10.07.2015 Views

Mehefin - Tafod Elai

Mehefin - Tafod Elai

Mehefin - Tafod Elai

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

tafod e l áiMEHEFIN2010Rhif 248Pris 80cRhyfeddodau YstradfellteHelpu Plant AmddifadRhai o’r plantos amddifad ddeuai i gartref John ac Elizabeth igael eu bwydo bob nosSgwd Isaf Clun a Porth yr Ogof ar daith Clwby Dwrlyn. Rhagor ar dudalen 3.Bu tair o aelodau Tabernacl, Efail Isaf, Elenid, Jen a Nia, ardaith i Lesotho yn gynharach eleni. Mae’n amlwg fod llawer owaith yn cael ei wneud yno gan yr eglwysi a chyrff eraill iedrych ar ôl plant amddifad. Mae’r problemau bron tu hwnt i’ndychymyg ac mae angen cymorth dirfawr arnynt. Cewchddarllen am eu profiadau ar dudalen 5.Tybed pwy sy’n cofio’r ferch fachdlos yma?Alwyn Harding Jones, Ffynnon Taf, fu ar Wedi 3 aWedi 7 yn sôn am Bob Dylan a’r arddangosfa o’iluniau yn y Bae.Côr Ysgol Gwaelod y Garth mewn cyngerdd yngnghapel Bethlehem tuag at Motor Neurone ar 7 MaiWel, dyna i chi Sophie Gibbsflwyddyn neu ddwy yn ôlbellach! Ac mae hi’n dal ynferch fach dlos! Yn ddiweddarbu Sophie yn cystadlu yn rowndderfynol Miss Universe U.K. acefallai na wnaeth hi ennill ondfe ddaeth yn agos! Roedd ynbrofiad gwych, meddai. Cyfarfuâ llawer o ferched hyfryd, hardda hynod ddiddorol. Roedd sawlrownd i’r gystadleuaeth – rowndy dillad nofio, rownd y ffrogiau‘glam’ a rownd personoliaeth.Mae’r cyfan ar dudalen 6w w w . t a f e l a i . c o m

2 Tafod Elái Mehefin 2010tafod eláiGOLYGYDDPenri Williams029 20890040HYSBYSEBIONDavid Knight 029 20891353CYHOEDDUSRWYDDColin Williams029 20890979Cyhoeddir y rhifyn nesafar 5 Gorffennaf2010Erthyglau a straeoni gyrraedd erbyn23 Mehefin 2010Y GolygyddHendre 4 PantbachPentyrchCF15 9TGFfôn: 029 20890040e­bostpentyrch@tafelai.netTafod Elái ar y wêhttp://www.tafelai.netArgraffwyr:GwasgMorgannwgCastell Nedd SA10 7DRFfôn: 01792 815152Gwasanaeth addurno,peintio a phapuroAndrew ReevesGwasanaeth lleolar gyfer eich cartrefneu fusnesFfoniwchAndrew Reeves01443 407442neu07956 024930I gael pris am unrhywwaith addurnoCYLCHCADWGANFFLUR DAFYDDyn trafod a pherfformio eigwaith diweddarafNos Wener,11 MehefinAm 8yhYn festri BethlehemGwaelod y GarthCangen y GarthTaith JenGerddi AberglasneyDydd Sadwrn 12 MehefinAm ragor o fanylion,ffoniwch: 029 20892830CLWB YDWRLYNHelfa DrysorNos Wener, 18 Mehefin6yh o Glwb Rygbi PentyrchGwybodaeth bellach:029 20892038Newyddion yDysgwyrMae’r flwyddyn yn prysur ddirwyn iben a dim ond mis o ddysgu sy ar ôl cyndiwedd y tymor a bydd ein cwrs haf yndilyn ddydd Llun 28 Mehefin.Cafwyd clwb cinio olaf y flwyddynym mwyty’r Tymhorau ym Mhen­ybontddydd Mercher 19 Mai a braf oeddgweld nifer yno. Bydd clwb cinio olafPont­y­clun ddydd Mawrth 8 Mehefin.Ddydd Sadwrn 8 Mai ymunodd einclwb cerdded â Chymdeithas EdwardLlwyd am daith gerdded. Dechreuon nio barc Calon Lân ym Mryngarw lle maecofeb arbennig i Daniel James,cyfansoddwr geiriau’r emyn Calon Lân.Buon ni wedyn yn dringo i ben ymynydd gerllaw cyn cerdded ar hyd ycopa gan ddod lawr ym mhentrefPontycymer. Roedd y golygfeydd ynfendigedig ond yn anffodus roedd ygwynt yn fain ac yn ein hysgubo ymlaen­ doedd dim lloches i gael ychydig oginio hyd yn oed! Cyrhaeddon ni yn ôlym Mlaengarw tua hanner awr wedi triyn flinedig ond wedi cael taithardderchog. Diolch yn fawr i BrianRoderick am ein harwain.Nos Wener 14 a dydd Sadwrn 15 Maidaeth dros gant o ddysgwyr i GanolfanGydol Oes Garth ol wg i ga elpenwythnos o adolygu ar gyfer yrarholiadau ym maes Cymraeg iOedolion. Penwythnos prysur i’rdysgwyr a’r tiwtoriaid.Dyma restr o ddigwyddiadau’r missy’n dod:Paned a Chlonc, Amgueddfa ac OrielCwm Cynon, Aberdâr 2.30, 4 MehefinClwb Cinio Just Because, Pont­y­clun 1o’r gloch. 8 MehefinClwb cerdded 10.30 12 Mehefin –Merthyr Tudful – cwrdd ym maesparcio castell Cyfartha 10.30Grŵp darllen safon Canolradd CoedParc 10 – 11, 20 Mai a 3 MehefinGrŵp darllen safon Uwch Coed Parc 10– 11, 27 Mai a 10 MehefinGrŵp darllen safon Hyfedredd MerthyrTudful – Siop y ganolfan 2 o’r gloch, 24MaiGrŵp darllen Hirwaun YMCA Hirwaun2 o’r gloch, 24 Mai.Grŵp darllen safon HyfedreddGartholwg 12 – 1, 26 Mai.Grŵp darllen safon Uwch Gartholwg 1 ­2, 26 Mai.Grŵp darllen safon Uwch Treorci ­llyfrgell Treorci 11 o’r gloch, 28 Mai.CWRS HAF, 28 Mehefin – 2 Gorff.Am fwy o wybodaeth cysylltwch âShan; smorgan2@glam.ac.uk/07990578407

