cylchgrawn
Rhifyn 49 Gaeaf 2004/5 - Cyd
Rhifyn 49 Gaeaf 2004/5 - Cyd
- No tags were found...
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Llinell Wybodaeth Newydd

ar gyfer Cymraeg i Oedolion

0871 230 0017

Mae gwasanaeth (service) newydd ar gael sydd

yn arbennig ar gyfer oedolion sydd eisiau dysgu

Cymraeg – sef Llinell Wybodaeth Cymraeg i

Oedolion.

Pwrpas y llinell ydy cynnig gwybodaeth

(information) i unigolion ledled (individuals

throughout) Cymru am y Cyrsiau Cymraeg sydd

ar gael yn lleol iddyn nhw. Mae gan swyddogion

y llinell gronfa ddata (database) bwrpasol sydd

yn cynnwys manylion yr holl gyrsiau Cymraeg i

Oedolon a gynhelir (which are held) yng

Nghymru. Trwy ddefnyddio’r gronfa ddata a holi

cwestiynau pwrpasol (suitable) maen nhw’n gallu

dod o hyd i’r cwrs sydd fwyaf addas ar gyfer yr

ymholwr (inquirer).

Mae taflenni ‘Cyrsiau Haf a Phreswyl’ a ‘All you

need to know about learning Welsh’ hefyd ar

gael trwy gysylltu â’r Llinell Wybodaeth.

Mae’r gwasanaeth newydd yn hwyluso’r broses

o ddod o hyd i gwrs – fel mae hysbyseb y llinell

wybodaeth yn dweud “Help is only a phone call

away”. Felly os ydych chi’n adnabod rhywun

sydd eisiau dysgu Cymraeg cofiwch roi’r rhif ffôn

uchod iddyn nhw: neu gallant gysylltu trwy e-bost

iaith@galw.org.

Methu deall gair Cymraeg

ar y we?

Dyma’r ateb

Mae BBC Cymru yn

cynnig system

gyfieithu gyfrifiadurol

am ddim! Mae’r

system yn galluogi

geiriau sy’n

ymddangos ar

wefannau Cymraeg i

gael eu cyfieithu yn

syth i’r Saesneg.

Mae’r system a elwir

VOCAB yn galluogi

unrhyw un sy’n

anghyfarwydd â gair

ddarganfod ei ystyr

yn syth heb orfod troi at eiriadur neu glicio allan o’r

safle i chwilio mewn geiriadur ar-lein ar wahân.

Yn ôl Grahame Davies o BBC Cymru ‘Mewn

cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae BBC

Cymru wedi penderfynu rhannu’r fantais gyda’r holl

wefannau Cymraeg drwy gynnig y rhaglen fel

‘ffynhonnell agored’. Fe’i cynlluniwyd fel y gellir ei

defnyddio i gyfieithu o unrhyw iaith i unrhyw iaith”.

Manylion y wefan yw: bbc.co.uk/vocab

Grahame Davies

Havard a Rhiannon Gregory yn cyflwyno

Tlws Elvet a Mair Elvet Thomas i Geraint

Wilson Price am gael ei ddyfarnu’n Diwtor y

Flwyddyn.

(Ymddiheuriadau am y camgymeriadau yn

Cadwyn 48)

Ysgoloriaeth

Dan Lynn James

Scholarship 2005

£250

Dyddiad cau

Closing Date

I Ebrill/April 2005

Manylion a ffurflen gais:

Details and application form:

10 Maes Lowri, Aberystwyth

Ceredigion SY23 2AU

www.aber.ac.uk/cyd

6