03.09.2015 Views

diam

Rhifyn 40 Gaeaf 2001 - Cyd

Rhifyn 40 Gaeaf 2001 - Cyd

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Rhifyn 40: Gaeaf 2001 Am ddim/Free

Y cylchgrawn i siaradwyr a dys

The magazine for Welsh speake

ymraeg

learners

Cyhoeddir 10,000 o

CADWYN CYD dair

gwaith y flwyddyn fel arfer

Cyfle gwych i hysbysebu

Dihareb y tymor:

n undod mae nerth

Unity is strength

NEGES ODDI WRTH Y CADEIRYDD NEWYDD

/w ar adeg gyffrous yn hanes yr iaith Gymraeg. Mae llawer

bobl sy'n dod o'r tu allan i Gymru yn ogystal â Chymry diam

ailafael yn eu treftadaeth yn ymdrechu i ddysgu'r iaith

ac yn llwyddo i ddod yn siaradwyr rhugl.

I wtjMà ein gwaith rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i sgwrsio'n

anffurfiol gyda dysgwyr er mwyn eu helpu i fagu hyder a chymryd eu lle

jned Gymraeg, lle mae ganddynt gyfraniad mawr i'w wneud.

Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt hwy ac i'n staff gweithgar.

V,-»».

BWHUU

YR IAITH

GYMRAEC

tt-Jones: Cadeirydd CYD 2001/02

A MESSAGE FROM THE NEW CHAIRMAN

We are IÌVHT| fan exciting time in the history of the Welsh language. Many people who come

from outside y Wk well as non-Welsh-speaking Welsh people who want to regain their heritage

Bg an effort to learn the language and succeeding in becoming fluent speakers.

To do our wo B^depend on volunteers to talk informally with learners in order to help them

develop a Bénce and take their place in the Welsh-speaking community, where they have a

Bitribution to make. We are very grateful to them and to our hardworking staff.

C A D W Y N

Cyfarwyddydd CYD: Jaci Taylor

Swyddog Cyllidol: Alison Jenlcins

Swyddog Gweithredol: Chris Smith

Llywydd Anrhydeddus:

Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd

Mary Burdett-Jones

Trysorydd

Dave Jeremiah

Cofnodydd

Gwynfor Jones

Mae CYD yn elusen gofrestredig (rhif 518371)

Mae CADWYN CYD yn ymddangos dair gwaith y flwyddyn.

Dyddiadau cyhoeddi: Mawrth; Mehefìn; Tachwedd

Swyddogion Cyswllt CYD

Swyddfa CYD (dros dro) 01970 622143

Gogledd Ddwyrain Cymru

(Conuty, Dinbych, Sir y Fflint, Wrecsam)

Ceredigion

Morgannwg

Abertawe, Castell Nedd, Port Talbot, Rhondda-

Cynon-Taf, Merthyr Tudful, Penybont-ar-Ogwr, Bro

Morgannwg heblaw am y Barri, Ysíradgynlais

Elfyn Morris Williams (01286) 831715 Môn a Gwynedd

Marianne Evans (01650) 511637 Powys/Meirionnydd

Dafydd Gwylon (01834) 813249 Caerfyrddin a Phenfro

Padi Phillips (01222) 312293 De Ddwyrain Cymru

Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd a'r Barri, Torfaen, Sir

Fynwy, Casnewydd

Pigion o Gyfarfod

Cyffredinol Blynyddol CYD

7 Gorffennaf 2001

• Cadeiriwyd y cyfarfod gan Felicity Roberts

• Cafwyd adroddiadau gan y Cadeirydd, y Trysorydd a'r Cyfarwyddydd

• Penderfynwyd peidio newid y tâl cefnogaeth am y flwyddyn talu sy'n

dechrauar 1 Medi 2001:

Cefnogwyr llawn £7.00

Myfyrwyr, pensiynwyr a'r di-waith £2.00

• Etholwyd y Swyddogion canlynol ar gyfer y flwyddyn 2001-2002:

Cadeirydd

Mary Burdett-Jones

Is-gadeirydd

dim enw

Trysorydd

Dave Jeremiah

Cofnodydd

Gwynfor Jones

• Aelodau eraill o'r Pwyllgor Gwaith:

Mair Piette (Ysgrifennydd Cofnodion); Anne Parry; Lynne Davies;

Ken Jones; Gwyneth Roberts; Siân Saunders; Cefin Campbell; Llinos

Dafìs; Felicity Roberts a Mary Davies.

Pigion o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol CYD - 7 Gorffennaf 2001

• Diolchwyd i Emrys Wyn Jones am ei rodd o brosesydd geiriau i CYD.

• Bu trafodaethau rhwng CYD a'r Mentrau Iaith, Bwrdd yr Iaith

Gymraeg a Chyngor Sir Caerfyrddin yngl n â chyflwyno cynllun peilot

yn y sir honno. Gobeithir y gellir symud ymlaen i weithredu'r cynllun

yn yr hydref.

Dathlu G yl Ddewi yn

Llundain gyda CYD

Dydd Gwener laf Mawrth - Dydd Sul 3 Mawrth 2002

Cyfle i gyfarfod â dysgwyr a Chymry Cymraeg Llundain

Llety:

Dwy noson gwely a brecwast (os oes angen llety

arnoch)

Nos Wener: ° Pryd o fwyd ac ychydig o adloniant gan Osian Roberts

a'i gyfeillion

(Pedwarawd Jazz - gweler tudalennau 6/7)

Dydd Sadwrn: Ymweliad â llefydd o ddiddordeb Cymreig yng

ynghwmni Yr Athro Emrys Jones, golygydd llyfr The

Welsh in London 1500-2000

Nos Sadwrn: Cyfle eto i gymdeithasu â dysgwyr a Chymry Llundain

Dydd Sul: Gwasanaeth Capel (i'r rhai sydd eisiau)

Swyddfa CYD, 10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AU

Ffôn/ffacs: (01970) 622143

e.bost: jjt998@aber.ac.uk

y we: www.aber.ac.uk/cyd

Cefnogir gwaith CYD gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

Accommodation:

Friday Evening:

Saturday:

Nos Sadwrn:

Dydd Sul:

Two nìghts bed and breakfast (ifrequired)

Meal and entertainment by Osian Roberts and Friends

(Jazz Quartet - seepages 6/7)

Visit to places ofWelsh interest in the company of

Professor Emrys Jones, editor ofThe Welsh in London

1500-2000

Another opportunity to socialise with Welsh learners and

Welsh speakers in London

Chapel service (for those who so wish)

Diolch

Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen

Diolch i Ymddiriedolaeth James

Pantyfedwen am grant o £470 tuag at y

gost o gynhyrchu taflen wybodaeth

CYD.

