03.09.2015 Views

Rhifyn 48 Hydref 2004 - Cyd

Rhifyn 48 Hydref 2004 - Cyd

Rhifyn 48 Hydref 2004 - Cyd

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 2:54 pm Page 1

Rhifyn 48 Hydref 2004

Am ddim/Free

Y cylchgrawn i siaradwyr a dysgwyr

The magazine for Welsh

y Gymraeg

speakers and learners

CYD

Cyhoeddir 15,000 o Cadwyn

Cyd bedair gwaith y

flwyddyn fel arfer. Cyfle

gwych i hysbysebu.

Tudalen/Page 4/5

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2004

Tudalen/Page 6

Gwefan Newydd i Cyd

Tudalen/Page 7

Ugain Mlwyddiant Cyd

Tudalen/Page 10/11

Dysgwr y Flwyddyn 2004

Tudalen/Page 13

Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas 2004

Dawnswyr Bola Laoanna

Yn diddanu ymwelwyr â Phabell Cyd - Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a’r Cylch

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 2:56 pm Page 4

Cyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a'r Cylch 2004

Tîm H

Cydra

Tîm Caerdydd

3ydd / 3rd

Cwis Cenedlaethol Cyd

Lowr

yn cy

adwe

Mhab

Tîm Llanelli

1af / 1st

Tîm Caerffili

2il / 2nd

Tîm Sir y Fflint

Cydradd 4ydd / Join

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 2:56 pm Page 5

Tîm Hirwaun

Cydradd 4ydd / Joint 4th

Edwyn Williams

Cwisfeistr Cwis Cenedlaethol Cyd

Rhodri Francis

(Yn y canol)

yn sgwrsio

y tu allan i

Babell Cyd

Lowri Gwenllian

yn cynnal sesiwn

adweitheg ym

Mhabell Cyd

y Fflint

4ydd / Joint 4th

Sesiwn Cyd ym Mhabell y Dysgwyr

gyda Guto Dafis ar yr acordian â

botymau

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 2:57 pm Page 6

www.cyd.org.uk gwefan newydd - new website !

Diolch i Arian i Bawb Cymru am ddyfarnu grant o

£4,750 i Cyd i greu gwefan newydd i’r

mudiad.

Daeth grw^p o Gymry Cymraeg a

dysgwyr ynghyd yn ddiweddar i drafod

rhai o’r pethau y dylai Cyd eu cynnwys

ar y wefan newydd.

Cwmni Technoleg Taliesin sy’n creu’r

wefan i ni.

Bydd pob cangen o Cyd yn cael tudalen

ei hun i gyfrannu gwybodaeth am eu

gweithgareddau, manylion a rhaglen y

gangen. Trefnir cymorth i aelodau’r

gangen i ddysgu sgiliau newydd, fel

ysgrifennu adroddiadau, tynnu lluniau a’u

paratoi i fynd ar y wefan ac ati.

Mae croeso i chi anfon eich sylwadau a’ch

syniadau am yr hyn yr hoffech chi ei weld

ar wefan Cyd i Cyd, 10 Maes Lowri,

Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AU, neu e-

bost: cyd@aber.ac.uk

Thanks to Awards For All Wales for awarding a grant of £4,750 to

Cyd to create a new website for the organisation.

Diolch i Simon Thomas AS am gyflwyno’r siec

i Jaci Taylor, Rheolwr Canolog Cyd

A group of Welsh speakers and learners came together recently to

discuss some of the things which Cyd should have on the new website.

Company Technoleg Taliesin is

creating the website for us.

Each Cyd Branch will have

their own page to contribute

information about their

activities, branch details and

programme. Help will be

organised for branch members

to learn new skills, such as

writing reports, taking

photographs and processing

them to put on the website etc.

You are welcome to send your

comments and ideas about

what you would like to see on

the website to Cyd, 10 Maes

Lowri, Aberystwyth,

Ceredigion SY23 2AU, or

e.mail: cyd@aber.ac.uk

6

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 2:57 pm Page 7

UGAIN MLWYDDIANT CYD

Cyfarchion y Llywydd Anrhydeddus Yr Athro Bobi Jones

Pen-blwydd hapus, bawb.

Dyma ni eleni yn cael ugeinfed pen-blwydd Cyd.

Ugain mlynedd yn ôl daeth criw bach at ei gilydd yn Aberaeron.

Dyma nhw’n penderfynu bod eisiau mudiad iaith i oedolion.

