Arfor - Rhanbarth newydd i'r Gorllewin Cymraeg - Plaid Cymru
Arfor - Rhanbarth newydd i'r Gorllewin Cymraeg - Plaid Cymru
Arfor - Rhanbarth newydd i'r Gorllewin Cymraeg - Plaid Cymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Rhagarweiniad

Mae’r Fro Gymraeg yn dipyn o baradocs.

Mae’n bedwar deg naw o flynyddoedd ers i Owain Owain bathu’r term wedi

ei sbarduno gan ddarlith Saunders y flwyddyn gynt. Yn ystod yr hanner

canrif ers hynny go brin fod cytuno ar bwysigrwydd y dimensiwn

tiriogaethol o ddyfodol yr iaith Gymraeg fel iaith fyw wedi bod yn sail i

gonsensws. Mae’r cwestiwn o’r graddau y dylid pwysleisio achub y

Gymraeg fel prif iaith gymunedol bob dydd yr ardaloedd traddodiadol

Cymraeg, a hybu a hyrwyddo’r iaith ar lefel genedlaethol drwy statws

cydradd, creu sefydliadau ym maes cyfryngau torfol a thrwy addysg

ddwyieithog, wedi bod yn destun anghytundeb ers dwy genhedlaeth a mwy

o fewn y mudiad iaith a’r mudiad cenedlaethol.

Ac eto ymhlith academyddion mae bodolaeth y Fro, fel ffenomenon

ieithyddol a chymdeithasol, yn hanesyddol a chyfredol, yn ffaith

anwadadwy. O ysgrif y daearyddwr E.G. Bowen yn y 50au, Le Pays de

Galles, i waith John Aitchison a Harold Carter hyd heddiw, mae realiti

daearyddiaeth iaith Cymru prin wedi ei herio. Pam felly'r nerfusrwydd i

naddu strategaethau i gyd-fynd â’r sefyllfa ar lawr gwlad?

Mae’r ateb, dwi’n synhwyro, i’w chanfod yn hanes Cymru fel ‘cenedl hwyr’.

Ymhlith cenedlaetholwyr mi oedd yna awydd dealladwy i osgoi unrhyw

beth fyddai’n hollti’r genedl gan beryglu ymreolaeth. Yr un rhesymeg

berodd i arweinwyr Plaid Cymru gefnu er enghraifft ar y nod cynnar o

Gymru uniaith. Yr hyn sydd yn fwy o syndod efallai ydy’r anghytundeb ar

gwestiwn tiriogaeth o fewn y mudiad iaith ei hun, yn arbennig felly wrth

gofio dylanwad cynnar meddylwyr fel Saunders a J.R. Jones a’u pwyslais ar

fro a thir a chynefin fel seilwaith anhepgor i’r Gymru Gymraeg. Yn y

saithdegau, wrth gwrs, mi holltodd y mudiad ar gwestiwn y Fro Gymraeg

rhwng cefnogwyr Adfer a Chymdeithas yr Iaith, ac fe gafwyd fersiwn o’r un

anghytundeb yn sgil cyhoeddi ffigurau Cyfrifiad 2001 a chreu mudiad

Cymuned.

1
Mi chwaraeodd elfennau personol ac ideolegol eu rhan si r o fod, ond y

prif reswm dybiwn i am y diffyg brwdfrydedd dros bwysleisio’r Gorllewin

Cymraeg oedd y gofid y byddai hynny yn cynnig esgus i leihau’r pwysau

dros statws i’r iaith ar lefel genedlaethol h.y. iawn bois, fe gewch chi

arwyddion Cymraeg ym Mlaenau Ffestiniog ond dim ym Mlaenau’r

Cymoedd, a’r un peth gydag addysg ayyb. Os taw codi’r iaith yn iaith

genedlaethol oedd y nod, mi oedd yna beryglon clir o fynd lawr y llwybr

“ghettoistaidd” - o ddefnyddio hoff ymadrodd dirmygus rhai yn y BBC am

gadarnleoedd yr iaith. Doedd naïfrwydd a sectyddiaeth wleidyddol rhai o’r

rheiny a oedd yn pledio achos y Fro Gymraeg ddim ychwaith wedi helpu’r

achos.

Dwi ddim eisiau mynd nôl dros y dadleuon hyn nawr. Mae’r cyd-destun

hanesyddol wedi newid yn sylfaenol ers hynny. Mae brwydrau'r 20fed

ganrif - dros ymreolaeth a thros statws swyddogol i’r Gymraeg wedi eu

hennill, ac maen nhw’n rhan o gonsensws gwleidyddol eang. Mae dau o’r

prif resymau dros ymwrthod a’r cysyniad o diriogaeth arbennig i’r iaith

Gymraeg felly wedi diflannu o’r tir. Ar yr un pryd, hyd yn oed o dderbyn y

crebachu sydd wedi digwydd yn ystod y ddegawd ddiwethaf, rhaid derbyn

bod y Fro Gymraeg yn dal i gynrychioli canolbwynt wrth i ni geisio deall

patrymau ieithyddol yng Nghymru’r unfed-ganrif-ar-hugain.

Yn y papur byr hwn, wedi ei seilio ar gyflwyniad i Gynhadledd gafodd ei

gynnal gan bartneriaeth Hunaniaith ym mis Mawrth 2013 yng

Nghaernarfon, rwyf am gyflwyno tri syniad yn fras:

1. Bod angen strategaeth ranbarthol ar gyfer y Gorllewin Cymraeg;

2. Bod angen creu haenen ranbarthol o lywodraeth fel sylfaen i’r

strategaeth hynny;

3. Bod angen creu canolfannau trefol newydd tu fewn i’r rhanbarth fel

pegynau twf economaidd a bwrlwm cymdeithasol;

2
Gaeltacht i Gymru?

Mae’r pwynt cyntaf i mi erbyn hyn mor amlwg prin fod angen cyflwyno

dadleuon o’i blaid. Yr ydym wedi ennill y frwydr dros hawliau ar sail

cyfartaledd i siaradwyr Cymraeg unigol. Ond ffenomenon cymdeithasol ydy

iaith, a gwaeth pa mor dda ydy’r fframwaith hawliau oni bai bod yna gyddestun

cymdeithasol sydd yn atgynhyrchu’r iaith hynny yn ddyddiol - h.y.

lle mae yna gyfleoedd i’w siarad hi’n organig, digymell a naturiol, yna dyw’r

rhagolygon ar gyfer yr iaith honno ddim yn rhyw bositif iawn ar gyfer y

dyfodol. Mae’r ymgyrch dros arbed y Gymraeg yn iaith gymunedol fyw o’i

natur yn golygu gwahaniaethu rhwng yr ardaloedd hynny lle mae’n iaith

gymunedol o hyd ar ryw lefel o leiaf a rhai lle nad yw hi ddim, o leiaf ar hyn

o bryd.