6 Tafod Elái Mehefin 2010CREIGIAUGohebydd Lleol:Nia Williams029 20890979Croeso cynnes i’r Creigiau …… Elin Haf, Marc ac Efa Fflur Evans. DawElin o Henllan, Dinbych yn enedigol a Marco Lambed. Athrawon yw’r ddau – Elin yndysgu Hanes yn ysgol Glantaf a Marc ynbennaeth Bioleg yn ysgol Plasmawr. Dimond deunaw mis yw Efa Fflur ac mae’r triohonynt wrth eu boddau yn eu cartrefnewydd ym Maes Cadwgan.DyweddioLlongyfarchiadau mawr i Dr Nerys Lewis aBen Tullis ar eu dyweddïad ynddiweddar. Dylid yn wir gwneud ffilm ohanes Nerys a Ben! Cyfarfu’r ddau tra’ngweithio yn yr Antarctig. Nerys yno yngweithio fel meddyg a Ben a’i arbenigeddym myd Tech. Gwyb. Daw Ben o Hastingsyn wreiddiol ac ers blwyddyn mae e wedibod yn dysgu Cymraeg. Roedd e’nbenderfynol o ofyn i Nerys i’w briodi ynGymraeg. Felly ar ddydd Gwener y Groglith,i lawr ar Fro Gŵyr dyma Ben yn gofyn iNerys ‘Wnei di fy mhriodi i?’ ateboddhithau ‘Gwnaf!’. Ond daeth siom i wynebBen gan feddwl ei fod yn clywed y gair‘NA’ o fewn yr ymateb ac yntau’n cael eiwrthod. Yn anffodus doedd e ddim wedicyrraedd yr Uned oedd yn cyflwynoymatebion cryno amser dyfodol y ferf! Ondbuan y deallodd! Efallai nad oedd wedi‘cyrraedd’ yr Uned berthnasol – ondgwnaeth Ben yn wych ar ôl blwyddyn oddysgu Cymraeg i gyrraedd rownd derfynolDysgwr y Flwyddyn EisteddfodGenedlaethol Glyn Ebwy. Un o’iddiddordebau eraill yw hoci ‘uni­cycle’ acam gyfnod ef oedd pencampwr cyflymdraPrydain! Llongyfarchiadau eich dau a phobhapusrwydd.Y TreaclesCynhaliwyd noson ddifyr iawn yn yDynevor Arms, Groesfaen yn ddiweddar.Roedd Paul a Pauline wedi trefnu’r achlysuri godi arian i ‘Clic Sargant’ – elusen i helpuplant sy’n dioddef o gancr. Grŵp ‘YTreacles’ oedd yn gyfrifol am yr adloniant.Sefydlwyd y grŵp, sef Malcolm Charnley,Roger Jones, Stuart Brown, Mike Macdonalda Lynn Thomas, oes bell yn ôl i ganucaneuon y Beatles ond erbyn hyn maentwedi ehangu cryn dipyn ar eu repertoire acyn barod i gynnal noson i godi arian at achosda neu er difyrrwch. Roedd y cyfanswm agodwyd ar ddiwedd y noson dros £1,100.Diolch am bob cefnogaeth i sicrhaullwyddiant y fenter er budd elusenhaeddiannol iawn. Bydd ‘Y Treacles’ yncynnal noson i godi arian i Eisteddfod GlynEbwy yng nghartref Siân Dowling ynLlysfaen ar nos Sadwrn y 10fed o Orffennaf– tocynnau £10 fydd yn cynnwys caws agwin. Am ragor o wybodaeth cysyllter â02920 890570.Dyma stori Sophie ...(O dudalen 1)Un swil oedd Sophie Gibbs pan ddechreuoddhi ysgol feithrin Creigiau gyda Mrs Jones 22o flynyddoedd yn ôl. Un y byddai’n dianc iguddio tu ôl i gotiau yr ystafell gotiau.“Rwy’n cofio ar un adeg, doedd dim digon ohyder gyda fi hyd yn oed i ganu cloch ygwasanaeth”. Diolch i gefnogaeth ffrindiau,mi ddatblygodd hyder Sophie tra ‘i bod ynYsgol Gynradd Creigiau, a mwynheuodd hiwyth mlynedd yn yr adran Gymraeg ynymuno yn y gwersi a’r gweithgareddauhamdden fel chwarae’r recorder, ffliwt, pêlrwyda chyflwyniadau dramatig. CystadloddSophie yn yr Eisteddfodau Ysgol(“Collwyn”) a hefyd yn yr Eisteddfodaurhanbarthol a chenedlaethol fel rhan ogyflwyniadau dramatig.Aeth Sophie ymlaen i Ysgol GyfunLlanhari i astudio Hanes, Saesneg aChymdeithaseg fel lefel A. Ei hoff bwncoedd Cymdeithaseg gan fod diddordebganddi mewn pobol, y gymdeithas a sut maecefndiroedd yn effeithio ar ddyfodolunigolion.Yn ansicr o ba gyfeiriad i droi ar ôl iddiadael yr ysgol, penderfynodd Sophie (ar ôlgwaith ymchwil mewn i brosbectysaugwahanol brifysgolion) ar radd mewnCysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu ynSouthampton, ac ar ôl tair blynedd o astudio,mi raddiodd Sophie gyda 2:1 Hons.Rheswm Sophie am ddewis y pwnc ymaoedd bod y pwnc yn cynnwys nifer fawr osgiliau defnyddiol i unrhyw yrfa ­cyfathrebu, marchnata, cyflwyno ahysbysebu i enwi rhai.Mae Sophie fel nifer o ferched eraill wedihoffi dillad, colur, cylchgronau a’r bydcyfryngau eriod! Mae modelu wedi bod ynddiddordeb i Sophie ers iddi fodeli teils iB&Q fel plentyn ifanc. Tra yn y brifysgol,enillodd Sophie wobr o ffotoshwt ynLlundain gyda thîm proffesiynol ac artistiaidcolur, gwallt a ffotograffwyr. Dyma’r blascyntaf o’r hwyl oedd ar gael ac middatblygodd i mewn i basiwn. Mae Sophieers hynny wedi cymryd rhan mewn sioeauffasiwn; wedi mwynhau LFW (LondonFashion Week End), ac wedi eistedd mewnar seminar gyda’r cynllunydd enwogMatthew Williamson.Cofrestrodd Sophie ei hun yn MissUniverse GB 2010 nôl yn Rhagfyr 2009.Daeth llythyr trwy’r post ym mis Ionawroddi wrth Miss Universe GB 2010 yngwahodd Sophie i’r rownd derfynolranbarthol. Ar ôl cyfweliad byr a sgwrsMerched y Wawr – Cangen y GarthDaeth y Parchedig Kevin Davies atom y mishwn i’n dysgu sut i drefnu blodau. Wel – amnoson ddifyr! Ac am bersonoliaeth hynaws,direidus a chynnes. Yn flodau, ac ynddeiliach ac yn offer – fe drodd y cyfan ynsymffoni o harddwch. Mewn cwta awr fegreodd bedwar gosodiad hyfryd – gan rannullawer iawn o ‘dipiau’ bach defnyddiol iawni ni sy am fentro gosod. Aeth pedair o’rmerched adre yn hapus iawn wedi ennillgosodiad yr un! (Lluniau tudalen 16)gyda threfnwyr yr elusen ‘JoshuaFoundation’, daeth pecyn trwchus yn y post ilongyfarch Sophie ar gyrraedd y rowndderfynol. “Roeddwn i mewn sioc a methucredu’r peth; roedd hyd at fil o ferched wediymgeisio, a fi oedd un o’r 36 cafodd eudewis.’Rhwng Ionawr a Mai roedd hollweithgareddau Sophie yn ymwneud â’rgystadleuaeth. Taflodd ei hun i mewn i’r hollantur a gwneud cymaint ag oedd yn bosib.Trefnodd daith i fyny Pen y Fan ym MannauBrycheiniog gyda’i ffrindiau i godi arian aphobi/gwerthu cacennau i’w theulu, ffrindiaua chydweithwyr. £770 oedd y cyfanswm!!!Ynghanol yr holl gynnwrf aeth Sophie ar‘Wedi 7’ i hybu’r gystadleuaeth. Dyma oeddy tro cyntaf i Sophie gael unrhyw brofiadteledu. Mwynhaodd Sophie’r profiad ynfawr iawn.Yn y misoedd yn arwain lan at ygystadleuaeth a gymerodd le yn Birminghamar 2 Fai, treuliodd Sophie bob penwythnosyn chwilio gyda’i Mam a’i Nain amwisgoedd i’r tair rownd; ffrog fach, ffrog hirnos a gwisg nofio. Doedd Sophie ddim wiryn edrych ymlaen at y rownd gwisg nofio,felly gwnaeth hi ymdrech ymwybodol i yfedlot mwy o ddŵr, i fwyta’n iachus a rhedeg(rhywbeth mae hi’n dal i wneud ar ôl ygystadleuaeth).Roedd penwythnos y gystadleuaeth ei hunyn llawn o ymarferion, lluniau, anrhegion,colur a gwallt, ‘roedd yr holl brofiad ynanhygoel. Roedd y merched yn hyfryd.’Mwynhaodd Sophie bob eiliad ac roeddhi’n ddigon hyderus ar lwyfan o flaen 2000 obobol. “Roedd y gerddoriaeth ‘di helpu ynfawr gyda chaneuon gwych fel Greatest Daygan Take That a One Shot gan JLS.’ Roeddganddi fwrdd yn llawn o gefnogwyr gangynnwys ei Mam a’i Thad, nain, brawdDavid, ei chariad, aelodau arall o’r teulu a trichefnogwr o Team Metalogic a wnaeth daluiddi gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Roeddei chefnogwyr yn swnllyd dros ben, ac yncorganu “Sophie, Sophie” wrth iddi ddod ary llwyfan. ‘Mi ofynnodd rhai o’r merchedarall os taw gyda fi oedd â’r bwrdd swnllyd!’Mae’r ffaith bod ei holl deulu wedi trafaelu’rholl ffordd i Birmingham i’w chefnogi hiwedi neud y profiad yn un bythgofiadwy.Yn anffodus, ni enillodd Sophie ygystadleuaeth ond dydy hi ddim wedidigalonni. Ers y penwythnos hudol maeSophie wedi ymaelodi gyda chwmnidigwyddiadau sy’n trefnu gweinyddesau iddigwyddiadau fel partïon pen­blwyddSimon Cowell. Mae hi hefyd ar lyfrau VibePR i wneud pethau tebyg (wythnos diwethafroedd hi’n hyrwyddo Peters Pies!!!).“Hoffwn gael mwy o brofiadau ar y teleduyn cyflwyno, darllen y newyddion neu’rtywydd efallai yn y dyfodol. Mae diddordebmawr gyda fi mewn pobl.” Un peth syddwedi cael effaith mawr ar Sophie yw cwrddâ thair merch ifanc o’r Joshua Foundationsy’n dioddef o gancr. Mae’n bosib na fydd ymerched yn byw i oedran Sophie nawr (25)felly mae hi’n teimlo cyfrifoldeb mawr isicrhau ei bod hi’n profi cymaint ag sy’nbosib yn ei bywyd gan gofio am y rhai llaiffodus sy’ ddim wedi cael yr hawl i allugwneud yr un peth.

