23.03.2021 Views

Lingo Newydd Chwefror - Mawrth 2021

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

ffasiwn teledu bwyd cymru pobl newyddion

LINGO

100%MAG LINGO

100%MAG

Chwefror - Mawrth 2021 rhifyn 130 £2

un o gyhoeddiadau

LINGO NEWYDD

100%MAG LINGO NEWYDD -0.40BWR

100%MAG -0.40BWR

newydd

Dod i

nabod y

Welsh

Whisperer

John Rees a

dathlu cariad

Steve

Backshall yn

dysgu Cymraeg

Helo, bawb!

Mae llawer o bobl yn dysgu iaith newydd

yn ystod y cyfnod clo ac mae llawer o

bobl yn dewis Cymraeg!

Yn y gyfres newydd, Iaith ar Daith, ar S4C, mae

Steve Backshall, yr anturiaethwr a’r cyflwynydd

teledu, yn dechrau dysgu Cymraeg. Roedd e’n

dod i Gymru ar wyliau pan oedd e’n blentyn ac mae e

wedi derbyn swydd darlithydd gwadd ym Mhrifysgol

Bangor. Mae e eisiau dysgu’r iaith achos mae e eisiau

siarad Cymraeg gyda’r myfyrwyr. Mae e’n sôn am ei

brofiadau ar dudalen 16.

Mae Tiffany Argumedo yn dysgu Cymraeg hefyd. Mae

hi’n dod o’r Unol Daleithiau yn wreiddiol ond mae hi’n

astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth nawr. Ar dudalen 14,

mae hi’n dweud pam mae hi’n hoffi Cymru – a cherdded

yn y glaw!

Yn ystod y pandemig, mae’n bwysig cael awyr iach ac

ymarfer corff. Mae Ramblers Cymru isie i bobl fynd allan

i gerdded a siarad. Mae llawer o syniadau am sut i wneud

hyn ar dudalen 10.

Cerdded a seiclo ydy rhai o hoff bethau’r canwr gwlad,

y Welsh Whisperer. Mae e’n hoffi mynd i’r bar am beint

ar y ffordd hefyd! Ewch i dudalen 6 i ddarllen am rai o’r

pethau eraill mae e’n hoffi.

Mae Dydd San Ffolant ar fin cyrraedd ond, ar dudalen 5,

mae John Rees yn edrych ar ddathlu cariad yng Nghymru.

A beth am ddathlu Dydd Crempog? Mae Scott Davies yn

cynhyrchu mêl a surop masarn Hilltop yn y Drenewydd.

Mae e’n dweud beth mae e’n hoffi ar ei grempogau ar

dudalen 12.

Cariad neu grempog, mwynhewch!

Geiriau

cyfnod clo – lockdown

anturiaethwr – adventurer

derbyn – (to) accept

darlithydd gwadd – guest lecturer

myfyriwr, myfyrwyr – student,-s

profiad,-au – experience,-s

yr Unol Daleithiau – the United States

canwr gwlad – country singer

Dydd San Ffolant – Valentine’s Day

ar fin cyrraedd - about to arrive

dathlu – (to) celebrate

cynhyrchu – (to) produce

surop masarn – maple syrup

Chwefror - Mawrth 2021

2 Helo, bawb!

3 Eich tudalen chi – eich llythyrau chi

5 Trysorau Cymru – John Rees a’r ffordd

Gymreig o ddathlu cariad

6 ‘Dw i’n hoffi...’ – Andrew Walton,

y cyflwynydd a’r canwr gwlad,

y Welsh Whisperer

8 Crefftwyr Crefftus – Dawn Wilks o

Sir Ddinbych a’i gwaith crefft

10 Blwyddyn Awyr Agored

– cerdded a siarad

12 Bwyd a rysáit – Scott Davies

a mêl Hilltop

14 Dros y Byd – Tiffany Argumedo

o’r Unol Daleithiau

15 Natur gyda Bethan Wyn Jones

– blodau canhwyllau Mair

16 Ar y bocs – Steve Backshall a dysgu

Lliwiau lingo newydd Mae cod lliwiau i’ch helpu chi i ddarllen lingo newydd.

1

Cymraeg yn Iaith ar Daith

18 Cyfoes – ymgyrch Yes Cymru

19 Croesair ac idiom Mumph

Geiriau

trysor,-au – treasure,-s

dathlu – (to) celebrate

cyflwynydd – presenter

canwr gwlad – country singer

crefftwr, crefftwyr –

craftsperson, craftspeople

crefftus – skilful

Darllenwch y

darnau melyn

os dych chi’n

dechrau dysgu.

2

Darllenwch y

darnau gwyrdd

os dych chi’n fwy

profiadol.

n Dyma liw geiriau’r De. n Dyma liw geiriau’r Gogledd.

Cyhoeddiad gan gwmni

lingo newydd, d/o Golwg, Blwch Post 4, Llanbedr Pont Steffan,

Ceredigion. SA48 7LX ( 01570 423529 ( 01570 423538

* e-bost: lingonewydd@golwg.com

Cyfranwyr: Bethan Lloyd, Dylan Iorwerth, Ela Mars, Mumph,

Bethan Wyn Jones, John Rees

6

awyr agored – open air

mêl – honey

byd – world

yr Unol Daleithiau – the United

States

canhwyllau Mair – crocuses

ymgyrch – campaign

3

8

12

Lliwiau lingo newydd

5

Darllenwch y

cyfan os dych

chi’n brofiadol

iawn.

n Mae’r lliw yma i bawb.

2

dau

Llun y clawr: Welsh Whisperer

Nofio gwyllt

Annwyl lingo newydd,

Wnes i fwynhau darllen yr erthygl am Siân

Richardson a’r “Bluetit Chill Swimmers” yn

rhifyn 125 y llynedd ac felly ro’n i’n meddwl

y byddwn i’n rhoi cynnig ar nofio gwyllt.

Dw i bob amser yn mwynhau her, felly

ro’n i’n meddwl y byddwn i’n dechrau

hyfforddi ar gyfer nofio gwyllt am gyfnod hir

yn Llyn Windermere, yn Ardal y Llynnoedd.

Oherwydd y cyfnod clo a’r ffaith bod fy

nghanolfan hamdden leol wedi cau, prynais

i bwll nofio Intex ar gyfer fy ngardd. Ro’n

i’n nofio yn erbyn rhaff elastig oedd wedi’i

gosod ar y wal. Bob wythnos byddwn

i’n treulio mwy a mwy o amser yn y pwll,

gan gryfhau’n araf.

Ar ôl sawl wythnos, dechreuais i fynd i

afon yn agos at fy nghartref, Afon Nene yn

Waddenhoe, i nofio am gyfnodau hirach.

Ro’n i’n nofio ychydig ymhellach bob

tro. Erbyn canol mis Awst, ro’n i’n gallu

nofio hyd at 8 milltir ac ro’n i’n teimlo’n

barod am yr her!

Digwyddodd yr her fawr ar benwythnos

olaf mis Awst. Roedd gen i ffrindiau a

theulu mewn dau gaiac diogelwch bob ochr

i mi, i wneud yn si[r fy mod i’n ddiogel.

Roedden nhw’n rhoi bwyd i fi bob awr

hefyd. Dechreuon ni o Ambleside a nofio i’r

de. Ar ôl deg milltir a hanner, a chwech awr

a hanner o nofio, wnes i fynd allan ym mhen

deheuol y llyn yn Fell Foot.

Er fy mod i wedi blino’n fawr ac ychydig

yn oer, ro’n i’n teimlo’n hapus iawn fy mod

i wedi cyflawni fy nod. Wnaethon ni godi

£780 tuag at Gymorth Canser Macmillan

hefyd!

Y noson honno, wnes i fwynhau

plataid enfawr o bysgod a sglodion am fy

ymdrechion. Diolch i Siân Richardson am

fy ysgogi a dw i’n gobeithio y galla i ddod i

nofio ym Mhorth Mawr yn y dyfodol.

Ed Moncrief

Market Harborough, Swydd

Gaerloyw, Lloegr

Dych chi’n nofio’n

wyllt weithiau?

Beth am ddweud yr hanes

wrth lingo newydd?

Ble mae’ch hoff le i nofio?

Mewn llyn neu mewn afon?

Geiriau

rhoi cynnig ar – (to) try something, (to) give

something a go

hyfforddi – (to) train

cryfhau – (to) grow stronger

cyflawni’r nod – (to) achieve one’s goal

ymdrech,-ion – effort,-s

ysgogi – (to) motivate, inspire

tri tri

3 3

Cath ddu

lwcus!

Llun: rawpixel, CC BY 2.0

Annwyl lingo newydd,

Mae teulu newydd wedi symud i

mewn i d] yn ein stryd ni. Maen

nhw wedi dod â thair cath efo

nhw – un ddu, un wen ac un

hanner a hanner.

Yn anffodus, ar ôl sawl

wythnos, diflannodd y gath

ddu. Roedd y teulu i gyd yn

poeni amdani hi. Aethon nhw o

gwmpas yr ardal i chwilio am y

gath a rhoi posteri bob man.