Cangen CYD Aberystwyth

Llawer o ddiolch i gangen CYD

Aberystwyth am ei rhodd o £675 i CYD

yn genedlaethol. Defnyddir yr arian ar

gyfer prosiect arbennig neu tuag at

gyfarpar newydd i'r swyddfa ganolog.

Mae yn mynd yn fwy anodd y

dyddiau hyn i gael grantiau a nawdd

gan fod cymaint o fudiadau yn ceisio

am gymorth ariannol. Felly mae

CYD yn gwerthfawrogi pob ceiniog

sy'n cael ei chodi gan yr aelodau.

PRIS: tua £150 - PRICE: £150 approx

i gynnwys dwy noson gwely a brecwast a phryd bwyd ac adloniant

nos Wener

Bydd modd rhoi pris pendant ar ôl i ni wybod y nifer sydd am fynd.

to include two nights bed and breakfast, meal & entertainment

Friday evening

It will be possible to give a defìnite price once we know how many

will be going.

A wnewch chi roi gwybod a ydych chi â diddordeb gynted medrwch

os gwelwch yn dda er mwyn i ni symud ymlaen â'r trefniadau

Please let us know whether you are interested as soon as possible in

orderfor us to complete the arrangements

DYDDIADCAU ar gyfer ARCHEBU LLE - 8 Ionawr 2002

CLOSING DATEfor BOORING A PLACE - 8January 2002

Gall fod newid yn y rhaglen/ Subject to change

CRYSAU T CYD £8.00

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu crys T gyda logo CYD a'r

geiriau 'Yma o hyd gyda CYD' cysylltwch ag aelodau CYD Llanidloes

ar: 01650 521843 Kandmteare@supanet.com

Cyhoeddwyd gan/Pub/ished by: CYD, 10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AU

Argraffwyd gan/Printed by: Y Lolfa Dyluniwyd gan/Des/gned by: Y Lolfa

Dysgwr y Flwyddyn

Dysgwr y

Julie Jones o Lanandms, Fiona Mason o'r Fflint, Spencer Harris, Richard Lovett o

Awstralia. Diolch i Wasanaethu'r De Orllewin a Cbymru a HTVam noddi'r

Llun y clawr: Spencer Harris, Dysgwr y Flwyddyn a'i wraig Jeni.

Llongyfarchiadau i Spencer ar ei lwyddiant

Mae Spencer yn dod o Goedpoeth. Dych chi'n cofìo gweld ei lun yn

CADWYN 35 ar ôl iddi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yng

Ngholeg Iâl. Mae e'n gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Wrecsam ac yn

mwynhau canu Calon Lân. Dwedodd Spencer ei fod e a'i wraig am anfon eu

plant i ysgol Gymraeg. Mae Jeni yn disgwyl gefeilliaid (twins) ym mis Ionawr.

Pob lwc i'r ddau ohonynt.

Y Dysgwyr yn y Rownd Derfynol

Llongyfarchiadau i'r 3 dysgwr arall a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

BT bob tro - a chyfle arbennig i chi

Gwasanaeth Cymraeg

Does dim digon o bobl yn gwybod fod gan BT wasanaeth arbennig ar gyfer pobl

sydd yn siarad Cymraeg ac felly mae'r cwmni wedi lansio cynllun anferth i dynnu

sylw at hynny. Dan yr enw BT bob tro, y bwriad ydy cael pobl i gofrestru ar gyfer

y gwasanaeth.

Cofrestrwch eich ffôn preswyl ( y ffôn yn y t ) ac ennill gwobr

Trwy gofrestru eich fFôn preswyl bydd eich enw yn mynd i raffl i ennill gwobr o

deledu lliw, bach, gyda'r rhyngrwyd arno. Heíyd bydd yn mynd i'r raflfl fawr

genedlaethol ar gyfer gwobr o becyn adloniant cyflawn — y teledu digidol

diweddaraf, peiriant fìdeo a pheiriant DVD. Bydd enw'r enillydd yn caeljei

ddewis ar S4C ar noson Dydd G yl Dewi.

^y

Biliau Cymraeg

E3* H V* jC*»

Trwy gofrestru cewch chi filiau Cymraeg

mZ# II ífW

Biwro Cymraeg BT

V

Gwasanaeth personol — gallwch chi fFonio Biwro Cymraeg BT a siarad gyda

rhywun yna am filiau, am drwsio fFôn neu am brynu offer newydd. Mae gan

gwsmeriaid yr hawl hef d i ofyn am rywun sy'n siarad Cymraeg wrth ddefnyddio'r

rhifholiarferol, 192.

Ffôn symudol Cellnet

Os byddwch chi'n cofrestru ffôn symudol Cellnet, byddwch yn mynd trwodd yn

awtomatig at rywun sy'n siarad Cymraeg bob tro y byddwch chi eisiau holi am

rif.

Dwedodd Rheolwr BT yng Nghymru, Ann Beynon.

"Mae yna fantais arall i bobl sy'n dysgu Cymraeg "Mae ffonio ein Biwro Cymraeg

yn ffordd berffaith i ymarfer siarad yr iaith. Os oes digon o bobl yn defnyddio'r

gwasanaeth Cymraeg, fe fydd hi'n haws i ni feddwl am ddatblygu'r gwasanaeth,"

I gofrestru - Ffoniwch 0800 800288

BTis offeringyou the opportunity to useyour Welsh more ofien anda chance

to win a prize at the satne titne. Register today on 0800 800288

BYWYD BETI BACH

C A D W Y N

Ysgoloriaeth - Scholarship

Dan Lynn James 2002

£250

Dyddiad Cau/'Closmg Date-. 2 JEbrill 2002/'2 April 2002

Pwrpas ysgoloriaeth Dan Lynn James yw rhoi cymorth ariannol i

ddysgwyr sydd am barhau i astudio/ddefnyddio'r Gymraeg. Ystyrir

y cais gan banel ar ran CYD a fydd yn cynnwys y Cadeirydd, yr Isgadeirydd

ynghyd â dau aelod i'w cyfethol sydd a phrofìad ym

maes dysgu Cymraeg i Oedolion. Rhoddir blaenoriaeth i

ymgeiswyr sýdd eisoes yn gefnogwyr CYD.

This is a scholarship for Welsh learners to attend an advanced

Welsh courselresidential course; or a course on any subject

through the mediutn of the Welsh language; or purchase

boofts/cassettes. Preference given to CYD members.

Manylion a ffurflen gais/details and application form: Ysgoloriaeth

Dan Lynn James, CYD, 10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion

SY23 2AU

A wnewch chi anfon amlen stampiedig os gwelwch yn dda?

Please enclose S.A.E.

