22.03.2021 Views

Mae'r Stori yn yr Enw

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

O’R DINAS I’R BALA

– enwau lleoedd ar lwybrau’r Celtiaid

DINAS

Cysylltodd un o wrandawyr Rhaglen Aled Hughes ar Radio

Cymru gan ofyn, ‘Oes modd esbonio ystyr Dinas, y mynydd yn

Llanfairfechan?’ A dyna agor ceg yr ogof ddofn hon.

Yr ystyr fodern arferol i ‘ddinas’ ydi tref gydag eglwys

gadeiriol ynddi. Mae prifddinas gwlad yn ganolfan

ddiwylliannol, weinyddol a llywodraethol i’r wladwriaeth fel

arfer. Ond mae ystyr arall, hŷn i’r enw ‘dinas’ – caer, lle wedi’i

amddifyn, cadarnle. Gwelir Dinas Emrys yn Eryri – y gaer

frenhinol a godwyd i Gwrtheyrn yn y mynyddoedd. ‘Dinas

bychan’ ydi Dinbych a Dinbych-y-pysgod. Din ydi’r enw

gwreiddiol ac mae hwnnw o’r un tarddiad â dunom mewn

enwau lleoedd yn Gâl, lle mae Ffrainc bellach a dun yn

Iwerddon. Mae’n bosib olrhain taith y Celtiaid o’r Dwyrain Canol

ar draws gwledydd Môr y Canoldir a thrwy Ewrop i Gymru drwy

ddilyn fersiynau o’r enw yma – mae’n un o’r ffurfiau hynaf yn y

Gymraeg, ac yn rhan hanfodol wrth gwrs o’r amddiffynfeydd

oedd yn gwarchod hunaniaith ac iaith y siaradwyr Celtaidd ar

hyd canrifoedd maith.

Mae’r enw’n frith ar draws Cymru –

Dinas y Gromlech yn Nant Peris; Llyn

Dinas (wrth Dinas Emrys); Pen y Dinas

ar ben y Gogarth, Llandudno;

Gorddinan ym Mlaenau Dolwyddelan

a Cheredigion. Mae Dinas yn bentrefi

bychain wrth Caernarfon ac yn Llŷn a

gogledd Penfro. Mae sawl Craig y

Dinas, Llŷn

Dinas a Bwlch y Dinas ac mae Dinas

Moch wrth Beddgelert. Dindyrn ydi’r enw gwreiddiol yn sir

Fynwy ond cafodd hwnnw ei galedu yn Tintern yn Saesneg.

Dinas Bach a Dinas Mawr – enwau dwy ynys wrth Anelog, Llŷn.

Mae ynysoedd wedi’u henwi yr un fath ym Môn a Phenfro.

Yn fuan wedi hynny, cysylltodd gwrandawr arall i dynnu ein sylw

at Din Dryfol, siambr gladdu ym Môn ac yn gofyn am esboniad.

Mae Ifor Williams a Glenda Carr wedi rhoi llawer o sylw i’r enw

yma. Mae’n enw fferm Tyndryfol ac yn enw ar ardal lle mae’r

gromlech – sef i’r gogledd o Fethel ac i’r de-ddwyrain o

Walchmai. Gwelir Tyn-dryfwl yn Waunfawr, Arfon hefyd a cheir

cofnod o Ty’n Drowel ym mhlwy Clynnog. Cynnig Ifor Williams

ydi bod tryfwl/trwfwl yn gyfystyr â’r gair pentwr. Mae ymadrodd

‘trwfwl o gerrig’ – pentwr mawr o gerrig. A gan mai dim ond

pentwr o gerrig sydd ar ôl bellach o’r gromlech hon, mae’r

esboniad yna yn agos at ei le faswn i’n meddwl.

Gadewch inni adael ffiniau Cymru a mynd i ganlyn yr enw.

Mae Dinmore yn swydd Henffordd (Din Mawr ydi hwnnw). Mae’r

dun i’w ganfod yn Dundee, Dumfries a Dumbarton yn yr Alban.

Dinas y Brython ydi ‘Dun Breatann (Dumbarton). Yn Iwerddon

gwelir Dungarvan, Dundalk a Dún Laoghaire. Ac ar draws

Ewrop wedyn i Armenia: Virodunum sy’n rhoi Verdun yn Ffrainc;

Lugdunum yn rhoi Leyden yn yr Iseldiroedd a Donobria yn rhoi

Dunbría yn Sbaen.

