyd ac arogleuwyd. Ary ffordd yn ôl cafwyd stori ganMererid yn stesion Machynlleth achyfle i greu darn o farddoniaethyn seiliedig ar y daith.Eisteddfod y PenrhynAr nos Wener Eisteddfod yPenrhyn, gwelwyd nifer oddisgyblion yr ysgol yn cystadluyn frwd. Cafwyd unawdau canu,llefaru ac offerynnol ynghyd âphartion a chôr . Diolch i bawba ddaeth i gymryd rhan. Dymarestr o’r enillwyr.Unawd dosbarth derbynCharlotte RalphsLlefaru dosbarth derbynLlion EdwardsUnawd blwyddyn 1 a 2.Sioned ExleyLlefaru blwyddyn 1 a 2Sioned ExleyUnawd blwyddyn 3 a 4.Harri HorwoodLlefaru blwyddyn 3 a 4.Dylan EdwardsUnawd Blwyddyn 5 a 6.Mared Pugh-EvansLlefaru Blwyddyn 5a 6.Mared Pugh-EvansUnawd Offerynnol Cynradd.Mared Pugh-EvansLlongyfarchiadau i bawb a fu’ncymryd rhan ac i ddisgyblionblwyddyn 6 a ddaeth i fod ynrhan o seremoni tlws yr ifanc.Gwasanaeth TânCafwyd ymweliad gan KarenRoberts o’r gwasanaeth tân.Treuliodd fore cyfan yn sgwrsiogyda’r disgyblion am wahanolbethau yn ymwneud a thân asut i gadw’n ddiogel. Gwyliwydfideo a chafwyd cyfle i wisgol ifyny fel diffoddwr tan! Diolch iKaren am ddod.Harriet EarisBraf oedd croesawu y delynoresHarriet Earis atom yn ystody mis. Treuliodd Harrietamser gyda’r disgyblion i gydyn chwarae alawon gwerintraddodiadol o bob rhan o’rGwledydd Celtaidd. Bu’n sônam ei thelynau ac am rai o’rdarnau y bu yn chwarae. Arddiwedd y sesiwn, cafwyd cyflei ofyn cwestiynau ar y diweddgwahoddwyd y disgyblion i gaeltro yn chwarae y telynau. Diolchi Harriet am ei hamynedd aci Ganolfan y Celfyddydau amdrefnu’r gweithgaredd.TrawsgwladYn ystod tymor yr Hydrefbu disgyblion blynyddoedd3-6 i gyd yn rhedeg yngnghystadleuaeth trawsgwladyr Urdd, Cylch Aberystwyth.Llwyddodd tri o’r rhedwyri ennill drwodd i redegyn nghystadleuaeth y Sir.Cynhaliwyd y rasys hyn yngNgwersyll Llangrannog. Braf ydynodi i Matthew Merry ennill eiras ef gyda Harri Horwood ynagos ar ei sodlau yn drydydd. Daiawn i’r ddau ohonoch. Yn y râs ifechgyn blwyddyn 6, llwyddoddHarry Whalley i ddod yn 9fed.Da iawn ti.Sion Hywel, Sion Wyn a Sioned Exley yn chwarae telynau amrywiol ynystod ymweliad Harriet EarisDisgyblion dosbarth 2 ar eu hymweliad a LlanerchaeronTim hoci’r ysgol yn ei cit a noddwyd gan Gwmni Ffigar.Enillwyr gwobrau yng Nghystadleuaeth Celf a Chrefft Rhanbarthol yr Urdd

18 Y TINCER MAI 2008Penwythnos ynLlangrannogMae’r ysgol yn parhau i fodyn brysur iawn; ar y 18fedo Ebrill fe deithiodd 47 oblant blynyddoedd 4, 5 a 6 iLangrannog am y penwythnoser mwyn profi a mwynhau nifero weithgareddau difyr yngNgwersyll yr Urdd.Diwrnod Coch, Gwyn aGwyrddAr y 18fed o Ebrill dathlwyddiwrnod Coch, Gwyn a Gwyrddyn yr ysgol. Pwrpas y trefniantoedd codi arian i’r Urdd.Cafodd pawb yn yr ysgol gyflei wisgo dillad lliwiau’r Urdd.Ar ddiwedd y dydd casglwyd£109.10 i’r Urdd.XLWalesCafwyd ymweliad arall gan MrEifion Collins, XLWales ar y 29aina’r 30ain o Ebrill. Mae Mr Collinsyn ymweld â’r ysgol ddwywaithy flwyddyn er mwyn datblygusgiliau technoleg a gwyddonol yplant. Mae’r plant yn mwynhaucwblhau y tasgau yn fawr iawnac y mae gweithgareddau MrCollins yn parhau i fod yn hynodo ddifyr.Cyfathrebu â GwladGhanaTrefnwyd y cyfathrebiadarbennig yma er mwyn codiymwybyddiaeth parhaus y planti gynllun Masnach Deg ar y cydgyda Diane Isenberg a ‘TradingVision’. Dyma gofnod un oaelodau’r pwyllgor:-Yn ddiweddar siaradais ia gweddill aelodau PwyllgorEco’r Ysgol gyda nifer o blantysgol yn Ghana trwy gysylltiadar ‘we gamera.’ Ar ôl trafod achymharu bywyd yn y ddwywlad; dysgais lawer o bethau amfywyd yn Ghana; roedd y rhanfwyaf o rieni’r plant yn ffermwyr‘coco’ ac yr oeddwn yn falch oglywed eu bod yn gwerthu eucynnyrch i gwmnïau MasnachDeg. Siaradom ni am bethoeddynt yn ei wneud ar ôl ysgol,beth yw’r tywydd fel yn Ghana abeth oeddynt yn hoffi ei wneudyn a thu allan i’r ysgol. Roedd ynbrofiad diddorol iawn, a dysgaisnifer o bethau pwysig iawn.Tomos Gillison Blwyddyn 5YSGOL RHYDYPENNAUPlant Y Pwyllgor Eco yn siarad trwy’r we gamera gyda plant yn Ghana.Tîm pel-droed Merched yr ysgol.o’r chwith cefn - Katherine Lewis, Samantha Keegan, Lucy Ankin, Ffion Wyn Roberts,(blaen) Hannah Lee, Bethan Henley, Cerys Harvey, Ffion Evans, Hannah MilesRhai o blant yr ysgol yn mwynhau Penwythnos LlangrannogGwefan Swyddogol Yr YsgolAm fwy o wybodaeth a llwyth o luniau ewch i:-http://www.rhydypennau.ceredigion.sch.ukGwasanaethauMae Y Parchedigion RichardLewis, Andrew Lenny a WynMorris bellach wedi cyfrannui wasanaethau boreol yr ysgolyn ystod y tymor yma. Hoffai’rysgol ddiolch yn fawr iawniddynt am eu hamser a’ucyfraniadau gwerthfawr.ChwaraeonCynhaliwyd cystadleuaethtrawsgwlad rhanbarthCeredigion Yr Urdd ar y 25ain oEbrill yn Llangrannog. Teithioddsaith o blant o’r ysgol i’r gwersyller mwyn cynrychioli cylchAberystwyth. Llwyddodd y nawi orffen y cwrs yn effeithiol allongyfarchiadau mawr iddynthefyd gan fod pob un ohonyntwedi llwyddo i orffen yn ydwsin cyntaf; Katherine Lewis(bl 6-nawfed), Iestyn Evans (bl6 wythfed), James Albrighton(bl 5-unfedarddeg), FfionEvans (bl 4-ail) Lucy Ankin(bl 4-unfedarddeg) Sion Ewart(bl 4-cyntaf) Sion Manley (bl 3-chweched). Campus!Ar y 29ain o Ebrill, bu tîmpêl-droed bechgyn a merchedyr ysgol yn cystadlu ymmhencampwriaeth Yr Urdd argaeau Blaendolau. Cystadleuaethrhwng holl ysgolion Ceredigionoedd hon; ac yr oedd ansawdd ypêl-droed o’r safon uchaf.Ar ddiwedd y dydd ac arôl curo 5 ysgol, llwyddodd ymerched i gyrraedd y rowndderfynol ond colli bu’r hanesar giciau o’r smotyn-anlwcusiawn. Curodd y bechgyn 4 oysgolion ond methu wnaethanto drwch blewyn i gyrraeddy rownd gyn derfynol.Llongyfarchiadau mawr ichwaraewyr y ddau dîm am euhymdrechion ardderchog.Noson AgoredCynhaliwyd noson agored ynyr ysgol ar y 28ain o fis Ebrill.Cafodd y rhieni gyfle i weldgwaith y plant a chael sgwrsgyda’r athrawon.Estyniad NewyddMae gwaith ar estyniad newyddyr ysgol wedi dechrau. Mifydd y gwaith yn parhau amflwyddyn. Yr adeilad yma fyddcartref newydd yr uned Feithrin/Derbyn o ganlyniad i’r hen ysgolyn cau fis Hydref ddiwethaf.

