12.11.2015 Views

CYMRAEG AIL IAITH MANYLEB

1WMBWQY

1WMBWQY

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

TAG UG/SAFON UWCH

TAG UG/SAFON UWCH CBAC

CYMRAEG AIL IAITH

CYMERADWYWYD GAN CYMWYSTERAU CYMRU

MANYLEB

Addysgu o 2016

I'w ddyfarnu o 2017 (UG)

I'w ddyfarnu o 2018 (Safon Uwch)

Nid yw’r cymhwyster hwn a reoleiddir gan Cymwysterau Cymru ar gael i ganolfannau Lloegr.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 1

TAG UG a SAFON UWCH mewn

CYMRAEG AIL IAITH

I’w addysgu o 2016

Dyfarniad UG Cyntaf: Haf 2017

Dyfarniad Safon Uwch Cyntaf: Haf 2018

Mae’r fanyleb hon yn bodloni’r Egwyddorion Cymhwyster TAG UG a Safon Uwch sy’n pennu

gofynion yr holl fanylebau TAG newydd neu ddiwygiedig a ddatblygwyd i’w haddysgu yng

Nghymru o fis Medi 2016

Tudalen

Crynodeb o’r asesiad 2

1. Rhagarweiniad 4

1.1 Nodau ac amcanion 4

1.2 Dysgu blaenorol a dilyniant 4

1.3 Gorgyffwrdd â chymwysterau eraill 5

1.4 Cydraddoldeb a mynediad teg 5

1.5 Bagloriaeth Cymru 5

2. Cynnwys y pwnc 6

2.1 Unedau UG 7

2.2 Unedau U2 13

3. Asesu 19

3.1 Amcanion asesu a phwysoli 19

3.2 Trefniadau ar gyfer asesu diarholiad 20

4. Gwybodaeth dechnegol 21

4.1 Cofrestru 21

4.2 Graddio, dyfarnu ac adrodd yn ôl 22

Atodiad A 23

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 2

TAG UG a SAFON UWCH

CYMRAEG AIL IAITH

CRYNODEB O’R ASESIAD

Mae’r fanyleb hon wedi’i rhannu i gyfanswm o 6 uned – 3 uned UG a 3 uned U2. Mae’r

pwysoli a nodir isod yn cael ei gyfleu yn nhermau’r cymhwyster llawn Safon Uwch.

UG (3 uned)

UG Uned 1

Arholiad Llafar: Adran A tua 20 munud i bob grŵp

Adran B tua 5 munud i bob ymgeisydd

Ffilm a Llafaredd

15% o'r cymhwyster 60 marc

Adran A: Trafod ffilm

Adran B: Ymateb personol

UG Uned 2

Asesiad Diarholiad

10% o'r cymhwyster 60 marc

Ysgrifennu 3 darn estynedig. Cyfanswm rhwng 1,500 a 2,000 o eiriau

UG Uned 3

Papur Ysgrifenedig: 2 awr

Defnyddio Iaith, a Barddoniaeth

15% o'r cymhwyster 120 marc

Adran A: Cwestiwn cyfansawdd yn cynnwys gwahanol fathau o ymarferion ieithyddol.

Adran B: 3 chwestiwn wedi'u strwythuro ar y testunau gosod.

Safon Uwch (yr uchod a thair uned ychwanegol)

U2 Uned 4

Arholiad Llafar: Adran A a B tua 30 munud i bob grŵp

Adran C tua 5 munud i bob ymgeisydd

Drama a Llafaredd

25% o'r cymhwyster 75 marc

Adran A: Byw yn Gymraeg

Adran B: Trafod Drama

Adran C: Ymateb personol

Asesiad Synoptig

U2 Uned 5

Papur Ysgrifenedig: 2 awr

Y Gymraeg yn y Gymdeithas a Thrawsieithu

15% o'r cymhwyster 80 marc

Adran A: Y Gymraeg yn y gymdeithas

Cwestiynau wedi'u strwythuro ar y testun gosod

Adran B: Trawsieithu – ymateb yn ysgrifenedig yn Gymraeg i erthygl Saesneg

Asesiad Synoptig

U2 Uned 6

Papur Ysgrifenedig: 2 awr

Defnyddio Iaith a'r Stori Fer

20% o'r cymhwyster 100 marc

Adran A: Cwestiwn cyfansawdd yn cynnwys gwahanol fathau o ymarferion ieithyddol

Adran B: 2 gwestiwn wedi'u strwythuro ar un o'r testunau gosod ac 1 cwestiwn synoptig yn

cysylltu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd yn y pwnc.

Asesiad Synoptig

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 3

Manyleb unedol yw hon sy’n caniatáu am elfen o asesu mewn camau. Bydd cyfleoedd

asesu ar gael yn ystod cyfnod asesu’r haf bob blwyddyn, tan ddiwedd oes y fanyleb hon.

Bydd Uned 1, Uned 2 ac Uned 3 ar gael yn haf 2017 (a phob blwyddyn wedi hynny) a

dyfernir y cymhwyster UG am y tro cyntaf yn yr haf 2017.

Bydd Uned 4, Uned 5 ac Uned 6 ar gael yn haf 2018 (a phob blwyddyn wedi hynny) a

dyfernir y cymhwyster Safon Uwch am y tro cyntaf yn yr haf 2018.

Rhifau Achredu’r Cymhwyster

TAG UG: 601/8127/8

TAG Safon Uwch: 601/8113/8

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 4

TAG UG a SAFON UWCH

CYMRAEG AIL IAITH

1 RHAGARWEINIAD

1.1 Nodau ac amcanion

Mae UG ac Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith yn annog dysgwyr i:

ddangos diddordeb, pleser a brwdfrydedd wrth astudio'r Gymraeg

cyfathrebu'n gywir ac yn rhugl ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn ystod eang o

sefyllfaoedd a chyd-destunau

ysgrifennu'n greadigol a ffeithiol i amrywiaeth o bwrpasau

dadansoddi testunau cyfarwydd ac anghyfarwydd yn annibynnol

gwrando ac ymateb i farn eraill wth fynegi safbwynt

mynegi barn yn annibynnol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth o ystod o

destunau llenyddol a ffeithiol

ymateb yn glir, yn berthnasol, yn hyderus ac yn strwythuredig yn y Gymraeg

cymryd eu lle priodol mewn cymdeithas ddwyieithog ar ddechrau'r unfed ganrif ar

hugain.

Yn ogystal, dylai manyleb Safon Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith annog ymgeiswyr i:

wneud cysylltiadau rhwng gwahanol elfennau'r pwnc a darparu sylfaen addas i

ganiatáu i ymgeiswyr barhau i astudio'r iaith yn y dyfodol.

1.2 Dysgu blaenorol a dilyniant

Nid oes gofynion penodol parthed dysgu blaenorol, er y bydd llawer o’r ymgeiswyr

wedi caffael gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Gymraeg ac wedi datblygu’r sgiliau

priodol wrth astudio’r pwnc ar gyfer TGAU Cymraeg Ail Iaith a TGAU Cymraeg Ail

Iaith Cymhwysol.