Mudiad i ddysgwyr a siaradwyr rhugl arfer y Gymraeg.

Doedd protestio ddim yn ddigon. Doedd cadw ddim yn ddigon.

Rhaid oedd ennill yn ôl. Rhaid oedd ymarfer siarad. Rhaid

oedd gwneud rhywbeth ein hunain. Ac felly, ar ôl penderfynu,

dyma fynd ati i sefydlu canghennau.

Wedyn, dyfal donc a dyr y garreg, o gangen i gangen.

Weithiau, fe fydd pobl o’r tu allan yn meddwl mai mudiad i

ddysgwyr yw Cyd. Ond Cyd yw’r enw. Mae’n meddwl ‘gyda’n

gilydd’. Yn wir, y dyddiau hyn mae mwy o angen Cyd ar y

Cymry Cymraeg efallai. Mae eisiau iddyn nhw wybod am yr

adfywio yn ymarferol. Mae eisiau iddyn nhw godi eu calonnau.

Mae eisiau iddyn nhw fod yn rhan o’r ennill tir.

Felly, pen-blwydd hapus BAWB

Greetings from the Honorary President Professor Bobi Jones

Happy Birthday Everyone

Here we are this year having Cyd’s 20th birthaday.

Twenty years ago a small crew came together in Aberaeron.

They decided that there was a need for a language organistion

for adults. An organisation for learners and fluent Welsh

speakers to revive the Welsh language. Protesting was not

enough. Retaining the language was not enough. It had to be

regained. It was necessary to practise speaking it. We had to

do something ourselves. And therfore, after the decision, set to

it establishing branches of Cyd. Afterwards, bit by bit knocking

away at it, from branch to branch. Sometimes, people from

outside think that Cyd is an organisation for learners.

But Cyd is the name. It means together (with each other).

Indeed, these days it is likely that Welsh speaking Welsh people

have more of a need for Cyd. They need to know about the

revival in

practical terms.

They need to lift

up their hearts.

They need to be

part of the

regaining of the

land.

So happy birthday

Aelodau gwreiddiol un o ganghennau cynharaf EVERYONE.

Cyd, Cangen Cyd Aberystwyth

Ysgoloriaeth Dan Lynn James

Scholarship 2004

Annwyl Cyd

Diolch yn fawr am eich cymorth. Rwy’n

edrych ymlaen at fynd ar y cwrs Gloywi Iaith

Ysgrifenedig.

Dyma ffoto ohono i a fy mab iau Aled.

Yn gywir

Margaret Lowe

Annwyl Cyd

Diolch yn fawr am eich llythyr am

Ysgoloriaeth Dan Lynn James. Mi es i’r

Ysgol Haf ym Mangor ac roedd hi’n

fendigedig. Mi gaethon ni lawer o hwyl yn

ein dosbarth ni ac mi wnaethon ni drafod lot

o bethau gwahanol fel bywyd yn yr ugeinfed

ganrif - sut rydyn ni’n medru rhoi pen ar road

rage?

Aeth rhai ohonon ni i’r twmpath dawns ac

roeddwn i’n meddwl bod aelodau’r band yn

ardderchog. Mi wnaethon nhw gymysgu

dipyn bach o jas efo cerddoriaeth werin.

Mi aethon ni i Pili Palas ac mi wnaethon ni

ddysgu llawer o bethau diddorol am y Siani

flewog a’r glöyn byw.

Ar ddiwedd yr Ysgol Haf fe wnaeth pob dosbarth

ganu neu wneud drama fach. Rydw i’n meddwl bod pawb wedi

mwynhau'r sioe bypedau gan ein dosbarth ni.

Rhaid i bawb fynd y tro nesa.

Yn gywir

Siân Lewis

IOGA YN GYMRAEG

GYDA VALERIE PRICE

Mae Valerie yn gobeithio sefydlu

dosbarth rheolaidd yng Nghaerdydd

y flwyddyn nesa.

Os oes diddordeb gyda chi mewn

cynnal (in holding) sesiwn ioga yn y

Gymraeg yna cysylltwch â Valerie Price.

Mae Valerie yn byw yng Nghaerdydd ond mae hi’n fodlon teithio

(willing to travel).

Rhif ffôn: 029 2071 2017 e-bost: yoga@vcprice.demon.co.uk

7

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 2:58 pm Page 8

BBC Vocab - A groundbreaking new tool

which you can use on any computer.

