You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Cylchgrawn Gwylwyr S4C

Rhifyn 4

Sgrîn

1
GAIR GAN Y GOLYGYDD, HANNAH THOMAS

CYNNWYS

Hir yw pob aros—ond mae’r disgwyl ar fin dod i ben. Ar

7 Medi bydd holl gyffro Cwpan Rygbi’r Byd yn cychwyn,

a bydd S4C yno i gofnodi pob cic, cais a sgarmes.

Darlledir 25 gêm fyw ynghyd ag uchafbwyntiau cyffrous,

dadansoddi treiddgar a golwg tu ôl i’r llenni ar garfan

Cymru. Rygbi yw thema Apêl 2007 S4C hefyd—drwy

Hybu Rygbi byddwn yn cynnig cymorth i gefnogwyr

rygbi gyda’u gweithgareddau codi arian.

Cynhelir cystadleuaeth o fath wahanol yn yr Eidal.

Bydd drysau Casa Dudley yn agor yn Umbria wrth i wyth

o gogyddion brwd frwydro i ennill teitl prif gogydd y Casa.

Mae’r ardal yn enwog am ei chynnyrch ffres—ond sut flas

fydd y cogyddion yn cael ar y cystadlu?

O’r Eidal i fyd gangsters gorllewin Cymru, cefnlen drama

newydd Y Pris. Mae’r sibrydion ar led bod hon yn gyfres

herfeiddiol, sy’n cynnig golwg ar fyd tywyll y taffia.

Drama, adloniant a chwaraeon, heb sôn am gomedi,

rhaglenni dogfen a phen-blwydd S4C yn 25 oed—bydd

digon i’ch diddanu yr hydref hwn. Dim ond un peth sydd

ar ôl i’w wneud—dymuno pob lwc i dîm Cymru a

chriw’r Casa!

The waiting is almost over. This month, the Rugby World

Cup kicks off, with S4C offering extensive coverage of the

event. Rugby is also the theme of S4C’s 2007 charity appeal,

Hybu Rygbi. In Italy, the doors of Casa Dudley open on

a second series of this cookery competition, while the

world of gangsters is the background to new drama, Y Pris.

04 CYFLE CYMRU I DDISGLEIRIO

YNG NGOLWG Y BYD

CWPAN RYGBI’R BYD

Cyfweliad gyda Derwyn Jones

Barn Gwyn Jones

Eleri Siôn yn edrych ’mlaen

at y bencampwriaeth

10 PC LESLIE WYNNE

Sioe siarad newydd y

plismon o Gricieth

12 STORI ARBENNIG

CASA DUDLEY

Her molto difficile i griw

o gogyddion o Gymru

20 DRAMA NEWYDD

Y PRIS

Cynllwynio ynghanol y cocos

26 PEN-BLWYDD HAPUS S4C

Dathlu’r chwarter canrif

30 Y BRIODAS FAWR

A fyddech chi’n gadael i griw

o selebs drefnu’ch priodas?!

34 Y SIOE GELF

Taith ryfeddol Luned Emyr

ar drywydd Dic Aberdaron

36 FY HOFF LE I

Yn y gogledd pell—

Richard Wyn Jones yn Norwy

37 Y GAIR OLAF

Prif Weithredwr S4C, Iona Jones

Allwedd/Key

Y Dylluan/The Owl

Isdeitlau ar gael.

Subtitles available.

Y Cyfrifiadur/The Computer

Ar gael ar fand llydan.

Available on broadband.

LLUN CLAWR Alun-Wyn Jones gan Warren Orchard

TÎM GOLYGYDDOL Eleri Twynog Davies, Eurgain Haf, Vici Jones, Owain Pennar, Hannah Thomas

TÎM DYLUNIO Dylan Griffith, Vicky Hives, Stuart Oliver CYFRANWYR Luned Emyr, Siriol Haf Griffiths,

Sharon Howell, Gwyn Jones, Tudur Owen, Richard Wyn Jones, Luned Whelan FFOTOGRAFFIAETH

Warren Orchard FFOTOGRAFFIAETH YCHWANEGOL Archif S4C, Luned Emyr, Richard Wyn Jones,

Llyfrgell Genedlaethol Cymru DARLUNIO Jon Oakes

HYDREF 2007
Gareth Thomas/Alfie

Byd

Herio’r

Gymru

Cyfle i

OWAIN PENNAR SY’N HOLI DERWYN

JONES WRTH I S4C BARATOI I

DDARLLEDU’N HELAETH O

BENCAMPWRIAETH CWPAN RYGBI’R BYD.

“ DYW E DDIM YN

AMHOSIBL Y GALL

CYMRU GYRRAEDD

Y FFEINAL”

Mae gan y sylwebydd rygbi Derwyn

Jones a’r chwaraewr rygbi Gareth

Thomas dipyn yn gyffredin. Fe

chwaraeodd y ddau gyda’i gilydd yng

Nghwpan Rygbi’r Byd 1995, mae’r ddau

wedi chwarae rygbi i glybiau yn Ffrainc

ac fe fyddant ill dau yng nghanol berw

Cwpan Rygbi’r Byd 2007.

Bydd Derwyn yn cadw cwmni i Wyn

Gruffydd yn y blwch sylwebu ar gyfer

darlledu cynhwysfawr S4C o Gwpan

Rygbi’r Byd. Mae’n edrych ymlaen at

weld Gareth ‘Alfie’ Thomas a gweddill

y garfan ar drywydd llwyddiant yn y

gystadleuaeth 6 wythnos o hyd sy’n

dechrau ar 7 Medi.

“Mae chwaraewyr fel Alfie, Stephen

Jones, Dwayne Peel, Gethin Jenkins

a Colin Charvis yn arweinwyr naturiol ac

mae gennym chwaraewyr all newid gêm

ym mhob rhan o’r cae,” meddai Derwyn,

a ddaw’n wreiddiol o Bontarddulais.

“Dyma’r cyfle gorau i Gymru ers

blynyddoedd—mae’r grŵp yn un

cymharol deg inni, rydym yn chwarae

Awstralia gartre’ ac mae gennym obaith

da o guro De Affrica neu Loegr yn y

rownd go gynderfynol. Ac yn y rownd

gynderfynol, y tîm sy’n rheoli eu nerf

sy’n debyg o ennill. Dyw e ddim yn

amhosibl y gall Cymru gyrraedd y

ffeinal,” ychwanega.

Fe fydd Derwyn yn rhan o dîm a all

herio unrhyw garfan o gyflwynwyr ac

arbenigwyr—criw sy’n cynnwys Gareth

Roberts, Arthur Emyr, Gwyn Jones,

Sarra Elgan, Eleri Siôn a llawer mwy

a fydd yn brysur yn cyflwyno 25 o gemau

byw a llond pac o uchafbwyntiau.

Mae’r gŵr 36 oed—a chwaraeodd

dros Gymru 19 o weithiau, yn ogystal

ag i Gaerdydd, Béziers a Choleg

Loughborough—bellach yn byw yn

Y Bontfaen gyda’i wraig, Rachel

a’i dri o fechgyn. Mae’n gweithio i

gwmni RTL Solicitors fel ymgynghorydd

i 15 o chwaraewyr rygbi ac mae’n

sylwebydd ar Y Clwb Rygbi ar S4C ac ar

ddarllediadau rygbi BBC Radio Cymru.

Roedd Gareth Thomas ar ddechrau

ei yrfa yng Nghwpan y Byd 1995

pan oedd gyrfa rygbi Derwyn yn ei

hanterth. Y pryd hynny, roedd Derwyn

yn gawr mewn unrhyw lein, ac yntau’n

6 troedfedd 10 modfedd, y chwaraewr

talaf i chwarae i Gymru erioed.

“Rwy’n cofio chwarae gyda Gareth yn

ei gêm gyntaf dros ei wlad yn erbyn

Japan yng Nghwpan Rygbi’r Byd, ac

fe sgoriodd e dri chais. Ond yr hyn wy’n

cofio mwyaf am y gystadleuaeth oedd

y torcalon o fynd mas yn rownd y

grwpiau ar ôl colli o bwynt i Iwerddon,”

meddai Derwyn, a ymddeolodd yn

gymharol ifanc yn 29 oed cyn dilyn gyrfa

yn gyntaf fel athro chwaraeon ac yna

fel rheolwr gyda rhanbarthau’r Gleision

a’r Gweilch.

“Ond wy’n gweld Cymru’n mynd

ymhellach y tro hwn. Y pryd hynny,

ynghanol y 90au, roedd timau Hemisffêr

y De, Lloegr a Ffrainc ymhell o’n blaen

ni o ran paratoi a hyfforddi. Ond nawr

ry’n ni wedi dala lan, ac ar ein diwrnod,

yn gallu cystadlu gyda’r gorau, fel y

gwnaethom ni yng Nghwpan Rygbi’r

Byd bedair blynedd yn ôl.”

I Derwyn yn bersonol, fe fydd mynd i

Ffrainc yn gyfle i gwrdd â hen ffrindiau

a gyfarfu wrth chwarae i Béziers yn

ei dymor olaf, 1999-2000.

“Fe fydd yr awyrgylch yn arbennig yno,

ac mae’r ffaith mod i’n gallu siarad

Ffrangeg yn eitha’ da ac yn deall y

diwylliant yn help i fi mas ’na. Fe fydd yn

help i’r chwaraewyr hefyd bod rhai fel

Gareth Thomas a Stephen Jones wedi

chwarae yno achos mae’r diwylliant,

bwyd, ffordd o fyw a’r profiad rygbi

yn wahanol iawn.”

Ond pwy fydd yn codi Cwpan Webb

Ellis ym merw’r Stade de France, Paris

ar 20 Hydref ym marn Derwyn?

“Seland Newydd yw’r dewis amlwg, ond

mae’r Crysau Duon yn dueddol o ildio o

dan bwysau’r disgwyliadau. Dyna pam

dy’n nhw heb ennill ers y gystadleuaeth

gyntaf yn 1987. Rhaid imi ddweud mod

i’n hoffi’r ffordd mae Awstralia yn siapio

o dan John Connolly a Scott Johnson,

fe allen nhw greu syrpreis y tro hwn

eto. O ran y timau eraill, mae Ffrainc

â’r fantais o fod gartref, mae De Affrica

wastad yn beryglus, ac ie, fe all Cymru

greu argraff hefyd…”

Derwyn Jones and Gareth Thomas

share many things in common. They

both played in the 1995 Rugby World

Cup, they’ve played for French teams

and come September, they’ll be at the

heart of the 2007 Rugby World Cup.

In this interview, Derwyn, who played

for Wales 19 times, as well as Cardiff,

Béziers and Loughborough College,

talks about his hopes for Alfie and

the rest of the team in this year’s

championship. Despite stiff competition,

Derwyn thinks Wales could create an

impression at this year’s tournament.

5
Jones

Gwyn

Barn

BYDD Y SYLWEBYDD A DADANSODDWR

RYGBI, GWYN JONES YN AELOD

ALLWEDDOL O BAC CYFLWYNO S4C

YNG NGHWPAN RYGBI’R BYD ELENI.

YMA MAE CYN GAPTEN CYMRU YN

EDRYCH YMLAEN AT Y GYSTADLEUAETH…

“Ry’n ni fel Cymry yn dysgu dim. Nid yw

hanes na phrofiad yn cael unrhyw effaith

arnom. Dim ond hen atgof yw’r boen a’r

siomedigaeth a deimlir mor gryf bob

pedair blynedd. O fewn yr wythnosau

nesa’ bydd Cymru yn cystadlu yng

Nghwpan Rygbi’r Byd ac mae’r

disgwyliadau yn uwch nag erioed.

“Dros y blynyddoedd dyw synnwyr

cyffredin a gobeithion y tîm cenedlaethol

heb dreulio llawer o amser yng nghwmni

ei gilydd, ond mae’r cyffro a’r

disgwyliadau sy’n cyfarch yr ymgyrch

nesaf yn rhyfeddol.