GILFACH GOCHGohebydd Lleol:Betsi GriffithsTafod Elái Mehefin 2010 7YSGOL GYNRADDGYMRAEGEVAN JAMESGENEDIGAETHCroeso i Esmay Rese Walters ganed iGareth a Lindsey Walters ar Mawrth29ain. Mae Gareth a Lindsey wediymgartrefu yn Llewelyn's View erbynhyn. Mae Dawn (Ysgol Llanhari) aBrian Walters (Mam­gu a Thad­cu) ynhynod o falch ohoni. Mae Lindsey yndysgu yn Ysgol Bryncelynnog ac mae'rdisgyblion yn gweld ei heisiau yn barodond bydd rhaid iddynt aros tan FisMedi. Mae Gareth yn gweithio felSwyddog Datblygu Chwaraeon i'r Anablym Mhenybont.CYMDEITHAS HANESDaeth Mr Walter Jones i'r cyfarfoddiwethaf i siarad am hen ffermydd yrardal. Mae rhai o'r ffermdai yn hen iawnyn dyddio nôl i'r 16 a'r 17eg ganrif acmae Cadw wedi gwneud astudiaeth o raiohonynt.CWMNI DRAMAMae llawer yn flin iawn i glywed bodCwmni Drama Gilfach wedi dod i benwedi dros 80 mlynedd. Dechreuodd ycwmni yng Nghapel Bryn Seion cyndod yn gwmni Drama Gilfach Goch.Daeth athrawes ifanc i'r cwm o GwmTawe ac ymunodd â'r Cwmni Drama adaeth Rachel Thomas yn actores enwog.Roedd y cwmni yn ennill gwobrau yn yGŵyliau Drama oedd yn boblogaiddiawn. Cofir yn arbennig am euhaddasiad yn 1989 o nofel RichardLlewelyn 'How Green Was My Valley' aseiliwyd ar Gilfach Goch . Mae oriau agofynion gwaith wedi gwneud hi'nanodd i'r aelodau fynd i ymarferion arhyn o bryd felly penderfynwyd nadoedd modd mynd ymlaen. CynhaliwydCinio Ffarwel yn ddiweddar.LLONGYFARCHIADAULlongyfarchiadau i ferched y dosbarthGwnïo a Chrefftau a gododd £1,600 iYsbyty Felindre drwy weu cywion arhoi ŵy Pasg ynddynt a'u gwerthu.Diolch yn arbennig i'r cyfeillion a fumor barod i fynd ati i werthu. Hebddyntni fyddai'r dosbarth wedi gallu codicymaint o arian a diolch yn fawr i'rprynwyr am brynu.PENCAMPWYR Y GYNGHRAIRCoronwyd Clwb Rygbi Gilfach Goch ynBencampwyr Gynghrair 2 Dwyrain nosWener Mai 7fed wrth iddynt gaelbuddugoliaeth dros Dreorci ar Barc yrMae’r hanner tymor diwethaf wedi bodyn gyfnod prysur i’r plant yn yr ysgola’r tu allan i’r ysgol.Thema’r Indiaid CochionTreuliodd y plant yn nosbarthiadau 1 a 2wythnos yn gweithio ar thema YrIndiaid Americanaidd Brodorol neu’rIndiaid Cochion a bu’r plant – a’r staff –yn gwisgo fel yr Indiaid Cochion ac yncreu penwisgoedd o blu. Buon nhwhefyd yn adeiladu ‘wigwams’, yn dilynolion traed anifeiliaid gwahanol ac yncreu olion traed eu hunain. Cawson nhwhefyd gyfle i flasu caws a hufen iâbyfflo!TeithiauAeth disgyblion dosbarthiadau 5, 6 a 7ar daith i Erddi Dyffryn i barhau â’ugwaith ymchwil i greaduriaid aphlanhigi on sy’n byw yn yramgylchfyd.Yr UrddPob hwyl i blant yr ysgol sy’n aelodau oAdran Bro Taf fydd yn cymryd rhanmewn amrywiaeth o gystadlaethau ynEisteddfod Genedlaethol Yr Urdd ynLlanerchaeron.ChwaraeonMae nifer o blant wedi rhagori mewncystadlaethau yn yr ysgol a’r tu allan i’rysgol. Cafodd Gruff Lloyd ei ddewis ynOval yn Nhreorci. Mae dilynwyr y tîmwedi bod yn ffyddlon yn ystod y tymorllwyddiannus yma ac roedd nos Wenerheb eithriad gyda chefnogwyr Gilfachyna yn eu dwsinau. Sgoriodd Gilfach 5cais i sicrhau y 5 pwynt oedd angenarnynt i ennill y bencampwriaeth gydadwy gêm yn weddill. Fe fydd bywyd yny Gynghrair gyntaf y flwyddyn nesaf ynsialens i'r chwaraewyr a'r tîm hyfforddiond mae'n anrhydedd mawr iddynt gaely cyfle. Pentref mor fach yn erbyn yrenwau mawr. Yn anffodus bu'n rhaid i'rmaswr a seren y gêm i Gilfach, GarethWalters dreulio'r penwythnos yn YsbytyTreforys gydag anaf i'w law oedd angenllawdriniaeth, ond siŵr o fod fe gaiff egyfle arall i ddathlu gyda'r tîm.Llongyfarchiadau i'r bechgyn acymlaciwch ar ôl y tymor caletaf a'rmwyaf llwyddiannus erioed yn hanes yclwb a dymuniadau gorau ar gyfer ytymor nesaf.Chwech o fechgyn Ysgol Evan James syddyn nhîm rygbi Ysgolion ardal Pontypridd ­Iwan Cavil, Carl Blacker, Nye Walker, GruffLloyd (Y Capten), Dafydd Lloyd a Jac Smithgapten tîm rygbiYsgolion CynraddDwyrain Cymru ac’roedd Carl Blackeryn aelod o’r un tîm.’Roedd Gruff hefydyn gapten tîm rygbiy s g o l i o n a r d a lPontypridd enillodd‘Y Plât’ yn erbyn tîmYsgolion Llanelli. Felysgol ’rydym yn falchiawn ohono, a Carl,Iwan Cavil a JacSmith oedd yn y tîm; aNye Walker a Dafydd Lloyd oedd yn ygarfan. Collodd tîm yr ysgol gêm agosiawn yn erbyn tîm Ysgol Heol y Celyn14­12.Bu Jac Jenkins yn cymryd rhan yngnghystadleuaeth tenis bwrdd “EuroKids” yn Trieste yn Yr Eidal yn erbynpedwar deg pedwar cystadleuydd o bobrhan o Ewrop; a bu Jac a gweddill tîm yrysgol ­ Carys Durham, Carl Blacker acIoan Payne mewn twrnament tenisbwrdd yng Ngerddi Soffia yngNghaerdydd. Dyma’r tro cyntaf i Carys,Carl ac Ioan gystadlu a daeth y tîm ynbedwerydd. Bu Ioan hefyd yn chwarae idîm pêl­droed Rhondda Cynon Taf odan 11 yn rownd gynderfynol CynghrairSiroedd Cymru.Daeth Evie Hill yn ail, yn drydydd acyn bedwerydd wrth farchogaeth eicheffyl ‘Rolo’ yng nghystadleuaeth“Sunnybank” ynRhydri.Enillodd DylanJones gystadleuaethym M h e n c a m p ­w r i a e t h a uRhyngwladol “TangSoo Do” (math ogrefft ymladd –“martial art”) yngNghaerdydd.Llongyfarchiadauiddyn nhw i gyd.Gruff Lloydcapten tîmrygbi YsgolionCynraddDwyrainCymruDylan JonesPencampwrRhyngwladol"Tang Soo Do"2010

