Visit Pembrokeshire 2018
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cyrraedd y Safon

Canllaw Sicrwydd Ansawdd

Mae pob llety sydd yn y cyhoeddiad hwn wedi cael ei asesu’n

annibynnol felly gallwch fod yn hyderus bod y llety rydych

wedi’i ddewis wedi cael ei raddio’n unol ag ansawdd y llety a’r

cyfleusterau sydd ar gael. Mae’r graddau’n golygu bod safon y

llety rydych chi wedi’i ddewis o’r safon uchaf ac yn ddelfrydol ar

eich cyfer chi.

Yr unig ddau gorff sy’n asesu lletyau Cymru yw Croeso Cymru a’r

AA; mae nhw’n asesu dros 5,000 o safleoedd.

Sut mae ein cynlluniau graddio ni yn gweithio?

Mae cynlluniau graddio SEREN Croeso Cymru yn dystiolaeth o ansawdd.

Maen nhw’n amrywio o un i bum seren ac yn ddangosydd dibynadwy

o’r gwasanaethau a’r cyfleusterau y gallwch chi eu disgwyl yn y llety

sy’n cynnwys gwestai, tai llety, gwely a brecwast, llety fferm, hosteli,

bythynnod a fflatiau hunanddarpar a pharciau gwyliau carafanau a

pharciau teithio/gwersylla.

Mae Lletyau Amgen fel iwrts, tipis a thai coed hefyd yn cael eu hasesu

er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau angenrheidiol.

Elfen bwysicaf unrhyw asesiad neu safonau gofynnol yw glanweithdra,

yn enwedig gan fod lletyau sêr uwch yn adlewyrchu disgwyliadau’r

defnyddiwr.

Mae pob gradd llety wedi cael ei seilio ar gyfres o safonau ansawdd

cyffredin y mae Croeso Cymru, Visit England, Visit Scotland, Twristiaeth

Gogledd Iwerddon a’r AA wedi cytuno arnynt.

A yw llety sydd â gradd seren is yn

golygu nad yw ei ansawdd cystal â

llety gradd seren uwch?

Mae llawer o letyau sydd â gradd seren is yn gallu cynnig llety o ansawdd

uchel i chi ond nid ydyn nhw’n bodloni’r holl ddisgwyliadau o ran

cyfleusterau a gwasanaethau’r gradd seren uwch. Mae’n bwysig peidio

â chymharu graddau Lletyau â graddau Gwestai gan fod y meini prawf

asesu yn wahanol.

Y peth gorau i’w wneud yw cysylltu â’r lleoliad

cyn archebu lle er mwyn gwneud yn siŵr y bydd

gwasanaethau a chyfleusterau’r llety’n bodloni’ch

anghenion chi – byddan nhw’n hapus iawn i’ch helpu.

Hefyd, cadwch lygad am y lletyau arbennig sydd

wedi cael Gwobr Aur Croeso Cymru am safonau eu

lletygarwch ac esmwythdra a bwyd o safon eithriadol

mewn llety â gwasanaeth.

Weithiau, nid yw’n bosibl asesu’r llety cyn i’r canllaw

gael ei gyhoeddi. Yn yr achosion hyn, byddwn yn rhoi

nodyn wrth y llety - ‘Yn cael ei raddio’n fuan’. Mae rhai

gweithredwyr lletyau wedi dewis peidio cael eu hasesu

ond mae gwiriadau wedi cael eu gwneud i sicrhau eu

bod yn darparu eu gwasanaethau a’u cyfleusterau yn

briodol. Maen nhw’n cael eu hadnabod fel ‘Wedi’i wirio’

neu ‘Wedi’i restru’.

Atyniadau i Ymwelwyr

Gwyliwch allan am Nod Ansawdd Croeso Cymru.

Rhoddir y nod hwn i atyniadau sydd wedi cael eu

hasesu’n annibynnol yn ôl safonau cenedlaethol y

Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr

i sicrhau bod yr holl elfennau sy’n bwysig i chi o’r

safon uchaf.

Gwasanaethau i ymwelwyr

sydd ag anableddau

Mae gan bob eiddo sydd wedi cael ei raddio gan Croeso Cymru

Ddatganiad Mynediad sy’n datgan i ymwelwyr mewn ffordd glir,

gywir a gonest bod yr eiddo’n bodloni anghenion penodol yr

ymwelwyr. Mae tri symbol yn cael eu defnyddio i helpu ymwelwyr

sydd ag anableddau corfforol benderfynu pa Ddatganiad Mynediad

sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw. Mae darparwyr lletyau wedi

dewis y symbol sy’n disgrifio orau’r gwelliannau y maen nhw wedi’u

gwneud i’w heiddo.

Mae’r llety’n addas

i bobl sydd â

phroblemau symudedd

Gwyliwch allan am y symbolau hyn:

Cysylltwch â’r llety cyn bwcio er mwyn i sicrhau bod y llety’n cynnig

y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnoch.

Cofiwch:

Pan anfonwyd y canllaw hwn i’w argraffu, roedd pob gradd yn gywir.

Weithiau, nid yw’n bosibl asesu pob llety mewn pryd.

Fe nodir hyn yn glir pan fo’r nodyn ‘Yn cael ei asesu’n fuan’

wrth yr hysbyseb/cofnod.

Mae asesu lletyau’n ddigwyddiad parhaus; weithiau, bydd y llety

wedi gwneud gwelliannau ers i’r canllaw hwn gael ei gyhoeddi felly

cofiwch holi’r llety cyn bwcio.

Mae rhagor o wybodaeth ar asesu a gwobrau ar gael gan Croeso

Cymru. Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr,

Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UR Rhif ffôn: 0845 010 8020

e-bost: quality.tourism@cymru.gsi.gov.uk

Gwefan: www.gov.wales/tourism

Unrhyw broblemau?

Mae’r llety’n addas i

bobl sydd â phroblemau

gyda’u golwg

Os oes problem gyda’r llety a ddewiswch, ewch i

www.visitwales.com/grading/complaints i gael

cyfarwyddiadau pellach.

Mae’r llety’n addas i

bobl sydd â phroblemau

gyda’u clyw

Further information is available on our website www.visitpembrokeshire.com

33