“Ac er taw person drwgdybus ydw i o ran

natur, mae’n rhaid i fi gyfadde’ fy mod i

hefyd wedi cael fy nghyffwrdd gan yr holl

emosiwn. Does dim rheswm i deimlo mor

hyderus. Ond am ryw reswm, sydd y tu

hwnt i’m dealltwriaeth i, mae gen i ffydd

y bydd Cwpan y Byd yn gwbl arbennig.

“Mae’n eironig i gofio mai ynghanol

cystadleuaeth Cwpan y Byd ddiwethaf

y dechreuodd yr adfywiad yn rygbi

Cymru. Y gêm fythgofiadwy yn erbyn

y Crysau Duon osododd sylfaen ar

gyfer y gamp lawn ddwy flynedd yn

ddiweddarach.

“Mae Cymru nawr yn gwybod bod

y gallu ganddyn nhw i guro unrhyw

wrthwynebydd os yw’r tîm ar ei orau.

Ac wrth i’r enwau gael eu tynnu o’r het

a rhoi Awstralia ac wedyn Lloegr ar y

trywydd i’r rownd gynderfynol, dau dîm

mae Cymru wedi curo yn ddiweddar,

fe ddechreuais i gredu fod Cwpan y

Byd 2007 yn mynd i fod yn wahanol.

“Serch hynny, y prif reswm y tu ôl i’r

gobeithion sydd gen i yw’r cryfder

sydd yn y garfan. Am unwaith does

dim gwendid amlwg yn unrhyw safle

ac mewn ambell safle mae yna fwy

nag un y byddai Awstralia neu Loegr yn

ddiolchgar i’w cael. Ac rydym yn hynod

o ffodus bod gennym gwpl o’r chwaraewyr

gorau yn y byd. Rydw i’n cyfeirio at

Shane Williams, yr athrylith o asgellwr

ac at James Hook, y maswr dawnus.

Dau sy’n gallu newid unrhyw gêm.

“Yn anffodus i ni’r Cymry ac i bob tîm

arall sy’n gobeithio codi cwpan Webb

Ellis, mae un wlad yn edrych gymaint

yn well na phob un arall. Yr unig dîm all

atal Seland Newydd rhag ennill Cwpan

y Byd yw Seland Newydd ei hun. Efallai

nad yw’r gagendor rhyngddyn nhw a’r

gweddill mor fawr ag y bu, ond eto nhw

sydd â’r tîm gorau, y chwaraewyr gorau

a’r patrwm rygbi gorau.

“Yn ogystal â hynny mae’r môr o brofiad

sydd gan y tîm hyfforddi, rhwng Graham

Henry, Steve Hansen a Wayne Smith,

yn fantais sylweddol wrth i’r tensiwn

gynyddu yn yr wythnosau sydd i ddod.

“Tri pheth a thri pheth yn unig gallaf

eich sicrhau chi. Mi fydd yna gyffro,

mi fydd yna ddrama ac mi fydd yr

holl beth ar S4C.”

Former Wales captain, Gwyn Jones,

will be a key member of S4C’s presenting

squad at the 2007 Rugby World Cup.

Gwyn is certain the championship will

be action-packed this year, with plenty

of exciting play from the likes of Shane

Williams and James Hook.

HYBU RYGBI

Mae S4C wedi lansio Apêl 2007, Hybu

Rygbi, gyda’r bwriad o helpu achosion

sy’n agos at galonnau cymunedau

rygbi yng Nghymru.

Mae’r apêl, a arweinir gan Gwyn Jones,

ychydig yn wahanol i apêl flynyddol

arferol y Sianel, gan na fydd S4C yn codi

arian yn uniongyrchol. Yn lle hynny, fe

fyddwn yn cynnig cefnogaeth i glybiau,

cymdeithasau, unigolion ac elusennau

sy’n gysylltiedig â rygbi wrth iddyn nhw

fwrw ati i gynnal eu digwyddiadau codi

arian eu hun.

Fe all y digwyddiadau amrywio o godi

arian i helpu clybiau bychain i wella

eu cyfleusterau i gefnogi timau plant

ac ieuenctid. Fe fydd Hybu Rygbi

yn helpu codi ymwybyddiaeth am

y digwyddiadau trwy gyfrwng

rhaglenni a phersonoliaethau S4C.

Os ydych chi â diddordeb mewn trefnu

digwyddiad codi arian yn gysylltiedig

â rygbi ac awydd cymorth gan S4C,

yna ewch i’r wefan, s4c.co.uk/cefnogi

am fanylion pellach a ffurflen gais.

Fe allwch hefyd gysylltu â Gwifren

Gwylwyr S4C ar 0870 6004141.

James Hook/Hooky

“RYDYM YN HYNOD

O FFODUS BOD GENNYM

GWPL O’R CHWARAEWYR

GORAU YN Y BYD”

S4C has launched its 2007 Appeal, Hybu

Rygbi, which aims to help causes close

to the hearts of rugby communities in

Wales. Led by Gwyn Jones, the appeal

is different from the Channel’s usual

annual campaigns, as S4C will not be

raising money directly. Instead, S4C will

offer support such as publicity on its

programmes or personal appearances

by its personalities to clubs, societies

and charities connected to rugby as

they organise fund-raising events.

Please visit s4c.co.uk/support for details

or contact the S4C Viewers’ Hotline

on 0870 6004141.

6 7
Adam Jones/Bomb

FE FYDD ‘CWPAN’ ELERI SIÔN YN LLAWN IAWN YN YSTOD Y

GYSTADLEUAETH ELENI, GAN EI BOD YN UN O DÎM CYFLWYNO

DARPARIAETH GYFLAWN S4C O GWPAN RYGBI’R BYD 2007.

MAE DARLLEDIADAU’R SIANEL YN CYNNWYS 25 O GEMAU BYW,

RHAGLENNI UCHAFBWYNTIAU A GOLWG TU ÔL I’R LLENNI AR

GARFAN CYMRU. FE FYDD ELERI HEFYD YN UN O GYFLWYNWYR

JONATHAN AC YN AELOD O DÎM CYFLWYNO BBC RADIO CYMRU.

Cwpan

Lawn

Eleri

Pam wyt ti’n hoffi’r

gystadleuaeth gymaint?

Hwn fydd fy mhedwerydd Cwpan

Rygbi’r Byd ac mae’n brofiad ffantastig

bob tro. Wy wedi gwneud cymaint o

ffrindiau dros y blynyddoedd—mae’r

bobl gwrddais i yn Awstralia y tro

diwethaf eisoes yn cysylltu i

drefnu cwrdd.

Beth yw dy brofiad Cwpan Rygbi’r

Byd gorau hyd yn hyn?

Y tro cyntaf es i i’r bencampwriaeth

oedd yn 1995 i Dde Affrica, pan oeddwn

i’n gweithio i’r gyfres blant Cracabant.

Fues i’n ddigon ffodus i weld Nelson

Mandela yn dathlu gyda thîm De Affrica

ar y cae. Roeddwn i’n eistedd jest o

flaen carfan Seland Newydd, ac er eu

bod nhw’n siomedig ar ôl i’w tîm golli,

fe wnaethon nhw ymuno yn y dathlu

gan fod y fuddugoliaeth yn golygu

shwd gymaint i bobl De Affrica.

Ond y profiad mwyaf bythgofiadwy

ges i oedd gweld Cymru’n chwarae

mor fentrus yn erbyn Seland Newydd

a Lloegr yn y gystadleuaeth ddiwethaf.

Fe wna i fyth anghofio wynebau’r Cymry

yn y dorf pan oedd Cymru ar y blaen

i Loegr. Rwy’n gwybod aethon nhw

ymlaen i ennill, ond roedd hwnnw’n

rhywbeth i drysori!

Sut wyt ti’n goroesi Cwpan Rygbi’r Byd?

Oes ’da ti dips handi?

Rhaid imi gyfadde’ bod fi’n joio’r

gystadleuaeth—mae fe’n galed o

ran stamina, gan fod shwd gymaint

o gymdeithasu. Y tro hwn fe fyddai’n

brysur iawn, gan fy mod yn cyflwyno

eitemau ar S4C, gemau byw ar Radio

Cymru ac yn un o gyflwywyr pum sioe

arbennig Jonathan o’r Ffatri Bop,

felly ni fydd ’na lawer o nosweithiau

hwyr i mi.

Ond fy nhip i yw i bobl yfed digon

o ddŵr a diarolyte cyn mynd i gysgu

i stopio dehydration! Wy wastad yn

gwisgo thermals mewn unrhyw gêm

achos mae’n gallu bod yn ofnadwy

o oer. Fydda i’n cario beiro a mobeil

i bob man hefyd i sicrhau fy mod yn

cael y straeon gorau ac yn gallu

tynnu lluniau o selebs a chefnogwyr

rygbi lliwgar!

Fyddi di’n mynd i siopa o gwbl yn

ystod y gystadleuaeth?

Ni fydd cyfle i wneud rhyw lawer o

siopa y tro hwn, gan y byddaf ’nôl ac

ymlaen dipyn rhwng Cymru a Ffrainc.

Ond wy’n gobeithio ymweld â gwinllan

ger Nantes i drio sparkling wine yr ardal

sydd cystal â champagne, medden nhw.

Ym mhob Cwpan y Byd, heblaw’r un yng

Nghymru, dwi wedi ymweld â gwinllan!

Roedd yn rhaid i fi ddibynnu ar Brain’s

Bitter fan hyn yn 1999!

Pwy ti’n meddwl sy’n

mynd i ennill?

Seland Newydd yw’r ffefrynnau

o hyd ar ôl ennill Pencampwriaeth

y Tair Gwlad, ond ni allwn ddiystyru

Awstralia achos bod nhw wastad mor

benderfynol. Ond wy am roi pum punt

ar Dde Affrica—wnaethon nhw ddim

chwarae eu tîm cryfaf yn ystod y Tair

Gwlad—ac mae ’da nhw lot fawr o

dalent. Ac wy’n gobeithio hefyd y bydd

Cymru’n cyrraedd y rownd gynderfynol

y tro hwn trwy guro Lloegr yn rownd

yr wyth olaf yn Marseilles! Dewch

’mlaen, bois!

Ond pwy sydd â’r kit perta’?

Yr Eidal sydd â’r kit ymarfer gorau,

gyda Ffrainc yn ail agos. Ond sai’n

keen ar y kit chwarae tynn sydd gyda’r

timau. Maen nhw’n rhy debyg i kits pêldroed.

Maen nhw’n iawn i chwaraewyr

pêl-droed achos bod nhw i gyd yn

denau, ond so nhw’n edrych yn iawn ar

chwaraewyr rygbi, sydd â two-pack yn

hytrach na six-pack. Ond y tîm perta’,

kit neu beidio, yw bois Seland Newydd,

yn fy marn i!

Pwy antics fydd ’da chi ar Jonathan?

Fe fydd y gyfres ychydig bach yn

wahanol i’r arfer, gan y bydd Nigel

Owens a Rowland Phillips yn cyfrannu

eitemau tu fas i’r stiwdio’r tro hwn

achos bod nhw mor brysur gyda’r

gystadleuaeth. Ond rydym eisoes

yn paratoi ar gyfer y sioe yn y Ffatri

Bop trwy fentro torri coed, reslo Sumo

ayb. Galla i ddim dweud rhagor. Cewch

chi wybod mwy yn ystod y pum sioe!

CWPAN RYGBI’R BYD

Medi a Hydref

O Gymru gan

Sunset & Vine Cymru

s4c.co.uk/rygbi

GWESTY CYMRU

Medi a Hydref

O Gymru gan SMS

JONATHAN

Medi a Hydref

O Gymru gan Avanti

i BBC Cymru

Eleri Siôn is bracing herself for a busy

championship. She’ll be playing a part

in S4C’s comprehensive coverage from

the event, which includes 25 live games,

highlights packages and a behind-thescenes

look at the Welsh camp. Eleri is

also taking part in five special editions

of Jonathan Davies’ S4C entertainment

show, Jonathan and is working on BBC

Radio Cymru’s coverage. Eleri’s tips for

the event include drinking plenty of

water—to keep dehydration at bay—

and wearing thermals to every match.