Y TINCER MAI 2008 19ElwynJenkinsPwll, Pêl aPhulpudGwasgGomer 112t.£7.99Cafodd yParch. ElwynJenkins eieni yn ymMhentwyn, ger Cross Handsyng Nghwm Gwendraeth.Bu’n gweithio ym Mhwll Glo’rMynydd Mawr o 1948 tan 1959, acyn chwarae rygbi dros y Tymbl,Llanelli ac Abertawe. Chwaraeoddrygbi dros Gymru yn erbyn yLlewod Prydeinig yn 1955.Yn ddiweddarach yn ei yrfatrodd at y weinidogaeth. Aethi Goleg Trefeca yn 1959 acyna i’r Coleg Diwinyddol ynAberystwyth. Rhwng 1964-1970bu’n weinidog ar Gapel Moriah,Brynaman a chapel Brynllynfellyng Nghwmllynfell. Yn 1970aeth yn weinidog i’r Tabernaclyn Aberystwyth. Ers 1998 bu’nbugeilio Eglwysi Shiloh, Llanbed,Salem, New Inn a Maesffynnon,Llangybi.Dull yr hen bregethwyr o ddalsylw eu cynulleidfaoedd fyddaicodi tri phen, ac yn y gyfrol ddifyrac anarferol hon, mae’r ParchedigElwyn Jenkins yn codi tri phen eifywyd cyfan!Dyna’r pwll: glofa’r MynyddMawr, lle treuliodd y bachgenifanc ei ddyddiau gwaithcynnar yng nghwmni digymary glowyr a chymdeithas glòsCwm Gwendraeth. Pêl wedyn– y bêl hirgron; yn ei oriauhamdden, disgleiriodd Elwyn ary cae rygbi i rai o dimau mwyafCymru: yng nghrys SgarladLlanelli; gyda chlwb rygbiAbertawe, a hyd yn oed yn yprawf terfynol dros Gymru arBarc yr Arfau. Ac yna’r pulpud;ers blynyddoedd lawer bellach,bu Elwyn Jenkins yn weinidogyr efengyl; mae’n diolch bod ‘eilinynnau wedi disgyn mewnlleoedd hyfryd.’Glo, rygbi ac Anghydffurfiaeth:mae’r nodweddion hynnya ddaeth mor symbolaiddo dde Cymru i’w cael ynnaturiol a gwirioneddol ymmywyd Elwyn Jenkins. Er maihunangofiant un dyn sydd yma,mae’n cwmpasu ffordd o fywcymdeithas gyfan.Bydd holl elw’r llyfr yn myndtuag at waith Cymorth Cristnogol.Urdd Gobaith CymruSwyddog Datblygu - Anwen Elerianweneleri@urdd.org neu01239 652150Chwaraeon CenedlaetholBydd Chwaraeon Cenedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnalar gaeau Blaendolau Aberystywth ar y 10fed o Fai.Cystadlaethau pêl-rhwyd, pêl-droed a thraws gwlad. Poblwc i bawb a fydd yn cystadlu.Eisteddfod 2010Os am wybod am ddigwyddiadau 2010 Ceredigion maemanylion pob digwyddiad i’w weld ar y we – ewch i’wweld! www.urdd.org/eisteddfod/digwyddiadau.phpPenderfynwyd ar restr fer o bedair safle ar gyfer EisteddfodCeredigion 2010. Y pedwar yn nhrefn yr wyddor ywAberaeron – LlanerchaeronAberaeron – LlanllyrAberteifi – safle’r SioeAberystwyth – safle Capel Bangor (ardal Sioe Aberystwyth).Edrychwn ymlaen i glywed ymhle y bydd yr Eisteddfod yncael ei chynnal ymhellach yn y flwyddyn, tua’r hydref.Calendr – Bydd Calendr Ieuenctid 2010 (18 mis) ar werthyn Eisteddfod Conwy.Dyddiadur03.06.08 Nos Fawrth Noson Sioe Ffasiwn Ji-binc a Jac Do‘Ffasiwn a Fizz’ yn Llanerchaeron-Pwyllgor Apel Aberaeron.Tocynnau o Siopau Ji-binc £1022.06.08 – Cyngerdd buddugwyr Eisteddfod Conwy aCatrin Finch yn Neuadd Pontrhydfendigiaid. 