09.11.2014 Views

Y Tincer 2013 Mai 359 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 2013 Mai 359 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 2013 Mai 359 - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

PAPUR BRO GENAU’R-GLYN, MELINDWR, TIRYMYNACH, TREFEURIG A’R BORTH

PRIS 75c | Rhif 359 | MAI 2013

Mwy o

Eisteddfod

Penrhyn-coch

t10

Cymdeithas

Trefeurig 60+

t18

Twrnament

Pêl-droed

t5

Eisteddfod Penrhyn-Coch 2013

Lluniau: Arvid Parry-Jones

Enillwyr nos Wener - Cerys Hurford (2il) a

Gwion Wilson (1af) - unawd Bl 1 a 2

Eilir Pryse, Aberystwyth, yn ennill Tlws yr

Ifanc (Cerddorol) am yr ail waith

John Meurig Edwards, Aberhonddu yn ennill y

gadair am yr ail flwyddyn yn olynol - a hynny mewn

cystadleuaeth gref - roedd 27 wedi cystadlu.

Llun: Y Tincer

Disgyblion Cylch Methrin Trefeurig yn cystadlu ar yr unawd

Enillwyr nos Wener - Zoe Evans (1af), Tomos Wilson

(2il), Steffan Huxtable (3ydd) - unawd Bl 5 a 6

Y TINCER | MAI 2013 | 359

dyddiadur

dyddiadur

Sefydlwyd Medi 1977

Aelod o Fforwm Papurau Bro Ceredigion

ISSN 0963-925X

GOLYGYDD – Ceris Gruffudd

Rhos Helyg, 23 Maesyrefail, Penrhyn-coch

( 828017 | Rhoshelyg@btinternet.com

TEIPYDD – Wendy Rattray

CYSODYDD – Elgan Griffiths (832980

CADEIRYDD – Elin Hefin

Ynyswen, Stryd Fawr, Y Borth ( 871334

IS-GADEIRYDD A THREFNYDD CYFEILLION

Y TINCER – Bethan Bebb

Penpistyll, Cwmbrwyno, Goginan ( 880228

YSGRIFENNYDD – Anwen Pierce

46 Bryncastell, Bow Street ( 828337

TRYSORYDD – Hedydd Cunningham

Tyddyn-Pen-y-Gaer, Llandre, Aberystwyth

( 820652 hedyddcunningham@live.co.uk

HYSBYSEBION – Rhodri Morgan

Maes Mieri, Llandre, ( 828 729

rhodrimoc@yahoo.co.uk

LLUNIAU – Peter Henley

Dôleglur, Bow Street ( 828173

TASG Y TINCER – Anwen Pierce

Rhifyn Mehefin

Deunydd i law: Mehefin 7 | Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 20

MAI 12-18 Wythnos Cymorth Cristnogol

MAI 18 Dydd Sadwrn Arddangosfa

Clustnodau Ruth Jên Evans yn Oriel y Bont,

Aberystwyth rhwng 13.00-14.30 ac yna

yn Arddangosfa’r Uwchraddedigion 2013

rhwng 3 a 6 yn Yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr,

Aberystwyth, SY23 1NG

MAI 21-22 Dyddiau Mawrth a Mercher Arad

Goch yn cyflwyno Cerdyn post o Wlad y Rwla

yn Theatr, Canolfan y Celfyddyau am 10 ac 1.00

Addas i blant 4-8 oed

MAI 24 Nos Wener Noson goffi Henoed

Llandre a Bow Street yn Neuadd Rhydypennau

am 7.00

MAI 25 Nos Sadwrn Barbeciw yn Neuadd

yr Eglwys, Capel Bangor rhwng 6.00 - 8.30.

Croeso cynnes i bawb.

MEHEFIN 15 Dydd Sadwrn Rali CFFI

Ceredigion ym Merthlwyd, Tal-y-bont

MEHEFIN 15 Pnawn Sadwrn Parti yn y Parc

ym Mhenrhyn-coch. Diwrnod i’r teulu i gefnogi

y parc o 4.00 ymlaen. Trefnir gan PATRASA

MEHEFIN 19 Dydd Mercher Taith flynyddol

Cymdeithas Gymraeg y Borth - enwau i’r

ysgrifennydd Llinos Evans

MEHEFIN 29 Noson o Adloniant yng Ngwesty

Llety Parc, Aberystwyth - gyda Wil Tân,

Clive Edwards a Meibion y Mynydd am 8.00.

Tocynnau £10 ar gael oddi wrth y gwesty.

Holl elw’r noson tuag at Sefydliad Prydeinig y

Galon.

MEDI 13-15 Dyddiau Gwener i Sul.

Penwythnos ddathlu 150 mlynedd Ysgol

Gynradd Penrhyn-coch

TREFNYDD GWERTHIANT – Bryn Roberts

4 Brynmeillion, Bow Street ( 828136

ABER-FFRWD A CHWMRHEIDOL

Mrs Beti Daniel

Glyn Rheidol ( 880 691

Y BORTH – Elin Hefin

Ynyswen, Stryd Fawr

elin.john@yahoo.co.uk

BOW STREET

Mrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro ( 828 102

Lynn Phillips, 1 Cae’r Odyn ( 820 908

Anwen Pierce, 46 Bryncastell ( 828 337

Maria Owen, Swyddfa’r Post (828 201

CAPEL BANGOR / PEN-LLWYN

Mrs Aeronwy Lewis

Rheidol Banc, Blaengeuffordd ( 880 645

CAPEL MADOG, CEFN-LLWYD A CAPEL DEWI

Eirian Hughes, Lluest Fach ( 880 335

Elwyna Davies, Tyncwm ( 880 275

Dai Evans, Fferm Fronfraith, Comins-coch

( 623 660

DÔL-Y-BONT

Mrs Llinos Evans - Dôlwerdd ( 871 615

MEHEFIN 8 Dydd Sadwrn Sioe Aberystwyth a

Gogledd Ceredigion

MEHEFIN 15 Dydd Sadwrn Taith Cymdeithas

y Penrhyn i Sir y Fflint yng nghwmni Gron Ellis.

Am fwy o fanylion cysyllter â Ceris Gruffudd

(01970 828 017)

Telerau hysbysebu

Tudalen lawn (35 x 22 cm) £100

Hanner tudalen £60

Chwarter tudalen £30

neu hysbyseb bach ca. 5 x 8 cm £6 y

rhifyn - £40 y flwyddyn (10 rhifyn - misol

o Fedi i Fehefin); mwy na 6 mis + £4 y

mis , llai na 6 mis - £6 y mis. Cysyllter â

Rhodri Morgan os am hysbysebu.

HYDREF 11 Nos Wener Eisteddfod Papurau

Bro Ceredigion yn Neuadd Felin-fach

Y Tincer ar dâp

Mae modd cael y Tincer ar gaset ar

gyfer y rhai sydd â’r golwg yn pallu.

Cysylltwch â Rhiain Lewis, Glynllifon,

17 Heol Alun, Aberystwyth,

SY23 3BB (( 612 984)

Ymunwch â Grŵp

Facebook Ytincer

DOLAU

Mrs Margaret Rees - Seintwar ( 828 309

GOGINAN

Mrs Bethan Bebb

Penpistyll, Cwmbrwyno ( 880 228

LLANDRE

Mrs Mair England

Pantyglyn, Llandre ( 828693

PENRHYN-COCH

Mairwen Jones - 7 Tan-y-berth ( 820642

TREFEURIG

Mrs Edwina Davies

Darren Villa, Pen-bont Rhydybeddau ( 828 296

Camera’r Tincer

Cofiwch am gamera digidol y Tincer – mae ar gael i unrhyw un yn yr ardal fydd am ei

fenthyg i dynnu llun ar gyfer y papur o gyngerdd, cinio neu ddigwyddiad a gynhelir o fewn

ein dalgylch. Fe’i cedwir gan Mrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro, Bow Street

(( 828102). Os byddwch am gael llun eich noson goffi yn Y Tincer defnyddiwch y camera.

Cyhoeddir y Tincer yn fisol o Fedi i Mehefin gan Bwyllgor y Tincer. Argreffir gan y Lolfa, Tal-y-bont. Nid yw’r

Pwyllgor o angenrheidrwydd yn cytuno ag unrhyw farn a fynegir yn y papur hwn. Dylid cyfeirio unrhyw

newyddion i’ch gohebydd lleol neu i’r Golygydd, ac unrhyw lythyr neu ddatganiad i’r wasg i’r Golygydd.

Y mae pawb sy’n ymwneud â’r Tincer yn gwneud hynny’n wirfoddol ac yn ddi-dâl er budd y gymuned

leol. Nhw fel unigolion sy’n derbyn pob risg a chyfrifoldeb (cyfreithiol ac fel arall) gan dderbyn mai ar y

telerau hynny y maent yn cyfrannu at y papur a’i ddosbarthiad.

2

CYFEILLION Y TINCER

Dyma fanylion enillwyr Cyfeillion

y Tincer mis Ebrill 2013:

£25 (Rhif 18) W H Howells,

Rhyd-y-gof, Penrhyn-coch.

£15 (Rhif 237) W H Howells,

Rhyd-y-gof, Penrhyn-coch.

£10 (Rhif 15) Gwyn Jones, Glynteg,

Bow Street.

Fe dynnwyd y rhifau buddugol gan

aelodau o’r tîm dosbarthu yn festri

Bethlehem, Llandre pnawn Mercher

Ebrill 17.

Cysylltwch â’r Trefnydd, Bethan Bebb,

Penpistyll, Cwmbrwyno. Goginan, os

am fod yn aelod.

Am restr o Gyfeillion y Tincer gweler

http://www.trefeurig.org/uploads/

cyfeilliontincer2009.pdf

Enillydd

Llongyfarchiadau i Miss Mary Jones, Tŷ

Capel Pantglas, Llanilar - dyma’r ateb

cyntaf a gafwyd yng nghystadleuaeth ennill

y copi o gyfrol Angharad Edwards Deffro

(Gomer). Yr ateb oedd - Gwen Harding yw

prif gymeriad y nofel.

Casgliadau gwastraff dros Ŵyl Banc y

Sulgwyn (27ain o Fai)

Casgliadau fel arfer yn ystod yr wythnos

yma.

Cofiwch fod modd i chi - ers 1 Ebrill eleniailgylchu

Tetra Paks (cartonau cwyrog) a

pholystyren. Rhaid iddynt fod yn lân ac yn

wag o bob hylifau fel nad ydynt yn baeddu

eraill. Gellir eu rhoi gyda deunydd arall yn

y bagiau ailgylchu clir

20 MLYNEDD YN OL

Grŵp trafod llyfrau’r Borth

Yr awdur William Owen gyda grŵp trafod llyfrau’r Borth ar aelwyd Mabel a John

Rees, Talar Deg, Dolau

Ar Ebrill 6ed cafodd y grŵp trafod llyfrau gyfle i gwrdd â William Owen, sef awdur

y buont yn trafod ei lyfr yn un o’u sesiynau yn ystod y gaeaf. John a Mabel Rees,

Dolau, oedd yn croesawu’r grŵp i’w cartref y tro hwn.

Yn ei ddarlith dan y teitl ‘Tawelu’r Ysbrydion’ trafododd William Owen yr

ysgrif bortread fel ffurf lenyddol a dansoddodd yr ysfa sydd ynom i edrych yn

ôl ar oes a fu, ysfa sy’n gyffredin i nifer o ddiwylliannau. Dadleuodd mai nid

sentimentaleiddiwch oedd ysgrifennu am blentyndod ond rhannu profiadau,

profiadau personol ar y naill llaw ond profiadau dyniolaeth hefyd. Yna, eglurodd ei

gymhellion dros ysgrifennu Y Llanc Nad Yw Mwy sy’n un o dair cyfrol am ardal ei

fagwraeth ym Môn.

Yn dilyn ei ddarlith cafodd aelodau’r grwp gyfle i’w holi a chafodd pob aelod gopi

rhodd wedi ei llofnodi o’i gyfrol gyntaf. Paratowyd bwffet blasus ac anrhydeddus

gan John a Mabel Rees gyda chymorth Mrs Tegwen Pryse, gwledd oedd yn goron ar

noson gofiadwy. Edrycha’r grwp ymlaen yn awr at yr hydref pan fyddant yn trafod

chwe llyfr Cymraeg arall. O’r Tincer (Mai 1993)

Trist oedd clywed am farwolaeth Mabel Rees yn ddiweddar - gweler t.19

Eglwys St. Pedr, Elerch

Cynhelir wythfed noson noson flynyddol

o Gaws, Gwin a Chân yn Eglwys Elerch

ar Nos Wener, 28 Mehefin, i ddechrau am,

7-00pm. Gwahoddwyd Côr Gorau Glas

o ardal Powys i’n diddanu eleni, ynghyd

ag artisitaid eraill. Y Llywydd fydd Mrs

Carys Briddon, un o blant y pentref. Mae

tocynnau ar werth gan swyddogion yr

Eglwys am £7-00 (Plant: £2.00), neu, os

dymunir, gellir talu wrth y fynedfa ar y

noson.

GWASANAETH

CYFIEITHU

Linda Griffiths

Maesmeurig

Cwmsymlog

Aberystwyth

Ceredigion

SY23 3EZ

01970 828454

lindagriffiths01@btinternet.com

CINIO DYDD SUL

PRYDAU BAR

PARTÏON

BWYDLEN BWYTY

ADLONIANT

AR AGOR O 5:30 P.M.

NOSWEITHIAU IAU A GWENER

AM BRYDIAU TEULUOL

Ar hyn o bryd mae gwaith atgyweirio

arbenigol yn mynd yn ei flaen ar rai o

ffenestri’r Eglwys, a bydd cyfle i edmygu’r

ffenestri newydd adeg y cyngerdd.

ytincer@googlemail.com

3

Y TINCER | MAI 2013 | 359

LLANDRE

Eglwys Llanfihangel Genau’r-glyn

Gwasanaeth o Ddiolchgarwch

Ar Ebrill 16eg, cynhaliwyd gwasanaeth

o ddiolchgarwch yn Eglwys Llanfihangel

Genau’r-glyn a dathlu cwblhau y

newidiadau helaeth o fewn adain

orllewinol yr adeilad. Erbyn hyn mae

ystafell gyfarfod, cegin a thoiledau wedi

eu hychwanegu o fewn yr Eglwys. Gwnaed

anerchiad pwrpasol i gynulleidfa ac

aelodau clerigol lleol gan Esgob Wyn ac fe

gafwyd adroddiadau “The Vale of Llandre”

ysgrifennwyd gan y Parchg Isaac Williams

gan Ellen Jones ac Eisteddfod yn fy Stafell

gan Anwyn Jenkins.

‘Roedd y gwaith adeiladu ar newidiadau

a gwblhawyd o fewn byr amser wedi

creu argraff ac wedi plesio pawb oedd

yn bresennol a daeth yr oedfa i ben gyda

phaned a gwledd a baratowyd yn y gegin

newydd gan ferched yr Eglwys.