Just hold your mouse over a Welsh word,

and the English equivalent is instantly displayed.

BBC Vocab - Dyfais arloesol y gellwch ei

defnyddio ar unrhyw gyfrifiadur. Daliwch eich

llygoden dros air Cymraeg, a chaiff cyfieithiad

Saesneg ei arddangos yn syth.

bbc.co.uk/vocab

8

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 2:58 pm Page 9

LANSIO CANGEN CYD NEWYDD

Clwb Cymraeg Cyd Tonteg

Croeso cynnes i gangen newydd o Cyd. Cynhaliwyd (was held) noson i lansio’r gangen ym

Mhentre’r Eglwys ganol mis Medi yng nghwmni (in the company of) Siwsann George ar y gitâr.

Bydd y gangen yn cwrdd bob nos Wener yn Festri Salem, Salem Lane, Tonteg, Pontypridd.

The branch will be meeting every Friday evening in Salem Vestry.

Croeso i aelodau newydd.

New Members welcome.

Cysylltwch â/ Contact: 02920 813662

Neu/or: Rhian James 01685 871002

e-bost: rhianlj@aol.com

Castellnewydd Emlyn 2003-04

Diolch i Margaret Hollman am ei hadroddiad cynhwysfawr ar weithgareddau Cangen Cyd Castellnewydd Emlyn am y flwyddyn 2003-04.

Many thanks to Margaret Hollman for her comprehensive report on the Castellnewydd Emlyn Branch activities for the year 2003-04

Dyma grynodeb o’r adroddiad /Here’s a summary of the report.

Medi Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol AGM

Hydref

Cynllunio rhagen y flwyddyn.

Noson gymdeithasol

Plan the annual programme

Social evening

Tachwedd Cwis hollol anarferol gyda Keith. A very unusual quiz with Keith

Rhagfyr Cinio Nadolig ‘Tafarn y Cwper’ Christmas dinner

Diolch i’r delynores, Marian O’Toole

Thanks to Marian O’Toole the harpist

Ionawr Dysgwyr yn darllen o’u hoff lyfr Learners read from their favourite book

Chwefror Cyd Preseli’n ymuno â ni Cyd Preseli join us

Delyth Wyn, actores adnabyddus

Delyth Wyn, a famous actress talks about

yn sôn am ei phrofiadau ac yn ein

her experiences and entertains us with her

diddanu gyda’i phypedau

puppets

Mawrth Ymuno â Merched y Wawr i

Ddathlu Dydd G˘yl Dewi – teulu’r

Join Merched y Wawr to celebrate St

David’s Day – the Samson family

Samson yn ein diddanu gyda

entertained us with songs and recitations

chaneuon ac adroddiadau

Ebrill Noson gyda’r Parchedig Kevin

Davies yn gosod blodau a

An evening with the Reverend Kevin

Davies - flower and plant arranging

phlanhigion

Mai Pawb yn cyflwyno profiadau Everybody presented strange experiences -

rhyfedd - cyd-ddigwyddiad ac ati

coincidences etc

Mehefin Ymweliad ag Aberteifi yng nghwmni A visit to Cardigan in the company of the

Y Parch Percy Griffiths – hanes Aberteifi

Reverend Percy Griffiths – history of the town

Gorffennaf Cwis Cyd yn y ‘Drovers Arms, Cyd quiz in the Drovers Arms in

Caerfyrddin

Carmarthen

Diwedd y tymor a chyfle i ddathlu yn nhfl'r Cadeirydd, Ken Jones wrth chwarae gêm ‘Enwogion’ yn ogystal â chael gwledd o ddanteithion

blasus. End of the term and a chance to celebrate in the home of the Chairman, Ken Jones, whilst playing a game ‘Famous People’ as well

as having a feast of tasty delicacies.

Yn ystod y tymor roedd y dysgwyr yn eu tro yn gwneud y diolchiadau, siawns dda iddynt ddefnyddio’r Gymraeg ac ennill hyder yn ogystal.

Diolch yn fawr iddynt i gyd. During the term the learners in their turn gave a vote of thanks, a good chance for them to use Welsh and

gain confidence as well. Many thanks to all of them.

9

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 2:59 pm Page 10

D Y S G W R Y F L W Y D D Y N L E

Profiad Cystadlu

gan Lois Arnold, Dysgwr y Flwyddyn 2004

Bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol mae cystadleuaeth

o’r enw ‘Dysgwr y Flwyddyn’. Mae ITV Cymru yn

paratoi rhaglen deledu am y gystadleuaeth. Ro’n i wedi

gwylio’r rhaglen bob blwyddyn ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg.