Ond lwyddon nhw ddim i ddod

o hyd iddi hi.

Dych chi wedi gwneud

rhywbeth anarferol i gadw’n

heini ac iach yn ystod y gaeaf?

Dych chi wedi seiclo, nofio

neu gerdded efallai?

Neu ...

... dych chi wedi codi arian

at achos da drwy wneud

rhywbeth gwahanol?

Geiriau

cysylltu – (to) get in touch, contact

anarferol – unusual

codi arian – (to) raise money

achos da – good cause

drwy wneud rhywbeth – by doing something

gwahanol – different

aton ni – to us

Yn ddiweddar, pan o’n

i’n cerdded ar hyd y llwybr

cyhoeddus i gyfeiriad Ffos y

Gerddinen (Nelson), gwelais i

fenyw yn cerdded ata i gyda dau

gi ar dennyn, un Alsatian ac un

daeargi. Roedd cath ddu yn eu

dilyn nhw.

Roedd y gath yn edrych yn

union fel y gath ar y posteri.

“Dw i wedi ffeindio’r gath,”

meddyliais i.

Ar ôl cerdded heibio’r fenyw,

wnes i fynd i godi’r gath.

Cysylltwch!

Beth am anfon llythyr aton

ni?

Dyma’r cyfeiriad

lingo newydd,

d/o Golwg,

Blwch Post 4,

Llanbedr Pont Steffan,

Ceredigion,

SA48 7LX

Gwaeddodd y fenyw:

“Esgusodwch fi, ga i’ch helpu chi?

Fy nghath i ydy hon. Mae hi’n

dod am dro gyda ni.” Roedd y

ddynes yn credu fy mod i’n mynd

i herwgipio’r gath.

“Mae’n ddrwg ’da fi,” dywedais

i ac eglurais i’r stori am y gath

ddu oedd ar goll.

“A,” dywedodd y fenyw, “dw i

wedi gweld y posteri o gwmpas

y dref. Digwyddodd yr un peth

i’r gath yma. Un noson, bedair

blynedd yn ôl, ro’n i’n cerdded

ar hyd y llwybr gyda’r Alsatian,

pan ddechreuodd y ci gyfarth ar

rywbeth dan y llwyni. Es i i weld

beth oedd yno a ffeindio’r gath

fach dan y llwyni. Roedd hi’n

wlyb, yn oer ac yn frwnt ac yn

llwglyd iawn.

Es i â hi adre, ei bwydo hi a’i

golchi hi. Roedd yr Alsatian yn

ein gwylio ni drwy’r holl broses

ac, ar ôl i fi orffen, aeth y ci a’r

gath i wely’r ci – a chysgodd y

ddau gyda’i gilydd drwy’r nos.

Maen nhw wedi cysgu gyda’i

Geiriau

diflannu – (to) disappear

dod o hyd i – (to) find

yn ddiweddar – recently

llwybr cyhoeddus – public

footpath

menyw = dynes / merch

– woman

tennyn – lead

daeargi – terrier

yn union – exactly

herwgipio – (to) kidnap

gilydd byth ers hynny.”

Ro’n i’n sefyll wrth ochr y ci

ac yn ei anwesu fe. Roedd e’n

gyfeillgar iawn.

“Mae’r ci yn ofalgar iawn o’r

gath,” dywedodd y fenyw. “Dyna

pam rhybuddiais i chi i adael

llonydd i’r gath. Rhag ofn ...”

“Mae hi’n gath ddu lwcus,”

dywedais i.

Dafydd lwcus hefyd, meddyliais i.

Dafydd Jones,

Mynwent y Crynwyr,

Rhondda Cynon Taf

Oes stori am

anifail ’da chi?

Oes cath neu gi ’da

chi?

Ydyn nhw’n

ffrindiau hefyd?

Pa anifail ydy’ch

hoff anifail chi?

Dych chi’n cadw

anifail anarferol?

yr un peth – the same thing

cyfarth – (to) bark

llwyn,-i – bush,-es

llwglyd – hungry

mynd â – (to) take

byth ers hynny – ever since

anwesu – (to) stroke

gofalgar – mindful, caring

rhybuddio – (to) warn

gadael llonydd i – (to) leave

(something/someone) alone

4

pedwar

Dathlu

cariadon

Cymru

Mae John Rees yn arbenigwr ar hen bethau.

Yma, mae e’n siarad am ddathlu cariad...

Mae dechrau’r

flwyddyn yn adeg i

ddathlu cariad.

Dych chi’n hoffi anfon a

derbyn cardiau ac anrhegion

ar Ddydd San Ffolant?

Mae Dydd San Ffolant ar

Chwefror 14.

Mae rhai pobl yn anfon a

derbyn cardiau ac anrhegion

ar Ionawr 25. Dyma Ddydd

Santes Dwynwen.

Pwy ydy Santes Dwynwen?

Nawddsant cariadon Cymru.

Ond pwy oedd hi ...?

Santes Dwynwen

Roedd Dwynwen yn

dywysoges yn y 5ed ganrif.

Roedd hi’n caru dyn o’r enw

Maelon, ond roedd ei thad isie

iddi hi briodi dyn arall.

Roedd Maelon yn flin iawn

a threisiodd e Dwynwen.

Aeth Dwynwen i’r goedwig

ac, yno, daeth angel i weld

Dwynwen pan oedd hi’n cysgu.

Rhoiodd yr angel ddiod iddi

hi i’w helpu hi i anghofio am

Maelon. Cafodd Maelon ei

droi yn lwmp o rew.

Rhoiodd yr angel dri

dymuniad i Dwynwen.

• Yn gyntaf, roedd hi isie i

Maelon gael ei ddadlaith.

• Yn ail, roedd hi isie i Dduw

ddod â breuddwydion

cariadon yn wir.

• Yn drydydd, doedd hi byth

isie priodi.

Daeth y tri dymuniad yn

wir a rhoiodd Dwynwen ei

bywyd hi i Dduw.

Roedd hi’n byw fel lleian ar

Ynys Llanddwyn, ar Ynys Môn.

Sefydlodd hi eglwys ar Ynys

Llanddwyn.

Dros y blynyddoedd

diwetha, mae Dydd Santes

Dwynwen wedi dod yn

boblogaidd fel g[yl y

cariadon.

Geiriau

arbenigwr – expert

dathlu – (to) celebrate

tywysoges – princess

canrif – century

blin – angry

treisio – (to) rape

tri dymuniad – three wishes

dadlaith = dadmer – (to) thaw

breuddwyd,-ion – dream,-s

lleian – nun

sefydlu – (to) establish

Llwyau caru

Cyn anrhegion fel siocled a blodau,

roedd pobl mewn sawl rhan o’r byd

yn rhoi llwy bren yn arwydd o gariad.

Dechreuodd hyn yn yr Almaen,

efallai, ond mae llwyau caru mwya

enwog y byd yn dod o Gymru lle

roedd dynion yn cerfio llwy i’w cariad.

Mae’r rhai mwya cynnar yn dod o’r

17eg ganrif ac maen nhw’n unigryw.

Mae’r patrymau a’r siapiau ar y

llwyau’n gymhleth iawn – dyma ffordd y

dyn o ddangos ei sgiliau i deulu ei gariad.

Mae ystyr i’r patrymau:

• peli mewn cawell: mae nifer y

peli’n dangos faint o blant mae’r

dyn isie cael

• clo: dyma arwydd o ddiogelwch

• cloch: mae cloch yn golygu

priodas

• croes: mae croes yn cynrychioli

ffydd.

Geiriau

arwydd – sign

cerfio – (to) carve

unigryw – unique

cymhleth –

complicated

cawell – cage

nifer – number

clo – lock

Ionawr - Dych chi’n gwybod ...?

Mae Dydd Santes Dwynwen ar

Ionawr 25.

Pwy ydy Santes Dwynwen?

Nawddsant cariadon Cymru.

Roedd hi’n byw ar Ynys

Llanddwyn, ger Niwbwrch, ar

Ynys Môn, yn ôl y stori.

Mae olion eglwys Santes

Dwynwen ar Ynys Llanddwyn

heddiw.

Dathlu

Mae rhai pobl yn anfon cerdyn i’w

cariad ar Ddydd Santes Dwynwen.

Mae rhai pobl yn rhoi blodau neu

diogelwch –

security

golygu – (to)

mean

cynrychioli – (to)

represent

ffydd – faith

anrheg fach.

Roedd y cardiau Dwynwen

cyntaf yn y 1960au.

Mae Dydd Santes Dwynwen yn

boblogaidd heddiw.

Geiriau

nawddsant – patron saint

Niwbwrch – Newborough

yn ôl – according to

olion – remains

dathlu – (to) celebrate

anrheg – present

cyntaf – first

poblogaidd – popular

pump

5

Andrew Walton ydy’r Welsh Whisperer

– mae e’n ganwr gwlad ac mae e’n cyflwyno rhaglenni ar y radio a’r teledu...

Dw i’n hoffi...

gyda’r Welsh Whisperer...

Welsh Whisperer, beth ydy..?

