Jesus College Prospectus 2020-2021 - Welsh
The Welsh language prospectus for Jesus College 2020-2021
The Welsh language prospectus for Jesus College 2020-2021
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
2020/2021

PROSBECTWS
Croeso i Goleg yr Iesu.

Sylfaenwyd Coleg yr Iesu yn 1571 gan Elisabeth 1 yn ôl dymuniad

cyfreithiwr a chlerigwr o Gymro o’r enw Hugh Price. Rydym wedi

ein lleoli yng nghalon hanesyddol Rhydychen ar dir a roddwyd inni

gan y Frenhines Elisbaeth, ac mae neuadd ar gyfer myfyrwyr wedi

sefyll ar y tir hwn ers y 13eg ganrif. Mae’r Coleg ychydig o funudau ar

droed o lyfrgelloedd y Brifysgol, campws y gwyddorau ac adeiladau

y dyniaethau, gyda siopau a bwytai hefyd ar ein stepen drws. Mae

ein Neuadd Fwyta, Capel a Llety Pennaeth y Coleg yn dal i gael eu

defnyddio i’w pwrapasau gwreiddiol heddiw. Mae Llyfrgell hanesyddol

y Cymrodorion yn gartref i’n casgliad o argraffiadau llyfr cynnar, gan

gynnwys cyfrolau or 17eg ganrif mewn meddygaeth, botaneg, cemeg,

ffiseg, y gyfraith, diwinyddiaeth ac athroniaeth. Mae ein cwadiau

trawiadol yn werddon o wyrddni sydd yn gyffro i gyd yn ystod

misoedd yr haf. Roedd Coleg yr Iesu yn un o’r colegau dynion

cyntaf i dderbyn merched yn 1974 ond heddiw, rydym yn

derbyn nifer cytbwys o ddynion a merched. Ymysg ein cynfyfyrwyr

adnabyddus mae’r newyddiadurwr a chyflwynydd

BBC Francine Stock (Ieithoedd Modern), y nofelydd a

sgrîn-awdur William Boyd (Saesneg), a Gwyneth Glyn

(Athroniaeth a Diwinyddiaeth), y person ieuengaf

i fod yn Fardd Plant Cymru. O fyd gwleidyddiaeth,

dau o’n cyn-fyfyrwyr oedd Harold Wilson, a oedd

yn Brif Weinidog Prydeinig ddwywaith, a Norman

Manley, a gafodd ei ethol yn Brif Weinidog Jamaica

yn 1955. Astudiodd T.E. Lawrence (‘Lawrence o

Arabia’) Hanes yng Ngholeg yr Iesu, ac mae ei

draethawd hir ar Gestyll y Croesgadau o 1910 yn

parhau i fod yn eiddo i’r Coleg.

2

Ewch ar daith rithiol
Byth ers y dyddiau cynnar, mae cysylltiadau cryf wedi bod

rhwng y Coleg a Chymru ac rydym yn dathlu’r cyswllt

hwn drwy amryw o weithgareddau a digwyddiadau drwy

gydol y flwyddyn academaidd. Mae gennym hefyd lyfrgell

sydd wedi ei glustnodi ar gyfer ein casgliad Celtaidd eang.

Erbyn hyn, wedi ein angori yn llwyr yn yr 21ain ganrif,

rydym wedi ymgymryd â phrosiect uchelgeisiol – ein

datblygiad Northgate – i adeiladu cwad newydd i’r Coleg,

llety i ôl-raddedigion, Hwb Digidol a gofod dysgu o’r radd

flaenaf yn ogystal â chaffi ac ystafell amlffydd. Mae disgwyl

i Northgate agor yn hwyr yn 2021 a bydd yn cydfynd â

chanmlwyddiant y coleg yn 450 oed.

www.jesus.ox.ac.uk

Coleg yr Iesu

Norman Manley

Darlun o’r Hwb

Digidol newydd

Francine Stock

Neges gan ein Pennaeth.

Mae’n ddrwg gennym na allwn eich cyfarfod wyneb yn

wyneb ar hyn o bryd ond gobeithio y bydd ein prosbectws

yn cynnig blas o’r hyn sydd gennym i’w gynnig. Mae Coleg

yr Iesu yn arddangos cyfuniad arbennig o nodweddion.

Ymrown i’r safonau uchaf o ragoriaeth academaidd gan

hefyd ymfalchïo yn ein cymuned anffurfiol, cynhwysol,

bywiog a chefnogol o fyfyrwyr a thiwtoriaid. Credwn

bod cymuned amrywiol yn gymuned gryfach ac mae

ein myfyrwyr yn hannu o ystod eang o gefndiroedd

a gwledydd. Mae gennym ganran uchel o ymgeiswyr

israddedig o ysgolion cyfun, ac rydym yn derbyn myfyrwyr

yn llwyr ar eu cyrhaeddiad a’u potensial i elwa o

system diwtorial unigryw Rhydychen. Rwyf wedi bod yn

Bennaeth ar Goleg yr Iesu ers 2015 ac rwyf yn falch o’r

bywiogrwydd, cynhesrwydd, dyfeisgarwch, gallu a gofal a

welir yn ein myfyrwyr. Mae ein myfyrwyr yn ganolbwynt

i fywyd y Coleg ac mae’n hyfryd i weld sut mae ein

israddedigion ac ôl-raddedigion yn datgblygu nid yn unig

yn academaidd ond hefyd yn eu hunanhyder yn ystod eu

hamser yma. Golygfa gyffredin ar ddiwrnod o haf yw gweld

ein myfyrwyr yn ymlacio ar y glaswellt yn un o gwadiau’r

Coleg, yn cymdeithasu â ffrindiau, sgwrsio mewn grwpiau

astudio neu yn adolygu ar gyfer unrhyw arholiadau sydd

ar y gweill. Yn 2021 byddwn yn dathlu 450 o flynyddoedd

ers sefydlu’r coleg. Mae’n amser cyffrous yn hanes y Coleg

a bydd amryw o weithgareddau a digwyddiadau i nodi

yr achlysur. Byddwn yn adlewyrchu ar y cerrig milltir

hanesyddol sydd wedi ffurfio y Coleg fel y mae heddiw.

Byddwn hefyd yn edrych i’r dyfodol – dyfodol o ddysgu

ac ymchwilio arloesol yn yr oes ddigidol; dyfodol mwy

cynhwysol, amrywiol a chydradd; dyfodol ble rydym yn

parchu traddodiad ond hefyd yn ymestyn a chofloedio’r

newydd. Bydd ein datblygiad

Northgate yn chwarae

rhan bwysig yn y dyfodol

hwnnw, gan gynnig Hwb

Digidol newydd (chwith)

a chyfleusterau o’r radd

flaenaf, gofod cyffredin y

tu mewn a’r tu allan, a llety

i ôl-raddedigion. Bydd ein

myfyrwyr yn allweddol i

siapio’r dyfodol, a dyma

un o’r rhesymau pam yr

ydym yn cynnig cefnogaeth helaeth i israddedigion ac

ôl-raddedigion yn nhermau grantiau ar gyfer pwrpasau

academaidd ac ymchwil, grantiau ar gyfer teithio,

cerddoriaeth a chwaraeon, yn ogystal â bwrseriaethau ar

gyfer israddedigion i ychwanegu at y cynlluniau prifysgolgyfan,

a chynnig llety hael. Gobeithiaf yn fawr y byddwch yn

dewis i ddod i astudio yng Ngholeg yr Iesu: gallaf sicrhau

y cewch amser heb ei ail yma, a phrofiad all newid eich

bywyd. Cofiwch gysylltu os ydych am ddarganfod mwy.

