19.11.2014 Views

Urdd Gobaith Cymru Disgrifiad Swydd

Urdd Gobaith Cymru Disgrifiad Swydd

Urdd Gobaith Cymru Disgrifiad Swydd

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Urdd Gobaith Cymru

Disgrifiad Swydd

Teitl y swydd:

Yn atebol i:

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Datblygu

Brif Weithredwr yr Urdd

Cyflog: Ar raddfa 11 Strwythur Cyflog yr Urdd £37,270 (Pwynt 1)

hyd £43,205 (Pwynt 6). Penodir ar bwynt 1 oni bai fod

profiad/cymwysterau arbennig yn denu un pwynt

ychwanegol.

Oriau gwaith:

Lleoliad:

Gwyliau

blynyddol:

Cyfnod prawf:

Pensiwn:

Gwiriad CRB:

Archwiliad

meddygol:

35 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd bydd angen

gweithio oriau ychwanegol yn achlysurol.

Bangor, Glan-llyn, Llangrannog neu Gaerdydd

Caniateir 25 niwrnod o wyliau blynyddol ac wyth niwrnod

wyliau cyhoeddus - y cyfnodau i'w pennu mewn

ymgynghoriad â'r Chyfarwyddwr Busnes a Phersonel. Bydd

y gwyliau'n cynyddu i 28 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o

wasanaeth ac yna i 33 diwrnod ar ôl 10 mlynedd o

wasanaeth. Bydd angen neilltuo 3 diwrnod ar gyfer y

cyfnod rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

Bydd cyfnod prawf o 6 mis.

Bydd cyfle i ymuno â phensiwn mewnol yr Urdd ar unwaith.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei wirio

gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol (C.R.B.)

Cedwir yr hawl i ofyn i'r sawl a benodir fynd o dan archwiliad

meddygol cyn cynnig y swydd yn ffurfiol.

Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Datblygu

Mae hon yn rôl newydd yn dilyn ad-drefnu o fewn Urdd Gobaith Cymru. Y

bwriad yw sefydlu adran gyfathrebu gref i ateb gofynion adrannau’r Urdd, gan

gynnwys Gwersylloedd yr Urdd, Eisteddfod yr Urdd, Chwaraeon yr Urdd a’n

gwaith yn gwasanaethu aelodau.

Y Cyfarwyddwr Cyfathrebu fydd yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth

gyfathrebu newydd i’r Urdd gan gwmpasu pob dull. Bydd hyn yn cwmpasu

gwaith marchnata, gwaith cysylltiadau allanol a materion corfforaethol. Bydd

cyfrifoldeb hefyd am waith datblygu’r mudiad, gan gynnwys denu nawdd a

chymorth ariannol o ffynonellau allanol.

Bydd cyfrifoldeb am gymell ac arwain gwaith aelodau’r tîm cyfathrebu a

datblygu a fydd yn cynnwys Rheolwr Marchnata Gwersylloedd, Rheolwr

Nawdd, Swyddog Marchnata, Swyddog Cyfathrebu a Golygydd Cylchgronau

ynghyd â chymorth gweinyddol.

Dyletswyddau

Sicrhau fod anghenion cyfathrebu a marchnata adrannau’r Urdd yn cael eu

diwallu. Bydd hyn yn cynnwys gwaith ar gyfer adran y maes, aelodaeth, adran

yr Eisteddfod, yr adran Chwaraeon a’r Gwersylloedd.

Bod yn aelod o dim rheoli Eisteddfod yr Urdd a chyfrannu yn greadigol i

ddatblygiad yr Eisteddfod.

Goruchwylio datblygu a gweithredu strategaeth cysylltiadau cyhoeddus yr

Urdd.

Adolygu a goruchwylio presenoldeb Urdd Gobaith Cymru mewn digwyddiadau

cenedlaethol megis Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe

Llanelwedd.

Cyfrifoldeb am gynnwys a delwedd gwefan yr Urdd. Ystyried sut i sicrhau

datblygiad a newid a sut i weithredu hynny.

