Visit Pembrokeshire 2019
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Cyrraedd y Safon

Canllaw Sicrwydd Ansawdd

Mae pob llety sydd yn y cyhoeddiad hwn wedi cael ei asesu'n

annibynnol felly gallwch fod yn hyderus bod y llety rydych

wedi'i ddewis wedi cael ei raddio'n unol ag ansawdd y llety a'r

cyfleusterau sydd ar gael. Mae'r graddau'n golygu bod safon y

llety rydych chi wedi'i ddewis o'r safon uchaf ac yn ddelfrydol ar

eich cyfer chi.

Yr unig ddau gorff sy'n asesu lletyau Cymru yw Croeso Cymru a'r

AA; mae nhw'n asesu dros 5,000 o safleoedd.

Sut mae ein cynlluniau graddio ni yn gweithio?

Mae cynlluniau graddio SEREN Croeso Cymru yn dystiolaeth o ansawdd.

Maen nhw'n amrywio o un i bum seren ac yn ddangosydd dibynadwy

o'r gwasanaethau a'r cyfleusterau y gallwch chi eu disgwyl yn y llety

sy'n cynnwys gwestai, tai llety, gwely a brecwast, llety fferm, hosteli,

bythynnod a fflatiau hunan-ddarpar a pharciau gwyliau carafanau a

pharciau teithio/gwersylla.

Mae Safleoedd Glampio a lletyau amgen fel iwrts, tipis a thai coed

hefyd yn cael eu hasesu er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau

angenrheidiol.

Elfen bwysicaf unrhyw asesiad neu safonau gofynnol yw glanweithdra,

yn enwedig gan fod lletyau sêr uwch yn adlewyrchu disgwyliadau'r

defnyddiwr.

Mae pob gradd llety wedi cael ei seilio ar gyfres o safonau ansawdd

cyffredin y mae Croeso Cymru, ‘Visit England’, ‘Visit Scotland’, Twristiaeth

Gogledd lwerddon a’r AA wedi cytuno arnynt.

A yw llety sydd â gradd seren is yn golygu

nad yw ei ansawdd cystal â llety gradd

seren uwch?

Mae llawer o letyau sydd â gradd seren is yn gallu cynnig llety o

ansawdd uchel i chi ond nid ydyn nhw'n bodloni'r holl ddisgwyliadau

o ran cyfleusterau a gwasanaethau'r gradd seren uwch. Mae'n bwysig

peidio â chymharu graddau Lletyau â graddau Gwestai gan fod y meini

prawf asesu yn wahanol. Y peth gorau i'w wneud yw cysylltu â'r llety

cyn archebu lle er mwyn gwneud yn siwr y bydd gwasanaethau a

chyfleusterau'r llety'n bodloni'ch anghenion chi - byddan nhw'n hapus

iawn i'ch helpu.

Hefyd, cadwch lygad am y lletyau

arbennig sydd wedi cael Gwobr Aur

Croeso Cymru am safonau eu lletygarwch

ac esmwythdra a bwyd o safon eithriadol

mewn llety â gwasanaeth.

Weithiau, nid yw'n bosibl asesu'r llety

cyn i'r canllaw gael ei gyhoeddi. Yn yr

achosion hyn, byddwn yn rhoi nodyn

wrth y llety - 'Disgwyl Graddio'. Mae rhai

gweithredwyr lletyau wedi dewis peidio

cael eu hasesu ond mae gwiriadau wedi

cael eu gwneud i sicrhau eu bod yn

darparu eu gwasanaethau a'u cyfleusterau

yn briodol. Maen nhw'n cael eu hadnabod

fel 'Wedi'i wirio' neu 'Wedi'i restru'.

Atyniadau i Ymwelwyr

Gwyliwch allan am Nod Ansawdd Croeso Cymru.

Rhoddir y nod hwn i atyniadau sydd wedi cael eu

hasesu'n annibynnol yn ôl safonau cenedlaethol y

Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr i

sicrhau bod yr holl elfennau sy'n bwysig i chi o'r

safon uchaf.

Gwasanaethau i ymwelwyr

sydd ag anableddau

Mae gan bob eiddo sydd wedi cael ei raddio gan

Croeso Cymru Ddatganiad Hygyrchedd/Canllaw

Hygyrchedd sy'n datgan i ymwelwyr mewn ffordd glir,

gywir a gonest bod yr eiddo'n bodloni anghenion

penodol yr ymwelwyr. Mae tri symbol yn cael eu defnyddio i helpu

ymwelwyr sydd ag anableddau corfforol benderfynu pa Ddatganiad

Hygyrchedd/Canllaw Hygyrchedd sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw.

Mae darparwyr lletyau wedi dewis y symbol sy'n disgrifio orau'r

gwelliannau y maen nhw wedi'u gwneud i'w heiddo.

Mae'r llety'n addas i

bobl sydd a

phroblemau symudedd

Gwyliwch allan am y symbolau hyn:

Cysylltwch â'r llety cyn bwcio er mwyn i sicrhau bod y llety'n cynnig

y gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd eu hangen arnoch.

Cofiwch:

Pan anfonwyd y canllaw hwn i'w argraffu, roedd pob gradd yn gywir.

Weithiau, nid yw'n bosibl asesu pob llety mewn pryd. Fe nodir hyn

yn glir pan fo'r nodyn 'Disgwyl Graddio' wrth yr hysbyseb/cofnod.

Mae asesu lletyau'n ddigwyddiad parhaus; weithiau, bydd y llety

wedi gwneud gwelliannau ers i'r canllaw hwn gael ei gyhoeddi felly

cofiwch holi'r llety cyn bwcio.

Mae rhagor o wybodaeth ar asesu a gwobrau ar gael gan Croeso

Cymru, Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr,

Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UR

Rhif ffôn: 0845 010 8020

e-bost: quality.tourism@llyw.cymru

Unrhyw broblemau?

Mae'r llety'n addas i

bobl sydd a phroblemau

gyda'u golwg

Os oes problem gyda'r llety a ddewiswch, ewch i

www.visitwales.com/grading/complaints i gael

cyfarwyddiadau pellach.

Mae'r llety'n addas i

bobl sydd a phroblemau

gyda'u clyw

Noder:

Efallai y bydd rhai

hysbysebion yn dangos

logos 2018 o hyd fel y

dangosir

www.visitpembrokeshire.com

31