Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Helô Ffrindiau

Mae’n Ddydd Gŵyl Dewi

ac mae Mam yn gwneud

cawl cennin.

Dw i am helpu.

Dw i’n mynd i’r ardd i

chwilio am gennin.

O’r diwedd, dyma nhw.

Llond lle o flodau melyn.

Dw i’n casglu llond adain o’r

blodau a mynd â nhw i Mam.

“Dyma ti, Mam.

Cennin i’r cawl!”

Mae Mam yn chwerthin.

“Blodau cennin Pedr ydy’r

rhain nid llysiau cennin!”

Ac mae Mam yn dangos

llysieuyn mawr gwyrdd

efo gwaelod gwyn.

Dw i’n edrych yn siomedig.

Ond yna, mae Mam

yn dod â’r cawl.

Mae wedi rhoi blodyn cennin

Pedr ar ochr y bowlen.

“Dyna ddel!” meddai Mam.

“Diolch, Wcw.”

Un dda ydy Mam!

Ta-ta Wcw

xxx

JÔC FAWR WCW!

Cnoc cnoc!

Pwy sy’ ’na?

Cen.

Cen pwy?

Cennin!

JÔC ARALL WCW!

Cnoc cnoc eto!

Pwy arall sy’ ’na?

Cen?

Cen pwy?

Cen dau, wrth gwrs!