03.09.2015 Views

DYSGU CYFANSAWDD R M Jones

DYSGU CYFANSAWDD R. M. Jones - Cyd

DYSGU CYFANSAWDD R. M. Jones - Cyd

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

DYSGU CYFANSAWDD

R. M. Jones

Cyhoeddwyd gan Cyd ar www.aber.ac.uk/cyd

Hawlfraint R. M. Jones

2003

10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AU

ffôn/ffacs 01970 622143 e­bost cyd@aber.ac.uk

Elusen Gofrestredig 518371

CYFLWYNO’R AWDUR

Yr Athro Emeritws R. M. Jones MA, PhD, D Litt, FBA.

Cyhoeddodd yr awdur yn bur helaeth ym maes didacteg iaith:

(i) Graddio Geirfa; (ii) Cyflwyno’r Gymraeg; (iii) Cymraeg i Oedolion, 4 cyfrol; (iv)

Beirniadu gwersi ail iaith; (v) Geiriadur Lluniau; (vi) Cyfeiriadur i’r Athro Iaith

(gyda Megan Roberts) 3 cyfrol; (vii) golygydd Cymraeg trwy ddamhegion; (viii) gol.

Iaith Ifanc (Cyd); (ix) Gloywi Iaith (gyda Rhiannon Ifans) 3 cyfrol; (x) Language

Regained; (xi) golygydd CYD yn Cydio; (xii) erthyglau gan gynnwys rhai yn

International Review of Applied Linguistics, Yr Athro (cyhoeddwyd yn y cylchgrawn

hwnnw dros 40 o ysgrifau ar grefft dysgu’r ail iaith); Bwletin y Bwrdd Gwybodau

Celtaidd; Teacher in Wales; a rhwng Mehefin 1996 a Chwefror 1997 gyfres o bum

erthygl yn Barn ar ‘Hanes Adfywio’r Iaith’, ‘Sut i Fesur Gwerth Cwrs’, ‘Graddio

Patrymau’, ‘Nodau Cyfathrebu’, a ‘Theipoleg Ymarferion’.

Ar sail tair erthygl tua 1980 yn y Cymro, Y Faner a’r Traethodydd sylfaenwyd

Cyd yn Aberaeron gan yr awdur a nifer o rai eraill a ymdeimlai â’r angen i Gymry

Cymraeg ddod at y dysgwyr yn uniongyrchol i adfer y Gymraeg drwy ymgymryd â

chyfrifoldeb cadarnhaol. Bu’r awdur yn Gadeirydd cyntaf pryd y daethpwyd o hyd i

nawdd i’r mudiad, ac ar hyn o bryd mae’n Llywydd Anrhydeddus. Bu’n Gadeirydd

Pwyllgor diwygio Cymraeg Byw a Golygydd Cymraeg Llafar Ysgrifenedig CBAC, a

hefyd yn aelod o bwyllgor o dri a gyflwynodd restr o ffwythiannau cymeradwy ar gyfer

cyrsiau Cymraeg i’r CBAC.

Dyma rai sylwadau ar y gyfrol sy’n rhagflaenydd i hon, sef System in Child

Language. Mewn adolygiad yn Language dywedodd yr Athro John Hewson: ‘It

represents a step forward, a moment of progress in the mainstream of general

linguistics ... J’s analysis of syntax is a theory of great simplicity and yet potentially of

great power ...’Meddai’r Athro W.F. Mackey: ‘A general theory of child language of

great significance. Although it takes into account both the author’s detailed

observations and almost everything of importance ever written on the subject, it is

completely new and daringly original. It is also the most thoughtful and undoubtedly

the most far­ranging study of child language I have yet seen’. Sylw’r Athro W.F.

Leopold, prif awdurdod y byd mewn iaith plant, oedd: ‘A remarkable achievement

...This is one of the few large works in the field’.

2

I

BOBL CYD

(sef y bobl a welodd mai gwaith i’r Cymry ymrwymedig

boed yn Gymry rhugl neu’n ddysgwyr,

yw ymuno’n ewyllysgar i adfywio’r iaith yn uniongyrchol,

ac mai adennill yw dyfodol yr iaith ac nid cadw yn unig, a hynny gan bawb ohonom)

3

CYNNWYS

Tudalen

SYNOPSIS 7

RHAGAIR 13

(i) Diffinio Dysgu Cyfansawdd;

(ii) Y Feirniadaeth ar Ddysgu Unochrog.

RHAGYMADRODD: Y Gwaith Deublyg 31

Y Ddadl

(i) Yr Hollt a’r Adferiad;

(ii) Y Pendilio Hanesyddol;

(iii) Hanner Canrif o Dwf a Chwymp mewn Dysgu Iaith;

(iv) Sectorau Dysgu.

RHAN I: TAFOD: Y Gwreiddiau Strwythurol; Patrymau — Beth? Sut? 63

Y Ddadl

(i) Gramadeg Cenhedlol a Graddio’r Strwythurau;

(ii) Ai’r Baban yw Athro’r Oedolyn?

(iii) Seico­Fecaneg Didacteg;

(iv) Olyniaeth yn Natur yr Iaith;

(v) Iaith Lafar Ysgrifenedig Safonol.

RHAN II MYNEGIANT: Y Ffrwythau Sefyllfaol; Cyfathrebu — Sut? Beth? 111

Y Ddadl

(i) Yr Angen am Gyfathrebu Trefnus;

(ii) Ymarfer Strwythurol;

(iii) Dril Dwyieithog;

(iv) Darllen Sefyllfaol Strwythurol;

(v) Lluniau ac Ymarfer â Phatrymau;

(vi) Chwarae — a’r Gêm Strwythurol;

(vii) Dosbarthu Sefyllfaoedd a’u hasio wrth Strwythurau;

(viii) Ail Iaith yn Gyfrwng Pwnc;

(ix) Egwyddorion i’w Defnyddio wrth Raddio Patrymau;

(x) Geirfa (Sefyllfaoedd).

EPILOG 185

GEIRFA TERMAU 186

5

Synopsis o’r gyfrol DYSGU CYFANSAWDD, R. M. Jones, Cyd, 2003

Mae gan Gymru fwy o athrawon ail­iaith nag a fu erioed. Ac y mae rhai

ohonynt yn sêr gwirioneddol.

Ond erys gwendidau go ddifrifol yn y cyrsiau, digon i beri i nifer o bobl roi’r

gorau iddynt yn gynamserol. Ceir diffygion sylweddol (i) mewn graddio a dethol, (ii)

yn y cydlyniad rhwng Strwythurau â’i gilydd, ac yn arbennig rhwng Strwythurau a

Ffwythiannau, a (iii) yn y duedd i symud (mewn diymadferthedd efallai) at yr eclectig,

sef at restru neu gymysgu gwahanol ddulliau heb weld cyfraniad priodol pob un o

fewn cynllun cyson yr iaith ei hun.

Darganfyddiad pwysicaf Dysgu Cyfansawdd yw bod Ffwythiannau’n adeiladu

Strwythurau, a Strwythurau’n rheoli Ffwythiannau. Trefnu cyrsiau newydd, a fydd yn

deall ac yn sylweddoli hynny, yn gyfansawdd, yw her gychwynnol y mudiad dysgu ail

iaith bellach. Ni wna rhestru ‘dulliau’gwahanol nac eclectigiaeth anarchaidd byth

mo’r tro mwyach. Ceisio esbonio’r egwyddor honno yw nod Dysgu Cyfansawdd.

Ar ôl saithdegau’r ugeinfed ganrif aeth llawer o ddysgu iaith yng Nghymru yn

debyg i’r hyn a geir mewn ‘phrase book’i deithwyr. Cyflwynir rhes o frawddegau

cymharol gymhleth ar sail Ffwythiant. A does dim ymgais i adeiladu bricsen ar gefn

bricsen. Mae rhestru ugain o frawddegau hwylus Ffrangeg yn burion efallai ar gyfer

wythnos o wyliau yn Ffrainc. Ond nid dyna’r ffordd i adeiladu iaith i’r dyfodol. Does

dim fframwaith na dim modd ystwytho’n drefnus ar gyfer brawddegau newydd.

Er mwyn dysgu iaith yn effeithiol rhaid dysgu’r cystrawennau yn olynol o un i

un. Gellid cymharu dysgu rhifyddeg. Ffôl fyddai dysgu lluosi cyn dysgu adio. A

ffolach byth dysgu ffracsiynau cyn dysgu cyfrif. Ac eto, yn y Gymraeg, mewn gwersi

ail­iaith diweddar cafwyd rhywbeth cyffelyb wrth gyflwyno treigladau yn y wers

gyntaf.

Ceir cymysgedd hollol wyllt o batrymau blith draphlith o’r dechrau cyntaf.

Disgwylir eu dysgu ar y cof heb fod perthynas rhyngddynt. A’r sefyllfa sy’n rheoli beth

bynnag yw ffurf y brawddegau. Dyw’r iaith ddim yn cael ei hadeiladu o gystrawen i

gystrawen yn y meddwl yn olynol. Mae’r cwrs yn gwibio’n ddifeddwl o un patrwm i

batrwm arall er mwyn ffitio i mewn i’r pwnc y mae’r athro wedi’i ddewis yn chwiwus

ar y pryd.

Wrth baratoi cwrs mae angen ystyried yn ofalus beth sy’n dod yn gyntaf.

Cyflwyno hynny. Cadarnhau hynny drwy ymarferion trefnus. Yna, ymlaen at y

strwythur nesaf. Er enghraifft, yn fras, awn o gwmpas y dosbarth:

Mae Gwilym yma.

Mae John yma.

Mae Bethan yma. (ac yn y blaen)

Estyn

Mae John yn y dosbarth.

Mae John yn y pentref.

Mae John yn y t.

Mae John yn y gwely. (ac yn y blaen)

Estyn Ydy John yn y gwely? Ydy.

Ydy Gwilym yn y cae?

(ac yn y blaen)

Strwythur newydd Oes afal ar y bwrdd? Oes.

Oes ci yn y dosbarth? Nac oes. (ac yn y blaen)

Cân: Oes gafr eto?

7

Strwythur newydd Ble mae Gwilym? (ac yn y blaen)

(atebion yn adolygu’r gwersi cynt)

Cân: Ble mae Daniel? ayyb

Cyn bo hir, bydd digon wedi’i ddysgu i ymaflyd mewn sefyllfa benodol. Hynny

yw, wedi sefydlu’r patrwm bydd modd ffitio ynddo’r eirfa ffwythiannol ac ymarferol.

Ar ôl meistroli’r tri strwythur hyn gyda’r cwestiynau Ydy? Oes? Ble? gellir

dechrau dysgu pynciol syml. Hynny yw, defnyddio’r ail iaith wrth astudio, er enghraifft

fap o Gymru.

Ydy Caerdydd yn y gogledd?

Ble mae Caerdydd?

Oes afon yn Aberystwyth? (ac yn y blaen)

Ddylai’r cawl a gafwyd mewn rhai cyrsiau Cymraeg ail­iaith diweddar erioed

fod wedi digwydd. Roedd hi’n gwbl amlwg o’r saithdegau ymlaen, nid yn unig fod yna

ddwy wedd ar gael ar gyflwr iaith, ond hefyd beth oedd natur y ddwy. Roedd yr

astudiaeth o iaith wedi dangos nad brawddegau gorffenedig a oedd gan y dysgwr

ymlaen llaw. Potensial o strwythurau yn ei ben oedd ei angen ar gyfer adeiladu

amrywiaeth o frawddegau newydd. Roedd synnwyr cyffredin yn dweud bod yr eirfa

mewn sgwrs ar y naill law, a’r patrymau i’w clymu wrth ei gilydd ar y llall, yn ddwy

wedd ar un broses. Roedd yr astudiaeth o iaith plant yn dangos sut yr oedd yna lwybr

gorfodol o ddatblygu’r dysgu. Roedd hi’n amlwg bod rhai strwythurau yn rhagflaenu

rhai eraill. Roedd yn rhaid cael un fricsen er mwyn arwain at fricsen arall. Roedd

profiad y canrifoedd mewn dysgu iaith a myfyrdod am natur iaith hefyd wedi dangos

bod eisiau graddio defnyddiau yn drefnus. Felly y lluniwyd offeryn yn y meddwl a allai

drafod pob sefyllfa. Nid crwydro’n anarchaidd o ffwythiant i ffwythiant heb hidio dim

am berthynas cystrawennau â’i gilydd oedd y ffordd i adeiladu cyfrwng siarad. Nid rhes

ddiberthynas o frawddegau yw calon yr iaith.

Yn fyr, ceir dwy wedd ar iaith ac y mae’r naill yn gwbl ddi­werth heb y llall.

Strwythur a Geirfa. Patrymau a Sefyllfaoedd. Gramadeg a Ffwythiannau. Sut bynnag y

disgrifir y ddeuoliaeth, mae’r ddwy ochr yn orfodol ac yn anochel. Sicrhau’r naill yn y

llall mewn trefn yn y pen draw yw her y sawl sy’n paratoi cwrs.

Sut y cyrhaeddir hynny?

Y peth cyntaf y mae’r paratöwr yn gorfod ei wneud yw llunio cynllun

graddedig o strwythurau. Adeiladu’r frawddeg graidd fydd y dasg gychwynnol. Ac

yna, o amrywiad neu estyniad ymlaen i amrywiad neu estyniad, cynyddir yr iaith yn

ystyrlon. Gorau po fwyaf trefnus ac eglur a chyson y bo.

Dyna’r adnodd sylfaenol wrth law. Graddfa weddol gyflawn o batrymau. Yr ail

adnodd yw’r eirfa, neu’r cnewyllyn sefyllfaoedd — ffwythiannau neu dybiannau sut

bynnag y’i disgrifir.

Mae’r adnodd cyntaf yn gymharol gryno ond yn gwbl allweddol. Dyma

gydlyniad i’r iaith. Mae’n gyfundrefn o gyfundrefnau. Mae’r ail adnodd wedyn yn

rhyfeddol o helaeth. Rhaid cynllunio hyn hefyd. Oherwydd corffori’r helaethrwydd

geirfa o fewn y cnewyllyn cystrawennol ceir ystwythder amryddawn i’r iaith.

Cyflwynir yn y gyfrol Dysgu Cyfansawdd grid cwestiynau. Hynny yw, dyma’n

gryno ar un tudalen gynllun o’r holl gwestiynau sy’n bosibl yn y Gymraeg. Nid rhestr

ond cynllun. Ar ôl cael map syml cyflawn, gwaith y paratöwr yw dewis y symlaf ac

adeiladu’r gyfundrefn cwestiynau gan bwyll i mewn i’r cwrs.

Yr un modd gyda’r frawddeg, gan gynnwys ymadroddion (phrases) a chymalau

(clauses), gellir cael grid cymharol gyflawn eto. Ac wrth gynllunio olyniaeth trefn y

8

dysgu, gellir symud o un fricsen i’r llall. O’r syml i’r ‘anodd’. Ac y mae’r ‘anodd’bob

amser yn haws wrth drafod popeth yn ei le.

Mewn geiriau eraill, ar ôl dechrau gyda ‘Mae Gwilym yma’, gallwn benderfynu

ar gadwyn gydlynol. Gall pob dim glymu’n drefnus yn ei gilydd. Does dim neidio

gwyllt bendramwnwgl.

Pan fydd hynyna’n gwbl glir ym meddwl yr athro, ac yn y cwrs ei hun, yna y

mae modd paratoi ymlaen llaw y rhestr o ffwythiannau a all fod yn ddefnyddiol i’r

dysgwr. Beth sy’n ymarferol? Beth sy’n berthnasol i’w anghenion?

Hynny yw, ar ôl y strwythurau, yn fras, dyna’r lle i’r ffwythiannau a’r tybiannau

— y sefyllfaoedd. Priodir y rhain â’r patrymau. Fe gorfforir yr eirfa o fewn strwythurau

parod. Gwaith deuol sy’n mynd yn un.

Dangosir yn Dysgu Cyfansawdd sut y gellir cyflwyno ffwythiannau o fewn

patrymau drwy ddarnau darllen, drwy ddramodigau, drwy chwaraeon, drwy ganeuon.

Popeth wedi’i raddio. Gellir ymestyn, yn wir, i ddysgu pynciau. Hynny yw, mae’r ail

iaith yn troi’n gyfrwng.

Seiliwyd y gyfrol hon ar ddadansoddiad o nifer helaeth o gyrsiau sy’n dysgu’r

Gymraeg ac a ddefnyddiwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf — mewn dosbarthiadau

ac ar y cyfryngau. Ond hefyd ar gyfnod go hir o ymchwil, gweithio ymarferol, a

hyfforddiant proffesiynol yn y maes. Nid anwybyddwyd cyfraniad y cyfnod 1930­1970

yn hanes dysgu iaith, neu’r canrifoedd cyn hynny.

Cesglir bod llawer o’r cyrsiau diweddar yn y Gymraeg wedi cael eu difetha yn

bennaf gan ddiffyg cynllunio. Ni lwyddwyd i adeiladu’r cyflwyniad o’r cyrsiau iaith yn

olynol drefnus mewn camre cydlynol. Ni lwyddwyd i asio sefyllfaoedd i mewn i dwf

patrymau’r iaith. Sonia’r gyfrol am y feirniadaeth helaeth ryngwladol ar ddysgu

ffwythiannol ynysig, dull a ddatblygodd yn y saithdegau nas sylfaenwyd ar yr angen i

adeiladu ‘gramadeg’yr iaith yn ddatblygol. Dangosir bod rheidrwydd yn natur iaith ei

hun yn gofyn am gynllunio mwy cyfansawdd. Heb hynny mae’n bosib bod cannoedd o

filoedd o bunnoedd yn cael eu colli bob blwyddyn oherwydd eu gwario ar gyrsiau

cydwybodol ond amaturaidd ac ar athrawon sy’n defnyddio cyrsiau anhrefnus. Collir

llawer o ddysgwyr mewn cyfnod o frwdfrydedd. Mae amser gwerthfawr hefyd yn cael

ei wastraffu.

Bydd amryw bobl ddawnus wrthi’n frwd yn llunio cyrsiau cyfoes ail­iaith. Ond

hawdd iawn yw llithro i anarchiaeth heb ganllawiau cadarn. Ymgais y gyfrol hon yw

ceisio dadlennu’r drefn sydd eisoes yn yr iaith ei hun. Trefn yw sy’n penderfynu cynllun

mewnol priodol y gwaith o ddysgu’r Gymraeg. Ni cheisir mabwysiadu dulliau eclectig

gan anwybyddu gofynion gorfodol natur yr iaith. Dengys fel y mae dwy ochr i’r broses

ieithyddol yn gofyn am gydlyniad ystyrlon penodol.

Mae’r gyfrol hon yn awgrymu hefyd beth oedd dylanwad y pwysau mawr a

gafwyd gan Ol­foderniaeth, a hynny drwy gydol amrediad y gwyddorau dynol, o’r

saithdegau ymlaen. Ac ar ddysgu iaith yn arbennig. Dylanwad isymwybodol oedd hyn

yn y byd deallol a fu’n gyfrifol am yr ymddatodiad diweddar mewn technegau dysgu

iaith. Datodwyd strwythur yr iaith oddi wrth y sefyllfaoedd a drafodid. Gwelir hyn

fwyfwy yn y modd y trafodir ffwythiannau’n rhibi­di­res heb ystyried cydlyniad

patrymau’r iaith.

Hefyd ynyswyd oddi wrth brif draddodiad dysgu iaith drwy’r oesoedd — yn

rhyngwladol ac yng Nghymru. Fe’i gwelir yn y duedd drachefn hefyd i gefnu ar iaith

lafar safonol ac i feithrin tameitiach o dafodieithoedd yn blith draphlith ac yn anghyson

ddi­drefn mewn cyrsiau ar gyfer ardaloedd eang. Ni sylwir bellach chwaith ar y

9

graddio yn nhwf iaith plant. Mae damweinioldeb Ol­foderniaeth yn treiddio yn

orthrwm isymwybodol drwy ffasiynau’r cyfnod.

Oherwydd yr amharodrwydd i wreiddio mewn gwybodaeth a gwerthoedd

profedig — sef y duedd wrth­orffennol hon, — ni fanteisiwyd yn llawn ar rai

datblygiadau arloesol a gwreiddiol yng Nghymru ei hun. Megis y cyfuniad o ddriliau

dwyieithog a Lecture Expliquée patrymol.

Dangosir fel y mae’n orfodol i bob dysgwr feistroli’r naill a’r llall o’r ddwy

wedd ar iaith. Does dim dewis. Gellir gwneud y cyfuniad hwn yn iawn neu’n wael.

Arwydd o anaeddfedrwydd neu anwybodaeth yw bod ambell gyfnod yn hanes dysgu ail

iaith yn negyddu un o’r ddwy wedd hanfodol hyn.

Yn ystod cyfnod gwan felly yng Nghymru fe gorfforwyd y negyddu strwythurol

yn y gyfundrefn addysg. Aeth cymysgedd i nodweddu cyrsiau cyfryngol. Collwyd y

grefft o raddio, weithiau’n gyfan gwbl mewn rhai cyrsiau. Nid oedd hyn yn llai na

thrychineb yn y mudiad iaith.

Peth arall a oedd yn rhan o’r un ymddatod graddol mewn dysgu iaith oedd y

gwamalu ynghylch model iaith. Ceisiwyd sefydlu bodolaeth ddilys yr iaith lafar safonol

fel deunydd i’w ddysgu gan y Cyd­bwyllgor Addysg. Yn wir, tueddid i gydnabod yn

fuan ddau fodel bras — un a ogwyddai at Wynedd, ac un at Ddyfed. A derbyniwyd yn

weddol gyffredinol tan yn ddiweddar fod yna fath beth â model safonol.

Yna, gyda’r chwalfa, aethpwyd

(i) mewn rhai cyrsiau cyhoeddus i geisio cyflwyno mwy nag un ffurf yr un pryd o fewn

yr un cwrs — ‘fel hyn y dywedir yn y De, ac fel hyn yn y Gogledd’;

(ii) tueddid mewn rhai cyrsiau i fod yn anghyson yn nechrau, canol, a diwedd y

datblygiad gan fwhwman o ffurf i ffurf (dyweder: amrywio ffurfiau person cyntaf

unigol presennol y ferf ‘Bod’), weithiau o fewn yr un tudalen gan ddrysu’r dysgwyr;

(iii) wrth geisio bod yn fwyfwy tafodieithol, ni chyflwynwyd model cyson o’r un

dafodiaith wedi’i sylfaenu ar wybodaeth gyson, gytbwys, a chyflawn, ond gwyro’n

chwiwus yma ac acw. Callach bron yn ddieithriad yw iaith lafar safonol;

(iv) collwyd y model safonol felly pan fu’n rhaid i ambell ddysgwr symud dosbarth,

dyweder o Abertawe i Gastell Nedd, hynny yw o athro i athro, ac o’r cyfryngau i’r

dosbarth lleol;

(v) collwyd y cyfle ar y cyfryngau i hyrwyddo cysondeb cenedlaethol.

Oherwydd unochredd y ffasiwn ‘ffwythiannol’, cyfyngwyd ar y mathau o

ymarferion a fabwysiadwyd. Collwyd disgyblaeth a threfn ymarferion a chyfryngau

strwythurol. A chollwyd yn anad dim y cyswllt cwbl allweddol rhwng ffwythiant a

strwythur. Ceisiwyd gwneud iawn am hyn drwy fod yn eclectig. Ond trefn oedd yr

angen canolog.

Erbyn hyn, y mae’r feirniadaeth ar ddysgu ffwythiannol mewn gwledydd eraill

wedi codi’n gorws mawr. Cafwyd beirniadaeth rymus ar y dull cyfathrebol (neu

ffwythiannol) mewn cyfres o gyfrolau safonol megis Languages Step by Step, Graded

Objectives in the UK, Brian Page a Derek Hewett (1987); Learning to Teach Modern

Foreign Languages, N. Pechler a K. Field (1997); Teaching Modern Foreign

Languages in Secondary Schools, gol. Ann Swarbrick (2000); Issues in Modern

Foreign Language Teaching, gol. K. Field (2000); Language Forum, Alan Hornsey

(1994); Towards a Learning Theory in Modern Language, T. Roberts (1992). Ond y

mwyaf dylanwadol oedd Modern Foreign Languages Inspected: Reflections on

Inspection Findings, A. Dobson (1998).

10

Dyfynnaf Earl W. Stevick, Teaching and Learning Languages (1982): ‘Heb

ein gallu i ddefnyddio patrymau, fyddwn ni ddim yn medru deall na chynhyrchu

unrhyw frawddegau na chlywsom ni mohonyn nhw o’r blaen’.

Erbyn fersiwn 1999 o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer ieithoedd modern,

adferwyd gramadeg yn grwn, ond efallai fod y gwelliannau wrth ‘batrymu gramadeg’

wedi’u colli yn yr holl helbul. Yng Nghymru, sut bynnag, bu rhai ohonom yn rhybuddio

am hyn oll yn y 60au cyn cael yr holl golledion hyn. Ni ddibynnwyd ar bragmatiaeth

nac ar eclectigiaeth y pryd hynny, ond ar ddadansoddiad eglur o natur iaith.

Cymreictod Gwreiddiol Dysgu Ail Iaith

Cyn i’r Mudiad Ffwythiannol mewn anwybodaeth greu’r fath ddifrod yn y

gwaith pwysig hwn yng Nghymru, caed rhai datblygiadau digon gwreiddiol ar dir

Cymru.

(i) Ymarfer dwyieithog â Phatrymau

Datblygwyd Ymarfer â Phatrymau yn ymarferiad cyffredin drwy UDA a

Chanada ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Gweithiai drwy gyferbynnu ac ailadrodd — prif

gyneddfau pob deall. Fe ddibynnai ar waith llafar lle y disodlid elfen (neu ddwy) wrth

symud yn gyflym o frawddeg i frawddeg. Fe’i beirniadwyd am ei fod yn uniaith (h.y. yn

yr iaith newydd) ac yn wan o’r herwydd ar gyfleu ystyr, ac yn ail am ei fod yn

ymarferiad a geisiai gyflyru arferiadau. Daethpwyd yn ymwybodol fod iaith yn

ddyfnach nag adweithiau ymddygiadol.

Ond yng Nghymru, datblygwyd ‘dril dwyieithog’. Defnyddid y famiaith yn

ysgogiad i esgor ar frawddeg, ac yna drwy ddrilio disodli a chyfnewid, llwyddid i

gyfleu ystyr ac eto, er bod y famiaith yn ysgogiad o du’r athro, osgoi’r famiaith o du’r

dysgwr.

Paratowyd grid cyflawn o gwestiyna, o adeiladu ymadroddion a chymalau. A

chysylltid dril dwyieithog strwythurol â ffwythiannau a sefyllfaoedd drwy Lecture

Expliquée wedi’i chyflwyno’n gyntaf drwy ddril dwyieithog; a hefyd dramodigau

wedi’u strwythuro, caneuon, a chwaraeon. Dyma’r dull gorau o gyflwyno

ffwythiannau o fewn cyd­destun realistig mewn dosbarth. A da gweld bod llawer o

gyrsiau’n dal i’w ddefnyddio.

(ii) Ail Iaith yn Gyfrwng Pynciol

Oherwydd y symudiad i sefydlu Ysgolion Cymraeg, nid yn unig ar gyfer Cymry

bach iaith­gyntaf, eithr hefyd ar gyfer plant i rieni uniaith Saesneg a ddymunai i’w plant

fanteisio ar holl ragoriaethau addysg Gymraeg, cafwyd datblygiadau nodedig yn y

sector ail­iaith. Gwelwyd wrth gwrs fod y plant uniaith Saesneg yn cael llwyddiant

eithriadol. Eithr arbrofwyd mewn ambell ysgol uniaith Saesneg, a hynny mewn

ardaloedd dan anfantais, i ddefnyddio’r gwersi Cymraeg ar gyfer dysgu pynciol. Drwy

waith gan Gwyn Daniel, Moelwyn Preece, a Goronwy Phillips, datblygwyd

sefyllfaoedd dysgu daearyddiaeth, natur, hanes, ysgrythur, ymarfer corff, ac yn y blaen

drwy gyfrwng y Gymraeg, a’r rheini wedi’u graddio a’u strwythuro.

Gall fod hyn yn fwy naturiol yng nghyd­destun ieithyddol yr ysgol na rhyw ffug

ymweliad â’r Swyddfa Bost ac yn y blaen. Symudid oddi wrth ddysgu testunol — a

Mathemateg yn boblogaidd iawn (mewn arbrofion cyfredol mewn gwledydd eraill) —

tuag at Ymddiddanion Rhydd drwy gyfrwng holi ac ateb, ac ymlaen i ddramodigau

sefyllfaol.

Yr un pryd, yr oedd yr Ysgolion Dwyieithog yn derbyn mwy o ddisgyblion di­

Gymraeg, ac yn cael llwyddiant anghyffredin. Gwnaethpwyd prosiect arloesol ym Maes

11

Garmon, a dangosodd Dr Cen Williams fel y gallai dosbarth cyfan o ddysgwyr newydd

ar drothwy eu haddysg uwchradd gynyddu i’r fath raddau nes y gallent hyd yn oed

gystadlu’n deg yn fuan â Chymry iaith­gyntaf.

(iii) Cyd — ymddiddan rhydd Oedolion

Gwelwyd methiant Iwerddon i adfywio’i hiaith oherwydd ei gorddibyniaeth (a)

ar ysgolion, (b) ar ddeddf iaith, cyfieithu swyddogol, a dwyieithedd gwleidyddol.

Gollyngwyd Urdd yr Wyddeleg i bob pwrpas ar ôl cael ymreolaeth.

Yng Nghymru gobeithir gosod oedolion ar ganol y mudiad i adfer yr iaith — yn

wirfoddol ac yn gyfrifol (gan gynnwys rhieni). Mae’r mudiad Cyd ei hun yn wreiddiol,

yn yr ystyr ei fod yn cynnwys y Cymry Cymraeg rhugl ynghyd â’r dysgwyr yn yr

adfywiad. Hynny yw, y mae’n cyflawni’r amod angenrheidiol o fod ar gyfer y genedl yn

gyfan. Adennill cadarnhaol deublyg ledled y wlad yw’r nod. Ymddiddan cyfeillgar a

helpfawr mewn undod yw’r dull. Dyma’r ddelwedd gywir a’r ffordd i adeiladu ewyllys

y bobl. Mae’r naill ochr a’r llall yn cyfrannu yn atgyfodiad yr iaith. Nid ymgais yw i

brotestio er mwyn beio neu symud cyfrifoldeb at yr awdurdodau — boed y rheini’n

weinyddol neu’n addysgol. Ni ein hun sy’n ymgymryd â’r dasg, a hynny’n ysgafn ond

yn anrhydeddus. Mudiad yw sy’n uno cymdeithas drwy ddefnyddio’r iaith. Ac y mae

mawr angen hyn ar bob ardal, gan gynnwys y bröydd Cymraeg nerfus a diarweiniad, i

fanteisio ar ewyllys da hynod gyffredin. A cheisir gweithio o’r herwydd i berswadio’r

awdurdodau ariannol i gymhwyso’u profiad a’u gwybodaeth uniongyrchol ynghylch

adennill iaith i gefnogi’r symudiad yn ddeallus, gan gynnal mudiad nad yw’n dibynnu ar

brotestiadau gwleidyddol, ond a all fod yr un pryd yn fwy grymus na’r rheini.

Clo

Cydnabyddir buddioldeb y cysyniad o ffwythiannau wrth gynllunio geirfa.

Cyfetyb hynny ym maes dysgu iaith i’r elfen ‘motiff’mewn beirniadaeth lenyddol. Mae

iddo’i le. Ond y mae trefnu’r detholiad o eirfa weithredol yn effeithiol yn golygu lletach

ystyriaethau: grwpio semantaidd, rhoi sylw i ffactorau amlder a chyfleusrwydd,

cynllunio geirfa’n hierarchaidd neu’n gyferbyniadau, ac yn y blaen. Mae hyn oll yn ein

rhybuddio rhag baglu ymlaen o ffwythiant i ffwythiant yn symlaidd anarchaidd. Asgwrn

cefn yr eirfa bob amser yw strwythur yr iaith.

Canfuwyd mai cyffelyb oedd rhesu llinyn o ffwythiannau geirfaol i’r ymagwedd

anarchaidd yn y modd y bu rhai tiwtoriaid a chyrsiau cyfryngol yn cymysgu modelau

iaith. Gellid gwella’r holl sefyllfa’n enfawr.

Yr hyn y mae ei angen bellach yw gweld cynllunio cyrsiau, a strategaeth fwy

holistig wrth gyfuno mudiad cyflawn yr adfywio Cymraeg — ysgolion, dosbarthiadau

oedolion, Cyd, a’r Mentrau Iaith; y Cymry Cymraeg ynghyd â’r Cymry sy’n dysgu; y

cyhoedd a’r cyfryngau. Mae Cymru’n haeddu gwell nag amaturiaeth wrth baratoi’r

adfywiad.

12

RHAGAIR

(i) Diffinio Dysgu Cyfansawdd

Yn ddiweddar ym maes dysgu ail iaith, bu athrawon gorllewin Ewrob yn

dystion i adwaith cynyddol yn erbyn y dull cyfathrebol (ffwythiannau, tybiannau).

Cafwyd sawl arolwg ac astudiaeth a fynegai anfoddhad mawr ynghylch y ffasiwn.

Erbyn yr adwaith hwnnw, yr oedd y dull cyfathrebol ei hun wedi bod yn adwaith,

braidd yn anneallus, yn erbyn y dull strwythurol. Ac ar hyd y canrifoedd o Gyfnod

Clasurol Groeg a Rhufain, ymlaen drwy’r Dadeni Dysg i’r Cyfnod Rhamantaidd, ac

yna’r Cyfnod Modern, fe gafwyd cyfres bendiliol gyffelyb o byliau a symudai o un

pegwn i’r llall. O ramadeg i’r dull union. Dyma’r hen begynau, yn fras, a geid yn

weddol reolaidd ac arferol. O strwythurau i sefyllfaoedd, o batrymau i eirfa. Yn ôl ac

ymlaen: y gwamalu hwnnw yw un o themâu’r astudiaeth hon.

Ar sail rhyw fath o synnwyr bawd, yma ac acw ar hyd y llinyn hanesyddol

adweithiol cyson hwn, byddai ambell un pragmataidd, fel y cawn weld, yn barnu y

byddai dull eclectig yn gweithio. Cymysgu rhinweddau’r naill ddull a’r llall yn

glytwaith. Ac yna, am nad oedd y rhesymeg oddrychol y tu ôl i’r holl broses honno yn

eglur, dechreuai’r pendilio cystadleuol arni drachefn. Doedd neb wedi eistedd yn ôl ac

ystyried y cwestiwn rhyfedd: pam y digwyddai’r gwamalu neilltuol rhwng y naill

begwn a’r llall, yn y fath ffordd weddol reolaidd? Ni ellid datrys y broblem ddeuol

addysgol honno, felly, pan nad amgyffredwyd y broblem ddeunyddiol greiddiol yn y lle

cyntaf. Ymgais betrusgar yw’r gyfrol hon i ateb y broblem arbennig honno ac i gynnig

polisi penodol ac eglur ar gyfer cynllunio cyrsiau.

Adlewyrchai’r ddeuoliaeth, yn y broblem o begynu, y ddeuoliaeth seml a oedd

eisoes yn y deunydd i’w ddysgu. Dwy wedd gyffredinol sydd i bob iaith. Does dim

dianc rhag hynny. A does dim pwynt ceisio dysgu’r un o’r ddwy heb y llall. Mae’r ateb

i’n problem yn syml ddigon, felly. Fel y dangosodd Saussure, dau gyflwr cydangenrheidiol

i’w gilydd yw Tafod a Mynegiant (Langue a Parole). Dadleuodd

Chomsky yn gyffelyb gan sôn am y ddau gyflwr, Competence a Performance. Mae’r

ddau gyflwr yn sylfaenol wahanol ond yn gyfun. Yn y deunydd sydd i’w ddysgu, ceir

deuoliaeth sy’n mynnu cael ei hwynebu, a hynny’n gyfan mewn modd deuol. Rhaid

dysgu’r ddau yng ngolau’i gilydd: y naill yn weddol gaeth, a’r llall yn weddol rydd.

Dau ydynt sy’n dod at ei gilydd yn undod iaith.

Beth yw natur y ddau hyn?

‘Mecanwaith’cyffredinol yn y pen yw’r hyn y defnyddir y trosiad Tafod ar ei

gyfer. Mae’n gudd ac yn disgwyl i’w ddefnyddio yn y gwaith o lefaru. Cyfundrefn o

gyfundrefnau cydlynol yn y meddwl yw, bob un yn gynnil gyferbyniol, ac yn

ddadansoddiad o’r realiti yn y byd. Mae Tafod yn botensial, wedi’i adeiladu ar sail

egwyddorion tra syml gan y plentyn. Heb y Tafod mewnol hwn ni ellir gweithredu’r

iaith yn allanol. Does dim un frawddeg yno’n barod ym meddwl y Tafod yn sylfaenol.

Nid y cof yw yn unig. Strwythurau cymharol sefydlog a chryno, dyna’r fframwaith

sydd ynddo, ar gyfer cynhyrchu brawddegau. Dyna’r undod cydlynol sylfaenol y mae’n

rhaid i’r dysgwr ei feistroli. Bydd y baban yn ei ddarganfod drwy broses hir o wrando

drwy gydol oriau cyswllt helaeth, drwy berthynas athro­plentyn un­ac­un; a thrwy

wahanu syml a chanfod cysylltiadau. Gydag ail iaith wedyn, ymhellach ymlaen, i blant

aeddfed ac i oedolion, yn hytrach na thybied yn hapus anwybodus mai anarchiaeth

ddigyfrifoldeb yw trefnu’r dysgu drwy Fynegiant cymysg ac anarchaidd ffwythiannol

yn unig, ac mai dyma’r ffordd orau i ennill Tafod, gellir darganfod y drefn orau yn

ddeuol effeithiol drwy fyfyrdod ar natur ddeuol iaith.

13

Ond does dim dewis. Ni ellir osgoi darganfod a dysgu Tafod. Dyna un wedd

orfodol y mae’n rhaid ei meistroli wrth ddysgu ail iaith.

Ac nid dyna’r unig wedd na ellir ei hosgoi.

Ar sail y ‘mecanwaith’cymharol sefydlog hwn, ceir Mynegiant ar y pryd.

Dyma amlder ymddangosiadol ansefydlog. Dyma gyfathrebu allanol ymddangosiadol

ffwythiannol: brawddegau benbwygilydd yw, yn ddiderfyn amrywiol. Dyma’r

canlyniad, yr ehangder amlwg yn y golwg. Ni ellir osgoi hyn ychwaith. Ond gellir

ysywaeth ymagweddu ato’n anhrefnus.

Dyw’r naill ddim yn gweithio heb y llall.

Rhaid i’r dysgwr feistroli Tafod. A rhaid meistroli Mynegiant hefyd. Ni ellir

dysgu yr ail yn effeithiol heb y cyntaf, beth bynnag a fyn ffwrdd­a­hi ffwythianwyr.

(Gellir ei ddysgu’n flêr wrth gwrs, ond bydd llawer yn cwympo wrth ochr y ffordd.) Y

gwir yw nad oes dim pwynt dysgu’r cyntaf heb yr ail chwaith, beth bynnag a fyn

strwythurwyr disgybledig. Y broblem yw dod o hyd i’r ffordd ddeuol fwyaf effeithiol a

threfnus i feistroli’r naill a’r llall. Un cynllun cyfansawdd. Cadw llygad ar y ddau. Y

ffordd fwyaf effeithiol, drefnus ac ystyrlon sydd orau, gyda’r ddwy wedd hyn ynghyd,

gan ddilyn llwybr olynol ar y cyd drwy’r jwngl. Dod o hyd i’r drefn honno mewn

symlder cyferbyniol cyntefig ac o gam i gam gan ymarfer yn hwylus, dyna yw camp y

plentyn, a champ y sawl sy’n cynllunio cwrs medrus.

Nid eclectigiaeth yw’r ateb yn hollol, oherwydd nid hel unrhyw hoff ddulliau a

wneir, gan anwybyddu o bosib yn y cymysgedd un ochr tra bydd y llall yn gofalu

drosti’i hun. Ond sylweddoliad o natur drefnus ddeuol, Tafod ar y naill law ynghyd â

pherthynas Mynegiant a’i sefyllfaoedd arwyddocaol cydlynol ar y llall. Nid cymysgu’r

hen ddulliau yn eclectig hapus, felly, ond dethol y dulliau i bwrpas yn ôl y deunydd

cyflawn. Penderfynir y deunydd hwnnw’n ddoeth yn gyntaf yn ôl ei strwythurau, felly;

ac wedyn fe’i cyfansoddir yn ymarferion cyfathrebol gweddus. Arferiadau ie; ond deall

gyda’r rheini. Ieithyddiaeth ynghyd â Seicoleg Cymdeithasegol.

Llwybr union eglur, os deuol, yw’r llwybr hwn yn ôl ac ymlaen rhwng Tafod a

Mynegiant. Mewn ail iaith y nod yn gyntaf yw darganfod ac adeiladu Tafod drwy

hyfforddi arferiadau pwrpasol trefnedig wedi’u graddoli, fel y gellir yn ail (er yn

gyfredol) ddefnyddio cyfundrefnwaith Tafod i gynhyrchu pob math o Fynegiant o fewn

ei amodau.

Eto, nid y dysgwr sy’n penderfynu’r deunydd. Nid y dysgwr sydd yn y canol.

Nid yr athro chwaith yn gyntaf oll. Ond natur yr iaith ei hun. Os dysgir cystrawen 10

cyn cystrawen 3, neu gystrawen 15 cyn cystrawen 2, beth bynnag a fyn y dysgwr, yna

mae’n mynd i fod yn anos; mae’r dosbarth yn mynd i leihau heb wybod pam. Mae

angen adeiladu bricsen ar gefn bricsen, nid ar awyr. Os anfonir holiaduron atynt, sut yn

y byd y gallant ateb bod y graddio’n wirion a’r ymarferion ar chwâl? Sut y gallant

wybod yr angen i ddysgu ffwythiannau’n effeithiol a’r rheini eisoes wedi’u gwasgaru

fel conffeti? Os ceisir dysgu darnau o ddwy dafodiaith yr un pryd, dyweder, neu ynteu

rannau o un model ieithyddol ynghyd â model arall, dau gywair (e.e. iaith lafar safonol

naturiol ynghyd â thafodiaith leol, megis negyddol presennol y ferf ‘bod’— ‘so i’n

gwbod’), gall cymysgu ddigwydd, a’r dysgwr ddigalonni. Ni bydd yr athro na’r dysgwr

yn ôl pob tebyg yn gwybod pam y mae’n rhaid rhoi’r gorau iddi, rhai efallai erbyn

diwedd y flwyddyn gyntaf, rhai ynghynt. Ac ni ellir eu beio.

Trefn ystyriol sy’n sylfaenol, felly, ynghyd â chysondeb cywair a ffurfiau, i

lunio’r cwrs.

Yr iaith yn ôl ffaith ei deuoliaeth sy’n ufudd i’r egwyddor drefnus honno.

14

O’r herwydd, doeth yw mabwysiadu’r dull mwyaf bywiog a deniadol ond

ymarferol drefnus o drosglwyddo’r deunydd.

Ers saithdegau’r ugeinfed ganrif, yn rhy fynych, collwyd trefn a’r ymwybod o

arwyddocâd strwythurau. Cymerwyd y golled yn rhy ysgafn gan gyfansoddwyr cyrsiau

oherwydd dilyn theori hollol annigonol ac anwybodus. Baglwyd ymlaen weithiau fel

dyn meddw o strwythur i strwythur, o iaith lafar safonol naturiol i dafodiaith anghyson.

Daethpwyd â rhestr o ffwythiannau heb eu trefnu’n gydlynol ystyrlon (ynghlwm wrth

Dafod) a heb fod yn olynol yn null Gouin, nac yn ôl carfanau meysydd semantaidd.

Oherwydd nad oedd ymwybod o Dafod (neu Competence) yn olynol effeithiol yn y

meddwl o flaen llaw, baglwyd ymlaen o ffwythiant i ffwythiant, o sefyllfa i sefyllfa,

unwaith eto fel dyn meddw. Wrth geisio holi dysgwyr pam yr oeddent yn rhoi’r gorau

iddi — sut yn y byd y gallent roi’r ateb cywir, heb wybod gwneuthuriad a threfn yr

iaith?

Weithiau, does dim angen i berson gofalus, sy’n meddu ar gefndir ieithyddol,

namyn gwrando ar un wers. Erbyn yr ail wers daw’n gwbl amlwg. Does dim adeiladu

gofalus o gam i gam wedi bod. Ceisir yn aml stwffio gormod o bwyntiau digyswllt yr

un pryd. Yn aml, cymysgir modelau iaith. Ond ni chyfunir yn effeithiol batrymau’r iaith

a’r sefyllfaoedd lle y’i gweithredir.

Wrth geisio adweithio yn y saithdegau yn erbyn yr hyn y tybiwyd ei fod yn

strwythureg (o’r pumdegau a’r chwedegau), yr hyn a gafwyd oedd cymysgedd. Mewn

gwirionedd, ped edrychid yn fanylach, gwelsid fel yr oedd strwythurau’r chwedegau

eisoes yn arwain drwy ‘holi ac ateb’strwythurol a Lecture Expliquée i ymddiddan

rhydd. Sef o Dafod i Fynegiant. Yr hyn yr oedd ei angen oedd gwyro drwy

gymhwyso’n ofalus fwyfwy i gyfeiriad sefyllfaoedd, wrth gwrs. Ond pe gwyddai

cymhwyswyr y saithdegau — y cyfathrebwyr — rywbeth am y cyrsiau cynt (fel Voix et

Images de France dyweder: gw. Athro Ebrill/Mai 1964) yn y chwedegau, ni buasai’r

adwaith mor golledus efallai. Wrth geisio newid (ac mae bob amser eisiau newid)

ceisiwyd hynny yn aml gan anwybyddu amlochredd y gorffennol, neu mewn

anwybodaeth sylfaenol am yr enillion a gafwyd yn strwythurol ddeuol yn y gorffennol

hwnnw. Ni ddeallwyd deuoliaeth nac arwyddocâd Tafod a Mynegiant; mater elfennol

iawn. Ac aethpwyd yn llon i’r anialwch.

Yr oedd yr ieithyddion yn pleidio strwythurau, a’r seicolegwyr (a’r

cymdeithasegwyr) yn pleidio ffwythiannau. Heb ddidactegwyr hyfforddedig i’w gweld

yn pleidio’r ddeuoliaeth anochel, nid oedd cyfanrwydd iaith a dysgu cyfansawdd yn

eglur. Fe ildiwyd felly i eclectigiaeth weithiau, ond nid yn ôl y ddeuoliaeth unplyg ac

eglur honno sy’n hanfodol, fel y ceisiwn ninnau ei hesbonio eto, wrth inni fynd rhagom.

Gadewch imi gymryd enghraifft o un dechneg a esgeuluswyd gan rywrai yn

ystod y siglad pendil diweddaraf, siglad a gafwyd gan garfan yn Lloegr yn gyntaf, ac

wedyn wrth gwrs yng Nghymru: sef gollwng Ymarfer â Phatrymau (Pattern Practice).

Dylwn frysio i ddweud fod Ymarfer â Phatrymau wedi cymryd llwybr eithaf arbennig a

gwreiddiol yng Nghymru yn y pumdegau a’r chwedegau, sef dril dwyieithog. Fe’i

defnyddid yn helaethach ac yn fwy llwyddiannus am rai blynyddoedd gan mwyaf ar

ddechrau cyrsiau Cymraeg ledled ein gwlad.

Yr oedd Ymarfer â Phatrymau yn golygu ailadrodd, disodli, trawsffurfio

brawddegau cymharol gwta, a hynny yn ôl graddio tyfiannol. Drwy’r rhain y

cydnabyddir cydlyniad. Y broblem anodd ar y dechrau oedd argraffu ar y meddwl yr un

pryd ystyr y brawddegau hyn. Roedd dull Gramadeg/Cyfieithu yn swyddogol

waharddedig gan y theorïwyr ers tro, wrth gwrs, er nad oedd felly gan yr holl athrawon

ymarferol yn y maes. Yng Nghymru, dan arweiniad Carl Dodson, fe drechwyd y

15

oblem honno drwy osod brawddegau byrion yn Saesneg fel ysgogiadau, ond gan

symud o frawddeg i frawddeg heb newid ond rhan fechan o’r ysgogiad. Cyflymder y

broses oedd yn bwysig. Yr hyn a ddymunid oedd ymateb sydyn ar y pryd. Weithiau, ni

roddid ond un gair fel ysgogiad i newid y frawddeg gyfan. Ac ni ddefnyddiai’r dysgwr

ond yr iaith newydd yn gyson o’r dechrau.

Cynigid i’r athro ddefnyddio tabl fel hyn:

I’m following the boy

he’s carrying a child

she’s leaving man

we’re lifting box

you’re taking dog

they’re

car

Caed gan yr Athro felly: I’m following the boy.

Dysgwr: Dwi’n dilyn y bachgen.

Athro: He’s

Dysgwr: Mae e’n galw’r bachgen.

Athro: lifting

Dysgwr: Mae e’n codi’r bachgen.

Athro: a child

Dysgwr: Mae e’n codi plentyn.

Athro: They’re

Dysgwr: Maen nhw’n codi plentyn.

Athro: carrying ayyb

Cylchynai’r tiwtor y dosbarth â’i fys, a rhedeg ymlaen o frawddeg i frawddeg

yn ‘ddifyfyrdod’. Cynhyrchid llawer o frawddegau bob munud gan aros o hyd o fewn

cyrhaeddiad hawdd y dysgwr. Aml oedd y cyswllt â phob dysgwr. Caed beirniadaeth

lem ar Ymarfer â Phatrymau o’r ddau gyfeiriad, pleidwyr strwythurau a phleidwyr

ffwythiannau. Dadleuai’r Tafodwyr yn erbyn agweddau ymddygiadol tuag at

Fynegiant, priodoledd a amheuent ei fod ar waith, yn yr ymarferiad hwn. A dadleuai’r

Mynegianwyr yn erbyn gweddau disgybledig ar Dafod ac ar annaturioldeb tybiedig. Ni

lwyddodd odid neb i ganfod y gwahaniaeth sylfaenol hanfodol rhwng Tafod a

Mynegiant, a’r angen i gyd­adeiladu’r naill drwy’r llall. Y brif feirniadaeth gan amlaf

oedd nad hyfforddi ymatebion difeddwl­syth i ysgogiad oedd gwaith dysgu iaith

ddeallus. Ymddygiadaeth hen­ffasiwn (Behaviourism) oedd hynny, dybid: stwff addas

ar gyfer cn Pavlov.

Defnyddiai Seicolegwyr Ôl­ymddygiadaeth ddadleuon yn erbyn gorsymlder

unrhyw waith ymddygiadol. Defnyddiai Ieithyddion ddadleuon yn erbyn Ymarfer â

Phatrymau oherwydd bod dysgu iaith yn ddyfnach o lawer nag adwaith anifeilaidd:

cynhwysai ymarfer ddeall, a hefyd adeiladu strwythur gydag ymwybod cydlynol a

thrawsffurfiol. Ond yng Nghymru ni chanfyddid ar y dechrau yr hwylustod o gyflwyno

ystyr a ganslai rai o’r dadleuon hynny’n lân, drwy’r elfen o gyfieithu cyflym Saesneg­

Cymraeg. Yng Nghymru roedd dril dwyieithog, ac wedyn holi ac ateb patrymog, yn

ddiarwybod iddynt yn ateb dadleuon o’r fath yn weddol ddeheuig. Gwir fod yr ymateb

sydyn awtomatig braidd yn ymddygiadol ar yr wyneb. Ond hanfod pob deall oedd

deuoliaeth ailadrodd + cyferbynnu; gwahaniaethu ac uno. Pwysleisid hefyd strwythurau

sylfaenol yn y patrymu hwn; a’r un pryd pwysleisid cynhyrchu brawddegau, a’r rheini’n

16

amrywio o berson i berson, ac eto’n ddealledig o hyd. Pan symudid wedyn o’r naill

gystrawen i’r gystrawen nesaf, pwysleisid cydlyniad yr iaith, y berthynas o’i mewn, a’r

adeiladu cynyddol. Y mae’r dosbarth sy’n ymaflyd yn yr ymarferiad cyffrous hwn yn

dysgu canfod cydberthynas brawddegau â’i gilydd. Ac eto, wrth gwrs, y mae’r

ailadrodd yn hyrwyddo dealltwriaeth.

Ymarferiad o fewn deall a strwythur, arferiad ac adeiladu cyfundrefn, dyna

oedd Dril Dwyieithog Patrymog felly. Yn sgil ei arfer, yr hyn a ddigwyddodd oedd bod

arferion ieithyddol mewn Mynegiant wedi cyfrannu at adeiladu strwythurau ‘sefydlog’

mewn Tafod. (Dyma’r ffordd, gyda llaw, ym maes llenyddiaeth y datblygodd Cerdd

Dafod (Strwythurau’r Gynghanedd) ar sail arferiadau mewn Mynegiant. Er enghraifft,

fe âi’r bai ‘Rhy Debyg’yn fwyfwy annerbyniol (i’r chwaeth) mewn ymarfer barddonol

nes ei fod yn troi’n un o’r beiau gwaharddedig strwythurol mewn Cerdd Dafod. O’r

Mynegiant i’r Tafod. Yn y modd yna y sefydlwyd pob gwedd ar gyfundrefn lenyddol

mewn Cynghanedd, ac yn y gweddill o lenyddiaeth hefyd o ran hynny. Ac felly y dylai

fod hefyd gyda dysgu ail iaith, yn arbennig amlwg wrth gywiro gwallau.) Yn achos y

Dril Dwyieithog Patrymog uchod, drwy sefydlu arferiadau eglur a chydlynol mewn

ailadrodd amrywiol a chyferbyniol, dyna un ffordd yr adeiladwyd ac yr adeiledir Tafod

ail iaith yn bur strwythurol yn y meddwl.

Yn awr, nid dadlau o blaid unrhyw dechneg nac ymarferiad arbennig yw fy

mhrif fwriad yn y fan yma. Na: arddangos problem; yr hyn sy’n angenrheidiol yn fy

marn i cyn mabwysiadu ymarfer neu ddull yw sylweddoli beth yw’i gyfraniad yn y

broses gyffredinol o adeiladu deuoliaeth Tafod a Mynegiant. Sut y bydd yr arferiadau

yn cyfrannu i’r strwythurau? Ac i’r ffwythiannau. Undod deuol yw hyn yn y diwedd

bob amser; ac yng ngoleuni’r ffaith honno y symudir ymlaen.

Lol botes yw dweud mai ymddygiadaeth Pavlov yw Ymarfer â Phatrymau felly,

yn arbennig mewn dril dwyieithog. Dibynna pob dealltwriaeth a phob dadansoddiad o

realiti ar Gyferbynnu ynghyd ag Ailadrodd, sef hanfod Ymarfer â Phatrymau.

Gwahaniaethu ac Uno. Y term a ddefnyddid yw GWAHUNO. Cydnabod hynny, cofio

hynny, gweithredu hynny yw sylfaen pob iaith a phob dysgu cyfansawdd. Does dim

dewis. Dyma yw deall, nid adwaith cn Pavlov. Mae’n wir bod yr ailadrodd hwn

hefyd yn fuddiol i feithrin arferiad. Ond y mae’r dechneg yn ddyfnach o lawer nag

arferiad. Ymarfer â Strwythurau ymenyddol parod yw. Fe’i seilir ar y cyferbyniadau

anieithyddol a chynieithyddol sy’n sylfaen i gynnal ‘gramadeg’. Ond gramadeg

ymarferol yw. Dysg hyn y ffordd i ddirnad. Ymdry gyda’r amgyffrediad ac argraffu’r

fframwaith dadansoddi a chydlynu’r adeileddau’n olynol yn y meddwl.

A dysgu trefn yn ogystal â dysgu trefnus yw calon y gwaith.

Mae Ymarfer â Phatrymau dwyieithog yn golygu ymgysylltu â chyfundrefn

lawn ystyr. Mae’n gam bras ar y llwybr i feistroli cydlyniad eang o drefn ddofn

arwyddocaol o fewn patrwm o batrymau treiddgar. Nid atgyrch ‘anneallus’cn

Pavlov yw peth felly. Ac nid rhyw gymhelliad di­sut yw’r ysgogiad. Meithrin

sythwelediad a wneir. Diau hefyd fod yna elfen o ddeallusrwydd cyntefig ar waith sy’n

uwch nag atgyrch anifeilaidd. Bid sir, rhaid cydnabod yn barod fod yna elfen — o

bosib elfen gref — o atgyrch isymwybodol ar gerdded, hynny yw yn gydweithredol

anamlwg. Ond fe fydd symud ystwyth ac amrywiadol o ‘Dwi’n gweld y bachgen’hyd

at ‘Mae e’n clywed y ferch’, er ei fod yn gallu digwydd mewn dril cwta dwyieithog

gyda chyflymder bron yn ddifeddwl drwy ddilyn camre graddol cysylltiol, yn golygu

canfod patrwm ystyrlon, patrwm sydd, heblaw sylwi ar ystyr, yn sylwi ar berthnasoedd

gramadegol. Gwir bod yna fath o gymdeithasiad ysgogiadau; ond y mae ansawdd yr

hyn a gymdeithesir ac a gyflyrir ac a ddysgir — er y gall ymddangos yn isymwybodol

17

neu’n anymwybodol (megis cyfeiriad neu leoliad amser yn nhympau’r ferf) — ymhell

uwchlaw dysgu ‘ymddygiadol’pur.

Dyma ddysgu creadigol a ffrwythlon.

Gwiw yw sylweddoli dyfnder y siglad taeog at ffwythiannau amddifad.

Heb yn wybod (mae’n debyg) i’r rhai sydd wedi hyrwyddo’r adwaith tuag at

ffwythiannau neu’n hytrach oddi wrth drefn strwythureg, yr hyn sydd wedi digwydd

iddynt yw treiddiad Ôl­foderniaeth i fyd Didacteg. Fel ym mhob un o’r dyniaethau

eraill yn ddieithriad — cafwyd diffyg graddio olynol strwythurol, lluosedd, chwalfa

trefn, relatifrwydd, dadadeiladu — dyma’r ffasiwn a’r dogma meddyliol sydd wedi

gafaelyd (yn ddiymwybod yn fynych onid bob amser) ym meddwl y rhai sy’n

anfeirniadol agored i chwiw’r amseroedd. (Felly y bu gyda llenyddiaeth.) Ac felly,

ysywaeth ac yn fwy tyngedfennol gyda’r Gymraeg fel ail iaith. Ond dyw’r anhrefn hon

yn y pen draw ddim yn gweithio fel y dylid: dyw hi ddim yn ‘wir’. Er ei bod yn drendi.

Ac yn sicr, y mae’n orthrwm. Yng Nghymru, daeth yn rhan o’r Sefydliad.

Mewn gwirionedd, ni ddeallwyd y cyfuniad angenrheidiol a gwahunol o Dafod

a Mynegiant gan genhedlaeth y saithdegau. Credaf i hyn ddigwydd, nid oherwydd

methiant ymenyddol ond oherwydd bod holl bwysau’r amseroedd drwy’r dyniaethau i

gyd yn ymosodol isymwybodol o blaid anhrefn a chwalfa Ôl­foderniaeth. Derbyniwyd

arweiniad Lloegr yn ddi­gwestiwn er bod yna ddatblygiadau gwreiddiol yng Nghymru

eisoes fel y cawn weld. Ac argyfwng hefyd.

Yn lle eclectigiaeth fel adwaith ‘annethol’, hynny yw heb sylweddoliad llawn

pam, y mae angen deall a chydnabod deuoliaeth y cyflyrau ieithyddol a’r dull

angenrheidiol i’w cydadeiladu. Mae hyn yn adlewyrchu golwg Gymreig ar bethau a

gafwyd cyn y chwiw estron o Loegr. Hynny yw, yn lle eclectigiaeth, seilid y dadleuon

ar ddadansoddiad cyfansawdd a deuol o’r sefyllfa ac nid ar fod yn drendi.

Mae’n bwysig sylwi yn amlach ar y datblygiadau Cymreig a gafwyd yn y

mudiad ail iaith a deall beth sy wedi digwydd. Mae yna dechnegau a pholisïau

gwreiddiol Gymreig neu a feithrinwyd yn arbennig o fewn y cyd­destun Cymreig. A

thrist yw gweld ymadael â hwy neu eu hanwybyddu hwy, fel arfer mewn anwybodaeth,

neu oherwydd y duedd iselradd Gymreig i redeg ar ôl yr estron yn hytrach na manteisio

ar y tyfiannau brodorol.

Beth yn arbennig a ddigwyddodd yng Nghymru?

1. Driliau Dwyieithog Dodson. Er nad oedd y dril ei hun yn wreiddiol, y mae’r modd y

cyfunwyd hyn â Lecture Expliquée ac Ymarfer â Phatrymau yn nodedig; ac ymlaen i

Ymddiddan Rhydd. Hefyd y mae’r datblygiadau diweddar a welwyd gan Dodson, nid

yn unig yn Language Teaching and the Bilingual Method (London, 1967) ond wedyn,

y rhai a ddigwyddodd yn bennaf o fewn y cyd­destun Cymreig ac sy’n dal yn ganolog

bwysig. Fe drafodais y dril hwnnw yn gynnar yn yr Athro, Tach. 1962; Rhag­Ion,

1963­4, ac yn fy nghyfrol Cyflwyno’r Gymraeg (1964). Lluniwyd y cwrs Cymraeg i

Oedolion yn sylfaenol ar y dull. Newidiodd hyn ergyd Ymarfer â Phatrymau.

2. Oherwydd cefndir yr Ysgolion Cymraeg (lle yn fynych y defnyddid y Gymraeg yn

gyfrwng hyd yn oed gyda phlant ail­iaith), datblygwyd yn yr Ysgolion Saesneg

hwythau ddefnydd o’r ail iaith fel cyfrwng o fewn eu gwersi Cymraeg. Soniais yn

Cyflwyno’r Gymraeg am waith Gwyn M. Daniel ar Ddaearyddiaeth, ac am Moelwyn

Preece yn dysgu ystod helaeth o bynciau mewn Ysgol Uwchradd Saesneg, a hynny yn

ystod y gwersi swyddogol Cymraeg. Dyma ddysgu iaith fel cyfrwng gwybodaeth

mewn dull go chwyldroadol Gymreig. Mae’n ymgysylltu â’r chwaraeon strwythurol a

18

gyflwynai Dan L. James. Hyn (neu estyniad ohono), gredaf i, yw prif addewid y

dyfodol mewn ysgolion sydd heb fod yn gofrestredig Gymraeg.

3. Mae hyn yn ymgysylltu hefyd â’r ffordd y datblygwyd yr Wlpan yn llwyddiant

nodedig yng Nghymru, ac yn arbennig dan arweiniad Chris Rees yn Llambed. Cafwyd

priodoleddau gwreiddiol Cymreig. Dylid sylwi fod yna lyfr cyfan yn y Gymraeg Yr

Wlpan yn Israel, Richard M. Crowe (Adran y Gymraeg Prifysgol Cymru,

Aberystwyth, 1988); hefyd Adfywiad yr Hebraeg, Richard M. Crowe ac Abraham

Solomonik (yr un cyhoeddwr, 1988). Tanlinellwyd gwerth amlder cyswllt a phentyrru

cryno yn y profiad o ddysgu iaith.

4. Symudiad hollol wreiddiol i Gymru fu ceisio hyrwyddo drwy gydol y wlad y Cymry

Cymraeg brwd (sydd am wneud rhywbeth uniongyrchol adeiladol i gynorthwyo

dysgwyr) fel ymddiddanwyr gwirfoddol gydag oedolion sy’n dysgu’r iaith. Ceir bellach

(adeg sgrifennu hyn) 155 o ganghennau gan Cyd. Dyma ddull dysgu gwreiddiol a

nerthol ar lefel Ymddiddan Rhydd. Defnyddir gwirfoddolwyr brodorol (a dysgwyr da)

yn systematig drwy’r wlad, i wneud gwaith cadarnhaol. Cafwyd eisoes 10 o

ganghennau yn Aberystwyth yn unig. Chwech yn Llanelli. Ambell un o’r canghennau

hyn yn gangen ‘rydd’, ambell un ynghlwm wrth ddosbarth. Er bod gennym filoedd o

aelodau ledled Cymru, ni chafwyd y gefnogaeth ddisgwyliedig gyffelyb mewn trefydd

eraill gan Gymry Cymraeg nac (mewn rhai ardaloedd) gan diwtoriaid cyflogedig i

raddau llai. Ond ffordd ddelfrydol yw i integreiddio dysgwyr yn y gymuned, yn

arbennig yng ngweddillion y ‘Fro Gymraeg’. Ni chafwyd eto efallai ddigon o lwyddiant

wrth geisio esbonio pwysigrwydd adfer ac adnewyddu’r iaith i’r Cymry Cymraeg.

Tueddant i feddwl yn nhermau cadw, y status quo, a phrotestio er mwyn i bobl eraill

wneud y gwaith. Tueddant i ddibynnu, yn wleidyddol, ar yr awdurdodau ac ar yr hyn a

wna pobl yn daledig. Mater o seicoleg drefedigaeth yw hyn mewn poblogaeth â’u

gwreiddiau mewn colli. Gallai symudiad mwy poblogaidd o’r fath i weithredu drosom

ein hun newid agweddau mewn cymunedau diobaith. Cyhoeddwyd llyfryn am 10

mlynedd cyntaf hanes Cyd yn Cyd yn Cydio (1994). A dengys mai cyfrifoldeb i bawb

yw. Pa wlad arall a ddatblygodd ddull dysgu cyffelyb ledled ei thiriogaeth?

5. Os caf bropagandeiddio, y mae’r dadansoddiad deuol o Ddysgu Cyfansawdd hefyd

yn ddatblygiad gwreiddiol ar dir Cymru. Nid dull yw: mae’n cynnwys llu o ddulliau.

Dadansoddiad o’r sylfaen yw. Fe’i datblygwyd yn System in Child Language ac mewn

deugain o erthyglau cynnar (a chyntefig) yn yr Athro. Ymgais yw i gydnabod yn

gynhwysol y ddwy wedd gwbl gyd­angenrheidiol mewn dysgu iaith gyntaf ac ail iaith,

sef Tafod a Mynegiant, gan y Militarwyr ynghyd â’r Hwiangerddwyr. Dangosir eu bod

yn ddau gyflwr cwbl wahanol i’w gilydd, ac y gellir adeiladu’r naill a’r llall drwy

ymarferion gwahanol, ac y gellir (ac yn wir dylid) cysylltu’r naill a’r llall mewn Dysgu

Cyfansawdd, boed yn flêr, fel ar hyn o bryd, neu’n ymwybodol. Ni ellir osgoi’r naill

na’r llall.

Dyna bum pwynt. Ni chymeradwyir cymysgu’r dulliau heb ddeall perthynas y

gweddau mewn dysgu iaith. Mynd yn ôl i bendilio yw canlyniad yr agwedd honno.

Dyma’r ymgais lawn gyntaf — sef y gyfrol hon — i esbonio ‘PAM y mae’r pendilio

hwnnw wedi digwydd’, ac i gysylltu’r theori o iaith a gaed gan Saussure a Guillaume

(ac i raddau gan Chomsky) â chydnabyddiaeth ddeuol mewn dulleg ail iaith. Doedd yna

neb ynghynt, am wn i, wedi eistedd yn ôl ac ymholi beth yn union a oedd o fewn natur

iaith a barai fod y pendil ffasiynol wedi symud yn ôl ac ymlaen fel hyn, yn fras, rhwng

Strwythureg a Ffwythianneg (neu Gyfathrebu); pam a sut y dylid bod yn gyfansawdd

(yn sylfaenol ddeuol) yn y cyrchddull, a dyfeisio cyrsiau a roddai sylw unswydd i’r

19

ddeuoliaeth honno. Felly yn unig, o bosibl, y gellid sefydlu elfen o sefydlogrwydd

bythol­ddatblygol aeddfed mewn ail iaith yn lle’r pendilio digon plentynnaidd.

Un o’r pethau sy’n gymharol newydd i Bedagogwyr neu Ddidactegwyr yngln

â theori Dysgu Cyfansawdd yw natur un ochr, sef Tafod. Ni ellir cyd­sylweddoli cydddeuoliaeth

iaith nes bod hynny’n glir. Ni ellir o’r herwydd gynllunio’n iawn. Ac ni all

didactegwyr gynllunio cyrsiau nac adnoddau effeithiol heb lawn sylweddoliad o

arwyddocâd yr anghenion. O anwybyddu’r sylfaen mewn Tafod ni sylweddolir o’r

herwydd y ffordd y gweithia’r ail elfen, sef cyfathrebu, neu Fynegiant. Ystrydeb i’r dyn

ar y stryd yw honni: ‘Pwrpas cyntaf iaith yw cyfathrebu.’

Ond swydd gyntaf iaith o anghenraid yw dadansoddi realiti; darostwng i’r

meddwl, ac adeiladu’r modd i ddeall y profiad o fywyd — Tafod (Competence).

Adeiledir cyfundrefnau. Ni ellir cyfathrebu nes bod modd cyfathrebu a bod gennych

rywbeth i’w gyfathrebu. Ail swydd yn anochel yw interaction and communication.

Dyna’r ddeuoliaeth a grybwyllir ond nas deellir yn llawn gan y dyn yn y stryd. Bellach,

mae’n hanfodol amgyffred y rheswm hwn dros wendid y dulliau cyfathrebol, ac i ddeall

hefyd natur iaith a natur dysgu iaith. Does dim cyfathrebu ar waith o fewn y

peirianwaith potensial ar gyfer iaith. Yr hyn sydd yn y meddwl, cyn sgyrsio, dyna a geir

yn y fan yna. Eto, er bod iaith yn ‘llawer mwy’na dysgu strwythurau gramadegol, ni

ellir osgoi’r rheini.

Yn drydydd, y mae iaith hefyd yn drysorfa i ddiwylliant. Y mae’n ddiffiniol

mewn hunaniaeth ac yn seicoleg hyder cymdeithasol. Y mae’n wreiddyn ac yn angor yn

y gorffennol, yn un o’r prif bethau sy’n gwneud gwlad yn ddiddorol ac yn unigryw.

Heb y tri rheswm yn glir, ofer yw dysgu iaith yng Nghymru.

Dyma’r hyn eto sydd o’i le mewn dysgu learner­centred. Mae hynny wrth gwrs

yn hen etifeddiaeth gan Rousseau, a’i Émile, lle y mae’r ‘plentyn yn y canol’wedi

tyfu’n ddogma yn syml oherwydd i Rousseau ymosod ar y pechod gwreiddiol, fel y

ceisiais ei ddangos yn fy rhagymadrodd i’m cyfieithiad Cymraeg o’r clasur addysgol

hwnnw (1963). Ond y mae synnwyr cyffredin yn dweud wrth athro mai’r gwirionedd

yn y canol yw’r hyn sy’n cyfrif. Wedyn y bydd yr athro’n plygu. Ac wedyn y dysgwr.

Os yw’r dysgwr yn dweud, — ‘Does dim ots am gywirdeb, fe fydda­i’n digalonni os

dwedwch chi fod yn rhaid dweud Do ac nid Ie wrth ateb cwestiwn yn y gorffennol,’—

yna, swydd yr athro druan yw dweud, ‘Tyff!’Dyna’r syndrom 2+2=5.

Dwi’n credu bod yr holl theori gyfathrebol yn methu yn y bôn oherwydd

camddealltwriaeth o adeiladwaith cyflawn iaith. Yr iaith ei hun — y gwirionedd —

sydd yn y canol. Mae’r gamddealltwriaeth o’i her yn tarddu o syniad y dyn yn y stryd

mai cyfrwng cyfathrebu yw, a dyna’r cwbl.

Tafod yw’r ymwybod cyntaf i luniwr cyrsiau y dyddiau hyn; ac nid drwg o beth

i athro/athrawes neu i diwtor hefyd yw sylweddoliad go effro o fodolaeth y cyflwr

ieithyddol hwn.

Mewn cwrs ail iaith, felly, y prif beth y mae cyfathrebu’n ei wneud ar y dechrau

yw — nid cyfathrebu — ond adeiladu Tafod. Adeiladwaith trefnus olynol o

strwythurau yw. Heb hynny, does dim llawer o fudd ar y pryd gan y naill siaradwr na’r

llall yngln â’r cyfathrebu ei hun a’i gynnwys ar y lefel yna. Mae’r cyfathrebu ei hun â’i

fryd ar bethau mwy sylfaenol. Megis bod yn effeithiol a deall. Yr hyn a wneir yw ceisio

meistroli’r offeryn sy’n mynd i gyfathrebu, nid ychydig o ffwythiannau dethol a

chyfyngedig, ond pob ffwythiant ymhob sefyllfa dan yr haul. ‘Chwarae cyfathrebu’

fuasai’r chwarae cyntaf. Ond nid chwarae fydd adeiladu Tafod. ‘Sioni bob ochr’o

ddifri yw Tafod, yn yr ystyr iawn, ac felly hefyd yn y pen draw. Gellir aberthu, felly,

ychydig o ‘gyfathrebu’go arwynebol, os bydd Tafod yn ei lawnder cyfoethog yn wobr,

20

ac yn cael ei adeiladu er mwyn cael ei weithredu. A hwnnw fydd y llywodraeth

ganolog.

Gellid crynhoi’r broses o lunio Tafod yn hanesyddol yn yr iaith ac yna yn yr

unigolyn fel hyn:

1. Y gynneddf etifeddol gynieithyddol sy’n gyffredinol i ddynoliaeth:

Gwahuno; —

sef y medr i weld gwahaniaeth (cyferbynnu)

+ y medr i weld uno (ailadrodd, tebygrwydd)

Drwy’r cyfuniad hwn y llunnir ‘cyfundrefnau deall’mewn sythwelediad.

Ni ellir deall heb y cyfuniad sefydlog hwn:

(a) Canfod (corfforol) > Dirnad (meddyliol): gwahanu

(b) Canfod (corfforol) > Amgyffred (meddyliol): uno

2. Y perthnasoedd cychwynnol o gymharu sy’n eiddo i sawl iaith: y profiadau

mewn bywyd beunyddiol a ddysgir yn ‘wahunol’gan y plentyn: e.e.

absenoldeb/presenoldeb (lle): person (rhagenw, ayyb)

absenoldeb/presenoldeb (amser): tympau (berf)

un/llawer: rhif (enw, berf, ayyb)

uwchraddoldeb/israddoldeb: cymharu ansoddeiriau

n/tawelwch: llafariaid/cytseiniaid

acennog/diacen

cyffredinol (ailadrodd)/arbennig (unigoli): y fannod

ymwybod o gynhaliaeth (disgyrchiant, y naill yn pwyso ar y llall): y rhannau

ymadrodd traethiadol (enw/ansoddair a berf/adferf) ayyb

Sef sythwelediadau elfennaidd. Ar seiliau cynieithyddol o’r fath yr adeiledir fframwaith

Tafod i gyd ym mhob iaith.

3. Y Tafod a geir mewn un iaith yn benodol

Trafodir y cyfundrefnau elfennaidd sydd ar waith mewn ieithoedd unigol. Maent yn

wahanol mewn manylion strwythurol ym mhob iaith, bob un â’i chyfundrefnau priodol

eu hun mewn Tafod. Ond bob amser, yn hanes y Tafod unigol, fe’i datblygwyd drwy

ymgais i Fynegi. Arferiadau achlysurol Mynegiant yn gyntaf (yn hanesyddol) sy’n

bwydo Tafod fel y bydd Tafod mwy sefydlog wedyn (ar y tro) yn ffurfio sylfaen i

Fynegiant.

Mae yna neges gan Gouin yn y fan yma i’r rhai sydd wedi gwirioni ar

ffwythiannau ffwrdd­â­hi. A hynny yw bod modd trefnu ffwythiannau hwythau, eu

cydlynu, eu defnyddio’n gylchoedd. Trafferth yr ‘eclectig’yw gwahodd anhrefn.

Sonier felly’n gyntaf wrth luniwr cwrs am drefn strwythurau, trefn geirfa, trefn

ffwythiannau; ac yna am y gwahanol ffyrdd o weini iddynt. Felly yr arweinir ymlaen at

ryddid trefnus.

Mae’r ‘dull’a awgrymaf (gwell gennyf ddefnyddio yn hyn o fyfyrdod y term

‘cynllun sylfaenol’na ‘dull’) yn gwbl groes i’r pendil ac i’r cawl eclectig. Canolir ar y

deunydd i’w ddysgu i ddechrau, sef yr iaith. Gwelir bod gan honno ddwy wedd ddiosgoi,

fythol bresennol. Y cynllun a’r cynnyrch. Y ‘gaeth’a’r ‘rhydd’. Ceisir trafod y

ffordd orau i gyflwyno’r naill i’r llall ynghyd yn drefnus. Nid yw’n eclectig, er y gellir

defnyddio pob techneg ac ymarfer yn ôl anghenion deunydd. Hynny yw, yn ôl yr

egwyddor ddeuol o drefn y’i gwreiddir gan gofio hefyd fod y dysgwr a’r athro hefyd yn

rhan o’r drefn honno.

Rhennir y gyfrol ganlynol mewn dwy ran yn bennaf, felly, sef Tafod a

Mynegiant (ynghyd â Rhagymadrodd). Byddwn i wedi hoffi rhannu’r gyfrol yn dair, fel

y gwneuthum yn fy nghyfrol Beirniadaeth Gyfansawdd (2003), a’r un tair, sef Tafod,

21

Cymhelliad, a Mynegiant. Cyflwr llonydd (yn gymharol) yw Tafod yn f’ymennydd i

a’ch ymennydd chi, a chyflwr gorffenedig (yn gymharol) yw’r canlyniad sef Mynegiant

a welaf i ac a welwch chi yn y frawddeg hollol newydd a gwreiddiol dwi’n ei sgrifennu

y funud yma. Sut a pham yr eir felly o Dafod i Fynegiant, o Ddeunydd i Ffurf, o

Strwythurau i Arferiadau? Drwy rym a deinameg Cymhelliad. Maes pwysig a hanfodol

yw hwnnw. Dyma’r bont rhwng Tafod a Mynegiant. Byddwn i wedi hoffi pe cawswn

amser a chyfle i gasglu fy meddyliau ar hyn. Ond y mae’r gyfrol hon eisoes yn hen

ddigon hir.

Yr hyn a geisir yn y gyfrol hon, felly, yw trafod y ddau gyflwr pegynol sy’n

wynebu’r athro neu’r tiwtor, a’r modd y bydd yn ceisio meithrin arferiadau (gair a

ddefnyddiaf i olygu usages yn ogystal â habits) er mwyn sefydlu strwythurau. Ac yna,

bydd y dysgwr yn gallu defnyddio’r strwythurau hynny’n amlochrog ‘rydd’i esgor ar

bob math o fynegiannau.

(ii) Y Feirniadaeth ar Ddysgu Unochrog

Yn y saithdegau, cefais ymwelydd o Israel. Chris Rees a’i hanfonodd ataf. A

chan mai Chris oedd pencampwr Wlpanau Cymru, nid syn oedd gennyf wybod mai’r

ymwelydd hwn oedd prif gyfarwyddwr Wlpanau Israel. Holais ef yn fanwl am ei waith,

ac yna gofyn iddo beth oedd ei argraffiadau am y gwaith yng Nghymru. Dywedai mor

falch oedd i weld mudiad yr Wlpan yn cydio, ond ystyriai fod yn rhaid cael llawer mwy

o uchelgais, yn arbennig drwy sefydlu gwersylloedd i bobl ifainc.

Ond yr oedd yna un diffyg dirfawr ac amlwg yng nghynllun yr Wlpan yng

Nghymru. Doedd dim digon o ofal wrth adeiladu’r cyrsiau o gam i gam yn gydlynol.

Doedd y graddio ddim yn foddhaol o bell ffordd, yn eirfa ac yn fwy arbennig yn

batrymau iaith. Tebyg iddo ddweud yr un peth wrth Chris. Y syniad sydd gennyf yw

bod llawer o’r Wlpanau wedi gwella’n bendant ar ôl yr ymweliad hwnnw, ac i raddau

yn dal yn drefnus yma ac acw yn eu cynllunweithiau hyd heddiw.

Daw’r atgof hwnnw i’r meddwl wrth gofio am yr hyn a ddigwyddodd i

ddysgu’r Gymraeg yn hwyrach yn niwedd y ganrif ddiwethaf.

Diddorol a thrist erbyn y nawdegau oedd sylwi ar yr ymchwil hynod feirniadol

a wnaethpwyd mewn gwledydd eraill ynghylch chwiw’r ‘nodau cyfathrebu’,

ffwythiannau, a thybiannau a gydiasai yng Nghymru. Ymchwil negyddol dros ben ei

chasgliadau oedd nad ymddangosai fel pe bai’n mennu dim ar bedagogwyr Cymru. Yr

un oedd y casgliad gan ymchwilwyr ledled Ewrob bellach. Diffygiol oedd y cyrsiau yn

strwythur eu datblygiad. Heb gyfuno’r ffwythiannau â threfn ddisgybledig a chydlynol

mewn patrymau iaith, yr oedd y cwbl o’r dysgu yn mynd ar chwâl. Gellid defnyddio

ffwythiannau ynysig, gan ddiddanu cynulleidfaoedd y radio a’r teledu yn arwynebol,

efallai, ond o safbwynt symud ymlaen yn ddeinamig i gynyddu’n drefnus mewn medr

ieithyddol effeithiol a meistrolaeth, yr oedd pobl yn rhedeg mewn cylchoedd. Drwg

mawr a wneid.

Casgliad pragmataidd fu’r feirniadaeth at ei gilydd. Ond arhosai’r Cymry heb

fod yn ymwybodol hyd yn oed o hyn. Hynny yw, yr un oedd y diffygion a geid gan y

Cymry o hyd. Amaturiaeth, a diffyg parodrwydd i fynd i graidd y broblem.

Dyma faes lle y gellid ymchwilio’n ffrwythlon ac yn ymarferol, nid yn

ystadegol, o anghenraid, ond drwy efrydu natur iaith. Ac y mae ymchwil ofalus yn

hanfodol pan fo’n ymarferol. Ond gwae ni pan fydd yr ymchwil ar seiliau arwynebol.

Dibynna ymchwil ar ragdybiau, ar ofyn y cwestiynau iawn. Dibynna hefyd ar gynnwys

yr holl ffactorau perthnasol. Dibynna ar gymharu grwpiau yn fanwl yn ôl y

cymwysterau hanfodol gyffelyb. O bryd i’w gilydd yng Nghymru, cafwyd ymchwil

achlysurol yngln â’r iaith na ddygai ond ychydig iawn o ffrwyth dibynnol. Dau faes a

22

fu’n bur amheus ac yn brin iawn eu ffrwyth oedd y rhai cyntaf i’w chwilio, sef effaith

dwyieithedd ar ddeallusrwydd a chyrhaeddiad, ac yn ail ‘agweddau’at yr iaith. Cafwyd

llond gwlad o ystadegau. Ymchwil! Ond yr un oedd y gwendid bob tro. Ac y mae’n

wendid peryglus ac alaethus. Yr oedd mewn gwirionedd yn canslo gwerth pob prosiect

yn llwyr. Wrth geisio mesur cyrhaeddiad a’r rhesymau dros lwyddiant neu aflwyddiant,

ac wrth fesur ‘agweddau’, yr oeddid wedi dethol rhai ffactorau ac anwybyddu llawer

o’r rhai pwysicaf. Roedd criteria’r mesur i gyd ar sgiw­wiff. Rhoddwyd ystyriaeth i

gyniferydd deallusrwydd (I.Q.) er enghraifft ond heb roi pwysau (ar y dechrau) ar y

cefndir economaidd­gymdeithasol. Pan gywirwyd hynny, newidiodd y canlyniadau’n

gyfan gwbl. Ond nid oeddid wedi rhoi sylw o hyd i (i) oedran dechrau dysgu ail iaith,

(ii) agwedd rhieni a sefydlogrwydd teuluol, (iii) amlder cyswllt â’r iaith, (iv) y dulliau o

gyflwyno’r ail iaith, (v) ansawdd hyfforddi a phersonoliaeth yr athrawes (athro), (vi) yn

anad dim, graddio’r defnyddiau, a llu o faterion amlwg arwyddocaol.