Gellir astudio’r fanyleb hon gan unrhyw ymgeiswyr beth bynnag eu rhyw neu gefndir

ethnig, crefyddol neu ddiwylliannol.

Nid yw’r fanyleb hon yn addas ar gyfer ymgeiswyr o dan 15 oed, ond darpara

gyfleoedd i ymgeiswyr ymestyn eu haddysg gydol oes.

Mae strwythur chwe rhan y fanyleb hon (3 uned ar gyfer UG a 3 uned ychwanegol ar

gyfer y Safon Uwch llawn) yn caniatáu i ymgeiswyr ohirio penderfyniadau ynglŷn â

symud ymlaen o’r cymhwyster UG i’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Mae’r fanyleb hon yn darparu sylfaen addas ar gyfer astudio Cymraeg Ail Iaith neu

faes perthynol, trwy gyfrwng amrediad o gyrsiau addysg uwch (e.e. gradd mewn

prifysgol) neu fynediad uniongyrchol i fyd gwaith. Mae’r fanyleb hon hefyd yn darparu

cwrs astudiaeth cydlynol, boddhaol a gwerthfawr ar gyfer ymgeiswyr na fyddant yn

mynd ymlaen i astudio’r pwnc hwn ymhellach.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 5

1.3 Gorgyffwrdd â chymwysterau eraill

Nid oes unrhyw orgyffwrdd sylweddol rhwng y fanyleb hon ac unrhyw un arall. Ni chaiff

ymgeiswyr ar gyfer yr arholiad hwn sefyll arholiad UG nac Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf.

Ni chaiff ymgeiswyr a safodd arholiadau TGAU Cymraeg Iaith a / neu TGAU

Llenyddiaeth Gymraeg sefyll yr arholiad hwn.

1.4 Cydraddoldeb a mynediad teg

Gellir astudio'r fanyleb hon gan unrhyw ddysgwr, beth bynnag fo'i ryw, cefndir ethnig,

crefyddol neu ddiwylliannol. Lluniwyd y fanyleb i osgoi, lle bo'n bosibl, nodweddion a

allasai, heb gyfiawnhad, ei gwneud yn fwy anodd i ddysgwr lwyddo oherwydd bod

ganddo nodwedd benodol wedi ei hamddiffyn.

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 y nodweddion penodol wedi'u hamddiffyn yw

oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu

gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.

Mae'r fanyleb hon wedi'i thrafod â grwpiau sy'n cynrychioli diddordebau ystod

amrywiol o ddysgwyr, ac adolygir y fanyleb yn gyson.

Gwneir addasiadau rhesymol ar gyfer dysgwyr penodol fel bod yr asesiadau o fewn

eu cyrraedd (e.e. cais i gael amser ychwanegol i bwnc TAG pan fydd gofyn am

ysgrifennu estynedig). Mae gwybodaeth am addasiadau rhesymol i'w chael yn

nogfen y Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC): Trefniadau Mynediad, Addasiadau

Rhesymol ac Ystyriaeth Arbennig: Cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol. Mae'r

ddogfen hon ar gael ar wefan y CGC (www.jcq.org.uk).

Gan fod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer addasiadau rhesymol, prin iawn fydd

nifer y dysgwyr sy’n cael eu hatal yn llwyr rhag unrhyw ran o’r asesiad.

Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â’r dogfennau CGC ar drefniadau mynediad ac

ystyriaethau arbennig ac ar gynnal arholiadau ynghyd ag unrhyw ddogfen sy’n

berthnasol o ran asesu diarholiad.

1.5 Bagloriaeth Cymru

Dylai dysgwyr, wrth ddilyn y fanyleb hon, gael cyfleoedd, lle bo'n briodol, i ddatblygu'r

sgiliau sy'n cael eu hasesu trwy Graidd Bagloriaeth Cymru:

• Llythrennedd

• Rhifedd

• Llythrennedd Digidol

• Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau

• Cynllunio a Threfnu

• Creadigrwydd ac Arloesi

• Effeithiolrwydd Personol.

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 6

2 CYNNWYS Y PWNC

Mae manylebau UG a Safon Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith yn adeiladu ar y

wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a nodir ar gyfer cymwysterau TGAU Haen

Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith. Serch hynny, gall ymgeiswyr fod wedi caffael y

wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau heb fod wedi ennill y cymwysterau.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

Mae'r fanyleb UG ac Uwch yn mynnu bod ymgeiswyr yn arddangos gwybodaeth a

dealltwriaeth o:

•strwythurau, gramadeg a phatrymau'r iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig oddi mewn i

gyd-destunau ystyrlon

•cywair a phriodoldeb iaith ac arddull ystod o ddarnau ffeithiol sy'n ymwneud â'r

byd cyfoes

•cynnwys, ffurf ac arddull llên y cyfryngau ac ystod o farddoniaeth a rhyddiaith

•diwylliant traddodiadol Cymru.

Sgiliau

Dylai ymgeiswyr UG a Safon Uwch ar lafar ac yn ysgrifenedig:

• arddangos cywirdeb wrth ddefnyddio cystrawen a gramadeg yr iaith mewn

amrywiaeth o ffurfiau a chyd-destunau ac i ystod o gynulleidfaoedd a phwrpasau

• defnyddio iaith yn y cywair priodol mewn ystod eang o gyd-destunau at ddibenion

creadigol, i drafod llenyddiaeth, i drawsieithu ac i amrywiaeth o ddibenion

ymarferol gan roi ystyriaeth i'r pwrpas a'r gynulleidfa

• trafod, ystyried ac ymateb i safbwyntiau a barn eraill er mwyn dod i gasgliadau

cytbwys

• defnyddio geiriaduron yn briodol ond hefyd yn arddangos y gallu i gyfleu ystyr

heb gyfeirio atynt

• dadansoddi'n feirniadol a chyfleu ymateb personol i destunau a darnau cyfarwydd

gan ddefnyddio termau addas

• dewis yn berthnasol o destun wrth drafod, er mwyn egluro ac enghreifftio

safbwyntiau personol

• trafod agweddau a gwerthoedd mewn testunau.

Bydd yr astudiaeth hon yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer astudiaeth bellach tra ar yr

un pryd yn datblygu sgiliau addas i'r gweithle.

Dylai ymgeiswyr U2:

• arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o ystod o ryddiaith o ran ffurf a thema

• arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth fwy manwl gywir o gywirdeb a rheolau

gramadeg yr iaith

• cymharu darnau neu destunau er mwyn deall a gwneud sylwadau ar yr hyn sy'n

gyffredin ac yn wahanol rhyngddynt gan arddangos y gallu i ddadansoddi

llenyddiaeth yn feirniadol, cyfleu ymateb personol a defnyddio termau addas

• arddangos gwybodaeth ehangach a dealltwriaeth ddyfnach o'r maes

• trafod ac ymateb i'r Gymraeg yn y gymdeithas leol ac yn genedlaethol

• arddangos sgiliau wedi eu mireinio a'u datblygu ymhellach.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 7

2.1 UNEDAU UG

Uned 1 – Y Ffilm a Llafaredd – Arholiad Llafar (tua 35 munud i

grŵp o dri)

Nodiadau i Athrawon

• Asesiad allanol yw hwn. Er hynny dylai athrawon asesu cyrhaeddiad disgybl yn

fewnol yn ystod y flwyddyn.