8 Tafod Elái Mehefin 2010Merched y Garthwww.mentercaerdydd.org029 20 689 888Cyrsiau Un­DyddCafwyd diwrnod llwyddiannus iawn arddydd Sadwrn, 8fed Mai ymMhlasmawr lle trefnwyd nifer o gyrsiauun­dydd gan y Fenter gyda chymorthCyngor Caerdydd ar gyfer oedolion yddinas. Roedd pob cwrs yn llawn aphawb wedi mwynhau. Ein bwriad fyddtrefnu cyrsiau undydd eraill ddiweddmis Tachwedd 2010.Mae Merched y Garth am gefnogiEisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'rCymoedd yng Nglyn Ebwy eleni drwygystadlu yn y gystadleuaeth Côr CerddDant dan arweiniaid Gavin Ashcroft.Tua deg ar hugain o aelodau sydd yn ycôr ar hyn o bryd ond hoffai Gavin gaelllawer mwy i lenwi'r llwyfan a rhoistamp yr ardal ar yr Eisteddfod.Dyma wahoddiad felly i unrhyw un afyddai â diddordeb i fod yn rhan o gôr argyfer Eisteddfod Genedlaethol eleni iymuno neu ailymuno â Gavin a'r Côr igystadlu.Cynhelir yr ymarferion yn NhabernaclEfail Isaf ar nos Lun am 7.30. Am ragoro fanylion cysylltwch ag Eleri ar 01443208211 eleriproberts@hotmail.com neuB e t h a n 0 1 4 4 3 4 0 7 1 0 3 n e uBethanCaffrey@hotmail.co.ukSyrffio i OedolionDdydd Sadwrn, 10 Gorffenaf bydddiwrnod o syrffio yn y Gwyr. Pris £40yn cynnwys bws, hyfforddiant, wetsuit abwrdd syrffio. Ffoniwch 029 20689888.Cwis CymraegBydd cwis Cymraeg nesaf y Fenter yncael ei gynnal Nos Sul, Mehefin 27ainyn y Mochyn Du am 8yh. £1 y person.Tafwyl 12 – 21 Mehefin 2010Dewch i ymuno yn y gweithgareddau:Ffair Tafwyl yn y Mochyn DuNoson Gomedi yng Nghlwb y DiwcGig Ail Symudiad yn y Fuwch GochMiri Meithrin gyda Sali Mali – Y Parc,GrangetownGig Ieuenctid yng Nghlwb Ifor BachGwyl Feithrin yng Nghanolfan HamddenCoganHelfa Drysor Hanesyddol yn Mharc CathaysGŵyl IfanBore Coffi i Ddysgwyr yn y Mochyn DuCystadleuaeth Golff i Barau yn Llanisienwww.tafwyl.org

EFAIL ISAFGohebydd Lleol:Loreen WilliamsPennaeth NewyddLlongyfarchiadau i Hefin Gruffudd,Nantcelyn, ar ei benodiad yn BrifathroYsgol Gynradd Garth Olwg. Mae Hefinyn enedigol o Ddolgellau ac ar hyn obryd mae’n brifathro Ysgol GymraegBronllwyn yn Y Rhondda. Bydd yndechrau ar ei swydd newydd ym misMedi.CydymdeimloEstynnwn ein cydymdeimlad diffuant iRhian Eyres a’r teulu, a hithau wedicolli ei mam yn ystod y mis. Roedd MrsGwennan Jones wedi ymgartrefu gydaRhian a’r teulu yn Heol Iscoed ers trogan nad oedd wedi mwynhau iechyd dayn ddiweddar. Cyn hali wyd ycynhebrwng yng Ngellilydan ddyddMercher, Mai 19eg.GraddioLlongyfarchiadau i Gethin, mab hynafJudith a John Llewelyn Thomas,Nantcelyn ar dderbyn gradd aga n r h yd e d d m e w n H y f f o r d d iGwyddonol. Dymuniadau gorau hefyd iGethin a fydd yn priodi ar y 29ain o Fai.Cawn yr hanes a llun yn y rhifyn nesaf.“D.J. y dydd”Ar raglen foreol Radio Cymru, “Eleri aDaf” maent yn cynnig cyfle i blentyn oysgol gynradd sgwrsio a chyflwyno cân.Ar fore Gwener, Mai 14eg, merch facho’r Efail Isaf, Branwen Roberts, HeolFfrwd Philip, oedd yn cynrychioli YsgolGymraeg Garth Olwg. Efallai rhywddydd bydd Branwen yn gyflwynydd ary radio neu’r teledu. Da iawn ti,Branwen.Ffordd Osgoi yn derbyndwy Wobr AurMae’n debyg fod y cynllun FforddOsgoi Pentre’r Eglwys sydd yn bendant“wedi gadael ei ôl” ar ein pentref niwedi derbyn dwy wobr aur gan GwmniGwobrwyo Adeiladwyr o Lundain.Gwobrwywyd Pennaeth adeiladuCyngor Rhondda Cynon Taf aChyfarwyddwr Cynllunio CwmniCostain am beidio ag aflonyddu’normodol ar y traffig yn lleol, ac am fodyn gydymdeimladol â bywyd pob dyddtrigolion yr ardal.Siop ar WerthTipyn o sioc oedd gweld arwydduwchben drws Siop y Pentre yn datganTafod Elái Mehefin 2010 9bod y busnes ar werth. Bydd yn golledmawr i ni yn y pentref i golli’rgwasanaeth arbennig a gynigir i ni ganOwen a Joanne Morris. Ar nodynpersonol mi fydda i’n colli’n fawr fysgwrs yn iaith y “wes, wes” (tafodiaithSir Benfro) gydag Owen.TABERNACLCydymdeimloEstynnwn ein cydymdeimlad llwyraf iD.J.Davies, Tonyrefail, ar golli ei wraig,Joan, yn ystod y mis. Cynhaliwyd yrangladd ym Methlehem, Capel yBedyddwyr, Tonyrefail ac yn AmlosgfaLlangrallo ddydd Llun, Mai 24ain.GwellaDa deall bod Guto Roberts, Maes yrHaul, Llantrisant yn gwella ar ôl treuliocyfnod yn yr ysbyty.GenedigaethLlongyfarchiadau i Carwyn a HeatherLloyd Jones ar enedigaeth merch fach,Mali. Chwaer fach i Osian.Swydd NewyddLlongyfarchiadau i Dai Edwards, TŷTwyn, Pentre’r Eglwys ar ei benodiad iswydd newydd yn Ysgol UwchraddPrestatyn. Bydd yn dechre ar ei swyddnewydd ym mis Medi. Wrth ymfalchïoyn ei lwyddiant, byddwn yn eich collifel teulu yn Y Tabernacl. Dymuniadaugorau i chi, Karen a’r merched yn eichcartref newydd.Cymorth CristnogolDiolch i John Llewelyn Thomas amdrefnu y casgliad blynyddol o ddrws iddrws ar gyfer Cymorth Cristnogol.Diolch hefyd i bawb o drigolion ypentre am ymateb mor barod i’n cais amgymorth i anffodusion y trydydd byd.Merched y CapelDaeth criw bach o’r merched ynghyd igael paned o goffi yng NghanolfanArddio Caerffili cyn mynd yn ein blaeni ymweld â chapel enwog Y Groeswen.Daeth ein Gweinidog i’n cyfarfod a’ntywys ni o amgylch y capel a’r fynwent.Yr eglwys yma yn y Groeswen oedd einmam­eglwys ni yn Y Tabernacl. Roeddamryw o enwogion yn gysylltiedig ageglwys Y Groeswen. Y gweinidogcyntaf oedd yr enwog William Edwards,adeiladydd y bont enwog ymMhontypridd. Yma hefyd bu Caledfrynyn Weinidog. Roedd yn brofiad hyfrydiawn cael ymweld â’r capel ar fore brafo Fai.Ein cyfarfod nesaf fydd ymweliad âThŷ Dyffryn fore Iau, 10fed o Fehefinam 11 o’r gloch y bore.YsgolGynraddCastellau(Lluniau tudalen 13)YmweliadauCafodd yr ysgol gyfan wledd arbrynhawn dydd Mercher yn gwrando argerddoriaeth roc a pop. Daeth athrawoncerddorol y sir i gyflwyno offerynnau aci berfformio o flaen y plant a chafoddambell un gyfle i chware’r drymiau a’rgitar.Cyswllt ag UgandaRoeddem yn ffodus iawn y mis hwn panddaeth dau o weithwyr ar gyfer elusenPont i sôn am waith gwirfoddol maentwedi bod yn ei wneud allan yn Uganda.Rydym yn gobeithio y byddwn yn gallusefydlu cyswllt rhwng Ysgol Castellauac ysgol yn Uganda yn y dyfodol agos.Mwyneuodd y disgyblion ddysgu amfywyd cyferbyniol plant a phobl Ugandaa chawsant gyfle i wisgo rhai o’r dilladtraddodiadol ac i gael tro ar rai odeganau pren plant Uganda.Sialens CnexFel rhan o brosiect Menter a Busnesblwyddyn 5, daeth ymwelwyr EBP igynllunio ac adeiladu melinau gwyntgyda’r disgyblion. Llwyddodd dwy oferched blwyddyn 5 gyrraedd y rowndderfynol ym Mharc TreftadaethRhondda. Dymunwn pob hwyl i Leigh­Anne Mainwaring a Casey Evans gydagweddill y gystadleuaeth.Rygbi a Phêl­droedFel rhan o’n partneriaeth â GleisonCaerdydd, cafodd disgyblion Blwyddyn3 brynhawn arbennig iawn ynddiweddar, mewn Gŵyl Rygbi ar Barcyr Arfau, cartref Clwb Rygbi Caerdydd.Chwaraeodd dau dîm pêl­droed ynerbyn ysgol Llwyncrwn. Gwelwyd dwygêm wahanol iawn, gydag un tîm danarweiniad y capten Huw Ward yn ennill7­2. Y sgorwyr oedd Daniel O' Dell (2),Adam Stanton (2), Ethan Vaughan,Corey Thomas a Daniel John. Er iConnor Purnell sgorio yn y gêm arall,colli bu’r hanes.Trefn yr Oedfaon ar gyfer MisMehefinMehefin 6ed Oedfa Gymun o dan ofalein GweinidogMehefin 13eg Y Parchedig AledEdwardsMehefin 20fed Oedfa Deuluol Sul yTadauMehefin 27ain Mr Keith Rowlands