Yr Athro Syr Nigel Shadbolt FRS FREng

Pennaeth

Yr Athro Syr

Sir Nigel Shadbolt FRS FREng

3
Dysgu yng Ngholeg yr Iesu

Bywyd academaidd

Mae ein ymrwymiad cryf i ragoriaeth academaidd yn cael

ei adlewyrchu yn y safon uchel o addysgu tiwtorial,

canlyniadau uchel cyson ein israddedigion yn eu arholiadau

prifysgol a’r cyfleusterau academaidd diguro yr ydym yn eu

darparu. Mae gennym dros naw deg o aelodau staff sydd

yn arbenigwyr yn eu maes, wedi eu recriwtio o’r DU ac yn

rhyngwladol, ac maent yn dysgu ystod eang o’r cyrsiau a

gynir yn Rhydychen ym meysydd y dyniaethau, gwyddorau a

gwyddorau cymdeithasol.*

Mae Patricia Clavin yn

Gymrawd Zeitlyn, Tiwtor

mewn Hanes ac Athro mewn

Hanes Rhyngwladol. Mae yn

Gymrawd yr Academi Brydeinig

a’r Gymdeithas Hanesyddol

Frenhinol ac yn Aelod Tramor

o’r Academi Norwyeg ar gyfer

Gwyddoniaeth a Llenyddiaeth.

Mae hi wedi cyhoeddi yn helaeth ac mae ei gwaith wedi

cael ei gyfieithu i Sbaeneg, Rwsieg, Almaeneg, Eidaleg,

Pwyleg a Ffrangeg.

“Rwyf yn dysgu Hanes Modern Ewropeaidd a Hanes

Rhyngwladol, ac hefyd yn goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig

yn gweithio ar Hanes Cysylltiadau Rhyngwladol ar ôl 1890,

gyda ffocws penodol ar hanes cyfalafiaeth byd-eang, mudiau

rhyngwladol, tarddbwyntiau rhyfel a natur diogelwch.”

Gallwch ddarganfod mwy am ein staff academaidd, eu

cefndiroedd, yr ardaloedd y maent yn addysgu ynddynt a’u

diddordebau ymchwil yma.

Mae Shankar Srinivas yn

Gymrawd Zeitlyn a Thiwtor

mewn Meddygaeth, Uwch

Ymchwilydd y Wellcome Trust

ac Athro mewn Bioleg Datblygol

yn yr Adran Anatomeg Ffisioleg

a Geneteg.

“Astudais yng Ngholeg Nizam

yn Hyderabad, India ac yna

ym mhrifysgol Columbia yn Efrog Newydd. Cyn ymuno â

Choleg yr Iesu yn 2004, roeddwn yn Gymrawd Ôl-Ddoethur

yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Meddygol yn

Llundain. Rwyf yn dysgu Meddygaeth: Trefniad y Corff a

Geneteg Meddygol i israddedigion a Bioleg Fertibrad Datblygol

ar lefel ôl-raddedig.”

Mae gennym Lyfrgell Coleg helaeth, sydd yn agored 24 awr y

dydd. Mae’n bosibl benthyg bron i bob llyfr ar system hunanwasanaeth,

mae’r stoc yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd,

ac mae ein Llyfrgellydd wastad yn hapus i ystyried ceisiadau

myfyrwyr ar gyfer llyfrau newydd. Mae Wi-Fi a phwynt

Ethernet ym mhob desg yn y Llyfrgell ar gyfer eich gliniadur,

yn ogystal â chyfrifiaduron wedi eu darparu gan y Coleg, fel y

gallwch chwilio catalogau llyfrgell, adnoddau bibliograffaidd a

chyfrolau ar-lein. Ar gyfer darllen mwy arbenigol, mae Llyfrgell

y Bodleian a Llyfrgell Gwyddoniaeth Radcliffe wedi eu lleoli

daflaid carreg o’r coleg, ac ymysg rhai o lyfrgelloedd gorau’r

byd.

“Yng Ngholeg yr Iesu, nid oes unrhyw

ddeuddydd yr un fath. Un diwrnod efallai

y byddaf yn dadlau gydag ysgolheigion yn

llyfrgell y Gyfraith yn y coleg; y diwrnod nesaf

byddaf yn chwarae am ddyrchafiad yn nhîm

pêl-droed y coleg.”

Kush Patel, Myfyriwr israddedig, Y Gyfraith

Mae gennym adnoddau technoleg gwybodaeth arbennig a

mynediad Wi-Fi ar hyd adeiladau’r coleg i gyd. Mae ein tîm

TGCH yn darparu cyngor defnyddiol a datrys problemau pan

fo angen. Profwch flas o brofiadau ac argraffiadau myfyrwyr yn

ein cymuned yma.

Mae ein israddedigion hefyd yn cynhyrchu eu Prosbectws

Amgen bywiog eu hunain.

4

*Noder bod rhai cyrsiau nad ydym yn derbyn myfyrwyr ar eu cyfer. Gallwch

ddarganfod yr wybodaeth berthnasol ym Mhrosbectws Israddedig y

Brifysgol, yn y Rhestr Cyrsiau i Raddedigion y Brifysgol ac ar y wefan Derbyn

(Admissions) canolog.
Ein Ysgol Haf 2019.

bod llawer o waith ar ôl i wneud hyn yn realiti i holl ddarpar

fyfyrwyr y DU. Dyma pam yr ydym yn cynnig ac yn cefnogi

ystod eang o ymweliadau ysgol, rhaglenni estyn allan a

gweithgareddau ar gyfer darpar fyfyrwyr o ysgolion annethol y

wladwriaeth a grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli o fewn ein

ardaloedd cyswllt yn Ne Llundain, ac ar draws Cymru.

Mae nifer o ein myfyrwyr yn gwirfoddoli i gefnogi ein

menterau Mynediad ac Estyn allan ac yn ei weld yn brofiad

gwerth chweil. Wrth rannu eu profiadau eu hunain o ymgeisio

i ac astudio yng Ngholeg yr Iesu mae ein myfyrwyr gwirfoddol

yn allweddol ar gyfer darparu ein strategaeth Mynediad

ac Estyn allan ac annog y rheiny o gefndiroedd wedi eu

tangynrychioli i ymgeisio. Darganfyddwch fwy am Fynediad ac

Estyn allan yng Ngholeg yr Iesu yma.