Diffyg dadansoddiad clir ymlaen llaw ynghylch rhai egwyddorion pur sylfaenol,

dyna oedd o’i le. A hyn eto a fu o’i le, er mewn ffordd wahanol, yn y cynlluniau dysgu

iaith rhwng 1970 a 2003. Yn ddiweddar, aethpwyd i holi barn y dysgwyr yn y

dosbarth! A hwythau heb syniad ynghylch graddio’r defnyddiau, amrywio ymarferion,

model llafar safonol i’r iaith, na’r angen i ddysgu patrymau gramadegol ac yn y blaen.

Roedd y rhybudd yn gwbl glir inni. A gwelwn innau, hyd yn oed, yn fy

niniweidrwydd dros ddeugain mlynedd yn ôl ar ddechrau fy nghyfnod o ymchwil ym

maes didacteg iaith, beth bynnag a wnawn a sut bynnag y’i cyflawnid, fod angen dewis

meysydd a oedd yn ymarferol, yn gyflawnadwy, ac mor gynhwysfawr o safbwynt llunio

cyrsiau ag a oedd yn bosibl. Roedd angen meddwl hefyd am natur iaith. Yr iaith o fewn

cyd­destun tyfiant neu raddio oedd gwrthrych cyntaf y gweithgareddau. Dewisais

innau, ar gyfer y boreau am bum mlynedd, brosiect ymchwil dymor­hir ar iaith plant

bach. Ond yn y prynhawnau dewisais brosiectau llai estynedig i oedolion. Fy ngobaith

oedd bod y rhain yn feysydd lle y gellid cael canlyniadau gwerthfawr ar frys — i’w

gwella wedyn dros gyfnod hir. Golygai hyn yn gyntaf fyfyrdod gofalus ynghylch

adeiladwaith deuol iaith; ac yna: (i) graddio geirfa drwy amlder a sefyllfa, (ii) graddio

patrymau cydlynol, (iii) casglu a dosbarthu ymarferion llafar cyflym — ‘ymarfer

patrymau’, (iv) sefydlu model o Gymraeg llafar safonol, (v) casglu chwaraeon a

chaneuon a darnau darllen a dramodigau er mwyn eu mabwysiadu yn y lleoedd iawn i

atgyfnerthu cystrawennau, (vi) arolygu dulliau o gysylltu graddio gramadegol â

deunydd sefyllfaol cyfathrebol, (vii) llunio cyfres o ysgrifau byrion a chyfeirlyfrau cryno

i athrawon er mwyn rhoi gwybod am yr ymchwil ryngwladol yn y maes. Ymddangosai

i mi fod y rhain ar y pryd oll yn bosibl, ac ni byddent yn tramgwyddo i gyfeiriad y

pwyntiau negyddol, tebyg i’r rhai yr oeddwn wedi rhyfygu eu hamau ym meysydd

cyrhaeddiad ac agweddau. Chwiliais am hyfforddiant i mi fy hun yng nghanolfan

ddidacteg bwysicaf y byd ar y pryd.

Arweiniai’r tipyn ymchwiliadau hyn maes o law at lunio cwrs bach ymarferol

gweddol arbrofol gyda dosbarthiadau i oedolion. A chafwyd ymateb gan rai miloedd o

ddysgwyr.

Ar unwaith, wedi cyrraedd man felly, y mae angen diwygio.

Cyn llunio cyrsiau (i ystyried gofynion y broblem), — credwn fod yna fath o

ymchwil feddyliol arall, hollol wahanol sy’n digwydd ymlaen llaw, yn ogystal â math o

ymchwil sy’n digwydd ar ôl gweithredu cyrsiau (i ystyried effeithiolrwydd yr ymarfer).

23

Ni chefais mo’r amser i gyflawni yr ail ran o’r fargen, mae arnaf ofn, ond cefais flas ar

osod seiliau ymchwil cyn­ymarfer y dylwn fod wedyn wedi aros i adeiladu arnynt.

Mae un wedd ar yr ymchwil ymlaen­llaw sy’n ddyfnach nag ystyried pa fath o

dechnegau y gellir eu defnyddio, pa ymarferion, pa amgylchiadau sy’n gweddu ar y

pryd, na sut y gellid cyfleu ambell bwynt mewn gwers, ac yn y blaen. Mae yna un wedd

sydd mor ddwfn nes ei bod yn sylfaenol ddigyfnewid. Ac y mae a wnelo hynny â natur

Iaith ei hun, a natur y Gymraeg yn arbennig. Mae yna rai egwyddorion a ffeithiau

yngln ag Iaith na ellir eu hanwybyddu na chwarae’n anghyfrifol â hwy. Mae yna

nodweddion mewn Iaith sy’n ‘rheidiol’cyn ei dysgu’n effeithiol. O anwybyddu’r

miloedd o flynyddoedd o astudio iaith a gafwyd o amser y Groegiaid hyd heddiw, ac o

geisio dechrau o’r newydd o hyd (fel y bydd y Cymry ôl­fodernaidd) heb seiliau cryf yn

neuoliaeth y traddodiad didacteg, a heb wybodaeth am hanes ail­iaith yn eu gwlad eu

hun, gellir mynd ar gyfeiliorn yn bur ddifrifol.

Yn y saithdegau, dan ddylanwad Ôl­foderniaeth drwy gydol y dyniaethau,

torrwyd y ddolen â’r gorffennol.

Nid syn erbyn wythdegau a nawdegau’r ganrif ddiwethaf oedd gweld yr

helaethrwydd o gondemniad rhyngwladol ar yr hyn a elwid yn ddulliau cyfathrebol

wrth ddysgu iaith. Yng Nghymru golygai hyn ‘Nodau Cyfathrebu’(Ffwythiannau /

Tybiannau). Roedd y feirniadaeth lem a gafwyd yn hollol anochel er na sylwyd arni

fawr yng Nghymru.

Y syndod a’r gwarth oedd bod y fath beth erioed wedi digwydd. Roedd hi fel

dysgu daearyddiaeth heb fapiau.

Roedd yna rywbeth ffres o ddiniwed mewn gosodiad syml a wnaeth un o

arweinwyr y cyfathrebwyr, Earl W. Stevick Teaching and Learning Languages

Cambridge University Press (1982): ‘Heb ein gallu i ddefnyddio patrymau, fyddwn ni

ddim yn medru deall na chynhyrchu unrhyw frawddegau na chlywsom ni mohonyn nhw

o’r blaen’. Dyna’r union bwynt.

Mwy grymus o lawer wrth drafod y dull cyfathrebol (neu ffwythiannol) oedd A.

Dobson, MTL Inspected: Reflections on Inspection Findings 1996­7 (London: CILT,

1998) ac N. Pechler a K. Field, Learning to Teach Modern Foreign Languages in the

Secondary School Routledge (1997).

Caniatewch imi ddweud beth nad ydw­i ddim yn amcanu’i wneud yn y gyfrol

hon. Dw­i ddim yn ceisio cyflwyno un dull brenhinol o ddysgu iaith. Anelu yn hytrach

dw­i at drafod cefndir hynafol a deuol egwyddor sydd yngln ag adeiladwaith y dasg o

gynllunio cyflwyno ail iaith erioed, dyna’r nod. Sef trafod y berthynas ddeuol mewn

iaith, sy’n gorfod bod yn bresennol rhwng y ddwy brif wedd o ddysgu iaith. Disgrifio a

diffinio problem oesol yngln â natur iaith yr ydys, a chynllun gorfodol ei dysgu.

O ran y dulliau o wynebu’r ddeuoliaeth hon yn y cyflwyno fe geir bob amser

ymarferion newydd ac offer newydd. Fe fydd rhywun o’r newydd yn dosbarthu

defnyddiau mewn amryfal ffyrdd yn ôl yr offer hyn. Dyfeisir technegau amryfal a ffres

effeithiol o hyd. Hawlir ambell chwyldro achlysurol go iawn hefyd. Nid dyna’r pwnc

dan sylw, er y bydd rhai egwyddorion yn cael eu hystyried ... Na. Yn hytrach, ceisio

myfyrio a dadansoddi’n fras adeiladwaith sefydlog y defnyddiau eu hunain y mae’n

rhaid eu hwynebu yn y dasg bwysig hon, fel y bydd didactegwyr yn dod yn fwy

ymwybodol o reidrwydd wynebu problem cydlyniad parhaol yn fwy catholig drefnus. A

honno ar ffurf deuoliaeth. Sef polisi anochel cynllunio paratoi cyrsiau bob amser.

Gellir labelu’r ddeuoliaeth sydd dan sylw mewn sawl ffordd — ‘Gramadeg a

Geiriadur’, Strwythur a Ffwythiant, Tafod a Mynegiant, Patrwm a Sefyllfa. Ond

24

deuoliaeth gynhenid yw y mae angen ei chydnabod fel cydangenrheidrwydd mewn

dysgu. Cynigia i bob dysgwr y dasg o wynebu dwy broblem gyda’i gilydd, yn

gyfansawdd. Cyd­orchwyl sydd yn y grefft unol o ddysgu iaith, ar sail ymchwil ar

natur iaith. A dengys mor ffôl yw hawlio’r cyfan byth wrth gydio mewn un ochr i’r

broblem.

Y mae anwybyddu neu esgeuluso neu gawlio unrhyw un ochr o’r broblem hon

yn gallu creu difrod mewn cyrsiau iaith. A dyna ysywaeth a ddigwyddodd yng

Nghymru rhwng saithdegau’r ganrif ddiwethaf ac i raddau sobr hyd yr amser

presennol, mewn ambell sector yn waeth na’i gilydd.

Beth felly sydd gan y dysgwr iaith i’w ddysgu?

Cyfundrefn o gyfundrefnau yw pob iaith, credwch neu beidio. Cydlyniad yw o

batrymau geiriol tra syml a ddysgir drwy’u darganfod yn isymwybodol i raddau, ond yn

effro i ystyr, yn fyw i sefyllfaoedd ymarferol, ac a enillir drwy ailadrodd diarwybod.

Gwahuno: cyferbynnu ac ailadrodd, gwahaniaethu ac uno yw hanfod y gwaith o ennill

iaith. Drwy symud yn drefnus o hyd o’r naill elfen i’r llall mewn cydadeiladwaith

rhyfeddol ond naturiol a real y mae’r dysgwr yn mabwysiadu mwy o lawer na rhesi o

eiriau neu resi o ymadroddion. Mae’n meistroli offeryn cyflawn cydlynol sy’n gallu

trafod bywyd i gyd.

Mae’r offeryn cyfansawdd hynod hwn yn gallu trafod sefyllfaoedd newydd o

hyd. Gellir mynd ag ef maes o law i ganol problemau dieithr a chyd­destun ychydig yn

wahanol. Ac oherwydd natur gyfunol, drefnus, a rheolaidd iaith, y mae’r baban yn y lle

cyntaf yn ei hennill mewn modd olynol ystyrlon. Ac er bod yr oedolyn yn meddu ar lai

o lawer o gymhelliad na’r baban wrth gynyddu mewn iaith, ac er bod yr iaith gyntaf yn

gallu ymyrryd â’r ail yn y broses ddysgu, ac er bod gan yr oedolyn bellach fwy o

ddealltwriaeth ddethol a sylweddoliad o natur ddysgu, yn sylfaenol y mae yna fath o

reidrwydd iddo yntau hefyd ymwybod â’r un patrymau â’r baban.

Mae modd gwneud rhai casgliadau ymlaen llaw, felly, cyn llunio cwrs, am fod

yr iaith ei hun yn datgelu i ni pa fath o lwybr i’w ddilyn wrth ennill medr ynddi.

Heblaw gwybodaeth am eiriau unigol, y mae’r dysgwr iaith yn gorfod ennill

gwybodaeth am batrwm o batrymau. Y rhain sy’n rhoi’r geiriau unigol wrth ei gilydd

i’w gwneud yn effeithiol ystyrlon mewn cyd­destun ymarferol. A gellir ymlaen llaw,

cyn llunio cwrs, olrhain y camre cysylltiol hyn sydd ar gael, wedi’u hadeiladu o fewn yr

iaith ar gyfer y dysgwr. Nid oes angen yn yr ail iaith ymbalfalu drwy ddrysfa’r goedwig

bob un drosto’i hun a dod o hyd i lwybr drwy hap a damwain heb yr un golwg o’r

awyr uwchben. Gwir fod baban yn llwyddo i ddarganfod y cynllun. Yn wir, babanaidd

o syml yw’r cynllun. Ond mae’r gwahaniaeth mewn cymhelliad bellach yn atalfa i

oedolyn rhag cael digon o benderfyniad i ddarganfod hynny o’r newydd, o leiaf yn null

y baban yn ei iaith gyntaf. Mae ganddo lai o amser cyswllt, ac mae’r ail iaith yn

ymyrryd â’r gyntaf. Gellir sut bynnag gynnig map i oedolyn bellach iddo sbio i lawr

oddi uchod i’w gyfarwyddo. Mae yna le iddo i gychwyn, ac y mae rhai camre wedyn

yn anochel i’w cyflawni cyn mynd at gamre eraill sy’n arwain tua ‘phen y daith’.

Dibynna pob rhan o’r iaith ar ei gilydd fel y bydd yn helpu’i gilydd i ffurfio undod o

amrywiaeth rheolaidd ac ystwyth.

Wrth ddilyn y drefn hon y mae’r dysgwr (boed yn faban neu’n oedolyn) yn

gorfod mabwysiadu cnewyllyn cymharol fach o ddyfeisiau, fe’i galwn yn drosiadol yn

Dafod. Bydd y cnewyllyn bach cyfyngedig ond cynhyrchiol hwn yn medru esgor ar

nifer ‘ddiderfyn’o filiynau o frawddegau a alwn yn Fynegiant. Mae Tafod ar gael i

drafod pob ffwythiant a thybiant. Mae eisiau meistroli hwn.

Sylwer ar y ddeuoliaeth — Tafod a Mynegiant.

25

‘Tafod’yw’r mecanwaith cryno a adeiledir yn y pen ar gyfer dweud unrhyw

beth a phob peth. Y gynhysgaeth hon a’r dechneg hon yw un o’r ddau beth mawr a

ddysgir wrth ennill ail iaith. Bydd yn rhaid ennill mwy a mwy o eirfa — a hynny o bosib

drwy drafod gwahanol sefyllfaoedd dethol ac ar sail geirfa a brofwyd yn gyffredin ac

yn ddefnyddiol. Ond y mae’r eirfa yn gorfod bod ynghlwm wrth batrymwaith

cystrawennol. Yn ôl trefn Tafod yr adeiledir Mynegiant; ac ni wiw ysgaru’r ddwy

wedd hyn ar iaith. Nid pentwr o eirfa nac o ymadroddion yw iaith. Nid rhestr o

sefyllfaoedd chwaith.

Ymddangosodd hollt negyddol yn y mudiad dysgu ail iaith yng Nghymru tua

diwedd saithdegau’r ugeinfed ganrif. Fe bery ysywaeth i mewn i’r mileniwm newydd.

A hollt diangen yw. Hollt gwastraffus a pheryglus odiaeth yw. Dyma’r trychineb

mwyaf a ddigwyddodd i ddysgu’r Gymraeg erioed, debygaf i, oherwydd yr amser pryd

y digwyddodd, sef ar drothwy defnyddio’r ‘cyfryngau torfol’cyn lledu’r Gymraeg fel

ail iaith yn yr ysgolion, a chyn sefydlu Bwrdd yr Iaith a’r grantiau. A tharddodd o

anwybodaeth ynghylch natur iaith.

Mae’r ddwy ochr i’r hollt hwn yn cynrychioli dwy wedd hynod adnabyddus ar

iaith. Rhaid yw i ddysgwr feistroli strwythurau iaith, yn gynyddol gydlynol. Does dim

dewis. Gellir gwneud hynny’n gymysglyd ac yn ddi­drefn isymwybodol, gellir ei wneud

yn araf ac yn chwâl. Gellir ei wneud yn effeithiol dyfiannol. Ond does dim posib

esgeuluso ymyrryd â’r dasg honno. A’r un modd, bydd yn rhaid i’r dysgwr feistroli’r

eirfa amlochrog yr un mor effeithiol fel y bydd yn atebol i gyfathrebu mewn gwahanol

sefyllfaoedd. Gellir gwneud cawl o hynny hefyd. Yr hyn na ellir ei wneud yw osgoi y

naill wedd na’r llall ar iaith, er y gellir ceisio gwneud hynny.

Rhwng diwedd y saithdegau a heddiw fe geisiodd rhai o’n harweinwyr ym maes

ail iaith, ysywaeth, wneud yn union hynny, er gwaethaf pob beirniadaeth.

Ni sylwasant wrth olrhain hanes dysgu ail iaith drwy’r canrifoedd fod yna ddau

draddodiad neu ddau bwyslais mawr cyffredinol yn brigo’n eithaf cyson i’r golwg o

hyd, am yn ail â’i gilydd yn fynych. Na pham. Mewn un genhedlaeth, caed

strwythurwyr yn ben. Mewn cenhedlaeth wedyn, caed sefyllfawyr. Ond erbyn

chwedegau’r ugeinfed ganrif, ceisiwyd hefyd ymgodymu â’r rheswm pam yr oedd yr

hollt ofer hwn wedi ymddangos, a pham yr oedd yn rhaid sefydlu dull boddhaol a

fyddai’n cwmpasu ac yn corffori’r ddwy wedd ar iaith gyda’i gilydd.

Dyma gyfle yn awr i ail­sylweddoli hynny ac i ‘ddysgu cyfansawdd’flodeuo.

Gellid wynebu cyfanrwydd deuol angenrheidiol dysgu iaith a threchu’r ddibyniaeth ar

chwiwiau. O fewn Tafod, gellid meithrin technegau a dulliau y gellir dethol ohonynt. O

fewn Mynegiant, gellid meithrin technegau a dulliau cydlynol. A gellid sicrhau fod y

naill wedd a’r llall yn unol, gyda’r naill yn gwasanaethu’r llall yn gydweithredol.

Gwaetha’r modd, yn fuan ceisiwyd mynd eto o’r tu arall heibio i’r dull dysgu

cyfansawdd a awgrymwyd ar y pryd. Yr oedd y sefyllfawyr yn benderfynol ers tro

rywsut o ddiarddel y strwythurwyr, neu o leiaf o ‘eclectigo’r’cwbl yn flêr. Rhaid oedd

rywfodd anwybyddu hanfod yr hyn a oedd wedi digwydd yn y chwedegau, sef y

briodas ymwybodol raddedig. Dychwelwyd at y pwyslais unochrog. Ysgarwyd felly, yn

anghyfrifol braf, a dirywiodd y mudiad iaith mewn ffordd drawiadol anwybodus o’r

herwydd.

A’r gwir oedd bod angen y ddwy wedd ar bob dysgu iaith — sef geirfa ac

ymadroddion sefyllfaol ynghyd â strwythurau — i’w hadeiladu’n frawddegau. A

hynny’n drefnus, nid mewn modd eclectig.

Yr wyf am esbonio’n benodol y gwahaniaeth a welaf rhwng yr olwg

gyfansawdd ar ddysgu ail iaith a’r olwg eclectig. Cais yr olwg eclectig fod yn bioden.

26

Rhestra ddulliau dysgu — sy’n sylfaenol ddi­rif. Rhestra eirfa. Casgla bopeth i’w nyth.

Sylweddola fod llawer o ragoriaethau i’w canfod mewn gwahanol ddulliau a

defnyddiau wrth ddysgu ail iaith. Ac mae’n mynd ati’n gydwybodol i’w pentyrru a’u

hel. A gall y casgliad hwnnw fod yn dra defnyddiol.

Ond dibynna’r olwg gyfansawdd ar y llaw arall ar weledigaeth ynghylch

perthynas seml — a phatrwm y berthynas. Ni wrthyd unrhyw ddeunydd na dull

penodol; eithr trefna’r cwbl. Dibynna ar sylweddoliad o gydlyniad iaith, pam y mae yna

ddwy ochr. Ni chilia rhag y cyfathrebwyr am resymau pragmataidd (‘dyw’r ffordd

honno ddim yn gweithio’), ond am nad ydynt yn iawn yn ôl natur gofynion iaith ei hun.

Fe wêl hi lawer o agweddau ar y grefft, y rhai sy’n ganolog ac yn bwysig, a’r rhai sy’n

llai pwysig. Yn wir, y tebyg yw y bydd yn cynnwys, yn y bôn, fwy o weddau ar ddysgu

iaith na’r olwg eclectig ei hun. Ond fe genfydd y cwbl yn adeiladwaith cydlynol

elfennaidd sy’n dilyn trefn benodol ystyrlon. Yn y drefn hon y mae i bob gwedd ei

safle. Yn fynych iawn, er nad bob amser, fe fydd yna drefn olynol weddol amlwg,

camre rhesymegol perthynol y naill ar ôl y llall a’r naill o fewn y llall.

Y feirniadaeth a sylweddolir gan yr olwg gyfansawdd ynghylch ymagwedd yr

olwg eclectig yw — nad yw’r blaenoriaethau sydd eisoes yn yr iaith ei hun, a’r math o

drefn ynddi y dylid ei dilyn, a’i hanfodion cynhwysfawr angenrheidiol, naill ai wedi eu

cynnwys weithiau neu heb eu lleoli’n briodol. Rhestr bioden gloff yw yn hytrach na

threfn.

Mae yna ddwy wedd fawr sylfaenol, felly, yn y defnyddiau ar gyfer dysgu pob

iaith. Sylweddolwyd hyn yn anymwybodol (ac ambell waith yn bytiog ymwybodol) ers

canrifoedd. Fe’u cydnabuwyd yn y ddau brif offeryn a gafwyd drwy’r canrifoedd gan

ysgolheigion ym myd iaith, megis yng ngwaith Dr John Davies o Fallwyd. Sef y

Geiriadur a’r Gramadeg.

Bydd y dyn yn y stryd yn tybied weithiau mai geiriau yw iaith, a dyna’r cwbl.

Rhestrir y geiriau hynny yn ddefnyddiol ond yn gwbl anarchaidd o ran ystyr yn ôl trefn

ddi­drefn yr wyddor: dyna’r Geiriadur. Ond bydd y sawl sy’n dechrau meddwl

ymhellach am iaith yn sylweddoli’n fuan nad rhes o eiriau nac o elfennau gwahân yw

iaith, nad rhes o ymadroddion hyd yn oed, na brawddegau nac ymddiddanion i’w

dysgu ar y cof mohoni. Nid ‘phrase book’ar gyfer ffwythiannau a sefyllfaoedd. Mae’n

rhaid dysgu geiriau wrth gwrs; ond y mae’n rhaid hefyd ddysgu’r ffyrdd y clymir y

rhain yn bwrpaslon yn ei gilydd yn gyd­adeiladwaith. Ni wneir hynny’n anarchaidd. Ac

wrth geisio dysgu’r naill wedd a’r llall o’r ddwy wedd hyn gyda’i gilydd, yr eirfa a’r

cydlyniad cystrawennol olynol, gorau po fwyaf gofalus y bydd y drefn gyfansawdd a

fabwysiedir i gyd­gynnwys y ddwy yn effeithiol, ar gyfer adeiladu llwyddiannus wrth

fynd ymlaen.

Diolch i’r drefn, yn isymwybod llawer o’r rhai a luniai gyrsiau i oedolion yn y

cyfnod diweddar, er gwaethaf ffasiwn a phwysau swyddogol, gogleisiai rhyw

sylweddoliad fod dysgu iaith yn llwyddiannus yn mynd i olygu mwy na phentwr

anarchaidd o ffwythiannau. Hwrê, felly, i’r isymwybod a’r greddfau.

A chawsom lawer o athrawon penigamp er ised eu cyflog ac er mor

bragmataidd eu cefndir yn dal i wneud gwaith ymarferol trefnus ymhlith oedolion.

Maent yn haeddu gwybodaeth yn ogystal â greddf.

Erbyn y chwedegau, yr oedd ieithyddiaeth Chomsky mewn bri hollol

anghyffredin drwy’r byd i gyd. O safbwynt dysgu ail iaith yr oedd Chomsky (i) (heb yn

wybod iddo i raddau) yn rhan o fudiad diweddar medrus a roesai drefn newydd ar

ddysgu iaith ac a ganiatâi i ddidactegwyr raddio patrymau ail iaith yn fwy manwl mewn

cyrsiau; (ii) yr oedd wedi awgrymu beth oedd brawddegau craidd yr iaith, mater

27

hanfodol ar gyfer graddio unrhyw gwrs; a (iii) awgrymai sut yr oedd brawddegau

gwahanol yn perthyn i’w gilydd drwy drawsffurfiant, mater defnyddiol arall a oedd yn

ffitio i mewn i’r math o ymarfer â phatrymau a oedd mewn bri ar y pryd ymhlith

pedagogwyr drwy ieithyddiaeth gymwysedig.

Erbyn y chwedegau hefyd cyn i’r ffwythiannau a’r tybiannau geisio unbenaethu

yn y maes, yr oedd mwy o sylw’n cael ei roi yn amrywiol gan athrawon ‘strwythurol’i

ddosbarthu sefyllfaoedd a geirfa. Nid un ffordd (ffwythiannol!) yw’r unig ddull i’w

ddilyn wrth ddosbarthu geirfa ac ymadroddion sefyllfaol. Cafwyd ambell awgrym

newydd a oedd yn miniogi ychydig ar yr hen drefn ‘synnwyr­bawd’, megis y cysyniad o

disponibilité (cyfleusrwydd neu ddefnyddioldeb) yn St Cloud. Cafwyd dysgu sefyllfaol

cyffredin felly. Ac ar ôl hynny i gyd cafwyd y cysyniad o ‘ffwythiant’(a gyfetyb ym

myd didacteg i’r ‘motiff’ym maes theori lenyddol). Dyma’r symudiad a geisiai ar y

dechrau ddisodli yn hytrach nag ymuno â’r ymgais i ddatblygu’r hen draddodiad

strwythurol.

Yr oedd y pwyslais strwythurol diweddar wedi cynrychioli trefn ac undod

cynyddol o fewn ail iaith (Tafod), a’r pwyslais sefyllfaol wedi cynrychioli amlder y

gwahanol amgylchiadau di­drefn sydd yn anochel yn rhan o’r cyd­destun lle y

defnyddir iaith yn gyffredinol ac yn ymarferol (Mynegiant). Cyfuniad o’r ddeuoliaeth

angenrheidiol hon oedd yr her a wynebai athrawon ac yn arbennig lunwyr cyrsiau yn y

saithdegau. Anfoddhaol ysywaeth fu’r ymateb i’r her.

Yr enwau a roddodd Chomsky ar y ddeuoliaeth yr wyf yn sôn amdani, fel y

crybwyllais o’r blaen, oedd competence ac expression. O! meddai’r Cymry, expression

yw’r hyn sy eisiau arnom ni. Cyfathrebu. Os bydd pawb yn gallu’u ‘mynegi’eu hunain

yn Gymraeg, bydd y broblem wedi’i hateb. Pa eisiau competence sydd? Gadewch inni

anelu am yr ôl­gynnyrch bob tro, ac ysgafnhau’r dasg. Y ffrwyth heb y gwraidd.

Gwaetha’r modd, felly, er gwaetha’r ennill a gafwyd ynghynt, er gwaethaf dros

fileniwm o brofiad, llithrwyd yn ôl gan y sefyllfawyr rhwng y saithdegau a’r nawdegau

i gefnu ar strwythuraeth. Pe gofynnid i rai o’r arddelwyr amddifad hynny pam yn y

bôn, hynny yw pam yn y gwaelod eithaf, y cymerwyd y fath lwybr unochrog ar ôl y

fath ganrifoedd o brofiad cyfoethog, go brin yr atebai’r un ohonynt, ‘Ol­foderniaeth’.

Ond dyna’r union awyrgylch — heb yn wybod iddynt — a oedd o’u cwmpas ym mhob

man — mewn llenyddiaeth, mewn athroniaeth, mewn crefydd, mewn gwleidyddiaeth,

yn y celfyddydau gweledol, mewn ecoleg. Hyn oedd yn yr awyr, ym mhob man. Dyma

yn awr y pwyslais ar amrywiaeth heb yr undod, pob sefyllfa’n relatif heb drefn, hoffter

o’r ddi­olyniaeth a drylliadaeth, corffori siawns, ymosod yn erbyn y sefydlog gynyddol

olynol, golwg goeg ar y gorffennol. Chwalfa Mynegiant heb undod Tafod. Dyma brif

ddogma’r cyfnod mewn llawer maes academaidd. Doedd dim dianc rhag y fath bwysau

i bob golwg.

Yn y gyfrol hon yr wyf am wneud peth herfeiddiol iawn a newydd, a cheisio

dadlau mai un fframwaith cyfun sydd ar gyfer Didacteg Iaith drwy ddiffinio’r

fframwaith ac esbonio natur y berthynas ddeuol y tu mewn. Does dim dewis. Rhan yw

Didacteg Iaith o fframwaith gorfodol iaith fel dadansoddiad profiadol a chyfrwng

cyfathrebu. Gall y fframwaith cyfan fod yn flêr, yn wyrdroëdig, ac yn annigonol; ond

rhaid iddo fod yno, yn gyfan. A gorau po fwyaf gofalus y bo yn fy marn i. Mae’n rhaid

cynnwys ‘Tafod’— sef strwythurau neu batrymau mewn cydadeiladwaith cydlynol.

Does dim rhaid bod yn awdurdod ieithyddol i wneud hynny, gan fod pob baban yn ei

wneud. Gellir ymwneud â’r cyflwr neu’r maes cyfoethog hwnnw mewn modd toredig

ac anwybodus wrth gwrs. Gall y Tafod fod yn reit glwyfedig. Gall y sawl sy’n ceisio ei

gyflwyno fethu oherwydd twpdra ystyfnig mewn anwybodaeth falch neu

28

oruwchwybodaeth ffug. Ond aros a wna Tafod drwy’r cwbl, ac yn y broses o ddysgu

ail iaith, drwy ryw ffordd neu’i gilydd, does dim dianc rhag hwn gan y dysgwr druan.

Dyma gyflwr sefydlog gan yr iaith, bob iaith. Y mae yno, a bydd rhaid i’r dysgwr

ymhél ag ef, yn ymwybodol neu’n isymwybodol.

Yna (ac i raddau, yr un pryd), rhaid cael ‘Mynegiant’. Wedi cael patrwm neu

batrymau ieithyddol bydd y dysgwr yn defnyddio’r strwythurau hyn mewn sefyllfaoedd

defnyddiol drwy eirfa ac ymadrodd. Dyw strwythurau ddim yn iaith gyflawn yn y

meddwl nes eu bod yn cael eu mabwysiadu mewn gweithred gyfathrebol; hynny yw,

nes bod Tafod yn esgor ar Fynegiant. Unwaith eto, does dim dewis. Gwiw yw i’r

didactegydd fod yn ymwybodol o hynny gan mai dyna ail bwrpas Tafod (wedi iddo

gael ei adeiladu) — sef cynhyrchu Mynegiant. Yn y ffenomen gyflawn a chyfansawdd

‘iaith’, wiw ichi ddweud ‘digon yw Tafod’, dwi’n mynd i aros yn y fan yma’. Na; nid

iaith oni bo ar waith.

Hynny yw, wrth ystyried beth a ddysgir a sut ym maes ail iaith, mae yna ddau

beth o’n blaen (1) y dull o gydlynu ac o ddatblygu cystrawennau a ffurfia’r iaith, (2) yr

eirfa neu’r ymadroddion hylaw. Dwy wedd annatod yw’r rhain. Byddai esgeuluso’r

naill neu’r llall yn sicrhau aflwyddiant: y naill yn ddwfn yn y pen, a’r llall yn y llais (neu

ar bapur) mewn arwyddion. Dau gyflwr mawr pegynol digon cyferbyniol, dau sy’n

undod. Ond sut yr eir oddi wrth y naill at y llall? O ble y daw’r ddeinameg i yrru Tafod

llonydd tawel i esgor ar Fynegiant? Rhaid inni gael pont, rhaid inni gael grym i symud

ar draws y bwlch. Dyna’r lle i Gymhelliad (yr ysgogiad i adeiladu Tafod, a’r ysgogiad

i’w droi’n Fynegiant) peth na rown lawer o sylw iddo yn y llyfr hwn oherwydd prinder

gofod, ymhlith rhesymau eraill.

A dyna’r cyfan sydd o’r fframwaith. Dyna dri maes sy’n ffurfio Didacteg. Gall y

sawl sy’n traethu am ‘ddulliau’di­rif restru’n uchelgeisiol drendi y ffasiwn hwn a’r

ffasiwn arall. Ymarferion ydyn­nhw bron i gyd o fewn fframwaith dysgu cyfansawdd

— a chan bob un ei leoliad digon buddiol yn fynych. Gallwn gymeradwyo amryfal

ymarferion fel hyn, ond ni ddylai eu hamlder ddallu’r ffaith sylfaenol mai dwy wedd

sydd i ddysgu iaith. Rhaid rhoi sylw i’r naill a’r llall — Tafod a Mynegiant, ac yn ddiau

i Gymhelliad. Y maent yn gyflyrau hollol wahanol. Y cyfuniad hwnnw yw dysgu

cyfansawdd. Ond un fframwaith sefydlog siapus deuol sydd y tu hwnt i bob ffasiwn

ynghylch ‘ymarferion’. Un ddulleg waelodol sydd, un Cynllun Cyfansawdd, a’r Dull

hwnnw yn olynol, gydlynol, ddeuol — neu, ynghyd â Chymhelliad, driol.

Cawl oedd ffwythiannau o ran cynllunwaith. Nis gwellir bellach wrth ddysgu’n

eclectig: cawl arall. Rhaid adnabod trefn iaith, fel y mae’n rhaid i blentyn ei wneud yn y

bôn wrth ei dysgu. Ac fel y gwnaethpwyd wrth adeiladu iaith yn gyntaf.

Ni fwriadwyd i’r gyfrol hon fod yn waith ysgolheigaidd yn y modd arferol. O

leiaf, ni chynhwysir troednodiadau, ac ychydig yw’r cyfeiriadau at weithiau eraill. Ni

nodir dyddiadau er enghraifft, onid mewn achosion hanesyddol, neu pan fo rhyw waith

diweddar mewn print ac yn werth ei benodoli’n llawn.

Mae gennyf rai diolchiadau y mae’n rhaid imi eu cyflwyno. Cefais fy hyfforddi

yn Nidacteg Ail­Iaith mewn pum adran ieithyddol yn Québec, ond yn bennaf gan yr

Athro W. F. Mackey, awdur Language Teaching Analysis, y llyfr gorau yn yr ugeinfed

ganrif ar holl faes amlochrog dysgu ail iaith. Cefais gwmni a thrafodaethau am

flwyddyn, yn feunyddiol, gyda chyd­ymchwilydd, yr Athro Louis Kelly, awdur Twentyfive

Centuries of Language Teaching, o Brifysgol Ottawa, prif awdurdod y byd ar

Hanes Dysgu Ail Iaith. Ond y ddau a ddylanwadodd fwyaf ar fy nealltwriaeth o

adeiladwaith iaith oedd yr Athrawon Roch Valin a Walter Hirtle o Brifysgol Laval,

Québec. Hwy a’m cyflwynodd i athrylith syfrdanol Gustave Guillaume ac i lawnder

29

Tafod. Bûm yn ffodus i gael fy rhyddhau gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth, i fod yn

gyntaf erioed am wn i yng Nghymru i dderbyn hyfforddiant ar y lefel uchaf mewn

didacteg iaith mewn un o ganolfannau mwyaf cyfoethog ei adnoddau dynol a

thechnegol yn y byd i gyd.

Carwn gofnodi hefyd fy niolch didwyll i Philip Henry Jones a Mary Burdett­

Jones, Cadeirydd Cyd, am eu cymorth ymarferol a sylweddol wrth gynhyrchu’r gyfrol.

I’m gwraig, Beti, y mae fy nyled bennaf er hynny. Bu hi’n gydweithiwr dyfal â

mi dros hanner can mlynedd. Hi a drefnodd y gwaith hwn gyda mi ers blynyddoedd. Hi

a deipiodd y cwbl. Ac oni bai am ei hanogaeth gariadus a’i chymorth beunyddiol ni

byddai’r gyfrol hon — nac unrhyw gyfrol arall — byth wedi’i chwpla.

30

RHAGYMADRODD

Y Ddadl

Cafwyd dau brif draddodiad mewn dysgu ail iaith — o safbwynt y deunydd

crai i’w ddysgu — a hynny ar draws miloedd o flynyddoedd. Bu’r ddau hyn yn

amyneilio’n achlysurol. Ond yn rhy aml bu un traddodiad yn adweithio’n erbyn y llall

ac yn ceisio’i ddisodli. Eto, drwy drugaredd, fe’u cafwyd yn ddigon hapus yn

cydweithredu â’i gilydd droeon yn yr oesoedd aur.

Cafwyd y ddau draddodiad hyn oherwydd bod yna bob amser ddwy wedd

amlwg a chwbl wahanol — er yn gysylltiedig — o fewn y broses iaith. Ar y naill ochr

ceid yn yr ymennydd ei hun yr hyn a elwir (yn drosiadol) yn ‘Dafod’— sef y

mecanwaith strwythurol sy’n ddadansoddiad trefnus o brofiad. Dyma’r potensial lle

nad oes brawddegau o gwbl (yn rhyfedd iawn) ond sy’n medru cynhyrchu

brawddegau yn ôl yr angen. Mecanwaith esgorol yw hwn. A ‘Mynegiant’wedyn yw’r

enw a rown ar y brawddegau hynny a geid o’i herwydd; sef y cynnyrch terfynol sy’n

dilyn Tafod. Ni fedr yr un o’r ddwy wedd hyn fyw’n ieithyddol heb y llall.

Amlwg yw bod yn rhaid meistroli’r Tafod, sef y cnewyllyn bach gorfodol,

cymharol sefydlog o strwythurau trefnus a gweithredol o’r golwg ar gyfer llunio

Mynegiant. Mae’r un mor amlwg fod angen adeiladu adnoddau geirfaol,

ymadroddol, a chymalog amrywiol yn y golwg, fel y gall dyfeisiau cryno Tafod

gyfarfod mewn brawddegau ag amlder o sefyllfaoedd achlysurol Mynegiant. Cronfa

fechan eithriadol o bwerus yw Tafod: ymlediad eang diderfyn o effeithiol wedyn yw

Mynegiant. Gyda’i gilydd, mae’r ychydig canolog yn llywio’r llawer. Ond ni thâl i’r

didactegydd (sef pwy bynnag sy’n paratoi neu’n cyflwyno cyrsiau dosbarth neu’n eu

cyfryngu) anwybyddu’r naill ochr na’r llall. Y maent yn bwydo’i gilydd. Yng

Nghymru’n ddiweddar am gyfnod o ddegawdau cafwyd adwaith gan un ochr yn erbyn

y llall, gan esgeuluso hanfod iaith sef Tafod. Ac o ganlyniad, amddifadwyd y

gyfundrefn ddysgu iaith o’r offeryn pwysicaf a allai fod ganddi.

(i) Yr Hollt a’r Adferiad

Bydd y gyfrol hon yn ceisio ymgodymu â thri chwestiwn:

Beth? (Hynny yw, beth a ddysgir? Pa Gymraeg? Pa ffurf ar yr iaith?)

Sut, yn fras o ran egwyddorion?

A pham yr awgrymir yr hyn a ddysgir a’r ffordd arbennig hon o ddysgu?

Tri chwestiwn anodd. Ond y tu ôl i ni sy’n ewyllysio adnewyddu’r iaith fe geir

miloedd o flynyddoedd o ddysgu ail iaith drwy Ewrob, a chymwynaswyr deallus di­rif,

ie yng Nghymru hefyd, ie hyd yn oed yn y cyfnod presennol, sydd wedi meddwl ac

ysgrifennu am y cwestiynau hyn. Er mai ffordd Gymreig iawn yw anwybyddu’r

gorffennol os gellir, yn arbennig y gorffennol Cymreig a hynny am resymau seicolegol,

fe ellir cael cryn gymorth i ateb y cwestiynau hyn yn yr hyn sy eisoes ar gael; a cheisir

manteisio ar hynny yn yr hyn sy’n dilyn. Does dim angen dechrau o’r dechrau ym mhob

cenhedlaeth fel yr awgrymir yn rhy fynych.

Weithiau, cyflwynir rhestr o wahanol ddulliau o gyflwyno ail iaith: — wyth,

pymtheg, ugain. Arolygir gwahanol ‘atebion’yn y maes. Ac yn fynych, awgrymir dull

eclectig ‘gan fod rhywbeth i’w ddweud o blaid pob un o’r gwahanol ddulliau hyn’.

Ond y mae hyn yn fynych yn osgoi sylweddoli beth yw natur unol iaith, bod yna

siâp ddeuol sefydlog ac eglur yn ei chenhedliad, a bod yna ffurf bendant ar ei

chydlyniad. Clymir dwy neu dair elfen yn system, ym mhob uned fewnol. Mae’r hyn a

ddysgir, sef yr iaith, yn meddu ar ddeuoliaeth fel y bydd ei natur hanfodol yn sicrhau —

beth bynnag yw’r repertoire o amryfal ymarferion a ddefnyddia’r athro a’r amlder o

31

ddefnyddiau — fod yr athro’n ddoeth i drefnu’r ddwy ochr hyn drwy’r cwbl yn undod.

Ac felly, mae angen sylwi nid yn unig ar strwythur yr iaith, ond ar strwythur y dysgu

hefyd, yn gydberthynol.

Oherwydd y ddeuoliaeth sy’n gynhenid ac yn dyndra ffrwythlon yn yr iaith, mae

yna hollt yn nhraddodiad dysgu ail iaith ledled y byd. Nid hollt newydd yw hyn. Fe’i

cafwyd ers llawer o ganrifoedd, yn wir er pan gafwyd ‘dysgu iaith’. Yn chwedegau’r

ugeinfed ganrif ceisiais innau wneud diagnosis ohoni. Yr oedd gwybodaeth ar gael

amdani ers tro. Ond nid oedd neb hyd at hynny wedi esbonio (1) pam yr oedd wedi

digwydd, na (2) beth y gellid ei wneud i iacháu’r hollt yn derfynol. Eto fe ddatgelwyd

natur gywir yr ‘hollt’honno mi gredaf i yn y chwedegau, a cheisiwyd gwneud

rhywbeth amdani. Ond nid oedd y diagnosis yn ddigon eglur; nid esboniwyd pam yn

ddigon penodol — pam yr oedd yna hen bendilio wedi bod ers canrifoedd rhwng

pleidwyr un ochr a’r llall. Parhawyd, felly, gyda’r gwastraff a oedd yn ganlyniad i’r

pendilio hwnnw. Ni sylweddolwyd y gallai fod cyfnod hollol newydd wedi’i gyrraedd

oherwydd y ddealltwriaeth bellach o hanfod a gwneuthuriad iaith fel y cyfryw. Cyfnod

a sylweddoliad newydd oedd hwn a allai ymwared â’r pendilio am byth a sefydlu trefn

amgenach, sylfaenol wahanol. Trefn nas cafwyd drwy ddihangfa flêr eclectig ysywaeth.

A methwyd.

Ar ryw olwg, anghywir oedd y ddwy ochr yn y ddrama ddigrif a thrasig hon —

y strwythurwyr a’r cyfathrebwyr ‘amddifad’ (rhoddaf yr ansoddair gan fod rhai

cyfathrebwyr, diolch i’r drefn, yn ymwybodol iawn o strwythurau). Ac y mae’n

hanfodol — yn argyfyngus felly yng Nghymru — i iawn sylweddoli sut a pham. Mae’n

rheidiol er mwyn y dyfodol i ddeall yn union beth a achosodd fod yna hollt wedi’i

chodi o gwbl, a sut yn union y gellid ac y dylid ymwared â’r broblem. Roedd eisiau

ymwared â phlentyneiddiwch y pendil cyfnewidiol diangen.

Sut, felly, y byddir yn ateb y broblem hon? Sut y gall yr athro neu’r

didactegydd (sy’n cynnwys y person allweddol hwnnw sy’n paratoi cyrsiau), sut y gall

ef neu hi adnabod neu ddangos y dasg o adeiladu’r offeryn potensial yn y meddwl a

hefyd hwyluso’r gwaith o fynegi ac o gyfathrebu? Sef y ddau beth ‘ynghyd’.

Ymgais i ateb yr angen dwbl hwnnw o fewn y cyd­destun Cymreig yw’r gyfrol

hon. Ymgais yw i ymateb i’r ddwy ochr, y ddau gyflwr ar iaith, mewn modd parchus

tuag at y naill a’r llall.

Mae’n amlwg bod angen adeiladu Tafod, yr offeryn cryno, pwerus, elfennaidd,

strwythurol, ystwyth ac amryddawn ganolog; a hefyd mae’n amlwg bod angen sicrhau

bod hwnnw’n gwbl atebol o ran adnoddau sefyllfaol i wneud y gwaith naturiol o

gyfathrebu neu o lunio Mynegiant wedyn ym mhob math o amgylchiadau. Gellir

dadlau, cweryla hyd yn oed, ynghylch yr union ddulliau i gyflawni’r naill a’r llall yn y

gorchwyl deublyg. Ond yr hyn sy’n angenrheidiol yw sylweddoli’n llawn fod yna ddwy

ochr i’r broblem gydlynol hon, a bod angen gweithredu’n gyfun. Ffurfiol, disgybledig,

‘caeth’yw Tafod. Cymharol anffurfiol, amlochrog, ‘rhydd’yw Mynegiant. Ffurfiol

rydd yw iaith, felly.

Fe wêl y cyfarwydd maes o law fy mod yn ceisio llunio’r llyfr hwn mewn

ymwybod o arolwg bras o broblemau a dulliau a defnyddiau ail iaith gan bobl eraill

sy’n ymestyn yn ôl dros rai canrifoedd. Fe wnaethpwyd cryn argraff arnaf gan amryw

athrawon a fu, gan ddechrau yn arbennig gyda Comenius yn ystod y Dadeni Dysg, a

chan Gouin rai canrifoedd wedyn. Cefais lawer o wybodaeth a phrofiad gan athrawon

ac athrawesau byw o Gymru. Yr wyf ar f’elw oherwydd ymgydnabod â’r traddodiad

strwythurol ac â’r traddodiad cyfathrebol fel ei gilydd yn gyfartal. Beth, felly, sy’n

‘wreiddiol’yn y gyfrol hon?

32

Nid cymysgu’r strwythurol a’r cyfathrebol, ni a obeithiwn. Mae yna amryw

athrawon yng Nghymru eisoes erioed a heddiw sy’n gwneud hynny, heb sylweddoli

hynny. Dechreuant dan bwysau’r awdurdodau, sydd hwythau o dan ddylanwad

seicolegwyr/cymdeithasegwyr, ar ryw ddull cyfathrebol amddifad. Dyna chwiw

saithdegau’r ganrif ddiwethaf. Ond cânt yn fuan eu bod wedi rhedeg o gwmpas y

sefyllfaoedd cychwynnol oll gan deithio am y gorau, a’u bod wedi cyrraedd rhyw

lwyfandir. Wedi chwarae mewn rhes o sefyllfaoedd, wedi dysgu darnau ‘iaith’ar y cof,

gwelir ei bod yn bryd mynd ati’n drefnus i ddysgu’r iaith o ddifri. Oherwydd iddynt

gymysgu strwythurau blith draphlith ar sail ymgais i gyflwyno rhestr o wahanol

ffwythiannau, y mae’r dysgwyr yn methu â symud ymlaen i’r byd mawr yn olynaidd

greadigol. Dysgwyd yn barotaidd ychydig o ddefnydd ‘ymarferol’. Rhaid bellach

ymadael â’r ‘rhestr’ac ymgymryd â dysgu mwy ystyrlon gynyddol a throi yn ôl at

ymarfer disgybledig y cydlyniad. Rhaid cael fframwaith boddhaol i gynnal iaith ymhob

sefyllfa.

Ymbalfalu fel arfer yw sôn am yr eclectig. Dyma beidio â bod yn ymwybodol o

natur perthynas drefnus a natur fewnol wahanol Strwythur a Sefyllfa. Dyna hefyd

amlygu’r angen i sylweddoli ychydig am hanfod Tafod a hanfod Mynegiant, er mwyn

eu trafod yn ôl eu perthynas ac yn ôl eu hansawdd gwahaniaethol.

Ceisir yn y gyfrol hon annog dull deuol o sylweddoli Ffurf iaith. Dyna’r dull

cyfansawdd. Yn wir, ceisiaf honni fod y deunyddiau cyfansawdd deuol yn gwbl ddiosgoi

yn y pen draw.

Beth felly, gofynnaf eto, sy’n wreiddiol yngln â’r cyflwyniad presennol

newydd­hen hwn a gynigir? Nid dyma’r tro cyntaf y soniwyd am y dysgu strwythurol

mewn modd enghreifftiol nac am y dysgu cyfathrebol mewn modd enghreifftiol; ac nid

dyma’r tro cyntaf chwaith y’u cyflwynwyd hwy ynghyd yn yr un gyfrol wrth arolygu’r

sefyllfa ail iaith. Ond dyma’r tro cyntaf (mewn unrhyw iaith am wn i) yr holwyd o

ddifri pam y mae’r sefyllfa’n bod, beth yw ffurf y berthynas, beth yw ansawdd

cymharol y naill a’r llall, a sut y gellir, wedi dadansoddi’r achos a’r berthynas rhwng y

ddwy ffrwd, ddatrys y broblem yn ystyrlon effeithiol yn yr oes sydd ohoni ac wedyn.

Ar sail yr ateb pam, cynigir trefn ‘reidiol’ond ystwyth ar gyfer mynd ati i lunio cyrsiau.

Cydlyniad yw hyn y dylai paratowyr cyrsiau, a’u cyflwynwyr mwyaf deallus, fod yn

ymwybodol ohono o leiaf.

Gadewch imi fanylu ychydig am ein man cychwyn. Archwiliwn ychydig beth

yw natur Tafod (ail iaith), beth yw natur Mynegiant (ail iaith), ac ym mha ffyrdd y

gellir ac y dylid eu cyfuno, (a) gyda phlant, (b) gydag oedolion.

Mae’r nod yn eglur. Mynegiant yw’r hyn sy’n ben draw ym mhob sefyllfa

arwyddocaol a pherthnasol. Meistroli adnoddau sy’n caniatáu i’r dysgwr ddefnyddio

pob math o frawddegau sy’n angenrheidiol i ddweud beth bynnag y mae am ei ddweud:

dyna sy’n ofynnol yn y pen draw. Nid ‘gwybodaeth’yn y pen draw yw yn ôl rhestr

gyfyngedig o sefyllfaoedd, ond offeryn ar gyfer pob sefyllfa ymarferol o bwys. Nid

‘gwybodaeth’yw chwaith (ar yr ochr arall) ynghylch rhestr o bwyntiau gramadegol.

Mecanwaith cystrawennol yw ar gyfer pob achlysur o fewn cyfyngiadau geirfaol. Ac

eto, ni cheir Mynegiant heb Dafod.

Cnewyllyn cymharol derfynedig yw Tafod, o’i gymharu â Mynegiant. Mae

Mynegiant mewn gwirionedd yn ddiderfyn, yn ebychiadau a brawddegau mewn

sefyllfaoedd di­rif o lawer ffurf a hyd. Nhw yn eu hamlder yw’r nod yn y pen draw.

Ond o’r golwg, yn y pen, gan y siaradwr aeddfed (ac yn wir, i’r sawl a’i chwilia’n

fanwl, gan y plentyn hefyd), mae yna ddyfais ‘fechan’gynnil sy’n gallu cynhyrchu’r

rhain i gyd. O feistroli hon, y mae rhywun yn rhydd wedyn i ddweud a fynno.

33

Nid pentwr yw Tafod. Nid rhibidirês gwasgarog ar draws yr ymennydd o eiriau

fel — aeth, ti, defaid, ffenestri, dros, ganddyn, ac yn y blaen. Nid geiriau ynysedig yw

Tafod. Nid cyfres eirfaol sefyllfaol. Ac yn sicr, nid brawddegau chwaith. Cwlwm yw lle

y mae cnewyllyn o berthnasoedd wedi’u trefnu. Ffurfiau, mecanwaith cydlynol.

Cyfundrefn o gyfundrefnau yw, dyna’i hanfod. Adeiladwaith yw lle y cyplysir eitemau

gyda’i gilydd yn olynol, fel y bydd yna berthynas glwm a chyferbyniol rhwng ‘fi’a ‘fe’,

o fewn uned systematig. Bydd yna berthynas glwm wahanol rhwng ‘aeth’a ‘clywodd’,

bydd yna berthynas arall rhwng ‘gwell’a ‘gorau’. Mae pethau fel y rhain yn ymffurfio

yn glymau gyda’i gilydd yn ôl eu natur. Maen nhw’n ymuno â’i gilydd yn drefnus

gyferbyniol yn y pen yn barod i’w defnyddio. A choron ar y cwbl yw strwythur y

frawddeg. Adeiladwaith ffurfiol ond hynod o ffrwythlon yw’r cyfan. Wedi ennill y

ddyfais gudd ryfeddol hon fe ellir gwneud a dweud drwy Eirfa ac ymadroddion bob

math o bethau. Drwy’r cnewyllyn solet yma, gwead hyfryd o batrymau ieithyddol, fe

ellir ymagor bellach. Eir o’r ‘caeedig’at yr ‘agored’. Mae’r posibiliadau’n rhyfeddol. O

roi’r gynhysgaeth hon yn llaw’r dysgwr, fe all fynd i bobman. Dechreuir mewn man

arbennig, ac ymledir yn gydlynol.

Os dysgir undod cryno Tafod, ynghyd â geirfa, gellir cynhyrchu miliynau o

gyfuniadau Mynegiant.

Meistroli’r fframwaith cywrain ond gwaelodol syml a ‘chaeth’hwn yw’r hyn a

wna’r baban, ac yna mae’n ei ddefnyddio’n rhydd. Mae’n wybodaeth elfennol iawn.

Gwybodaeth yw sydd mor syml fel y storir y rhan bwysicaf yn isymwybodol

anfwriadol. Eto, y mae’n offeryn mor fedrus ac mor wych fel y gellir drwyddo ateb

holl alwadau bywyd, ond inni adeiladu yn ei sgil storfa eirfaol drefnus a defnyddiol.

Er mai Tafod sy’n llywodraethu ac yn cyflyru Mynegiant, na chamddealler

mohono. Gwas yw. Y Mynegiant yw’r pen draw. At hynny y mae’r cwbl yn arwain.

Wedi’r dadansoddi ceir y cyfansoddi. Y cyfathrebu bondigrybwyll.

Yn y ffug ‘ddadl’ rhwng ‘strwythurwyr’ a ‘chyfathrebwyr’ y mae’n dra

phwysig sylwi ar gyfeiriad y cyfuniad o ddwy swyddogaeth iaith. I’r person arwynebol,

unig bwrpas iaith yw cyfathrebu; ac yn wir at hynny yr arweinir wrth reswm. Ond yn

nhwf y plentyn, ac yn y meddwl dynol, dadansoddi bodolaeth yw swyddogaeth gyntaf

a sylfaenol iaith. Rhaid cael rhywbeth i’w ddweud a rhaid bod y profiad o fywyd wedi’i

‘feistroli’n’elfennol yn gyntaf o dan drefn gynieithyddol cyn y gellir ei gyfathrebu.

Hunan­dwyll yw ynysu cyfathrebu, a’i amddifadu o’i sail. Heb adnabod y sail yna, y

mae’r didactegwr dan anfantais. Ac eto yr un mor arwynebol fyddai cynllunio realiti

iaith yn gyfan gwbl ar sail Tafod. Oddi wrth bosibiliadau Tafod yr arweinir at

swyddogaeth Mynegiant. Ac y mae gan hwnnw ei gyfundrefnau. Digwydd iaith mewn

amgylchfyd. Rhaid iddi wynebu cyd­destun a sefyllfa, ac y mae hynny’n golygu

meysydd semantaidd gwahanol.

Er bod Tafod yn ymddangos fel pe bai’n llawer mwy taclus na Mynegiant, y

mae modd hyfforddi a chyfleu a chyflwyno Mynegiant hefyd yn daclus. Mae’n wir bod

geirfa Mynegiant yn ymddangos yn bentwr cymysglyd o eiriadur yn ôl trefn yr wyddor

(nad yw’n drefn ystyrlon o fath yn y byd), a bod sefyllfaoedd i’w defnyddio yn

chwiwus ac yn ddi­drefn, eto mae yna drefn hefyd nid yn unig ym mhrofiadau

ffwythiannol bywyd ond yn yr eirfa’i hun sy’n grwpio profiadau mewn ffyrdd ymarferol

ac weithiau yn ôl olyniaeth eu defnydd.

Sôn y byddwn ni, felly, drwy gydol y gyfrol hon am ddeuoliaeth gyfun

gyfoethog y bu’n golled i Gymru (yn rhy aml) ei hesgeuluso yn y cyfnod diweddar.

Ymddengys fod yna fecanwaith cysylltiol gan y naill wedd ar iaith a’r llall. Dyma ddadl

34

y llawfeddyg, yr Arglwydd Russell Brain, wrth esbonio’r ddeuoliaeth (er nad yw’n

fanwl gywir fel y gwelir bellach):

Wrth lefaru y mae a wnelo’r gyfundrefn nerfol â sgemâu­brawddeg yn

ogystal â sgemâu­gair. Ond y mae sgemâu’r gair fwy neu lai’n elfen

atomaidd sefydlog yn yr ymennydd, mae sgemâu’r frawddeg mewn

iaith lefaredig fel pe bai’n foleciwlaidd: fe’i hadeiledir yn ystod proses

ar y pryd, allan o sgemâu gair, ac fe’i difethir cyn gynted ag y

cyflawnir ei phwrpas. Felly uned iaith yw’r gair, uned llefaru yw’r

frawddeg.

Mae’r esboniad a gynigiaf innau yn symlach ac yn mynd un cam ymhellach.

Elfen gydlynol yw ffurf y gair ar gyfer ffurf hanfodol y frawddeg (sef drwy’r rhannau

ymadrodd). Adeiledir y mathau gwahanol o frawddegau o gam i gam yn olynol

adeileddol. Dyma’r deunydd sy’n amrywio wrth symud tua Mynegiant. Yn slotiau’r

Ffurf caiff Deunydd adeiladu hafotai dros dro i letya. Ar ryw olwg, Gramadeg yw

Ffurf: profiad dadansoddol yw o ofod ac amser wedi’u strwythuro, yn arwain at fywyd

y cartref, y frawddeg. Sylfeinir y frawddeg ar Ramadeg y gair felly. Dosraniad a

dosbarthiad o wahanol gysyniadau yw Geiriadur, fel petai, sy’n cael ei lunio er mwyn

gwneud y bydysawd yn feddyliadwy. Ond Deunydd yw y gellir llunio rhestr ohoni ac y

gellir ychwanegu ati o ddydd i ddydd. Ni ellir gwneud Geiriadur o frawddegau. Rhestr

agored a diderfyn yw’r rheini, wedi’i seilio ar Ffurf gymharol gaeedig. Gall pwyllgor

fathu gair, ni all byth fathu bannod amhendant na thymp ychwanegol i’r ferf, a

gylchredai wedyn.

Hynny yw, mae gennym ddau gyflwr neu ddwy ffenomen wahanol ond

cydberthynol o ran swyddogaeth: Ffurf a Deunydd, Tafod a Mynegiant. Gwarth yw

rhoi sylw i un a pheidio â rhoi sylw dyladwy i’r llall. Oherwydd — dwy ffenomen unol

ydynt; ac ‘amser gweithredol’, sef amser y weithred ieithyddol, sy’n eu huno. Uniad

monistig a symudol (kinetic) yw’r strwythur cysylltiol hwnnw. Dyna’r grym sy’n

gwthio’r naill gyflwr i fynegi’r llall.

Heb sylweddoli’r gwahaniaeth a’r cydlyniad hwn, seithug fu’r llwybr

angenrheidiol ymlaen ym maes Didacteg Ail Iaith yn saithdegau’r ugeinfed ganrif.

Symleiddiwyd yn ormodol, er mai digon syml yw deuoliaeth Tafod a Mynegiant yn y

bôn. Symleiddiwyd yn ‘un’: ymfyddinwyd yn erbyn y ‘llall’. Cymerwyd llwybr sy’n

ymddangos i mi’n bur drychinebus ond yn gyffredin yng Nghymru. Heb ddeall natur y

naill wedd a’r llall ar yr iaith doedd dim modd adeiladu traddodiad deallus newydd ar

gyfer adfer y Gymraeg.

Bu pendilio o’r naill begwn i’r llall, ysywaeth, yn rhwystr ffrwythlon. Fe’u

cyfrifid yn begwn ieithyddol ac yn begwn seicolegol, ond aeth hefyd yn fwgan

gramadegol ac yn fwgan sefyllfaol. Fe ddisgrifiais innau bleidwyr y pegynau hyn ym

mhumdegau’r ugeinfed ganrif yn ‘Filitarwyr a Hwiangerddwyr’. Fel arfer, y mae’r naill

yn adweithio am resymau go arwynebol yn erbyn y llall ar sail ystyriaeth arwynebol ac

anwybodus. Yn lle ceisio cydnabod lle’r naill a’r llall, a thrafod sut y maent yn

cydblethu ac yn cydweithredu er mwyn adeiladu iaith sy’n gorfod cynnwys Tafod

ynghyd â Mynegiant, cafwyd gwrthdaro. Tra gall ieithoedd eraill fforddio chwarae fel

yna, ni all Cymru fforddio colli’r naill na’r llall, na pheidio â thrafod y modd cydblethog

i fod yn gynhwysfawr. Does dim osgoi bod yn gynhwysfawr yn y pen draw; ond drwy

ymddwyn yn gibddall adweithiol, gellir gwaetha’r modd arwain i gyfwng blêr. A dyna a

ddigwyddodd yng Nghymru’r saithdegau a’r wythdegau.

Am y rhai a fu wrthi yn y chwedegau yn ceisio clymu’r dulliau strwythurol

(wedi anarchiaeth gymysg y dull union) ynghyd â’r dulliau cyfathrebol, nid esboniwyd

35

digon ar natur eu hegwyddorion er eu lle yn y datblygiad. Ni roddwyd sylw dwys onid

i’r adferiad strwythurol amddifad. Eto, roedd yna rai ar y pryd fel Dan Lynn James a

Moelwyn Preece a oedd yn ymwybodol o’r ddwy swyddogaeth. Dro ar ôl tro

pwysleisiai strwythurwyr werth a phwysigrwydd dysgu sefyllfaol. Gan fod un

didactegydd medrus mewn cyfrol ddiweddar nid yn unig wedi ceisio dilyn eto y

trywydd arferol a thraddodiadol o bleidio gwrthwynebiad i un wedd ar draul y llall, ond

hefyd wedi fy nghyhuddo i’n bersonol o unochredd, gobeithio y maddeuir i mi am

ymhelaethu ar hyn mewn ffordd betrus. Nid hunanamddiffyn sydd gennyf mewn golwg,

creder neu beidio. Ond ceisir esbonio llawnder y sefyllfa. Dywed fel hyn: ‘Nid yw

pawb yng Nghymru wedi croesawu dyfodiad y cyrchddull hwn [sef y dull tybiannolffwythiannol,

neu ddysgu sefyllfaol]. Un o’i feirniaid mwyaf ers y cychwyn yw’r Athro

Bobi Jones. Ar y cyfan, mae’n gweld y pwyslais ar dybiannau a ffwythiannau fel cam

yn ôl’. I mi, ffwythiannau ‘amddifad’oedd y cam yn ôl.

Caniatewch i mi fanylu ychydig ar hyn, ar lefel bersonol, gan fod y

gamddealltwriaeth hon yn bur gyffredin — ac efallai y bydd yr esboniad yn goleuo

ychydig ar y broblem. Pan ddechreuodd y Cydbwyllgor Addysg drafod nodau

cyfathrebu/ffwythiannau yr oeddwn i eisoes yno ar gychwyn y datblygiad hwnnw ac yn

un o is­bwyllgor o dri, gyda Dr J Philip Davies ac Elen Rhys, yn cymeradwyo

defnyddio’r egwyddor o nodau cyfathrebu/ffwythiannau mewn adroddiad ar gyfer

cyflwyno dechreuadau cwrs. Yr oeddwn eisoes ers tro byd ochr yn ochr â dysgu

strwythurol wedi hen bleidio cyd­ddefnyddio dysgu sefyllfaol. Er enghraifft, yn y gyfrol

Cyflwyno’r Gymraeg (1964) yn y penodau ‘Dril a Sefyllfa’(tt. 121­31) a’r ‘Dull

Unieithog’(tt. 69­92). Ac un tro, ar ôl trafod y pwyslais strwythurol, dywedais ‘Gorau

oll hefyd po fwyaf y gellir cyfundrefnu’r gwaith (strwythurol) o gwmpas sefyllfaoedd

unigol a diriaethol’. A thrachefn, ‘Fy mhrif wrthwynebiad i’r Hwiangerddwyr (megis

i’r Militarwyr hwythau) yw eu culni fel plaid’. Yn yr International Review of Applied

Linguistics IV (1966) (tt. 126 ymlaen) cyhoeddais erthygl ar ‘Situational Vocabulary’.

Mewn cyfres o ryw ddeugain o ysgrifau yn Yr Athro dychwelwn at thema dysgu

sefyllfaol dro ar ôl tro — Rhagfyr­Ionawr 1962­3, Mehefin 1963, Medi 1963,

Chwefror 1964, Ebrill 1964, Mehefin 1964, Ebrill 1965, Mawrth 1966, Medi 1966.

Cafwyd eitem hir eto yn Cyfeiriadur I’r Athro Iaith III (1979) ar ‘Sefyllfa’. Yr hyn a

wrthwynebwn oedd y Ffwythiannau amddifad, di­strwythur.

Yng ngwaith Dan Lynn James, a’m holynodd i yng Nghyfadran Addysg

Aberystwyth ac y cefais beth cyfle i gydweithredu ag ef, cafwyd yn y chwedegau a’r

saithdegau — yn arbennig ar gyfer ysgolion — yr ymgais orau i gyfuno ymwybod

strwythurol ac ymwybod sefyllfaol. Cafwyd hwyl, haul a heli — a gwaith trefnus. Y

methiant, ar ôl Dan Lynn James, i ddatblygu hynny ymhellach, y methiant trist i

adeiladu ar y gorffennol, y culni alaethus a gafwyd yn sgil y math o symudiad

anghytbwys tuag at nodau cyfathrebu a gafwyd, ond yn fwy byth i ffwrdd oddi wrth

enillion y cyfnod strwythurol, dyna a feirniadwn i, sef yr unochredd anwybodus, nid y

nodau eu hun. Y Na nid yr Ie. Nid wyf am enwi’r troseddwyr yn y cyfnod dirywiol,

oherwydd y datblygiad a’m poenai i, nid y bobl dda a’i harddelai ac a edmygwn. A

dywedaf hyn gyda phob difrifoldeb. Nid hwy a feiaf, eithr ôl­foderniaeth lethol y byd

academaidd ar y pryd. Yr hyn a wrthwynebwn, ac a wrthwynebaf o hyd, oedd — difrïo

trefnusrwydd, colli’r ddeuoliaeth gwbl angenrheidiol. Colli’r Dysgu Cyfansawdd

aruchel a phriffordd y traddodiad.

A gaf dynnu tua chasgliad fel hyn yn gadarnhaol? Mae cwrs ail iaith dda yn well

o gydlynu dysgu strwythurol â dysgu cyfathrebol. Mantais yw trefn batrymol raddedig

o fewn sefyllfa (ffwythiant, tybiant, disponibilité, amlder) o’r fath. Yn erbyn yr

36

egwyddor gyfunol seml honno rhwng Tafod a Mynegiant, i’m bryd i, does dim dadl.

Sut a pha bryd y’u cyfunir, wel, mae hynny’n gwestiwn arall. Gorau po gyntaf yn fy

marn i. Gellir ei wneud yn gawdelaidd neu’n drefnus. Dyma gwestiwn a atebir orau ac

yn wahanol yn ôl oedran y dysgwyr ac yn ôl diddordeb ac anghenion ar y pryd.

Ymddengys i mi gydag oedolion — mewn dosbarth — fod yna fantais o fwrw ymlaen

yn gyntaf gyda’r strwythurau i raddau helaethach na chyda phlant, a chael digon o’r

strwythurau yn yr afael, cyn ymagor i helaethrwydd sefyllfaoedd. Ond adeiledir

strwythurau drwy waith arferiadol o ymarfer â brawddegau patrymog. Gyda phlant,

gellir budd o gyfuno ar hyd y ffordd, gyda mwy o siwgr a jam. Mae yna ragor i’w

ddweud ar y pen hwnnw. Ond yr hyn sy’n bwysig yn gyntaf — ynghylch deunydd crai

y dysgu ei hun — yw nid pa bryd nac ym mha ffordd y cyfunir, eithr yr ymwybod

aeddfed o sylweddoli’n gyferbyniol gydlynol gyflwr Tafod (a’i anghenion ieithyddol)

a’r cyflwr Mynegiant (a’i anghenion seicolegol a chymdeithasegol) yntau. Y

ddeuoliaeth orfodol.

Yn hyn o beth gellir cyd­wau Ymarfer â Phatrymau ynghyd â chwaraeon. Drilio

ynghyd â dramodigau. Holi ac Ateb trefnus ynghyd â chaneuon; trefn a hwyl. Cyfuniad.

Gellir defnyddio Lecture Expliquée graddedig; a chofier bod modd drwy’r

ymarferiad hwn gyflwyno pob ffwythiant, tybiant a sefyllfa.

Mae rhai didactegwyr ar y naill law, a minnau yn eu plith, yn ystyried Ymarfer

â Phatrymau fel ymarferiad strwythurol hylaw tuag at Fynegiant. Ystyriaf Ymarfer â

Phatrymau Graddedig Dwyieithog cyflym a chyffrous (hynny yw, mewn modd

deinamig) fel ymarferiad Seico­fecanaidd, strwythurol­ymddygiadol effeithiol dros ben.

Ymarferiad byw yw o’i ddefnyddio mewn cyd­destun o ddulliau perthynol ac amrywiol

eraill — i oleuo’r sythwelediad drwy’r cof a’r isymwybod. Ac yn y fan yna ymuna

Ieithyddiaeth â Seicoleg, Strwythur a Sefyllfa. Dechreua Seico­Fecaneg iaith mewn

cynneddf gynieithyddol etifeddol. Er geni pob baban normal heb feddu ar iaith, mae’n

meddu ar y medrau i ganfod hanfodion iaith ac i’w meddiannu. Mae’n dysgu’n fuan

weithredu’i gyneddfau neu’i sgiliau o wahaniaethu ac o weld tebygrwydd. Gwahuno.

Sylfaen pob deall a phob ymarfer aeddfed. Mae’r meddiannu unedau iaith, sy’n dilyn

wedyn, yn digwydd yn drefnus. Cydlyniad yw iaith yn gyntaf o gyfundrefnau

cyferbyniol anieithyddol (ac ieithyddol) yn y meddwl. Ac adeiladu ar y rheini yw’r her a

gynigir i’r didactegwyr ail­iaith, yn gyfundrefn o gyfundrefnau i’w defnyddio ar gyfer

dweud popeth.

Adeiledir ar sail cyneddfau etifeddol. Yn y meddwl dynol sy’n barod i ddysgu

iaith, cynieithyddol gyffredinol yw’r cyfuniad deuol o alluoedd i Wahaniaethu ac i

Ailadrodd (neu Efelychu). Cynneddf sylfaenol yw. Drwy gyfrwng y medrau cyfun

seicolegol hyn yr ymatebodd y baban yn gyntaf oll i absenoldeb/presenoldeb, yn

gychwynnol o fewn gofod, wedyn mewn amser. Hyn a esgorodd maes o law ar

gyfundrefn ‘person’a chyfundrefn ‘tymp’(tense). Dyma ymatebiad cyferbyniol hollol

waelodol mewn gofod sy’n dibynnu ar sythwelediad ymarferol mewn bywyd cyffredin.

Fe’i ceir ar ffurf sn/tawelwch yn y cyferbyniad ffonemig elfennol rhwng llafariaid a

chytseiniaid, lleisiol a di­lais. Profiadau y gall plentyn ymateb iddynt yn gyflym

ddifeddwl syml a’u dysgu’n gyflym. Felly yr estynnir y cyferbyniadau sythwelediadol

elfennaidd hyn ymlaen drwy’r cyferbyniadau eraill. Hynny yw, adeiledir ‘gramadeg’oll

neu strwythurau iaith ar sail cyferbyniadau unol anieithyddol a naturiol.

Mae’r cwbl yna yn y bôn yn eithriadol o elfennaidd, yn gyntefig o syml, yn

isymwybodol hyd yn oed, yn blentynnaidd o rwydd. Dyma gyfres sythwelediadol.

Ac y mae’n gynieithyddol seicolegol. Dyma lefel y gynneddf sy’n esgor ar iaith

— yn ei chenhedlu. Esbonnir, ar sail dadansoddiad cynieithyddol o’r fath hefyd, sut y

37

tyf y gair yn frawddeg, sef prif iaith. Nid dechrau ar y ‘diwedd’a wneir fel Chomsky

gyda brawddegau craidd parod, ond arddangos yn union o ble maent yn dod. Mae yna

reswm pam a sut y cafwyd y brawddegau craidd. Fel y dywedais yn 1970 (System in

Child Language): ‘Another differentiating distinction of our approach is that whereas

transformational grammar demonstrates how the fundamental potentials act in

expression, we are concerned primarily with why they are related to each other as they

are.’

Yng ngoleuni’r pendilio a gafwyd drwy’r canrifoedd ym maes dysgu ail iaith

rhwng y traddodiad ieithyddol a’r traddodiad seicolegol, diddorol sylwi ar y ddadl

(neu’r cweryl) a gafwyd rhwng Chomsky a Skinner, sef rhwng Gramadeg Cenhedlol­

Drawsffurfiannol ar y naill law ac Ymddygiadaeth ar y llall. Gellid synied, gan mai fy

nhipyn ysgrif i ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 1963 oedd yr ymdriniaeth

gyntaf yn y Gymraeg â gwaith Chomsky, y byddwn yn ochri gydag ef yn hyn o

drafodaeth. Ac i raddau, mae peth o hynny’n wir gan fod safbwynt Skinner yn warthus

o symleiddiol. Ond, fel y gwnes i bwysleisio yn bur gynnar (e.e. yn System in Child

Language), dymunwn bellhau oddi wrth safbwynt Chomsky hefyd yn weddol bendant.

Bûm yn gweithio yn y maes ar sail rhagdybiau dadansoddol Gustave Guillaume, ac

ysgol ieithyddol Seico­Fecaneg neu Seico­Systemateg, sy’n dermau dwbl­faril

arswydus ac yn amgáu’r olwg seicolegol ynghyd â’r olwg ieithyddol strwythurol.

Eto, wedi dweud hynny, y mae peth tebygrwydd ac olyniaeth rhwng safbwynt

Guillaume a’r safbwynt a fabwysiadodd Chomsky genhedlaeth wedyn, er gwaetha’r

gwahaniaethau dwfn. Hynny o berthynas a amlygwyd pan gyhoeddwyd Grammaire

générative transformationelle et psychomécanique du language (Lille), casgliad o

ysgrifau y cyfrennais iddo ym 1973.

Bid a fo am hynny, y nod i bawb sy’n dysgu iaith yw symud i mewn i gyddestun

sefyllfaol cyn gynted ag sy’n werthfawr yn y drefn o ddysgu iaith yn ffrwythlon.

Gyda phlant ysgol, yn ôl yr oedran, ac eto i raddau gydag oedolion hefyd, gellir rhoi

jam ar hyn — drwy chwaraeon, posau, cystadlaethau, neu ganeuon iaith. Priodol yw

ystyried sut y gellir dyfeisio sefyllfaoedd dramatig dilys sydd hefyd yn strwythurol o

gam i gam. Ond mae angen ystyried y ddadl ei hun. Clywais drafodaeth ynghylch pa

nodau cyfathrebu (ffwythiannau) a pha sefyllfaoedd oedolyn sy’n addas i’w cyflwyno i

blant ysgol. Yn fy marn i, camgymeriad yn achos plant yw anwybyddu’r ffaith mai yn

yr ysgol y mae’r dysgu’n digwydd yn realistig. Mae amgylchfyd yr ysgol yn dra

phwysig ym mywyd y plant. Dyma’r rhan fwyaf o’u diwrnod. Mae’n gyd­destun

‘naturiol’. Ceir sefyllfaoedd o fewn gwersi sy’n ymagor allan yn ffrwythlon i

ddatblygiadau pellach mewn bywyd. Fe ellir cyflwyno’r testunau hyn mewn modd

ieithyddol raddedig, eu drilio’n batrymog gadarn, ac ymestyn yn gynhyrchiol

ddefnyddiol i gyfeiriadau newydd. Fel arfer, mae un cam yn atgyfnerthu nid yn unig yr

un o’i flaen, ond yr un ar ei ôl hefyd.

Yn y gyfrol hon, cyfeiriaf yn arbennig at dri chyd­destun sefyllfaol mewn ysgol

lle y mae ymarfer â phatrymau a driliau dwyieithog strwythuredig yn gallu ffitio i mewn

i dri chyfeiriad enghreifftiol ym myd ffwythiannau:

e.e.

1. Defnyddio’r ail iaith fel cyfrwng dysgu pynciau;

2. Defnyddio’r darnau darllen sefyllfaol yn sylfaen i ddrilio dwyieithog

strwythuredig sy’n cyfoethogi’r darllen;

3. Ymarfer â Phatrymau o fewn cyd­destun chwaraeon a chaneuon.

Ymhelaethaf ar y rhain ymhellach ymlaen. I mi y mae hyn yn dipyn mwy

perthnasol i blant ac yn fwy disgybledig gall mewn ysgol nag achwyn — ‘Dyw’r plant

ddim yn gallu gwneud pethau syml fel prynu stampiau yn Swyddfa’r Post. Dyn nhw

38

ddim yn gallu ateb ynghylch eu hiechyd na thrafod y tywydd’. Hen sefyllfaoedd

ymarferol cyfarwydd sy’n syn o amherthnasol i blant ar y pryd. Ond, mi ofynnwch —

Beth felly yw’r pwynt o wers fel ‘Glaswelltiroedd y Byd’neu ‘Diffeithdiroedd y Byd’?

(Cyflwyno’r Gymraeg, R. M. Jones, tt. 74­84) Wel, mae modd cymhwyso’r testunau

gwybodlawn hyn a’u darostwng i ofynion patrymau strwythuredig a graddedig mewn

cyd­destun naturiol. Maent yn cyflwyno gwybodaeth. Dyna galon yr iaith mewn corff

plentyn ysgol. Maent yn cyfathrebu mewn un o brif amgylchfydoedd realiti y plentyn.

Yr ysgol. A gobeithiaf drafod hynny ymhellach ymlaen.

Gellir hyfforddi plant Casnewydd, y Rhyl, Wrecsam, a Chaerdydd i feddwl

felly, yn addysgol yn y Gymraeg, drwy fod yn dipyn mwy naturiol a chynhyrchiol yn

amgylchfyd yr ysgol, na’u bod yn medru gofyn am stamp yn y Swyddfa Bost leol yn y

trefi hynny lle nad oes neb yn debyg o fynd ymhellach gyda nhw yn y Gymraeg na

gwenu beth bynnag. I blentyn ysgol, os symudir oddi wrth yr hysbys at yr anhysbys,

oddi wrth yr agos at y pell, nid lle drwg yn ddiau yw dechrau gydag ail iaith sy’n sôn

am waith ymarferol ysgol a’u bywyd real bob dydd. Cam pellach wedyn fydd bywyd

aeddfetach.

(ii) Y Pendilio Hanesyddol

Wrth fwrw golwg yn ôl dros y gwaith o ddysgu ail iaith drwy’r canrifoedd, fe

ellir yn hawdd gael argraff gymysglyd. Rhoddir argraff o wamalu braidd. Mewn ambell

gyfnod pleidir gwaith llafar, mewn cyfnod arall waith llyfr. Gall rhai dros dro bleidio’r

pwyslais ar ramadeg, ac yna eraill geisio’r hyn a ystyriant yn ffordd ‘naturiol’, sef

parablu ffwrdd­a­hi yn ddi­drefn ddi­gynllun. Bydd rhai am hyrwyddo dull uniaith ac

eraill y defnydd cyfun â’r iaith gyntaf, hyd yn oed cyfieithu.

Er mwyn ceisio gweld a oes yna batrwm yn y pendilio hwn, carwn

ganolbwyntio’n gyntaf ac yn bennaf ar yr hyn a drafodir, sef yr hyn a ddysgir, er bod y

dull o’i gyfleu’n gorfod cael sylw wrth basio. Iswasanaethgar yw dulliau i’r deunydd

dysgu.

Er nad dyma’r lle i olrhain yn fanwl hanes y pendilio cyson hwnnw rhwng

ymateb gwahanol ddidactegwyr ar hyd y canrifoedd i’r ddwy wedd olynol yn realiti

iaith, eto mae’n briodol sylwi nad pendilio a berthynai i’r ugeinfed ganrif yn unig

mohono. Cyflyrau cynhenid sydd yma wrth fôn y cyferbyniad Tafod a Mynegiant.

Perthynant mewn gwirionedd i natur iaith ei hun. A thrwy ymateb i gyflawnder iaith yn

unig y datrysir y broblem o’i dysgu.

Roedd yna ddwy ‘res’o gyfnodau pendant yn hanes dysgu ail iaith — er bod

yna elfennau’n gorgyffwrdd ac yn goferu.

1. Y rhai strwythurol: Yr Oesoedd Canol, y Ddeunawfed a’r Bedwaredd Ganrif

ar Bymtheg; Chwedegau’r Ugeinfed Ganrif;

2. Y rhai cyfathrebol: Y Cyfnod Clasurol (Groeg a Rhufain), Y Dadeni a’r

Ugeinfed Ganrif Gynnar; a Saithdegau’r Ugeinfed Ganrif.

Roedd hanfod a naws y dulliau o gyflwyno deunydd drwy’r cyfnodau hyn yn

amrywio’n gyffelyb: gogwyddent tua’r ffurfiol neu’r anffurfiol, yn gymharol drefnus ac

yn gymharol anhrefnus, yn ddiddwythol ac yn anwythol. Byddai’r anwythol yn cyfleu a

hyfforddi sgiliau; a’r diddwythol yn dysgu dadansoddiad o iaith fel y gallai sgiliau

adeiladu ar ei sail.

Oherwydd diffyg cefndir mewn theori ac oherwydd anwybyddu hanes ac ystyr

amrywiaeth y deunyddiau a dulliau, gellid tybied yn ôl rhai o’n didactegwyr Cymraeg

modern mai ffenomen ddiweddar yw rhai o’r materion a gafodd sylw yn ystod ail

hanner yr ugeinfed ganrif — ymarfer â phatrymau, cynorthwyon gweledol, y dull

cyfathrebol yn ôl sefyllfaoedd, graddio geirfa a strwythurau, chwaraeon iaith, y labordy

39

iaith, ac yn y blaen. Ond y mae i’r rhain bron i gyd eu hachau hynafol, rhai yn mynd yn

ôl cyn dyddiau Iesu Grist. Hanes ailddarganfod, ysywaeth, yw rhai o’r symudiadau

pwysicaf yn hanes dysgu ail iaith o hyd. A gwedd ar y chwyldro Copernicaidd a

ddigwyddodd yn 60au’r ugeinfed ganrif, dybiwn i — yng Nghymru fel mewn mannau

eraill — oedd sylweddoli cyfundod deuol y broses ail­iaith a’r dull dysgu amryfal ond

trefnus y byddai angen ei gysylltu â hi. Gwelwyd cyd­anghenraid y strwythurol a’r

cyfathrebol, y dadansoddi a’r cyfansoddi yn gyfundod. Gwaetha’r modd, ni

sylweddolwyd llawnder y chwyldro cydlynol hwnnw gan rai didactegwyr tra

dylanwadol a gododd wedyn yng Nghymru. Ac efallai mai oherwydd diffyg esbonio

pam y mae’n ofynnol gynhenid mewn cwrs boddhaol fod Tafod a Mynegiant yn

angenrheidiol gyda’i gilydd, mai dyna sy’n cyfrif bod didactegwyr brysiog yn agored i

syrthio’n ôl i unochredd.

Y llyfr gorau a sgrifennwyd yn 60au’r ugeinfed ganrif i amlygu amlochredd

cyfun y gwaith hwn o ddysgu ail iaith oedd Language Teaching Analysis, W.F.