Weithiau ro’n i wedi breuddwydio am gymryd rhan yn y

gystadleuaeth – ac ennill! Ond do’n i ddim wedi meddwl o ddifrif

am gystadlu – dim tan eleni, pan ddaeth yr Eisteddfod i Went.

Does dim llawer o bobl yn siarad Cymraeg yn yr ardal yma, ond

mae miloedd yn dysgu. Ro’n ni eisiau i bobl weld bod y Gymraeg

yn bwysig i ni yma. Felly, cytunais i roi cynnig ar y gystadleuaeth.

Ro’n i’n teimlo’n swil ac yn nerfus, ond penderfynais fwynhau’r

profiad a chael hwyl.

Yn y rownd gyntaf roedd rhaid i ni fynd am y diwrnod i Dfl

Tredegar, safle’r Eisteddfod eleni. Daeth dysgwyr eraill o bob rhan

o Gymru ac roedd hi’n hyfryd cwrdd a siarad â nhw. Yn ystod y

dydd cawson ni gemau, cwis, sgyrsiau gan siaradwyr a lot o hwyl!

Cawson ni i gyd gyfweliad gyda’r tri beirniad, hefyd. Roedd pawb

yn nerfus, ond roedd y beirniaid yn gyfeillgar ac yn gefnogol iawn!

Ar ôl mynd adre roedd rhaid aros i glywed a o’n i wedi cyrraedd y

pedwar olaf. Faswn i ddim wedi synnu taswn i ddim wedi cael fy

newis, gan fod pawb yn siarad Cymraeg mor dda. Ond ro’n i wrth

fy modd pan glywais fy mod i wedi cyrraedd y ffeinal, a theimlais

ei bod hi’n anrhydedd fawr. Roedd pethau’n gyffrous iawn wedyn.

Daeth Nia Parry a chriw teledu i ffilmio fi ar gyfer y rhaglen.

Wedyn roedd rhaid paratoi am y rownd derfynol ar Faes yr

Eisteddfod. Roedd hi’n help mawr siarad ar y ffôn â’r tri arall oedd

yn y rownd derfynol - Jane, Alison a Nick.

Roedd hi’n boeth iawn ar ddiwrnod y ffeinal a ro’n ni i gyd

yn nerfus ac yn chwyslyd! Roedd rhaid i ni siarad ar y

llwyfan ym Mhabell y Dysgwyr. Yna cawson ni ginio

hyfryd ym Mhabell ITV a gweld y ffilm o’n nhw wedi’i

wneud amdanon ni. Wedyn yn ôl i Babell y Dysgwyr i

siarad am ein ‘trysorau’ (ro’n ni wedi dod â phethau oedd

yn bwysig i ni), ac yn olaf, cyfweliadau gyda’r beirniaid.

Lansiais i fy llyfr i ddysgwyr, ‘Cysgod yn y Coed’ hefyd,

felly roedd hi’n ddiwrnod llawn cyffro! Roedd hi’n braf

iawn wedyn cael mynd i fy mhabell ar y Maes Carafannau

i orffwys, cyn newid a mynd i’r Noson Wobrwyo.

Roedd hi’n noson hyfryd pan gyrhaeddon ni’r gwesty ac

roedd pawb yn ymlacio, yn yfed gwin ac yn mwynhau –

pawb ond Alison, Jane, Nick a fi! Ond o’r diwedd daeth

yr amser i’r beirniaid gyhoeddi pwy oedd wedi cael ei

ddewis fel Dysgwr y Flwyddyn 2004. Ces i sioc pan

glywais fy enw i! Ces i dlws hyfryd yn wobr a chafodd

y pedwar ohonon ni sawl gwobr arall, gan gynnwys

aelodaeth o Cyd.

Os dych chi’n ffansio rhoi cynnig ar y gystadleuaeth yn y dyfodol,

ewch amdani! Mae’n llawer o hwyl ac mae’n brofiad

bythgofiadwy.