Mae’r Dinas uwch ben Llanfairfechan – ac ar dir uchel

oeddan nhw’n aml wrth gwrs – yn perthyn i deulu mawr

Ewropeaidd y Gymraeg. Amddiffynfa Frythonig Geltaidd oedd

yno yn ystod yr Oes Haearn.

Mae wedi mabwysiadu ystyr ddelweddol farddonol yn yr

iaith hefyd – mae ganddon ni ddinas noddfa, dinas gadarn,

dinas barhaus a dinas ddihenydd. Mae’n fwy nag enw lle yn

unig erbyn hyn.

Diddorol ydi nodi hefyd mai benywaidd ydi dinas heddiw –

y ddinas; ond yn yr hen ystyr fel caer neu amddiffynfa,

gwrywaidd oedd o. Mynd i’r Dinas mae pobol topia dyffryn Dyfi

o hyd, gan gyfeirio at Dinas Mawddwy. Aelod o un o dimau

Talwrn y Beirdd, Llew Coch y Dinas ydi Rhiain Bebb a hi wnaeth

dynnu ein sylw ni at hyn. Wna i byth anghofio llinell o englyn

wnaeth un o dimau beirdd y Llew Coch i ganmol eu hunain rai

blynyddoedd yn ôl. Dyna lle roeddan nhw yn eu crysau sgwâr

a’u lliw haul cneifwyr a’u brôgs, a’r llinell hunanddisgrifiadol

anfarwol oedd ‘Dynion smŵdd Dinas Mawddwy’!

TAI CORNISH

Gwilym Morris o’r Bontnewydd, un o ffrindiau ffyddlon y

rhaglen a dynnodd ein sylw at yr enw Tai Cornish, enw llafar ar

Resdai Gwyrfai, Waunfawr.

Mae’n debyg mai rhes o ddwsin o dai allan yn y wlad rhwng

y Waunfawr a Betws Garmon ydi’r rhain. Ychwanegodd Gwilym

yr hanesyn hwn: ‘Dywedir, yn ystod dirwasgiad cynnar y ganrif

ddiwethaf, i ddynion o Gernyw ddod i’r ardal i weithio yn y

chwareli bychain o gwmpas. Ymgartrefodd rhai o’r dynion a’u

teuluoedd yn Rhesdai Gwyrfai ac fel “Tai Cornish” y gelwid hwy

am beth amser wedi hynny.’

Roedd hyn yn arferiad reit gyffredin – chwarelwyr yn mynd o

Gymru i Gernyw i chwilio am well byd a gweithwyr o Gernyw yn

dod i amryw o ardaloedd yng Nghymru. Ond digon tlawd oedd

hi arnyn nhw i gyd. Mae ganddon ni dipyn o enwau sy’n dangos

perthynas gyda Chernyw. Roedd yna ddiwydiant mwyngloddio

plwm a thun mawr yng Nghernyw ac roedd y mwyngloddwyr

yno yn enwog am ddyfeisio

dulliau newydd o weithio

danddaear. Creigiau tebyg

iawn i Gymru wrth gwrs a rhai

o lefelau’r pyllau yn mynd

allan filltiroedd o dan y môr.

Mi ddaeth rhai yma i ddysgu

technegau newydd – mae

Cornish Row yn rhes o dai

gwaith plwm ym Mwlch

Cornish Row, Bwlchtocyn

18 | Llafar Gwlad

Tocyn, Llŷn. Mae Cornish Row arall ym Mhort Talbot a Cornish

Shaft yn ardal Dinbych a Threkernyw ym Mhenfro.

Mae ganddon ni Langernyw yn sir Conwy hefyd wrth gwrs

ac un arall yn Ystrad-dour yn swydd Henffordd. Sant oedd

tarddiad yr enw hwnnw – Digain fab Cystennin Gorneu, gyda

Corneu yn amrywiad ar yr enw Cernyw. Yng Ngwytherin, heb fod

ymhell, mae ffermydd Cornwal-uchaf, Cornwal-ganol,

Cornwal-isaf a Chornwal-bach... Ond tarddiad arall sydd i

hwnnw. Mi gawn Gae Cornwall ym mhlwyf Gwnnws Uchaf a

Coed Cornwall-fach ym mhlwyf Caron-uwch-clawdd,

Ceredigion. Mae Waun Cornwall yn Llangathen. Mae ‘wal’ neu

‘gwal’ yn golygu mur neu adeiladwaith ar derfyn cae neu ffordd,

neu mi all olygu cwt neu weithdy bychan fel waliau chwarelwyr

ac yn yr enw Rhosygwaliau. Mae’r ‘corn’ wedyn yn perthyn i

deulu mawr o enwau Cymraeg.

