22.03.2021 Views

Ar Drywydd y Lleidr Blewgoch

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

arno i hela’r lleidr blewog. Wedi chwilio lled y wlad daethpwyd o

hyd i filgi atebai’r gofynion ar stad y Nannau ym mhlwyf Dolgellau.

Trefnwyd helfa arall.

Y tro hwn aeth pethau mymryn gwell; daethpwyd o hyd i’w

drywydd yn uchel ar Goed yr Allt a gollyngwyd y milgi ar ei ôl. Bu

erlid brwd, efo’r milgi ar sodlau’r cawr blewog drwy’r corsydd, a’r

creigiau, i mewn ac allan o’r coed, ar draws sawl nant a cheunant

nes cyrraedd dibyn go serth. Oedodd y lleidr blewgoch ar wefus y

clogwyn ac roedd y milgi ar fin gafael arno. Ac yna neidiodd i’r coed

islaw ac ni feiddiai’r ci ei ddilyn; roedd wedi dianc unwaith eto!

Y noson honno canfuwyd un blewyn gwyn o dan bawen ôl y

milgi cochl! Hmm!

Parhau wnaeth y dwyn achlysurol; mewn un achos diflannodd

ochr cyfan o gig mochyn wedi ei halltu ac yn hongian ar ddistiau’r

briws o un fferm! Aeth rhai wythnosau heibio.

Un prynhawn roedd gwraig Ty’n yr Ow Allt yn y tŷ ar ei phen ei

hun pan glywodd sŵn rhyfedd yn dod o’r gegin. Aeth i edrych am

achos y sŵn ac fe welodd fraich blewgoch yn ymestyn drwy’r ffenest

am blatiad o gig ar y bwrdd. Yn ei dychryn gafaelodd mewn twca a’i

tharo gan sgrechian. Torrodd y llaw i ffwrdd!

Wedi i’r teulu ddychwelyd a chlywed y cyffro trefnwyd i ddilyn y

diferion gwaed arweiniai i fyny Cwm Merch. Aeth y trywydd ar hyd

ochr y nant ac i fyny heibio rhaeadr fechan ddisgynnai o geunant a

lechai mewn coedlan uwchben. Ac yno ynghanol y ceunant roedd

pwll dwfn mewn cafn tywyll dan gysgod y graig. Roedd y clogwyn fel

petai’n gwgu’n fygythiol ar y pwll ac eiddew trwchus yn hongian fel

llenni drosto. Ym mhen ucha’r pwll roedd yr afon yn diflannu drwy’r

creigiau i syrthio a chwyrnu yn y düwch tu mewn. Yno stopiodd y

trywydd gwaed, ac yno rhywle yng nghrombil y grochan swnllyd

oedd ogof na welodd erioed olau. Nid oedd unrhyw ffordd medrai

neb ei chyrraedd ac nid oedd unrhyw ffordd bod neb am geisio!

Ni fu lladrata wedyn yn Nant Gwynant a phasiwyd fod y dyn

mawr blewgoch wedi marw yno yn yr ogof ddigyrraedd oedd rhywle

rhwng crochan rhaeadr a chrombil craig ar lethrau Gallt y Wenallt.

Rhoddwyd yr enw ‘Ogof Owain Lawgoch’ arni i gau pen y mwdwl.

Ond yn ôl y werin nid dyna ddiwedd y stori!

Mynnai rhai, serch ei anaf, fod y dyn blewgoch wedi mynd dros y

mynydd i dreulio amser yn byw ymysg creigiau Maen Du’r Arddu ar

lethrau’r Wyddfa. Marian enfawr o greigiau wedi eu gadael gan y

rhew dros 12,000 o flynyddoedd yn ôl sydd yma yng nghysgod un

o’r clogwyni serthaf yn Eryri. Mae’r mwyaf, sef y Maen Du yn llecyn

hudolus iawn ac iddi stori ei hun, digon yn wir i wneud erthygl!

Gerllaw mae llyn yn cynnwys ychydig o frithyll ac adeg honno

cymdeithas fechan islaw yn Nyffryn Brwynog lle medrai ddwyn

ambell i damad!

O fan’ma honnai un traddodiad iddo symud i fyw mewn ogof ar

lethrau’r Cnicht, ac mae sawl ogof addas ar y llethrau cymhleth hyn

fuasai’n cynnig eu hunain fel preswylfa.

A dyna lle mae stori’r gŵr blewgoch yn gorffen; gan adael mwy o

gwestiynau nag atebion.

Tybed, yn y diwedd y cafodd ei dderbyn yn ôl i ryw gymuned yn

rhywle; ynteu marw wnaeth yn ddistaw mewn rhyw ogof anghysbell

yn uchel ar y mynydd? Ai milwr yn wir oedd o wedi ei adael ar y clwt

ar ôl gorffen ei ryfel i geisio byw mewn unrhyw ffordd y medrai tu

allan i’r gymdeithas oedd wedi troi ei chefn arno?

A’r cwestiwn mwyaf pryfoclyd efallai: ydi cydwybod cymdeithas

hyd yn oed heddiw ond wedi esblygu digon i gyfri bocsys cardfwrdd

mewn drws siop fel amgenach dewis dros ogof laith ar lethrau

Eryri?

Geraint Roberts

Cnicht

Tan yr Ow Allt

Hafod y Llan

Maen Du’r Arddu

Ogof y Gŵr Blewog

Llafar Gwlad | 19

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!