A mobile phone to take photos of

celebrities and fans is also a must!

RYGBI 100%

Medi a Hydref

O Gymru gan Cwmni Da

s4c.co.uk/rygbicantycant

9
PC LESLIE WYNNE

Yn yr hydref

O Gymru gan

Alfresco, rhan o Grŵp

Boomerang

PC LESLIE

WYNNE YN YR

YSTAFELL HOLI

WEL, TIPYN O SGŴP I HOGYN O GRICIETH

YN TYDI...CAEL CYFLWYNO DY SIOE DY

HUN! SUT DDIGWYDDODD Y PETH?

Wel, ers i mi gael fy newis gan y Chief

Constable (mae rhai yn ei alw’n Rich

ond mae’n well gen i Dick!) i fod yn

“Caring Face of North Wales Police”,

mae fy mywyd i wedi bod fel breuddwyd.

Dwi ’di cael pob math o experiences,

dwi ’di cael cyfarfod y Cwîn a phob

dim! Ond dwi’n meddwl ’mod i ’di cael

y chance yma gan S4C achos ’mod i’n

natural communicator ac achos fod

fy Nghymraeg i’n dda.

YDI HYN YN GWIREDDU BREUDDWYD I TI?

Dwi ’di bod yn breuddweidio am hyn

ers oeddwn i’n hogyn bach yn eistedd

o flaen y telifision yng Nghricieth. Dwi’n

cofio sbïo ar brogram Elinor Jones a

meddwl “un diwrnod dwi’n mynd i fod

fel hi.” A sbïwch arna i rŵan, dwi’n cael

gwneud program fy hun a chyfweld

â Heledd Cynwal—a phwy ydi mam

hi? Elinor Jones!! Spŵci ta be?

WYT TI WEDI HONGIAN DY HANDCYFFS

ER MWYN BOD YN GYFLWYNYDD TELEDU

LLAWN AMSER?

O na, no way! Mae fy nhraed i ar y

ddaear. Faswn i byth yn gadael yr

Heddlu. Cofiwch, os fasa Elinor Jones

yn penderfynu cael gwared â’r John

Hardy ’na oddi ar Wedi 3, mi faswn

i ar y soffa ’na fel shot.

NID DYMA’R TRO CYNTAF I TI

ARALLGYFEIRIO...

Ym… ella ddim… ond sori dwi’m yn

gwbod be mae hynna’n feddwl.

Gwylia dy hun Jonathan Ross—mae PC

Leslie Wynne yn rhoi ei drynshyn yn y to

am y tro er mwyn cyflwyno ei sioe siarad

ei hun. Eurgain Haf fu’n holi mwy...

TRIO PETHA’ GWAHANOL!

O na, dwi’n licio trio petha’ gwahanol.

Dwi ’di ’neud bob math o jobs. Es i

weithio mewn Siop Eis Crîms ar ôl gadael

’rysgol, a hefyd nes i weithio yn Butlins

am dipyn yn ’llnau chalets. Ond plisman

oeddwn i isio bod ers oeddwn i’n hogyn

bach. Tra roedd gweddill yr hogia yn yr

ysgol yn breuddweidio bod yn Kenny

Dalglish neu Kevin Keegan oeddwn i yn

torri ’mol isho bod yn Cagney neu Lacey.

A YW DY SIOE YN MYND I FOD YN PC

(SGWISIA’R PYN!) NEU A YW’R PYNCIAU

TRAFOD YN YMYLU AT Y ‘GLAS’!?

Wel, efo Rhodri Ogwen ar y rhaglen

pwy a ŵyr be’ fydd yn digwydd!

OES GEN TI FAND AR Y SIOE?

Mae ’na dri o hogia’ bach neis iawn

wedi cytuno i helpu fi. Wel doedd

ganddyn nhw’m dewis achos mae

o’n rhan o’u community service nhw.

Dwi ’di meddwl am enw iddyn nhw—

Yr Asbos—da ’te?

AI CHDI FYDD ATEB CYMRU I PARKINSON

NEU JONATHAN ROSS?

O ia, dwi’n licio nhw, ac mae ganddyn

nhw fandiau hefyd yn does? Four Poofs

and a Piano sydd gan Jonathan Ross

ynte? A be’ dwi’n gael? Dau asbo

a probation!

PWY FYDDAI DY WESTAI DELFRYDOL?

Julie Andrews. Dwi’n gwbod bob un gair

o Sound of Music a baswn i wrth fy modd

yn cyfarfod â hi. Dwi’m yn licio Connie

Fisher—mae ’i hips hi’n rhy llydan.

PA BERSON FYDDAI DY HUNLLEF FWYA’

I’W GYFWELD NEU EI CHYFWELD?

Rhywun efo dannedd drwg—fedrai’m

consyntretio wrth siarad efo pobol sydd

efo dannedd drwg. Dwi’n cofio rhoi

cyfweliad i suspect oedd gan geg fel

hen fynwent unwaith, ac ’nes i adael

iddo fynd, fedrwn i’m diodda’ sbïo

arno fo!

PA BUM PETH FYDDET TI’N HOFFI

HOLI RICHARD BRUNSTROM?

1/Mae gen i syniadau ar gyfer lliwiau

mwy soft i wisg yr heddlu—bydde fo’n

cysidro turquoise reit ddistaw, neu

ryw faun efo chocolate trim?

2/Ydio’n rhugl yn y Gymraeg?

3/Ydio angen help i gael ei dafod

rownd unrhyw beth?

4/Ydio’n hapus?

5/Pam dydi o’m yn ateb fy e-byst?

PWY YW DY HOFF DDITECTIF

AR Y TELEDU?

Mary Beth Lacey (Tyne Daly) oddi ar

Cagney & Lacey. Oedd ’na lot yn deud

’mod i’n debyg iddi pan oeddwn i’n

fengach. Oeddwn i’n hogyn bach dros

fy mhwysa ers talwm, a phan nes i dyfu

mwstash oedd y tebygrwydd yn spŵci!

BE’ MAE DY DEULU YN EI FEDDWL

O DY ENWOGRWYDD NEWYDD?

Mae Eryl (chwaer fawr) yn deud fod

hi ’di gorfod rhoi double doors ar ei

chonsyrfatori newydd achos bod fy

mhen i ’di chwyddo. Ond tynnu coes

mae hi, dwi’n meddwl. A doedd Mam

ddim yn rhy cîn efo’r holl fuss, tan iddi

gael standing ovation yng nghlwb

yr henoed. Mae hi wrth ei bodd efo’r

sylw rŵan.

BE’ AM DY GYDWEITHWYR

YN Y FFORS?

Mi oeddwn i’n poeni fod yr hogia’

yn mynd yn flin achos ’mod i’n treulio

gormod o amser i ffwrdd o’r stesion

yn ffilmio, ond mae pob un ’di deud

fod nhw’n falch iawn o’n gweld i’n

mynd—neis ’te!

BETH YW’R PETH GORAU AMDANAT?

Dwi’n mynd yn frown yn hawdd.

BETH YW’R PETH GWAETHAF AMDANAT?

Mae gen i draed seis 11 ac mae’n

andros o job cael sgidia dwi’n licio.

Since first appearing on the S4C sketch

show, Mawr, Leslie Wynne has become

Wales’ most infamous policeman. In the

publicity stakes, he has even eclipsed

his ‘boss’ at North Wales Police, Richard

Brunstrom. After all, the controversial

cop boss has never had his own

chat show. In this exclusive for Sgrîn,

Eurgain Haf puts the Cricieth-born

copper on the couch and asks him

what has influenced his career both as

a policeman and as Wales’ answer to

Michael Parkinson. She finds out that

Leslie Wynne is set to interview Heledd

Cynwal and Rhodri Ogwen among

others on his show and that Julie

Andrews is one of his favourite things.

10 11
Ciao,

Casa

Dudley

12 13
AR OCHR BRYN UWCHBEN GWINLLAN

CANTINA TABARRINI DI MONTEFALCO

YN UMBRIA, YR EIDAL, MAE TŶ MELYN

TRAWIADOL YN SEFYLL. FEL ARFER,

YSGOL WIN YDY HI. OND AM

BYTHEFNOS YN YR HAF, CAFODD Y

CANTINA EI DRAWSNEWID YN GARTREF

I GYSTADLEUAETH GOGINIO O GYMRU.

DYMA LEOLIAD CASA DUDLEY. AETH

LUNED WHELAN I GNOCIO AR Y DRWS.

Cymru dros yr haf—gwlad y glaw.

Ond mae criw o gogyddion amatur

ar fin troi eu hwynebau at yr haul a

defnyddio’u sgiliau am y gorau i geisio

ennill cystadleuaeth Casa Dudley.

Eisoes maen nhw wedi brwydro trwy

ddwy rownd i sicrhau eu lle yn yr wyth

olaf. Bydd cyfres o sialensiau newydd

yn eu disgwyl yn yr Eidal unwaith mae

drysau cegin y Casa yn agor. Mae

pris i’w dalu am golli hefyd. Fesul

diwrnod bydd y person fydd yn methu

â chyflawni’r her i’r safon angenrheidiol

yn dychwelyd adre, gan adael, yn

y pen draw, un enillydd.

Am y tro, mae hyn oll yn teimlo’n bell

i ffwrdd wrth i fi ymuno â’r cystadleuwyr

cyffrous ar ben eu taith hir i Umbria

—cuore verde d’Italia; calon werdd

yr Eidal. Ac yn wir, mae hi’n ardal

hardd. Wrth deithio ar hyd y draffordd,

mae mynyddoedd bob ochr i’r ffordd,

a threfi annisgwyl sy’n edrych fel

petaent ar fin syrthio oddi ar ochr y

bryn. Piffian chwerthin wrth ddringo

i’r mynyddoedd a phasio trwy bentref

o’r enw Bastardo (wir, yr), a heb fod

yn hir wedi hynny, dyma gyrraedd

Montefalco, a’r Hotel Villa Pambuffetti.

Cartref teulu fu’r Villa Pambuffetti am

flynyddoedd, ond bellach mae’n westy

hyfryd, gyda golygfeydd godidog

i’r gogledd dros Assisi, Spoleto a

Bevagna, tref ganoloesol hynod

ddeniadol. Mae’r mynyddoedd yn

gefnlen yn y pellter, ac mae’r gwres

yn pelydru dros bob man.

Mae bwrdd sy’n llwythog â bwyd ffres

lleol, gwin a dŵr yn ein disgwyl—mae

e i gyd fel manna ar ôl y siwrnai hir.

Mae’r cystadleuwyr yn bwyta—ac yna’n

rhedeg. Maen nhw wedi derbyn eu

cyfarwyddyd cyntaf. Ble maen nhw’n

mynd? Ai dyma’r her gyntaf? Ond mae’r

bechgyn yn bachu ychydig mwy o fwyd

cyn ei throi hi am y daith ddirgel!

Beth mae e’n feddwl am gogyddion

y Casa? “Fel bachgen o’r cymoedd,

fy ngreddf i yw bod yn gyfeillgar, ond

mae’n rhaid cadw hyd braich rhyngon

ni fel tîm cynhyrchu a nhw, sy’n despret

i wybod beth sy nesa! Felly dyw hynny

ddim yn rhwydd. Ond wy wedi gweld

talent a photensial yn y rowndiau

cynderfynol, felly wy’n edrych ymlaen

at weld beth ddaw.”

Mae Ffion yn synnu pa mor wahanol

yw naws y gyfres hon: “Mae ’na deimlad

hollol wahanol i Provence yma. Mae’r

Eidalwyr yn barod iawn eu croeso,

ac rydyn ni’n teimlo’n rhan o’r gymuned

eisoes. Mae’r dirwedd yn ddiddorol

hefyd, ac mae’n bleser ffilmio gyda’r

pentrefi a’r bryniau y tu cefn i mi. Er

ei bod mor eang, mae ’na agosatrwydd

yma. Mae’r winllan yn fodern iawn,

mae cymaint o egni gan Giampaolo,

sy’n rhedeg y busnes, ac mae bwrlwm

o ffresni yma.”

