24.03.2021 Views

Barddas Gaeaf 2021 PRINT

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Cylchgrawn y Gymdeithas Gerdd Dafod Y traddodiad hardd ydyw,

Rhifyn Gaeaf 2021

Yr hen ddweud o’r newydd yw.

barddas

Rhifyn Gaeaf 2021 | Rhif 348

OND

Yn y tywyllwch ’ma

mae ’na rwbath yn cuddio.

Peth swil ydy o weithiau

er na ddylai fod.

Gobaith ydy ei enw fo.

A does dim lladd arno.

Siôn Aled

Rhifyn Gaeaf 2021

‘The Hill We Climb’

i Amanda Gorman, Bardd Llawryfog ifanc yr Unol

Daleithiau, 20 Ionawr 2021

Serth yw’r rhiw, garw’n briwiau – er hynny

fe ail-drown i’r golau;

anadlu, mwytho’n sodlau

â balm llên ei hawen iau.

ANNES GLYNN

Llun: Kelia Anne

Rhifyn Gaeaf 2021 Rhifyn Gaeaf 2021

Beth am y beirdd byddar?

SARA LOUISE WHEELER

Fel sawl un o ddarllenwyr

Barddas, rwy’n siŵr, rwyf

wrthi ar hyn o bryd yn pori’n

llawen drwy’r gyfrol newydd Y

Gynghanedd Heddiw. I’r darpar

gynganeddwr, mae’n wledd i’r

dychymyg a’r synhwyrau – un yn

benodol: y clyw. Mae gen i Syndrom

Waardenburg math 1 ac o ganlyniad

mae fy nghlyw nawr yn cilio yr un

pryd â’r golled pigment yn fy ngwallt

a’m croen a’m llygaid. Wrth geisio

ymateb yn bositif i’r trawsnewid

hwn, meddyliais mai da o beth

fyddai rhoi cynnig ar feistroli’r

‘gynghanedd’ ddirgelaidd, riniol

rwyf wedi clywed cymaint amdani

ond erioed wedi deall yn iawn beth

oedd hi! Yma cefais epiffani a siom,

wrth gwrs, achos fel mae’r awduron

yn y llyfr yma yn taeru drosodd a

thro, mae’r glust yn hollbwysig yn y

gynghanedd.

Ond mi wnaeth Beethoven

barhau i gyfansoddi er iddo golli ei

glyw! Ac dyma ddechrau archwilio

i sut mae gwneud y gynghanedd

yn fwy hygyrch i feirdd byddar,

yn bennaf trwy wneud gwaith

y glust yn weledol. Hyd yma,

rwyf wedi ystyried defnyddio

symbolau’r Wyddor Ryngwladol

Ffoneteg (International Phonetic

Alphabet - IPA) ac efallai rhai

o system Jefferson (sy’n sail i

ddadansoddiad sgwrs ym maes

Cymdeithaseg a Seicoleg) i greu

Odliadur arbennig. Byddai hyn yn

lleihau’r angen i rywun fod yn gallu

‘clywed’ yr acen - byddai’n amlwg

ar y dudalen, megis ‘Llanrúg’.

Mae’r pendroni hwn wedi

codi’r cwestiwn a fu erioed

gynganeddwyr byddar? Ac os felly,

sut y gwnaethan’ nhw ymdopi?

Prin iawn yw’r dystiolaeth! Mae yna

un bardd sy’n cyfeirio ato ei hun

mewn cyfrol o’r ddeunawfed ganrif,

Cyfaill y Cymro’, fel ‘William Hope,

neu’r Bardd Byddar’. Yn anffodus

nid oes llawer o wybodaeth bellach

am hwn ar gael ond os oedd o’n

fyddar, mae’n debyg mai wedi colli

ei glyw yn oedolyn roedd o, fel fi, yn

hytrach na bod yn ‘fyddar cyn iaith’

(‘prelingually deaf’). Mae hi hefyd

yn debyg ei fod yn cynganeddu cyn

colli ei glyw, ac felly mewn sefyllfa

dra wahanol i mi.

Heblaw am William Hope, yr

wyf wedi clywed sôn am ambell

i gynganeddwr arall oedd efallai

yn drwm ei glyw neu wedi colli

rhywfaint ar ei glyw; da o beth

fyddai cael gwybodaeth amdanynt.