GEIRFA

cystadleuaeth

Ro’n i wedi

ers i mi ddechrau

roi cynnig

Faswn i ddim wedi synnu

taswn i ddim wedi cael fy newis

Ro’n i wrth fy modd

Pan glywais i fy mod wedi cyrraedd

ewch amdani

profiad bythgofiadwy

competition

I had … (pluperfect)

since I started

give it a try

I wouldn’t have been

surprised

if I hadn’t been chosen

I was delighted

When I heard that I

had reached …

go for it

unforgettable

experience

10

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 2:59 pm Page 11

L E A R N E R O F T H E Y E A R

Llongyfarchiadau i Lois Arnold ar ennill Tlws Dysgwr y

Flwyddyn.

Congratulations to Lois Arnold on winning the Learner of the Year

Trophy

Mae Lois yn dod o Loegr yn wreiddiol.

Mae hi’n byw yn y Fenni, Sir Fynwy

Mae hi’n gweithio mewn iechyd meddwl.

Mae hi hefyd yn diwtor Cymraeg i Oedolion.

Mae hi’n hoffi ysgrifennu a marchogaeth.

Mae hi’n aelod brwd o Gymdeithas Cymreigyddion y Fenni.

Mae hi’n aelod o Cyd.

Cafodd Lois wobr o aelodaeth oes gan Cyd.

Llongyfarchiadau hefyd i Nicholas Davies, Jane Hafren

Green ac Alison White a oedd wedi cyrraedd y rownd

derfynol (who reached the final round)

Lois, Alican, Jane, Nicholas gyda’u tystysgrifau aelodaeth gan Cyd

Nicholas Davies

Cafodd Nicholas ei eni yn Northampton.

Aeth e i Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd.

Dechreuodd e ddysgu Cymraeg yn y coleg.

Mae e’n gweithio i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae e’n trefnu gr˘p dysgwyr Cymraeg yn y swyddfa.

Ei uchelgais yw bod yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae e’n aelod o Cyd.

Cafodd Nicholas wobr o aelodaeth 10 mlynedd gan Cyd.

Jane Hafren Green

Cafodd Jane ei geni ym Mryste.

Cafodd hi ei magu yn Nyfnaint, ger Caerwysg.

Mae hi’n byw ym Mhontyberem nawr.

Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ym Medi 2000.

Mae hi’n gwneud gwaith gwirfoddol yn benodol ar gyfer

dysgwyr Cwm Gwendraeth.

Mae ei phlant hi’n siarad Cymraeg.

Mae hi’n aelod o Cyd.

Cafodd Jane wobr o aelodaeth 10 mlynedd gan Cyd.

Alison White

Un o Wrecsam yw Alison.

Mae hi’n aelod o gôr Clywedog.

Mae hi’n cynnal sesiwn sgwrsio i ddysgwyr o bob lefel yn

wirfoddol yng Ngholeg Iâl.

Mae hi’n gobeithio dod yn diwtor Cymraeg i Oedolion ar

ôl iddi ennill ei thystysgrif arholiad A2 Cymraeg ail iaith.

Mae ei phlant hi’n dysgu Cymraeg hefyd.

Mae hi’n aelod o Cyd

Cafodd Alison wobr o aelodaeth 10 mlynedd gan Cyd.

Neges i Ganghennau Cyd

Message for Cyd Branches

Beth am roi gwahoddiad i Lois i ddod i siarad â chi?

Mae hi’n edrych ymlaen at eich cyfarfod.

What about inviting Lois to come and talk to you?

She’s looking forward to meeting you.

Rhif ffôn Lois: 01873 856524

Ffôn 01286 674409 Ffacs 01286 677599

E-bost: cymen@btconnect.com

www.cymen.co.uk

11

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 3:00 pm Page 12

Newyddion o Gangen Cyd Llanfairfechan

Annwyl Gyfeillion

Mi aeth pedwar aelod o gangen Llanfairfechan i’r Eisteddfod

Genedlaethol yng Nghasnewydd eleni. Yno derbyniodd Flo a Louis

Brady dystysgrifau am basio’r arholiad lefel sylfaen. Mae Flo a Louis

wedi bod yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner. Hefyd yn yr

Eisteddfod mi dderbyniodd Flo (ffug enw Gwladys Emanuel) wobr am

ysgrifennu Sgwrs mewn Tafarn.

Alan Jones, Cyd Llanfairfechan

Here we hear of Flo and Louis passing their Welsh exam. Flo also won

a prize in one of the competitions for learners in the Eisteddfod A Chat

in a Pub. Flo and Louis have been learning Welsh for a year and a half.

Congratulations to both of them on their achievement.

