POLISI CYFLE CYFARTAL
Polisďau: POLISI CYFLE CYFARTAL - Cyd
Polisďau: POLISI CYFLE CYFARTAL - Cyd
- No tags were found...
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Polisïau: POLISI CYFLE CYFARTAL

POLISI CYFLE CYFARTAL

Mae CYD yn ymrwymo i gymryd camau positif i hybu a chynnal cyfle cyfartal

ymhlith ei ymddiriedolwyr, staff, a gwirfoddolwyr ac yn y gwasanaethau y

mae’n eu darparu ac yn grantiau neu ysgoloriaethau y mae yn eu dosbarthu.

Bydd staff yn cael eu cyflogi ar sail eu haddasrwydd at y gwaith y byddant yn

ei wneud, a bydd gan bawb yr un cyfle i ddatblygu a chael ei dyrchafu ar sail

eu gallu a’u dyheadau. Bydd hyn oll y digwydd beth bynnag fo’u rhyw, statws

priodasol, tueddfryd rhywiol, lliw, hil, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, oed,

credoau gwleidyddol a chrefyddol, statws HIV neu anabledd.

Mae CYD felly yn derbyn yn llwyr, felly, gofynion statudol sydd wedi eu

cynnwys yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975, Deddf Cysylltiadau hiliol

1976, Deddf Cyflog Cyfartal 1970, a Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd

1995, sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwr neu aelod o staff

wahaniaethu yn erbyn unigolyn neu eu trin yn wahanol ar sail lliw, tarddiad

ethnig, rhyw, statws priodasol, neu anabledd.

Am y diffiniadau o Wahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol,

harasio a bwlio, gweler gwefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldeb corfforaethol

Bydd cyfle cyfartal yn weithredol ym mhob un o bolisïau a gweithdrefnau

CYD.

Bydd Cadeirydd CYD a phob ymddiriedolwr arall, pob aelod o staff CYD a

gwirfoddolwyr yn gyfrifol am hybu cydraddoldeb o fewn y mudiad.

Cyfrifoldeb Unigolion

Mae CYD yn disgwyl i bob person fod yn ymwybodol o’u hymddygiad tuag at

bobl eraill. Dylid trin pawb yn gyfartal, gydag urddas a pharch. Dylai pob

person sicrhau nad yw ef neu hi’n ymddwyn mewn modd y gellid ei ystyried

fel harasio, neu’n wahaniaethol, neu’n ymosodol.

Mae CYD yn disgwyl i bob unigolyn sylweddoli bod defnyddio sgiliau y

gweithlu cyfan er lles y mudiad ac aelodau ei Bwyllgor Gwaith a staff, a bod

gwahaniaethu yn annerbyniol.

Mae’n gyfrifoldeb ar bob person i roi gwybod am unrhyw achosion o

wahaniaethu neu harasio.
Dyletswyddau Rheolwyr

Mae dyletswydd ar y Pwyllgor Gwaith a staff rheoli h/n i hybu a chynnal cyfle

cyfartal trwy:

• sicrhau bod pob aelod o staff, gwirfoddolwyr, ac ymgynghorwyr yn

ymwybodol o’r polisi hwn a bod gwahaniaethu, yn uniongyrchol neu’n

anuniongyrchol, neu unrhyw fath o harasio, yn annerbyniol; gweithredu

egwyddorion cyfle cyfartal wrth weinyddu holl bolisïau a gweithdrefnau

CYD; sicrhau na wahaniaethir yn erbyn unrhyw ymgeisydd amswydd

yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol; sicrhau bod trefniadau i

adrodd ar bob achos o wahaniaethu neu harasio yn hysbys, a sicrhau

bod pob aelod os taff a gwirfoddolwyr yn eu dealla’u bod yn gallu eu

defnyddi heb drafferth;

• monitro achosion o wahaniaethau trwy adroddiadau i staff a’r Pwyllgor

Gwaith;

• gweithredu ar unwaith i ddileu harasio, bwlïo, neu wahaniaethu cyn

gynted ag y daw i’r amlwg; sicrhau nad oedd deunydd sarhaus neu a

all sarhau pobl yn cael ei arddangos yn y gweithle;

• creu a chadw gweithle sy’n rhydd o harasio a bwlïo.

