14.05.2021 Views

Anti-Racist Allyship Toolkit

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Gwahaniaethu

Triniaeth anghyfartal o aelodau o grwpiau amrywiol yn seiliedig ar hil, rhyw,

dosbarth cymdeithasol, cyfeiriadedd rhywiol, gallu corfforol, crefydd a

chategorïau eraill. (www.leadershipharrisburg.org)

Amrywiaeth

Mae amrywiaeth yn cynnwys yr holl ffyrdd y mae pobl yn wahanol, ac mae’n

cwmpasu’r holl nodweddion gwahanol sy’n gwneud un unigolyn neu grŵp

yn wahanol i un arall. Mae’n hollgynhwysol ac yn cydnabod pawb a phob

grŵp fel rhan o’r amrywiaeth y dylid ei werthfawrogi. Mae diffiniad eang yn

cynnwys nid yn unig hil, ethnigrwydd a rhyw - y grwpiau sy’n dod i’r meddwl

amlaf pan ddefnyddir y term “amrywiaeth” - ond hefyd oedran, tarddiad

cenedlaethol, crefydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, statws economaiddgymdeithasol,

addysg, statws priodasol, iaith, ac ymddangosiad corfforol.

Mae hefyd yn cynnwys gwahanol syniadau, safbwyntiau a gwerthoedd. (www.

leadershipharrisburg.org)

Ethnigrwydd

Grŵp ethnig; grŵp cymdeithasol sy’n rhannu diwylliant, crefydd, iaith neu

debyg. (Dictionary.com)

Cydraddoldeb

Hawl gwahanol grwpiau o bobl i gael safle cymdeithasol tebyg a derbyn yr un

driniaeth. (Geiriadur Caergrawnt)

Cyfiawnder

Bod yn deg neu’n ddiduedd; tegwch; didueddrwydd. (Dictionary.com)

Hiliaeth Unigol

Mae hiliaeth unigol yn cyfeirio at gredoau, agweddau a gweithredoedd

unigolion sy’n cefnogi neu’n parhau hiliaeth. Gall hiliaeth unigol fod yn fwriadol,

neu gall yr unigolyn weithredu i gynnal neu gefnogi hiliaeth heb wybod mai

dyna mae ef neu hi’n ei wneud. (www.leadershipharrisburg.org)

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!