03.09.2015 Views

Rhifyn 48 Hydref 2004 - Cyd

Rhifyn 48 Hydref 2004 - Cyd

Rhifyn 48 Hydref 2004 - Cyd

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 3:00 pm Page 12

Newyddion o Gangen Cyd Llanfairfechan

Annwyl Gyfeillion

Mi aeth pedwar aelod o gangen Llanfairfechan i’r Eisteddfod

Genedlaethol yng Nghasnewydd eleni. Yno derbyniodd Flo a Louis

Brady dystysgrifau am basio’r arholiad lefel sylfaen. Mae Flo a Louis

wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner. Hefyd yn yr

Eisteddfod mi dderbyniodd Flo (ffug enw Gwladys Emanuel) wobr am

ysgrifennu Sgwrs mewn Tafarn.

Alan Jones, Cyd Llanfairfechan

Here we hear of Flo and Louis passing their Welsh exam. Flo also won

a prize in one of the competitions for learners in the Eisteddfod A Chat

in a Pub. Flo and Louis have been learning Welsh for a year and a half.

Congratulations to both of them on their achievement.

Sgwrs mewn Tafarn gan Flo Brady

Tafarn y Victoria, hanner awr wedi saith, nos Wener.

Mae Bethan, Elwyn a Gareth yn eistedd mewn ystafell fach. Mae

Gwyneth yn d˘ad i mewn yn cario’i diod.

Gw: O, dyma le dach chi!

Ga: We, wel, dyma Gwyneth o Wynedd! S’mai?

B: O’r diwedd.

Gw: Mae’n ddrwg gen i ’mod i’n hwyr.

E: S’dim ots. Doedd y cwrw ddim yn hwyr.

B: Lle wyt ti wedi bod?

Gw: Drws nesa. Ro’n i’n meddwl ’mod i yma gyntaf. Be’ sy’n bod

efo’r ystafell arferol?

B: Mae hi’n rhy swnllyd.

Gw: Rhy swnllyd? Ro’n i yno am tua ugain munud a wnes i ddim

clywed dim byd.

E: Dim eto, na. Ond mae ‘na gr˘p o bobl yno yn barod i ddechrau

canu Karaoke.

B: Fel baset ti’n gwybod, taset ti wedi d˘ad yma’r wythnos

diwethaf. Lle’r oeddet ti?

Gw: O, mae gen i hanes diddorol i chi! Mi es i i Stiwdio Barcud i

weld rhaglen Cariad@iaith.

Ga: Yn Stiwdio Barcud? Ro’n i’n meddwl bod y rhaglen yn Nant

Gwrtheyrn.

Gw: Ydi, fel arfer, pan mae’r bobl yn dysgu Cymraeg. Ond roedd

y rhaglen yno dipyn yn wahanol. Wnaethoch chi ei gweld hi?

B: Naddo, wir! Roedden ni yma yn aros amdanat ti.

Gw: Wel, mae’n ddrwg gen i. Ond fasech chi wedi gwneud fideo o’r

rhaglen, basech?

Ga:

Gw:

Sut hwyl gest ti, beth bynnag?

Roedd hi’n noson hwyliog iawn. Mi wnes i gyfarfod llawer o

bobl glên ac roedd y sioe yn ddiddorol iawn. Ac - mi gaethon

ni bedair potel o win ar un bwrdd, am ddim.

E: O, neis iawn.

B: Wel rwyt ti’n ffrind bendigedig, mae’n rhaid i mi ddeud! Pam

na ddudest ti ddim byd wrthon ni?

Gw: Doedd dim amser. Mi ddudodd fy nhiwtor wrthon ni yn y

pnawn, ac roedd rhaid i mi gychwyn o’r tfl am chwech.

B: Ac, wrth gwrs, dw i ddim yn cyrraedd adra o’r gwaith tan

chwarter i bedwar. Dim amser, wir!

Gw: Wel, mae’n ddrwg gen i eto.

Ga: Be’ am y rhaglen? Welest ti’r sêr?

Gw: Do, si˘r. Mae Ruth Madoc yn ddynes reit glên. Ac Amy! O,

mae Amy’n ddel iawn. Ac roedd y ddwy ohonyn nhw wedi

dysgu tipyn bach o Gymraeg, ’sti... Un o’r dynion hefyd – dyn

ifanc o’r enw Jamie, hogyn eithaf neis. Roedd ‘na ddyn arall,

hefyd, oedd yn actio yn Pobol Y Cwm ers talwm. Roedd o’n

reit ddoniol ond do’n i ddim yn meddwl ei fod o wedi dysgu

cymaint. Ond Tanni oedd y seren fawr! Mi sgoriodd hi gant yn

yr arholiad ar ddiwedd y cwrs bach.

E: Ond Nia oedd y seren go iawn, mae’n si˘r.

Ga:

Dyma Flo Brady yn derbyn ei gwobr gan Geraint Wilson Price ym Mhabell y Dysgwyr

O, dw i’n cytuno. Mae Nia’n hyfryd, yn brydferth, yn berffaith!

O, dw i’n ei charu hi!

B: Ych-a-fi! Nia’n fan‘ma, Nia fan‘ na, Nia’n fan acw. Well i ni

newid ein henwau i Nia, dw i’n meddwl!

E: Hei, sdim ots am Nia. Be’ ydi’r s˘n ‘na?

Gw: Pa s˘n?

B: Y Karaoke, mae’n si˘r.

E: Ond gwrandewch! Maen nhw’n canu Ar Lan y Môr.

Ga: O, ydyn. Mae gynnyn nhw fideo o Dafydd Iwan.

E: Gadewch i ni fynd i mewn. Brysiwch!

Llun Felicity Roberts

12

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!