Cyfrifoldeb am sicrhau cywirdeb holl gyhoeddiadau a hysbysebion yr Urdd gan

gynnwys Adolygiad Blynyddol.

Cyfrifoldeb am gysylltiad yr Urdd gyda’i aelodau a’i wirfoddolwyr gan gynnwys

systemau prosesu aelodaeth a chyfathrebu.

Goruchwylio cyhoeddi Cylchgronau’r Urdd.

Cyfrifoldeb am gyfathrebu yr Urdd ar blatfformau electronig gan gynnwys twitter

a facebook a bod yn effro i newidiadau i’r dyfodol.

Cyfrifoldeb am rheoli gwaith datblygu yr Urdd, gan gynnwys denu nawdd o

£300k tuag at Eisteddfod yr Urdd a £50k tuag at Gemau Cymru.

Datblygu cynlluniau rhoi i Urdd Gobaith Cymru a chynlluniau denu rhoddion o

ewyllysiau gan ddenu cyfraniadau o £100k.

Rhoi arweiniad i Rheolwr Marchnata Gwersylloedd yr Urdd gan sicrhau twf o

10% dros dair blynedd yn y niferoedd sy’n mynychu.

Cyfrifoldeb am ddatblygu perthynas yr Urdd gyda gwleidyddion a chyfrifoldeb

am faterion corfforaethol. Datblygu dulliau cyfathrebu pwrpasol a gweithio

gyda’r Prif Weithredwr ar ymgyrchoedd perthnasol.

Cydweithio gyda’r Adran TG i sicrhau bod systemau aelodaeth a gwefan yr

Urdd yn cael ei ddatblygu a defnydd gorau yn cael ei wneud o system CRM yr

Urdd.

Cyfrifoldeb am gynghori’r mudiad ar faterion diogelu data.

Sicrhau fod y gwaith uchod yn cael ei wneud oddi fewn i gyllideb benodedig.

Goruchwylio gwaith y Swyddog Marchnata, y Swyddog Cyfathrebu, Golygydd

Cylchgronau, Rheolwr Marchnata Gwersylloedd, Rheolwr Nawdd a chymorth

gweinyddol.

Cyffredinol

Fel aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr yr Urdd, cyfrannu at ddatblygu,

gweithredu ac arolygu holl strategaeth a chynlluniau cyffredinol yr Urdd.

Ymgymryd ag unrhyw dasgau priodol eraill sy'n cyfrannu at les dyfodol a

datblygiad Urdd Gobaith Cymru.

Gofynion

1. Byddai profiad o reoli staff gan gynnwys monitro a gwerthuso

perfformiad a datblygiad unigolion yn fanteisiol. Bydd angen gosod

targedau clir i’r staff.

2. Profiad o reoli cyllidebau. Byddai profiad o wneud ceisiadau ariannol a

rheoli prosiectau yn fanteisiol.

3. Byddai profiad o gydweithio â gwirfoddolwyr yn fanteisiol.

4. Person ymroddgar llawn syniadau gyda’r gallu i arwain ac ysbrydoli.

5. Dealltwriaeth o nod ac amcanion Urdd Gobaith Cymru ac

ymwybyddiaeth o Gymru.

6. Y gallu i gyfathrebu’n glir, yn effeithiol ac yn broffesiynol yn y Gymraeg

a’r Saesneg i gynulleidfaoedd amrywiol.

7. Gradd neu gymhwyster cyfatebol.

8. Profiad mewn maes sydd yn berthnasol i’r swydd a phrawf o fod wedi

gallu gweithredu’n effeithiol.

Dylai unrhyw geisiadau ddangos yn glir sut mae unrhyw brofiad blaenorol, a

sgiliau, yn cyfateb i’r gofynion a’r dyletswyddau a nodir yn y disgrifiad swydd.

Os hoffai unrhyw ymgeisydd gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd, mae

croeso iddynt gysylltu ag Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, ar

01970 613103.

Rhaid i geisiadau gyrraedd swyddi@urdd.org erbyn 9.00am ar 26 Mawrth

2012. Cynhelir y cyfweliadau ar 5 Ebrill 2012.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!