• Bydd arholwr allanol yn ymweld â phob canolfan yn ystod tymor yr Haf. Defnyddir

asesiad y ganolfan fel canllaw i gynorthwyo'r arholwr, ond gan yr arholwr yn unig

y bydd yr hawl i bennu marciau terfynol yr ymgeiswyr.

• Arholir yr ymgeiswyr mewn parau/grwpiau heb fod yn fwy na thri ymgeisydd yn

Adran A. Dewisir y grwpiau yn ôl gallu'r ymgeiswyr neu ddoethineb yr arholwr.

Lle nad oes ond un ymgeisydd arholir ef yn unigol gan yr arholwr. Lle ceir

grwpiau o dri bydd yr arholiad yn parhau am tua 35 munud.

• Arholir yr ymgeiswyr yn unigol yn Adran B. Hyd arholi Adran B fydd tua 5 munud

yr un.

Swyddogaeth yr arholwr

• sbarduno trafodaeth drwy ofyn cwestiynau

• hybu newid cyfeiriad y drafodaeth

• gofyn i ymgeisydd gynnig tystiolaeth i gadarnhau syniadau neu ddatblygu dadl

• sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb

Wrth asesu'r ymgeiswyr yn yr Arholiad Llafar ystyrir eu gallu i arddangos gwybodaeth

benodedig o'r testun a'i gefndir, gwrando'n astud ar eraill, codi cwestiynau, datblygu

safbwyntiau, rhyngweithio a dod i gasgliadau. Yn ogystal ystyrir eu gallu i lefaru'r iaith

yn gywir a graenus yn y cywair priodol gan ystyried y pwrpas a'r gynulleidfa.

A. Trafod ffilm

Patagonia

Gall yr arholwr ofyn i'r ymgeiswyr ymdrin â phynciau megis y rhai a ganlyn:

trafod cymeriadau, a chymharu cymeriadau â'i gilydd

trafod golygfeydd arbennig

manylu ar y defnydd o lun a sain a cherddoriaeth gefndirol

trafod bwriadau'r cynhyrchydd

trafod themâu penodol

mynegi barn ac ymateb i'r gwaith

Arholir yr ymgeiswyr mewn pâr/ grŵp o dri yn yr adran hon.

Bydd gan CBAC yr hawl i ychwanegu ffilm fel dewis arall. Rhoddir rhybudd digonol

pan wneir hynny.

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 8

B. Trafod cynnwys yr asesiad diarholiad

Gofynnir i ymgeiswyr ymateb yn unigol i gwestiynau cyffredinol ar y Pecyn a luniwyd

ganddynt yn Uned 2.

Disgwylir i ymgeiswyr ymateb i agweddau fel a ganlyn:

cynnwys y Pecyn

dewis y testun

rheswm dros ddewis y testun

y gwahanol symbyliadau

y gwaith ymchwil

darnau unigol y Pecyn

Arholir yr ymgeiswyr yn unigol yn yr adran hon.

Uned 2 – Asesiad Diarholiad

Y Dasg

Gofynnir i bob ymgeisydd lunio Pecyn ar un o'r canlynol:

• ardal benodol yng Nghymru

• elfen gymdeithasol

• elfen ddiwylliannol

• elfen alwedigaethol

• elfen hanesyddol

• elfen wleidyddol

Gall y testun a ddewisir fod o ddiddordeb lleol neu genedlaethol, yn draddodiadol

neu'n gyfoes ei apêl.

Canllawiau i'r Dasg

Bydd y Pecyn yn canolbwyntio ar, ac yn cyflwyno i'r darllenydd elfennau o'r testun y

mae'r ymgeisydd wedi ymddiddori ynddynt gan gynnwys sylwadau personol a

pherthnasol wrth wneud hynny. Wedi darllen y gwaith dylai'r darllenydd fod yn deall y

testun dan sylw ac yn gwybod am agwedd yr ymgeisydd tuag at y testun.

Rhaid i'r Pecyn gynnwys 3 darn estynedig ar 3 o'r ffurfiau canlynol:

• adroddiad / erthygl

• portread

• stori

• sgwrs / cyfweliad

• llythyr

• blog

• dyddiadur

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 9

Rhaid i 1 darn gael ei gwblhau fel tasg o dan amodau arbennig. Disgwylir i'r

ymgeiswyr wneud defnydd o'r ddwy awr sydd ganddynt i gwblhau'r dasg hon o dan

amodau arbennig.

• Rhaid i'r testun fod yn Gymreig.

• Dylai'r wybodaeth gael ei chyflwyno mewn arddull bersonol gyda'r ymgeisydd yn

cyflwyno ei safbwynt ei hun yn ei eiriau ei hun.

• Disgwylir gweld ôl ymchwil, dadansoddi, cymharu a dewis a dethol yn y gwaith

ond gyda gogwydd bersonol yr ymgeisydd yn llywodraethu.

• Dylai unrhyw luniau/mapiau/atgynhyrchiad llunyddol gael eu defnyddio'n briodol,

felly hefyd unrhyw ddyfyniadau.

• Rhaid i'r Pecyn cyfan fod rhwng 1,500 a 2000 o eiriau. Dylai hyn gynnwys 1 darn

o ysgrifennu rhwng 400 - 600 o eiriau wedi ei gwblhau fel tasg o dan amodau

arbennig. Ni ddylid ail ddrafftio'r gwaith ar unrhyw gyfrif.

• Rhaid i'r dasg o dan amodau arbennig gael ei chwblhau o fewn 2 awr yn yr

ystafell ddosbarth. Gall yr ymgeiswyr weithio ar weddill y Pecyn yn y dosbarth

ac/neu yn y cartref.

• Disgwylir gweld penawdau ac is-benawdau yn cael eu defnyddio'n briodol ac yn

effeithiol wrth drefnu'r gwaith, ac wrth gyflwyno elfennau o fewn y testun.

• Dylid caniatáu i'r ymgeisydd drafod cynnwys y Pecyn gyda'r athro/athrawes a

chynhyrchu'r gwaith ar brosesydd geiriau.

• Caniateir defnyddio geiriaduron, cyfeirlyfrau, testunau llenyddol a gweledol ac

unrhyw ddogfennau/cyfryngau perthnasol eraill.

• Rhaid cynnwys blaendudalen yn nodi cynnwys ac ôl-dudalen yn nodi unrhyw

lyfryddiaeth a ddefnyddiwyd.

Gweler trefniadau ar gyfer asesu diarholiad yn Adran 3.2 (tudalen 20)

Uned 3 – Defnyddio Iaith, a Barddoniaeth –

Arholiad Ysgrifenedig (2 awr)

Disgwylir i ymgeiswyr ateb dau gwestiwn.