CWISCYD200I

Llongyfarchiadau i enillwyr Cwis CYD ar y rhyngrwyd

laf: Tîm Hendygwyn 102.5 o farciau

Dysgwyr: Mark Bowen, Gareth Phillips

Cymiy: Elonwy Phillips, Jean Griffiths, John Arfon Jones, Ruby Jones

2il: Tîm Trafferth o'r Trallwng 93.5 o farciau

Dysgwyr: Vivien Flowers, Alison Wilding, Sally Philbriclc, Viki Redway,

Rachel Williams, Delyth Monk, Sally Evans

Cymry: Alison Layland

3ydd: Tîm Dihirod Ehvl ac un arall 89 o farciau

DysgwynMargaret Teare, Keith Teare, Dorothy Morris

Cymry: Enfys Parry

Llawer o ddíolch i noddwyr gwobrau'r cwis:

Gwasg Gomer, Y Lolfa, Cyngor Llyfrau Cymru

gan Toby briver

PoeTH?

oe&T,

C A D W Y N

Gweithgareddau CYD

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych a'r Cyffiniau

Prynhawn o hwyl gyda CYD

ym Mhabell y Dysgwyr

Faint o fal ns dych chi'n gallu

chwythu mewn munud? Pwy

ydy'r bobl yn y llun? Os dych

chi'n eu nabod cysylltwch â ni.

Meimio arwyddion ffordd a

chaneuon adnabyddus - diolch i

Peter Rees o Dyddewi am

gynorthwyo CYD gyda'r gêmau.

Pobl yn y Uun o'r chwith - Keith

Teare, ? , Margaret Teare, ?, Peter

Rees, Michael Francis - pwy ydy'r

ddau sydd yn ddienw?

Karen Riffel (ar y chwith) ar stondin CYD yn hyrwyddo ei llyfr newydd i

ddysgwyr 'Rhifau Anifeiliaid'. Dyma'r ail lyfr mae Karen wedi'i

gyhoeddi. Pwy ydy'r ferch arall? Ffoniwch ni os dych chi'n ei nabod.

Padi Phillips a Moi Parry wrthi'n paratoi stondin CYD

ir

CTC a CYD yn seiclo ar y cyd - trefnwyd y daith gan CTC Cymru

Beth mae'r ddau yma yn ei wneud?

Bu Padi Phillips a Jaci Taylor yn lledaenu gwybodaeth am CYD ar faes yr

Eisteddfod drwy gydol yr wythnos. Dych chi'n eu cofio nhw?

Mena Williams, un o wirfoddolwyr

CYD yn y Gogledd-ddwyrain. Mae

Menayn trefnu gríùp CYD yn

Ysgoly Llys, Prestatyn

Ioan Talfryn yn cyflwyno ei lyfr newydd 'Dulliau Dysgu Ail Iaith'. Nerys Rhys, Swyddogy Dysgwyr

Rhiannon Wahers (Bwrddyr Iaith Gymraeg). Ioan Taljryn (Popeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Cymraeg), Owen John Thomas (AC) Einir Wyn Thomas, Swyddog Cymraeg 2002. ,

Oedolion, Bwrddyr Iaith Gymraeg.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ymwelwyr â Stondin CYD dydd ..4Öfetó."

ENW

Name

CYFEIRIAD

Address

COD POSl

Post Code

RHIF FFÔN

e.bost/e.ma/7

Hoffwn ymuno á CYD imddy

f would llke tojoín CYDnterest

1

2

I'N

CLVM

. p

£ VN/C

3

4

í w

c i-i o i-t-Í7Ö fí'i DvdH^/£LVD ^ H

5

6

Y i"v

F- y w'

Ymweliad Dic Jones â

stondin CYD yn

Eisteddfod Genedlaethol

Cymru 2001

Diolch i Dic Jones am ei englyn penigamp

/ */? c: o ^ /7« y C V D. ^

• .1 * «

m

V

m t

Eîsteddfod

G E N E D L A E T H O L C Y M R U

Ydych chi wedi dysgu Cymraeg?

Ydych chi'n bwriadu dysgu

Cymraeg?

Os

'Ydw','Odw','leglei',

yw'r ateb i unrhyw un o'r

cwestiynau yma

mae croeso arbennig o

gynnes i chi yn Nhyddewi 2002

Sir Benfro, Tyddewi 2002

Have you learnt Welsh?

Do you intend to learn Welsh?

If the answer is

'Yes', 'Yes', 'Yes'

to any of these questions

there is a very warm welcome

awaiting you in

St.Davidsin20()2

Dewch i GystadluU

Mae 106 o gystadlaethau yn Eisteddfod Tyddewi - pob un yn agored

i chi - ond mae adran arbennig ar gyfer dysgwyr. Beîh am gystadlu?

Come and Compete!!

There are a 106 cometitions in St.David's Eisteddfod - and every one is

open to you - but there is a special scction for learners. What about

competing?

Pam Cystadlu?

Why Compete?

Mae'n hwyl!!!

Mae'n gyfle i ennill gwobrau da

Mae'n rhywbeth y gallwch fod yn falch ohono yn y dyfodol

It's something to bc proud of in thc future

It's a chance to win good prizes

It'sfun!!!

Am fanylion pcllach cysylltwch a:

For further details contact:

Nerys Rhys, Swyddog y Dysgwyr, T Foley, Stryd yr

Afr, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1PX. 01437 772 030.

Nerys@eisteddfod.org.uk

CYLCH TRAFOD

Pob bore Iau 10.00 - canol dydd

Dewch i gael sgwrs yng Nghlwb Cymraeg Brynbuga yn y Ganolfan

Ieuenctid, Heol Maryport.

Croeso i bawb eitha profìadol yn yr iaith.

Am fanylion pellach ffoniwch Eira Rosser: 01291 673778

Ceir gwybodaeth am weithgareddau eraill gan y canlynol:

Trefynwy/Monmouth -Robin Davies 01594 563172

Ross - Mowie a Martin Thorne 01989 565517

Brynbuga/Usk - Eira Rosser 01291 673778

Ymweliad o gangen arall

Pan oedd Eddy Hunt, aelod cangen y Rhondda, ar ei wyliau yn ystod yr

haf, fe alwodd yn swyddfa CYD yn Aberystwyth a daeth i adnabod yr

aelodau o staff oedd yno.

Fe ymwelodd hefyd â changen Llanfìhangel-y-Creuddyn sy'n cwrdd

bob nos Fawrth yn y Farmers Arms ac fe gafodd groeso cynnes gan yr

aelodau oedd yn bresennol. Adloniant y noson oedd gêm o 'Boggle' yn y

Gymraeg, ac fe gafodd pawb hwyl wrth chwarae.

Eddy Hunt

Geirfa

fe alwodd yn

daeth i adnabod

Fe ymwelodd

fe gafodd groeso cynnes gan

Adloniant

Vocabulary

he called at

became acquaìnted with

he pisited

he recewed a warm welcome from

Entertainment

C A D W Y N

JAZ:Z: OSIAN ROBERTS.