Ysgol Gynradd

Blaenau Gwent

Mynediad ac Estyn allan

Dymunwn ddenu a dewis yr ymgeiswyr gorau un ar sail

eu potensial academaidd ac nid eu statws economaiddgymdeithasol,

ethnigrwydd, crefydd, ysgol neu unrhyw feini

prawf arall sydd ddim yn academaidd. Dylai addysg byd-enwog

Rhydychen fod ar gael i bawb sydd gan y gallu academaidd

a’r potensial i elwa ohono. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod

Ystadegau Mynediad ac

Estyn allan 2019

173 o ddigwyddiadau

Mynediad mewnol ac

allanol

9000+ o ddarpar

fyfyrwyr

84%

68%

o bobl ifanc yn ein Ysgolion

Haf yn 2019 yn dod o ein

ardaloedd cyswllt

o’r cefndiroedd mwyaf

difreintiedig

5
Dysgu yng Ngholeg yr Iesu

Astudiaethau Israddedig

Mae ein cymuned israddedig bywiog yn ffurfio tua dau

draean o gyfanswm ein myfyrwyr. Rydym yn ymrwymo i

gynnig y gefnogaeth orau bosibl i ein israddedigion ar gyfer eu

hastudiaethau, drwy addysgu tiwtorial ardderchog, darpariaeth

ariannol hael, llety o safon uchel a nifer o gyfleusterau..

Ymgeisio i Goleg yr Iesu

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhywun sydd yn credu

y gallant elwa o’r cyfleoedd a gynigwn ac sydd yn medru

cyrraedd y safonau angenrheidiol ar gyfer eu derbyn. Rydym

yn ymdrechu i sicrhau bod y broses fynediad yn deg i

ymgeiswyr o bob cefndir a math o ysgol. Dysgwch fwy am

ymgeisio i Goleg yr Iesu ar dudalenau 18-19.

Pynciau

O Ieithoedd Ewropeaidd a Dwyrain Canol a Gwyddorau

Cyfrifiadurol i Fathemateg ac Athroniaeth a PPE (Athroniaeth,

Gwleidyddiaeth ac Economeg), mae gennym ystod eang

o ddewis pynciau ar gael ar gyfer astudiaethau israddedig.

Darganfyddwch fwy am ein pynciau, ein Cymrodorion

tiwtorial, y broses ymgeisio a’r cwrs ei hun yma.

“Mae bodau dynol wastad

wedi bod o ddiddordeb i mi.

Rydw i eisiau deall pam ein

bod yn meddwl ac yn ymddwyn

yn ein ffyrdd ein hunain; pam

yr ydym ni’n caru a chasau, a

pham yr ydym ni’n ffynnu neu

yn cael trafferthion. Mae astudio

Seicoleg Arbrofol wedi caniatau i mi astudio gwybyddiaeth ac

ymddygiad dynol, ac i gael gwell dealltwriaeth ohonof fy hun a

chymdeithas o bersbectif mwy gwyddonol. I mi, does dim byd

yn fwy cyffrous na dysgu am y mecanwaith sy’n ysgogi yr holl

ryngweithiadau a chreadigaethau anhygoel yr hil ddynol.”

Mingfang Zhang

Myfyriwr israddedig mewn Seicoleg Arbrofol &

Llywydd y JCR

Tiwtorials

Astudiaethau academaidd yw ffocws bywyd Coleg ac rydym

yn gwneud ein gorau i sicrhau eich bod yn cyrraedd eich

potensial ac yn mwynhau eich astudiaethau. Rhan hollbwysig

o addysgu yn Rhydychen yw’r tiwtorial. Mewn nifer o bynciau,

mae canran uchel o diwtorials myfyrwyr yn cael eu darparu

gan ein tiwtoriaid yn y Coleg, gyda thiwtoriaid mewn colegau

eraill ac adrannau yn darparu addysg mwy arbenigol. Mae

ein tiwtoriaid Coleg arbenigol yn cymryd diddordeb mawr

yng nghynnydd academaidd eu myfyrwyr, ac yn cadw cyswllt

rheolaidd â hwy. Bydd gan bob myfyriwr un neu fwy o

diwtoriaid Coleg yr Iesu yn eu pwnc, sydd yn gyfrifol am

gyfarwyddo eu astudiaethau yn ystod eu hamser yn y Brifysgol.

Mae Robin Evans yn

Gymrawd Robert Kay a

Chymrawd Tiwtorial mewn

Ystadegaeth ac Athro Cyswllt

mewn Ystadegaeth.

“Derbyniais fy ngraddau israddedig

a meistr o Gaergrawnt, a fy PhD o

Brifysgol Washington. Cyn ymuno â

Choleg yr Iesu yn 2013, roeddwn

yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol

yn y Labordy Ystadegol, Prifysgol Caergrawnt. Rydw i’n dysgu

Mathemateg ac Ystadegaeth Bur ac yn darlithio ar raglennu

R ar lefel israddedig, ac yn darlithio ar Fodelau Graffigol i ôlraddedigion.”

Yn arferol, bydd tiwtoriaid yn trefnu i weld eu myfyrwyr yn

wythnosol unai mewn grwpiau bach neu weithiau mewn

sefyllfa un-i-un, am diwtorial awr o hyd. Mae’r tiwtor yn

aml yn gosod cwestiwn traethawd i’r myfyrwyr, neu set o

broblemau i’w datrys, sydd wedyn yn sylfaen i drafodaeth

6
Cymryd hoe yn yr ail gwad

feirniadol a manwl yn y twitorial. Rydym yn pwysleisio yn

drwm ar ymchwil annibynnol wrth baratoi am diwtorials, ac

mae disgwyl i fyfyrwyr wneud defnydd llawn o’r adnoddau

a ddarperir yn y llyfrgelloedd, labordai a darlithoedd. Mae

tiwtorials yn gofyn am gyfranogiad actif ar ran y tiwtoriaid

a’r myfyrwyr, yn herio ac yn cymryd cryfderau a diddordebau

myfyrwyr i ystyriaeth. Mae addysgu hefyd yn digwydd

mewn seminarau o grwpiau bychan, darlithoedd ac, ar gyfer

gwyddonwyr, mewn gweithgareddau ymarferol yn y labordai

adrannol (sydd o fewn cyrraedd rhwydd i’r Coleg) ac ar

feysydd astudio.

Mae Marion Turner yn

Athro Cyswllt a Chymrawd

Tiwtorial mewn Saesneg.

Mae ei llyfr diweddaraf yn

fywgraffiad clodwiw, Chaucer:

a European Life (2019). Mae’n

dysgu llenyddiaeth ganolosol

a Thuduraidd cynnnar, Hen

Saesneg ac Ysgrifennu-Bywyd

hyd at heddiw.

“Mae adran Saesneg Rhydychen wedi ei restru fel yr adran

orau yn y byd yn rhestr QS. Mae dysgu yn Rhydychen yn

bleser, oherwydd bod ein tiwtorials mewn grwpiau bach yn

ein galluogi i ganolbwyntio ar bob myfyriwr fel unigolyn. Rwyf

wrth fy modd fy mod yn medru dod i adnabod pob myfyriwr

yn dda ac yn medru eu helpu gydag unrhyw beth sydd

yn anodd iddynt, gan eu hannog i ddilyn eu diddordebau

eu hunain. Nid ydym yn chwilio am un math o berson yn

benodol a pheidiwch â disgwyl i’n myfyrwyr i gyd fod yr

un fath – mae ein system yn galluogi i bawb gyrraedd eu

potensial.”

Ysgoloriaethau, grantiau a bwrseriaethau

Ymrwymwn i sicrhau mai gallu academaidd, ac nid modd

ariannol, yw’r rheswm am ddewis ein myfyrwyr, ac y gallwn

ddarparu cymorth hael i’r myfyrwyr rheiny sydd mewn angen.