Cysylltodd Marian gyda’r rhaglen i holi am enw ei thŷ – un o

dri Chae Corniog ym Mhenisarwaun – Mawr, Bach a Cae

Corniog. Adroddodd stori ddifyr wrth holi. ‘Fy nealltwriaeth i o

sut cawsant eu henwi oedd bod pobl yr hen, hen, hen oes yn

cysylltu â’i gilydd o un camp i gamp arall drwy chwythu corn

e.e: o Ben Dinas, Llanddeiniolen (Dinas Dinorwig) i gamp mewn

caeau gerllaw i Gae Corniog ac ymlaen i camp arall ym

Mrynrefail. Wedi dweud hyn, roedd Mam o dan yr argraff eu bod

wedi’u henwi yn yr amser pan oedd capeli yn dechrau yng

Nghymru – yr adeg pan oedd crefydd anghydffurfiol yn

anghyfreithlon. Roedd capel wedi’i ‘greu’ mewn ystafell yn Cae

Corniog Bach ac os oedd unrhyw berygl bod y llywodraeth neu

bobl yr eglwys yn dod i weld beth oedd yn mynd ymlaen, roedd

rhybudd yn cael ei rhoi i’r sawl oedd tu mewn yn addoli drwy i

unigolyn chwythu corn yn y cae gerllaw.’

Mae hen gof yn y straeon yma, does dim sy’n saffach. Roedd

hen geyrydd ein cyndeidiau Celtaidd ni ar hyd y glannau yn

cyfathrebu efo’i gilydd drwy gynnau coelcerthi ar y copaon.

Dwi’n byw yn Sgubor Plas – hen sgubor ddegwm oedd hon ac

mi fu dipyn o helynt yma adeg Rhyfel y Degwm. Fel mewn sawl

ardal arall, chwythu corn yr oedden nhw os oedd atafaelwyr a

bwmbeilis o gwmpas. Mae’r cysylltiadau hyn i gyd yn ddifyr

iawn – ond mi all yr esboniad fod yn hollol syml hefyd. Mae

‘corn’ yn rhoi ‘cornel’ inni – pigyn o dir. Mae’n bosib mai cae efo

dipyn o gorneli iddo fo ydi Cae Corniog. Mae Perthi Corniog

rhwng Tregarth a Phont y Pandy; mae lle o’r enw Corneli ym

Morgannwg. Mae Cae Corn yn enw cyffredin am gae sy’n mynd

yn bigyn mewn un darn ohono.

Mi all fod yn cyfeirio at gorn simnai hefyd – mae ambell

Dyddyn Uncorn yng Nghymru. Mae enghraifft o’r math yna o dŷ

i’w weld ar y dde fel dach chi’n mynd i lawr Dyffryn Dyfi am

Lantwymyn – tŷ efo pedwar wyneb i’w do, nid y ddau arferol, a

chlamp o gorn yn y canol. Mae Tŷ Corniog ym Mhentreuchaf –

mae corn ar ddeupen y to a chorn arall yn y cefn a dwi’n amau

mai ‘tyddyn efo sawl corn simnai’ sydd y tu ôl i’r enw hwnnw.

GWYDDEL

Anfonodd Meurig Lloyd Davies y cwestiwn hwn i’r rhaglen: ‘Rhwng

Cefn Meiriadog, Moelfre a Llanfairtalhaearn mae lle o’r enw Pont y

Gwyddel. Sgwn i beth yw’r tarddiad?’

Mi ddaethom ar draws yr enw Pant y Gwyddel yn ardal

Llangollen. Mae hwnnw wrth droed Allt y Badi – llecyn poblogaidd

ymysg tinceriaid o Iwerddon oedd hwnnw. Ym Mhont y Gwyddel

wrth droed fferm Fron Fawr, Llanfair Talhaearn, yn y llecyn braf

wrth gymerau afonydd Aled ac Elwy, fel y clywsom yn gynharach

yn y gyfres, dyna lle’r oedd yr eos yn canu yn yr wythdegau a’r

torfeydd yn tyrru yno gyda’r nos i wrando. Mae pontydd yn cael eu

henwi ar ôl y saer pontydd wnaeth eu hadeiladu nhw weithiau ac

efallai mai Gwyddel gododd hon. Efallai bod yna stori werin am

hanes rhyw Wyddel ynglyn â’r bont yma. Ond unwaith eto, dyma

le yn y gogledd-ddwyrain sy’n gyfleus rhwng Iwerddon a

dinasoedd Lloegr – mi all fod yn cyfeirio at wersyll tinceriaid eto yn

reit hawdd. Rhwng Llanrwst ac Abergele, pont a dolydd braf afon

Elwy, llethrau coediog lle mae’r adar yn canu – lle gaech chi’n well

i gampio ynde?