Adran A: Defnyddio Iaith

Gosodir cwestiynau cyfansawdd yn cynnwys gwahanol fathau o ymarferion

ieithyddol. Gall yr arholwr osod cwestiynau megis yr isod:

(i) cywiro gwallau mewn testun/ cyfieithu testun i'r Gymraeg

(ii) newid berfau o'r person cyntaf i'r trydydd person/ presennol i'r gorffennol /

unigol i'r lluosog

(iii) ysgrifennu'n bersonol ar amrywiaeth o ffurfiau

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 10

Er mwyn gallu ateb y cwestiynau hyn disgwylir i ymgeiswyr wybod, deall a gallu

defnyddio'r canlynol:

Ffurfiau berfol

Presennol rwy’n ... / rydw i’n ...

Perffaith rydw i wedi ...

Perffaith parhaol rydw i wedi bod ...

Amherffaith roeddwn i’n ...

Gorberffaith roeddwn i wedi ...

Gorberffaith parhaol roeddwn i wedi bod yn ...

Amhenodol byddwn i’n ...

Amhenodol perffaith byddwn i wedi ...

Amhenodol parhaol byddwn i wedi bod yn ...

Dyfodol bydda i’n ...

Gorffennol cryno

-ais i

-aist ti

-odd e / hi

-on ni

-och chi

-on nhw

Afreolaidd

Es i ...

Des i ...

Ces i ...

Gwnes i ...

Bues i / Bûm i’n ...

e.e. Bues i’n Yr Eidal dros yr haf.

Berfau diffygiol Dylwn i ...

Dylwn i fod wedi ...

Dylai ...

Dylid ...

Gorchmynnol

Ail unigol a lluosog

Rheolaidd:

siarad siarada siaradwch

rhedeg rheda rhedwch

cerdded cerdda cerddwch

Afreolaidd

mynd dos/cer ewch

dod tyrd / dere dewch

Enwau

Ffurfiau unigol a lluosog

Ffurfio’r lluosog drwy:

- newid llafariad

e.e. llygad / llygaid

- ychwanegu terfyniad lluosog

-au / -iau / -ion / -on / -i / -ydd/

-oedd / - iaid / -od

- gollwng terfyniad unigol

e.e. mochyn / moch

- cyfnewid terfyniad lluosog am un

unigol

e.e. cwningen / cwningod

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 11

Enwau gwrywaidd a benywaidd

Rhifolion a threfnolion

Dull degol

e.e. tri deg plentyn

Dull traddodiadol y rhifolion – amser ac

arian

e.e. pum munud ar hugain wedi

deunaw punt

Trefnolion un gair

e.e. pymthegfed

Ffurfiau gwrywaidd a benywaidd

e.e. tri bachgen a thair merch

Rhifolion + blwyddyn

e.e. dwy flynedd, dwy flwydd oed

Arddodiaid – am, ar, at, dan, dros, drwy, gan, heb, hyd, i, o, wrth (+treiglad meddal)

Rhedeg a defnyddio arddodiaid

Ansoddeiriau + arddodiaid

Enwau + arddodiaid

Berf + arddodiaid

Arddodiaid mewn ymadroddion aml eu

defnydd

Clywais i amdani hi

Byddwch yn garedig wrthyn nhw

Mae’n gyfrifoldeb arnat ti.

Bydda i’n talu am y tocyn.

Wyt ti wedi siarad â John ar y ffôn heddiw?

Paid cyffwrdd â hwnna.

ar glo

ar fyr rybudd

heb os nac oni bai

dros ben llestri

Ansoddeiriau

Safle arferol yr ansoddair

Prif eithriadau

Ffurfiau benywaidd aml eu defnydd

Ffurfiau lluosog aml eu defnydd

Goleddfu ansoddeiriau

Cymharu ansoddeiriau

Cyffelybiaethau

Defnyddio ansoddair fel adferf

afal coch

hen ysgol

unig blentyn

prif reswm

stori fer

torth wen

bechgyn eraill

eithaf da

bron cystal

gweddol ddoniol

Cyfartal – gan ddefnyddio ‘mor’

e.e. mor dawel

Cymharol

e.e.tawelach

Eithaf

tawelaf

yn gryf fel ceffyl

Cysgwch yn dawel.

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 12

Rhagenwau

Rhagenwau syml

Rhagenwau blaen

Rhaenwau ategol

Rhagenwau dangosol

Rhagenwau gofynnol

fi, ti, ef/fo, hi, ni, chi, nhw

fy, dy, ei, ein, eich, eu

i, di

e.e. fy nheulu i

ei lyfr e/o

eu catref nhw

hwn, hon, hyn, yma, yna, acw

Pwy? Pa?

Rhagenwau atblygol fy hun, dy hun ...

Adferfau

Adferfau amser

ddoe

eleni

heno

weithiau

Is-gymalau

Cymalau enwol gyda ffurfiau ‘bod’

Cymalau ansoddeiriol gyda ffurfiau

cwmpasog y ferf

Cymalau adferfol.

Rwy’n gwybod dy fod wedi gadael.

Dyna’r ferch sy’n canu’n y grŵp.

Ar ôl: pan, tra, pryd, y, ag/nag y, trwy, wrth,

ar ôl, nes y, cyn, erbyn, rhag ofn, o achos,

oherwydd

Adran B: Barddoniaeth

Gosodir cwestiwn ar y farddoniaeth isod. Wrth ymateb yn bersonol disgwylir i

ymgeiswyr drin y materion canlynol: cynnwys y cerddi, themâu, arddull ac ymateb i

destun y cerddi. Yn ogystal disgwylir i'r ymgeiswyr ystyried dehongliadau eraill

(disgyblion eraill, athrawon a beirniaid llenyddol) a dylid eu hyfforddi i ddyfynnu a

defnyddio termau beirniadaeth lenyddol yn briodol.

Wrth drafod y farddoniaeth dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddefnyddio iaith yn y cywair

priodol gan roi ystyriaeth i'r pwrpas a'r gynulleidfa.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 13

Nodir isod enwau'r cerddi i'w hastudio. Daw'r cerddi o'r gyfrol Fesul Gair.

• Iwan Rhys: Caerdydd

• Grahame Davies: Lerpwl

• Gwion Hallam: Dim ond serch

• Myrddin ap Dafydd: Twyll

• Tudur Dylan Jones: Newyddion

Bydd gan CBAC yr hawl i newid y cerddi a astudir. Rhoddir rhybudd digonol pan

wneir hynny.

Ni chaniateir defnyddio geiriaduron na chopïau o'r cerddi yn yr arholiad hwn.

2.2 UNEDAU U2

Uned 4 – Y Ddrama a Llafaredd (tua 45 munud i grŵp o dri)

Nodiadau i Athrawon

• Asesiad allanol yw hwn. Er hynny dylai athrawon asesu cyrhaeddiad disgybl yn

fewnol yn ystod y flwyddyn.