Ewch i dudalenau 14-15 am fwy o wybodaeth am arian.

Ymlacio ar risiau’r Coleg

Geiriau’r myfyrwyr

Peidiwch â chymryd ein gair ni, darllenwch yr hyn sydd gan ein

israddedigion i’w ddweud am astudio yng Ngholeg yr Iesu.

7
Dysgu yng Ngholeg yr Iesu

Ôl-raddedigion

Mae ein 230 o ôl-raddedigion yn rhan annatod o gymuned

y Coleg ac yn hanu o amrywiaeth eang o gefndiroedd:

mae rhai yn dychwelyd wedi eu cyrsiau israddedig yng

Ngholeg yr Iesu, eraill yn dod o brifysgolion eraill yn y DU, a

sawl un yn ymuno â ni o fannau a diwylliannau rhyngwladol

amrywiol. Mae ein ôl-raddedigion yn astudio mewn ystod eang

o gyrsiau uwch dros nifer o feysydd pwnc, o gyrsiau Meistr

blwyddyn o hyd i ddoethuriaethau tair neu bedair mlynedd

(o’r enw DPhil), yn seiliedig ar ymchwil personol a gwreiddiol.

Rydym hefyd yn derbyn rhai ôl-raddedigion pob blwyddyn i

ymgymryd â chyrsiau israddedig, yn aml mewn llai o amser nag

arfer, ar gyfer ail gwrs israddedig.

Dysgwch fwy am ymgeisio i Goleg yr Iesu.

Diwrnod Graddio

Yr Bwrdd Uchel yn y Neuadd

Pam dewis Coleg yr Iesu?

Felly, beth allwn ni ei gynnig i chi os oes gennych ddiddordeb

mewn cwrs ôl-raddedig yng Ngholeg yr Iesu? I ddechrau,

ymrwymwn i gynnig cefnogaeth o’r radd flaenaf ar gyfer eich

astudiaethau ôl-raddedig drwy ryngweithio cyson gyda’n

Cymrodorion.

Adran neu gyfadran myfyriwr ôl-raddedig yn y Brifysgol

sydd yn gyfrifol am oruchwylio cynnydd academaidd, penodi

goruchwyliwr, a threfnu unrhyw ddarlithoedd a gwersi.

Mae’r Coleg yn neilltuo Cynghorydd Coleg ar gyfer ein ôlraddedigion,

a bydd y rheiny fel arfer yn un o’n Cymrodorion

a chyn belled â phosibl, yn gweithio mewn maes cyffelyb.

8
Saran Davies, DPhil Bioleg a

chyn Lywydd yr MCR

Pynciau

Croesewir geisiadau gan fyfyrwyr ôl-raddedig i astudio

graddau yn y mwyafrif o’r prif bynciau. Bydd blaenoriaeth

yn cael ei roi fel arfer i’r myfyrwyr sydd â’u hymchwil yn

gysylltiedig gydag ymchwil Cymrodorion y Coleg.

Darganfyddwch fwy yma

Ysgoloriaethau, gwobrau a grantiau

Rydym yn cynnig hyd at ddeg Ysgoloriaeth Ôl-raddedig

pob blwyddyn i’r rheiny yn eu blwyddyn gyntaf a thu

hwnt i wobrwyo rhagoriaeth academaidd. Mae hefyd rhai

ysgoloriaethau llawn ac wedi eu ariannu ar y cyd gydag

Ysgoloriaethau Clarendon mewn rhai meysydd.

Mae Cynghorwyr Coleg yn cynnig cefnogaeth gyffredinol a

chyswllt personol o fewn y Coleg, a phob blwyddyn mae’r

Pennaeth a’r Cyfarwyddwr Academaidd (sydd â chyfrifoldeb

arbennig dros ôl-raddedigion yn y Coleg) yn trefnu cyfarfod

cynnydd byr gyda phob myfyriwr.

Rydym yn creu cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn er mwyn i

ôl-raddedigion gyfarfod staff academaidd y Coleg, gan gynnwys

sgyrsiau poblogaidd pob tymor, a swperau yng nghwmni ein

academyddion, ôl-raddedigion a’u gwestai.

O ddiwedd 2021, pan fydd ein adeilad

Northgate newydd yn agor, bydd gennym

68 ystafell wely ychwanegol ar gyfer ôlraddedigion

newydd. Bydd gan yr adeilad hefyd

ystafell astudio ar gyfer ôl-raddedigion, caffi,

gofod dysgu, ystafell amlffydd, a Hwb Digidol

newydd fydd yn galluogi cyfleoedd i gyfnewid

gwybodaeth a chynnig cyfle i ôl-raddedigion

arddangos eu gwaith ymchwil.

Rydym yn cefnogi ein holl ôl-raddedigion gyda’n Lwfans

Ymchwil blynyddol hael i’w helpu i fynychu cynadleddau a

theithio ar gyfer ymchwil. Gall ôl-raddedigion hefyd fynnu

Grant Llyfr pob blwyddyn, ac ymgeisio am gymorth ariannol

gan y Coleg os ydynt yn wynebu caledi ariannol sydd heb ei

ragweld. Ymhellach mae ystod eang o grantiau diwylliannol,

chwaraeon a theithio ar gael.

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am ein astudiaethau

ôl-raddedig yma.

Gwrandewch ar yr hyn sydd

gan ein myfyrwyr ôl-raddedig

i’w ddweud am astudio yng

Ngholeg yr Iesu.

9
Bywyd yng Ngholeg yr Iesu

Llety

Mae llety yng Ngholeg yr Iesu ymysg y gorau yn Rhydychen

ac yn boblogaidd iawn gyda’n myfyrwyr. Mae ein holl

israddedigion yn medru byw mewn llety Coleg drwy gydol

eu hamser yn Rhydychen os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Rydym hefyd yn darparu llety ar gyfer y mwyafrif o’n ôlraddedigion.

Mae’n adeiladau llety wedi eu gosod mewn tri lleoliad. Yn y

Coleg, rydym yn cynnig llety i bob myfyriwr israddedig yn eu

blwyddyn gyntaf yn ystod y tymor, a sawl myfyriwr ôl-raddedig

blwyddyn gyntaf drwy gydol y flwyddyn. Mae’r ystafelloedd

yn amrywio mewn oedran, rhai o’r 17eg ganrif ac eraill o’r

21ain ganrif, ond maent i gyd wedi eu dodrefnu a’u cadw i’r un

safonau uchel. Mae gennym lety (yn o gystal â gofod dysgu a

darlithio) yng Nghanolfan Ship Street, ger y Coleg.

Ar ôl eu blwyddyn gyntaf, mae’r mwyafrif o fyfyrwyr yn symud

i flociau o fflatiau gan y Coleg, gan rannu mewn grwpiau o

dri neu bedwar. O fewn fflatiau, mae gan y myfyrwyr ystafell

wely yr un ac maent yn rhannu ystafell fyw, cegin ac un neu

ddau o ystafelloedd ymolchi. Mae’r fflatiau mewn dau leoliad:

yng Ngogledd Rhydychen, 1km o’r Coleg ac yn agos i ardal

gwyddorau’r Brifysgol; ac yn Nwyrain Rhydychen, ychydig o

dan 3km o’r Coleg, wrth ein maes chwaraeon. Yn y lleoliad

yn Nwyrain Rhydychen, mae gennym floc o fflatiau un ystafell

wely gyda’r bwriad pennaf o letya myfyrwyr sydd wedi priodi

neu mewn perthnasau sefydlog.