Diolchodd y Parchg Peter Jones i bawb

oedd wedi bod ynghlwm â’r fenter, a chan

fod Llanfihangel yn un o’r unarddeg o

addoldai o fewn gogledd Ceredigion sydd yn

y cynllun Llwybr Treftadaeth arfaethedig

bwriedir cynnal gwasanaeth pellach yn yr

Hydref.

Llenor ifanc

Llongyfarchiadau i Dylan Edwards am

ennill Tlws Llenyddiaeth i rai dan 19 oed

yn Eisteddfod Gadeiriol Talgarreg dydd

Sadwrn Mai 4.

Roedd 7 ymgeisydd, pob un wedi

ysgrifennu dau ddarn o lenyddiaeth.

Ysgrifennodd Dylan stori fer o’r enw

‘Hirnos’ a cherdd yn dwyn y teitl ‘Y

Sgrin’. Dywedodd y beirniad - Karina

Wyn Dafis, Llanbryn-mair - fod Dylan

yn amlwg wedi cael ei ddylanwadu gan

y byd ffilmiau yn y ddau ddarn, a’i fod

yn ysgrifennu fel cyfarwyddwr ffilm!

Enillodd hefyd ddechrau Mai y wobr

gyntaf yng nghystadleuaeth ar gyfer

Ysgolion Uwchradd yn Eisteddfod Teulu

James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid.

Yn ogystal cafodd Dylan wybod dros y Sul

diwethaf iddo gael dau 2il yn Eisteddfod

Gened;aethol yr Urdd - 2il am Ryddiaith

Bl 12/13 ac 2il am Farddoniaeth Bl. 12/13.

Llongyfarchiadau mawr iddo!

Cydymdeimlad

Cydymdeimlwn â Gwenda James, Lluarth,

Taigwynion a’r teulu, ar farwolaeth

cyfnither i Gwenda yn Nant-y-moel.

Pen-blwydd arbennig

Pen-blwydd hapus i Rhian Benjamin,

Taigwynion, ar ddathlu pen blwydd

arbennig yn ddiweddar.

Dyweddïad

Esgob Tyddewi Y Parchedig Wyn Evans

Nos Wener 4.30-9.00

Cychwyn 26 Ebrill 2013

Gwersi Gitâr

Tiwtor: Gerald Morgan, Tregaron

geraldmorganguitar@hotmail.co.uk

www.geraldmorganguitar.co.uk

Gitâr i’r Cristion

01974 299367

Canolfan Merched Y Wawr

Stryd yr Efail

Aberystwyth.

Llongyfarchiadau i Lisa Raw Rees, Tyn

Parc a Colin Patterson ar eu dyweddïad ar

nos Galan.

Marwolaeth

Trist yw cofnodi marwolaeth Camwy

Williams, Llwyn, ar Ebrill 23. Estynnwn

ein cydymdeimlad â Carwyn a Jemma

a’r teulu oll. Cynhaliwyd yr angladd yng

Nghapel Noddfa ar ddydd Mawrth Ebrill

30.

Cydymdeimlad

Cydymdeimlwn â Dylan a Dafydd Raw-

Rees ar farwolaeth eu brawd Hywel yn

Aberaeron ddiwedd yr wythnos ddiwethaf..

Roedd Hywel yn syrfëwr siartredig

fu’n reolwr gyda’r Ymddiriedolaeth

Genedlaethol yn Llannerchaeron cyn dod

yn bennaeth stadau gyda Chyngor Sir

Ceredigion.

4

359 | MAI 2013 | Y TINCER

Twrnament Pêl-droed

Ar benwythnos braf ond oer ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul Ebrill

6ed a 7fed cynhaliwyd y Twrnament Pêl-droed cyntaf i blant

ac ieuenctid o dan 16 oed o dan adain Clwb Pêl-droed Penrhyncoch

a than oruchwyliaeth Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru ar

Gae Baker, Penrhyn-coch.

Cynhaliwyd y twrnament er cof am Eric ac Arthur Thomas,

a oedd yn hoelion wyth y Clwb Pêl-droed a phentref Penrhyncoch

gyda pawb yn adnabod y ddau ac yn gwybod am eu

gweithgarwch dros y blynyddoedd yn y pentref . Roeddynt yn

gefnogol i bopeth ac fe fyddent wedi mwynhau gweld y plant

ifanc yn cymryd rhan. Braf oedd gweld Sioned a Catrin a’r

teuluoedd yn cyflwyno’r gwobrau ar y ddau ddiwrnod. Diolch

iddynt am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth.

Ar y dydd Sadwrn roedd gêmau o dan 7 oed yn yr ysgol, ac o

dan 11 a dan 14 ar Gae Baker, ac ar y dydd Sul o dan 9 oed, o dan

12 oed ac o dan 16 hefyd ar Gae Baker.

Cafwyd dros 50 o dimoedd dros y gwahanol oedrannau gyda

gêmau brwdfrydig yn cael eu chwarae o dan bob oedran o 5 a 6

oed i fyny at 16. Daeth tyrfa lu i wylio y plant yn chwarae ar y

ddau ddiwrnod gyda phawb yn mwynhau y bwrlwm a’r lleoliad.

Chwaraewyd y gêmau yn y modd gorau gyda brwdrydedd y

plant a’r ieuenctid yn dod trwodd, boed ennill neu golli.

Enillwyr y gwahanol oedrannau oedd:

Dan 9 oed - Bow Street

Dan 11 - Tal-y-bont

Dan 12 - Bont Teifi

Dan 14 - Bow Street

Dan 16- Penrhyn Swans gyda Chwaraewr y Twrnament yn

mynd i James Morgan, Bro Dysynni.

Mae ein diolch fel Clwb Pêl-droed i bawb a fu ynghlwm â’r

diwrnod yma. Mae’r nifer yn ormod i enwi ac edrychwn ymlaen

yn eiddgar ar gyfer twrnament 2014.

Diolch

Ar ran y teulu Thomas hoffwn ddweud diolch yn fawr mawr i

Glwb Pêl-droed Penrhyn-coch am drefnu yr Ŵyl ac am gadw

enwau Dad ac Arthur yn fyw yn y Clwb. Diolch i Gymdeithas

Pêl-droed Cymru am eu mewnbwn a’u presenoldeb yn ystod

y penwythnos. I’r holl chwaraewyr, rheolwyr a chefnogwyr

am droi allan yn llu. I’r merched fu wrthi’n brysur yn paratoi

bwyd a phaneidiau diddiwedd o de a coffi ac yn olaf - ond nid

yn lleiaf - i Kevin Jenkins. Roedd Dad yn meddwl yn uchel iawn

o Kev a byddai wedi bod yn hapus cael ei enw yn gysylltiedig â

thwrnament mor llwyddiannus, yn enwedig efo Kev wrth y llyw.

Sioned Thomas-Martin a Catrin Galbraith

James Morgan o Glwb Pêl-Droed dan 16 Bro Dysynni enillodd Darian Goffa Eric a

Gwenda Thomas am chwaraewr y twrnament. Fe’i gwelir yn ei derbyn gan y pedwar

w^ yr a wyres - Elisa, Wil, Owen a George.

5

Y TINCER | MAI 2013 | 359

CAPEL BANGOR / PEN-LLWYN

Oedfaon Pen-llwyn

Mai

19 10.00 Ifan Mason Davies

26 10.00 Terry Edwards

Mehefin

2 5.00 Nicholas Bee

9 10.00 Roger Thomas

16 10.00Ifan Mason Davies

23 5.00 Gweinidog

30 10.00 Gordon MacDonald

Croesawu a Ffarwelio

Mae’n bleser cael croesawu Carol ac

Edward Land i rif 11 Stad Pen-llwyn.

Cafodd Edward ei fagu yma, ac mae ef

a’i briod Carol wedi dychwelyd i’n plith.

Gobeithio y byddwch eich dau yn hapus

iawn yn eich cartref newydd, ac y bydd

atgofion bore oes yn llifo i’r cof. Croeso

cynnes yn ôl i Ben-llwyn.

Wrth groesawu, rhaid hefyd ffarwelio ag

Alma a Gordon Land a adawodd rhif 11 am

26 Ger-y-llan, Penrhyn-coch. Ni fu Gordon

yn dda ei iechyd yn ddiweddar ond da yw

dweud ei fod lawer yn well erbyn hyn.

Gobeithio y byddwch chwithau yn hapus

iawn draw yna ym Mhenrhyn-coch, ac y

cawn eich gweld yn ôl yn eich hen ardal o

dro i dro. Dymuniadau gorau i chwi eich dau.

Gwellhad Buan

Nid yw Mr Elwyn Jones, Abercwmdolau,

wedi bod yn dda ei iechyd yn ddiweddar,

ac wrth fynd i’r wasg, ‘roedd yn dal yn yr

ysbyty. Dymuniadau gorau iddo am wellhad

buan oddi wrthom ni i gyd ym Mhen-llwyn.

Amy y Bêl-droedwraig

Bu Amy Dryburgh, Maesmelindwr, yn

chwarae pêl-droed mewn gêm gyfeillgar

y mis diwethaf, yn erbyn tîm o fechgyn

ger Llandudno. Mentrodd Katy John,

Rhydyfelin, hefyd efo Amy i geisio trechu

y bechgyn, ond cyfartal oedd hi y tro hyn.

3:3. Canlyniad gwell y tro nesaf , efallai.

Daliwch ati, a phob hwyl.

Cylch Meithrin Pen-llwyn

Ymweliad - Fferm Cwmwythig

Diolch i Catrin ac Elystan Evans a Mr a Mrs

Arnold Evans, Cwmwythig, am groesawu

plant Cylch Meithrin Pen-llwyn i’w fferm ar

fore hyfryd ar ddydd Iau yr 2il o Fai. Gwelir

Elystan ac Arnold Evans yn dangos eu lloi

bach i’r plant mewn un llun ac Ania, merch

Catrin ac Elystan Evans, yn arwain y plant

yn y llun arall, yng nghwmni Shirley Evans

a Tracy Exley o’r Cylch ac Elen Howells,

un o’r mamau. Cafwyd llawer o hwyl ac

addysg am waith ffarm a chael cip agos ar

odro gwartheg, lloi bach, ŵyn, moch a cŵn

bach ac amryw o’r plant nawr am anelu at

weithio ar fferm.

Er cof am Mrs Myfanwy Thomas

Daeth ton o dristwch dros ardal gyfan,

pan ddaeth y newyddion fod Mrs Myfanwy

Thomas, Troedrhiwlwba, Capel Bangor,

(Fanw fel yr adnabyddid hi) wedi huno yn

Hafan y Waun, Aberystwyth yn 89 mlwydd

oed.

Ganwyd hi yr ieuangaf o bedair o ferched

i Morgan a Mary Morris, Gwarfelin,

Rhydyfelin, Aberystwyth. Priododd â’r

diweddar Glynne Thomas Troedrhiwlwba,

a buont yn byw yma drwy gydol eu hoes.

Cawsant eu bendithio â phump o blant,

Eifion, Mair, Wynne, Trevor a Phyllis.

Bu Fanw yn weithgar iawn drwy ei

hoes, yn enwedig ar yr aelwyd yn ei

chartref. Roedd yn aelod brwd o Sefydliad

y Merched, ac hefyd yn aelod yng nghapel

Moreiah.

Cefnogodd bwyllgor gweithiol y neuadd

am flynyddoedd pan oedd ei phriod yn

gadeirydd y pwyllgor. Gwelid hi bob amser

yn y gegin, yn cynorthwyo gyda’r bwyd pan

cynhelid gyrfaoedd chwist, a chyngherddau

ac ati. Gwireddwyd hi a’i phriod eu

dymuniad, pan o’r diwedd adeiladwyd y

neuadd a’i hagor ym 1972.

Trist oedd y teulu pan ddirywiodd ei

hiechyd a gorfod iddi ymgartrefu yn Hafan

y Waun, ble y cafodd pob gofal bosib.

Roedd bob amser yn sionc a diolchgar o

weld y teulu, a buont hwythau yn ffyddlon

iawn i’w mam yn ymweld yn gyson. Hefyd

byddai gwên bob amser i unrhyw un a

fyddai yn ymweld â hi.

Cynhaliwyd yr angladd yng nghapel Penllwyn

ar 20fed o Ebrill, pan ddaeth cynifer

ynghyd. Roedd y gwasanaeth yng nghofal

y Parchedig Ifan Mason Davies, yn cael ei

gynorthwyo gan y Parchedig ion Wyn Rhys

Morris, Geoffrey Thomas a Nicholas Bee.

Chwaraewyd yr organ gan Mrs Heulwen

Lewis.

Estynnwn ein cydymdeimlad â’r plant,

yr wyrion a’r cysylltiadau oll. Coffa da am

wraig hoffus.

Helfa Wyau

Diolch i bawb a ddaeth, ac a gyfrannodd,

i ein Helfa Wyau blynyddol. Fe wnaeth

yr eira a’r tywydd oer bron ein trechu ni

a gorfu i ni newid y dyddiad a’r lleoliad o

6

359 | MAI 2013 | Y TINCER

Ysgol Mynach i Ysgol Pen-llwyn, ond serch

hyn cawsom brynhawn llwyddiannus gyda

dros £450 yn cael ei godi. Diolch i gynllun

£1 am £1 Barclays bydd y cyfanswm hyn yn

codi eto i helpu coffrau’r Cylch yn ei gwaith

hynod yn darparu addysg cyntaf i blant

2-4 oed o ardaloedd Pen-llwyn, Mynach a

Phonterwyd.

Diolch i Ysgol Pen-llwyn am y croeso ac am

y defnydd o’i adeilad a lle chwarae i guddio y

cliwiau. Mae hefyd rhaid diolch i noddwyr ein

raffl Canolfan y Celfyddydau, Siop y Pethe,

Canolfan Hamdden Plas-crug, Sunbourne

Leisure yn Clarach, T J Davies, McDonalds,

Fferm Ffantasi Llanrhystud, Maesbangor

Arms, Play Planet, New Cross Motors, Druid

Inn, Argos, H20 Hayley a Christa o H20 a’n

prif noddwyr Statkraft, Cwmrheidol. Diolch

yn fawr iddyn nhw i gyd.

Canlyniadau Clwb 200 Mis Mawrth

1af Mrs Beatrice Lewis, Gyfarllwyd,

Ponterwyd

2il Iwan Davies, Pen y Graig, Pisgah

3ydd Mike Exley, 111 Ger-y-llan,

Penrhyn-coch

4ydd Ania Evans, Ardwyn, Capel Bangor

Llongyfarchiadau a diolch am eich

cefnogaeth.

Eglwys Dewi Sant

Cynhaliwyd Te Pasg yr Eglwys ar

brynhawn braf, ar ddydd Sadwrn, 29

Mawrth 2013. Un o’r gweithgareddau a

drefnwyd oedd yr Helfa Wyau Pasg. Braf

iawn oedd gweld cynifer dda o blant ac

oedolion yn bresennol. Cychwynwyd yr

helfa o Neuadd yr Eglwys gan fynd ar ein

taith i gyfeiriad Pentrerhibyn. Cafwyd

tipyn o hwyl wrth chwilota am yr wyau.

Cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau

eraill yn ystod y prynhawn. Addurno Croes

Pasg gyda blodau, raffl, dyfalu faint o wyau

pasg oedd mewn jar, helfa drysor a llywio.

Ar ddiwedd yr helfa, cafwyd te hyfryd a

blasus yn y neuadd. Diolch i bawb a fu’n

cynorthwyo, gan wneud y prynhawn yn

llwyddiannus, a hynny mewn gwahanol

ffyrdd. Diolch am eich cefnogaeth.

Priodas Arian

Llongyfarchiadau calonnog i Dr. Chris

a Mrs. Alison Little, Brynteg ar ddathlu

ohonynt eu priodas arian ar y 25ain o’r mis

yma. Mae Alison yn esiampl i lawer drwy

iddi feistrioli yr iaith gymraeg a’i siarad

mor rhugl. Mae yn aelod brwd o Ferched

y Wawr ac yn ymdoddi i weithgareddau’r

ardal. Dymuniadau gorau, mwynhewch y

dathlu yng nghwmni eich teulu hoff.

Capel Pen-llwyn

Bore Sul 5ed o Fai, cafwyd oedfa deuluol

dan arweiniad ein Gweinidog, y Parch Wyn

Rhys Morris.

Cymerwyd y rhannau arweiniol gan blant

yr Ysgol Sul a hyfryd oedd gweld eu rhieni

hefyd yn y gwasanaeth arbennig hwn.

Dangoswyd i’r plant luniau ar y sgrin

yn egluro dameg y Ddafad Golledig. Yna

aethant allan i’r festri i wneud eu taflenni

gwaith ac yn ôl i’r capel i’w dangos wedi’r

bregeth. Cafwyhd oedfa fendithiol iawn.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau i Paul a Lowri, Manteg

ar enedigaeth eu hail ferch, Anwen Mair.

‘Rwy’n siwr fod Ffion yn falch iawn o’i

chwaer fach newydd. Pob dymuniad da.

Priodas Aur

Llongyfarchiadau cynnes i Mr. a Mrs.

Maldwyn James, Afallon ar ddathlu

ohonynt eu Priodas Aur ar y 10fed o Fai.

Pob dymuniad da i’r dyfodol i chi eich dau

oddi wrth bob un o’r ardal.

Paneli Solar ar gyfer Neuadd Pen-llwyn,

Capel Bangor

Mae paneli solar wedi eu gosod ar do

Neuadd Pen-llwyn, Capel Bangor, ers dros

flwyddyn bellach. Nôl ym mis Tachwedd

2011 penderfynodd Pwyllgor y Neuadd

edrych ar sefyllfa defnydd a chostau ynni’r

Neuadd gan bod costau trydan yn codi bob

blwyddyn. Cafwyd archwiliad defnydd

Alaw a Llŷr yn mwynhau yn ddiweddar yn

Bluestone - gwobr ar ôl ennill

cystadleuaeth fach ar Gweplyfr (Facebook).

ynni’r Neuadd gan Ynni i Fynnu, menter

sy’n helpu grwpiau ac adeiladau cymunedol

i fod yn fwy effeithlon gyda’i defnydd o

ynni. Un o’r argymhellion oedd gosod

system solar a fyddai yn creu ynni a hefyd

creu incwm, trwy daliadau yn ôl ar gyfer

yr ynni sy’n cael ei greu. Aeth y Pwyllgor

ati i ymchwilio yn fwy manwl, a chafwyd

cyngor gan gwmni lleol Clear Solar ynglŷn

â pha system fyddai orau o ran maint,

lleoliad ag ati. Penderfynwyd mynd am

system 2.4 Killowatt, sef 8 panel, mewn

dwy res ar do cefn y Neuadd.

Roedden yn lwcus fod y prosiect wedi ei

gwblhau mewn pryd, ac wedi ei gofrestru

o fewn diwrnod o’r dyddiad cau, sef 1af

Mawrth 2012, er mwyn diogelu ein bod yn

derbyn taliad o 45 ceiniog fesul kilowatt o

ynni sy’n cael ei gynnhyrchu am gyfnod o

25 mlynedd. Bu tîm Clear Solar yn hynod

o broffesiynol, ac roedden yn lwcus ei bod

yn cynnwys, Aled Jenkins, Pandy, fel y

trydanwyr a wnaeth yn siŵr fod popeth yn

gweithio mewn pryd.

Cawsom gefnogaeth hael gan Cyngor

Cymuned Melindwr ar gyfer y prosiect

mewn cyfraniad o £3,000 tuag at gostau

gosod y system. Mae’r system bellach

wedi bod yn gweithredu ers dros flwyddyn

bellach wedi cynhyrchu 2181 Killowatt o

ynni ar gyfer y Neuadd a rhoi taliad o

£1000 mewn incwm. Yn ogystal â hyn mae

ein costau defnydd ynni wedi disgyn ac

rydyn fel Pwyllgor yn medru cadw costau

llogi’r Neuadd yn isel a gwneud yn siŵr

fod y neuadd yn hunan cynhaliol ar gyfer y

dyfodol.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i

Eluned a Gareth Lewis, Brynmeirion, ar

enedigaeth mab - Gryffydd Meirion - ar 11

Mai; brawd bach i Sara Mair.

7

Y TINCER | MAI 2013 | 359

PENRHYN-COCH

Suliau

Horeb

Mai

19 10.00 Oedfa ar y cyd ym Methel

Gweinidog

26 10.30 Oedfa bregeth Gweinidog

Mehefin

2 2.30 Oedfa gymun Gweinidog

9 Taith i Benfforddlas

16 2.30 Oedfa bregeth Gweinidog

23 10.30 Oedfa bregeth Y Parchg

Peter Thomas

30 10.30 Oedfa bregeth Gweinidog

Cinio Cymunedol Penrhyn-coch

Bydd y Clwb yn cyfarfod yn Neuadd yr

Eglwys dyddiau Mercher 22 Mai, 12 a 26

Mehefin. Cysylltwch â Job McGauley 820

963 am fwy o fanylion neu i fwcio eich

cinio.

Tywydd

Roedd mor braf cael tywydd cynnes

heulog dros ŵyl y Banc. Cofnodwyd

20ºC yng Ngogerddan, amser cinio dydd

Mawrth 7 Mai am 12:00. Trueni iddi

newid yn wynt a glaw wedyn!

Adroddiad da

Llongyfarchiadau i Gylch Meithrin

Trefeurig ar gael adroddiad Estyn da yn

ddiweddar - gweler adroddiad misol y

Cylch isod.

Dathlu 150 Ysgol

Bydd penwythnos o ddathlu 150 mlynedd

Ysgol Penrhyn-coch ar Fedi 13-15.

Cynhelir disgo yn y Clwb nos Wener,

diwrnod agored yn yr Ysgol brynhawn

Sadwrn 14 pan fydd hefyd arddangosfa o

hen luniau yn Neuadd yr Eglwys. Os oes

gan unrhyw rai luniau o’u cyfnod yn yr

ysgol mae’r Pwyllgor Dathlu yn gwneud

apêl i gael eu benthyg i’w hystyreid ar

gyfer yr Arddangosfa. gellir eu gadael

d/o Lynwen Jenkins gan nodi dyddiad lle

mae’n bosibl. Nos Sadwrn bydd cyngerdd

yn Neuadd y Penrhyn a gwahoddir cyn

ddisgyblion a rhieni i ymuno â Chôr

Eisteddfod Penrhyn-coch ar gyfer canu

Y plant yn Fferm Pen-banc.

yn y cyngerdd. Bydd y dathlu yn gorffen

gyda ras dractors ar y bore Sul.

Cylch Meithrin Trefeurig

Ym mis Mawrth cafodd y Cylch arolwg

Estyn. Adroddodd yr arolygydd bod

perfformiad presennol y lleoliad a

rhagolygon gwella’r lleoliad yn dda. Mae’r

holl blant yn cael eu cefnogi’n dda ac yn

elwa o gwricwlwm sy’n eang, cytbwys

a diddorol. Mae’r arweinydd, staff a’r

pwyllgor rheoli yn rhannu gweledigaeth

glir. Mae bron pob un o’r plant yn hunan

hyderus wrth wybod eu bod yn cael eu

cefnogi’n dda a bod ganddynt dasgau

diddorol sydd wedi eu darparu ar eu cyfer.

Os ydych am weld yr adroddiad cyfan,

ewch i www.estyn.gov.uk. Hoffwn ddiolch

i bawb wnaeth helpu yn ystod cyfnod yr

arolwg.

Y tymor yma rydym wedi cymryd

mantais o’r tywydd braf. Ein thema yw

adar ac anifeiliaid. Aethom ni am dro i

Cwmbwa i weld yr hwyaid ac am dro i Penbanc

i weld yr ŵyn bach. Diolch yn fawr am

y croeso gawsom.

Fe wnaeth nifer fawr o blant y Cylch

gystadlu ar y nos Wener yn Eisteddfod

Penrhyn-coch. Da iawn chi i gyd am ganu

a llefaru mor dda. Yn fuddugol yn yr unawd

oedd Lily-Ann, gyda Daisie May yn ail ac

Osian yn drydydd. Yn y llefaru Osian oedd

yn gyntaf, gyda Lily-Ann yn ail a Daisie May

yn drydydd. Hefyd daeth y parti llefaru yn

ail. Llongyfarchiadau i chi gyd.

Merched y Wawr

Nos Fawrth 10ed o Ebrill aeth y gangen

i ymweld â Hyfforddiant Ceredigion yr

Uned Harddwch yn Llanbadarn Fawr.

Cafwyd croeso cynnes iawn gan Vanessa

Evans a’i Chyd Hyfforddwyr, hefyd gan

y Myfyrwyr, rhain i gyd wedi rhoi o’i

noson er mwyn i ni Aelodau Merched y

Wawr gael ein maldodi. Fe gafodd rhai

ohonom ei gwallt wedi ei drîn, eraill

eu hewinedd a’u dwylo ac un arall ei

hwyneb wedi ei goluro.

Cafwyd yr holl hanes sut i drîn a

chadw y gwallt yn iach ac ewinedd ac

yn y blaen. Yna aeth y Myfyrwyr ati i

harddu bob un ohonom.

Ar wahân i Vanessa yr oedd Rhian

Rees a Lynwen Wells yr Hyfforddwyr

eraill yn cadw llygad ar y Myfyrwyr yn

eu gwahanol ystafelloedd. Ar y noson,

roedd rhai or Myfyrwyr ar brawf a

gorfod dangos sut oeddynt yn ymdopi

a’u gwaith coleg. Fel cangen, roeddem

yn falch o gael y dysgwyr yn ein plith ac

yr oedd pob un ohonynt yn hapus yn ein

plith ni hefyd.

Chwarae teg fe wnaeth pob un ohonynt

waith gwych a dymuwn yn dda iddynt yn

eu gyrfa i’r dyfodol. Deallir fod yr uned

yn derbyn pawb i droi i fewn i gael trin eu

gwallt ac yn y blaen, unrhyw adeg. Mae’r

uned hefyd yn derbyn plant ysgolion

uwchradd a cholegau o Geredigion a thu

fas i’r Sir i ddod i ymweld â hwy.

Diolchwyd ar ran y gangen yn

swyddogol gan Wendy Reynolds,

diolchodd am noson ddiddorol dros ben

ac am y cwpanaid a gawsom yn ystod

noson. Trueni na fuasem wedi trefnu

i fynd allan i rhywle i fwynhau a chael

dangos yr holl harddwch. Ond gartref

aeth pawb yn edrych yn ddeniadol dros

ben.

8

359 | MAI 2013 | Y TINCER

MADOG

Cydymdeimlad

Cydymdeimlwn â Sarah ac Emyr

Evans, Megan ac Ifan, 18 Maesyrefail,

ar farwolaeth tad Sarah - Trefor

Humphreys, gynt o’r Borth, yn Ysbyty

Bron-glais ar 7 Ebrill.

Swydd newydd

Llongyfarchiadau i Meleri Jones,

Rhydyrysgaw, ar gael ei phenodi yn

Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Gyfun

Gymraeg Llangynwyd, Maesteg.

Oedfaon Madog

2.00

Mai

19 Bugail

26 R W Jones

Mehefin

2 Bugail

9

16 Bugail

23 Eric Greene

30 Christopher Prew

Rhedwraig

Llongyfarchiadau i Bev Thomas, Garn

Wen, am redeg Marathon Llundain

mewn 5 awr 49 munud a 59 eiliad!

Urddo’n Llywydd

Dymuniadau Gorau i Mrs Mairwen

Jones a fydd yn cael ei hurddo’n Llywydd

Senana Cymanfa Bedyddwyr Caerfyrddin

a Cheredigion yng Nghyfarfodydd y

Gymanfa ym Mhen-parc ganol Mai ganol

Mai.

Genedigaethau

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau

i Ellen ac Iwan Hywel, Tre-garth, ar

enedigaeth efeilliaid ar Ebrill 23. Ganwyd

Cernyw Hywel a Gerallt Hywel, brodyr

i Elliw Hywel; dau ŵyr i Mair Davies,

Meurig Cottage.

Llongyfarchiadau i Bryan a Ceinwen

Jones, Bodorgan, ar ddod yn dad-cu a

mam-gu . Ganwyd mab ym Mron-glais

- Ianto Tomos Thomas i Iona a Rob

Thomas, Aberaeron ar 28 Ebrill. Brawd

bach i William, Ella a Lydia.

Llywydd

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau

i’r Parchg Wyn Rh. Morris, Berwynfa, ar

gael ei ethol yn Llywydd Sasiwn y De,

Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Croeso

Croeso a dymuniadau gorau i Alma a

Gordon Land sydd wedi symud o Benllwyn

i 26 Ger-y-llan.

Beth, pwy, ble?

Diolch

Dymuna Gwyneira Marshall ddiolch o

galon am y cardiau, blodau, galwadau

ffôn ac ymwelwyr a dderbyniodd

ar ôl llawdriniaeth yn yr ysbyty yn

ddiweddar.

Gwellhad buan

Dymunwn wellhad buan i Gwen

Griffiths, Brogynin Fach, sydd ar hyn

o bryd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty

Treforys.

Dymuniadau gorau

Dymunwn yn dda i Tirion Lewis fydd yn

dilyn cwrs Cam wrth Gam sy’n rhoi cyfle

i fyfyrwyr ennill cymhwyster Diploma

Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad

Plant yn y gweithle. Bydd yn gwneud

blwyddyn o hyfforddiant yng Nghylch

Meithrin Trefeurig.

Cynhyrchu Doctor Who

Llongyfarchiadau i Brian Minchin,

River Mead, ar gael ei benodi yn

gynhyrchydd gweithredol newydd y

gyfres Doctor Who. Bydd yn gweithio

ar y cyd â Steve Moffat. Ymunodd

Brian ag Adran Ddrama BBC Cymru

Wales ym 2005, cyn cychwyn fel

golygydd sgriptiau ar ‘Belonging’ ac

wedyn Doctor Who. Yn y llun gwelir

Brian ar leoliad adeg ffilmio y gyfres

ddiweddaraf o Torchwood.