• Bydd arholwr allanol yn ymweld â phob canolfan yn ystod tymor yr Haf. Defnyddir

asesiad y ganolfan fel canllaw i gynorthwyo'r arholwr, ond gan yr arholwr yn unig

y bydd yr hawl i bennu marciau terfynol yr ymgeiswyr.

• Arholir yr ymgeiswyr mewn parau/grwpiau heb fod yn fwy na thri ymgeisydd yn

Adran A a B. Dewisir y grwpiau yn ôl gallu'r ymgeiswyr neu ddoethineb yr

arholwr. Lle nad oes ond un ymgeisydd arholir ef yn unigol gan yr arholwr. Lle

ceir grwpiau o dri bydd yr arholiad yn parhau am tua hanner awr.

• Arholir yr ymgeiswyr yn unigol yn Adran C. Hyd arholi Adran C fydd tua 5 munud

yr un.

Swyddogaeth yr arholwr

• sbarduno trafodaeth drwy ofyn cwestiynau

• hybu newid cyfeiriad y drafodaeth

• gofyn i ymgeisydd gynnig tystiolaeth i gadarnhau syniadau neu ddatblygu dadl

• sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael cyfle i ymateb

Wrth asesu'r ymgeiswyr yn yr Arholiad Llafar ystyrir eu gallu i arddangos gwybodaeth

benodedig o'r ddrama a'i chefndir, gwrando'n astud ar eraill, codi cwestiynau,

datblygu safbwyntiau, rhyngweithio a dod i gasgliadau. Yn ogystal ystyrir eu gallu i

lefaru'r iaith yn gywir a graenus yn y cywair priodol gan ystyried y pwrpas a'r

gynulleidfa.

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 14

Trefn yr arholiad

A. Byw yn Gymraeg

Gall yr arholwr ofyn i’r ymgeiswyr drafod rhai o'r meysydd canlynol ar ôl ymwneud â

nhw’n rheolaidd yn ystod y cwrs:

y Gymraeg yn y gymdeithas

ymweliadau gan siaradwyr gwadd

darlledu Cymraeg ar y we fyd eang

y Gymraeg yn y cyfryngau cymdeithasol

cynyrchiadau Cymraeg yn y theatr

ffilmiau Cymraeg

newyddiaduraeth Gymraeg gan gynnwys cylchgronau, Y Cymro, Golwg, Lingo,

papurau bro

B. Trafod drama

Sera Moore Williams: Crash

Gall yr arholwr ofyn i’r ymgeiswyr ymdrin â rhai o’r pynciau a ganlyn:

dadansoddi cymeriadau, olrhain eu datblygiad a chymharu cymeriadau â’i gilydd

manylu ar olygfeydd allweddol

manylu ar ddyfyniadau o'r testun

damcaniaethu ynglŷn â bwriadau’r dramodydd

manylu ar y themâu a geir yn y ddrama

mynegi barn ac ymateb i’r gwaith fel cyfanwaith

Bydd rhyddid gan ymgeiswyr i gyfeirio at ddramâu eraill ac at lenyddiaeth a

ddarllenwyd. Dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddyfynnu a defnyddio termau gwerthfawrogi

llenyddiaeth yn briodol.

Bydd rhyddid i’r ymgeiswyr ymateb yn bersonol yn ogystal â thrafod dehongliadau

eraill (disgyblion eraill, athrawon a beirniaid llenyddol) a dylid eu hyfforddi i ddyfynnu

a defnyddio termau gwerthfawrogi llenyddiaeth yn briodol.

Bydd gan CBAC yr hawl i newid y ddrama a astudir. Rhoddir rhybudd digonol pan

wneir hynny.

C. Ymateb i gwestiynau ar themâu penodol fydd yn amlwg yn y gwahanol

destunau a astudiwyd yn ystod y cwrs cyfan. (Asesiad Synoptig)

Bydd yr arholwr yn gofyn cwestiynau i’r ymgeiswyr a fydd yn mynnu eu bod yn

arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng y gwahanol destunau

ar draws y fanyleb.

Gellir trafod y themâu canlynol:

• Teulu

• Perthynas

• Cyfrifoldeb

• Cariad

• Cyfathrebu

Arholir yr ymgeiswyr yn unigol yn Adran C.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 15

Uned 5 – Y Gymraeg yn y Gymdeithas a Thrawsieithu –

Arholiad ysgrifenedig (2 awr)

Disgwylir i ymgeiswyr ateb dau gwestiwn.

Adran A: Y Gymraeg yn y Gymdeithas

Gosodir cwestiynau cyfansawdd yn ymwneud â'r Gymraeg yn y gymdeithas. Gall yr

arholwr osod cwestiynau yn ymwneud â:

(a)

Cyd-destun hanesyddol yr iaith Gymraeg o ganol yr ugeinfed ganrif hyd heddiw

e.e.

darlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith 1962;

y frwydr dros S4C ac ymgyrch Gwynfor Evans;

sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg;

boddi Cwm Tryweryn a'r ymateb iddo;

deddfau iaith 1967 a 1993;

sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 1993;

sefydlu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 1998;

polisïau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r iaith Gymraeg;

dogfen bolisi Iaith Pawb y Cynulliad (2003) a

Iaith fyw: iaith byw – strategaeth y Gymraeg 2012-2017;

diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a phenodi Comisiynydd y Gymraeg yn sgil

Mesur y Gymraeg (2011).

Gellid edrych ar adnoddau megis y canlynol:

http://www.bbc.co.uk/cymru/hanes/safle/themau/iaith.shtml

http://www.bbc.co.uk/cymru/cymraeg/yriaith/tudalen/hanes.shtml

http://www.gov.uk/cymraeg

http://comisiynyddygymraeg.cymru/cymraeg/Pages/Hafan.aspx

http://www.youtube.com/watch?v=vQT56POFbrM

http://www.youtube.com/watch?v=FGI_ZaZY5e0

(b)

Sefyllfa bresennol yr iaith e.e. beth yw’r heriau sy’n wynebu’r iaith yn

genedlaethol ac yn lleol, beth sy’n cael ei wneud i hyrwyddo’r iaith heddiw a sut

mae hyn i’w weld yn yr ardal leol?

Dylid annog disgyblion i edrych ar eu cyd-destun lleol e.e. ymweld â’r Fenter Iaith

ac ymchwilio i waith y Mentrau; mynd i ysgol ddwyieithog / cyfrwng Cymraeg leol

i weld beth sy’n digwydd yno; ymwneud â’r Urdd; menter Twf;

yr Eisteddfod Genedlaethol; bandiau Cymraeg lleol; darpariaeth Cymraeg i

oedolion; technoleg a'r Gymraeg; sêr lleol sy'n hyrwyddo'r iaith.