Yng Nghymru yr ydym yn ffodus bod yr ardaloedd yma yn cynrychioli un

rhanbarth canfyddadwy - er bod yna wahaniaeth clir i weld erbyn hyn

rhwng deheudir y rhanbarth sydd wedi gostwng o dan 50% o siaradwyr a’r

gogledd. Ond mae’r Fro yn dal i fod yn rhanbarth ieithyddol yn hytrach

nag ynysoedd ar wasgar o gymunedau digyswllt, sef sefyllfa’r ardaloedd

Gaeltacht yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Wrth gwrs un o’r rhesymau pam nad ydym wedi mabwysiadu strategaeth

iaith wedi ei hanelu’n benodol tuag at gryfhau’r iaith yn y cadarnleoedd

efallai ydy’r canfyddiad bod y strategaeth yma wedi methu yn achos y

Wyddeleg. Ond rhaid cofio mai dim ond ym 1956 y rhoddwyd statws

arbennig i ardaloedd y Gaeltacht gan greu Adran benodol o fewn y

llywodraeth ac asiantaeth datblygu benodedig, Gaeltarra Eireann, y

flwyddyn ganlynol. Erbyn cyflwyno’r polisi newydd mi oedd y difrod wedi

ei wneud a nifer y siaradwyr Gwyddeleg yn y Gaeltacht wedi haneru ers

sefydlu’r Wladwriaeth a hynny oherwydd cyfuniad o ddiboblogi a

phenderfyniad gan siaradwyr Gwyddeleg i beidio trosglwyddo am resymau

economaidd h.y. y duedd i weld Saesneg fel iaith llwyddiant.

Mae sefyllfa’r Gymraeg yn y cadarnleoedd yn dra gwahanol. Mae tua

65,000 o siaradwyr Gwyddeleg yn byw mewn ardaloedd lle mae 50% o’r

boblogaeth yn defnyddio’r iaith yn ddyddiol. Pocedi o boblogaethau

gwasgaredig ydy’r rhain ar draws saith sir sy’n cyfateb i lai na 3% o holl

diriogaeth y wlad. Yng Nghymru mae sefyllfa’r Fro hyd yn oed heddiw yn

gryfach nag oedd hi yn y Weriniaeth pan fapiwyd y Gaeltacht gyntaf yn

1926 ar sail canran o 25% o siaradwyr brodorol dyddiol. Mae yna Fro

Gymraeg adnabyddedig o hyd. Mae’n ardal gyfagos. Mae’n cynnwys mas

3
critigol o hyd at chwarter miliwn o bobl. Mae’n cynrychioli tua threian o

dirfas Cymru. Ac mae’n cynnwys nifer o ardaloedd trefol o bwys.

Mae’r Fro yn fyw.

Adeiladu Arfor - strategaeth o’r newydd

Mae taer angen nawr ar gyfer strategaeth ranbarthol i adlewyrchu realiti ein

daearyddiaeth ieithyddol. Rhaid derbyn bod yr hyn sydd ei angen a’r hyn

sydd yn bosib o fewn y bröydd Cymraeg yn dra gwahanol i’r Cymoedd neu’r

siop sglodion enwog hynny yng Nghas-gwent.

Wrth ‘strategaeth ranbarthol’ rwy’n golygu strategaeth gynhwysfawr yn

cynnwys popeth: o ddatblygu economaidd, cynllunio iaith, gwasanaethau

cyhoeddus, tai a chynllunio, trafnidiaeth ac ati. Strategaeth fydd a’i phriod

nod o adfywio'r Gorllewin yn yr ystyr ehangaf, gan asio’r elfen economaidd

a’r elfen ieithyddol at ei gilydd yn ddiwahân.

Yr unig ffordd o wneud hynny yn ymarferol ydy trwy sicrhau bod yna

strwythur o lywodraeth sydd yn berthynol i’r dasg yma h.y. creu rhanbarth

i’r Gorllewin - o Benllech i Borth Tywyn, a’r pedwar awdurdod Cymreiciaf -

Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin - yn galon iddi, ond heb

anghofio Dyffryn Conwy, Gorllewin Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn,

Gogledd Sir Benfro a’r cymdogaethau Cymraeg yn Abertawe a Chastell

Nedd Port Talbot.

Dyw hyn ddim mor iwtopaidd ag y mae’n edrych ar yr olwg gyntaf. Rydym

yn symud yn anorfod tuag at greu rhyw fath o lefel ranbarthol o lywodraeth.

Mae’r holl amrywiaeth o gonsortia rhanbarthol mewn gwahanol gyddestunau

yn adlewyrchu hynny, yn ogystal â’r marc cwestiwn uwchlaw

dyfodol yr awdurdodau addysg. Mae’n glir bod y gyfundrefn Redwoodaidd

o 22 awdurdod unedol wedi methu a bod ad-drefnu ymhellach i 7 neu 8 o

awdurdodau rhanbarthol ar y gorwel yn hwyr neu’n hwyrach.

Y cwestiwn ar gyfer yr ardaloedd Cymraeg yw pa gyfundrefn fyddai yn

gweddu orau?

Yn y de mae yna symudiad tuag at ddinas-ranbarthau o gwmpas Caerdydd

ac Abertawe, gydag ardaloedd menter cysylltiedig. Mae angen creu

gwrthbwynt rhanbarthol i wrthbwyso hyn - nid rhanbarth ar sail dinas ond

rhanbarth ar sail iaith.

