03.09.2015 Views

Rhifyn 48 Hydref 2004 - Cyd

Rhifyn 48 Hydref 2004 - Cyd

Rhifyn 48 Hydref 2004 - Cyd

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 2:59 pm Page 10

D Y S G W R Y F L W Y D D Y N L E

Profiad Cystadlu

gan Lois Arnold, Dysgwr y Flwyddyn 2004

Bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae cystadleuaeth

o’r enw ‘Dysgwr y Flwyddyn’. Mae ITV Cymru yn

paratoi rhaglen deledu am y gystadleuaeth. Ro’n i wedi

gwylio’r rhaglen bob blwyddyn ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg.

Weithiau ro’n i wedi breuddwydio am gymryd rhan yn y

gystadleuaeth – ac ennill! Ond do’n i ddim wedi meddwl o ddifrif

am gystadlu – dim tan eleni, pan ddaeth yr Eisteddfod i Went.

Does dim llawer o bobl yn siarad Cymraeg yn yr ardal yma, ond

mae miloedd yn dysgu. Ro’n ni eisiau i bobl weld bod y Gymraeg

yn bwysig i ni yma. Felly, cytunais i roi cynnig ar y gystadleuaeth.

Ro’n i’n teimlo’n swil ac yn nerfus, ond penderfynais fwynhau’r

profiad a chael hwyl.

Yn y rownd gyntaf roedd rhaid i ni fynd am y diwrnod i Dfl

Tredegar, safle’r Eisteddfod eleni. Daeth dysgwyr eraill o bob rhan

o Gymru ac roedd hi’n hyfryd cwrdd a siarad â nhw. Yn ystod y

dydd cawson ni gemau, cwis, sgyrsiau gan siaradwyr a lot o hwyl!

Cawson ni i gyd gyfweliad gyda’r tri beirniad, hefyd. Roedd pawb

yn nerfus, ond roedd y beirniaid yn gyfeillgar ac yn gefnogol iawn!

Ar ôl mynd adre roedd rhaid aros i glywed a o’n i wedi cyrraedd y

pedwar olaf. Faswn i ddim wedi synnu taswn i ddim wedi cael fy

newis, gan fod pawb yn siarad Cymraeg mor dda. Ond ro’n i wrth

fy modd pan glywais fy mod i wedi cyrraedd y ffeinal, a theimlais

ei bod hi’n anrhydedd fawr. Roedd pethau’n gyffrous iawn wedyn.

Daeth Nia Parry a chriw teledu i ffilmio fi ar gyfer y rhaglen.

Wedyn roedd rhaid paratoi am y rownd derfynol ar Faes yr

Eisteddfod. Roedd hi’n help mawr siarad ar y ffôn â’r tri arall oedd

yn y rownd derfynol - Jane, Alison a Nick.

Roedd hi’n boeth iawn ar ddiwrnod y ffeinal a ro’n ni i gyd

yn nerfus ac yn chwyslyd! Roedd rhaid i ni siarad ar y

llwyfan ym Mhabell y Dysgwyr. Yna cawson ni ginio

hyfryd ym Mhabell ITV a gweld y ffilm o’n nhw wedi’i

wneud amdanon ni. Wedyn yn ôl i Babell y Dysgwyr i

siarad am ein ‘trysorau’ (ro’n ni wedi dod â phethau oedd

yn bwysig i ni), ac yn olaf, cyfweliadau gyda’r beirniaid.

Lansiais i fy llyfr i ddysgwyr, ‘Cysgod yn y Coed’ hefyd,

felly roedd hi’n ddiwrnod llawn cyffro! Roedd hi’n braf

iawn wedyn cael mynd i fy mhabell ar y Maes Carafannau

i orffwys, cyn newid a mynd i’r Noson Wobrwyo.

Roedd hi’n noson hyfryd pan gyrhaeddon ni’r gwesty ac

roedd pawb yn ymlacio, yn yfed gwin ac yn mwynhau –

pawb ond Alison, Jane, Nick a fi! Ond o’r diwedd daeth

yr amser i’r beirniaid gyhoeddi pwy oedd wedi cael ei

ddewis fel Dysgwr y Flwyddyn 2004. Ces i sioc pan

glywais fy enw i! Ces i dlws hyfryd yn wobr a chafodd

y pedwar ohonon ni sawl gwobr arall, gan gynnwys

aelodaeth o Cyd.

Os dych chi’n ffansio rhoi cynnig ar y gystadleuaeth yn y dyfodol,

ewch amdani! Mae’n llawer o hwyl ac mae’n brofiad

bythgofiadwy.

GEIRFA

cystadleuaeth

Ro’n i wedi

ers i mi ddechrau

roi cynnig

Faswn i ddim wedi synnu

taswn i ddim wedi cael fy newis

Ro’n i wrth fy modd

Pan glywais i fy mod wedi cyrraedd

ewch amdani

profiad bythgofiadwy

competition

I had … (pluperfect)

since I started

give it a try

I wouldn’t have been

surprised

if I hadn’t been chosen

I was delighted

When I heard that I

had reached …

go for it

unforgettable

experience

10

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!