Adran B: Trawsieithu (asesiad synoptig)

Gofynnir i’r ymgeiswyr ddarllen deunydd Saesneg ac ymateb i’r deunydd hwnnw drwy

ysgrifennu yn y Gymraeg. Gellir gofyn am ymateb ar ffurf llythyr, erthygl neu lunio taflen

wybodaeth. Bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr ddeall a dehongli’r cynnwys ac yna fynegi

barn ar y testun. Disgwylir iddynt fod yn ymwybodol o’r gynulleidfa y maent yn ysgrifennu

ar ei chyfer. Ni ddylid cyfieithu’r darn.

Bydd y darnau darllen yn ymwneud â naill ai newyddion y dydd, neu faterion cyfoes neu

ddelwedd o Gymru a’r byd. Gellir darllen erthyglau yn y gwahanol gylchgronau a hefyd

drawsysgrifau rhaglenni materion cyfoes ar y radio/teledu wrth baratoi ar gyfer y

cwestiwn hwn.

Ni chaniateir defnyddio geiriaduron yn yr arholiad hwn.

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 16

Uned 6 – Defnyddio Iaith a’r Stori Fer – Arholiad ysgrifenedig (2 awr)

Disgwylir i ymgeiswyr ateb dau gwestiwn.

Adran A: Defnyddio Iaith

Gosodir cwestiynau cyfansawdd yn cynnwys gwahanol fathau o ymarferion

ieithyddol. Gall yr arholwr osod cwestiynau megis yr isod:

(a)

(b)

ysgrifennu ymateb i dasg benodol

ymarferion newid amser y ferf / person y ferf / o'r person cyntaf i'r trydydd / o'r

trydydd person i'r cyntaf / o'r unigol i'r lluosog / o'r lluosog i'r unigol / dewis

berf gywir mewn brawddeg / dewis gair cywir mewn brawddeg (geiriau tebyg)

Disgwylir i ymgeiswyr wybod, deall a gallu defnyddio'r canlynol yn ychwanegol at y

rhai a restrwyd yn Uned 3.

Adran B: Y Stori Fer

Dylai ymgeiswyr arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r straeon canlynol:

• Pwy Fyth a Fyddai'n Fetel (Saith Pechod Marwol: Mihangel Morgan)

• Beth os? (Cariad Pur?: Llio Mai Hughes)

• Trŵ lyf (Cariad Pur?: Marlyn Samuel)

• Angladd yn y Wlad (O'r Cyrion: Ioan Kidd)

Y nod yw dysgu'r sgìl o werthfawrogi ystod o straeon. Wrth ymateb yn bersonol

disgwylir i ymgeiswyr drin a thrafod y materion canlynol: cynnwys y straeon, themâu

ac arddull yr awdur.

Yn y cwestiwn hwn, disgwylir i ymgeiswyr ddadansoddi'n feirniadol a chyfleu ymateb

personol i gynnwys y straeon gan ddefnyddio termau addas. Wrth drafod y straeon

felly, dylid hyfforddi ymgeiswyr i ddefnyddio iaith yn y cywair priodol gan roi ystyriaeth

i'r pwrpas a'r gynulleidfa.

Bydd gan CBAC yr hawl i newid y straeon a astudir. Rhoddir rhybudd digonol pan

wneir hynny.

Asesiad synoptig

Bydd y cwestiwn hwn yn ogystal yn mynnu bod ymgeiswyr yn arddangos ac yn

cymhwyso dealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng gwahanol agweddau ar y Gymraeg

drwy gyfuno a chydgysylltu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a ddatblygwyd yn

y pwnc.

Ni chaniateir defnyddio geiriaduron na chopïau o'r straeon byrion yn yr

arholiad hwn.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 17

Berfau – ffurfiau ‘bod’

Presennol Arferiadol / Dyfodol

Dyfodol perffaith

Dyfodol perffaith parhaol

Y modd dibynnol

Byddaf

e.e. Byddaf yn mynd i’r sinema bob nos

Sadwrn.

Byddaf wedi

e.e. Byddaf wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer yr

arholiad yn yr haf.

Byddaf wedi bod yn cystadlu yn yr

Eisteddfod erbyn hynny.

pe bawn / pe bai / oni bai

Berfau eraill – ffurfiau cryno

Presennol/Presennol arferiadol

Dyfodol

Amhenodol

Gorffennol

Gwyliaf

Gobeithiaf

Darllenwn

Gofynnais

Yr amhersonol – ffurfiau cwmpasog a chryno

Amser presennol (cryno)

Amser presennol (cwmpasog)

Amser gorffennol (cryno)

Agorir, Defnyddir, Gwelir, Rhestrir

Mae ... yn cael ei ddefnyddio / ei defnyddio

Cynhaliwyd, Ysgrifennwyd, Trafodwyd,

Rhoddwyd

Amser gorffennol (cwmpasog) Cafodd y ... ei weld/ei gweld ...

Brawddegau pwysleisiol

Goddrych

Gwrthrych

Adferf

Y dosbarth (a) drafododd y gerdd ddoe.

Y gerdd (a) darfododd y dosbarth ddoe.

Ddoe (y) trafododd y dosbarth y gerdd.

Y genidol

enw + enw priodol

enw + enw

enw + y + enw

Ymadrodd sy’n cynnwys ‘the’ ac ‘of’

(Mae’n rhaid hepgor ‘the’ ac ‘of’)

mam Gwenllian,

car plismon

ysgol y pentref

e.e. the top of the mountain

pen y mynydd

Arddodiaid

Rhedeg a defnyddio arddodiaid cyfansawdd

er ei mwyn hi

o’m hachos i

Rhifolion a threfnolion

Dull traddodiadol

deg plentyn ar hugain

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 18

Ansoddeiriau

Newid safle’r ansoddair yn newid ystyr

Ansoddeiriau tebyg ond gydag ystyr

gwahanol

Ansoddeiriau fel enwau

Ffurfiau cyfartal – cyn + ansoddair – mewn

ymadroddion aml eu defnydd gan gynnwys

ffurfiau afreolaidd

Ansoddeiriau mewn priod-ddulliau

dyn unig / unig ddyn

oer, oeraidd

tlodion

cyn gynted, cyn lleied, cyn ddued â, cystal â

Wedi blino’n lân, rhoi’r gorau i ..., mynd o

ddrwg i waeth

Rhagenwau

Rhagenw cysylltiol

Ymadroddion yn cynnwys rhagenw dangosol

Rhagenwolion

minnau

O ran hynny, o hyn allan

ei gilydd / ein gilydd

nail ... llall

pawb / pob

holl

Is-gymalau

Cymal enwol a gyflwynir gan ‘y/yr’, ‘i’, ‘na’,

‘mai’

Cymalau perthynol gyda ffurfiau cryno’r ferf.

Cymalau adferfol ar ôl:

er, pe, pan, os, oni, lle, y, wedi, er mwyn,

gan, am, er, ers, oblegid, oddi ar, serch

Rwy’n gwybod iddo adael.

Maen nhw’n gwybod mai Sian ydy’r

llyfrgellydd.

