Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
NODIADAU

ARCHAEOLEGOL

Rhys Mwyn

Tybiaf fod pob colofnydd yn gobeithio am ‘ymateb’ i unrhyw

erthygl. Efallai fod modd gwthio hyn ymhellach a bod y

weithred o ysgrifennu erthygl bron yn weithred chwyldroadol.

Beth yw’r pwynt os nad yw’r erthygl yn gwneud i bobl feddwl

neu ddysgu neu ddarganfod rhywbeth neu rhywle newydd?

Ceir pleser o ddarllen, deallaf hynny yn iawn a bydd y mwyafrif

yn fodlon ar hynny. Bydd lleiafrif yn ymateb. A dyna chi beth

braf.

Gerallt Pennant oedd ar y ffôn, wedi darllen fy erthygl yn y

rhifyn diwethaf o Llafar Gwlad (149) ac yn benodol gyda

gwybodaeth pellach am ystyr yr enw Rhosbodrual ar gyrion

Caernarfon. Atgof plentyn oedd gan Gerallt fod rhai o isadeiladau

fferm a oedd wedi gweld dyddiau gwell efallai, yn

cael eu cyfeirio atynt fel rhiwal neu hoywal. Cyfeiriodd Gerallt at

Cydymaith Byd Amaeth, Cyfrol 3 gan Huw Jones lle ceir sawl

esboniad i’r enw gan gynnwys amrywiaethau tafodieithol.

Sied fferm gyda drws agored i ddal wageni ac offer fyddai’r

hoywal neu’r hiwal (yr huwal yn Ynys Môn) ac mae’n debyg fod

elfen o hyn yn tarddu o’r gair hofel sef adeilad blêr. Cawn enw

arall gan Huw Jones, sef hual ar gyfer llyffetheirio neu rwystro

anifeiliaid rhag crwydro, ceffylau rhan amla, a hyn fyddai’r

llyffethair ar y ddwy droed blaen.

Esboniad gwahanol a geir gan Glenda Carr yn Hen Enwau

Arfon Llŷn ac Eifionydd (2011) lle mae’r hual yn loc ar gyfer cadw

anifeiliad – yn debygach i ‘animal pound’ yn y Saesneg. Ond

mae’r rhwystr neu ‘restraint’ hefyd yn cael ei grybwyll gan Carr.

Rhaid cyfaddef o ran yr enw Rhosbodrual rwyf yn tueddu at yr

esboniad o’r rhos lle cedwir anifeiliaid. Nid arbenigwr enwau

lleoedd mohonof a thros y blynyddoedd wrth drafod safleoedd

archaeolegol rwyf wedi cael budd mawr o lyfrau fel Enwau

Lleoedd Sir Gaernarfon, J. Lloyd-Jones (1928).

J. Lloyd Jones sydd bennaf gyfrifol yn fy marn i am ddatrys

y cwestiwn sawl ‘C’ sydd yn Cricieth / Criccieth gan ddateglu

mai tarddiad yr enw yw’r crug-geith neu’r graig gaeth. Dwy ‘G’

sydd i fod yn Cricieth felly a dyna ddiwedd ar y ddadl honno!

Crug arall sydd wedi bod o ddiddordeb i mi yn ddiweddar

yw Crug Eryr neu Crugerydd, Llanfihangel-Nant-Melan, yn yr

hen Sir Faesyfed a hen gantref Cymreig Oesoedd Canol

Maelienydd. Rwyf yng nghanol ysgrifennu fy nghyfrol nesaf ar

archaeoleg de-ddwyrain Cymru ar gyfer Gwasg Carreg Gwalch

ac yn ceisio canfod safleoedd y cestyll a llysoedd Cymreig.

Tydi’r cestyll Cymreig ddim mor amlwg yma â rhai tywysogion

Gwynedd a Deheubarth. Rhaid gwneud llawer mwy o waith

ymchwil ac unwaith eto dyma enwau lleoedd yn rhan hanfodol

o’r broses.

Castell mwnt a beili yw Crugerydd yn y dull Normanaidd

sydd yn cael ei gydnabod / grybwyll fel castell a adeiladwyd

gan Cadwallon ap Madog, tywysog Maelienydd yn y 1150au.

Cantref i’r gogledd o Frycheiniog rhwng afonydd Gwy a Hafren

oedd Maelienydd. Ymwelodd Gerallt Gymro yn 1188 gan

gyfeirio at y castell fel Crucker Castle. A beth am yr enw,

Crugerydd neu Crug Eryr? Gall fod yr enw yn deillio o domen

neu graig / bryncyn yr aradwr neu amaethwr yn ei ffurf

Crugerydd neu fod hwn yn graig yr eryr yn ei ffurff Crug Eryr.