Gyferbyn â’r winllan, mae’r cwm yn

estyn fel carped hud byw tuag at y

mynyddoedd, a chaeau’n aeddfedu

at y cynhaeaf. Mae coed olewydd

a choed bythwyrdd yn grud i’r tai

melyn a hufen gyda’r caeadau gwyrdd

sydd mor nodweddiadol o dai’r wlad

brydferth hon.

Giampaolo Tabarrini

“ DWI ANGEN I’R

CYSTADLEUWYR FOD

YN ANGERDDOL AM

FWYD OND I ADNABOD

EU CYNHWYSION

HEFYD”

Y CANTINA

Yn Cantina Tabarrini, mae cegin wedi

cael ei hadeiladu’n benodol ar gyfer

Casa Dudley. Mae Giampaolo Tabarrini,

perchennog y winllan, a’i wraig Federica

yn groeso i gyd. Mae Monia Caneschi,

sydd wedi bod yn drefnydd allweddol,

yn brysur ar y ffôn. Mae pawb yn

edrych ymlaen at weld y cystadleuwyr

yn cyrraedd.

Mae’r dyn ei hun, Dudley Newbery, a’i

gyd-gyflwynydd, Ffion Dafis yn barod

i dderbyn y criw. Wedi blynyddoedd

o gyflwyno ei gyfres ei hun ar S4C,

a rhedeg sawl menter fusnes, mae

Dudley’n enw ac yn wyneb adnabyddus

yng Nghymru. Cododd ei bac y llynedd,

symud y cynhyrchiad dramor, cyflwyno’r

elfen o gystadleuaeth a mwynhau

llwyddiant mawr gyda’r gyfres Chez

Dudley, a ffilmiwyd yn Provence.

Eleni mae e wedi cyrraedd Umbria.

Mae’r gegin yn wag. Mae’r llestri’n lân;

y gwydr yn disgleirio a’r cyfarpar

yn aros. Wedi cyfnod paratoi caled,

mae’r criw yn aros. Ac mae’r wyth ar fin

cyrraedd. Buan iawn y daw ffrwydrad

o weithgarwch—camerâu’n ffilmio,

meicroffonau’n recordio a drysau

Casa Dudley yn agor. Mae’r aros ar

fin dod i ben.

“Dwi angen i’r cystadleuwyr fod yn

angerddol am fwyd ond i adnabod

eu cynhwysion hefyd,” meddai’r pen

cogydd. “Gall y person gorau yn y

gegin fethu oherwydd camgymeriad

sylfaenol gyda’r bwyd sydd o’u blaen.”

14 15
“MAE’N GYFLE ARBENNIG I DDANGOS I CHI

YNG NGHYMRU, AC I’R BYD, FOD CYNNYRCH

O MONTEFALCO A’R ARDAL YN FWYD A

DIOD O SAFON UCHEL”

CIAO

Ond nawr, dim ond y presennol sy’n

cyfri. O’r diwedd, mae’r plât olaf yn

cael ei osod o flaen y beirniaid, ac

wedi cryn drafodaeth rhwng Marco

a Nazzerano, mae’r dyfarniad yn

barod. Mae newyddion drwg i un o’r

wyth, a fydd yn mynd adre gyntaf.

Mae’n siom, wrth gwrs, ond mae’r

profiad o gael dod yma i gystadlu a

dysgu yn lleddfu’r boen rhyw ychydig.

Wrth i’r cystadleuydd siomedig gerdded

i lawr y grisiau, mae bwrdd du bychan

wrth droed y grisiau yn datgan: Casa

Dudley—Ciao! Ac mae Ciao yn golygu

dau beth: helo—a ffarwel…

On a hillside in Umbria, Italy, the vineyard

of the Cantina Tabarrini di Montefalco

is overlooked by a striking yellow house.

It usually houses a wine school, but

for two weeks this summer, the Cantina

became the setting for a special cookery

challenge. Casa Dudley is the Italian

follow-up to last year’s hit cookery reality

show Chez Dudley, held in Provence,

France. Sgrîn’s Luned Whelan follows

chef Dudley Newbery and presenter

Ffion Dafis to Umbria, where she sees

a crew of keen Welsh amateur cooks

learn the art of Italian cooking in what

is one of the country’s culinary centres

of excellence.

DYNWARED DUDLEY YN Y GEGIN!

I gael cyfle i ennill peiriant gwneud

pasta a phecyn o fwydydd Eidalaidd,

atebwch y cwestiwn canlynol:

Ym mha ranbarth o’r Eidal mae

lleoliad Casa Dudley?

Anfonwch eich ateb ar e-bost at

sgrin@s4c.co.uk neu ar gerdyn post at:

Cystadleuaeth Casa Dudley, Sgrîn,

S4C, Blwch Post 353, Caerdydd CF24

5XA. Y dyddiad cau yw dydd Llun,

15 Hydref.

PETHAU’N POETHI

Mae’r croeso yn gynnes, a’r prynhawn

yn fwy felly. Mae pethau’n poethi wrth

i’r cystadleuwyr weld y gegin am y

tro cyntaf. Maen nhw i gyd yn edrych

ymlaen yn ogystal â bod yn nerfus,

ddwedwn i. Yna cânt gynnig gwydraid

o win, a chyfle i ddarllen eu pecynnau

gwybodaeth. Maen nhw’n canolbwyntio

ar y rhain pan ddaw Dudley allan i holi

a ydyn nhw’n iawn, ac i ddweud fod

y gystadleuaeth ar gychwyn…

A pha ffordd well i ddechrau na

chroesawu dau gogydd lleol

adnabyddus fel beirniaid ar gyfer y

gystadleuaeth gyntaf? Mae Marco

Gubbiotti yn berchen ar seren Michelin

ar gyfer ei fwyty, La Castiglia, yn

Spello, tua hanner awr o Montefalco.

Mae Nazzerano Brodoloni yn rhedeg

bwyty Sparafucile yn Foligno, ac yn

gyrru tacsi du fel rhai Llundain, sy’n

edrych yn estron iawn yma yn Umbria!

Wrth i’r cystadleuwyr ddechrau ar eu

tasg, mae’r gegin yn llenwi â synau ac

arogleuon y paratoadau dan lygad

barcud Dudley—a’r beirniaid. Nid yn

unig hynny, ond mae camerâu yn dilyn

eu holl symudiadau, ac mae’r tensiwn

bron i’w weld yn ffrwtian yn y stêm

dros y padelli ar y stôf.

Mae’r ffilmio yn Montefalco wedi

creu tipyn o gynnwrf yn lleol hefyd,

a thrigolion y pentrefi cyfagos yn

chwilfrydig i ddod i weld beth sy’n

digwydd yn Casa Dudley. Mae hyd

yn oed Maer Montefalco, Valentino

Valentini, yn picio draw i helpu gyda’r

gwaith blasu a beirniadu. Mae e’n

eithriadol o falch fod Casa Dudley’n

cael ei ffilmio yn Montefalco. “Mae’n

gyfle arbennig,” meddai gyda gwên,

“i ddangos i chi yng Nghymru, ac i’r byd,

fod cynnyrch o Montefalco a’r ardal

yn fwyd a diod o safon uchel, sy’n cael

eu dangos â balchder. Dwi’n falch

iawn ’mod i’n medru dod i’ch croesawu,

ac roedd cael rhan yn y ffilmio—

a’r bwyta(!)—yn bleser mawr.”

Dros y dyddiau nesaf, bydd y

cystadleuwyr yn cwrdd â rhai o

gynhyrchwyr bwyd a diod blaenllaw’r

ardal, yn cael y fraint o rannu cegin

gyda Marco Bistarelli, cogydd seren

Michelin o fwyty Il Postale yn Città di

Castello, ac yn mynd ar daith ddirgel

gyda chanlyniad annisgwyl.

Marco Gubbiotti

Nazzerano Brodoloni

16 17
BUON

APPETITO

O

UMBRIA!

Roedd silffoedd cegin Casa Dudley

yn gwegian dan bwysau’r cynnyrch

a gyfrannodd perchnogion busnesau

lleol at y cynhyrchiad teledu. Roedd

poteli o olew olewydd, saffrwm,

lenticchie (corbys), farro (emer, sef

grawnfwyd cyflawn a grawnfwyd wedi

ei falu), cawsiau, orzo (barlys wedi ei

blisgo), salumeria (cig wedi ei sychu

megis salami a prosciutto), pasta, blawd

ac wrth gwrs, gwin y tŷ, Sagrantino

di Montefalco Tabarrini. Mae un peth

gan bawb yn gyffredin: angerdd at

eu hardal a’i chynnyrch.

Giampaolo Tabarrini a’i deulu ydy’r

pumed genhedlaeth i redeg gwinllan

Cantina Tabarrini. Umbria ydy’r unig

le yn y byd lle mae gwinwydden

Sagrantino’n cael ei thyfu, a Giampaolo

ydy’r cyntaf i botelu gwin y tŷ. Cyn

hynny, cawsai ei werthu’n lleol mewn

cawgiau. Bellach, mae’r gwin ar gael

mewn 25 gwlad, ond y poteli sy’n

plesio Giampaolo fwyaf ydy’r 1000 y

flwyddyn a werthir ym Mharis, lle mae

“ HEN DRADDODIAD

ARALL A ADFERWYD

YN DDIWEDDAR YDY

CYNHYRCHU MEDD.”

anfodlonrwydd Ffrancwyr i brynu gwin

o dramor yn chwedlonol! Y Rosso (coch)

Montefalco ydy’r llwyddiant mwyaf,

ac ar draws y chwe gwin, cynhyrchir

50,000-70,000 o boteli’r flwyddyn. Dim

ond y grawnwin maen nhw’n tyfu sy’n

cael eu defnyddio, felly mae’r hinsawdd

yn bwysig. Mae hi’n un ddelfrydol,

gyda gwres yr haul a gwynt cyson

sy’n cadw’r grawnwin yn sych ac yn

eu hatal rhag pydru. Mae Giampaolo’n

credu’n gryf mewn cyfuno traddodiad a

thechnoleg, felly er bod y grawnwin yn

cael eu casglu â llaw, mae cyfrifiaduron

yn monitro tymheredd y casgenni

anferth sydd yn y selar. Caiff y gwin

ei gadw am 40-45 diwrnod yn hytrach

na’r 15 arferol cyn ei botelu, sy’n rhoi’r

dyfnder a’r safon iddo. Galla i dystio

fod ganddo arogl a blas bendigedig.

Mae Marco Viola yn ddyn ifanc arall

sy’n gofalu am etifeddiaeth ei deulu

tra’n cynyddu masnach yn y byd

modern. Mae olew olewydd Viola wedi

bod yn cael ei gynhyrchu ers canrif a

mwy, a blaenoriaeth Marco ydy safon

aruchel. Mae’r ffrwyth yn dal i gael ei

gasglu â llaw bob mis Hydref, ac mae

llwyddiant y tri math o olew yn cael

ei fesur gan ddefnyddio’r synhwyrau

—golwg, arogl a blas. Defnyddiwch olew

ysgafn ar gyfer pysgod a chig gwyn;

un canolig ar gyfer cawl a chig ac un

cryf pan fod angen blas cadarn, fel

ar ddail amrwd. Braster da ydy olew

olewydd, meddai Marco, ond byddwch

yn ymwybodol o faint a sut rydych

yn ei ddefnyddio.

Dyn arall sy’n pwysleisio elfen iachus

ei gynnyrch ydy Gianluca Polidori,

Llywydd Cymdeithas Saffrwm Cascia.

Er bod traddodiad tyfu saffrwm yn

Umbria yn hynafol, aeth pum canrif

heibio heb gnwd nes i’r Gymdeithas

adfer y traddodiad yn 1999 fel ffordd o

adfywio ardal dlawd. Dau brif ddefnydd

saffrwm ydy fel pigment ym myd celf ac

mewn bwyd. Mae ymchwil diweddar yn

awgrymu fod iddo ddefnydd fferyllol ym

meysydd lleddfu iselder a thrin clefyd

Alzheimer, ac mae’n hysbys ei fod yn

wrthocsidydd cryf iawn. Mae pob llinyn

bach coch yn cario nerth ymhell tu

hwnt i’w faint.