...dy hoff ffilm?

Dw i ddim yn eistedd i lawr

i wylio ffilm yn aml iawn

ond pan dw i yn gwylio

ffilm, dw i’n mwynhau. Dw

i’n hoffi ffilmiau comedi

a ffilmiau ‘action’ lle

mae llawer o bethau yn

digwydd! Yn ddiweddar,

wnes i wylio’r clasur Full

Metal Jacket am filwyr

America yn rhyfel Fietnam.

...dy hoff sioe

deledu?

Dw i yn gwylio’r teledu

ond, i fi, does dim llawer o

raglenni’n ddigon diddorol

i wylio am amser hir.

Ond wnes i wylio cyfresi

Narcos ar Netflix i gyd.

Ro’n i’n hoffi’r straeon

am fywyd lliwgar iawn

Pablo Escobar; ro’n i’n

hoffi’r gerddoriaeth ... a’r

mwstashis!

Geiriau

canwr gwlad – country singer

cyflwyno – (to) present

si[r o fod = mae’n siwr

– probably

safonol – standard

angerddol – passionate

...dy hoff ddillad?

Os dych chi wedi fy ngweld

i’n canu neu’n cyflwyno ar y

teledu, dych chi wedi sylwi,

si[r o fod, fy mod i’n hoffi

fy nghap stabl a denim! Dw

i’n gwisgo double denim yn

aml a dw i’n hoffi crysau

safonol. Dw i byth yn prynu

crysau tenau achos … beth

ydy’r pwynt!?

...dy hoff ffordd

o ymlacio?

Er mwyn ymlacio dw i’n

hoffi cerdded, darllen,

gwrando ar gerddoriaeth

a hefyd mynd i’r dafarn

am sgwrs dda a chwpwl o

beints. Dw i’n angerddol

dros dafarndai’r wlad

ac mae gallu mynd i

gymdeithasu wrth y bar yn

bwysig i fi.

cymdeithasu – (to) socialize

cyflwr – condition

er hynny – however

curo – (to) beat

ar hyd – along

...dy hoff fwyd?

Dw i’n hoffi llawer o

wahanol fathau o fwyd,

ond oherwydd bod gen

i’r cyflwr ‘Crohn’s disease’,

rhaid i fi fod ychydig bach

yn ofalus beth dw i’n bwyta.

Dw i’n hoffi bwyd Eidalaidd

fel pasta a hefyd bwyd

Indiaidd os dydy e ddim

yn rhy boeth! Er hynny,

mae’n anodd curo brechdan

bacwn weithiau!

...dy hoff ffordd

o gadw’n heini

ac iach?

Diddordeb newydd i fi

ydy seiclo. Do’n i ddim

wedi reidio beic yn iawn

ers blynyddoedd ond, yn

2020, ces i feic newydd. Ers

hynny, dw i wedi bod yn

seiclo tipyn; mae’n ffordd

dda o weld y wlad a dych

chi’n gallu mynd yn eitha

pell, yn bellach na beth

faswn i’n gallu rhedeg!

Mae’n handi gallu galw i

mewn i’r bar am beint ar

hyd y ffordd hefyd!

...dy hoff lyfr?

Dw i’n hoffi llyfrau ffeithiol neu fywgraffiadau

yn hytrach na ffuglen mewn nofel. Mae’r

llyfr dw i’n darllen ar hyn o bryd yn sôn am

ryfel yr IRA a’r fyddin Brydeinig. Does dim

diddordeb da fi mewn hanes militaraidd go

iawn ond mae’r frwydr am Iwerddon unedig

yn ddiddorol i fi. Mae Bandit Country: South

Armagh and the IRA gan Toby Harnden yn

adrodd yr hanes o’r ddwy ochr.

Ar nodyn ysgafnach, dw i wedi mwynhau

llyfr Doreen Lewis Merch o’r Wlad, yn

ddiweddar, hefyd. Mae Doreen yn gantores

canu gwlad a dw i’n ei hedmygu hi’n fawr.

6 chwech

...dy hoff olygfa?

Dw i’n dod o bentref bach o’r enw Cwmfelin

Mynach, yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r olygfa o’r

t] lle ces i fy magu, sy’n edrych dros y dyffryn

i fferm Esgairddaugoed (enw da!), yn un bydda

i’n ei chofio am byth.

...dy hoff wyliau?

Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i deithio

i sawl gwlad dros y blynyddoedd. Fy hoff

wyliau yn ddiweddar oedd y daith i Nashville,

Tennessee. Ces i’r cyfle i weld un o fy hoff

fandiau canu gwlad, sef Ricky Skaggs a

Kentucky Thunder yn y Grand Ole Opry

(neuadd canu gwlad yn Nashville). Ar ben

hynny, ces i docyn i weld Fleetwood Mac yn y

Nashville Bowl pan o’n i yno hefyd.

...dy hoff air Cymraeg?

Mae hwnna’n gwestiwn anodd!

Beth am annibyniaeth?

Geiriau

bywgraffiad,-au – biography, biographies

yn hytrach na – rather than

unedig – united

adrodd – (to) recount, tell

edmygu – (to) admire

annibyniaeth – independence

Dyma’r Welsh Whisperer

Mae’r Welsh Whisperer yn ganwr gwlad

a gwerin ac yn gyflwynydd ar y radio a’r

teledu.

Mae e’n dod o bentref Cwmfelin

Mynach, yn Sir Gaerfyrddin.

Mae e’n hoffi canu am bethau fel byd

ffermio, cwrw a bara brith!

Mae e’n canu caneuon doniol.

Dyma rai o’i ganeuon poblogaidd:

Ni’n Beilo Nawr, Bois y JCB a

Loris Mansel Davies.

Mae e’n perfformio llawer o sioeau

mewn neuaddau cefn gwlad a gwestai.

Mae’r Welsh Whisperer wedi recordio

sawl albwm fel Y Dyn o Gwmfelin

Mynach, Dyn y Diesel Coch a

Cadw’r Slac yn Dynn.

Mae e wedi bod ar raglenni teledu fel

Heno, Noson Lawen a Ffermio ac

mae e wedi cystadlu ar Fferm Ffactor

ar S4C.

Mae e’n bragu lager ‘Gwd Thing’ gyda

chwmni bragu Bluestone o Sir Benfro.

Mae llawer o bobl cefn gwlad

Gorllewin Cymru yn dweud ‘gwd thing’!

Geiriau

canwr gwlad a gwerin

– country and

folk singer

cyflwynydd –

presenter

cân, caneuon – song,-s

doniol – funny

poblogaidd – popular

beilo – (to) bale

(hay or straw)

cefn gwlad –

countryside

bragu – (to) brew

saith

7

CREFFTWYR CREFFTUS

Troi papur

yn waith celf

Mae Dawn Wilks yn byw yn Llansannan, yn Sir Ddinbych. Mae hi’n hoffi gwneud pob math

o grefftau. Mae hi’n defnyddio papur i wneud modelau 3D bach iawn. Mae hi’n gymhorthydd

dosbarth mewn ysgol gynradd hefyd. Yma, mae hi’n ateb cwestiynau lingo newydd...

Ers pryd dach chi’n

gwneud crefftau?

Fedra i ddim cofio pryd wnes

i ddechrau creu pethau. Dw

i wedi mwynhau erioed.

Pan o’n i’n blentyn, un o fy hoff

bethau oedd tynnu lluniau a chreu

cardiau pen-blwydd i’r teulu.

Roedd lluniau ohonyn nhw ar

y cardiau. Roedd Mam yn dda

iawn am brynu llyfrau i fi ar sut i

arlunio a thrio pethau gwahanol.

Dim ond fi oedd â diddordeb

mewn celf. Dan ni’n deulu

cerddorol ar ochr Dad, gyda

phawb o Deulu Hendre Llan

(Nain a Taid) yn chwarae offeryn

cerdd ac yn canu.

Dw i wrth fy modd yn mynd

ar gyrsiau a gweithdai er mwyn

dysgu sgiliau a chrefftau newydd.

Does ’na ddim llawer dw i heb

drio. Dw i wedi bwcio dau gwrs

eleni yn barod, cwrs printio

efo’r artist Marian Haf yng

Ngheredigion a’r un arall efo gof

yn nes at adre. Wnes i fynd i’r

brifysgol fel myfyriwr aeddfed i

astudio darlunio ar gyfer llyfrau

plant. Mae hyn wedi cael dylanwad

mawr ar y gwaith dw i’n wneud.

Sut fasech chi’n

disgrifio’ch gwaith celf?

Mae’r gwaith celf dw i’n greu yn

amlgyfrwng. Dw i’n creu placiau

pren wedi eu haddurno efo papur,

rhubanau a botymau ond, yn fwy

diweddar, dw i’n defnyddio papur

i greu modelau 3D bach iawn.

Weithiau, bydda i’n paentio’r

papur efo paent gouache. Mae

papur mor hyblyg ac amlbwrpas,

mae’n gyfrwng perffaith i greu

modelau 3D. Mae gen i ychydig o

obsesiwn efo papur a dw i’n hoffi

creu pethau sy’n gyfarwydd ond

ar faint lot yn llai.

