Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
Llawlyfr Handbook 2010 - Hafan Pwllheli
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
26

Gwybodaeth Cyffredin

Penrhyn llˆyn

Penrhyn Llˆyn yw trysor pennaf golygfeydd Cymru. O gopa'r Wyddfa i Ynys Enlli, ceir gwlad o

harddwch naturiol eithriadol ac mae llawer o rannau ohoni yn cael eu gwarchod gan yr

Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel Arfordir Treftadaeth Cymru.

Mae'r wlad hon yn gyforiog o hanes crefydd gynnar a'r Eglwys Geltaidd. Ynys Enlli, ynys y llanw,

yw'r man lle claddwyd yn ôl traddodiad ugain mil seintiau. Ar y tir mawr, ceir sawl enghraifft o

eglwysi Cristionogol cynnar, megis Eglwys y Santes Fair ym Mryncroes lle roedd Ffynnon Fair yn

orffwysfan o bwys ar Lwybr y Pererinion i Enlli

Arfordir Treftadaeth y Gogledd

O Arfordir Treftadaeth y Gogledd ceir golygfeydd syfrdanol o gopaon urddasol yr Eifl. Gall

ymwelwyr â'r ardal fwynhau'r chwaraeon dˆwr penigamp a'r cyfle i frigdonni yn y bae mawr eang

sy'n ymestyn allan o Nefyn, Morfa Nefyn a Phorthdinllaen. Ym Mhorthdinllaen hefyd ceir cwrs

golff 27 twll - y gorau yng Nghymru, mae'n debyg.

Ym mhen draw'r penrhyn, ceir traeth hyfryd Aberdaron ac ym Mhorthor nid nepell o Aberdaron

mae'r tywod gwyn euraid yn chwibanu'n rhyfeddol o dan eich traed! Uwchlaw Porth Neigwl, yn

y Rhiw, ceir t^y hyfryd o'r enw Plas-yn-Rhiw, sy'n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Plasty

bychan hardd o’r 17eg ganrif yw hwn ac yno ceir llawer o blanhigion anghyffredin a phrin yn

tyfu mewn gerddi addurniadol.

© A Green