4
Byddai creu awdurdod rhanbarthol dros yr arfordir gorllewinol yn gam

chwyldroadol yn hanes llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’n torri’r rhwyg

de-gogledd (North/South Wales) trefedigaethol traddodiadol, ac mae’n

datgan bod ystyriaethau ieithyddol/ diwylliannol yn fwy perthnasol na

daearyddiaeth.

Arfor ydy’r enw dwi’n awgrymu ar gyfer y rhanbarth newydd. Byddai’n

awdurdod etholedig uniongyrchol, ond byddai’n gweithredu ar lefel leol

drwy bwyllgorau sir yn debyg i fodel lled-ffederal y Powys presennol.

Aberystwyth mae’n debyg fyddai’r lleoliad naturiol i brif siambr cynulliad y

Gorllewin, y Fenai yn brifddinas a Chaerfyrddin yn bont i’r Deheudir.

Byddai creu endid tiriogaethol newydd yn y Gorllewin yn galluogi ni i

gyflwyno polisïau o blaid y Gymraeg ar draws y rhanbarth, megis:

• Gwneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddu o fewn y sector

gyhoeddus;

• Gwneud dwyieithrwydd yn rhan ofynnol o bolisi caffael - fel yng

ngwlad y Basg - gan hyrwyddo pryniant lleol;

• Gwneud arwyddion dwyieithog yn ofynnol ym mhob sector, yn ôl

amserlen a fesul ardal, er mwyn creu hunaniaeth;

• Sicrhau premiwm iaith - sybsidi cyhoeddus gan y canol - i adlewyrchu

rôl a chyfraniad y rhanbarth i gynnal yr iaith Gymraeg. Tan yn

ddiweddar roedd teuluoedd o fewn ardaloedd y Gaeltacht oedd yn

magu eu plant yn yr iaith Wyddeleg yn gallu hawlio taliad Sceim

Labhairt na Gaeilge o tua 260 Ewro pob blwyddyn. Dwi ddim yn

awgrymu system o daliadau uniongyrchol ond os ydy cynnal yr iaith

Gymraeg yn nod cenedlaethol rhaid cydnabod hynny drwy’r

gyfundrefn ariannu gyhoeddus;

• Creu lefi gwely o fewn y diwydiant twristiaeth er mwyn ariannu

datblygu economaidd lleol;

• Buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth er mwyn sicrhau cydlyniad

mewnol. Fe fyddai hyn yn golygu uwchraddio’r isadeiledd trafnidiaeth

gyhoeddus er mwyn sicrhau ei fod yn hawdd teithio rhwng y prif

ganolfannau poblogaeth, yn enwedig ail-gysylltu Caerfyrddin i

Aberystwyth a hefyd Pwllheli-Caernarfon-Bangor.

5
Un model ar gyfer Arfor fyddai awdurdod ar ffurf llywodraeth leol ond ar

raddfa ranbarthol. Opsiwn arall, israddol yn fy nhyb i, fyddai cadw’r drefn

bresennol gan greu asiantaeth ddatblygu ar draws y rhanbarth, rhyw fath o

Fwrdd Datblygu Gorllewin Cymru ond gyda nod ieithyddol yn ogystal ag

economaidd. Dyna yw model Udaras na Gaeltachta a’i crëwyd yn 1979 i

weinyddu’r ardaloedd Gaeltacht yng Ngweriniaeth Iwerddon. Tan y llynedd

mi oedd Udaras hefyd yn hybrid rhwng asiantaeth ac awdurdod lleol gydag

etholiadau uniongyrchol i fwrdd Udaras. Yr arloesedd yng nghyfansoddiad

Udaras y dylid ei atgynhyrchu ar gyfer rhanbarth Arfor yn ddi-os ydy’r

asiad yma rhwng amcan economaidd yn ogystal ag amcan diwylliannolieithyddol,

gan gydnabod yr argyfwng deuol mae cymunedau gorllewinol yn

ei wynebu.

Os oes unrhyw un yn amau effaith llywodraethiant ar ddatblygiad yr iaith

Gymraeg, buaswn yn eich cynghori i astudio’r gwahaniaeth yn nirywiad yr

iaith yn ardal Cyngor Gwynedd dros y ddeng mlynedd diwethaf o gymharu

gyda chyngor Sir Gaerfyrddin sydd wedi teyrnasu dros golled anfaddeuol

yn ardal Dyffryn Aman a hynny o ganlyniad i bolisi pwrpasol o wadu priod

le i’r iaith Gymraeg o fewn y system addysg nag ychwaith normaleiddio’r

Gymraeg fel iaith gweinyddu’r sector gyhoeddus.

Dinasoedd y Gorllewin

Un o brif amcanion yr Arfor newydd fydd creu am y tro cyntaf proses o dwf

trefol, am y tro cyntaf erioed efallai, o blaid ac nid ar draul y Gymraeg.

Mae’r broses o drefoli wedi bod yn ffactor yn hanes y Gorllewin am ganrif a

mwy fel y mae’r Athro Gareth Wyn Jones wedi dadlau. Un o’r prif ffactorau

ydy’r newidiadau yn amaethyddiaeth. Yn 40au’r ganrif ddiwethaf mi fyddai

fferm deuluol o ryw 50 o erwau yn cynnal teulu a chriw o weithwyr

amaethyddol lle nawr mae angen 200 o erwau, cyfalaf sylweddol, ac ail

gyflog siwr o fod.

Mae disgwyliadau pobl o ran safon byw a bwrlwm bywyd hefyd wedi eu

trawsnewid - gan deledu, gan y We, gan fynd i ffwrdd i goleg ayyb. Ac

onibai ein bod ni’n medru cynnig y math o gyfleoedd a chyfleoedd hamdden

- cymdeithasu gyda chriw o bobl o’r un oed a’r un anian mewn un lle - sef y

profiad dinesig, o fewn cyd-destun Cymraeg gorllewinol, wedyn mi fydd

pobl yn dal i ddianc am ddinasoedd fel Caerdydd, Manceinion, Llundain ac

ati.