O le mae’r syniadau’n

dod?

Mae’r syniadau’n dod o amryw

lefydd, er enghraifft wrth hel

atgofion am fy mhlentyndod,

teganau, bywyd ar y fferm, t]

Nain a’r hen ddreser oedd gynni

hi. Dw i’n hoff o bethau vintage

neu retro. Dw i’n hoffi’r syniad o

greu stori mewn un darlun. Er ei

fod o’n un darn llonydd, dw i’n

hoffi creu’r teimlad bod ’na rywun

newydd adael yr olygfa.

Pam dach chi’n cael eich

adnabod fel Dawn Bach?

Dawn ydy fy enw i a dw i’n fach

– dim ond pum troedfedd! Felly,

mae Dawn Bach yn fy siwtio i i’r

dim. Hefyd enw ein t] ni ydy Tai

Bach a dw i wedi galw’r gweithdy

yn Cwt Bach.

Geiriau

crefftwyr crefftus – skilful

craftspeople

celf – art

cymhorthydd dosbarth –

classroom assistant

ysgol gynradd – primary school

gof – blacksmith

aeddfed – mature

dylanwad – influence

amlgyfrwng – multimedia

amlbwrpas – multipurpose

hyblyg – flexible

cyfarwydd – familiar

hel atgofion – (to) reminisce

i’r dim – perfectly

8 wyth

O le dach chi’n dod yn wreiddiol

a lle dach chi’n byw r[an?

Dw i’n dod o Lansannan, Sir Dinbych, yn

wreiddiol. Dw i’n byw ar y fferm lle ces i fy

magu ond mewn t] gwahanol. Ces i fy magu

yn Priddbwll efo Mam, Dad a fy mrawd,

Darryl. Ar ôl i mi briodi Martyn, oedd

yn y fyddin, aethon ni i fyw yn yr Almaen

am ychydig ac yna Tidworth yn Wiltshire,

De Lloegr. Pan ddechreuon ni deulu

bach symudon ni yn ôl i Lansannan i fyw.

Penderfynon ni adnewyddu hen d] ar y fferm.

Dan ni wedi setlo yma ers 16 mlynedd erbyn

hyn efo tri o feibion – Tomos sy’n 26, Dafi

Jon sy’n 24, a Joseff, y babi, sy’n 20 oed.

Dach chi’n gymhorthydd

dosbarth mewn ysgol gynradd,

- dach chi’n mwynhau’r gwaith?

Dw i’n mwynhau gwaith cymhorthydd

dosbarth yn fawr iawn. Dw i’n cymryd

dosbarthiadau o flwyddyn 3 i 6 a dw i’n dysgu

celf a chrefft, felly dw i wrth fy modd. Dan

ni’n cael lot o hwyl!

Dach chi’n gweithio mewn

cwt bach yn yr ardd – ydy

o’n lle braf i weithio?

Mae’r Cwt Bach yn lle hynod o braf i weithio,

mae’n gynnes neis yma yn y gaeaf ac mae gen

i ffenestri mawr efo golygfa odidog. Dw i’n

cael digon o lonydd yma, sy’n bwysig iawn.

Dw i’n ymgolli yn y gwaith a dyna pryd mae’r

syniadau gorau’n dod. Weithiau, mae rhywun

o’r t] yn dod draw efo snac bach a phaned o

de i mi.

Geiriau

byddin – army

adnewyddu – (to) restore,

refurbish

cymhorthydd dosbarth –

classroom assistant

ysgol gynradd – primary school

cwt – hut

hynod o braf – exceptionally

good

golygfa – view

Mae Dawn Wilks yn gwerthu ei gwaith

ar Etsy, Facebook ac Instagram.

godidog – outstanding,

exceptional

llonydd – peace and quiet

ymgolli – (to) lose oneself

Dyma Dawn Wilks

Beth dach chi’n gwneud?

Dw i’n gwneud gwaith celf o bapur. Dw i’n

gwneud modelau 3D bach iawn o bapur. Dw

i’n plygu ac yn torri’r papur i wneud y modelau.

Lle dach chi’n byw?

Dw i’n byw yn Llansannan, yn Sir Ddinbych.

Dw i’n byw ar y fferm lle ces i fy magu. Dw

i’n byw yno efo fy ng[r, Martyn, a’n tri mab.

Lle dach chi’n gweithio?

Dw i’n gweithio mewn ysgol gynradd fel

cymhorthydd dosbarth. Dw i’n gwneud celf

a chrefft efo’r plant.

Dach chi wedi bod ar y teledu?

Ydw, ro’n i yn y gyfres Y Stiwdio Grefftau

ym mis Tachwedd llynedd – a dw i wedi bod

ar Prynhawn Da hefyd, yn dangos sut i

wneud crefftau syml.

Geiriau

celf – art

plygu – (to) fold

efo = gyda – with

lle ces i fy magu –

where I was brought

up

ysgol gynradd –

primary school

cymhorthydd

dosbarth –

classroom assistant

cyfres – series

(y) llynedd – last

year

syml – simple

naw

9

Mae Ramblers Cymru ac Amser i Newid Cymru yn annog pobl i fynd allan i gerdded

a siarad am eu hiechyd meddwl. Sut? Mae Brân Devey o Ramblers Cymru yn esbonio...

Iechyd meddwl

a’r awyr agored

Mae problemau iechyd meddwl yn

effeithio ar un o bob pedwar person

ond mae llawer o bobl yn ofni siarad

am hyn. Mae cerdded yn ffordd berffaith

o gael sgwrs gyda phobl eraill a siarad am

broblemau iechyd meddwl hefyd.

Mae gwneud ymarfer corff a chysylltu

gyda natur a phobl eraill yn gallu bod yn dda

i’ch iechyd meddwl ac i’ch lles.

Felly, mae Ramblers Cymru ac ymgyrch

Amser i Newid Cymru wedi dod at ei

gilydd. Maen nhw isie stopio’r stigma am

iechyd meddwl. Maen nhw isie annog pobl i

gerdded a siarad.

Roedd y cyfle cynta ar Chwefror 4 eleni

gyda Diwrnod Amser i Siarad. Thema’r

Diwrnod yn 2021 oedd P[er y Pethau

Bychain – y neges oedd, ‘Mae sgwrs fach am

iechyd meddwl yn gallu gwneud gwahaniaeth

mawr’.

Sut i ddechrau sgwrs

am iechyd meddwl

1. Gofynnwch, ‘Sut ydych chi?’. Os dych chi’n

meddwl bod rhywun yn cael problemau

iechyd meddwl gofynnwch y cwestiwn eto

i ddangos eich bod chi’n gwrando’n ofalus.

2. Weithiau, mae’n haws siarad ochr yn ochr

gyda rhywun yn lle wyneb yn wyneb –

dyna pam mae mynd am dro yn ffordd dda

o ddechrau sgwrs.

3. Mae gofyn cwestiynau yn ffordd bwysig o

ddeall mwy am broblemau iechyd meddwl

rhywun. Peidiwch â bod yn rhy bersonol

os ydy’r sgwrs yn gwneud i’r person arall

deimlo’n anghyfforddus.

4. Mae bod yn agored ac yn onest gyda

phobl eraill yn gallu eu helpu nhw i rannu

eu problemau.

Bran Devey yn cerdded yn y

mynyddoedd cyn y cyfnod clo

Geiriau

iechyd meddwl

– mental health

annog – (to) encourage

esbonio – (to) explain

cysylltu – (to) connect

lles – well-being

ymgyrch – campaign

gwahaniaeth mawr

– a big difference

haws – easier

ochr yn ochr

– side by side

yn lle – instead of

anghyfforddus – uncomfortable

10 deg

Fy mhrofiad i...

Fel llawer o bobl eraill, dw i wedi cael

rhai profiadau da a drwg yn fy mywyd.

Mae hi wedi cymryd tipyn o amser i fi

ddysgu sut i ymdopi pan dydy pethau ddim

bob amser yn mynd yn iawn. Un o’r pethau

pwysica i fi ydy mynd allan yn yr awyr

agored a bod ynghanol byd natur.

Rhieni yn gwahanu

Pan o’n i yn fy arddegau ac yn byw ym

Methesda, yn Eryri, gwahanodd fy rhieni.

Roedd hyn yn sioc fawr ac ro’n i’n teimlo

ar goll ac yn isel iawn. Yn ffodus, roedd gen

i ffrindiau da, ac roedd mynd allan i’r awyr

agored i gerdded, neu jest eistedd wrth

ochr afon, yn help mawr. Roedd fy nhad i’n

hoffi’r awyr agored hefyd ac roedd o’n fy

annog i i fynd allan i ymarfer corff, mynydda

a syrffio.

Cyfnod o ddiweithdra

Yn fy arddegau hwyr, wnes i symud i fyw i

Flaenau Ffestiniog lle roedd fy nhad i’n byw.