10 Tafod Elái Mehefin 2010LLANTRISANTGROESFAENMEISGYNGohebydd y Mis:Allan JamesO Estonia i AbertaweLlongyfarchiadau gwresog i RichardCaddell, Clos Hereford, Penygawsi,Llantrisant ar ennill gradd PhD yn yGyfraith o Brifysgol Caerdydd. Fe’iganed yng Nghanolbarth Lloegr aderbyn ei addysg uwchradd yn YsgolGyfun Y Pant. Bu’n fyfyriwrllwyddiannus ers tro byd gan ennillgradd gychwynnol ac uwch LLM(Cyfraith Masnachol) yng Nghaerdydd.Wedi cyfnodau yn darlithio yn Tallinn(Estonia) a Bangor, mae bellach yndarlithio yn ei ddewis faes ymMhrifysgol Abertawe. Dymunwn yn ddaiddo.GenedigaethBraf oedd derbyn y newyddion hapusfod Esyllt (Swain gynt) a’i gŵr yndathlu genedigaeth ail blentyn. Ganedmab, Idris Arawn, ar y degfed o Fai ynfrawd i Nanw. Dymuniadau gorau i’rteulu oll.Cofio’r PasgCynhaliwyd cyngerdd gan Gôr Godre’rGarth yng Nghapel y Tabernacl nos Sul25 Ebrill 2010. Ar ôl i Alun Thomasgyflwyno’r côr a’r rhaglen, cafwydcyfuniad o gerddoriaeth gan wahanolunawdwyr a’r côr yn y rhan gyntaf. Ynyr ail ran cafwyd perfformiad oCantata’r Pasg i Gôr a CherddorfaSiambr gan arweinydd y côr Eilir Owen­Griffiths, gwaith a gyfansoddwyd bethamser yn ôl pan oedd Eilir yn fyfyriwrcoleg. Ar wahân i gyfraniad cyfres ounawdwyr profiadol, gosodwyd pob dimmewn cyd­destun priodol gan CatrinHeledd, y Llefarydd. Cafodd y gwaithdderbyniad hynod o frwd a’r gobaith ywy bydd modd i gynulleidfaoedd eraillrannu’r un profiad.Sêr y DyfodolMae grŵp o fechgyn heini o YsgolGymraeg Llantrisant yn aelodau o dîmpêl droed dan 8 Pontyclun. Cafodd RhysMorgan, Steffan Veck, Joseff Kirkman aCallaghan Smith lwyddiant arbennigmewn twrnamaint yn Radyr ddechrauMai. Yno llwyddwyd i ennill tair gêm acholli dim ond un. Llongyfarchiadauiddynt i gyd.Y Gymraeg bob troYdych chi eisiau i’r cyngorgyfathrebu â chi fel unigolyn, naillai drwy lythyr neu dros y ffôn, trwygyfrwng y Gymraeg?Os felly, ffoniwch, anfonwchlythyr neu neges ebost yn nodi’chmanylionUned Gwasanaethau CymraegTŷ Trevithick AbercynonAberpennar CF45 4UQ . 01443744033Caroline.m.mortimer@rhondda­cynon­taf.gov.ukCORNELyPlantLliwiwchy llun

TONTEGCynhelir Sioe Ffasiwn Masnach Deg yngNghapel Salem Nos Wener, 2 Gorffennafam 6.30 ar gyfer 7yh. Tocynnau £3.50 argael oddi wrth 01443 203580/205355Dymunwn wellhad buan i Lawrence gŵrThursa Edge sydd yn Ysbyty Dewi SantPontypridd ar hyn o bryd.Nos Iau 15 Gorffennaf cynhelir NosonGwis Ecumenaidd am 7pm. Cysylltwchâ’r rhif ffôn uchod am fanylion pellach.Gwellhad BuanYmunwn wellhad buan i Mima Morse agafodd anafiadau cas i’w gwyneb yn dilyndamwain yn Llangeithio yn ddiweddar.Ysgol Pont SiônNortonCydymdeimladCydymdeimlwn gyda Mrs SamanthaCook a’r teulu ar ôl marwolaeth ei mamyn ystod gwyliau’r Pasg.Eisteddfod yr UrddPob lwc i Gwenno Day a fydd yncystadlu yn y gystadleuaeth llefaru iFlwyddyn 3 a 4, y Grŵp Dawnsio Disgoa’r Parti Llefaru fydd yn cystadlu ynEisteddfod Genedlaethol yr Urdd ynLlanerchaeron ar y Dydd Llun a’r DyddMawrth.Cwis LlyfrauBu dau dîm yn cystadlu eto eleni, un tîmo Flynyddoedd 3 a 4 ac un tîm oFlynyddoedd 5 a 6. Llongyfarchiadaumawr i dîm Blwyddyn 5 a 6 sydd wedieu dewis i gystadlu yn y rownd derfynola gynhelir yn Aberystwyth ar Fehefin17eg. Pob Lwc.Gwasanaeth BoreolCroesawyd Mr Coleman yn ôl i’r ysgolunwaith eto i arwain y gwasanaethboreol yn ystod dechrau Mis Mai.ChwaraeonMae’r tîm rygbi wedi bod yn brysur ynymarfer ac yn chwarae yn erbynysgolion eraill. Chwaraewyd y gêmgyntaf yn erbyn Ysgol Castellau. Y sgôroedd Pont Siôn Norton 48 Castellau 21.Roedd tîm yr ysgol yn gwisgo eu citnewydd am y tro cyntaf yn y gêm ymaac roedd Kevin Morgan yno sy’n gyn­Tafod Elái Mehefin 2010CC R O E S A I RL1 1 2 2 3 3 4 4 5 678 910 11 1214 15 18 16 1720Atebion i: Croesair Col34, Pen Bryn Hendy, Yr Encil, Meisgyn, Pontyclun. CF72 8QXerbyn 20 Mehefin 201091113 19 14 1518 19 19 20222124Atebion MaiM 2 C 3 C 4 E D N O G Y NA N Y N A D A D MB F L A N N I B E NS A L W E DD G A NA A D 12 O FF E R Y NN E W R I T I S TH NT N O O 19 A D A15 A R G 20 C A L O N D I DC R A W N I 24 E 26 U 27 F17 D 18 A 19 A C R Y N D OM A L D O D I A I RR N A L I T A N ID O L U R U S DD D Oddisgybl o Pont Siôn Norton i lansio’rachlysur.Ymweliad gan yr heddluMae PC Siân Jones wedi ymweld â’rdosbarthiadau i gyd yn eu tro i siaradgyda’r plant am ‘Da a drwg’, dieithriaida bwlian.Dyma gyfle arall i chiennill Tocyn LlyfrauEnillydd croesair mis Mai ywMrs G Edwards, PontyclunAr Draws7. Madrondod (13)8. Swnio fel brân (8)9. Enw apostol (4)10. Prydferthwch (7)12. Madredd (5)14. Bargod (5)16. Ymochel (7)18. Segur (4)19. Cwrlidau (8)21. Seddi bach i’r troed (13)I Lawr1. Gwifren (4)2. Rhan o ysgerbwd (6)3. Di­rif (7)4. Lle i wneud calch (4)5. Petrus (6)6. Llidiart (8)11. March ifanc (8)13. Cynghanedd (6)15. Cyfrinachol (6)17. Bronwen (6)19. Mynwes (4)20. Mafon (4)11