Felly dyma apêl i’r darllenwyr: os

oes gennych unrhyw wybodaeth

am gynganeddwyr byddar,

cysylltwch â mi. Neu os ydych yn

fardd byddar neu wedi colli eich

clyw, beth am gysylltu am sgwrs?

E-bost; gwasgygororau@gmail.

com; Twitter: @GwasgYGororau;

Wefan: www.gwasgygororau.

wordpress.com

Wrth chwilio am feirdd byddar, mi

ddes ar draws hanes Dorothy ‘Dot’

Miles (1931-1993), bardd byddar

o Dreffynnon. Cafodd ei haddysg

dros y ffin mewn ysgol breswyl i’r

byddar, yn ôl trefn y cyfnod, ac yna

aeth ymlaen i Brifysgol Gallaudet

yn America. Nid cynganeddu

drwy gyfrwng y Gymraeg oedd ei

chrefft, ond barddoni drwy gyfrwng

Arwyddiaith Brydeinig (BSL) ac

Arwyddiaith Americanaidd (ASL),

a hefyd yn Saesneg. Yn wir, roedd

Dot yn arloesol yn y maes, ac

mae sawl un heddiw yn ei gweld

fel ffynhonnell rhan helaeth o

farddoniaeth arwyddiaith gyfoes.

Mae hyn yn gamp werth chweil

wrth gwrs, ac mae’n rhywbeth y

dylem ei ddathlu yng Nghymru, yn

enwedig yng ngororau’r gogledd

ddwyrain, lle cafodd Dot ei magu.

Mae angen inni hefyd, felly,

ystyried pam nad oes mwy

o sôn am Dot rhwng cloriau

cylchgronau llenyddol Cymru. Y

mae statws di-glod barddoniaeth

arwyddiaith yn bennaf o

ganlyniad i’r math o agweddau

rhagfarnllyd, nawddoglyd sydd

wrth wraidd mathau eraill o

anghydraddoldebau’r sîn cerdd

dafod, fel y trafodwyd yn rhagair

Y Gynghanedd Heddiw gan y

golygyddion Aneirin Karadog

ac Eurig Salisbury. Wrth ystyried

ysgrif Grug Muse ar y pwnc llosg

fod ‘merched cerdd dafod wedi

ei hesgeuluso’ (t.7) gwnaethant y

datganiad canlynol: ‘Mae llawer i’w

wneud eto, wrth reswm, o ran rhyw,

rhywedd, lliw croen a chefndir er

mwyn adlewyrchu gwir amrywiaeth

y Gymru gyfoes…’

Synnais yma iddynt beidio â sôn

hefyd am ‘anabledd’, sydd wrth gwrs

yn un o’r nodweddion sydd wedi

eu cynnwys o fewn cyfraith y DU

parthed cydraddoldeb. Ac er ei bod

yn bwysig iawn parchu hunaniaeth

a diwylliant y gymuned fyddar, a

Byddaroliaeth (Deafhood), ac felly

hawliau ieithyddol yn hytrach nag

‘addasiadau rhesymol’, mae hi hefyd

yn wir mai clywedol yn bennaf yw

diwylliant ein cymdeithas ni, a’i fod

yn ‘anablu’ unigolion byddar yn

eu bywydau pob dydd. Felly mae

byddardod yn anabledd yn ogystal

â bod yn hunaniaeth ddiwylliannol

ac ieithyddol.

Wrth fynd ati i gynganeddu, mae

unigolion byddar yn wynebu heriau

a rhwystrau corfforol, megis clywed

yr acen a’r glec. Mae yna ffactorau

eraill hefyd, megis y ffaith fod y

sîn yn ffafrio’r radio fel cyfrwng, a

byddwn yn dychmygu mai clywedol

yw’r rhan fwyaf o diwtoriaid

cynganeddol, a’u hyfforddiant ym

maes ymwybyddiaeth o fyddardod

yn brin. Mater arall i’w ystyried yw’r

ffaith fod dosbarthiadau cynganeddu

yn tueddu i gael eu cynnal

mewn tafarnau a mangreoedd

cymdeithasol sydd â sŵn cefndirol.