Ar y teledu

Bu Erwyd Howells, Tŷ Capel Madog, yn

sgwrsio gyda Dewi Prysor am ddynion

hysbys ar y rhaglen ‘Darn bach o hanes’ yn

ddiweddar.

Llongyfarchiadau i Siân Mari Evans gafodd

gyntaf am lefaru Dosbarth Derbyn yn

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-coch nos

Wener 26 Ebrill.

Brian Minchin

Lluniau: Arvid Parry-Jones

9

Y TINCER | MAI 2013 | 359

Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch 2013

Llun: Arvid Parry-Jones

Parti Delyth - 1af yn y Parti Llefaru

Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Penrhyncoch

yn Neuadd y Penrhyn nos Wener a

dydd Sadwrn 26-27 Ebrill.

Cafwyd cystadlu o safon uchel yng

nghyfarfod nos Wener - mae’n diolch yn

fawr i brifathro, staff , rhieni a disgyblion

Ysgol Penrhyn-coch am fod mor gefnogol yn

flynyddol. Yr arweinyddion oedd Gregory

Vearey-Roberts, Rhian Gareth, Cemlyn

Davies ac Emyr Pugh-Evans.

Beirniaid eleni oedd: Nos Wener: Cerdd:

Pete Leggett, Dolau; Llefaru: Catrin Mai,

Tal-y-bont. Cerdd: Ann Atkinson, Corwen;

Llên a llefaru: Mair Wyn, Brynaman.

Y cyfeilyddion oedd - nos Wener:

Heddwen Pugh-Evans, Y Borth; dydd

Sadwrn: Lowri Guy, Caerdydd.

Llywyddion eleni oedd - nos Wener: Glenys

Morgan; pnawn Sadwrn: Dafydd Sheppard

a nos Sadwrn: Ceris Jones, Waun-fawr. Mae

Glenys a Dafydd yn byw ac yn weithgar yn

y pentret, mae gan Ceris gysylltiadau â’r

petnref drwy deulu Llwyn Gronw. Soniodd

yn ei haraith mai ei mam-gu osododd carreg

sylfaen Neuadd y Penrhyn ym 1953.

Llongyfarchiadau i bawb a fu yn

llwyddiannus a diolch i bawb o bell ac agos

am gefnogi’r eisteddfod.

Bu cystadlu brwd am Dlws yr Ifanc - gâi

ei roi eleni am waith cerddorol. Daeth saith

cyfansoddiad i law a llongyfarchiadau i bob

un. Yn ôl Ann Atkinson, y beirniad, roedd yn

gystadleuaeth anodd i’w beirniadu oherwydd

y safon!

Gellir gweld y feirniadaeth lawn ar wefan

Trefeurig http://www.trefeurig.org/

Canmolodd y beirniad pob cyfansoddwr

ond yn arbennig Robin Goch am ‘Y Gymraeg’

oedd mor agos i’r brig. Ond enillydd eleni

oedd Pantycelyn gyda ‘Ymdeithgan y Werin’.

Diolchodd am gystadleuaeth mor rhagorol.

Roedd Ymdeithgan y Werin - (Pantycelyn)

yn gyfanwaith ar gyfer chwech allwedd /

piano trydanol a drwm.

“Dyma gyfansoddiad cyffrous tu hwnt.

Gyda’r dewis o amseriad 8/8 yn ddiddorol.

Mae’r ymdeithgan yn tyfu ac yn ehangu yn

effeithiol dros ben rhwng yr adrannau. Hefyd

mae’r cyfuniad o’r offerynnau a’r newid

amseriad yn creu cyffro. Mae’r strwythur

a’r daith yn bleserus iawn gyda defnydd o

harmonïau addas dros ben. Llongyfarchiadau.

Cyffrous iawn.”

Cyhoeddwyd enw’r enillydd - sef Eilir

Pryse o Ben-y-graig, Aberystwyth. Mae

Eilir yn wyneb cyfarwydd iawn i lwyfan

Eisteddfod Penrhyn-coch a dyma’r ail

waith iddo ennill Tlws yr Ifanc - enillodd y

Tlws pan roddwyd ef am waith cerddorol

gyntaf yn 2009 pan oedd yn ddisgybl yn

Ysgol Uwchradd Tregaron. Mae erbyn hyn

yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol

Aberystwyth. Cyfansoddodd y darn yn

wreiddiol fel rhan o waith cwrs lefel A

cerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Tregaron.

Mae’n ddiolchgar am yr arweiniad a’r

cymorth a roddwyd iddo. Llwyddodd i

ennill cystadleuaeth cyfansoddi Ffanffer

ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

yn Llanerchaeron yn 2010 pan glywyd

y ffanffer ym mhrif seremonïau yr ŵyl.

Mae’n adnabyddus drwy’r ardal am ei

ddoniau llefaru ond hefyd mae’n gerddor o

fri - yn aelod o Philomusica a Band chwyth

y Brifysgol ac yn gyn aelod o Gerddorfa’r

Tair Sir, Band Pres y Tair Sir, a Band Pres

Aberystwyth ar yr offerynnau taro. Mae

hefyd yn arweinydd Côr Pantycelyn ac fe’i

welwyd yn eu harwain yng Nghystadleuaeth

Côr Cymru eleni ynghyd â chanu gyda

Côr Ger-y-lli. Person prysur iawn.

Llongyfarchiadau mawr iddo am ei holl

orchestion.

Roedd y gadair yn wobr am gerdd heb fod

dros 50 o linellau ar y testun ‘Perthynas’.

Cafwyd 27 yn cystadlu eleni - mwy nac erioed

- siwr fod gweld y gadair hardd a wnaethpwyd

gan Gwmni MijMoj o Lanfairfechan ac

a roddwyd gan Dr Huw Martin Thomas,

Ger-y-llan, er cof am ei rieni - Martin a

Gwenda Thomas wedi denu cystadleuwyr.

Penderfynodd y beirniad mai eiddo Powys

Arwen Exley yn ennill y wobr gyntaf unawd

blwyddyn 3-4 nos Wener

Sioned Exley - 1af unawd ysgol uwchradd

Dafydd Sheppard - Llywydd pnawn Sadwrn

Gregory Roberts - 1af alaw werin agored

oedd y gadair am gerdd Gwreiddiau a

phan safodd y bardd buddugol gwelwyd

mai’r enillydd oedd John Meurig Edwards,

Aberhonddu - a enillodd y llynedd hefyd.

Llongyfarchiadau hefyd i Dorothy Jones,

Llan-gwm - beirniaid llên a llefaru y llynedd.

Hi fydd yn derbyn Medal T.H. Parry Williams

eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

10

359 | MAI 2013 | Y TINCER

Cynnyrch Eisteddfod Gadeiriol Penrhyn-Coch 2013

Cystadleuaeth y Gadair

Perthynas

Ciliodd hanner canrif

ers cefnu ar fro mebyd;

bro’r mawn a’r mynydd,

bro’r llynnoedd a’r llonyddwch,

bro’r nentydd a’r mudandod mwyn.

Dyma’r crochendy

lle mowldiwyd fy nghlai;

lle cefais gadernid yng ngwres ei dân,

cyn rhoi’r sglein terfynol

i’m llestr amrwd.

Minnau yn llathreiddrwydd ieuenctid

yn gadael,

ar antur wynebu’r byd.

Anfynych fu’r dychwelyd,

a llaciodd yr hualau

yn nhreigl y blynyddoedd.

Mewn coleg a dinas,

ambell blwc ar linynnau’r galon

yn dwyn i gof

ddyddiau ysgafnfryd

yr unigeddau digyffro,

a’r cyfoedion a ymddieithriodd.

Bwrw gwreiddiau

mewn bro alltud.

Er mwyned ei thir,

er hynawsed ei phobl,

llac yw’r cadwynau

a’m hangorant i’w daear.

Estron yw’r iaith,

ac amhersain ei hacenion.

A’r cymdogion prin eu sgwrs

sy’n cadw’r pellter parchus.

Ar daith atgofus

i’r henfro,

dieithr yw’r wynebau

ar stryd y pentref,

a chladdwyd yr iaith

ym meddrodau’r plwy’.

Ond caf eto ymgolli

yng nghofleidiad y bryniau,

a chusan croeso’r awel ar fy ngrudd.

Bydd dŵr y nant drachefn

yn sibrwd ei gyfarchiad,

ac ar lwybrau maboed

caf deimlo eilwaith

rym y perthyn.

Powys: John Meurig Edwards, Aberhonddi

Cerdd sy’n olrhain yn gelfydd berthynas y bardd â’i

henfro. Hoffais yn fawr gynildeb y mynegiant celfydd a’r

diweddglo cynhwysfawr. Mair Wyn (Beirniad)

Telyneg

Gyda’r hwyr

(pâr priod, y noson olaf cyn mynd i gartref henoed)

Tyrd, gad inni swatio

Am ychydig,

Cyn cau’r llenni

Ar ddagrau’r dydd.

Swatio a chofio.....

Caeau’r ddôl,

Ar ddydd cynhaeaf,

Fel cwrlid aur

Rhwng gwnïad clos

O gloddiau terfyn.

Y plant yn gewri’r gowlas,

A bywyd yn braf.

Y don yn torri

Ar Gaer Arianrhod

A sgert yr Eifl

Yn gwlychu’r godrau

Yn nŵr yr heli.

Mynyddoedd Wiclo

Yn y pellter

Yn ein hudo

I Erin

Hyd lwybr machlud.

Wel’di,

Mae’r ddraenen wen

Yn bwrw’i chonffeti,

A pherthi’r rhos

Yn drwm gan wyddfid.

Awelono’r Lôn Wen

yn cosi’r gwrychoedd,

A’r haul

Yn mwytho’r tonnau.

Tyrd,

Trysora’r llun

Cyn cau’r llenni

Yn araf,

Araf bach.

Mona Thomas, Pen-y-groes, Gwynedd

Englyn digri

Y Ddannoedd

O ddyn! Trychineb yw’r ddannoedd – y poen

Yn pannu fel nadroedd,

Blin a chythryblus pob bloedd

Udo a wnes am hydoedd.

Y Parchg Judith Morris

11

Y TINCER | MAI 2013 | 359

Dychwelyd at Golff

Cynnig Aelodaeth

7 mis am bris 6 mis

Ar gael o Fehefin 1 af

Mae’r cynnig ar agor i aelodau newydd, neu i

gyn-aelodau o Glwb Golff Borth ac Ynyslas

a oedd yn aelodau cyn 2012.

Mae hwn yn gynnig aelodaeth categori A.

e-bost: secretary@borthgolf.co.uk Ffôn: 01970 871 202

Mae’r cynnig

hefyd yn cynnwys

rownd o golff am

ddim mewn 7 o

gyrsiau safonol

dros Gymru.

@BorthYnyslasGC

golf_cymraeg.indd 1 09/05/2013 20:35

Mae antur yn aros amdanoch…

Dewch i ddarganfod traethau ysblennydd, teithiau cerdded hyfryd

a rhaglen weithgareddau yn llawn cyffro. Neu ymwelwch ag un o’n

hatyniadau gwych i’r teulu cyfan: teithiwch yn ôl mewn amser a

darganfod eich rhyfelwr mewnol yng Nghastell Henllys, ymunwch

â’r hwyl ganoloesol yng Nghastell Caeriw, neu manteisiwch ar gyfle

i fod yn artist yn Oriel y Parc.

Cewch fwy o wybodaeth ar www.arfordirpenfro.org.uk.

Ymwelwch â’n stondin yn Eisteddfod yr Urdd i ddarganfod diwrnod allan gwych.

12

359 | MAI 2013 | Y TINCER

Cyngor Cymuned Tirymynach

Cyfarfu’r Cyngor uchod ar nos Iau 25

Ebrill yn Neuadd Rhydypennau o dan

gadeiryddiaeth y Cyng. Heulwen Morgan.

Bydd y cyfarfod nesaf ar 30 Mai am

7.30, yn y neuadd a hwn fydd y Cyfarfod

Blynyddol. Anogir y trethdalwyr lleol i

fod yn bresennol, ac i godi unrhyw fater o

ddiddordeb iddynt yn yr ardal.

Diolchwyd i’r Cynghorwyr Gwynant

Phillips a Harry Petche am eu gwaith

dros y cyngor am nifer o flynyddoedd,

mae’r ddau wedi ymddiswyddo ers y

cyfarfod cynt. Gan fod hawl gan y cyngor

i gyfethol aelodau, fe wnaed hynny yng

nghyfarfod Mawrth, ac mae’r ddwy a

enwyd wedi derbyn y swyddi. Byddant yn

cael eu croesawu yn y cyfarfod nesaf. Y

ddwy yw Meinir Jones o ystad Cae Rhos, a

Ann Lydia Davies o ystad Cae’r Odyn.

Ar awgrym y Cyng. Sian Jones,

Caergywydd penderfynwyd cefnogi

yr enw Cain Fallen ar yr ystad newydd

yng nghae Caergywydd. Argymellir i’r

enw gael ei dderbyn gan y Cyngor Sir a’r

datblygwyr.

Parthed y gorlifiad dŵr o gae chwarae

Tregerddan, adroddodd y Cyng. Paul

Hinge iddo ef a’r Cyng. Vernon Jones

gyfarfod â chynrhychiolydd o Brifysgol

Aberystwyth y diwrnod cynt, addawodd

ef, sef Mr Huw Williams y byddai’r gwaith

o draenio’r tir yn cychwyn gynted ag y

byddai’r tywydd yn caniatau.

Daeth cynrychiolydd cwmni offer

chwarae o Wrecsam i gyfarfod â’r clerc

parthed offer i faes chwarae Bryncastell,

ond roedd eu cyfarpar yn llawer rhy fach.

Disgwylir cynrhychiolydd o gwmni ym

Methesda i alw heibio’n fuan.

Mae’r meinciau newydd yn y broses o

gael eu gosod, dwy ger Tregerddan, (un

gyferbyn â Swyddfa’r Post), y llall ger

Ysgol Rhydypennau (gyferbyn â Llysafan).

Adroddodd y clerc mai Rheidol Garden

Services (Capel Bangor) fydd yn gyfrifol

am dorri porfeydd y Cyngor eleni.

Yn ei adroddiad misol dywedodd y

Cyng. Paul Hinge, y bydd y blwch postio

yn dychwelyd i le cyfleus yn fuan ym

Mlaenddôl. Bydd hefyd yn ymgyrchu i

gael arwyddion mwy o faint yn cymell

pobl i beidio mynd a chŵn i faes chwarae

Tregerddan.

Mae nifer o enghreifftiau o fandaliaeth

wedi digwydd yn yr ardal yn ddiweddar.

Ffenestri yn cael eu malu yng Nghapel

Noddfa, poteli yn cael eu torri wrth y

siglenni ym maes chwarae Tregerddan, a

fflodiart wedi ei thynnu ymaith ar yr afon

Ceiro, ar ffin dwy fferm. Mae heddwas

y gymuned yn gwneud ymchwiliadau ar

hyn o bryd.