Wnes i benderfynu aros yno am dipyn ond

roedd hi’n anodd iawn cael swydd. Chwiliais

i am waith am chwe mis. Er mwyn aros

yn bositif wnes i ddechrau cerdded yn y

bryniau. Ro’n i’n cerdded ym mhob tywydd

ac roedd hyn yn rhoi hwb a hyder i fi.

Dod yn rhiant am y tro cyntaf

“Does dim byd yn gallu’ch paratoi chi at fod

yn rhiant” – dyna neges ffrind agos cyn i fy

merch gael ei geni yn 2018. Roedd fy ffrind

i’n iawn. Roedd cael babi bach newydd yn

sioc fawr i’r system ac yn sialens.

Roedd pethau’n anodd hefyd gan fod fy

merch wedi cael colig am bum mis cyntaf ei

bywyd. Felly, bob bore, cyn gwaith, ro’n i’n

mynd â hi am dro i Barc y Rhath, Caerdydd,

yn agos at ble dw i’n byw.

Roedd cerdded a bod ynghanol y coed a’r

adar yn help i fy merch a fi ymlacio. Pan mae

pethau’n anodd rydyn ni’n dal i fynd i’r parc

a llefydd gwyrdd eraill yn lleol.

Y cyfnod clo

Yn ystod y cyfnod clo, dw i’n trio mynd am

dro yn lleol gyda fy mhartner, neu weithiau

dw i’n ffonio ffrind pan dw i’n cerdded.

Pan fydd hi’n saff i ni wneud, dw i’n edrych

ymlaen at fynd i’r bryniau neu’r arfordir

gyda fy nheulu bach i fwynhau.

Am syniadau am lefydd i fynd am dro, ewch i:

www.ramblers.org.uk/go-walking

Am fwy o wybodaeth am iechyd meddwl

ewch i: www.timetochangewales.org.uk

Geiriau

ymdopi – (to) cope

ar goll – lost

gwahanu – (to)

separate

hwb – boost

rhiant – parent

gan fod – as, since

cyfnod clo – lockdown

Siarad a cherdded

Mae Ramblers Cymru yn gweithio gydag

Amser i Newid Cymru i annog pobl i fynd

am dro ac i siarad.

Ymgyrch ydy Amser i Newid Cymru –

yr ymgyrch genedlaethol gynta i stopio’r

stigma am iechyd meddwl. Maen nhw isie

cael chwarae teg i bobl gydag afiechyd

meddwl.

Mae dwy elusen yn rhan o’r ymgyrch

– Hafal a Mind Cymru.

Geiriau

annog – (to)

encourage

ymgyrch – campaign

cenedlaethol –

national

cynta – first

iechyd meddwl –

mental health

chwarae teg – fair

play

afiechyd meddwl –

mental illness

elusen – charity

un deg un

11

Mae bywyd

yn felys!

Scott Davies ydy perchennog Hilltop,

busnes yn y Drenewydd ym Mhowys.

Yno, mae o’n cynhyrchu mêl – ac mae o wedi

dechrau gwneud surop masarn…

Mae Dydd Mawrth Crempog ar

Chwefror 16 eleni.

Dach chi’n hoffi bwyta crempog?

Dach chi’n hoffi cael mêl neu surop masarn

ar eich crempog chi? Os felly, Scott Davies

ydy’r dyn i chi.

Dechreuodd o fusnes cynhyrchu mêl yn

2011 ac, erbyn heddiw, mae o wedi dechrau

cynhyrchu surop masarn hefyd. Yma, mae o’n

ateb cwestiynau lingo newydd ...

Beth oeddech chi’n wneud cyn

cynhyrchu mêl?

Wnes i ddechrau gweithio yn syth ar ôl gadael

yr ysgol. Wnes i hyfforddi i fod yn friciwr. Ond

ar ôl y credit crunch daeth y diwydiant adeiladu

i stop bron dros nos. Wnes i fynd i weithio i

werthwr glo ar ôl hynny.

Ond wnes i anafu fy nghefn, ac ro’n i

allan o waith. Ces i gwch gwenyn yn anrheg

ben-blwydd. Ro’n i wrth fy modd efo

gwenyn. Wnes i ddechrau gwerthu mêl i fy

ffrindiau ac mewn siopau lleol. Mae’r busnes

wedi tyfu lot ers hynny.

12

un deg dau

Beth ddigwyddodd wedyn?

Ar ôl dwy flynedd, wnes i ddechrau

gwerthu’r mêl mewn siopau fferm a delis ar

draws y wlad.

Roedd y busnes yn tyfu cymaint roedd

rhaid i fi wneud penderfyniad – cadw’r

gwenyn oedd gen i a chario mlaen i werthu’n

lleol neu dyfu’r brand a chael mwy o

gyflenwyr mêl i fy helpu i?

Ro’n i’n byw gyda fy rhieni ar y pryd a

phenderfynais i greu busnes go iawn allan o fy

hobi. Wnes i gyflogi aelod o staff i fy helpu i.

Geiriau

bywyd – life

perchennog – owner

cynhyrchu – (to)

produce

mêl – honey

surop masarn –

maple syrup

os felly – if so

hyfforddi – (to) train

briciwr – bricklayer

diwydiant – industry

bron – almost

anafu – (to) injure

cwch gwenyn –

beehive

cymaint – so much

cyflenwyr – suppliers

cyflogi – (to) employ

Faint o fêl dach chi’n

cynhyrchu?

Mae Hilltop yn gallu cynhyrchu

850,000 o jariau o fêl bob mis.

Lle dach chi’n

gwerthu’r mêl?

Dan ni’n gwerthu Hilltop mewn

siopau fel Sainsbury’s, Holland &

Barrett a Selfridges ac ar Amazon ac

Ocado.

Sut dach chi’n hoffi bwyta

eich mêl a surop masarn?

Bob bore dydd Sadwrn, i frecwast,

dw i’n cael surop masarn ar fy

nghrempog gyda bacwn a rhesins!

Dw i’n hoffi cael mêl efo caws neu

dw i’n hoffi rhoi mêl ar fy uwd hefyd.

Geiriau

cynhyrchu – (to) produce

crempog – pancake

Pa fath o fêl dach chi’n

cynhyrchu?

Dan ni’n gwneud mêl pur a naturiol. Does dim

byd wedi’i ychwanegu a dim byd wedi’i dynnu

allan.

Wnaethon ni ddechrau cynhyrchu gwahanol

fathau o fêl, fel diliau mêl, mêl organig a mêl

Manuka. Mae blas ac arogl pob un yn wahanol.

Hilltop oedd y cwmni cynta i ddechrau

gwerthu mêl masnach deg ac organig.

R[an dach chi wedi dechrau

cynhyrchu surop masarn. Pam?

Ro’n i wastad isio arallgyfeirio. Roedd o jest yn

fater o benderfynu ar yr amser iawn i wneud

hynny. Dydy’r broses o wneud surop masarn

ddim mor wahanol i wneud mêl. Mae’r blas,

y lliw a’r arogl yn newid o dymor i dymor.

Mae galw mawr am y mêl a’r surop masarn

yn ystod y pandemig. Mae pobl isio rhywbeth

naturiol, dw i’n credu, ac maen nhw isio prynu

cynnyrch o Gymru.

Cynhwysion

100g o flawd plaen

2 wy mawr

300ml o lefrith

1 llwy fwrdd o olew cnau coco

Mêl neu surop masarn

Geiriau

blawd – flour

llefrith = llaeth

– milk

olew cnau coco

– coconut oil

mêl – honey

surop masarn –

maple syrup

Rysáit

Crempogau perffaith

popeth –

everything

cytew – batter

llyfn – smooth

gadael – (to)

leave

gwres canolig –

medium heat

Dull

1. Rhowch bopeth ond yr

olew cnau coco a’r mêl

mewn powlen a’u chwisgio

nhw’n gytew llyfn.

2. Os oes amser, gadewch y

cytew am tua hanner awr.

3. Ffriwch y crempogau, dros

wres canolig, mewn olew

cnau coco.

4. Rhowch fêl neu surop

masarn dros y crempogau.

Geiriau

diliau mêl – honeycomb

masnach deg – fair trade

arallgyfeirio – (to) diversify

Os dach chi isio gweld mwy am Hilltop,

ewch i’w gwefan nhw: lovehilltop.com

Dach chi’n

gwybod?

Mae mwy nag un enw am

grempog yn Gymraeg.

Gair y Gogledd ydy “crempog”.

Mewn rhai ardaloedd yn y De,

mae pobl yn dweud “pancws”.

Mewn rhai ardaloedd, yr enw

ydy “ffroes”.

Yr hen enw yn y De-ddwyrain

ydy “cramwyth”.

Pa un ydy’ch hoff enw chi?

Geiriau

crempog – pancake

rhai – some

ardal,-oedd – area,-s

un deg tri 13

Dros y Byd

Mae Tiffany Argumedo

yn dod o’r Unol Daleithiau.

Mae hi’n astudio ym

Mhrifysgol Aberystwyth ac

mae hi’n dysgu Cymraeg ...

O ble dych chi’n dod yn

wreiddiol?