Yn wir, mae’r elfen gystadleuol yn

dibynnu ar allu cynganeddwyr i

weithredu mewn awyrgylchoedd

swnllyd, lle byddai beirdd â nam

clyw yn cael trafferth dilyn yr hyn

sydd yn mynd ymlaen, heb sôn am

her tinitws a hyperacusis – crochan

hunllefus o sŵn brawychus, a fawr

ddim synau defnyddiol.

Roedd Dot yn rhugl mewn tair

iaith: Saesneg, BSL ac ASL, ac

roedd yn barddoni yn y tair iaith

Bardd beiddgar y bordor

Un o Dreffynnon oedd hi’n wreiddiol,

ond trafaeliodd draw i America bell – a Llundain wedi hynny.

Ei barddoniaeth boblogaidd yn gwirioni’r dyfroedd,

gan wthio ffiniau beth ystyrid yn bosib,

ac ehangu gorwelion ym mhob twll a chornel.

Bu’n gweithio fel golygydd ac ymgyrchydd, gan annog ei thylwyth

i lwyddo yn eu hanturiaethau creadigol ac i ddathlu

eu diwylliant cyfoethog, a’i hiaith leiafrifol brydferth.

O oedd, roedd pawb yn dotio at ‘Dot’.

‘Cynganeddu roedd hi felly?’

Naci! Mi aeth hi dros y ffin am ei haddysg,

i ysgol breswyl, gyfrwng Saesneg;

dyna oedd y drefn bryd hynny.

Dal dan ormes roedd yr iaith ar y pryd –

nol yn y ’50au ’lly.

I Brifysgol Gallaudet yr aeth hi,

a llenyddiaeth y llygad oedd ffrwyth ei llafur.

Bardd byddar oedd Dot,

a barddoniaeth arwyddiaith yw ei chymyn-rodd –

i’r sîn lenyddol Gymreig a thu hwnt.

hefyd. Roedd i’r Gymraeg ar y

pryd yr un math o statws israddol

â BSL, ac roedd hi’n ferch. Ac

felly, ni wnaeth Dot fynd ati i

gynganeddu, a hoffwn ei chynnig

hi fel enghraifft o’r lleisiau coll i’r

sîn dros y blynyddoedd, oherwydd

yr anghydraddoldebau amrywiol.

Diddorol yw ystyried yr amrywiaeth

a’r egni a allai fod wedi perthyn

i’r sîn pe bai’r rhwystrau hyn heb

fodoli, a’r posibiliadau cyffrous wrth

inni geisio symud tuag at ddyfodol

mwy hygyrch a chydraddol. Braf yw

nodi geiriau Aneurin ac Eurig (t.7):

‘Mae’r awydd yna i ddatblygu ac i

newid, a’r dasg ar waith…’

14 | barddas

barddas | 15

ER COF…

Rhifyn Gaeaf 2021 Rhifyn Gaeaf 2021

Mirain Llwyd Owen

Er iddi farw’n rhy ifanc gwnaeth Mirain fyw ei bywyd i’r eithaf ac yn llawn pwrpas. Yn aelod

allweddol o Yes Caernarfon daeth ar yr orymdaith fawr dros annibyniaeth er yn sâl a blinedig ar y

pryd. Yn aelod cynnar iawn o Yes Cymru (aelod rhif 24) roedd yn siwr mai fel gwlad annibynnol y

dylai Cymru fyw.

A glywais di’r wawr yn dod

o bell cyn bod yna sôn na si

am doriad dydd?

a Chymru’n oer mor hir? Y tir

mor oer â neb yn teimlo’r ha’?

Mor dda oedd dy adnabod

wir – y gwybod dwfn tu ôl

i’th wên ac awyr las dy weld;

y sicrwydd tawel, tlws

wrth wraidd dy fod.

Wrth gerdded ’mlaen

ar hyd y daith bydd gwres

dy chwerthin yn ein clyw

a’th enw’n canu’n hardd.

Pan ddaw ein dydd mi fyddi

gyda ni.

GWION HALLAM

Mari Lisa

Bu farw’n ddisymwyth ar

Dachwedd 20fed, 2020.