Doedd yna ddim ceisiadau cynllunio

gerbron y cyngor, nag adroddiadau am

geisiadau blaenorol. Mae’n ymddangos

bod ddiffygion a phroblem Dŵr Cymru

ynglŷn â’r garthffosiaeth leol yn cael

dylanwad andwyol ar unrhyw ddatblygiad

yn yr ardal.

Ysgol Penweddig

Llongyfarchiadau i’r disgyblion am ganlyniadau ardderchog yn

Eisteddfod Sir yr Urdd 2013. Bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Benfro ar ddiwedd mis Mai.

2il yn y Parti Bechgyn Bl. 7, 8 & 9 ac yn cael mynd drwodd i

Foncath: Rhes gefn; Bryn Griffiths, Caredig ap Tomos, Gwion

Morgan-Jones a Siôn Hurford. Rhes flaen; James Michael, Owain

Gruffydd, Wil Rees, Jordan Jones, Geraint Howard a Sam Ebenezer

(arweinydd)

Seren Wyn Jenkins – 1af yn y Gystadleuaeth Creu Arteffact Bl. 7 & 8

a Dylunio a Thechnoleg Bl. 7 & 8:

Sioned Exley – 1af yn y Gystadleuaeth Gemwaith Bl. 7 & 8. = y ddwy

o Benrhyn-coch

1af yn yr Ensemble 15-25 oed: Chwith i dde; Daniel Thomas, Rhun

Penri, Sion Hughes, Aled Skym, Erwan Izri, David Michael, Gethin

Thomas, Robin Tomos, Gwern Penri, Carwyn Hughes ac Iestyn Evans Mwy o luniau t20

13

Y TINCER | MAI 2013 | 359

BOW STREET

Oedfaon y Garn 10.00 a 5.00

http://www.capelygarn.org/

Mai

19 Bugail Oedfa Cymorth Cristnogol

am 10.30 o’r gloch dan arweiniad

y Bugail. Cinio Bara a Chaws i

ddilyn Oedfa gymun am 5 o’r gloch

26 R W Jones

Mehefin

2 Noddfa Bugail

9 W.J. Edwards

16 Bugail

23 Eric Greene

30 Christopher Prew

Noddfa

Mai

19 Uno yng Nghapel y Garn am 10.30

ar gyfer Oedfa Cymorth Cristnogol.

26 Oedfa am 5.00. Gweinidog.

Mehefin

2 10.00 Gweinidog

9 2.00 Gweinidog

16 Undebol yn Soar am 10.00

23 10.00 Trefn Lleol

30 5.00 Gweinidog

Dysgwraig lwyddiannus

Mewn gweithdy a gynhaliodd Cyngor Sir

Ceredigion yn ddiweddar ar ganlyniadau

Cyfrifiad 2011 yn Abereron roedd yna

bedwar oedd wedi dysgu’r Gymraeg ar

banel yn trafod eu profiadau. Un ohonynyt

oedd Jackie Wilmington sy’n byw yn y

Garreg Wen, Bow Street.

Ganwyd a magwyd Jackie yn Nyfnaint.

Daeth ei gwaith fel milfeddyg a hi i weithio

i Ruthun ac yn y 1990au symudodd i’r

labordy ar y Buarth sydd gan DEFRA.

Jackie Wilmington a Felicity Roberts yn yr

Eisteddfod, wedi i Jackie gael ei derbyn i’r

Orsedd

Teimlai ei bod yn beth od nad oedd y

llywodraeth yn cynnig unrhyw gymorth

nac anogaeth i’w staff ddysgu Cymraeg er

mai Cymraeg oedd iaith mwyafrif mawr y

ffermwyr.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg gyda

Felicity Roberts dros ugain mlynedd yn

ôl. Yr oedd wedi gwneud rhyw ychydig

yng nghyffiniau Rhuthun cyn dod at

Felicity fyddai’n dweud ei bod ymysg rhai

o’i llwyddiannau mwyaf. Fe fynychodd y

dosbarthiadau yn ddi-dor gan symud o

un lefel i’r llall a phasio arholiadau i brofi

hynny. Y llynedd - wedi bod yn astudio

gydag eraill yn yr un dosbarth â hi ar gyfer

arholiadau Gorsedd y Beirdd - fe gafodd

ei derbyn yn aelod llawn. Yn ogystal â

hyn gwnaeth ddau fodiwl CBAC ar lefel

‘Hyfedredd’ sef ‘Ysgrifennu Graenus’ a

‘Gwneud Cyflwyniad’ Nid arholiadau

arbennig i ddysgwyr yw’r rhain ond rhai ar

gyfer unrhyw siaradwyr Cymraeg. Cafodd

Jackie farciau uchel iawn ynddynt. Y

mae yn dal i fynychu dosbarthiadau gyda

Felicity ac yn aelod o ddosbarth ‘Gloywi

Sgwrs ac Ysgrifen’ ers rhai blynyddoedd.

Eleni bydd yn gwneud modiwl arall ar lefel

‘Hyfedredd’, sef ‘Crynhoi a Gwerthuso’.

Mae Jackie bellach yn medi ffrwyth

ei hymdrechion a’i llafur caled drwy fod

wrth ei bodd yn gallu ymuno’n llawn

yng ngweithgareddau sawl cymdeithas

Gymraeg, megis Cymdeithas y Penrhyn,

Penrhyn-coch a Chymdeithas Edward

Llwyd. Mae hefyd bellach yn un sydd

yn gallu rhoi arweiniad mewn clwb

darllen i ddysgwyr, a gynhelir yn nhref

Aberystwyth, yn ogystal â bod yn un

sydd yn cadw trefn ar bethau yn y bore

coffi , a elwir erbyn hyn yn ‘Glwb C’

Fel Cadeirydd a swyddog gyda mudiad

Cyd, bu Felicity a Jaci Taylor, Trefnydd

y mudiad yn arbrofi am flynyddoedd

gyda gwahanol ffyrdd o ddwyn Cymry

Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd i siarad

yn Gymraeg. Fe sylweddolwyd mai’r

ffordd fwyaf effeithiol a chyson oedd cael

rota o siaradwyr Cymraeg rhugl i ddod i

mewn i sgwrsio â’r dysgwyr am hanner

awr ar ddiwedd y wers. Ann Jones a’i

diweddar ŵr Gwyn, Llys Maelgwyn Bow

Street fu hoelion wyth rhoi’r cynllun hwn

ar waith i ni, gan drefnu rota o gannoedd

o siaradwyr Cymraeg rhugl i ddod i

mewn i ddosbarthiadau. Bydd llawer yn

cofio fel y byddai Ann yn gwneud yn siŵr

y byddent yn cofio eu bod ar y rota ac

yn ymddangos yn y lle iawn ar yr adeg

iawn, a Gwyn yntau yn dawel yn y gegin

yn paratoi paneidiau te di-ri, i Ann fynd

â hwy i mewn i’r dosbarth yn ystod y

sesiynau sgwrsio. Anrhydeddwyd Ann

drwy iddi gael ei derbyn i’r Orsedd am ei

rhan yn y gwaith diflino hwn

Cychwynnwyd y bore coffi a gynhelir

yn yr oruwchystafell yn yr ‘Home Café’

fel sesiwn hanner awr o sgwrsio ar

ddiwedd dosbarth safon uwch a gynhaliai

Felicity o leiaf ugain mlynedd yn ôl. Aeth

o nerth i nerth ac am flynyddoedd fe’i

cynhaliwyd yn strategol ar ddiwedd un

dosbarth, a hanner awr cyn dechrau un

arall, ac yr oedd ei fynychu yn rhan o’r

dosbarth a’r broses ddysgu. Fe y mae hi

ar hyn o bryd y mae yn rhan greiddiol

o’r dosbarth ‘Gloywi Sgwrs ac Ysgrifen’

a gynhelir ar fore Iau, dan nawdd

Canolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol

Aberystwyth.

Capel Noddfa

Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ar fore

Sul 21 Ebrill yng nghapel Noddfa, Bow

Street, dan ofal Gareth William Jones. Yn

wahanol i’r arfer, daeth y gynulleidfa a’r

plant i’r festri ar ddechrau’r gwasanaeth

i gael paned a sgwrs, yn hytrach nag ar

y diwedd. Rhoddodd Gareth anerchiad

hyfryd i’r plant, a darllenwyd dameg

y Mab Afradlon gan Jane Jones,

Llangorwen. Aeth yr oedolion i’r capel,

a chafodd y plant dasgau i’w cwblhau

– gan gynnwys tynnu lluniau o bethau

hyfryd ein byd megis sêr a chreaduriaid

y môr. Cafodd y plant gyfle, ar ddiwedd y

gwasanaeth, i ddangos eu gwaith lliwgar

i bawb oedd yn y capel. Diolch i bawb fu

ynghlwm â’r trefniadau mewn unrhyw

ffordd, a gobeithio bydd modd cynnal

oedfa debyg yn fuan iawn.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau mawr i Aled a Tessa

Evans, Y Sblot, Caerdydd, ar enedigaeth

Martha ddiwedd mis Mawrth. Mae

Martha yn chwaer fach i Osian, yn nith i

Elen a Ffion, ac yn wyres i Eiry a David

Evans, Maes Afallen (Tŷ Capel y Garn,

gynt). Dymuniadau gorau i’r teulu i gyd.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau i Carwyn a Lyndsey

Hughes Jones, Maes Awelon, Pen-y-garn

14

359 | MAI 2013 | Y TINCER

Capel Noddfa

ar enedigaeth merch fach - Maddison

Leigh Jones ar 28 Ebrill, chwaer i Jordan

a Benjamin a wyres i Elizabeth Lloyd-

Jones, Maes Ceiro.

Merched y Wawr

I ddathlu Gŵyl Ddewi eleni gwahoddwyd

canghennau Penrhyn-coch ac

Aberystwyth i ymuno â ni, nos Lun,

Mawrth 11eg. Braf oedd gweld cymaint

wedi troi allan ar noson mor aeafol.

Croesawyd pawb gan ein Llywydd, Mrs

Brenda Jones, ac yna fe gyflwynodd ein

gŵr gwadd am y noson, sef Mr Donald

Morgan, Blodau’r Bedol, Llanrhystud. Fe

gafwyd noson ddiddorol dros ben, gyda

Donald, yn ei ffordd hamddenol a llawn

hiwmor, yn dangos i ni sut i osod blodau.

Gwnaed pedwar trefniant hollol wahanol

i’w gilydd, ac ar noson mor oer, hyfryd

oedd gweld dail a blodau’r Gwanwyn.

Roedd y trefniadau i gyd o safon uchel.

Rhoddwyd y blodau, ar ddiwedd y

noson i enillwyr y raffl. Diolchwyd yn

gynnes iawn i Donald gan Brenda. Yna

croesawyd pawb at y byrddau. Roedd y

lluniaeth wedi ei baratoi gan y Pwyllgor

a braf oedd cael sgwrsio a chymdeithasu

â’n gilydd. Talwyd y diolchiadau ar ran

cangen Penrhyn-coch gan Mrs Mair

Evans a Mrs Megan Jones o gangen

Aberystwyth.

Helfa Drysor oedd wedi ei drefnu ar

ein cyfer, nos Lun, Ebrill 8fed. Siomedig

oedd y nifer a gefnogodd (doedd e

ddim mor oer a hynny!) ond barn y

rhai a gymerodd ran oedd, ei bod yn

noson hwyliog dros ben. Ein tasg oedd

chwilio trwy strydoedd Aberystwyth a’r

castell am atebion i gliwiau a roddwyd

i ni. Cafwyd cryn ddyfalu a chrafu pen

a chwerthin dro ambell un e.e. SSH

CAROL!

Agorwyd ein llygaid at ‘blac’ neu cofeb

nad oeddem wedi sylwi arno o’r blaen

a dysgwyd llawer am y dref. Braf oedd

cyrraedd Baravin am goffi a sgwrs a chael

yr atebion cywir i’r cliwiau.

Diolchwyd i Mary a Rhys Thomas am

drefnu noson mor ddiddorol.

Genedigaeth

Llongyfarchiadau i Mark a Nia, 77

Bryncastell ar enedigaeth merch fach ar

Ebrill 24ain, chwaer fach i Taylor.

Diolch

Dymuna Jade, chwaer Nia, ddiolch i bawb

am eu consyrn a’u caredigrwydd tuag

ati, ar ôl y ddamwain a gafodd yn y pwll

nofio, ddiwedd mis Mawrth.

Eisteddfodol

Llongyfarchiadau i Vernon a Dilys

Baker Jones, Gaerwen, am ennill

yng nghystadlaethau llenyddol

Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen,

Pontrhydfendigaid ddechrau Mai.

Daeth Vernon yn gyntaf ar y soned a’r

delyneg ac yn drydydd ar y gyfres o chwe

cwpled a daeth Dilys yn drydydd yng

nghystadleuaeth yr emyn.

Cydymdeimlad

Cydymdeimlwn â Alan Wynne ac

Ann Jones, a’r teulu, Trem y ddôl, ar

farwolaeth Rhodri yn dawel yn ei

gartref yng Nghaerdydd ddiwedd Ebrill.

Cynhaliwyd dathliad o’i fywyd yng

Nghapel Y Garn ar Fai 10fed. Derbyniwyd

rhoddion tuag at ‘Adran Ddrama Ysgol

Glantaf’ trwy law C. Trefor Evans.

Newid Aelwyd

Yr ydym yn dymuno pob dymuniad da i Mrs

Kitty Evans, Tan-y-Foel, Y Lôn Groes,wrth

iddi fudo i gyffiniau Llanfarian er mwyn

bod yn agosach at Llinos a`r teulu. Yn yr

un modd yr ydym yn dymuno`n dda i Harri

a Janice Petche, Maesafallen, wrth iddynt

symud i ardal y Tymbl. Cydymdeimlwn

hefyd â Janice ar farwolaeth ei thad - Harold

Evans - yn Aberystwyth.

Ar Wella

Mae`n dda deall fod Mrs Maria Owen,

Swyddfa`r Post, yn gwella`n raddol ar ôl

gorfod treulio cyfnod byr yn yr ysbyty yn

ddiweddar.

GOGINAN

Wyres Newydd

Llongyfarchiadau i Morfudd a Mike Ingram,

Llygad y Glyn, ar enedigaeth eu hwyres

Anwen Mair ar y degfed ar hugain o Ebrill.

ABER-FFRWD A

CHWMRHEIDOL

Pen blwydd arbennig

Dymuniadau gorau i John Lewis,

Dolgamlyn, a fydd yn dathlu pen blwydd

arbennig ddiwedd mis Mai.

Dymuniadau gorau

Llongyfarchiadau i Gerwyn Ellis, Hywelfan,

ac Eurgain James, Bronnant, ar eu priodas

a croeso mawr i Eurgain i ddod i fyw yn eu

cartref newydd yn y Cwm.

Amrywiaeth eang o

lyfrau, cardiau,cerddoriaeth

ac anrhegion Cymraeg.