Ar ddiwedd 2021, byddwn yn agor adeilad newydd sbon ar

brif safle’r Coleg. Bydd Northgate yn cynyddu y llety sydd

gennym ar gyfer ôl-raddedigion yng nghanol y ddinas ac yn

cynnig mynediad hawdd i gyfleusterau’r Coleg a’r Brifysgol.

Cynigwn ein llety am bris rhesymol, a gellir darganfod

gwybodaeth gyfredol am gostau yma.

Ystafell wely yn llety’r Coleg

Mae datblygiad Northgate yn cynnwys

llety newydd i ôl-raddedigion

Gofod cymunedol yn un

o fflatiau’r Coleg

10
Prydau Bwyd

Mae amser bwyd yn achlysur cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr,

ac yn cael ei ddarparu yn ein Neuadd Fwyd ysblenydd, gyda

phortreadau o’n sylfaenydd y Frenhines Elisabeth 1, Brenin

Siarl 11, y cyn Benaethiaid a TE Lawrence (Lawrence o Arabia)

yn edrych i lawr arnynt.

Mae brecwast, cinio ac eisteddiad cyntaf swper yn dilyn

system hunan-wasanaeth anffurfiol. Mae ail eisteddiad swper

yn fwy ffurfiol, gyda phrydau yn cael eu gweini wrth y bwrdd.

Rydym yn cynnal nifer o swperau ar gyfer gwestai gwadd pob

tymor, ac mae myfyrwyr yn mwynhau gwahodd eu ffrindiau

i’r rhain. Drwy gydol y flwyddyn rydym hefyd yn cynnal

“Rydw i’n lysieuwr felly wedi fy synnu gyda pha mor dda

yw’r tîm arlwyo am greu prydau diddorol a blasus – tydw

i erioed wedi bwyta mor dda!”

swperau ar achlysuron arbennig ar gyfer myfyrwyr, yn ogystal

â nosweithiau bwyd rhyngwladol poblogaidd.

Rydym yn darparu ystod eang o fwyd da am bris rhesymol, ac

yn addasu ar gyfer yr holl anghenion bwyd. Gall y myfyrwyr

ddewis a ydynt am fwyta yn y Coleg ai peidio: nid oes unrhyw

reidrwydd arnynt i wneud hynny. Mae pob myfyriwr yn derbyn

cerdyn Swipe gan y Coleg a bydd prisiau prydau bwyd yn cael

eu ychwanegu at gyfrif tymhorol y myfyriwr ar sail ‘talu wrth

fynd’. Bydd israddedigion yn eu ail flwyddyn yn byw mewn

fflatiau coleg felly yn hunan-arlwyo: er, yn ystod y dydd mae

coffi, te, diodydd meddal a byrbrydau yn cael eu gweini yn y

bar byrbrydau poblogaidd yn y Junior Common Room (JCR).

Swper mewn golau

cannwyll

Y tîm arlwyo yn paratoi

te graddio

Y Neuadd yn y gwanwyn

Mae’r Middle Common Room (MCR) hefyd yn darparu lluniaeth

ar gyfer ôl-raddedigion.

Mae cyfleusterau’r coleg i gyd yn agored i ôl-raddedigion: gall y

mwyafrif gael llety Coleg os ydynt yn dymuno, ac mae ystafell

gyffredin y Middle Common Room (MCR) wedi ei wneud yn

bwrpasol fel gofod ymlacio a chymdeithasu.

11
Bywyd yng Ngholeg yr Iesu

Iechyd a lles

Mae Rhydychen yn lle arbennig, gyda chyfoeth o

gyfleoedd i gyflawni eich potensial. Fodd bynnag, nid

yw’n anghyffredin i fod angen cefnogaeth lles yn ystod amser

myfyriwr yn Rhydychen.

Yn y Coleg ac ar draws y brifysgol rydym yn cymryd ein

dyletswydd i hyrwyddo llesiant ein holl fyfyrwyr o ddifrif, ac

yn cynnig ystod eang o wasanaethau cefnogaeth lles i sicrhau

bod eich amser yma yn gynhyrchiol, ac y gallwch ymdopi

a mwynhau eich profiad. Mae myfyrwyr yn cofrestru gyda

phractis meddygol y GIC, sydd yn darparu dau Feddyg Coleg

sydd yn cynnal syrjeri yn y Coleg ddwywaith yr wythnos

yn ystod amser y tymor, ac hefyd yn gweld myfyrwyr yn eu

syrjeri cyffredin ac mewn argyfwng. Mae ein Nyrs Coleg yn

cynnal syrjeri yn y Coleg o ddydd Llun i ddydd Gwener yn

ystod y tymor ar gyfer ymgynghoriadau a materion meddygol

llai dwys.

Mae ein Swyddog Lles, Pennaeth, Cyfarwyddwr Academaidd,

Rheolwr Gwasanaethau Academaidd, Cymrawd Lles, Is-

Ddeon, Caplan a Chynghorwyr y Coleg i gyd ar gael i siarad

am unrhyw broblem all godi gennych, a gall Gwasanaeth

Cwnsela’r Brifysgol gynnig cymorth arbenigol pan fo’n briodol.

Mae gan y JCR a’r MCR eu swyddogion lles a systemau

cefnogaeth cyfoedion, ac mae pawb yn y Coleg yn gweithio

gyda’i gilydd i sicrhau bod unrhyw broblemau sydd yn codi yn

cael eu datrys mewn modd amserol a chefnogol.

“Os ydych chi’n fyfyriwr yng Ngholeg yr Iesu sydd

eisiau siarad gyda rhywun wnaiff wrando arnoch

chi mewn preifatrwydd, gallwch siarad gydag un o

gefnogwyr cyfoedion y Coleg. Yn yr un modd, mae

rhestr di-ri o bobl a gwasanaethau y gallwch siarad â

hwy, a nôd y rhwydwaith llesiant yw sicrhau nad ydych

chi byth yn teimlo nad oes rhywun yno i wrando ar

eich pryderon.”

Hygyrchedd

Mae gennym nifer o fyfyrwyr gydag anableddau neu anghenion

unigol gwahanol sydd yn astudio yn llwyddiannus yng Ngholeg

yr Iesu. Rydym yn annog ymgeiswyr gydag anableddau i

gysylltu â ni i drafod llety addas, y posibilrwydd o wneud

addasiadau i gyfleusterau academaidd a chymorth addysgu, cyn

ymgeisio ac hefyd cyn cymryd eu lle. Mae hefyd yn bwysig i

gysylltu gyda’r adran neu gyfadran briodol yn y Brifysgol.

Mae gwybodaeth bellach am ein darpariaeth ar gyfer myfyrwyr

ag anableddau ac anghenion unigol ar gael yma. Mae Swyddfa

Anabledd y Brifysgol yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol, ac

argymhellir eu gwefan, neu gallwch ffonio eu llinell gymorth ar

+44 (0)1865 289824.