Mae Mawrth y Cyntaf yn

ddiwrnod arbennig i bob

Cymro a Chymraes. Y

flwyddyn nesaf, mae CYD yn

gobeithio'i wneud yn ddiwrnod

arbennig i lawer o ddarllenwyr

CADWYN a'u cyfeillion. Cynllun

ar y gweill yw'r trefniadau i gwrdd

mewn gwesty yn Llundain, ac un

sy eisoes wedi derbyn gwahoddiad

i'r achlysur i ddiddanu'r gwesteion

yw'r cerddor ifanc o Gymro, Osian

Roberts.

I Osian, mae Mawrth y Cyntaf

yn ddiwrnod arbennig bob

blwyddyn, gan mai dyna ddydd ei

ben blwydd ac, weithiau, mae'n

dathlu â chryn steil. Sacsoffonydd

Jazz yw Osian ac mae'n aelod o'r

Gerddorfa Jazz Ieuenctid

Genedlaethol. Adeg G yl Dewi

eleni, roedd y gerddorfa n chwarae

yng Nghlwb Ronnie Scott's yn

Llundain. Uchafbwynt y rhaglen i

lawer oedd gwrando ar drefniant

Osian o 'Ar Hyd y Nos', a oedd yn

taro nodyn Cymreig priodol ac eto

ag idiom gwbl gyfoes - cyfuniad

syn nodweddu gwaith Osian fel

cerddor proffesiynol.

Ganwyd Osian yng

Nghaerdydd ac addysgwyd ef yn

Ysgol Uwchradd Gymraeg Glantaf.

Dylanwadwyd yn fawr arno gan ei

athrawon cerdd, Alun Guy a Mags

Harries, a hefyd gan athro cerdd

teithiol ar y chwythbrennau, Dic

Hamer. Athro ysbrydoledig oedd e,

a bu Osian ar daith i Malta gyda'r

band a drefnai, o'r enw 'Jazz News'.

Roedd Osian yn aelod hefyd o

Fand Chwyth Ysgolion Caerdydd a

bu ar daith gyda'r band hwnnw i'r

Almaen.

Cyw o frid yw Osian. Mae ei

dad, Eric Roberts, yn ganwr o fri,

a'i lais bariton wedi mynd ag ef ar

daith i weithio gydag ymron pob

cwmni opera o bwys ym

Mhrydain. Yr hydref hwn, er

enghraifft, mae yn Leeds yn 'La

Boheme' Puccini gydag Opera

North a hefyd yn paratoi ar gyfer

cynhyrchiad o 'Gloriana' Benjamin

Britten, ar gyfer T Opera

Barcelona.

Cynllunydd setiau theatr a

theledu yw Angharad Roberts,

mam Osian, ac mae wedi bod yn

gyfrifol am setiau rhaglenni teledu

megis 'Pam fi Duw?' ar gyfer S4C.

Roedd taid Osian ar ochr ei

fam, Hywel Edwards, yn athro

cerdd nodedig yn Llangollen ac yn

rhoi gwersi bas n, ffliwt,trymped

a chlarinet. Serch hynny, doedd e

ddim yn hapus mai dewis dysgu'r

sacsoffon wnaeth ei yr; cyn belled

ag oedd Taid yn y cwestiwn,

"Miwsig y Diafol" oedd Jazz!

Tyfodd Osian i fynyfelly â sain

cerddoriaeth yn ei gartref gydol yr

amser. Yr ennyd gofiadwy oedd y

tro cyntaf iddo glywed band Glenn

Miller ar y radio; roedd wedi dotio

gymaint ar y gerddoriaeth nes i'w

fam brynu tâp iddo un penblwydd.

Wedi hynny, roedd ei

athro Dic Hamer yn paratoi tapiau

iddo, ond ei berswadio i wrando ar

Charlie Parker, dyweder, yn

hytrach na Glenn Miller!

Achlysur bythgofìadwy i Osian

yn ofiferynnwr ifanc, tua 12 oed,

oedd mynd i yl jazz Aberhonddu

a chael cyfle i wrando ar Sonny

Rollins; wrth ofyn am ei lofnod,

siaradodd y cawr hwnnw ym myd

Jazz yn garedig wrth yr hogyn

ifanc. Hyd heddiw, Sonny Rollins

yw un o arwyr Osian.

Cyn ymadael â'r ysgol, roedd

Osian wedi ennill Gwobr

Unawdydd Jazz y 'Daily

Telegraph', a hefyd ysgoloriaeth i'r

Academi Gerdd Frenhinol. Yn

ystod ei gyfnod yn yr Academi,

bu'n recordio gyda cherddorion

jazz eraill, gan ennill Gwobr Perrier

am Albwm Jazz gorau'r flwyddyn.

Derbyniodd wobr yr Academi

Frenhinol i chwaraewyr jazz ym

1998, ac aeth i Unol Daleithiau'r

America o dan nawdd y

Ffederasiwn Gerdd Ryngwladol.

Cafodd gyfle yno i chwarae â rhai o

brif gerddorion y byd jazz yn

America. Yno i raddau mae ei

galon o hyd, o safbwynt ennill

bywoliaeth fel cerddor jazz. Yno

mae'r math o jazz sy'n ysbrydoli

Osian fwyaf ac yno hefyd teimla

bod cerddorion jazz h n, profiadol,

yn cael eu trin â llawer mwy o

barch gan gerddorion iau nag sy'n

gyffredin yn Llundain.

Llundain yw'r lle gorau o bell

ffordd ym Mhrydain i gerddor jazz

fyw. Yn un peth, mae'r chwaraewyr

enwog i gyd yn ymweld â Llundain

pan fyddan nhw ar daith — a dyna

fywyd cymdeithasol Osian, pan

ddaw'r cyfle i wrando ar y

mawrion. Ond mae'n fywyd digon

anodd ac, i Osian, mae rhai

agweddau yn ddigalon.

Mae Llundain yn lle drud iawn

i fywynddo ac, ar y cyfan, does

dim digon o waith, felly mae gofyn

i gerddorion jazz fod yn hyblyg,

gan chwarae cerddoriaeth o fathau

eraill yn aml. Er mwyn cadw corfF

ac enaid ynghyd eleni, treuliodd

Osian yr haf yn teithio o gwmpas

Ewrop gyda band y 'Tarantinos',

sy n chwarae ail fersiynau o fìwsig

ffilmiau Quentin Tarantino. Ar un

olwg, roedd yn brofiad rhagorol

cael teithio hyd a lled gwledydd

megis yr Eidal a'r Almaen a'r Swistir

wrth ymweld â gwyliau pop a

cholegau ac ati. Pleser ychwanegol

oedd mwynhau bwyd rhagorol a lle

da i aros ym mhob man - pethau

sy ddim yn digwydd yn aml yn y

byd jazz, yn enwedig yn Llundain.