Mae Francesco a Rita Rossi hefyd yn

rhan o’r diwydiant saffrwm, ond caws

ydy eu prif gynnyrch nhw yn Colforcella,

Cascia. Gyda 220 o ddefaid ac 80 gafr,

mae 4 gweithiwr llawn amser gyda

nhw yn cynhyrchu cawsiau gwahanol.

Synnwyd fi gan y syniad o gaws

tymhorol, ond yn wir, mae cawsiau

ar y gweill ddau fis ymlaen llaw ar

gyfer Nadolig, Pasg a Gŵyl Awst. Maen

nhw’n llwyddiannus oherwydd eu bod

yn nodweddiadol o’r ardal, meddai

Francesco. Mae llinyn cyswllt cryf rhwng

Umbria a Rhufain, lle mae nifer fawr

o deuluoedd yn ymfudo, a phan ddaw

pawb adre adeg gwyliau mawr, blas

yr ardal yw’r hyn maen nhw’n hiraethu

amdano.

Hen draddodiad arall a adferwyd

yn ddiweddar ydy cynhyrchu medd.

Gwenynwr ydy Alberto Mattoni,

cynhyrchydd medd Chimere, a oedd

yn chwilio am ffordd o ddefnyddio’r

mêl oedd ganddo dros ben mewn

dull masnachol. Tynnodd fy nghoes

trwy ddweud y dylwn i wybod am

hanes y ddiod, gan ei bod yn gryf yn

y traddodiad Celtaidd! Disgrifiodd hi

hefyd fel coppa madre (mam gwpan)

Ethiopia ac Eritrea, lle caiff ei hyfed

mewn gwleddoedd priodas. Mae

Alberto hefyd yn pasio’i grefft ymlaen

at wenynwyr eraill er mwyn sicrhau

fod y traddodiad yn perthyn i’r

dyfodol yn ogystal â’r gorffennol.

Mae’n ddigon rhwydd i ni yng Nghymru

feddwl fod bwyd Eidalaidd yn unffurf

ar draws y wlad, ond mae’n werth i

chi chwilio am gynnyrch rhanbarthol

Umbria i brofi faint o amrywiaeth all

fod—a chael blas arbennig. Un piacere

che non finisce mai—pleser nad

yw’n gorffen.

The shelves in the Casa Dudley kitchen

were groaning with a variety of delicious

local produce. As well as the Tabarrini

wines, there was locally produced mead

to drink. There were dried meats such

as salami and prosciutto; a wide choice

of goat and sheep cheeses; lentils and

other pulses; saffron and some seriously

good olive oils. It’s worth looking for

Umbrian goods in your local deli and

discovering the true taste of the heart

of Italy.

CASA DUDLEY

Yn yr hydref

O Gymru gan Opus TF

s4c.co.uk/casadudley

18

19
GANGSTERS

Y GORLLEWIN

Cyfres ddrama feiddgar sy’n goctel o gyffuriau a hiwmor tywyll, trais a serch—a’r cyfan

wedi ei leoli yn Sir Gâr. Eurgain Haf sy’n esbonio mwy am Y Pris...

20 21
Sir Gâr. Ardal hamddenol a phrydferth

yng ngorllewin Cymru sy’n nythu rhwng

y Bannau Brycheiniog a Sir Benfro ac

sy’n enwog am ei hanes a’i chyfoeth

o chwedloniaeth. Ond mae’r ddelfryd

honno ar fin cael ei thrawsnewid gan

gyfres ddrama newydd ar S4C.

Byd llawn gangsters, lle mae cyffuriau,

gynau a rhyfeloedd tiriogaethol yn

themâu amlwg, yw byd Y Pris. Curiad

calon y cyfan yw’r Frawdoli’eth, sefydliad

hynafol lle mae bod yn aelod yn ddibynnol

ar fod yn ddyn, yn siaradwr Cymraeg

ac yn grwc.

Mae’r Frawdoli’eth yn gyfrifol am

nifer o fusnesau—cyfreithlon ac

anghyfreithlon—fel masnachu cig, hel

cocos, puteindra, gamblo, cyffuriau

a tharmacio. Am ganrifoedd mae penteulu

gwryw teuluoedd sefydledig o fewn

y gymdeithas wedi bod yn rhedeg

y busnesau yma.

Ond mae’r busnesau bach a’r hen

draddodiadau dan fygythiad. Felly hefyd

ffordd o fyw Llywydd Y Frawdoli’eth,

y cyfeirir ato fel Y Ffarmwr Cocos.

Mae bradwr yn aelod o’r Frawdoli’eth

ac mae’n bygwth chwalu hygrededd

teulu’r Edwards, sy’n flaenllaw iawn yn

yr isfyd hwn. Daw bygythiad o gyfeiriad

arall hefyd, sef giang o’r dwyrain sy’n

tresmasu ar eu tiriogaeth trwy ddelio

cyffuriau. Fel y dychmygir, mae’r cyfan

yn datblygu’n stori ddramatig o ddial

a thrasiedi a rhamant gyda phris i’w

dalu am bob gweithred.

Cwmni Fiction Factory, sydd hefyd

yn gyfrifol am gyfresi Caerdydd, yw

cynhyrchwyr Y Pris. Ymhlith y cast mae

enwau cyfarwydd fel Philip Madoc, Nia

Roberts, Rhodri Meilir, Matthew Gravelle,

Mark Lewis Jones, Huw Ceredig, Jâms

Thomas a Catrin Arwel.

Ysgrifennwyd y gyfres gan Tim Price,

cyn-newyddiadurwr 27 mlwydd oed o

Aberdâr ac un o enillwyr Cystadleuaeth

Sgriptio Ffilm a Drama S4C yn 2001.

“Ennill y gystadleuaeth honno roddodd

yr hwb i’m gyrfa fel sgriptiwr. Fe es i o

weithio fel newyddiadurwr ar bapur

lleol y Cynon Valley Leader, ac yn un

nad oedd erioed wedi ysgrifennu dim ar

gyfer y teledu, i gael cynnig ysgrifennu

cyfres ddrama i S4C. Fe wnaeth hynny

wireddu breuddwyd,” eglura Tim, sydd

erbyn hyn wedi sefydlu ei hun fel awdur

llawn amser ac yn gweithio ar gyfresi

Belonging a Caerdydd ac hefyd yn

ysgrifennu dramâu ar gyfer y theatr.

O le y daeth y syniad am Y Pris felly, ac

fel gŵr sydd â’i wreiddiau yn y cymoedd,

pam lleoli’r ddrama yn y gorllewin?

“Mae Sir Gaerfyrddin yn agos at fy

nghalon ac ro’n i’n arfer mynd yno lot

ar wyliau pan oeddwn i’n blentyn. Mae’n

lle diddorol iawn sy’ wastad wedi codi

chwilfrydedd ynof i. Mae’n fy atgoffa

i o Twin Peaks.

“Mae’r broses o ysgrifennu Y Pris wedi

pontio tua thair blynedd a thros y

cyfnod hynny rwy’ wedi bod yn aros

mewn gwahanol ardaloedd yn Sir

Gaerfyrddin i ddod i adnabod yr ardal

a’r bobl yn well. Fe fues i’n aros mewn

fflat yn Nhalacharn yn agos i gartref

Dylan Thomas. Mae gen i barch mawr

at Dylan Thomas yn y ffordd nad yw

ofn cymysgu comedi a thrasiedi ochr

yn ochr ac mae’r beiddgarwch sydd

yn fy ngwaith yn deillio o’i ddylanwad

e arna i,” ychwanega.

Yn ôl Fizzy Oppe, cynhyrchydd Y Pris,

roedd beiddgarwch Tim i wthio’r ffiniau

mewn drama deledu yn apelio. “Mae fel

y Sopranos ger y lli yn y Gymraeg–yn

llawn straeon dramatig gyda digon o’r

llon a’r lleddf i gydio yn y gynulleidfa.

Ond nid hanes gangsters yn unig sydd

yma. Mae’n gyfres am gymuned a beth

mae’r gymuned honno yn barod i’w

wneud i gadw’r hen ffordd o fyw a’r

hen draddodiadau i oroesi.”

Y Pris is a daring new drama series

on S4C that’s been described as

‘The Sopranos by the seaside.’ Set in

Carmarthenshire, the story follows the

tangled lives of a group of gangsters

who hide their illicit dealings—drugs,

gun-running and gambling—behind

the façade of a number of legitimate

businesses, including cockle farming.

The series stars a number of well-known

faces, including Philip Madoc, Matthew

Gravelle, Nia Roberts and Rhodri Meilir.

Former journalist Tim Price is the

series’ author.

“ MAE’N GYFRES

AM GYMUNED A BETH

MAE’R GYMUNED

HONNO YN BAROD

I’W WNEUD I GADW’R

HEN FFORDD O

FYW A’R HEN

DRADDODIADAU

I OROESI.”

Y PRIS

Yn yr hydref

O Gymru gan

Fiction Factory

22 23
01

02 03

04

05

PWY YW PWY

YN Y PRIS

01 LYN

Matthew Gravelle sy’n chwarae Lyn, un o brif

gymeriadau’r gyfres. Mae Lyn yn bennaeth y cartél

cyffuriau ac ef sydd biau’r garej ceir. Ar ddechrau’r

gyfres mae’n bygwth cefnu ar Gymru er mwyn dilyn

ei gariad i Sbaen. Ond mae’n rhaid iddo dyfu lan

yn gyflym pan fo’i dad, Rhidian, yn dioddef strôc

ac mae’r Frawdoli’eth yn ei dderbyn yn aelod.

02 KIRSTI

Nia Roberts sy’n chwarae Kirsti, merch i berchennog

cyfoethog cwmni papurau newydd yn Llundain. Mae

wedi dod i’r gorllewin i weithio fel cyw newyddiadurwr

ar bapur newydd lleol. Ond mae ganddi orffennol—

bu’n gaeth i’r cyffur cocaine. Mae’n syrthio mewn

cariad â Lyn.

03 BRYN

Mae Bryn yn aelod o griw Lyn, ac mae’n chwarae

rôl bwysig ym mhob agwedd ar y busnes—boed

yn gyfreithlon neu’n anghyfreithlon. Bryn yw’r

unig aelod o’r grŵp sy’n briod, a hynny gyda

Ruth, gwraig brydferth sy’n ennyn edmygedd ei

gyfeillion. Aled Pugh sy’n chwarae Bryn.

04 STEVE

Yn wreiddiol o’r gogledd, Steve yw ffrind pennaf Lyn.

Rhodri Meilir sy’n chwarae’r cymeriad cymhleth hwn,

sy’n cyd-redeg y busnes cyffuriau gyda Lyn. Steve,

hefyd, sy’n rheoli’r clwb nos.

05 IEUAN

Ieuan yw’r ‘heavy’ sy’n cadw’r cwsmeriaid a’r

dealers dan reolaeth. Mae’n driw iawn i’w ffrindiau,

ond ei wendid mawr yw ei fod yn hypochondriac.

Jâms Thomas sy’n chwarae Ieuan.

WHO’S WHO

Lyn is involved in running both the legitimate family

car business and a highly illegal drugs ring. Steve,

Bryn and Ieuan are members of his closely-knit gang.

When Lyn falls in love with journalist Kirsti, there’s a

distinct feeling that there’s a cuckoo in the nest who

could ruffle a few feathers.

24 25
Mae S4C yn dathlu 25 mlynedd

o ddarlledu ar 1 Tachwedd 2007.

Luned Whelan sy’n bwrw golwg ar

rai o’r rhifau pwysig sydd wedi ffurfio

rhan hanfodol o fywyd y Sianel dros

y chwarter canrif diwethaf.