Mae’r elfen Gwyddel yn ymddangos mewn nifer o enwau

lleoedd Cymraeg. Mae haenau o ystyron i’r enw. Enw arall ar

goed ydi gwŷdd – mae i’w weld ar ddiwedd enwau coed fel

pinwydd, cedrwydd, llarwydd, palmwydd ac ati. Enw ar

brysgwydd neu lwyni isel o goediach ydi Gwyddel. Dyna sydd

yn yr enw lle Gwyddelwern. Yn Uwchmynydd mi gewch chi –

Fynydd y Gwyddel, Trwyn y Gwyddel, Carreg Trwyn y Gwyddel

a dwy ffarm, Gwyddel Bach a Gwyddel Mawr. Prin fod yna

goeden yn Uwchmynydd, a does yna fawr iawn o brysgwydd

yno chwaith, felly mae’n deg dyfalu mae ein cefnder Celtaidd ni

yn rhyw oes sydd wedi gadael yr enwau yma efo ni.

Cofiwch chi, doedd yna ddim llawer o gariad teuluol rhwng

Cymry Gwynedd a’r Gwyddelod am gyfnod. Mae’r enw Gwyddel

ynddo’i hun yn un coeglyd – ‘dyn gwyllt’ ydi ei ystyr o. Yn y

traddodiad Cymreig, os oedd dyn yn mynd i fyw yn y gwŷdd, sef

y coed – roedd o wedi’i cholli hi. ‘Dyn gwŷdd’ felly oedd ‘dyn

coed’ – yn ystyr wyllt, anniwylliedig y gair, nid yng nghyd-destun

yr ymadrodd ‘dod at ei goed’ sydd ganddon ni heddiw. Yn ystod

cyfnod y Rhufeiniaid ac yn sicr ar ôl iddyn nhw adael gorllewin

Cymru, mi wnaeth llawer o Wyddelod wladychu’r tiroedd hynny

ar hyd yr arfordir. Mae olion yr Wyddeleg ar enwau lleoedd fel

Solfach, Clarach, Llŷn, Dinllaen. Ar fryniau Llŷn – Tre’r Ceiri,

Garn Boduan, Garn Fadrun – mae nifer o dai crynion hen

Frythoniaid yr Oes Haearn. Ond yr enw difrïol braidd yn y

Gymraeg amdanyn nhw ydi Cytiau’r Gwyddelod.

Allwch chi ddim mynd llawer nes na Mynydd y Gwyddel at

Iwerddon yn y gogledd yma, felly mae’n siŵr mai cyfeirio at

rywun o’r wlad honno mae’r enwau yn Uwchmynydd. At hynny

mae tyddyn Bach-y-Gwyddel yn Llangeler; fferm Gwyddelfynydd

wrth Bryn-crug, Meirionnydd; Bryn y Gwyddel lle gwelir

hen domen o’r enw Bedd y Gwyddel i’r gorllewin o Gefn Coedy-cymer;

Bryn Gwyddel, Llanddewibrefi; cae Bryn y Gwyddel

Mawr wrth Rhosesmor; Bwlch y Gwyddel uwch Beddgelert;

Cae’r Wyddeles yn Llanddwywe, Meirionnydd a thyddyn

Bryniau’r Gwyddelod ar lethrau Moelyci ger Bangor i gyd yn

swnio fel petaen nhw’n cyfeirio at bersonau a hanesion go iawn.

Efallai fod y straeon gan ambell hanesydd lleol. Mae pentref

Trewyddel ar arfordir y de-orllewin; Hewl y Gwyddel yn

Nhreuddyn ac Erw’r Gwyddel yn Llangwm ac awgrym wedyn o

hen sefydliadau yn Pentre-Gwyddel, Rhoscolyn a’r Fenni;

Muriau’r Gwyddel, Llandecwyn a Muriau’r Gwyddelod,

Llandanwg.