Croesawir archebion gan unigolion

ac ysgolion

13 Stryd y Bont

Aberystwyth

01970 626200

15

Y TINCER | MAI 2013 | 359

Cyngor Cymuned Trefeurig

Cyfarfu’r Cyngor nos Fawrth, 19 Mawrth

2013, yn Neuadd y Penrhyn, Penrhyncoch

gyda’r Cadeirydd, Edwina Davies,

yn y gadair. Roedd Trefor Davies, Mel

Evans, Shân James, Daniel Jones, Tegwyn

Lewis, Dai Rees Morgan, Gwenan

Price, Jeff Pyne ac Eirian Reynolds yn

bresennol ynghyd â’r Cynghorydd Sir,

Dai Mason. Nid oedd y Clerc yn gallu

bod yn bresennol oherwydd anhwylder

ac fe gytunodd Eirian Reynolds i gymryd

y cofnodion. Anfonodd y cyfarfod ei

ddymuniadau gorau i’r Clerc.

Croesawyd PC Hefin Jones o Heddlu

Dyfed-Powys i’r cyfarfod i drafod

trafnidiaeth ger Ysgol Penrhyn-coch gan

fod plentyn bron wedi cael anaf difrifol

yno’n ddiweddar. Dywedodd fod rhieni yn

parcio ar y gyffordd i’r Clwb Pêl-droed, a

bod hynny’n rhwystro gyrwyr rhag gweld

yn eglur. Roedd yr heddlu a Phrifathro’r

Ysgol wedi anfon llythyr ar y cyd at y

rhieni yn gofyn iddynt barcio ym maes

parcio’r Clwb fel y byddai’r ffordd yn glir.

Roedd cyflymder y traffig ar adegau yn

gallu bod yn broblem hefyd, ond fe ellid

rheoli hynny pan oedd yr heddlu’n gallu

bod yn bresennol. Fe fyddai’r heddlu yn

trafod hefyd gydag Adran Priffyrdd y

Cyngor Sir i weld a ellid cymryd camau

pellach i ddelio â’r sefyllfa. Diolchodd y

Cadeirydd i’r heddwas am ei bresenoldeb.

Materion yn codi o’r cofnodion: roedd

y Clerc wedi cysylltu â’r Cyngor Sir am

y materion oedd yn codi o gyfarfod mis

Chwefror, ond nid oedd fawr i’w adrodd.

Ni chafwyd unrhyw wybodaeth bellach

am y garafan ger Penyberth.

Gohebiaeth; daethai cais oddi wrth

Grŵp Datblygu Ysgol Trefeurig am

gymorth i dalu rhent yr Ysgol hyd at 8

Rhagfyr, a chytunwyd i gyfrannu £250.

Taliadau: cymeradwywyd taliadau ar

gyfer cynnal a chadw hysbysfyrddau,

glanhau y cabanau bysiau, trwsio map y

pentref, aelod yn mynychu un o gyrsiau

Un Llais Cymru ac aelodaeth blynyddol

Un Llais Cymru.

Cynllunio: cais i godi adeilad menter

wledig ger Ffordd y Garth, Penrhyn-coch

– dim gwrthwynebiad.

Adroddiadau ar gyfarfodydd a

fynychwyd: roedd Mel Evans wedi bod

ar gwrs am gynllunio o dan nawdd Un

Llais Cymru’n ddiweddar. Roedd Mel

Evans a’r Cynghorydd Sir wedi cwrdd â

thirfesurydd y Cyngor Sir i drafod llefydd

pasio ar Ffordd Salem; byddai’r CS yn

paratoi cynlluniau. Roedd y Cadeirydd

a Gwenan Price wedi bod yn y seremoni

pan roddwyd Rhyddid y Sir i Matthew

Wilson am ei ddewrder wrth wasanaethu

yn Afghanistan.

Unrhyw faterion eraill: dywedodd y

Cadeirydd fod rhai aelodau o’r cyhoedd

wedi holi am bresenoldeb y Cynghorydd

Sir pan oedd materion cyllid yn cael

eu trafod. Roedd y Cadeirydd wedi

egluro ei bod o fantais i’r Cyngor fod

y Cynghorydd Sir yn bresennol yn y

cyfarfodydd gan ei fod yn gallu taflu

goleuni ar sawl mater a drafodid, ond

gan nad oedd yn aelod o’r Cyngor, nid

oedd ganddo bleidlais ac nid oedd yn

gallu cyfrannu i’r trafodaethau heb i’r

Cadeirydd ofyn iddo wneud hynny. Fe

godwyd nifer o faterion ynglŷn â chyflwr

y ffyrdd, gadael ysbwriel ger ochr ffyrdd,

a baw cŵn ar y ffyrdd yn ardaloedd

gwledig y gymuned gan bedwar o’r

cynghorwyr.

• C21 yn Morlan (7.30, 22 Mai)

• Bwrw Bol (7.30, 12 Mehefin)

• Taith Gerdded Flynyddol Morlan

(10 Gorffennaf): yr ydym yn mentro

y tu allan i Aberystwyth ar gyfer ein

Taith Gerdded eleni. Bydd y daith yn

mynd ar hyd llwybrau hen goedlannau

gan gynnwys Llwybr Llên Llanfihangel

Genau’r Glyn.

Manylion llawn ar wefan Morlan:

www.morlan.org.uk

CROESO CYNNES I BAWB!

Morlan, Morfa Mawr, Aberystwyth

SY23 2HH

01970-617996; morlan.aber@gmail.com

Iwan Jones

Gwasanaethau Pensaerniol

Cynlluniau ar gyfer adeiladau newydd,

estyniadau ac addasiadau

Gellimanwydd, Talybont,

Ceredigion SY24 5HJ

helen.iwan@btinternet.com

01970 832760

Eirian Reynolds,

Tech. S.P.

GWASANAETH

IECHYD

A DIOGELWCH

AROLYGON DIOGELWCH

ASESIADAU PERYGLON

ARCHWILIADAU

DAMWEINIAU

HYFFORDDIANT

GWASANAETH CYFLAWN

I GADW CHI A’CH

GWEITHLU YN DDIOGEL

01970 820124

07709 505741

SWYDDFA’R POST

BOW STREET

NWYDDAU

MELYSION

CYLCHGRONAU

CARDIAU CYFARCH

PAPURAU DYDDIOL

A’R SUL

JOHN A MARIA OWEN

GWASANAETH

TEIPIO

GWAITH PRYDLON A CHYWIR

PRISIAU CYSTADLEUOL

PROSESYDD GEIRIAU

PRINTYDD LLIW

IONA BAILEY

PEN-Y-BRYN

SWYDDFFYNNON

YSTRAD MEURIG

01974 831580

Gwaith Bricio

R+R

Adeiladau newydd,

Estyniadau,

Gwaith Carreg,

Patios

Rhod: 07815121238

Rich: 07709770473

ytincer@googlemail.com

16

359 | MAI 2013 | Y TINCER

Dargyfeirio arfaethedig

i ran o Lwybr Troed

5/10 Aberceiro,

Bow Street 2013

Taith gerdded y mis

Brynllys ag Eglwys y Borth

Man dechrau: Gyferbyn â Fferm Brynllys

Map: OS Explorer 213. GR 619888.

Pellter: 3.5 milltir hawdd.

Ymlaen i’r chwith dros y bontbren ac i’r dde ar hyd y llwybr nes

cyrraedd Ynys Fergi (Animalarium). I’r chwith o’r adeiladau a’r tŷ ac ar

hyd y feidr a chyrraedd Eglwys y Borth. Trwy’r iet ac ymlaen ar hyd

y llwybr nes cyrraedd yr afon Leri a’r bontbren. Ewch yn syth ymlaen

o’r bontbren i gyrraedd y ffordd a throi i’r chwith nes cyrraedd Fferm

Pantydwn. Ewch drwy iet ar y dde ar ôl yr adeiladau ac ymlaen a throi

ychydig i’r dde lle gwelwch iet o’ch blaen ac anelu am Penywern. Ar ôl

cyrraedd y ffordd troi i’r dde a dilyn y ffordd ‘nôl i Brynllys.

Rees Thomas

Yn dilyn ymholiadau gan Network Rail mae Cyngor Sir

Ceredigion yn cynnig dargyfeiriad i’r llwybr troed yma. Y

bwriad ydyw lleihau nifer y croesfannau ar hyd y rheilffordd

er mwyn gostwng atebolrwydd Network Rail a chreu llwybr

sy’n fwy diogel i’r cyhoedd. Lleolwyd y groesfan yn Aberceiro

ar dro yn y rheilffordd sydd yn ei gwneud yn anodd i bobl weld

y trenau yn mynd a dod. Mae hyn yn fwy perthnasol ar hyn o

bryd gan fod yna drafodaeth ynglŷn â ehangu’r gwasanaeth

ar y rheilffordd i drên bob awr rhwng Aberystwyth a

Machynlleth.

Bydd y llwybr arfaethedig yn un cadarn wedi ei adeiladu o

garreg, o raddiant hawdd a bydd yn rhydd o anifeiliaid fferm.

Bydd yn dilyn ochr y rheilffordd tuag at y groesfan ger Maes

Ceiro, cyn croesi i ymuno gyda’r llwybr i fyny i Ruel Uchaf ac

ymlaen i’r rhwydwaith ehangach o lwybrau.

Gwelir y llwybr presennol ar y map wedi ei farcio mewn

llinell ddu drwchus ddi-dor (A-B-C-D-E)

Mae’r llwybr arfaethedig mewn llinell ddu drwchus doredig

(E-F).

Dim ond cynnig ydyw yr uchod ar hyn o bryd - mae llawer

yn dibynnu a fydd Network Rail yn ariannu’r gwaith a hefyd

ar ymateb y trigolion lleol. Os ydych am fwy o fanylion, am

drafod y mater ymhellach neu roi eich ymateb i’r cynnig

gellwch gysylltu â Eifion Jones yng Nghyngor Sir Ceredigion

yn Aberaeron - ffôn 01545 572 315

Eifion.Jones@ceredigion.gov.uk.

COFFI BOREUOL

BYRBRYDAU POETH NEU OER

CINIO

TE PRYNHAWN

CREFFTAU AC ANRHEGION

Ar agor saith niwrnod yr wythnos Mehefin, Gorffennaf, Awst a Medi

(fel arall, ar gau ar ddydd Llun)

Siop Treasures, Tlysau a gemwaith (yn cynnwys dylunwyr Cymreig),

scarffiau a chyfwisgoedd priodasol.

Gwasanaeth enwai tai ar lechen a llwyau caru. Deunyddiau gwnio,

yn cynnwys offer DMC, Anchor, Heritage, Derwentwater ac eraill.

Ffôn: 01970 820122

GWASANAETH

GARDDIO

MYNACH

Torri Porfa, Torri

Gwrych a Strimmio,

Disgownt i

Bensiynwyr.

Ffôn 01974 261758

07792457816

(Nid oes yr un gwaith yn ormod)

Cofiwch

gysylltu â ni

ytincer@

googlemail.

com

17

Y TINCER | MAI 2013 | 359

O’r Cynulliad

- Elin Jones

TREFEURIG

Un o’r materion cyntaf

i mi godi yn y Cynulliad

ar ôl dychwelyd o

doriad y Pasg oedd

herio penderfyniad

gwarthus Amazon i

wrthod gwerthu llyfrau

Cymraeg yn electronig

ar Kindle. Mae hyn yn gwbl ymarferol i

wneud ac mae cwmni cyhoeddi’r Lolfa, a

siŵr o fod eraill, yn awyddus i werthu yn

electronig. Gofynnais i’r Gweinidog dros

Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths

AC am ddatganiad ar y camau y bydd

yn ei gymryd i fynd mewn i drafodaeth

gyda chwmnïau sy’n gwerthu llyfrau

yn electroneg ynghylch eu cyfrifoldeb i

gynnwys gwerthu llyfrau Cymraeg yn

electroneg ac yn fyd-eang. Yn ddiweddar,

mae miloedd o bobl wedi arwyddo deiseb

yn galw ar Amazon i ganiatáu cyhoeddi

e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle. Mae

mwymwy o bobol yn prynu llyfrau yn

electronig erbyn hyn, ac mae’n bwysig

fod yna ddewis llyfrau Cymraeg ar y

cyfrwng yma. Wrth gwrs, fe rydyn ni’n

ffodus yng Ngheredigion fod gennym

nifer o siopau lleol sy’n gwerthu ystod

dda o lyfrau Cymraeg.

Mae sector elusennol a gwirfoddol

Ceredigion wedi cael sawl ergyd yn

ddiweddar. Yn gyntaf, Ffagl Gobaith ac

yn y mis yma, Rhoserchan a phafiliwn

Bont. Mae’r dirwasgiad a’r toriadau yn

bwrw pob sector.

Newyddion trist oedd clywed fod

Rhoserchan, Canolfan adsefydlu cyffuriau

ag alcohol ger Aberystwyth wedi cau. Fe

weithiodd y cyfarwyddwyr yn gweithio’n

galed iawn i wneud Rhoserchan yn

gynaliadwy. Yr wyf yn gobeithio nad yw

popeth wedi ei golli a byddaf yn gweithio

gydag unrhywun sydd â diddordeb i weld

a yw’n bosibl i atgyfodi’r ganolfan breswyl

yn Rhoserchan. Teimlaf yn gryf fod angen

canolfan o’r fath o hyd.

Trist hefyd oedd clywed fod y drysau

wedi cau ar Bafiliwn Bontrhydfendigaid

am y tro. Mae’r pafiliwn wedi bod yn

gaffaeliad aruthrol ers iddo agor sawl

degawd yn ôl yn enwedig ers iddo gael ei

ailadeiladu yn y blynyddoedd diwethaf.

Fel eraill, rwyf wedi mwynhau llawer

o ddigwyddiadau yno a dwi’n mawr

obeithio y daw eraill i ail-agor y drysau

cyn hir.

John Jones ac aelodau Trefeurig 60+

Cymdeithas Trefeurig 60+

Cynhaliwyd cyfarfod dan nawdd

Cymdeithas Trefeurig 60+ dydd Sadwrn

27 Ebrill yn Neuadd yr Eglwys Penrhyncoch

ar achlysur ymddeoliad John Jones fel

llyfrgellydd teithiol yr ardal. Roedd pawb

yn awyddus i fynegi eu gwerthfawrogiad o

wasanaeth arbennig John dros nifer fawr

o flynyddoedd. Mae’r ffilm Sleep furiously

gan Gideon Koppel yn gofnod diddorol

o’r gymuned a rôl gwasanaeth y llyfrgell

deithiol.

Swydd newydd

Dymuniadau gorau i Owen Roberts,

Bwlchydderwen. sydd wedi rhoi gorau

i’w swydd fel darlithydd yn Adran Hanes

Prifysgol Aberystwyth a mynd yn reolwr

ymchwil a chysylltiadau cyhoeddus i Elin

Jones, AC Ceredigion.