Dathliadau

Graddio

12
Mae cefnogaeth

iechyd a lles eang

ar gael ar gyfer

myfyrwyr.

Cyfleoedd cydradd ac amrywiaeth

Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ganolog i’n ethos

a’n cennad academaidd. Fel Coleg rydym yn amddiffyn

gwerthoedd cynhwysedd, cydraddoldeb, amrywiaeth a

chyfleoedd i bawb. Mae gennym Bwyllgor Cydraddoldeb

ac Amrywiaeth sydd yn cynnwys aelodau ar draws y

Coleg a Chymrawd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, sydd

yn goruchwylio pob agwedd o sut mae cydraddoldeb ac

amrywiaeth yn rhannau annatod o fywyd y Coleg.

Ymdrechwn i fod yn gynhwysol yn ein ymchwil, dysgu,

cefnogaeth dysgu, yn y broses derbyn, arferion a

gweithgareddau ar gyfer staff a myfyrwyr, ac rydym yn

benderfynol o wneud ein cymuned yn fwy amrywiol gyda

phob blwyddyn aiff heibio.

Gallwch ddarllen mwy am ein polisi C&A, datganiadau a

gweithgareddau yma.

Ein Dirprwy-Bennaeth a Chymrawd

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, yr

Athro Patricia Daley

Llun gan Bill Knight

13
Bywyd yng Ngholeg yr Iesu

Cyllid

Ymrwymwn i sicrhau mai gallu academaidd, ac nid modd

ariannol, yw’r rheswm am ddewis ein myfyrwyr, a gallwn

gynnig cymorth hael i’r rheiny sydd mewn angen.

Bwrseriaethau

Rydym yn rhan o gynllun bwrseriaeth y Brifysgol ar gyfer

israddedigion, ac mae gennym ein cynllun Bwrseriaeth

Mynediad i Goleg yr Iesu ar gyfer israddedigion i ychwanegu

at hyn. Gall y Coleg hefyd gynnig grantiau neu fenthyciadau

di-log o’r gronfa galedi sydd yn bwrpasol ar gyfer unrhyw

fyfyriwr yr ydym yn eu hasesu fel rhywun sydd angen cymorth

ariannol. Ystyrir geisiadau gan bwyllgor ar sail achosion unigol

a chânt eu trin yn gyfrinachol.

Darllenwch fwy am fwrseriaethau israddedig.

Grantiau

Rydym hefyd yn cynnig cymorth ariannol i bob myfyriwr

gyda’u hastudiaethau, beth bynnag fo eu amgylchiadau ariannol.

Mae Cynllun Grant Llyfrau hael i helpu pob myfyriwr i brynu

llyfrau ac offer academaidd. Gall ein holl fyfyrwyr wneud cais

am Grant Gwyliau i’w galluogi i astudio yn Rhydychen am ran

o’r gwyliau. Mae myfyrwyr ôl-raddedig yn elwa o adnodd hael

y Lwfans Ymchwil blynyddol sydd yn eu cefnogi gyda chostau

ymchwil megis mynychu cynadleddau a thripiau ymchwil.

Y cwad cyntaf yn yr haul

Ysgoloriaethau a gwobrau

Cynigwn rychwant eang o ysgoloriaethau, ysgoloriaethau

arddangos a gwobrau i wobrwyo rhagoriaeth academaidd a

chynnydd ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Gallwch ddarllen

amdanynt yma.

Mae ysgoloriaethau ac ysgoloriaethau arddangos yn darparu

myfyrwyr â swm o sawl can punt y flwyddyn, hawl i rai prydau

am ddim, a lle bo’n berthnasol, gw^ n ysgolor.

Mae gwobrau llyfr yn cael eu rhoi ar sail perfformiad

academaidd, nid yn unig ar gyfer y myfyrwyr disgleiriaf, ond

hefyd ar gyfer y rheiny yr ydym yn tybio sydd wedi dangos

cynnydd ar unrhyw lefel. Mae gennym nifer o wobrau ar

gyfer teithio academaidd yn ystod y gwyliau. Cronfa sydd

yn enwedig o boblogaidd yw Cronfa PW Dodd, anrheg i’r

Coleg yn yr 1930au sydd yn cynnig grantiau i israddedigion i

deithio dramor yn ystod y gwyliau am resymau sydd ddim yn

gysylltiedig â’u hastudiaethau.

Mae cymorth ariannol ar gael i gefnogi gweithgareddau

myfyrwyr, yn unigol ac mewn grwpiau, ym meysydd chwaraeon

a chelfyddydau. Er enghraifft, mae Ysgoloriaethau Sankey ar

gael i gynorthwyo aelodau’r Coleg i dalu am gael eu galw i’r

Bar.

14
Sialc rhwyfo uwchben Grisiau 13

“Mae Bwrseriaeth Mynediad Coleg yr Iesu wedi fy ngalluogi i barhau fy astudiaethau heb

fod ofn peidio gallu cadw dau ben tennyn ynghyd.

Pan wynebais gostau annisgwyl yn ystod

fy mlwyddyn olaf, roeddwn yn pryderu na allwn fod wedi medru parhau gyda fy ngwaith

maes a gorffen fy nhraethawd hir. Yn ffodus, roedd Coleg yr Iesu yno i fy nghefnogi fel y

medrwn dalu’r costau annisgwyl gyda grant caledi ar ben y bwrseriaeth yr oeddwn yn ei

dderbyn fel arfer, ac am hynny, rydw i mor ddiolchgar i’r Coleg.”

Gwybodaeth bellach

Israddedigion – Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol am

y cymorth ariannol all fod ar gael i chi yn adran Gyllid ein

gwefan, yn ogystal â gwybodaeth am ffioedd dysgu a chostau

byw.

Ôl-raddedigion – Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am

ffioedd a chostau cynhaliaeth yma.

“Mae Bwrseriaeth Mynediad Coleg yr Iesu wedi fy helMae’r

bwrseriaethau yn arbennig i leihau’r bwlch a sicrhau bod

pawb yn medru mwynhau profiad Rhydychen.” “Rydw i’n cofio

eistedd i lawr gyda fy rhieni yn trafod cyllid, yn gwybod nad

oeddent yn mynd i fedru fy nghefnogi yn ystod fy astudiaethau.

Roeddwn i wir yn ystyried peidio mynd i’r brifysgol oherwydd

yn blaen doeddwn i ddim yn gwybod os fuaswn i’n medru ei

fforddio. Yn ffodus, sicrhaodd fy ysgol y byddai’r Brifysgol yn

medru darparu ychydig o gefnogaeth, ac erbyn hyn rydw i’n

hapus iawn yn astudio Meddygaeth mewn Coleg arbennig.”

“Rydw i’n ddiolchgar iawn am y

cymorth yr ydw i wedi ei dderbyn

ers dod i Goleg yr Iesu; mae’n

helpu i ysgafnhau baich cyllid, ac

yn fy ngalluogi i fwynhau yr holl

gyfleoedd a’r diwylliant sydd i’w

gynnig yn Rhydychen.”

“Mae Bwrseriaeth Mynediad Coleg

yr Iesu wedi fy helpu i brynu llyfrau a

deunyddiau ysgrifennu, ac hefyd wedi

cyfrannu at gostau bwyd pob tymor,

sydd wedi cynyddu tipyn go lew ers i mi

ddechrau rhwyfo i’r Coleg!”