Fi af yn ôl i Feifod

heno i’r fan lle rwyf fod;

i’w hen fro fu’n wefr i hon

y fedal a’r hanfodion,

Daeth mis du â’r dydd duaf

a phellhau mae’i geiriau gwâr

a’r gân ar ben rhy gynnar

ac un oedd yma gynnau,

yma â’r wên i’r camerâu.

Gwelaf trwy ddagrau galar

ddoe ar ras a llawn hen ddrâr

a sawl tasg ddaw fesul ton;

gair a llên yn fud gerllaw

yn ddiystyr o ddistaw.

Tîm Ymryson Maldwyn, Eisteddfod Sir Conwy 2019

Beunydd rwy’n gweld ble bynnag

neuadd oer ac un sedd wag,

a chael nad yw’n dychwelyd.

Daeth cledd hen Dachwedd y dydd

â chau awen ei chywydd.

Mowldiwyd o fwynder Maldwyn

Llanwrin ei chwerthiniad

a’r wên hardd o gadarnhad,

y bardd anwylaf fu’n bod

na’i hosgordd yn ei disgwyl

eleni, na’i thelyneg,

ni ddaw’i hinc ag iddi ddeg,

na’i dawn; cawn ddweud ‘nos da’

i leisiau Mari Lisa.

GERAINT ROBERTS

Os daeth y nos i’th ddwyn

cyn pryd, gwnest fyw

dy ddyddiau’n haul i gyd

a gwneud pob heddiw’n lôn –

byw i’r dydd a Chymru’n dy galon

yn rhydd.

Bwlch

heb yr awch a’r geiriau’n brin,

yn y llan mae’r dagrau’n lli,

a galargan ei glannau

Un ha’, dychwelaist i’r nyth,

i aelwyd dy wehelyth,

nôl i’r fro a’r haul ar fryn,

i barthau dy hen berthyn,

nôl i warchod traddodiad

a rhoi i’r iaith ei pharhad.

Mis y dwyn a fu’r mis du,

mis glaw oer, mis galaru,

llymhau erwau Llanwrin.

Daeth ysgall dros dir Mallwyd

a’r ardd ir yn lleindir llwyd,

anialdir sydd ym Maldwyn

â’i llais yn fud yn y llwyn.

A ni’n syfrdan! Cân anos

yw’n pryder yn nyfnder nos,

a’n côr heb ei seiniau cain,

alaw wag yw ein plygain.

Yn estyn ennyd ddistaw

â’i hwyl glir dan haul a glaw

daw geiriau gwâr ein Mari

yn wên, yn wanwyn i ni;

mae’i stori am ystwyrian

SIW JONES

22 | barddas barddas | 23

Rhifyn Gaeaf 2021 Rhifyn Gaeaf 2021

Mygydau

Alltud

ti â dy haul oedd yn llenwi’r drws?

Ti oedd yn cael y plant i neidio

i dy freichiau crwn

a’u lapio fel mewn blanced

o gariad a sicrwydd a hwyl.

Ymhle

ti oedd yn gefn pan oedd y byd yn fy mrest,

yn agor y dorau a throi

y merddwr llwyd yn rhaeadrau melyn,

a gyrru’r cysgodion o fy mêr?

I ble’

eiliad orau’r ddynolrwy?

Alltud wyt mewn byd pellenig

a ninnau dy angen fwy bob dydd.

Tybed wyt tithau hefyd yn gwaedu

am gael teimlo cyd-guro calonnau dau,

rhywle yn agos ond eto mor bell.

Wyt ti’

pan oedd Cymru’n sgorio?

Pawb i gyd mewn gwynfyd coch

yn bownsio i fyny a lawr, gan gydio

yn unrhyw un o fewn gafael,

a throi dieithriaid yn frodyr a chwïorydd

yn y llawenydd heb ddiwedd.

Yr Ewros yn ein haros eto, a’r wên

ar wyneb pob un mor llydan â’r Hafren,

fel y nirfana yn Zenica,

a chroeso Ffrainc yn Bordeaux.

Wyt ti’

Be ddaw ohonot, alltud unig,

a be ddaw ohonon ni?

Ai alltudion fyddwn ninnau

yn y normal newydd llwyd, yn bwydo

Oddi wrthym ni’n hunain?

Neu a

cyn i’

Ninnau, wedi ein hannog, a wisgwn

y masgiau dihalog

rhag lledu’r perygl llidiog.