Mackey (Longman, 1965). Anodd gennyf feddwl fod neb ynghynt nac wedyn wedi

meddu ar y fath adnoddau mewn ieithyddiaeth, seicoleg, a methodoleg ag a geid gan

Mackey. Rhoddai arolwg eithriadol gyflawn gerbron, a disgrifiad yw sy’n dangos

manteision ac anfanteision y gwahanol ddulliau yn deg ac yn drefnus. Mae’n enghraifft

o gyflwyniad sy’n dangos arwyddocâd ieithyddol a seicolegol gyda’i gilydd, Tafod

(gan gynnwys Gustave Guillaume a Seico­Fecaneg) yn ogystal ag arwyddocâd

Mynegiant. Ond gan ei fod yn anelu at ddisgrifiad cynhwysfawr yn hytrach nag at

ddehongliad unol, tueddai i droi at ddull y rhestr, heb danlinellu’r achos canolog i’r

pendilio deuol yn natur iaith a’r rheswm dros y math o gydlyniad sy’n angenrheidiol.

Nid oedd wedi dosbarthu’n gyfundrefnus ddigon ei ddefnyddiau’u hun.

Mae natur iaith yn drech na ffasiwn a chwiw. Fe ddylsai’r rhai, a minnau yn eu

plith, a weithiai ar sail cyfundod dwyochrog iaith ar y pryd, fod wedi codi llais i

esbonio’r ddadl yn llawnach yn y chwedegau. Pe gwnaethid hynny, buasid wedi arbed

rhywrai o bosib rhag y sefyllfa chwâl wedyn, a byddem wedi cael mudiad llawer mwy

cyfundrefnus yng Nghymru yn niwedd y saithdegau ac am flynyddoedd wedyn. Byddid

wedi arbed cannoedd o filoedd o bunnoedd.

Byddai’n llesol pe baem ni heddiw, athrawon sy’n ymwneud ag astudio crefft

yr ail iaith, yn gwybod yn fwy manwl am hanes crefft ail iaith. Cymerer er enghraifft

dechneg ‘ddiweddar’Ymarfer â Phatrymau. Dechreuwyd ymarfer â phatrymau, er

enghraifft, nid ym mhedwardegau’r 20fed Ganrif, ond yn y 1500au cynnar. Pwysig

sylwi nad meddwl am ymarfer â gramadeg yr oeddid yn unig, hyd yn oed yn y

canrifoedd cynnar hynny. Yr un pryd hefyd, yr oeddid yn dysgu geirfa sefyllfaol gan ei

chorffori mewn brawddegau ymarferol. Erbyn diwedd y 16eg Ganrif roedd y daflen

ddisodlol yn dra chyffredin i’r perwyl hwn. Fe’i ceid gan Erasmus 1524; ac yna, cafodd

amlygrwydd gan Claude de Sainliens, a gyflwynai aml ddewis y naill ochr a’r llall i’r

gwahaniad yn y patrwm. Diflannodd Ymarfer â Phatrymau serch hynny ar ôl Hoadly

ym 1683 nes ailymddangos yn betrus ym 1811 ym Montréal. Ciliodd drachefn am

gyfnod oherwydd y bri a gododd ar y cysyniad ‘naturiolaidd’o ddysgu. Ac yna,

sylwodd gwas suful yn yr India, Thomas Prendergast, (1870) fod plant bach fel arfer

(wrth ddysgu eu hiaith gyntaf) yn drilio strwythur newydd drwy chwarae ag ef, a thrwy

ei ddefnyddio gyda chymaint o eirfa ag oedd yn bosibl. Dyma ffaith y bydd yn rhaid imi

ddychwelyd ati ymhellach ymlaen wrth drafod iaith plant. Beth bynnag, dyma

ailddarganfod Ymarfer â Phatrymau o’r newydd. Eithr nid am yn hir. Ciliodd nes cael

ei boblogeiddio o’r newydd gan Rosenthal (1901).

40

Ac yna, o’r diwedd, yn yr ugeinfed ganrif mewn erthygl ym 1903, dyma

Charles Schweitzer yn cyfuno’r Dull Union â Strwythurau, ar lun cwestiynau llwythog

drwy ddrilio patrymau llafar. Harold Palmer, am wn i, un o brif ddidactegwyr Saesneg

yr ugeinfed ganrif, a ailenynnodd yn y dauddegau ddrilio patrymau a thaflen ddisodli, a

hynny ar sail ei theori o ‘Ergonics’ — cysyniad tebyg ddigon i ramadeg

trawsffurfiannol Chomsky ymhellach ymlaen — a ddaeth yn ôl â’r dull i fri am weddill

yr ugeinfed ganrif. Bûm innau’n defnyddio’r dull hwnnw yn helaeth yn Québec, yn

Gambia, yn ogystal ag yng Nghymru.

Perygl Ymarfer â Phatrymau yn ei burdeb oedd (i) peidio â gwybod ystyr yr

hyn a gyfunid, a (ii) diflastod ailadrodd blinedig (yn enwedig gyda phlant bach). Ond

mater arall oedd dysgu dril dwyieithog a gyflwynwyd i Gymru gan Carl Dodson. Ef

oedd yr Athro a ddaethai â’r dril cyffrous hwn drosodd o’r newydd o’r Almaen, ond

gan symud ymlaen i ddysgu’n sefyllfaol (drwy gyfrwng darnau darllen) mor fuan ag y

gellid ac ymlaen hefyd i holi ac ateb. Fel yna y llwyddid — ac mewn ffyrdd eraill — i

droi o Ymarfer â Phatrymau, yn null y plentyn bach, i sgyrsio aeddfed ffwythiannol.

Sylwer hefyd: oherwydd ofni gramadeg a chyfieithu fel ei gilydd, tueddir i

efeillio’r ddau yn rhy fynych. Camgymeriad yw cyplysu cyfieithu â gramadeg o

angenrheidrwydd (hoff ddatblygiad y 18fed ganrif), fel petaent o ran natur yn gorfod

mynd gyda’i gilydd. Nid yw cyfieithu namyn un o’r ffyrdd o gyfleu ystyr — ochr yn

ochr â darluniau (hoff arferiad Comenius yn yr ail ganrif ar bymtheg), ystumiau neu

feimio (hoff arfer Gouin tuag 1880), diffinio, a dangos gwrthrychau mewn cyd­destun.

Gellir os dymunir ymwneud â chyfieithu’n bur fuan. Ni wneir ond wynebu’r her — sut

y mae cysylltu cysyniad â’i arwydd ieithyddol? Caed bwhwman go gyson yn y dulliau o

gyfleu ystyr. Gallai amrywio hyd yn oed yn ôl y cefndir ideolegol ar y pryd. Codwyd

dogma go unochrog ynghylch y Dull Union (ac ystyr) yn ail hanner y 19eg ganrif. Ac

aethpwyd yn fwy naturiolaidd gyda’r Mudiad Rhamantaidd.

Roedd yna duedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i synied mai datblygiad

‘modern’oedd dysgu cyfathrebol, sefyllfaol, ymarferol. Ymbinciwyd yn naturioldeb

honedig a ‘modern’y Dull Union. Dichon fod yna elfen benagored a rhydd ramantaidd

mewn Mynegiant sy’n ysgogi’r fath ffansïon arbrofol dramatig. Ond dylid sylwi bod

Sant Awstin yn dysgu yn ôl y Dull Union sefyllfaol mor gynnar â 389 O.C. Caed

chwaraeon iaith gan Quintilian a Jerôm. Ond wrth i’r Oesoedd Canol ddirwyn yn eu

blaen, aethpwyd yn fwyfwy trefnedig. Yn ei flynyddoedd cynnar credai Comenius, yn

ei ddoethineb dybiaf i, mai’r ffordd fwyaf effeithiol o ddysgu oedd cyfuniad o’r ffurfiol

a’r anffurfiol, a hynny’n weddol agos at yr hyn a gymeradwyir yn y gyfrol hon. Ond yn

ystod y Dadeni Dysg gwahanwyd drachefn y ddau i raddau. Dadleuai Erasmus yn

erbyn yr holl chwarae ‘ma. Ac yn y cyfnod hwnnw cyfunid math o ddril ag elfen

gystadleuol. Daeth mwyfwy o bwyslais ffurfiol hefyd yn sgil darllen, lle y buasai

cydbwysedd mwy ‘modern’o’r blaen, rhwng y llyfr a’r llafar.

Gellid dyddio’r cyfnod modern sefyllfaol efallai drwy sylwi arno’n dechrau o’r

newydd gyda Gouin yn 1880, yn ei gyfrol Art d’enseigner et d’étudier les langues, a

chyda Viëtor a’i bamffledyn enwog ym 1882. Cymhwysai Gouin egwyddorion seicoleg

i ddysgu ail iaith — dysgu drwy’r synhwyrau, ffwythiannau a nodau cyfathrebu,

chwarae, a gweithgareddau sefyllfaol. Dychwelaf at Gouin mewn moment. Ond gwiw

cofio un pwynt am yr ‘Ymarferiad’arbennig ‘modern’a gysylltir â’i enw, o gynllunio

dysgu sefyllfaol ar sail cylch trefnus o weithredoedd olynol. Mae hynny eisoes i’w gael

ynghynt gan Pseudo Dositheus yn 250 O.C. (Nid annhebyg gyda llaw i’r ‘action­chain

sequence’neu’r ‘guided paragraph building’a gymeradwyai un o’r prif ffwythianwyr,

41

sef H. G. Widdowson yn English Language Teaching (1972) ac yn International

Review of Applied Linguistics (1974).)

Cydredai dysgu sefyllfaol â thuedd fwyfwy at yr iaith lafar. Ar ôl canrif pryd yr

oedd twf gramadeg­cyfieithu yn bur amlwg (sef y 18fed), a’r ‘llyfr’wedi cael cryn

sylw, daeth Viëtor a rhoi’r iaith lafaredig drachefn ar ganol dysgu ieithoedd modern.

Roedd yntau fel Gouin a Comenius yn pleidio ystumiau a darluniau. Tybiai, os oedd

darllen yn mynd i fod yn rhan o ddysgu ail iaith, mai rhaid oedd ei gyflwyno ar ôl

cadarnhau deall llafar a siarad, ac yna dim ond os oedd wedi’i raddio. Yn anwythol yn

unig yr enillid gwybodaeth ramadegol yn ei fryd ef.

Cafwyd pendilio go gyson o’r fath felly ar hyd y ffordd. A thrasiedi ffrwythlon

efallai fu’r pendilio hwnnw gynt i ddatblygiad dulliau er nad i lwyddiant dysgu iaith ar y

pryd bob amser. Trychineb yn sicr fu’r pendilio i Gymru yn y cyfnod diweddar. Nid yw

Tafod byth mewn gwirionedd yn gyflawn heb Fynegiant; ac nid yw Mynegiant yn

gyflawn heb Dafod. Ac yn reddfol, drwy drugaredd, yr oedd fel pe bai rhai o

arweinwyr y maes hwn yn sylweddoli’n burion yn y bôn fod yr iaith yn cydfodoli

mewn dau gyflwr cyfun, ac eto buont yn amharod i ystyried pam. Dichon erbyn heddiw

ei bod yn bryd inni ymwared â’r adweithio ffôl negyddol hwnnw, a dod yn ôl at ein

coed mewn cydlyniad ymwybodol manwl.

Camgymeriad fu gwahanu’r sgiliau fel y digwyddodd weithiau. Rhy ychydig o

fyfyrio dwys gatholig a goddefgar a gafwyd drwy’r oesoedd, gyda rhai eithriadau

gloyw fel a nodwyd. Ac yn hyn o beth yng Nghymru, gyda rhai eithriadau crefftus fel

Dan Lynn James a D. O. Roberts, tueddai’r ugeinfed ganrif o hyd i ddilyn yr un

adweithio anffodus hwnnw. Ni raid difrïo’r ganrif honno, bid sir, gan fod cryn finiogi

wedi digwydd ym maes ieithyddiaeth, yr hynaf o’r gwyddorau dynol. Ac weithiau,

drwy ddeall ieithyddiaeth yn well yn ei llawnder dwyochrog, fe ddôi’r pwyslais

sefyllfaol yn ôl yn fwy effeithiol i sector Mynegiant.

Dau Gameo mewn cornel

1. COMENIUS

Yn ôl Butler, yr addysgydd Americanaidd, Comenius a gychwynnodd y mudiad

modern mewn addysg, ac ef sy’n ei reoli o hyd: mae ei ddylanwad ar addysg yn ein

hamser ni, medd ef, i’w gymharu ag eiddo Copernicus a Newton ar wyddoniaeth

fodern, a Bacon a Descartes ar athroniaeth fodern.

Yn llyfr Comenius, Ianua linguarum reserata (1631), y ceir y Dull Union o

ddysgu iaith wedi’i sylfaenu’n ddiogel, gydag ymgais i gysylltu gair â gwrthrych yn

uniongyrchol. Nid drwy reolau y dysgid gramadeg chwaith, eithr drwy ei gymhwyso’n

anwythol: drwy arwain y plant i’w ddadansoddi, gan sylwi ar iaith real ac ar yr

egwyddorion sy’n cael eu gweithredu ynddi. Chwilio am reolau a wna anwythiad, ac

eiddo Comenius (am wn i) oedd yr ymgais gyntaf i gyflwyno gramadeg i blant mewn

modd creadigol. Mae’r un llyfr hwnnw wedi’i gynllunio’n ofalus gyda geirfa ddethol o

ychydig o filoedd o eiriau a gramadeg wedi’i raddio yn gamre datblygol, gan symud o’r

syml tuag at y cymhleth.

Yn ei draethawd Methodus linguarum novissima (1648), cyflwynodd

Comenius yr egwyddor: Nihil est in intellectu quod non prius fuerit in sensu (Nid oes

dim yn y deall na fu’n gyntaf yn y synhwyrau). A chan ddilyn yr egwyddor hon fe

gafwyd cyfres o lyfrau Lladin a gyflwynai iaith drwy ddarluniau.

Ceir yr enghraifft orau o ddull Comenius yn ei lyfr Orbis sensualium pictus

(1658), sef ‘Byd Darluniau’. Ac yr ydym ni o hyd heb fanteisio yn llawn ar y

posibiliadau yn y dechneg a gychwynnwyd mor ardderchog yn y llyfr hwnnw. Gwir mai

42

du a gwyn yn unig yw lluniau Comenius, ac nad oes fawr o gamp ar eu crefftwaith

pentyrrog yn ôl ein safonau modern. Ond mae’r modd y’u defnyddir hwy’n ffres ac yn

ddiddorol. Rhifir y gwrthrychau newydd yn y darlun a chyfeiria’r rhifau hyn at eiriau

mewn brawddegau yn y darn darllen yn hanner isaf y tudalen. Clymir y geiriau o

gwmpas sefyllfaoedd defnyddiol yn ein bywyd beunyddiol: y caeau a’r fferm; gwaith a

masnach; siop a th; dodrefn, offer ac anifeiliaid. Nid oes dim syndod, felly, fod llyfr

Comenius wedi aros yn safonol drwy Ewrob am gan mlynedd, a chafodd ddylanwad

llesol hyd ein dyddiau ni. Cofiaf o hyd yr ymdrechion clodwiw a wnaed ym 1966 i

ddatblygu technegau Comenius yn yr ugeinfed ganrif drwy gymwysiadau tra diddorol

Gwilym J. Evans o ffilmiau estron ar gyfer dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn Sir

Gaernarfon, neu wrth weld stripluniau Dan Lynn James ar gyfer ‘Hwyl gyda’r

Gymraeg’, neu’r gwaith glew a wneid i’r un cyfeiriad yn y Rhondda ac ym

Morgannwg, heb sôn am brosiect mawr y Cyd­Bwyllgor Addysg tua’r un adeg.

Gwelwn yn y rhain i gyd ffrydiau a darddodd yn llyn Comenius yn yr ail ganrif ar

bymtheg, yn rhannol fel ffrwyth Diwygiad Crefyddol mawr yr Almaen a chanolbarth

Ewrob.

Yn lle ceisio manylu’n rhy ymarferol ar unrhyw ddull penodol, efallai na allaf

wneud yn well na dyfynnu rhai paragraffau o waith Comenius ei hun. Yr hyn y carwn

dynnu sylw ato’n bennaf yw’r cyflwyniad pendant a bwriadus sydd ganddo o’r cyswllt

rhwng strwythurau a sefyllfaoedd. Yr unig gopi sydd wrth fy llaw yw copi o gyfieithiad

Ffrangeg La Grande Didactique (a chyfieithaf innau):

Ni ddylid dysgu ieithoedd fel elfennau hanfodol mewn dysg neu

wyddoniaeth, ond fel modd i ennill dysg a gwyddoniaeth a’u

trosglwyddo i eraill ...

Dylai’r astudiaeth o iaith, yn enwedig yn ystod plentyndod,

gydgerdded gyda’r astudiaeth o bethau: hynny yw, dylid dysgu cynifer

o bethau ag a ddysgir o eiriau, ymadroddion, priod­ddulliau a

chymalau, fel y byddir yn gallu deall a mynegi’r hyn a ddeellir.

Dynion yw’r hyn y dymunwn eu llunio, nid parotiaid.

O’r egwyddor hon y mae’n canlyn, yn gyntaf, na ddylid dysgu

geiriau ar wahân i bethau, canys y gair heb y peth nid yw’n bod ac nis

deellir, ond cyn belled ag yr unir peth a gair ac y bodolant ynghyd i

gyflawni rhyw swyddogaeth. Dyna’r ystyriaeth a barodd i mi sgrifennu

‘Porth yr Ieithoedd’lle y mae geiriau’n dod yn rhan o adeiladwaith

brawddegau er mwyn mynegi peirianwaith pethau ...

Canlyniad arall yw y dylai dysgwyr ffurfio’u hysbryd gymaint

bob dim ag y ffurfiant yr iaith, gan weithio o bosib gyda phethau sy’n

addas i bobl ifainc a gohirio materion priodol i oedolion hyd yn

ddiweddarach ...

Gellid hwyluso a byrhau’r astudiaeth o amrywiol ieithoedd

drwy fabwysiadu dull sy’n cynnwys y rheolau canlynol:

(1) Dylid dysgu pob iaith newydd ar wahân i’w gilydd. Naturiol yw hi

inni ddysgu’n gyntaf y famiaith, yna iaith y bobl gymdogol (Yn fy marn

i, dylai’r ieithoedd byw ragflaenu ieithoedd dysg) ...

(2) Dylid dysgu pob iaith yn ôl ei defnydd yn hytrach nag yn ôl

rheolau. Hynny yw rhaid ei dysgu drwy ei chlywed, ei darllen, ei

chopïo, a thrwy geisio cyfansoddi ychydig ar lafar ac ar lyfr, mor aml

byth ag sy bosib.

43

(3) Sut bynnag, dylai rheolau gynorthwyo a chadarnhau’r defnydd ...

Rheolau gramadegol fyddai’r rhain, nid rheolau athronyddol.

(4) Wrth gyflwyno rheolau iaith newydd, fe ddylai’r un a wyddys eisoes

wasanaethu fel norm neu safon, fel y gellir dangos y gwahaniaethau

sy’n bod rhwng y ddau. Diangen yw ailadrodd egwyddorion sy’n

gyffredin i’r famiaith ac i’r ail iaith, ac fe all ddrysu’r dysgwr drwy

beri iddo feddwl fod mwy i’w ddysgu nag sydd mewn gwirionedd ...

(5) Clymer yr ymarferion cyntaf mewn iaith ddierth wrth yr hyn sy

eisoes yn gyfarwydd.

Ni ellir mynd tuag ymlaen yn llwyddiannus ond gan bwyll

bach: fel arall, cymysgir popeth, a gadewir bylchau fel y gyr llawer

ohonom drwy brofiad. Drwy ddilyn y pedwar cam canlynol, cyflwynir

iaith yn rhwyddach, os yw’r offer ieithyddol yn ddethol a’r llyfrau i’r

dysgwyr ac i’r athro wedi eu cyfansoddi’n drefnus.

I’r pedair gradd o ddysgwyr sydd, fe ddylai fod ar gyfer pob

iaith bedair gradd o lyfrau: sef ‘Y Cyntedd, Y Porth, Y Palas, Y

Trysor’a’u llyfrynnau cynorthwyol.

Y Cyntedd: dyma’r lle yr hyfforddir ynganiad; rhai cannoedd o

eiriau wedi eu llunio’n frawddegau, gyda thablau ar gyfer

ffurfdroadau.

Y Porth: dylai gynnwys yr holl eiriau mwyaf arferedig yn yr

iaith, tuag wyth mil, wedi eu dodi mewn brawddegau bychain i

fynegi’n fywiog y pethau cyfarwydd a naturiol. Gellid atodi rheolau

eglur a chryno mewn gramadeg, i ddysgu’n hawdd y ffordd orau o

sgrifennu ac ynganu’r geiriau, o lunio ac adeiladu brawddegau.

Y Palas: bydd hyn yn cynnwys darnau ynghylch pob math o

bynciau, a bydd yn llawn o bob math o frawddegau ac o ymadroddion

gyda nodiadau ar ymyl y ddalen am yr awduron piau hwy. Ar y diwedd

gellir ychwanegu rheolau ar y modd i amrywio ac estyn mewn llawer

dull a modd y brawddegau a’r meddyliau hyn.

Y Trysor: yr awduron clasurol ... Y ‘llyfrau atodol’yw’r rhai

sy’n caniatáu i ni ddefnyddio’n gynt ac yn fwy effeithiol y llyfrau

didachtaidd eu hunain, megis geirfaoedd a geiriaduron ...’

Priodol o beth i ni bob hyn a hyn yw bwrw’n meddwl yn ôl at gewri’r

gorffennol fel hyn. Maen nhw’n ein rhyddhau ni rhag ffasiynau’r presennol ac yn dysgu

i ni ostyngeiddrwydd wrth ein hatgoffa ni am y gwreiddiau mawr sy gennym.

2. GOUIN

Enghraifft dda o ddidactegydd mawr a strwythurai sefyllfaoedd oedd François

Gouin. Fe fyddai D. O. Roberts yn fynych iawn yn ei wersi enghreifftiol yn Yr Athro yn

cynnwys yr hyn a alwai’n Drefnres Gouin, a nodaf un o’r rhain ymhellach ymlaen. Bu

gan Gouin ar un cyfnod gryn ddylanwad ledled Cymru ar yr athrawon ail­iaith hynny a

gymerai eu gwaith o ddifri; a cheir llyfrau rhagorol megis Welsh for the English,

English for the Welsh gan O. Jones Owen ac Iaith y Werin gan y ‘Rhondda Teachers’

Association’sy’n dilyn ei ddull ef.

Yn hanes y grefft o ddysgu ieithoedd, mae Gouin yn un o’r enwau mawr:

Comenius, Viëtor, ac ef yw’r tri ffigur pwysicaf yn y maes hwn cyn yr ugeinfed ganrif.

Ysgrifennodd ei lyfr nodedig L’art d’enseigner et d’étudier les langues yn 1800 a

gyfieithwyd i’r Saesneg gan Howard Swan a Victor Bétis; ac ysgubodd ei ddylanwad

44

drwy Brydain ac America. Rhoddodd hyn lawer o ruddin ac o ysbrydoliaeth yn achos y

Dull­Unionwyr, ac ni all yr athro heddiw sy’n darllen ei lyfr o’r pellter hwn lai na

chyfrannu yn yr un nwyf. Yn wir, mae’r can tudalen cyntaf o’r llyfr, sydd braidd yn

hunangofiannol ac yn adrodd am y cefndir i’w weledigaeth arbennig, yn darllen fel

nofel realistig; ac er mor anodd yw dod o hyd i’r gyfrol hon bellach, hoffwn gynghori

pob athro iaith difrif i fanteisio ar ein gwasanaeth llyfrgell i’w benthyca er mwyn

ymgydnabod â’r adran gyfareddol honno.

Ni fyddwn innau am bleidio’i ddull fel dull cyflawn. Ni sylwaf arno yma ond am

ddau reswm: yn gyntaf, er mwyn codi, wrth ei feirniadu, rai egwyddorion cyffredinol

yn nhechneg dysgu iaith sy’n briodol i ni feddwl amdanynt yn barhaus; ac yn ail, am fy

mod yn credu fod yna ymarferiad ganddo sy’n werthfawr o hyd ac yn ychwanegiad

buddiol ac amrywiol at adnoddau’r athro ail­iaith cyfoes. Ymarferiad yw a ddengys un

ffordd o strwythuro ffwythiannau. Cyntefig yw, wrth gwrs; fel y mae fy nghwrs

strwythurol Cymraeg i Oedolion I a II o’r chwedegau yn gyntefig, wrth reswm erbyn

hyn. Ond deil ei syniadaeth a’i egwyddorion yn brociol ffrwythlon o hyd.

Beth oedd arbenigrwydd Gouin a’i ddull felly? Yn ei gyfnod, yr hyn a drawai

bobl, yn ddiau, oedd y gweithgareddau bywiog a’r dramateiddio ymarferol a gysylltai

ef â’i waith yn y dosbarth. Ceisiai ystyried anghenion seicolegol y plentyn, a throi

cynnwys y gwaith o gwmpas canolbwyntiau diddordeb ym meddwl y plentyn. Dibynnai

ar waith llafar. Hynny yw, ceir llawer o’r materion sydd wedi ennill llawer o sylw

athrawon yn ddiweddar (ac nid gormod o’u sylw, yn ddiau) eisoes ganddo ef.

Ond y mae un pwynt na chlywir llawer amdano, a hyn a gyfrifai Gouin yn

allweddol yn ei ddull — sef y Drefnres (Seriensystem yn Almaeneg). Lle y byddai’r

dull union yn aml ers talwm — a’r dull anunion yn waeth fyth — yn crwydro o

frawddeg i frawddeg ddigyswllt yn blith draphlith, mynnai Gouin grynhoi’r sylw ar un

thema ganolog, un syniad neu olygfa, a datblygu brawddegau am hynny yn gyfres

naturiol drefnus, gan bwysleisio’r ferf ym mhob un. Hynny yw, yn ogystal â cheisio

cadw’r diddordeb yn fyw (a esgeulusir, gan Filitarwyr pur) a chyflwyno’n gofiadwy, fe

geisiodd Gouin wneud y peth hwnnw a esgeulusir mor barod fel arfer gan yr

Hwiangerddwyr anarchaidd: fe fynnodd drefnusrwydd.

Gadewch i mi, felly, lithro’n ôl i’r cynoesoedd i ddyfynnu trefnres olynol o

gyfansoddiad D. O. Roberts o wers yn yr Athro 1929 ar ddarlun ‘Yr Angelus’, Millet:

‘Trefnres Gouin (Gouin Series). Bydd yr athro’n actio pob berf yn y drefnres

hon:

Y mae’r haul yn machlud yn y Gorllewin.

Y mae cloch yr eglwys yn canu ‘Yr Angelus’.

Y mae’r gwr yn dodi’r fforch yn y ddaear.

Y mae’r gwr yn tynnu’i het.

Y mae’r gwr yn plygu’i ben.

Y mae’r gwr yn gweddïo.

Y mae’r wraig yn dodi’r fasged ar y ddaear.

Y mae’r wraig yn plygu’i phen.

Y mae’r wraig yn gweddïo.

Y mae’r gwr a’r wraig yn plygu’u pennau.

Y mae’r gwr a’r wraig yn gweddïo.

Y mae’r gwr a’r wraig yn diolch i Dduw am y cynhaeaf.

Wrth gwrs, ’wna hyn ddim o’r tro bellach, ddim yn union fel yna. Ond ceir

disgrifiad o’r modd y cyflwynir gwers nodweddiadol gan C. H. Handschin:

45

The teacher announces the theme of the series, laying stress on

the verb and conveying the meaning of the words by gesture, pointing

to an object, performing the action in pantomime, or drawing a hasty

sketch on the blackboard. If there is a word which the class cannot

understand by any of these means, he says, ça veut dire en anglais

(ystyr hynny yn Saesneg yw) and gives the English word. The teacher

watches closely to see that all have understood. Now the class repeats

the sentence as a class and, as far as necessary, individually, and so on

through the series, punctuated by several reviews by the whole class of

what has proceeded, and of the whole after it has been finished.

The homework consists in writing the series in a notebook with

mutations of number, person, tense, etc., and of speaking the whole

aloud from memory until it has been memorized. The next day’s

recitation consists of running off the series orally, each student giving a

sentence, or one student gives more, or all, of the sentence. Blackboard

work consists of writing the mutations, previously written out as

homework.

Yn fy marn i, y neges bwysig a gafwyd allan o drefnres Gouin yw y byddai

modd trefnu ‘rhes’ o ffwythiannau olynol o fewn sefyllfa mewn modd cydlynol

tyfiannol, ac felly hefyd y gellir dosbarthu meysydd semantaidd perthynol mewn geirfa.

Nid wyf am oedi gydag anfanteision y dull gan fod beirniadaethau deallus yn

weddol hysbys, ac nid wyf am drafod y rhagoriaethau ychwaith. Yr hyn yr hoffwn ei

wneud yw cyfeirio at ddau faes lle y gall y dull hwn fod yn ddefnyddiol o hyd.

A. Wrth ddefnyddio’r ail iaith fel cyfrwng.

Fe awgrymodd Gouin ei hun (fel H. G. Widdowson yn y 1970au) fod y dull yn

rhagorol ar gyfer astudio pynciau eraill drwy gyfrwng yr ail iaith. Cyfres o

ddigwyddiadau neu o storïau tebyg i’r drefnres yw Hanes yn ei hanfod gan ei fod yn

ymwneud ag achos ac effaith yn fframwaith amser; a hawdd yw datblygu golygfa

hanesyddol mewn dosbarth yn drefnus gofiadwy ym meddyliau’r plant. Gyda bioleg

eto (e.e. tyfiant graddol derwen o’r fesen), mae’r datblygiad amrywiol ond trefnus,

sy’n gynhenid arferol yn y pwnc, yn ymffurfio’n hwylus yn ôl patrwm y drefnres.

Heblaw awgrymiadau yn y meysydd hyn, mae Gouin yn dangos y gellir dysgu pynciau

eraill megis daearyddiaeth a ffiseg yn ôl patrwm y drefnres. Dangosodd D. O. Roberts

yntau yn y Gymraeg sut y gellir cymhwyso dull y drefnres at wers am gwrs afon

(tarddu, llifo, rhedeg, ymuno, ymarllwys) ac enwau lleoedd ynghyd ag arddodiad —

yn, i, heibio, o, trwy; a chysylltair. Ac mae Gwyn Daniel a Moelwyn Preece ers tro

wedi darparu gwersi diddorol yn yr un olyniaeth mewn llyfr ac yn Yr Athro.

Gwerth y drefnres yn yr achosion hyn yw bod yr athro’n cydio yn y syniad

rhesymegol am drefn sefyllfa (sy eisoes yn bod ym meddwl plentyn), ac yn adeiladu

brawddegau gweddol unffurf (h.y. drilio’n anymwybodol) ar sail yr arwyddocâd

diriaethol hwn.

B. Wrth feimio a dramateiddio.

Cymerer er enghraifft ein hen ffefryn ‘Branwen’. Fe ellir dechrau trafod y

chwedl mewn modd syml, a chymhlethu wrth symud ymlaen:

a. Athro’n adrodd yr hanes yn yr amser gorffennol, gan actio’n gynnil:

Fe gerddodd Matholwch a’i ddynion i’r llong.

Fe gychwynnodd llong Matholwch o Iwerddon.

Fe gyrhaeddodd e lannau Cymru, ayyb

b. Athro’n adrodd yr hanes a’r plant yn meimio’r berfau.

46

c. Athro’n adrodd yr hanes, plant yn adleisio (neu’n lled­adleisio’i frawddegau drwy eu

troi i’r presennol), ac yn meimio’r un pryd:

Mae Matholwch a’i ddynion yn cerdded i’r llong.

Mae llong Matholwch yn cychwyn o Iwerddon, ayyb

ch. Un o’r plant yn gweithredu fel storïwr yn lle’r athro, a’r plant yn ymateb yr un fath

o hyd.

d. Er mwyn torri ar draws undonedd y drefnres gellir cael ambell frawddeg unigol a

chynnil o fonolog neu ddialog.

e.e. ar ôl: ‘Mae Matholwch yn ymofyn priodi Branwen.

Mae e’n gofyn i Frân:’

ychwaneger: ‘Dw i am briodi Branwen, O Fendigeidfran, brenin Prydain’. A hefyd

dyfynner pennill o ‘Ddrudwy Branwen’, R. W. Parry.

Un sialens fawr yn ein dyddiau ni ym myd dysgu iaith yw priodi’r Militarwyr

a’r Hwiangerddwyr, y naill fel y llall yn meddwl mai ganddynt hwy’n unig mae’r

gwirionedd i gyd. Bai’r Hwiangerddwyr (heblaw’r ffaith eu bod yn tybied fod pob

plentyn yn aros rhwng 5 ac 8 oed am byth, yn Peter Paniaid tragwyddol) oedd eu bod

yn anwybyddu’n ddogmatig iawn drefnusrwydd geirfa, cystrawen, a sefyllfa ac felly’n

beichio meddyliau’r plant fel siop pob peth â llawer o greiriau diangen a heb y drefn

honno a fyddai’n adeiladu’n gydweithredol gofiadwy pe na bai ond yn rhesymegol.

Bai’r Militarwyr oedd eu bod yn unffurf ac yn lladd afiaith: digon o fai i neb. Nid yw

Gouin yn goresgyn yr anawsterau hyn; ond fe fyddai myfyrio uwchben ei syniadau a’i

sythwelediad ef, mi dybiaf i, yn help i ni ddyfnhau’n dealltwriaeth heddiw o’r grefft

hyfryd hon — dysgu ail iaith.

Tad strwythureg ieithyddol yn yr ugeinfed ganrif oedd Saussure. Ef hefyd, yn

rhyfedd iawn, oedd prif ysgogydd y dysgu sefyllfaol yn ail draean yr ugeinfed ganrif.

(Cours ...1915, 99). Yn y pumdegau wedyn y datblygodd dysgu sefyllfaol yn École

Normale de St­Cloud, ac fe ddadleuent yno dros y cysylltiad agos rhwng sefyllfa a

strwythurau (e.e. P. Guberino, ‘La méthode audiovisuelle structure­globale’, Revue de

Langues Vivantes, 29, 1963). Y symudiad hwn i gysylltu’r ddwy wedd yw prif thema’r

gyfrol hon, ond ei bod hefyd yn myfyrio am natur y cyswllt. Meddai Guberino,

‘Ystyriwn fod y term ‘cyflawn a strwythurol’yn diffinio theori dysgu iaith estron a

seilir ar y cyswllt rhwng ‘sefyllfa­cyd­destun — grp darluniol’, o ‘eiriau­ystyr­sn’,

a drefnir ac sy’n gweithredu mewn modd mewnol strwythurol’. Meddai Kelly, ‘Groups

of researchers [yn America ac yn École Normale de St­Cloud] found that certain

situations lent themselves to teaching specific structures: buying and selling, for

instance, taught dative constructions’.

Dyna dueddfryd iach a hollol bendant tuag at Ddull Cyfansawdd catholig. Dyna

ogwydd cytbwys tuag at gyfredeg Tafod a Mynegiant. Pan fethid yn hyn o beth yng

Nghymru wrth gofleidio’n amddifad y ‘nodau cyfathrebu’bondigrybwyll, y pryd hynny

y negyddiaeth a oedd ar fai, nid y brwdfrydedd o blaid syniadau eraill. A’r ennill

hwnnw sy’n colli oedd yr hyn a feirniadwn innau.

Gyda llaw, wrth hawlio rhagoriaeth datblygiad ieithyddiaeth yn yr ugeinfed

ganrif, dylid cydnabod ei chyfraniad ym myd trefn yn bennaf. Yr hyn a welaf yn

ddiffygiol yn natblygiad seicoleg yr ugeinfed ganrif, er gwaetha’r sylw a gafodd

strwythurau yn yr wyddor honno, oedd y diffyg sylw i drefn olynol isymwybodol.

Esgeuluswyd yn arbennig yr ysfa isymwybodol am wahuniaeth: canfod gwahaniaethau

ynghyd â chanfod undodau. Dyma wreiddyn cof a rhesymu a phob dysgu strwythurol.

47

Dyna natur pob deall. Ac mae’n un o gymhellion isymwybodol mwyaf datblygu dysgu

iaith.

Mewn llyfr gan un o’n tiwtoriaid mwyaf brwd a mwyaf esgeulus o arwyddocâd

strwythur, dywedir am y ‘cyrsiau cyfathrebol’wrth eu cymeradwyo eu bod ‘yn

cyflwyno iaith fel cyfrwng ar gyfer cyfathrebu nid fel cyfres o strwythurau’. Ac yn y

gair bach ‘nid’yna y ceir y gwendid Cymreig yn y cyfnod diweddar. Hyn sy’n dadlennu

gwreiddyn y gamddealltwriaeth, a’r methiant a gydnebydd ymchwilwyr bellach. Mae’n

wir bod pob Mynegiant yn digwydd o fewn sefyllfa ac yn cyflawni ffwythiannau. Ond

nid yw’n llai gwir bod yna strwythurau cyfundrefnus y tu ôl i iaith ym mhob man, hyd

yn oed ar y cyfryngau. Ac i’r rheini mae yna ddwy lefel anochel. Amodir Mynegiant

bob amser gan Dafod, heblaw gan amgylchiadau. Y patrymau gan iaith sy’n

rhagflaenu’r sefyllfaoedd, a dyna’r bwlch sylfaenol a bythol Gymraeg a gafwyd o

saithdegau’r ugeinfed ganrif ymlaen.

Mewn cyrsiau cyfathrebol ar y cyfryngau, dro ar ôl tro, gwelir diffyg

dealltwriaeth enbyd o natur gyflawn iaith. Camgymeriad yw synied bod pleidwyr y

‘Dull Strwythurol’yn tybied nad yw iaith ‘yn ddim ond cyfres o arferion neu

ymatebion wedi’u cadarnhau dros gyfnod’. Ym mryd ieithydd, sut bynnag, mwy o

lawer yw strwythur nag arferiad noeth. Yn gyntaf ac yn bennaf, yn ôl Seico­Fecaneg,

sythwelediad yw o ffaith yngln â’r ymwybod o fodolaeth a ffurf. Dadansoddiad yw o

brofiadau ailadroddol a chyferbyniol sylfaenol, ac ar lefel Mynegiant cyflawnir

strwythur Tafod yn ôl patrwm arbennig sy’n wrthrychol ac yn oddrychol. Seilir iaith yn

gyntaf mewn Tafod ar sythwelediadau isymwybodol gwahunol (h.y. gwahanol + unol):

ar ganfod cyferbyniad ac ar ganfod tebygrwydd o fewn un wedd ar fywyd.

Sythwelediadau cynieithyddol yw’r rhain — maes y cyferbyniad elfennaidd rhwng

presennol ac absennol, bach a mwy, cynhaliwr a dibynnwr, un a llawer, ac yn y blaen.

Dadansoddiad deallol Seico­fecanaidd yw. Ac eto, ni byddai neb call yn gwadu nad oes

yna arferion nac ymatebion ar gael ar y lefel fwyaf arwynebol hefyd, wrth gwrs.

Cyfansoddiad isymwybodol yw iaith sy’n dod yn ymwybodol. Ond nid dyna’r unig

gyfrinach sydd mewn Tafod.

Ceir cyfundrefnau mewn Tafod a chyfundrefnau mewn Mynegiant felly.

Yn yr ugeinfed ganrif cawsom un o’r cyfryngau mwyaf pwerus erioed a allai

gael ei ddefnyddio ar gyfer dysgu iaith pe bai’r defnyddiau’n effeithiol: y rhaglen

deledu a’r fideo. Cafwyd hefyd adnoddau ariannol mwy nag erioed. Ond daeth hyn i’r

fei mewn cyfnod gwan yn y sythwelediad o natur dysgu ail iaith. Roeddem ni’n ôl

(erbyn y saithdegau a’r wythdegau) yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda rhes o

sefyllfaoedd crwydr: y ‘phrase­book’ bondigrybwyll, y rhes ffwythiannau sy’n

bwhwman yn ôl ac ymlaen rhwng cystrawennau cymysglyd anarchaidd, a chan honni

mai dyna’r ffordd naturiolaidd o ddysgu.

Byddai rhestru’r holl gyfeiliorni hwn yn y chwarter canrif ddiwethaf yn

arddangos amaturiaeth alaethus y cyfnod yng Nghymru. Rhaid ymatal rhag ymollwng i

gondemniad. Nid oes angen ond troi at un o’r cyrsiau diweddar ar y cyfryngau.

Does neb hyddysg yn mynd i ddysgu iaith drwy gymryd fel cam cyntaf, fel y

gwnâi un cwrs ‘sefyllfaol’cyfryngol diweddar: ‘Shwd ych chi? Peidiwch â sôn. Dyna

drueni. Ydych chi’n siarad Saesneg? Ble mae’r ysbyty? Byddwch yn ofalus os gwelwch

yn dda (a plîs). Cadwch oddi ar y glaswellt’.

Ac yna, yn ail gam: ‘Mae hi’n saith o’r gloch. Blwyddyn Newydd Dda! (gyda

llaw, pa mor aml y bydd eisiau hyn?) Rydw i’n dod o’r Alban. Esgusodwch fi. Dyna

drueni(eto). Gyda llaw. Ewch i nôl ambiwlans. Mae annwyd arna i. (Pa mor aml y

bydd eisiau hyn?) Mae damwain wedi bod’.

48

Yn strwythurol yr ydym yn rhedeg mewn cylchoedd seithug gyda chyrsiau fel

yna. Nid ydym wedi symud modfedd oddi ar Cymhorth i Gymro, J. R. Kilsby Jones,

1864. Lluchiodd y Cymry yr holl gamre breision a wnaethpwyd gan yr ugeinfed ganrif

allan drwy’r ffenestr wrth gefnu ar strwythuraeth er mwyn ffwythiant. Pe bai baban yn

gorfod dilyn llwybr igam­ogam fel yna, yn lle trefn olynol adeileddol o ddysgu’r iaith,

ni byddai’n ei siarad hi nes cyrraedd canol oed mae’n sir. Ac eto, o’r braidd fod yna

ddim oll a allai fod yn gaffaeliad godidog i adfer yr iaith na fideo gwir broffesiynol,

sydd wedi’i strwythuro’n ofalus a’i drefnu yn ôl sefyllfaoedd hwylus — fideo lliwgar

tyfiannol sy’n ymarfer ac yn meddwl busnes, ac nad yw yno i’n diddanu’n bennaf.

Soniais o’r blaen fod math o chwyldro Copernicaidd ar ffurf ddeublyg gydlynol

wedi digwydd tua’r 50au yn yr ugeinfed ganrif. Gwerthfawrogwyd y traddodiad

ieithyddol ynghyd â’r traddodiad seicolegol gan bobl fel W.F. Mackey: y ddwy ochr.

Credaf fod y dadansoddiad ieithyddol soffistigedig a meddylgar yr esgorwyd arno gan

Saussure yn gynnar yn y ganrif, ac yr helaethwyd arno mewn rhai cyfeiriadau gan

Harold Palmer (Ergonics), ac wedyn gan Chomsky ac eraill yn y 50au, wedi bod yn un

ffactor sylweddol yn y chwyldro. Datblygwyd y traddodiad ieithyddol yn fwy miniog

fel y gallai’r graddio a’r cyflwyniad disgybledig fod yn fwy effeithiol. Wedyn ar lefel

lawer mwy elfennol yr un pryd roedd y traddodiad seicolegol, sefyllfaol, mwy

anffurfiol wrth ddysgu iaith wedi derbyn sawl hwb, a dod i fath o gwlwm yn ysgol St­

Cloud yn Ffrainc. Drwy’r arbrofi yn y fan yna cafwyd mwy o drefn ar theori dysgu.

Yng Nghymru hefyd, cafwyd hwb gwreiddiol iawn, o du addysg Gymraeg ei chyfrwng,

gan bobl fel Gwyn Daniel a Moelwyn Preece wrth geisio uno’r mudiad ail iaith â’r

mudiad iaith gyntaf. Asiwyd hefyd y ddau draddodiad didactegol: yr ieithyddol a’r

seicolegol, y ffurfiol a’r anffurfiol. Ymwaredwyd â’r naïfder arferol o bendilio yn ôl ac

ymlaen ac o daflu un allan er mwyn gorseddu’r llall. Sylweddolwyd o’r newydd fod

gwreiddiau’r naill ddull yn y llall, yn ôl fel y cafwyd rhyw achlust yn y Cyfnod Clasurol

gynt, wedyn yn yr Oesoedd Canol, y Dadeni, ac yna yn y Ddeunawfed Ganrif. Dyna

oedd carthu’r naïfder dychwelgar, gellid synied. Ond yr oedd sylwi ar ymwared â

naïfder y dysgu unochrog yn golygu llawer mwy nag uno’r ddau draddodiad mawr

hyn. Yr oedd deall pam y datblygasant o gwbl fel hyn, beth oedd natur eu perthynas,

sut yr oedd y naill draddodiad yn gorfod arwain at y llall, roedd deall natur ddeublyg a

deinamig iaith nes bod y ddwy ochr yn gwbl angenrheidiol i’w gilydd yn ddadleniad

seiliol i unrhyw ddatblygiad aeddfed a chyrhaeddbell. Heb amgyffred y ddeuoliaeth,

ceid dadleuon ffôl, ac eid ymlaen yn ddiddeall i wamalu. Fel y caed dau gyflwr

trawiadol wahanol mewn iaith, roedd angen dull deublyg unol i ateb yr her.

Ond araf fuom ni yng Nghymru i sylweddoli hyn: yn beryglus o araf.

Wrth geisio pleidio deuoliaeth, a thynnu sylw at Dafod ynghyd â Mynegiant,

mae arnaf ofn fod yna un gamddealltwriaeth go gyson yn aros. Wrth geisio bod yn

gynhwysol ac yn gwmpasfawr nid agor y llifddorau yr ydys i resi di­siâp o ddulliau ac

ymarferion amryfal bendramwnwgl. Nid pentyrru gwahanol weithgareddau ieithyddol

yw’r nod. Nid rhestru’r naill ochr gyda’r llall. Dwyochrog mewn undod yw’r dasg yn

adeileddol ar ei hyd. Mae yna siâp iddi, hynny yw o ran perthynas a dealltwriaeth. Mae

angen amgyffred yr angen i sefydlu ac ymarfer â strwythurau yn gysylltiol, y rhai sydd

mewn Tafod a’r rhai eraill a gyflyrir ganddynt mewn Mynegiant; ond mae angen

meithrin Mynegiant wrth gwrs o fewn sefyllfaoedd ymarferol sydd wedi’u strwythuro

hwythau cyn belled ag sy’n bosibl. Yn y wedd gyntaf, Tafod, datblygir cystrawen. Yn

yr ail wedd, Mynegiant, y datblygir geirfa. I’r paratöwr cwrs ac i’r athro, dylid bob

amser fod yn ymwybodol o’r cyfuniad cydgysylltiol, heb wneud môr a mynydd o’r

gwahaniaeth. Ac wrth i’r gyfrol hon ddirwyn yn ei blaen, gobeithir arddangos yn

49

ymarferol mai dyma un o’r cyrchddulliau sylfaenol anochel o nesáu at y ddeuoliaeth

unol hon sy’n rhan o natur iaith.

(iii) Hanner Canrif o Dwf a Chwymp mewn Dysgu Iaith

Mae’n anochel dechrau arolygu hynt dysgu’r iaith Gymraeg (fel ail iaith) yn ail

hanner yr ugeinfed ganrif gyda chyfrol Ferdinand de Saussure ym 1916, sef Cours de

linguistique générale. Yn y gyfrol honno y fforiad a’r darganfyddiad pwysicaf oedd yr

archwiliad o natur ddeuol iaith ei hun, fel y cyfryw. Dangosai Saussure fod yna ddau

gyflwr go wahanol i’w gilydd, ond yn gydlynol, ac yn gorfod cydfodoli. Ac yr ym

wedi’u gwyntyllu’n weddol drwyadl bellach.

Mae’r Tafod yn hollol angenrheidiol er mwyn adeiladu’r ail, a’i wneud yn

ddealladwy. Ond y mae’r ail yn angenrheidiol er mwyn corffori’r iaith a’i defnyddio’n

ymarferol. Derbynnid hyn yn wirionedd amlwg am hanner canrif o leiaf. Helaethid ein

dealltwriaeth yn ddyfnach o natur y broses gan lawer o ieithyddwyr ar ôl Saussure,

megis yn neilltuol Gustave Guillaume.

Roedd Guillaume yn feddyliwr anghyffredin ac astrus. Efô a aeth ati i olrhain

egwyddorion isymwybodol adeiladu cyfundrefnau’r iaith, ac i arddangos sut a pham y

mae’r cwbl yn gydlyniad. Olrheiniodd ef y weithred ieithyddol dros gyfres o

symudiadau Seico­fecanaidd. Dechreuai gyda’i gyfrolau Le Problème de l’Article

(1919) a Temps et verbe (1929). Dilynwyd y rhain gan gyfrol arall a chan gasgliad o’i

erthyglau ym 1964, ac o hynny ymlaen (wedi’i farwolaeth) gan lif aruthrol o gyfrolau

o’i ddarlithiau. Yn y rhain dadlennid gan bwyll natur y cyfundrefnu ieithyddol o fewn

Tafod, a sut yr ymffurfient. Gan ddechrau â ‘disgrifiad’o’r dystiolaeth glywadwy, sef

yr wyddor ‘i­lawr­y­llif’ (sylwadaeth allanol), symudai at y theori (y canfyddiad

mewnol), sef yr wyddor ‘i­fyny’r­llif’.

Math o estyniad o’r ddeuoliaeth hanfodol hon rhwng Tafod a Mynegiant, o

leiaf ar gefndir Saussuraidd, fu gwaith Noam Chomsky — i raddau helaeth.

‘Competence’ac ‘Expression’oedd y termau a ddefnyddiai ef ar gyfer y ddeuoliaeth

seiliol. Ond ni lwyddai Chomsky i ddidoli natur isymwybodol gwraidd y cyfundrefnau,

na’r hyn a’u rhagflaenai yn ôl amodau cynieithyddol. Lluniwyd ei waith, a oedd yn

llawer mwy elfennol na gwaith Guillaume, yn Saesneg, ac am y rheswm hwnnw, gan

ddechrau gyda Syntactic Structures (1959), cafodd ef ddylanwad helaeth Americanaidd

ymhlith cyhoedd mwy poblogaidd tan ddiwedd y mileniwm.

Ond erbyn hynny digwyddodd cyfwng go ddifrifol. Dryswyd y ddealltwriaeth o

natur iaith gan bobl fel B. F. Skinner a honnai mai arferiadau ymddygiadol cyflyredig ar

yr wyneb oedd iaith. Dadleuai Chomsky yn ôl: ‘language is not a habit structure, but ...

it has a kind of creative property and is based on abstract formal principles and

operations of a complex kind’. Ni wyddai Chomsky, fe ymddengys, am waith

Guillaume, gwr a oedd eisoes wedi esbonio’n ddiriaethol benodol beth oedd yr

egwyddorion isymwybodol cynieithyddol a’r gweithredoedd esgorol hynny y traethai

Chomsky mor niwlog amdanynt. Ond yn sicr, roedd ef yn ymwybod â phwysigrwydd

Tafod. Ac felly, drwy’r canrifoedd, eisoes tyfasai’r sylweddoliad o’r ffenomen hon a’i

galw’n Ramadeg neu’n Strwythureg. Ni ellid gwadu’r peirianwaith cyfyngedig bychan

hwn a gynhyrchai’r Mynegiant ‘diderfyn’o amrywiol.

Yn y 50au a’r 60au, ym maes dysgu iaith, mewn cyfnod tra datblygol, roedd

strwythureg yn prysur symud tuag at asiad â dysgu sefyllfaol: Tafod ynghyd â

Mynegiant.

Yn sydyn, sut bynnag, cafwyd pwysau aruthrol ac ôl­fodernaidd i ollwng yr

undod datblygedig yn y cyfuniad hwn, sef Tafod, ac i ymgyfyngu i Fynegiant a’i

amrywiaeth chwâl yn unig. Lluniwyd cyrsiau a wibiai o un ffwythiant i’r llall heb

50

unrhyw fath o adeiladu strwythurol yn y meddwl. A phriodol oedi i ystyried yn

systematig adeiladwaith dilys ymffurfiad iaith. Gadewch inni nodi olyniaeth yn ôl

camre’r broses ieithyddol ddiriaethol:

1 Cyn­dafod 2 Tafod 3 Mynegiant 4 Iaithgymdeithaseg

Systemau

meddyliol

o gyferbynnu

(gwahuno)

cynieithyddol a

amodai’r

systemau

ieithyddol mewn

Tafod, e.e. tri

dimensiwn

gofod

yn amodi

cyfundrefn y

rhagenw, ayyb.

Systemau meddyliol

(sy’n wahanol i

raddau yn eu

cyfanwaith

mewn ieithoedd

gwahanol) a ffurfiai

achosion ieithyddol

i’r effeithiau mewn

Mynegiant

Systemau meddyliol mwy

achlysurol a

llai isymwybodol,

llefaredd ystwyth

unigol a amodir

gan 1 a 2.

Cyfathrebu cyffredinol

amlochrog

Rhestri

ffwythiannol

tybiannol,

sefyllfaol,

gan gynnwys

cyweiriau, a

amrywiai yn ôl

y diwylliant.

Hefyd,

arddulleg

arwyneb.

Guillaume

Saussure

Guillaume

Chomsky

Guillaume

Chomsky

Hymes

Gumperz

Halliday

Wilkins

Widdowson

Cwcw ar y dechrau oedd 4, sut bynnag, a cheisiai wthio’r wyau eraill o’r nyth.

Hynny yw, dechreuai’r cyfathrebwyr yn awr ennill monopoli. Diwedd y broses yn unig

a ganfyddent. Perswadiasant uchel awdurdodau addysg y cyfryngau, a llunwyr cyrsiau.

Anwybyddwyd 1, 2, ac i raddau 3. Ac o dan ddylanwad ‘asesu’yr awyrgylch

Thatsieriaidd rhaid oedd sefydlu ‘Nodau Cyfathrebu’, a gwneid hynny drwy

ddatblygu’r lefel fwyaf arwynebol mewn iaith. Ffwythiannau a Sefyllfaoedd amddifad i

raddau helaeth oedd mewn grym. Gweddnewidiwyd arholiadau o’r herwydd i gynnwys

y duedd ‘newydd’yma. Unffurfiwyd dysgu gan bwyll i blant ledled Cymru.

Rhaid imi bwysleisio mai’r negyddu hwn yw’r ffactor arwyddocaol yn y

dryswch a gafwyd. Ar hyd y canrifoedd, fel y cawn weld eto, rhoddid sylw yn fynych,

yn gyfun weithiau, weithiau eraill ar wahân, i ‘strwythur ynghyd â sefyllfa’. Yn y

chwedegau ceisid gan strwythurwyr, unwaith eto, am yr n­fed tro, gracio’r broblem

fythol honno o gyfuno gramadeg ynghyd â sefyllfa, strwythur ac ymarfer, dysgu a

siarad, deall a pherfformio. Ar y pryd, yr oedd yna ddatblygiadau glew yng Nghymru

nad oeddent yn dynwared ffasiynau yn Lloegr. Fesul cam, yr oedd yna symud hydeiml

ac ymarferol a gwreiddiol, ie y tu mewn i Gymru, i asio’r ddeuoliaeth hon yn undod

drwy ffyrdd a amlinellaf yn y gyfrol hon. Peth anodd yw hyn yn y broses ail­iaith, sy’n

wahanol i’r iaith gyntaf mewn rhai ffyrdd. Caed hefyd yng Nghymru sefyllfa ddiddorol

— cydbresenoldeb addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny i ddysgwyr ochr yn ochr

ag addysg fwy confensiynol i ddysgwyr eraill mewn cyd­destun uniaith: llwyddodd y

naill bellach i ddylanwadu ar y llall, fel y cawn weld. Caed hefyd arbrofi cynyddol a

51

llwyddiant yn yr ymdrech gynyddol i sefydlu model o Gymraeg llafar safonol fel y

bodolai hwnnw yn realistig ledled Cymru. Caed dril dwyieithog tan ymarfer â

phatrymau a ragorai ar y dulliau mewn gwledydd eraill fel Lloegr wrth gyfleu ystyr.

Caed wrth gwrs raddio geirfa a phatrymau fel mewn gwledydd eraill. Caed cryn

ymdrech hefyd i glymu hyn oll wrth sefyllfaoedd. Roedd yr amser yn aeddfed bellach i

ddatblygiad cyfansawdd.

Ac yna ar ôl cyfraniad Dan L. James cafwyd negyddiaeth. Negyddiaeth rymus,

braidd yn unbenaethol. Ceisiwyd sefydlu cyrsiau a oedd yn hapus anwybyddol o

strwythurau iaith. Ceisiwyd ‘adweithio’yn erbyn pob ystyriaeth o ‘ramadeg’ymarferol

organaidd ac o drefn. Dyma gefnu ar enillion y gorffennol. A bodlonid ar siawns mewn

graddio. Cyrhaeddwyd Ôl­foderniaeth ym myd ail­iaith.

Ni chofiwyd bod yn yr iaith ei hun drefn anweledig feddyliol, er bod yr

amrywiaeth gweledig diderfyn yn y golwg. Yn yr achos hwn, ‘Tafod’yw’r drefn.

Amharod fu’r syniadaeth feddyliol bositifaidd i dderbyn yr anweledig. Ond weithiau, y

mae’r ateb i broblem ieithyddol yn gallu bod yn sicrach nag yr hoffa Ôl­foderniaeth.

Mae’r meddwl ôl­fodernaidd yn pleidio chwalfa’r ansicr, gan goleddu amheuaeth fel

dogma. Lluosedd a relatifiaeth yw’r anhrefn nas amodir gan Dafod. Credir mewn

eclectigrwydd, sawl llwybr i fyny’r mynydd. Tipyn bach o’r dull hwn, tipyn bach o’r

llall, medden nhw. Ond ym myd iaith, gerbron Tafod, ‘rhaid’yn sylfaenol yw’r hyn

sy’n ein hwynebu. Mae yna gynllun yn gynhenid eisoes gan iaith. O anwybyddu hynny,

collir yr allwedd iddi.

Gwelodd addysgwyr cyn bo hir, sut bynnag, fod y llwybr anghywir wedi’i

gymryd. Ond ni wyddent sut yr oedd dianc. Nid oeddent am fynd yn ôl at y dull union

nac at y gramadeg/cyfieithu ffurfiol a fodolai cyn yr Ail Ryfel Byd. Wrth ddysgu’n

ramadegol yn y dyddiau gynt, câi gramadeg pur ormod o sylw ar draul ymarfer

cymwysedig ohono. Dysgodd profiad iddynt nad oedd y dull ffwythiannol, amddifad yn

strwythurol, yn gweithio, er na allent esbonio pam.

Gwelsom feirniadaeth lem mewn gwledydd eraill yn dechrau codi yn erbyn y

duedd strwythurol­amddifad. Wele awgrym cynnil er enghraifft o dwf yr edifeirwch

hwnnw ynghylch mopio’r pen ar ddysgu ffwythiannol, mewn erthygl ar ‘Developing

learning strategies’gan Michael Grenfell yn 2000: ‘The first CLT (Communicative

Language Teaching) modern foreign languages course books almost eschewed

grammar altogether. The emphasis was on skills, notions and functions ... Then

gradually, grammar returned, with the promise of an integrated approach, which

became ever more explicit rule­teaching’. Erbyn fersiwn 1999 o’r Cwricwlwm

Cenedlaethol, roedd gramadeg wedi codi i’r ail le yn y Rhaglen Astudiaeth: ‘pupils

should be taught ... the grammar of the target language and how to apply it’. Gwae ni!

Mae Barry Jones yn ei erthygl ‘Thirty Years of Change’yn Teaching Modern

Foreign Languages in Secondary Schools’(gol. Ann Swarbrick, 2000) yn trafod

sigladau’r pendil diweddar, ‘These have moved from a grammar­translation method to

a communicative approach, which, in its practice, sometimes showed a certain

reluctance to teach grammar explicitly; then, as is in evidence in the latest version of

the National Curriculum (QCA 1999), to a requirement to adopt more overt grammar

teaching whilst retaining an implied context­based syllabus organization’. Er cydnabod

gwendidau enbyd y dull ‘cyfathrebol’a’i anwybodaeth ddofn o natur iaith, fel y cawn

weld nid oedd angen mynd yn ôl dros ben patrymau gramadegol ymarferol at ramadeg

fel disgyblaeth haniaethol ynddi’i hun. Yr hyn a gollir yn yr adwaith hwn yw’r

cydlyniad unol rhwng strwythur a sefyllfa, a phwyslais ar hynny. Pan ymwrthodir â

‘dysgu amddifad’drwy sefyllfa, yr hyn sydd ei angen yw nid cyfredeg gramadeg a

52

dysgu ffwythiannol, eithr rhedeg Ymarfer â Phatrymau drwy ddysgu sefyllfaol, yn

olynol fewnol tuag at undod. Ni chafodd Lloegr — efallai’n llai na Chymru — brofiad

digonol o Ymarfer â Phatrymau o fath ystyrlon fel mewn Dril Dwyieithog, techneg

sy’n medru ymglymu mewn sefyllfa yn amgenach nag ‘overt grammar’(er y gellid

crybwyll hynny’n gynnil, os dymunir, bid sir). Cafwyd yng Nghymru, drwy’r cyfuniad

o Ddril Dwyieithog mewn lecture expliquée, heblaw clymu ymarfer â phatrymau â

darluniau, briodi dysgu ieithyddol â dysgu pynciol. Dyna amgenach dulliau o gyfleu

strwythurau gramadegol mewn ffordd ymarferol nag mewn rhai gwledydd eraill. Eto

yn sicr, erys presenoldeb ymwybodol gramadegol yn bwysig ddigon i’r cwbl ym mryd

rhywrai o hyd.

Erbyn troad y mileniwm, tyfasai llu y tu allan i Gymru a oedd yn bur amheus

o’r ymrwymiad anfeirniadol diweddar hwn mewn ffwythiannau. Yn ôl N. Pechler, ‘Reexamining

communicative language teaching’, yn K. Field (gol.), Issues in Modern

Foreign Language Teaching (2000):

‘On the one hand, this approach is characterised by a heavy emphasis

on recall of often random lexical items and phrases derived from

narrowly defined, idealised interactions and exchanges at the cost of

transfer of knowledge and skills across topics. On the other hand, it

tends to ignore the teenage learner’s communicative needs and does not

allow her to engage in meaningful and realistic interaction, both

supposedly central tenets of communicative methodology’.

Nid oedd hyd yn oed y rhestr o sefyllfaoedd, a gymeradwyid ar gyfer plant, bob

amser yn addas. Ymhellach ymlaen, dychwelaf at yr hyn y gellir ei ystyried yn

sefyllfaoedd dilys i blant wrth drafod ail­iaith fel cyfrwng. Ar hyn o bryd gwelid bod

llawer o’r sefyllfaoedd a ffwythiannau a gymeradwyid i’r plant yn ystod y broses

ddysgu yn bur annilys (gw. Alan Hornsey, Language Forum (1994). Dyma pam y

byddaf yn tynnu sylw ymhellach ymlaen at ddilysrwydd amgylchfyd y dosbarth fel cyddestun

ymarferol yn y dysgu.

Yn ôl T. Roberts, Towards a learning theory in modern language (1992), wedi

astudiaeth drwyadl o ddull y ffwythiannau, casglwyd y dylid symud yn ôl trefn dysgu

oddi wrth ‘strwythur’at ‘ffwythiant’. ‘Mae gwneud yn israddol i wybod’. Rhaid

dysgu’r ffurfiau neu’r patrymau gramadegol cyn y gellid defnyddio iaith yn ystyrlon.

Nid sôn am ddychwelyd i ramadeg­cyfieithu a gymeradwyir ond hyrwyddo’r defnydd o

iaith o fewn paramedrau strwythurol.

Erbyn diwedd y mileniwm daeth llawer ym myd ieithoedd modern yn eithriadol

o anesmwyth ynghylch y cyfeiliornad i ffwrdd oddi wrth yr hanner pwysig cyntaf o’r

broses o ddysgu iaith. Achwynai Ann Miller, ‘Communicative Grammar Teaching’(yn

llyfr Swarbrick uchod), fod y ‘dull cyfathrebu’yn tueddu i fabwysiadu rhigolau dysguar­y­cof

heb elfennau strwythurol cyffredin ystwyth, hynny yw y rhai y gellir eu

cymhwyso i lawer o amgylchiadau gwahanol. Cymeradwyai hithau hefyd gyfuno’r

feistrolaeth o ramadeg ynghyd â’r gallu i gyfathrebu: ‘There is no contradiction

between the mastery of grammar and the ability to communicate; on the contrary, these

are mentally­dependent and reinforcing skills’.

Go ddamniol oedd yr hyn a gafwyd bellach gan yr Arolygiaeth yn Lloegr wrth

archwilio canlyniadau’r hyn a ddigwyddasai yn sgil y gogwydd ‘cyfathrebol’amddifad.

Erbyn 1998, yr oedd A. Dobson yn adrodd yn Modern Foreign Language Inspected:

Reflections on Inspection Findings, nad oedd llawer o’r hyn a geid namyn ailadrodd

53

higolog wedi’i ddysgu ar y cof. Cododd pryder am na allai’r dysgwyr genhedlu iaith

yn annibynnol y tu allan i res o rwtinau gosodedig.

Ond pydrai’r Cymry yn eu blaen o hyd, yn weddol gloff, ac yn drychinebus ar y

cyfryngau.

Wyneb yn wyneb â hynny, yr oedd Ymarfer â Phatrymau (o’i gyferbynnu â

gramadeg amrwd theoretig) yn rhyddhau iaith i mewn i amrywiaeth. Yr oedd yna

ddelfryd — yn arbennig ar ffurf dril dwyieithog — i ymuno â ffwythiannau, tybiannau,

a sefyllfaoedd, gan asio’r ddeuoliaeth.

Sut yr aethpwyd i’r cyfeiriad all­strwythurol cyfeiliornus hwn? Yng Nghymru o

leiaf, cafwyd arweiniad ym myd iaith gan weinyddwyr a oedd heb astudio

ieithyddiaeth. Ni wyddent beth oedd natur ac adeiladwaith iaith. Cyfathrebu oedd

popeth iddynt. Mae’n hen hen bryd ymwared â’r dwli hwn, nid yn unig ym maes

didacteg ond mewn strategaeth hefyd. Ni wna’r tro i bledio mai ar Gyngor Ewrob y

mae’r bai, a bod llawer o bobl barchus estron wedi rhuthro fel cenfaint i lawr yr un

dibyn. Ychydig o feddwl am iaith sydd eisiau i weld cyfeiliornad hyn o wiriondeb.

Dylai Cymru allu fforddio anfon un person bob deng mlynedd, a’i gynnal yn deilwng

heb fodloni ar wario’r lleiafswm annigonol o hyd, i aros am gyfnod hir (un flwyddyn o

leiaf) i ganolfan ddidactig fyd­eang o fri. Ond dylai’r person hwnnw fod yn gwbl

hyddysg yn hanes dysgu’r Gymraeg gartref cyn mynd ar daith — gan gynnwys William

Phillips, D. O. Roberts, Tom Jones, Moelwyn Preece, Dodson, a Dan Lynn James.

Wedyn, rhaid bod yn ddeallus hunanfeirniadol o’r canlyniad: camgymeriad fyddai i’r

awdurdodau goruchel oll ymuno i roi’r holl arian yn yr un fasged eto (megis dull y

ffwythiannau) am gyfnod mor hir i ddarparu nonsens — dim llai — fel model i

ddarparu defnyddiau iaith­achubol i’n cenedl glaf. Drwy ddilyn y llwybr hwnnw

gwastraffwyd i raddau mewn rhai mannau ddeng mlynedd ar hugain o fywyd bregus

ieithyddol yn hanes Cymru ynghyd â channoedd o filoedd o bunnoedd mewn cyflogau.

Beth, felly, sydd mewn golwg i’r dyfodol? Ai mynd yn ôl dros y cyfnod tywyll

drachefn i’r 60au? I raddau, ie. Ailgydio yn y traddodiad oesol. Rhaid bod yn

ddiolchgar am lyniad rhai unigolion wrth eu gwreiddiau. Yn blwmp ac yn blaen, rhaid

cydnabod bodolaeth dwy wedd orfodol a chyd­ddibynnol ar iaith: Tafod a Mynegiant.

Mae’r ddwy bron yn gyfan gwbl wahanol, yn sicr o ran natur. Y naill yn fewnol, yn

gryno, ac yn batrymau di­eirfa megis; y llall yn allanol, yn amryfal, ac yn frawddegau

nas cynhyrchwyd o’r blaen yn yr union ffordd y’i gwneir ar yr achlysur hwn gan yr un

unigolyn arall. Y naill yn gynhyrchwr a’r llall yn gynnyrch. Ond does dim modd hepgor

yr un o’r ddwy ... Dowch yn ôl felly i’r Gymru real.

Tramwy o’r naill i’r llall yw hanfod y broses ieithyddol. Os awn yn ôl, dros y

cyfeiliornad maith ac allweddol, i’r 60au yng Nghymru — ac nid wyf yn trafod

gwledydd eraill yn awr — fe welwn fod addysgwyr y pryd hynny wedi bod yn ceisio’u

hasio ill dwy wrth ei gilydd mewn tair ffordd yn bennaf, drwy roi sylw i Sefyllfa yng

ngoleuni strwythur:

(1) Lecture Expliquée (darnau darllen sefyllfaol: dyma faes sy’n gallu llyncu

faint a fynner o ffwythiannau), sydd ynghlwm wrth Ddril Dwyieithog Strwythuredig yn

gyntaf; Holi ac Ateb wedyn yn ôl Ymarfer â Phatrymau rheolaidd; ac ymlaen felly i

Ymddiddan Rhydd.

(2) Defnyddio’r Ail Iaith fel cyfrwng dysgu pynciau ysgol, gan gyplysu Ymarfer

â Phatrymau Strwythuredig o gylch un thema bynciol ar y tro. Dyma ffwythiant

ystyrlon yng nghyd­destun ysgol.

54

(3) Ceisiwyd hefyd garfanu Ymarfer â Phatrymau amrywiol yn ôl Sefyllfaoedd

gan ddefnyddio lluniau, caneuon, a chwaraeon, ac yn ôl cylch gweithredoedd olynol

Gouin yn ogystal ag yn ôl meysydd semantaidd.

[Trafodais rai o’r rhain yn y tri phamffledyn a gyhoeddodd yr Urdd i gyd­fynd

â’u cylchgrawn; yn ogystal ag yn Cyflwyno’r Gymraeg; yn Cyfeiriadur yr Athro Iaith;

mewn cyfres yn Yr Athro ac yn Cymraeg drwy Ddamhegion.]

Ein gwaith ni yn y gyfrol hon yw ystyried y broblem hynafol hon o ddysgu iaith

o’r newydd, problem y cafwyd llawer o genedlaethau gwahanol yn ymaflyd â hi. Ond

ein gwaith a’n bwriad yw gwneud hynny ar sail astudiaeth estynedig o natur ddeuol

iaith, ac ar gydnabyddiaeth o’r ddeuoliaeth greiddiol honno, sy’n symud ymlaen o’r

hen gynhysgaeth at ffyrdd cyfoes o’i thrafod.

(iv) Sectorau Dysgu

Os nad yw’r cyrsiau wedi gwella yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf,

gwellwyd tipyn (er nad yn ddigon) ar drefniant y dosbarthiadau a’r polisi yn yr

ysgolion. Nid da lle y gellir gwell; gellir hefyd lawer gwell. Ond wrth gynllunio cyrsiau

yr angen yw gweld bod yna ffurf ar gyfer adeiladwaith i’r gyfundrefn strategol gyflawn

ym maes dysgu iaith yng Nghymru. Hynny yw, heblaw strwythuro cyrsiau (a gaiff y

prif sylw yn y gyfrol hon), mae’n briodol, hyd yn oed wrth gynllunio strategaeth

ieithyddol genedlaethol, fod yr egwyddor gyffredinol hefyd yn ymgymhwyso’n eglur ac

yn strwythurol. Hynny yw, bydd y gweithgareddau amryfal ac ystwyth a nodir yn awr,

hyd yn oed os amrywiant o gyfnod i gyfnod ac o ardal i ardal, wedi’u seilio ar

athrawiaeth fwy parhaol. Amrywia polisi manylach yn ôl adeiladwaith y sectorau.

Erys tri sector cymdeithasol arwyddocaol wahanol yn ein gwlad yn y gwaith o

ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith; ac y mae eisiau eu hystyried ar wahân, a hynny o

safbwynt gweinyddiaeth a natur unigryw eu gwaith yng Nghymru a dulliau dysgu i

raddau.

1. Dysgu’r iaith genedlaethol yn gyfryngol o’r Ysgolion Meithrin ymlaen, drwy’r

Ysgolion Cynradd ac Uwchradd Cymraeg, ac ymlaen i Golegau a’r Brifysgol: dyma’r

dysgu mwyaf llwyddiannus ym myd ail­iaith, y cyfrwng Cymraeg i bobl iaith­gyntaf ac

ail­iaith, ac eithrio o hyd yn y Brifysgol. Dyma hefyd addysg ieithyddol unionsyth yn

iaith hunaniaethol a hanesyddol y wlad.

2. Dysgu’r iaith frodorol fel iaith fodern (neu estron) o fewn y sector Saesneg yng

Nghymru. Deil hyn yn anobeithiol wan, mae’n wir, beth bynnag a dybia gwleidyddion

a’u deddfau a’u polisi, ac er gwaethaf ambell eithriad esoterig, yn bennaf oherwydd

diffyg gofynion arholi yn y maes. Ond erys yn angenrheidiol.

3. Dysgu’r iaith i Oedolion; ynghyd â’r datblygiad tra gwreiddiol a hanfodol i seicoleg

adnewyddiad mewn dysgu iaith cymunedol drwy Cyd, lle y mae’r Cymry rhugl yn

gymaint rhan o’r adenilliad â’r dysgwyr. Dyma feithrin ymwybod o symudiad

diwylliannol ledled y genedl drwy drwch lleiafrifol pwysig o’r holl gymdeithas, gyda

chyfrifoldeb ar y ddwy ochr. Ni chymerwyd y sector hwn o ddifrif eto gan y noddwyr

nac o’r herwydd gan y cyhoedd.

Ym mhob un o’r gweddau hyn ar y Mudiad adfywiol, mae yna ffactorau

gwreiddiol a digon arbennig i Gymru. Nid dynwared Lloegr yw’r ateb i bob problem

yn yr achos hwn, a gofynnir am feddwl yn ôl natur anghenion Cymreig. Ac nid pawb

sy’n barod i wynebu’r fath sialens greadigol. Carwn sylwi’n gryno ar bob un o’r tri

sector.

1. Crybwyllaf ddau fater yngln â dysgu’r iaith genedlaethol mewn ffordd ‘normal’

(hynny yw, mewn cyd­destun mor Gymraeg ag sy’n bosibl). Dau fater ydynt sy’n

ddiffygiol cyn belled ag y’i deallaf ar hyn o bryd. Mae angen sefydlu defnyddiau

55

safonol a phoblogaidd i Ysgolion Meithrin yn arbennig. Ac mae angen i’r paratowyr

cyrsiau hynny fod yn fwy ymwybodol o’r cydwead rhwng y strwythurol a’r sefyllfaol,

rhwng y gwreiddiau ffurfiol a’r ffrwythau amrywiol. Mae angen sicrhau’r sylweddoliad

fod yna drefn eisoes yn nechreuadau dysgu ail iaith (mewn cyd­destun iaith­gyntaf), a

mynnu bod y chwaraeon, y caneuon, a’r gweithgareddau holi ac ateb, ac yn y blaen

wedi’u cynllunio’n ofalus o safbwynt datblygiad strwythurol iaith. Hynny yw, mae

angen darparu adnoddau sy’n drefnus ac yn lliwgar yng ngoleuni deuoliaeth natur

ffenomen yr iaith. Wedi’r cwbl, meithrin plant yr ydys ar gyfer llawnder addysg.

Ymhellach ymlaen yn y gyfundrefn genedlaethol Gymraeg ceir un gofid mawr

arall. Ar ôl i rieni ewyllysio anfon eu plant i ysgolion Cymraeg, yn arbennig erbyn

iddynt gyrraedd blaen lencyndod plorynnog, tuedda llawer o blant iaith­gyntaf ac ailiaith

fel ei gilydd i ymddiddan â’i gilydd yn Saesneg. Ni wyddant pam. Ymddygant fel

gang. Nid addysgir hwy ynghylch eu seicoleg ieithyddol eu hunain, pam y siaradant

Saesneg â’i gilydd, pam y llecha diffyg hyder ynghylch eu hunaniaeth Gymraeg. Ni

wyddant am hanes israddoldeb yr iaith sy’n dal i fowldio’r sefyllfa gyfoes ymhlith

Cymry rhugl a Chymry di­Gymraeg. Fe’u hysgubir i Seisnigrwydd gan bwysau ariannol

y diwydiannau ffasiynol. O’r braidd eu bod yn sylweddoli’u bod wedi ildio i’r pwysau

cyfreithiol, economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol, hanesyddol. Weithiau gallant

dybied mai dim ond ildio i rymusterau ffasiynau canu’r ffordd Eingl­Americanaidd o

fyw a wnânt, ffasiynau a hyrwyddir gan bwysau masnachu enfawr o du’r amgylchfyd

economaidd. Fe’u peledir hwy gan ddelweddau a gwerthoedd lle y mae’r Gymraeg yn

absennol neu’n israddol. Ac ar hyn o bryd, wrth fynd allan o’r dosbarth, gweithred

naturiol a greddfol bron yw troi i’r Saesneg. Ni sylweddolant fod yna hen fowldio o’r

fath wedi digwydd ar seicoleg oedolion yn arbennig yn Oes Fictoria ac ynghynt i fagu

cymdeithas yn ddi­Gymraeg. Fe’u mowldir bellach heb ymwybod â’r hyn sy’n digwydd

iddynt. Osgoir dysgu Hanes statws a defnydd (mor hanfodol bwysig i’w seicoleg hwy

eu hun), sy’n dadlennu twf y cymhleth israddoldeb ynghylch yr iaith a hunaniaeth a

dyfodd o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Dyma un o ddigwyddiadau mwyaf hanes

Cymru. Fe’i cedwir yn addysgol dan yr hatsys. Dyna wedd negyddol ar ein Hanes. Ni

sylweddola’r plant fod hyn yn rhan o strwythur dwfn ymhell cyn Fictoria. Ni feddyliant

chwaith pam y ceir cryn nifer o’r bobl ddi­Gymraeg yng Nghymru — heblaw o’r tu

allan — ers tro sy’n teimlo cryn elyniaeth tuag at rywbeth mor rhyfedd ddiniwed yn y

bywyd hwn â’r iaith Gymraeg. Ni sylweddolant chwaith ynysigrwydd a thaeogrwydd

petrus y Cymry Cymraeg. Mae yna fath o sensoriaeth ar eu Hanes. Ni roesant feddwl i

arwyddocâd hanesyddol seicolegol deddfu’n erbyn yr iaith o bryd i’w gilydd, yr

ymgyrchu dros ganrifoedd ym myd addysg, mewnfudo, ac allfudo, priodasau cymysg,

ffyniant economaidd, a’r holl gyflyru agweddol dwys. Nid ydynt wedi wynebu’r

cymhleth israddoldeb trefedigaethol enfawr sy’n ffenomen ryngwladol na natur

gydwladol eu gwrth­Gymreictod eu hunain. Yn wir, o safbwynt dysgu Hanes hyn oll,

tueddwyd i osgoi astudio’n drylwyr sefyllfa enciliad ac ildiad o’r fath sy’n eu heffeithio

hwy eu hunain mor fywiol yn bersonol, ac sy’n ffactor penderfynus yn eu bywyd, a lle

y mae Hanes yn rhan gyfoes o’u magwraeth. Ni chawsant weld y sefyllfa hon fel her i

greadigrwydd cyfoes cenhedloedd bychain. Fe’u hamddifadwyd hwy oherwydd diffyg

gweledigaeth academïwyr rhag cael gwybod, nac ystyried fel rhan o addysg oleuedig

ymarferol, effaith iaith eu magwraeth arnynt hwy eu hun, a hynny yng nghyd­destun y

byd.

Dyna her eithaf cyffrous i addysgwyr catholig, dybiwn i, ac efallai i haneswyr

yn anad neb. Yn gyfredol gyda’r diffyg academaidd hwn wrth beidio ag astudio

56

israddoldeb ieithyddol seicolegol Cymru, ceir diffyg difrifoldeb yngln â’r iaith fel

cyfrwng yn y Brifysgol. Hyn eto am resymau seicolegol amlwg.

2. Ers can mlynedd yma ac acw, ac erbyn hyn yn achos y mwyafrif o blant Cymru, fe

geisiwyd cyflwyno’r Gymraeg fel pe bai’n iaith estron yn ei gwlad ei hun. Delir ati, heb

lawer o arwyddocâd, mewn llawer man. Tybiwyd y gellid dilyn y math o drefn a geid

wrth ddysgu ieithoedd modern, neu ar un adeg ryw iaith glasurol esoterig ond

eithriadol bwysig fel Lladin. Yn y gyfrol hon, ysywaeth, ni sonnir hanner digon am y

sector poblog hwn nac am strategaeth weinyddol gyffredinol. Cymharol ychydig o

lwyddiant a gafwyd at ei gilydd, ac eithrio gyda rhai achosion ecsentrig. Gwariwyd

miliynau ar ail iaith, wrth gwrs. O ran y polisi o fewn y fframwaith anfoddhaol

presennol, does gennyf ond un peth i’w ddweud ynghylch gwella ar yr hyn sy’n

digwydd ar hyn o bryd — ar wahân i’r hyn a ddwedaf ac a ddadleuais eisoes ynghylch

dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn gyffredinol. Yr un peth nas cydnabyddir gan

wleidyddion yw bod plant o hyd yn 2003 yn gadael ambell ysgol gynradd heb wybod

mwy o’r Gymraeg na chyfrif o un i ddeg, a heb gael ‘gwers’ond unwaith mewn mis.

Credwch fi. Nid yw’r defnyddiau ail­iaith i’r ysgolion yn foddhaol oherwydd y

methiant i gyfuno strwythurau a ffwythiannau/sefyllfaoedd, ac nis arholir hwy

ychwaith. Y Cymry Cymraeg sy’n cael eu harholi yn y Gymraeg, Saesneg,

Mathemateg, a Gwyddoniaeth. Tri phwnc sydd gan y Cymry Saesneg. Tra bo plant y

‘sector Saesneg’heb eu harholi’n gyfartal gyfatebol i’r ‘sector dwyieithog’, ni chânt

ymwared â’r cymhleth israddoldeb ynghylch hunaniaeth Gymreig ddiwylliannol. Yr hyn

yr wyf yn ei dybied sy’n dyngedfennol angenrheidiol hefyd, i loywi’r defnyddiau a’r

dulliau o gyflwyno’r ail iaith i’r bobl ifainc hyn, yw ymwared â’r amddifadiad

melltithiol yn y ffasiwn sefyllfaol o anwybyddu’r strwythurol. Erys y Gymraeg o fewn y

sector statudol i blant ail iaith yn dipyn o aflwyddiant o ran nod a statws er gwaethaf ei

harwyddocâd addysgol. Mae yna anghydraddoldeb ethnig. Ac ni allaf lai na meddwl (er

yn besimistaidd, mae arnaf ofn) fod angen adrefnu cryn dipyn ar yr holl ragdybiau.

Mae yna un datblygiad gwreiddiol iawn sy’n addawol iawn yn y ‘sector

Saesneg’(mewn ambell ysgol) oherwydd y cyd­destun o addysg Gymraeg yn yr ail

iaith. Eisoes, yn y gwersi iaith eu hun, yn y ‘sector Saesneg’, fel y dangosais yn

Cyflwyno’r Gymraeg, fe welsom yr ail iaith ei hun yn cael ei defnyddio fel cyfrwng

addysg, fel modd i ddysgu gwybodaeth am ddaearyddiaeth, hanes, ysgrythur, ac yn y

blaen a hynny yng nghyd­destun ymddangosiadol y wers ail iaith.