Huw Morris yn siarad â’r Llyfrgellydd

newydd Jo Mitchell

Ymddeoliad - Diolch

Dymuna John Gwynn Jones, Awelon, Capel

Seion ddiolch o waelod calon i’r trefnyddion

a’r ffrindiau oll am baratoi gwledd yn

Neuadd yr Eglwys Penrhyn-coch i ddathlu

ei ymddeoliad o fod yng ngofal Llyfrgell

deithiol am 44 mlynedd yn Sir Aberteifi.

Dyfed a nawr Ceredigion. Diolch yn fawr.

Llongyfarchiadau i Gronw Downes,

Glanrafon, ar gael anrhydedd (132 o farciau)

yn ei arholiad trombôn Gradd 2. Da iawn

ti! Llongyfarchiadau hefyd i Betsan - 1af am

lefaru lleol i flwyddyn 1 + 2 a Gronw - 3ydd

(ar y trombôn) am unawd offeryn cerdd

cynradd lleol yn Eisteddfod Penrhyn-coch.

18

359 | MAI 2013 | Y TINCER

DOLAU

Cydymdeimlad

Cydymdeimlwn yn ddwys â Mr John

Rees, Talar Deg ar farwolaeth sydyn

ei wraig Mrs Mabel Rees dechrau’r

mis.

Hefyd cydymdeimlwn â Mrs Dwysli

Peleg-Williams ar golli ei mam yn

Llanuwchllyn.

Pen blwydd hapus

Llongyfarchiadau mawr i Mrs Nest

Davies, gynt o Nantgwyn (cyn hynny

- Tŷ Nant) a ddathlodd ben blwydd

arbennig iawn yn ddiweddar.

Rali CFFI Ceredigion

i’w chynnal ar Fferm Berthlwyd,

Tal-y-bont

Dydd Sadwrn, 15 Mehefin

Cyfres o gystadlaethau ar thema’r

‘Celtiaid’ ymlaen trwy’r dydd gan

ddechrau am 9 y bore.

Dawns y Rali

i ddilyn yn Fferm Neuadd Fawr,

Tal-y-bont

Croeso cynnes i bawb

Cymanfa Ganu

Rali CFFI Ceredigion

yng Nghapel Bethel, Tal-y-bont

Nos Sul, 16 Mehefin, 7.30 yh

Llywydd:

Mrs Eirwen Hughes, Pen-cwm

Arweinydd: Peter Leggett

Artistiaid: Elen Thomas,

Aelodau CFFI Tal-y-bont ac

Aelodau Ysgol Sul, Bethel

Cyfeilydd: Catrin Jenkins

Mynediad trwy raglen:

Oedolion - £4 a Dan 16 oed -£2

Pwyllgor Henoed

Llandre a Bow Street

Noson

Goffi

Nos Wener

Mai 24ain am 7yh

Neuadd Rhydypennau

Fel unrhyw un call a normal a chyfrifol,

nid oes gennyf ddim i’w ddweud wrth

rywun sydd yn camdrin plant a merched a

chredaf bod angen eu cosbi a’u carcharu.

Dylestwydd gyntaf cymdeithas wår yw

gwarchod ei haelodau gwanaf.

Ond y mae digwyddiadau diweddar

wedi peri pryder i mi, sef achosion Jimmy

Saville a Stuart Hall. Ni ellir sôn amdanynt

yn fanwl am resymau cyfreithiol ond i mi,

mae hynny yn rhyddhad oherwydd gallaf

sôn am egwyddorion sylfaenol yr achosion

ac esbonio paham fy mod yn meddwl fod

pryderon eraill i gymdeithas ynglŷn ā’r

achosion a hynny ar ben y cyhuddiadau

gwreiddiol.

Nid oedd gennyf i erioed - hyd yn oed yn

blentyn - lawer o gewc ar Jimmy Saville.

Fe’i gwelwn yn gomon a phlentynnaidd.

Pa ddyn call yn ei oed a’i amser a fynnai

wisgo dillad chwarae o hyd a lliwio ei wallt

fel dynes? I mi a fy nghyfnitherod, roedd

yn ddyn a godai ddincod ar ddannedd ac,

a bod yn onest, nid oeddwn yn rhyfeddu

dim pan ddechreuodd y storïau amdano

godi i’r wyneb. Er na chyfarfum ag ef erioed

yn y cnawd, yr oeddwn wedi gweld digon

arno ar y teledu i weld mai ffals oedd ei

ddiddordeb mewn plant. Petai yn dal yn

fyw, fe fynnwn innau weld ei gosbi i’r eithaf.

Ond dyna’r broblem,mae wedi marw heb

ei gosbi ac ni ellir ei godi o’i fedd i wneud

hynny fel y cododd yr Adferwyr Cromwell

i’w grogi ar ôl i’r Brenin Siarl gael ei adfer.

Yr ydym yn fwy datblygedig heddiw. Felly

a oes unrhyw bwynt mewn difrif neilltuo

amser ac arian heddlu i ymchwilio i’r

achos? Sawl plentyn bach neu ferch ifanc

sydd yn dioddef poen ac anfri heddiw ac

na fedr gael unrhyw gymorth am fod yr

heddlu yn rhy brysur yn erlid dyn marw?

Y mae angen ymchwiliad i sut y medrodd

Jimmy Saville gael mynediad i ysbytai ac

ysgolion,ac y mae angen i’r rhai y bu yn

eu camdrin gael cymorth, ond onid gwell

fai sefydlu comisiwn seneddol i wneud

hynny yn hytrach na gwastraffu amser

heddlu? Petawn i yn brif gopyn, fe fyddwn

yn gwarafun gwario fy adnoddau prin ar

ymchwil i droseddau na ellid erlyn neb

amdanynt heb seance!

Y mae achos Stuart Hall yn wahanol,y

mae ef yn dal yn fyw i ddechrau arni. Ond

mae yn wahanol mewn ffordd arall, hefyd,

hyd y gwn i, ni amharodd ar blant nag

ar rywun a oedd yn fregus yn gorfforol

a meddyliol ac ni fu trais corfforol yn

defnyddio grym ychwaith. Fe fu trais, mi

Colofn

Mrs Jones

dybiaf, ond trwy berswad nid trwy rym bon

braich ac onid yw yn bwysig gwahaniaethu

rhyngddynt? Yn gam neu yn gymwys,

saethwch fi neu beidio am ei ddweud

ond tybed na ellid gosod peth o’r bai ar y

merched eu hunain fan hyn? Pan oeddent

hwy yn tyrru o’i gwmpas, a oeddent wedi

gofalu edrych eu hoed ynteu ymbincio i

edrych lawer hyn? A minnau yn cofio bod

yn f’ardddegau, fe wn yr ateb i hynna.Yn

aml y mae’n amhosibl gwybod oed merch

rhwng pymtheg a deunaw ar ei gwisg a’i

cholur ac ni fedrwch ddisgwyl i ddyn ofyn

am ei thystysgrif geni.....

Mae gennyf ychydig o gydymdeimlad a

dynion sydd yn cyflawni yr hyn y mae’r

Americanwyr yn ei alw yn ‘statutory

rape’, sef cael rhyw gyda merch sydd dan

oed ond yn ei harddegau, rhyw sydd yn

anghyfreithlon dim ond oherwydd oed y

ferch dan sylw ond sydd yn cael ei ystyried

yn rhyw gyda chaniatâd a bendith y ferch

mewn pob ffordd arall.

Fe roedd Hall ar fai yn manteisio arnynt,

oedd, wrth reswm, ond tybed nad oedd

rhieni ac athrawon y merched ar fai hefyd

am nad oeddynt wedi eu dysgu i adnabod

drwg gymhellion ac i ymdopi a hwy? Onid

oedd neb wedi eu dysgu i feddwl nad oedd

enwogrwydd ac arian enwogrwydd i’w gael

heb waith ac ymdrech a thalent mwy na

gwneud un cyfweliad gyda dyn nad oedd

ddim mwy na gwas y cyfryngau ei hun?

Ni all neb ddysgu merch i ochel trais gyda

grym, er fe ellir ei dysgu i beidio a chymryd

risgiau annerbyniol megis bawdheglu, o’r

herwydd, y mae angen cosbi trais o’r fath

yn galed. Ond fe ellir eu dysgu i osgoi

trais trwy berswad trwy ddysgu ymarfer

synnwyr cyffredin a a deddf tebygolrwydd.

Y mae gwahaniaethau rhwng y ddau fath o

drais a fe fyddwn i fy hun yn ddigon hapus

i weld y gyfraith yn adlewyrchu hynny,

a gosod y peth yn amrwd, fedr neb fy

mherswadio i fod hudo merch cynddrwg a’i

churo i ildio.

A’r wers bwysicaf un, efallai, yw cofio

mor wagsaw yw bywyd y ‘celebs’ a magu

ein plant i weld nad enwogrwydd mewn na

gêmau na chyfryngau sydd yn bwysig ond

gwerth cymdeithasol ac eneidiol unigolyn.

19

Y TINCER | MAI 2013 | 359

Ysgol Pen-llwyn

Ymweliad yr RNLI

Fe groesawon ni Sam a Dylan

o’r RNLI i’r ysgol yn ddiweddar.

Fe fwynhaodd y plant ddysgu

sut i gadw’n ddiogel ar y traeth

a dysgu am ystyr y gwahanol

faneri sy’n hedfan yn ogystal a

beth i’w wneud os mewn perygl

yn y môr. Mi oedd yn dda cael

gofyn amrywiaeth o gwestiynau

a syndod oedd darganfod fod

ambell i forfil yn nofio heibio yn

agos iawn i’n traethau. Er mawr

ryddhad i bawb nid ydynt yn

hoff o fwyta pobl serch hynny!

Rydym yn edrych ymlaen at gael

bore gyda Sam ar y traeth ymhen

ychydig i gael profiad ymarferol.

Te Parti Cathy

Fe fu Cathy, ein cogyddes, wrthi’n

brysur yn ddiweddar yn trefnu

te i godi arian i Ymchwil y Galon.

Fe ddaeth criw ynghyd i flasu yr

amrywiaeth o gacennau hyfryd

oedd wedi eu paratoi. Da yw nodi

fod tua £250 wedi ei godi i’r elusen.

Roedd y plant wedi bod wrthi

hefyd yn helpu gyda’r gwaith

coginio fel y gwelwch yn y llun.

Jack Barron

Mae Jack wedi cael y cyfle i

fynychu gweithdai a baratoir gan

yr Heddlu yn Aberystwyth. Mi

fu a diddordeb yng ngwaith yr

heddlu ers amser ac mae’n gyfle

gwych iddo ddarganfod os efallai

fod dyfodol iddo fel heddwas. Yr

ydym yn ddiolchgar iawn iddo

yn yr ysgol am ei sgiliau pêldroed

hefyd. Fe berfformiodd yn

arbennig yn ddiweddar mewn

cystadleuaeth i ysgolion lleol.

Perfformiad WCW

Mi fuodd dosbarth 1 yn

mwynhau perfformiad WCW

yng Nghanolfan y Morlan yn

ddiweddar. Roedd hanes yr ardd

a’r pili pala wedi creu argraff fawr

ac mi oedd yn brofiad arbennig

cyfarfod â’r cymeriadau ar

ddiwedd y perfformiad.

Parhad o t13

1af yn y Grŵp Dawnsio Hip-Hop/Stryd/Disgo (neu gyfuniad): Bl. 10 a

dan 19 oed. Chwith i dde: Bethan Evans, Gwawr Keyworth, Joseph

Scannell, Lois Jones, Manon Izri a Bethan Pearce

2il yn y Parti Merched Bl. 7, 8 a 9: Rhes gefn; Alwen Morris, Alaw

O’Rourke, Anest Eirug, Gwenno Thomas, Cari O’Rourke, Siwan Davies a

Siwan Phillips: Rhes flaen; Beca Williams, Cati Fychan ac Erin Gruffydd.

Chwith i Dde: Anest Eirug – 1af yn yr Unawd Merched Bl. 7 – 9, Cyflwyno

Alaw Werin Unigol Bl. 7, 8 a 9, a’r Deuawd Cerdd Dant Bl. 9 ac iau; Beca

Williams -1af yn yr Unawd Cerdd Dant Bl. 7-9 a’r Deuawd Cerdd Dant Bl.

9 ac iau; Christopher Gillison – 1af yn yr Unawd Chwythbrennau Bl. 10

a dan 19 oed; Mared Pugh-Evans – 1af yn yr Unawd Telyn Bl. 10 a dan 19

oed; Alwen Morris – 1af yn y Llefaru Unigol Bl. 7 – 9.

20

359 | MAI 2013 | Y TINCER

Ysgol Craig yr Wylfa

Ymweliad

Bu disgyblion Cyfnod

Allweddol 2 yn ymweld

â Llyfrgell Genedlaethol

Cymru ar Fai 1af ar gyfer

arddangosfa fawr ‘Dilyn

y Fflam’ a ariannwyd gan

Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth

Prydain. Roedd yr arddangosfa

yn tywys y plant ar daith hynod

o sefydlu’r Gêmau Olympaidd

yng ngwlad Groeg (776BC),

a thranc y gêmau dros fil o

flynyddoedd yn ddiweddarach,

hyd at rôl bwysig Prydain pan

gafodd y Gêmau eu hail-sefydlu

yn Athens yn 1896 a’r penodau

arwyddocaol yn hanes y Gêmau

byth ers hynny. Cafodd pawb

brynhawn wrth eu bodd. Diolch

yn fawr i Rhodri Morgan a

gweddill y staff yn y Llyfrgell

Genedlaethol am y croeso a’r

cyfle unigryw yma.

Ymwelwyr

Diolch yn fawr i Casper (Mam

Lily) am ddod i helpu plant y

Cyfnod Sylfaen I baratoi’r ardd

yng nghefn yr ysgol. Bu’r plant

yn brysur yn plannu hadau ac

rydym yn edrych ymlaen at

weld y llysiau’n tyfu.

Cynhaliwyd Cinio i’r

Gymuned ar ddydd Mercher,

Mai 9fed. Daeth 15 aelod o glwb

yr henoed ynghyd i gael clonc a

mwynhau cinio blasus Wendy

Jones ein Prif Gogydd. Mae’r

plant yn edrych ymlaen yn arw

at ein hymweliad i ddiddanu

aelodau clwb yr henoed yn

neuadd y pentref cyn diwedd y

mis.

Diolch yn fawr iawn i Joy

Cook a Jane Leggett am

wirfoddoli i gynorthwyo

gyda gweithgareddau darllen

yn yr ysgol. Mae’r plant yn

elwa’n fawr ac yn mwynhau’r

cyfleoedd yma’n fawr iawn.

Diolch o galon am eich amser

a’ch caredigrwydd.

Gwobr

Llongyfarchiadau i Lily

Pryce o flwyddyn 6 am ennill

cystadleuaeth yn y ffair

wyddoniaeth a pheirianneg

a gynhaliwyd ym Mhrifysgol

Aberystwyth yn ddiweddar.

Wrth grwydro o gwmpas y

stondinau gwahanol, bu rhaid

i’r plant lanw holiaduron gan

ateb cwestiynau gwyddonol.

Lily gafodd y sgôr uchaf. Da

iawn ti!