Rhoi croes ei loes o dan glog.

ein rhimyn tawel rwymwn.

‘Siwd ma’ hwn neu honna

ac urddas cymdeithasa,

heb air doeth na bore da.

Bore da fydd bore’r dydd - cawn glywed

a gweled ein gilydd

heb wahanlen na gwên gudd.

Dadleniad o lawenydd!

KERI MORGAN

Y Gwynt

Hwn a’i fwyell fu’n y gelli; - mae ôl

Ei ymweliad drwyddi;

Hwn ddoe a’i sisyrnodd hi

Hwn dorrodd wallt ei deri.

ARWYN EVANS

I Emyr Young

‘Ma Pencâr, bro fy mebyd, fy milltir sgwâr, yn llawn

Yw un gair o’u clochdar

Y ddau sydd yn y ddaear.

TWM MORYS

DEWI PRYSOR

42 | barddas

Rhifyn Gaeaf 2021 Rhifyn Gaeaf 2021

RHODIO BRYNIAU GWLAD ESTRON

George Gumisiriza

Affricanwr ydw i sydd wedi ymgartrefu yng

Nghymru, a phan fyddaf farw fe hoffwn i’m

corff gael ei ddychwelyd i wlad fy ngeni yn

ôl yr arfer. Bydd y cyfrifoldeb am hynny yn disgyn

ar ysgwyddau fy nhylwyth Affricanaidd yn y wlad

yma. Mae arwyddocâd arbennig i fynd â’r meirw adre

ymhlith cymunedau Affricanaidd ar wasgar. Mae’n

cadarnhau pwy ŷch chi a ble rŷch chi’n perthyn, yn

fyw ac yn farw, yn unigolyn ac yn aelod o’r llwyth.

Mae’r Pla wedi codi rhyw felan ddiwylliannol fawr

ar deuluoedd yn Affrica sydd wedi colli perthynas yn

alltud dros y môr. Y traddodiad yw i’r meirw gael eu

derbyn gan eu cyndeidiau, ond mewn gwledydd megis

Uganda, mae deddfau yn erbyn i gyrff covid gael eu

dychwelyd i gael eu claddu.

Am na fydd y defodau angladdol priodol yn

digwydd cyn eu claddu, mae’r meirw alltud ‘ar

goll’. Sut mae eu hadnabod nhw os nad ydyn nhw

wedi eu claddu yng nghanol eu cyndeidiau yn nhir

y cyndeidiau? Yn y diwylliannau Affricanaidd,

mae defodau newid byd fel hyn, mewn bywyd a

marwolaeth, yn peri ichi fyfyrio am pwy ŷch chi a ble

rŷch chi’n perthyn.

Yn ystod y defodau, bydd canu traddodiadol i

gyfeiliant drwm a dawnsio, a holi fel hyn:

Llefara! Pwy wyt ti?

Llefara! Ble claddwyd dy linyn bogel?

Llefara, neu curo ar y drws y byddi di drwy’r nos!

Ac fel hyn y bydd yr unigolyn yn cyflwyno ei hun

er mwyn cael dod i mewn: rhoi ei enw llawn, ei

uned deuluol, ei dylwyth, ei linach yn fanwl, gan

ymhelaethu ar gysylltiadau tir a gwaed. Felly y bydd

pobol Affricanaidd yn olrhain eu hachau a’u perthynas

â’i gilydd. Bydd y meirw yn cael eu cyflwyno gan eu

perthnasau byw yn yr un modd er mwyn i’w heneidiau

nhw gael dod i mewn. Ond rhodio bryniau gwlad

estron y bydd y meirw cofidus am nad ydyn nhw’n

gorffwys ymysg eu cyndeidiau.

Ar ffurf adroddiad llafar y bydd y cyflwyno yma

yn y rhan fwyaf o ddiwylliannau Affrica. Fel hyn mae

gwneud ymysg fy mhobol i, y Batwro yn Uganda:

Fy enw i yw Maguru

Magurugasiganjuranamuyaga. 1

Rwyf yn fab i Makuru

Makurutigabagoomu ddoeth. 2

Rwy’n perthyn i lwyth y Deryn Gwartheg Penwinau.

Ein totem ni yw’r sigl-di-gwt brith.