At ei gilydd, does dim parodrwydd

i dalu'n hael i gerddorion jazz am

eu gwaith amryddawn, o'i

gymharu â'r sefyllfa ar gyfandir

Ewrop a Gogledd America, felly

anodd yw glynu wrth gerddoriaeth

jazz yn unig ym Mhrydain, heb

ddioddef rhyw gymaint o galedi.

Yn sicr, ni fyddai'n bosibl

ennill bywoliaeth ar hyn o bryd fel

cerddor jazz proffesiynol yng

Nghymru, ond mae Osian yn hoff

iawn o ddychwelyd adref, i gael

cyfle i siarad Cymraeg ac, wrth

gwrs, mwynhau bwyd Mam!

Ar hyn o bryd, mae Osian yn

para i ymarfer gydar Gerddorfa

Jazz Ieuenctid Genedlaethol. Mae'r

ymarferion bob dydd Sadwrn ym

Marylebone, o dan arweiniad Bill

Ashton, dyn y mae gan Osian y

parch mwyaf tuag ato am ei waith

enfawr. I gerddorion jazz Prydain,

mae'r Gerddorfa Jazz Ieuenctid yn

sefydliad pwysig iawn, oherwydd

bod cymaint o gerddorion o'r radd

flaenaf wedi dod o'i rhengoedd.

Does dim clyweliadau — dim

ond cerdded i mewn a chwarae ac,

os yw aelodau'r band o'r farn eich

bod yn ddigon da, cewch gyfle i

ymuno! Mae Bill Ashton yn hybu

gyrfaoedd ifanc proffesiynol hefyd,

drwy eu hannog i dderbyn gwaith

sy'n talu'n well a derbyn dirprwyon

yn eu lle yn y band pan fydd rhaid.

Nid yw Osian yn credu y

byddai'n ymarferol sef dlu'r math

yma o Gerddorfa Jazz yng

Nghymru, oherwydd byddai'r

diffyg cludiant cyhoeddus yn ei

gwneud yn anodd dwyn

cerddorion y De a'r Gogledd

ynghyd bob wythnos, serch hynny

newyddion da yw'r ffaith bod

eleni'n gweld sefydlu...

... .CERDDORFA JAZZ

GENEDLAETHOL

IEUENCTID CYMRU

Prosiect ar y cyd rhwng Cyd-

Bwyllgor Addysg Cymru a

Ffederasiwn Miwsig Amatur

Cymru, yn cael ei ariannu gan

Gronfa'r Loteri, yw'r Gerddorfa

Jazz Ieuenctid newydd sbon. Yr un

C A D W Y N

yw patrwm gweinyddol y

Gerddorfa Jazz â phatrwm

gweinyddu sefydliadau

cerddoriaeth glasurol sy wedi ennill

eu plwyf ers llawer dydd, sef

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid

Cymru a Chôr Cenedlaethol

Ieuenctid Cymru.

Eleni, cafwyd clyweliadau ym

mis Mai a nifer dda o ymgeiswyr.

Does dim cerddorion jazz

proffesiynol yn gwneud eu

bywoliaeth yn gyfan gwbl fel

perfformwyr yng Nghymru, ac

mae'n anodd i offerynwyr ifanc

gael gwersi jazz gan gerddorion

cymwys, felly roedd sawl ardal o

Gymru heb gynrychiolaeth o gwbl,

yn anffodus.

Dechreuodd y fenter newydd

gyda thridiau o gwrs ym mis

Gorffennaf, a chynhaliwyd

cyngerdd cyntaf Cerddorfa Jazz

Ieuenctid Cymru yn rhan o Wyl

Penrhyn G yr yng Nghanolfan

Dylan Thomas, Abertawe.

Eisoes, mae cynlluniau ar y

gweill ar gyfer 2002, gyda

ffurflenni cais wedi eu dosbarthu i

wasanaethau cerdd Awdurdodau

Addysg Lleol Cymru. Yng

Ngogledd Cymru oddeutu'r Pasg y

cynhelir cwrs y flwyddyn nesaf.

Arwydd yw'r datblygiad

newydd hwn o ddiddordeb

cynyddol mewn jazz fel un o brif

ddatblygiadau celfyddydol yr

ugeinfed ganrif.

Gobeithio'n fawr y daw

cynlluniau CYD i ben yn

llwyddiannus ar gyfer G yl Dewi

ac y cawn flas ar y gelfyddyd

honno, ag arlliw Gymreig, wrth

wrando sain sacsoffon Osian

Roberts.

(Mwy o wybodaeth ar

www.NYJO.org.uk)

gan Gwyneth Carey

Os 'dach chi'n dysgu Cymraeg, mae hi'n bwysig iawn darllen, ond darllen

beth? Ga i awgrymu Coban Mair gan Gwyneth Carey. Mae o'n un o gyfres

newydd, Nofelau Nawr gan Wasg Gomer, ac mae'r nofelau wedi cael eu

hysgrifennu gan awduron adnabyddus. Mae Coban Mair yn ardderchog. Mae

hi wedi cael ei hysgrifennu ar gyfer dysgwyr. Yn anfìFodus, dw i'n meddwl bod

rhai nofelau ar gyfer dysgwyr yn rhy syml. Mae'r llyfr hwn yn nofel go iawn.

Stori ydy hi am deulu camweithredol lle does neb yn siarad yn onest

gyda'i gilydd. Mae'r awyrgylch yn rhagorol o'r tudalennau cyntaf pan mae

Ann, merch Daniel a Mair, yn derbyn ei chanlyniad arholiad.

Pan o'n i wedi gorfFen y llyfr, roeddwn i eisiau darllen rhagor o waith

Gwyneth Carey, achos bod y stori yn un ddifrifol, a felly mi deimlais í mod

i wedi fy nghymryd o ddifri fel dysgwr. Weithiau roedd y pwnc yn

anghysurus, ond doedd gan yr awdur ddim ofn hyn.

Ar ôl i mi ddarllen y Uyfr, roedd gen i deimlad fod pethau ofnadwy wedi

digwydd yn y gorfFennol. 'Dy'n ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd, ond

mae'r arwyddion yn llenwi pob tudaJen.

Mae gen i un feirniadaeth: dw i eisio gwybod beth ddigwyddodd yn y

gorffennol, achos bod rhywbeth yn digwydd rhwng aelodau teulu Mair, a beth

í dd yn digwydd yn y dyfodol? Mae'r llyfr fel digwyddiad ym mywyd y teulu

a mi hofíwn i wybod mwy amdanon nhw. Mi ddylai'r Uyfr wedi bod yn hwy.

Beth bynnag, mi faswn i'n cymeradwyo'r llyfr hwn.