HANES DARLLEDU

Yn yr hydref

O Gymru gan

BBC Cymru

DECHRAU CANU

DECHRAU CANMOL

Yn yr hydref

O Gymru gan Avanti

s4c.co.uk/dechraucanu

S4C

HAPUS

BLWYDD

PEN-

CEFN GWLAD

Yn yr hydref

O Gymru gan

ITV Cymru

04 WAL

Yn yr hydref

O Gymru gan Fflic,

rhan o Grŵp Boomerang

s4c.co.uk/04wal

CWPWRDD DILLAD

Yn yr hydref

O Gymru gan Fflic,

rhan o Grŵp Boomerang

s4c.co.uk/cwpwrdddillad

25/

2//

3///

5/////

1/

4////

27
1/

Ar 1 Tachwedd 1982 dechreuodd S4C

ddarlledu—yr unig sianel deledu

Gymraeg yn y byd.

2//

Dai Jones—un o wynebau mwyaf

cyfarwydd a phoblogaidd S4C. Mae Dai

wedi cyflwyno 27 cyfres o Cefn Gwlad.

3///

Jones Jones Jones—torrwyd y record

byd am gasglu’r nifer fwyaf o bobl â’r un

cyfenw yn yr un man ym mis Tachwedd

2006. Darlledodd S4C y gyngerdd a

gynhaliwyd i ddathlu’r digwyddiad yng

Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

4////

Y nifer o enwebiadau ar gyfer Oscar®

a dderbyniodd ffilmiau S4C (Hedd Wyn,

Yr Enwog Ffred, Y Wraig o Gaerfaddon,

Solomon a Gaenor).

5/////

Y nifer o wobrwyon cartref a

rhyngwladol mae’r gyfres ddrama Con

Passionate wedi ennill hyd yma (Rose

d’Or, dwy wobr Prix Europa, Gŵyl y

Cyfryngau Celtaidd a BAFTA Cymru).

6//////

6 ffilm oedd yng nghyfres gyntaf

Shakespeare: Y Dramâu wedi’u

Hanimeiddio. Gwerthwyd y rhaglenni

i dros 50 o wledydd ac enillodd

y gyfres wobrau yng Ngŵyl Ffilm

Efrog Newydd a’r Primetime Emmys

yn America.

7///////

Bydd cyfres 7 o Tipyn o Stâd yn

cael ei darlledu yn 2008.

8////////

Mae’r rhif 8 yn allweddol i’n gwasanaethau

ar y sgrîn. Mae is-deitlau Saesneg ar

888 ac is-deitlau Cymraeg i ddysgwyr

ar 889. Mae dros 80% o arlwy S4C yn

cael ei his-deitlo.

9/////////

Rhif crys Dwayne Peel, chwaraewr

talentog ifanc yng ngharfan rygbi

Cymru a chyflwynydd Rygbi 100%.

10//////////

Mae 10 Disg Amryddawn Digidol (DVD)

o un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C,

C’Mon Midffîld, wedi gwerthu bron i

10,000 o gopïau ar label Sain, ar ben y

miloedd o fideos a werthwyd cyn hynny.

11///////////

Mae gwefan weithredol wedi bod gan

S4C ers 11 mlynedd. Aeth y tudalennau

cyntaf ar-lein yn 1996!

12////////////

Dechreuodd Rownd a Rownd yn 1995,

ac eleni mae’n dathlu deuddeg mlynedd

ar y sgrîn. Mae’r set yn atyniad mawr

ym Mhorthaethwy, tra bod ambell i

ymwelydd wedi credu bod y caffi a’r

siop trin gwallt yn llefydd go iawn!

13/////////////

Mae cyfres Sali Mali wedi gwerthu i

13 o diriogaethau dros y byd. Mae’r

ferch fach hoffus a’i ffrindiau’n apelio

at blant ym mhob man.

14//////////////

Mae Gwifren Gwylwyr S4C wedi bod yn

derbyn galwadau gan y cyhoedd ers

i’r gwasanaeth gael ei lansio yn 1993.

Hyd yma eleni, mae’r Wifren wedi derbyn

dros 8,000 o ymholiadau.

15///////////////

Mae S4C wedi darlledu cystadleuaeth

Cân i Gymru ers 15 mlynedd, er bod y

gystadleuaeth ei hun yn dyddio’n ôl

i 1969—yn hŷn o dipyn nag S4C!

16////////////////

Bu 16 o gyflwynwyr yn eich croesawu

i Uned 5 ers i’r rhaglen gychwyn yn

1994. Ym mis Tachwedd eleni bydd

yn darlledu rhifyn 1,000.

17/////////////////

Gwerthwyd y gyfres animeiddio Holi

Hana i 17 o wledydd. Bydd ail gyfres

o hanesion yr hwyaden gymwynasgar

yn siŵr o gadw’r plant sydd wedi

cymryd ati’n hapus iawn.

18//////////////////

Nifer y rhaglenni dros 3 cyfres o Tair

Chwaer, hanes un teulu cythryblus ond

agos yng ngorllewin Cymru.

19///////////////////

Bydd Sgorio tymor 2007-8 yn golygu fod

y gyfres bêl-droed boblogaidd ar S4C

ers 19 tymor—mae hwnna’n lot o gôls!

20////////////////////

Caiff 20 peint o laeth y diwrnod eu

defnyddio mewn diodydd poeth gan

staff ac ymwelwyr S4C!

21/////////////////////

Oed Sam Tân. Daeth Pontypandy yn fyw

yn 1986, gyda Sam, Norman, Elvis, Bella

a’r criw yn diddanu plant Cymru a’r byd.

22///////////////////////

Dyma oedd oedran Matthew Rhys pan

enillodd ei wobr BAFTA Cymru cyntaf am

ei ran yn y ffilm Bydd yn Wrol. Bellach

mae e’n wrol ar y teledu yn Brothers

and Sisters ar C4 ac S4C.

23///////////////////////

Oedran Ioan Gruffudd pan lamodd i

ddyfroedd dyfnion Hollywood yn y ffilm

Titanic, a datblygu ei yrfa ar ochr arall

y Môr Iwerydd. Dechreuodd ei yrfa actio,

wrth gwrs, ar Pobol y Cwm, cyfres sebon

fwyaf hirhoedlog y BBC.

24////////////////////////

Oed yr animeiddwraig dalentog Joanna

Quinn pan wnaeth hi ei ffilm gyntaf am

Beryl. Yn 2007 enillodd Beryl, y Briodas

a’r Fideo wobr BAFTA Cymru. Roedd

y ffilm eisoes wedi ennill 25 o wobrau

mewn gwyliau animeiddio ledled y byd.

25/////////////////////////

Mae S4C yn gwasanaethu ei chynulleidfa

ers 25 mlynedd—Pen-blwydd Hapus!

As S4C reaches an historic milestone,

its 25th anniversary, Luned Whelan

looks at some important numbers in the

Channel’s history. Did you know that S4C

has received four Oscar® nominations

—for films Hedd Wyn and Solomon a

Gaenor and animations Famous Fred

and The Wife of Bath? Or that children’s

cartoon Sali Mali has been sold to 13

different territories around the world?

13/////////////

6//////

7/////// 8////////

11///////////

14//////////////

16////////////////

9/////////

10//////////

12////////////

15///////////////

17//////////

21/////////////////////

18//////////////////

20////////////////////

23///////////////////////

24////////////////////////

25/

22//////////////////////

19///////////////////

28 29
Y Briodas

Fawr

BYDD PUMP O WYNEBAU CYFARWYDD IAWN YN CHWARAE RHAN ALLWEDDOL

YM MHRIODAS PÂR IFANC O’R GOGLEDD, ANNA ROBERTS A LEE OPENSHAW.

SIRIOL HAF GRIFFITHS SY’N HOLI’R PUMP AM EU TASGAU A’U PROFIADAU PRIODASOL.

30 31
Beth fydd eich tasg yn Y Briodas Fawr?

Rwy’n gorfod mynd â’r modrwyau i’r

pâr priod—ond yr amod yw fy mod i’n

gwneud skydive yn gyntaf gyda’r Red

Devils ar y ffordd i’r seremoni briodas!

A oes ofn arnoch?

Sai’n dweud ’ny, ond wy’n gwybod bod

ishe paratoi a hyfforddi’n iawn. Wy wedi

gwneud bungee jump o’r blaen, ond

mae hwn bach yn wahanol.

A oes unrhyw briodas yn sefyll

mas yn eich cof?

Es i un briodas ar Manley Beach yn

Sydney, lle oedd jyst y pâr ac ychydig

o dystion. Roedd y lle yn arbennig iawn

ac yn dawel neis ar y pryd.

Ydych chi wedi chwarae rôl allweddol

mewn priodas erioed?

Na, ddim wir. Wy wedi cael cynnig bod

yn was priodas ddwywaith, ond wedi

ffaelu mynd y ddau dro achos bo fi

wedi bod ar deithiau rygbi.

Beth ydych chi’n meddwl am briodasau’r

sêr a phobl enwog?

Sai’n dilyn priodasau’r sêr yn fanwl.

Ond fe fuodd fy mhriodas i yn Hello!

ac roedd e wedi cael ei wneud yn neis

i gyd. Sai’n lico fe pan mae’r selebs yn

gwneud pethau tacky.

Beth yw’r gân orau ar gyfer y ddawns

gyntaf mewn parti priodas? A’r un

waethaf?

Mae unrhyw gân Gymraeg yn grêt ’da

fi! Ond wy’n credu taw beth sy’n bwysig

i’r pâr sy’n cyfrif. Fe all fod yn gân

ddoniol neu ysgafn, ’sdim ots, rhywbeth

personol iddyn nhw yw e.

Beth fydd eich tasg chi yn

Y Briodas Fawr?

Fi sy’n gyfrifol am drefnu’r briodas;

pob dim o’r blodau i’r ffotograffydd

a’r mis mêl.

Rydych chi’n dod drosodd fel person

hynod o drefnus? Ydy hynny’n wir?

Mae’n rhaid i fi fod yn onest, cyn i fi roi

genedigaeth i’r mab, Gwern, doeddwn

i ddim yn or-drefnus, nac yn flêr chwaith.

Ond bellach, oherwydd bod yn rhaid

i mi drefnu amser bwydo a gwisgo ac

ati, rwy’n llawer mwy trefnus. Felly

diolch i Gwern am hynny!

Faint o waith paratoi wnaethoch chi

tuag at eich priodas eich hun?

Mam nath y rhan fwyaf! Ro’n i’n rhoi

peth mewnbwn ond wnes i ddim lot.

Beth yw’r peth gorau am briodasau

yn gyffredinol?

Wy’n dwli arnyn nhw i gyd oherwydd

yr hapusrwydd. Hyd yn oed os oes

pethau yn mynd o le ar y dydd, mae pob

un yna i gael sbri, felly does dim ots.

A fuoch chi’n rhan o unrhyw ffwlbri

priodasol erioed?!

Wy’n dod o Landeilo lle mae ’na

draddodiad cryf o felltith. Wy’n cofio pan

wnaeth un o fy ffrindiau weldio carafán

at glwyd y ffermdy fel bod neb yn gallu

gadael na chyrraedd—ac wedyn rhoi

slurry dros yr hewl rhwng y ffermdy a’r

seremoni er mwyn achosi ffwdan.

Lle yn y byd mae’r lleoliad mwyaf

rhamantus i briodi?

Bues i mewn priodas ym Mhortmeirion

ac roedd honno’n hynod o ramantus.

Roedd y tywydd yn braf, gaethon ni

fwyd ar y lawnt ac roedd golygfeydd

anhygoel o’r traeth a’r môr. Paradwys.

Beth fydd eich tasg chi yn

Y Briodas Fawr?

Fy swydd i yw sicrhau bod y bechgyn,

y priodfab a’r best man, yn cyrraedd

y briodas mewn da bryd—mewn cwch

hwylio! Bydda i’n eu cludo yn y cwch

o Sir Fôn i Ddeganwy. Capten Jonsi

Pugwash go iawn fydda i!

Ydy’r ffaith bod chi ofn dŵr ac yn methu

nofio wedi achosi problemau?!