Yn Felindre Farchog mae Wern Gwyddelig – mae’r enw hwn

yn awgrymu mai cyfeiriad at goed sydd yma. Felly hefyd Cwm

Gwyddel yn Nantmel, Maesyfed; Nant Gwyddel yn Llanwrin a

chae Cebyst Gwyddel yng Ngwyddelwern a Dolwyddel yn

Llanwrin a Threfeglwys.

Roedd Gwyddelan yn enw person mewn hen Gymraeg –

dyna enw’r sant a gaiff ei anrhydeddu yn Nolwyddelan a

Llanwyddelan.

Ffurf luosog ar ‘Gwyddel’ ydi Gwyddyl. Cerrig y Gwyddyl

oedd yr enw Cymraeg ar y fan lle cododd y Normaniaid dref a

chastell Biwmares. Tua’r flwyddyn 440 mi ddaeth arweinydd

Brythonig o dde’r Alban heddiw, Cunedda Wledig a’i wyth mab

a’i ryfelwyr i fyw i Wynedd ac ailwladychu’r wlad gyda rhai a

ddaeth i siarad Cymraeg. I’r dwyrain o Berffro ym Môn mae

Llafar Gwlad | 19

ardal Cerrig y Gwyddel ac yn fan’no yn 470 dyma Caswallon

Law-hir, ŵyr Cunedda, yn trechu’r Gwyddelod yn derfynol yng

Ngwynedd a’u gyrru’n ôl i’r Ynys Werdd. Mi fu gwell cysylltiad

rhwng y ddwy wlad ar ôl hynny gyda llawer o dywysogion

Cymreig yn cael lloches a chefnogaeth filwrol yn Nulyn i ymladd

yn erbyn y Normaniaid. Ceir Rhos y Gwyddyl yn Llangernyw;

Hendre-wyddyl ym Mlaen-gwrach, Morgannwg a thyddyn Twlly-gwyddyl

ar Fynydd y Gwair, Morgannwg.

Ac i gloi’r pwt yma am y Gwyddyl, dyma neges ddifyr gan

Rhys Gwynn: Mi hoffwn nodi fod Parth y Gwyddwch uwchben

Llwyngwril, Meirionnydd. Parth y gwŷdd-hwch, sef hwch y coed,

yr hwch wyllt – ein twrch trwyth lleol – yw’r esboniad, er mai

prin yw’r coed yn y fan bellach.’

DYFROEDD

Derbyniwyd cwestiwn

gan Eryl o Ryd-ygwystl,

Y Ffôr, ‘Ydio’n

wir i feddwl mai Dwfr

oedd yr enw

gwreiddiol ar Dover?’

Mae Eryl ar y

trywydd cywir, yn sicr. Clogwyni gwynion y Dyfroedd

Beth fyddai Saeson

Kent yn ei ddweud tybed, pe baen nhw’n gwybod fod eu

delwedd eiconig o Loegr – clogwyni gwynion Dover – yn enw

sy’n tarddu o wreiddiau’r iaith Gymraeg?!

Mae w ac f yn cael eu cymysgu neu eu cyfnewid yn gyson yn

y Gymraeg – twrw ond twrf sy’n rhoi terfysg inni; cawod/cafod;

tywod/tyfod. ‘Dwfr’ ydi’r hen ffurf ar ‘dŵr’ a’r ffurf luosog ydi

dyfroedd – mae’r ‘f’ i’w chlywed o hyd yn enw afon Dyfrdwy, y

pentref Glyndyfrdwy, y dyfrgi a’r enw personol Dyfrig. Dyfrig

oedd y cyntaf y gwyddom ni amdano o hen seintiau’r Eglwys

Geltaidd oedd yn esgob ar diriogaeth Gymreig lle mae swydd

Henffordd heddiw. Dyfrig – ‘baban y dwfr’ ydi’r ystyr, ac yn ôl y

chwedl mi daflwyd ei fam i afon Gwy am ei bod yn feichiog ac

yn ddi-briod, ond mi’i cafwyd hi yn fyw drannoeth yn magu

baban bach ar ei bron.

O ‘dyfroedd’ y daeth yr enw Dover, a chyfeiriad sydd yn yr enw

at y dyfroedd sy’n cysylltu’r ynys yma efo Ewrop. Dŵr neu dwfr

hefyd ydi tarddiad enwau afonydd Dever a Deverill yn swyddi

Hamp a Wilt, Douro yn Portiwgal ac afon Dubra yn Galisia.