Ian Debeddyn

Geirfa

ar y gweill

eisoes wedi derbyn

i ddiddanu'r gwesteion

dathlu â chryn steil

y Gerddorfa Jazz Ieuenctid Genedlaethol

taro nodyn Cymreig priodol

cwbl gyfoes

dylanwadwyd yn fawr arno gan

athro cerdd teithiol ar y chwythbrennau

athro ysbrydoledig

Band Chwyth Ysgolion Caerdydd

cyw o frid

canwr o fri

ymron pob cwmni opera o bwys

cynllunydd setiau

taid ar ochr ei fam

cyn belled ag oedd.. .yn y cwestiwn

miwsig y diafol

gydol yr amser

yr ennyd gofiadwy

roedd wedi dotio gymaint

yn hytrach na

achlysur bythgofiadwy

Y Ffederasiwn Gerdd Ryngwladol

o safbwynt ennill bywoliaeth

cerddorion jazz h n, profiadol

yn cael eu trin â llawer mwy o barch

mae rhai agweddau yn ddigalon

cadw corfìf ac enaid ynghyd

hyd a lled gwledydd

does dim parodrwydd

heb ddioddef rhyw gymaint o galedi

y parch mwyaf tuag ato

clyweliadau

Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru

Ffederasiwn Miwsig Amatur Cymru

ennill eu plwyf

oddeutu'r Pasg

arlliw Gymreig

pocabulary

Welsh idiom. In progress (lit. 'on the

knitting needles'!)

already recewed/accepted

to entertain the guests

The National Youth Jazz Orchestra

(NYJO)

to strike an appropriate Webh note

totally contempomry

he was greatly influenced by

woodwindperipatetic music teacher

an inspiring teacher

Cardiff Schools' Wind Band

Welsh idiom. A giftedperson offine

lineage (lit. a chick with breeding!)

a distinguished singer

almost every opera company ofnote

set designer

maternal grandfather

asfar as... was concerned

the deuil's music

constantly

the unforgettable moment

hed become so entranced with

rather than

a memorable occasion

The International Music Federation

from the point ofuiew ofearninga living

older, experiencedjazz musicians

they are treated with much more respect

some aspects are disheartening

to keep body and soul together

the length and breadth ofcountries

there is an unwillingness

without sufferíng some hardship

the greatest respectfor him

auditìons

Welsh Joint Education Committee

Welsh Amateur Music Federation

to gain currency or recognition

around Easter time

a tinge ofWelshness

Osian Roberts is a jazz saxophonist who is a member of the National Youth Jazz

Orchestra. He was born in Cardiff and now lives in London because that is the

best place to be for jazz musicians. Hopefully he will be entertaining the guests at

a CYD evening in London next Saint David's Day.

Eurgain Fowler

Mae Eurgain yn aelod oes o CYD

Geirfa

Ga i awgrymu

wedi cael eu hysgrifennu

wedi cael ei hysgrifennu

camweithredol

gyda'i gilydd

ei chanlyniad arholiad

Pan o'n i wedi gorffen

roeddwn i eisiau

fy nghymryd o ddifri

doedd gan yr awdur ddim ofn hyn

roedd gen i deimlad

Mae gen i un feirniadaeth

Mi ddylai'r llyfr

mi faswn i'n cymeradwyo'r llyfr hwn

Vocabulary

May I suggest

have been written

has been written

disfunctional

together

her exam result

When I hadfinished

I wanted

taken in earnest

the author was not worried by this

I had a feeling

I have one criticism

The book ought to have (should have)

I would recommend this book

Darllen dif yr dros y dolig!

BETHAN

Detholiad o gerddi sy'n rhoi

cyfle i fwynhau a gwerthfawrogi

talentau rhai o brif feirdd yr

^v ugeinfed ganrif. J

N O F E L A U

NAWR

Croeso nôl i Biodwen, y ddysgwraig despret o

Wynedd, sy'n sengl eto, yn chwilio am gariad

newydd, yn dal i ddysgu Cymraeg, ac yn dal i

weithio yn y llyfrgell.

ddoe

'S JONES

'Elenwytti;

rwytti'nbyw

yng Nghaerdydd'

meddai'r bachgen

wrth Llinos yn

y dafarn yng

Nghaernarfon.

Dyna ddechrau'r

dirgelwch, ond beth

fydd ei ddiwedd?

GOMER

Llandysul, Ceredigion SA44 4QL

Ffôn: 01559 362371

Ffacs: 01559 363758

e-bost: gwasg@gomer.co.uk

we: www.gomer.co.uk

C A D W Y N

(Gwyliau yn Llydaw)

Na, nid gweddi am faddeuant fy

mhechodau yw hyn, dim ond

"diolch" yn yr iaith Lydaweg!

Diolch am bopeth: am groeso

cynnes y bobl ac am wyliau

ardderchog mewn gwlad mor

hardd a diddorol.

Pan ddaeth amser ein

hymadawiad, yr oedd gennyf

hiraeth mawr: dwy flynedd heb

weld yr Hen Wlad! Ond yn y trên

— ond mae'r daith mewn TGV yn

gyffyrddus dros ben — fe

ddechreuais i edrych ymlaen at

brofìad hollol newydd.

Er bod golygfeydd y "Côtes

d'Armor" yn llai mawreddog na

mynyddoedd Cymru, o mor

brydferth yw pentrefì'r cefin gwlad

gyda'u bythynnod wedi'u

hadeiladu o wenithfaen, eu

maenorau, eu meysydd bychain

a'u lonydd tawel! Wrth bob

croesffordd mae croes Geltaidd

wedi'i gwneud o wenithfaen llwyd

fel cymaint o eglwysi a chapeli. Un

o'r capeli enwocaf yw "Kermaria -

an - Iskuit" (XIIfed ganrif) yn

Plouha. "T Mair sy'n rhoi

iechyd" yw ystyr ei enw ac os

ydych chi'n sylweddoli pa mor

fawr oedd ofn angau'r bobl yn

amser y pla, byddwch chi'n deall y

dewis 'ma yn hawdd. Y tu mewn y

capel, mae ffresco o'r "danse

macabre" sydd yn dangos fod yr

un dynged yn aros am bawb

esgobion, uchelwyr a phobl

gyffredin.

Beth am yr iaith ar diwylliant?

Wel, er ein bod yn aros mewn

ardal "gallo", sy'n gyfwerth i ardal

di-Gymraeg yng Nghymru,

cawsom ni'r cyfle i gwrdd â dau

diwtor a aeth â ni i ddosbarth

Llydaweg. Wrth gwrs mae'r holl

Gymry'n gwybod mai Celtaidd

yw'r iaith Lydaweg, ond efallai y

byddai rhai ohonyn nhw'n cael eu

synnu i sylwi tebygrwydd mor

hynod rhwng y ddwy iaith.