Dw i’n dod o Palmdale, yn Ne

Califfornia, yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r ddinas tuag awr a hanner o

Los Angeles, ond dw i’n byw yn

Aberystwyth nawr.

Pam dych chi yng

Nghymru nawr?

Tua phum mlynedd yn ôl, wnes

i ddod i Gymru i gystadlu yn yr

Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol

yn Llangollen gyda chôr. Dw i

wedi dod yn ôl i Gymru sawl

gwaith ers hynny. Ro’n i’n drist

iawn ar ôl gadael, felly wnes i

benderfynu gwneud gradd Meistr

mewn Astudiaethau Gwybodaeth

a Llyfrgellyddiaeth ym Mhrifysgol

Aberystwyth!

Pam dych chi’n dysgu

Cymraeg?

Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg

pan o’n i yn yr Unol Daleithiau.

Ar ôl symud i Gymru, wnes i

weld hysbyseb yn gofyn am bobl

i ddysgu Cymraeg yn y cynllun

“Byddwch yn Un o’r Miliwn”.

Dyn ni’n sgwrsio gyda phobl leol i

ymarfer ein Cymraeg. Medi ydy fy

nhiwtor i ac mae hi’n lot o hwyl!

Beth ydy’ch hoff lefydd

yn yr Unol Daleithiau?

Dw i’n hoffi New Orleans. Mae’r

bwyd yn anhygoel, mae’r bobl

yn gyfeillgar ac mae’r ddinas yn

ddiddorol iawn. Dw i’n gobeithio

mynd i Massachusetts nesa achos

mae fy ffrind gorau i’n byw yno ac

mae gen i ddiddordeb yn hanes y

dalaith.

Pa fath o fwyd dych

chi’n bwyta yno?

Yng Nghaliffornia, mae llawer o

ddewis o fwydydd. Dw i’n caru

Pho a bwyd Indiaidd. Mae fy

rhieni i’n dod o Costa Rica ac

El Salvador felly mae bwydydd

Sbaenaidd yn bwysig yn fy mywyd.

Un o fy hoff lefydd ydy bwyty

Y Sunday Night Singers yn Eisteddfod Llangollen, 2016 - cystadleuaeth canu gwerin

bach mewn garej lle maen nhw’n

gwneud tacos Mecsicanaidd.

Beth dych chi’n hoffi

wneud yn eich amser

sbâr?

Dw i wrth fy modd yn cerdded,

yn enwedig yn y glaw! Dw i’n

mwynhau darllen a chanu opera

hefyd. Cerddoriaeth oedd fy

ngradd gynta.

Beth dych chi’n hoffi am

Gymru?

I fi, mae Cymru yn berffaith. Dw i

wastad wedi mwynhau’r glaw ond

dw i hefyd yn gwerthfawrogi’r

heulwen. Yng Nghaliffornia, mae’r

gwres a’r haul yn ormod weithiau,

felly mae Cymru wedi gwneud

i fi werthfawrogi pob math o

dywydd. Dw i’n hoffi bod pobl

leol mor barod i gael sgwrs hefyd!

Beth ydy’r cynllun

“Byddwch yn un o’r

miliwn”?

Mae’r cynllun “Byddwch yn un

o’r miliwn” yn rhoi cyfle i bobl

Hoff fwyd cartref Tiffany - Holle Carne

- bwyd o Costa Rica

ddysgu Cymraeg er mwyn helpu

yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Geiriau

gradd – degree

cynllun – scheme

cyfeillgar – friendly

talaith – state

yn enwedig – especially

gwerthfawrogi – (to) appreciate

mor barod – so ready

cyfle – opportunity

Dyma Tiffany

Mae Tiffany Argumedo yn dod

o Dde Califfornia yn yr Unol

Daleithiau.

Mae hi’n astudio ym

Mhrifysgol Aberystwyth ac

mae hi’n dysgu Cymraeg.

Mae hi’n hoffi New Orleans

yn fawr. Mae hi’n hoffi’r bwyd,

y bobl a’r ddinas.

Mae Cymru yn berffaith i

Tiffany achos mae hi’n mwynhau

cerdded yn y glaw!

Geiriau

Yr Unol Daleithiau – the United States

astudio – (to) study

dinas – city

perffaith – perfect

14

un deg pedwar

Canhwyllau

Mair

Natur

gyda Bethan

Wyn Jones

Mae Bethan yn edrych ar flodau

o’r enw canhwyllau Mair – maen nhw’n

tyfu ar ddechrau’r gwanwyn...

Enw arall ar y saffrwn

neu’r crocws ydy

canhwyllau Mair.

Dyna enw hyfryd! Mae’r

blodau’n edrych fel

canhwyllau bach.

Ar Ynys Creta, tua

phedair mil o flynyddoedd

yn ôl, roedd y Minoaid

yn tyfu canhwyllau Mair.

Dyna ble roedd y blodyn

yn tyfu’n wyllt gynta, mae’n

debyg. Roedden nhw’n tyfu

mewn gerddi hefyd.

Piws neu oren ydy

blodau canhwyllau Mair

yn ein gerddi ni. Mae’r

tri stigma a thair colofn

yn amlwg iawn – maen

nhw’n gwthio allan o

ganol y blodyn ac yn lliw

oren-goch cyfoethog iawn.

Mae ’na ffresgo enwog

Merch ifanc yn casglu saffrwn,

1500 CC

iawn o balas Knossus ar

Ynys Creta, o gyfnod y

Minoaid. Mae’r ffresgo’n

dangos merched yn casglu’r

stigmâu o’r saffrwn ac yn

eu rhoi nhw i dduwies.

Enw’r ffresgo ydy ‘Y

Casglwyr Saffrwn’.

Dan ni’n defnyddio

stigma’r blodau i wneud

sbeis saffrwn a dyma’r

sbeis druta yn y byd!

Mae angen tua 150,000

o flodau i gynhyrchu

cilogram o saffrwn!

Wrth roi saffrwn mewn

d[r, mae’r d[r yn troi’n

lliw oren-felyn llachar

– felly roedd hi’n bosib

defnyddio’r blodau i roi

lliw i wisgoedd merched

pwysig hefyd.

Yn yr Iliad, mae Homer yn

cyfeirio at y krokos, ond

saffrwn ydy enw’r sbeis

erbyn heddiw – mae’r enw yn

dod, mae’n debyg, o’r Arabeg

za’fran, sef bod yn felyn.

Os dach chi’n tyfu’r blodyn

yma mewn gardd, mae

rhai’n credu ei fod o’n denu

cariad. Mae o’n blanhigyn

affrodisaidd, medden nhw, ac

roedd Zeus, yn ôl pob sôn,

yn cysgu ar wely o saffrwn.

Llun: Steven Jackson Photography, CC BY 2.0

Geiriau

Geiriau

cannwyll, canhwyllau –

candle,-s

tyfu – (to) grow

Ynys Creta – the Isle of

Crete

colofn – column

amlwg – obvious

cyfnod – period

duwies – goddess

cynhyrchu – (to) produce

wrth roi ... – as ... is / was

put

Roedd Rhufeiniaid cyfoethog

yn rhoi stigmâu’r saffrwn ar

eu gwely priodas. Mewn sawl

gwlad, melyn ydy fêl neu

benwisg priodasferch.

Ond wyddoch chi be’?

Dim ots sut maen nhw’n

cael eu defnyddio heddiw,

neu yn y gorffennol, beth

dw i’n hoffi ydy gweld y

blodau’n brigo drwy’r lawnt

ar ddechrau’r gwanwyn

– ac mae’n well gen i’r enw

canhwyllau Mair na’r un

enw arall.

yn ôl pob sôn – apparently

fêl – veil

penwisg – headdress

Wyddoch chi be’? – You know what?

brigo – (to) sprout, branch

Canhwyllau Mair

Dach chi’n hoffi gweld crocws, neu

saffrwn, yn tyfu ar y lawnt ar ddechrau’r

gwanwyn?

Enw arall ar y blodau ydy canhwyllau

Mair. Mae Bethan yn hoffi’r enw.

Mae’n enw da achos mae’r blodau’n

edrych fel canhwyllau bach piws neu oren.

Mae sbeis o’r enw saffrwn yn dod o

stigma’r blodau. Mae’n troi bwyd yn lliw

oren-felyn llachar a dyma’r sbeis druta yn

y byd.

Mae’n debyg bod pobl yn defnyddio

saffrwn ym Mesopotamia, dros 5,000 o

flynyddoedd yn ôl. Mae pobl yn tyfu ac yn

defnyddio saffrwn o Sbaen i India erbyn

hyn.

Un peth arall – mae rhai pobl yn dweud:

mae tyfu’r blodyn yn yr ardd yn denu

cariad.

Geiriau

cannwyll, canhwyllau – candle,-s

tyfu – (to) grow

llachar – bright

druta – most expensive

mae’n debyg bod – apparently

erbyn hyn – by now

denu – (to) attract

un deg pump

15

ar y bocs

Mae Steve Backshall, yr anturiaethwr a’r cyflwynydd, yn dechrau dysgu Cymraeg.