Tybed onid yw’n bryd, hyd yn oed yn y sector hwn, nid yn unig i’r iaith gael ei

chyflwyno’n fwy radicalaidd fel cyfrwng, ond i berthynas addysg Gymreig Saesneg

gael ei hailfeddwl o’r bôn? Dylid ymagor i fframwaith hollol ffres. Mae’n bryd daddrefedigaethu

addysg yn fwy trwyadl. A hynny drwy gyd­wau ymhellach addysg

Gymraeg i mewn i’r addysg uniaith Saesneg. Clywais yn ddiweddar fod ambell ysgol

— ie hyd yn oed yng Nghymru — yn ei ystyried. Dyna fyddai gwir gam ymlaen. Yn

wir, mewn un ysgol uwchradd Gymraeg yng ngogledd­ddwyrain Cymru — ardal a

roddodd arweiniad o’r blaen yn y gorffennol — dechreuwyd derbyn dysgwyr o’r

newydd a oedd heb fynychu ysgolion Cymraeg ynghynt. Hynny yw, o ran polisi,

dechreuwyd defnyddio’r Gymraeg yn gyfrwng, am y tro cyntaf yn hanes y plant hyn,

wrth iddynt gyrraedd yr ysgol uwchradd. Gwn fod rhai ysgolion eraill wedi derbyn

lleiafrif o blant (nid dosbarth cyfan) mewn amgylchiadau cyffelyb.

Er mwyn cynhyrchu Cymru fwy hyderus, dylai cynnwys yn ogystal â chyfrwng

yr addysg fod yn fwy hunaniaethol. Bydd angen ailfyfyrio o’r newydd, fel petai, am

addysg fel pe bai’n plant ni oll yn perthyn rywsut i Gymru. Bydd yna anawsterau: ond

pethau i’w goresgyn yw’r rheini. Dylai nid yn unig eu daearyddiaeth leol a

57

chenedlaethol fod yn wreiddiedig yn y gymdeithas, eithr hefyd y ddaearyddiaeth

dramor, gyda sylw i wledydd tebyg (fel rhai o wledydd dwyrain Ewrob) yn ogystal ag

i’r pwerau grymus; gyda sylw arbennig i natur y gwrthwynebiad mewnol i’r Gymraeg,

yn ogystal ag i’r gwrthwynebiad o’r tu allan i Gymru. Rhaid esbonio naturioldeb yr

elyniaeth seicolegol i ieithoedd lleiafrifol mewn sefyllfa imperialaidd. I’r Cymro bellach

mae yna fwy o wledydd yn y byd o ran nifer nag sydd ym mryd y gwledydd ‘mawr’—

a gwahanol ystyriaethau sy’n berthnasol. Mewn Hanes, y mae hyd yn oed academïwyr

yn dal i gael cryn helbul wrth synied am y perthnasoedd o fewn Ynysoedd Prydain ac

wrth ddad­Seisnigeiddio eu rhagdybiau. Mewn Hanes, mae angen rhoi Cymru yng

nghyd­destun gwledydd eraill a goncrwyd gan Loegr gan gynnwys Unol Daleithiau

America a’r Alban. Nid mater o wleidyddiaeth yw hyn, ond addysg naturiol. Mater

gwleidyddol yw mynd o’r tu arall heibio i imperialaeth. Dylid ei gweld yng nghyddestun

hanesyddol amryw wledydd lleiafrifol a threfedigaethol. Gellid disgwyl gweld y

Gymraeg fel rhywbeth amgenach na phwnc academaidd er mor bwysig hynny. Y gwir

yw bod angen dysgu’r iaith fel pe bai’n rhan o adfywiad — neu mae’n peidio â bod yn

Gymraeg cyfoes. Mae’n wedd ganolog ar hunaniaeth Cymru ac yn gefndir inni i gyd

hyd at yr enwau lleoedd. Yr iaith ei hun sy’n diffinio Cymru’n well na dim, ac mae gan

bawb yn y wlad ryw fath o berthynas — gadarnhaol neu negyddol â hi. Mae ganddynt

ddiwylliant seicolegol unigryw hynafol. Beth amdani?

Tybed a oes lle i chwyldro go fentrus arall o’r fath? Byddaf yn synied mai’r

ffordd gywir i gyflwyno’r iaith bellach, yn y sector y tu allan i’r cyrsiau Cymraeg

confensiynol, yw drwy fabwysiadu rhywbeth tebyg i ddull yr Wlpan o fewn yr ysgolion

Saesneg. Mewn ysgolion Saesneg yng Nghymru, fe ddaeth yn bryd inni neilltuo cyfnod

priodol ar gyfer math o Wlpan yn ystod cyfnod cynnar y plant yn yr ysgol. Ar ôl

trwytho’r plant mewn amgylchfyd o’r fath, gellid mentro yn gyffredinol ddysgu dau

neu dri phwnc heblaw’r Gymraeg, yn ystod gweddill eu haddysg, drwy’r Gymraeg,

megis Addysg Gorfforol, Daearyddiaeth, Addysg Grefyddol, neu Fathemateg. Ie, yn yr

Ysgolion Saesneg — am mai dyna’r ffordd orau o lwyddo i ddysgu’r ddwy iaith o

fewn cyfundrefn addysg Cymru. Diau fod astudiaethau manwl Dr Cen Williams o’r

gwaith arloesol a llwyddiannus a gafwyd ym Maes Garmon yn batrwm i’r dyfodol.

3. Credaf fod Cymraeg i Oedolion hefyd yn waith unigryw, ac yng Nghymru gellid

disgwyl cynnig cyrchddull hollol wreiddiol yn y cyfeiriad hwn eto. Heblaw’r cyfuniad

dulliol a grybwyllwyd eisoes, sy’n angenrheidiol ar gyfer cyrsiau drwy gyd­wau

strwythur â sefyllfaoedd, a defnydd helaethach o lawer o’r Wlpan ar gyfer pobl mewn

swydd a gwersylloedd Wlpan i bobl ifainc, mae yna un pwynt go allweddol y dylid ei

nodi yma, er nad yw ei arwyddocâd na’i bosibilrwydd wedi gwawrio’n llawn ar y

Cymry Cymraeg na’r di­Gymraeg hyd yn hyn.

Ac fel y bydd rhyw bwynt ar yr ymylon, yn hanes gwyddoniaeth megis yn hanes

y celfyddydau, yn sydyn yn dod yn ganolog ac yn profi’n greiddiol, felly gyda’r

Gymraeg fel ail iaith i Oedolion. Cyd yw’r cysyniad unigryw ac arbennig yng Nghymru.

Mudiad yw sy’n darparu cyfleoedd cymdeithasol i ddysgwyr ymarfer â’r iaith gyda

siaradwyr rhugl. Dyma chwyldro anghysurus o gadarnhaol gan mai protestio fu forte y

Cymry Cymraeg. Fe’n hwynebir gan y sylweddoliad hollol ryfedd a gwreiddiol mai

mater i bawb yn y gymdeithas yng Nghymru yw adfywiad yr iaith, fod gan y Cymry

Cymraeg rhugl yn anad neb gyfraniad hanfodol i’w wneud i’r adfywiad ieithyddol

uniongyrchol ymhlith y dysgwyr. Mae eu hewyllys hwy yn hanfodol, hyd yn oed ar lefel

weithredol ymarferol a gwirfoddol. Gallant groesawu pobl yn adeiladol i fyd yr iaith.

Oherwydd diffyg strwythur yn eu gweithgareddau yn gyffredinol, ni wawriodd ar y

noddwyr swyddogol eto ddifrifoldeb ac uchelgais ac angen y fath syniad. Ond mae’n

58

wir am y Gymru Gymraeg yn gyffredinol. Yn lle bodloni ar ddigalondid a cheintachan

oherwydd y dirywiad, yn lle protestio’n achlysurol a gofyn i bobl eraill, sef y rhai mewn

awdurdod, wneud rhywbeth, yn lle achwyn (mewn rhai ysgolion Cymraeg) fod eu plant

Cymraeg yn ildio’u hiaith gerbron y dysgwyr, mae yna weledigaeth arall am symudiad

dwyochrog. Nyni oll sy’n gallu’i gwneud hi. Seicoleg y drefedigaeth fu ‘cadw’a

‘phrotestio’a ‘cheintachu’. Byddai meithrin yr ymdeimlad newydd hwn, yn y gymuned

oll (gan ddechrau gyda lleiafrif), y gallai pawb wneud rhywbeth i ‘adennill’, yn

gaffaeliad iachus i forâl y mudiad iaith. Byddai’n dyblu’r rhai sy’n ymwybodol y gellid

gwneud rhywbeth adeiladol, gwirfoddol, cadarnhaol o blaid adfywiad, heb ddal i

ddisgwyl i rywrai anrwymedig ymgymryd â’r dasg hwyliog honno yn ‘wleidyddol’.

Mae gweithio yn ddyfal­barhaol gan y Cymry Cymraeg (hyd yn oed yn lleiafrifol) tuag

at gydweithredu fel hyn, tuag at adferiad ac adfywiad, tuag at gyfnerthu hen

ddiwylliant modern sy’n dwyn amrywiaeth a ffrwythlondeb i ddiwylliant amlochrog y

byd, yn gaffaeliad personol i bawb ac yn gallu dod ag ysbryd newydd cydweithredol i

mewn i’r gymdeithas. Mae’r Gymraeg eisoes yn ennill tir ymhlith y Cymry Saesneg.

Mae’n bryd iddi ennill tir ymhlith yr ardaloedd Cymraeg. A’r Cymry Cymraeg eu hun a

all wneud hynny.

Daw rhieni o Gymry Cymraeg wrth feithrin yr ymwybod o gyd­adeiladu yn

batrwm o adnewyddu ac adennill wrth ymuno â mudiad cadarnhaol y genedl gyflawn.

Ym mhatrwm dysgu ail iaith, mae hyn yn arbrawf cyffrous a hynod lewyrchus.

Erbyn hyn, y mae’r adeiladwaith triphlyg cydlynol sydd ar waith rhwng tair gwedd yn y

mudiad adfer iaith, sef y Dosbarth, Cyd, a’r Mentrau, yn adeiladwaith cadarn o ran

ffurf, a newydd wreiddiol, ond tra addawol i’r dyfodol.

Egwyddor yw Cyd cyn ei fod yn Fudiad. Dywed nad gwaith i’r dysgwyr

Cymraeg yw cyfrifoldeb adfer yr iaith yn uniongyrchol, ond her i ewyllys ac i

weithrediad ein holl bobl.

Dyma rai o’r syniadau creiddiol sydd y tu ôl i Fudiad Cyd:

1. Adennill yw’r nod. Nid yw hyn yn lleihau ein parch at y rhai sy’n ceisio cadw’r iaith.

Ond y math o gadw sy’n gweithredu yn Cyd yw’r cadw sy’n ennill. Dyma’r unig

agwedd lwyddiannus bosibl mewn cenedl fel y Cymry. Byddai bodloni ar gadw yn unig

mewn sefyllfa ddiwylliannol drefedigaethol fel Cymru, yn arbennig yn y broydd

Cymraeg, yn farwol iddi. Mae hi fel pe bai’r bobl eu hunan yn ceisio rhedeg yn yr un

fan ar ddarn ymylog o dir sy’n briwsioni dan draed bob eiliad. Heb adennill tiriogaeth

ieithyddol yn gyson, a bod yn rhan o hynny, does dim dyfodol i’r iaith. Gan amlaf,

cadwraeth yw prif fwriad y mudiadau iaith a fydd yn ennill sylw’r cyfryngau — y

mudiadau protest. Ond adfywio, adnewyddu, ac atgyfodi yw nod barhaol Cyd.

2. Mae’r gair Cyd yn awgrymu dwy ochr. Mae hi’r un mor bwysig a phleserus i Gymry

Cymraeg wneud rhywbeth cadarnhaol a gweithredol gwirfoddol i adfer yr iaith yn

uniongyrchol ag ydyw i Ddysgwyr. Mae angen meithrin yr ymwybod o adfywio yn

gyffredinol yn y gymdeithas. Tasg unol yw hyn; a bydd rhaid disgwyl ymdrech

seicolegol arbennig o du’r Cymry Cymraeg oherwydd yr ymdeimlad cefndirol o encilio,

colli, a distrywio a argraffwyd arnynt yn nhraddodiad y sefyllfa ryngwladol leiafrifol.

Dichon bellach mai dysgwyr mewn oed y Gymraeg yw rhai o bobl fwyaf diddorol ein

gwlad.

3. Ni sy’n gwneud. Ein cyfrifoldeb ni yn gyntaf yw. Nid yw hyn yn feirniadaeth ar

fudiadau protest sy’n gofyn i bobl eraill wneud rhywbeth. Mae angen hynny hefyd —

yn ail. Ond symuda gogwydd llai trefedigaethol Cyd tuag at ganoli’n bryd ar

weithredoedd gwirfoddol gan y bobl yn bersonol eu hunain. Dyma’r angen cyntaf.

Mae’r sialens yn ddigon difrifol bellach i beidio â dibynnu ar bobl eraill — boed y

59

heini’n diwtoriaid neu’n wleidyddion. Nid digon hyd yn oed yw hel enwau dysgwyr a

recriwtio ar gyfer dosbarthiadau. Yn Cyd ceir y posibilrwydd i bawb, boed yn

academaidd neu beidio, i gyflawni rhywbeth yn uniongyrchol drwy siarad yn naturiol

â’i gilydd. Ailsefydlir meicrocosm i ddyfodol y wlad.

4. Oedolion sydd yn y canol, gan gynnwys wrth gwrs bobl ifanc. Dyma’r rhai sy’n

gallu lliwio barn y gymdeithas, y rhai a fydd efallai’n codi teulu, rhai sy’n gwirfoddoli i

wneud ymdrech adeiladol. Hwy hefyd a all newid seicoleg y gymdeithas i fod yn

gadarnhaol ac yn hyderus yngln â dyfodol yr iaith. Ni wedir pwysigrwydd plant, nad

ydynt yn cael dewis. Ond mae oedolion yn ewyllysio ennill; ac y mae i hynny

arwyddocâd llawnach.

5. Mudiad adfer defnyddio’r iaith yw Cyd. Nid mudiad yw i adennill hawliau nac i

ddysgu’r medr i siarad. Gwelwyd yn Iwerddon lond gwlad o hawliau felly a dysgu’r

cannoedd o filoedd mewn ysgolion. Ond aeth y defnydd i lawr ac i lawr. Fel Cymru yn

y Cyfrifiad diwethaf, cafwyd cynnydd ystadegol gynt gan Iwerddon mewn medr i

siarad yr iaith, ond lleihad dirfawr yn yr iaith ar waith. Felly, dewis Cyd yw meithrin

defnyddio’r iaith yn gymdeithasol. Calon cyfarfodydd Cyd yw defnyddio’r iaith. Ceisir

meithrin Cymry Cymraeg i fod yn gadarnhaol adferol yngln â hyn.

6. Gwaith i wlad gyfan, i bob ardal yn ddiwahân, sydd gan Cyd. Gweithredir yn

wahanol ym mhob bro. Nid deuoliaeth a geisir, ond myrddiwn. Eto, cynhwysir pob

rhanbarth mewn ymdrech gydlynol gyfan. Ni wyddom eto ym mha gwr y cawn y prif

ddeffroad.

7. Holistig yw’r golwg ar Cyd a chan Cyd. Hynny yw, mudiad pontio yw rhwng y

ddwy garfan ieithyddol fwyaf sylweddol a photensial ranedig yn ein gwlad. Ceisir

integreiddio dysgwyr i mewn i lawnder bywyd a diwylliant Cymru. Felly y dysgwn

ddeall ein gilydd yn well. Felly y cydymdeimlwn â gwahanol sefyllfaoedd ac y cydwëwn

gymdeithas. Ac felly yr adeiladwn Gymru fwy unol sydd heb friw ieithyddol y

gorffennol.

8. Mae Cyd yn rhan o symudiad amrywiol ac eang yng Nghymru. Daw yn gyfochrog

ac ar ôl y dosbarthiadau neu’r dulliau eraill o ddysgu’r iaith, a chyn llawnder y

gweithgareddau a gynigir gan y Mentrau Iaith, Merched y Wawr, Yr Eisteddfodau, Y

Corau, Y Cyfryngau, Yr Eglwysi, Y Cyhoeddiadau, Y Cryno­ddisgiau, Y

Cymdeithasau di­rif, swyddi o lawer math, a’r cyfathrebu Cymraeg amlochrog. Dolen

seicolegol adenillol yw. Ac y mae’n wahanol i’r rhain oll.

Sefydlir drwyddo bresenoldeb yr egwyddor o edfryd newydd o fewn y

gymdeithas gyflawn. Cafwyd ers mil a hanner o flynyddoedd bresenoldeb cilio, cadw, a

defnyddio’r iaith. Ond dyma’r tro cyntaf y ceisiwyd trefnu i ddysgwyr mewn oed ac i

Gymry Cymraeg brwd rannu’r profiad o adnewyddu â’i gilydd. Dyma brif addewid

Cyd.

Nid mudiad iaith yn unig mohono. O ran natur, mudiad cymdeithasol yw hefyd.

Mudiad seicolegol a diwylliannol. Yn Cyd mae’r iaith yn gyfrwng i wneud cyfeillion.

Pe ceid cefnogaeth o ddifri i’r ymwybod adfywiol a ffrwythlon hwn gan Gymry

Cymraeg brwd, fe ellid ymsefydlu’n symudiad grymus. I’m bryd i, y mae fraternité yn

llai amwys na liberté ac équalité; ac yn hynny o beth yn haeddu mwy o gytundeb

cyffredinol. Oni all y Cymry Cymraeg eu hun wneud rhywbeth tuag at adennill?

Nod cwrs dysgu iaith yw arwain yn strwythurol gyfathrebol tuag at hyn, sef

Ymddiddan ewyllysiol Rydd.

Pontio rhwng trefn dysgu a ffrwythlondeb sgyrsio rhydd yw swyddogaeth

arbennig Cyd. Ac yn arbennig, darparu cyfle i Gymry Cymraeg rhugl gynorthwyo’r

pontio o sefyllfa’r dosbarth i sefyllfa’r gymuned, dyna yw ei gyfraniad neilltuol.

60

A gaf broffwydo?

Os bydd y Cymry brwd yn dechrau ennill pobl, yna fe gawn fordydd croeso y tu

allan i’n pentrefi Cymreiciaf:

CROESO I AELWYD YR IAITH

dosbarth nos: Nos Lun 6.30 yn Neuadd y Pentref

Cyfarfod Cyd: Nos Wener 7.0 yn y Ddraig Goch.

Dewch i gyfarfod â Chymry brwd cyfeillgar.

Ymunwch â’r gymuned Gymraeg.

Join the community in Welsh.

Ond a gaf i rybuddio’r Cymry brwd hynny? Diau os gwneir hyn y cewch

gynyddu Cymreictod eich bröydd; ond fe gewch ddeinameg newydd a hynny ar ffurf

Cymry drwy fabwysiad. Yn lle colli hufen a doniau galluog genhedlaeth ar ôl

cenhedlaeth, fe gewch waed newydd byrlymus. Gwyliwch. Gall Oes Adfeilio ddarfod.

61

RHAN I: TAFOD

Y Ddadl

Y GWREIDDIAU STRWYTHUROL: PATRYMAU

Ar gyfer iaith, y mecanwaith cymharol sefydlog yn y pen ydyw ‘Tafod’(yn yr

ystyr drosiadol). Dyma'r hyn a ddefnyddir i gynhyrchu pob math o ‘Fynegiant’.

Yr wyf yn synied am strwythurau iaith mewn dau gyflwr: strwythurau Tafod,

dyma'r rhai dyfnaf y potensial canolog; a strwythurau Mynegiant, sy’n fwy arwynebol

ac yn arferiadol, ac fe’u llunnir hwy weithiau ar y pryd. Ond gan fod strwythurau

Mynegiant yn cael eu llywodraethu a’u cyflyru gan strwythurau Tafod, yr wyf yn

mynd i drafod y strwythurau oll yn gyffredinol gyda'i gilydd yn yr adran hon.

Ym mhob strwythur ieithyddol isymwybodol ceir bob amser ddau neu dri safle

pegynol sylfaenol (ddim mwy). Patrymau deuol neu driol ydynt. Ffurfiant gwlwm

cynnil. Fe’u cedwir mor gryno oherwydd bod cyferbynnu delweddol isymwybodol yn

digwydd yn sythwelediadol sydyn i’r siaradwr a’r dysgwr yn ei iaith gyntaf. Pan

soniwn am iaith, yr ydym yn synied am gyfundrefn o gyfundrefnau. Y mae gan bob

cyfundrefn ei hegwyddor unol seml hi ei hun: e.e. y mae cyfundrefn person y rhagenw

yn driol ac yn ymwneud â safle a pherthynas person mewn gofod tri dimensiwn; y mae

rhif — boed mewn enw, rhagenw, berf, ansoddair, neu adferf a lunnir gan arddodiad

rhagenwol (e.e. ganddo), — bob amser yn ymwneud â chyferbyniad yr un a’r llawer,

ac yn y blaen. Oherwydd ffurf seml y ddeuoliaeth neu'r drioliaeth hon, gall y meddwl

yn isymwybodol ymateb yn sydyn felly (yn ddi­fyfyrdod) i berthynas ffurfiol

gyferbyniol unol, deuol neu driol ymhob cyfundrefn ieithyddol o fewn Tafod.

Mewn strwythur o’r fath ceir nid yn unig safleoedd ffurfiol, ond hefyd

safbwynt cyfeiriol, neu drefn olynol feddyliol a deinamig isymwybodol yn arwain o’r

naill elfen i’r llall. Megis delweddau.

Ar sail nifer gyfyngedig o strwythurau ‘cynhenid’pwysig a chreiddiol mewn

Tafod, gellir esgor ar rai tarddiadol neu eilradd mewn Mynegiant, megis o’r

gosodiadol i’r gofynnol; o’r gweithredol i’r atblygol neu ‘oddefol’, ac yn y blaen.

Adnabyddir y cwbl hwn o hyd yn y broses ddysgu drwy gyferbynnu ac

ailadrodd. A dyna hefyd yr offer sylfaenol ar gyfer eu hyfforddi a’u hymarfer. Does

dim gair na brawddeg heb strwythur; a brawddegau yw prif ffrwyth iaith. Fyddai yna

ddim ystyr chwaith i iaith heb strwythur, hyd yn oed pan na fo’n fwy na’r strwythur

sain­synnwyr sydd i’r frawddeg un­gair.

Bwriedir yn yr adran hon sôn yn gyntaf am uniongrededd Chomsky; yna yn y

ddwy bennod wedyn am y feirniadaeth Seico­fecanaidd ar hynny; ac wedyn am y

modd o sicrhau presenoldeb strwythurau yn y Dull Cyfansawdd (deuol) sy’n gynhenid

yn natur pob iaith.

63

(i) Gramadeg Cenhedlol a Graddio'r Strwythurau

Ym 1963, ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, ceisiais gyflwyno gwaith

Noam Chomsky am y tro cyntaf i ddarllenwyr Cymraeg. Fel y gwelir yn fy nodiadau

yno, yr hyn a oedd gennyf mewn golwg yn bennaf oedd dyfnhau’r gwerthfawrogiad o

arwyddocâd Ymarfer â Phatrymau i athrawon ail iaith.

Noam Chomsky oedd ieithydd enwocaf y byd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Erys ôl ei feddwl ar bob cwrs dysgu doeth ym maes ail­iaith byth wedyn. Ond yr oedd

y gwaith a wnaethpwyd ym maes Ymarfer â Phatrymau, ac yn arbennig wrth sylwi ar

raddio Patrymau fel y’i ceid gan Fries, Mackey, Lado, a llu o rai eraill, eisoes cyn

hynny ar waith mewn sawl cynllun ymarferol.

Ond ychydig o ddatblygiadau ym myd ieithyddiaeth o ganol yr ugeinfed ganrif

hyd y diwedd a fu’n bwysicach na’r diddordeb hwn mewn Gramadeg Cenhedlol a

ddatblygwyd yn neilltuol gan Z. S. Harris, N. Chomsky, V. H. Yngve, R. B. Lees, ac

eraill. Yn y Symposiwm pwysig, Trends in European and American Linguistics 1930­

1960, a oedd yn trafod llawer agwedd ar ieithyddiaeth, nid oes dim a gaiff fwy o sylw.

Fe ddaw i’r golwg wrth drafod Dyfodol Ieithyddiaeth, Ieithyddiaeth Fathemategol,

Dysgu Iaith, ac Ieithyddiaeth Gyffredinol. Pan ddaeth yn adeg yn 1961 i H. A. Gleason

lunio argraffiad newydd o’i lyfr safonol An Introduction to Descriptive Linguistics, a

gyhoeddwyd gyntaf yn 1955, fe fu’n rhaid i’r awdur ailwampio bron chwarter y llyfr yn

wyneb y chwyldro a ddigwyddasai yn y cyfamser. ‘Rwy’n credu mai yn nhraethawd Z.

S. Harris ‘Discourse Analysis’ym 1952 y ceir had sylweddol cyntaf y dull hwn o

drafod gramadeg. Ond teg casglu mai Chomsky yn neilltuol yn ei lyfr Syntactic

Structures (1957) a roddodd y dehongliad llawn cyntaf a mwyaf diogel o’r theori.

Diau fod i’r llyfr arwyddocâd eang a chyrhaeddbell i’r holl agweddau ar

ieithyddiaeth. Gwelir ei argraff ym myd ieithyddiaeth gymwysedig wrth edrych drwy

gyfrolau o Language Learning. Nid ymddangosodd yr un adolygiad ohono yn y

cylchgrawn hwnnw, ac nid wyf yn gweld yno yr un cyfeiriad ato hyd at erthygl Mary

D. Sleator yn 1959, er bod holl bwyslais y cylchgrawn — o safbwynt cystrawen — ar

ymarfer â phatrymau, ac yn arbennig ar ddriliau disodli a thrawsnewid, gwaith sydd

mor berthnasol i Ramadeg Cenhedlol. Ond pan ddowch at 1961, rhifyn 3­4, nid oes

braidd un tudalen heb ddangos ôl y syniadaeth newydd, ac y mae pump o’r saith

erthygl yn tarddu'n uniongyrchol ohoni.

Pwrpas hyn o nodiadau fydd ceisio gweld gwerth arhosol y dull hwn o drafod

cystrawen ar gyfer ieithyddiaeth gymwysedig, yn arbennig ar gyfer dysgu’r Gymraeg

yn yr unfed ganrif ar hugain fel ail iaith, er y bydd rhaid amlinellu prif bwyntiau’r theori

(gystrawennol) wrth wneud hynny.

O safbwynt cystrawen, rhaid trafod y gramadeg ar ddwy lefel, er bod y

gramadeg cyflawn yn ymwneud â thair lefel mewn gwirionedd. Lefel Cyfansoddion

Unionflaen (immediate constituents) yw’r lefel gyntaf. Dyma Ramadeg Strwythur

Ymadroddion (Phrase Structure Grammar). Lefel y Trawsffurfiadau yw’r ail lefel; ond

yn y rhan hon — ar wahân i’r ffaith fod y fath lefel yn bod — diau mai’r ddamcaniaeth

bwysicaf a ddaw i’r golwg yw damcaniaeth y Brawddegau Craidd.

Mae'r lefel gyntaf yn ymwneud â dull o ramadeg a oedd eisoes yn gyfarwydd;

a’r peth newydd a wnaeth Chomsky oedd dangos annigonolrwydd y dull hwn o synied,

a dangos ymhellach beth yr oedd yn rhaid ei wneud i’w gymhwyso i ffitio gramadeg

cyflawn a therfynol: hynny yw, rhan ydyw ac nid gramadeg dihysbyddol, ‘cyfan’. Wrth

ddadansoddi yn ôl Cyfansoddion Unionflaen, yr ydys yn cymryd brawddeg megis —

‘Fe ddiflannodd y dyn a oedd wedi dwyn yr afalau’, ac yn sylweddoli fod iddi ddwy

ran: ‘Fe ddiflannodd + y dyn a oedd wedi dwyn yr afalau’. Yna wrth ddadansoddi’r ail

64

an ymhellach, gwelir ei bod yn ymrannu fel hyn: ‘Y dyn + a oedd wedi dwyn yr

afalau’. Drachefn, gellir dadansoddi'r rhan olaf fel hyn: ‘a oedd wedi dwyn + yr afalau’.

A phed elid ymhellach gyda’r uned olaf, teg cydnabod fod ‘afalau’yn gallu sefyll ar ei

ben ei hun, a bod dwy ran, ‘yr + afalau’.

Yn awr, yr hyn sy'n ddiddorol yw bod lleoedd neilltuol ar gyfer man y rhannu; a

hefyd, y mae trefn neilltuol ar gyfer y camre yn y rhannu — hynny yw, y mae rhai

cyfansoddion yn fwy cynhwysfawr na’i gilydd.

Dyna yw cyfansoddyn, sef gair neu gystrawen (neu forffem) sy’n ffitio mewn

cystrawen fwy. A dyna yw cyfansoddyn unionflaen, sef un neu ddau neu ychydig o

gyfansoddion sy’n esgor yn unionsyth ar gystrawen fwy. Felly, i’r frawddeg ‘Mae’r hen

ddyn sy’n glaf wedi bod yn ceisio mynd yn ôl i’w dref enedigol’, y cyfansoddion

unionflaen cyn belled ag y gwelaf yn ôl meddylfryd Chomsky yw: ‘Mae’r hen ddyn

sy’n glaf’+ ‘wedi bod yn ceisio mynd yn ôl i’w dref enedigol’. Mae'r gair ‘mae’yn

gyfansoddyn, fel y gwelir yn y man, ond nid yw’n gyfansoddyn unionflaen i

gyfansoddiad y mynegiad cyflawn.

Mae modd digon pendant o benderfynu cyfansoddion unionflaen, drwy

gymharu samplau a thrwy eu disodli. Ond efallai mai’r ffordd orau i’w harddangos yma

fyddai cymryd enghraifft a’i rhannu mewn ffrâm sy’n dangos dosbarthiad

cyfansoddion:

Mae'r hen ddyn sy’n glaf wedi mynd yn ôl i’w dref enedigol.

Mae’r dyn claf wedi dychwelyd i Gaerdydd.

Mae Gwilym wedi dychwelyd iddi.

Mae

wedi dychwelyd.

Wrth amlinellu dosbarthiadau o gyfansoddion fel hyn fe ellir disgrifio

brawddegau go hir yn yr un termau ag a ddefnyddir wrth ddisgrifio brawddegau

byrion. Felly, wrth raddio patrymau ar gyfer dysgu ail iaith — ac ers talwm bellach

(weithiau hyd yn oed ar ôl dod â ffwythiannau i’r fei) y mae ymarfer â phatrymau ac

adeiladu yn ôl patrymau cyson ac organaidd wedi dod yn egwyddor bwysig —

ymddengys fod gennym fodd i gyrraedd cymhlethdod yn y pen draw drwy raddio

rhesymegol ac ystyrlon.

Cyfeiria Nelson Brooks, Language and Language Learning, at y deg math yma

o ymarferiadau â phatrymau: 1. Repetition, 2. Transformation, 3. Replacement, 4.

Rejoinder, 5. Restatement, 6. Completion, 7. Transposition, 8. Expansion, 9.

Contraction, 10. Integration. Ymarferion sy’n gallu ymgysylltu â’r fath

ddadansoddiad.

Bid sir, mae dosbarthu’r cyfansoddion yn waith mwy cymhleth nag a

awgrymir uchod. Er enghraifft, er bod ‘claf’ac ‘sy’n glaf’yn yr un dosbarth o

gyfansoddion â’i gilydd, ni ellir disodli’r blaenaf gan yr olaf ym mhob amgylchiad,

megis ‘Mae’n glaf nawr’— ‘Mae’n sy’n glaf nawr’. Hynny yw, mae yna gyfundrefn

reolaidd o ddosbarthiadau ac is­ddosbarthiadau.

Ar sail ystyriaethau fel y rhain y mae modd adeiladu tablau disodli, techneg a

ddefnyddir mor helaeth wrth ymarfer â phatrymau.

Erbyn A .A. Hill, Introduction to Linguistic Structures (1958), mae’r

syniadaeth hon wedi dod yn dra phwysig:

Another observation that can be made about language systems is that every

occurrence of language is a substitution frame. Any sentence is a series of

entities, for each of which a whole group of other entities can be substituted

without changing the frame.

65

Yn wir, fe ddaeth y ffaith hon yn sylfaen i ddysgu ieithoedd modern yn ôl

egwyddorion ieithyddol, a dywedodd R. L. Politzer ym 1960: ‘The learning of

constructions of ‘patterns’and the study of the value of building stones, through a

process of transformation and substitution, are probably the corner­stones of the

linguistic teaching approach.’

Ond pe cymerid yr amrywiaeth o batrymau sy’n bosibl yn y Gymraeg, gan

amrywio lleoliad a phwrpas y gwahanol gyfansoddion, fe fyddai’r posibiliadau bron yn

ddiderfyn. Ac er mwyn disgrifio’r holl bosibiliadau, hynny yw, er mwyn disgrifio holl

frawddegau’r iaith yn gyflawn ac yn derfynol, diau y byddai’n rhaid ailadrodd disgrifiad

o un cyfansoddyn mewn amryw fannau gwahanol yn nhrefn y gramadeg.

Er hwylustod wrth ddisgrifio swyddogaeth a lleoliad pob cyfansoddyn, fe

ddefnyddir llythrennau fel symbolau i’w cynrychioli. e.e. B — Brawddeg; E — Enw

neu Ymadrodd enwol; F — Berf neu Ymadrodd berfol; Ef — Berfenw; A —

Ansoddair; N — Bannod; D — Arddodiad; C — Cysylltair; G — Rhagenw; R —

Adferf: symbol yw Mae hefyd sy'n cynrychioli’r ffurfiau yn y ferf ‘bod’sy’n bosibl

mewn safle neilltuol. Dyma esiampl hunanesboniadol o ffurf gramadeg cyfansoddion

unionflaen:

(i) B F + E1 + E2

(ii) E1 G

(iii) E2 N + E + A

(iv) F Gwelodd

(v) G ef

(vi) N y

(vii) E dyn

(viii) A tew

‘Gwelodd ef y dyn tew.’

Er y gall y llythrennau hyn ymddangos ar yr wyneb fel ffordd dra chymhleth o

esbonio pwynt go syml, y mae eu hwylustod yn dod i’r amlwg wrth ddadansoddi

hanfodion llawer o deipiau gwahanol o frawddegau, ac wrth drawsffurfio un teip i

batrwm arall, yn arbennig wrth ddangos fformiwla’r trawsffurfiad.

Yn awr, canolbwynt gwaith Chomsky yw mai ychydig iawn o frawddegau

craidd neu o batrymau sylfaenol (kernel sentences) sydd mewn unrhyw iaith, a bod

modd llunio’r gweddill o frawddegau’r iaith drwy eu trawsffurfio yn ôl rheolau

gosodedig a ffurfiol. Hynny yw, wrth drawsffurfio, y mae modd i ramadeg fod yn

gyflawn.

Fe dybiaf i y gellid crynhoi brawddegau sylfaenol y Gymraeg yn ôl dullfeddwl

Chomsky mewn rhestr fel hyn:

Mae ER

Mae E yn A

Mae E yn E

Mae E yn Ef

Mae EDE

FE

FEE

FEDE

Hynny yw, dyna fframwaith damcaniaeth bras ar gyfer hel patrymau i’w

graddio mewn cwrs ail iaith.

66

Heblaw’r rhain mae rhai cystrawennau llai pwysig, megis ebychiadau, ayyb

Cyn mynd ymlaen i drafod trawsffurfiadau — a chymryd bod modd cytuno ar

restr fel yr uchod — hoffwn grybwyll pwynt neu ddau i ddangos arwyddocâd y

sylweddoliad hwn ar gyfer dysgu ail iaith.

Rhan bwysig o’r gwaith o baratoi defnyddiau ar gyfer dysgu ail iaith yw

graddio’r defnyddiau hynny, yn eirfa ac yn gystrawennau, yn ffwythiannau ac yn

ddulliau. Ar gyfer y cystrawennau mae angen gwybod pa rai sy'n sylfaenol a pha

batrymau elfennol y gellir eu hadeiladu ar ben y rheini i wneud brawddegau mwy

cymhleth. Mae gwybod hyn o werth mawr wrth ddatblygu cwrs yn drefnus ac yn eglur.

Yn wir, dyma’r cam gwyddonol cyntaf wrth baratoi defnyddiau graddedig.

Wrth gyflwyno unrhyw gystrawen gymhleth sy’n gyfuniad o ddwy o'r

brawddegau uchod (neu’n gymhlethiad o un), fe ddylai’r athro (neu’r llyfr neu’r cwrs)

ddychwelyd at y brawddegau sylfaenol unigol sy’n arwyddocaol, a’u hymarfer o’r

newydd, cyn dangos y datblygiad gwahanol:

e.e. Er mwyn cyrraedd —

Gwelodd y dyn y bachgen yn yr ysgol. (FEEDE)

rhagarweinir drwy ymarfer ­

Gwelodd y dyn y bachgen. (FEE)

Rhedodd y bachgen yn yr ysgol. (FEDE).

Er mwyn cyrraedd ­

Mae’r llyfrau’n cael eu rhoi yn y ffenest. (Mae E yn Ef Ef DE)

rhagarweinir drwy ymarfer ­

Mae’r llyfrau yn y ffenest. (Mae EDE)

Mae’r bachgen yn cael darlun. (Mae E yn Ef E)

Mae’r bachgen yn cael ei ddarlun. (Mae E yn Ef GE)

Mae’r bachgen yn cael ei boeni. (Mae E yn Ef G Ef)

Heb fynd ymhellach na hyn, mae’n ymddangos fod modd, drwy ddadansoddi

ieithyddol o’r fath, raddio’n rhesymegol drefnus dwf cwrs dysgu’r Gymraeg fel ail

iaith, gan ddangos y drefn ieithyddol addas ar gyfer adeiladu’r iaith ym meddwl y

dysgwr ar sail nifer gyfyngedig o frawddegau elfennol sylfaenol. Mae’n wir fod rhaid i

bob cwrs dyfu ar seiliau pedagogaidd (seicolegol, sefyllfaoedd, ayyb) hefyd, ac nad

yw’r hyn sy’n dilyn o safbwynt trefn ieithyddol ddim yn dilyn o safbwynt defnyddioldeb

neu rwyddineb, ayyb Ond cael eu ffitio mewn ffrâm ieithyddol gadarn yw’r hyn sy'n

angenrheidiol i ystyriaethau eraill megis y ffwythiannau neu’r nodau cyfathrebu.

Bellach, yr ydym wedi dod at ail ran dull Chomsky o ramadega, ac at yr hyn

sy’n gwneud ei waith yn ramadegol gyflawn. Mae amryw bethau sy’n dangos bod

dadansoddi drwy Gyfansoddion Unionflaen yn annigonol fel dadansoddiad

dihysbyddol. Er enghraifft, nid yw’n gallu esbonio’n foddhaol yr anawsterau sydd

mewn brawddegau amwys. Cymerer y frawddeg: ‘Mae marciau’r athro yma’n isel

iawn’. Yn ôl Cyfansoddion Unionflaen ni ellir canfod dwy ffordd o’i dadansoddi, ond

mae iddi ddwy ystyr: ‘Mae'r athro yma’n rhoi marciau isel iawn. / Mae’r athro yma’n

cael marciau isel iawn’.

Yn ôl Cyfansoddion Unionflaen y mae brawddeg fel ‘Mae Twm yn taro Wil’yn

dilyn yr un patrwm ag ‘Mae Wil yn taro Twm’. Ond nid oes modd dangos fod

brawddegau fel ‘Mae Twm yn taro Wil’/ ‘Mae Wil yn cael ei daro gan Twm’, yn

perthyn yn agos nid yn unig o ran ystyr ond o ran adeiladwaith, er bod eu cyfansoddion

yn wahanol.

67

Credir hefyd y dylai Gramadeg cyflawn ddangos fod un gystrawen yn fwy

canolog neu’n fwy sylfaenol nag un arall, e.e. fod y gweithredol yn fwy sylfaenol na’r

goddefol, fod gosodiad yn fwy sylfaenol na chwestiwn, a phrif gymal yn fwy sylfaenol

nag is gymal.

Anfantais fwyaf Cyfansoddion Unionflaen yw’r amrywiaeth enfawr, annibynnol

a heb berthyn i’w gilydd, o ddisgrifiadau sy’n angenrheidiol er mwyn disgrifio

brawddegau’r iaith. Drwy gyfrwng lefel arall, sef trwy fformiwlâu neu eitemau

trawsffurfiol pendant a chyfyngedig, yn hytrach na thrwy amlhau patrymau o

gyfansoddion unionflaen, y mae Chomsky wedi estyn grym lefel y cyfansoddion

unionflaen eu hun.

Y mae’n amlwg fod rhyw berthynas arwyddocaol yn adeiladwaith y ddwy

frawddeg ‘Mae Twm yn taro Wil’/ ‘Mae Wil yn cael ei daro gan Twm’, gan fod modd

llunio cyfres o drawsffurfiadau, sy’n dilyn yr un patrwm â’i gilydd yn union, gan bobl

yn annibynnol. Yn yr un ffordd, y mae’n amlwg fod modd disgrifio perthynas ‘Mae

Twm yn taro Wil’/ ‘Ydy Twm yn taro Wil?’ar seiliau adeiladwaith yn unig, a bod

llawer o drawsffurfiadau cyffelyb yn bosib y gellir eu dynodi drwy fformiwlâu sy’n

crynhoi disgrifiad o ychwanegu elfennau, adrefnu elfennau, neu weddnewid elfennau.

Teulu mawr yw teulu trawsffurfiadau’r cwestiwn: sylwer er enghraifft ar:

Mae Twm yn taro Wil.

(i) Ydy Twm yn taro Wil?

(ii) Mae Twm yn taro Wil, ond yw e?

(iii) Pwy sy’n taro Wil?

(iv) Twm sy’n taro Wil, ond e?

(v) Pwy mae Twm yn ei daro?

Trefnwyd y cwestiynau yn ôl trefn eu hanhawster.

Yn awr, mae gramadeg sy’n disgrifio brawddegau’r iaith yn y modd yma yn

gorfod disgrifio’n gyntaf adeiladwaith y frawddeg graidd (drwy gyfansoddion

unionflaen), ac yna sôn am y fframiau newydd a’r cyfnewidiadau cysylltiol neu

adeiladol sy’n eu cydio wrth y frawddeg graidd. Gwelir y gellir trefnu gramadeg cyson

a ffurfiol sy’n dilyn y cynllun dwy­lefel hwn, a honna rhai ieithyddwyr o hyd mai

dyma’r unig ffordd i drefnu gramadeg cyflawn.

Wrth ystyried brawddeg graidd ar gyfer ei thrawsffurfio, yr hyn a wneir yw

dadansoddi hanfodion y frawddeg ar ffrâm gysylltiol sy’n dal yr elfennau gwahanol fel

hyn. Dodir yr elfennau yn ôl trefn olynol hierarchaidd ar linynnau.

68

B (Trawodd y dyn y bêl)

E (y dyn) F (Trawodd y bêl)

N (y) E (dyn) F (trawodd) E

N (y)

E (bêl)

Drwy drafod y llinynnau gellid esgor ar frawddegau newydd, gan gorffori yn y

model drawsffurfiau disodlol rheolaidd.

Drwy gymryd y brawddegau craidd, a graddio’u cystrawennau yn null trefnus

cyfansoddion unionflaen; yna, symud at y lefel nesaf, sef trawsffurfio, fe ellir

dihysbyddu’r disgrifiad o’r iaith yn gwbl systematig.

Yn wir, ar sail y trawsffurfiadau, fe awgrymir i’r athro ddriliau gwahanol,

dyweder, er enghraifft, Ddril Trawsffurfio (neu batrymau gwaith ar gyfer cyflwyniad

mwy treuliadwy na driliau — megis chwaraeon); ac felly, fe ellir ymarfer â’r gystrawen

newydd yn ystyrlon a’i meistroli: e.e.

Athro: Mae John yn gweld Wil.

Dysgwr 1: Mae Wil yn cael ei weld gan John.

A: Mae John yn agor y drws.

D2: Mae’r drws yn cael ei agor gan John.

A: Mae Wil yn darllen llyfr.

D3: Mae’r llyfr yn cael ei ddarllen gan Wil.

Gwelir, felly, y bydd cwrs Cymraeg sydd wedi'i raddio’n ofalus yn gorfod

dechrau gyda rhai o’r brawddegau craidd. (Ni raid trafod y rhain oll ar y dechrau: a

diau y bydd yr ail grp — cryno — yn cael ei adael nes bod rhaid i’r ffurfiau cryno

ddod i mewn i’r cwrs, er enghraifft, pan drafodir yr amser gorffennol). Fe fydd y cwrs

yn sefydlu’r rhain yn ddiogel yn ymdeimlad y dysgwyr; yna fe fyddant yn symud

ymlaen at drawsffurfiadau o dri math:

(1) Adrefnu elfennau’r frawddeg graidd; (2) Ychwanegu brawddeg(au) craidd at

frawddeg graidd, neu rannau at ei gilydd, er mwyn cyfansoddi brawddegau mwy

cymhleth; (3) Gweddnewid elfennau yn y frawddeg. Gwir na bydd yr athro ei hun o

anghenraid yn defnyddio fformiwlâu; y brawddegau a gynrychiolir fydd ei ddefnydd

crai ef. Ond diau y bydd y sawl a lunia gyrsiau proffesiynol ar gyfer yr athro, o hyn

ymlaen, yn gorfod cadw ei lygad ar ddamcaniaeth Chomsky.

Wrth geisio graddio cystrawennau’r iaith Gymraeg yn ôl egwyddorion

ieithyddol diogel ar gyfer ei chyflwyno fel ail iaith, yr hyn y bu mawr angen amdano

oedd cynllun rhesymegol. Amcan y nodiadau hyn oedd awgrymu bod yng Ngramadeg

Cenhedlol Chomsky gryn dipyn o’r hyn y buwyd yn chwilio amdano.

Roedd yna gryn nifer o wendidau yn ieithyddiaeth Chomsky. Nid oedd wedi

llawn sylweddoli grym y rhaniad rhwng Tafod a Mynegiant a ddisgrifiwyd gan

Saussure ac yn arbennig gan Guillaume. Ac felly, er iddo wahaniaethu rhwng

strwythurau dwfn cystrawennol (deep syntactic structures) a strwythurau arwyneb

(surface structures), ni lwyddodd i wahaniaethu’n union rhwng strwythurau

cyfyngedig mewn Tafod a'r strwythurau llawer mwy niferus (diderfyn o bosib) a gaed

69

mewn Mynegiant. Wrth drafod Tafod (competence) ni wahaniaethai rhwng yr amodau

cynieithyddol neu allieithyddol a esbonnid yn fwy treiddgar gan Guillaume (fel tri

dimensiwn gofod — person, disgyrchiant — rhannau ymadrodd traethiadol ac yn y

blaen) a gyflyrai bob iaith, a’r dull unigryw a oedd gan ieithoedd unigol (o hyd mewn

Tafod) o adeiladu ar sail yr amodau hynny. Nid oedd wedi gallu esbonio gwreiddiau’r

brawddegau craidd, fel y gwelwn wrth drafod iaith plant. A hynny oherwydd nad oedd

wedi treiddio i ddyfnder y gwahaniaethau cynieithyddol. Mewn gwirionedd, wrth iddo

chwilio am ‘ramadeg cyffredinol’(universal grammar), yr hyn y chwiliai amdano (a’r

hyn y daeth Guillaume o hyd iddo) oedd y gyfundrefn gydlynol o gyferbyniadau

anieithyddol cyntefig a ddôi’n sail i Dafod. Er imi grybwyll yn awr yr hyn a farnwn yn

brinderau, credaf iddo dynnu sylw at natur Tafod a Mynegiant mewn modd gwahanol i

Guillaume (a llai manwl) fel y cawn weld, ond y mae angen cadw’r ddau

ddadansoddiad mewn golwg bellach. Yn bendant, gwnaeth Chomsky gyfraniad

gwirioneddol. Ac i mi, y mae yna gyfraniad llai pwysig ond yn dal yn werthfawr, o

safbwynt didacteg iaith o du’r beirniaid ffwythiannol, gyda’u pwyslais ar Fynegiant, fel

gan Del Hymes yn y Penguin Sociolinguistics (1972), er mor annifyr fu anwybodaeth

enbyd ffwythianwyr, fel hyn, o ddyfnder y traddodiad ieithyddol a phedagogaidd ac o’r

cyferbyniad rhwng Tafod a Mynegiant. Rhaid goddef eu hanwybodaeth (a

chyntefigrwydd eu datblygiad), er mwyn gwerthfawrogi’u cyfraniad, sy’n ddiamheuol.

Bid a fo am hynny, ni ellid llai na chydnabod dylanwad aruthrol Chomsky ar

ddysgu iaith ers y chwedegau.

Yr m bellach yn gallu sefyll ar wahân a syllu ar Chomsky o bellter

milflwyddiant newydd.

Cyfoethogodd ef dipyn ar ein dealltwriaeth o batrymau iaith. Cododd hefyd

nifer o gwestiynau tra phwysig. Ac er nad ef a ddarparodd yr atebion bob tro, fe geid

atebion. Ac y mae’r cwestiynau hynny (ynghyd â’r atebion) yn dal yn dyngedfennol

bwysig i baratowyr cyrsiau ac i athrawon Cymraeg heddiw ac yn faterion a haedda

sylw yng Nghymru’r trydydd mileniwm.

1. Creadigrwydd Iaith

Dyma gyfrinach fawr iaith. Dyma’i harbenigrwydd. Nid dysgu rhes o eiriau yw

gwaith iaith. Nid dysgu ar y cof frawddegau ar gyfer rhestr o sefyllfaoedd. Ond paratoi

ar gyfer deall brawddegau a sefyllfaoedd newydd. A dysgu’r medr i gynhyrchu

brawddegau newydd. (Methu â sylweddoli hyn oedd un o ddiffygion Ffwythianneg.)

Hynny yw, rhan ganolog o ddysgu iaith yw adeiladu’r mecanwaith sylfaenol

sy’n medru, yn ystwyth, genhedlu brawddegau am y tro cyntaf; a mynd o’r fan yna at

frawddegau cyffelyb mewn gwahanol gyd­destun ffwythiannol. Galwn hynny’n Dafod.

Rhaid inni erfyn ar baratowyr cyrsiau, o’r cychwyn cyntaf mewn cwrs iaith, i

sylweddoli’r nodwedd hanfodol hon mewn dysgu ail iaith. Meithrin medr i wneud mwy

na dysgu parotaidd anghreadigol yw hyn.

Yng nghefndir ein trafodaeth saif cysgod y cyfnod tywyll a gafwyd ar ddiwedd

saithdegau’r ugeinfed ganrif. Nid tywyll oedd oherwydd ‘nodau cyfathrebu’

ffwythiannol fel y cyfryw: roedd y syniad hwnnw — o fewn ei gyfyngiadau — yn

ddigon clodwiw; ond oherwydd y negyddu alaethus a gafwyd gydag ef. Sef diarddel y

peth pwysig hwn — y mecanwaith creadigol sydd ar ganol iaith (Tafod), a weithia

drwy raddio patrymau ac ymarfer â phatrymau. Felly, i athro doeth, drwy ddileu,

ychwanegu, disodli, a thrawsffurfio y symudir o un patrwm i’r llall, ac y dysgir

cyfrinach creadigrwydd.

2. Brawddegau Craidd

70

Yn y gwaith hanfodol o raddio cystrawennau, fe fabwysiadodd Chomsky nifer

o batrymau a’u galw’n frawddegau craidd (kernel sentences). Rhestrodd y rhain, ond

heb esbonio’n ddigon boddhaol sut y cafwyd y brawddegau hynny yn gyntaf, beth a

barodd eu hadeiladu, a beth oedd yr egwyddorion y tu ôl iddynt. Byddaf i ymhellach

ymlaen yn nodi rhestr wahanol o frawddegau craidd, gan nodi pam a sut y ceir y model

triol, ac fel y’i seilir ar sythwelediad cynieithyddol. Hynny yw, ceisiaf ddadlau bod yna'r

fath beth â brawddegau craidd anochel, ond bod y rheini’n dilyn y tri cham

angenrheidiol y mae’n rhaid i’r baban eu dilyn wrth eu darganfod am y tro cyntaf.

3. Sythwelediad

Yn ei waith diweddarach, ar ôl yr arloesi a gaed yn Syntactic Structures, sef yn

Aspects of the Theory of Syntax, y mae Chomsky yn mynd ati i fyfyrio am

‘sythwelediad’y siaradwr brodorol ynghylch ei iaith. Dyma’r farn a lywia’r siaradwr i

werthuso ymadroddion, i synhwyro’u hamwysedd, a pherthynas agos neu beidio

brawddegau â’i gilydd. Ond nid yw’n pennu union natur y sythwelediadau hyn, mwy

nag y llwydda i bennu beth oedd a sut y ceir y brawddegau craidd. Ac y mae’r naill a’r

llall yn gysylltiedig. Dangosodd Gustave Guillaume (er na fu’n trafod iaith plant) fod

gan y plentyn eisoes, cyn dysgu, beth gwybodaeth sythwelediadol sy’n sail

uniongyrchol i iaith. Anieithyddol neu gynieithyddol yw. Felly, y mae’r ymwybod syml

o gyferbyniad presenoldeb/absenoldeb yn fyw iawn i’r plentyn. A dyma gyferbyniad

cwbl ganolog ymhellach ymlaen wrth ddosbarthu neu gyferbynnu categorïau megis (i)

Amserau Berfau: presennol, gorffennol, dyfodol, (ii) Person y rhagenw: fi, ef ac yn y

blaen. Wedyn, mae gan bob plentyn, cyn siarad, ymwybod o ddisgyrchiant. Daw i

sylweddoli fod un peth yn pwyso ar beth arall: mae’r llwy yn syrthio ar y ford, ac yn

aros yno, ac mae ei gorff ei hun yn gallu pwyso a dibynnu ar gorff arall. Yn awr,

dyma'r egwyddor sydd y tu ôl i berthynas ‘Enw’ac ‘Ansoddair/Berf’; a pherthynas

‘Ansoddair/Berf’; ac ‘Adferf’. Heb y sythwelediad cynieithyddol o ddisgyrchiant a

gymerir yn ganiataol, ni ellid trefnu’r elfennau ieithyddol hyn yn gyfundrefn bwrpasol o

ddibynnu ar ei gilydd yn uned. Ond ceir nifer o sythwelediadau nid anghyffelyb, sy’n

gynieithyddol, ond na ellir ymdopi’n ieithyddol hebddynt, megis, er enghraifft, yr

ymwybod sythwelediadol sydyn o gyferbyniad rhwng un a llawer (i esgor ar Rif mewn

enwau, rhagenwau, ansoddeiriau, berfau, adferfau rhagenwol, ac yn y blaen);

uwchraddoldeb/israddoldeb (mawr a bach) i esgor ar gymharu ansoddeiriau; sn a

thawelwch i esgor ar gyferbynnu acen/diacen neu lafariad/cytsain neu leisiol/di­lais. Ac

yn y blaen.

Fel y cawn weld eto (a chyfeirio’n ôl at y brawddegau craidd) a drafododd ef, y

sylweddoliad isymwybodol o ddibynnu a welsom uchod wrth drafod Enw a Berf, dyma

hefyd y cwlwm sythwelediadol sy’n sylfaen i’r gyfundrefn o frawddegau craidd a

fabwysiadwn.

Hynny yw, adeiledir mecanwaith sylfaenol yn yr ymennydd sy’n sylfaenedig ar

sythwelediadau elfennaidd iawn. Dyma’r adeiladwaith a’r gynhaliaeth ar gyfer geiriau y

gellir eu hamrywio. Ceir patrymau cynhaliol cymharol sefydlog, sy’n gnewyllyn

sefydlog y gellir ei drawsffurfio yn ôl patrymau rheolaidd — ansefydlogrwydd o fewn

sefydlogrwydd. Y Tafod yw hyn oll. Dyma’r hyn sy’n creu creadigrwydd a fydd yn fwy

na rhestr brennaidd. Cyfarfod â sefyllfaoedd newydd yw prawf iaith.

Nid mabwysiadu arferion, felly, yw dysgu iaith. Nid gweithredu fel parot gan

hel brawddegau ar gyfer ffwythiannau (neu sefyllfaoedd). Nid dysgu gwybodaeth

ddeallol gymhleth yw chwaith. Mae yna adeiladwaith cymharol gryno ond trefnus yn yr

ymennydd sy’n gallu esgor ar frawddegau diderfyn. Adeiladwaith yw o gyferbyniadau

creiddiol. Meistroli hwnnw yw’r gamp. Rhaid adeiladu’r mecanwaith cynhyrchu cryno

71

hwn, ac ynghyd â hynny yr eirfa heb fod mor gryno (ond y mae angen eto ei dethol a'i

graddio yn ôl yr angen).

Yn hyn o sylweddoliad y gall yr astudiaeth o iaith plant bach fod yn allwedd go

ddefnyddiol i amgyffred beth yw’r llwybr gorfodol y mae’n rhaid ei ddilyn wrth

adeiladu iaith o gwbl, boed yn iaith gyntaf neu’n ail iaith. Yn wir, y mae astudio iaith

plant bach yn bwysig

(a) er mwyn deall camre twf iaith; a

(b) wrth lunio strwythur polisi a defnyddiau, pan fyddid yn ceisio adfer iaith

drwy ei mabwysiadu fel cyfrwng mewn ysgolion meithrin.

(ii) Ai’r Baban yw athro’r Oedolyn?

Quintilian (O.C. 30/40­100) fu’r cyntaf i amddiffyn yn fedrus iawn ddysgu ail

iaith yn gynnar. Fe’i hatgyfnerthid ef ymhellach ymlaen gan sêr y Dadeni Dysg,

Erasmus a Comenius. Ac fe’u dilynwyd hwy gan Besedov a Pestalozzi; ond erbyn

hynny, roedd gogwydd yr amseroedd yn eu herbyn. Erbyn diwedd y ddeunawfed

ganrif, deuddeg oed oedd yr oedran normal i gyflwyno ail iaith. Ond erbyn diwedd y

bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd y pendil symud gyda rhai yn ei ôl yn sgil y

Dulliau Naturiolaidd ac Union. Ychydig o sylw a roddid i’r fath awgrym ac arfer

oherwydd cyfundrefn geidwadol yr amseroedd. Ac nid tan ganol yr ugeinfed ganrif y

llwyddodd Wilder Penfield (pennaeth yr Adran Niwroleg ym Mhrifysgol McGill) i roi’r

ddadl ar seiliau gwyddonol. Cafwyd chwyldro yng Nghymru yn y cyfnod hwn, a diau

mai huodledd Jac L. Williams ar sail ymchwil Penfield a oedd yn bennaf gyfrifol am

hyn. Dyma’r cyfnod pryd y newidiwyd polisïau ledled y byd ynghylch derbynioldeb a

lles y dysgu cynnar. Yn y cyfnod hwnnw y digwyddodd y chwyldro, a chafodd gryn

wrthwynebiad gan yr Arolygiaeth yng Nghymru.

Gresynai Michael West ym 1959 oherwydd y pwyslais newydd, ac felly Franz

Closset ym 1963. Ond ni theimlid eu bod wedi wynebu’r dystiolaeth, na bod y

dadleuon yn argyhoeddiadol chwaith mewn modd yn y byd. Gwrthwynebiad Piaget

oedd gryfaf. Ond tanseiliwyd ei dystiolaeth ef yn drwyadl gan Lambert. Wedyn, o hyn

ymlaen, cryfhaodd y dystiolaeth yn gyson drwy sylwi ar ymarferoldeb llwyddiannus y

polisi.

Mae Chomsky yn awgrymu bod iaith yn tarddu o frawddegau craidd. Dyma

egwyddor seml. Drwy chwarae â llinynnau sy’n dal yr elfennau adeileddol yn y

brawddegau hyn gallwn ffurfio brawddegau tarddedig. Neu, ag offer tebyg, gallwn

adeiladu brawddegau newydd drwy eu trawsffurfio, drwy ychwanegu brawddeg at

frawddeg neu frawddeg o fewn brawddeg. Neu drwy adrefnu ymadroddion.

Yr wyf yn cytuno â’r casgliad hwn yn gyffredinol, ond anghytunaf ag ef

ynghylch pa beth yw’r brawddegau craidd hyn a sut y’u ceir hwy. Ystyriaf nad yw’r

ffordd y daeth ef o hyd i’w frawddegau craidd yn foddhaol. A cheisiaf egluro’r casgliad

hwn drwy archwilio iaith plant. I mi, tair brawddeg graidd sydd.

Pan ddechreua plentyn siarad, fel arfer, y mae’n dechrau gyda’r ‘frawddeg ungair’.

Os dywed ‘Mam’neu ‘Tân!’, i’m bryd i y mae eisoes drwy sythwelediad a

dynwarediad wedi gwneud camp drwy uno’r ddwy elfen — sain a synnwyr. Cysylltodd

ystyr â sn. Dyna system. Mae hefyd wedi gwahaniaethu rhwng mam a’r gweddill o’r

amgylchfyd drwy unigoli neu arbenigoli yn y meddwl; ac y mae’r un meddwl hwnnw’n

cyffredinoli wedyn, neu’n ailadrodd drwy gysylltu Mam fan yma a Mam fan draw.

Mam heddiw yw hi a Mam yfory. Hynny yw, y mae’r plentyn yn gwahuno. Mae’n

gweld gwahaniaeth ac yn gweld tebygrwydd (uno). Mae’n dadansoddi ac yn

cyfansoddi, yn dirnad ac yn amgyffred. Hefyd, y mae’n casglu angorau neu seiliau i’w

iaith ar gyfer datblygu pellach.

72

Hynny yw, wrth ddysgu geiriau unigol, fel petai, mae’n gwneud mwy na dysgu

geirfa, mae’n gwneud mwy na chyfuno sain ac ystyr, mae’n gosod i lawr gynheilydd

cyntaf y system frawddegol a’r strwythurau sy’n mynd i ddilyn. Ceir tri chynheilydd i’r

frawddeg graidd aeddfed. Dyma ef wedi meistroli’r elfen gyntaf. Y goddrych. Yr enw.

Mae’r gair dechreuol hwn yn gallu sefyll ar ei sodlau ei hun, yn

hunanddibynnol. Mae’n ymadroddi’n llawn, ac nid yn rhan­ymadroddi. Mae’n

gyfarchiad. Mae’n ddisgrifiad mewn gofod. Mae’n frawddeg gyflawn. Ac felly y mae’n

barod ar gyfer y cam nesaf yn natblygiad iaith y baban, pryd yr ychwanegir gair at air

nes cael y ‘frawddeg ddau­air’. Dyma sefydlu perthynas rhwng geiriau. Mae’r enw, sef

y gair hunanddibynnol cyntaf, sy'n sôn am ‘bethau’bywyd, bellach yn uniad newydd ac

yn dod yn rhan ymadrodd. Mae'n un ac un drwy gydsefyll. Ond yr hyn sy’n dod i’r

amlwg yn fuan yn awr yw bod un gair, yr un ychwanegol, yn dibynnu ar y llall, yn

pwyso arno o ran disgyrchiant meddyliol. Mae gan ddau air safleoedd yn eu perthynas

unol â’i gilydd felly, nid yn unig safleoedd allanol yn olynol, ond yn bwysicach

safleoedd mewn perthynas feddyliol, gynieithyddol. Dyma egwyddor eu cydlyniad.

Ar y dechrau — ac yn wir yn barhaol yn y craidd — rm ni’n diffinio hanfod yr

ail elfen frawddegol yn ôl y math o berthynas bwyso sydd rhyngddi â’r elfen

frawddegol gyntaf. Does dim rhaid meddwl amdano o safbwynt iaith yr oedolyn yn

nhermau ‘berf’(sef y rhan ymadrodd sy’n corffori amser, o’i chyferbynnu â’r enw sydd

fel petai eisoes yn corffori gofod). Dichon y cymer beth amser i’r ddelwedd honno o

amser ddatblygu’n glir. Ond o ran perthynas ieithyddol y mae yna eisoes berthynas

ddibynnu sythwelediadol rhwng ‘rhannau ymadrodd’.

Dyma'r ail ran ymadrodd draethiadol, fel y dywedir. Byddwn i eisoes yn barod

i’w disgrifio fel ansoddair neu ferf neu’r genidol weithiau. Ond dyma ‘ffurf’gynnar a

photensial fydd yn dod yn eglur yn y man fel naill ai ansoddair neu fel berf neu’r

genidol drwy ddibyniaeth ar enw. e.e. ‘Cwympodd Twm’.

Wedyn, datblygir y trydydd safle. Y drydedd ran ymadrodd. Trydedd

ddibyniaeth. Y drydedd elfen frawddegol. Y tri ‘gair’. Ond yr un yw'r egwyddor

gynieithyddol. Ychwanegu rhan ymadrodd a wneir i gyflawni’r swyddogaeth benodol

drwy bwyso ar elfen arall. Ond o ran cymeriad, y mae'r trydydd safle’n wahanol beth

gan ei fod yn dibynnu ar elfen frawddegol sydd eisoes yn dibynnu, lle yr oedd yr ail yn

dibynnu ar un a oedd yn hunanddibynnol. e.e. ‘Mae Twm yma’. Mae'r tair rhan

ymadrodd bob un yn meddu ar briodoleddau unigolyddol gwahanol. Dyma yn awr y

cwlwm brawddegol aeddfed cyflawn, yr uned sy’n cynnwys amrywiaeth triphlyg. Y

prif gynheiliaid oll yn un lle yn y meddwl. Nid oes ymestyn ymhellach yn y fframwaith

canolog. Mae'r brics i gyd yn eu lle. Dyna’r holl elfennau brawddegol wedi cwpla. O

hyn ymlaen, chwarae â’r brics (yn ôl trefn), eu datod, eu disodli, eu hailadrodd a wneir.

Esgorir ar is­strwythurau ymadrodd a chymal. Esgor ar is­strwythurau ymadrodd a

chymal. Ond does dim elfennau brawddegol creiddiol neu hanfodol eraill. Byddwn i yn

barod i ddefnyddio term fel ‘Adferf’am y drydedd elfen hon, ond inni lynu wrth y

diffiniad a roddwyd eisoes yma am ei swyddogaeth neu’i safle, sef dibynnu ar

ddibynnwr (fel estyniad goleddfol, ymadrodd weithiau, gwrthrych weithiau eraill.

Hynny yw, gall mai ‘enw’yw yn ôl y term gramadegol arferol, ond oherwydd ei fod yn

dibynnu ar ddibyniaeth, sef ar ferf, cyflawna’r diffiniad Seico­fecanaidd o ‘adferf’) ac

nid ei chymryd yn ganiataol fel gair penodol parod (confensiynol adferfol) megis

‘gynnau, toc, ddoe’ac yn y blaen.

Yn ôl y dull traddodiadol o ddefnyddio’r term ‘adferf’, gallai fod yn enw (e.e.

gwrthrych), yn ansoddair, neu’n adferf. Gennyf i, safle meddyliol yw. Gyda’r adferf yn

73

ei lle, y mae’r gyfundrefn o rannau ymadrodd traethiadol oll yn ei lle yn gwlwm

cyflawn. Dyma bellach fydd asgwrn cefn cyfundrefn y frawddeg hefyd.

Gwelir fy mod wedi lawnsio fy nhrafodaeth ar strwythurau drwy sôn am iaith

plant. Ac nid lle drwg i gyd yw hwnnw.

Ond mae’n rhaid bod yn wyliadwrus. Clywir ambell ddidactegydd, wrth geisio

amddiffyn y ‘dull blêr’o ddysgu iaith, neu’r ‘dull naturiolaidd’fel y’i gelwir, yn cyfeirio

at y diffyg trefn — Hei ho! — sydd gan faban, ac ‘athrawon’y baban, o fynd ati i

ddysgu iaith. Ond go brin fod y beirniaid didactig hyn wedi efrydu cyfundrefnau iaith

plant gyda llawer o gydwybodolrwydd a manylrwydd. Ni sylwasant ar yr hyn a ganfu

Thomas Prendergast (1870) er enghraifft. Gwelodd ef fod y baban yn ymarfer â

phatrymau.

Mae’n wir y gellir dysgu llawer am natur iaith oedolion ac am drefnu ddysgu

drwy efrydu iaith plant. Ond rhaid disgwyl yr annisgwyl, a pheidio â mynd â syniadau

caregedig anystwyth am ‘ryddid’a sylweddoliad rhamantaidd oedolyn yn ôl er mwyn

cymhwyso’n syniadau ôl­ddigwyddiad am blant. Nid ymbalfalu cymharol ddigyfeiriad

yw parabl plentyn. Mae’n graddio geirfa yn ôl ei angen. Mae’n graddio strwythurau.

Mae’n ymarfer â phatrymau, yn disodli, yn cyfnewid, ac yn cyfosod. Darganfod byd am

y tro cyntaf a wna hwn, ac yn anad dim darganfod trefn.

Dywed Chomsky ei fod yn credu bod yna fath o ramadeg cynhenid cyffredinol

y tu ôl i bob iaith. Ond mae’n dra niwlog am hyn. Cyfraniad Guillaume cyn Chomsky

oedd manylu ar hynny a diffinio’r elfennau cynieithyddol sydd ar waith yn cynnal

cyfundrefnau iaith ei hun. Mentrodd Guillaume ddosbarthu ieithoedd y byd yn dri

dosbarth mawr yn ôl y dulliau gwahanol y trinnir yr elfennau cynieithyddol hyn. Ond ni

chafodd ef mo'r un corff o boblogeiddwyr neu’r un gyfundrefn hysbysebu â Chomsky i

wneud ei waith yn fwy treuliadwy gan y sefydliad academaidd.

Beth bynnag, credaf fod iaith plant yn faes academaidd hynod hwylus lle y deuir

o hyd i ffeithiau i gadarnhau’r dehongliad rhyfeddol a gyflwynwyd gan Guillaume.

Eto, bob hyn a hyn fe fyn rhyw ddidactegydd sylwi ar ryw debygrwydd neu

gymeradwyo rhyw ddadl, ar sail cyfochri neu gymharu twf iaith plant â’r drefn o

ddysgu ail iaith. Ac y mae hyn yn ddiau yn briodol ac yn amheuthun pan ddadleuir felly

yn gyfrifol hyddysg ar sail gwybodaeth fanwl yn y maes. Gwaetha’r modd, defnyddir y

gymhariaeth hon weithiau i hyrwyddo rhyw ddull lle nad oes angen gormod o baratoi i

lunio cwrs. Ffwrdd â ni oll! Ymbalfalu. Blereiddio. Mae’r ‘naturiolaeth’yn hyrwyddo

anhrefn. A’r pryd hynny y mae’n briodol tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng y ddau

broses.

Tipyn yn ffug yw’r cyffelybiaethau a wneir yn fynych ynghylch dysgu ail iaith

fel pe na bai’r dysgwr ond yn dysgu iaith gyntaf yr ail dro. Mae’r ddau broses — dysgu

iaith gyntaf a dysgu ail iaith — er llawer o debygrwydd — hefyd yn bur wahanol mewn

rhai arweddau.

1. Oni ddysgir y ddwy iaith yn gyfartal yr un pryd yn gynnar — sy’n ffenomen weddol

brin — mae’r dulliau dysgu’n mynd i fod yn wahanol iawn erbyn cyrraedd yr ail iaith.

2. Does dim o'r un cymhelliad. Cymhellir y dysgwr gan awydd aruthrol i ddeall yr

amgylchfyd ac i ymuno â’r gymdeithas o’i gwmpas yn yr iaith gyntaf. Ni ellir fel arfer

ddisgwyl dim tebyg yn yr ail.

3. Does dim o’r un oriau cyswllt iaith i’r ddwy sefyllfa. Ceir gan y plentyn ‘gyswllt

dysgu’iaith gyntaf sy’n fynych ac yn fras­debyg i bob awr effro sydd ar gael.

4. Mae’r ail iaith yn perthyn fel arfer i oedran ddiweddarach yn natblygiad ymenyddol

y dysgwr.

5. Cyfyd cwestiwn ‘ymyrraeth’yr iaith gyntaf yn y proses o ddysgu’r ail iaith..

74

6. Dysgir un gan un yn fynych gyda’r iaith gyntaf.

7. Bydd y plentyn wrth ddysgu ail iaith wedi meistroli (eisoes gyda’i iaith gyntaf) rai

cyfundrefnau sylfaenol cyffredinol cynieithyddol a defnyddiol a’u cymhwyso at

ieithyddiaeth gyffredinol: e.e. y cysyniad neu’r gyfundrefn waelodol o dri pherson y

rhagenw, rhif (unigol a lluosog), cymharu ansoddeiriau, yr ymwybod o amser a

ddadansoddir gan gyfundrefn y ferf, ayyb. Yn hynny o beth, arbedir llawer o’r ymdrech

a wneir i ddatblygu dealltwriaeth haniaethol anieithyddol bur sylweddol. Does dim

angen dysgu o’r dechrau gysyniadau isymwybodol cyffredin.

8. Mae yna wahaniaeth rhwng disgyblaeth cymeriad oedolyn a disgyblaeth feddyliol

plentyn. Ac nid oes gan y plentyn y fantais o wybod eisoes yn fras sut y mae un iaith

arall yn gweithio yn gymdeithasol — peth o’r peirianwaith, peth o’r defnyddioldeb.

9. Wrth gyferbynnu’r dull sydd gan faban o ennill iaith a’r dull sydd gan oedolyn, mae

yna un gwahaniaeth dirfawr sylfaenol arall. Mae'r plentyn wrth aeddfedu yn symud o

‘gyfundrefn o gyfundrefnau’i ‘gyfundrefn o gyfundrefnau’, o un iaith gyflawn i iaith

gyflawn arall drwy lefelau dysgu: mae’r oedolyn, sydd eisoes yn berchen ar un iaith, yn

meddu hefyd ar y cysyniad o iaith gyflawn ‘derfynol’fel y gellir yn achos ail iaith dyfu

o’i mewn o ran i ran tuag at ddelfryd cyflawn. Rhaid cofio fod y plentyn ar bob cam yn

meddu ar iaith gyflawn i’w defnyddio ar y pryd, ac yn symud felly ymlaen o hynny, o

iaith i iaith. Bob cam o’r ffordd, yr iaith sy ganddo yw’r holl iaith ar y pryd, er mor

annigonol y gall fod iddo. Mae’r oedolyn ar y llaw arall yn gwybod yn strwythurol

ddelfrydol beth yn fras yw natur y nod yn gyflawn ar y diwedd ac mai rhan yn unig yw

pob cam o’r ffordd, rhan sy’n ddatblygol ar y pryd. Does fawr o ddewis strwythurol

gan y plentyn ymhle i ddechrau, a beth sydd wedyn: mae peth dewis gan yr oedolyn.

(Caniatewch gymhariaeth o fyd beirniadaeth lenyddol.

Pan fydd llenor (ar ôl dysgu iaith) yn dechrau ‘dysgu’llenydda, mae yna

draddodiad yn sail iddo eisoes. Datblygodd y traddodiad hwnnw dyweder o'r

chweched ganrif hyd yr unfed ganrif ar hugain, ac ym mhob cyfnod dynol yn ei hanes

yr oedd y traddodiad yn gyflawn. Ar ryw olwg, dyma’i Dafod ar y pryd. Yn y

chweched ganrif yr oedd yn gyflawn ac yn orffenedig ar y pryd, ar ryw fath o ffurf

derfynol, yn gynsail i’r gelfyddyd. Felly yn y bymthegfed ganrif a’r ddeunawfed. Eto, o

ran theori gall y llenor heddiw ddechrau tuag yn ôl a dysgu’r traddodiad llenyddol i’w

ymwybod ei hun yn gyntaf o bosib yn yr unfed ganrif ar hugain, wedyn yr ugeinfed,

wedyn y bedwaredd ar ddeg, wedyn y ddeunawfed ac yn y blaen. Mae yna draddodiad

o draddodiadau gorffenedig ar gael y gall fynd i mewn iddo rywle rywle bron. Ond

does dim dewis ganddo iddo’i hun heddiw ond bod yn yr unfed ar hugain fel man

cychwyn a man gorffen: fan yna, y mae’n dechrau gweld popeth arall.

Da cofio mai iaith o fewn iaith yw llenyddiaeth hefyd. Ac i mi mae’n dechrau

heddiw.)

Pan glywir honiadau gwyllt a gwlithog gan ddidactegwyr fod eisiau dysgu yn ôl

yr un patrwm â’r baban, gwiw cofio’r amodau uchod. Wrth ddysgu oedolion, er

enghraifft, tybed a fwriedir disgwyl a gwrando am naw mis neu ddeg yng nghwmni

oedolion eraill, heb yngan yr un iaith o gwbl, cyn bod yr oedolion newydd hynny yn

dweud eu gair cyntaf, boed ‘mam’neu ‘dad’?

Mae’r hyn sy’n digwydd yn hanes adeiladu strwythurau’r plentyn yn gwbl

arbennig felly ac nid yw’n angenrheidiol o gwbl ei fod yn dilyn yr un ffordd ag a

ddilynir gan oedolyn sydd eisoes wedi cyrraedd y ‘diwedd’mewn iaith arall.

Wrth raddio cwrs i fabanod mewn ysgol feithrin, fe all llawer mwy na geirfa fod

yn arwyddocaol. Diau fod dealltwriaeth gystrawennol hefyd ym mlaen y meddwl.

Cymeraf dri phwynt syml.

75

Yn y broses o adeiladu rhywbeth tebyg i iaith oedolyn, bydd plentyn fel arfer yn

adeiladu’n gyntaf gyfundrefn o gyfundrefnau sydd fel petai dros dro, yn gyfundrefn

blentynnaidd gymharol wahanol. Er enghraifft, yn hytrach na mynd o safle meddyliol o

1 i 3 drwy 2, gall ddechrau drwy adeiladu cyfundrefn ddeuol yn unig sydd o ran

ansawdd yn wahanol i’r 3 terfynol.

Cymerwn dair cyfundrefn ramadegol benodol. Yn gyntaf, graddau cymharol

ansoddeiriau. Sefydlir yn gyntaf y cyferbyniad isradd­uwchradd heb ‘raddio’yn yr ystyr

derfynol. Cyferbynnu amrwd sydd — megis mawr, mwyaf; da, gorau, dyweder: y ddau

eithaf. Ni feddylir yn nhermau cynyddu, eithr yn nhermau cyferbyniol pegynol cyntefig

digon tebyg i ‘bach — mawr’. Dyma gysyniad neu ymwybod hollol wahanol i raddio

cynyddol. Nid yw’n annhebyg i gyferbynnu syml ‘du/gwyn’. Pegynu a geir, ond bod

‘mawr’ynghlwm wrth y cysyniad o faint. Dyma’r sylweddoliad cyntaf, ac eto fe’i

corfforir hefyd mewn dwy gyfundrefn wahanol a geir yn gyfredol yn Gymraeg yn y

diwedd (wrth gymharu’n gynyddol — sef ‘hyfryd, mwy hyfryd, mwyaf hyfryd / hyfryd,

hyfrytach, hyfrytaf.’) Tardda’r cyntaf o’r ddau ddull hyn o’r atgof plentynnaidd

‘bach/mawr’: cyfundrefn blentynnaidd gyferbyniol ddeuol oedd, gyda’r pegynau

eithafol yn ei gynnal. Dibynna ar y defnydd o’r gair ‘mawr’ei hun: mor hyfryd.

Tardda’r ail sylweddoliad triol sy’n gwlwm mwy datblygedig o gyfundrefn ymwybod

graddio yn ôl maint.

Hynny yw, er mwyn ennill cyfundrefn graddau cymharol (cynyddol) ansoddair,

rhaid i’r plentyn yn gyntaf feistroli cymharu pegynau cyferbyniol. Symud o un

gyfundrefn wedi’i meistroli (y cyferbynnu pegynol yn ôl maint) ymlaen i un arall

berthynol (y cwlwm graddol triol yn ôl maint) gyda dechrau, canol, a diwedd: hynny

yw, o 1­3 i 1­2­3.

(Gyda llaw, anwybyddir am y tro y radd gyfartal yn y ffurf gryno, sy’n elfen

hollol Geltaidd, ac sydd heb berthyn i’r tair gradd gynyddol, ac nad yw ond yn arwydd

sy’n dynodi nad yw’r cymharu yn symud cam ymlaen ond hytrach yn aros yn yr unlle.)

Yn ail, tri ‘pherson’y rhagenw. Mewn gwirionedd, dechreua’r gyfundrefn o

‘berson’i’r plentyn gyda’r trydydd person yn hytrach na’r person ‘cyntaf’, sef echel

pob ymwybod o ofod ac o amser. Ar ryw olwg, nid yw’r trydydd person ar y pryd yn

berson ‘rhagenwol’ond yn wrthrych, yn beth (yn enw) fel pethau eraill. Dywed,

‘Lowri’amdani hi ei hun. Nid oes ymwybod o hunaniaeth. Enwir fel enwi enw. Nid

oes ymwybod o safle’r goddrych wyneb yn wyneb â phawb arall. Bydd hynny’n

sylweddoliad arall a ddatblygir maes o law. Mae’r cam cyntaf yn gam deuol, sy’n

sylfaen wrth gwrs i’r gyfundrefn ragenwol ond sy’n dal heb gyfundrefnu’n rhagenwol.

Dau safle sydd yn y meddwl gyda’i gilydd: nid tri dimensiwn sydd, nid ymwybuwyd â

hynny eto. Lowri/fi — dyna'r darganfyddiad mawr cyntaf yn y gyfundrefn hon. Mae’r fi

yn brofiad a ranna maes o law â phobl eraill o’i hamgylch. Y mae fi yn ddarganfyddiad

o safle mewn gofod sy’n corffori’r ymwybod o feddiannu gofod. ‘Enw­rhagenw’,

dyna’r gyfundrefn blentynnaidd gyntaf o gyferbyniad: peth mewn gofod heb ei

feddiannu, peth mewn gofod wedi’i feddiannu. Nid eir eto at dri dimensiwn gofod y

rhagenw datblygedig nes ennill y gyfundrefn peth/person. Cam mawr yw’r un oddi

wrth ‘Lowri mynd. Lowri gwneud’i ‘Fi mynd. Fi gwneud’. Rhaid cyffredinoli. Dim

ond un Lowri sydd ar y dechrau: ceir lluosedd o fi. Mae’r rhagenw ‘fi’yn meddiannu’r

gofod mewn modd arbennig: dim ond bod mewn gofod o ran ymdeimlad y mae’r enw

heb ei feddiannu. Perchen yw ‘fi’. Cysyniad aeddfetach yw na’r gwrthrych ‘Lowri’.

Ac yn drydydd, ystyrier cyfundrefn y rhannau ymadrodd traethiadol: sef ‘enw,

berf/ansoddair, adferf, (tra phwysig yw cofio diffiniad yr olaf, sef y dibynnwr sy’n

pwyso ar ddibynnwr, y drydedd berthynas mewn cyfundrefn: o’r herwydd cynhwysa’r

76

gwrthrych yn ogystal â bod yn air sy’n goleddfu berf mewn amser a lle, a.y.b). Dyma

sylfaen cyfundrefn y frawddeg aeddfed, ac felly mae’n un o gyfundrefnau mwyaf

arwyddocaol yr isymwybod dynol. Cymerwch y cam cyntaf yn ei ddatblygiad o’r

frawddeg ungair i’r frawddeg ddeuair, o’r Enw i’r Enw + Berf. Yn awr, ychydig o

frawddegau i oedolion sy’n ddigonol, hyd yn oed ar y dechrau, ac sy’n ymarferol o

fewn adeiladwaith y frawddeg ddeuol. A chan fod yr oedolyn yn meddu ers tro ar

fframwaith triol aeddfed mewn un iaith, ni bydd y cam cynnar unionsyth at y

gyfundrefn driol yn ormod o straen. Yn achos y plentyn ifanc, gall fod yn ddoeth

chwarae o gwmpas y deuol am fwy o amser.

Wedi dweud hynny a dangos y gwahaniaeth rhwng dysgu iaith gyntaf a dysgu

ail iaith, gwiw ychwanegu fod yna debygrwydd wrth gwrs rhwng oedolion a phlant

bach a bod yna rai gwersi amlwg y gellir eu dysgu, gwersi sydd a wnelont â hanfodion

dysgu unrhyw iaith. Mae yna drefn mewn dysgu iaith gyntaf hyd yn oed yn ‘naturiol’.