Mae ofn dŵr wedi bod arna i erioed,

a be sy’n codi ofn arna i yw’r tywyllwch

o dan y dŵr. A dwi ddim yn hoff o

sut ma’ llongau yn siglo o ochr i ochr

chwaith. Dwi wedi bod yn derbyn lot

fawr o hyfforddiant, a diolch byth am

hynny! Nid dim ond dysgu sut i hwylio

ydw i’n gorfod gwneud, ond hefyd

dysgu am y môr a’r llanw. Hyd yma dwi

wedi bod yn lwcus oherwydd ma’ pob

diwrnod hyfforddi wedi bod yn braf ac

mae’r môr wedi bod yn ddistaw. Dwi’n

cofio croesi’r Solent un tro a bod yn

sâl fel ci dros yr ochr!

Beth sy’n eich poeni fwyaf am y dasg?

Rwy’n gobeithio y bydd y tywydd yn

braf, neu fydda i’n chwydu, heb os. Rwy

hefyd yn gobeithio y byddai’n gallu deall

y llanw yn iawn—mae hynny’n hanfodol.

Ond yn bennaf, rwy’n poeni na fydd y

priodfab na’r gwas yn cyrraedd

mewn pryd!

Beth yw’r wisg waetha i chi weld

mewn priodas?

Fedra i ddim dioddef top hat!! Does gen

i ddim syniad pam fod dynion yn dewis

eu gwisgo nhw!

Beth yw’r llinell orau i chi glywed gan

was priodas neu dad y briodferch?

“Fydda i’n gweld priodi fel ‘three ring

circus’. Mae gen ti’r engagement ring,

y wedding ring ac wedyn mae gen ti

lot o suffering!”

Beth fydd dy dasg di yn Y Briodas Fawr?

Fi sy’n gyfrifol am y colur, a hefyd y

wacsio a’r massages.

Faint o baratoi sydd angen ar gyfer

tasg o’r fath?

Mae angen lot o hyfforddiant a dwi

wedi gorfod dysgu lot fawr yn barod.

Ond diolch byth, mae gen i athrawes

—Patricia—sy’n amyneddgar iawn ac

sy’n egluro pethau’n hawdd. Rwy wedi

bod yn ymarfer drwy roi colur ar Heledd!

Oes thema arbennig ar gyfer y colur?

Er enghraifft, yr 80au/gothic/punk?

Yr unig thema yw edrych yn hardd.

Wyt ti wedi chwarae rôl allweddol

mewn priodas erioed?

Roeddwn i’n usher ym mhriodas fy

chwaer. Ond dim ond gorfod dangos

pobl i’w seddi oeddwn i.

Beth fyddai’r wisg waetha, yn dy

farn di, ar gyfer priodas?

Unrhywbeth sy’ ddim yn naturiol. Mae

priodas yn rhywbeth traddodiadol

ac fe ddylsai pobl wisgo felly. Rwy’n

credu mai gwisgo fel chavs fyddai’r

wisg waetha!

Lle yn y byd mae’r lleoliad mwyaf

rhamantus i briodi?

Capel Bowydd, Blaenau Ffestiniog.

Beth fyddai dy ddewis di fel cân

gynta’ ar gyfer y parti priodas?

‘Is This Love’ gan Whitesnake.

A fedrwch chi roi cliw i ni am beth

fydd eich tasg?

Mae e’n beth ‘corfforol’ iawn.

Oes angen unrhyw hyfforddiant?

Oes. Mae’r hyfforddiant yn hynod o

arbenigol ac mae’n drylwyr tu hwnt.

Beth yw’r peth gorau am briodasau

yn gyffredinol?

Roedd gen i hanner dwsin o briodasau

dros yr haf. Ac un o’r pethau gorau am

hynny oedd gallu gwisgo lan. Ond dyna

beth sy’n hunllef hefyd. Roedd yr un

bobl yn mynychu bob priodas, ac roedd

yn rhaid i fi drio cael gafael ar ffrogiau

gwahanol, oedd yn uffernol o ddrud!!

Beth yw’r wisg waetha i chi weld

mewn priodas?

Rwy bob amser yn synnu at bobl sy’n

mynd i briodasau heb edrych yn y drych!

Rwy’n cofio mynd i briodas lle’r oedd

un ferch wedi gwisgo ffrog o ddefnydd

cheesecloth ble roeddech chi’n gallu

gweld yn syth drwyddi! Mae’n hynod

o bwysig cyn gadael y tŷ cael cipolwg

yn y drych, ac yn enwedig o’r tu ôl!!

Beth yw’r dewis gorau a’r gwaethaf

am gân ar gyfer y ddawns gynta’?

Y ddwy gân orau fyddai ‘Nwy yn y Nen’

gan Dewi Pws a ‘Walk on the Wild Side’

gan Lou Reed. Y gân waethaf fyddai

‘I will always love you’ gan Whitney

Houston—mae hi’n ofnadwy!

Five Welsh celebrities are to play

a key role in the real-life wedding of

north Wales couple, Anna Roberts and

Lee Openshaw, in the latest series of

this hit reality tv show. Former rugby

international, Jonathan Davies will

be parachuting the rings direct to the

wedding; Big Brother finalist Glyn Wise

is in charge of the bride’s make-up;

presenter Heledd Cynwal is the wedding

planner and Radio Cymru DJ, Jonsi has

to conquer his fear of water in order to

transport the groom and best man by

boat from Anglesey to the wedding,

held in Deganwy. Weather presenter,

Siân Lloyd’s task remains a secret

at the moment…watch this space!

SIÂN LLOYD

GLYN WISE

JONSI

HELEDD CYNWAL

JONATHAN DAVIES

Y BRIODAS FAWR

22 Hydref

O Gymru gan

Teledu Solo

s4c.co.uk/ybriodasfawr

32 33
TREMPYN

YN

YSBRYDOLI

GWEITHIAU

CELF

Paentiad William Roos

o Dic Aberdaron

Cyflwynydd Y Sioe Gelf Luned Emyr sy’n

rhannu ei phrofiad o ffilmio taith dditectif

arbennig gyda’r arbenigwr celf, Peter Lord.

Pwy feddyliai fod trempyn o Aberdaron

wedi ysbrydoli mwy o weithiau celf nag

unrhyw Gymro neu Gymraes arall?

Dyma ddamcaniaeth ddiweddaraf Peter

Lord am yr ieithydd o’r ddeunawfed

ganrif, Dic Aberdaron. Ond beth am

Christmas Evans a Twm o’r Nant,

meddech chi? Siawns eu bod nhw

wedi sbarduno mwy na’r trempyn o Lŷn?

Er eu poblogrwydd hwythau, a chydag

eithriad posib David Lloyd George,

mae’n debyg mai Dic Aberdaron ydi’r

ffigwr gynhenid Gymreig sydd â’r

mwyafrif o eiconau wedi eu seilio arno.

Er fy mod i’n amau’r ddamcaniaeth

i ddechrau, mae dadleuon Peter yn

gryf a’i chwilfrydedd yn heintus. Erbyn

i’r camera droi, dwi’n awyddus i weld

i ble, ac at beth y bydd y daith hon

yn mynd â ni.

Ieithydd oedd Richard Robert Jones

(1780-1843), neu ‘Dic Aberdaron’ fel y

câi ei adnabod gan amlaf. Yn fab i saer

coed, mae’n debyg iddo fedru siarad

o leiaf 14 o ieithoedd. Ond nid ieithydd

y llyfrgelloedd sychion oedd hwn,

ond un a anturiai ar droed mor bell

â Llanelwy, Lerpwl, Llundain a Dover

yng nghwmni ei lyfrau a’i gath.

Pam, felly, y dewisai Dic deithio o un

man i’r llall? Mae’n debyg nad oedd

yna le i bobl anghonfensiynol o’r fath

yn ardaloedd gwledig ei gynefin. Rwy’n

tybio mai cam digon naturiol oedd i’r

dyn athrylithgar lliwgar gael ei ddenu

i’r dinasoedd mawrion. Yno câi nawdd

a chefnogaeth ariannol gan bobl fel

yr hanesydd a’r gwleidydd William

Roscoe o Lerpwl.

Roedd y crwydryn dysgedig yn ffigwr

digon difyr i gydio yn nychymyg llu

o artistiaid proffesiynol ac amatur

ei ddydd. Wrth i Peter a mi deithio o

amgylch Cymru—a thros y ffin—down ar

draws amrywiaeth o weithiau celf. Yn eu

plith, mae peintiadau gan William Roos,

casgliad gwerthfawr o ddarluniau gan

Ellis Owen Ellis a cherflun trawiadol gan

artist dienw yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Rydym ni hefyd yn dod o hyd i luniau

gan arlunwyr amatur sydd wedi eu

seilio ar engrafiad poblogaidd o Dic

Aberdaron gan William Clements.

“ MAE’N DEBYG NAD

OEDD YNA LE I BOBL

ANGHONFENSIYNOL

O’R FATH YN

ARDALOEDD GWLEDIG

EI GYNEFIN.”

Wrth i Peter ddarganfod gweithiau o’r

math, mae ei chwilfrydedd yn tanio o

ddifri’. Nid ‘celfyddyd uchel’ sy’n mynd

â’i fryd. Celf y werin sy’n cydio yn

nychymyg yr arbenigwr hwn sydd wedi

cyfrannu’n helaeth at ein dealltwriaeth

o’n hetifeddiaeth gelfyddydol. Fel hyn

y mae’n crynhoi ei feddyliau:

“Er bod celfyddyd uchel—gweithiau

Cézanne, Picasso a’r lleill —o ddiddordeb

i mi, dydyn nhw ddim yn fy nghyffroi

yn yr un ffordd â chelfyddyd y werin,

sef portreadau o waith ein harlunwyr

gwlad, a’r engrafiadau poblogaidd a

gâi eu gwerthu am ychydig geiniogau

ar y strydoedd tua chant a hanner o

flynyddoedd yn ôl. Pethau darfodedig

oedden nhw, ac felly’n hynod brin

erbyn hyn, ond celfyddyd sy’n dod

â ni’n agosach o lawer at feddylfryd

cyffredinol cyfnod na chelfyddyd

uchel yr orielau mawr.”

Peter Lord gyda cherflun o Dic Aberdaron gan

artist anhysbys yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Difyr yw sylwi bod nifer o’r gweithiau

wedi eu creu ar ôl cyfnod Dic. A’r hyn

sy’n fy nharo i dro ar ôl tro yw ein bod

ni fel Cymry fel petaem wedi perchnogi

Dic Aberdaron fel rhyw fath o ffigwr

mytholegol yn sgîl y delweddau

adnabyddus hyn. Dyma ddelweddau

sydd mor gyfarwydd nes eu bod nhw

bron â bod yn rhan o isymwybod

ein cenedl. Daw hyn yn glir i mi pan

awn i Ysgol Gynradd Crud y Werin yn

Aberdaron i weld darluniau’r plant o

Dic Aberdaron. Er nad ydyn nhw wedi

gweld yr un darlun o Dic Aberdaron,

mae’r nodweddion corfforol sydd

yn eu lluniau yn asio â’r rheini sydd

yn y darluniau adnabyddus a llai

adnabyddus.

Beth, tybed, fyddai ymateb y trempyn

o Lŷn petai’n gweld y corff helaeth

yma o waith sydd wedi ei seilio arno?

Fel y dywed Peter yn gyffro i gyd ar ôl

darganfod darlun arall o Dic Aberdaron

mewn ffrâm ddu gerfiedig ar wal coridor

yng nghrombil Llŷn, “Mae ’na ddigon

o ddarnau celf ’da ni nawr ar gyfer

arddangosfa!”

SEARCHING FOR DIC ABERDARON

According to art historian, Peter Lord,

Dic Aberdaron, an eighteenth-century

tramp from the Llŷn Peninsula, has

inspired more works of art than any other

Welsh figure, with the possible exception

of David Lloyd George. Dic, whose real

name was Richard Robert Jones, spoke

at least 14 languages and travelled far

and wide with his books and faithful cat.