Dyna’r ferch (a) ganodd yn yr Eisteddfod.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 19

3 ASESU

3.1 Amcanion asesu a phwysoli

Rhaid i ymgeiswyr gwrdd â’r amcanion asesu canlynol yng nghyd-destun y cynnwys

y manylir arno yn Adran 2 y fanyleb:

Amcanion Asesu

AA1

AA2

AA3

Defnyddio iaith lafar

• Llefaru'r iaith yn gywir ac yn hyderus, gan arddangos ystod

o adnoddau iaith; mabwysiadu'r cywair ieithyddol priodol yn

ôl y cyd-destun.

• Gwrando'n astud; ymateb yn synhwyrol / yn ddeallus trwy

godi cwestiynau a datblygu safbwyntiau perthnasol a

syniadau'n gytbwys.

• Rhyngweithio, crynhoi a dod i gasgliadau cytbwys.

Ymateb i destunau

• Arddangos gwybodaeth am destunau penodedig a'u

cefndir, eu dehongli a mynegi barn arnynt gan drafod a

gwerthuso dehongliadau eraill.

• Gwerthfawrogi ac ymateb i wahanol ffurfiau llenyddol.

• Ymateb i destunau llenyddol, llunyddol a ffeithiol, ar lafar ac

yn ysgrifenedig, yn gydlynol gan ddewis a dethol deunydd

perthnasol a'i ddehongli.

• Cyfeirio'n benodol at y testun gwreiddiol gan gyfiawnhau'r

cyfeiriad.

• Trawsieithu gan ddeall a dehongli'r testun.

Hefyd, bydd pob ymgeisydd Safon Uwch yn:

• Cyfuno, cymharu a gwerthuso gwybodaeth a gyflwynir drwy

wahanol gyfryngau, croesgyfeirio o'r naill destun i'r llall,

crynhoi a dod i gasgliad cytbwys.

Defnyddio iaith ysgrifenedig

• Ysgrifennu'n gywir, eglur a graenus gan arddangos ystod o

adnoddau iaith.

• Defnyddio gwybodaeth am ramadeg yn effeithiol mewn

amryfal gyd-destunau.

• Dangos ymwybyddiaeth o wahanol gyweiriau iaith a

defnyddio'r iaith yn hyderus mewn gwahanol sefyllfaoedd

ac at wahanol ddibenion.

Pwysoli

30%

25%

45%

Mae'r amcanion asesu yn gymwys i'r fanyleb gyfan.

Dangosir pwysiadau’r amcanion asesu isod fel canran o’r Safon Uwch.

Uned Pwysiad Uned AA1 AA2 AA3

UG Uned 1 15% 10 5

UG Uned 2 10% 10

UG Uned 3 15% 5 10

U2 Uned 4 25% 20 5

U2 Uned 5 15% 15

U2 Uned 6 20% 10 10

Cyfanswm 100% 30 25 45

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 20

3.2 Trefniadau ar gyfer asesu diarholiad

Dylai pob pecyn o waith gynnwys rhwng 1,500 a 2000 o eiriau.

Tasg dan amodau arbennig

Dylid caniatáu dwy awr ar gyfer cwblhau’r dasg a wneir dan amodau arbennig. Dylid

sicrhau bod safon y tasgau a osodir yn gymesur. “Amodau arbennig” yw amodau

tebyg i rai arholiad cyffredin. Ni chaiff ymgeiswyr ymgynghori â’i gilydd. Caniateir

mwy o amser i ddisgyblion â chanddynt anghenion arbennig. Dylid rhoi rhybudd o

wythnos i ymgeiswyr cyn iddynt gyflawni’r dasg dan amodau arbennig. Caniateir

defnyddio geiriadur neu ddeunydd pwrpasol e.e. pwyntiau bwled byr sy’n cynnwys

ystadegau, ffeithiau, enghreifftiau a dyfyniadau perthnasol wrth gyflawni’r dasg. Ni

roddir caniatâd i ymgeiswyr fynd â deunydd cyflawn wedi ei baratoi i mewn i’r

asesiad dan amodau arbennig. Ni chaniateir defnyddio prosesydd geiriau wrth

gyflawni’r dasg hon.

Caiff pob darn o waith ei farcio pan gyflwynir ef i’r athro/athrawes yn ystod y cwrs. Ni

ddylai ymgeisydd ailysgrifennu tasg ffolio na’i chywiro wedi i’r athro/athrawes

ei chywiro h.y. ni ddylid ar unrhyw gyfrif roi marc am waith fydd wedi’i gywiro

mewn drafftiau cynt. Dylai’r athro/athrawes adael y cywiriadau a'r sylwadau a

gyfeiriwyd at yr ymgeisydd ar dasgau.

Cyn cyflwyno’r marciau dylai athrawon adolygu’r marciau a ddyfarnwyd i sicrhau bod

cyfanswm y marciau yn adlewyrchu’n deg y safon am y tasgau i gyd. Os oes

anghysondebau dylai’r athro/athrawes gynnwys nodyn o eglurhad.

Ar gyfer y tasgau a gyflwynir dylid nodi’r hyn a roddwyd i’r ymgeisydd fel symbyliad

gwreiddiol. Dylid nodi unrhyw ragbaratoi ar ran yr ymgeisydd ei hun ac unrhyw

gymorth/arweiniad a roddwyd gan yr athro/athrawes. Dylai athrawon nodi cywiriadau

a sylwadau ar y sgriptiau.

Bydd gofyn nodi’r dyddiad y cyflwynwyd y dasg ac unrhyw nodiadau/sylwadau

perthnasol ar gyfer y safonwr megis sut y cafodd y dasg ei chyflawni, unrhyw

ddeunydd cyfeiriol a ddefnyddiwyd. Paratoir ffurflen arbennig ar gyfer nodi’r manylion

hyn. Dylai’r ffurflen hon gael ei llofnodi gan yr athro/athrawes a’r ymgeisydd i ddilysu’r

gwaith.

Safoni a Chymedroli

Os oes mwy nag un grŵp dysgu, rhaid sicrhau bod safoni mewnol yn digwydd fel bod

safonau’n gyson ar draws y grwpiau dysgu.

Er mwyn sicrhau bod asesiadau yn cael eu safoni’n deg, clustnodir cymedrolwr

allanol i’r ganolfan gan CBAC. Anfonir sampl o waith asesu diarholiad y ganolfan at y

cymedrolwr ar ddechrau tymor yr haf. Dewisir y sampl gan CBAC ar ôl i’r ganolfan

gyflwyno’r marciau ar-lein. Caiff pob canolfan adborth manwl yn dilyn y cymedroli.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 21

4 GWYBODAETH DECHNEGOL

4.1 Cofrestru

Mae hon yn fanyleb unedol sy’n caniatáu asesu mewn camau.

Bydd cyfleoedd asesu ar gael yng nghyfnod asesu’r haf bob blwyddyn, hyd at

ddiwedd cyfnod y fanyleb.

Bydd Unedau 1, 2 a 3 ar gael yn haf 2017 (a phob blwyddyn wedi hynny) a dyfernir y

cymhwyster UG am y tro cyntaf yn yr haf 2017.