Mae o’n dysgu yn y gyfres newydd o Iaith ar Daith ar S4C...

Steve Backshall

ar antur i ddysgu

Cymraeg

Dych chi wedi gweld Steve Backshall

ar y teledu?

Fel arfer, mae o’n teithio o

gwmpas y byd, yn ffilmio anifeiliaid gwyllt –

a pheryglus – ar gyfer rhaglenni fel Deadly

60 a Blue Planet Live.

Ond r[an, mae o wedi dod i Gymru – ac

mae o isio dysgu Cymraeg. Mae o’n un o

chwe seleb yn y gyfres newydd o Iaith ar

Daith ar S4C.

Mae gynno fo ddau reswm dros ddysgu

Cymraeg:

• Roedd o’n arfer dod i Gymru ar wyliau

pan oedd o’n blentyn.

• Mae o wedi derbyn swydd fel

darlithydd gwadd ym Mhrifysgol

Bangor ac mae o isio medru siarad

Cymraeg efo’r myfyrwyr.

Bydd o’n cael help i ddysgu’r iaith gan Iolo

Williams, y naturiaethwr a’r cyflwynydd

teledu a radio. Mae o’n enwog am raglenni

natur Cymraeg ac am fod ar raglenni fel

Spring Watch ac Autumn Watch.

Yma, mae Steve Backshall yn ateb

cwestiynau lingo newydd am ei antur

ddiweddara...

Lluniau: S4C

Geiriau

antur – adventure

anturiaethwr – adventurer

cyflwynydd – presenter

darlithydd gwadd – guest lecturer

isio = isie – (to) want

medru = gallu – (to) be able to

16 un deg chwech

Steve, beth ydy’ch atgofion

chi o Gymru?

Dw i wedi bod wrth fy modd efo Cymru ers

pan o’n i’n fachgen ifanc iawn. Mae naws wyllt

yn perthyn i Gymru. Mae gan Gymru hanes,

bywyd gwyllt ac arfordir anhygoel.

Pan o’n i’n ifanc, dw i’n cofio fy rhieni yn

pacio’r car ac yn gyrru’n syth i’r Cymoedd a

Bannau Brycheiniog neu i Eryri. Mae llawer o

fy atgofion i fel plentyn yn dod o’r nosweithiau

yna yng Nghymru, mewn pabell, gyda lefel y

d[r yn codi’n uwch na’r llawr a ninnau’n nofio i

ffwrdd ar ein airbeds!

Pam dych chi wedi

penderfynu dysgu Cymraeg?

Pan dw i’n ymweld â gwledydd eraill, dw i bob

tro yn astudio’r iaith. Mae Cymru wedi bod yn

rhan fawr iawn o fy mywyd i ond dw i ddim yn

siarad yr un gair o Gymraeg. Dydy hyn ddim yn

iawn ac felly, dyma fy nghyfle i wneud yn iawn

am hyn.

R[an, dw i wedi derbyn swydd fel darlithydd

gwadd ym Mhrifysgol Bangor ac mae gen i hyd

yn oed fwy o resymau dros ddysgu’r iaith. Dw

i’n meddwl bod yr amser wedi dod i mi fedru

siarad â fy myfyrwyr yn iaith ardal Bangor.

Mae Iolo Williams yn eich helpu

chi i ddysgu’r iaith. Beth ydy’r her

gynta dach chi’n gwneud?

Yr her gynta oedd dod i wybod yr enwau

Cymraeg ar adar gwyllt yn ardal Llyn Fyrnwy.

Ro’n i wrth fy modd efo’r enwau fel cnocell y

coed, titw penddu a ji-binc.

Yn un o’r tasgau eraill, roedd rhaid i mi

ddysgu Iolo i gan[io – yn Gymraeg – ym Mhlas

y Brenin, Capel Curig.

Dw i’n caru Cymru hyd yn oed yn fwy

r[an. Dw i’n deall Cymru tipyn bach yn

well r[an. Dw i wrth fy modd yn siarad

Cymraeg a dw i wrth fy modd efo

geiriau Cymraeg. Mae’r iaith yn

ddiddorol ac yn hardd iawn.

Geiriau

naturiaethwr – naturalist

atgof,-ion – memory,

memories

naws wyllt – a wild

feeling

perthyn i – (to) belong to

yr un gair – a single word

gwneud yn iawn am –

(to) make up for

cnocell y coed –

woodpecker

titw penddu – coal tit

ji-binc – chaffinch

Dyma Steve Backshall

Pwy ydy Steve Backshall?

Mae o’n anturiaethwr ac mae o’n

gyflwynydd teledu.

Beth mae o’n cyflwyno ar y

teledu?

Fel arfer, mae o’n cyflwyno rhaglenni fel

Deadly 60 a Blue Planet Live.

Ar y rhaglenni yma, mae o’n cael

anturiaethau mawr. Mae o’n chwilio am

anifeiliaid peryglus ac yn nofio efo siarcod,

er enghraifft.

O ble mae o’n dod?

Mae o’n dod o Bagshott yn Surrey yn

wreiddiol.

Beth mae Steve Backshall yn

wneud yng Nghymru?

Mae o’n dysgu Cymraeg – yn y gyfres Iaith

ar Daith ar S4C.

Pam mae o isio dysgu Cymraeg?

Roedd o’n dod i Gymru ar wyliau pan oedd

o’n blentyn.

Mae o wedi cael swydd fel darlithydd

gwadd ym Mhrifysgol Bangor ac mae o isio

siarad Cymraeg efo’r myfyrwyr.

Ydy o’n siarad iaith arall?

Ydy. Mae o’n siarad Japanaeg a Sbaeneg.

Pan mae o’n mynd i wlad newydd, mae

o’n dysgu am yr iaith. R[an, mae o’n dod i

Gymru ...felly, mae o’n dysgu’r iaith.

Pwy sy’n helpu Steve i ddysgu

Cymraeg?

Mae Iolo Williams yn helpu

Steve efo’r iaith. Mae Iolo yn

naturiaethwr a chyflwynydd

teledu. Mae o’n helpu Steve

i ddysgu enwau adar. Mae’r

ddau’n hoffi byd natur.

Mae’r bobl ar Iaith ar Daith yn

wynebu sialensiau. Beth ydy

sialensiau Steve?

Mae’r sialensiau’n siwtio Steve ac Iolo. Mae

Steve yn dysgu enwau Cymraeg am adar yn

ardal Llyn Fyrnwy, ardal Iolo Williams. Yna,

mae o’n dysgu Iolo i gan[io yn Gymraeg –

heb siarad Saesneg!

Beth mae Iolo Williams yn dweud

am Steve?

“Mae o wedi dysgu’n gyflym! Dim ond

ers mis mae o’n dysgu ac mae ei eirfa’n

anhygoel.”

Beth mae Steve Backshall yn

dweud?

“Dw i’n caru Cymru hyd yn oed yn fwy r[an!”

Geiriau

anturiaethwr –

adventurer

cyflwynydd –

presenter

cyflwyno – (to)

present

anturiaeth,-au –

adventure,-s

peryglus –

dangerous

er enghraifft – for

example

wedi cael – has had

swydd – job

felly – so, therefore

naturiaethwr –

naturalist

ardal – area

sialens,-iau –

challenge,-s

dim ond ers mis

– it’s only a month

since

anhygoel – incredible

hyd yn oed – even

r[an = nawr – now

Iaith ar Daith,

Nos Sul, Mawrth 7, 8yh, S4C

Is-deitlau Saesneg

un deg saith

17

Cymru annibynnol?

Mae YesCymru isie Cymru annibynnol ac mae llawer o bobl yn ymuno â’r mudiad...

Mudiad ydy YesCymru ac maen nhw

isie annibyniaeth i Gymru. Ers y

Covid, mae llawer mwy o bobl yn

ymuno â’r mudiad. Flwyddyn yn ôl, roedd gan

y mudiad tua 2,000 o aelodau, nawr mae gan

y mudiad 17,000.

Dyma rai o’r rhesymau tymor byr am hynny:

• Sut mae Cymru a Lloegr yn delio gyda’r

pandemig.

• Mae pobl yn poeni am effaith Brexit.

• Os ydy’r Alban yn cael annibyniaeth

ac Iwerddon yn uno, bydd Cymru ar

drugaredd Lloegr.

• Mae Llywodraeth San Steffan yn

cymryd rhai pwerau’n ôl o Gymru.

Siôn Jobbins – Rali YesCymru, Caerdydd 2019

Beth dych chi’n feddwl?

Geiriau

annibynnol – independent

ymuno â – (to) join

mudiad – movement

tymor byr – short-term

uno – (to) join

ar drugaredd – at the mercy of

YesCymru

Mudiad ydy YesCymru.

Mae YesCymru isie annibyniaeth i

Gymru.

Y llynedd, roedd 2,000 o bobl yn y

mudiad.

Eleni, mae 17,000 o bobl yn y mudiad.

Mae Plaid Cymru a’r Blaid Werdd yn

cefnogi annibyniaeth ac mae un pôl piniwn

yn dangos: mae 33% o bobl yn cefnogi

annibyniaeth i Gymru.