Mae yna gysylltiad agos hefyd rhwng maint poblogaeth a chyfradd tyfiant

economaidd h.y. dyw pentrefi na threfi bychain ddim yn medru cyrraedd y

6
maint digonol ar gyfer arbenigo a chreu economi leol amryddawn ac mae

hyn yn golygu bod yna beth wmbredd o’r anghenion lleol yn gorfod cael eu

prynu mewn. Un o’r prif resymau felly am dlodi cymharol y Gorllewin ydy’r

methiant i greu canolfannau poblogaeth o faint sylweddol.

Ac eto yng nghyd-destun y Gymraeg yn draddodiadol, mae twf poblogaeth a

datblygiadau sydd yn caniatáu hynny - marinas ac ati - yn dueddol o gael

eu gweld fel bygythiadau i’r patrwm ieithyddol.

Un o brif nodau Arfor fydd gwrthdroi’r broses o ddiboblogi gwledig a

mewnlifiad sydd wedi nodweddu’r Gorllewin am yr hanner can mlynedd

diwethaf. Mae pobl ifanc wedi gadael am gyffro ac am gyfleoedd yn y

dinasoedd mawrion yn Lloegr ac yng Nghaerdydd gan adael tai ar gyfer

mewnfudwyr cefnog, oedrannus. Rhaid troi’r patrwm yna wyneb i waered

a chreu ein mewnlifiad ein hunain o siaradwyr Cymraeg yn eu 20au a’u

30au, yn tyrru i’r gorllewin.

Paradeim newydd?

A yw’n bosib creu'r math yna o baradeim newydd, sef tyfu poblogaeth a

chryfhau’r iaith yr un pryd?

Yr hyn sydd yn obeithiol yn y ffigyrau ydy’r twf a welir yn ffigyrau siarad

Cymraeg ym mhrif glymdref y Gymraeg o gwmpas Caernarfon - yn

ardaloedd Waunfawr, Clynnog, Llanllyfni ayyb.

Fe ddynodwyd ardal Menai - y clwstwr o drefi o boptu afon Menai - Bangor,

Caernarfon, Llangefni a’r maestrefi o’u cwmpas sydd gyda’i gilydd efallai yn

cynnwys 50,000 o bobl yn ei chyfanswm, Dinas Menai chwedl rhai - eisoes

yn brif ffocws datblygu neu’n hwb y Gogledd-orllewin yn Strategaeth

Ofodol Cymru. Mae’n rhaid uwchraddio hyn a throi ardal draws-drefol y

Fenai yn brifddinas y Gymru Gymraeg gyda’r nod o’i gwneud hi yn fagnet ar

gyfer pobl ifanc Cymraeg eu hiaith yn yr un modd ag y mae Caerdydd ar

raddfa ehangach. Yn yr un ffordd dylid datblygu Aberystwyth a

Caerfyrddin a Llanelli fel is-ganolfannau yn dilyn awgrymiadau Gareth

Wyn Jones ac Einir Young am barthau twf y datblygon nhw bron i ddegawd

yn ôl.

Ond a yw ail-labelu'r hyn sydd yno’n barod ynddo’i hun yn ddigon? Mae

angen meddwl yn fwy creadigol a dychmygus na hynny mentra i. Ac yn yr

ysbryd hwn dwi am awgrymu bod angen meddwl yn nhermau creu cyfres o

7
gymunedau newydd er mwyn gwireddu’r weledigaeth yma o Fro Gymraeg

ffyniannus.

Fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â’r syniad trefi newydd o’r

arbrawf ôl-rhyfel, a arweiniodd yng Nghymru at ehangu’r Drenewydd a

chreu Cwmbrân.

Dwi am awgrymu rhywbeth sydd efallai yn fwy rhamantaidd ei naws na’r

prosiectau lled fiwrocrataidd hynny, adlais efallai o rhai o arbrofion

sosialwyr iwtopaidd a diwygwyr cymdeithasol fel Robert Owen. Atseiniau

hyd yn oed o’r ymdrechion arwrol yn ystod y ganrif ddiwethaf i greu

trefedigaethau Cymraeg eu hiaith yn yr Unol Daleithiau, Patagonia a Brasil

- er mai son am greu gwladfa newydd yn ein gwlad ni’n hunain ydyn ni fan

hyn wrth gwrs.

Prin ydy’r enghreifftiau o adeiladu cymunedau newydd er mwyn adfywio

ieithyddol. Ym 1935 fe grëwyd ym mhentref Râth Cairn Gaeltacht newydd

yn sir Meath ar dir â’i prynwyd gan Gomisiwn Tir Iwerddon gan symud

siaradwyr Gwyddeleg yno o’r gorllewin. Ym 1969 mi oedd yna arbrawf

enwog i greu Gaeltacht ddinesig ym Melffast o amgylch menter tai

cydweithredol ar Heol Shaw; yn fwy diweddar mae cynlluniau tebyg wedi’u

cyhoeddi yn ardal ddosbarth gweithiol Ballymun yn Nulyn. Mae yna

gynllun cyffrous hefyd ar gyfer pentref newydd Gaeleg ei hiaith i ryw fil o

bobl i o gwmpas Sabhal Môr Ostaig, uy Coleg Gaeleg, yn Kilbeg ar Ynys

Skye.

Mae’r tebygrwydd gyda’r “kibbutzim” a’u sefydlwyd gan sosialwyr Iddewig

o ddechrau'r 20fed ganrif hefyd yn amlwg - er mae’r gymhariaeth yma’n

ofidus oherwydd y cysylltiad gyda’r mater ehangach o anheddau yn fwy

diweddar yn dwyn tir y Palestiniaid.

Er gwaethaf hynny rhaid cydnabod perthnasedd arbrawf y kibbutzim yn y

cyd-destun ieithyddol. Yn y kibbutzim y datblygwyd y dull o ddysgu trwy

drwytho, sef yr Wlpan, sydd yn adnabyddus i ni yng Nghymru. Yn y

kibbutzim plethwyd y nod ac adfywio iaith gydag adfywio economaidd drwy

greu mentrau cydweithredol yn bennaf ar sail amaethyddol er dylid nodi

bod yna kibbutzim diwydiannol hefyd yn bodoli sydd yn ymdebygu yn fwy i

Mondragon y Basgiaid. Beth oedd wrth wraidd llwyddiant y kibbutzim

oedd bod yna naratif o ail-adeiladu cenedl oedd yn ysbrydoli pobl ifainc i

ymfudo ac ymuno yn y fenter.