Sgwrs mewn Tafarn gan Flo Brady

Tafarn y Victoria, hanner awr wedi saith, nos Wener.

Mae Bethan, Elwyn a Gareth yn eistedd mewn ystafell fach. Mae

Gwyneth yn d˘ad i mewn yn cario’i diod.

Gw: O, dyma le dach chi!

Ga: We, wel, dyma Gwyneth o Wynedd! S’mai?

B: O’r diwedd.

Gw: Mae’n ddrwg gen i ’mod i’n hwyr.

E: S’dim ots. Doedd y cwrw ddim yn hwyr.

B: Lle wyt ti wedi bod?

Gw: Drws nesa. Ro’n i’n meddwl ’mod i yma gyntaf. Be’ sy’n bod

efo’r ystafell arferol?

B: Mae hi’n rhy swnllyd.

Gw: Rhy swnllyd? Ro’n i yno am tua ugain munud a wnes i ddim

clywed dim byd.

E: Dim eto, na. Ond mae ‘na gr˘p o bobl yno yn barod i ddechrau

canu Karaoke.

B: Fel baset ti’n gwybod, taset ti wedi d˘ad yma’r wythnos

diwethaf. Lle’r oeddet ti?

Gw: O, mae gen i hanes diddorol i chi! Mi es i i Stiwdio Barcud i

weld rhaglen Cariad@iaith.

Ga: Yn Stiwdio Barcud? Ro’n i’n meddwl bod y rhaglen yn Nant

Gwrtheyrn.

Gw: Ydi, fel arfer, pan mae’r bobl yn dysgu Cymraeg. Ond roedd

y rhaglen yno dipyn yn wahanol. Wnaethoch chi ei gweld hi?

B: Naddo, wir! Roedden ni yma yn aros amdanat ti.

Gw: Wel, mae’n ddrwg gen i. Ond fasech chi wedi gwneud fideo o’r

rhaglen, basech?

Ga:

Gw:

Sut hwyl gest ti, beth bynnag?

Roedd hi’n noson hwyliog iawn. Mi wnes i gyfarfod llawer o

bobl glên ac roedd y sioe yn ddiddorol iawn. Ac - mi gaethon

ni bedair potel o win ar un bwrdd, am ddim.

E: O, neis iawn.

B: Wel rwyt ti’n ffrind bendigedig, mae’n rhaid i mi ddeud! Pam

na ddudest ti ddim byd wrthon ni?

Gw: Doedd dim amser. Mi ddudodd fy nhiwtor wrthon ni yn y

pnawn, ac roedd rhaid i mi gychwyn o’r tfl am chwech.

B: Ac, wrth gwrs, dw i ddim yn cyrraedd adra o’r gwaith tan

chwarter i bedwar. Dim amser, wir!

Gw: Wel, mae’n ddrwg gen i eto.

Ga: Be’ am y rhaglen? Welest ti’r sêr?

Gw: Do, si˘r. Mae Ruth Madoc yn ddynes reit glên. Ac Amy! O,

mae Amy’n ddel iawn. Ac roedd y ddwy ohonyn nhw wedi

dysgu tipyn bach o Gymraeg, ’sti... Un o’r dynion hefyd – dyn

ifanc o’r enw Jamie, hogyn eithaf neis. Roedd ‘na ddyn arall,

hefyd, oedd yn actio yn Pobol Y Cwm ers talwm. Roedd o’n

reit ddoniol ond do’n i ddim yn meddwl ei fod o wedi dysgu

cymaint. Ond Tanni oedd y seren fawr! Mi sgoriodd hi gant yn

yr arholiad ar ddiwedd y cwrs bach.

E: Ond Nia oedd y seren go iawn, mae’n si˘r.

Ga:

Dyma Flo Brady yn derbyn ei gwobr gan Geraint Wilson Price ym Mhabell y Dysgwyr

O, dw i’n cytuno. Mae Nia’n hyfryd, yn brydferth, yn berffaith!

O, dw i’n ei charu hi!

B: Ych-a-fi! Nia’n fan‘ma, Nia fan‘ na, Nia’n fan acw. Well i ni

newid ein henwau i Nia, dw i’n meddwl!

E: Hei, sdim ots am Nia. Be’ ydi’r s˘n ‘na?

Gw: Pa s˘n?

B: Y Karaoke, mae’n si˘r.

E: Ond gwrandewch! Maen nhw’n canu Ar Lan y Môr.

Ga: O, ydyn. Mae gynnyn nhw fideo o Dafydd Iwan.

