22.03.2021 Views

Adfer Enwau Lleoedd Gwyddelig

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Adfer Enwau Lleoedd

Gwyddeleg

yn Iwerddon

Sgwrs gyda Niall Comer

Enwau Gwyddeleg wedi’u sillafu drwy ddilyn ffoneteg yr iaith

Saesneg yw mwyafrif enwau lleoedd Iwerddon. Fel mewn

sawl gwlad arall a gafodd ei choloneiddio ar draws y byd,

digwyddodd y newid hwn wrth i fyddinoedd dan lywodraeth

Llundain greu mapiau o’u ‘tiroedd newydd’ ar gyfer eu

defnydd a’u mantais nhw eu hunain. Mae astudio enwau

lleoedd Iwerddon felly yn datgelu hanes a gwleidyddiaeth y

wlad ac yn dangos sut y gwnaeth gormes estron drin y bobl

a’r diwylliant brodorol fel haenau israddol nad oedd yn

haeddu dim mwy na gwawd anystyriol.

Bu dylanwad y Llychlynwyr yn gryf yno am ddwy ganrif a

mwy, cyn iddynt gymhathu gyda’r Gwyddelod yn

ddiweddarach – ond mae olion eu hiaith ar rai enwau

lleoedd yn Iwerddon o hyd. Wedi goresgyniad y Normaniaid,

a ddechreuodd yn 1169, sefydlwyd dosbarth pwerus Eingl-

Normanaidd yn ardal Dulyn. Cadwyd y pŵer yn Llundain a

chyflwynwyd Saesneg fel iaith lywodraethol. Dyfnhaodd y

dylanwad hwn rhwng 1556 ac 1641, pan gafwyd polisi

bwriadol o droi Gwyddelod oddi ar eu tiroedd traddodiadol

a chyflwyno mewnfudwyr Protestannaidd ffyddlon i goron

Llundain. Digwyddodd hyn drwy’r ynys – ond yn y gogleddddwyrain

yn bennaf ac o ganlyniad yno mae’r mwyafrif o

enwau lleoedd Saesneg Iwerddon.

Gan fod yr ardal honno dan reolaeth Llundain o hyd i

raddau, does dim syndod mai yno mae’r frwydr boethaf

wedi digwydd i adfer sillafiad ac enwau lleoedd Gwyddeleg.

Wedi i Iwerddon Rydd ennill ei hannibyniaeth, daeth

arwyddion ac enwau dwyieithog yn rheol drwy’r

wladwriaeth, gydag arwyddion uniaith Gwyddeleg yn y

Gaeltacht. Eto, y tu allan i’r ardaloedd penodedig Wyddeleg,

16 | Llafar Gwlad

dim ond yr enwau Saesneg oedd yn cael eu hystyried fel

enwau swyddogol – hyd nes pasio Deddf Ieithoedd

Swyddogol y Weriniaeth yn 2003. Sefydlwyd Comisiwn

Enwau Lleoedd a chrëwyd Gorchymyn Enwau Lleoedd yn

2005 yn cyflwyno rhestr o 2,000 o enwau Gwyddeleg

swyddogol. Y drefn yno bellach yw bod dau enw swyddogol

– Gwyddeleg a Saesneg – gyda’r ddau yn cael eu trin yn

gyfartal ar arwyddion a phob defnydd swyddogol arall.

Mae Conradh na Gaeilge

(Mudiad Iaith yr Wyddeleg) yn ymgyrchu ar ddwy ochr i’r ffin

ogleddol yn yr ynys. Yng Ngogledd Iwerddon, gwelwyd twf

mawr yn niferoedd yr oedolion oedd yn dysgu Gwyddeleg

yn y chwarter canrif diwethaf. Wrth i unoliaethwyr a

gweriniaethwyr ddod at ei

gilydd i greu llywodraeth

ddatganoledig yn y dalaith

yn 1998, cryfhawyd yr

Wyddeleg yn yr ysgolion.

Mae 6,000 o blant yn

mynychu ysgolion cynradd

Gwyddeleg yn y dalaith erbyn

hyn ac mae dwy ysgol

uwchradd a thair ffrwd

Wyddeleg mewn ysgolion

uwchradd yno. Bydd tua

1500 yn astudio’r iaith at lefel

TGAU yn flynyddol a 300 at

Lefel A. Mae’n cael ei

hystyried fel ‘iaith fodern’ o safbwynt y system addysg, yn

hytrach nag iaith gynhenid sy’n eiddo i bawb – ac mae polisi

addysg Saesneg o danseilio ieithoedd modern o fewn y

cwricwlwm addysg yn niweidiol iddi.

Derry/Doire

Cafwyd mwy o statws swyddogol i enwau lleoedd

Gwyddeleg, ond cafwyd trafferthion gydag ambell enw.

Efallai mai’r enwau sy’n amlygu’r rhwyg rhwng

gweriniaethwyr ac unoliaethwyr amlycaf ydi

Derry/Londonderry/Doire. Fel gyda sawl achos arall yno,

mae’r cefndir hanesyddol yn esbonio’r broblem.