8
A dyna sydd ar goll gennym ni heddiw dwi’n meddwl. Digon hawdd byddai

diystyried a gwawdio’r syniad o drefi newydd Cymraeg fel iwtopia. Ond

mae angen ein hiwtopia arnon ni yn fodau dynol. Ein breuddwydion sydd

yn ein cymell.

Os oedd Michael D. Jones wedi llwyddo i ysbrydoli 2, 500 o Gymry’r 19eg

ganrif i ymfudo i dde’r Iwerydd, does bosib y gellir creu naratif o’r Wladfa

Newydd, o symud i’r Gorllewin er mwyn bod yn rhan o fenter genedlaethol

o adfywhau iaith, tir a chenedl.

Trasiedi ein rhamantiaeth wledig

I raddau dyna a gafwyd gyda’r hyn yr oedd Emyr Llywelyn yn galw yn don

o‘ frogarwch” yn niwylliant Cymraeg yn y 70au - caneuon fel Y Dref Wen,

Tecwyn Ifan, Tua’r Gorllewin, Ac Eraill, Yn y Fro Edward H ayyb. Ac mi

oedd hyn wedi ysbrydoli gweithgarwch yr Anturiaethau - Antur Aelhaiarn

ac ati. Er llwyddiannau unigol, methiant fu’r prosiect ehangach, yn

freuddwyd optimistaidd ond anymarferol yng ngŵydd sgeptigiaid, fel fferm

gydweithredol arbrofol Harri Vaughan yng nghyfres Lleifior Islwyn Ffowc

Elis.

Ond craidd y broblem oedd y rhamantiaeth wledig tu ôl i’r weledigaeth.

Colli iaith oedd colli Tryweryn, colli Derwen Gam, colli Ysgol Brynycroes.

Ac eto’r gwir amdani oedd bod y broses yma o ddiboblogi gwledig yn un

gyffredin ar draws y byd gorllewinol - mi oedd y broses o wrth-drefoli gan

fewnfudwyr cefnog hefyd i’w gweld mewn rhannau gwledig o Loegr a

Ffrainc. Nid dyna oedd wrth wraidd ein problemau fel cymuned iaith ond

ein methiant i sicrhau lle canolog i’r iaith o fewn ein trefi. Fel y mae Simon

Brooks wedi darlunio yn effeithiol - er gwaetha twf y Wasg Gymraeg yn y

Cymoedd, Saesneg fu lingua franca Merthyr. Saesneg oedd iaith Caerdydd

ac Abertawe. Mi oedd yr amodau ar ddechrau'r 20fed ganrif yn fwy

gobeithiol. Mi oedd y don o adeiladu cenedl wedi arwain at sefydlu nifer o

sefydliadau cenedlaethol yn ardal Bangor ac Aberystwyth - y ddwy

brifysgol, y Coleg Normal, y Llyfrgell Genedlaethol ayyb. Ond fe

ddiddymwyd y momentwm yma gan y Rhyfel Byd Cyntaf gan chwalu’r

mudiad ymreolaeth Cymreig - ac yn sgil hynny diddymwyd unrhyw obaith o

gynllunio strategol a datblygiad cytbwys i’r genedl Gymreig.

Diddorol yw cymharu hanes tref Bangor a thref Linkoping yn Sweden,

dinas yn ne-ddwyrain Sweden. Mi oedd Bangor ar y blaen i Linkoping ar

sawl agwedd. Sefydlwyd Eglwys Gadeiriol Bangor yn 525, rhyw 600

9
mlynedd cyn yr eglwys gadeiriol yn Linkoping. Sefydlwyd Prifysgol Bangor

yn 1884, dros wyth deg mlynedd cyn sefydlu’r brifysgol yn Linkoping.

Ym 1900, roedd poblogaeth Bangor (11,000) a Linkoping (14,500) tua’r un

lefel. Ac eto erbyn heddiw mae Linkoping wedi tyfu 90,000 yn fwy yn yr un

cyfnod ag y mae Bangor wedi cynyddu o 3,000. Wrth gwrs un gair sydd i

gyfri am hyn: Saab, y cwmni awyrofod a agorodd ei phencadlys yn

Linkoping yn 1937 er mwyn adeiladu awyrennau milwrol. Mae’r

cyferbyniad gyda llosgi’r Ysgol Fomio blwyddyn yn gynharach yn

drawiadol.

Mae’r cyfle gennym ni nawr nid i ddal ein tir, nid i atal datblygiad. I

ddatblygu ein dyfodol ein hunain.

Beth sydd gennym ni mewn golwg?

O ran lleoliad gallem fod yn son am safle maes glas. Ond dwi’n meddwl

mai’r syniad mwyaf ymarferol ydy datblygiad tre-newydd ar gyrion neu yn

ymestyn un neu ragor o’r canolfannau presennol. Gellir efallai rhagweld

cyfres o ddatblygiadau o wahanol faint:

• Datblygiad tre-fodel o hyd at 5,000 yn ardal Menai fel ymgais i greu

“dinas” Cymraeg ei hiaith yn y Gogledd-Orllewin;

• Datblygiad tref twf o 3,000 yn ymestyn ardal Aberystwyth - efallai

yng nghyffiniau Bow Street;

• Datblygiad arall yn ardal Dyffryn Tywi rhwng Llandeilo a Rhydaman,

yn agos i Gaerfyrddin, ar gyrion tref Llanelli neu yn Nyffryn

Aman/Cwm Tawe.

Buaswn i’n awgrymu y byddai’r tri datblygiad yn rhai cydweithredol h.y.

byddai pob un o’r tai o eiddo i gywaith tai (‘housing cooperative’) lleol gan

ateb problem tai fforddiadwy a’r mewnlifiad. Byddai dod yn rhan o’r fenter

ar agor i bawb ond bod yna ddealltwriaeth glir bod ethos Cymraeg am fod

yn ganolog i fywyd y dre-newydd. Darperir gwasanaeth ymdrwytho er

mwyn galluogi’r di-Gymraeg ddysgu’r iaith yn effeithiol. Bydd cyfarfodydd y

cywaith yn Gymraeg, a’r rhan fwyaf o arwyddion, fel yn achos yr

Eisteddfod, yn uniaith er mwyn creu hunaniaeth ieithyddol wahaniaethol i’r

ardal.