Mae’n amlwg fod rhif lluosog (enwau, berfau, ayyb) yn dilyn unigol — o leiaf yn

sylfaenol felly. Mae’n amlwg hefyd fod gradd gymharol ansoddair yn dilyn

dealltwriaeth o leiaf o’r radd gysefin. Hynny yw, y mae graddio’n digwydd yn anochel

bob amser. Ond un o’r darganfyddiadau annisgwyl a wneuthum i wrth efrydu iaith fy

mhlentyn cyntaf (ac nid oedd yn ddarganfyddiad gwreiddiol gan fod eraill wedi’i

wneud o’r blaen) oedd sylwi, a hynny wrth gofnodi pob peth mewn rhediad cyfan yn

lleferydd plentyn am ddiwrnod ar ei hyd fod yna rywbeth tebyg i Ymarfer â Phatrymau

(Pattern Practice) wedi datblygu’n gynnar yn nhwf iaith fy mhlentyn fy hun. Wrth

gofnodi’i hiaith ar dwf, yr hyn a oedd yn bwysig i mi, dybiwn, oedd cofnodi

ymddangosiad pob sain newydd, pob darn o eirfa newydd, pob morffem a chystrawen

newydd. Ac yn sicr, diddorol oedd sylwi ar y graddio geirfa yn ôl ymateb pragmatig a

synhwyrau. Ond yr oedd pwnc diddorol trefn yr ‘ymarfer’strwythurol yn codi yn

annisgwyl hefyd. Ymarfer deall yn ogystal ag ymarfer â’r deunydd. Ceid ailadrodd

patrymau oherwydd math o ddathlu darganfyddiad, ac nid fel practis dysgu.

Dylwn nodi beth oedd cymhelliad casglu’r dystiolaeth honno. Cefais yr awgrym

yn y Pedagogical Seminary and Journal of Genetic Psychology (1930). Yn y fan yna

cafwyd cofnod ar ffurf rhediad cyfan o un diwrnod o lefaru. A phrofodd yr olyniaeth

gyflawn yn y fan honno fod yna faterion eraill i sylwi arnynt heblaw geiriau neu

bwyntiau gramadegol arwyddocaol.

Y darganfyddiad pwysicaf a wnaethpwyd oedd bod y plentyn yn ymarfer â

phatrymau mewn modd digon tebyg i’r hyn a geid yn y dechneg fodern wrth ddrilio

ail iaith. Ceir ymdriniaeth swynol ar hyn gan Ruth Hirsch Weir (1962) yn ei llyfr

Language in the Crib, llyfr sy’n allweddol wrth astudio rhediadau neu gyfresi

brawddegol. Fe’i rhagflaenwyd hi yn y mater yma gan Vinegradov (1930) a

Chukovsky (1956), ond eiddi hi yw’r ymdriniaeth safonol yn y Gorllewin. Dywed hi,

‘The child finds great joy in practising his discovery that linguistic units can be

combined freely up to a point, but subject to rules which he is exploring’. Ac eto: ‘the

pleasure of play is structured so that it serves as a linguistic exercise’. Yn y diwrnod a

gofnodais i gyda chymorth fy ngwraig ceid amryw enghreifftiau o’r ffenomen yna,

deuent yn amlycaf pan fyddai’r plentyn ym ymson yn hytrach na phan fyddai’n

ymddiddan â rhywun arall. Dyma un enghraifft o gyfres o gwmpas ‘gwella’:

gwella.

helpi ti gwella.

toi a toi a toi. (troi)

debig i gwella.

77

llwy i wella ti.

llwy i ti ga’l gwella.

Ychydig o frawddegau’n ddiweddarach

wate (chwarter) wedi sais.

wate wedi deg.

wate wedi gloch.

Yn aml, nid yw’r ailadrodd mor syml amlwg â hyn, a cheir cydblethu o fwy nag un

thema o fewn rhediad megis yn y gyfres fach hon. Nodir y themâu a gyflwynir (drwy

danlinellu) ac a ailadroddir drwy rifo.

isie mind at mami dadi. (i)

isie mind i weld Nana. (i)

na ceige (creigiau) dadi.

disied fach y de i fe mami.

isie mind i Ba­i mami. (i)

nawl mami. (ii)

nawl mami fach. (ii)

isie mynd nawl mami. (i, ii)

dich a blode (iii, iv)

dim ond ca’l dwl miwn i botel. (v)

blode miwn bach. (iv, v, vi)

in bach alall. (vi)

dich a nw. (iii)

wel wel.

ta ta.

blode bach. (iv, vi)

dich a doi blode bach. (iii, iv, vi)

sichi cot.

na bet yw nw nawl mami. (vii)

na bet yw honna ni. (vii)

cel mami a inwes (unwaith) mami. (viii, ix)

cel a nonsens fel hin. (viii)

cel mami fan na (viii, x)

fi si fan hyn.

cel fan na mami a inwes. (viii, x, ix)

cel man na mami. (viii, x)

dim on mind a blode oi nw silff ben tân mami.

cel man na mami. (viii, x)

Sylwer fel y gall plentyn gydio mewn patrwm, ymadael wrth bractisio, ac yna

dychwelyd, ac wedyn ailadrodd. Dyma dechneg dysgu sylfaenol.

Heblaw’r ailadrodd amlwg, sylwer ar yr adeiladu cynyddol llai amlwg:

e.e. i / ii i, ii / iii, iv / v iv, v, vi / iv, vi / iii, iv, vi / vii, viii, ix / viii, x / viii, x, ix

Mae hyn yn enghraifft, gellid ei feddwl, o gyfres gadwynol, fel y’i disgrifiwyd

gan Vygotsky:

78

a dynamic, consecutive joining of individual links into a single chain ... The

decisive attribute keeps changing during the entire process. There is no

consistency in the type of the bonds or in the manner in which a link of the

chain is joined with the one that precedes and the one that follows it.

Cafwyd y dyfyniad hwnnw gan Dr Weir; ac yn yr un lle y mae hi’n cyfeirio at barau

cydberthnasol o frawddegau y bu Steinitz yn ymdrin â hwy, yn arbennig wrth drafod

barddoniaeth werin, pethau tebyg i’r rhai hyn a nodais i.

e.e.

dadi wedi sgwenni a pilw glân.

paid â sgwenni a pilw glân.

e ma e pensil ti?

ble ma pensil dadi oi mentig ti mami?

sgwenni naw neid heste. (rhestr)

dich. neid heste i gid.

fi wedi sgwenni fe.

na fe. wedi sgwenni mwy.

hala hwnnw i Helez Ann a gweid dioch yn faw Hef Ann.

hala hwnnw twy post.

Ac yn y blaen. Ceir llu o enghreifftiau o’r math hwn.

Ceir hunanhyfforddi ar lefelau eraill hefyd. Yn seinegol nid oes rhaid chwilio

lawer: ‘isio caca mami. im on mefwl — mefwl isio caca. wy’n gwbo ‘meddwl’.

isio ca’l peien (peren). isio ca’l Peio (Pero) (chwerthin oherwydd y chwarae ar eiriau).

Peio hwnna (am beren). dioch yn fawl Peio. e ma mwswl i mami? mwthol. mwsol.

mwthwl.’

Dosbarth pwysig o rediadau, yn ogystal ag o frawddegau unigol, yw

Dyfyniadau. Gellir dosrannu’r rhain yn ddau brif fath:

A. Adlais unionsyth o frawddegau rhydd a lefarwyd gan oedolion: hepgorwyd y rhain

yn gyfan gwbl o gofnodion y diwrnod gan R. M. J. ysywaeth. Perthyn i’r rhain, wrth

gwrs, y mae’r adlais llai uniongyrchol, mewn geirfa ac mewn cystrawen; ac fe all hyn

ddigwydd o fewn munudau, o fewn oriau, neu o fewn diwrnodau i’r tro y clywyd y

peth yn gyntaf. I raddau, mae’r holl iaith yn perthyn i’r categori yma.

B. Adlais llenyddol

a. caneuon (i) llythrennol, (ii) wedi eu cymhwyso.

b. storïau (i) llythrennol, (ii) wedi eu cymhwyso.

Yn y diwrnod a gofnodwyd gellir sylwi ar y rhai canlynol sy’n adleisiau

‘llenyddol’:

1. Pwtyn, Norah Isaac, ‘a'i dwylo ym mhocedi ei ffroc felen hardd ac yn teimlo’n unig

iawn, iawn.’

2. Hanes Meistres Tigi­dwt, Beatrix Potter, (am frat) ‘pletiodd y ffriliau i gyd. ‘O, y

mae'n brydferth!’ ‘ei chap yn ffriliau gwyn.’ (cyfuniad)

3. cân; ‘Oes gafr eto?’ (cymhwysiad)

4. Hanes Pwtan yr Wningen, Beatrice Potter, cymeriad o’r enw Meistr Morus Huws.

5. cân ‘Mynd drot drot.’(peth cymhwysiad ar y diwedd)

6. hwiangerdd, ‘Sionyn o Langybi.’(Ail Lyfr Hwiangerddi)

7. Pwtyn, ‘Dau ffrind annwyl yw Pwtyn a Nan. Bydd y ddau’n sefyll gyda’i gilydd yn y

beudy i edrych ar Seilas y gwas.’

8. Pigw Pic, Norah Isaac, amlinelliad bras o ran o’r stori heb ddyfynnu.

79

9. cân, ‘Hylo, meddai fe.’

10. Hanes Meistres Tigi­dwt, ‘Pwy ydych chwi? meddai Lowri.’

11. Hanes Meistres Tigi­dwt.

12. cân ‘O Mari, Mari cwyd.’

13. Wmffre a Winnie, R. Gerallt Jones, ‘gan chwilio am gysgod rhag y gwres.’

14. hwiangerdd, ‘Mae gennyf dy cysurus.’

15. hwiangerdd, ‘Robin Goch ar ben y Rhiniog.’

16. hwiangerdd, ‘Bachgen bach o Felin­y­wig.’

17. Hanes Meistres Tigi­dwt, ‘a chuddio’r agoriad o dan garreg­y­drws.’

18. Pwtyn, ‘tair iâr yn pigo’r llawr am fwydach.’

19. pennill, ‘Nos da i gyd’(Ail Lyfr Hwiangerddi) cymhwysiad

20. Meistr Morus Huws. (gw. 4)

21. Hanes Meistres Tigi­dwt, ‘Snwff, snwff, snwff, meddai ei thrwyn bach du; winc,

winc, meddai ei llygaid wedyn ... yn lle bod gwallt crych melyn fel yr oedd gan Lowri

— PIGAU oedd gan y creadur bach yma.’

22. hwiangerdd, ‘Iâr fach bert.’

23. hwiangerdd, ‘Siôn a Siân a Siencyn.’

24. Pero, Dyddgu Owen, ‘y cathod bach yn y paent’ynghyd â chrynodeb o rai

pwyntiau yn y stori.

25. Pwtyn, (gw. 7)

26. cân ‘Dic doc, gwrandewch ar y cloc, draw ar y twr yn canu.’

27. hwiangerdd, ‘Sionyn o Langybi.’(gw. 6)

28. cerdd, ‘Y Wiwer’(Pethau Tlws, Mary Wynn Meredith)

29. Pwtyn (gw. 7) ‘Pwtyn fydd ei enw ... Aeth yn syth i ddweud wrth Twpyn, yr asyn.

Ac ‘roedd Twpyn yn falch iawn hefyd. Cododd ei ben a chanu ar dop ei lais nes dihuno

pawb. Erbyn hyn ‘roedd Pero’r ci wedi dod allan i eistedd yn yr haul. Rhedodd Nan

ato a sibrwd y newydd da yn ei glust.’

30. Pwtyn — dim ond cais am stori.

31. Hanes Meistres Tigi­dwt — dim ond cais am stori.

32. Jams yr Injan Goch.

33. Pigw Pic — dim ond cais am stori.

34. Pero — dim ond cais am stori.

35. Hanes Meistres Tigi­dwt: ‘Rhyw dro yr oedd geneth fach o’r enw Lowri yn byw

mewn ffermdy (sic) o’r enw Y Dreflan. Yr oedd yn eneth fach dda — ond ei bod yn

colli ei hances poced o hyd ... A welsoch chwi hwy, Tabi’r Gath Fach? Dal i olchi ei

phawennau gwynion a wnaeth y gath fach ... Sali’r Iâr Sosi, a ddaethoch chwi o hyd i

dair hances poced? ... Carlamodd ar hyd llwybr bach serth — i fyny ac i fyny ...

Rhoddodd Lowri gnoc ar y drws — unwaith, dwywaith, a thorrodd ar y gân ... a beth

ddyliech chwi oedd yno oddi mewn i’r graig? — cegin lân a hardd gyda llawr cerrig a

thrawstiau pren ar y tô (sic) yn union fel unrhyw gegin­fferm arall ... bach oedd popeth

yno.’

36. h.y. ymyrraeth yn 35. Pwtyn, ‘Mae’n sefyll a’i dwylo ym mhocedi ei ffroc felen

hardd ac yn teimlo’n unig iawn iawn.’(cf. 1).

Dengys hyn yn eglur gymaint o fudd yw ‘llenyddiaeth’, os oes eisiau ei

ddangos, i ddarllen storïau nid yn unig wrth ledu geirfa ond wrth roi hyder i siarad.

Wedi crynhoi fel hyn y cyfeiriadau a weodd hi i mewn i siarad y diwrnod, yr

oeddem wedi synnu’n ddirfawr. Ni bu'n bolisi ymwybodol gennym i’w hyfforddi’n

arbennig mewn hwiangerddi a storïau, ar wahân i’r canu a’r adrodd stori naturiol sy’n

rhan o fywyd rhieni. Ond gellid casglu o gynnyrch y diwrnod mai da fyddai mewn

80

ysgol feithrin (iaith­gyntaf neu ail­iaith) ddefnyddio detholiad cyfyngedig o hoff

hwiangerddi a storïau’r plant a’u hadrodd drosodd a thro nes bod y rhannau sy’n

apelio yn mynd yn rhan o gynhysgaeth cof y gwrandawyr bychain.

Elfen bwysig arall y mae Dr Weir yn sylwi arni yw’r elfen ddramatig, y ffaith

fod y plentyn yn chwarae ag ef ei hun, yn gwestiynwr ac yn atebwr, yn athro ac yn

ddisgybl. Ac ynghlwm wrth y ffaith hon y ceir nifer helaeth o hunanorchmynion, sy’n

arwedd ar y llefaru mewnol wedi ei ynganu, peth a aeth â bryd Vygotsky. Dyma

enghreifftiau o’r duedd ddialogaidd:

wyt ti wedi ca’l dolil?

na dw. ydw.

ble ma Lowli?

a bwys mami a dadi.

ydi? eit a eit.

Ambell dro fe fydd y doliau yn ymddwyn fel carreg adlais neu gyd­actorion yn y

dramâu hyn. Rhan oedd yr astudiaethau hyn, a’m tipyn astudiaeth i, o newid gogwydd

yn hanes dysgu ail iaith yng nghanol yr ugeinfed ganrif.

Yn ystod y deng mlynedd rhwng 1955 a 1965, fel y nodwyd, fe

weddnewidiwyd syniadau’r byd academaidd am yr oedran iawn i ddechrau dysgu ail

iaith. Dr Wilder Penfield, oedd efallai’r prif awdurdod yn y byd ar y rhan o’r ymennydd

sydd yn ymwneud â llefaru. Yn ei farn ef, roedd y mecanwaith siarad yn aeddfedu ar

oedran arbennig, fel y mae’r mecanwaith rhywiol yn aeddfedu adeg adolesens. Perthyn

i flynyddoedd cynnar bywyd, yn briodol, mae’r gwaith o ddysgu siarad, ac fe

adeiladwyd yr ymennydd yn gyfatebol. Os digwydd rhai niweidiau i’r mecanwaith hwn

yn gynnar iawn, fe all plant ddysgu siarad yn rhugl eto am eu bod heb basio’r oedran

addas; ond ansicr iawn yn aml yw’r fath ddysgu yn achos oedolion. A dyma sylw Dr

Penfield yn ei lyfr ar y mater:

Suppose a government, anxious about over­population, were to pass a law that

marriage must wait until the age of forty ... Such a law, you may well say,

would be contrary to the unfolding nature of men and women. But the same is

true of a school curriculum in which the teaching of secondary language makes

its first appearance at 12 or 16 years of age.

Mae tystiolaeth i’w chael yngln ag agweddau eraill ar adeiladwaith corfforol

plant. Meddai George Taylor wrth drafod y dysgu cynnar yn Leeds:

If Dr Tomatis, the ear, nose and throat consultant in Paris, is correct in

his belief that after the age of ten it is difficult to acquire a perfect

accent and intonation in a foreign language because learners are

incapable of losing their own speech system when they use another

language, then it would appear that there is urgent need to review

present practices in both primary and secondary schools.

Dyna enghreifftiau o’r farn ffisiolegol o blaid dysgu cynnar. Yr ail ddosbarth o

bobl y dylid cyfeirio atyn nhw yw’r seicolegwyr. Eu tyb hwy yw bod ‘adolesens’,

oherwydd cymhlethdodau teimladol, yn oedran anaddas ar gyfer ennill iaith newydd, a

bod ysgogiadau a diddordebau plentyn ifanc iawn yn barotach ar gyfer y broses hon.

Meddai Huse

The grown person has too many thoughts, too complicated thoughts;

he lives in a world of too many differentiations ... An educated adult

may have a vocabulary of tens of thousands of items, a baby one or

two. It is not enough to duplicate a part of one’s vocabulary in any one

81

field; the very existence of the additional concepts and distinctions

causes interference, creates inhibitions, starts the speaker on paths and

into areas in which he gets lost, and destroys fluency and ease.

Dyma i chi’r hyn a ddywed Langer hithau ar yr un pwynt:

There is an optimum period of learning and this is a stage of mental

development in which several impulses and interests happen to

coincide: the lalling instinct, the imitative impulse, a natural interest in

distinctive sounds, and a great sensitivity to “expressiveness”of any

sort. Where any of these characteristics is absent or is not synchronised

with the others, the ‘linguistic intuition’miscarries.

Y trydydd dosbarth o bobl, yr hoffwn i gyfeirio atyn nhw, sy’n cefnogi dysgu

cynnar yw athrawon profiadol ac ymarferol. Hyd yn hyn, dw i wedi bod yn cyfeirio at

farn personau y tu allan i Gymru; ond er bod llawer o athrawon hefyd, o’r tu allan i

Gymru, yn gefnogol dros ben i ddysgu cynnar, fe hoffwn dynnu sylw’n neilltuol at farn

athro o Gymro a gafodd brofiad hynod mewn un ardal arbennig ac ar gyfnod go

eithriadol yn ein hanes. Mae’n debyg bod llawer yn gwybod am y cyfnod nodedig

hwnnw yn hanes y Rhondda pryd y chwyldrowyd am ychydig o flynyddoedd holl

ddirywiad y Gymraeg yn y cymoedd hynny. Cyfnod go od, ond hynod o galonogol,

pryd, o dan arweiniad cyfarwyddwr dewr o weledigaeth, y llwyddwyd i sefydlu

cyfundrefn addysg Gymraeg, o leiaf am gyfnod byr. Dyma i chi Tom Jones, Trealaw,

un o’r athrawon yn y cynllun, yn sgrifennu yn 1930:

Yr unig awdurdod addysg hyd yn hyn a gynigiodd wneuthur trefn ar

ddysgu’r Gymraeg yn Ysgolion y Babanod yw’r Rhondda.

Penderfynodd Pwyllgor Addysg y Rhondda yn 1926 wneuthur y

Gymraeg yn gyfrwng hyfforddiant (medium of instruction) Ysgolion y

Babanod tan ei oruchwyliaeth. Y mae’n rhaid cydnabod bod y cam hwn

yn beth newydd a chwyldroadol yn hanes dysgu’r Gymraeg yn ysgolion

dyddiol Cymru, ac nid yw’n rhyfeddod i’r fath benderfyniad godi storm

o wrthwynebiad. Yn ôl safonau’r ieithegwyr, yr oedd y peth yn

anhygoel ac yn hollol groes i farn dysgedigion ar fater dysgu’r ail iaith

ar y pryd, am mai un o erthyglau’r wyddor honno oedd na ddylid dysgu

ail iaith i blant tan naw oed, chwaethach eu harfer fel cyfrwng

mynegiant ... Y mae’n rhaid cofio hefyd fod yr ysbryd Cymreig yn

cerdded yn drwm drwy’r Rhondda yn y blynyddoedd hynny, a

phetasai’r Cymry wedi eu trefnu yn un corff organaidd, byddai’r

Rhondda wedi gwneuthur patrwm y byddai’n rhaid i’r holl wlad ei

efelychu.

Ond ar waethaf yr holl wrthwynebiadau, fe wnaethpwyd arbrofion

llwyddiannus mewn nifer o ysgolion, ac fe brofwyd y tu hwnt i bob

amheuaeth y gellid cwmpasu’r broblem o ddysgu Cymraeg yn Ysgolion

y Plant Bach pan geffid athrawon yn barod i ymgymryd â’r gwaith gyda

brwdfrydedd a gweledigaeth eglur ...

Yr wyf i wedi cyfeirio at dri math o dystiolaeth sy’n cefnogi’r datblygiad

diweddar i ddysgu’r ail iaith yn gynnar, sef tystiolaeth ffisiolegol, tystiolaeth seicolegol,

a thystiolaeth ymarferol. O ganlyniad i drafodaethau o’r math yna, mae yna gynnydd

arwyddocaol mewn dysgu cynnar ar hyd a lled y byd. Yn Unol Daleithiau America tua

dechrau’r chwedegau fe dyfodd yr hyn a elwid yn nodweddiadol iawn yn F.L.E.S., sef

‘Foreign Language in the Elementary School’. Ond does dim rhaid edrych y tu allan i

82

Gymru, gan fod datblygiadau gwych a chwbl syfrdanol wedi digwydd ym mhob rhan o

Gymru erbyn hyn. Y maent yn digwydd o hyd.

Mae’n debyg gen i y cawn ni weld cynnydd parhaol yn y duedd hon yn ystod y

blynyddoedd nesaf. Gorau po fwyaf y gallwn rannu profiad a chymharu syniadau ar y

ffordd i’w gwneud yn llwyddiant proffesiynol a graddedig, ac yn llwyddiant cwbl

hanfodol ac ysgubol yn nyfodol yr iaith. Mae gen i ffydd mai yn y fan yna y daw peth

o’r waredigaeth i’r Gymraeg, er bod yr ysgolion uwchradd yn ddyfal yn anwybyddu un

(gyda chwalfa’r dystiolaeth Gristnogol) o ddau ddigwyddiad pwysicaf Hanes Cymru yn

ystod y chwe chan mlynedd diwethaf, sef adeiladwaith seicolegol ond cyson yn yr

agweddau iselraddol ynghylch iaith a hunaniaeth. Rhan bwysig o addysg plentyn yw

gwybod am hyn. Rhan o’i fywyd yw. Dichon mai peidio â gwybod hyn sy’n cyfrif pam

y teifl plant eu gwybodaeth o’r iaith ar ôl ymadael â’r ysgol.

Gellir casglu’n naturiolaidd fod pob baban yn dysgu rhyw fath o strwythurau

ieithyddol o’r dechrau, fod yna elfen o ymarfer yn y dysgu, a bod yna drefn olynol yn

nhwf y dysgu. Adeiledir y dysgu hwnnw ar gyfer trafod pob sefyllfa. Ac mor amrywiol

a chydlynol yw’r sefyllfaoedd emosiynol a gwrthrychol hynny a drafodir fel y mae’u

rhestru hwy yn ffwythiannol fanwl yn gwbl artiffisial yn aml. Ac eto, fe’u dysgir hwy

mewn cyd­destun ymddiddan dros gyfnod dwys o gyfathrebu un­ac­un.

Gellid gwneud hyn o gasgliad, felly, ynghylch theori trefn dysgu’r plentyn ifanc.

Cydberthynas yw iaith. Nis ceir ond pan fydd dwy (neu dair) elfen ieithyddol o ryw

fath yn ymuno i greu cyfundrefn — undod yn cynnwys amrywiaeth. Trefn yw ynghyd â

phrofiadau. Dechreuir, y mae’n wir, gyda’r hyn y gellir ei alw’n frawddeg un­gair: sef y

cyfuniad o sain a synnwyr. Yna, symudir ymlaen yn frawddegol i gydberthynas

frawddegol bwysig arall, sef y frawddeg ddau­air (neu ddwy elfen), gydag un gair yn

pwyso ar air arall. Ac ymlaen i’r tri gair (neu’r tair elfen). A dyna’r tair brawddeg

gyfansawdd lawn sylfaenol. Tair brawddeg graidd Seico­Fecaneg, sy’n cael eu hestyn

drwy gyfundrefnau cyffelyb yr ymadrodd a’r cymal.

Nid anghywir honni a chasglu felly mai ar ramadeg y frawddeg y seilir

gramadeg y gair. Nid oes gair aeddfed dynol heb ramadeg. A’r un pryd, wedi

darganfod natur ramadegol y gair yr esgorir ar ‘iaith’ddynol. Ac yn y golwg, mae

gair, yna gair a gair, yna gair a gair a gair yn gwneud brawddegau, gyda’r eirfa wedi’i

graddio.

Felly, gan bwyll, y gwneir darganfyddiadau cynnar eraill ar ôl darganfod y

cyswllt rhwng sain a synnwyr, megis y darganfyddiad pwysicach byth:

A maes o law:

geiryn syniadol moel

ynghyd â chyfundrefnau eraill megis

gair gramadegol

unigoli

cyffredinoli

gofod

amser

Pe gofynnid i mi beth oedd y chwyldro mwyaf a phwysicaf ym myd dysgu’r

Gymraeg yn ystod yr ugeinfed ganrif, yr wyf braidd yn sicr y byddai’n rhaid i mi hawlio

83

mai Dysgu Cynnar oedd. Sef Ysgolion Meithrin. Ni bûm erioed yn athro Meithrin, ond

ymwelais â llawer o ysgolion, darllenais yn helaeth iawn yn y maes, a bûm yn dad i

blant bach ac ymchwilio’n fanwl ar iaith un ohonynt. Wrth geisio disgrifio ychydig ar y

gwaith mewn Ysgolion Meithrin, felly, sylwedydd braidd yn wrthrychol a hynod o syn

sy’n ymgymryd â’r dasg.

Yr egwyddor gyntaf, yr egwyddor iachus ac annisgwyl a’m trawodd i oedd nad

stwffio IAITH oedd y man cychwyn. Camgymeriad yw tybied mai’r unig reswm a’r

unig fusnes i’r plentyn bach di­Gymraeg sy’n dod i’r ysgol feithrin yw dysgu iaith.

Anghywir yw ceisio ymgyfyngu i weithgareddau sy bob amser yn talu’n ôl yn nhermau

iaith. Fe ddylai rhan o’r gwaith yn sicr fod yn weithgaredd nad oes dim angen iaith ar ei

gyfer o anghenraid, oherwydd mae’r plentyn yn blentyn cyn iddo agor ei geg.

Ymarfer ei aelodau drwy chwarae ar yr offer deniadol, ymhél â’r teganau, ac

â’r t bychan, trafod y defnyddiau cyffredin fel clai, tywod, dwr, a phrennau, gwisgo

(ei hunan a’r doliau), arlunio, a pheintio: mae’n wir y gellid cyfuno’r rhain oll ag iaith a

dysgu geirfa a chanu. Ond ar fy ngwir fe ellid ymwneud â nhw hefyd heb dorri’r un

gair: boed felly yn aml.

Yr ail egwyddor yw bod yr athrawes yn ymhél â’r un offer ei hun o dro i dro,

gan dynnu sylw cynifer o blant ag sy’n bosib iddynt, — fel ‘esiampl’. Hynny yw, gall yr

athrawes gyfuno elfennau’r chwarae rhydd â rhai o elfennau’r iaith. Ac felly, mae ei

chwarae hi yn batrwm i chwarae’r plant.

Sylwn, wrth astudio Cynllun Morgannwg i Ysgolion Babanod yn 60au’r

ugeinfed ganrif, fod athrawesau profiadol y Cynllun yn sgyrsio am y modd y maen

nhw’n defnyddio’r offer amrywiol er mwyn cyflwyno ychydig o iaith mewn sefyllfa:

(i) Teganau: cysylltir y doliau â’r dodrefn (drwy eistedd, gorwedd, enw’r dodrefn,

gwely, ayyb) â’u gweithgareddau personol (neidio, chwerthin), â dillad, â gwaith t,

(coginio, sgleinio ayyb), â rhannau’r corff.

Awgrymir sgyrsiau syml ac ailadroddol (yn fynych) am bob un o’r sefyllfaoedd

cyfarwydd hyn yn eu tro, yn ogystal â dialogau a phenillion bach, caneuon actol a

rhigymau actio.

(ii) Bwrdd: prydau (llestri, bwyd, bwyta, golchi); a’r uchafbwynt yw parti.

(iii) Bwrdd Gwlanen: defnyddir hwn ar gyfer adolygu sefyllfaoedd y teganau a’u

cyflwyno mewn ffordd wahanol.

(iv) Clai, torri papur, tywod, dwr: dyma elfennau eraill ar gyfer CHWARAE prydau

bwyd — deunydd i lunio llestri a bwyd ac i ddarparu diod.

(v) : rhydd hyn fodd i adolygu eto sefyllfaoedd y Teganau a’r Bwrdd.

(vi) r: Pwrpas arall ar gyfer dwr yw i ddysgu am fesur ac am nodweddion hylif.

Yn yr holl achosion hyn y mae’r athrawes yn trafod yr offer y bydd y plant yn

eu defnyddio, a hynny fel esiampl i’r plant, gan ymddiddan ynghylch gwrthrychau a

gweithgareddau cyffredin.

Dyma amlinelliad o fath o chwarae cymharol rydd nas ceid ar y pryd yng

nghynllun Sir Gaernarfon ar gyfer yr un oedran a’r un angen. Ar y llaw arall, mae’r

storïau darluniol a geid yng nghynllun Sir Gaernarfon yn darparu elfen werthfawr nas

ceid gan Forgannwg.

Mae’n ddiddorol iawn cymharu’r cynlluniau hyn â chynllun Ellen Evans yn

1926 gynt, ac ystyried ym mha gyfeiriadau mae yna welliannau. Yr un dull a geid

ganddi hi — dull unieithog, sefyllfa a sgwrs a chân — mae hyn, mi gredaf, yn anochel

yr oedran yma. Fel ysgolhaig hyddysg yn ei chrefft yn ogystal ag fel menyw a garai

blant, roedd Ellen Evans yn anelu at gwrs hapus ymarferol. Ond roedd hi’n byw mewn

cyfnod pryd y credid y dylid pentyrru geirfa, mai twmpathau llethol o eiriau oedd

84

llawer o’r gwaith o ddysgu iaith ar y dechrau. Felly, roedd plant bach Heol Gladstone,

Y Barri, yn gorfod dysgu’n bur gynnar eiriau fel glas y llwyn, blodyn y gwynt, pwrs y

bugail, benfelen, llygad y dydd, llydan y ffordd, bwyd y broga, ayyb, a’r athrawes yn

arllwys ‘diwylliant’am eu pennau o fwcedi dyfnion. Yn hyn o beth mae’r cynlluniau

diweddarach yn rhagori: gwir fod Morgannwg yn sôn braidd yn amherthnasol i’r

oedran yma am gloc wyth­niwrnod, cloc y gwcw, y cloc bach i ferwi wyau a’r deial

haul; ond at ei gilydd daeth Morgannwg wedyn yn bur gynnil yn ei geirfa. Mae’r

patrymau brawddegol hefyd yn datblygu’n gallach ac yn fwy cydberthynol. Ond ped

edrychid ar gynlluniau Morgannwg yn y chwedegau, ac yn wir ar gynlluniau wedyn, yn

y diffyg trefn strwythurol ac mewn cyfarwyddyd ynghylch graddio patrymau y ceir y

gwendid allweddol o hyd.

Mewn gwirionedd, y frawddeg yw’r drws i lawnder gramadeg. Hyd yn oed cyn

dechrau yn yr ysgol feithrin, fel y gwelsom, mae enwi, cofier, yn darparu angor.

Dyma'r canolbwynt disgyrchiant y dibynna’r meddwl arno, y pwysa arno. Yr ail gam

yw’r gair sy’n dibynnu ar yr enw: gall fod yn ferf o ran potensial neu’n ansoddair o ran

potensial: yn gyn­ysgol — ‘Lowri mynd’, ‘Lowri drwg’. Dyna natur yr ail ran

ymadrodd draethiadol a dechrau aeddfedu gramadeg. Mae’r Enw fel pe bai’n sylwedd,

hynny yw fel pe bai ganddo ddimensiwn o fewn gofod. Mae'r Ferf i’r oedolyn yn

meddu ar ddimensiwn mewn amser. Ond cyn gwneud y cam aruthrol hwnnw o ofod i

amser, gosodir ‘Lowri’ wrth ochr ‘mynd’. Ni chorfforir amser yn ffurfiol: fe

ymddengys amser yn ‘mynd’, am mai berfenw yw, gweithred, sy’n ‘cymryd’amser.

Enw arall yw a hwnnw am y tro mewn safle genidol. Cyfosodir un enw wrth un enw,

dibynna’r naill ar y llall, mae’r naill yn berchen ar y llall. Er bod potensial oherwydd

parhad gweithred yn y gair ‘mynd’, nid arwyddir amser eto yn forffemig yn y cam

cyntaf i’r plentyn. Yng Nghyfundrefn o Gyfundrefnau’r plentyn, cyfosod genidol yn

unig yw’r daith ar y ffordd tuag at y ferf a’r rhannau ymadrodd traethiadol: enw ac

enw. Ond y mae ansawdd yr ail wrthrych yn hanfodol weithredol. Mae ynddo botensial

amser. I’m bryd i (a damcaniaeth hollol bersonol yw hyn), diddorol yw sylwi fod y cam

cyntaf oddi wrth enwi tuag at y frawddeg ddeuol Indo­Ewropeaidd yn arwain at y cam

oddi wrth ofod tuag at amser. Dechreuwn sylweddoli natur aeddfed gramadeg a holl

ffrwythlondeb datblygiad iaith.

Yr hyn sy’n bwysig i’w gofio yn hyn oll yw fframwaith triol tyfiannol y

frawddeg mewn iaith, ac i adeiladu chwaraeon neu ymarferion yn unol â’r fframwaith

sylfaenol cyferbyniol unol.

Nid drwg o beth yw oedi i ystyried y cyfnodau yn nhwf iaith babanod. Gellir

olrhain twf y ‘gair’, yn fy marn i, yn ôl tri cham cynnar, sef:

Teimladair Syniadair moel Gramadegair

I Y Cyfnod Cyntaf: Anghyfiaith

Y Teimladair

(Nid ymddengys y cyntaf hwn yn bwysig i rai plant. Gwada rhai fod hyn yn digwydd

bob amser. Bid a fo am hynny, ymddengys yn bur gyffredin.)

(i) Cynhyrchu seiniau cyferbyniol (Cysur / Anghysur)

(ii) Adnabod (deall) y cyferbyniol Cymeradwy / Anghymeradwy drwy yngan gweddau

ar A! O! (Hapus / Anhapus)

(iii) Dynwared onomatopoeia: e.e. aderyn = i; y glanhawr trydan = y — y. Yr hyn sy'n

bwysig yw datblygu sgiliau:

(a) Gwahuno (Canfod gwahaniaeth / tebygrwydd)

(b) Ailadrodd, dynwared rheoleiddio a hynny ynghlwm yn agos wrth y synhwyrau.

85

Da yw cofio am byth wedyn yr egwyddor o gyferbynnu ac o ailadrodd a ddysgir yn

gynieithyddol.

II Ail Gyfnod: Cyfiaith I

Y Syniadair noeth neu’r geiryn syniadol moel

Cysyniad + sain = Gair

Dyfnhau sgiliau’r Cyfnod Cyntaf

Adeiladu Geirfa; Y Frawddeg Un­Elfen (Etifeddir y gyfundrefn hon gan yr hil.

Oherwydd ehangder gyffredinol y gynhysgaeth, y mae ‘cywirdeb’cydymffurfiol yn bur

angenrheidiol).

III Trydydd Cyfnod. Cyfiaith II

Y Gramadegair

Dyma gyfuno Ffurf a Chynnwys ymhellach. Rhif enwau, rhannau ymadrodd

traethiadol, berf, ansoddair, y frawddeg ddwy­elfen ynghyd â’r frawddeg un­elfen,

amser berf, cenedl enwau, cyflwr enw (safle, treiglad maes o law), y frawddeg dairelfen;

yr ymwybod o le wedi’i gorffori yn y ferf cyn yr ymwybod o amser, gan mai

drwy’r gynrychiolaeth o ofod (e.e. tri pherson y rhagenw) yr enillir ymwybod o’r

gynrychiolaeth o amser (e.e. tympau’r berfau). Sylwer ar y defnydd a wnawn o’r gair

‘presennol’. Yr un modd y mae unigoli — ynysu yn rhagflaenu cyffredinoli yn y proses

o adeiladu deall. Dechreua gramadeg o ddifri gyda pherthynas geiriau.

Dyma ychwanegu at Eirfa, Ramadeg. Felly y ceir yr ail ddosbarth mawr mewn

dadansoddiad cyffredinol, y ddau gyflwr a roddai’r ddau offeryn dadansoddol mawr —

y Geiriadur a’r Llyfr Gramadeg.

(iii) Seico­Fecaneg Didacteg

Er bod yna arloeswyr glew cyn 1939, byddaf yn synied yn gam neu’n gymwys

mai’r Ail Ryfel Byd yn yr ugeinfed ganrif a ailsefydlodd bwysigrwydd strwythurau o

ddifri yn y cyfnod diweddar. Ar wahân i ychydig o unigolion gweledigaethus, cyn yr

Ail Ryfel Byd mewn ysgolion (ac mewn ychydig o ddosbarthiadau i oedolion), rhyw

foesymgrymu a wnaed am yn ail (neu gyda’i gilydd), tua gramadeg­cyfieithu ar y naill

ochr a thua’r dull union ar y llall. Y rhyfel a’n difrifolodd oll. Yn y lluoedd arfog yr

oedd angen proffesiynoldeb ar frys ynghylch meistroli ieithoedd dieithr yn effeithiol er

mwyn clustfeinio a dadgodio’r cyfathrebau gan y gelyn, yn ogystal ag er mwyn sbio, a

hefyd yn syml wrth goncro neu ailgoncro gwledydd estron, neu er mwyn cyfathrebu’n

ymarferol o ddydd i ddydd â swyddogion neu â masnachwyr y gwledydd hynny. Doedd

dim amser i’w wastraffu ar gyrsiau blêr. Dim rhagor o ddwli ‘addysgol’!

Roedd eisiau i’r deunyddiau a’r dulliau loywi a ‘gweithio’o’r diwedd felly. Ni

ellid fforddio methiant na hyd yn oed arafwch mwyach. Cafwyd felly fwy o ddrilio

cyflym, ymarferion llafar, a phatrymu cystrawennau’n ailadroddol. Dim chwarae.

Cofiaf ar ôl y cyfnod hwnnw weld ffilm am yr Almaen yn ystod y rhyfel, pryd yr oedd

milwyr yno eisoes yn dysgu Saesneg drwy ddril dwyieithog tebyg ddigon i’r hyn a

oedd gennym yn Aberystwyth yn nechrau’r chwedegau. Yr un awyrgylch o effeithioli

difrif sy’n bod yng Nghymru o hyd, yn anad un lle yn y byd.

Erbyn y chwedegau yr oedd Ymarfer â Phatrymau ac Ieithyddiaeth

Gymwysedig a’r Labordy Iaith (o barchus goffadwriaeth) wedi dod o America (o

gyfeiriad Fries, Lado, a’u cymrodyr) ac ymsefydlu’n gadarn. Dechreusom oll efrydu

Chomsky, a’i ragflaenwyr, a’i olynwyr. Ond, fel yr wyf eisoes wedi’i awgrymu, buan y

dechreuwyd anesmwytho nid yn unig ynghylch cyfyngiadau’r labordy iaith eithr

ynghylch y modd yr oedd y chwyldro Chomskyaidd wedi gallu gordoi’r gorllewin mor

hysbysebol gyflym ac mor gyflawn, a hynny braidd yn anfeirniadol fel y gwnaeth Ôl­

Foderniaeth ym meirniadaeth lenyddol y saithdegau.

86

Yr hyn yr wyf yn ceisio’i wneud yn y gyfrol hon, ac yn wir, hynny o

wreiddioldeb sydd ynddi, yw ceisio ystyried cydberthynas y mecanwaith ieithyddol

cryno sydd yn y meddwl (yr undod cynnil sydd ar gael ar gyfer cynhyrchu pob math o

frawddegau), ac yna y cynhyrchu amrywiol ac amlochrog hwnnw mewn sefyllfaoedd a

geir wrth weithredu iaith. Ar y naill law, ceir y fframwaith creadigol, ac ar y llall y

gyfathreb greedig. Beth yw’r sylwedd cyfansawdd — y ddwy ochr gyda’i gilydd? Beth

yn y bôn yw adeiladwaith cydlynol, — strwythurol a ffwythiannol, — dysgu ail iaith?

Wrth geisio archwilio’r mecanwaith yn y meddwl (‘Tafod’), diau yr ymholwn

sut y daeth i fod? Sut y ffurfiwyd y strwythurau yn y meddwl o gwbl? Beth yw natur

gynieithyddol iaith a’i datblygiad, ac yna pa arwyddocâd sydd gan hynny wrth

gynllunio’r cyflwyniad o ail iaith yn ôl Seico­Fecaneg ffrwyth yr adeiladwaith hwnnw a

chenhedliad yr iaith ei hun drwy Dafod a Mynegiant. Ceisir yn gyntaf, felly, archwilio

beth yw ffurf hanfodol iaith yn y meddwl, pa fecanwaith a ddefnyddir wrth ei

ddadansoddi’n isymwybodol yn ystod y dasg o’i dysgu. Ceisir amlinellu’r strwythurau

hynny yn ôl eu hanfod a’u hanghenion, ac yna ymdroir o gwmpas yr iaith ar waith yn ôl

yr un fframwaith neu ffurf o feddwl. Cyflwynir yr iaith yn ôl y dull craidd o’i llunio hi.

Drwy’r lleiafswm hwnnw yn bennaf yr adeiledir mecanwaith yn y meddwl sydd

ar gael ar gyfer cyfathrebu.

Cynigir bod deall yr iaith a ffurfio’r iaith yn y bôn wedi'u hadeiladu o gylch

strwythur deuol di­osgoi a gorfodol — Tafod a Mynegiant. Gellid crynhoi hwnnw yn

ôl y cyfuniad deuol (a thriol) o wahaniaethu (neu o gyferbynnu, dirnad) ac o ailadrodd

(neu uno, amgyffred). Neu yn hytrach mewn termau mwy dwys, ond efallai’n gywirach

ac yn fanylach — drwy arbenigoli a chyffredinoli’n feddyliol. Wrth feistroli iaith a

gweithredu’n feddyliol tuag at ymaflyd ynddi, y mae’r meddwl yn symud drwy ddau

brofiad — ymgyfyngu, manylu, dethol, canolbwyntio ar y naill law gan ddidoli’r un

oddi wrth y llawer, ac yna lledu’r cysylltiadau drwy’u gweld yn ymuno neu’n cydlynu

mewn profiad sy’n cadarnhau perthynas yr elfen ieithyddol o fewn darlun llawnach

mewn amser a lle amrywiol. Dyma adeiladu Tafod i raddau cyn llawn gyfathrebu

Mynegiant.

Delweddir y symudiad meddyliol hwn yn y weithred ieithyddol fel hyn mewn

Seico­Fecaneg ar lun dau dyndra, heb fod yn brennaidd wrth gwrs, gan fod A2 — C2

eisoes ynghlwm wrth C1 — A1 cyn dechrau.

Strwythurau Sefyllfaoedd

Y Dull Gramadegol Y Dull Cyfathrebol

TAFOD

MYNEGIANT

C1 A1 A2 C2

lleihau

mwyhau

C = Cyffredinol A = Arbennig

Mecanwaith sythwelediadol yw hyn. Adlewyrcha’r cyferbyniad deuol sydd y tu ôl i bob

iaith. Dyma sy’n digwydd wrth adeiladu iaith yn y meddwl yn wreiddiol. A phatrwm

87

tebyg a ddilynir wrth inni geisio awgrymu cynllun bras mewn didacteg iaith. Mae a

wnelo â’r ddwyochredd mewn dysgu iaith a grybwyllwyd eisoes — Tafod ar waith yn

adeileddol, a Mynegiant ar waith yn ddefnyddiol. Mae’r tyndra cyntaf yn cynhyrchu’r

ychydig mewn Tafod, a’r ail dyndra yr amlder mewn Mynegiant.

Mae’r plentyn wrth ddysgu iaith yn gorfod symud yn feddyliol oddi wrth

gyffredinedd amorffaidd yr holl brofiadaeth sy’n taro’i ddeall a’i synhwyrau tuag at

leoli a manylu a gwahaniaethu ac arbenigoli siâp y profiad unigol; ac yna’n ail, mae’n

cysylltu’r peth yna, wedi’i unigoli â’i gyffelybu ar achlysur arall ac un arall ac yn y

blaen o fewn cydlyniad ieithyddol cyffredinol o gyfundrefnau perthynol. Cyflawna’r

tyndra cyntaf drwy gyferbynnu, a’r ail drwy ailadrodd: y cyntaf drwy ganfod

gwahaniaeth, a’r ail drwy ganfod tebygrwydd. Gwahuno.

Felly, hyd yn oed yn y ‘dulliau sefyllfaol’— a beth bynnag y bo’r dull — mae’n

rhaid i ddysgwr feistroli Tafod. Does dim dewis. Gall wneud hynny’n flêr, yn

isymwybodol gymysglyd, heb adeiladu’n drefnus gyflym, ‘yn naturiolaidd’ fel y

dywedir, oherwydd bod yr athro neu’r cwrs yn rhamantaidd ddiddisgyblaeth neu heb

fod yn ymwybodol beth sy’n digwydd ac yn esgeuluso rhan o’i waith. Ond ei hoffi neu

beidio, rhaid i’r dysgwr fod yn gyfansawdd ddeuol yn ei ddysgu: Tafod a Mynegiant.

Gall wneud hynny’n effeithiol neu beidio; ond yr un — os nad yr un mor llwyddiannus

na’r un mor gyflym — yw hanfod y gwaith.

Yn y tyndra C1 — A1 y mae’r athro a’r dysgwr yn symud tuag at y strwythur

cyfyng o ran maint, yr uned fechan, sy’n gallu esgor yn A2 — C2 ar y lluosowgrwydd

o achlysuron mewn gwahanol amgylchiadau.

Dyma’r mecanwaith sylfaenol di­osgoi y mae iaith yn ei ddefnyddio, ac y mae

Gustave Guillaume yn ei danlinellu wrth lunio neu ddarlunio cyfundrefnau unigol megis

ffurfiant y gair, y rhannau ymadrodd, rhif (megis enwau, rhagenwau, berfau, ac yn y

Gymraeg adferfau arddodiadol fel ‘danynt’), tympau berfau ac yn y blaen. A’r hyn yr

wyf am ei wneud yn yr ymdriniaeth ganlynol yw ystyried sut y mae un ‘ymarferiad’

penodol yn cyflawni’r gwaith hwnnw, yn wir yn atgynhyrchu cyfundrefn iaith ei hun yn

y broses o ddysgu ail iaith.

Yr ymarferiad a gymeraf (ac a drafodaf yn fwyaf penodol yn Rhan II,

Mynegiant) fydd yr hyn a elwir yn ‘Ymarfer Patrymau’(Pattern Practice). A sylwaf yn

neilltuol ar yr hyn a nodaf fel ‘Dril Dwyieithog’. Ond cyn cyrraedd y fan yna, y mae

yna un cam arall yn angenrheidiol. Mae yna gronoleg mewn patrymau iaith. Mae yna

raddio arnynt, yn sylfaen i gymeriad y dril.

Nid yw’r Ymarfer hwn yn digwydd bendramwnwgl. Ar hyn o bryd rhaid imi

oedi a thindroi i ystyried ym mha drefn y dysgir patrymau o’r fath. Beth yw’r cynnydd

neu’r olyniaeth? Sut y maent yn arwain, y naill at y llall? Sut y maent yn cyfuno â’i

gilydd?

(iv) Olyniaeth yn Natur yr Iaith

Yn draddodiadol ramadegol, bu llyfrau dysgu iaith gynt yn dechrau gyda’r

rhannau ymadrodd, gan ymhelaethu ar bob rhan ymadrodd mewn penodau gwahanol.

Gwelliant ar hynny oedd y Dull Union a fynnai gyflwyno brawddegau o’r dechrau

cyntaf. Ond ar y cyfan braidd yn anfanwl, di­drefn, a chymysglyd oedd y modd y

byddai Dull­Unionwyr yn graddio adeiladwaith brawddegau, ac fe geid bod hyd yn oed

y rhai gorau ohonynt yn tueddu i gyflwyno llawer o batrymau gramadegol yr un pryd,

gan feichio’r dysgwr, a’r rheini’n batrymau nad oedd fawr o gysylltiad rhesymegol o

safbwynt dysgu rhyngddynt a’i gilydd.

A gaf i egluro’r pwynt hwn ymhellach drwy gymryd y tudalen cyntaf o’r wers

gyntaf yn Llwybr y Gymraeg, I., D. O. Roberts. Nawr does dim angen i mi ddweud

88

yma mai D. O. Roberts oedd yr un a wnaeth fwyaf o bawb yng Nghymru dros

ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith cyn diwedd yr ail ryfel byd. Nid mewn ysbryd beirniadol

yr wyf yn cyflwyno’r sylwadau hyn, ond fel un sy’n sylweddoli mai ar waith D. O.

Roberts yn anad neb mae’n rhaid i ni o hyd adeiladu, ac yn arbennig oherwydd bod yr

anhrefn sefyllfaol wedi’i ailadrodd yn niwedd yr ugeinfed ganrif o’r 70au ymlaen.

Dyma gynnwys un tudalen:

Edrychwch a dywedwch

Dyma ddesg. Y ddesg hon.

Dyma lyfr. Y llyfr hwn.

Dyma bensil. Y pensil hwn.

Dyma bot­inc. Y pot­inc hwn.

Dyma bensil ar y pot­inc.

Dyma bot­inc ar y llyfr.

Ble mae’r pensil?

Y mae’r pensil ar y pot­inc.

Ble mae’r pot­inc?

Y mae’r pot­inc ar y llyfr.

Mae’r eirfa’n gynnil ac yn deg. Rhyw 14 o bwyntiau geirfaol a welaf yma. Ond

faint o batrymau neu o bwyntiau gramadegol sy yma? O leiaf 14 eto, ac o’r rheini mae

yna amryw sy ymysg y rhai pwysicaf yn yr iaith.

Sylwch ar y frawddeg, ‘Dyma ddesg.’Mae’n batrwm cyffredinol hollol ddieithr

i blentyn di­Gymraeg, a’r gair cyntaf yn cynnwys y ferf a’r adferf fel petai: Here is.

Mae’r gair sy’n ei ddilyn heb fannod bendant nac amhendant. Ac ar ben hynny mae’n

treiglo. Hynny yw, yng nghwmpas yr un frawddeg fach yna mae gennych chi dri

phwynt gramadegol newydd o’r mwyaf.

Heblaw’r gorchmynion agoriadol — edrychwch, ayyb — mae gan D. O.

Roberts ddwy brif gystrawen frawddegol:

Dyma bensil.

Y mae’r pensil ar y pot­inc.

Ond does dim perthynas ffurf rhwng y naill a’r llall.

Pe bawn i’n mynd ymlaen fel hyn i ddadansoddi gwaith D. O. Roberts fe

welech fod yr holl batrymau gramadegol blith draphlith, rhai anodd o flaen y rhai

hawdd, rhai anaml o flaen y rhai aml, ac yn anad dim rhai a allai esbonio rhai

diweddarach yn dod ar eu hôl nhw.

A gaf i ddyfynnu Billows yn y cyswllt yma:

Structural material should be graded and each item properly and

separately introduced; different patterns should not be piled on top of

one another; a recently introduced pattern should not be covered up by

the impression of the next, before it has had time to set in the mind.

New material should be carefully spaced out so that the load on the

pupil is not too great in one section of the book, and so that there are

no sudden and arbitrary increases of difficulty or complexity. No

competent writer of a textbook should allow any form to creep in

before he — or the pupil — is ready for it, and before it has been

properly led up to.

89

Un o’r pethau mae’n rhaid i’r sawl sydd am raddio patrymau’r iaith Gymraeg ei

wneud yw darganfod y patrwm brawddegol sylfaenol cychwynnol i’r cyfan. Pa

frawddeg aeddfed (h.y. brawddeg dair elfen) sydd fel petai, ar waelod yr iaith? Pa

frawddeg sy’n caniatáu i chi adeiladu’r gweddill o’r iaith arni? Pa batrwm hollbwysig

sy’n gallu arwain ymlaen drwy ychwanegiadau neu gymwysiadau at bron y cwbl o’r

prif gystrawennau heb gilio ac ailddechrau ond mor anfynych ag sy’n bosib?

Yr wyf am gynnig ateb fel sylfaen trafodaeth. Y frawddeg yw:

MAE GWILYM YMA

Mae’n cynnwys y ferf ‘bod’yn yr amser presennol ac yn y trydydd person

mewn brawddeg ddi­bwyslais: mae’n dangos y drefn frawddegol bwysicaf i’r dysgwr

gyda’r ferf yn gyntaf a’r goddrych wedyn. Annigonol a braidd yn ddisynnwyr fyddai

‘Mae Gwilym’yn unig, o safbwynt y dysgwr, ac mae’r yma’n cysylltu’r goddrych â’r

lle mwyaf amlwg. Fe ellir disodli neu drawsnewid pob un o’r elfennau yn y frawddeg er

mwyn cynhyrchu brawddegau eraill:

Ydy Gwilym yma?

Ydy. Mae Gwilym yma.

Mae Gwilym yn y car.

Mae Gwilym ar y ffordd heddiw.

Mae Gwilym yn cerdded yma.

Mae’r bachgen yma.

Yn y frawddeg Mae Gwilym yma, heblaw cael patrwm hollbwysig, fe geir

hefyd y lleiafswm o anawsterau neu o bwyntiau dysgu: dim bannod bendant (nac

‘amhendant’chwaith o ran hynny); dim arddodiad. O safbwynt dysgwr yr unig bwynt

dysgu (heblaw geirfa) yw trefn y frawddeg:

MAE Gwilym yma.

Gwilym IS here.

Nawr, os gallwn ni gytuno mai dyma’r fan gychwyn briodol ar gyfer dysgu’r

iaith, fe allwn symud ymlaen, fesul patrwm newydd i ennill rhagor a rhagor o’r iaith yn

drefnus. Tyfu yn yr iaith o’r tu fewn megis, heb wneud yr un cam gwag na mynd ar hyd

yr un ffordd bengaead (os gallwn beidio).

Mae’r patrwm hwn yn ffrwythlon, ac yn wahanol (dwedwch) i Dyma Gwilym,

yn arwain ymlaen yn rhesymegol at bob math o gymwysiadau pellach.

Felly, ynysu neu unigoli pob patrwm, a’u gosod nhw yn nhrefn briodol y dysgu

cysylltiol, ac yna cyflwyno pob patrwm yn unigol, yn ofalus, ac yn glir: dyna’r cam

cyntaf. Os ydych chi wedi dysgu iaith newydd ar ôl gadael yr ysgol, a’i dysgu hi gyda’r

union fwriad o gael gwybod beth yw’r anawsterau cyffredinol sydd ynghlwm wrth

ddysgu iaith, yr wyf yn sir y cytunwch mai un ohonynt yw cymysgu neu gyfuno sawl

pwynt newydd yr un pryd. Yn lle ynysu anhawster i’w feistroli, fe’i mygir dan amryw

anawsterau eraill.

Gair bach cryno am sectorau Graddio, felly.

Mae'r pedair lefel i’w cadw mewn cof yn eithaf cyfarwydd i bawb sy’n gwybod

y peth lleiaf am Ramadeg, sef:­

Patrymau’r Frawddeg,

Patrymau’r Cymal,

Patrymau’r Ymadrodd,

Cyfundrefn y Gair.

90

(yr arwyddedig a’r arwydd)

(cynnwys + sain)

Yr olaf yw’r pwysicaf — y gair, ac yn arbennig cyfundrefnau’r rhannau

ymadrodd; yn bennaf hefyd y rhannau ymadrodd traethiadol, sef:

1. enw/ 2. berf neu ansoddair/ 3. adferf.

Yngln â’r hyn sydd yn eu cysylltu’n gwlwm neu’n gyfundrefn, yr egwyddor o bwyso,

sef 3 ar 2, a 2 ar 1, ac 1 yn hunangynhaliol, dyna sy’n fwyaf sylfaenol i’w perthynas

gydlynol. Ac wrth gwrs, gan fod yn rhaid i bob cyfundrefn ganolog mewn Tafod

darddu o ymwybod cyferbyniol ynghlwm wrth ryw brofiad elfennaidd yn ein bodolaeth,

yna gellid yn hyderus ac yn bur amlwg honni fod yr elfen o bwyso sydd yn y

gyfundrefn driol hon yn tarddu’n sylfaenol o’r ymwybod cyffredinol, os isymwybodol,

o ddibyniaeth ar ddisgyrchiant. Hynny yw, perthynas elfennaidd yn ein bodolaeth yw.

Y rhan ymadrodd (part of speech) yw prif gyfundrefn y gair. A’r rhannau

ymadrodd traethiadol a grybwyllwyd uchod yw’r cnewyllyn i holl gyfundrefn y rhannau

ymadrodd, a threfnir y gweddill o’u cwmpas. Mae'n driol. Ac ar y gyfundrefn hon y

seilir yn eu tro ac yn hierarchaidd holl gyfundrefnau’r ymadrodd, cyfundrefnau’r cymal,

a chyfundrefnau’r frawddeg, bob un yn driol a phob un ynghlwm wrth yr ymwybod o

ddibyniaeth. Pwyso ar ei gilydd yn ddisgyrchol.

Hynny yw, y drefn 1. Enw, 2. Ansoddair/Berf, 3. Adferf

yw hanfod cyfundrefn

A Y frawddeg graidd,

B [mewn gofod] Yr ymadrodd craidd,

C [mewn amser] Y cymal craidd.

Drwy gorffori B ac C o fewn A yr adeiledir holl frawddegau’r iaith, ar wahân i

ebycheiriau.

Dechreuir drwy ‘enwi’. Angorir yr holl weithgaredd o sefydlu syniadeiriau

mewn enwi: cysylltu synnwyr a sain. Yna datblygir cysylltu cysyniad â chysyniad. Crëir

y berthynas rhwng dau eto. Clymir y peth drwy gyfosod neu â chysylltair (i) mewn lle,

(ii) mewn amser. Bellach yr ydym ar gerdded — wedi dechrau’n siwrnai drwy bob un

o’r lefelau hyn.

Fe ellir gwella ar y cynigion a wnaethpwyd yn y Gymraeg eisoes ar gyfer

graddio patrymau (megis llyfrau a phamffledi R. M. Jones, D. L. James); a charwn

awgrymu sylwi ar D. Larsen­Freeman, ‘An explanation for the morpheme acquisition

order of second language learners’, yn Language Learning 26 (1976), 125­134, a

Dulay Burt a Kreshen, Language Two (New York, 1982). Ond nid strwythurau yn

ynysedig yw deunydd dysgu iaith. Yr wyf yn mawr obeithio y daw’n eglurach eglurach,

yn arbennig erbyn cyrraedd rhan nesaf y gyfrol hon (sef Mynegiant) nad strwythurwr

amddifad mohonof. Yr wyf yn sefyllfäwr (hyd yn oed yn ffwythiannwr) hefyd.

Cyfansawdd, yn fy mryd i, yw’r unig gyrchddull sylfaenol posibl. Ac os oes ymgyrch

gennyf, ymgyrchu’r wyf yn erbyn strwythurwyr amddifad ac yn erbyn sefyllfawyr (neu

ffwythianwyr) amddifad. Hynny yw, sefyllfawyr negyddol nad ydynt yn barod i

ddarostwng sefyllfaoedd i strwythurau. (Ac yr wyf yn meddwl yn y cyd­destun hwn am

gyngor Paul inni ‘ymostwng bawb i’n gilydd’). Syniaf mai anghenraid gostyngedig

yw’r cyfansawdd.

Yr achwyniad sydd gennyf yw bod sefyllfawyr amddifad (a chyfeiriaf at becyn

diweddar a dderbyniais gan y cyfryngau yn 2001) yn gallu dysgu ‘Rhaid cadw’r

ffenestri ar gau’cyn ‘Dydy’r car ddim yn dechrau’, ‘Croesewir anifeiliaid’o flaen ‘Ble

mae’r banc?’A hynny ar egwyddor neu’n ôl dogma amddifad anhysbys. Mae pawb yn

gwneud camgymeriadau mewn manylion. Ond y mae camgymeriad mewn egwyddor

91

hanfodol yn treiddio’n anhraethol ymhellach. Nid drwy anarchiaeth y mae dysgu iaith

yn effeithiol nac yn hyderus.

Yr wyf yn sir fod yna ddegau o gyrsiau rhwng y chwedegau a heddiw lle y

cynlluniwyd y camre yn gynyddol ofalus a lle y cadarnhawyd y camre blaenorol ar hyd

y ffordd. A llawer iawn o rai eraill a fu’n esgeulus iawn. Gwn yn burion, am y ceisiadau

cyntefig a wneuthum innau gynt yn Cyflwyno’r Gymraeg, (1964) ac yn Cymraeg i

Oedolion (1964­1966 ac yn y fersiwn arbrofol a gyhoeddwyd ym 1963) yn ogystal â

chan Dan Lynn James yn ei bamffledyn gwerthfawr Patrymau’r Iaith Gymraeg (1970),

eu bod o hyd yn disgwyl am ddiwygiadau llym. Ni synnwn ddim bod eraill lawer (fel

Berian Davies yn O Gam i Gam (1967) wedi gwneud cynigion tebyg. Gobeithio y

bydd y mudiad ail­iaith yng Nghymru bob amser yn gwella. Yr hyn sy’n siomedig yw

na chafwyd gwelliant mewn graddio rhwng hynny a heddiw. Erbyn hyn, y mae angen

pwyso a mesur gwahanol fersiynau gan ystyried o’r newydd yr olyniaethau a

awgrymwyd y pryd hynny mewn ffyrdd gwahanol. Ac ystyried hefyd beth yw criteria’r

graddio. Yr hyn sy’n bwysig hefyd yw gweithio ar y sail mai cydlyniad yw iaith lle y

mae popeth yn ffitio i’w gilydd mewn modd cyd­olynol.

Ymwybod hynafol a chadarn oedd graddio ystyrlon ac ymarfer â phatrymau, a

gresyn fu ei golli. Meddai Ascham mor gynnar â 1515­68 (gan adleisio Donatus a

Priscian): ‘After the child hath learned perfectly the eight parts of speech, let him learn

the right joyning together of substantives with adjectives, the noun with the verb, the

relative with the antecedent.’Wel, fe wellwyd ar hynny erbyn hyn yn ddiau; ond ni

wellwyd iot ar yr egwyddor.

Ac meddai Comenius (1648): ‘Gadewch inni ddysgu yr ychydig cyn y llawer, y

byr cyn yr hir, y syml cyn y cymhleth, y cyffredinol cyn yr arbennig, yr agos cyn yr

anghysbell, y rheolaidd cyn yr afreolaidd.’

Ceisier gwella ar hynny hefyd. Ond roedd y dynion yna yn cydnabod

egwyddorion graddio cydlynol.

Mae angen graddio hefyd yn ôl gallu a diddordebau plant. Ac fel y sylwodd

Palmer, mae eisiau graddio neu drefnu dulliau yn ôl natur seicolegol y broses o ddysgu

iaith. Fe sonia ef am rai egwyddorion nas profwyd yn wyddonol ond sy’n ymddangos

yn weddol ddiogel:

(a) Ears before Eyes ...

(b) Oral Repetition before Reading ...

(c) Reception before Reproduction ...

(d) Immediate Memory before Prolonged Memory ...

(e) Chorus work before Individual Work ...

(f) Drill­work before Free Work ...

The student should not be given opportunities for free conversation,

free composition, or free translation until he has acquired a reasonable

proficiency in the corresponding forms of drill­work.

Mae yna drefn ymhobman mewn iaith. Wedyn mae yna ryddid. Hynny yw, gan

fod y broses o ddysgu ail iaith yn waith cymhleth, mae angen i’r ateb a roddwn ni,

drwy gyfrwng dulliau dysgu, fod yn ddigon amrywiol ac amlochrog a gofalus i

gyflwyno’r wybodaeth newydd yn effeithiol ac yn arhosol. Mae’n bosib y bydd un dull

yn addas i ddosbarth wrth ddechrau dysgu, a dull arall ymhellach ymlaen. Mae

Scholtkowska’n adrodd am arbrawf sy’n dangos ‘y dull union’yn rhagori gyda phlant

12 oed wrth ddechrau dysgu, ond ‘y dull anunion’yn well yn fuan wedyn.

92

Yr hyn y mae ei angen yn y Gymraeg yw myfyrio am y defnyddiau mwyaf

priodol a’r dulliau mwyaf deheuig ar sail yr hyn a wyddom am lawnder natur yr iaith.

Ar ôl slogan ‘cyfathrebu’a methiant y cawdelu a gafwyd yn y ffasiwn anffodus

hwnnw ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, teimlwyd gan rywrai fod angen ‘mynd yn ôl’at

y drefn ramadegol. Ychwanegu heb gynyddu. Daeth ‘eclectig’yn slogan ffasiwnnewydd.

Trafferth yr eclectig yw cynhyrchu cawl eto, colli trywydd, drysu cynllun. Yr

hyn y mae ei angen yw cadw disgyblaeth ymwybodol y ddwy ochr yn glir unol:

cynnydd strwythur + cynnydd sefyllfaoedd. Mae Dysgu Cyfansawdd yn fframwaith

sy’n caniatáu amrywiaeth o’i fewn. Aeth ‘cyfathrebu’a’r ‘eclectig’gyda’i gilydd yn

fodd i ddallu pobl i natur iaith.

Cynghoraf osod, ar frig pob gwers mewn cwrs, enwau (1) Y strwythurau neu’r

patrymau dan sylw, (2) y sefyllfa, gan gadw’r llwybr deuol felly yn gydlynol gadarn ac

eglur, a chan ddyfeisio (2) i wasanaethu (1).

Y mae gwahaniaeth mawr rhwng ‘eclectig’ar y naill law ac amrywio a

chydlynu cyrchddulliau (approaches) o fewn cynllun unplyg ddeuol ar y llall. Gwneir

yr ail nid yn ôl ‘hiraeth am drefn’, ond yn ôl angen penodol arbennig o fewn y cynllun.

Oddi wrth yr angen at yr ateb, nid cymysgu oherwydd bod cymysgu’n dderbyniol,

neu’n ‘syniad da’, neu’n fodd i eistedd ar y ffens. Nid amrywir chwaith oherwydd bod

pob tiwtor yn wahanol. Ond yn gyntaf, oherwydd bod angen hynny ar y defnyddiau

deuol. Eir oddi wrth yr iaith at y dulliau, cyn mynd drwy'r dulliau hynny at yr iaith.

Tafod Strwythurol

graddio patrymau

driliau gwahanol [cyferbynnu, ailadrodd]

Sefyllfa Strwythurol

graddio geirfa

graddio ffwythiannau

holi ac ateb fel egwyddor ayyb

ayyb

Cysylltu mewn Mynegiant

Sut i ddatblygu ymddiddan ar sail ymarfer holi­ac­ateb fel y bo

ymarferiad yn troi’n ymddiddan rhydd (lecture expliquée)

Cyd ayyb

Wrth sôn am ddulliau, y mae’n rhaid bod yn ymwybodol o’r deunydd sydd i’w

ddefnyddio. Bu gormod o bwyslais ar y dysgwr, a rhyw theorïau ffansïol am wneud

bywyd yn esmwyth ‘dawel’iddo. Gyda phob parch i gymhlethdod aruthrol y dysgwr,

dechreuer gyda’r hyn sydd i’w ddysgu a sylwer wedyn ar y sut.

Gellid dewis o blith amlder o dechnegau neu ddriliau neu ymarferion, bid sir.

Ond bydd pob un yn tarddu o’r deunydd ei hun ac yn ei wasanaeth. Wrth reswm

cedwir y dysgwr mewn golwg, a’r athro. Eto, gweision ydynt, y dysgwr megis yr

athro, i’r deunydd.

Gan nad yw’r gyfrol hon yn gallu cynnwys trafodaeth ddigonol ar Gymhelliad,

gwiw ein hatgoffa ein hun bob hyn a hyn fod hwnnw’n un o dri maes mawr didacteg

iaith. Gellir crynhoi disgrifiad o lunio Mynegiant ar sail Tafod yn ôl dau gam pellach:

1. Cymhelliad:

Gyrrir cyfundrefn Cymhelliad gan dair cynneddf anochel:

(i) Y canfodiad neu’r ymwybod cynhenid o werth. Fel arfer, ni wna neb fawr o ddim

ymwybodol heb y sylweddoliad hwn.

(ii) Yr ysfa gynhenid i sylweddoli trefn. Ni ellir darostwng dim i’r meddwl, hynny yw ni

ellir deall dim na siarad yn ystyrlon heb drefn, sef y gwahuno a grybwyllwyd uchod.

93

(iii) Y canfodiad cynhenid o bwrpas. Fel arfer, ni wna neb fawr o ddim ymwybodol heb

ymwybod â diben yn y pen draw. Cynhwysa hyn:

2. Mynegiant ei hun:

Hynny sy’n arwain at y Mynegiant unigol achlysurol. Dyma’r dethol

angenrheidiol ar y pryd. Y weithred unigol. O’r gronfa gyffredinol o botensial mewn

Tafod, penodolir yr hyn sy’n angenrheidiol ar achlysur neilltuol. Y llawer ar sail yr

ychydig.

Dyma’r darn o lefaredd unigol, sef yr hyn y bydd y dyn yn y stryd (a’r

cyfathrebwyr) yn ei ystyried fel y cyfan o’r iaith. Y cyfathrebu bondigrybwyll.

(v) Model o Iaith Lafar Ysgrifenedig Safonol

Credaf fod Ôl­foderniaeth ‘ddamweiniol’wedi dylanwadu ar Ddysgu Iaith yng

Nghymru mewn llawer modd ychwanegol, heblaw chwalu trefn y dysgu drwy

Ffwythiannau Amddifad. Cafwyd er enghraifft ymddatod wrth gyndynnu yn erbyn

undod a chysondeb yn y Model Iaith yn genedlaethol. Aethpwyd nid yn unig i

orbwysleisio ardaloedd gwahanol; eithr hefyd, aeth llawer o ddosbarthiadau unigol ar

ôl eu model eu hun. Methwyd â symud yn unol. Chwilen ym mhen sawl tiwtor oedd

peidio â chydymffurfio’n genedlaethol mewn Model Iaith.

Yn sgil y ddadl rethregol gynt ynghylch ‘Cymraeg Byw’, mae yna gwestiwn

newydd wedi dechrau cael ei holi’n ddiweddar.

Beth yw Cymraeg Llafar Ysgrifenedig Safonol? A oes modd cael rhywfaint o

gytundeb? Faint?

Un iaith Gymraeg sydd, ac ynddi lawer o gyweiriau a thafodieithoedd.

Cymraeg Llafar Ysgrifenedig Safonol yw’r cywair ar yr iaith lenyddol y gellid

ei ddefnyddio mewn amgylchfyd cymharol ddi­dafodiaith mewn dramâu er enghraifft,

yn nialog storïau, mewn llythyrau anffurfiol, ac mewn prydyddiaeth sy’n llafar ei naws,

a hefyd wrth ddysgu ail iaith ar y dechrau. Mae ar gael mewn sgriptiau radio a theledu.

Pan siaradwn am iaith lafar safonol i ddysgwyr, nid siarad yr ydym am greu

rhywbeth hollol artiffisial ychwanegol at dafodieithoedd naturiol Cymru, ond siarad am

gywair sydd eisoes ar waith mewn gwirionedd. Mae yna duedd, fel y gwyddom mewn

cyfarfodydd cyhoeddus, heblaw mewn colegau ac ysgolion, ac mewn rhaglenni heb fod

yn dafodieithol ar y cyfryngau, lle y ceir amrywiaeth o dafodieithoedd yn cyfarfod â’i

gilydd, i ddefnyddio dull o lefaru sy’n naturiol ddealladwy i bawb. Ar yr olwg gyntaf,

cyfaddawd yw’r iaith hon rhwng y tafodieithoedd a'r iaith lenyddol. Ond wrth sylwi’n

fanylach arni, fe welwn mai hen gyfaddawd rhwng tafodieithoedd byw â’i gilydd yw hi

gan mwyaf, gyda pheth dylanwad oddi wrth yr iaith lenyddol.

Yn awr, mi wn fod tuedd i wawdio fel rhywbeth di­liw (‘diberfedd’yw’r gair

efallai) iaith fel hon sydd heb berthyn i unrhyw ardal gyfyngedig. Ond gan fod tuedd

bob amser i wawdio pob datblygiad ymddangosiadol newydd, mae’n briodol i

addysgwyr holi’n fanwl ai emosiynol a rhagfarnllyd yw’r gwawd hwn, neu ynteu a oes

rhyw reswm beirniadol o werth y tu ôl iddo. Syniai G. J. Williams fod y cywair hwn ar

gael ymhlith beirdd yr uchelwyr.

Gawn ni ystyried yn gyntaf bwrpas iaith lafar safonol i ddysgwyr.

Dyma'r cywair llafar ‘canol’y bydd Cymry diwylliedig neu addysgedig yn ei

siarad pan fo nifer (o wahanol ranbarthau) yn cyfarfod â’i gilydd. Y mae felly yn

gyffredinol ddefnyddiol. Tueddir i ymgymhwyso neu i gyfaddawdu ar sail cywair yn yr

iaith lafar sydd eisoes yn hen. Ceir peth dylanwad gan gefndir yr iaith lenyddol

gyffredinol arno. Ond cywair naturiol, cartrefol ydyw.

Gwaith yr unigolyn neu’r pwyllgor cyntaf a geisiai ddisgrifio model o’r fath yr

oeddent hwy eisoes yn ei ddefnyddio, ac i’w ddefnyddio ar gyfer ei ddysgu mewn ail

94

iaith, ac i’w hyrwyddo mewn cyd­destun iaith gyntaf, oedd ystyried pa ffurfiau a

arferent hwythau eu hunain yn ddilys naturiol ar achlysur cymdeithasol heb fod yn lleol.

Disgrifio’u hiaith ymarferol hwy eu hun a wnaent ar y prydau hynny pryd y

cymedrolent eu tafodiaith.

Yn y Gymraeg, o’i chymharu â Saesneg llafar safonol, goddefir llawer mwy o

ystwythder neu o lydan rwydd amrywiol ‘tafodieithol’. Ceir mwy o amrywebau

goddefadwy. Ond o safbwynt penderfynu neu ddethol model priodol a chyson ar gyfer

dysgu’r cywair hwn, yr hyn a oedd yn bwysig i baratöwr cyrsiau bellach oedd ceisio un

safon cyn belled ag y gellid. Dethol model cyflawn a oedd yn dderbyniol gyffredin. Os

oedd sawl ffurf yn gyd­dderbyniol naturiol, megis yn y broblem arbennig a’n hwynebai

ym mherson cyntaf unigol presennol y ferf ‘bod’(‘rydw, rwy, dwi, wi’), gwiw oedd

sefydlu criteria ar gyfer dewis o blith yr amrywebau hyn.

Ond yr hyn a oedd yn bwysig oedd cydnabod bod yna y fath gywair dilys

safonol yn bod ac ar gael yn naturiol, ac y gellid ei ddisgrifio’n wrthrychol ac yn

ddethol.

Pan weithiwn i gynt ar y cwrs cyntefig Cymraeg i Oedolion (1961­62), y ddau

y bûm yn clustfeinio arnynt i geisio sylwi ar eu cyfaddawd ymarferol oedd Jac L.

Williams a Thomas Parry. Synnwn fod Thomas Parry yn llawer parotach i fabwysiadu

ffurfiau ‘deheuol’nag yr oedd Jac L. Williams i fabwysiadu rhai ‘gogleddol’. Yn

ddiweddarach, gyda Ffurfiau Llafar Ysgrifenedig, clustfeiniwn ar J. E. Caerwyn

Williams. Siaradwyr safonol naturiol a diymhongar oedd yr aelodau o’r pwyllgorau

hwythau a gyfarfyddai, a chanddynt brofiad o ddefnyddio iaith o’r fath mewn sawl

parth a sawl amgylchiad.

Wedi sefydlu a chyflwyno model, caed pwysau gan unigolion i ymddatod, wrth

gwrs. Oherwydd yr Ôl­foderniaeth ffasiynol yn yr awyr (anhrefn, relatifrwydd,

tanseilio, diffyg safon, lluosedd, dadadeiladu, ansefydlogrwydd) ceid tuedd rymus os

anymwybodol gan unigolion i amlhau amrywebau, i redeg ar ôl ffurfiau lleol, i

wrthweithio’n erbyn model sefydlog cenedlaethol gan anwybyddu’r adnoddau

cenedlaethol a fyddai’n fanteisiol (llyfrau darllen ail­iaith, y cyfryngau ar eu ffurf

safonol), ac i ddilyn chwiwiau anghyson achlysurol. Ymddatod oedd y brenin.

Amrywiai manylion yr ymddatod hwn. Ar hyn o bryd, ‘so i, so ti’ayyb sydd ar y

gweill gan unigolion o’r fath. Ond ceir ansefydlogrwydd amrywiol fel egwyddor

isymwybodol.

Deall a llefaru yw ffurfiau sylfaenol iaith. Nid rhan o iaith yw’r siarad, ond y

ffynhonnell. Isafon yw pob dim arall (fel darllen neu ysgrifennu). Er mwyn datblygu

unrhyw sgil wrth drafod iaith, y peth cyntaf a’r peth gorau i’w wneud yw datblygu, a

choethi, a chadarnhau’r medr i’w siarad. Ac er mwyn datblygu’r gallu i siarad iaith

rhaid ymarfer â siarad. Os ydym am ddysgu i rywun ddarllen neu ysgrifennu iaith,

dysgu siarad yn gyntaf yw’r dull callaf. Ar ôl 1882 dyma’r gred a goleddwyd gan

ieithyddwyr ac addysgwyr blaenaf y byd.

Gaf i grynhoi’r holl ddadleuon o blaid gwaith llafar fel y rhan bwysicaf o’r

gwaith o ddysgu ail iaith?

(i) Mae gwneud sn yn beth greddfol a naturiol mewn dyn iach.

(ii) Drwy lefaru y dysg pob un ei iaith gyntaf, ac felly mae gan bawb brofiad perthnasol

ac agwedd meddwl tuag at iaith, a’r profiad hwn yw’r sylfaen ar gyfer dysgu unrhyw

iaith arall.

(iii) Tarddu o’r iaith lafar a wna pob ffurf arall ar iaith, i bob pwrpas. Adlewyrchiad,

symboliad neu arwyddiad, neu ddull o gynrychioli iaith lafaredig yw pob ysgrifennu. A

honnir bod dyn wrth ddarllen unrhyw lyfr iddo’i hun yn defnyddio’r system feddyliol a

95

ddatblygwyd ar hyd sianelau llefaru: hynny yw, ei fod, mewn gwirionedd, yn siarad ag

ef ei hun.

(iv) I brofi iaith fel iaith, fel system o arferiadau llefaru a chlywed, rhaid mynd i mewn

i’w byd hi fel iaith, nid fel pwnc academaidd nac fel casgliad o ymadroddion. Nid yw

profiad ail law neu hanerog yn gwneud y tro.

(v) Mae llefaru yn offeryn mwy hylaw ar gyfer ymarfer cyflym mewn dosbarth.

(vi) Mae’n rhwyddach rheoli llefaru anghywir na rheoli gwaith ysgrifenedig — clywir y

gwallau ar unwaith (nid ydynt yn gorwedd yn gudd dros gyfnod efallai ac o ganlyniad

yn suddo i feddwl dysgwr), a rhwystrir yr athro rhag carlamu ymlaen ar lafar yn rhy

gyflym gan anallu’r dysgwr i ymateb yn ddeallus ar y pryd.

(vii) Peirianwaith dynol personol sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer siarad. Clywais rai’n

cyfeirio at y tâp­recordydd neu’r cryno­ddisg fel elfen annynol mewn dysgu iaith. Elfen

yr un mor annynol, mewn gwirionedd, yw darllen neu ysgrifennu. Clust a thafod, dyma

i chi offer dynol ardderchog. Felly, dysgu i siarad yw dysgu’r Gymraeg ar ei orau, yn ôl

y cyflymder normal ar lafar. Dyna’r prawf allweddol ar wybodaeth o’r iaith.

Yng Nghymru, i’r dysgwr sydd am ddysgu siarad, mae yna ddau ddewis yn

agored: fe all ddewis tafodiaith neu ddewis iaith lafar safonol naturiol. Ni wna ddewis

siarad yr iaith lenyddol (os gall beidio) fel man cychwyn, oherwydd bydd yn sylwi ar

unwaith nad iaith fyw arferol mohoni i’r glust, ac fe wêl y byddai’n gorfod mynd

drwy’r broses hollol artiffisial o gymhwyso ffurfiau llenyddol marw at yr amgylchfyd o

ymddiddan naturiol sydd o’i gwmpas. Ni chlyw byth mewn sgwrs naturiol yn un man

‘ni chlywsant’, ‘nid wyf yn myned’, ‘yr wyf yn sir’.

Yn awr, fe gaiff dysgwr yng Nghymru ar bob llaw nifer helaeth o achlysuron

posibl i glywed y Gymraeg, hynny yw i ddysgu iaith lafar oddefol, a hynny heb gyfarfod

yn weithredol wyneb yn wyneb â neb dyweder yn Cyd. Wrth ddysgu iaith mae’r broses

oddefol hon yn gam naturiol iawn, ac fe ellid dadlau ei bod hi’n hanfodol. Fe gaiff

wrando ar y radio a’r teledu, cymdeithasu mewn tafarn, mewn eisteddfod a theatr,

mynychu gwasanaethau crefyddol, ayyb, clywed llawer o’r iaith lafar heb yr orfodaeth,

ar y dechrau beth bynnag, o ateb yn ôl. Ond sylwer mai iaith weddol safonol a glyw ar

amryw o’r achlysuron hyn.

Yr un pryd, mae’n amheus iawn a fydd unrhyw angen byth i ddysgwr yng

Nghaerdydd dyweder ddysgu tafodiaith greiriol amgueddfaol yr ardal honno, yn

hytrach na rhyw ffurf weddol fetropolitaidd ar y Gymraeg. Ychydig yw’r ardaloedd lle

bydd dysgwr sy’n medru’r iaith lafar safonol naturiol yn cael ei gamddeall. Ac eto,

dichon mai priodol yw cydnabod bod dwy wedd fawr neu ddwy bau yn fras yng

Nghymru ar gyfer yr hyn sy’n safonol ar lafar.

At ei gilydd, allwn ni ddim fforddio rhannu ein hadnoddau addysgol prin yn ôl

tafodieithoedd, yn enwedig mewn cyfnod — gwae ni — pryd mae’r tafodieithoedd eu

hunain yn trengi. Mewn gwlad fach fel Cymru rhaid canoli hyd yn oed yr adnoddau ailiaith,

a gwthio gyda’n gilydd i’r un cyfeiriad. Er mor angerddol yr anwyldebau

tafodieithol, ni allwn oddef i’r rheini rwystro adfywiad yr iaith ei hun. Felly,

cymeradwyir dwy wedd gynnil ar yr iaith safonol i ddysgwyr pan fo rhaid (heb

orbwysleisio’r gwahaniaeth rhyngddynt) gan ogwyddo tuag un mewn mannau lle y bo

cyrsiau cenedlaethol. Dysger llafar safonol (fel Ffurfiau Ysgrifenedig Cymraeg Llafar),

a thafodiaith a llenyddol safonol ( fel Gramadeg y Gymraeg, P. Wynn Thomas) wedyn.