Y Sioe Gelf presenter Luned Emyr joins

Peter as they follow in Dic Aberdaron’s

footsteps across Wales and beyond,

discovering paintings, engravings and

sculptures inspired by the multilingual

North Walian. In this article, Luned sheds

more light on Peter’s theory.

AR DRYWYDD DIC

ABERDARON

Mis Medi

O Gymru gan Cwmni Da

34 35
FY HOFF LE I

Richard

Wyn

Jones

BYDD RICHARD WYN JONES YN

CYFLWYNO CYFRES AM HANES

DATGANOLI YNG NGHYMRU YN YR

HYDREF. MAE’N BYW GYDA’I DEULU

YNG NGWLAD ENEDIGOL EI

WRAIG, NORWY.

Rwy’n byw yn Nesodden ar hyn o

bryd. Penrhyn yn Norwy ydi Nesodden;

penrhyn sy’n ymwthio i’r dŵr ochr

draw i’r fjord o Oslo.

Petawn i am fynd â chi yno fe fyddwn

yn trefnu eich cyfarfod yn y porthladd

yng nghanol y brifddinas. Yno, ger Aker

Brygge, hen ardal ddiwydiannol sydd

wedi ei throi’n gyfres o fflatiau, bwytai

a bariau swanc, mae ’na brysurdeb

parhaol wrth i fflyd o gychod bach

baratoi i gludo teithwyr hwnt ac yma

ar draws y fjord. Yn yr haf, maen nhw’n

cludo pobl i’r gwahanol fân ynysoedd

sydd i’w gweld o’r cei. Mae ’na fythynnod

gwyliau ar lawer ohonynt—yr hytter

bondigrybwyll sy’n gymaint ran o

ddiwylliant Norwyaidd. A thraethau

braf. Bydd trigolion y ddinas yn tyrru

atynt pan mae’r tywydd yn caniatáu.

Wedi gaeafau mor faith a thywyll

mae pawb am wneud y gorau o

hirddydd haf.

Mae’n cwch ni ychydig yn fwy na

chychod yr ynysoedd. Gan eu bod

yn teithio rownd y rîl rhaid i gychod

Nesodden fod yn ddigon cadarn i

wthio trwy’r rhew sy’n aml yn ffurfio

ar wyneb y dŵr ym misoedd y gaeaf.

Ond â hithau’n haf, cawn eistedd ar

y dec a mwynhau hufen iâ yn ystod

ein mordaith ugain munud trwy’r

ynysoedd a’r cychod hwylio at

borthladd bach Tangen.

Wrth nesáu at Tangen fe fyddwch chi’n

siŵr o sylwi ar y rhes o fysiau gwyrdd

sy’n gyrru at ymyl y cei i’n cyfarfod. Ni

waeth be—gan gynnwys mynyddoedd

o eira a thymheredd a blymiodd i -24°C

gaeaf diwethaf—dydyn nhw byth,

byth yn hwyr.

Wedi dringo i rif 631 cawn deithio i lawr

ar hyd arfordir gorllewinol y penrhyn

tuag at ein cartref ni ym mhentref

Fagerstrand. Coedwigoedd, llynnoedd

a chreigiau sy’n nodweddu’r dirwedd ar

law chwith y bws. Ar y llaw dde, ceir tai

yn swatio yn y coed ynghyd ag ambell

i bentref bach. Yn y fjord islaw gellir

gweld y fferis mawrion sy’n teithio ’nôl

a blaen i Ddenmarc a’r Almaen, ynghyd

â’r cruise liners anferthol sy’n heidio

i Oslo. Mae’r goedwig ei hun yn fyw

o anifeiliaid ac adar. Pan mae bwyd

yn brin ganol gaeaf, bydd ceirw coch

i’w gweld yn aml yng ngerddi’r tai wrth

fin y ffordd. Cafodd Eirig (y mab hynaf)

a minnau gip ar glamp o elg mawr

unwaith, tra bod enw un o’r pentrefi

bychan, Gaupa (cath wyllt), yn awgrymu

fod ’na greaduriaid mwy egsotig fyth

yn llechu rhwng y coed.

Ar noson gyntaf S4C roeddwn i newydd

gychwyn yn y Brifysgol yn Exeter ac felly

doeddwn i ddim yn gallu gwylio’r Sianel.

Erbyn hyn, wrth gwrs, mae modd gwylio

S4C unhyw le ym Mhrydain ar loeren neu

fand llydan.

Cefais fy ngeni yn Hwlffordd ac mae’r

cysylltiad teuluol â Sir Benfro yn bwysig

iawn i mi. Does unman yn debyg i draeth

Barafundle—mae’n lle hudolus ac rwy’n

gorfod mynd yno o leiaf ddwywaith

y flwyddyn.

Fyddwn i ddim yn gallu dygymod heb

i-pod a ffôn symudol—ond byddwn i’n

falch o aberthu’r teclyn blackberry.

Er mod i’n lawr lwytho cerddoriaeth

rwy’n dal i brynu cryno ddisgiau ac

’wy newydd ychwanegu James Morrison

ac Elin Manahan Thomas i’r casgliad.

Petawn i’n gorfod dewis un ddisg yn

unig yna byddai’n rhaid i fi gadw

Exodus gan Bob Marley.

Rwy’n falch mod i wedi ymroi i ymarfer

y piano pan oeddwn i’n ifanc—mae

chwarae’n ffordd dda o ymlacio adre.

Mae papurau newydd, cylchgronau a

llyfrau yn pentyrru ym mhob rhan o’r

tŷ hefyd—rwy’n edrych ymlaen at gael

mwy o amser i’w darllen a’u mwynhau.

Mae dau lyfr wedi creu argraff fawr

arna i—The Bell Jar gan Sylvia Plath

a Wuthering Heights gan Emily Bronte.

Rwy’n edrych ymlaen at weld addasiad

teledu o nofel Caryl Lewis, Martha, Jac

a Sianco ar S4C ddiwedd flwyddyn nesaf.

Mae’n debyg bod gen i ormod o

esgidiau a bagiau—ond dyw hynny

ddim yn bosib.

Rwy’n gwrthod ildio i awydd fy mhlant

i brynu ci. Mae cŵn yn codi ofn

arna i—sori Manon, Llew a Gwenno x

Rwy’n ymfalchïo yn llwyddiant S4C dros

25 mlynedd ac mae’r gorau eto i ddod.

Mae’n anrhydedd i gael bod yn Brif

Weithredwr ac i greu’r amodau gorau

posib ar gyfer yr holl dalentau creadigol

yng Nghymru sydd am weithio gyda’r

Sianel.

S4C’s Chief Executive, Iona Jones has the

last word as she discusses her likes and

dislikes. Originally from Pembrokeshire,

this picturesque county still holds a

special place in her heart, with regular

trips to Barafundle Bay a must. Iona is

glad she stuck with her piano lessons

as a child, as playing the piano as an

adult is one way of relaxing, as is reading

and fashion. Iona also takes pride in

S4C’s successes over the past 25 years

and considers it an honour to be the

Channel’s Chief Executive.

Y GAIR OLAF

Iona Jones, Prif Weithredwr S4C

Prin y gwelwch chi dwristiaid yn Nesodden.

Nid rhyw harddwch dramatig a geir ar

y penrhyn. Ond rydym ni’r Neslinger—

y trigolion lleol—yn meddwl y byd o’r lle.

DATGANOLI

17 Medi

O Gymru gan

Ff ilmiau’r Bont

Welsh political lecturer, analyst and TV

presenter Richard Wyn Jones is currently

living in Norway. A Reader in International

Politics at Universiy College of Wales,

Aberystwyth, he is on a sabbatical in his

wife’s home country. Richard has chosen

the enchanting peninsula, Nesodden,

where he now lives and finds solace

from the country’s capital, Oslo, as his

favourite place. He returns to the small

screen soon with a series on the history

of Welsh devolution.

36
CYSTADLEUAETH

CHWILAIR Y DATHLU

S G W R S I O R Ff Y C P E CH

G E N B F D A R Ll E D U W L

R W O A I E L P L A M A R D

I L N F Y M A F L Dd R C H N

N C Y A Y O W P O A E A O I

W R Th W L C O I E R N C I A

E O U E G E N O Dd S Y T Dd S

L N T N A I N O L D A I I E

O Y N Y G M R A I B U O E N

D W M O W I A P I R E A M A

I L C R A Y H A M S E R I H

G F U E G A Dd L O E Ll T N I

I Y Th N N O I L O G S Y A O

D C E Th E A N A S A W G D M

19 MEDI 2007

19 SEPTEMBER 2007

19∑00

Noson Gwylwyr

Viewers’ Evening

Neuadd Goffa Aberaeron

Aberaeron Memorial Hall

Darperir offer cyfieithu

Translation service provided

Am fwy o fanylion:

Gwifren Gwylwyr S4C

For further details:

S4C Viewers’ Hotline

0870 6004141

s4c.co.uk

ACTIO

ADLONIANT

ALAWON

AMAETH

AMSER

ANIMEIDDIO

CELF

CERDDORIAETH

COGINIO

COMEDI

CYFLWYNO

CYFFRO

CHWARAEON

DARLLEDU

DIFYR

DIGIDOL

DRAMA

GWASANAETH

GWYL

HANES

IFANC

LLEOL

MATERION CYFOES

PLANT

SAIN

SGRIN

SGWRSIO

SIANEL

SIOE

TYWYDD

WE

YSGOLION

Enillwch beiriant Disg Amryddawn

Digidol (DVD) diffiniad uchel ynghyd â

phecyn DVD o rai o gynyrchiadau mwyaf

poblogaidd S4C dros y pum mlynedd ar

hugain diwethaf, gan gynnwys C’Mon

Midffîld, Hedd Wyn, Dai Jones, Dwdl Am,

Sali Mali a llawer mwy.

I gael cyfle i ennill y wobr wych hon,

chwiliwch am y geiriau gerllaw sy’n

ymwneud ag arlwy S4C sy’n cuddio yn

y chwilair. Pan ddewch o hyd iddyn nhw

i gyd, bydd y llythrennau sy’n weddill

yn sillafu rhywbeth rydym i gyd yn ei

ddymuno i S4C.

Anfonwch eich ateb—y geiriau cudd—ar

e-bost at sgrin@s4c.co.uk neu ar gerdyn

post at: Cystadleuaeth Pen-blwydd S4C,

Sgrîn, S4C, Blwch Post 353, Caerdydd

CF24 5XA. Y dyddiad cau yw dydd Llun,

15 Hydref.

CYSTADLEUAETH ENNILL HET BRYN TERFEL Mrs Elen Mathias, Glogue CYSTADLEUAETH Y CROESAIR Ms Delyth Evans, Beddgelert CYSTADLAETHAU

Rheolau: Mae’r cystadlaethau yn agored i bawb ac eithrio staff S4C, eu teuluoedd agos a chwmnïau eraill sy’n gysylltiedig â Sgrîn. Dewisir yr enillydd/wyr

ar hap. Rhoddir gwybod i’r enillydd/wyr ar ôl y dyddiad cau drwy lythyr neu dros y ffôn. Nid yw’n bosib cyfnewid y wobr. Mae penderfyniad y Golygydd

yn derfynol. Cyhoeddir enw’r enillydd/wyr yn rhifyn nesaf Sgrîn. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau a gollir yn y post neu sy’n methu â chyrraedd erbyn

y dyddiad cau. EISIAU GWYBOD AM DDARLLEDIADAU RYGBI S4C? PA RIF YW S4C AR SKY? SUT MAE GWYLIO CASA DUDLEY AR FAND LLYDAN? Am unrhyw

ymholiadau bach a mawr am raglenni S4C, mae croeso i chi ffonio Gwifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141 neu e-bostio gwifren@s4c.co.uk. Hefyd, gallwch

gysylltu â’r Wifren i archebu copi o Sgrîn i’ch ffrindiau neu deulu.Cyhoeddir Sgrîn gan S4C. Sgrîn, S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU

e-bost: sgrin@s4c.co.uk

38

39