12 Tafod Elái Mehefin 2010Ysgol GynraddDolauDiwrnod Mecsico!Ar Ebrill 29 cynhaliodd blwyddyn 1 a 2ddiwrnod Mecsico i orffen eu hastudiaetho bentref bychan o’r enw Tucarro ymMecsico. Gwnaethon ddysgu ac astudio’rtraddodiadau, bwyd, cartrefi a bywyd pobdydd. Gwnaeth y plant fwynhau coginio ablasu’r bwyd, yn ogystal â gwisgo i fynymewn dillad llachar, dawnsio igerddoriaeth Sbaeneg, chwarae gemautraddodiadol a dysgu ychydig o’r iaithhefyd. Hwyl a sbri i bawb!‘Crucial Crew’Ar Ebrill 14 aeth blwyddyn 6 draw iDrefforest i gymryd rhan mewn diwrnody sir, sef ‘Crucial Crew’. Cafodd y plantfore diddorol a phwysig yn dysgu sut igadw eu hunan ac eraill yn ddiogel mewnsefyllfaoedd go iawn. Negeseuon bywydpwysig i bawb!Newyddion RygbiLlongyfarchiadau i Matthew Willmott achwaraeodd ei gêm gyntaf dros DdwyrainCymru A yn erbyn Gorllewin A, yngNglyn Ebwy. Bydd Matthew a DewiCross yn cynrychioli ysgolion Pontypriddyn y rownd derfynol yn Nunvant. Pob lwci’r ddau.Gwobr Arweinwyr IfancDaeth Mr Bekker o adran AddysgGorfforol Ysgol Gyfun Pencoed i’r ysgoli weithio gyda disgyblion blwyddyn 5 a 6.Cafodd y plant fore gwych yn dysgu sut iredeg a chynnal gweithgareddau ar gyfergrwpiau o blant ieuengach ar yr iard ynystod amseroedd chwarae. Mae hyn ynrhan o gynllun mae’r plant yn anelu atgyflawni sef y wobr arweinwyr ifanc.Diwrnod SgiliauCafodd disgyblion cyfnod allweddol 2ddiwrnod rhagorol ar ein diwrnod sgiliaumis diwethaf. Er bod y tywydd yn oer agwlyb aeth y plant ati i fwynhau achymryd rhan mewn nifer helaeth oweithgareddau amrywiol. Y tro ymaroedd gweithgareddau coginio, tringwallt, tenis bwrdd, garddio, gemaudatrys problemau, dawnsio a chelf tuallan. Datblygodd y diwrnod nifer fawr osgiliau yn y plant sef datrys problemau,cydweithio, manylder, rheolaeth amser, achreadigol yn ogystal â sgiliaumathemateg, iaith a chyfathrebu. Cafoddy plant a staff ddiwrnod arbennig, llemwynheuodd pawb, gydag ymddygiad acymroddiad ardderchog. Edrychwn ymlaenat yr un nesaf.Os hoffech ragor o wybodaeth neunewyddion ewch at wefan yr ysgol:www.dolauprimary.org.co.ukYsgolGynraddGymraegGarth OlwgClwb CarcoDigwyddiadau Clwb Carco:16.06.10 Noson Celf Sul y Tadau.23.06.10 Parti Hufen Ia. 15.07.10 Partidiwedd tymor. Cysylltwch â’r ysgol amfwy o fanylion.Dosbarth DerbynAeth y plant Derbyn am dro draw i’r caecyfagos. Y dasg oedd creu rhywbeth i ddalpysgod. Cafodd y plant hwyl yn arbrofigyda gwahanol ddeunyddiau a datrysproblemau yn y broses.Wythnos IndiaDaeth athrawon o India i wario’r diwrnodgyda phlant Ysgol Garth Olwg ar Fai12fed. Aethant o gwmpas y dosbarthiadauyn siarad gyda’r plant am eu profiadaunhw fel athrawon mewn ysgolion ynIndia. Mwynheuodd rhai aelodau o’r staffnoson mas gyda’r ymwelwyr yn ‘Cosmos’lawr ym Mae Caerdydd. Yn ogystal,diolch i Mrs Davies am baratoi pryd ofwyd ar eu cyfer yn ei chartref!Fel rhan o’r dathliad, fe aeth tîm pêldroed a thîm pêl­rwyd Garth Olwg i YsgolGynradd Gilwern i fwynhau prynhawn ochwaraeon.Trefnwyd noson o ddathlu ar gyfer yrymwelwyr hefyd. Dyma adroddiad Cerysag Evan o ddosbarth Mrs Howard;‘Pan aethon ni i Ysgol Gilwern roedd'na chwe ymwelydd o Jamshedpur ynIndia yn westai i’r gyngerdd. Canon ni“Haleliwia”, “Ein byd sy’n llawnllawenydd” a “ Caewch bob drws i mi”.Bu Osian yn adrodd, Katherine yn canu’rrecorder, a phlant blwyddyn 5 a 6 yncanu’r ffidil. Roedd pawb yn dawnsio acwedyn cawson ni fwyd Indiaidd blasus.Roedd pawb wedi cael hwyl yn dawnsio achanu caneuon a siaradodd yr Indiaidrhywfaint gan ddweud ychydig am eugwlad ­ dysgon ni lawer’.Carwyn ArthurMwynheuodd plant Blynyddoedd 5 a 6wrando ar Carwyn Arthur yn son am eibrofiadau ym Mhatagonia.Pêl­rwydDa iawn i dîm pêl­rwyd yr ysgol am euperfformiad cadarn yn erbyn YsgolGynradd Dolau ag Ysgol Gynradd PontSion Norton. Er collwyd y ddwy gêm,gwelwyd perfformiadau da gan aelodauifanc y tîm yn ogystal â’r aelodau mwyprofiadol.Llwyddiant chwaraeon tu allan i’r ysgolLlongyfarchiadau mawr i Gwenno IoloDavies a Grace Postlethwaite am gael eudewis i dderbyn hyfforddiant gan ferchedo garfan pêl­rwyd Cymru, yng NghanolfanChwaraewyr â Photensial. Mae’r ddwy ynchwarae i Glwb Pêl­rwyd LlanilltudFaerdref. Yn ogystal, da iawn i Gwennoam dderbyn tlws chwaraewr y flwyddyn(dan 9oed) yn noson wobrwyo Clwb pêlrwydLlanilltud Faerdref.Côr yr ysgol yn canu yn NhonyrefailCanodd côr yr ysgol yn Eglwys DewiSant, Tonyrefail ar Fai 7fed. Yn gyntafroedd merched y côr wedi canu. Canon ni“Caewch bob drws i mi” a chanodd Jackym Mlwyddyn 6 yr unawd gyda’r côr.Hefyd canon ni “Rhoddaf gân gyda’mhysbryd” ac “Yn fy mreuddwyd brau”.Roedd hi’n noson arbennig.Adroddiad gan Cian, Megan a LeahEisteddfodPob hwyl i’r Gân Actol, y Gerddorfa,Osian Gruffydd a Katherine Hamilton afydd yn cynrychioli’r ysgol yn yrEisteddfod Genedlaethol yn Aberaeron!Gwaith plant Blwyddyn 5 dosbarth MrMeredithAr ôl ennill 1­0 yn erbyn Caerlŷr DdyddSadwrn roedd y Gleision yn hyderus iawncyn y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdyddneithiwr. Er hynny roedd Caerlŷr heb roi’rffidil yn y to! Sgoriodd Chopra ar ôl unmunud ar hugain. Ond ni wnaeth Caerlŷrroi’r gorau iddi. Sgoriodd Caerlŷr pedairmunud yn unig ar ôl Caerdydd. RoeddCaerdydd yn chwarae yn wych. RoeddBothroyd bron wedi sgorio, gydag ergydgadarn bwriodd e’r trawst. Ond yn sydynsgoriodd Caerlŷr am yr ail dro yn erbynMarshal, gôl geidwad Caerdydd. Roedd ysgôr yn anhygoel. Erbyn hanner amserroedd Caerlŷr yn ennill 2­1. Felly y sgôroedd 2­2 ar gyfartaledd.Dechreuodd yr ail hanner. RoeddCaerlŷr yn chwarae yn dda ac oherwyddhynny sgoriodd King i Gaerlŷr. Caerlŷroedd y tîm gorau am y rhan fwyaf o’r ailhanner. Ond cafodd y Gleision gyfle.Rhedodd Chopra i mewn i’r cwrt achafodd ei faglu, felly, cafodd Caerdyddgic o’r smotyn. Sgoriodd Wittingham.Roedd y sgôr yn 3­3 ar gyfartaledd.Gorffennodd y gêm ac roedd y sgôr yn3­3 felly aeth y gêm i amserychwanegol. Sgoriodd neb, felly aeth ygêm i giciau o’r smotyn. ArbedoddMarshal y 2 ergyd olaf gan chwaraewyrCaerlŷr. Roedd y gêm i gyd yn hongianar gic Ledley. Sgoriodd Ledley o’rsmotyn, felly enillodd Caerdydd 4­3.Rhedodd y cefnogwyr ar y cae. Aethonnhw yn wyllt. Felly yn y rownd derfynolbydd Caerdydd yn chwarae Blackpoolam le yn yr Uwch Gynghrair. Gobeithiobydd yr Adar Gleision yn hedfan ynuchel ar yr ail ar hugain o Fai.Adroddiad gan Joe Thomasa Tomos West Blwyddyn 5

Ysgol Garth OlwgTafod Elái Mehefin 2010 13Côr Ysgol Garth Olwg yn canu yn NhonyrefailGwenno Iolo Davies a Grace Postlethwaite gydacarfan pêl­rwyd CymruYsgol DolauDiwrnodMecsicoArweinwyr IfancCrucial crewYsgol CastellauPêl­droed yn erbyn LlwyncrwnGwyl Rygbi ar Barc yr ArfauBand Pres yn Ysgol Llantrisant