Mae’n ddiddorol bod llawer o enwau afonydd Lloegr yn

Gymreig/Frythonig:

Cammock a Cam – cam neu ddolennog

Derwent – hynt y dŵr rhwng y derw

Don (fel Donaw)

Kyle – cul

Laver – llafar

Lune – llawn

ac wrth gwrs, mae sawl River Avon, sef ‘Afon Afon’.

Pan welwch chi le o’r enw Betws-y-crwyn, Trefonen a Nanty-Gollen

yn Lloegr, rhaid i ni sylweddoli ein bod yn mynd yn ôl

ganrifoedd i adeg pan oedd y mannau hynny yn rhan o

diriogaeth y Gymraeg.

Mae dylanwad y Celtiaid i’w weld ar enwau lleoedd ar draws

cyfandir Ewrop hefyd. Un o eiriau mawr y Celtiaid oedd ‘gal’ sef

dewrder, gwrhydri – a dewrder mewn brwydr yn fwy na dim,

wrth gwrs. Enw arall gan y Groegiaid ar y Celtiaid oedd y

Galatae a Galli oeddan ni i’r Rhufeiniaid. Mae gen i ryw syniad

bod y gal yn ‘y galon’ yn perthyn i hwn – dan ni’n deud cyn gêm:

‘Digon o galon!’ yn tydan? O dir y Galatiaid yn Nhwrci i Gâl – yr

hen enw ar Ffrainc – i Galisia i’r gogledd o Bortiwgal a’r Galisia

arall sydd ar y ffin rhwng gwlad Pwyl a’r Iwcrain, dyma

diriogaeth sy’n llawn o enwau â’u tarddiad yn hen iaith y

Celtiaid.

Y tro nesaf y byddwch chi’n bwyta sbageti Bolognesia,

cofiwch mai ffurf ar y gair Cymraeg bôn ydi Bologna. Os ewch

chi i Nijmegen yn yr Iseldiroedd, mi ddylech deimlo’n gartrefol,

oherwydd mae gwreiddiau’r enw’n perthyn i Maes Newydd yn y

Gymraeg ac mae’r Wien, y ffurf frodorol ar enw Vienna, o’r un

tarddiad a gwyn/gwen y Gymraeg.

Mae gan y Gymraeg – fel pob iaith arall – eiriau y mae’n eu

rhannu gyda ieithoedd eraill megis ‘pont’ neu ‘eglwys’ neu

‘porth’.

Ond mae rhai enwau lleoedd yn fwy anarferol ac annisgwyl.

Ar Ynys Fuerteventura (Canarias) mae lle o’r enw La Pared.

Gofynnodd Arthur Thomas am yr ystyr pan oedd ar ei wyliau

yno a’r ateb oedd mai ‘wal neu glawdd rhwng dau blwy’ oedd

‘pared’. Perthynas amlwg i glogwyni’r Pared Mawr (Porth

Ceiriad) a’r Parwyd (Uwchmynydd) yn Llŷn. Nid yw’n rhyfeddod

felly cael ar ddeall yng Ngeiriadur y Brifysgol Ar Lein fod

pared/parwyd yn tarddu o’r Lladin paret.

Mae maharen/meheryn (hwrdd) mewn ambell enw lle –

Bryn Meheryn yn Lledrod, Ceredigion, Cae Meheryn yng

Nghorwen, Parc Meherin yng Nghenarth ac mae Cwm yr

Hyrddod ym Meddgelert.

Roedd criw o gneifwyr o Nant Conwy yn cneifio yn Norwy ac

roedd y gorlan yn gwagio’n arw. Ychydig ddefaid ac un

maharen oedd ar ôl. Clywodd Gwyn Eidda, un o’r tîm cneifio, y

ffermwr lleol yn dweud rhywbeth i’r perwyl hwnnw yn ei

dafodiaith ei hun wrth ei fab. Bu bron iddo neidio wrth glywed y

brodor yn galw’r anifail gwryw yn y gorlan wrth enw oedd yn

swnio ar lafar yr un fath yn union â ‘maharen’. O holi, cafodd

fod y sillafiad yn bekaren, gair yn nhafodiaith de Norwy – ond

roedd yr ynganiad a’r aceniad yr un fath â maharen Nant

Conwy. Gair a ddaeth i ganlyn rhyw ddiadell a gludwyd ar

longau’r Llychlynwyr rhyw dro efallai?