10
Beth sydd yn allweddol wrth gwrs yw creu sylfaen economaidd gref i’r trefi

newydd yma. Gellir rhagweld nifer o elfennau gwahanol ac arbenigaethau

gwahanol yn cael eu datblygu o fewn y canolfannau gwahanol.

Un set o gyfleoedd pwysig ydy adeiladu busnesau newydd, rhai preifat ac yn

arbennig rhai cydweithredol er mwyn diwallu anghenion y gymdeithas leol

a rhanbarthol. Dyma gyfle i greu Mondragon i Gymru. Mae economegwyr

fel Karel Williams wedi dechrau datblygu proses strwythuredig o adnabod

cyfleoedd i ail-leoli'r economi leol drwy adnabod fesul cynnyrch, fesul

gwasanaeth cyfleoedd penodol i greu busnes lleol er mwyn manteisio ar

farchnad sydd ar hyn o bryd yn cael ei gyflenwi gan gwmni allanol. Gan fod

tir y trefi newydd yn eiddo i’r cwmni tref cydweithredol fydd dim modd i

Tesco fynnu mynediad. Bydd archfarchnad gydweithredol yn creu

platfform ar gyfer adeiladu cadwyn fwyd leol ac yn cysylltu’r dre a’r wlad o’i

chwmpas. Ond un enghraifft ydy hynny - mae ffatri dillad Hiut yn Aberteifi

yn dangos bod unrhyw beth yn bosib wrth i weithgynhyrchu’n lleol droi’n

economaidd unwaith eto. Ac wedyn wrth gwrs mae’r holl gyfleoedd o fewn

y sector cyhoeddus. Mae cynllun yr Evergreen Cooperatives yn Cleveland,

Ohio wedi datblygu proses o adnabod cyfleoedd i ddatblygu cwmnïau

cydweithredol i ddarparu gwasanaethau i’r sector cyhoeddus. Beth sydd yn

ganolog i hyn wrth gwrs ydy’r angen am fanc buddsoddi er mwyn cefnogi

mentrau newydd - os na chrëir Banc Cymru ar lefel cenedlaethol bydd

angen banc datblygu ar gyfer y Fro.

Mae gan y cymunedau newydd yma’r cyfle i fod yn eco-drefi: arloeswyr

mewn datblygu cynaliadwy. Fe allent ddod yn gymunedau di-garbon cyntaf

y byd, modelau ar gyfer gwydnwch ecolegol, gyda menter fwyd

cydweithredol mawr yn galon i’r gymuned a gyda’r holl anghenion ynni’n

cael eu cyflenwi drwy ynni adnewyddol. Fe fydd y rôl yma fel trefi

arddangos ar gyfer technoleg werdd yn sail ar gyfer datblygu busnesau

cysylltiol.

Cyfle arall ydy holl faes bio-economeg yn gysylltiedig gyda gwaith y

Ganolfan Biocyfansoddion yng Nghanolfan Sefydliad Cymreig dros

Adnoddau Naturiol Prifysgol Bangor. Wrth i olew ddechrau diflannu mae’r

gallu i greu rhwydwaith o meicro-burfeydd yn trawsnewid biomas mewn i

ystod o danwyddau a defnyddiau gwahanol. Yn cymryd lle cemegau

diwydiannol wedi eu cynhyrchu yn draddodiadol oddi wrth olew - agrocemegau,

biodanwydd, ireidiau, gludyddion, gwerau, caenau,

biopolymerau, defnydd pacio, cosmetigau, cynnyrch gofal personol, maeth-

11
fferyllyddion ayyb. Beth sydd yn gyffrous am hyn yw ei fod e’n

adlewyrchu’r ffaith bod ardal Arfor nid yn unig yn cynrychioli rhanbarth

diwylliannol - ond hefyd yn rhanbarth ecolegol, neu bio-ranbarth. Wrth

edrych i ddyfodol fwyfwy ansicr dylem synhwyro bod sicrhau ein hyfywedd

ieithyddol ac economaidd yn gysylltiedig gyda gwireddu’r potensial hynny

o greu economi mwy hunangynhaliol, gyda pherthynas agos rhwng y trefi

twf a’r cefnwlad o’u cwmpas.

Sector amlwg arall ydy’r sector iaith a thwristiaeth ddiwylliannol. Fe all y

trefi newydd yma ddod yn gartrefi parhaol i’r Eisteddfod Genedlaethol, i

Eisteddfod yr Urdd ac i wyliau eraill. Gellir dychmygu adeiladu diwydiant

confensiwn a chynadledda gyda chyfleusterau lletya modern, a model-westy

yn gysylltiedig gyda choleg twristiaeth genedlaethol. Bydd y trefi newydd

yn sail i greu cynnyrch newydd o fewn y farchnad wyliau, sef gwyliau mewn

awyrgylch cyfan gwbl Gymraeg - nid yn ystod wythnos Eisteddfod yn unig

ond drwy gydol y flwyddyn. Bydd y cyfle i dreulio cyfnod o amser mewn

cymuned Gymraeg hefyd yn sail i adeiladu diwydiant iaith-gysylltiol gyda

grwpiau ysgol a dysgwyr yn manteisio ar y cyfle i aros mewn ysgolion haf ac

ati. Amcangyfrifir yng nghyd-destun Iwerddon, er enghraifft, bod y mudiad

lleoliadau iaith ac ysgolion haf werth gymaint â 160m Ewro'r flwyddyn.

Bydd swyddi eraill yn dilyn drwy adleoli gwahanol gyrff cyhoeddus i’r

Gorllewin: S4C, Swyddfa’r Comisiynydd Iaith, Estyn, ac ati. Gellir hefyd

creu sefydliadau eraill o bwys - er enghraifft coleg gweinyddiaeth

genedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Sifil - er mwyn sicrhau naws Cymreig a

Chymraeg i’r gwasanaeth sifil ar lefel genedlaethol.