Rydym yn dod o fryniau Kabarole yn Nheyrnas Twro

Mae’n gwartheg ni yn pori peithiau Rwamwanja.

Mae llwyth y Deryn Gwartheg Penwinau

yn enwog am wneud gwaywffyn,

am eu cyfoeth ac am eu haelioni.

Rhoesom y gwaywffyn gorau i frenhinoedd.

Rwyf yn ŵyr i Rwita.

Rwitankimatatiinamuhoro ddewr 3

sy’n gorffwys yng Nghabarole,

yn gorweddian megis cafn i fragu cwrw.

Mae ein llwyth ni yn helaeth,

mae gwynt y bryniau

yn chwythu ar lawer ohonom.

Mwtwro wyf i, mab i’r pridd.

Mae fy mam yn hanu o lwyth y Byffalo.

Ar fy mhennau gliniau yr wyf yn ei henwi,

o barch at ei gwyleidd-dra.

Y fi yw cyntaf-anedig fy mam, Abwooli Nyamaizi hardd,

merch i bennaeth Bunyangabu, lle mae’r tir yn llifo o laeth.

Mwtwro wyf i, mab i’r pridd.

Mae fy mam yn fyw, a’r morgrug yn cadw sŵn

wrth ddisgwyl amdani o dan y ddaear.

Rwyf yn dod mewn heddwch at fy mhobl

yn ôl traed fy nghyndeidiau.

A wnewch chi agor imi?

Gelwir pobol gan amlaf wrth ffurfiau talfyredig ar eu

henwau, ond yn ystod y cyflwyno traddodiadol, rhaid

defnyddio’r enwau llawn er mwyn goleuo’r gwrandawyr;

maen nhw’n datgelu llawer am yr amgylchiadau adeg

bedyddio’r plentyn. Mae lleoliad tiroedd claddu’r

cyndeidiau neu’r ffarm deuluol hefyd yn bwysig yn y

cyflwyno. Dydi’r llinach ddim yn bod ond ar lafar, a’r her i’r

unigolyn ydi dilyn ei linyn bogel yn dalog drwy ei achau.

Mae’r Pla wedi dieithrio llawer o deuluoedd. Fydd

y meirw sydd wedi marw oddi cartre ddim yn cael eu

crybwyll yn y ddefod ond fel rhai sydd ar goll. A fydd eu

heneidiau am byth yn rhodio bryniau’r wlad estron?

Mwtwro wyf i, mab i’r pridd. (Mwtwro = un o lwyth y

Batwro)

Mae fy Nhad i’n fyw ac mae’r morgrug yn cadw sŵn

wrth ddisgwyl amdano o dan y ddaear.

1 Magurugasiganjuranamuyaga: ‘Coesau sy’n rhedeg yn gynt na’r

glaw a’r gwynt.’

2 Makurutigabagoomu: ‘Mae gwybodaeth wastad yn gyhoeddus.’

3 Rwitankiimatirutiinamuhoro: ‘Fe all nad yw pla’r babŵns yn

parchu pobol.’

barddas | 45

Llyfrau Newydd Barddas!

Ar gael yn fuan:

£12.95

Rhwng Teifi, Dyfi a’r Don

gol. Idris Reynolds a lluniau

gan Iestyn Hughes

Casgliad bendigedig o gerddi am

Geredigion wedi eu casglu gan y Prifardd

Idris Reynolds, ynghyd â lluniau hardd o’r

sir gan y ffotograffydd Iestyn Hughes.

DNA

Gwenallt Llwyd Ifan

£7.95

Cyfrol gyntaf o gerddi’r Prifardd Gwenallt

Llwyd Ifan o Dal-y-bont ger Aberystwyth.

Ar gael

nawr:

£9.95 £6.95

£9.95

Dathlu’r

Talwrn: Pigion

ac Atgofion

Fy Llyfr Englynion

– gol. Mererid

Hopwood

Y Gynghanedd

Heddiw

– gol. Aneirin Karadog

ac Eurig Salisbury

Cofiwch hefyd am danysgrifiad Barddas! Dim ond £25 y flwyddyn!

Cysylltwch ag Alaw Griffiths am fwy o wybodaeth: alawgriffiths@barddas.cymru

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!