Geirfa

amser ein hymadawiad

wedi'u hadeiladu o

wed'i gwneud o wenithfaen llwyd

enwocaf

ofn angau'r bobl

yr un dynged

gyfwerth

tebygrwydd mor hynod

amgyffred

a chyda theimlad dwfn

fel pe bai eisiau arnynt ddatgan

Gadewch i fì ddyfynnu rhai

enghreifftiau: "tad, mamm, mab,

merc'h, tan, dour (ou=w), amzer,

glas, du, gwenn, (y "Gwenn ha

Du" yw enw baner Llydaw), aval",

ac felly yn y blaen. Mae'r gair

"amzer" yn cael eu ddefnyddio i

gyfieithu "tywydd" yn ogystal ag

"amser" (cf Ffrangeg "temps").

Yr arfordir ger Tréveneuc

Mae treigliadau - ee "da dad"

= "dy dad" — a hyd yn oed treigliad

caled - ee "ar genou" = "y genau"

ond "ho kenou" = "eich genau"!

Mae gan y ddwy iaith yr un ffordd

o gyfrif, ee "ugent(20), daou-ugent

(40), hanter-kant, dek ha peverugent(90).

Felly, yn wir, heblaw'r

geiriau wedi'u benthyca o'r

Ffrangeg, yn ogystal â rhai o'r

berfau sydd yn eitha cymhleth, yr

orgraff wahanol yw'r unig rwystr i

amgyffred digon da yr iaith.

Ar ôl y dosbarth, cawsom ni

sgwrs gyda gr p o bobl ifanc yr

oedd rhai ohonyn nhw wedi bod

yng Nghymru. Ar ein cyfer, fe

ganon nhw eu hanthem "Bro

Gosh Ma Zadou", y mae'r un dôn

ganddi â "Hen Wlad fyr Nhadau".

Hyfryd oedd lleisiau'r bechgyn a'r

merched yn canu "Bro, Bro" (tôn

"Gwlad, Gwlad") yn araf a chyda

Vocabulary

time for us to leave

constructedfrom

constructed from grey granite

most famous

the people's fear ofdeath

the same fate

equal

such uncanny similarities

comprehend

with deep feeling

as ifthey wished to announce

theimlad dwfn! Gan bob Llydawr

mae cerdd yn y gwaed.

Wedyn fe aeth yr athrawon â

ni i d -bwyta i gael swper blasus

iawn o grempogau a seidr ac yna,

fe aethom ni i gyd i "fest-noz"

(noson lawen) mewn fferm. Ar ôl

parcio'r car mewn cae, fe

gyrhaeddom ysgubor ddirfawr

llawn o bobl o bob oed; yr oedd

plant bychain gyda'u rhieni, pobl

ifainc a phobl wedi ymddeol yn

mwynhau noswaith draddodiadol

gyda'i gilydd.

Yr oedd y naill yn dawnsio yn

y canol a'r lleill yn eistedd ar

feinciau o gwmpas y 'stafell.

Yr oedd eraill yn crwydro ymhlith

stondinau crempogau a seidr neu

yn sefyll wrth y goelcerth y tu

allan.

Ar lwyfan, yr oedd dau r

henaidd yn canu gydag egni

rhyfeddol a brwdfrydedd mawr. Y

Brodyr Morvan oedden nhw, sydd

yn enwogion yn Llydaw. Yn

wreiddiol yr oedd pedwar ohonyn

nhw, ond yn anffodus, fe fuodd un

farw ac yr oedd y pedwerydd yn

dost. Gyda'u capiau ar eu pennau,

bydden nhw wedi gallu bod yn

ffermwyr o gefn gwlad Cymru.

Gallech chi eu dychmygu nhw

mewn porfeydd gwelltog i fyny ar

y mynydd gyda'u c n a'u defaid,

fel pe bai eisiau arnynt ddatgan i'r

C A D W Y N

Mae Catalog Nadolig ACEN ar gael NAWR

NADOLIG O HUD |

Sgorio

Emyr Davies (gol.)

£4.95

Powdwr Rhech

Eirug Wyn

£3.95

Cymru o Hud

(clawr caled)

Gwynfor Evans a

Marian Delyth

Cyfres Celf 2000

£19.95

Agoriad yr Oes

(clawr caled)

Dafydd Glyn Jones

£14.95

Caneuon Ems

Emyr Huws Jones

Pam Ni Duw?

John Owcn ~ »

£6.95

C A D W Y N

CYD Cangen Ysgol Gyfiin Emlyn

CYD Penfro

Dros fìsoedd yr haf bu'r gangen wrthi'n canwio, seiclo a cherdded. Beth am

ddilyn eu siampl nhw a rhoi cynnig ar amryw o weithgareddau yn yr awyr

agored? Trefnydd y gr p yw Olive Corner.

Canwio ar yr afon Teifi, Cilgerra

Cefnogwyr CYD Penfro yn sefyll ar Argae, "dam" Llys-y-frân, yn y

Preselau, yn gwrando ar John Waddington, rheolwr Parc Gwlad Llys-y-

Frân, cyn ymuno ag aelodau cangen Ysgol Gyfun Emlyn yn Nhafarn Sinc.

Mae John yn tywys yn y Gymraeg, (ar ôl dysgu Cymraeg ar gyrsiau yng

Ngwent, Morgannwg a Dyfed.

Seiclo yn ardal Abercych

What about

following their example

by having a go at a

variety ofoutdoor

actwities? Send us

phototgraphs for the next

copyofCADWYN. >

Os hoffech chi wahodd aelodau canghennau eraill CYD i ymuno â chi i

gerdded, neu weithgaredd arall, mae croeso i chi gysylltu â Dafydd

Gwylon, ffôn: 01834 813249, neu gysylltu â chyswllt, "contact person",

cangen sy'n gyfleus i'ch ardal chi.

CYD Cwm Gwendraeth

Mae cyswllt newydd gyda CYD Cwm Gwendraeth Ucha, sef Pamela Pease.

Mae CYD Cwm Gwendraeth yn cwrdd ar fore Gwener, fel arfer, yn

Drefach a chroeso i ddysgwyr a Chymry Cymraeg ymuno â'r gr p. Er

mwyn cael mwy o wybodaeth, gallwch ffonio Pamela, rhif ffôn: 01554

820557.

Mae eisiau i ni heíyd ddiolch yn fawr i Fred Bond am ei waith effeithiol

a chyson fel cyswllt CYD Cross Hands a Chwm Gwendraeth, am bron

chwe blynedd [cyn i Pamela ddechrau fel cyswllt]. Roedd llun o Fred a

Pamela yn y papur bro yn ddiweddar, yn dangos Fred yn derbyn anrheg gan

aelodau CYD.

CYD Hwlffordd

Ar fore Sadwrn

Mae cyfle i ddysgwyr a Chymry Cymraeg ardal Hwlffordd sgwrsio a

chymdeithasu yn Gymraeg, ar fore Sadwrn. Mae cangen CYD Hwlffordd

yn cwrdd yn The George's, Stryd y Farchnad, Hwlffordd, fore Sadwrn olaf

y mis, rhwng 1 lam a 12.30pm. Y cyswllt sy'n trefnu yw Cefìn Knox, a'i rif

ffôn e yw: 01437 762223, os hoffech fwy o fanylion.