Ond, ar yr ochr arall, mae rhai pobl yn

dweud: “Dyn ni ddim isie Senedd Cymru.”

Geiriau

mudiad –

movement

annibyniaeth –

independence

y llynedd – last

year

eleni – this year

annibyniaeth –

independence

cefnogi – (to)

support

pôl piniwn –

opinion poll

yr ochr arall – the

other side

Holi’r Cadeirydd

Siôn Jobbins ydy Cadeirydd

YesCymru. Dydy YesCymru

ddim yn perthyn i un blaid a

dydyn nhw ddim yn dweud,

“Dyn ni ar y chwith” neu

“Dyn ni ar y dde.” Nod y

mudiad ydy cael annibyniaeth i

ddechrau.

Yma, mae Siôn Jobbins yn

ateb rhai cwestiynau...

Pam dych chi isie

Cymru annibynnol?

Dyn ni’n credu bydd Cymru

yn gwneud gwell job o reoli’r

wlad na San Steffan. Bydd

economi a chymdeithas

Cymru yn well.

Dyn ni isie cael llywodraeth

dyn ni’n pleidleisio drosti bob

tro – dydy Cymru erioed wedi

pleidleisio dros lywodraeth

Dorïaidd.

Oes gennych chi

enghraifft o hyn?

Yn y 1960au, roedd GNP (holl

gynnyrch economaidd) Cymru

ddwy waith GNP Iwerddon.

Heddiw, mae GNP Iwerddon

bedair gwaith yn fwy na

Chymru.

Mae economi Prydain

wedi cael ei lywio tuag at

dde-ddwyrain Lloegr. Fydd

cymunedau Cymru byth yn

flaenoriaeth i San Steffan.

Does gan Senedd Cymru ddim

grym i wneud y newidiadau

mawr sy eu hangen.

Gydag annibyniaeth, bydden

ni’n gallu amrywio trethi,

benthyg arian, buddsoddi,

cynhyrchu arian ein hunain,

gyda banc canolog. Does gan

Lywodraeth Cymru mo’r

pwerau llawn i allu gwneud

gwir wahaniaeth.

Yn ystod y pandemig,

sut byddai Cymru

annibynnol wedi

gwneud pethau’n

wahanol?

Roedd y firebreak ym mis

Hydref a Thachwedd yn

rhy fyr ond doedd gan

Lywodraeth Cymru mo’r

YesCymru, Gorffennaf 2019

arian i dalu busnesau i gau am

gyfnod hir. Llywodraeth San

Steffan sy â’r arian i dalu am

hynny.

Bydden ni wedi gallu cau’r

ffiniau’n well. Bydden ni wedi

gallu cael ffyrlo pan oedden

ni isie ffyrlo a chael rheolaeth

dros brynu offer diogelwch.

Geiriau

nod – aim

pleidleisio – (to) vote

llywio – (to) steer

blaenoriaeth – priority

grym – power

amrywio – (to) vary

treth,-i – tax,-es

buddsoddi – (to) invest

ffin,-iau – border,-s

Llun: Llywelyn2000, CC BY-SA 4.0

18

un deg wyth

Cofiwch – un llythyren

ydy ll a ch.

Mae rhai o’r atebion yn y rhifyn yma o lingo newydd.

1 2 3 4 5

6

7 8

9 10

11 12

13 14

15

16 17 18

19 20

21 22

Mae’r atebion ar y gwaelod.

Ar draws

1. Pili-_ _ _ _ - glöyn byw. (4)

3. Dyn o’n gwlad ni. (5)

6. Nid nhw. (2)

7. Mae dafad neu fuwch

yn _ _ _ _ yn y cae

– gair arall am “fwyta”. (4)

8. Anifail – ar hwn aeth

Iesu i Jerwsalem. (5)

9. Yn debyg i. (3)

11. Amserlen yn dweud pwy

sy’n gwneud beth,

a phryd. (4)

13. Mae hon yn dodwy. (3)

14. Awel ysgafn, o awyr iach

efallai. (3)

15. Mae Hilltop yn gwerthu

hwn. (3)

16. S[n sy’n dychryn. (2)

18. Afon Machynlleth. (4)

20. Dod â dau beth at ei

gilydd. (3)

21. Codi gwydrau a

dymuno _ _ _ _ _ da

– llwncdestun! (5)

22. Dych chi’n yfed hon. (4)

I lawr

1. Dych chi’n ysgrifennu ar

hwn. (5)

2. Creadur – mae Steve Backshall

wedi gweld 60 peryglus! (7)

4. Enw arall ar Chwefror

– mae’n dweud beth ydy ei

faint! (3, 3)

5. Mae hwn yn prancio yn y

gwanwyn. (3)

10. Braster – ar gyfer coginio. (4)

12. Dwynwen ydy santes hyn. (6)

15. S[n buwch. (2)

16. “Siwan dorrodd y ffenest nid

fi – ei _ _ _ hi ydy e!” (3)

17. Dweud dim, methu siarad. (3)

18. Gadael a chyrraedd – mynd

a _ _ _. (3)

19. I + eich (yn fyr!) (1’1)

Geiriau

dodwy – (to) lay (an egg)

llwncdestun – toast

(celebratory)

Daw haul

ar fryn

Dych chi’n teimlo’n

ddiflas yn y pandemig

yma?

Peidiwch â phoeni!

Dyma idiom gan Mumph

i godi’ch calon chi...

Os dych chi ar ynys bell

ac yn methu gadael,

mae’r idiom yn help i

chi hefyd. Mae’n dweud

bod haul (neu long!) ar y

ffordd ... mae pethau’n

mynd i wella!

Geiriau

daw – will come

codi’ch calon chi – (to) raise

your spirits

ynys bell – faraway island

methu – (to) be unable

gadael – (to) leave

gwella – (to) improve

Atebion

Ar Draws: 1. Pala; 3. Cymro; 6. Ni; 7. Pori; 8. Asyn; 9. Fel; 11. Rota;

13. Iâr; 14. Chwa; 15. Mêl; 16. Bw; 18. Dyfi; 20. Uno; 21. Iechyd; 22. Diod.

I Lawr: 1. Papur; 2. Anifail; 4. Mis bach; 5. Oen; 10. Lard;

12. Cariad; 15. Mw; 16. Bai; 17. Mud; 18. Dod; 19. I’ch.

un deg naw

19

£4.99

Llyfrau arbennig i

ddysgwyr Cyrmaeg!

Lefel Mynediad

£7.99 £6.95 £4.99

Lefel Sylfaen

£5.99

Dewis mawr o lyfrau i

ddysgwyr Cymraeg ar

bob lefel.

Am restr gyflawn, ewch i:

www.ylolfa.com/dysgwyr

A wide range of books

for Welsh learners at

every level.

For a full list, go to:

www.ylolfa.com/learners

Llyfrau dros Gymru

Oes plant bach yn eich teulu chi?

Ydyn nhw’n siarad Cymraeg?

Ydyn nhw’n blino bod gartref?

Dyma’r ateb perffaith...

Rhifyn Chwefror o

WCW a’i ffrindiau

CHWEFROR 2021

Rhif 287

Cylchgrawn i blant Cymru

a’i ffrindiau

Posau,

straeon,

jôcs

a hwyl!

£2.50

Storïau i’w darllen...

Posau i’w gwneud...

Jôcs er mwyn chwerthin...

A chystadleuaeth fawr.

Mae tudalennau i helpu

oedolion sy’n dysgu

Cymraeg hefyd – fersiwn

Saesneg o’r cylchgrawn

i gyd.

Dych chi’n gallu

prynu WCW yn y siop,

neu tros y We

GOLWG LTD

DECEMBER/JAN ISSUE

100%MAG -0.40BWR

GOLWG LTD

FEBRUARY ISSUE

100%MAG -0.40BWR

£2.50 yn y siopau neu

tanysgrifiwch dros y we

a’i dderbyn yn syth i

garreg y drws.

GOLWG LTD

MARCH/APRIL ISSUE

100%MAG -0.40BWR

https://360.cymru/tanysgrifio/wcw/

ISSN 1369-6149

ISSN 1369-6149

12

ISSN 1369-6149

cyhoeddiad

02

03

9 771369 614054

9 771369 614061

9 771369 614054

GOLWG LTD

MAY ISSUE

100%MAG -0.40BWR

GOLWG LTD

JULY/AUGUST ISSUE

100%MAG -0.40BWR

GOLWG LTD

JUNE ISSUE

100%MAG -0.40BWR

ISSN 1369-6149

ISSN 1369-6149

05

ISSN 1369-6149

06

07

9 771369 614061

9 771369 614061

9 771369 614054

GOLWG LTD

MED ISSUE

100%MAG -0.40BWR

GOLWG LTD

OCTOBER ISSUE

100%MAG -0.40BWR

GOLWG LTD

NOVEMBER ISSUE

100%MAG -0.40BWR

ISSN 1369-6149

ISSN 1369-6149

09

ISSN 1369-6149

10

11

9 771369 614061

9 771369 614061

9 771369 614061

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!