Yr enw Gwyddeleg cynharaf ar safle’r ddinas fodern

oedd Daire Calgaich, sef ‘llwyn derw Clagach’ mewn Hen

Wyddeleg, ar ôl hen bagan oedd yn arfer byw yno.

Sefydlwyd mynachlog yr Eglwys Geltaidd yno yn y

chweched ganrif gan un o brif seintiau Iwerddon a

newidiwyd yr enw i Daire Coluimb Chille, ‘llwyn derw

Columba’. Cofnodwyd yr enw hwn yn gyntaf yn 1121.

Cafodd ei dalfyrru i Doire (sydd â’i ynganiad yn debyg iawn i

‘deri’, lluosog derwen yn y Gymraeg). Seisnigwyd y sillafiad

yn ddiweddarach i Derry.

Wrth greu Trefedigaeth Ulster, cododd y mewnfudwyr

Seisnig ac Albanaidd ddinas newydd y tu ôl i waliau

amddiffynnol ar ochr arall i afon Foyle i’r hen sefydliad

Gwyddelig. Cwmnïau o Lundain ariannodd y coloni hwn ac i

gydnabod y buddsoddwyr, cyhoeddwyd siarter yn 1613

oedd yn cyhoeddi mai enw’r ddinas ‘am byth ar ôl hyn’ fydd

Londonderry.

Yn amlwg, roedd elfen o’r boblogaeth leol yn

gwrthwynebu hyn o’r dechrau un ond ni lwyddwyd i newid

dim hyd 1984 pan basiodd Cyngor y Ddinas mai Derry

fyddai’r enw swyddogol. Yn 2006, gwnaeth Cyngor Dinas

Derry gais i Uchel Lys Gogledd Iwerddon gydnabod mai

Derry oedd enw swyddogol y ddinas a gorchymyn i Swyddfa

Gogledd Iwerddon gydnabod hynny ac arddel yr enw.

Penderfyniad yr Uchel Lys, flwyddyn yn ddiweddarach, oedd

mai Londonderry oedd yr enw swyddogol o hyn, yn unol â

Siarter Frenhinol 1662.

Yn ystod yr achos, eglurwyd mai’r broses gyfansoddiadol

gywir i newid yr enw oedd cyflwyno cais i’r Cyfrin Gyngor yn

Llundain. Gwnaed hynny pan gefnogodd Cyngor y Ddinas

gynnig gan Gerry MacLochlainn yn Nhachwedd 2007.

Dyfarniad y Cyfrin Gyngor oedd cyflwyno tri chynnig

gwahanol: dim newid o gwbl; defnyddio Derry a

Londonderry; defnyddio Derry ar y ddinas gyfan a chadw

Londonderry ar gyfer y ddinas o fewn y waliau. Gwrthodwyd

y tri dewis gan Gyngor y Ddinas.

Comisiynwyd arolwg barn yn 2009 a chanfuwyd – nid yn

annisgwyl – fod 94% o genedlaetholwyr o blaid newid yr

enw a 79% o Unoliaethwyr o blaid ‘Londonderry’. Roedd y

rhwyg mor amlwg ag erioed. Cynnig Cyngor Cysylltiadau

Cymunedol Gogledd Iwerddon ar ôl hynny oedd bod yr

enwau Derry/Londonderry/Doire yn cael eu defnyddio’n

gyfartal ar bob arwydd a delwedd gyhoeddus. Bydd

gwleidyddion yn

defnyddio’r enw sy’n

adlewyrchu eu

safbwynt ac mae

un darlledwr ar

raglenni radio yn

cyfeirio at y ddinas

fel ‘Stroke City’!

Gwerth enwau lleoedd i boblogeiddio’r iaith

Fel yng Nghymru drwy ddefnyddio’r diddordeb mewn

enwau lleoedd, mae’r mudiadau iaith yn llwyddo i bontio at

y rhai nad ydyn nhw’n medru siarad yr iaith gynhenid. Mae

hanes lleol, straeon cymdeithasol, elfennau chwedlonol a

byd natur yn gwneud enwau lleol yn faes eang o ran y rhai

sy’n ymddiddori ynddyn nhw. Drwy ddysgu am enw, maen

nhw’n dysgu rhywfaint o’r iaith ac yn dod yn rhan o gylch y

rhai sy’n ‘medru rhywfaint o’r iaith’. Mae’n gam seicolegol

pwysig a chadarnhaol – yn arbennig yn yr ardaloedd hynny

sydd gyda’r canrannau isaf o safbwynt siaradwyr yr iaith.