Cerdded yn y Preselau

Geirfa

cyswllt newydd

mwy o wybodaeth

am ei waith effeithiol a chyson

cyflc

sgwrsio a chymdeithasu

yn cwrdd yn

(b)fore Sadwrn olaf y mis

os hoffech fwy o fanylion

Vocabulary

new contact

more information

for his constant and efficient work

opportunity

cbatting and socialising

meeting in

the last Saturday morning in the

month

ifyou would like further details

Pryd a chwis yn Nhafarn Sinc

O'r chwith i'r dde: Martin, Stephen. Mike, Mac ac Estelle.

CYD Hwlffordd yn y Dafarn Sinc, Rosebush mis Mehefìn 2001

!0

C A D W Y N

Digwyddiadau cangen Castell

Newydd Emlyn

Mis Mai a noson gymdeithasol oedd

gennym pan gynhaliwyd Eisteddfod

fach 'MinfFordd' yng nghartref ein

cadeirydd Ken Jones. 'Sioni

Wynwyns' fu'r gerdd gan fardd lleol o

fri sef Dic Jones a'i chwaer Mary yn

beirniadu. Bu'r safon yn uchel a'r clod

am hynny i'r dysgwyr wedi dysgu'r

darn ac adrodd mor dda.

Llongyfarchiadau i Nesta Grant am

ddod i'r brig.

Oherwydd clwy'r traed a'r genau

nid aeth aelodau i 'Gaws Cenarth' yn

ôl rhaglen Mehefin ond daeth nifer

dda ynghyd i Faes Llewelyn â thapiau

miwsig a chlywyd amrywiaeth

anhygoel sef clasurol, baledi, gwerin a

chorau lleol yn perfFormio yn yr

eisteddfodau. Noson oedd yn codi

sgwrs a braf oedd clywed y dysgwyr

yn defnyddio'r Gymraeg.

Ar gyfer cyfarfod olaf y tymor

ym mis Gorffennaf cafwyd 'Noson y

Dysgwyr' a rhai ohonynt yn siarad

am brofiad, digwyddiad neu rywbeth

oedd yn eu diddori nhw. Clywyd am

y byd patur, yn enwedig yr adar sy'n

ymweld â ni yn yr ardd, gan Bob a

hefyd bu Margaret yn siarad am

liwiau tymhorau'r flwyddyn a'u

dylanwad ar ein bywydau. Soniodd

Fleur am brofiad arbennig cafodd hi

a Peter ar y llong sef Y Keewadyn yn

Aberteifi ac wedi dod â ffotograffau

i'w dangos i ni. Llongyfarchwyd y

dysgwyr gan Ken ar feistroli'r iaith a

diolchodd iddynt am noson hynod o

ddiddorol.

Agorwyd cyfarfod blynyddol y

gangen ar 12eg o Fedi gan Ken Jones

yn dweud diolch o galon i'r

swyddogion am eu gwaith diflino

trwy'r tymor diwethaf a

chydymdeimlwyd â Mary Jane ar

farwolaeth ei thad yn ddiweddar.

Cafwyd syniadau gwych gan yr

aelodau i'r rhaglen newydd a

phenderfynwyd yn unfrydol mynd i

Blas Rhos y Gilwen am ginio

Nadolig eleni. Ceir rhaglen lawn o

weithgareddau'r gangen nes ymlaen.

Daeth y noson i ben gyda phaned a

chlonc.

Margaret Homan

Is-gadeirydd CYD Castell Newydd

Emlyn

Newcastle Emlyn branch events

In May an Eisteddfod was held in the

home of Ken Jones, Chair of the

branch. A well lcnown local bard, Dic

Jones, and his sister acted as

adjudicators. Congratulations to

Nesta Grant for winning the

recitation competition.

Due to Foot and Mouth the

June visit to 'Caws Cenarth' was

cancelled. In its place a musical

evening was held at Maes Llewelyn.

In July 'The Learners Evening'

provided the chance to exchange

interesting personal experiences.

AGM- 12September2001

Ken Jones, Chair, thanked the

officers for their untiring work and

sympathies were extended to Mary

Jane on the recent death of her father.

CHRISTMAS DINNER 2001

Many excellent ideas were discussed

for the new programme of events,

with a unanimous decision to hold

the Christmas Dinner in PLAS

RHOS Y GILWEN. The learners

were congratulated on their progress.

Ceredîgion

Aberystwyth

Bore Coffi 11.00 - 12.00 bob bore

dydd Iau yn y Grapevine, Heol y

Wig

Clonc a Pheint 8.00 bob nos

Fawrth Tafarn y C ps

Parti Nadolig nos Wener 7 Rhagfyr

Llatnbed

Bore Coffi 11.00 - 12.00 bob bore

dydd Mawrth yn y Llew Du

Clonc a Pheint 8.00 bob nos

Fercher Tafarn y Ram, Cwman

Parti Nadolig dydd Iau 13 Rhagfyr

Davies & Lewis

Cyfrifwyr Ardystiedig

Siartredig

Am wasanaeth

cyfeillgar a

phroffesiynol yn rhoi

cyngor ar gyfrifon a

threth trwy gyfrwng y

Saesneg neu'r

Gymraeg, cysylltwch

â ni yn Aberystwyth

ar

01970 612231

Llên, Llun. Llwyfan

gan Mihangel Morgan -

"E9.99

V GAHOIFAN ASTUOIAITHAU ADDYSG

Wys(pl Cywii Yt H» G*g Stfyo y Brewf «•)•)». Rlflon S«3 2M

Flfinû1970 622128 Ftacr Ot

Ffoniwch heddiw

os hoffech chi drafod biliau, trwsio, neu prynu

i gofrestru am fil ffôn Cymraeg

(bil ffôn cyffredin) ynghyd â chatalog o nwyddau

hyrwyddo yn y Gymraeg

i gofrestru eich ffôn BT Cellnet ac i gael gwasanaeth

Ymholiadau Llyfr Ffôn yn y Gymraeg

Cyfle arbennig i ddarllenwyr Cadwyn i

ennill set deledu wrth gofrestru heddiw i

dderbyn bil Cymraeg.

Mae cofrestru yn syml. Codwch yffôn a ffoniwch 0800 800 288 am ddim.

Rhowch eich enw, a'ch rhifffôn a cofiwch gyfeirio at gylchgrawn Cadwyn.

Cofrestrwch heddiw a nhnh Iwc

Ar agor i dderbyn galwadau gan gwsmerìaid preswyl:

8.00 y bore i 6.00 yr hwyr Llun i Sadwrn

BTbo e080 288

Defnyddiwch eich Cymraeg

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!