14 Tafod Elái Mehefin 2010PONTYPRIDDHysbysebu SwyddiGohebydd Lleol: Jayne ReesMerched y Wawr.Yn ddiweddar cynhaliwyd noson goffi ynRadyr wedi’i threfnu gan y rhanbarth.Caryl Williams oedd yn diddanu. Llywyddy noson oedd Marian Ifans ­ cydfyfyrwraigâ Caryl ym Mangor. Aethcynrychiolaeth o gangen Pontypridd igefnogi Caryl a joio’n fawr.Daeth criw mawr i’r cyfarfod diwetha’ac er gwaetha’ salwch ein gŵr gwadd feddaeth nifer o aelodau â hen greiriau i’wdangos a datgelu ychydig o’u hanesion!.Cynhelir ein cyfarfod nesa’ nos Iau,Mehefin 10fed yn y YMCA am 7.30p.m.Noson yng nghwmni Caryl Williams,Graigwen.Croeso cynnes i aelodau newydd.Clwb LlyfrauBydd y cyfarfod nesa’ yng Nghlwb y Bontnos Fawrth Mehefin 15 fed am 8.00p.m. Ynofel dan sylw fydd “Brooklyn” gan yrawdur o Wyddel Colm Toibin. Gallwchfenthyg y llyfr o Lyfrgell Pontypridd(clawr meddwl neu glawr caled!)Llyfr mis Gorff. yw “Y Dŵr” gan LloydJones. Byddwn yn cwrdd nosFawrth ,Gorff.13egAr ôl seibiant ym mis Awst ­ digon ogyfle i ddarllen!­ cawn gwrdd ar Fedi’r14eg i drafod “Caersaint” gan AngharadPrice. Mae’r llyfrau ar werth yn Siop yBont neu ar fenthyg o’r Llyfrgelloedd.Newyddion da.Llongyfarchiadau ar eu dyweddïad iGeraint Wyn Todd, mab Dorothy a Barry,Parc Prospect, Graigwen a Sera Hughesyn wreiddiol o Fethel Bach, gerCaernarfon. Maent wedi ymgartrefu ynRhiwbeina, Caerdydd.Gwellhad buanDymuniadau gorau i Ann Owen, Siop yBont sy’n gwella ar ôl triniaeth yn yrysbyty.Babi newyddAr Ebrill 5ed yng Nghaerdydd ganwydIfan Rhys i Iestyn Davies a’i bartner,Manon. Llongyfarchiadau iddyn nhw.Mae nain a taid wrth eu bodd â’r ŵyr bachcyntaf ­ sef Delyth a Graham Davies,Cilfynydd.Bachan prysurMae’r misoedd nesa’ yn rhai hynod obrysur i Huw Blainey, Lanwood Road. Arôl cymryd y brif ran yng nghynhyrchiadCwmni Arius “Disco Inferno” yn y Miwnife fydd Huw yn ymddangos fel brawdBilly Elliot yn y sioe gerdd gan GwmniAmatur Castell Nedd. Mae e hefyd ynedrych mlaen at ganu gyda chôr newyddMae www.safleswyddi.com yn saflerhyngweithiol i hysbysebu swyddi syddond ar gyfer siaradwyr Cymraeg.Cost hysbyseb ar Safle Swyddi yw£50 y swydd (a TAW) ac fe fydd yrhysbyseb yn ymddangos ar y wefan tany dyddiad cau. Ers ei sefydlu dairmlynedd yn ôl, mae Safle Swyddi wedihysbysebu dros 500 o swyddi Cymraeg.Derbynia’r safle tua 18,000 oymweliadau gan siaradwyr Cymraeg, syâ diddordeb mewn swydd/gyrfanewydd, bob mis.Mae ystod eang o swyddi wediymddangos yn barod ar Safle Swyddi(swyddi gweinyddol, gwarchod plant,s w y d d i d ys g u , p e n s a e r i a cymchwilwyr). Mae pob swydd yngofyn am y Gymraeg fel sgilangenrheidiol neu ddymunol.Mae’n fan canolog i gyflogwyr ihysbysebu yn rhesymol ac i annogsiaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr iddefnyddio'r iaith Gymraeg yn ygweithle.Yn ogystal, mae canran o elw SafleSwyddi yn cael ei gyflwyno i'n MenterIaith lleol .“Only Boys Aloud”­ byddant ynperfformio yn y gyngerdd agoriadol ynEisteddfod Glyn Ebwy dan arweiniad TimRhys Evans.Swydd newydd.Ar Fai y 5ed yn Eglwys Coedpenmaen,Pontypridd sefydlwyd Mrs. Alona Rees, YComin yn Lywydd Cenedlaethol AdranGenhadol Chwiorydd (Senana) Cymru.Mae Alona a’i gwr, Herbie yn weithgariawn yng nghapel Coedpenmaen.Llongyfarchiadau ar yr anrhydedd a phobdymuniad da ar gyfer y flwyddyn.CydymdeimloBu farw Susan Jones, Parc Prospect ymmis Ebrill. Estynnwn ein cydymdeimlad atei gwr Alan a’i merch, Samantha a’itheulu. Mae Samantha yn athrawes ynysgol Pont Sion Norton ahefyd yn gyn­ddisgybl.Ddiwedd Ebrill bu farwHywel Heulyn Roberts,Synod, Ceredigion yn 91mlwydd oed. Roedd ynymwelydd cyson âPhontypridd. Estynnwnein cydymdeimlad atMeinir a Brian, a SaraMair a’i theulu.Mae’r broses o hysbysebu ynhawdd. Gallwch anfon eich hysbysebdrosodd trwy e­bost neu’r post neugallwch lenwi’r tudalen "HysbysebuSwydd" ar y gwefan ei hun. Mae’rhysbyseb yn rhyngweithiol a gallymgeiswyr e­bostio chi'n syth o'rhysbyseb neu ddilyn linc i'chgwefan, ffurflen gais ar­lein, neu wrthgwrs, danfon llythyr neu ffonio amwybodaeth bellach yn y ffurfarferol. Mae pob hysbyseb yn medruarddangos logo eich sefydliad/busnes.Fe fyddwn ni yn sicrhau bod eichhysbyseb yn fyw ar y wefan erbyndiwedd y dydd ac yna anfon anfonebtrwy’r post.Mae croeso mawr i chi ffonio 014432 0 7 9 9 0 n e u e ­ b o s t i opost@safleswyddi.com os oesdiddordeb gennych hysbysebu arno neuos ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth.‘mae gen ti ddewis…’Mae gwasanaethau Cymraeg ar gaeldros y ffôn, ar­lein, ar bapura wyneb yn wyneb.Wrth ffonio, ysgrifennu at sefydliadneu ymweld â sefydliad,edrycha am y dewis iaith.Dewisa’r Gymraeg pan fydd ar gaelRho wybod i dy deulu a’th ffrindiau fodganddyn nhw ddewis hefyd.www.dewis.org.ukMae llawer o wasanaethau yndarparu llinellau ffôn Cymraeg.Ewch i www.cymorth.com