Llongyfarchiadau i Glyn, Courtney, Lily a Skye am ennill tystysgrif

Disgybl yr Wythnos.

eich gwefan leol

www.trefeurig.org

your local website

newyddion etc. i / news etc. to:

golygydd@trefeurig.org

William Howells,

Rhyd-y-gof, Penrhyn-coch,

Aberystwyth SY23 3EQ

R.J.Edwards

Adeiladau Fferm y Cwrt

Cwrt Farm Buildings

Penrhyn-coch

Contractiwr, masnachwr

gwair a gwellt

Arbenigwr ar ailhadu

Cyflenwi a gwasgaru calch,

slag a Fibrophos

Lori, turiwr a malwr

i’w llogi

Cyflenwi cerig mán

01970 820149

07980 687475

Priya a Charlotte wedi llwyddo gwahanu’r tywod a’r naddion haearn

gan ddefnyddio magnet.

TACSI EDDIE

Perchennog:

Connie Evans,

Gwawrfryn,

Penrhyn-coch

01970 828 642

07790 961 226

Siop

SGIDIAU GWDIHW

8 Ffordd Portland, Aberystwyth

SY23 2NL

01970 617092

Gwasanaeth

GOFAL TRAED

Ceiropodydd /podiatrydd graddedig

ac wedi cofrestru efo’r

H.C.P.C., S.R.Ch., M.Ch.S., B.S.C.Pod,

Dip.Pod.Med.

21

Y TINCER | MAI 2013 | 359

Ysgol Penrhyn-coch

Pêl-droed yr Urdd

Teithodd tîmau pêl-droed yr

ysgol i lawr i gaeau Blaendolau

i gymryd rhan yn nhwrnament

pêl-droed yr Urdd, Rhanbarth

Ceredigion. Rhannwyd yr holl

dîmau i grwpiau amrywiol gyda

pawb yn chwarae nifer o gêmau.

Llwyddodd y tîm merched i

gael dwy gêm gyfartal a cholli

dwy gêm. Da iawn iddynt am

eu holl ymdrechion. Yn yr

adran bechgyn, llwyddodd y

tîm i ennill un gêm a chael dwy

gêm gyfartal. O ganlyniad,

fe’u gwelwyd yn llwyddo i

symud ymlaen i’r rownd nesaf

gan gwrdd a thîm Felin-fach.

Llwyddwyd i ennill y gêm

honno gan symud ymlaen i

chwarae yn erbyn Aberaeron

ac yna Llandysul. Cafwyd gêm

gyfartal yn erbyn Aberaeron

ond collwyd yn erbyn Llandysul.

Llongyfarchiadau i’r ddau dîm

am chwarae mor dda.

Eisteddfod Penrhyn-coch

Bu mwyafrif o ddisgyblion yr

ysgol yn cystadlu yn Eisteddfod

Penrhyn-coch. Gwelwyd

nifer dda iawn o ddisgyblion

yn cefnogi ac yn cystadlu yn

unigol neu fel aelodau o grŵp.

Llongyfarchiadau i bawb a fu

wrthi yn cystadlu.

Trawsgwlad

Bu pedwar o ddisgyblion yr ysgol

yn cystadlu yn Nhrawsgwlad

Rhanbarth Ceredigion yn

Aberaeron. Y pedwar a fu yn

ANIFEILIAID

TEW

eu hangen i’w lladd

mewn lladd-dy lleol

Cysylltwch â

TEGWYN LEWIS

01970 880627

cystadlu oedd Tyler Nash, Clay

Nash, Stephanie Merry a Zaid

Khan Ali. Yn anffodus methodd

Llion Edwards a rhedeg gan ei

fod yn sal. Llongyfarchiadau

iddynt am wneud mor dda gyda

phob un yn llwyddo i orffen y

cwrs anodd.

Eisteddfod Bont

Er mwyn codi arian tuag at

gostau teithio i Eisteddfod

Llangollen, teithiodd aelodau

o gôr yr ysgol i fyny i gystadlu

yn Eisteddfod Teulu James ym

Mhontrhydfendigaid. Gwelwyd

y parti Unsain, y Côr a’r parti

llefaru i gyd ar y llwyfan.

Llwyddwyd i ennill y wobr gyntaf

ar y parti unsain, ail ar y côr a

chydradd drydedd ar y parti

llefaru. Da iawn iddynt am eu

gwaith arbennig a diolch i’r rhieni

am fod mor barod i’w cludo yno.

Defnyddir yr arian a enillwyd

tuag at gostau ymweliad y Côr a

Llangollen ym mis Gorffennaf.

Rasio Moch

Ar noson braf ar ddechrau’r

tymor newydd, cafwyd llawer o

hwyl a sbri yn Neuadd Penrhyncoch

wrth i’r ysgol drefnu

noson o rasio moch! Er i ambell

i un feddwl ein bod yn rasio

moch a phedair coes, y gwir

amdani oedd mai moch pren a

ddefnyddwyd. Roedd y noson

yn debyg i noson rasio ceffylau a

geir yn aml ond y tro hwn, y dasg

oedd rasio moch pren o un pen

y cwrs i’r diwedd. Rhaid oedd

defnyddio rhaff i wneud hyn.

SIOP A

SWYDDFA BOST

PENRHYN-COCH

Perchennog: Lawrence Kelly

AR AGOR

Llun - Sadwrn

7 y bore - 9 yr hwyr

Sul

7 y bore - 7 yr hwyr

Papurau dyddiol a’r Sul,

llyfrgell fideo, cardiau

cyfarch

siop drwyddiedig

01970 828312

Ffanffer pres Seremoni Tlws yr Ifanc

Parti Llefaru

Ensemble - pob hwyl iddynt ym Moncath

Cafwyd llawer o hwyl wrth i

blant ac oedolion golli chwys yn

ceisio ennill. Cafwyd 8 ras yn y

rownd gyntaf gyda’r enillwyr yn

symud i’r rownd gyn derfynol ac

yna’r pedwar gorau yn y rownd

derfynol. Ar ddiwedd y noson,

gwelwyd dwy fam yn erbyn dau

blentyn yn y rownd derfynol

gan gynnwys mam yn erbyn ei

mab. Ar ddiwedd y rasio, Dylan

Edwards fu’n fuddugol. Cafwyd

llawer iawn o hwyl gyda phawb

a ddaeth yn mwynhau. Diolch i

Meinir o Fanc Barclays a ddaeth

i gefnogi gan sicrhau nawdd o £1

am £1. Erbyn cyfri’r arian a thalu

allan costau codwyd tua £1,700

i goffrau’r Gymdeithas Rieni

ac Athrawon. Diolch i Llion am

ddod a’r moch ac am drefnu’r

hwyl. Diolch i Bethan a Sioned

am lawer o’r trefniadau.

Hoci

Bu tîmau yr ysgol wrthi yn

cystadlu yn nhwrnamentau y

cylch yn ddiweddar. Cafwyd

gêmau caled iawn yn erbyn

tîmau eraill y gynghrair. Er

chwysu llawer, ni aethant

drwodd i’r rownd derfynol. Da

iawn iddynt am eu chwarae da.

22

359 | MAI 2013 | Y TINCER

Ysgol Rhydypennau

Noson Adloniant

Er mwyn dathlu Neuadd Rhydypennau

ar ei newydd wedd, cynhaliwyd noson

i ddiolch i’r sawl yn y gymuned a fu’n

paentio ac yn adnewyddu’n ddiweddar.

Agorwyd y noson dan ofal Mr Richard

Gethin a chyflwynodd Mr Dic Lewis

eitemau amrywiol gan blant yr

ysgol gan gynnwys perfformiad ar y

piano gan Catrin Manley, alaw werin

gan Rhys Tanat, eitemau amrywiol

gan y parti canu unsain a’r parti

cerdd dant yn ogystal â’r ymgom.

Dymunwyd pob lwc i’r Parti Cerdd

Dant sy’n cynrychioli Ceredigion yn yr

Eisteddfod ar ddiwedd y mis a daeth

y noson i ben gyda phaned, raffl a

chlonc.

Blwyddyn 6

Fel rhan o waith Addysg Bersonol a

Chymdeithasol blwyddyn 6; trefnwyd

diwrnod cyfan o godi ymwybyddiaeth y

plant o beryglon camddefnyddio alcohol

a chyffuriau. Yn ystod y sesiynau, bu’r

plant yn cwblhau tasgau perthnasol ac

yn cydweithio mewn grwpiau trafod.

Penwythnos Glan-llyn

Ar yr 22-25ain o Ebrill fe deithiodd

26 o blant blynyddoedd 5 a 6 i wersyll

yr Urdd, Glan-llyn am dridiau o

ddifyrrwch. Yn ystod y cymdeithasu

a’r hwyl, bu’r plant yn brysur iawn

yn mwynhau nifer o weithgareddau

amrywiol gan gynnwys taith ar Lyn

Tegid, canŵio, nofio, cyfeiriannu a

bowlio deg. Dychwelodd y plant i’r

ysgol b’nawn Mercher wedi mwynhau’r

profiad yn fawr iawn, er hyn roedd nifer

ohonynt braidd yn flinedig.

Chwaraeon

Ar y 18fed o Ebrill, bu tîm pêl-droed

bechgyn a merched yr ysgol yn cystadlu

ym mhencampwriaeth Yr Urdd ar

gaeau Blaendolau. Cystadleuaeth

rhwng holl ysgolion Ceredigion

oedd hon ac yr oedd ansawdd y pêldroed

o’r safon uchaf. Er i’r merched

frwydro yn galed, methu wnaethant

i fynd ymlaen i’r rowndiau cynderfynol.

Mewn grŵp anodd iawn

chwaraeodd y bechgyn yn neilltuol

o dda a churo nifer o dimoedd da yn

eu grŵp. O ganlyniad i hyn, aethant

ymlaen i’r rownd go-gyn derfynol

a dyna oedd diwedd y daith iddynt.

Llongyfarchiadau mawr i chwaraewyr

y ddau dîm am eu hymdrechion

ardderchog.

Pêl-rwyd a Phêl-droed

Ar y o 19eg o Ebrill cynhaliwyd

cystadleuaeth pêl-rwyd a phêl-droed

cylch Aberystwyth. Chwaraeodd

bechgyn y tîm pêl-droed yn wych

gan guro Ysgol Myfenydd ac Ysgol

Comins-coch ar eu ffordd i’r rownd

gyn-derfynol; yno, fe lwyddodd y

bechgyn i guro Ysgol Craig yr Wylfa

a sicrhau lle yn y rownd derfynol.

Mewn ffeinal gyffrous ac agos iawn

gyda’r Ysgol Gymraeg, roedd y sgôr ar

ddiwedd y gêm yn gyfartal. Felly bu’n

rhaid penderfynu’r bencampwraieth

drwy giciau o’r smotyn; ond yn

anffodus collwyd y gystadleuaeth 8

gôl i 7. Llongyfarchiadau mawr i’r

bechgyn nid yn unig am yr orchest

ond hefyd rhaid nodi mai bechgyn

blwyddyn 5 oedd mwyafrif y tîm; felly

mae’r flwyddyn nesa’n argoeli’n dda.

Brwdrodd merched y tîm pêlrwyd

yn frwdfrydig iawn yn ystod y

prynhawn, ond methu wnaethant i fynd

ymhellach na gêmau’r grŵp. Hen dro!

Trawsgwlad

Ar y 3ydd o Fai bu nifer o blant yr ysgol

yn brwydro yn erbyn holl ysgolion

Ceredigion yng nghystadleuaeth

Trawsgwlad y Sir yng Nghlwb Rygbi

Aberaeron. Llongyfarchiadau mawr i’r

canlynol am orffen yn y tri cyntaf; Lydia

Powell Bl 4-1af; Griff Lewis Bl 4-2il,

Siân Duckett bl 5-3ydd. Ardderchog.

Clwb Cant

Dyma ganlyniad fis Mai:-

Roland Rees, Brysgaga - £25

Debbie Salvoni, 1 Penrhiw - £15

Julie Bent, 4 Y Ddôl - £10

Criw Glan-llyn ar Lyn Tegid

Trawsgwlad Ceredigion-Sian Duckett, Griff Lewis

a Lydia Powell

Addysg Bersonol a Chymdeithasol

Adloniant yn Neuadd y Pentref

23

Y TINCER | MAI 2013 | 359

Tasg y Tincer

Llew

Diolch i’r tri liwiodd llun y Dewin Doeth yn dathlu pen

blwydd Rala Rwdins y mis diwetha. Roedd eich tân gwyllt

a’ch rocedi yn werth eu gweld. Diolch i chi, Lily May Welsby

o Benparcau a Lois Medi o Landre, am eich lluniau hyfryd,

ond ti, Llew Schiavone, sy’n ennill y tro hwn, ac rwy’n credu

mai dyma’r tro cyntaf i ti gystadlu, felly llongyfarchiadau

mawr.

Does dim angen i mi eich atgoffa o’r hyn sy’n digwydd

ar fferm Cilwendeg ger Boncath, ar ddiwedd y mis, dwi’n

siŵr. Ie, Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro, wrth gwrs. Mae

cymaint i’w wneud ar y maes, heblaw am y cystadlu

arferol – digon o arddangosfeydd, wal ddringo, dros 200

o stondinau o bob math, beiciau cwad, chwaraeon o bob

math, trên bach, caffi’r we, ffair – a digon o fwyd a diod.

Cewch wrando ar fandiau byw ac rwy’n siŵr y bydd eich

hoff gymeriadau Cyw yno. Mae nifer o blant ardal Y Tincer

yn cystadlu – pob lwc i bob un ohonoch, a da iawn chi os

ydych chi wedi cael llwyddiant yn rhai o’r cystadlaethau

gwaith cartref, yn sgwennu cerdd, stori, gwneud cywaith

neu dynnu llun. Os ydych yn mynd i’r Eisteddfod gyda’ch

teulu a’ch ffrindiau – mwynhewch!

Y mis hwn, lliwich lun o’r babell, gan ddefnyddio pob

math o liwiau llachar. Tybed beth sy’n digwydd y tu mewn

iddi? Bydd yna sawl un debyg i hon ym Moncath, dwi’n siŵr.

Anfonwch eich gwaith at y cyfeiriad arferol, Tasg y Tincer,

46 Bryncastell, Bow Street, Ceredigion SY24 5DE erbyn

Mehefin 1af. Ta ta tan toc!

Enw

Cyfeiriad

Ysgol

Rhif ffôn

Oed

M THOMAS

Plymwr Lleol

Penrhyn-coch

Gosod gwres canolog

Ystafelloedd ymolchi

Cawodydd

Pob math o waith plymio

ac hefyd gwaith nwy

Prisiau rhesymol

07968 728470

01970 820375

JONATHAN

JAMES LEWIS

Saer Coed

Adeiladydd

01970 880652

07773442260

Bronllys

Capel Bangor

Aberystwyth

GOLCHDY

LLANBADARN

CYTUNDEB GOLCHI

GWASANAETH GOLCHI

DUFET MAWR

CITS CHWARAEON

FFÔN: 01970 612 459

MOB: 07967 235 687

GERAINT JAMES

Rhif 359 | MAI 2013

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!