Bydd Unedau 4, 5 a 6 ar gael yn haf 2018 (a phob blwyddyn wedi hynny) a dyfernir y

cymhwyster Safon Uwch am y tro cyntaf yn yr haf 2018.

Gall ymgeiswyr ailsefyll unedau UNWAITH YN UNIG cyn ardystio’r cymhwyster

gyda’r canlyniad gorau yn cyfrannu at y cymhwyster. Mae gan ganlyniadau unedau

unigol, cyn ardystio’r cymhwyster, hyd oes sy’n gyfyngedig yn unig i oes y fanyleb.

Gall ymgeisydd ailwneud y cymhwyster cyfan fwy nag unwaith.

Mae'r codau cofrestru i'w gweld isod.

Teitl

Codau cofrestru

UG Uned 1 Ffilm a Llafaredd 2020U1

UG Uned 2 Asesiad Diarholiad 2020U2

UG Uned 3 Defnyddio Iaith, a Barddoniaeth 2020U3

U2 Uned 4 Drama a Llafaredd 1020U4

U2 Uned 5 Y Gymraeg yn y Gymdeithas a Thrawsieithu 1020U5

U2 Uned 6 Defnyddio Iaith a'r Stori Fer 1020U6

Cyfnewid Cymhwyster UG

Cyfnewid Cymhwyster Safon Uwch

2020QS

1020QS

Rhoddir y gweithdrefnau cofrestru diweddaraf yn ein fersiwn cyfredol o’r ddogfen

Gweithdrefnau Cofrestru a Gwybodaeth am Godau.

WJEC CBAC Cyf.

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 22

4.2 Graddio, dyfarnu ac adrodd yn ôl

Bydd y graddau cyffredinol ar gyfer cymhwyster TAG Uwch Gyfrannol mewn

Cymraeg Ail Iaith yn cael eu cofnodi fel gradd ar y raddfa A – E. Bydd y graddau

cyffredinol ar gyfer y cymhwyster TAG Safon Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith yn cael

eu cofnodi fel gradd ar y raddfa A* i E. Bydd y canlyniadau sy’n methu â chyrraedd y

safon isaf ar gyfer gradd yn cael eu cofnodi â’r llythyren U (annosbarthedig). Bydd

graddau uned yn cael eu hadrodd yn ôl gyda llythyren fach a i e ar daflenni

canlyniadau ond nid ar dystysgrifau.

Defnyddir Graddfa Marciau Unffurf mewn manylebau unedol fel dyfais i adrodd yn ôl,

cofnodi ac agregu deilliannau asesiad ymgeiswyr mewn uned. Defnyddir GMU fel

bod ymgeiswyr sy’n cyflawni’r un safon yn cael yr un marc unffurf, pa bynnag uned a

gymerwyd. Bydd canlyniadau uned unigol a’r dyfarniad pwnc cyffredinol yn cael eu

mynegi fel marc unffurf ar raddfa gyffredin i bob cymhwyster TAG. Mae gan UG TAG

gyfanswm o 200 marc unffurf ac mae gan Safon Uwch TAG gyfanswm o 500 marc

unffurf. Mae uchafswm marciau unffurf ar gyfer unrhyw uned yn dibynnu ar bwysoli’r

uned yn y fanyleb.

Mae marciau unffurf yn cyfateb i’r graddau uned a ganlyn:

Pwysoli

Uned

Gradd Uned

Uchafswm marc unffurf i’r uned a b c d e

Uned 1 (15%) 75 60 53 45 38 30

Uned 2 (10%) 50 40 35 30 25 20

Uned 3 (15%) 75 60 53 45 38 30

Uned 4 (25%) 125 100 88 75 63 50

Uned 5 (15%) 75 60 53 45 38 30

Uned 6 (20%) 100 80 70 60 50 40

Mae’r marciau unffurf a geir yn mhob uned yn cael eu hadio a bydd y radd pwnc yn

cael ei seilio ar y cyfanswm hwn.

Gradd cymhwyster

Cyfanswm marciau unffurf a b c d e

TAG UG 200 160 140 120 100 80

TAG Safon Uwch 500 400 350 300 250 200

TAG UG a SAFON UWCH CYMRAEG AIL IAITH 23

ATODIAD A

GRID ASESU UNED 2

AA3 – ystod

marciau

AA3 - Ysgrifennu

16 – 20 mynegi ei hun yn ddeallus, yn glir ac yn gywir, wrth gyflwyno

gwahanol elfennau’r testun

cynllunio ei waith yn fanwl a gofalus

rhoi sylw gofalus i gywair, ffurf a chynulleidfa drwy amrywio’r

arddull yn briodol

defnyddio arddull bersonol briodol yn hyderus

mynegi barn yn glir ac yn cefnogi’r farn honno trwy resymu

craff

arddangos amrywiaeth eang o adnoddau iaith a gafael dda

iawn ar ramadeg a chystrawen

13 – 15 mynegi ei hun yn glir ac yn gywir, wrth gyflwyno gwahanol

elfennau’r testun

cynllunio ei waith yn ofalus

rhoi sylw gofalus i gywair, ffurf a chynulleidfa drwy amrywio’r

arddull

defnyddio arddull bersonol briodol yn gyson

mynegi barn yn glir ac yn ei chefnogi â rhesymau perthnasol

arddangos amrywiaeth helaeth o adnoddau iaith a gafael dda

ar ramadeg a chystrawen

10 – 12 mynegi ei hun yn glir ac yn eitha cywir

cynllunio ei waith yn ofalus ac yn gywir fel rheol

rhoi sylw i gywair, ffurf a chynulleidfa drwy amrwyio peth ar yr

arddull

defnyddio arddull bersonol yn briodol

mynegi barn yn effeithiol ac yn ei chefnogi â rhesymau

perthnasol

arddangos amrywiaeth o adnoddau iaith a gafael eithaf da ar

ramadeg a chystrawen

7 – 9 mynegi ei hun yn glir ac yn gywir ar y cyfan

cyflwyno’r gwaith yn drefnus

arddangos peth ymwybyddiaeth o gywair, ffurf a chynulleidfa

gwneud peth defnydd o arddull bersonol

mynegi barn yn uniongyrchol ac yn ei chefnogi â rhesymau

defnyddio ystod o eirfa a phatrymau addas a pheth gafael ar

ramadeg a chystrawen

4 – 6 mynegi ei hun yn glir ar y cyfan wrth ysgrifennu am y testun

yn uniongyrchol

arddangos peth ymwybyddiaeth o drefn a dilyniant

arddangos peth ymwybyddiaeth o gywair wrth gyflwyno’r

gwaith

mynegi barn gan gynnig rhesymau uniongyrchol

defnyddio ystod o eirfa a phatrymau addas

0 – 3 mae'r ymgeiswyr hyn yn llwyddo i ddangos rhai nodweddion

cadarnhaol ar adegau yn unig.

WJEC GCE Welsh Second Language specification from 2016/MLJ/EM

29/10/15

WJEC CBAC Cyf.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!