Wrth lunio’r nodiadau hyn ‘roeddwn ar ganol darllen Bod Cenhedlig,

cyfieithiad D. J. Williams; a diddorol oedd sylwi, ymysg pethau eraill, mai gwrywaidd

yw ‘breuddwyd’ganddo. Yn awr, yr wyf braidd yn sir mai benywaidd fyddai’r gair

gan D. J., yn ei dafodiaith gynhwynol: dyna yw hefyd gennyf innau. Ond mae pob

96

llenor Cymraeg, yn ddieithriad, yn llithro allan o’i dafodiaith ei hun gan bwyll bach. Ar

gyfer iaith lafar safonol i ddysgwyr, os oes dewis rhwng y ddwy genedl i enw a’r

genedl heb fod yn amlwg arferedig, mentraf awgrymu mai’r peth y gellid ei

gymeradwyo, os nad oes gwrthwynebiad arall, yw dewis y gwrywaidd bob tro, am fod

llai o drafferthion gyda threiglo, rhifeiriau, ayyb, ac am mai’r gwrywaidd (fel y’i gelwir

yn or­rywiol wrth gwrs) sydd yn y mwyafrif.

Mae’r iaith safonol ei hun yn tueddu i ddatblygu ac i ddewis o’r ffurfiau

tafodieithol yn ôl egwyddorion go bendant. Os oes modd, wrth wneud arolwg ohoni,

da fyddai inni geisio dod o hyd i egwyddorion arweiniol fel y rheini. Fe all y rheini ein

helpu i gadw cysondeb. Ond mae cysondeb yn rhoi hyder i ddysgwr ac eglurdeb

meddwl i’r athro, dau anhepgor yn y gwaith o gyflwyno ail iaith. Hynny yw, os oes

peth anghytundeb rhwng deupen y wlad ynghylch rhyw ffurf safonol — e.e. ‘tyrd’neu

‘dere’, ‘llonge’neu ‘llonga’— y pryd hynny mae’n ddefnyddiol os oes gennym

egwyddorion allanol gweddol wrthrychol a all benderfynu drosom, fel petai, yn hytrach

na thrafod pob problem yn ddi­ganllaw.

Er mwyn gweld yr egwyddorion orau, da fyddai inni geisio eu gweld ar waith.

Ambell dro does dim trafferth o gwbl. Er enghraifft, wrth drafod y ffurf lenyddol

‘maent hwy’, mae pob tafodiaith yn unfryd gytûn mai taflu’r ‘­t’sy raid; a dyna’r arfer

ers canrifoedd lawer. Mae’n wir fod amrywiadau tafodieithol ar ôl megis ‘mân nhw’a

‘maen nhw’; ond pan fo dewis o’r math yna, mae’r egwyddor arall o ddewis yr agosaf

at y ffurf lenyddol yn ein cadw ar y briffordd. Felly, dyna un penderfyniad rhesymol

nad oes fawr o wrthwynebiad iddo; a phe bai pob penderfyniad yr un mor rhwydd,

gwyn fyddai’n byd ni. Ond da yw i ni sylwi’n bennaf, os gallwn, ar y pwyntiau lle’r

ydym yn cytuno, yn hytrach na chwyddo’r rhai lle mae yna anghytundeb.

Anghymeradwywn sefydlu amrywiad heb bwysau cryf iawn.

Un broblem ddraenog yw ynganiad gair fel llongau; hynny yw, y terfyniad

diacen yn au, megis ai, ac ae, mewn geiriau fel byddai a gwahaniaeth. Un peth sy’n

ymddangos yn glir i mi. Camgymeriad yw dysgu ynganu’r au yn yr orgraff yn llongau;

nid oes neb yn siarad fel yna; llediaith yw hi, ac anodd dweud ers faint o ganrifoedd y

taflwyd y dull yna o siarad. Mae’r dewis yn glir — llonge neu llonga yn ôl y bau

ddaearyddol.

Ond mae’r dewis yn bod rhwng sillafu llonge (yn ffonetig fel yr ‘e’yn ateb),

llonga (a chyfyd problem atab) neu llongau (yn anffonetig). Hynny yw, am yr olaf, fe

ellid sgrifennu llongau ond dysgu’r ynganiad llonge, llonga yn ôl yr ardal. Yr awgrym

olaf hwn yw’r un a gymeradwyir. Mae’r au, ai, ae mor ofnadwy o gyffredin mewn

sillaf olaf nes bod y sawl sydd am fynnu orgraff ffonetig yn eilun anghyfnewidiol yn

wynebu cannoedd a channoedd o newidiadau orgraff, dwsinau ar ambell dudalen o

brint. Fe fyddai hyn yn codi gwahanfur diangen rhwng yr iaith lenyddol a’r iaith lafar.

O’m profiad i, nid oes anhawster o gwbl i ddysgwyr o’r cychwyn cyntaf ddysgu

ynganu au, ai, ae yn y safle yma fel e (neu a) bob amser yn awtomatig. Gan fod hyn yn

newid rheolaidd, yr ydym unwaith eto yn diogelu’r egwyddor o gadw agosrwydd at yr

iaith lenyddol, os oes modd, heb dreisio naturioldeb yr iaith a heb greu anawsterau

mawr yn y dysgu. Os oes modd cadw cryn dipyn o olwg natur yr iaith lenyddol, heb

fynd yn wasaidd iddi, mae hynny’n sicr o fod yn fanteisiol. Dyma eithriad o safbwynt

orgraff. Y frwydr fawr fydd peidio ag amlhau eithriadau.

Mae yna un pwynt arall. Ac mae’n werth dilyn hwn eto i’r pen gan fod llawer o

ystyriaethau yngln â’r iaith lafar yn dod i’r golwg. Fe wyddom i gyd am y ceidwadwyr

hoff hynny sy’n gwrthwynebu pob newid, ac sydd, mewn achos fel hyn, naill ai drwy

sentiment neu drwy anwybodaeth, yn hawlio fod yr iaith lafar yn llai graenus neu’n llai

97

urddasol na’r iaith lenyddol. Soniant am ‘gywirdeb’llenyddol, fel pe bai cywirdeb llafar

hefyd yn gorfod cydymffurfio; a honnant nad yw iaith lafar ‘ddirywiol’ddim yn werth

ei chadw. O’r gorau, parchwn draddodiad, os na pharchwn draddodiadaeth. A’r iaith

mewn argyfwng tyngedfennol, mae’n well peidio â ffidlan yn ormodol â hi, os nad oes

rhaid. Yn sicr, does dim chwalu’r traddodiad naturiol oherwydd pwysau imperialaidd

ieithyddol diangen. Hynny yw, os gellir osgoi rhai newidiadau — ac ennill y nod o

lafareiddio’r iaith yn naturiol — yna dyna’r cwrs dewisol amdani. A dyma eto

gydnabyddiaeth o werth y ceidwadwyr.

Mae yna fanach problemau byth, wrth gwrs: e.e. sillafiad ydi/ydy. Ydi sy’n

gywir, ond mae ydy’n nes at orgraff y ffurf lenyddol, ac at weddill y gyfres ydyn,

ydych. ‘Ydy’a fabwysiadodd Saunders Lewis. ‘Ydy’hefyd ysywaeth a fabwysiadodd

pwyllgor CBAC. Felly, rhaid plygu i’r fath rym. Mae gwleidyddiaeth y busnes yn cyfrif.

Yn y llyfryn cynnar Cymraeg Byw disgrifiwyd detholiad rhagarweiniol o’r

cywair Cymraeg Llafar Safonol Ysgrifenedig. Cymhwyswyd Cymraeg Byw wedyn yn

ôl awgrymiadau a gafwyd yn Cymraeg Byw II a II1. A gellid argymell i ddysgwyr

arbenigol, os byddant yn ymddiddori mewn gweddau gwahanol ar y Gymraeg (ac ar ôl

iddynt feistroli’r cywair llafar safonol) i ymagor i’r ddau gyfeiriad pegynol wedyn, sef

(i) Tafodiaith, neu dafodieithoedd yn eu llawnder a (ii) y cyweiriau eraill ar yr Iaith

Lenyddol yn ei llawnder. Awgrymiadau a geir o hyd yn y llyfryn diweddaraf Ffurfiau

Ysgrifenedig Cymraeg Llafar ar ôl 3 rhifyn Cymraeg Byw, nid disgrifiad dihysbyddol.

Dyna’r ffurfiau a ddaeth allan o arbrofi’r blynyddoedd.

Fe fydd yr athro yn y dosbarth felly, os bydd yn derbyn yr argymhellion hynny,

yn dysgu dau beth dealladwy debyg yn gyntaf:

(i) Cymraeg Llafar Safonol yn ei waith llafar yn y dosbarth;

(ii) Cymraeg Llafar Ysgrifenedig a fydd yn llawforwyn i’r Cymraeg Llafar Safonol

hwnnw. (Dyma’r hyn a ysgrifennir ac a ddarllenir ar y dechrau, a dyma yn anochel yr

hyn a drafodir yn y llyfryn Ffurfiau Ysgrifenedig Cymraeg Llafar a gyhoeddodd

CBAC, am mai ysgrifenedig yw llyfr wrth natur. Ceir yno hefyd ambell argymhelliad

ynghylch y llefaru ei hun.)

Yn ystod y blynyddoedd diweddar daeth athrawon i gydnabod fwyfwy yr angen

am ddysgu ail iaith mewn modd llafar yn y dosbarth. Gwelwyd hefyd fod angen

cysoni’r gwaith llafar hwnnw â’r gwaith darllen ac ysgrifennu, sy’n fynych yn gyfredol

â’r llafar. Gan fod eisoes wrth law, mewn storïau a dramâu yn y traddodiad llenyddol

Cymraeg, gywair sydd wedi ymgymhwyso i gyfleu’r ansawdd llafar, tybiwyd mai

priodol fyddai defnyddio a nodi detholiad o’r cywair hwnnw. A dyna, gyda’i

ffaeleddau mân, oedd Cymraeg Byw yn wreiddiol.

Porth yw gwaith llafar safonol a’r cywair llenyddol llafar, ym marn llawer

ohonom, i holl ogoniant yr iaith lafar a’r etifeddiaeth lenyddol, er cydnabod mai

cymharol ychydig o’r dysgwyr a fydd yn gallu symud yn eu blaen i feddiannu llawnder

y rheini. Pont yw hefyd ymhlith y cyweiriau.

Bu llawer o lenorion ers canrifoedd yn ymgodymu â’r gwaith o lafareiddio'r

iaith lenyddol. Nid dyma’r lle i geisio disgrifio’r amryfal ymdrechion a fu i’r cyfeiriad

hwn. Diddorol sylwi ar y gwrthgyferbyniad yn hyn o beth ar droad y 16eg a’r 17eg

ganrif rhwng ysgol Milan (1567­1618) ac Ysgol Douai (1574­1590), ac ar le Williams

Pantycelyn (1762­1777) yn natblygiad y cywair wedyn.

Dyma enghraifft o Gweledigaeth Angau gan Ellis Wynne, llenor a wyddai sut

yr oedd sgrifennu cywair arall ar achlysur priodol gwahanol:

98

...... Llonydd, syr ertolwg, ebr fi, i Ddyn dieithr na fu yma ’rioed o’r

blaen, ac ni ddaw byth pe cawn unwaith ben y ffordd adre. Mi wnâ’i

chwi gofio’ch bod yma, eb ef, ac eilwaith âg ascwrn morddwyd

gosododd arna’i’n gythreulig, a mineu’n oscoi ’ngoreu.

Dyma enghraifft o Breuddwyd Pabydd Wrth Ei Ewyllys gan Emrys ap Iwan:

Yr ydwi heddiw yn mynd i dreuthu yn fras ar achosion Cwymp

Protestaniath yng Nghymru ... ’Dydi­hi ddim yn gyfundrath o gwbwl;

cymyscedd ydi­hi o ychydig ne lawer o betha Catholig wedi’w neuthur

wrth fympwy y cymyscwr, ac yna ymnewid yn barhaus yn ôl dyall dyn a

dull yr oes.

Mae gan yr iaith lenyddol lawer o gyweiriau gwahanol o hyd, a hoffwn yn y fan

yma ddyfynnu pedwar ohonynt o’r ugeinfed ganrif:

(1) Garuaidd dad melysaf breugerdd dyn

A didlawd feistr ei delediwaf iaith.

(T. Gwynn Jones)

(2) Y mae’n ofynnol i chi lenwi tudalennau 2­6 o’r ffurflen hon, llofnodi’r

Datganiad isod, a’i danfon yn ôl i mi o fewn 30 diwrnod. (Cyllid y Wlad)

(3) Na, ’d ydw’ddim o'r un farn â chi fanna; a rhoi yr ystyr gyffredin i

ramant, sef gosod mwy o liw a chynnwrf a phaent ar bethe nag sy’n perthyn

iddyn nhw yn realiti bywyd, ’dwy’i ddim yn meddwl ’mod i wedi gwneud

hynny o gwbl. (D. J. Williams)

(4) Mae Pît yn gythral am Fethylated, yfad peintia o’r sglyfath, a thorri

gwynt fel myharan. Wt ti’n nallt i? (W. S. Jones)

Dyma bedair gwedd ar yr ‘iaith lenyddol’, ie iaith ysgrifenedig a phrintiedig i gyd.

Y mae i bob un o’r cyweiriau parchus a llenyddol hyn ei swyddogaeth briodol

ei hun, er nad oes yr un ohonynt, fel y gyr y cyfarwydd, yn gwbl gyson. Cyfyd y

cwestiwn pa un o’r rhain y dylid ei gyflwyno’n gyntaf i ddysgwyr. Ar hyn o bryd, y

mae’r pendil o blaid gwedd ar y trydydd, sef ‘yr iaith lafar ysgrifenedig safonol’: gellid

dadlau yn ystyriol ai cywair arall a ddylai fod ar y blaen. Gellid trafod hefyd y disgrifiad

o’r cywair ei hun. Ond y mae’r amser yn cerdded rhagddi.

Honna rhai, bid sir, na cheir cyweiriau o’r fath yn yr iaith lenyddol, ac nad

yw’r elfennau llafar ynddi namyn ymyriadau gan ‘nodweddion anllenyddol’. Y mae hyn

yn gosod cryn straen ar ystyr y term ‘iaith lenyddol’, ac yn codi’r cwestiwn — onid

iaith lenyddol a geir yn Llyfr Du Caerfyrddin, yr Hen Benillion, Ellis Wynne, Daniel

Owen, a dramâu Saunders Lewis? A ydyw hi’n bod ar wahân i lenyddiaeth? Ac a

ydyw’n ddigyfnewid? ‘Creu annhrefn (sic),’medd un beirniad, ‘fel na ellir cynnal

safonau, yw honni, fel a wna’r Athro Jones, mai gwahanol gyweiriau ar yr iaith

lenyddol yw'r cyfan.’Wel, yr amrywiaeth hwn, mae’n sicr, ydyw’r realiti. Anodd

dadlau nad oedd Ellis Wynne yn sgrifennu iaith lenyddol.

Nid deddfu ar yr iaith lenyddol fu gwaith pwyllgor Cymraeg Byw o ran bwriad,

na’r ymdrechion o’u blaen ac wedyn, eithr disgrifio a dethol. Gallwn gytuno’n frwd,

serch hynny, â rhai beirniaid am yr angen i warchod safonau (sut bynnag y penderfynir

y rheini); ac yn y dyddiau dwyieithog hyn, diau fod mawr eisiau i athrawon ymroi’n

fwy diwyd i gadarnhau gramadeg a phriod­ddull a geirfa eu disgyblion drwy ddangos

iddynt yn fanwl nerth ac ystwythder yr iaith lenyddol academaidd yn ogystal â

phrydferthwch ac egni tafodiaith.

99

Eithr nid deddfau gan ryw ieithydd anllenyddol ei fryd ac ‘o’r tu allan’a

roddodd i Ellis Wynne ei safonau ef nac a barodd i’r iaith ffynnu ac ymystwytho ar hyd

y canrifoedd. Ac nid drwy ddeddfu y dysg neb bellach beth yw'r iaith lenyddol heddiw,

o leiaf yn gyntaf oll. Ond drwy sylwi ar lenyddiaeth ei hun gan archwilio’r traddodiad

yn ei amlochredd (nid y llyfrau gramadeg); drwy wrando’n glust­denau ar siaradwyr yr

iaith fyw (yn arbennig y rhai mwyaf ‘diwylliedig’, ond nid y rheini yn unig): dyna’r

modd gorau i bob un ennill gwybodaeth gwmpasog sylfaenol o lawnder yr iaith

lenyddol; ac yna hefyd, drwy sylwadau disgrifiol a dadansoddol ar yr hyn sy’n digwydd

ynddi ynghyd â thrafod a chymeradwyo’r hyn sy’n briodol mewn cyd­destun neilltuol.

Yn wir, yr wyf i’n un o’r bobl geidwadol hynny a hoffai weld mwyfwy o lawer o

bwyslais, o leiaf yn nosbarthiadau uchaf yr ysgolion uwchradd lle y dysgir y Gymraeg

fel ail iaith, a thrwy gydol yr ysgolion lle y mae hi’n iaith gyntaf, ar safonau orgraff a

threiglad a phriod­ddull, ffurfiad brawddegol, cenedl enwau a defnydd o arddodiaid,

a’r holl rychwant gogleisiol yna o bwyntiau lle y bydd defnyddwyr y cywair llenyddol

academaidd yn ansicr ambell waith ynghylch rhai o’i briodoleddau.

Gadewch inni fod yn gwbl glir yngln â rhychwant yr iaith lenyddol. Nid un

cywair mohono. Ac nid yw un cywair yn ‘gywirach’na’r llall. Y mae’r iaith lenyddol

fel yr iaith lafar yn cynnwys pob un o’i chyweiriau’i hun, yn ôl ei bwriadau ar y pryd:

nid gwaith panel Cymraeg Byw fu ceisio awdurdodi yngln â defnydd neu ffurfiau pob

un o’r rhain na chwaith drafod ym mha drefn y dylid eu dysgu. Y gwaith yn syml fu

cyflwyno dros dro ddisgrifiad cyflawnach ond cynnil a dethol o iaith lafar ysgrifenedig

safonol, hyd nes yr ystyrir y disgrifiad hwnnw’n ofalus ddefnyddiol o safbwynt dethol a

graddio yn ôl amodau didactig.

Soniodd un gohebydd am y cywair llafar safonol ei hun fel hyn: ‘y Gymraeg a

siaredir gan “Gymry diwylliedig”pan nad yw eu tafodieithoedd eu hunain yn gweddu

i'r sefyllfa.’Diau y cawn ddisgrifiad academaidd o’r cywair llafar yma ryw dro (h.y. yn

ôl enghreifftiau llafar, nid fel y mae’n ysgrifenedig), er y gall fod yn dipyn o gamp

cymhwyso’r disgrifiad hwnnw i anghenion yr athro ymarferol, gan mai llafar ydyw ei

hanfod. Ond ymhlith cyweiriau’r iaith lenyddol ei hun, fe geir eisoes un — sef cywair

llenyddol llafar safonol mewn storïau a dramâu a cherddi — sy’n cyfateb yn fras i’r

cywair llafar hwnnw.

Os bydd athro’n dewis dysgu’r cywair llenyddol hwn, ynghyd â’i waith llafar,

nid yw hyn yn awgrymu na bydd yn symud ymlaen, a hynny’n fuan, i ddysgu’r cywair

llenyddol academaidd hefyd. Ond fel y gwelir, ychydig iawn yn sylfaenol sydd o

amrywiadau neu o wahaniaethau mawr rhwng y ddau gywair hynny er gwaethaf pob

ymhonni. Odid ddim. Sylwer ar ‘enwau’ a ‘berfenwau’ ac ‘arddodiaid’ a

‘chysyllteiriau’yn y naill a'r llall.

Bu amryw ysgolheigion mawr yn trafod y cywair Cymraeg Llenyddol Llafar o

bryd i’w gilydd. Tri o’r pedwar ysgolhaig mwyaf yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif yn

y Gymraeg oedd Syr John Morris­Jones, Syr Ifor Williams, a’r Athro G. J. Williams.

Dichon y byddai’n weddus dyfynnu ychydig o’u sylwadau doeth hwy ar y pwnc.

Trafod yr iaith lenyddol yn y Genhinen VIII (1880) yr oedd J. Morris­Jones

pan ddywedodd

Y mae’r Gymraeg wedi bod yn rhy geidwadol. Nid oes dim yn natur

pethau yn ein rhwymo i sgrifennu ffurfiau saith gant oed. Pe buasai

ieithegwyr y ganrif ddiwethaf wedi dilyn ôl Edward Llwyd buasai

gennym Gymraeg llenyddol llithrig heddyw, a buasai pob Cymro

dysgedig yn llefaru a sgrifennu yr un iaith. Yn lle hynny fe geisiodd Dr.

100

Pughe droi’r llif yn ôl, ac adgyfodi hen ffurfiau marw, a gwneud yr iaith

ym mhob modd yn fwy annaturiol fyth. Fe allai y gallesid, ag arfer

ychydig ddoethineb, ystwytho llawer eto ar ein Cymraeg llenyddol, trwy

gymhwyso ato y deddfau sydd wedi gweithredu ar ein tafodieithoedd.

Gwir mai’r cywair llenyddol ysgolheigaidd ydoedd yr un a enillodd fryd Syr

John Morris­Jones yn bennaf am y rhan fwyaf o’i oes; ond pan ysgrifennodd yr erthygl

hon, fe welai fod amrediad yr iaith lenyddol yn ddigon llydan i gynnwys y cywair a allai

dderbyn ‘danyn, honyn, yden, ochor, pobol’. Syr John Morris­Jones ar ryw olwg oedd

tad Cymraeg Byw.

Sylwodd Syr Ifor Williams yntau wedyn ar yr amrywiaeth o gyweiriau sydd yn

yr iaith lenyddol:

Delfryd ambell un wrth bregethu yw siarad fel llyfr. Fy nghwestiwn

innau i’r cyfryw yw, Pa lyfr? Ai’r safon yw Y Drysorfa Fawr, ai ynteu’r

Eurgrawn? Pwy a ddilynwn ni, Ellis Wynne yn Y Bardd Cwsc, ai Ellis

Wynne yn y Llyfr Gweddi? Ai Ellis Wynne, ai ynteu Edward Samuel?

Morgan Llwyd ai Charles Edwards? Dr. Lewis Edwards ai Syr Owen

Edwards? Brutusiana David Owen, Homiliau Emrys ap Iwan, Cerdd

Dafod Syr John Morris­Jones, p’run?

Nid oes dim syndod, felly, mai Syr Ifor a fu’n bennaf gyfrifol am sefydlu’r term

‘Cymraeg Byw’ym 1960, ac a gefnogodd lawer o’r ffurfiau a ddefnyddir bellach mewn

Cymraeg Llafar Ysgrifenedig Safonol. A hynny’n ystyrlon iawn, gredaf i, beth bynnag

a ddywed rhai ceidwadol ar ei ôl ef a fethodd ag amgyffred yr amrywiaeth cyweiriau o

fewn yr iaith lenyddol.

Yn y cyfnod diweddar, efô a arloesodd drwy sylwi ar ffaith gydnabyddedig y

cywair amlochrog hwn yn y pwlpud, ymhlith Cymry diwylliedig, ac mewn Cymraeg

cyhoeddus. Dadleuodd yn gryf mewn cyfres o sgyrsiau neu ysgrifau (1946, 1968) o

blaid ei hyrwyddo. Efô a amlinellodd rai o’r ffurfiau y gellid eu mabwysiadu a’u

cydnabod. A thrwy ei gyfieithiad o Dol Ibsen (1926), darparodd fodel ar waith. Ei

nod yn y fan yna oedd hyrwyddo’r math o Gymraeg naturiol a oedd eisoes ar gael ac a

ddefnyddid mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru mewn math o amgylchfyd

‘diduedd’. Felly, dyna ddau o dri phrif ysgolhaig yr iaith Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif

yn tynnu’r ellyll o’r botel. Fe ddilynwyd Syr Ifor bron yn unionsyth ym 1930 pan

gyfieithwyd Hedda Gabler gan Thomas Parry.

Fe’i dilynwyd yntau hefyd gan gawr arall, sef G. J. Williams (Taliesin, 1967),

er bod ei ddarlith ef wedi’i thraddodi sawl gwaith tua 1961­2. Ail­wau dadleuon a

ffurfiau Syr Ifor a wnaeth ef. Ond unwaith eto, yr oedd yn gwneud hyn ar sail cywair a

oedd eisoes ar gael yn gyfredol gyda’r tafodieithoedd ar y naill ochr a Chymraeg

Llenyddol ar y llall. Addysg (iaith­gyntaf) a’r cyfryngau oedd yr elfennau gwirioneddol

newydd a ddaeth i mewn gyda G. J. Williams, ynghyd â’r gosodiad y gellid disgwyl o

fewn yr un gwaith llenyddol — dyweder stori — gywair llenyddol ar gyfer naratif a

Chymraeg Llafar Safonol Ysgrifenedig neu Dafodiaith i sgyrsio. Credai ef y dylid

disgwyl gan athrawon a chan blant mewn ysgolion a cholegau Cymraeg eu cyfrwng, ac

ar y cyfryngau gan gyflwynwyr proffesiynol, mai Cymraeg Llafar Safonol fyddai’r

cyfrwng priodol a naturiol, ac y dylid ei hyfforddi fel rhan o’r addysg.

Un o’r prif ysgogiadau y tu ôl i sefydlu panel ‘Cymraeg Byw’, rhaid cofio,

oedd anogaethau’r Athro G. J. Williams. Dangosodd ef:

Yn y dramâu mydryddol cynharaf sydd gennym, mae cysylltiad agos

rhyngddynt a’r iaith fyw. Er enghraifft:

101

Oddyma nhw aethon

ac nid i’r ffordd i doethon

dos a dywaid i Herod

y mod yn gowir galon.

A Twm o’r Nant. I’m tyb i, dylai fod cysylltiad bywydol rhwng iaith y

ddrama fydryddol a’r iaith fyw ... Heddiw, rhaid inni gydnabod yn yr

iaith lafar safonol, yr iaith y mae’n rhaid inni wrthi, nid yn unig mewn

nofelau a dramâu ond hefyd yn yr ysgolion a’r colegau pan ddysgir pob

pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg — y mae’n rhaid inni gydnabod y prif

wahaniaethau ac anwybyddu’r hynodion lleol.

Eto, dywed:

Credaf fod rhyw fath o Gymraeg llafar safonol hefyd yng nghyfnod y

penceirddiaid, a bod beirdd a’u noddwyr yn ei defnyddio.

Sylwer yn achos y tri ysgolhaig hyn, nid trafod dysgu ail­iaith yr oeddent. Mae i

bob cywair llenyddol ei ddefnydd priodol. Gellir sylwi er enghraifft ar y ffordd y byddai

Kate Roberts yn defnyddio gwedd ar y cywair llenyddol llafar safonol (sy’n gogwyddo

ychydig at dafodiaith) yn ei sgyrsiau mewn nofelau; ond yn ei hadrodd­stori (ei naratif),

y cywair llenyddol academaidd a ddefnyddia. Nid yw hyn yn golygu mai dyna’r

dosraniad prennaidd, gwahân, cyson, oherwydd fe all fod yn ddigon derbyniol i storïwr

sgrifennu’r rhan adrodd­stori yn ogystal â’r sgyrsiau mewn cywair llenyddol

tafodieithol. Ond y mae’n amlwg na fyddai’n ymddygiad gweddus i sgrifennu i Llên

Cymru mewn cywair tafodieithol na hyd yn oed mewn cywair llenyddol llafar safonol,

er mai prin yw’r perygl i blant ysgol nac i ddysgwyr mewn oed wneud hynny. Rhan o

addysg plant yn eu hiaith gyntaf yn ogystal â’u hail iaith yw dysgu pa fath o gywair a

ddisgwylir mewn cyd­destun gwahanol.

Ni ddisgwylid i addysg ffurfiol roi sylw priodol i’r cywair hwn ar yr iaith tan ail

hanner yr ugeinfed ganrif. Ar y pryd, yr oedd yr iaith gyntaf yn wynebu’r proses

poenus o ymystwytho. Yng Nghyfadran Addysg Aberystwyth y cymhwyswyd

Cymraeg Llafar Safonol Ysgrifenedig am y tro cyntaf i’r gwaith o ddysgu ail iaith.

Disgrifiwyd model ar gyfer cwrs cyfyngedig (1962) ynghyd â dadleuon a dehongliad

(1962, 1963, 1981, 1985, 1996) i hyrwyddo’r cywair llafar safonol hwn. Sefydlwyd

pwyllgor disgrifiol wedyn gan Gyfadran Addysg Abertawe a chyhoeddi Cymraeg Byw

I (1964). Mabwysiadwyd y gwaith gan y Cyd­Bwyllgor Addysg, sef Cymraeg Byw II

(1967), pryd y manteisiwyd ar ddau o brif ramadegwyr Cymraeg yr ugeinfed ganrif, sef

T. J. Morgan a Stephen J. Williams. A gellid sylweddoli bellach mai Proses oedd

Cymraeg Byw, nid Achlysur. Diwygiwyd ymhellach, Cymraeg Byw III (1970). Yna,

cafodd fersiwn diwygiedig ymddangosiadol fwy sefydlog, Ffurfiau Ysgrifenedig

Cymraeg Llafar (1991), ei gyhoeddi, eto gan y Cyd­Bwyllgor. A dyna’r lle yr ydym yn

sefyll ar hyn o bryd. Sylwer mai’r nod o hyd oedd nid ffurfio iaith ffug, eithr disgrifio

ffaith a oedd yn bod — sef yr iaith lafar safonol.

Oherwydd profiad helaeth a thrafodaeth fanwl gan is­bwyllgor Ffurfiau

Ysgrifenedig Cymraeg Llafar ar sail trafodaethau a beirniadaethau’r gorffennol,

diwygiwyd amryw ffurfiau; er enghraifft, y ddwy ffurf fwyaf annerbyniol yn Cymraeg

Byw, sef dydw a dydy, nid oherwydd anghywirdeb, eithr oherwydd diffyg gwasgariad a

chyffredinedd daearyddol o fewn llafar safonol. A derbyniwyd dw i, dyw e. Sefydlwyd

y rhain yn fuan a’u defnyddio’n helaeth er bod ymgais o hyd tuag at ddatodiad ôlfodernaidd.

Ac yna, wele’r ffurfiau amhoblogaidd yn llithro’n eu hôl yng ngwaith y

Cyd­Bwyllgor ei hun, am wn i yn ddifeddwl.

102

Soniais gynnau am dri o’r pedwar ysgolhaig mwyaf yn hanner cyntaf yr

ugeinfed ganrif. Y pedwerydd yn ddiau yw Saunders Lewis, ac yr oedd ef wedi gorfod

ymgodymu â phroblemau Cymraeg Llenyddol Llafar drwy gydol ei yrfa ddramatig.

Dyma ddarn nodweddiadol iawn o Gymerwch chi sigarét nad yw’n dafodieithol, ond

sy’n cyfleu’r hyn sydd gennym mewn golwg:

Calista:

Phugas:

Calista:

Phugas:

Calista:

Phugas:

Maen’nhw’n dangos y t iddo fe. Mae ganddyn’nhw

gar modur yn sefyll gerllaw, a’r gyrrwr yn ei sêt yn

barod.

Pam rwyt ti’n dweud mai nhw piau’r modur?

Does neb arall yn y café.

(gan groesi i roi cip) A’r gyrrwr yn y sêt yn barod.

Yn barod i beth?

Pwy yr? I’th gipio di drosodd i sector y Rwsiaid.

Dim peryg’. Mae gen i lond y bwrdd yma o lythyrau.

’Dw’i ddim yn mynd allan o’r t.

Sylwer fel y mae Mr Lewis yn y cyfnod hwnnw yn dal i ddefnyddio collnodau

chwareus mewn geiriau megis maen’, peryg’— sef yr hyn y gellir ei alw’n feddfeini

hedegog. Sut bynnag, yn ei Ragair i Problemau Prifysgol y mae Saunders Lewis yn

datblygu’r ddadl ynghylch y cywair llafar ryw ychydig, ac yn gwneud dau beth

gwerthfawr yn unol ag ysbryd pwyllgor Cymraeg Byw sef:

(i) canmol camp fyw y cywair llenyddol academaidd.

(ii) dangos gyda rhai ffurfiau na raid bod yn ‘ffonetig’, ac y gellir sgrifennu rhai geiriau

mewn dull llenyddol fel hyn, e.e., ei, ein, eich, pethau, a disgwyl i ddarllenydd eu

hynganu fel hyn i, yn, ych, pethe/petha. Cydnebydd fod yna rai ffurfiau llafar y dylid eu

cynrychioli hwy felly mewn print, e.e., ‘Cytunaf yn galonnog na ddylid sgrifennu

arnynt, eithr arnyn nhw.’

Dyma Kate Roberts yn gwneud rhywbeth tebyg:

Dydw i wedi sôn dim am fy hanes er pan ddois i yma. Ond mi wn pam;

ar y cychwyn beth bynnag, ’doedd dim yn digwydd; yr oeddwn i’n

llonydd heb fod yn gwrthwynebu bod yma, a heb awydd arna’i i weld

neb, hyd yn oed fy ngr. ’Doeddwn i ddim yn cymryd diddordeb yn yr

hyn oeddwn i wedi’i adael ar ôl nac yn neb na dim o ’nghwmpas y fan

’ma ’chwaith. ’Roeddwn i’n gwrando ar y merched yn siarad heb fedru i

gymryd o i mewn rywsut. ’Doedd dim yn suddo i mi. ’Roedd o’r un

fath i gyd.

Dyna iaith lenyddol briodol, hynny yw, yr iaith yn cael ei defnyddio gan

‘frenhines ein llên’mewn llenyddiaeth, sef realiti ac nid dychymyg, a realiti digon

‘anghyson’, y math o iaith a astudir gan Gymry iaith­gyntaf ac ail­iaith yn ein

hysgolion; ac yn gywir felly. I rai, sydd heb ddeall natur llenyddiaeth yn hyn o beth, y

mae ‘dydw’yn destun sbort; y mae ‘doedd’yn symleiddiad; ac y mae hyd yn oed yr

amlder o’r rhagenw ôl yn wrthun. Ond i’r sawl sy’n hydeiml i lydanrwydd adnoddau’r

iaith lenyddol, y mae’r cywair hwn yn hyfrydwch, a byddai natur y darn llenyddol hwn

yn gwbl wahanol pe bai’r cywair llenyddol academaidd bondigrybwyll yn cael ei

fabwysiadu’n unffurf brennaidd ar ei gyfer neu pe bai’r awdures hon wedi ceisio cyfleu

union dinc ei thafodiaith.

103

Y mae Cymraeg llenyddol llafar safonol, felly, yn gywair ar yr iaith lenyddol

sy’n bod ers canrifoedd. Y mae’n fyw o hyd heddiw. Dyma fu sylfaen Ffurfiau

Ysgrifenedig Cymraeg Llafar. Y cwestiwn cyntaf y bu'n rhaid i’r panel ei ofyn yw —

wrth sgrifennu Cymraeg llafar heddiw (ac yn yr agwedd lefaru gyfatebol) o fewn y

traddodiad hir a deinamig hwn, pa ffurfiau yn yr iaith y gallwn eu defnyddio? Ac yn ail,

o blith yr amrywiadau anghyson a ganiateir o fewn rhychwant ein ffurfiau llenyddol

llafar hyn, a oes modd dewis un o bosibl ym mhob categori (neu ddwy, neu dair) sy’n

ymddangos yn fwy mynych neu sy’n llai cyfyngedig o ran cylchrediad neu sy’n

bedagogaidd ddefnyddiol, ac eto sy’n rhan o batrwm cydlynol? Ar gyfer yr ail

gwestiwn yr oedd grp o bobl (a gynhwysai siaradwyr tra safonol, megis T. J. Morgan

a Stephen J. Williams) — mewn cyswllt ag ugeiniau o rai eraill ym mhob parth — yn

gryn gaffaeliad.

Nid bathu iaith a wneid felly, ac wrth gwrs, nid dyfeisio dim sylfaenol newydd

(ar wahân i eithriad pwysig y ffracsiynau). Yn sicr, nid symleiddio’r iaith. Nid cyfyngu

geirfa ond sylwi ar rywbeth a oedd eisoes yn bod a’i ddisgrifio, gwedd ar yr iaith sy’n

naturiol ac yn datblygu ac yn goleddfu yn ôl cefndiroedd amrywiol; a dethol y

rhychwant cyntaf o fewn y cywair hwnnw a fyddai’n addas i ddysgwyr a all, maes o

law, symud ymlaen at Gymraeg tafodieithol, Cymraeg llenyddol academaidd, a hyd yn

oed Cymraeg Canol. Ni ellir, serch hynny, ddysgu’r cwbl hwnnw yr un pryd, ysywaeth,

er mor ddymunol y gallai hynny fod.

Cwestiwn addysgol yn unig yw — o’r holl gyweiriau amryfal sydd i’w cael ar

yr iaith Gymraeg, pa un yw’r cyntaf i’w ddysgu? Nid yw ateb y cwestiwn hwnnw drwy

ddweud ‘Cymraeg (ysgrifenedig) llafar safonol’yn gwadu pwysigrwydd Cymraeg

llenyddol academaidd na Chymraeg llafar tafodieithol. Nid ydys yn negyddu dim oll. Y

mae i bob un o’r cyweiriau hyn, ac i lawer o rai eraill, eu lle priodol. Yr hyn sy’n eu

gwahanu ydyw maes eu defnydd; ac y mae hyn yn wir ym mhob iaith. Ac yn y man, fe

fydd rhaid i ddysgwyr sylweddoli yn llawnach pa gywair sy’n briodol ar gyfer pa

amgylchiad.

Nid esgus dros fabwysiadu iaith flêr yw mabwysiadu cywair llenyddol llafar ar y

dechrau. Nid modd i esgeuluso deddfau na rheolau’r iaith byth. Nod pob athro

Cymraeg da ydyw meithrin iaith raenus ac urddasol, beth bynnag fo’r cywair. Dyna

nod Ffurf Ysgrifenedig Cymraeg Llafar.

Nid esgus yw’r cywair hwnnw chwaith dros gyfyngu ar yr iaith nac ar y dysgu

mewn unrhyw fodd. Nod yr athro yn y pen draw yw cyflwyno iaith i’r dysgwyr sy’n

ystwyth ac yn urddasol, yn firain ac yn addas naturiol i bob pwrpas, a honno yn y bôn

yn helaethach ei geirfa a’i hadnoddau gramadegol na’r tafodieithoedd.

Tramgwydd mawr i lawer ohonom a ddysgodd y Gymraeg yn ail iaith, digon o

dramgwydd i atal rhywrai’n derfynol rhag dysgu dim ymhellach, oedd darganfod nad

oedd rhai o’r geiriau neu’r ffurfiau mwyaf cyffredin a ddysgem mor gydwybodol yn y

dosbarth gynt yn cael eu harfer ar lafar yn gyffredin gan neb oll drwy Gymru benbaladr

onid mewn amgylchiadau seremonïol. Ffurfiau hynod sylfaenol a chanolog a

ddigwyddai mewn rhyw wedd ym mhob sgwrs bron megis ‘yr wyf i, y mae ef, yr ydym

ni, yr ydych chwi, y maent hwy’ayyb Daeth rhai i deimlo’n bur ffôl wrth ddefnyddio’r

rhain yng nghwmni siaradwyr naturiol. Tramgwydd pellach i’r rhai a bydrodd arni oedd

darganfod wedyn fod yna gywair ar gael yn yr iaith lenyddol ei hun, sef y cywair

llenyddol llafar safonol, a ddefnyddiai ffurfiau amgenach megis (ar y dechrau o

safbwynt dysgwr) ‘dw i’ac ‘mae e’neu ‘mae o’, ‘dch chi, maen nhw’, a oedd yn

adlewyrchiad digon derbyniol o rai ffurfiau hollol naturiol yn yr iaith lafar safonol.

104

Yn ystod y cyfnod y bu Cymraeg Byw mewn print ni ddarfu imi sylwi (ac efallai

i mi golli pethau) ond ar dri chyfraniad deallus a oedd yn ychwanegiadau defnyddiol at

yr hyn yr oedd y panel wedi’i wneud, sef erthygl gan yr Athro T. Arwyn Watkins ‘Y

Rhagenw Ategol’, Studia Celtica, xii/xiii, 367­395, nad oedd yn cynnig diwygiadau fel

y cyfryw ond a helaethai’n werthfawr ramadegol ar y defnydd o un eitem; hefyd y

gyfrol sylweddol The Welsh Language gan B. Morris Jones ac Alan R. Thomas (nad

yw’n cynnig diwygiadau eto, ond sydd — er gwaethaf rhai diffygion — yn

atgyfnerthiad); ac un awgrym call ynghylch diwygio trefnolion gan Dr Urien Wiliam yn

Y Faner a sgrifennwyd o safbwynt rhywun a wyddai beth oedd natur y gwaith dan

sylw. Tueddai sylwadau eraill, mae arnaf ofn, i fod naill ai’n anneallus neu’n bersonol.

Hyderir yn awr wrth gyfeirio’r sylw’n benodol at y ffaith mai cywair yw hwn yn yr iaith

lenyddol y ceir sylfaen i drafodaeth yr un mor oleuedig.

Carwn roi peth sylw yn awr i’r estyniad i Gymraeg Byw a gafwyd yn

ddiweddar mewn cyfrol gan un o feirniaid mwyaf chwyrn y datblygiad hwn. Gan fod

gennyf lawer o barch at yr awdur hwnnw, a chan na fwriadaf i hyn ond ymwneud ag

egwyddorion a thueddiadau yn hytrach nag ag ansawdd gwaith na pherson yr awdur

dan sylw, ymataliaf rhag cyfeirio at y gwaith hwnnw ond o dan y byrfoddau CBK. Nid

adolygiad yw hyn, ond trafodaeth ar broblem.

Yn ei ragymadrodd y mae’r awdur yn gwneud rhai gosodiadau cyfeiliornus, ac

efallai y byddai eu cywiro yn gymorth i ddisgrifio a dehongli natur Cymraeg Byw ei

hun yn fwy penodol.

1. ‘Cymraeg Byw was promoted with the intention of facilitating the learning of Welsh

particularly among adults.’

Gwelsom eisoes fod Cymraeg Byw yn ymwneud â phawb sy’n siarad yr iaith ac

mai yn y sector iaith­gyntaf y dechreuwyd trafod y ffaith ddiddorol fod yna gywair

safonol cymharol annhafodieithol ar gael (ers canrifoedd yn ôl pob tebyg) ac y gellid ei

hyrwyddo. Yr hyn a oedd mewn golwg yn gyfoes oedd dramâu, siarad cyhoeddus,

cyflwyno safonol ar y cyfryngau, a llafar priodol ac ‘annhafodieithol’mewn addysg. Yn

wir, ym merw’r ddadl ynghylch Cymraeg Byw yn y chwedegau, o du ambell lenor

iaith­ gyntaf y daeth y gwrthwynebiad pennaf. Enghraifft deg o hyn oedd cyfres o

erthyglau yn y Cymro Hydref 1967 gan un o’n hawduron gorau. Ceid pwysau ar y pryd

i lafareiddio dialog awduron. Ac er gwaethaf y cyfnod o drawsnewid poenus, da oedd

gweld bod rhai o’r gwrthwynebwyr taeraf i lafareiddio naws sgyrsio wedi ildio’n dawel

a symud i’r cyfeiriad iawn gyda’r blynyddoedd, a bod pleidwyr gorselog Cymraeg Byw

hwythau wedi gorfod cydnabod y lle pwysig ac arhosol sydd i dafodiaith gan lenorion

iaith gyntaf.

2. ‘Cymraeg Byw can be seen to be artificial in that it is not a native language.’

Byddai’r rhai a geisiodd ddisgrifio model o Gymraeg Llafar Safonol fel hyn ar y

dechrau wedi dadlau eu bod yn feunyddiol gyfarwydd â’r fath iaith, nad oedd yn

artiffisial o gwbl, eu bod yn ei medru ac yn ei defnyddio. Dichon iddyn­nhw fethu

rywfaint yn yr ymgais i'w ddisgrifio’n foddhaol; dichon o fewn rhychwant mewn Llafar

Safonol Ysgrifenedig na hyrwyddwyd bob amser ddethol yr union ffurfiau mwyaf

priodol; ond mater i drafodaeth yw hynny. O leiaf, buwyd yn barod i ddiwygio’n

gyson.

3. ‘I have sought to accommodate the main aspects of dialect variation by following

the consensus in dividing Colloquial Welsh into two major dialects — North (N) and

South (S).’

Dyma symleiddiad gwneud sydd heb wahaniaethu rhwng tafodiaith arferol a’r

cyweiriau safonol, a hynny o du gwrthwynebydd i Gymraeg Byw. Gall fod yn

105

symleiddiad digon teg; ond artiffisial yw’r dull o ran bwriad. Cyfaddefiad allweddol

yw. Y mae Cymraeg Byw at ei gilydd wedi bod yn ymbalfalu, yn ddigon ffaeledig, tuag

at ddisgrifio ffaith, sef Cymraeg Llafar Safonol (Ysgrifenedig). Ond peth sy’n bod yw

hyn. Fe’i clywir gan nifer helaeth o siaradwyr y Gymraeg ym mhob parth o Gymru bob

dydd. Mae’n gyfrwng mewn llu o gartrefi. Dyma a glywir, gwae ni, mewn pwyllgorau.

Rhydd CBK sut bynnag ddau fodel o Gymraeg Byw wedi’u llunio ar sail

‘accommodation’a chonsensws. Fe'u galwaf yn CB4 (Gogledd) a CB5 (De). Mae ef

yn eu cymysgu blith draphlith drwy’r gyfrol, heb nodi fel arfer pa bryd y mae’n

ogleddol, pa bryd yn ddeheuol; a dyma yn wir brif wendid y gwaith. I ramadegydd

estron neu ddarllenydd cyffredin o ddysgwr wrth ddarllen y llyfr nid yw’r gwahaniaeth

hwn yn eglur o gwbl. Nid oes dim ymgais i ddisgrifio model cyfun. Ac eto, nid ar ei

ben ei hun y mae CBKG yn hyn o chwalfa, oherwydd dyma un o’r beiau pedagogaidd

anffodus digon hysbys o hyd mewn ambell gwrs cenedlaethol, sef cymysgu modelau.

O ran didacteg, y mae cyflwyno model unplyg cyson yn anghenraid normal ac y

mae cyd­ddysgu dau fodel cyfredol yn yr un lle yr un pryd yn bolisi annoeth iawn. Y

niwlio hwn gan CBK o ran modelau tafodieithol yw’i brif ddiffyg mewn cyfrol sy’n

llawn o ddiffygion. Wedi cael y weledigaeth o CB4 ac CB5, nid oedd gan yr awdur

ddigon o feiddgarwch i ddilyn ei weledigaeth drwodd i’r pen. Nis helpwyd gan y duedd

a geir nid yn unig ganddo ef ond yn boblogaidd ymhlith gweithwyr eraill yn y maes, i

hau anghysonderau ymhobman: felly ganddo ef, sylwer ar y llafariaid yn amrywio —

‘ydi/ydy; daeth/dôth; basai/basa; gweles/(gwelais)/gwelas; ‘Se fe ddim yn ymddwyn fel

’na tasai ei gariad yn y stafell.’

Eto, y weledigaeth o ddisgrifio dwy wedd mewn mannau gwahanol (os dyna a

fwriadai) — CB4 ac CB5 — yw ei brif gyfraniad, sef y syniad o ddau Gymraeg Byw.

Y mae cysyniad CB4 ac CB5 fel y’u ceir ganddo ef yn codi cwestiwn pwysig ddigon.

Ac yn fy marn i, dyma gyfraniad gwerthfawr i’r drafodaeth y talai inni’i ystyried o

ddifri. Credaf yn ymarferol fod pethau’n symud i’r cyfeiriad hwn eisoes, er bod yna

awydd i fod yn rhy leol neu dafodieithol mewn ambell gwrs ail iaith o hyd. Y prif

ganllaw fydd cynildeb disgybledig.

O fewn Cymraeg Llafar Safonol ceir cryn amrywiaeth, lawer mwy nag sydd

mewn Saesneg Llafar Safonol gan fod mwy o barch tafodieithol di­ddosbarth yng

Nghymru. Gwaith pob gramadegydd yw darganfod rheoleidd­dra. Gwaith Pwyllgor

Cymraeg Byw gynt, a oedd gyda llaw yn anochel yn defnyddio Llafar Safonol yn y fan

a’r lle fel cyfrwng pwyllgora, oedd dod o hyd i fodel naturiol a fyddai’n adlewyrchu un

posibilrwydd dilys a hwylus o fewn y wybodaeth am y cywair a oedd ym meddiant y

pwyllgor ei hun. Gall pwyllgor (megis unigolyn ecsentrig yntau) wneud penderfyniadau

ffôl; ond o leiaf gellid rhannu barn a phrofiad. Gwn i fy hun: pan oeddwn i gynt ym

1961­2 yn ceisio model sylwais y gallai’r ddau berson y bûm i’n sylwebu arnynt

ddefnyddio mewn Cymraeg Llafar Safonol ffurfiau deheuol ambell waith, ffurfiau

gogleddol dro arall. Ond dyma’r cwestiwn: tybed a fuasai’n ddoeth ailgynnull y

pwyllgor diwethaf a gafwyd, bellach i ystyried dau fodel gwahân ar Gymraeg Byw yn

hytrach nag un, yn unswydd ar gyfer ysgolion neu fideo (nid ar gyfer teledu

cenedlaethol efallai)? Yn hyn o beth byddai rhai o’r awgrymiadau a gyfyd CB4 a CB5

yn werth cyfnewid barn yn eu cylch. Rhaid wrth gwrs anelu at safonau graenus o hyd.

Rhaid ymatal rhag afradlonedd diddisgyblaeth. A dyma eto lle y gwanychwyd

beirniadaethau CBK. Heblaw cyflwyno modelau safonol o CB4 a CB5 rhoddai ochr yn

ochr â hwy enghreifftiau ansafonol heb awgrymu unrhyw fath o ymagwedd at y

gwahaniaeth: e.e. ‘Ei hoff beth oedd gwrando ar ei hun ar y radio. (h.y. arno’i hun).’

106

‘Ellwch chi ddim eistedd efo’ch gilydd, achos na sedd rhywun arall ’dy honna.’Fe’i

cyfieithir ganddo: ‘You can’t sit together, because that’s someone else’s seat.’

Does dim cysondeb o safbwynt ceidwadaeth nac angheidwadaeth yn CBK. Yn

awr, gellid dadlau mai anghyson yw llafar a llenydda y Cymry Cymraeg heddiw.

Gwaith gramadegydd yw dosrannu’n ystyrlon. Ond carwn ddyfynnu un enghraifft sy’n

arddangos fel y mae CBK yn anghymwyso’i griteria ei hun ar gyfer disgrifio unrhyw

fodel ieithyddol: ’Dda i ’ma. sef “Fydda i ddim yma”.

Rhaid fy mod i pan oeddwn yn byw mewn amgylchfyd Ffrangeg ei iaith wedi

clywed ‘Spa’ugeiniau o weithiau, fel yr wyf wedi clywed ‘Mbo’yn Gymraeg neu

‘Dno’yn Saesneg ar gyfer yr un peth. Ond o’r braidd y disgwylid mewn disgrifiad

cyfrifol a chytbwys o Ffrangeg Modern y byddai’r holl dalfyriadau posibl sydd ym

mhob amgylchfyd ieithyddol yn cael eu cyflwyno’n enghreifftiol blith draphlith. Mae

pob iaith fyw rugl yn cwtogi ac yn taflu ffonemau a sillafau fesul cannoedd wrth gael

eu llefaru ffwrdd â hi. Ond nid dyna sylfaen Gramadeg cyfrifol.

Dylid crybwyll un ddadl anghyfrifol arall. Fe’i clywais gan geidwadwraig a

ddymunai hyrwyddo’r iaith lenyddol ‘hyd y diwedd’. Awgrymai hi y dylid ysgrifennu

‘nid ydynt’a dweud ‘dydyn nhw ddim’. Dyma’r sefyllfa realistig, meddai hi — dyna a

wneir yn ymarferol. Bydd yr iaith lenyddol yn defnyddio’r ffurf gyntaf, a’r iaith lafar

safonol yn defnyddio’r ail. Ac oni bydd y Saesneg hithau wedi’r cwbl yn cadw bwlch

parchus rhwng ysgrifennu ‘thought’a dweud ‘thôt’? QED. Dan bwysau synnwyr

cyffredin, sut bynnag, cododd Saunders Lewis yntau’r un posibilrwydd. Ac fe’i

gwrthododd ei hunan.

Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelais atgyfodi’r syniad ecsentrig hwn

drachefn mewn modd braidd yn uchelgeisiol, gan athro deallus ymhlith y goreuon yng

Nghymru. Awgryma ef yn ei gwrs y ddeuoliaeth:

Ffurf

Ynganiad

cafodd

gath

prysur

bishi

does dim

’sdim

gorfod gorffod ayyb

Mae’r awgrym, os caf ddefnyddio gair sy’n eithafol o gymedrol, yn chwithig. Ond

cofier: dyma athro penigamp. Sut y llwyddodd i wyro oddi ar synnwyr cyffredin mewn

modd mor hynod? Ni allaf i ond dweud fy mod yn arogli yn y fan yma ormes anffodus

Ôl­foderniaeth, symudiad isymwybodol a afaelodd heb yn wybod yn llawer o fywyd

deallol ac ysbrydol y cyfnod diweddar. Dyna ben draw rhagdybiau relatif, lluosaidd, a

disafon yr amseroedd.

Y drwg, sut bynnag, yw gyda rhai cyrsiau diweddar o’r math hwn fod rhai yn

‘ymchwilio’ymhlith eu dysgwyr wedyn, ac yn gofyn pam y maent yn rhoi’r gorau iddi.

Sut y gellid disgwyl iddynt byth wybod beth y mae’r cyrsiau anghyson ac anraddedig

hyn yn ei wneud i’r iaith? Na pham y mae’r anhrefn mor enbydus?

Diau ei bod yn hen bryd rhoi sylw o ddifri o’r newydd i safoni; ac i Gymraeg

Llafar Ysgrifenedig Safonol fel ffurf fyw naturiol yn hytrach na dal ati i geintachu am

rai hediadau ecsentrig. Mae’n fater o frys o hyd. Mae’n rhaid llafareiddio’r iaith a

ddysgir mewn modd safonol, mewn modd cyson a sefydlog, does dim amheuaeth am

hynny. Ond os na wneir hynny mewn ffordd gall a chyfrifol, fe geir pob math o

flerwch. Rhaid meithrin clust i adnabod y talfyriadau ‘safonol’. Mae ‘Ni welais’yn

107

amhosibl heddiw ar lafar call, megis ‘y maent hwy’. Ond y mae adnabod priodoldeb

cywair derbyniedig yn rhan o gymhwyster ieithydd.

Tipyn o faldod yw'r ymagweddu ‘byw’at iaith yn ymarferol pan geisir ymwadu

â realiti gymdeithasol safon a chywair, patrwm didacteg, a manylder. Pe bai llenorion

ac addysgwyr gynt wedi rhoi’u cefnogaeth gref i ymgyrch G. J. Williams i hyrwyddo

Cymraeg Llafar Safonol, dichon y buasai gwell graen ar iaith y cyfryngau heddiw. Y

maent yn medi’u cynhaeaf bellach. Rhwng ‘Ni byddaf yma’y ceidwadwyr a ‘Dda i

’ma’y talfyrwyr, saif bellach y peth gwrthun erlidiedig hwnnw Cymraeg Byw neu'n

well Ffurfiau Ysgrifenedig Cymraeg Llafar, ‘Fydda­i ddim yma’. Diolch amdano.

Mae’n bosibl inni ddysgu peth felly gyda hyder yng Nghaerdydd, ym Mangor, yn

Nhyddewi, yn Wrecsam. Trïwch redeg y ferf ‘dda’neu ‘mbo’mewn dosbarth.

Nid yw’n syn yn wyneb enghreifftiau fel yr uchod fod CBK yn bur ddirmygus

o’r iaith lenyddol Gymraeg, ‘a particular type of artificial Welsh’. Meddai fe: ‘Where

the codifiers went wrong, whether innocently or by calculation, was in opting for an

artificially constructed version of Welsh rather than a compromise based broadly on

true speech patterns.’ Dyna awgrymiadau ar ffurf crynodeb go annigonol ac

anwybodus o’r ffordd yr ymffurfiodd yr iaith lenyddol yn ddiarwybod geidwadol ond

yn syndod o naturiol drwy’r canrifoedd (gan feirdd yr uchelwyr, William Morgan, a

chan lenorion ar ei ôl, yn ogystal â chan J. Morris Jones ac ar ei ôl yntau.). Cafwyd yn

sicr ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddadl (debyg i’r un a gyfyd CBK ar

ddiwedd yr ugeinfed) ynghylch ym mha gyfeiriad y dylai’r iaith lenyddol chwilio am

safon ‘sefydlog’, ac ymhle y ceid model defnyddiol ynghanol yr amrywiaeth. Ac wrth

gwrs, drwy gydol yr ugeinfed ganrif parhaodd y ddadl, a chafwyd datblygiadau chwyrn

ar yr iaith lenyddol a chlosio radicalaidd at yr iaith lafar (safonol a thafodieithol).

Cafwyd hefyd wrth gwrs gan John Morris Jones argymhellion cryf a ffurfiai

ganolbwynt diogel i’r dadleuon hyn oll. Mae llawer ohonom ers oes wedi bod yn

milwrio yn erbyn rhai ohonynt, ond ni wiw inni fychanu’r gamp a gyflawnodd Syr

John. Yn wir, pe baem ninnau’n ôl yn yr un sefyllfa, dim ond ôl­olwg dewin a fuasai

wedi gallu peri inni fod yn hollol sir nad argymhellion Syr Edward Anwyl fuasai’n

gallaf yn y pen draw.

Gall yr hyn a fu gennyf i’w ddweud am CBK ymddangos yn negyddol. Wrth

ddilyn trywydd beirniadol fel y gwnes, hawdd y gellid rhoi camargraff lwyr o ansawdd

y gwaith. Dyna pam na chodais y pwyntiau hyn ynghynt gan feirniadu llyfr diddorol a

ymddangosodd bellach rai blynyddoedd yn ôl. Ymateliais am na ddymunwn ar y pryd

danseilio’r gwerthiant, oherwydd credwn fod y gyfrol hon yn un helpfawr yn y ddadl,

er gwaethaf llawer o wallau pwysig iawn a pheth mynegiant anffodus ac anaeddfed.

Credaf hefyd ei fod yn ddiarwybod wedi codi cwestiwn y dylid ei wynebu’n deg

yn awr mewn sobrwydd a chyda gofal. Oherwydd ymrwymiad lleol i rai tueddiadau

mewn Cymraeg Llafar Safonol, oherwydd bod Cymraeg Llafar Safonol hefyd yn

gywair sy’n cynnwys amrywebau mor bendant ac eto mor dderbyniol o’r tu mewn

iddo, tybed onid priodol bellach fyddai i’r Cyd­Bwyllgor Addysg ail gynnull ei isbwyllgor

(gyda chynrychiolaeth gyfartal o’r ddau begwn) i drafod yn ystyriol y

doethineb o ddisgrifio dau fodel ail­iaith sef CB4 a CB5, Cymraeg Llafar Safonol

(Gogleddol) a Chymraeg Llafar Safonol (Deheuol)? Ceir dadleuon huawdl o blaid ac

yn erbyn hyn. Eto, dichon ar y llaw arall fod yna gywair, un cywair diduedd (gyda

dyrnaid o eithriadau), fel y tybiwyd gan bleidwyr CB1, 2, a 3, o Ffurfiau Ysgrifenedig

Cymraeg Llafar (1991) sy’n weddol gyffredinol safonol. Hynny yw, ni raid mynd i’r

ffos olaf dros dafodiaith yn hanes sawl siaradwr bellach: y mae llwybr canol yn bosibl.

108

A dichon mai glynu wrth un model felly fyddai’r casgliad ystyriol. Dyma fater i’w

drafod yn bwyllog.

Ceisiaf yn awr nodi rhai casgliadau neu egwyddorion cyffredinol:

1. Trafod yr wyf i fodel o Gymraeg Llafar Safonol Ysgrifenedig ar gyfer cyddestun

dysgu ail­iaith yn genedlaethol. Mater arall mwy amryddawn a hylif personol

yw llafareiddio (neu beidio) gan lenorion Cymraeg rhugl yn ôl eu cyweiriau llenyddol

eu hun.

2. Cymeradwyir un model pryd bynnag y defnyddir cyrsiau’n genedlaethol —

mewn cwrs cyfrwng, mewn canolfan genedlaethol, mewn llyfr neu gymorth arall.

Mewn cyrsiau lleol ar y llaw arall, priodol yw gweithio tuag at ddau fodel erbyn hyn,

un gogleddol ac un deheuol. Ond da yw i’r amrywebu hwnnw fod mor gynnil ag sy’n

bosibl.

3. Priodol yw ymatal rhag amrywebau unigolyddol. Hyrwydder yn hytrach

fodel a gaiff gytundeb, gan grp trefnus cynrychioliadol yn meddu ar gymwysterau

mewn ieithyddiaeth, mewn trafodaeth agored, ac a gefnogir gan awdurdod

cydnabyddedig megis y Cyd­Bwyllgor Addysg neu Fwrdd Gwybodau Celtaidd

Prifysgol Cymru. Ceisier sefydlogrwydd.

4. Dealladwy yw trafodaeth unigolyddol. Pan fo rhaid wynebu cwynion

unigolyddol, dylid cyflwyno awgrymiadau i drafodaeth agored gan gyflwyno

tystiolaeth gadarn am y newidiadau pellach a chan osgoi cyffredinoli dirmyglon heb

garn diogel.

5. O’r tu mewn i gwrs, cyn belled ag sy’n bosibl dylid bod yn gyson drwyddo

ac osgoi gwamalu.

6. Os bernir bod angen dysgu tafodiaith, priodol yw gwneud hynny ar sail

model cyflawn ac ar sail astudiaeth drylwyr gydlynol gyson.

7. Rhaid disgwyl posibiliadau gwahanol i ddewis ohonynt. Da yw dethol yn ôl

criteria agored: Er enghraifft, er bod ‘ydi’yn fwy ‘ffonetig’nag ‘ydy’, yr ail a

ddewiswyd, (i) am fod yna gynseiliau yn yr iaith eisoes, e.e. tebyg, dychymyg, meddyg,

ergyd, esgyn, llinyn, dilyn, distrywio, amrywiaeth, ayyb, (ii) am fod y mwyafrif bellach

yn tueddu at ‘ydy’, (iii) am fod yna gyd­destun patrymol sy’n pwyso o blaid

cydymffurfio, — ‘ydyn, ydych’.

Enghraifft arall. Ymwrthodir â ‘dydw, dydy’ym model y De, nid oherwydd nad

ydynt yn cael eu defnyddio yn unman, nac oherwydd eu bod yn ddirmygus o ran sn,

ond oherwydd dieithrwch mewn ffurf yn yr ardaloedd hynny lle y byddai’n rhaid eu

defnyddio’n aml.

8. Pan geir gwahanol ddewisiadau posibl, ac un ohonynt yn nes at yr iaith

lenyddol, ac yn ddilys dderbyniol o safbwynt naturioldeb, yna dewiser yr agosaf at yr

iaith lenyddol.

109

Y Ddadl:

RHAN II: MYNEGIANT

Y FFRWYTH SEFYLLFAOL: CYFATHREBU

Yn saithdegau’r ugeinfed ganrif, fe wynebwyd paratowyr cyrsiau

(dosbarthiadau a chyfryngau) ac athrawon (ac arolygwyr) gan un her aruthr. Sef

trefnu priodas ddechau a pharhaol rhwng y gwryw Strwythur a’r fenyw Sefyllfa. Fe

fflyffiwyd y cyfle. Ysgarwyd yn union cyn y wledd briodas. Chafwyd dim noson gyntaf.

Esgorwyd ddim ar yr Iaith yn gryf ac yn groyw. Cafwyd trychineb.

Y gamp a ofynnwyd oedd asio’r ddau draddodiad, y ddwy nodwedd ieithyddol

hanfodol mewn dysgu iaith. Buasai’n rhaid, er mwyn gwneud y gwaith yn iawn,

ystyried dyfeisio a datblygu sefyllfa fel y gallai wasanaethu’r strwythur. Roedd angen

clymu ffwythiant/ tybiant/ sefyllfa mewn strwythurau olynol. Methwyd yn hyn o dasg.

Buasai’n rhaid wrth ofal a chynllunio meddylgar — dosbarthu ymarferion yn ôl fel y

buasent yn ffitio patrymau iaith. Buasai’n rhaid arwain o Ymarfer â Phatrymau

ymlaen i Ymddiddan Rhydd mewn Sefyllfaoedd ‘annisgwyl’. Dyma oedd natur

hanfodol yr iaith ei hun, beth bynnag. Ond roedd y gorchwyl yn ormod.

Crwydrwyd ymlaen tan ganu (mewn rhai cylchoedd dysgu iaith) o sefyllfa i

sefyllfa, o ffwythiant i ffwythiant, heb adeiladu’r iaith o gam i gam yn adeileddol.

Doedd neb yn mynd i unman. O gylch amgylch yr eid. Yn ôl ac ymlaen. Eclectigiaeth,

meddai rhai. O’r braidd bod dysgu’r iaith mewn cyfnod mor addawol a chyfoethog

erioed wedi cyrraedd y fath anhrefn.

Gobeithiwn bellach y gellir tynnu’r cyfeillion tra dawnus ac ymroddgar (ond

yn meddu ar y lleiafswm o wybodaeth am ieithyddiaeth gymwysedig) a fu’n gyfrifol

am hyn, yn ôl at eu coed, a hynny drwy wneud y gwaith cwbl anochel (ond gwaith y

gellir ei wneud naill ai’n daclus neu’n flêr) o gyd­drafod y ddwy wedd ar iaith: y

Strwythur a’r Sefyllfa. Yn y Rhan hon ystyrir o’r newydd y cwestiwn o feithrin

Mynegiant Sefyllfaol a Ffwythiannol, a hynny drwy ddefnyddio’r ail iaith fel cyfrwng,

drwy ddulliau darllen, drwy luniau, drwy chwaraeon, ond yn ynad dim drwy gadw

llygad ar y patrymau iaith cynnil sydd mor amryddawn yn ymarferol.

Bellach, ymddengys i rywrai ysywaeth mai cyfathrebu, a chyfathrebu yn unig,

yw prif bwrpas iaith neu unig bwrpas iaith. Yn ystod camre cyntaf dysgu iaith, yn ôl

pob golwg y maent ar ruthr wyllt eisiau dysgu ar y cof resi o ymadroddion defnyddiol

ar gyfer sgyrsio. Rhaid bod yn ymddiddanol ymarferol mor fuan byth ag sy’n bosibl.

Y ffwythiant hwn a’r tybiant arall, bant â hi yn ôl Sefyllfaoedd bendramwnwgl.

Eto, dangoswyd gennym eisoes fod adeiladu mecanwaith ieithyddol esgorol a

chyffredinol ar gyfer cynhyrchu wedyn yn waith mor ganolog werthfawr yn y cyfnod

cynnar fel y dylid rhoi cryn flaenoriaeth i’r nod arbennig yna. Hyd yn oed ym mryd y

baban yn ei iaith gyntaf, yr hyn y mae yn ei wneud yn y cyfnod cynharaf yw

darganfod neu roi trefn ar brofiadau bywyd. Offeryn yw’r iaith yn gynnar iawn yn y

broses o ddarostwng tryblith. Drwy iaith y cyfundrefnir deall. Cnewyllyn a sylfaen

cyfathrebu, felly, yw patrymau adeiladwaith cydlynol Tafod.

A phwrpas mwyaf gwerthfawr rhan gyntaf y broses o ddysgu iaith yw dod o

hyd i drefn y Tafod hwnnw. Hyd yn oed yn achos Mynegiant ei hun, felly: ni all dim y

gall hwnnw ei wneud yn gynnar sy’n gymaint o gaffaeliad â meistroli’r mecanwaith

sylfaenol bychan creadigol. Camgymeriad yw gwastraffu amser drwy grwydro’n

anniben ar hyd llwybrau cychwynnol nad ydynt yn arwain i mewn at y cnewyllyn

allweddol. Ac felly, wrth gynllunio’r Mynegiant neu’r Cyfathrebu cynnar, doeth yw

110

cadw mewn golwg o hyd y dasg o ddatguddio i’r meddwl, o argraffu ar yr ymennydd,

ac o ymarfer yr isymwybod â’r gyfundrefn o berthnasoedd trefnus sy’n llunio’r Tafod

neilltuol yn yr iaith a ddysgir.

Cyn gynted ag sy’n bosibl, darganfod a meistroli adeileddau cyffredinol a

defnyddiol cystrawennau’r iaith yw pwrpas Mynegiant ei hun. Mae trafod Mynegiant

yn golygu trafod cyswllt.

(i) Yr Angen am Gyfathrebu Trefnus

Wrth ymdrin â’r Tafod olrheiniwyd eisoes y broses o sylfaenu’r strwythurau

cyn y gellir symud ymlaen at gyflwr Mynegiant a thuag at Ymddiddan Rhydd. Y mae’n

weddus bellach ystyried y cyfeiriad gwrthwyneb. Er mai’r cyfeiriad arferol ac arferedig

mwyaf yn y pen draw ym mherthynas ddeublyg yr iaith fydd anelu at Fynegiant drwy’r

olyniaeth oddi wrth Dafod at Fynegiant, yn gynnar sylweddolwn fod y gwaith yn fwy

na hynny. I ddysgwr, am gryn gyfnod, boed hwnnw’n ymwybodol o’r ffaith neu beidio,

nid oes dim y gall ei wneud mewn Mynegiant yn fwy seiliol na defnyddio popeth a

glyw ac a ddywed tuag at adeiladu ffurfiau canolog Tafod. Oddi wrth Fynegiant at

Dafod yw priod ogwydd llefaru hefyd yn y dysgu cynnar, a hynny am gryn dipyn o’r

cyfnod cychwynnol. Meistroli Tafod yw ei nod.

Gweddus bellach, felly, yw ailymweld ag Ymarfer â Phatrymau a thechnegau

neu ddyfeisiau eraill drachefn i’w hystyried nid yn syml tuag allan — i gyfeiriad

ynganu brawddegau hylaw bob dydd. Ystyrier, yn hytrach, eu defnyddioldeb — tuag i

mewn — wrth ffurfio sianelau meddyliol sy’n fwy sefydlog, yn fwy parhaol, ac yn fwy

amryddawn ynghudd na hel ymadroddion achlysurol ynganedig yn y golwg. Nid

rowndio Mynegiant gwasgaredig yw’r gwaith hwn ‘er mwyn Mynegiant yn unig’. Ond

drwy bob Mynegiant ar sail Mynegiant, cyn belled ag sy’n bosibl, ymaflyd yng

nghyfundrefn o gyfundrefnau’r iaith. Wrth gynllunio pob Mynegiant, felly yn y cyfnod

cynnar, ystyrier Tafod. Yn yr adran hon o’n trafodaeth fe fyddwn yn cysidro

Mynegiant yn ôl ei berthynas â’r hyn sy’n sylfaen iddo.

Cyfeirbwynt llywodraethol i’r ffwythiannau fydd y strwythurau.

Sut y mae’r lluniwr cyrsiau’n mynd ati felly i wneud ei waith?

1. Mae’n mynd i benderfynu’n gyntaf pa fodel o’r iaith y mae’n mynd i’w fabwysiadu.

Da fyddai mabwysiadu gwedd ar yr iaith lafar safonol ysgrifenedig: megis Ffurfiau

Ysgrifenedig Cymraeg Llafar, CBAC, 1991. Da hefyd fyddai aros yn gyson gyda’r

model, heb wyro oddi wrtho byth, gan ymatal rhag amrywebau am flynyddoedd.

2. Mae’r lluniwr cwrs yn mynd i gasglu strwythurau datblygol o batrymau cydlynol gan

ddechrau gyda rhyw frawddeg fer safonol. Datblyger y frawddeg honno, drwy ddisodli

rhannau o’i mewn fesul un, fel y dangoswyd uchod gyda ‘Mae Gwilym yma’. Llunier

felly olyniaeth gydlynol, o gam i gam. Rhestrer yr olyniaeth o batrymau, gan adeiladu

bricsen ar fricsen. A chadwer hynny wrth law bob amser.

Yr hyn sy’n bwysig yw bod pob cam yn y datblygiad, cyn belled ag sy’n bosibl

yn CYD­GYSYLLTU. Peidier â neidio. Peidier ag amlhau gormod o batrymau

newydd mewn unrhyw wers. Awgrymir, fel cam cychwyn, esbonio ac ymarfer ag

YNGANU. Ymarferer strwythur y frawddeg ‘Mae Gwilym yma’, er enghraifft,

I. ‘Ydy Elin yma?’‘Ydy, mae Elin yma.’

II. ‘Ydy prifddinas Cymru ar y map?’‘Ydy, mae Caerdydd yma’.

III. ‘Ydy Llanddwyn ar y map?’‘Nac ydy. Ond mae Llangefni yma.’

111

IV. ‘Ydy John yn y dosbarth heddiw?’‘Nac ydy. Dyw John ddim yn y dosbarth

heddiw’.

Sylwer ar awgrymiadau cynnar o batrymau olynol yn Cyflwyno’r Gymraeg, R.

M. Jones, a Patrymau’r Gymraeg, D. Lynn James.

3. Llunier rhestr ‘gyflawn o’r ffwythiannau/tybiannau/sefyllfaoedd y bwriedir eu

dysgu’n gyntaf, yn olynol, hynny yw yn y flwyddyn gyntaf. Y mae 1 a 2 uchod yn

elfennau ‘caeth’a ‘sefydlog’yn y paratoad hwnnw. Hynny yw, y maent yn ddigyfnewid

fel sylfaen ymlaen llaw: ni ddylid caniatáu gwamalu. Does fawr o ots yn sylfaenol beth

yw trefn y ffwythiannau/tybiannau/sefyllfaoedd, er y byddai ‘gwers cyfarch neu

gyflwyno aelodau’r dosbarth i’w gilydd’yn waith dymunol mor fuan ag sy’n bosibl. Er

enghraifft, ‘Beth yw’ch enw chi?’‘John’.

Yr hyn sy’n bwysig yw y bydd y ffwythiannau/tybiannau/sefyllfaoedd yn gweini

i’r patrymau. Hynny yw, iswasanaethgar yw’r ffwythiannau a’r eirfa bob amser i’r

olyniaeth gyson o batrymau. Y rheina yw canol y dysgu cyntaf. Gweler Pennod VII

sy’n trafod trefn ffwythiannau. Cadw trefn y patrymau yn unplyg yw egwyddor

lywodraethol y paratoad.

Dyna’r tri maes cydlynol sy’n mynnu sylw brys.

4. Bydd yn ddefnyddiol cael wrth law restr benodol o Eirfa ddethol hefyd. Sylwer ar

Bennod XI sy’n trafod pa griteria y dylid eu hystyried wrth ddethol Geirfa — amlder,

amrediad, grwpiau semantaidd (hynny yw, grwpio ffwythiannol, pynciol, tybiannol), ac

yn y blaen, ac ar y llyfryn Graddio Geirfa, R. M. Jones. Unwaith eto, does dim trefn

gaeth na chydlynol yn angenrheidiol yn y maes hwn, mwy nag sydd i Ffwythiannau.

Llawforwyn yw’r Eirfa i’r Patrymau.

5. Bydd yn ddefnyddiol cael wrth law restr amrywiol o ymarferion — driliau disodli a

chyfnewid, chwaraeon, caneuon, ayyb Dewiser o blith y rhain unwaith eto i

wasanaethu’r olyniaeth batrymau. Os gellir peidio, yna ni ddylid gadael i’r olyniaeth

honno lithro i fod yn rhy gymysglyd, ond gellir, eto, amrywio trefn yr ymarferion yn

unol â gofynion strwythur.

6. Er y gellid anelu mor gynnar ag sy’n bosibl at ddyfeisio darnau dramatig o ddialog

defnyddiol yn ôl y patrymau a ddysgwyd, a hefyd at sicrhau symudiad tuag at

‘ymddiddan cyffredin’, ni ddylid gwneud ffetis o hynny. Ni ddylid rhuthro at wthio

dysgwyr i ymddiddan yn rhydd cyn gynted byth ag y gellid, a chyn bod yr adnoddau

cychwynnol wedi ymledu ychydig ac yn ddilys. Gwael yw cymysgu’r drefn ddysgu er

mwyn twyllo dysgwr ei fod eisoes yn gallu ymdopi mewn unrhyw un sefyllfa benodol

gyda llawnder o adnoddau digonol. Nid dysgu dialog di­amrywiaeth ar y cof yw dysgu

iaith. Gwell yw dal ati i ddatblygu’r adnoddau patrymol mor ofalus, yn gadarn, yn

fwyfwy amrywiol, ond yn gyson gydgysylltiol.

Os na ddilynir yn arbennig y tri phwynt cyntaf uchod gan gynlluniwr y cwrs,

bydd yn rhaid i’r dysgwr ei hun, yn flêr ac yn anwybodus ac yn fynych yn

isymwybodol, ddarganfod y triawd hyn drosto’i hunan. Bydd hynny’n drafferthus;

weithiau mae’n rhy drafferthus nes bod y dysgwr mor gymysglyd nes gorfod rhoi’r

gorau i’r cwrs, gan deimlo bod y dasg yn anodd. Ac ni yr pam. Ond fe’i gwyddom

ninnau. Gwylier pob temtasiwn tuag at ymddatod yn nhrefn y dysgu. Y ddisgyblaeth

lem wyliadwrus sy’n hanfodol yn wyneb gogwydd naturiol y natur ddynol tuag at

chwalfa a gogwydd ffasiynol Ôl­foderniaeth i ymwahanu.

Pum Rheol Euraid Dysgu Iaith

Rhaid yw:

1. Dethol: [Strwythur a Geirfa; Cywair] Rhaid ystyried maint y wers, maint y cwrs.

112

2. Graddio: [Strwythur a Geirfa] Rhaid ystyried olyniaeth patrymau a geirfa. Cydlyniad

gwers a chwrs.

3. Cyfathrebu: [tuag at Strwythuro] Rhaid dethol y grwpiau ieithyddol ymddiddanol

mwyaf perthnasol ar gyfer adeiladu patrymau.

4. Strwythuro: [tuag at Gyfathrebu] Rhaid llywodraethu a chydio’r graddio, i gyfeilio

i’r ffwythiannau.

Mae pob un o’r rhain yn meddu ar ei sofraniaeth ei hun. Ond y mae pob un yn

cydberthyn yn unol.

5. Da yw amrywiaeth cynnil yn y dulliau cyflwyno o fewn undod gwth y cwrs:

gyda’r Sgiliau yn ôl y drefn hon: clywed a deall llefaredd, llefaru, darllen, sgrifennu;

gydag Amlder cyswllt: unedau byrion llafar cyflym ar y dechrau;

gyda Chyswllt agos â’r synhwyrau, yn arbennig clywed, gweld;

a chydag Amrywio cysylltiedig ffurf y driliau a’r ymarferion.

Ni byddai neb yn cymysgu trefn dysgu Mathemateg drwy ddechrau ffwrdd â hi

gyda theori cwantwm ac yna fynd yn ôl at geometreg Pythagoras, wedyn at dabl

chwech, yna at rifo o 20 i 40, wedyn at rifo o 10 i 15, wedyn at dabl 2 ayyb Mae angen

adeiladu bricsen ar fricsen. Mae angen arwain ymlaen yn ôl olyniaeth gydberthynol gan

ddechrau ar y gwaelod. Dyna wrth gwrs a wna’r baban wrth ennill iaith gyntaf o gam i

gam. Dyna a wna athro gofalus ym mhob sgil a gwybodaeth arall. Rhaid dethol a

meistroli y nifer o broblemau ym mhob cyfran heb bentyrru nifer enfawr o broblemau

yr un pryd — fel pe bai’r hyn sydd yn digwydd yw bod dysgwr wrth reswm yn gallu

dysgu’n ‘naturiol’nifer helaeth o bwyntiau dysgu gyda’i gilydd am eu bod yn digwydd

mewn iaith person aeddfed yr un pryd. Hynny yw, rhaid dethol maint y dysgu yn ôl

cyfansymiau cynnil y problemau y gellir eu treulio.

Dyw dosbarthu’r nifer o bwyntiau dysgu mewn gwers o 15 i 20 i 3 i 12 i 8,

ayyb ddim yn golygu cynllunio ystyriol. Mae 3 — 4 o bwyntiau dysgu patrymol a rhyw

8+ o bwyntiau geirfaol yn hen ddigon mewn gwers yn aml, ac yn ormod weithiau.

Rhaid sylweddoli natur yr hyn a ddysgir. Yn fras, patrymau neu strwythurau

ynghyd â geirfa. Dyw tybied mai rhes o eiriau (neu o sefyllfaoedd/ffwythiannau/

tybiannau) yw’r cwbl sy’n diffinio iaith ddim yn wynebu calon y wedd gydlynol ar iaith.

Y perthnasoedd rhwng geiriau i wneud brawddegau, dyna sy’n troi rhesi o eiriau yn

iaith go iawn. Ac y mae’r rheini yn gwahaniaethu o ran natur, o iaith i iaith.

Rhaid ymadael â’r anarchiaeth bedagogaidd sydd wedi meddiannu peth o’n

dysgu cyhoeddus a’n defnyddiau cyhoeddedig a chyfryngol diweddar. Rhaid ailgydio

ym mhrofiad a gwybodaeth y canrifoedd yn y maes hwn. A rhaid llinynnu cwrs iaith ar

hyd echel amser yn ôl clymau rhesymol fawr sy’n cydio yn ei gilydd.

Adenillwyd y pwyslais ar ddysgu llafar. Adenillwyd ffurfiau mwy llafar.

Adenillwyd nod pwyslais cyfathrebol. Ond llithrwyd yn ôl i dybied mai drwy dywallt

iaith gyntaf yn bendramwnwgl dros ddysgwr y mae’r medr i ennill ail iaith yn digwydd

orau. Collwyd synnwyr cyffredin ynghyd â chrefft y gorffennol wrth fynd ar ôl theori

anghywir a ffug.

Dull ‘phrase­book’y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw’r dull ffwythiannol

amddifad yn fynych, a dyna a geir mewn cyfres nodweddiadol ddiweddar ar y teledu.

Dewisir sefyllfa. A rhoddir rhes o frawddegau i’w dysgu ar y cof blith draphlith.

Er enghraifft, cymerer un dysgwr sy’n gorfod dygymod â sefyllfa ‘Meeting the

new headmaster in Welsh’.

Lesson 1: Talking about oneself

113

Dw i’n symud i Dremain ... I’m moving to Tremain (h.y. Tre­main)

Rôn i’n byw yng Nghaerdydd ... I used to live in Cardiff.

Dw i wedi bod yn helpu mewn ysgol feithrin ... I’ve been helping in a nursery

school.

Dw i eisiau gweithio mewn ysgol feithrin ... I want to work in a nursery school.

Lesson 2: Talking about the children

Mae tri o blant gyda fi ... I’ve got three children.

Mae Daniel yn chwech ... Daniel is six.

Mae e’n hoffi chwaraeon ... He likes sport.

Mae e’n deall tipyn bach o Gymraeg ... He understands a little bit of Welsh.

Fyddan nhw’n cael gwersi trwy gyfrwng y Gymraeg? Will they be having

lessons through the medium of Welsh?

Lesson 3: Questions about the school

Faint o’r gloch mae’r ysgol yn dechrau? ... What time does the school begin?

Oes cae chwarae? ... Is there a playing field?

Pa chwaraeon fyddan nhw’n ei wneud? ... Which sports will they be doing?

Ble maen nhw’n bwyta cinio? ... Where do they eat lunch/dinner?

Sylwadau ar gynnwys ieithyddol y darnau uchod

Noder beth yw’r pwyntiau i’w dysgu:

Gwers 1: (i) Trefn y frawddeg normal: berf yn gyntaf; (ii) Treiglad meddal — pa

lythrennau? (iii) Treiglad trwynol — Pa lythrennau? (iv) Gwahaniaeth rhwng ‘mewn’

ac ‘yn’; (v) Amser berfol — presennol, amherffaith, perffaith; (vi) Dau safle i dreiglad

meddal; (vii) Lled awgrym o’r genidol/ansoddeiriol; (viii) Person cyntaf y rhagenw;

(ix) Y Ferf ‘Bod’; (x) ‘Yn’rhangymeriadol.