Yr hyn sy’n ddiddorol iawn – ac rwy’n deall fod hyn yn wir

am Gymru yn ogystal – yw bod rhai enwau lleoedd yn yr

ardaloedd cyntaf i golli’r iaith frodorol wedi cadw

enghreifftiau o enwau hynafol iawn (er eu bod wedi’u

Seisnigeiddio). Mewn ardaloedd iachach o safbwynt y

defnydd o’r Wyddeleg, mae’r ffurfiau hynafol wedi’u

diweddaru’n naturiol gyda datblygiad yr iaith. Felly mae

enwau lleoedd Ulster ac o gwmpas Dulyn yn eithriadol o

ddadlennol a phwysig i ni y rhai sy’n ymddiddori mewn

geiriau. Yr hyn sy’n ddifyr hefyd yw bod gan Brotestaniaid

Ulster ddiddordeb mawr yn yr enwau hyn ac yn eu hystyron

gwreiddiol – mae’n rhan o dreftadaeth y trefedigaethu. Felly

mae enwau lleoedd Gwyddeleg yn medru cyfannu pobl yr

ynys, yn medru creu dolennau rhyngom a’n gilydd. Mae’r

cyfnod clo diweddar wedi atgyfodi hen chwilfrydedd ac

esgor ar ddiddordeb newydd mewn ystyron enwau lleoedd

Gwyddeleg – mae adran brysur iawn wedi bod ar Facebook

yn trafod hyn.

Kodak Corner a’i debyg

Yn swydd Down, mae'r enw

Baile na Geilte (wedi'i

Seisnigo yn Ballynagelty) ar

fan lle ceir golygfa drawiadol

o fynyddoedd Mourne a

Lough Carlingford. Ond mae

stori drist y tu ôl i'r enw –

Llecyn y Wraig Wallgof. Yn ôl

yr hanes, gwelodd mam ei meibion yn boddi tra oedden

nhw'n pysgota ar y Lough, collodd ei phwyll a chafodd ei

chladdu gerllaw. Gan fod cymaint o ymwelwyr yn oedi yno i

dynnu lluniau, yr enw 'newydd' bellach ydi Kodak Corner.

Yn swydd Silgo mae traeth o'r enw Bun Dubh ('y gilfach

ddu') ond roedd maes carafanau gerllaw ar un adeg ac mae

ymwelwyr yn galw'r traeth bellach yn Mermaid's Cove ar ôl

enw'r gwersyll hwnnw. Mae Loch Airt ym mynyddoedd

Wicklow. Enw un o'r arwyr lleol a fu farw yn y mynyddoedd

hynny wrth ddianc o garchar y Saeson yng nghastell Dulyn

oedd Art Ó Néill. Ond mae'n swnio'n debyg i'r gair Saesneg am

'galon' a gan fod modd dychmygu bod ei siap ar ffurf calon yn

ogystal, mae ymwelwyr yn ei alw erbyn hyn yn 'Heart Lake'.

Mae 'mallacht' yn enw sy'n codi'i ben mewn sawl enw lle

Gwyddeleg. Ei ystyr ydi 'melltith' – ac mae'n dynodi'r mannau

hynny lle'r oedd yr hen feirdd yn bwrw'u melltithion ar eu

gelynion. Ystyr yr enw mawreddog Béal Átha na Mallacht ydi

'aber rhyd y melltithion'. Ond mae'r di-Wyddeleg yn gweld

'mallacht' yn debyg i'r gair Saesneg 'mallard' ac erbyn hyn

ceiliog hwyad ydi'r logo ar grys y tîm pêl-droed lleol. Yn Ros

Earcáin ('coedwig gŵr o'r enw Earcáin') mae gan yr ysgol

gynradd leol lun siarc ar ei bathodyn ...

Dyma’r diwylliant uniaith, un byd sy’n tanseilio

diwylliant, chwedlau ac enwau cynhenid. Dyma hefyd faes y

mae’n rhaid i’r mudiadau iaith Gwyddeleg ymgyrchu’n galed

ynddo y dyddiau hyn.

Maes arall yw gwella ansawdd yr enwau Gwyddeleg ar

fapiau OS. Mae gwaith da wedi’i wneud dros y degawdau i

wella’r mapiau OS yn y Weriniaeth – ond mae gwallau

difrifol yn sillafiad a’r defnydd cyfartal o enwau Gwyddeleg

yn Ulster. Rwyf ar ddeall fod y ddau faes yma yn peri

pryderon mawr yng Nghymru yn ogystal. Efallai fod cyfle

yma inni ymgyrchu ar y cyd, rhannu profiadau a sicrhau

deddfau effeithiol a rheolaeth well ar yr OS Llundeinig sydd

ar hyn o bryd yn awdurdodi’r enwau ar fapiau Gogledd

Iwerddon a Chymru.

Mae ymgyrchwyr

dros enwau Gwyddeleg

yn edrych at batrymau

arwyddion ffyrdd

gwledydd dwyieithog yn

Ewrop i ddefnyddio

lliwiau er mwyn cael

gwell cydraddoldeb i’r

iaith o ran ffont a maint

llythrennau ar arwyddion

Iwerddon.

Llafar Gwlad | 17

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!