Pa mor ymarferol ydy hyn?

O ran buddsoddiad gan y Llywodraeth, dyw e ddim i’w weld yn llai

ymarferol na’r £325 miliwn sydd yn cael ei fuddsoddi mewn adfywhau hen

waith dur Glyn Ebwy ac adeiladu cymuned newydd yn cynnwys ysgol 3-18,

coleg addysg bellach a phrifysgol newydd ynghyd â 750 o dai.

Dyw e ddim yn wahanol iawn i’r bwriad ar hyn o bryd i greu eco-drefi yn

Lloegr. Yno mae’r Llywodraeth Glymblaid wedi ceisio atgyfodi cysyniad y

“gardd ddinas” a ysbrydolodd y mudiad trefi newydd, ac mae’r gwaith

adeiladu ar fin cychwyn mewn dwy o’r “eco-drefi” a gyhoeddwyd gan y

weinyddiaeth Lafur flaenorol gyda chynlluniau ar y gweill ar gyfer tair arall.

Ar gyfandir Ewrop hefyd mae yna ddigon o enghreifftiau o drefi newydd

wedi eu hadeiladu yn ystod y blynyddoedd diwethaf: yn Amersfoort (Yr

12
Iseldiroedd), Hammarby Sjostad (Sweden) a Freiburg, Hafen City a

Kronsberg (yr Almaen)

Mae rôl llywodraeth ganol a lleol wedi bod yn ganolog i nifer o’r cynlluniau

hyn. Mae gennym nawr ein llywodraeth ein hunain fyddai a’r adnoddau -

fel y dengys y datblygiad yng Nglyn Ebwy - a’r pŵer i weithredu. Ond does

dim rhaid edrych i’r Llywodraeth yn unig - mae yna or-duedd i ddibynnu’n

llwyr ar y Wladwriaeth yng Nghymru. Gwlad Robert Owen wedi’r cwbl

ydyn ni a gallem ddysgu oddi wrth ei ymdrechion ef i greu cymunedau

model yn yr Alban yn New Lanark a New Harmony wedyn yn yr Unol

Daleithiau. Yn fwy perthnasol byth mae’r ymddiriedolaeth sy’n berchen ar

New Lanark yn yr Alban heddiw a’r amgueddfa agored yno wedi prynu tir a

chyhoeddi cynlluniau manwl ar gyfer adeiladu cymuned newydd, dan

berchnogaeth a rheolaeth gydweithredol, gyda 3,000 o dai newydd o’r enw

Owenstown.

Mae’n dangos yr hyn sydd yn bosib gyda dychymyg. Beth am i grŵp

ohonom greu cwmni cydweithredol wedi ei gofrestru yn gymdeithas

ddiwydiannol a darbodus er mwyn cychwyn y gwaith o brynu’r tir a galw

am fynegiant o ddiddordeb mewn bod yn rhan o fenter i dorri glasbridd y

cyntaf o’r trefi newydd - Dinas Menai, rhwng Bangor a Chaernarfon? Mae’r

blogiwr Owen Donovan wedi disgrifio hyn fel Milton Keynes y siaradwyr

Cymraeg. Buaswn yn meddwl y byddai Brasilia yn gymhariaeth fwy

deniadol. Ond yr un yw’r egwyddor - sef adeiladu canolfan ddinesig fydd yn

medru denu a chadw pobl ifanc Cymraeg eu hiaith yn eu 20au a’u 30au.

Bydd angen gwneud y cymunedau yma yn atyniadol i deuluoedd a phobl

ifanc:

13

• Drwy eu gwneud nhw’n gymunedau di-gar, cerddadwy;

• Drwy gynnig y raddfa uchaf yng Nghymru o gysylltiad band llydan er

mwyn hyrwyddo datblygiad busnes;

• Drwy gynnig gofal plant cyffredinol rhad ac am ddim fel cam tuag at

gynnig hyn drwy’r rhanbarth ;

• Drwy gynnig pensaernïaeth eiconig.

Mae’n delwedd ni o adfywio’r iaith wedi ei effeithio yn gryf gan y

gorffennol. Mae’n Canolfan Iaith Genedlaethol wedi lleoli mewn hen

bentref chwarelyddol. A dwi ddim am eiliad am dynnu oddi wrth yr
edmygedd am yr hyn sydd wedi ei chyflawni yn y Nant. Ond tybed a allwn

ni gymryd tamaid o’r egni aeth i mewn i’r prosiect yna o adfer hen gymuned

ac adeiladu cymuned o’r newydd, sydd yn cyplysu adfywio’r iaith am y tro

cyntaf gyda gweledigaeth o’n dyfodol fel cenedl, fel cymdeithas, fel dynolryw,

eicon a labordy byw ar gyfer y Gymru newydd fydd wedyn ar gael i’w

atgynhyrchu mewn mannau eraill?

Ydy hyn yn iwtopaidd?

Mae Malaysia yn adeiladu dinas newydd o 3 miliwn o bobl Iskandar i

gystadlu gyda Singapore.

Ydy tre-newydd o 5,000 i greu dyfodol i’r Gymraeg yn ormod o naid

feddyliol?

Mae creu ardaloedd yn y Gorllewin gyda mas critigol yn caniatáu i ni

ddatblygu pegynau tyfiant economaidd a llefydd sy’n fywiog yn

ddiwylliannol fydd yn ddigonol ddeniadol i bobl ifanc i aros ac adleoli yno.

Fe fydd creu tref newydd hefyd yn creu cynnwrf, ymdeimlad o fod yn rhan o

adeiladu’r Gymru newydd fydd yn annog gwirfoddolwyr i ddod yn ôl i’r

Gorllewin er mwyn bod yn rhan o’r prosiect cyffrous yma.

Gydag amser pwy a ŵyr, efallai y daw Arfor yn ddinas-ranbarth y Gymru

Gymraeg.