BALA

Ar raglen Aled, cyfeiriodd John o Lanberis at gân Hogia’r

Wyddfa ‘Hen Ŵr ar Bont y Bala’ ac roedd yn awyddus i wybod

sut bod yna Bont y Bala yn Llanberis?

Cwestiwn difyr dros ben ydi hwn. ‘Bonheddwr Mawr o’r

Bala’ – pan dan ni’n clywed yr enw ‘bala’, am un Bala penodol

rydan ni’n meddwl amdano fo, ynde? Y Bala ar lan Llyn Tegid. Y

Bala-wa a roddodd ei enw i Iwan Bala a Gwil Bala a Iolo Bala a

Catrin Bala a Mali Bala a degau o rai eraill. A sylwch hefyd mai Y

Bala ddwedwn ni – mae’r fannod yn dangos mai enw cyffredin

ydi o, nid enw lle yn unig – fel y byddwn ni’n dweud Y Gyrn neu

Y Foel neu y Gelli. Dŵr yn llifo o lyn ydi ystyr ‘bala’ yn y

Gymraeg, medd yr ysgolheigion. Y Bala felly ydi’r darn gwlyb

corsiog yn aml lle bydd hynny yn digwydd, neu’r tir corsiog

rhwng dau lyn.

Hen fap yn dangos ‘Afon y Bala’ rhwng y ddau lyn yn Llanberis

20 | Llafar Gwlad

Gan mai enw cyffredin ydi o, dydi hi ddim yn syndod felly

fod ganddon ni fwy nag un Bala yng Nghymru – Baladeulyn

oedd yn arfer cysylltu llynnoedd Nantlle; mae Pont y Bala yng

ngwaelod Llynnau Mymbyr yng Nghapel Curig ac mae’r bont

hon mae John yn sôn amdani wrth Llanberis. Afon y Bala neu

Baladeulyn ydi enw’r lli rhwng llynnoedd Peris a Phadarn. Uwch

afon y Bala y saif castell Dolbadarn. Bryn y Bala oedd yr enw ar

y fan lle mae afon Saint yn llifo o Lyn Padarn – Pen-llyn ydi’r

enw bellach. Mae ganddon ni hefyd Gwern y Bala yn Llandysul

ym Maldwyn; mae Phen y Bala yn enw ar gae yn Llanenddwyn,

Meirionnydd ac mae Cerrig y Bala yn Ysbyty Ifan.

Roedd Thomas Roberts wedi canfod perthynas rhwng y gair

Cymraeg ‘bala’ a’r gair Gwyddeleg bél, sef ‘bwlch neu aber’.

Mae’r gair hwnnw i’w weld mewn enwau lleoedd Gaeleg a

Gwyddeleg – Bellaugh wrth Athlone, Iwerddon a Bellhaven yn

yr Alban. Maen nhw’n cytuno ei fod yn enw eithriadol o hen – yn

cymharu efo ‘dinas’ ac yn olrhain y Celtiaid yn ôl at eu

gwreiddiau ar draws Ewrop a hyd yn oed at y gwreiddiau Indo-

Ewropeaidd. Mae lleoedd o’r enw Baladeh, Balaghab, Bala

Gabri a hyd yn oed Bala Bala yn Iran.

Yn Hwngaria mae llyn mwyaf canolbarth Ewrop – Balaton

ydi ei enw o a dwi wedi cael hanes hwn gan Jordan o Benrhos.

Neu yn fanwl gywir a Balaton – achos maen nhw yn rhoi’r

fannod o flaen yr enw fel Y Bala yn y Gymraeg. Mae’n enw Indo-

Ewropeaidd/Geltaidd medd yr ysgolheigion – yr ystyr yn yr

ardal yna ydi tir mwdlyd, corsiog wrth ymyl llyn. Mae a Balaton

bron yn hanner can milltir o hyd ac o amgylch y glannau mae

yna rhyw ddwsin o leoedd sy’n dechrau gyda’r elfen Bala.

Yn ddiweddar mae myfyrwraig o Kasakhstan sy’n ymchwilio

i hanes y Welsh Not yn adran hanes Prifysgol Abertawe wedi

bod yn e-ohebu am fwy o wybodaeth.