YSGOL GYFUNGARTH OLWG(Lluniau tudalen 16)Swyddog Ieuenctid hynod weithgarFel ysgol rydym yn ffodus dros ben i gaelGweithiwr Ieuenctid sef Eleri Mai Thomas iweithio ar y cyd gyda’n disgyblion ni ermwyn cynnig amrywiaeth helaeth obrofiadau.Nod cynllun Llwybrau i’r Brig UrddGobaith Cymru yw gwella sgiliau a chodidyheadau pobl ifanc yn y Gymraeg.Byddwn yn rhoi’r cyfle gorau posibl iddyntfeithrin sgiliau cysylltiedig â byd gwaith.Mae’n gynllun sy’n anelu at wella hyderpobl ifanc fel y gallant symud ymlaen ynhyderus trwy gyfrwng y Gymraeg i addysguwch a chyflogaeth yn rhwyddach. Bwriad ycynllun yw rhoi cyfle i bobl ifanc wneudpenderfyniadau a mynegi barn trwyweithgareddau a fforymau.Yn ystod y misoedd diwethaf mae nifer obrosiectau wedi bod yn digwydd yn yr ysgol.­ Clybiau Amser Cinio, Clwb CreuBlwyddyn 7 a Chlwb Sgiliau Syrcas. Maenifer o ddisgyblion yr ysgol wedi caelcyfleoedd i fynd i ddringo, rhai yn mynychuClwb Dringo'r Urdd ym MhrifysgolMorgannwg, eraill yn mynychu cwrs yngNghanolfan Boulders yng Nghaerdyddynghyd ag eraill yn cael blasu CanolfanGweithgareddau Llangors.‘Babanod Realiti’!Y mis yma cafodd disgyblion Blwyddyn 10sy’n astudio Datblygiad Plentyn y cyfle ifynychu cwrs ‘Babanod Real’. Mae’r cwrsyn gofyn i’r disgyblion gymryd cyfrifoldebam fabi ‘realiti’ am dridiau. Aeth y merchedi aros dros nos yng Nghanolfan yr Urdd,Caerdydd a chael y cyfle i fynd i fowlio acymweld â’r ddinas gan gofio edrych ar ôl ‘eubabi’ ar hyd yr amser! Bu’n gwrsllwyddiannus dros ben a phawb wedi blinowedi noson ddigwsg!Penwythnos Antur !Yn ystod gwyliau’r Pasg aeth criw oddisgyblion Blwyddyn 12 i ymweld â SirBenfro. Cafodd y criw gyfle i syrffio aphrofi ‘Coasteering’ ac aros yn hyfrydwchCanolfan Yr Urdd, Pentre Ifan. Cafwyd ycyfle hefyd i ymweld â gwahanol ardaloeddo Sir Benfro a mwynhau'r heulwen odidog ardraethau enwog y Sir.Prosiect Arferion Iaith!Prosiect arall llwyddiannus mae Eleriynghlwm gydag e yw Prosiect Arferion IaithBwrdd Yr Iaith Gymraeg. Mae criw oddisgyblion blwyddyn 12 wedi bod yngyfrifol am drefnu ac arwain Prosiect yrUwch Adran ar ôl ysgol ar Nos Wener argyfer disgyblion Blwyddyn 7. Mae’r criwwedi bod yn weithgar iawn yn trefnugweithgareddau wythnosol ynghyd a thaithlwyddiannus i Wersyll Yr UrddLlangrannog.Tafod Elái Mehefin 2010 15Profiadau Ymddiriedolaeth y Tywysog!Mae Eleri hefyd yn cyfrannu’n fawr at gwrsYmddiriedolaeth y Tywysog o fewn yrysgol. Cwrs ar gyfer disgyblion Blwyddyn10 ac 11 sy’n canolbwyntio ar addysganffurfiol. Yn ddiweddar mi fuodd aelodauClwb Ymddiriedolaeth y Tywysog ­ ClwbXL ­ yn ffodus iawn i gael sesiynauhyfforddiant Rygbi Tag ynghyd â thaith iStadiwm y Mileniwm i weld Cymru ynymarfer ar gyfer Cystadleuaeth y ChweGwlad. Ac ar ben hyn, mi fuodd y criw ynfuddugol yng nghystadleuaeth Creu Posterac ennill crysau rygbi Cymru yr un i bawb!Mae’n gyfnod cyffrous iawn o fewn yrysgol ar hyn bryd diolch i Eleri a’i hegni a’ibrwdfrydedd gyda nifer o brosiectau achynlluniau ar y gweill ar gyfer tymornewydd a’r haf. Un o’r uchafbwyntiau,mae’n siŵr, fydd cyd arwain taith wirfoddolyr Urdd i Batagonia eleni ym mis Hydref.Mi fydd 24 yn mynychu’r daith, ynghyd âthair o’r ysgol.Taith yr Adran Hanes iNormandiCyn y Pasg aeth criw ohonom ni ddisgybliongyda’r athrawon i Normandi i astudiotraethau glanio D­Day 1944. Ar ôl cyrraeddFfrainc yn gynnar yn y bore bant â ni i MontSt Michel a chael cyfle i ymweld â’ramgueddfeydd a’r gadeirlan. Y diwrnodwedyn aethom i farchnad Caen i weld yr hollstondinau pysgod, llysiau a chaws. Picniceto ar y traeth yn Ouistream a chyfle ichwarae pêl­droed a hedfan barcud cynmynd i’r amgueddfa heddwch a gwylioffilmiau am D­Day a’r glaniadau yn 1944.Gyda’r nos cawsom hwyl yn bowlio deg acyn ceisio gweithio allan beth yn unionroeddem yn ei fwyta.Yn amgueddfa Pegasus gwnes iddarganfod llun o fy ewythr a laniodd ynoyn gynnar ar 4 Mehefin 1944 ­ reit arddechrau’r ymosodiad Overlord. Ynanochel wrth gwrs, bu’n rhaid i’r merchedfynd i siopa mewn “Mall” tu allan i Caen.Wedyn cyfle i grwydro o un traeth i’r llall ynastudio’r Mulberry Harbours a ddyfeisiwydgan Gymro a’u hadeiladu yng Nghonwy ­ aphawb yn synnu at ba mor anodd oeddglanio a rhedeg lan y traeth wrth i filwyr yrAlmaen saethu atoch chi.Ar ein diwrnod olaf cawsom amser iymweld â brodwaith Bayeux ac un traethbach arall cyn dychwelyd yn ôl i Gymru.Diolch i’r athrawon, cawsom amser da ynllawn hwyl yn enwedig yn gwyliodehongliad Mr Evans o Mont St Michel –trwy ddawns!Nicolas Masters­Williams, Blwyddyn 10Gweithdy'r Adran Hanes ynAuschwitzAr 11 Mawrth o dan arweiniad AdranAddysg Ymddiriedolaeth yr Holocaust, aethdau ddisgybl ac athrawes i ymweld â’rgwersyll carcharorion rhyfel yn Auschwitz,Gwlad Pwyl. Roedd y profiadau o fod ynoyn fyth­gofiadwy. Cyn mynd, roedd ynamhosib dychmygu dros filiwn o bobl ynYsgol GymraegLlantrisantNoson blasu gwinCynhaliwyd noson i’r merched gan yGymdeithas Rhieni ar Ebrill 23ain. Bu’nnoson lwyddiannus dros ben gyda thafarn yBarn dan ei sang! Daeth arbenigwr gwin igynnal y noson a chyflwyno’r gwahanolwinoedd i’r merched. Wedi iddynt flasu’rgwin bu’n rhaid i’r merched ateb rhaicwestiynau mewn cwis! Edrychwn ymlaenat gael noson arall o fwynhau.Pêl­rwydCroesawyd plant o flynyddoedd 5 a 6 , YsgolGynradd Pencoed i chwarae gemau pêlrwydyn erbyn tîm YGGG Llantrisant.Cafwyd diwrnod o gystadlu brwd, ergwaetha’r tywydd diflas. Enillodd blwyddyn6 YGGG Llantrisant 5 ­ 0 a churodd tîmblwyddyn 5 Ysgol Gynradd Pencoed einplant ni o 5 ­ 0.Râs hwyaidMae’n draddodiad bellach i’r GymdeithasRieni gynnal Râs Hwyaid lawr ymMhontyclun adeg yma o’r flwyddyn ac elenieto cafwyd diwrnod o fwynhad. Mae’rachlysur yn un poblogaidd ar gyferteuluoedd disgyblion yr ysgol lle mae’r plantwrth eu bodd yn mwynhau yn y dŵr!Ensemble presBrynhawn Gwener, 14eg o Fai, bûm ynffodus i gael athrawon pres y sir yn cynnalcyngerdd i holl ddisgyblion yr ysgol. Buontyn chwarae llwyth o ganeuon adnabyddus llebu’r plant yn canu ac yn mwynhau.Gobeithio bydd y gyngerdd a’r athrawontalentog yn ysbrydoli rhai o ddisgyblion yrysgol i ddechrau dysgu chwarae offeryn.StarlabGan mai ein thema ni'r tymor hwn yw’rGofod a’r Ddaear a thu hwnt ­ trefnwyd fodymwelwyr o Techniquest yn dod i’r ysgolgyda’r Starlab!. Pabell enfawr yw’r Starlablle cafodd y plant brofiad uniongyrchol oweld y sêr yn disgleirio, y Ddaear, yr haula’r lleuad. Er i rai o’r plant lleia’ gael dipyno fraw pan ddiffoddodd y golau ­ yn sicrroedd yn brofiad gwerth chweil.cael eu lladd mewn gwersylloedd oedd wedicael eu hadeiladu ar gyfer llofruddiaethdorfol. Dywedodd Emma Higgins,Blwyddyn 12, ar ôl ymweld ag Auschwitz,“Roedd y ffigyrau anhygoel yn gwneudsynnwyr wrth fod yno. Yn lle gweld ffigyraudiystyr, roeddwn yn gallu gweld y bobl tu ôli’r ystadegau.”Cytunodd Brynmor Reynolds Bl12 â’idehongliad o’r profiad, meddai “Yn ystod ygwasanaeth ar ddiwedd y daith roedd y Rabiwedi dweud wrthym petawn ni wedi dangosparch tuag at y meirw trwy gynnal munud odawelwch am bob un a gafodd ei llofruddio,byddwn yn sefyll mewn distawrwydd amflynyddoedd.”Mae’r ddau nawr yn bwriadu rhannu euprofiadau gyda gweddill yr Ysgol.

16 Tafod Elái Mehefin 2010LLUNIAU YSGOLGYFUN GARTH OLWGGosod Blodau ym Merched y WawrKevin wrth ei grefft yn gosod blodau acEifiona (Stori tudalen 6)Clwb Antur Bl 12 yn Sir BenfroClwb XL yn fuddugol yng nghystadleuaeth CreuPosterTaith Normandi ar ôl bod yn gweld Brodwaith BayeuxCwrs Dringo: Sam Fenwick, Jess Stacey a Sara Prosser,Blwyddyn 12Traeth Abereiddi—”Coasteering”

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!