E: Gadewch i ni fynd i mewn. Brysiwch!

Llun Felicity Roberts

12

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 3:00 pm Page 13

Tlws Coffa Elvet a

Mair Elvet Thomas 2004

Ennill mewn

Eisteddfodau lleol

Winning in local

Eisteddfodau

Llun Felicity Roberts

Llongyfarchiadau i Geraint Wilson Price ar ennill y Dlws eleni

yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a’r Cylch.

Mae Geraint yn diwtor Cymraeg yng Ngwent.

Mae e wedi helpu llawer o bobl i ddysgu Cymraeg.

Enillodd y Dlws am yr holl waith (all the work) mae e’n ei wneud

yn yr ardal.

Mair

Geraint Elvet

Dathlu yn y Dosbarth Celebrating in the Class

Dydd Sadwrn, Hydref 9fed yn Eisteddfod Powys enillwyd (was won)

Tlws y Dysgwyr gan (by) Andrew Lambert ac yn drydydd (third) yn yr

un gystadleuaeth (competition) roedd Sally Carr. Mae'r ddau (both of

them are) yn aelodau o Ddosbarth Uwch Parhad ym Machynlleth. Yn y

llun gwelir eu cyd aelodau yn y dosbarth yn eu llongyfarch. (In the

picture their fellow class members are seen congratulating them).

Llongyfarchiadau i Andrew a Sally gan Cadwyn Cyd

Eisteddfod Rhys Thomas James (Pantyfedwen) Llanbedr Pont

Steffan

Cystadleuaeth i Ddysgwyr

cerdd, stori fer, adolygiad neu brofiad arbennig

poem, short story, review, or relating to an experience

Gwobr £100 yn rhoddedig gan Cyd

Prize £100 donated by Cyd

Llongyfarchiadau i Mary Neal ar ennill y wobr eleni. Cyhoeddir ei stori

yn Cadwyn 49. (Her story will be published in Cadwyn 49).

Rhodd Gymorth/Gift Aid £

A wnewch chi ddarllen y canlynol yn ofalus? / Please read the following carefully

Rwy’n datgan fy mod yn talu rhagor o dreth incwm a/neu dreth enillion cyfalaf na’r dreth y bydd Cyd yn adennill ar fy

rhodd/nghyfraniad/tâl cefnogi, sef 28c ym mhob £1 a roddir ar hyn bryd, a fy mod yn fodlon i Cyd drin y rhodd uchod a phob

rhodd yn y dyfodol fel rhodd gymorth.

I declare that I pay income tax and/or capital gains tax at least equal to the tax that Cyd claims on my donations/supporter’s

fee in the tax year (currently 28p for each £1 you give), and I am willing for Cyd to treat the above donation and all donations in

the future as gift aid.

Llofnod/Signature

13

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 3:01 pm Page 14

Advert 276 mm x 190 mm 10/11/04 9:55 AM Page 1

Busnesau, Cymunedau

ac Unigolion

Mae Awdurdod Datblygu Cymru’n

helpu cyflawni uchelgeisau

Llywodraeth y Cynulliad dros ein

gwlad – drwy gynorthwyo busnesau

i gychwyn a thyfu, adfywio

cymunedau a chreu cyfleoedd

ehangach i bobl Cymru.

Ffôn: 08457 775566

Typetalk: 18001 08457 775577

Ebost: ymholiadau@wda.co.uk

www.wda.co.uk

Businesses, Communities

and Individuals

The Welsh Development Agency

helps deliver the Welsh Assembly

Government’s ambitions for our

country – by assisting businesses

to start and grow, regenerating

communities and creating greater

opportunities for the people of Wales.

Tel: 08457 775577

Typetalk: 18001 08457 775577

Email: enquiries@wda.co.uk

www.wda.co.uk

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 3:01 pm Page 15

DIRGELWCH CÔR-Y-CEWRI

Gan Rosalind Guinard, Ffrainc

Sut gwnaethpwyd Côr-y-Cewri? A oes ganddo fe ryw gysylltiad â

chwedlau’r Brenin Arthur?

Ar wyliau yng Nghaersallog ym mis Awst eleni, sylwais fod yn yr

ardal gryn dipyn o lefydd sy’n cael eu cysylltu â Myrddin. Ac yn

wir, mae ‘na nerth rhyfedd sy’n dod allan o’r ddaear. Er enghraifft,

os byddwch chi’n cerdded o gwmpas Côr-y-Cewri gyda gwialen o

wiail ym mhob llaw, bydd y gwiail yn croesi’i gilydd o dro i dro

heb unrhyw reswm amlwg.