Mae poblogaeth o dros 18 miliwn yn byw yn Kazakhstan ac

Llyn Balaton yn Hwngaria

Map enwau Balaton

mae dwy iaith swyddogol – Rwseg a Kazakh. Wrth i

Ymerodraeth Rwsia dyfu, daeth Kazakhstan dan fawd honno o

ddechrau’r ddeunawfed ganrif. Ar ôl 1936 a sefydlu

gwladwriaeth fawr yr USSR, dechreuwyd polisi bwriadol o

geisio dileu ieithoedd brodorol a chreu ymerodraeth ganolog

Rwsiaidd ei hiaith a’i diwylliant – sathrwyd ar bymtheg o

ieithoedd a diwylliannau gwledydd llai a chreu un system

ariannol, un iaith gyfathrebu gan ledaenu’r meddylfryd bod

popeth yn israddol i’r Rwsieg. Roedd yn rhaid siarad Rwsieg ‘i

fynd ymlaen yn y byd’ a honno oedd iaith y mwyafrif oedd yn

byw yn y brifddinas, Almaty. Ond roedd cefn gwlad wedi cadw’r

iaith a’r traddodiadau cynhenid

ac wedi adennill ei rhyddid yn

1991, ailsefydlwyd yr iaith gyda

hawliau cyfartal i’w siaradwyr.

Bellach mae 74% o’r wlad yn

medru siarad Kazhakh ond mae

prinder llyfrau, geiriaduron,

teledu ac athrawon yn ei

llesteirio o hyd. Fel yng

Nghymru, mae’n cymryd

cenedlaethau i ddileu effaith

gormes ieithyddol tebyg i’r

Welsh Not a brofwyd yn

Kasakhstan yn ogystal.

Balaussa ydi enw’r ferch ym Balaussa Shaim o Kazakhstan

Mhrifysgol Abertawe ac ar ôl

dipyn o ebyst mi wnes i ofyn

iddi tybed fasa hi’n deud wrtha i

be oedd ystyr ei henw hi, enw

yn yr iaith Kasakh. Mi rois i’r

esboniad Cymraeg am ‘bala’

iddi ac mi roddodd ei

hesboniad hithau wefr fawr i mi

– ystyr Balaussa, meddai yw

‘dŵr yn llifo o eira’r

mynyddoedd yn y gwanwyn ac

yn adfywio’r ddaear’. Roedd

Alisa Ganieva

hithau wedi dotio bod ‘bala’ yn

y ddwy iaith yn golygu dŵr yn

llifo. Nid yn unig hen ŵr sydd ar Bont y Bala, ond hen, hen iaith

a hen ddolen rhwng y Gymraeg â’i gwreiddiau cynnar ar draws

gwledydd Ewrop, drwy’r Dwyrain Canol a hyd yn oed cyn belled

â chanol Asia. Mae’r stori yna yn gyrru ias i lawr fy asgwrn cefn i.

Wrth ymateb i’r sgwrs a’r wybodaeth hon, cyflwynodd Gruff

Rhys y Super Furries hanesyn diddorol arall imi. Yn 2016 bu ar

daith drwy Rwsia gyda chriw o sgwenwyr a beirdd ar drên y

trans Siberia. Un o’r awduron oedd Alicia Ganieva yn wreiddiol

o Dagestan ac yn un o’r Avariaid, sy’n siarad Afareg. Mae tua

miliwn o siaradwyr yr iaith honno, yn bennaf yn Dagestan gyda

rhai yn y gwledydd Caucasus eraill, Azerbaijan, Georgia a

Kasakhstan yn bennaf.

Deallodd hi fod Gruff yn siarad Cymraeg a gofynnodd am

enghraifft lafar. ‘Nant y mynydd groyw loyw yn ymdroelli tua’r

pant,’ meddai Gruff.

‘A! “LL”,’ meddai hi. ‘Mae gennym LL mewn Avar hefyd, er

enghraifft ein gair am ddŵr ydi “Llym”.’

‘Iesgob,’ meddai Gruff (yn Saesneg). ‘Llym-ed ydi’n gair ni

am ddiod – a Llyn ydi lake!’

Sawl iaith Ewropeaidd sy’n defnyddio’r sain ‘Ll’ o hyd

tybed? Fel y dywed Gruff. ‘Diddorol ein bod yn rhannu geiriau a

llythrennau gydag iaith fynyddig arall o gyrion y Caspian –

cysylltiad arall â thaith hir y Gymraeg o India?’

Llafar Gwlad | 21

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!