15
Bywyd yng Ngholeg yr Iesu

Cymdeithasu, clybiau a chymdeithasau

Mae ein cymuned myfyrwyr cynhwysol a chyfeillgar yn

darparu nifer o gyfleoedd i gyfarfod a chymdeithasu, boed

hynny drwy chwaraeon, y celfyddydau, cymdeithasau pwnc neu

grwpiau ffydd.

Gwyl Turl Street

JCR ac MCR

Mae’r holl fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn rhan o’r Junior

Common Room (JCR); mae gan ôl-raddedigion hefyd y Middle

Common Room (MCR). Mae’r JCR a’r MCR fel fersiynau

Coleg o undeb myfyrwyr, yn cynrychioli eu haelodau ac yn

darparu gofod i ymlacio. Mae’r JCR bywiog mewn lleoliad eang

a modern, gan gynnwys ystafell wydr a bar byrbrydau. Yma,

gall y myfyrwyr gyfarfod ffrindiau, darllen papurau newydd a

chylchgronau, chwarae gêm o pool neu wylio’r teledu.

Mae’r MCR mewn dwy ystafell gyda phapurau newydd,

cyfrifiadur rhyngweithiol, chwaraewyr CD a DVD, teledu

a bwrdd pool, yn ogystal â chegin fach ei hun. Mae’r

ddwy ystafell gyffredin yn trefnu llwyth o ddigwyddiadau

cymdeithasol megis cwisiau, nosweithiau ffilm, puntio, brunch ar

ddydd Sul a phartïon.

Mae hoci yn un o nifer o

chwaraeon sydd ar gael

Ewch i wefanau y JCR ac MCR am fwy o wybodaeth.

Gyda’r nos, mae bar y Coleg yn cynnal digwyddiadau

cymdeithasol mewn awyrgylch cyfeillgar, ymlaciol a

chroesawgar.

Gwydr lliw yng

Nghapel Coleg yr Iesu

16
Chwaraeon

Cynigwn gyfleusterau chwaraeon rhagorol, ac mae croeso i

bawb eu defnyddio, yn athletwyr profiadol neu yn chwaraewyr

mwy hamddenol. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys;

• Pafiliwn chwaraeon

• Cyrtiau sgwash

• Meysydd chwarae eang gyda chwaraefeydd hoci, criced,

pêl-droed a rygbi

• Cyrtiau tenis a phêl-rwyd gwellt caled

• Ty cwch ar yr Afon Tafwys, gyda chychod ar gael drwy gydol

y flwyddyn i ein criwiau rhwyfo, o ddechreuwyr i rwyfwyr

profiadol

• Mynediad i bwll nofio, stadiwm athletau a champfa y Brifysgol,

yn rhad ac am ddim.

Mae sawl cyfle i brofi chwaraeon newydd ac ymuno ag un o

dimau’r Coleg i gystadlu yn erbyn colegau eraill. Gallwch hefyd

ymuno â chlybiau chwaraeon eraill y Brifysgol.

Cipio’r gwpan!

Summer Eights

Y bop

Celfyddydau

Mae llwyth o gyfleoedd i gymryd rhan mewn cerddoriaeth

y drama ar lefel y Coleg a’r Brifysgol. Rydym yn cynnal Gwyl

Gelfyddydau Turl Street, a drefnir yn unol gan fyfyrwyr y tri

coleg ar Turl Street (Coleg yr Iesu, Exeter a Lincoln). Mae

gennym ein ystafell gerdd ein hunain ar gyfer ymarfer, gyda

phiano cyngerdd ac un cyffredin yno. Mae’r pafiliwn chwaraeon

hefyd yn cynnig gofod cerddorol a dramatig, a chynhelir

cyngherddau cerddorol yn y Capel (sydd ag organ rhagorol,

piano a harpsichord yno). Mae’r Capel hefyd yn gartref i’n Côr,

sydd yn arwain gwasanaeth Corawl yr Hwyrol Weddi pob

dydd Sul yn ystod y tymor, ac yn mynd ar daith yn rheolaidd

yn ystod y gwyliau.

Cymdeithasau pwnc

Mae gennym gymdeithasau pwnc bywiog sy’n cael eu rhedeg

gan fyfyrwyr, er enghraifft mewn Saesneg a Hanes, sydd yn uno

myfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau sydd â diddordeb yn y

meysydd hyn, gan wahodd siaradwyr gwadd neu drefnu tripiau

i’r theatr neu fannau o ddiddordeb fel arfer.

Addoli

Croesawn fyfyrwyr o bob ffydd neu yr un, ac mae llefydd i

addoli a chyfarfodydd ar gyfer aelodau o bron pob enwad

neu ffydd yn Rhydychen. Mae ein Capel yn parhau i chwarae

rhan ym mywyd y Coleg ar gyfer y rheiny sydd eisiau cymryd

rhan. Mae gennym Gaplan, ac arweinir Côr y Capel gan

un o Ysgolorion Organ y Coleg, dan arweiniad Cydlynydd

Cerddoriaeth y Capel. Mae gwasanaethau rheolaidd yn y

Capel yn ystod y tymor sydd yn agored i bawb, gyda Chymun

Coleg a phregethwr gwadd unwaith yr wythnos. Mae

amrywiaeth o ddigwyddiadau megis grwpiau trafod a gwersi

derbyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

17
Ymgeisio i Goleg yr Iesu

Derbyn Israddedigion

Pwy all ymgeisio?

Os ydych chi’n credu y gallech elwa o’r cyfleoedd a

gynigir gan Goleg yr Iesu ac eich bod yn cyrraedd y

safonau academaidd ar gyfer eich derbyn, croesawn eich cais.

Ymdrechwn ein gorau i sicrhau bod y broses ymgeisio yn deg

i ymgeiswyr o bob cefndir a math o ysgol neu goleg. Gellir

darganfod manylion am anghenion derbyn ym Mhrosbectws

Israddedig ar-lein y Brifysgol. Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr

aeddfed, ac rydym yn hapus i drafod ceisiadau o’r fath yn unigol.

Mae ein Cymrawd Mynediad wastad yn hapus i ateb unrhyw

gwestiynau am gyrsiau neu’r broses fynediad yn gyffredinol, ac

i drefnu i gyfarfod darpar ymgeiswyr, teuluoedd, athrawon a

grwpiau ysgol.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf ac ar pa

lefel?

Bydd nifer o’n ymgeiswyr yn sefyll arholiadau Lefel-A,

arholiadau Uwch Albanaidd ac Uwch Pellach (efallai mewn

cyfuniad â lefelau A2), neu Bagloriaethau Rhyngwladol ac

Ewropaidd, ond rydym yn ystyried yr holl gymwysterau

cyfartal. Mae’r mwyafrif yn ymgeisio cyn iddynt sefyll eu

arholiadau, ond rydym hefyd yn croesawu ceisiadau ar ôl sefyll

arholiadau. Mae’r holl ymgeiswyr yn cael eu hystyried gyda’i

gilydd pob Rhagfyr ac nid ydym yn cymryd rhan yn y broses

‘clirio’ yn yr haf.

Darganfyddwch fwy am gymwysterau yma.