Gwers 2: (i) Trydydd person unigol y rhagenw, y ferf ‘Bod’; (ii) Trydydd person

lluosog y rhagenw, y ferf ‘Bod’; (iii) Estyn amser presennol y ferf ‘Bod’; (iv) Dyfodol

y ferf ‘Bod’; (v) Cyfuno rhif ac enw; (vi) Cyfleu meddiant ‘I’ve got’; (vii) ‘Yn’

traethiadol; (viii) Dull o gwestiyna (cytundeb); (ix) Treiglad meddal ar ôl arddodiad

‘o’, ‘trwy’; (x) Treiglad meddal i’r ‘iaith’; (xi) Treiglad meddal i air y cwestiwn; (xii) Y

fannod o flaen yr iaith; (xiii) Genidol â bannod; (xiv) Genidol ag ‘o’.

Gwers 3: (i) 3 Dull gramadegol o gwestiyna (gwybodaeth); (ii) Dull newydd o

gwestiyna (cytundeb); (ii) Dull arbennig o ofyn am amser; (iii) Cadarnhau’r genidol heb

fannod.

Sylwer. Does dim disgwyl i’r un ond odid o’r pwyntiau dysgu hyn fod yn greadigol

mewn cyd­destun meistroli’r iaith. Hynny yw, mae yna gynifer o bwyntiau dysgu yn y

fan yma bendramwnwgl fel na ddylid disgwyl i ddysgwr eu hadnabod eto mewn cyddestun

newydd er mwyn eu cymhwyso i amgylchiadau ieithyddol cyffelyb. Y gorau y

gellir ei ddisgwyl yw dysgu ychydig o frawddegau ar y cof, mewn sefyllfa unwaith am

byth. Dyma draddodiad y ‘phrase book’ar gyfer mynd ar wyliau i wlad arall. Pam y

gwnaethpwyd hyn i gyd fel hyn? Oherwydd y myth bod rhaid bwrw iddi i siarad yr iaith

am rywbeth­rywbeth yn syth.

(ii) Ymarfer Strwythurol

Un dull sylfaenol o ddysgu iaith sydd, a hynny bob amser yn orfodol,

weithiau’n flêr, weithiau’n effeithiol, sef y Dull neu’r Cynllun Cyfansawdd. Does dim

dewis. Rhaid i ddysgwr adeiladu Tafod ynghyd â defnyddio Mynegiant. Rhaid dysgu’n

ddeuol Dafod a Mynegiant: yr un pryd ac yn feddyliol olynol drwy gyferbynnu ac

ailadrodd, a thrwy adeiladu Mynegiant gan Dafod — a Thafod gan Fynegiant.

114

Cyfuniad yw pob dysgu iaith. Mae hyn yn digwydd, beth bynnag. Gall ddigwydd yn

effeithiol drwy gynllunio trefnus, neu’n aneffeithiol araf oherwydd blerwch.

Ceir llawer o ymarferion gwahanol i adeiladu’r Dull neu’r Cynllun Cyfansawdd

hwnnw, rhai yn well na’i gilydd. Ar gyfer y rhestr o gyfuniadau o’r ymarferion hynny y

gellid dethol ohonynt, peth a elwir fel arfer yn ‘ddull’, ceir amnewid gwahanol.

Cyfunddulliau yw’r canlyniad o’r ymarferion gwahanol hyn. Ond oni byddant yn

gweithredu’n sylfaenol ddeuol ac yn cyflawni’r ddau dyndra didactig cyfun, ni byddant

yn dysgu’r iaith. Un cyrchddull sylfaenol sydd; a chyfundrefn o ddau gyflwr yw. Fe’i

gorfodir yn anochel gan natur iaith.

Gwir y sonia Athro Dodson er enghraifft am Y Dull Dwyieithog. Ond y mae

pob dull sy’n defnyddio’r ddwy iaith wrth ddysgu ail iaith yn ddull dwyieithog yn ôl y

diffiniad hwnnw. A nod arbennig yr Athro yw (a) osgoi’r famiaith o du’r dysgwr o’r

cychwyn cyntaf. Dim ond yr iaith newydd a glywir o du’r dysgwr yn y dosbarth (o

safbwynt y dysgwr, felly, Dull Unieithog yw.) a (b) o fewn diffiniad ei Ddull ef o

weithio, bydd yr Athro yntau’n ymwared â’r famiaith cyn gynted ag y mae’n gyfleus

gan ymadael ag ymarferion dwyieithog er mwyn cynnwys sefyllfaoedd ac

ymddiddanion rhydd o fewn Y Dull Dwyieithog. Hynny yw, symuda o waith

strwythurol tuag at waith sefyllfaol, yn gyfansawdd.

Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, yr ymarfer mwyaf defnyddiol i

ddysgwyr ac mewn cylchoedd a oedd yn effro i’r hyn a oedd yn digwydd mewn

didacteg iaith oedd Ymarfer â Phatrymau. Dylid pwysleisio mai cam oedd at Holi ac

Ateb, ac Ymddiddan Rhydd.

Yn y gwaith o adeiladu Tafod y mae rhyw fath o Ymarfer â Phatrymau yn

ddyfais ganolog. Dyweder ein bod am ddysgu’r Amser Gorffennol. Yr ym am sodro’r

amser berfol (neu’r tymp) yn y meddwl. Nid dysgu ambell ymadrodd yma ac acw yr

ym ar gyfer ambell sefyllfa. Ond ysgythru ar y meddwl batrwm anymwybodol a

chreadigol, ei wthio’n gryf yn y cefndir, i dynnu arno heb fod yn ‘fwriadus’fel petai ym

mhob math o sefyllfaoedd — Creadigol a Rhydd.

Drilio amdani, felly, ond drilio o fath neilltuol. Drilio sy’n arwain at gyfnewid

ac at amrywio llu o frawddegau. Dyma yw ystyr dysgu creadigol. Sylwer ar y dril hwn:

(1) Ydych chi’n canu heddiw? Nac dw. Fe genais i ddoe.

Ydych chi’n gweithio heddiw? Nac dw. Fe weithiais i ddoe.

Ydych chi’n nofio heddiw? Nac dw. Fe nofiais i ddoe. ayyb

(2) Gaeais i’r drws? Do. Fe gaeoch chi’r drws.

Ddwedais i am Ioan? Do. Fe ddwedoch chi am Ioan.

Ddes i â’r pecyn? Do. Fe ddaethoch chi â’r pecyn. ayyb

Fel yna y dysgir nid y geiriau ond y patrwm.

Un o nodweddion mwyaf Tafod (sef y mecanwaith yn y meddwl sy’n storio

patrymau sylfaenol iaith ar gyfer eu cynhyrchu mewn Mynegiant), yw ei fod yn

gweithio drwy gyferbynnu ac ailadrodd. Ond ymhellach na hynny: oherwydd ei fod yn

gweithio mewn cyfran o eiliad, wrth wahaniaethu’n sydyn, yna yr anghenraid

isymwybodol cywir mewn system fel tri pherson y rhagenw, neu dair gradd gynyddol

yr ansoddair, neu leoliad tymp y ferf mewn amser — gorffennol, presennol, dyfodol,

ayyb, ac un o nodweddion pennaf y cyfundrefnau mawr hyn yn y meddwl yw eu bod

oll naill ai’n ddeuol neu’n driol, neu ynteu’n gyfuniad o ddeuol a thriol.

115

O’r herwydd, os bydd athro’n ymarfer pwynt gramadegol — patrwm ieithyddol

— mewn llafar cyflym sy’n anelu at ymateb difyfyr, yna doeth yw trefnu’r ymarferiad

hwnnw naill ai’n ddeuol neu’n driol, e.e. (A)

Athro: Ydy Twm yn dal? Beth dch chi’n feddwl?

Dysgwr 1: Ydy. Mae e’n dal.

Athro (wrth Ddysgwr 2) : Dch chi’n cytuno?

Dysgwr 2: Nac ydy. Dyw e ddim yn dal. [Yna ailadrodd patrwm gyda geirfa

newydd.]

Dyna rediad cryno trichornel (Athro, D1, a D2) : holi ac ateb, cadarnhaol a

negyddol. Does dim angen, wedi sefydlu ymarferiad o’r fath i’r dysgwyr deimlo’n

ddryslyd: mae patrwm cwestiwn (1) ac atebion (2) yn hawdd i’w dal heb gyffroi na

phendroni am resymau ymwybodol. Mae’n fath o fframwaith y gellid ei ddal yn

ddifeddwl rwydd ac eto fe fydd yn fwy cofiadwy na rhes fwy uchelgeisiol. Dylid

cadarnhau’r cwlwm syml deuol hwn yn solet amrywiol, cyn mentro drwy ymestyn

ymhellach ac yn driol, e.e. (B)

Athro: Ydy Twm yn dal?

Dysgwr 1: Ydy. Mae e’n dal.

Athro: Dch chi’n cytuno?

Dysgwr 2: Nac ydy. Dyw e ddim yn dal.

Athro: Beth yw’ch barn chi?

Dysgwr 3: Mae’n fyr. [Yna ailadrodd patrwm gyda geirfa newydd.]

Prif ffrwyth, onid prif nod, Ymarfer â Phatrymau, yw dysgu cydlyniad iaith. Prif

nodwedd iaith yw ei bod yn gyfundrefn o gyfundrefnau, a’r cwbl yn ymglymu yn ei

gilydd yn greadigol. Gwiw yw i athrawon ail­iaith sylweddoli’r gyfrinach honno’n

gynnar. Bydd yn eu rhyddhau rhag dysgu yn ôl ‘trefn’brawddegau ynysedig, ac yn eu

perswadio i ddysgu cystrawen ynghyd â chystrawen, i gyferbynnu’n gyson — gofynnol

ac atebol, gweithredol a goddefol, presennol ynghyd â dyfodol, ayyb Bydd Ymarfer â

Phatrymau, felly, drwy ailadrodd, disodli, a thrawsffurfio yn gosod argraff

isymwybodol ar y meddwl sy’n sylweddoliad o berthynas patrymau â’i gilydd. Dyma

wybodaeth amhrisiadwy ar gyfer ennill iaith — adnabod y perthnasoedd amryfal sydd

o’i mewn sy’n gwneud cywaith cydblethog yn y diwedd megis eglwys gadeiriol.

Mae’r perthnasoedd hynny yn gydadeiladwaith o ddeuoedd a thrioedd. ‘Fesul

dau’ yw’r ffordd fwyaf elfennaidd a difyfyrdod sydyn yr ymatebir i gyfuniad

cyferbyniol. Gellir cynnal y math yna o gyferbyniad yn y meddwl yn isymwybodol

ddifeddwl fel petai. A gellir estyn y math hwnnw o ymateb cyferbyniol a’i sylweddoli’n

ddelweddol hyd at fesul tri. Wedyn, ceir dau bosibilrwydd:

(1) Gellid mewn Tafod gyferbynnu cyfundrefn â chyfundrefn. Dyna a wna’r iaith ei hun

yn ddiarwybod. Hynny yw, gellid adeiladu cyd­gyfundrefn, e.e. mewn iaith gyffredin,

ceir dwy lefel driol yn nhympau’r ferf BOD yn y Modd Mynegol

bues dwi bydda

b’aswn oeddwn byddwn

(Gellir gweld yn seiniol y tebygrwydd yn y lefelau a’r sfferau amser hyn. Mae’r

terfyniad — ‘wn’yn diffinio un lefel, a’r ‘b­s’a’r ‘bydd’yn diffinio dwy sffêr­amser,

a’r ddwy golofn ‘b­’yn cyplysu ac yn gwahanu yn y gyfundrefn gyflawn.)

(2) Gellid mewn Mynegiant gyd­adeiladu cyfundrefn â chyfundrefn yn ymwybodol

fwriadol yn bennaf drwy ychwanegu neu drawsffurfio geiriau unigol, ymadroddion, a

chymalau.

116

Nid cyflyru Skinneraidd yw Ymarfer â Phatrymau. Ceisier dysgu cyfnewid

patrymau berfol ystyrlon yn Baflofaidd i gwn: ni chânt lawer o hwyl arno. Nid

rhywbeth rywbeth yw Patrwm y gellir ei gyflyru’n ddall drwy ailadrodd. Sylfaenir

patrwm ar sythwelediad o berthynas ddelweddol. Mae iddo ddelwedd gyferbyniol

isymwybodol arwyddocaol ddeallol. Dadlennu, gwreiddio, a chymathu cyfundrefn

ystyrlon yr ydys wrth ailadrodd, felly. Ailadroddir gwelediad, a’r gwelediad hwnnw yr

ymdeimlir ag ef yn y diwedd a fabwysiedir, nid arferiad amherthnasol. A phan welwn

Ymarfer Dwyieithog wedi’i gyplysu â chyfnewid patrwm, gwelir fel y mae ofnau

Chomsky dyweder ynghylch Ymddygiadaeth Skinner yn diflannu’n llwyr. Diau fod

beirniadaeth Chomsky ar Ymarfer Patrymau yn perthyn i gyfnod cynnar yn natblygiad

y dechneg, fel y cawn weld.

Dosbarthiad Ymarfer â Phatrymau

Pwrpas Ymarfer â Phatrymau yw troi brawddeg sylfaenol yn nifer o

frawddegau newydd. Hynny yw, dyma ymarfer creadigol — defnyddio fframwaith

brawddeg ffrwythlon ac amrywio’r eirfa sy’n bosibl yn y safleoedd gwahanol yn y

frawddeg, heb newid natur perthynas y frawddeg ei hun yn hanfodol. Gwaith hynod o

ddefnyddiol yw hwn, ac yn y pen draw ni ellir ei osgoi er y gellid rhoi mwgwd drosto

(siwgr yw’r mwgwd medd rhai). Fe fyddai goreuwyr y Dull Union yn dyfeisio pob

math o foddion i fygydu’r dril hwn — cystadlu, actio, modelu, recordiau, ffilmiau,

caneuon actol, ac ati. Chwalu. Gwyliwch y gwr bonheddig hyn. Mae eu calonnau’n

aml yn well na’u pennau; a’u perygl yw niwlio ac amwyso’r defnydd a ddysgir drwy ei

chwalu. Crynhoi a chyfundrefnu’n onest a wna Ymarfer â Phatrymau. Pan fydd y Dull

Unionwyr a’r Ffwythianwyr yn cynnig yr atyniadau hynod o ddifyr i osgoi dychryn dril,

holwch eich hun — faint o ailadrodd ar yr un patrwm ieithyddol y mae’r dysgwr yn ei

wneud? Beth yw ei amlder cyswllt â gair a chystrawen? Pa mor gyflym y digwydd yr

ailadrodd ei hun? A oes cysylltiad cystrawennol rhwng brawddeg a brawddeg yn yr

unedau gwaith ac felly reoleidd­dra trefnus tyfiannol yn y dysgu? Yn y bôn, dyma’r hyn

sy’n cyfrif — pwysicach na sbri yw ennill gwybodaeth, a diolch i’r drefn fe all hyd yn

oed dril, a ddefnyddir yn gynnil reolaidd, fod yn gyffrous, yn gyntefig o ddiddan, ac yn

her i anturiaeth meddwl.

Eto, pan ddyfeisir gêm neu gystadleuaeth neu gân actol — ac mae hyn yn gallu

digwydd — sy’n ymbriodi â threfnusrwydd datblygiad y gwaith, o gam i gam yn

gysylltiol, yna mae gan yr athro berl o fawr werth. Defnyddier ef gyda llawenydd.

Pedwar math o Ymarfer Patrymau

Ffordd o ailadrodd ffrâm yn ddeallus yw Ymarfer Patrymau — nid ailadrodd

geiriol yn unig, er y gall hynny ddigwydd i raddau.

(a) Cyfnewid Syml:

Dyma’r lefel waelodol, y dull mwyaf elfennol, lle y mae un safle yn unig yn

amrywio. Rhoddir un frawddeg batrymol gan yr athro, ailadroddir gan y dysgwr: yna

fe fydd yr athro’n rhoi ciw newydd dro ar ôl tro a fydd yn disodli un safle arbennig yn y

dosbarth, gan rowndio’r dosbarth â’i fys, a’r ffrâm sylfaenol yn cael ei hailadrodd

gyda’r geirfa (permutations) syml hyn: e.e.

Chi yw chwaer Gwilym / brawd / tad / mam / ewythr / modryb / merch / mab / tad­cu /

mam­gu.

(b) Cyfnewid Darluniol

117

Y feirniadaeth ar y cyfnewid cyntaf yw nad oes dim rhaid deall unrhyw air, dim

ond deall y fframwaith a hyfforddir.

Gellid cyfleu ystyr geiriau mewn dwy ffordd amlwg:

(a) Drwy’r famiaith (gan ddefnyddio, felly, ryw ddull dwyieithog).

(b) Drwy ddarluniau, gwrthrychau, ystumiau (gan ddefnyddio, felly, ryw ddull

unieithog).

Mewn Ymarfer Patrymau, felly, fe ellid rhoi’r ciw drwy gyfrwng darlun heb fod

yr athro wedi ynganu gair, ar wahân i’r frawddeg arweiniol a chywiro cynigion y

dysgwyr. Wrth ddefnyddio cardluniau (a gwnâi unrhyw luniau syml y tro) fe geid

ymarfer fel hyn: e.e.

Ydych chi’n gweld y blodau? Ydw, dwi’n gweld y blodau.

(Dangos lluniau gwahanol, yn lle’r ysgogiad geiriol o, e.e. ‘grisiau / mwg / t / coeden

/ gardd / lawnt / simnai / brws / cloc’ayyb

(c) Cyfnewid Amrywiol:

Ar yr wyneb, fe all y mathau hyn o ymarfer ymddangos yn ddiflas i’r athro, yn

undonog, ac yn anniddorol: ac o’u defnyddio’n ormodol, dwi’n sir fod hynny’n wir.

Ond fel y gwyddom oll, fe all popeth sy’n rhoi gwybodaeth newydd, boed yn her

ynteu’n broblem, gadw diddordeb, os cedwir ef o fewn cyrraedd y dysgwyr. Ac wrth

wneud y gwaith hwn ar lafar, yn gyflym, yn rheolaidd, yn aml fe deimlir awyrgylch ras

— y mynd sy mewn sialens gorfforol.

Yn wahanol i Gyfnewid (a) uchod, fe ellir cael ymarfer lle y mae gwahanol

safleoedd yn y frawddeg yn cael eu hamrywio yn eu tro: yn lle ystwytho’r un sianel o

hyd, symudir y broblem o sianel i sianel fel hyn: e.e.

Dwi’n galw’r bachgen / Cario (Dwi’n cario’r bachgen) / ni / hi / gweld / chi / galw / e

/ plentyn / gadael / roedd / nhw. (Triwch hwnnw ar gn Pavlov.)

(ch) Ychwanegu:

Yn y pedwerydd math hwn, sydd unwaith eto yn ffurf ar ailadrodd, ceisir estyn

y frawddeg sylfaenol a’i diogelu ar y cof drwy anelu at adeiladu brawddeg hwy. Hynny

yw, mae yna sialens yn y darn a ychwanegir bob tro, a thuedd y darn sylfaenol yw

mynd yn awtomatig ac yn isymwybodol (nod pob dysgu ieithyddol). Rhoddir

brawddeg fer gan yr athro: ailadroddir yn foel gan y dysgwr: rhydd yr athro ymadrodd

ychwanegol i’w glymu wrth ddiwedd y frawddeg sylfaenol; ac ailadroddir y frawddeg

gyfan newydd gan y dysgwr; ac felly ymlaen, e.e.

Fe fydda i’n falch / i fynd i’r banc / i gael arian / cyn cinio / er mwyn prynu

crys / i fynd i ffwrdd.

Os teimlir ar unrhyw adeg wrth adeiladu’r frawddeg hon fod yr ychwanegiad

newydd yn straen ar y cof, diogelir y rhan a ddysgwyd eisoes drwy ailadrodd moel heb

ychwanegiad, cyn symud ymlaen gam pellach.

Wrth symud ymlaen fel hyn o ymarfer i ymarfer, yr hyn a welwn yw’r

amrywiaeth sy’n dod i’r amlwg yn natur yr ymarferion eu hun. Ac yn wir, os ydym yn

mentro credu fod Dril ystyrlon o ryw fath yn gaffaeliad i gynnydd trefnus a phendant,

yna mae’n hanfodol amrywio siâp y driliau hyn gymaint ag sy’n bosibl. Y tro hwn ni

cheisir ond cynnig ychydig o’r awgrymiadau hyn, ond gellid cyfeirio at y bennod ar y

pwnc yn Cyflwyno’r Gymraeg, sy’n amlinellu rhagor.

Beth yw’r rheswm dros waith mor ffurfiol, a ninnau’n rhamantwyr mor

benrhydd? Pam dril artiffisial fel hyn yn lle clebran a sbort ffwrdd­â­hi? Am fod y dasg

118

o ddysgu ail iaith yn wahanol i ddysgu iaith gyntaf. Mae hyn yn wir mewn sawl ffordd

— yn yr amser cyswllt, yn y cymhellion, yn yr anawsterau a roddir gan batrymau

ieithyddol a ddysgwyd eisoes ac sy’n ymyrryd, ayyb Wrth gyfundrefnu’r gwaith yn

ffurfiol, a llwyr feistroli patrymau yn eu tro mewn carfanau ffrwythlon, yr ydym yn

crynhoi’n hadnoddau — ‘streamlining’. Yr ydym yn delio ag un broblem ar y tro, ac yn

ei datrys fe obeithiwn, yn hytrach na gorfodi’r dysgwr i bicio’i ffordd drwy ddryswch

iaith aml­gymalog amrywdroëdig y Cymro naturiol.

Llwyddiant Cyflymder

Er mwyn i blant deimlo cariad at yr iaith erbyn yr Ysgol Uwchradd, cred rhai

athrawon mai gorau po fwyaf o siwgr a roir arni yn yr Ysgol Gynradd. Nid wyf am

ddadlau ynghylch hynny nawr. Ond carwn awgrymu mai dadrithiad oherwydd methu â

dysgu fawr ddim yw’r prif reswm dros ddanto yngln â’r Gymraeg. Dau bwynt yr

hoffwn eu tanlinellu sy, mi greda i, yn hanfodol ar gyfer cyflymder a llwyddiant mewn

gwers ail iaith. Mi gaiff y cyntaf lythrennau breision. CADWCH Y BÊL I SYMUD. Ac

er mwyn ei chadw ar gerdded fel hyn, rhaid iddi fod yn ysgafn ac yn weddol gyflym.

Hynny yw, cyflymder ymateb y plant (a nifer uchel o’r plant) yw’r peth i anelu

ato. Gofyn lot o gwestiynau byr cryno mewn gwers, a chael llawer mwy o atebion.

Mae gen i ffrind, a byddwn yn mynd i ddosbarthiadau’n gilydd, yntau’n dysgu’r

Gymraeg a finnau’n dysgu’r Almaeneg. Bob hyn a hyn, fe fyddwn yn cadw cyfri ar

bapur o’n blaen am y nifer o weithiau y bydd rhaid i rywun yn y dosbarth agor ei geg a

siarad yn ystod y wers. Dyma ran bwysig, beth bynnag, o grefft athro — cael gan bob

unigolyn siarad mor aml byth ag y medr.

Sut? Nid fel hyn, dwi’n sir:­

Athro: ‘John. Dewch yma.

(John yn gwenu fel llo ar bawb. Codi a mynd i flaen y dosbarth).

Agorwch y drws John. (John, sy’n wyth mlwydd oed, yn agor y drws).

Da iawn. Nawr te, caewch y drws. (John yn ei wneud).

Ardderchog John. Eisteddwch.’(John yn eistedd).

Sawl munud a wastraffwyd? Sawl person a siaradodd?

CADWCH Y BÊL I SYMUD. Ond yn ystyrlon. O’r naill ochr i’r llall yn y dosbarth.

Os gofyn yr Athro gwestiwn, dylai ei ofyn cyn pwyntio at neb; ac yna fe fydd pawb yn

ei ddatrys. Dylai bwyntio at bobl, nid galw’r enwau: mae galw’r enwau’n colli amser,

ac mae hefyd yn golygu na raid i’r plant wylio’r athro.

Cyflymder. Beth mae hynny’n ei olygu? Cadw’r cwestiwn yn fyr. Ie, beth arall?

Cadw’r cwestiwn yn rheolaidd. A dyma’r ail bwynt dwi am ei danlinellu. Ailadroddwch

ffurf y cwestiwn heb ddim ond y peth lleiaf o newid arno.

Gadewch i mi roi enghraifft bendant. Dwi’n arddangos llun y stryd. Dwi’n

cyfyngu ffurf y cwestiynau i’r tair hyn:

(1) Oes? (2) Ydy? (3) Ble mae? (Dyma’r tair cyntaf y byddaf innau yn eu dysgu. Maen

nhw’n gwbl reolaidd yn ôl trefn y frawddeg normal, mor wahanol i ‘Beth ydy ...? Beth

sy ...?’)

Nawr dwi’n cymryd ein bod wedi esbonio mor gynnil ag sy’n bosibl ffurf y cwestiynau

a’r atebion: un yn ateb drwy ddweud y gwir, y nesaf drwy ddweud celwydd.

Oes plismon ar y palmant?

Oes. Mae plismon ar y palmant.

Nac oes. Does dim plismon ar y palmant. (O flaen yr enw).

Ydy’r plismon ar y palmant?

119

Ydy. Mae’r plismon ar y palmant.

Nac ydy. Dyw’r plismon ddim ar y palmant. (Ar ôl yr enw).

Ble mae’r plismon?

Mae’r plismon ar y palmant.

Dechreuwn drwy ofyn y cwestiynau canlynol, gan lynu wrth ffurf bendant:

Oes merch ar y palmant?

bachgen

plismon

postmon

Oes car ar y ffordd?

beic

lorri

Oes cig yn y siop?

bocs

pethau

dyn

Hynny yw, disgwyliwn atebion cadarnhaol i’r rhain, gan ddilyn yr un ffurf bob tro:

‘Oes. Mae merch ar y palmant’. Mae yna un ar ddeg o gwestiynau. Anogwch y plant

i’w hateb yn gyflym. Neidier o’r naill i’r llall nes eu bod yn ystwyth a chithau’n

ailadrodd yr un cwestiwn ambell dro gyda’r plentyn nesaf er mwyn cadw’r cyflymder.

Trown wedyn ar yr atebion negyddol:

Oes car ar y palmant?

beic

lorri

Wedyn, symud at ‘ydy’, ac ymlaen at ‘ble’. Dim mwy. Mae’r tair ffurf yma’n

ddigon am y tro.

Nawr, rhanner y dosbarth yn ddwy: A. Y rhai gwir. B. Y rhai celwyddog.

Rhaid i A roi’r ateb cywir: ‘Oes cig yn y siop? Oes. Mae cig yn y siop’.

Rhaid i B ddweud celwydd: ‘Nac oes. Does dim cig yn y siop’.

Hynny yw, ceir dau ateb gwahanol i bob cwestiwn a ofynnir gan yr athro.

Symuder yn raddol o’r naill ffurf at y llall, yn araf deg ar y dechrau, cwestiynau

ar ffurf ‘Oes’am bum tro efallai, ffurf ‘Ydy’am bum tro, ‘Ble’am bump, ‘Oes’am

ddau dro, ‘Ble’am ddau, ‘Ydy’am ddau, ayyb, nes bod modd eu gofyn blith draphlith.

Cyflymder yw’r nod. Ras yw’r cwbl. Heb hynny go ofer yw.

Os ceir anhawster, os bydd cloffi, symleiddier y cwestiwn gan bwyntio at y

darlun: Oes plismon yma? Oes car yma? Oes siop yma? Dychweler at gwestiwn syml

os bydd petruso, er mwyn adennill hyder a sbonc. Nid gorffen y cwrs yw’r nod, ond

ennill cyflymder mewn gwaith sylfaenol.

‘Rhedwch yn gyflym; er mwyn bod yn gyflym rhedwch yn ysgafn, drwy wneud

y llwyth yn gryno’, — h.y. drwy fyrhau’r cwestiynau a’u trefnu’n ôl cynllun tra

rheolaidd. Anelwch at gael yn ôl gymaint o frawddegau ar lafar ag sy’n bosibl gan y

120

plant. Mae llawer o resymau o blaid defnyddio dull llafar: un o’r cryfaf yw bod modd

symud ynghynt, fod y plant yn gallu llefaru llawer iawn mwy o frawddegau nag y

gallan nhw eu sgrifennu yn y blynyddoedd cynnar. Tipyn o wastraff ar amser yw

sgrifennu ail iaith gan amlaf nes cyrraedd peth aeddfedrwydd.

Mae cyswllt gweithredol (a goddefol) â’r iaith yn fater sylfaenol. Dywed yr

Athro C. J. Dodson am y Dull Dwyieithog, Pamffled 9, Cyfadran Addysg

Aberystwyth, (a gallaf finnau dystio i wirionedd y gosodiad): ‘At stage 1 the number of

contact times for a lesson lasting 40 minutes with an average class of 30 pupils is

between 15 and 25 active contacts per child, and between 450 and 750 passive

contacts per child. (Dydyn nhw ddim yn hollol oddefol gan fod y dull yn mynnu i’r

dysgwr gynhyrchu ateb yn weithredol yn ei feddwl bob tro). ‘The larger figure might

seem unreasonably high, but teachers have been timed in random lessons and this range

was obtained.’Wrth wylio gwersi yn ôl y ‘Dull Union’uniongred mae pob plentyn yn

lwcus os caiff dri chwestiwn mewn gwers, gan fod llawer o’r amser yn cael ei fwrw ar

greu sefyllfaoedd — cerdded at y drws, actio hyn a’r llall, dodi’r pensil y fan yma a’r

fan arall, meimio (go amherthnasol).

Dyma i chi enghreifftiau pellach o ddriliau gwahanol y gellid eu helaethu ar

gyfer y dosbarth. Dw i’n cymhwyso’r set ddethol yma o restr a nododd Eric

Rosenbaum yn y Modern Language Journal. Peth go anodd, ar ôl crynhoi’r rhestr

gnewyllyn yw dyfeisio driliau newydd: h. y., rhai heblaw’r driliau symlaf oll o ateb

cwestiwn yn gadarnhaol neu’n negyddol neu o droi ateb yn gwestiwn. Dyma rai

awgrymiadau, sut bynnag.

(i) Ateb cwestiwn ffeithiol

Dau a Dau — Pedwar.

Pump a chwech — Un deg un.

Saith a thri — Deg.

Pump a naw — Un deg pedwar.

(Ac ymlaen am gyfanswm o 15­20 o weithiau)

(ii) Ateb rhan o gwestiwn sy’n cynnwys y gair ‘neu’

Ydych chi’n gweithio neu ydych chi’n chwarae? Dwi’n gweithio.

Ydych chi yn yr ysgol neu ydych chi yn y capel? Dw i yn yr ysgol.

Ydych chi’n hapus neu ydych chi’n drist? Dw i’n hapus.

(Ac ymlaen am gyfanswm o 15­20 o weithiau)

(iii) Cyfuno cwestiwn ac ateb

Ble mae’ch cartref chi? Yn y dre. Mae nghartre i yn y dre.

Ble mae’ch mab? Yn yr ysgol. Mae mab i yn yr ysgol.

(Ac ymlaen)

(iv) Rhoi’r gwrthwyneb

Mae nghar i’n newydd. Sut mae’ch car chi? Mae e’n hen.

Mae ngardd i’n sych. Sut mae’ch gardd chi? Mae hi’n wlyb.

(v) Symud at yr uned nesaf, neu barhau cyfres

Yn yr haf ar ddydd Llun.

Yn yr hydref ar ddydd Mawrth.

Yn y gaeaf ar ddydd Mercher.

Yn y gwanwyn ar ddydd Iau.

Yn yr haf ar ddydd Gwener. ayyb

Yn Ionor un fil naw cant un deg a dau.

Yn Chwefror un fil naw cant un deg a thri.

121

(vi)

(a)

(b)

(c)

(ch)

(vii)

(a)

(b)

(c)

(ch)

(d)

(viii)

(a)

(b)

(ix)

(x)

Ym Mawrth un fil naw cant un deg a phedwar. ayyb

Newid berf

Newid yr amser drwy ateb yn negyddol, + ond,

Ydych chi’n sâl heddiw? Nac dw, ond roeddwn i’n sâl ddoe.

Ydy e’n rhydd heddiw? Nac ydy, ond roedd e’n rhydd ddoe.

Newid person

Fe ganoch chi. Fe ganon nhw.

Fe nabyddodd e. Fe nabyddon nhw.

Fe droais i. Fe droion nhw.

Fe es i.

Fe aethon nhw.

Cwmpasog yn orchmynnol

Dwi’n galw. Galwch.

Dwi’n rhoi. Rhowch.

Dwi’n mynd. Ewch.

Araith union yn Araith Anunion

Fe ddwedodd e: ‘Dwi’n mynd’. Fe ddwedodd e ei fod e’n mynd.

Fe ddwedodd e: ‘Maen nhw wedi blino’. Fe ddwedodd e eu bod nhw wedi

blino.

Fe ddwedodd e: ‘Mae hi’n bwrw glaw’. Fe ddwedodd e ei bod hi’n bwrw glaw.

Newid enwau a rhagenwau

Newid enw’n rhagenw goddrychol ôl.

Mae’r dr yn y jwg. Mae e yn y jwg.

Mae’r ardd tu ôl i’r t. Mae hi tu ôl i’r t.

Rhif

Mae’r t yn llosgi. Mae’r tai’n llosgi.

Fe gollais i’r plentyn. Fe gollon ni’r plant.

Cenedl

Mae’r fuwch yn y cae. Mae’r tarw yn y cae.

Roedd y bachgen gyda chi. Roedd y ferch gyda chi.

Newid enw’n rhagenw gwrthrychol

Dwi’n gweld y bobl. Dwi’n eu gweld nhw.

Mae hi wedi gwerthu’r car. Mae hi wedi’i werthu fe.

Newid enw genidol y rhagenw

Darllenwch lythyr y ferch. Darllenwch ei llythyr hi.

Anfonwch bapurau’r dyn. Anfonwch ei bapurau fe.

Newid ansoddeiriau

O safle dibeniad i ddilyn enw

Mae’r ddesg yn lân. Y ddesg lân.

Roedd yr ardd yn llawn. Yr ardd lawn.

O’r radd gysefin i’r radd gymharol

Mae’r ddesg yma’n lân. Sut mae’r ddesg arall? Mae’r ddesg arall yn lanach.

Roedd yr ardd yma’n llawn. Sut oedd yr ardd arall? Roedd yr ardd arall yn

llawnach.

Newid arddodiaid

Mae Twm yn dweud wrth y dyn. Mae Twm yn dweud wrtho fe.

Roedd y plant yn siarad am y llew. Roedd y plant yn siarad amdano fe.

Fe fydd llyfrau gan y fenyw acw. Fe fydd llyfrau ganddi hi acw.

Cyfuno cymalau

Newid berf yn yr ail frawddeg + ‘er’

122

(xi)

Dwi’n mynd heddiw. Mae’r ffyrdd yn ofnadwy. Dwi’n mynd heddiw er

bod y ffyrdd yn ofnadwy.

Fe ganodd y bachgen. Roeddech chi’n darllen llyfr. Fe ganodd y bachgen er

eich bod chi’n darllen llyfr.

Ychwanegu elfennau

Mae’r dyn.

Mae’r dyn tew

Mae’r dyn tew sy’n cysgu

Mae’r dyn tew sy’n cysgu yn y gwely

Mae’r dyn tew sy’n cysgu yn y gwely ar y llofft

Mae’r dyn tew sy’n cysgu yn y gwely ar y llofft yn chwyrnu heno

Mae’r dyn tew sy’n cysgu yn y gwely ar y llofft yn chwyrnu heno, gwaetha’r

modd.

Hanfod y driliau yma yw eu cyflymder, a’r unffurfiaeth sy’n peri eu bod yn

ysgythru arferiadau dealledig ar sail patrwm isymwybodol yn ymennydd y dysgwr.

Mae’n angenrheidiol, wrth gwrs, gadw’r brawddegau’n fyr at ei gilydd ac yn rhwydd

i’w trafod. Os bydd dril yn dibynnu ar newid o un patrwm i batrwm arall, mae’n

angenrheidiol i ni beidio â newid llawer mwy nag un elfen ar y tro yn y frawddeg

gysefin. A’r un mor angenrheidiol yw peidio â sticio at yr un ffurf o ddril. Er bod angen

cysondeb, mae angen amrywiaeth y tu mewn i’r cysondeb.

Un peth sy’n ddychryn yngln â’r driliau hyn yw eu ffurfioldeb, eu militariaeth,

os liciwch. Diffyg arall, pan na ddefnyddid dulliau cyfleu ystyr yr un pryd (lluniau,

cyfieithu cyflym), oedd ceisio ymateb yn Baflofaidd. Ac fel y cawn esbonio, dyna pam

y mae’n bwysig eu cyfuno â dril dwyieithog. Fe welwyd, ganrif yn ôl, y Dull­Unionwyr

neu’r Hwiangerddwyr yn adweithio’n ffyrnig yn erbyn y cyfieithwyr a’r gramadegwyr.

Ystyfnig a phenstiff fu’r bobl ffurfiol hynny, a braidd yn ddiddychymyg yn eu

hamharodrwydd i newid dim. Ond dyma ni, ganrif wedyn, yn gweld y Dull­Unionwyr

hwiangerddol cyfoes ar lun ffwythianwyr hwythau yn cael eu herio. A’r un

amharodrwydd cyfyngedig sydd ar eu rhan hwy i weld dim o werth yn y datblygiad

strwythurol. ‘Dril yw dril’, meddan nhw. ‘Mor sych a diflas â phopeth marw.’

Hwyrfrydig iawn yw’r ‘hen ysgol’hwiangerddol hyd yn oed i ystyried y ffaith fod

gramadeg neu strwythurau yn fagwrfa gydlynol a threfnus sy’n ffrwythlon i’w dysgu’n

greadigol. Y rhagfarnau cilyddol hyn yw un rheswm dros fod yn gyfansawdd (ond wrth

gwrs nid y rheswm pwysicaf o bell ffordd).

Er nad ydw i ddim am eistedd ar y ffens yn y mater yma — gan nad ydw i fyth

yn gysurus ar ffensys — fy nhyb i yw bod yna le pendant ac angenrheidiol i’r ddwy

ochr, a bod iddynt ill dwy eu swyddi neilltuol ym mhatrwm dysgu. I gyrraedd pen

draw’r ffordd i fod yn gysurus yn yr iaith mae’n rhaid mynd ar hyd llawer llwybr

bychan cyfun. Nid yr un dechneg na’r un math neu ddosbarth o dechnegau yw’r unig

fath. Ond rhaid i’r sylfaen strwythurol fynnu lle blaenaf o’r cychwyn cyntaf.

Dysgu patrymau gramadegol ystyrlawn ar y cof drwy eu troi nhw’n arferiad

dealledig, dyna’r dull cyfoes o ddysgu gramadeg. Nid gramadeg yw’r cwbl o bell

ffordd, ac nid dysgu gramadeg ffurfiol o gwbl yw dysgu iaith; ond wrth ddysgu ail iaith

ar ôl pasio’r oedran cynnar, mae dysgu pwyntiau gramadegol yn drefnus drwy

batrymau dealledig yn angenrheidiol rywsut. Hynny yw, mae’n gwbl angenrheidiol troi

gramadeg neu batrymau ieithyddol yn ddefnydd byw. Rhan yw dril, a rhan isradd, rhan

gynorthwyol o’r broses o ddysgu iaith.

Gawn ni grynhoi, felly. Mae yna ddau brif fath o ymarfer â phatrymau, sef

Disodli a Thrawsnewid. Dyma enghraifft o Ddisodli:

123

Athro: Beth wnaeth yr athro?

Fe aeth yr athro ymlaen i ddysgu.

(Gan gyfeirio at Blentyn 1) Athro.

Plentyn 1: Beth wnaeth yr athro?

Plentyn 2: Fe aeth yr athro ymlaen i ddysgu.

Athro (wrth Blentyn 3): Milwr.

Plentyn 3: Beth wnaeth y milwr?

Plentyn 4: Fe aeth y milwr ymlaen i ymladd

Athro: Paentiwr.

Plentyn 5: Beth wnaeth y paentiwr?

Plentyn 6: Fe aeth y paentiwr ymlaen i baentio. ayyb

Dyma enghraifft o Drawsnewid:

Athro: Dwi’n gweld y dyn heno.

Dwi’n ei weld e heno.

Dyn

Plentyn 1: Dwi’n gweld y dyn heno.

Plentyn 2: Dwi’n ei weld e heno.

Athro: Menyw.

Plentyn 3: Dwi’n gweld y fenyw heno.

Plentyn 4: Dwi’n ei gweld hi heno.

Athro: Llongau.

Plentyn 5: Dwi’n gweld y llongau heno.

Plentyn 6: Dwi’n eu gweld nhw heno.

Mae yna lawer o gytundeb mai adeiladwaith brawddegol, y peth amryddawn a

chreadigol hwnnw, yn hytrach na geirfa yw’r peth i grynhoi sylw arno ar drothwy

dysgu iaith. Dyna sy’n dal neu’n cynnal geirfa. Mae’r ymarferion hyn yn tynnu’r holl

sylw at y modd mae rhannau brawddeg yn ffitio yn ei gilydd. Wrth newid elfennau

unigol mewn cystrawen, mae’r gystrawen ei hun neu’r patrwm yn aros yn ddiogel. Heb

fawr o esbonio gramadegol, mae’r ailadrodd (sy’n gwbl hanfodol wrth ddysgu iaith) yn

morthwylio’r patrwm gramadegol newydd yn ystyrlon ddadansoddol yn yr ymennydd.

Gramadeg isymwybodol yw. Yn awr, cydweddiad yw calon llawer o’n defnydd ni o

iaith. Wrth ddysgu mamiaith ac wrth ddysgu ail iaith, rhan sylfaenol o’r gwaith yw

cymhwyso patrwm ddysgon ni ar gyfer un sefyllfa — at sefyllfa sydd ychydig bach yn

wahanol. Mae ymarfer â phatrymau’n wynebu’r ffaith yma’n blwmp ac yn blaen.

Mae’n rhaid ailadrodd ar gyfer dysgu iaith. Does dim modd osgoi hyn. Fe all

llawer o ailadrodd gweddol foel fynd yn ddiflas, hyd yn oed gyda’r plant hynaf; ac wrth

fynd yn ddiflas, fe all beidio â chadw yn y cof, nod y cyrchir ato drwy ailadrodd. Ac fe

feirniadwyd ymarfer â phatrymau nid yn unig oherwydd anesmwythyd Chomsky

ynghylch absenoldeb cyfleu ystyr, eithr hefyd oherwydd ei undonedd, a dyma’r rheswm

mae’n debyg pam yr oedd yr ymarfer yn anesmwytho rhai Cymry. Ond y gwir yw does

dim rhaid i ailadrodd fynd yn ddiflas, fe all yr athro creadigol droi dull fel hwn, drwy

gymorth darluniau, a dramateiddio, a chwaraeon, a chaneuon, a ffilmiau, a storïau, a

chystadleuaeth cyflymder yn beth byw a chynhyrfus. Pwy ddwedodd unwaith nad oes

yna ddim dull diflas i’w gael yn y byd, dim ond athrawon diflas?

Fe geisiwn ni weld sut y gellir ailadrodd gyda diddordeb ymhellach ymlaen. Ar

hyn o bryd, fe hoffwn i roi sylw i un gyn a grybwyllais eisoes ac sy’n cael ei chodi’n

124

aml ynghylch Ymarfer â Phatrymau, sef y cwestiwn, ‘Wel, ie, rych chi’n ailadrodd y

patrymau, mae’n wir, ond sut rych chi’n cyfleu eu hystyr nhw?’Yn wir, ailadroddwyd

cwyn Chomsky yn ddynwaredol lawer tro yng Nghymru, a hynny ar ôl i Gymru ddatrys

y broblem arbennig hon drosti’i hun yn nechrau’r chwedegau.

(iii) Dril Dwyieithog

Mae patrwm yn aros yn air pwysig ym myd dysgu iaith. Mae’r ymwybod wedi

tyfu fod yna gnewyllyn o rigolau rheolaidd gan bob iaith, ac i mewn i’r rhigolau hynny

fe all helaethrwydd ac amrywiaeth anhygoel o eirfa gael eu harllwys. Os bydd dysgwr

yn dod i nabod y rhigolau hyn, a’u meddiannu’n ystyrlon, nes bod y patrymau hynny yn

dod yn eiddo iddo ef, yna mae wedi cerdded gryn bellter ar hyd y ffordd tuag at ennill

yr iaith newydd.

Ond ‘rhigolau’deallol yw’r rhain.

Wedi esbonio patrwm gramadegol i ddysgwr, ceisir bwrw ati ar unwaith i

ymarfer â’r patrwm. Camgymeriad ein dysgu yn y gorffennol yn aml oedd bodloni ar

esbonio cystrawen heb ei drilio, neu ei chyflwyno mewn ffwythiant cyn crwydro

ymlaen i ffwythiant arall, heb iddo ddod yn rhan o feddylwaith awtomatig ond ystyrlon

y dysgwr. Medd Fries:

A study of the statements of the patterns, making them matters of

conscious knowledge, must never be allowed to become a substitute for

practice of the sentences themselves. The statements become valuable

only insofar as they guide the practice exercises of the student and

provide for him the knowledge that will give him assurance in his use of

the language ...

The special efforts of the learning process must concentrate upon

making automatic the essential features of arrangement and form and

function word, not upon extending control over a content vocabulary.

Accuracy in the habitual use of structural patterns must precede

fluency.

Felly, dyma’r camre, yn ôl Fries — esbonio patrwm (a byddwn i’n pwysleisio

fan yma, egluro ystyr), ei ailadrodd, yna ymarfer, chwarae ag ef, ei newid ef yn ôl

cyfarwyddyd pendant ac yn ôl dyfais reolaidd, hynny yw defnyddio’r patrwm rywsut

neu’i gilydd ar gyfer sefyllfaoedd gwahanol. Wrth ymarfer fel hyn, yr hyn a ddysgir

mewn gwirionedd yw’r patrwm ei hun; ond ar yr wyneb, fe all ymddangos mai

rhywbeth arall sydd dan sylw, megis rhyw newid yn yr eirfa efallai.

Cymerwch ddril dwyieithog sy’n enghraifft amgenach o ymarfer â phatrymau.

Yn y cwrs Cymraeg i Oedolion, Gwers 15, Cam 3, ceir rhyw ymarferiad fel hyn: Who

is here today? What is here — today? What is coming — today? How many books —

are here — tonight? How many children — are in the room — again? How many

papers — are on the table — still? ayyb Ar yr olwg gyntaf, y newidiadau yn yr eirfa

yw’r sialens i’r dosbarth, y chwilio yn y cof er mwyn dod o hyd i’r geiriau

angenrheidiol. Ond y prif beth a ddysgir yma, mewn gwirionedd, yw’r hyn sy’n

gyffredin i’r brawddegau hyn i gyd, sef y ffrâm sylfaenol.

‘Pattern Practice’, meddai Lado, ‘consists paradoxically in the conscious

substitution of some element other than the chief element being taught so that primary

attention is drawn away from it while the entire pattern is repeated.’Yn yr ymarferiad

uchod, yr hyn a wneir yw tynnu sylw at yr eirfa yn ystyrlon, a pheri i aelodau’r

dosbarth yn eu tro ailadrodd y patrwm hollbwysig sylfaenol.

Peth sy’n mynd gydag ymarfer â phatrymau yw’r tablau cyfnewid. Ac fe

ddefnyddir llawer o’r rhain yn y cwrs Cymraeg i Oedolion. Gellir defnyddio tabl

125

cyfnewid fel ffrâm ar gyfer ymarfer â phatrymau. Cymerer fel enghraifft y tabl yng

Ngham 4, Gwers 18:

Are you going today?

Is he leaving now?

we answering tonight

she coming this afternoon?

they sleeping this year?

writing

Ar sail y tabl creadigol hwn y mae’n bosib llunio cannoedd o frawddegau

gwahanol. Mae’r tabl yn rhoi cyfle aruthrol i ymarfer o gwmpas ffrâm sefydlog.

Priodol yw ystyried beirniadaeth Chomsky ynghylch Ymddygiadaeth yn wyneb tabl

cyfieithu creadigol o’r fath.

Yn y cwrs Cymraeg i Oedolion, ymarfer yn gyflym ar sail fframiau o’r math

yma oedd cryn dipyn o’r gwaith. Gormod mewn gwirionedd. Ond yr oedd yn

pwysleisio pwynt.

Peth haniaethol, ar ryw ystyr, yw patrwm. Ac yn sicr, dyma’r peth, heblaw

geirfa, mae’n rhaid i’r dysgwr ei feistroli. Mae’r ddau beth ger ei fron o’r cychwyn;

patrwm ieithyddol (perthynas y geiriau i’w gilydd), a’r geiriau eu hun fel geirfa. Ni ellir

anghofio’r naill ochr na’r llall yn y gwaith hwn. Tuedd rhai Americanwyr yn y

gorffennol fu pwysleisio’r naill beth ar draul y llall, hyfforddi’r patrwm heb falio ddigon

am yr ystyr eirfaol. A dyna’r prif reswm pam y ciliodd yr ymarferiad mor rhwydd dan

bwysau’r ffwythianwyr anhrefnus.

Dyma’r math o ymarferiad a fyddai’n bosibl, mae’n debyg, mewn cwrs

Americanaidd:

Athro: Mae’r llong wedi dod.

Dysgwr 1: Mae’r llong wedi dod.

Athro: Y ferch.

Dysgwr 2: Mae’r ferch wedi dod.

Athro: Ymadael.

Dysgwr 3: Mae’r ferch wedi ymadael.

Athro: Cyrraedd.

Dysgwr 4: Mae’r ferch wedi cyrraedd. ayyb

Fe geir yr un dril yn y Cwrs Cymraeg i Oedolion, Gwers 6, ond yn y fan yna y

mae wedi ymbriodi â dril dwyieithog; ac felly mae’r dysgwr yn ymwybodol o ystyr y

frawddeg bob tro:

Athro:

Dysgwr 1:

Athro:

Dysgwr 2:

Athro:

Dysgwr 3:

The ship has come.

Mae’r llong wedi dod.

Mae’r llong wedi dod.

The girl.

Mae’r ferch wedi dod.

Left.

Mae’r ferch wedi ymadael.

126

Athro: Arrived.

Dysgwr 4: Mae’r ferch wedi cyrraedd. ayyb

A gaf i helaethu’n gynnil ar yr egwyddorion sydd y tu ôl i Ddril Dwyieithog

orau y gallaf:

(i) Drwy’r dull hwn fe gyflëir ystyr yn fanwl ac yn gyflym. Ni raid adeiladu sefyllfa yn

araf er mwyn egluro ystyr gair gan osgoi’r famiaith.

(ii) Fe symudir o’r hysbys i’r anhysbys, h.y. o’r famiaith i’r ail iaith; ac felly fe fanteisir

ar wybodaeth barod y dysgwr.

(iii) Fe gyferbynnir yn glir batrwm y naill iaith a’r llall, er mwyn dileu ymyrraeth

anymwybodol y naill, ac er mwyn wynebu’n bendant y cyferbyniadau sydd rhyngddynt.

(iv) Oherwydd y cyfieithu, mae unrhyw sefyllfa’n bosibl i’r eirfa. Fel arfer, fe gyfyngir

peth ar y Dull Union ym myd materion haniaethol, amser (ddoe) ayyb, oherwydd yr

anhawster sydd i egluro’r materion hynny drwy gyfrwng cyfarpar gweld a chlywed.

(v) Mae’r dull yn cydnabod proses cyfieithu sydd eisoes ar waith (yn gyflym o bosib)

ym meddwl y dysgwr, ac yn cydnabod fod ei syniadaeth am y byd o’i gwmpas yn

annatod glwm wrth ei iaith.

(vi) Wrth gynllunio cwrs ar seiliau dwyieithog mae modd graddio’r patrymau

brawddegol yn hollol yn ôl natur yr iaith a ddysgir, a rheoli datblygiad y cwrs yn fanwl

gyfan. Gyda dull arall, megis y Dull Union, mae dilyniant y patrymau yn dibynnu i

raddau ar y sefyllfa. Hynny yw, mae’n rhaid dyfeisio sefyllfaoedd sy’n medru ateb y

patrymau mwyaf elfennol, ac nid yw hyn bob amser yn hawdd.

Wrth edrych drwy ryw lyfr nodweddiadol sy’n ceisio cyflwyno ail iaith drwy

gyfrwng Ymarfer â Phatrymau, llyfr megis dweder English Pattern Practices, R. Lado

& C. C. Fries, mae’n amlwg fod ffurfiau’r brawddegau’n cael eu troi y ffordd yma a’r

ffordd arall. Ond sut mae’r dysgwr yn mynd i wybod beth maen nhw’n ei olygu?

Un ateb i’r gyn ynghylch ystyr yw Dril Dwyieithog (neu’r Dull Dwyieithog)

fel y’i datblygwyd gan yr Athro C. J. Dodson ac y’i disgrifiwyd ganddo yn The

Bilingual Method (1962) ac yn Language Teaching and the Bilingual Method (1967).

Mae’r Dril hwn yn gallu ffitio ffrâm patrymau graddedig ac yn gallu cydweithio’n

berffaith ag ymarfer â phatrymau. Mae hefyd wrth gwrs yn mynnu bod ystyr yr holl

waith yn glir o’r cychwyn cyntaf.

Mae’r dril yma’n taflu darnau byr i’w cyfieithu at y plant, unedau cryno wedi’u

grwpio sy’n dilyn patrymau gweddol berthnasol i’w gilydd, ac yn disgwyl yr ateb yn ôl

yn gyflym. Fe ddechreuir drwy gydio yn yr wybodaeth sy’n gyfarwydd eisoes i’r plant,

ac fe ddatblygir yn araf tuag at wybodaeth newydd. Gwaith llafar yw hyn, a’r plant eu

hunain yn gorfod cynhyrchu’r iaith newydd mewn cymwysiadau amrywiol bob munud.

Dyma enghraifft o ddarn o wers: (yn y nawfed wers mewn cwrs) — (Dyma’r

patrymau arwyddocaol a ragflaenodd y wers hon: Dwi’n cerdded. Dwi wedi bod. Yn yr

ymarferiad cyntaf sy’n dilyn, ni chyflwynir dim geirfa newydd).

1. Esbonnir y patrwm newydd: Dwi wedi bod yn cerdded; I have been walking.

2. Esbonnir patrwm yr ymarferiad: Plentyn 1 i gyfieithu’r cwestiwn; Plentyn 2 i ateb yn

gadarnhaol; Plentyn 3 i ateb yn negyddol.

3. Athro: Has she been going? (Athro’n pwyntio bys at blentyn 1)

Plentyn 1: Ydy hi wedi bod yn mynd?

Plentyn 2: Ydy. Mae hi wedi bod yn mynd. (Athro’n pwyntio at Blentyn 2)

Plentyn 2: Nac ydy. Dyw hi ddim wedi bod yn mynd.

127

Athro:

Plentyn 4:

Plentyn 5:

Plentyn 6:

Athro:

Plentyn 7:

Plentyn 8:

Plentyn 9:

Athro:

Has he been going through the country?

Ydy e wedi bod yn mynd drwy’r wlad?

Ydy. Mae e wedi bod yn mynd drwy’r wlad.

Nac ydy. Dyw e ddim wedi bod yn mynd drwy’r wlad.

Has the mother been running?

Ydy’r fam wedi bod yn rhedeg?

Ydy. Mae’r fam wedi bod yn rhedeg.

Nac ydy. Dyw’r fam ddim wedi bod yn rhedeg.

Has the woman been sitting (under the tree)? ayyb

4. Cyflwyno’r eirfa newydd i’w dysgu yn y wers — ynghyd â hen batrymau yn gyntaf;

yna ynghyd â’r patrwm newydd.

Rhan fach o’r wers, sy’n mynd yn gyflym iawn, yw’r tamaid yna. Ond fe

welwch fod yr arafwch creu sefyllfa a geir weithiau yn y Dull Union a’r cymysgedd

niwlog o batrymau ieithyddol diystyr wedi diflannu, a bod yr athro’n manteisio ar

famiaith y dysgwr (sef yr hysbys) er mwyn gweithio tuag at yr ail iaith (sef yr

anhysbys). Ni ellir ei gyhuddo o adwaith diystyr. Mae’r dysgu’n dilyn trefn proses o

gyfieithu sydd eisoes yn digwydd yn naturiol i raddau helaeth ym meddwl y dysgwr.

Dyw’r dull ddim yn berffaith. Ar yr wyneb, mae’n ymddangos yn undonog.

Ond er bod hynny’n wir i’r sawl sy’n gwylio, nid yw’n wir o safbwynt y dysgwr, sy’n

cynyddu mewn gwybodaeth yn gyflym a heb wybod unrhyw eiliad yn ystod y wers

pryd bydd galw arno ef i gynhyrchu’r iaith newydd ar lafar ar unwaith.

Beirniadaeth bwysicach yw bod gair o’r famiaith mewn gwers ail iaith yn

wastraff amser, mewn gwirionedd, ac yn lleihau’r amser cyswllt â’r iaith newydd. A

dyw’r athro ddim yn siarad digon o’r ail iaith o’r dechrau chwaith (yn y math hwn o

ddril, beth bynnag); h.y. ar gyfartaledd fe glywir gormod o acennu anghywir gan fod y

plant yn gwrando cymaint ar ei gilydd.

Ar y llaw arall, mae cyfieithu’n mynnu amlder: mae’n cyferbynnu a chymharu’r

iaith gyntaf â’r ail fel y deellir y gwahaniaeth sylfaenol. Ac yn well na’r cyfieithu

arferol, air am air, mae’n mynnu mynegiant fesul grwpiau ystyrlon o eiriau.

Er nad dyma’r tro cyntaf, o bell ffordd, i athrawon sylweddoli defnyddioldeb y

famiaith wrth ddysgu ail iaith, dyma’r tro cyntaf y disgrifiwyd yn fanwl ddull llafar

bwriadol a helaeth ar yr egwyddor yna sy’n symud yn gyflym yn ôl unedau graddedig a

phatrymol o’r famiaith i’r ail iaith.

Mewn erthygl yn y Modern Language Journal fe geir dull tra thebyg ond sy’n

gweithio i’r cyfeiriad gwrthwyneb, sef o’r ail iaith i’r famiaith, a’r nod (fel sydd mor

gyffredin yn America) yw darllen yr iaith newydd, heb hidio dim am fedr llafar ynddi.

Meddai’r awdur, Walter Bernard:

The method, indeed, is an old one; and it consists mainly in the making use

of the Native Symbol Alongside the Foreign Symbol in the Form of Parallel,

Opposite Translations of Short Linguistic Units. These may be either short,

complete sentences, or parts of longer sentences.

Yr hyn sy’n bwysig yw bod yr unedau’n fychan, a’u bod yn gydberthynol.

Drwy’r ddwy ‘reol’hynny y sicrheir cyflymder ‘difyfyrdod’yn yr ymateb.

Fe fu cyfieithu, a defnyddio’r ddwy iaith mewn gwersi ail iaith, o dan gwmwl

am gyfnod go hir. Tybed a ydym eisoes wedi gweld parchuso’r syniad unwaith eto? Fe

ddwedir mai’r llyfr cyntaf i ddefnyddio’r ddwy iaith, y naill yn ochr y llall, er mwyn

128

dysgu iaith newydd drwy ddarllen dwyieithog oedd The Illustrated Polyglot Pilgrim’s

Progress 1876; ac meddai golygydd hwnnw, sef Benjamin West: ‘The Right Hon. W.

E. Gladstone, M.P., when addressing the people in Wales a few years since,

recommended that ancient nation to acquire a knowledge of modern languages; and to

that incident the writer is mainly indebted for the suggestion of publishing some

popular books in a polyglot form, with a view to facilitate that important object’.

Llyfrau darllen dwyieithog, felly, oedd canlyniad araith Gladstone yn Eisteddfod yr

Wyddgrug 1873.

Wrth gwrs, cyfnod dros dro yw dril dwyieithog sy’n arwain ymlaen at ei ladd ei

hunan, at gael gwared â’r famiaith yn gyfan gwbl, ac arfer yr iaith newydd o hyd, maes

o law. Hynny yw, symudir oddi wrth Strwythur at Sefyllfa, oddi wrth gadarnhau Tafod

at ledu Mynegiant.

A chan mai athrawon cyffredin yw’r rhan fwyaf ohonom, mae’n debyg bod

eisiau chwilio am ddull a all fod yn ddefnyddiol i’r rhelyw.

Dyma nodweddion hanfodol y ffurf hon o ddril, o safbwynt disgrifiad allanol:

(i) Mae’n waith llafar.

(ii) Defnyddir y famiaith fel triger, a cheisir cael cyfosodiad unionsyth ac awtomatig o’r

iaith a ddysgir.

(iii) Y frawddeg, fel arfer, yw’r uned. Ac ni chyfieithir fesul gair.

(iv) Mae rhwyddineb her y cwestiwn a chyflymder ateb yn mynd gyda’i gilydd. Ceisir

bob sut i gadw cyffro symud yn y gwaith drwy ailadrodd unedau syml a thrwy dyfu

brawddegau hir fesul tamaid.

(v) Dilynir patrwm dril: h.y. ceisir cadw rhyw fath o reoleidd­dra ym mherthynas

adeiladwaith brawddegau â’i gilydd. Felly tueddir i newid yr elfennau lleiaf wrth symud

ymlaen.

129

(iv) Darllen Sefyllfaol Strwythurol

Yn fuan iawn mae’n rhaid inni drosi dril yn iaith lawn naturiol, ar ffurf patrwm

y mae’r dril hwnnw yn gorwedd ynghudd ynddi. Bellach, mae yna lawer o ffyrdd yn

agored i ni ar gyfer y cam nesaf: mae chwarae gêm sy’n cynnwys elfennau’r dril yn un

posibilrwydd, mae darllen darn (yn oddefol) sy’n defnyddio’r mater arbennig yn

bosibilrwydd arall, mae lecture expliquée yn fodd arall, ac mae ymddiddan ‘rhydd’

(trefnus) neu ddramodigau graddedig yn bosibl.

Mae’n werth imi fanylu’n weddol lafurus ar yr ymarferiad hwn oherwydd

drwyddo

1. Mae modd trefnu ac olynu’r strwythurau’n fanwl,

2. Mae modd trefnu’r ffwythiannau a’r sefyllfaoedd yn gwbl ddisgybledig,

3. Mae modd eu clymu wrth ei gilydd yn ofalus,

4. Arwain ymlaen at holi ac ateb trefnus, nes cyrraedd Ymddiddan Rhydd.

Beth sy’n digwydd mewn lecture expliquée yn yr ail iaith? Cymerwn un

paragraff o stori:

Roedd John yn hoff o geffylau. Un nos Wener, fe aeth e a’i ffrind,

Rhodri, i fferm Mr Roberts y Fro. Wedi iddyn nhw ddal dau geffyl, dyma

nhw’n carlamu o amgylch y cae. Yn sydyn, fe glywson nhw rywun yn gweiddi,

ac fe welson nhw wyneb coch y ffermwr yn edrych dros y berth arnyn nhw.

Mae’r dosbarth, dan arweiniad yr athro, yn darllen y paragraff hwn, a’r

gweddill o’r stori.

Gwaith goddefol yw hyn; ac fel y gyr pawb, y mae dysgwyr yn gallu deall yn

oddefol dipyn mwy nag a wyddant yn weithredol. Y gwaith nesaf yw troi’r iaith yma’n

weithredol, cael gan y plant agor eu cegau, defnyddio’r darn darllen hwn fel man

cychwyn (ac fel angor) ar gyfer siarad. I bobl betrus eu syniadau mae ymddiddan mewn

ail iaith yn gryn dasg; ond pan fo darn darllen o’u blaenau, mae ganddynt ffon neu

ganllaw, o leiaf, i’w cynorthwyo.

Os oes anawsterau mawr mewn geirfa yn y darn uchod, dichon mai drwy ddril

dwyieithog y mae orau eu trechu. Ond os ydym wedi codi i lefel pryd mae’r rhan fwyaf

o’r darn hwn yn reit ddealladwy i’r plant, yna lecture expliquée amdani. Fe all y term

ymddangos yn ddieithr ac yn dechnegol: nid yw’n golygu fawr mwy na llunio

cwestiynau (a sicrhau atebion) yn y fath fodd fel y bydd ystyr y darn a meistrolaeth

arno yn dod i feddiant plant.

Awn ati felly i lunio cwestiynau aml ar sail y darn hwn sydd o flaen y dosbarth,

nes treiddio i holl bosibiliadau neu ofynion y darn hwn. Dichon y bydd athro’n gweld

mai gwell yw trefnu patrwm ei gwestiynau fesul carfan i ddechrau, fel hyn:

Cytundeb

A. 1. Oedd John yn hoff o geffylau?

2. Aeth John i fferm Mr Roberts?

3. Aeth Rhodri gydag ef? (Ailadrodd A1)

4. Ddaliodd John a Rhodri’r ddau geffyl?

5. Fuon nhw’n carlamu o amgylch y cae? (Ailadrodd A4)

6. Glywson nhw rywun yn canu? (Ailadrodd A2)

7. Welson nhw wyneb plismon? (Ailadrodd A5)

8. Oedd y ffermwr yn gweiddi? (Ailadrodd A6)

9. Oedd y ffermwr yn edrych dros y berth? (Ailadrodd A7)

10. Oedd y ffermwr yn edrych amdanyn nhw? (Ailadrodd A8)

Gwybodaeth

130

B. 11. Pwy oedd yn hoff o geffylau?

12. Beth oedd enw ei ffrind?

13. Pwy oedd ffermwr y fro? (Ailadrodd megis gyda A)

14. Pwy oedd yn gweiddi ar John a Rhodri?

15. Pwy yw’r holl bobl yn y stori yma?

16. Pryd aethan nhw i’r fferm?

17. Beth oedd enw’r fferm?

18. Faint o geffylau ddaliodd John a Rhodri?

19. Ble’r oedd y ceffylau’n carlamu?

20. Ble’r oedd y ffermwr?

C. 21. Beth wnaeth John a Rhodri un nos Wener?

22. Beth wnaethan nhw wedyn? Ac wedyn?

23. Sut wyneb oedd gan y ffermwr?

24. Beth wnaeth y ffermwr? Beth arall?

25. Faint o bobl sydd yn y stori yma? ayyb

Hynny yw, godrwn y paragraff i’r gwaelodion, a chyflymu’r cwestiynau o fewn

gallu’r plant nes eu bod yn teimlo’n gwbl gysurus gyda nhw. Peidiwn â bodloni ar un

neu ddau o gwestiynau gwasgarog ac araf­eu­hateb. Mae yna adnoddau ffrwythlon

iawn y tu mewn i gwmpas yr un paragraff hwn, ond i ni beidio â’u gwastraffu a pheidio

â cholli eu hawgrymiadau.

Gellir cloi’r drafodaeth drwy ymarferiad ‘llanw bylchau’, e.e.

Roedd........yn hoff o ......... Un nos........., fe aeth a’i............Rhodri,

i............Mr Roberts.........Fro. Wedi.............nhw ddal......geffyl, dyma nhw’n........o

amgylch y ..............Yn .........fe glywson nhw.......yn........, ac fe welson nhw......... .......

y ffermwr yn .........dros y ....... ............ nhw.

Yn ddiau, ar ôl troi lecture expliquée yn ddril cyflym a thrwyadl, ni ddylai

ymarferiad ymddangosiadol anodd (ond tra syml i’r athro i’w lunio, cofier) beri dim

trafferth.

Yn fy marn i, byddai gwers o’r math hwn, ond i’r athro ddatblygu ei dechneg

cwestiynau yn gyfrwys ac yn grefftus (gan gadw’r ddwy amod gyd­ddibynnol: —

rhythm cwestiynau cyflym, a’r cwbl o fewn gafael gwybodaeth y plant), yn wir

werthfawr. Cymraes a ysgrifennodd y llyfr safonol yn Saesneg ar ddull y lecture

expliquée, a dyma’r hyn a ddywed hi, sef Annie Owen, amdano:

The belief is growing that lecture expliquée, which is the examination of any

passage read in order to understand it thoroughly and to be able to explain its

meaning, should be the core of the teaching of a foreign, or of a second

language, or indeed of the mother tongue. According to French critics it is ‘le

principal exercice de la classe’, ‘le plus important des exercices scolaires’,

and it is an art in which the French excel.

Fe ellir amau’r flaenoriaeth, efallai; ond credaf y gellid honni fod meistroli

techneg elfennol y lecture expliquée a’i harfer gyda rhwyddineb yn rhan hanfodol o

arfogaeth pob athro ail­iaith yn nosbarthiadau uchaf yr ysgol gynradd, ac ym mhob

ysgol uwchradd.

Meddai Dr Owen ymhellach:

131

Much of real value of the lecture expliquée lies in the fact that a systematic

increase of vocabulary is obtained through the help of analogy and of

association of ideas. Words are learnt first in their context, and, are thus

connected with the reality expressed by it.

Cytunwn, yn sicr; ond cymeradwywn y dull ar gyfer ymgydnabod â mwy o

lawer na geirfa, sef yn bennaf er mwyn ymgydnabod â phatrymau sylfaenol

brawddegau’r iaith, ac ar gyfer datblygu’r arfer (a’r agwedd meddwl naturiol) o

ymddiddan, o gyfnewid sgwrs drwy holi ac ateb, nes i’r lleferydd droi’n awtomatig a

mecanwaith yr iaith gwympo i’w le. Ac, yn ogystal, gobeithiwn, ar gyfer ennill

gwybodaeth drwy ddarnau darllen pynciol.

Os bydd dysgwr yn symud o gam i gam fel hyn, fel y bo un cam yn helpu’r llall,

mae’r ymdeimlad o lwyddiant yn cynyddu’n aruthrol.

Mae darllen strwythurol yn gallu cynnwys unrhyw fath o ddull cyfathrebol —

boed yn sefyllfa, yn ffwythiant, neu’n dybiant. Wedi amlinellu trefn sefydlog y model

iaith a strwythur cwrs datblygol cadarn, y mae’r technegau a’r ymarferion o fewn

Mynegiant yn gallu bod yn gwbl amrywiol. Gorau po fwyaf amrywiol, yn wir. Dyma’r

cyfle i eclectigiaeth, os mynnir.

Yr her gychwynnol yw dod o hyd i ddarnau darllen graddedig.

Am un flwyddyn euraid yn Québec cefais y profiad o eistedd yng nghefn y

dosbarth ac arsyllu ar gyfres o gyrsiau gwahanol mewn Didacteg Iaith ac Ieithyddiaeth

Gymwysedig. Yr Athro W. F. Mackey, prif awdurdod y byd mewn Didacteg Iaith ar y

pryd, a oedd wedi cynllunio’r gyfres. Rhan oedd y flwyddyn hon i mi o gyfnod

estynedig hir o ymchwil lawn­amser ym maes dysgu ail­iaith. Un o’r cyrsiau lleiaf

ymhlith y rhain oedd ‘Rédaction des textes’, sef ‘Paratoi darnau darllen mewn ail iaith’.

Heblaw’r agweddau theoretig a gyflwynid yn gefndir, asgwrn cefn y cwrs oedd cyfres

o dasgau a osodid i fyfyrwyr o fewn graddfa strwythuredig. Hynny yw, gosodid y dasg

o baratoi darn darllen ynghylch rhyw sefyllfa benodedig; a rhaid oedd i’r darn weithio’n

gyfan gwbl o fewn cylch o 500 o eiriau, sef yr eirfa ddethol gyntaf yn y cwrs, ynghyd

â’r patrymau ieithyddol cyntaf a nodid ar gyfer dechrau’r cwrs. Ar ôl cyflawni’r dasg

enbyd honno, ac wynebu math o lecture expliquée, symudid ymlaen. Bellach, gosodid

cylch penodedig o 1000 o eiriau ynghyd â hyn a hyn o batrymau ieithyddol pellach. Ac

felly ymlaen, 1500 o eiriau, 2000, ac ati.

Cwrs llym a disgybledig iawn oedd hyn. Ond teflid ganddo lif o oleuni nid yn

unig ar grefft fedrus yr ail iaith, eithr hefyd — gyda’r cyrsiau cyfredol yn yr Adran

mewn Didacteg Iaith — fe amlygid safon, dychymyg, a difrifoldeb y gwaith o efrydu

dysgu ail iaith yn Québec.

Ond yn y maes arbennig hwn, ni raid i ni yng Nghymru gywilyddio. Yn ystod fy

ngyrfa ym maes yr ail iaith, cyfarfûm â sawl cawr o Gymro. Yr oedd un ohonynt yn

gallu cyflawni’r math o waith a ddisgrifiais yn awr, a hynny gydag arddeliad a

disgleirdeb. Gosodid hyn a hyn o eiriau o fewn graddfa ddatblygol, ynghyd â hyn a hyn

o batrymau brawddegol; gofynnid i Ivor A. Owen am stori dditectif gyda phlot go iawn

a chymeriadaeth ddiddorol, am gyffro a lliw o fewn y cyfyngiadau yma; ac yna allan o’r

het, dyma’r gwningen: Mis o Wyliau, Mwg yn y Glyn, Noson ym Mis Medi, Seimon

Prys ditectif, Siop Gwalia, Stori ac Ymgom, Storïau Gwyn a Bob, Storïau Hans

Andersen, Storïau Twm Tila a Wil Llipa, Tom Sawyer, Dial Dau, Four Stories for

Welsh Learners, Ifor Bach, Lleidr Pen ffordd, a chyfres lyfrau Gwen ac Alun.

Pan adroddir hanes y grefft oruchaf o ddysgu’r Gymraeg fel ail iaith, credaf fod

y gr dawnus hwnnw’n haeddu gwir anrhydedd. Un o bencampwyr ei faes oedd ef. A

chyda llaw, nac anghofier nad Ivor A. Owen o dan ei enw’i hun yn unig a fu’n

132

cyhoeddi ei holl ddeunydd ail iaith. Fe gafwyd gwaith ganddo hefyd o dan enwau

Glenys Price, Lyn Hopcyn, a John Parri. Llond gwlad o ddyn oedd ef.

Yn niwedd y chwedegau fe gyhoeddwyd dwy gyfrol gan r arall sy’n haeddu

sylw yn y cyd­destun hwn. Ceisiwyd cyflawni’r gorchwyl hwn drwy ddarparu darnau

darllen o’r cyfeiriad gwrthwyneb. Yr oedd Ivor A. Owen yn dechrau gyda’r broblem o

hyn a hyn o eiriau, hyn a hyn o gystrawennau dethol a graddedig: roedd yr ateb, sef y

darn darllen, yn dilyn y broblem. Fel arall y paratôdd John Peters ei ddwy gyfrol ef.

Roedd y broblem yn dilyn y darllen. Dechreuai gyda chlasuron rhyddiaith neu

farddoniaeth Gymraeg, ac fe’u cyflwynai mewn modd a fyddai’n dderbyniol ac o fewn

cyrraedd dysgwyr ail­iaith aeddfed. Felly y cynhyrchid Detholiad o Ryddiaith Gymraeg

a gynhwysai ddarnau o’r Mabinogi, y Beibl, gwaith Morgan Llwyd, W. J. Gruffydd,

Thomas Parry­Williams, ac eraill, ac yna y flwyddyn wedyn Detholiad o Farddoniaeth

Gymraeg, a gynhwysai waith Dafydd ap Gwilym, Pantycelyn, amryw o feirdd yr

ugeinfed ganrif, ac eraill. Fe aeth John Peters ati hefyd i lunio dwy erthygl yn Yr Athro

i drafod ‘Dull Darllen’Michael West, ac i ddadansoddi dull y lecture expliquée.

Un diwrnod, mewn sgwrs gydag Ivor A. Owen, dyma ef yn gofyn i mi a

fyddwn yn paratoi tair dalen wahanol i athrawon i gyd­fynd â thri rhifyn olynol o’r

cylchgrawn Cymraeg a gyhoeddid ar y pryd gan Urdd Gobaith Cymru ar gyfer

ysgolion. Pwrpas y nodiadau fyddai arddangos sut y gallai Ymarfer Patrymau ar ffurf

Dril Dwyieithog gael ei weithredu yn fath o gyfalaw i ddarnau darllen Cymraeg. Hynny

yw, a ellid paratoi cynghorion ymarfer ar gyfer dosbarthiadau y gallai athrawon eu

mabwysiadu yn y dosbarth? Gobeithid y byddid, felly, yn hyfforddi’r athrawon â

thechneg barhaol — troi darn darllen (unrhyw ddarn wedyn) yn ymarferiad

strwythurol.

Dyma yn awr ddyfynnu o’r tair dalen yn eu tro: rhagflaenir pob un mewn

llythrennau italaidd gan y darn darllen. Dylid esbonio bod pob darn darllen wedi’i

gynllunio’n gynnil o fewn cyfyngiadau disgybledig (geirfa a phatrwm) mewn cwrs a

ddefnyddid ledled Cymru ar y pryd, sef ‘Cynllun Morgannwg’.

Y Ddalen Gyntaf

Rhoddaf enghraifft weddol fanwl o’r modd y mae defnyddio cylchgrawn

Cymraeg ynghyd â dril dwyieithog, gan ddangos sut y gellir cymhwyso’r paragraff

cyntaf yn ‘Casglu Calennig’. Byddaf, mewn gwirionedd, yn gorfanylu ar y paragraff, er

mwyn dangos amrywiol bosibiliadau; ac fe all athro weld, yn ôl ymateb y plant, nad oes

eisiau oedi gymaint, ac y gellir symud ymlaen yn gynt. Disgwylir bod y dosbarth eisoes

wedi darllen y darn yn gyfan mewn gwers flaenorol, gan sylwi ar y cystrawennau

newydd ac ar yr eirfa newydd. Diben y dril fydd troi’r wybodaeth ‘oddefol’yn

wybodaeth ‘weithredol’.

Dyma’r darn o’r cylchgrawn:

Pwy sydd yn y gwely? Dwalad sydd yn y gwely. Mae e’n cysgu’n braf.

Ond pwy yw hon nawr? Mam Dwalad? Ie, mam Dwalad yw hi. Mae hi’n

deffro’i mab.

‘Blwyddyn Newydd Dda,’medd y fam.

‘Blwyddyn Newydd Dda, mam,’medd Dwalad.

‘Tyrd nawr, Dwalad,’medd y fam wedyn, ‘mae dy frecwast di’n barod.’ayyb

Trefn y wers hon yw:

133

Dysgwr 1: Pwy sy yn y gwely?

Dysgwr 2: John sy yn y gwely.

Athro: Who is in the garden?

Dysgwr 3: Pwy sy yn yr ardd?

Dysgwr 4: Gwen sy yn yr ardd. ayyb

Athro: Who is John?

Dysgwr 1: Pwy yw John?

Dysgwr 2: Hwn yw John.

Athro: Who is John’s grandmother?

Dysgwr 3: Pwy yw mam­gu John?

Dysgwr 4: Hon yw mam­gu John. ayyb

Ail Ddalen

Mae pwrpas pendant a threfnus i ddewis darn sy’n rhan o gwrs cynyddol; ac fe

ychwanegir rhai adnoddau ieithyddol at wybodaeth y dysgwr ar y lefel hon drwyddo.

Hynny yw, nid stori’n unig ydyw i’r athro, er y gall ymddangos felly i’r dysgwr. Teclyn

neu offeryn ydyw i gyflawni gwaith lefel arbennig. Ac os esgeulusa’r athro ei drafod

mewn cyd­destun ieithyddol cyflawn, yna mae’n gwastraffu cyfle. Un o’i offer yw’r

darn darllen, a phriodol yw i’r athro ei ddefnyddio’n grefftus ac yn gelfydd ynghyd â’i

offer eraill.

Nid da ychwaith yw i’r gramadeg (neu’r drilio) fod yn ynys ar wahân i’r darn

darllen. Perygl dril (neu ramadeg) ar ei ben ei hun yw bod yn ddiystyr.

Meddyliwch am ddril dwyieithog. Fe all athro fynnu cael atebion gan y plant i

frawddegau fel: My aunt’s brother will have to sit in the water.[druan] My brother’s

nephew will have to run through the fields, ayyb; ac fe all y plant drwy’r cyfrwng hwn

feistroli cystrawennau tra chywrain a lledu eu geirfa gan bwyll yr un pryd. Ond er bod

y frawddeg yn uned holl bwysig, dyw brawddegau annibynnol fel y rhain ddim yn

cyfleu pwrpas nac ymdeimlad ag adnabod y wir iaith. Dyna pam y mae’r darn darllen,

sy’n ein harwain i amrywiaeth o sefyllfaoedd (rhai ohonynt y tu hwnt i gyrraedd

hwylus y dull union hyd yn oed), mor werthfawr fel man cychwyn ac fel man gorffen.

Mae dril dwyieithog in vacuo i raddau yn ymarferiad seithug: mae dril ynghlwm wrth

ddarn darllen yn ffrwythlon ac yn gorwedd ar gefndir rhesymol a phendant.

Felly, er y gall y dril hwn fanteisio ar lawer o eirfa sydd eisoes gan y plant, ac

os nad yw o anghenraid yn y darn darllen dan sylw ar y pryd, yn y bôn cynnwys y darn

darllen ei hun yw’r nod. Arwain at hynny y mae’r athro; a threfna’i adnoddau, geirfaol

a chystrawennol, gyda’r pwrpas penodol hwnnw.

Dyma’r darn darllen:

Dyma dywydd! Ar ôl gwynt a glaw ym mis Ionawr, dyma’r eira wedi

dod nawr. Mae’r wlad i gyd yn wyn — mor wyn ... wel, mor wyn â’r eira.

Dyw’r tadau a’r mamau ddim yn hoffi gweld yr eira’n dod. Fe fydd yn

rhaid iddyn nhw weithio’n galed i glirio’r eira, a dydyn nhw ddim yn hoffi

cerdded yn yr eira.

Ond mae’n dda gan y plant weld yr eira, a nawr maen nhw’n gwneud

dynion eira mawr, tew. Yfory, fe fyddan nhw’n cael sbort yn sglefrio i lawr y

bryniau, ac yn taflu peli eira at ei gilydd ac at y dynion eira.

Yn y bore mae’r plant yn dod allan i chwarae, ond ble mae’r dynion

eira? Maen nhw wedi diflannu! Dim ond eu hetiau nhw sydd ar ôl — eu hetiau

nhw mor ddu â’r glo ar yr eira gwyn.

135

‘Mae rhywun wedi bod yma yn y nos,’medd Morgan y mul. ‘Mae

lleidr wedi bod yma, ac mae e wedi dwyn y dynion eira.’

‘Hylo! Mae hi’n dechrau bwrw eira unwaith eto,’medd Ianto.

‘Mae’n rhaid inni wneud dynion eira newydd,’medd Dai.

Mae’r plant yn gwneud dynion eira newydd.

‘Fydd y dynion eira yma ddim yn diflannu heno,’medd Morgan y mul.

‘O? Sut hynny?’mae Dai a Ianto’n gofyn.

‘Bydda i’n dal y lleidr heno,’medd Morgan. ‘Bydda i’n dodi eira dros

(f)y mhen a dros (f)y nghorff, a bydda i mor wyn ac mor dew â dyn eira

wedyn. ‘Fydd y lleidr ddim yn gwybod pwy dwi, a bydda i’n neidio arno fe.’

Chwerthin mae’r plant i gyd.

Mae hi’n nos. Mae’r wlad mor dawel â’r bedd. Mae Morgan yn sefyll

yn y cae. Mae e’n edrych fel dyn eira a het ar ei ben.

‘Bydd yn ddrwg gan y lleidr ddod yma heno,’medd Morgan. ‘Bydd yn

ddrwg ...yn ddrwg ... sssssss!’

Hei! Mae Morgan yn cysgu!

Yn y bore, mae’r plant yn rhedeg i’r cae. Mae Morgan yn deffro. Ble

mae’r dynion eira? Maen nhw wedi diflannu, a dim ond eu hetiau nhw sy ar

ôl — yn ddu ar yr eira gwyn. Mae Morgan yn gweld ei het ei hun ar yr eira.

‘Waw! Dwi wedi diflannu hefyd!’medd Morgan ac i ffwrdd ag e ar

garlam. O, mae Morgan yn dwp — mor dwp â ... Mor dwp â beth, dwedwch.

Yr hyn yr hoffwn dynnu sylw ato y tro hwn wrth lunio’r dril yw Tyfu

Brawddegau. Yn yr ymarferiad cyntaf, rydym ni’n adolygu amser dyfodol ‘bod’. Yn y

darn fe gawn gymal fel hyn: ‘fe fyddan nhw’n cael sbort yn sglefrio i lawr y bryniau’.