Ôl-nodyn

Ers cyflwyno’r syniadau uchod yn fras mewn cyflwyniad yng Nghaernarfon

a thrwy law'r BBC a rhaglen Taro Naw mae yna gryn drafodaeth wedi bod

yn barod. At ei gilydd mae’r derbyniad wedi bod yn bositif cyn belled ond

mae wedi fy nghynorthwyo yn fawr wrth adnabod agweddau o’r syniadau

sydd angen esboniad neu gywiriad:

• O fynd am y Fro Gymraeg, mae'n bwysig peidio colli'r momentwm

dros yr Iaith yng ngweddill y genedl. Rhaid cynnal y cysyniad o'r

Gymraeg yn iaith genedlaethol. Mae syniadau Arddel (sydd ar hyn

o bryd yng ngofal Cwmni Iaith) yn elfen ategol angenrheidiol i

strategaeth Bro Gymraeg. Ar lefel ehangach mae rhoi bywyd

newydd i'r Gorllewin yn hanfodol er mwyn y prosiect cenedlaethol.

Rhaid peri i'r Dwyrain droi tuag at y Gorllewin lawer yn fwy, yn

hytrach na thuag at Loegr.

14
• Mae rhai yn poeni y byddai’r trefi newydd ecolegol Cymraeg yn

arwain at ddihoeni’r Gymraeg o fewn yr ardaloedd gwledig. Dylid

pwysleisio mai cryfhau'r cefn gwlad, nid fel arall, ydy’r nod trwy

greu economi leol lewyrchus, hunangynhaliol gan atal all-boblogi.

Yn yr un modd cryfhau nid gwanhau sefyllfa’r Gymraeg yn y trefi

presennol o fewn y bröydd Cymraeg drwy gynyddu poblogaeth

mewn datblygiad cyfagos gan ddenu mewnlifiad Cymraeg (a’r

rheiny o’r di-Gymraeg sydd o blaid y Gymraeg ac am gyfrannu i’w

hadfywiad) ydy’r diben wrth reswm.

• Dylwn i o bawb, fel mab i Saesnes a symudodd i’r Fro a chael ei

chymathu’n llwyddiannus yn y broses, bwysleisio taw datblygiadau

agored i bawb sydd am gyfrannu fydd y trefi newydd hyn. Mae gan

y “Cymry newydd” gyfraniad pwysig i wneud i’r gwaith o adeiladu’r

Gymru newydd, yn y Gorllewin yn ogystal â’r Dwyrain. Dylid cofio

rôl arloesol mewnfudwyr fel John Seymour, tad hunangynhaliaeth

a Phleidiwr, Clough Williams-Ellis a chywreindeb Portmeirion a

gweledigaeth bellgyrhaeddol Gerard Morgan-Grenville wrth

sefydlu’r Ganolfan dros Dechnoleg Amgen. Drwy bwysleisio elfen

ieithyddol y weledigaeth o ddatblygu cynaliadwy - cynnal yr

amgylchedd a’r iaith tra’n datblygu’r economi - a phriodi hyn a

chreu tirwedd ieithyddol wahaniaethol a throchi ieithyddol ar

gyfanheddwyr di-Gymraeg y mae modd sicrhau priod le i’r

Gymraeg. Hyn sy'n normaleiddio iaith ar y patrwm gorllewinol -

cymdeithas sy'n gwbl agored o ran ethnigrwydd, ond yn nodi gallu

ieithyddol yn sgil ddinesig hanfodol gan sicrhau cydlyniad

cymdeithasol yn sgil hynny.

• Mae rhai wedi mynegi gwrthwynebiad i syniad monolithig o’r Fro,

gan bwysleisio’r gwahaniaeth sydd yn bodoli tu fewn iddi. Cytunwn

fod angen delio’n ddeheuig gydag amrywiadau daearyddol - cymer

hyd yn oed y gwahaniaeth sylfaenol rhwng Cwm Gwendraeth a

Dyffryn Aman ar hyn o bryd. Gwell delio gyda hynny drwy

ddatganoli lleol (a rôl gryfach i’r Mentrau Iaith) na pharhau â’r

patrwm presennol - talaith o gymydau ar y ffurf Gymreig, felly, yn

hytrach na Siroedd ar y ffurf Seisnig. Mae hynny dal yn gadael

cwestiwn De Penfro - mater i bobl leol hwyrach fyddai penderfynu

p’un ai cyfuno gydag Arfor neu ffurfio estyniad gorllewinol i ddinasrhanbarth

Bae Abertawe.

15
Mae rhai wedi dilorni'r syniadau fel rhai iwtopaidd llwyr. Plediaf yn gwbl

euog i hyn. Yr ydym yn byw trwy amgylchiadau - economaidd,

amgylcheddol ac i ni yn y cyd-destun hwn diwylliannol ac ieithyddol hefyd -

sydd yn galw am feddylfryd arbrofol, beiddgar, a gweledigaeth bendant. Yn

y cyswllt hwn does dim gwell ddoethineb i’w gynnig gen i na geiriau

anfarwol J.R. Jones:

“ ‘A mi a brynais y maes oedd yn Ananoth....’

Sylwer i ddechrau, mai prynu yn ôl sydd yma - Jeremeia yn prynu yn ôl ei

dir ei hun, tir ei deulu, tir y dreftadaeth, priod dir ei Bobl....Gwelir yma

fawredd yr ewyllys i gadw treftadaeth rhag difancoll yn nannedd

ymddangosiadau anobeithiol ac amhosibl. Dyma i chi olwg ar

bosibiliadau yspryd dyn sy’n gwbl groes i’r son am wleidyddiaeth fel

celfyddyd y posibl. A hyn , i’m tyb i, yw arwyddocâd symbolaidd pryniad

y tir: gweithred ydyw o osod y cyfuniad proffwydol o ewyllys a gobaith

yn erbyn yr agwedd saff, wrtharwol, anradical, na wel wleidyddiaeth ond

fel math o gem - math o ymarferiad mewn cyfrwystra sy’n ymgroesi rhag

gosod ei nod yn uwch na’r lleiafswm o gynnydd, neu adnewyddiad, neu

ryddhad, a fo’n dechnegol bosibl.”

Celfyddyd yr anodd a’r annhebygol a geir yma yn unig, a hynny’n unswydd

oherwydd dyma y mae’r amgylchiadau yn galw ar fyrder amdani.

16