Ar beth arall ydym ni’n edrych?

Yn ogystal â graddau disgwyliedig neu wir raddau (neu

gyfartal), rydym hefyd yn edrych ar eich record academaidd

yn y gorffennol a’ch geirda. Mewn rhai pynciau gofynwn am

samplau o’ch gwaith cwrs ysgrifenedig, ac mewn rhai pynciau

bydd rhaid i ymgeiswyr gymryd profion ysgrifenedig cyn

llunio rhestr fer y cyfweliadau. Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr

fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Dim ond un rhan o’r

broses dderbyn yw’r cyfweliad ac rydym yn darparu cyngor

i ymgeiswyr am baratoi ar gyfer cyfweliadau, yn ogystal â

chynnig gwybodaeth penodol ar bynciau mewn cyfweliadau

yng Ngholeg yr Iesu.

Darganfyddwch fwy am y broses gyfweld yma.

Sut mae’r gystadleuaeth?

Mae’r gystadleuaeth i gael lle yng Ngholeg yr Iesu yn gryf. Nid

oes gennym gwota ar gyfer gwahanol fathau o gefndir addysgol

neu wlad wreiddiol. Rydym yn gwneud ein penderfyniadau ar

sail meini prawf academaidd yn unig. Ar sail yr holl wybodaeth

sydd ar gael, rydym fel arfer yn cynnig llefydd i ychydig dros

100 o ymgeiswyr bob blwyddyn, allan o tua 600 o ymgeiswyr

ar y cyfan.

Beth os ydw i eisiau cymryd blwyddyn allan?

Pob blwyddyn rydym yn cynnig nifer fach o lefydd ar gyfer

mynediad hwyr i ymgeiswyr sy’n cymryd ‘blwyddyn allan’.

Mae’n rhaid i chi ymgeisio am fynediad hwyr wrth wneud eich

cais: ni allwch newid eich meddwl ar ôl i gynnig gael ei wneud.

Sut alla i ddarganfod mwy?

Mae gwybodaeth bellach am y broses dderbyn a phob

agwedd o’r Brifysgol i’w cael ar dudalennau penodol Derbyn

Israddedigion gwefan y Brifysgol. Gallwch hefyd gysylltu â ein

Cymrawd Mynediad a Swyddog Derbyn fydd yn hapus i gynnig

cymorth a chyngor. Cysylltwch â ni yma.

Derbyn Ôl-raddedigion

Mae system dderbyn ôl-raddedigion yn wahanol i’r system

dderbyn i israddedigion. Mae Ôl-raddedigion yn ymgeisio i

Rydychen erbyn un o dri dyddiad cau ar wahanol adegau o’r

flwyddyn. Mae’n bwysig gwirio tudalen Derbyn Ôl-raddedigion

y Brifysgol (Postgraduate Admissions) i weld pa ddyddiadau

cau sydd yn berthnasol i’ch cwrs. Gall ymgeiswyr nodi dewis

cyntaf o goleg ar eu ffurflen gais neu gofyn i’r Brifysgol ddewis

coleg ar eu cyfer.

18
Ystyrir geisiadau i ddechrau gan adranau a chyfadranau, ac

os y cynigir lle, mae’r cais wedyn yn mynd ymlaen i goleg. Yng

Ngholeg yr Iesu, mae blaenoriaeth yn cael ei roi i ymgeiswyr

sydd yn ymchwilio i feysydd tebyg i rai ein Cymrodorion, ac

mae gennym le ar eu cyfer o fewn ein cwota derbyn. Rydym

fel arfer yn derbyn dros 90 o ôl-raddedigion pob blwyddyn.

Os nad ydym yn medru derbyn ymgeisydd i Goleg yr Iesu

sydd wedi cael eu derbyn gan yr adran neu gyfadran, bydd

cynnig lle mewn coleg arall yn Rhydychen wedi ei warantu.

Rydym yn darparu

canllawiau ar gyfer

paratoi at gyfweliadau

Dyddiau agored ac ymweliadau

Mae’n wir ddrwg gennym na allwn eich croesawu i

ymweld â’r Coleg wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd, ond

cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Darganfyddwch fwy am ein Dyddiau Agored ac ymweld â

Choleg yr Iesu yma.

Edrychwn ymlaen at pan allwn ailagor ein drysau i

arddangos y lle ac i chi gyfarfod ein myfyrwyr a darlithwyr

wyneb yn wyneb.

Sut alla i ddarganfod mwy?

Am fwy o wybodaeth, ewch i ein tudalen derbyn ôlraddedigion

yma a phorwch y dudalen Derbyn ar wefan y

Brifysgol. Gallwch hefyd gysylltu â ein Swyddog Derbyn.

19
“Mae Coleg yr Iesu yn ymddangos mor

‘Rydychenaidd’ ag y gall fod, ond peidiwch â

chymryd hynny yn ganiataol. Mae’r ymdeimlad cryf

o gymuned yn golygu bod cyfeillgarwch agos yn

pontio blynyddoedd, pynciau, ac mae ein aelodau

LDHT+ yn rhan annatod o fywyd Coleg. Mewn dau

dymor byr mae Coleg yr Iesu wedi dod yn gartref i

mi ac wedi fy ngwneud yn Jesubite balch iawn”

Tomer Amit, Myfyriwr Israddedig, Daearyddiaeth

Cysylltwch â ni

Jesus College,

Turl Street, Oxford

OX1 3DW UK

Ffôn: +44 (0) 1865 279700

www.jesus.ox.ac.uk

Rydym yn hapus iawn i siarad gyda darpar fyfyrwyr, eu teuluoedd,

athrawon a grwpiau ysgol, boed hynny dros ebost, ffôn neu yn rhithiol

drwy blatfformau megis Zoom neu Microsoft Teams.

I drefnu sgwrs, cysylltwch â’n Cymrawd Mynediad:

Ffôn: +44 (0)1865 287261

Ebost: access.fellow@jesus.ox.ac.uk

Ar gyfer gwybodaeth am dderbyn israddedigion ac ôlraddedigion,

cysylltwch â’n Swyddog Derbyn:

Ffôn: +44 (0)1865 279721

Ebost: admissions.officer@jesus.ox.ac.uk

Cynnwys gan Dr Alexandra Lumbers (Cyfarwyddwr Academaidd), Dr Matthew Williams

(Cymrawd Mynediad), Shelley Knowles (Cynorthwyydd Mynediad) a Jude Eades (Rheolwr

Cyfathrebu) gyda diolch i’n myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr am eu cyfraniadau. Lluniau gan Bev

Shadbolt, John Cairns, Jessica Keating, BAM Construction Ltd, Jude Eades a Peri Heaton.

Dyluniadau graffeg â llaw wedi eu dylunio gan Gareth Wild, Apropos. Cynllunwyd gan

Imageworks, Rhydychen. Cedwir pob hawl. Ni all unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn gael ei

ailgynhyrchu, ei storio mewn system arbed nag ei drosglwyddo mewn unrhyw ffurf nag mewn

unrhyw fodd yn electroneg, mecanyddol, llungopi, recordiad neu fel arall heb ganiatâd blaenorol.

Gyda diolch i Lois Williams am y cyfieithiad Cymraeg. © Jesus College, Oxford Mehefin 2020.