Dyrannu grantiau

Bydd CYD yn dyrannu grantiau ac ysgoloriaethau yn unol â’r polisi hwn.

Disgwylir i ymgeiswyr am bob grant a weinyddir gan CYD ddarparu

tystiolaeth eu bod yn gweithredu polisïau cyfle cyfartal ac arferion da yn eu

holl weithgareddau.

Recriwtio a dethol

Bydd recriwtio a dethol yn digwydd yn unol â’r polisi cyfle cyfartal hwn.

Bydd pob manyleb personol yn cynnwys y gofynion hynny yn unig y gellir

eu cyfiawnhau ar gyfer perfformio’n effeithiol yn y swydd. Mae’n rhaid i

benderfyniadau yn ystod pob cam o’r broses ddethol fod yn seiliedig ar

rinweddau a galluoedd ymgeiswyr i gwrdd a’r manylebau personol. Gellir

gwneud addasiadau rhesymol yn ystod y cam cyfweld os bydd angen.

Telerau ac amodau

Mae telerau ac amodau cyflogaeth CYD yn cwrdd â gofynion y

ddeddfwriaeth cyflogaeth a’r arferion da cyfredol. Os bydd angen, gellir

cyflwyno diwygiadau ac ychwanegiadau at y telerau ac amodau cyfredol er

mwyn cwrdd â gofynion y polisi hwn. Rydym yn ymrwymo i wneud

addasiadau rhesymol i gwrdd ag anghenion staff anabl.

Datblygu staff

Bydd dethol staff i’w datblygu ymhellach yn cael ei wneud ar sail

anghenion y mudiad, y swydd, a’r unigolyn, a’r potensial i ddatblygu.

Cydnabyddir amgylchiadau person yr unigolyn, e.e. cyfrifoldebau gofal a’r

anghenion y bydd rhaid i CYD gwrdd â hwy er mwyn sicrhau bod pob

aelod o staff yn cael yr un cyfle i fanteisio ar gyfleon datblygu staff.
Goruchwylio ac arfarnu

Ymgymerir â threfniadau goruchwylio ac arfarnu ar gyfer pob aelod o staff

yn unol â’r polisi hwn.

Gweithredu’r polisi

Bydd pob ymddiriedolwr, staff, a gwirfoddolwr yn derbyn copi o’r polisi hwn

a byddant yn ymwybodol o’i gynnwys a’i ofynion trwy gyfnod o sefydlu.

Bydd yr Is-Bwyllgor Gweithredol yn monitro’r gweithredu’r polisi hwn ac yn

adrodd i’r Pwyllgor Gwaith.

Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu flwyddyn ar ôl ei sefydlu.

Gwahaniaethu a harasio

Dylai staff sy’n credu eu bod neu wedi dioddef gwahaniaethu neu harasio

mewn unrhyw ffordd wneud cwyn i’r Pwyllgor Gwaith. Os oes tystiolaeth o

wahaniaethu neu harasio, ymdrinnir â’r gwyn drwy weithdrefn Disgyblu y

mae copi ohono gan bob aelod o staff ac y ceir copïau ychwanegol ohono

oddi wrth y Swyddfa Ganol yn ôl yr angen. Ymchwilir i unrhyw gwyn bod y

Pwyllgor Gwaith neu unrhyw aelodau ohono wedi torri’r polisi Cyfle

Cyfartal gan aelod gweithredol a enwebir sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr. Os

gwelir bod sail i’r gwyn gall y Pwyllgor Gwaith ofyn i’r person

ymddiswyddo.