7.00 y.h.11.07.08 –Pwyllgor apêl Faenor- Geraint Lovgreen a bwyd£20 yn Llety Parc.13.09.08 – Taith Gerdded Pwyllgor Apêl TirymynachPenwythnos CeredigionBu nifer fawr o ddisgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ynmwynhau penwythnos yng ngwersyll Llangrannog ynddiweddar. Buont yn cymdeithasu gyda disgyblion y Sir,mwynhau gweithgareddau’r gwersyll o ferlota, i sgio a naidbynji ar y trampolin! Joio mas draw – a diolch i’r holl staff afynychodd y gwersyll i gynorthwyo’r disgyblion. Penwythnosarall i’w gofio.Gwobr Cyfraniad Oes i ElwynI goroni Gãyl Bedwen Lyfrau Crymych 2008 cyflwynwyd tlwsCyfraniad Oes i’r Diwydiant Cyhoeddi i’r darlunydd a’r awdur ElwynIoan. Brodor o Ben-bont Rhydybeddau yw Elwyn; ymunodd â RobatGruffudd i fod yn aelod cyntaf o staff Y Lolfa, ac wedi deunaw mlyneddyno aeth i weithio ar ei liwt ei hun gan wneud gwaith i bob un o brifweisg Cymru o’i stiwdio yn Aberystwyth.Yn ogystal â dylunio nifer o bosteri trawiadol yn y chwedegau a’rsaithdegau, creodd gyfresi poblogaidd i blant fel Cadwgan y Llygodeno’r Lleuad, Ici’r Ddôl a Wali Wmff. Mae wedi cyfrannu yn gyson drosnifer o ddegawdau i gylchgronau fel Lol, Wcw a Chylchgronau’r Urddac ymddangosodd sawl cartwn o’i eiddo yn y cylchgrawn dychanolPrivate Eye. I gloi gãyl lwyddiannus iawn cyflwynwyd tlws hardd iElwyn o waith y crefftwr Des Davies gan Aneurin Jones, cadeirydd ypanel dyfarnu.Eisteddfod Conwy 2008Pob hwyl i bawb o’r ardal a fydd yn cystadlu yn EisteddfodConwy. Mae nifer yn cynrychioli Ceredigion felly poblwc i chi gyd. Edrychwch am stondin Eisteddfod 2010 ymmhentref Mistar Urdd lle bydd nwyddau ar gael.Bydd gan Bwyllgor Cyhoeddusrwydd 2010 stondin yngNghonwy yn gwerthu nwyddau ac i geisio codi ychydigymwybyddiaeth fod y ‘steddfod yn dod i Geredigion ymhendwy flynedd. Os oes rhai ohonoch yn bwriadu mynd drawi’r Eisteddfod ac o bosib gyda ychydig o oriau rhydd ynystod y dydd byddem yn ddiolchgar iawn os gallech roi petho’ch amser i gynorthwyo ar y stondin e.e gwerthu raffl neunwyddau. Cysylltwch â Nia Davies niawyn@maesglas50.freeserve.co.uk