Wrth deithio ar yr A44 allan am Llanllieni (Leominster) o

gyfeiriad Rhaeadr a chyn cyrraedd Forest Inn mae’r castell i’w

weld ar yr ochr dde i’r ffordd. Rydym rhyw filltir cyn cyrraedd y

gyffordd a’r A481 o Lanelwedd. Dyma ardal dyffrynnoedd

Summerhill Brook ac Afon Arrow ac mae’r castell ei hun yn

rheoli Dyffryn Edw sydd yn tarddu ger Creigiau Llandegley

ychydig i’r gorllewin ac yn un o isafonydd y Gwy.

Mesurai’r mwnt 26m ar draws ac uchder o 4.4m ac mae’r

buarth wedyn sydd i’r de-ddwyrain yn mesur 40m ar draws

gyda ffosydd amddiffynnol yn ei amgylchu. Nid yw hwn yn

gastell mawr ond fe atgoffir rhywun o gastell Tomen y

Rhodwydd, un o gestyll Owain Gwynedd ger Llandegla.

Wrth edrych ar enwau lleoedd, mae’n amlwg fod yr elfen ‘llys’

yn ystyriaeth wrth geisio darganfod safleoedd y llysoedd

Cymreig. Castell Bronllys yw un enghraifft amlwg, lle cawn

gastell Normaniadd ond a oes hanes Cymreig i’r safle?

O ble daw’r enw Bronllys? Does dim cofnod o’r enw cyn y 13eg

ganrif ac er bod ambell drafodaeth wedi bod ynglyn â

tharddiad yr enw fel Llys Brwyn – Brwyn yn enw personol o

bosib does fawr o hygrydedd i’r ddamcaniaeth yma. Cytunaf

fod angen cadw meddwl agored a pharodrwydd i drafod ond

does dim tystiolaeth pendant ar hyn o bryd fod llys Cymreig

yma ar y safle cyn i Richard fitz Pons godi ei gastell mwnt a beili

ar ddiwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau’r 12fed ganrif.

Byddai Bronllys oddi fewn i gantref Selyf yn nheyrnas

Brycheiniog fyddai hefyd yn cynnwys cantrefi Talgarth a

Tomen Crugerydd

Crugerydd o bell

10 | Llafar Gwlad
Chantref Mawr, felly dyma chi y

posibilrwydd o dri lleoliad llys

gwahanol. Efallai ei bod yn

anodd ar hyn o bryd gwneud y

cysylltiad Cymreig yng nghastell

Bronllys ond mae’n safle hawdd

i’w gyrraedd ar ymyl yr A479 a

pharcio cyfleus ac mae’r tŵr

crwn werth ei weld. Atgoffir

rhywun o dŵr crwn castell

Dolbadarn gyda’r wal yn ymestyn

allan, sef y batter, yn atgyfnerthu

gwaelod yr adeilad. Ysgrifennais

am ddylanwad y cestyll

Normanaidd ar gestyll Llywelyn

ap Iorwerth yn Cam i’r

Arwydd Talgarth

Deheubarth (Pennod 10). Heb os

mae tebygrwydd yn arddull tyrau

fel Wakefield, Penfro a Bronllys a gorthwr Llywelyn yn Nolbadarn.

Castell mwnt a beili o bren a phridd oedd yma yn wreiddiol ac

mae ardal y beili neu’r buarth bellach ar dir preifat felly does dim

modd ei weld. Walter III a briododd un o ferched Llywelyn ap

Iorwerth sydd mwyaf tebygol gyfrifol am godi’r tŵr carreg yma. Felly o

bell dyma ni y cysylltiad Cymreig – roedd un o ferched Llywelyn yn

byw yma. Priodas wleidyddol dybiwn i rhwng y Normainiaid a

thywysogion Gwynedd. Druan ohoni. Cefnodd Walter ar Llywelyn yn

ddiweddarach gan ochri gyda Harri III.

Atgyfnerthwyd castell Bronllys yn ystod gwrthryfel Glyndŵr er

mwyn gwrthsefyll y Cymry. Roedd cryn gefnogaeth i Glyndŵr yn yr

ardal mae’n debyg ac fel cymaint o gestyll eraill doedd fawr o bwrpas

na galw amdanynt gyda dyfodiad y Tuduriaid.

Canlyniad y gwaith ymchwil diweddar yw sylweddoli fod enwau

lleoedd yn ystyriaeth bwysig os nad hanfodol wrth geisio dehongli

archaeoleg a hanes Cymru a tydi’r ateb ddim bob amser yn amlwg

nac yn hawdd i’w ganfod.

Llyffethair

Rhiwal

Rhual

Castell Bronllys

Llafar Gwlad | 11