Y wyrth fwyaf, wrth gwrs, yw sut y cludwyd y Cerrig Gleision i

Wastadedd Caersallog o Fynydd Preseli (yr unig le sy’n ddigon

agos sydd â Cherrig Gleision). Er mwyn dathlu’r Mileniwm,

treiodd nifer o ddynion o’n cyfnod ni i ddod â cherrig o ddeorllewin

Cymru unwaith eto. Cawson anhawster anghredadwy

gydag un garreg arbennig a syrthiodd i mewn i’r môr. Yn y

diwedd, roedd y flwyddyn 2000 wedi mynd heibio cyn iddynt allu

mynd ag un garreg i Gôr-y-Cewri.

Yn ôl yr haneswyr, dechreuwyd adeiladu Côr-y-Cewri tua 2400

Cyn Crist. Er mwyn cludo’r cerrig o Fynydd Preseli, byddai rhaid

i’r bobl fod wedi eu cludo ar rafft a’u tynnu dros y tir rhwng yr

afonydd.

Ond mae Sieffre o Fynwy’n adrodd stori arall. Yn y 5ed ganrif, yn

ôl ei ‘Hanes Brenhinoedd Prydain’ (1135), daeth Aurelius

Ambrosius, Brenin y Brythoniaid, i Gaersallog. Roedd e wedi

cymryd lle Gwrtheyrn ar ôl brad ‘Noson y Cyllyll Hirion’ yn

Amesbury. Lladdwyd tua 460 o aelodau’r uchelwyr gan y

Sacsoniaid oedd wedi cael eu gwahodd i wledd i drafod cytundeb

heddwch. Claddwyd yr uchelwyr yng Ngwastadedd Caersallog ac

er mwyn codi cofadail addas daeth Myrddin, derwydd o Gymru,

â’r cerrig o Iwerddon trwy hud.

Er nad ydy’r esboniad hwn

yn debygol iawn, mae

cysylltiadau eraill rhwng y

derwydd a cherrig Côr-y-

Cewri. Yn gyntaf, nid yw

Caerfyrddin, man geni

Myrddin yn ôl y chwedl, yn

bell iawn o Fynydd Preseli.

Mae cerrig Sarsen yn dod

mae’n debyg o Avebury,

sy’n llawn ‘Nerth y Ddraig’,

sydd, gyda llaw, ger

‘Merlin’s Mount’, Marlborough,

lle y dywedir fod

Myrddin wedi’i gladdu.

Ysgoloriaeth

Dan Lynn James

Scholarship 2005

£250

Dyddiad cau

Closing Date

I Ebrill/April 2005

Manylion a ffurflen gais:

Details and application form:

10 Maes Lowri, Aberystwyth

Ceredigion SY23 2AU

www.aber.ac.uk/cyd

Yn ogystal â hyn mae gan yr

ardal gysylltiad â pherson Arthur ei hun. Yn ôl Malory, awdur

‘Morte d’Arthur’, cynhaliwyd brwydr Camlan, brwydr olaf Arthur

ar Wastadedd Caersallog. Dywedir hefyd mai yn Abaty Amesbury

oedd y Frenhines Gwenhwyfar yn lliain ar ôl marwolaeth ei g˘r.

Yn anffodus, nid oes gennyf ddigon o le yma i sôn mwy am y

testun; ond dyna rai o’r straeon sy’n cael eu hadrodd ynglfln ag

ardal Caersallog. Beth ddylen ni feddwl amdanyn nhw? Beth

ddigwyddodd mewn gwirionedd? Ac yn arbennig, beth yw

dirgelwch Côr-y-Cewri? Pwy a ˘yr?

Cydnabyddiaeth

Rwyf yn ddiolchgar i’r bobl isod am lawer o’r wybodaeth sy’n cael

ei chynnwys yn yr erthygl hon.

WYETH, Ruth – Stonehenge: the Dragon and the Godess –

Gemini, Codford, 2000

GOODMAN, Kent – Arthur, land and ledgend – Wessex Books,

Salisbury, 1999

Ac i arweinyddes ‘Guide Friday Tours’, Caersallog

15

Cadwyn_16pp.qxd 12/11/04 3:01 pm Page 16

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!