20 Y TINCER MAI 2008TASG Y TINCERMi fuoch chi’n brysur iawn yn lliwio’r lluno’r ffwl y mis diwethaf. Daeth sawl llun o’rBorth a Bow Street, ond dim un o Benrhyncoch!Gobeithio caf fwy o luniau o’rPenrhyn y tro nesaf. Dyma pwy fu’n lliwio:Carys Thomas, Maes y Coed, Llanfarian;Hanna a Tomos Watkin, Blaenwaun, YBorth; Rhiannon Tompkinson, 13 Cae’rOdyn, Bow Street; Tosa Harwood, 17Cae’r Odyn, Bow Street; Rachel Howard,Bron Eryri, Bow Street; Shaun Wyn Jones,Bronallt, Llandre; Finlay Byrne, YnysAfallon, Y Borth; Efa Gregory, Y Dderi, 6Elysian Grove, Aberystwyth; Ffion Powell,27 Maes Ceiro, Bow Street; Saran MairDafydd, 13 Maes y Garn, Bow Street; EleriGriffiths; Gwyn Garreg, Y Borth; FfionWilliams, Brynrheidol, Capel Bangor; SerenPugh, 45 Tregerddan, Bow Street; Glesni aTeleri Morgan, Ger-y-nant, Dolau.Ti, Shaun Jones, Llandre sy’n ennill y trohwn . Da iawn ti wir – rwyt ti’n cystadlu ar‘Tasg y Tincer’ bob tro.ShaunDaniel - enillydd MawrthA fuodd rhai ohonoch yn cystadlu yn Eisteddfod Penrhyn-coch fisdiwethaf? Gobeithio i chi gael hwyl arni. Mi fydd sawl un ohonochchi’n mynd i Eisteddfod yr Urdd cyn diwedd y mis hefyd rwy’nsiwr – rhai ohonoch chi i gystadlu, a rhai i ymweld. Pob lwc i chi,a chofiwch fwynhau! Ydech chi’n gwybod pwy fues i’n gweld ynNghanolfan y Morlan, Aberystwyth, ddiwedd Ebrill? Neb llai naSali Mali a Jac y Jwc! ‘Falle y byddan nhw ar faes yr Eisteddfodhefyd! Roedd y lle yn orlawn o fabis a phlant bach, ac roedd hi’ndigwydd bod yn benblwydd ar Jac, felly mi fuon ni gyd yn canu‘Penblwydd hapus iddo’ wrth iddo dderbyn cacen! Wyddoch chipwy ysgrifennodd storiau ‘Sali Mali’? Mary Vaughan Jones oeddenw’r awdures, a daeth y llyfr ‘Sali Mali’ cyntaf yn 1969, bron i 40mlynedd yn ôl. Mae hi’n edrych yn syndod o dda am ei hoedran!Efallai eich bod yn gwybod enwau rhai o gymeriadau eraill MaryVaughan Jones, fel ‘Pry Bach Tew’ a ‘Tomos Caradog’. ‘Jaci Soch’oedd fy ffefryn i. Pa un yw eich hoff stori?Falle eich bod wedi bod i Bentre Bach, lle mae cyfres teledu ‘SaliMali’ yn cael ei ffilmio, i weld y cymeriadau? Gwelaf o wefan S4Cfod y pentref y tu allan i Dregaron. Mae modd cael trip yno, ac hydyn oed aros dros nos! Beth am edrych ar y gwefannau hyn? Mae’nnhw’n llawn o bethau diddorol:EnwCyfeiriadhttp://www.salimali.tv/welsh/html/welcome.htmhttp://www.s4c.co.uk/pentrebach/Y mis hwn, beth am liwio’r lluniau o Sali Mali a’i ffrindiau, neudynnwch eich lluniau eich hunain o rai o gymeriadau eraill MaryVaughan Jones? Gallwch ddewis o’r lluniau bach neu’r rhai mawr,neu’r ddau, ond cofiwch ddefnyddio’r lliwiau cywir! Anfonwch eichgwaith ata’i erbyn .Mehefin 1af i’r cyfeiriad arferol: Tasg y Tincer, 46Bryncastell, Bow Street. Ceredigion, SY24 5DE. Ta ta tan toc!OedRhif ffônEGLWYS ST. PEDR, ELERCHGWIN, CAWS A CHÂN(awyr agored- tywydd yn caniatáu)CÔR ABCNOS WENER 27 MEHEFIN 20087-00 PMTOCYN: £6-00 / PLANT: £1.50R h i f 3 0 9 | M A I 2 0 0 8

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!