Yn awr, ped anelid brawddeg fel hyn at ddysgwr, ‘they’ll have fun sliding down the

hills’, diau mai cloffi a wnâi: efallai y deuai i ben yn araf iawn, ond sioncrwydd

awtomatig yw hanfod dril dwyieithog. Felly, pan ddeuwn at frawddegau hir fel hyn,

rhaid arwain atynt fesul cam. Amlinelliad yw’r hyn a ganlyn — ac amlinelliad yn unig

— o’r math o ddril a awgrymir.

Dril 1 (Adolygu amser dyfodol ‘bod’)

They’re having snow. They’re having rain. They’re having wind. They’re

having fun. (ayyb) They will have snow. They’ll have rain. They’ll have wind

They’ll have fun. (ayyb) They’ll have fun in the snow. They’ll have fun on the

hill. On the hills. (ayyb) They’ll have fun running. They’ll have fun playing.

They’ll have fun working. (ayyb) They’ll have fun running down the hill.

They’ll have fun walking down the hill. They’ll have fun sliding down the hill.

Down the hills.

They’ll be coming. They’ll be working. They’ll be sliding. They’ll be throwing.

They’ll be throwing snow. They’ll be throwing a ball. They’ll be throwing a snow ball.

They’ll be throwing snow balls. They’ll be throwing snowballs at the men. They’ll be

throwing snowballs at the snowman. At the snowmen. At each other, ayyb

Yn yr ymarferiad uchod fe lynwyd yn dynn wrth yr un person drwodd, sef y trydydd

person lluosog. Cadwyd y cysondeb hwn er mwyn rhyddhau llithrigrwydd yr atebion.

Ond datblygiad pellach yw amrywio’r person, er mai da yw peidio ag amrywio’n

ormodol ar y cyntaf er mwyn ennill a chadw cyflymder symud yng ngwaith y wers.

Dril 2 (Adolygu amser dyfodol ‘bod’+ ‘rhaid’)

136

I must go. We must go. We must see a man. A snowman. We must make a

snowman. Snowmen. We must make new snowmen. We will have to make a

snowman. ayyb

They will have to go. They will have to go quickly. They will have to

work. They’ll have to work hard. They will have to clear the snow. They will

have to go to clear the snow. They will have to work hard to clear the snow.

ayyb

Dril 3 (Adolygu: ‘mae’n dda — ddrwg — gen i’)

I’m glad to come. I’m glad to run. I’m glad to see the man. He’s glad to see

the children. They’re glad to see the snow. The children are glad to see the

snow. ayyb

I’m sorry to come. I’m sorry to come tonight. I’m sorry to see the man.

He’s sorry to see the children tonight. The thief is sorry to see the children.

The thief is sorry to come. The thief will be sorry to come here tonight. ayyb

Dril 4 (Pwnc newydd: ‘mor ... â ...’)

As white as (the) snow. As white as the snowman. As black as (the) coal. The

country is white. The country is as white as (the) snow. The country is black.

The country’s as black as (the) coal. As fat as the snowman. I am as fat ac the

snowman. I shall be as fat as the snowman. I shall be as black as (the) coal.

Their hats are as black as (the) coal. Their hats are as white as (the) snow.

Their hats are as black as (the) coal on the white snow. As silent as the grave.

The country is as silent as the grave. Morgan is as silent as the grave. Morgan

will be as silent as the grave. As stupid as Morgan. ayyb

Yn yr amlinelliad o’r pedwar dril uchod, fe welir ein bod wedi taclo’n

uniongyrchol y prif bwyntiau ieithyddol dan sylw; a dyma’r math o ddriliau sy’n eu

hwynebu hwy’n drefnus. Diau na raid rhybuddio y byddai gorddefnyddio’r driliau hyn

neu eu defnyddio’n ddi­fwlch rhibidirês yn lladd eu gwerth a’u diben.

Ond wedi trafod pob un o’r pwyntiau hyn yn annibynnol ac yn benodol fel y

gwnaethpwyd uchod, fe ellir dychwelyd at y darn darllen o’r newydd gyda’r dril

dwyieithog a gwau’r pwyntiau hyn drwy’i gilydd yn blith draphlith — a hefyd (a rhaid

cofio fod mwy ym mhob darn darllen nag ychydig o bwyntiau gramadegol, a’i fod wedi

ei adeiladu ar sail holl adnoddau ieithyddol y plentyn hyd hynny) fe ellir cyfuno’r

wybodaeth ddiweddar hon â hen wybodaeth sy eisoes gan y dysgwr. Ac fe ddylai’r hen

wybodaeth helpu meithrin techneg cyfieithu­ar­y­pryd sy wedi dod yn rhan mor

naturiol o’r Gymru gyfoes.

Rhoddir yma ychydig o’r dril amrywiol, amlochrog, terfynol hwn, ar sail y stori

am Forgan:

Dril 5 (Cyfuno gwybodaeth)

Here’s weather! Here’s rain! Here’s wind! Here’s the snow. Here’s the snow in

January. Here’s the snow coming. Here’s the snow coming after the wind.

After the wind, here’s the snow coming. After the rain, here’s the snow coming

now.

(Ni chredaf y dylid ceisio anelu at fwy o hyd na hyn mewn cyfieithu cyflym. Mae holl

hanfodion y gystrawen a geisir yn y dril uchod.)

The country’s white. All the country’s white. The country’s white in January.

All the country’s as white as snow. I like the snow. I like to see the snow. The

man likes to see the snow. The man doesn’t like to see the snow. The fathers

don’t like to see the snow. The fathers and mothers don’t like to see the snow.

The snow’s coming. ayyb

137

Trydedd Ddalen

Nid wyf am ailadrodd y math o beth a ddwedais eisoes, eithr ceisio sylwi ar yr

amrywiaeth, ar y mathau amrywiol o ddriliau dwyieithog sy’n bosibl, heb ymadael yn

ormodol chwaith â phrif sianel y gwaith (a chredaf mai gweddus yw i athro lynu wrth

un dull canolog yn bennaf, er iddo wau llond byd o amrywiadau diddorol ar hyd

ymylon y dull canolog hwnnw).

Ym mhob un o’r ymarferion canlynol y mae yna ddwy ran. Yn y rhan gyntaf (a)

o bob un, fe roddir dril dwyieithog arferol. Ond yn yr ail ran (b) fe ofynnir yn yr un

modd am y cyfieithu syml hwn ar ran yr atebwr cyntaf; ac yna, ar ben hynny, gan ail

atebwr fe ddisgwylir ateb ychwanegol, heb iddo oedi i gael ‘ciw’newydd neu

gwestiwn newydd gan yr athro. A gaf esbonio fy mhwynt yn well fel hyn? Fe gytunai

pawb, mae’n debyg, mai da fyddai i athro iaith pe bai’n gallu cael dau ateb gan y

dosbarth ar gyfer pob un cwestiwn y bydd ef yn ei ofyn: fe fyddai’n rhaid iddo yntau

siarad yn llai, a gorau po fwyaf o’r iaith a gynhyrchir gan y dosbarth ei hun. Ymatebion

y dysgwyr sy’n bwysig, a nod yr athro yw cynyddu amlder yr ymatebion hyn nes bod

pob un dysgwr yn y dosbarth wedi gweithredu ar lafar amryw weithiau yn ystod yr un

wers. Dyfais i sicrhau hynny yw mynnu dau ateb ar gyfer pob un cwestiwn.

Dyma enghraifft seml, heb ei chysylltu â’r gwaith arbennig dan sylw ar y

foment. Y cyfarwyddyd a roddir yw: ‘Cyfieithu, yna troi i’r perffaith’.

Athro: The boy’s walking.

Dysgwr 1: Mae’r bachgen yn cerdded.

Dysgwr 2: Mae’r bachgen wedi cerdded.

Athro: The man’s running.

Dysgwr 3: Mae’r dyn yn rhedeg.

Dysgwr 4: Mae’r dyn wedi rhedeg. ayyb

Dyna’r patrymau felly, a gwelir bod modd cael driliau syml (a chyflym) o’r

math hwn yn reit ddidrafferth. Cymerwn yn awr ein bod wedi darllen gyda’n gilydd y

darn ar gyfer y bedwaredd flwyddyn, ‘Y Ffidil’, a fu yng nghylchgrawn yr Urdd.

Gwelir mai adolygu yw prif bwrpas gramadegol y stori: amser gorffennol (cryno),

cystrawen cyn a wedi, faint o a paham a’r radd eithaf. Yr eirfa yw geirfa Eisteddfod; a

da fyddai nodi’r pwyntiau hyn ar y bwrdd du yn eu tro.

’Roedd Dydd Gyl Dewi wedi dod — dydd yr Eisteddfod, a phawb yn meddwl

pwy oedd yn mynd i ennill y gwobrau. ’Roedd rhagbrofion wedi bod, a nawr

’roedd y tri gorau ym mhob cystadleuaeth yn mynd i’r llwyfan.

Cyn i John fynd i’r ysgol y bore hwnnw, aeth i’r parlwr i ymarfer ar y ffidil.

‘Paham ’rwyt ti’n ymarfer nawr?’gofynnodd ei fam iddo fe.

‘Oherwydd mae’n rhaid imi ennill y wobr gyntaf,’atebodd John.

‘Faint o blant sy’n cystadlu?’

’Roedd saith yn cystadlu, ond dyn ni wedi cael y rhagbrofion, a dim ond tri

ohonon ni sy’n mynd i’r llwyfan.’

‘Ac ’rwyt ti’n un ohonyn nhw, John?’

‘Sir iawn, mam.’

Chwarae teg i John, ’roedd e’n chwaraewr da iawn — y chwaraewr gorau yn

yr ysgol.

’Roedd plant yr ysgol i gyd yn eistedd yn y neuadd ac ’roedd yr eisteddfod yn

mynd ymlaen yn ardderchog — yr adrodd, a’r canu, y dawnsio a’r actio. Cyn

hir, dyma’r arweinydd yn dweud, —

138

‘Wedi inni gael cystadleuaeth y band taro, yr eitem nesaf fydd yr unawd ar y

ffidil. Dyma’r tri sy’n dod i’r llwyfan — Ifan, John a Glyn. Dewch i’r

ystafell fach wrth ochr y llwyfan yma ar unwaith.

Aeth John a’r ddau gystadleuydd arall i’r ystafell fach. ’Roedd piano yno, a

dyma bob un o’r tri’n tiwnio’i ffidil, a’i dodi hi wedyn ar y bwrdd i aros eu

tro.

‘O!’meddai John yn sydyn, ‘dwi wedi anghofio’r miwsig. Mae’r copi yn fy

mag.’

Ac i ffwrdd ag e i nôl ei fiwsig. Ar unwaith, rhedodd Glyn at ffidil John a

throi’r pegiau. Paham ’roedd e’n chwarae tric fel hyn? Oherwydd fe oedd y

chwaraewr gwaethaf yn y gystadleuaeth, ac ’roedd e’n gwybod hynny hefyd.

Ifan oedd y cyntaf ar y llwyfan. Canodd y ffidil yn dda iawn. John oedd y

nesaf. Cydiodd e mewn ffidil ac aeth i’r llwyfan. Dechreuodd e ganu’r ffidil.

‘Be ... beth sy’n bod?’meddai Glyn yn syn. ’Roedd John yn canu’r ffidil yn

ardderchog.

Glyn oedd y nesaf wedyn. Dechreuodd e ganu ei ffidil. O, y sn! ’Roedd ei

ffidil e allan o diwn!

‘Stopiwch! Stopiwch!’meddai’r beirniad, ac ’roedd yn rhaid i Glyn stopio.

Chafodd e ddim gwobr. Naddo, chafodd e ddim gwobr.

Daeth Glyn yn ôl i’r ystafell a sn chwerthin yn ei glustiau. Aeth e’n syth at

John.

‘Fe gymeraist ti’r ffidil rong,’meddai fe wrth John.

‘Wel, do,’atebodd John. ‘Mi drois i wrth fynd allan o’r ystafell yma, ac mi

welais i di’n troi pegiau fy ffidil i, ac wedyn, mi gymerais i dy ffidil di!’

John oedd y buddugol. Fe gafodd y wobr gyntaf.

Fe ddechreuwn drwy dynnu sylw at yr amser gorffennol, a thrwy nodi rhai o

ffurfiau ‘gofyn, ateb, rhedeg, canu, cydio, dechrau, cymryd, troi, gweld’. Peidiwn â

symud yn rhy gyflym rhag llethu’r plant, a pheidiwn ag ofni troi yn yr unfan — dim ond

i’r troi hwnnw amrywio’i ffurfiau, ac ymddangos, felly, fel pe bai’n symud ymlaen.

DRIL 1: (Amser Gorffennol) (a) Cyfieithu syml

She’s asking. His mother’s asking. His mother’s asking him. He’s answering.

John’s answering. Glyn’s running. Glyn’s running to the harp. Glyn’s running

to the violin. He’s playing the harp. He’s playing the violin. He’s taking hold of

a harp. He’s taking hold of the harp. He’s taking hold of a violin. He’s playing

a harp. He’s beginning to play the violin. He sees the violin. I see the violin. He

takes the violin. I take the violin. (Gadawn ‘mynd’a ‘cael’am y tro)

(b) Cyfieithu, yna troi i’r gorffennol

(Mae’r athro’n gofyn yr un brawddegau ag a roddwyd yn (a) uchod; ond fe

gaiff ddau ateb bob tro, fel a ganlyn)

Athro: She’s asking.

Dysgwr 1: Mae hi’n gofyn.

Dysgwr 2: Gofynnodd hi.

Athro: His mother’s asking. ayyb

DRIL 2: (Faint o) (a) Cyfieithu syml

139

How many children are here? How many children are going? How many

children are competing? How many people are competing? How many schools

are competing? How many children are going to the platform? How many

prizes are there? How many prizes are on the platform? How many players are

here? How many players are in the school? How many players are in the hall?

How many players are dancing? ayyb

(b) Cyfieithu, yna rhoi unrhyw ateb rhesymol posibl

(Mae’r athro’n gofyn yn yr un brawddegau ag a roddwyd yn (a) uchod; ond fe

gaiff ddau ateb bob tro, fel a ganlyn)

Athro:

Dysgwr 1:

Dysgwr 2:

How many children are here?

Faint o blant sy yma?

Mae tri yma. ayyb

DRIL 3: (Paham) (a) Cyfieithu syml

Why is John practising? Why is Glyn practising? Why is Ifan practising? Why is

he going to the Eisteddfod? Why was he going to the Eisteddfod? Why was

Glyn playing a trick? Why was he playing a trick? Why were the children in the

hall? Why is John going out? Why was John going out? Why was Glyn

surprised? Why was the adjudicator surprised? Why was John laughing?

b) Cyfieithu, yna rhoi ateb rhesymol ar sail y darn darllen, yna cyfuno’r

cwestiwn a’r ateb

Athro: Why is John practising?

Dysgwr 1: Pam mae John yn ymarfer?

Dysgwr 2: Mae e’n mynd i’r Eisteddfod.

Dysgwr 3: Mae John yn ymarfer oherwydd mae e’n mynd i’r

Eisteddfod.

Athro: Why is Glyn practising?

Dysgwr 4: Pam mae Glyn yn ymarfer?

Dysgwr 5: Mae e’n mynd i gystadlu.

Dysgwr 6: Mae Glyn yn ymarfer oherwydd mae e’n mynd i

gystadlu. ayyb

Gwelir yn yr ymarfer yna fod yr athro’n cyfarwyddo’r plant i roi tri ateb iddo ar

gyfer pob cwestiwn o’i eiddo ef. Hynny a gynghorir ar gyfer ymarfer â chymalau

isradd. Mae’n arwain atynt yn bwyllog, ac felly’n diogelu cyflymder y llefaru. Gwelir,

felly, sut y byddwn yn trafod cyn ac wedi nawr.

DRIL 4: (cyn) (a) Cyfieithu syml

Before I asked. Before he answered. Before you ran. Before she sang. Before

we began. Before I caught hold of. Before they returned. Before you saw.

Before we took. ayyb

(cyn, wedi) (b) Cyfieithu, a throi ‘cyn’yn ‘ar ôl’

Enghreifftiau megis uchod.

Athro: Before I asked.

Dysgwr 1: Cyn i mi ofyn.

Dysgwr 2: Ar ôl i mi ofyn.

DRIL 5: (Cyn) (a) Cyfieithu syml

140

He went to school. He went to practise. He heard the percussion band. He

heard the violin. He went to the preliminary tests. He went to the Eisteddfod.

The children sat in the hall. The competitors sat on the platform. Ifan came to

the platform. John came to the platform. Ifan took hold of a violin. John took

hold of a violin. Ifan played the violin. John played the violin. John played the

harp. Glyn played the harp. Glyn came back. John came back. Glyn came back

to the room. John came back to the room.

(b) Cyfieithu fesul pâr (fel y nodwyd uchod), Yna dodi ‘cyn’o flaen y cymal

cyntaf

Athro: He went to school.

Dysgwr 1: Aeth e i’r ysgol.

Athro: He went to practise.

Dysgwr 2: Aeth e i ymarfer.

Dysgwr 3: Cyn iddo fynd i’r ysgol, aeth e i ymarfer. ayyb

Athro: He heard the percussion band. ayyb

DRIL 6: (Wedi)

Gellid ailadrodd Dril 5 (b), ond yn lle cyfuno’r cymalau drwy ddodi ‘cyn’o

flaen y cymal cyntaf, doder ‘wedi’yno.

Athro: He heard the percussion band.

Dysgwr 1: Clywodd e’r band taro.

Athro: He heard the violin.

Dysgwr 2: Clywodd e’r ffidil.

Dysgwr 3: Wedi iddo glywed y band taro, clywodd e’r ffidil. ayyb

Hoffwn ddibennu’r rhan yma ar ddril dwyieithog mewn lecture expliquée drwy

ddyfynnu’r hyn a ddywedodd dau awdurdod Americanaidd go enwog, sy’n cefnogi’r

egwyddor ieithyddol sy’n garn i’r dull hwn. Dyma’r hyn a ddywedodd Politzer:

‘Practically all mistakes made by a learner of a foreign language are due to one

simple and comprehensible failure: the learner mistakenly equates building stones of

the foreign system with individual building stones of his system.’

Dywedodd Brooks (wrth sôn am geisio adeiladu ‘coordinate system’i’r ail iaith):

‘English is not to be used by the learner as a speaker, though it is occasionally

useful to him as a hearer, both to identify areas of meaning before sounds in the new

language are given and to compare and differentiate patterns in the two languages.

The essential point is that the learner never speaks in English.’Mae dril dwyieithog

yn cyferbynnu’n hwylus iawn nodweddion y ddwy iaith fel hyn; ac mae clymu’r dril

wrth y darn darllen yn un o’r ffyrdd mwyaf hwylus o’i wneud yn ystyrlon ac o’i

fywiogi mewn cyd­destun naturiol.

Ar ôl ymarfer â throi darn darllen yn holi­ac­ateb, dylid arwain ymlaen wedyn

at holi­ac­ateb mwy rhydd. Hynny yw, dylai’r darn cyfan gael ei drafod yn fwy

amlochrog yn hytrach na fesul tamaid. A thrwy hynny gellid crwydro’n llai olynol o

gwmpas y darn — heb edrych arno — i holi cwestiynau mwy ‘annisgwyl’fel petai.

Sylwer, felly, fod yna dair gwedd ar y cyflwyno hwn wrth droi’r darn darllen yn

ymarferiad: (i) Cyfieithu cryno mewn clystyrau patrymog;

(ii) Troi gosodiadau’n gwestiynau;

(iii) Ymddiddan rhydd.

Cwestiynau

141

Mae’r cwestiwn yn un o’r arfau mwyaf defnyddiol sy gan athro. Mae’n mynnu

ymateb. Mae’n mynnu i’r dysgwr ddod yn weithredol. Mae’n rhan hefyd o feddylwaith

plant, yn fyd y maen nhw’n byw ynddo bob munud, arferiad sy’n perthyn yn neilltuol

i’w gradd o ddatblygiad. Ar gyfer ymddiddan rhydd, mae’n hanfodol fel prociwr; ac ar

gyfer ymarferiad ffurfiol, megis lecture expliquée, ni ellir ei hepgor.

Bid sir, mae yna wendidau neu beryglon yn y dechneg o gwestiyna. Rhan

hanfodol o grefft yr athro iaith yw mynnu cael cwestiynau yn ôl o du’r dysgwr yn

ogystal â chael atebion ganddo. Ond yn y gorffennol, yng Nghymru, nid dyna’r prif

ddiffyg fu’n llesteirio beth ar ddysgu ail iaith, ond y cymysgedd yn y drefn o gyflwyno

cwestiynau. Hynny yw, nid oedd dim olyniaeth resymol na thwf cyson o ran patrwm

wrth symud o gwestiwn i gwestiwn. Fe geid cyfres ddatblygol o gwestiynau fel hyn

mewn un cwrs nodweddiadol (sy’n honni ei fod yn raddedig):

1. Beth yw hwn?

2. Ai llyfr yw ef?

3. Ble mae’r llyfr?

4. A oes llyfr ar y ddesg?

5. A ydyw Wil yn darllen?

6. Beth mae Gwen yn ei wneud?

A’r rheini i gyd yn ystod y symudiad cyntaf o ddysgu.

Yn awr, er bod 1 a 2 yn perthyn i’w gilydd, nid ydynt yn perthyn yn agos i’r un

o’r lleill, nac yn arwain atynt yn naturiol. Pâr arall sydd fel ynys yw 4 a 5. Yna, mae’r

cwestiwn olaf yn rhyfedd o anodd ar gyfer dysgwr cynnar ac yn dechrau llwybr cwbl

arbennig ym myd cwestiyna.

Wrth gwrs, allwn ni ddim gwahanu datblygiad cwestiynau oddi wrth

ddatblygiad y patrymau ieithyddol yn gyffredinol. Ond gawn ni gynnig, ar gyfer

beirniadaeth, drefn mewn datblygu cwestiynau, a sylwi sut mae’n tyfu o’r naill i’r llall:

A. Ble mae gwely? (datblygiad o ‘Mae gwely yma’).

Ble mae’r gwely? (datblygiad o ‘Mae’r gwely yma’).

B. Oes gwely yma? (datblygiad o ‘Mae gwely yma’).

Ydy’r gwely yma? (datblygiad o ‘Mae’r gwely yma’).

C. Ydy e yma? (datblygiad o ‘Ydy’r gwely yma’).

Ydw i yma? (datblygiad o’r blaenorol).

Ydych chi yma?

Ydyn ni yma?

Ydyn nhw yma?

Ch. (Datblygir bellach ran ola’r cwestiynau hyn yn ôl y drefn briodol i osodiadau hynny

yw, nid ymyrrir â’r cwestiynair ei hun):

e.e. Ydy e ar y bocs? Ydw i’n eistedd? Ydych chi’n mynd drwy’r ardd? Ydyn

ni’n cario’r gath fach? Ydyn nhw’n lân?

D. Sut mae’r dyn? (ar sail ‘Ble mae’r dyn?’)

Sut ych chi?

Sut mae e’n dod? Beth o’r gloch mae e’n dod?

Dd. Ydy’r ceffyl wedi rhedeg yn bell?

Oes llyfr gan y fenyw?

(Amrywiadau heb effeithio ffurf y cwestiynair)

E. Oeddwn i?

142

Oedd e? ayyb (amser newydd sy’n dilyn yr un patrwm â’r presennol: Ydw i?

Ydy e? ayyb)

F. Beth ydy hwn? (datblygiad o’r frawddeg bwysleisiol ‘Gwilym ydy hwn’)

Pwy ydy honna?

P’un ydy’r prifathro?

Faint ydy hwn? (gweler Gwers 15 yn y cwrs Cymraeg i Oedolion)

Ff. Pwy sy yma? (Cyferbynner â’r un blaenorol: eto’n ddatblygiad o’r frawddeg

bwysleisiol ‘Gwilym sy yma’)

Beth sy’n bod?

Faint o lyfrau sy ganddo fe?

Fe ellid para yn y modd hwn i ddangos posibilrwydd rhesymegol ac ieithyddol

symud yn araf o gwestiwn i gwestiwn. Dosberthir y cwestiynau uchod mewn carfanau;

ac yn wir, wrth gynllunio ymarferion ar sail cwestiynau (megis mewn lecture

expliquée), nid drwg o beth yw cadw’r teipiau gwahanol o gwestiynau ar wahân i’w

gilydd, fel y bydd yr ymdeimlad o wasanaeth yn tyfu’n eglur ym meddwl y dysgwr. Yr

wyf yn sicr fod y broses o ddysgu’n cael ei chyflymu os yw’r camre datblygiad yn glir,

nid yn unig ym meddwl y dysgwr, ond hefyd ym meddwl yr athro. Fe ellid dadlau fod y

busnes yma o raddio yn fater technegol, yn fater academaidd arbenigol, ayyb Ond

credaf fod diogi a chulni meddyliol yn gyfrifol fod cymaint o’n dysgu ail­iaith yn y

gorffennol wedi bod yn gymysglyd ac yn flêr. Dylai athro ymwybod â thyfiant trefnus a

rhesymol y defnyddiau y mae’n eu cyflwyno i’r dysgwr. Dylai athro deimlo hyder yn y

ffaith fod ei gwrs yn symud ymlaen ar hyd llwybr wedi ei gynllunio’n unionsyth, ac nid

ar hyd llwybr wedi ei guddio gan ddrysni anarchaidd. Mae’n nerth ac yn iechyd i athro

gael rhyw syniad o’r modd mae’r iaith yn tyfu dan ei ddwylo ac ym meddyliau’i

ddisgyblion, a gwybod fod y tyfiant hwnnw’n gadarn, yn bendant, ac yn ddiogel.

Yn awr, yr hyn yr wyf i am ei awgrymu yw hyn, mai pwysig yw i athro fod

ganddo raglen cwestiyna — wrth ei ochr, os oes eisiau. Pan fydd yn ymgymryd â darn

darllen, dweder, fe all ei daclo ar sail y rhaglen yma. Wedi’r darllen — a’r deall —

dylid dihysbyddu’r darn yn ôl cynllun pendant o gwestiynau; er enghraifft, troi cynifer

o’r brawddegau ag sy’n bosib i ffurf carfan A uchod, yna eu troi nhw i ffurf carfan B,

ayyb Godro’r darn i’r gwaelod yn ôl patrwm o gwestiyna sy’n glir ym meddwl yr

athro, ac a ddaw’n glir o ganlyniad ym meddwl y dysgwyr.

Cyn cloi hyn o sylwadau, dylwn ychwanegu bod yr adran hon yn ein trafodaeth

yn awgrymu un o anghenion mawr ail iaith y Cwricwlwm Cenedlaethol. Cynlluniwyd y

cwricwlwm pan oedd crefft dysgu ail­iaith yn dechrau mynd ar drai, yn bennaf

oherwydd diffyg cefndir ieithyddol arweinwyr y mudiad yng Nghymru. Collwyd peth o

gynnydd y chwedegau. Dengys gwaith Ivor A. Owen, Dan Lynn James, ac eraill

gymaint o angen a oedd ar y Cwricwlwm am eirfa raddedig, yn ogystal â graddfa gytûn

o batrymau. Ar sail pethau felly, gellid yn hwylus ac yn broffesiynol ddarparu

defnyddiau graddedig sefyllfaol gwych hefyd — ond sefyllfaol strwythuredig felly

megis defnyddiau cryno­ddisg, C. D. ROM, cyfrifiaduron, ffilmiau / fideos / D. V. D, a

llyfrau ail­iaith proffesiynol.

(Ymhellach ymlaen yn y gyfrol hon, cyflwynaf ‘grid cwestiyna’cyflawn ar gyfer y

Gymraeg.)

(v) Lluniau ac Ymarfer â Phatrymau

Yn America am gyfnod yr hyn a brofwyd yn chwithig, fel y gwelsom, gydag

Ymarfer â Phatrymau oedd (er ei fod yn mynnu mwy o lawer nag ailadrodd moel, drwy

ymarferion gwahanol o ddisodli a chyfnewid) ei fod mewn gwirionedd yn dibynnu ar

143

drafod safleoedd geiriau, a pherthnasoedd yr allanolion, heb fod yr ystyr ei hun bob

amser yn gwbl glir o flaen meddwl y dysgwr. Un feirniadaeth ar ieithyddiaeth yn

gyffredinol yw, fel y gwelsom, ei bod yn tueddu i anwybyddu ystyr, a rhoi’r holl sylw i

arwyddion haniaethol. Yn yr un modd, mae’r dechneg dra Americanaidd hon o ymarfer

â phatrymau yn drilio patrymau heb hidio ddigon a yw’r dysgwyr yn deall bob cam y

llinynnau geirfaol a drafodant.

Dychwelwn felly at ystyr. Nid dril dwyieithog Dodson yw’r unig ffordd o

ymarfer â phatrymau’n ystyrlon. Fe ellid hefyd ddefnyddio offer gweledol — yn

arbennig lluniau, i gyfateb i’r cystrawennau a ddrilir.

Rhaid i mi gyfaddef fy mod eisoes wedi darllen flynyddoedd lawer yn ôl heb

fod yn ddigon ystyriol erthygl gan Buell, ‘Picture Exercises for Oral Drill of Structure

Patterns’ (Language Learning, III, 14­33), ac un arall gan Burrows (English

Language Teaching, XII, 138­150) ar ‘Reading Cards and Substitution Tables’: bûm

hefyd yn efrydu’r llyfrau o ymarferion â phatrymau ar gyfer Saesneg fel ail iaith a

baratowyd gan Fries a Lado. Ond edrych heb weld oedd hyn. Ni chafodd y rhain yr

effaith arnaf a ddylent; ac ni welais, yn y cnawd megis, y gwersi ar waith a gyfunai

luniau ac ymarfer â phatrymau. Theori oedd y cwbl, heb ddod yn fyw. Cydnabyddwn,

wrth gwrs, mai eithaf peth fyddai llun ynghyd ag ymarfer, ond ni theimlwn rym ei

gyflymder sy’n rhagori hyd yn oed ar y Dull Dwyieithog, nac eglurder ei argraff.

Mae profi dull ar waith yn gweddnewid llawer o syniadau am ei werth. Gwn

fod hyn yn wir am amryw yng Nghymru sydd wedi arbrofi gyda’r dull dwyieithog. Sut

bynnag, fe fûm innau’n defnyddio ymarfer â phatrymau ynghyd â lluniau mewn gwlad

arall ac mewn iaith arall; a gweddus i mi gydnabod imi edmygu rhagoriaethau’r dull yn

fawr. Cwrs a argraffwyd yn breifat oedd gennyf, gan Brifysgol Newfoundland ar gyfer

ei myfyrwyr ei hun: fe’i paratowyd gan J. Hewson. Dilyn a wna, yn weddol agos, y

gwaith a gyhoeddwyd gan Fries a Lado ym Michigan.

Hoffwn ddisgrifio a dyfynnu amryw ymarferion ohono, gan obeithio y bydd gan

y darllenwyr fwy o ddychymyg nag a oedd gennyf i, pan gyfarfûm gyntaf â theori’r dull

hwn. Gwn y gellir ei gymhwyso’n gwbl ddidrafferth i’w ddefnyddio ynghyd â

fflachgardiau lluniol syml.

Rhennir y cwrs yn ugain o wersi ac ymhob gwers y mae yna ugain ymarferiad.

Ochr yn ochr â hyn ceir deuddeg siart ac ymhob siart ddwsin o luniau.

Cymeraf bedwar o’r siartiau hyn a dangos y math o ymarferion a luniwyd ar eu

cyfer:

SIART I: Gwrthrychau + pris (yn ôl maint) (mae’r pris arnynt). e.e. menyn, potelaid o

win, rholyn o garped, sosban, cylchgrawn, petrol, llaeth, glo.

Gwelir fod defnyddiau geirfaol o dri maes ymhob un o’r rhain.

Ymarfer 1: Ailadrodd ar ôl yr athro wrth iddo bwyntio: ‘tair punt y cilogram’, hyn a

hyn y botel, hyn a hyn y metr. ayyb

Ymarfer 2: Ailadrodd brawddegau: ‘Mae menyn yn costi hyn a hyn y cilogram. Mae’r

gwin yn costi hyn a hyn y botel.’Ayyb

Ymarfer 3: Y tro hwn rhydd yr athro y patrwm ar gyfer y tair enghraifft gyntaf, ac

mae’r dysgwyr yn gorffen y lleill yn ôl yr un patrwm. Dyma’r patrwm: ‘Mae hyn yn

costi tair punt y cilogram.’ayyb

Ymarfer 4: Yr un faint o gyfarwyddyd: ‘Yng Nghymru dch chi’n talu tair punt y

cilogram am fenyn.’ayyb

Ymarfer 5: ‘Dch chi’n prynu menyn am dair punt y cilogram.’ayyb

Hynny yw, mae’r darlun yn gweithredu fel ciw bob tro. Mae’r athro’n dangos y

llun a’r dysgwyr yn ailffurfio’r frawddeg sylfaenol yn ôl cynnwys y llun. Yr unig fwlch

144

hwng pob brawddeg a leferir gan y dysgwyr (ar ôl sefydlu patrwm y gystrawen a

ddrilir yn ystod yr ymarferiad) yw’r athro’n pwyntio at lun newydd. Yn awr, yr hyn

sy’n ddiddorol i mi yn y dull hwn yw bod pob cyfres o luniau wedi ei chynllunio o

gwmpas un sefyllfa sylfaenol. Mae yna thema gyffredin ymhob ymarferiad; a gorfodir

i’r dysgwyr feddwl am ystyr y brawddegau a lefarant, gan y lluniau y cyfeirir atynt.

Gadewir Siart I ar ôl Ymarfer 5, Gwers 1. Ond dychwelir ato drachefn ar

ddechrau Gwers 2:

Ymarfer 1: ‘Os byddwch chi’n talu tair punt y cilogram am fenyn, fydd hynny ddim yn

ddrud.’ ayyb

Ymarfer 2: ‘Eithaf rhad yw tair punt y cilogram.’ ayyb

Ymarfer 3: ‘Dwi ddim am brynu menyn am dair punt y cilogram.’ ayyb

Ymarfer 4: ‘Talu tair punt y cilogram am fenyn, arswyd y byd!’ayyb

Ymarfer 5: ‘Ydy hyn yn ddrud? Wel nac ydy, dyw e ddim yn costio ond tair punt y

cilogram.’ayyb

SIART II: Rhannau’r corff. e.e. gên, gwddwg, llygaid, clust, llaw, gwallt, ysgwyddau,

penelin, penliniau, arddwrn, talcen, wyneb.

Gwers 1:

Ymarfer 7: Ailadrodd: yr ên , y gwddwg, y llygaid, y glust, ayyb

Ymarfer 8: Ailadrodd: (f)y ngên, (f)y ngwddwg, ayyb

Ymarfer 9: Parhau ar ôl rhoi tair enghraifft: gên hardd, gwddwg hardd, ayyb

Ymarfer 10: Datblygiad pwysig. Rhydd yr athro ansoddair bob tro yn ogystal â

phwyntio at y llun. Wedi clywed tair enghraifft yn sefydlu’r patrwm mae’r dysgwyr yn

parhau, e.e. ‘sgwâr’. Mae gên sgwâr ganddo fe. ‘hir’. Mae gwddwg hir ganddo fe.

‘du’. Mae llygaid du ganddo fe ... ayyb

Ymarfer 11: Parhau ar ôl sefydlu patrwm yr ymarfer: ‘Mae e’n golchi ei ên.’ayyb

Ymarfer 12: ‘Ydych chi’n golchi’ch gên?’ ayyb

Ymarfer 13: Dau ymateb gan ddysgwyr gwahanol wrth bwyntio at bob llun unwaith yn

unig: ‘Dydych chi ddim wedi golchi’ch gên? Ydw, dwi wedi golchi (f)y ngên.’ayyb

Gadewir Siart II ar ôl Ymarfer 13, Gwers 1. Ond dychwelir ato gydag Ymarfer 15.

Gwers 2.

Ymarfer 15: ‘Yn anaml iawn bydda­i’n cael gên dost.’ayyb

Ymarfer 16: ‘Ydych chi’n cael gên dost weithiau?’ ayyb

Ymarfer 17: ‘Mae gên dost ganddo fe o hyd.’ayyb

Fe’i defnyddir eto ar gyfer Gwers 3. Ymarfer 12­16, e.e.

Ymarfer 12: ‘Mae’r meddyg wedi archwilio’i ên.’ ayyb

Wedi dysgu geirfa pob un o’r siartiau, fe ddychwelir atynt yn eu tro lawer gwaith er

mwyn hyfforddi amrywiaeth o gystrawennau. Nid camp fach yw dyfeisio siart o luniau

sy’n ffrwythlon, sydd heb ymadael â thema gyson, sy’n gallu esgor ar lu o frawddegau

naturiol a defnyddiol, a’r rheini wedi’u graddio’n berthnasol.

SIART VI: Mapiau

Ymarfer 12, Gwers 5, Ailadrodd: Ym Mhortiwgal, yn Lloegr, ym Mharis, yng

Nghanada, yn Ffrainc, yn yr Unol Daleithiau, ayyb

Ymarfer 13: Parhau’r ymarfer: ‘Dwi’n mynd i Bortiwgal.’ ayyb

Ymarfer 14: ‘Mae (f)y nhad ym Mhortiwgal.’ ayyb

Yn awr, hyd yn hyn fe fûm yn ymdrin â siartiau hunanesboniadol, h.y. lluniau y

mae eu hystyr yn glir ar yr olwg gyntaf. Dyna yw Siart III hefyd sy’n dangos gr

bonheddig, menyw, plant, ayyb Dyma un ymarfer diddorol a wnaethpwyd ar sail

hwnnw: rhoddi dyddiad, e.e. 1980, a phwyntio at y llun: ‘Fe gafodd y gr bonheddig

yma ei eni yn un fil naw cant wyth deg.’ ayyb Ond ni raid cael siartiau

145

hunanesboniadol: fe ellir cael lluniau mnemonig neu thematig, a dyna a geir yn y

siartiau eraill. Swydd yr ymarferiad cyntaf o ailadrodd yw dehongli’r lluniau hyn fel

sylfaen i ymarfer pellach. Er enghraifft, yn Siart X ceir lluniau bach i ddarlunio’r hyn a

gyflëir gan y brawddegau hyn:

Dwi’n byw mewn t braf.

Dwi’n mwynhau gwyliau.

Dwi’n gwrthod y demtasiwn.

Dwi’n defnyddio cyllell.

Dwi’n ateb y cwestiwn.

Dwi’n cofio am ewythr.

Dwi’n gofyn am rywbeth i’w fwyta. ayyb

Dyma un ymarferiad a luniwyd i ddilyn y siart yna. Rhoddwyd berf ychwanegol gan yr

athro bob tro y pwyntiodd at un o’r darluniau:

rhwystro. Dwi’n rhwystro Lowri rhag byw mewn t braf.

dweud. Dwi’n dweud wrth Lowri am fwynhau ei gwyliau.

gorchymyn. Dwi’n gorchymyn i Lowri wrthod y demtasiwn. ayyb

Cwrs ar gyfer dysgwyr sydd wedi meistroli cryn dipyn o’r iaith yw hwn. A’m

hymgais syml i yw amlinellu ei natur ac awgrymu ei bosibiliadau ar gyfer y Gymraeg,

hyd yn oed ar gyfer fideo neu ddulliau cyfrifiadurol, neu gyda’r cyfryngau. Nid yw

ymarfer â phatrymau, h.y. drilio’r cystrawennau sylfaenol, gan ddefnyddio

fflachgardiau, y tu hwnt i gyrraedd athrawon ar hyn o bryd. Mae gan Theodore

Huebener ymdriniaeth gryno â gwerth fflachgardiau y talai i ni fyfyrio uwch ei phen.

Meddai ef:

‘One of the simplest visual devices which may be made up by any teacher is the

flash card ... Flash cards lend themselves well to rapid and lively reviews ...

Flash cards may be used to drill the following type of material: 1. Vocabulary

... 2. Articles and demonstratives ... 3. Idioms ... 4. Verbs. The infinitive is

given ... It is good practice to have sets of cards covering various subjects such

as adjectives, weather expressions, time, parts of the body.’ayyb

Cydnebydd pawb sydd wedi defnyddio’r dull dwyieithog mai ei nod yn y pen

draw yw cael gwared ag ef ei hun. Diwedd y dull dwyieithog, pan fo’n llwyddo, yw ei

ladd ei hun, fel y bo’r dysgwr yn gallu sefyll ar ei draed ei hun yn yr iaith newydd.

Wedi dilyn ymarfer â phatrymau gan bwyso ar y famiaith i gyfleu ystyr yn glir ac yn

ddiamwys, un modd o ymwared rhag y dull dwyieithog, heb ymadael â’r patrymau yw

drwy ddefnyddio lluniau yn y modd uchod.

Sylfaenwyd Ymarfer â Phatrymau nid yn y 1950au, ond yn y 1500au gan bobl

fel Erasmus (1524) a Gilles Duwes (1524?). Tua diwedd hanner cyntaf yr ugeinfed

ganrif ffocyswyd sylw ar Ymarfer â Phatrymau oherwydd datblygiad strwythureg a’r

labordy iaith. Fe’i hatgyfodwyd yn benodol gan Harold Palmer, ar sail ei theori o

Ergoneg, sy’n ddigon tebyg i Ramadeg Trawsffurfiol.

Yn y 1970au ceid tipyn o feirniadaeth o ddrilio patrymau — fel sy’n anochel

gyda phob dull poblogaidd. Tybid bod yr holl ailadrodd yn arwain at syrffed. Tybid ei

bod yn hyrwyddo dysgu difeddwl awtomatig. Ond o fewn fframwaith amrywiol ac os

sicrheir ymwybod o ystyr does dim amheuaeth nad yw’n cyflymu ac yn disgyblu

cynnydd llafar.

146

Gellir ei gyfuno’n hwylus â Darllen fel y gwelsom eisoes i raddau er mwyn ei

glymu wrth rediadau o frawddegau ac wrth sefyllfaoedd ymarferol, a dyna’n

hystyriaeth fwy manwl nesaf.

(vi) Chwarae a’r Gêm Strwythurol

Roedd yr Hwiangerddwyr, os caf ailadrodd term cynhwysfawr i gynnwys

pleidwyr chwarae, meim, a chanu ym myd dysgu iaith, wedi’i chael hi’n weddol

gysurus yn ystod y cyfnod rhamantaidd diweddar yn eu beirniadu diflino ar sychder

dienaid gwaith y militarwyr, os caf adfer term cynhwysfawr arall i ddisgrifio hil y

cyfieithwyr a’r gramadegwyr ffurfiol.

Ychydig fu o ‘feirniadaeth’ deg ar y gwaith Hwiangerddol; ac mae

anwybyddu’n waeth na gelyniaeth. Ond y brif feirniadaeth yn ei erbyn yw’r feirniadaeth

y gellir ei rhoi’n erbyn pobl ifainc wrth deithio mewn bws sy’n cymysgu canu emynau

blith draphlith â chaneuon gwerin, neu’r potwyr mewn tafarn neu’r gwylwyr yn

Stadiwm y Mileniwm sy’n defnyddio emynau i ystwytho’r laryncs heb falio gronyn am

eu cynnwys o gwbl. Hynny yw, gyda hwyl, mae’r sylw’n aml yn cael ei dynnu oddi ar

wrthrych y geiriau, ac mae’r dysgwr yn morio yn yr hwyl ei hun; mae’r hwyl yn aros yn

gofiadwy, ond nid y defnydd.

Yn lle berfau, cyngerdd. Yn lle dysgu ar y cof, syrcas. Does dim byd caled i

fod, dim gwaith fel y cyfryw. Bwriwn yr oriau heibio drwy ganu a meimio; ac

anghofiwn ein bod mewn ysgol o gwbl.

Fe ddywed Lado:

In the effort to make the learning of a foreign language interesting it is often

assumed that the task in itself is dull and may be made palatable only by

extraneous means such as stories, games, and the like. This assumption

overlooks the fact that most students once they find themselves in a foreign

language class, show an initial interest in using the language rather than

mastering the stories and other extraneous stimuli. The problem is how to

maintain and strengthen that initial interest. We shall comment on three means

of attack based in intrinsic interest in the language itself: (1) oral work, (2)

graded, attainable goals, and (3) attitudes.

If it takes an hour with play and indirection to accomplish a certain task, and

five minutes without the amusement, most students will prefer the second

method. The problem of rapid and easy learning is to find means to ensure brief

moments of intense concentration.

Ar y llaw arall, does dim modd gwadu campau’r Hwiangerddwyr. Mae

diddordeb a brwdfrydedd dysgwyr yn dibynnu ar hapusrwydd awyrgylch y dosbarth, ac

fe yr llawer o’r militarwyr mewn Ysgolion Uwchradd am y profiad o gael dosbarth

wedi blino ar ddril neu ddarllen yn adnewyddu i gyd o gael gêm fer sy’n gysylltiedig â’r

gwaith dan sylw. Os yw hyn yn wir am Ysgolion Uwchradd, mae’n llawer iawn mwy

gwir am Ysgolion Cynradd. Ond hyd yn oed mewn ysgolion Cynradd, lle dylai chwarae

fel dull o ddysgu iaith gael sylw mawr, mae’n hanfodol bwysig er mwyn sicrhau

cynnydd trefnus a meddiannol fod y chwaraeon yma ynghlwm wrth gwrs graddedig.

Adolygu yw prif werth gêm, fel arfer: adolygu geirfa hysbys drwy ailalw geiriau

unigol. Mae ailadrodd patrymau bach syml ond hanfodol, sydd eisoes ym meddiant y

plant, hefyd yn rhan gyffredin o’r dull chwarae. Ac o drawsblannu’r iaith o fyd dysgu

uniongyrchol i fyd ysgafnach difyrrwch, fe gefnogir cartrefolrwydd hwylus a

rhwyddineb yn yr iaith newydd.

Ond pwysig yw bod chwarae’n cyfeirio at nod bendant: h.y. nid chwarae er

mwyn chwarae sydd yma. Mae hynny, wrth gwrs, yn ddigon hawdd i’w drefnu ac yn

147

dibynnu ar yr athro. Dyma rai enghreifftiau; a sylwer fod modd ffitio’u patrymau

gramadegol mewn mannau penodol yn y cwrs.

(i) Dyfalu llais

Mae plentyn yn mynd o flaen y dosbarth ac yn troi ei gefn ar y dosbarth. Mae’r

athro’n cyfeirio at un o’r plant sy’n eistedd tu ôl iddo, a hwnnw’n llunio brawddeg yn

ôl patrwm ieithyddol sydd dan sylw ar y pryd. Yna, mae’r plentyn cynta’n dyfalu:

‘John, ti oedd yna?’Caiff dri chynnig. Os dyfala’n gywir, yna mae’r sawl a siaradodd

yn cymryd ei le ym mlaen y dosbarth. Ac ymlaen â ni.

(ii) Teithio yng Nghymru

Map o Gymru o flaen y dosbarth gydag amlder o enwau lleoedd arno. Dewisir

un i fod yn deithiwr, a daw hwnnw ymlaen. Mae pob plentyn arall yn rhoi ei ben i lawr

ar y ddesg fel na bydd yn gweld y teithiwr. Mae hwnnw’n cyffwrdd â rhyw le ar y map,

a chyd pawb ei ben wedyn. Dyfalant yn eu tro: ‘Fuoch chi yng Nghaernarfon?’

‘Naddo’. ‘Fuoch chi ym Machynlleth?’ayyb

(iii) Faint o Gerrig?

Mae’r athro’n dangos deg o gerrig bach i’r dosbarth, ac yna mae’n rhoi ei

ddwylo tu ôl i’w gefn. Fe ddaw â’r dwylo’n ôl, a gofyn:

Faint o gerrig sydd gen i yn fy nwylo?

Mae plentyn 1 yn dyfalu fel hyn:

Plentyn 1: Mae dwy garreg gynnoch chi yn eich llaw chwith ac wyth carreg

gynnoch chi yn eich llaw dde.

Athro: Nac oes. Mae tair carreg gen i yn fy llaw chwith a saith yn fy llaw dde.

Does dim diwedd i chwaraeon sy’n defnyddio’r iaith yn syml fel yna; ac maen nhw’n

addas ar gyfer plant o bob oedran. Ond yn fy marn i, mae chwaraeon fel hyn yn colli eu

heffeithiolrwydd wrth eu gorddefnyddio nhw. Ychwanegiad a chadarnhad at y gwir

waith ydyn nhw; nid nhw yw’r gwaith.

(iv) Her i’r Cof

Mae’r athro’n sgrifennu paragraff byr ar y bwrdd du. Mae pawb yn ei ddarllen

gyda’i gilydd. Yna mae’n dileu un gair ym mhob llinell. Gofynnir am ei ail ddarllen, a

rhaid i’r dysgwyr awgrymu’r geiriau coll. Yna mae’n dileu ambell air arall. Ac felly

ymlaen. Nid erys ond yr atalnodi erbyn y diwedd.

(v) Cadwyn Brawddegau

Cynigir brawddeg i’r plentyn cyntaf, megis ‘Mae eich tei chi’n las’. Rhaid iddo

yntau gydio mewn gair yn y frawddeg a llunio brawddeg newydd, megis ‘Glas ydy

lliw’r môr’. Ac felly ymlaen: e.e. ‘Dwi’n mynd i lan y môr heddiw. / Mae hi’n ddydd

Llun heddiw. / Ar ddydd Llun mae mam yn mynd i’r dref.’

Os ysgrifennir y frawddeg gyntaf ar y bwrdd du, gellir cymharu’r ymdrech

ymhen rhyw ugain o frawddegau, ac annog y plant i ddychwelyd at y frawddeg

wreiddiol mewn dau gam.

(vi) Tyfu Brawddegau

Gêm anodd. Dyma’r patrwm a rydd y llyfr Ffrangeg:

Dwi’n cytuno; Dwi ddim yn cytuno; Dwi ddim yn cytuno â chi; Mae’n ddrwg

gen i na dwi ddim yn cytuno â chi; Mae’n ddrwg gen i fod rhaid i fi ddweud

na dwi ddim yn cytuno â chi.

148

Y ffordd orau mi gredaf i wneud hyn yn llwyddiannus yw i’r athro ddodi

ychydig o frawddegau sylfaenol hir ar y bwrdd du, a’u rhannu yn ôl eu helfennau

hanfodol. Yna, ni bydd rhaid i’r plant ond dewis y patrwm a fynnant, a llenwi’r

adrannau â’u geiriau hwy eu hun.

1 2 3 4 5 6 7

Mae’r dyn tew sy’n cysgu yn y gwely ar y llofft yn chwyrnu heno.

Gan ddilyn y sgerbwd hwn fe ellir cael:

Mae’r bachgen; Mae’r bachgen drwg; Mae’r bachgen drwg sy’n chwarae;

Mae’r bachgen drwg sy’n chwarae yn yr ardd; Mae’r bachgen drwg sy’n

chwarae yn yr ardd wedi torri’r ffenest; Mae’r bachgen drwg sy’n chwarae yn

yr ardd wedi torri’r ffenest nawr.

(vii) Brawddeg Dyllog

Gwyddom oll am y gêm sy’n llenwi bylchau mewn geiriau, heb roddi fel sylfaen

ond dwy neu dair o lythrennau: e.e.

d­­­­dd­­ = defnyddio.

Mae’r gêm hon yn debyg ond ei bod yn gweithio ar sail brawddegau: e.e. ­­­ sosban

­­­­ ­­ berwi ­­ ­ tân; ­ welsoch ­­­ ­­­ ffon ­­ nain?

(viii) Brawddegau ar Chwâl

Rhoddir rhyw bymtheg o eiriau ar y bwrdd du, a gofynnir i’r plant lunio cynifer

o frawddegau cywir ag sy’n bosibl ar eu sail: e.e.

wyneb / yn / dwi / am saith / gynnar / gwisgo / fy / yn / brecwast / ystafell / y / cyn /

glanhau / bore / golchi /

Yn y dosbarthiadau gorau gellir gwneud dau beth gyda’r gêm yma:

(i) Dangos y ffordd orau i greu cyflenwad helaeth o frawddegau’n weddol

gyflym: h.y. drwy drefnu’r uchod yn dablau cyfnewid yn ôl patrymau gwahanol: e.e.

12 brawddeg: Yn gynnar yn y bore dwi ’n gwisgo

Am saith

golchi fy wyneb

Cyn brecwast

glanhau fy ystafell

Am saith yn y bore

ayyb

5 brawddeg: Dwi yn fy ystafell yn y bore

cyn saith

cyn gwisgo

cyn y bore

yn gynnar

(ii) Chwalu paragraff cyfan a gofyn am frawddegau olynol cywir.

(ix) Yr Athro Celwyddog

Dyma arferiad o lyfr Morris, The Teaching of English as a Second Language,

sy’n hyfforddi’r gofynnol a’r negyddol: gosodir patrwm ar y bwrdd du:

149

Athro:

Plentyn:

Athro:

Plentyn:

Mae John yn sefyll ar ei ben. Ydw i’n dweud y gwir neu beidio?

ch chi’n dweud celwydd.

Pam mae’n gelwydd?

Achos dyw John ddim yn sefyll ar ei ben. Mae e’n sefyll ar ei draed.

Hyfforddir y fformiwla yma. Yna rhoddir gosodiadau newydd megis:

Mae Bil yn gweld â’i glustiau.

Mae Rhys yn dal pêl â’i lygad.

Dyn ni’n cicio’r bêl â’r trwyn.

Mae Tom yn sgrifennu â’i droed chwith.

Mae Sir Benfro yn Lloegr.

Fe fyddwch chi’n golchi’ch dwylo â sialc ac inc.

(x) Lladron! (Fersiwn 1)

Ar sail yr egwyddor o ddyfalu fe ellir dyfeisio chwaraeon yn rhwydd eu gwala.

Dyma rai nas gwelais gyda’i gilydd yn unman ond a allai fod rywle, dybiaf i.

Gosodir rhes o wrthrychau ar ddesg yr athro — afal, gwydr, llyfr, cyllell, fforc, pensil,

ayyb Mae’r plant yn cau’u llygaid a’r athro’n mynd ag un o’r gwrthrychau i ffwrdd.

Athro: Mae lladron wedi bod yma yn ystod y nos ac maen nhw wedi dwyn rhywbeth.

Beth maen nhw wedi’i ddwyn?

Plant: Aethon nhw â’r gyllell. neu Fe aethon nhw â’ch cyllell chi.

(xi) Lladron! (Fersiwn 2)

Rhes o wrthrychau fel o’r blaen. Dau dîm, y naill yn gweithredu fel lladron a’r

llall yn blismyn. Mae pennaeth tîm A yn penderfynu ar wrthrych ac yn sibrwd ei neges

wrth ei olynydd, ac mae hwnnw’n trosglwyddo’r neges i’r nesaf ac yn y blaen, at yr un

olaf. Penderfynir ar fformiwlâu posibl i’r neges o flaen llaw, megis:

Fe awn i ddwyn y gyllell.

Dyn ni’n mynd i gael y llwy.

Fe gawn y llyfr heno. ayyb

Yr un pryd datguddia pennaeth tîm A ei fwriad i’r athro. Cais tîm B ddyfalu eu bwriad

— tri thro, a’r olaf yn nhîm A sy’n eu hateb.

(xii) Yr Hen Weddw

Rhydd yr athro farciau allan o gant yn ddirgel ar ddarn bach o bapur i res o’r

plant. Rhaid i res arall ddyfalu:

Pwy gafodd y marc uchaf?

Pwy gafodd y marc isaf?

Pwy gafodd y marc gorau?

Pwy oedd yr ail? (yn drydydd) ayyb

Cyfrifir faint o gynigion sy’n angenrheidiol i leoli safle pawb. Holir yn ôl fformiwla a

benderfynir o flaen llaw.

Plant: Joan gafodd y marc uchaf. neu

150

Dwi’n meddwl mai John gafodd y marc uchaf.

Gwelir fod o leiaf dau o’r chwaraeon hyn yn ymgysylltu â’r pwyslais ar

Ymarfer â Phatrymau. Mae gen i bob cydymdeimlad â’r bobl yna sydd am chwarae

‘gêm er mwyn gêm’yn y wers iaith. Dyna’r math o agwedd at y gwaith a all greu

awyrgylch o bleser a diddordeb a thorri ar undonedd driliau dienaid. Ond yr un pryd,

os oes modd (yn gudd megis), gwiw i ni batrymu’n gwaith fel y bo gêm yn ffitio yng

nghyfanwaith y cwbl, heb ymyrryd, heb wyrdroi, ond gan ychwanegu a chyfoethogi’r

rhediad naturiol a mwynhau rhythmau driliau. Yna, gymaint harddach, gymaint mwy o

gamp ydyw’n cyflawniad. Mae dwyn chwarae at Ymarfer â Phatrymau a’r ymarfer at y

chwarae hefyd yn mynd i adeiladu cystrawennau sylfaenol yr iaith yn gadarn ym

meddyliau’n plant, mewn pleser sy’n llwydd ac yn dyfiant.

Ni allaf sôn am chwaraeon heb sôn am waith yr un a ystyriaf fel un o brif gewri’r

mudiad Cymraeg fel ail iaith erioed, sef Dan Lynn James. Ym 1975 cyhoeddodd ef

Llawlyfr chwaraeon a syniadau i arweinwyr adrannau dysgwyr. Cynhwysai 206 o

gêmau. (Ceir rhestr o waith Dan yng nghyfrol anodedig ragorol Helen Prosser,

Llyfryddiaeth Dysgu’r Gymraeg yn Ail Iaith 1961­1981). Anadlodd Dan hwyl a sbort i

mewn i’r mudiad ail iaith fel y tystia ei lyfrau: Hwyl a Siarad, Hwyl Gwersyll, dwy

gyfrol Hwyl gyda’r Gymraeg a Cymraeg Difyr. Gwelai’r pwysigrwydd o ddefnyddio’r

ail iaith fel cyfrwng i gyflwyno gwybodaeth, fel y tystir yn y gyfres o gardiau Gwybod

am Gymru a gyhoeddwyd gan Ganolfan Technoleg Addysg Clwyd. Roedd yn

ymwybodol o ddatblygu’r Wlpan: Cwrs Carlam Cymraeg a Pum llyfryn o ddefnyddiau

Cwrs Carlam Cymraeg Aberystwyth. Felly hefyd Cymraeg Eisteddfod a Cymraeg i’r

Merched. Hynny yw, yr oedd Cymraeg i Oedolion yn allweddol bwysig iddo. Ond felly

hefyd y sector meithrin: Dechrau Dysgu (pedair cyfrol) a Meithrin y Dysgwyr. Yr oedd

Dan yn meddwl am y maes oll ac yn astudio theori ac ymarfer yr ail iaith, fel y tystia

Patrymau’r Iaith Gymraeg a llu o erthyglau ganddo yn y maes. Ond heblaw

ymgydnabod â’r grefft gain hon fel astudiaeth academaidd gefndirol, mynnai Dan aros i

lawr yn yr arena yn cynhyrchu campweithiau fel Cwrs Cymraeg Llafar:

Conversational Welsh Course, gwaith y cafwyd chwe argraffiad ohono.

Ceir rhagor o awgrymiadau ar gyfer chwaraeon iaith yn Games for Language

Learning, A. Wright, D. Betteridge, and Michael Buckly (Cambridge University Press,

1984); Teaching and Learning Languages, Earl W. Stevick (Cambridge University

Press, 1982, 128­133); Agweddau ar Ddysgu Iaith, Geraint Wyn Jones (1993, 286­

288, 301­302).

(vii) Dosbarthu Sefyllfaoedd a’u Hasio wrth Strwythurau

Wrth sefydlu rhestr o ffwythiannau i’w dysgu, tybiai sefyllfawyr yng Nghymru

rhwng y saithdegau a’r nawdegau eu bod wedi dod o hyd i allwedd newydd i ddysgu

ail iaith. Tybient y gallent anwybyddu Strwythurau. Ond ni sylwasent ddim fod angen

dwy allwedd i iaith. Wrth fethu â deall natur iaith ei hun, ni ellid disgwyl adeiladu dull

effeithiol o’i chyflwyno’n gyfansawdd. Gellid cynllunio a gweithredu brwdfrydedd

cyfyngedig; gellid gwario, ond os na fanteisid ar wybodaeth am hanfod adeiladwaith

iaith, y mae’r gwaith o ddysgu yn mynd i fod yn anhrefnus ac yn araf, ac yn y diwedd

yn mynd i ddigalonni llu o ddysgwyr potensial.

Carwn bwysleisio er hynny nad wyf yn gwrthwynebu mewn modd yn y byd yr

ymgais lew a wnaethpwyd i restru ffwythiannau a pharatoi ar gyfer nodau cyfathrebu.

Rhan werthfawr o’r gwaith oedd hyn. Yr hyn a wrthwynebwn ac a wrthwynebaf yw

151

esgeuluso seilio’r gwaith hwn ar ymwybod o dwf strwythurol ac o ddysgu sy’n

ymwybodol gynyddol. Collwyd golwg ar yr iaith yn gyfansawdd.

Sefyllfawyr amddifad oedd y troseddwyr. A gwisgo a wnaethant fwgwd neu

ddillad dieithr o dan y label ‘Nodau Cyfathrebu’.

Gadewch imi yn gyntaf, felly, geisio diffinio beth oedd ac yw Nodau

Cyfathrebu.

Rhestr yw. Does dim o’i le ar restr, fel deunydd crai, gwyryfol, yn arbennig ym

maes Mynegiant. Allan o restr fe ellid gosod trefn. Gellid dod o hyd i lwybr ystyrlon

olynol drwy restr os bydd y meddwl yn cael ei ddefnyddio i’w strwythuro.

Yr hyn a wyddys gan athrawon ystyriol bellach yw nad rhestr yw iaith yn

sylfaenol, ond system o systemau cydlynol. Syniad y dyn yn y stryd oedd y rhestr —

fod plentyn yn dysgu ‘gair ar ôl gair’neu ‘frawddeg ar ôl frawddeg’, ac yn y diwedd

roedd ganddo iaith. Gwyddom yn well bellach. Yn wir gwyddom hyn ers canrifoedd.

Mae yna batrymau cydgysylltiol ffrwythlon. Mae yna gynllun mewnol olynol mewn

iaith. A thrwy ddarganfod y cynllun o fewn yr iaith ei hun — yn achos y plentyn, yn

anymwybodol — y deuid i mewn i lawnder yr iaith honno. Trwbl rhai o gynllunwyr ein

cyrsiau iaith yw eu bod weithiau wedi ymdroi o hyd gyda syniadau y dyn yn y stryd a’r

rhestr ers talwm. Hynny yw, mae rhai o’u cyrsiau yn sylfaenol ddi­lun, fel petaent

wedi’u paratoi gan bobl heb feddwl neu heb wybod am strwythur llawn y dysgu a

wyddys bellach. Trafferth arall yw eu bod yn colli’u pennau ar syniadau estron hanner

pob. O’r herwydd, yn lle impio egwyddor y Nodau Cyfathrebu ar drefn ystyriol ym

myd patrymau, yr ydym yng nghanol anarchiaeth ac anhrefn Esgeulustod.

Pa fath o restr a geir bellach yn y maes diweddar hwn?

Rhyw fath o ddysgu a geir mewn sefyllfaoedd gwasgarog — dysgu wedi’i

seilio ar Nodau Cyfathrebu. Hynny yw, mae’n debyg i hen ddull y rhestri ymadroddion

cymysglyd ar gyfer y teithwyr drwy Gymru. Ond yn yr achos hwn, yn hytrach nag

ymgyfyngu i un lleoliad, megis Swyddfa’r Post o felys goffadwriaeth, yr hyn a wneir

yw cydio mewn gweithgareddau mwy cyffredinol. Gweithgareddau ffrwythlon yw

ffwythiannau y gellid eu cael mewn gwahanol amgylchfydoedd. Cyplysir y rhain yn awr

yn grwpiau y dylid ceisio’u meistroli yn eu tro. Dyma er enghraifft y rhestr o Nodau a

gymeradwywyd gan Gyd­Bwyllgor Addysg Cymru: brysiaf i ddweud ac i bwysleisio

nad wyf yn anghymeradwyo nac yn anghytuno un gronyn â’r rhestr hon ynddi’i hun.

Yn wir, yr oeddwn i fy hun yn aelod o’r pwyllgor bach a gyflwynodd y rhestr i’r Cyd­

Bwyllgor:

Lefel I: 1. Cyfarch ac Ateb Cyfarchiad; 2. Rhoi a Holi am Fanylion Personol; 3.

Ffarwelio; 4. Diolch; 5. Mynegi a Holi am Anghenion; 6. Mynegi Hoffter; 7.

Disgrifio a Holi am Ddigwyddiad; 8. Mynegi Bwriad.

Lefel II: 9. Gofyn am Bethau; 10. Ymddiheuro a Derbyn Ymddiheurad; 11.

Sôn am yr Amser ar y Cloc; 12. Gofyn i Rywun wneud Rhywbeth; 13. Gofyn

am Ganiatâd a’i Roi; 14. Trafod Iechyd; 15. Dymuno’n dda i Rywun; 16.

Trafod Arian.

Lefel III: 17. Mynegi Dymuniad; 18. Llongyfarch a Chydymdeimlo; 19. Rhoi

a Derbyn Cyfeiriadau; 20. Estyn, Derbyn a Gwrthod Gwahoddiad; 21.

Trafod Cyfnodau o Amser (Dyddiad, Wythnosau, Misoedd, Blynyddoedd,

Gwyliau); 22. Disgrifio lle / Person / Gwrthrych; 23. Cyhuddo, Gwadu a

Derbyn Bai.

152

Sylwer: ar wahân i’r pedwar cyntaf, efallai, does fawr o ots ynghylch trefn

olynol y lleill. A dyma gyfle pwysig i feddwl am drefn. Yn fy marn i, rhestr dda a

defnyddiol oedd hon. Ond rhestr yn unig oedd ac yw, ac un sydd oherwydd y ffordd y

mae wedi cael ei defnyddio neu ei chamddefnyddio gan rywrai, yn rhestr beryglus dros

ben. Y drwg oedd cyfyngu crefft. Gwneud yr ychwanegiad hwn yn ddisodlydd. Peidio

â chael budd o’r ehangder a oedd eisoes ar gael yn ein gwybodaeth am dechnegau a

defnyddiau trefnus dysgu iaith, methu ag adeiladu ar y gorffennol. Hynny yw, ôlfoderniaeth.

Cymryd y rhestr fel pe bai dysgu iaith yn dechrau o’r gwaelod yn y fan

yma heb y llawnder offer eraill a heb fanteisio ar yr enillion mawr a gafwyd. Crwydro’n

anarchaidd blith draphlith o ffwythiant i ffwythiant heb y ddisgyblaeth lem o gyd­raddio

yn ôl tyfiant patrymau, a heb gadarnhau un pwynt cyn mynd at yr un nesaf a oedd yn

gydberthynol. Damweinioldeb. Heb gyplysu ffwythiant â ffwythiant yn bwrpaslon, lle

bynnag yr oedd yn bosib.

Mi fentrwn honni ymhellach. Fe ellid dadlau mai’r perygl mwyaf i’r iaith

Gymraeg y dyddiau hyn, oherwydd graddfa anhygoel dylanwad y datblygiad di­gefndir

hwn yn arbennig wrth ddysgu plant, yw drysu’r mudiad ail­iaith drwy golli golwg ar

drefnu patrymau’n broffesiynol. Hynny yw, mae’n waeth na’r mewnfudo, mae’n waeth

na diffyg deddf iaith effeithiol. Mi allai hyn ddrysu mudiad adfer yr iaith yn gyfan gwbl,

sef calon yr adfywiad cenedlaethol. Buasai drysu neu gamddefnyddio’r mudiad hwn yn

ei ddefnyddiau cychwynnol yn wir ddrwg.

Ond wrth gwrs, mae’r cwbl yn dibynnu ar ba ddefnydd a wnawn o unrhyw

ddatblygiad newydd. Gyda’r chwalfa a ddaeth i ryw rai yn y mudiad ail­iaith yn sgil

Nodau Cyfathrebu, un peth calonogol oedd bod yna ymhlith athrawon profiadol rywrai

drwy drugaredd wedi glynu wrth eu llwyddiant profedig. Ceisiwyd impio’r cysyniad

ychwanegol o Nodau — sy’n gysyniad da a gwerthfawr — ar drefn ddysgu oedd

eisoes yn gweithio ac yn llwyddo, dyna a wnaethpwyd. Gwaetha’r modd, serch hynny,

daeth rhai athrawon cwbl newydd a dibrofiad i mewn i’r maes ar y pwynt yna, heb y

cefndir o lwyddiant a oedd ar gael eisoes, a mabwysiadu’r egwyddor newydd heb

gefndir o ieithyddiaeth gymwysedig neu heb brofiad o arwain dosbarthiadau o gam i

gam, heb eu hyfforddi yn hanfodion didacteg iaith. Ac yn fuan aeth rhai o’r rheini i

safleoedd dylanwadol. Collodd y llong ei llyw.

Heb ymwybod o raddio y mae’r athro a’r lluniwr cwrs yn gwbl ddi­angor.

Maen nhw’n gwastraffu amser ac arian a gobeithion. Ac mae unrhyw diwtor athrawon

neu gynlluniwr cwrs sydd heb roi’r erfyn hwn o strwythuro yn llaw’r athro wedi

esgeuluso un o’r prif bethau.

Heb ymwybod o raddio medrus ac ymarfer effeithiol fe ellir difetha cwrs taw pa

mor hyfryd yw’r casgliad o ffwythiannau. Ac y mae hynny y dyddiau hyn yn gallu

golygu, nid yn unig afradu cannoedd o filoedd o bunnoedd (e.e. ar y cyfryngau), ond

colli degau o filoedd o ddysgwyr a cholli cyfle dihafal, fe allai, pe bai’r cyrsiau hynny

yn meddiannu holl faes dysgu ail­iaith yn ddifeddwl ac yn ddi­drefn, ac fe’i dwedaf yn

bwyllog ac yn ystyriol, fe allai olygu colli cyfle i’r genedl, tra bo gennym gyfle o hyd i

adfer yr iaith yn ein gwlad. Mae cymryd llwybr anghywir oddi wrth strwythuro cyrsiau

mewn ysgolion, ac yn bwysicach gydag oedolion, boed mewn dosbarthiadau nos, gyda

rhaglenni radio a theledu neu mewn llyfrau, ac yn well byth fideos graddedig, mae

llwybr anghywir felly yn droseddol yn y cyfwng sydd ohoni. Allwn ni ddim fforddio

colli’r adfywiad presennol mewn dysgu ail­iaith.

Ond os bu peth difetha ym maes graddio a threfnu ystyrlon gan Nodau

Cyfathrebu, a hwnnw yn un o’r datblygiadau lleiaf call, y mae yna waeth i’w gael. Un

o’r pethau gwirionaf a welais oedd yr ymgais — yn gymharol gynnar yn hynt y dysgwr

153

— i amlhau cyweiriau, rhestru cyweiriau: megis dysgu ‘sut mae siarad â phlant bach,

sut y mae siarad â phobl o Wynedd, sut y mae cyfarch pobl drws nesaf, beth yw’r

cywair ar gyfer y dafarn, a beth ar gyfer gwraig y dyn llaeth’. Mae amlhau amrywebau

— drwy gyweiriau, drwy dafodieithoedd, drwy awgrymu gwahanol ffyrdd o ddweud

yr un peth — yn un o’r ffasiynau gwirionaf a lifodd i mewn i gyrsiau oherwydd amlhau

dogmâu lluosedd a relatifrwydd mewn ôl­foderniaeth isymwybodol a negyddolstrwythurol

ym mhob man.

Y mae’n wir fod cyweiriau’n bwysig. Ond unwaith eto, rhaid darostwng y cwbl

i drefn ddysgu ystyrlon. Gwyddom oll am yr achwyn bod dysgwyr yr Ysgolion

Cymraeg ‘wedi meistroli’r cywair Mathemateg, ond dyn nhw erioed wedi cael eu

hyfforddi i siarad â’i gilydd’. Dwi ddim yn ceisio gwadu pwysigrwydd cyweiriau.

Cofiaf y stori am un llenor Ffrangeg, naill ai Maritain neu Mauriac mi gredaf, yn

ymweld ag Eliot yn Llundain. Buont yn trafod yn Saesneg lawer o bynciau dwys

ynghylch llenyddiaeth; ac yna, wrth ffarwelio dyma’r llenor yn holi, sut dch chi’n

gofyn yn Saesneg am docyn ar y bws.

Does dim gwadu pwysigrwydd cysylltu’r dysgu â bywyd ymarferol. Ond

unwaith eto, gwylier y chwiw sy heb ei seilio ar brofiad neu wybodaeth am ddysgu

trefnus.

Carwn yn awr dynnu sylw at adroddiad hynod bwysig a gyhoeddwyd gan CILT

(Centre for Information on Language Teaching and Research), sef Languages Step by

Step, Graded Objectives in the UK, gan Brian Page a Derek Hewett (1987). Yno y

cydnabyddir: ‘It is undoubtedly true that the graded objectives movement [h.y. Nodau

Cyfathrebu] has been a major influence in shifting the focus of language teaching over

the last ten years’. Gobeithiaf finnau na ddehonglir y sylwadau hyn fel ymagwedd

negyddol at nodau cyfathrebol. Mewn gwirionedd, gwaedd yn erbyn negyddiaeth yw

union bwynt y drafodaeth hon. Gwaedd o blaid catholigiaeth. Adroddiad yw’r gyfrol

fach a grybwyllwyd am natur cyrsiau’n defnyddio nodau cyfathrebol yn arbennig yn

Durham, Caergrawnt, Buckinghamshire, Croydon, Cynllun Prifysgol Llundain,

Berkshire, Oxfordshire, Lancashire, Cumbria, Wigan, a Leeds, a chan gynnwys llawer

man arall ym Mhrydain i raddau, a’r Gymraeg ymhlith yr ieithoedd. Rhybuddir am

gynlluniau’n defnyddio ‘nodau cyfathrebol’: ‘It was a recognised principle from the

beginning that we should not allow ideas to get fossilised’.

Cyfeiriant at John Clark, sef un o’r prif ffigurau sy’n arwain symudiad y dull

cyfathrebol ym Mhrydain. Ac medd ef:

If we wish pupils to internalise ways in which particular elements in a

language resource can be combined with others and used flexibly and

creatively in order to mean particular things in particular contexts, then we

must be concerned with grammar. Without the internalisation of a system

pupils would merely be able to regurgitate set phrases, or produce arbitrary

combinations of single words which would certainly not affect communication

in the real world. An internalised grammar based on a notional approach to

the selection of forms should enable learners to be able to understand and

express essential notions ... ac ymhellach ymlaen:

A balance between formal study and practice, skill development exercises, and

communicative experience (should) be maintained ... and a link be forged

between the two in a systematic way.

Popeth yn iawn! O’r diwedd! Ond yr hyn sy’n bwysig yw nad yw ‘gramadeg’

yn bod er ei fwyn ei hun. Ym meddwl y cynlluniwr ei hun y mae’r gramadeg; ac nid

154

yw’n bod yno, yn yr achos hwn, ond er mwyn cyflwyno’r iaith yn ffrwythlon drefnus.

Un o isgasgliadau y gyfrol hon yw bod angen ‘cynnwys manylder gramadegol o fewn

gallu cyfathrebol mewn modd nad yw ar waith ar hyn o bryd’.

Ni chyrhaeddodd y neges hon Gymru yn y nerth a haeddai.

Yng Nghymru yr hyn sy’n digwydd yn fynych, drwy drugaredd, yw bod amryw

athrawon doeth a phrofiadol wedi bod yn hwyrfrydig i gefnu ar gyrsiau graddedig sy’n

‘gweithio’er mwyn troi at gymysgfa nodau cyfathrebol, nad yw’n fawr gwell nag

olynydd blêr i’r dull union. Un gofid sy gen i gyda’r rhain yw nid y bydd y nodau

cyfathrebol yn lladd dysgu o’r radd flaenaf, eithr fel arall, y bydd athrawon i oedolion

(nad ydynt wedi’u rheoli gan Gwricwlwm) yn anwybyddu yr hyn sy gan nodau

cyfathrebol i’w gynnig ac yn peidio yn y pen draw â manteisio ar rai o rinweddau’r

datblygiad hwnnw.

Bellach, y mae’r feirniadaeth yn erbyn nodau cyfathrebol yn dechrau

ymsefydlu’n fwy cytbwys mewn rhai mannau. A charwn gyfeirio at gyfrol

nodweddiadol sy’n traethu’r farn ddiweddar, un o’r cyfrolau pwysicaf ar ddidacteg

iaith yn y cyfnod diweddar, sef Aspects of Language Teaching H. G. Widdowson,

(1990). Ei gasgliad cadarn o dan y pennawd ‘Reconciling the oppositions’, sef priodas

rhwng egwyddorion adeileddol ac egwyddorion cyfathrebol, yw’r hyn a eilw ef yn

‘communicative grammar materials’, sef defnyddiau sy’n priodi’r defnyddiau

cyfathrebol â’r twf mewn meistrolaeth ramadegol: ‘it is the purpose of pedagogy to

actualize the mutual dependency between linguistically coded potential and its

realisation’.

Nid yw hyn o ran egwyddor ymhell iawn o’r hyn y buwyd yn ei bleidio gennym

yn y 60au yng Nghymru, ar un eithafbwynt gan athrawon fel Moelwyn Preece ac ar

eithafbwynt arall gan athrawon fel C. J. Dodson: roedd y naill a’r llall yn cyfuno

adeileddau ieithyddol cynyddol a chyfathrebu naturiol mewn sefyllfaoedd, er bod eu

trefn yn bur wahanol i’r nodau cyfathrebol diweddar, ac o bosib yn fwy addas i’w

hamgylchiadau hwy na’r nodau fel y’u cafwyd hyd yn hyn. Llithrwyd yn ôl yn enbyd.

Beth bynnag, un dyfyniad arall gan Widdowson:

Activities needed to be devised which require learners to access grammatical

knowledge for some purpose other than practice and so to realize for themselves the

latent capability within grammatical knowledge for the achievement of meaning.

Hynny yw, o fewn fframwaith ymarferol o sefyllfaoedd ac o anghenion

cyfathrebol defnyddiol, dylai cynllun gwaith mewn iaith geisio, cyn belled ag sy’n

bosibl, gorffori cynnydd deinamig a threfnus mewn patrymau ieithyddol.

Sylfaenwyd yr egwyddor o raddio patrymau gramadeg mor gynnar â 1531, a’i

datblygu gan Comenius ganrif wedyn. Nis disodlwyd erioed ond yn ddifeddwl. Bai

mawr Ôl­foderniaeth — ac yn ei sgil, y Cymry blêr — yw colli’r gorffennol.

Does dim modd osgoi graddio patrymau (neu ramadeg) o ryw fath wrth gwrs,

yn isymwybodol o leiaf. Y cwbl sy’n weddus i athro iaith ei gofio yw y ffaith anochel

fod yn rhaid cyflwyno patrwm un cyn patrwm dau cyn patrwm tri ac yn y blaen. Does

dim dewis yngln â’r egwyddor. Gellir gwneud hyn yn amaturaidd ac yn anarchaidd

neu’n effeithiol drefnus ac yn broffesiynol. Ond o fewn yr iaith ei hun y mae yna

olyniaeth gydberthynol reidiol, er bod cydredeg mwy nag un olyniad yn debygol.

Un agwedd yn unig ar raddio yw graddio patrymau (neu ramadeg). Ac mae yna

fathau eraill o raddio wrth gwrs. Yn fras gellir dweud fod yn rhaid graddio:

(i) Geirfa, (ii) Gramadeg, (iii) Sefyllfaoedd (Nodau Cyfathrebu, Ffwythiant), (iv)

Dulliau o Gyflwyno.

155

Gyda rhai o’r cyrsiau gorau nid yw un pwynt ieithyddol yn arwain bob tro at y

llall o anghenraid ar sail cystrawen, e.e. ym myd geirfa a sefyllfa. Ond y pryd hynny ceir

ffactorau eraill fel arfer ar gyfer graddio, e.e. amlder, cydlynedd, cyfleustra, meysydd

semantaidd. Cyfuniad (ond nid eclectig) o amryfal ystyriaethau sy’n gwneud cwrs da.

Wrth ymwneud â’r pedair agwedd hyn a rifwyd ac a enwyd, serch hynny,

priodol sylwi y gall un o’r rhain mewn cwrs penodol gael ei wneud yn broffesiynol (e.e.

iii) a’r lleill yn amaturaidd. Gall ffilmio sefyllfaol neu ffwythiant, e.e., fod yn

broffesiynol, ond os nad yw’r pwyntiau gramadegol yn dod mewn trefn lle y mae’r naill

yn helpu’r llall, yna mae’n colli o ran effeithiolrwydd.

Neu, wrth gwrs, gellir sicrhau fod y cwbl oll yn cael ei wneud yn broffesiynol yr

un pryd.

Yn awr, mae’n wir y gall fod amrywiaeth barn ynghylch pa drefn yn union sy

orau o fewn graddio ieithyddol. Cafwyd sawl ymgais i raddio patrymau gramadeg yn y

Gymraeg, ac mae yna le i ddadlau rhyngddynt. A chydnabûm eisoes fod mwy nag un

olyniad yn ystyrlon bosibl i’r sawl sy’n cynllunio cwrs. Nid unrhyw drefn neilltuol sydd

dan sylw yn awr, eithr yr egwyddor. Gellir cael safbwyntiau gwahanol dilys ynghylch

penderfynu sut y mae graddio patrymau. Gall plentyn, yn ei iaith gyntaf yntau, er

enghraifft, ymddangos fel pe bai’n dysgu’n anarchaidd, ac y mae’r hyn a ddywedir

wrtho yn sicr yn ‘anarchaidd’. Ond yr hyn a wna yw dod o hyd i lwybr amlwg drosto’i

hun — darganfod dros gyfnod o flynyddoedd y drefn sydd eisoes yn yr iaith, e.e.,

dysgu deall unigol cyn deall lluosog (at ei gilydd), dysgu deall gradd gymharol yr

ansoddair ar ôl y radd gysefin, y prif gymal cyn cymal isradd, ayyb Gydag ail iaith ar y

llaw arall, yr athro ysywaeth sy’n penderfynu trefn y darganfod i raddau helaeth.

Ond gwerthfawr yw cysondeb ystyrlon. Mae hyn yr un mor wir wrth sylwi ar y

model o Gymraeg llafar a ddefnyddir. Hynny yw, os cyflwynir un model neu gywair

ieithyddol, dylid glynu wrth hynny am sbel. Os cyflwynir sawl model yr un pryd (peth

eithriadol o anodd, ond peth a wneid ar y cyfryngau weithiau) yna dylai fod yn gwbl

glir i’r dysgwr beth yw union berthynas un darn o ddysgu ac un arall. Er enghraifft

mewn cwrs cenedlaethol lle y cymysgir modelau tafodieithol, gall y dysgwr wynebu

cymysgedd difrifol iawn yn ei gasgliadau ei hun, am fod y modelau a glyw yn dod o

eneuau tafodieithoedd gwahanol.

Adeilad cyflawn fydd yr iaith yn y pen draw. Ond fe’i hadeiledir drwy roi

bricsen ar fricsen. Nid yw’n gall i’r adeiladwr osod bricsen ar gyfer y gegin yn gyntaf,

ac yna oherwydd bod y lolfa’n rhan hanfodol o fywyd naturiol fynnu gosod y fricsen

nesaf ar gyfer y lolfa. Wedyn, er mor ddefnyddiol yw ystafell wely, nid ar ôl gosod y

ddwy fricsen yna y mae’n gall rhedeg draw i ddechrau ar yr ystafell wely. Rhaid rhoi

sylfaen cadarn i’r holl adeilad cyn meddwl am ystafelloedd y t.

Cydlyniad yw iaith. Cydlyniad strwythurol ar gyfer dweud popeth. Ond

cydlyniad yw sy’n adeiladu brawddegau o ran trefn dysgu ac adeiladwaith meddyliol yn

ôl eu perthynas gystrawennol â’i gilydd.

Cydlyniad yw hefyd tuag at fynegi ffwythiannau, yn ddiau. Mae’r cysylltiad

rhediadol brawddegol â’i gilydd, yn bynciol, yn ystyriaeth gwbl allweddol. Ond ni

byddir yn mynegi ffwythiannau a thybiannau nes bod y cystrawennau hanfodol yn eu

lle, o leiaf yn rhannol. Nid neidio o ffwythiant i ffwythiant a wneir gan anwybyddu trefn

adeiladu’r cystrawennau. Ar sail cydberthynas y mecanwaith mewnol a adeiledir ar

gyfer mynegi iaith yr eir ati i wynebu’r ffwythiannau. Y sefydlog cyn yr ansefydlog. Y

cyffredinol cyn yr arbennig. Y testun cyn y cyd­destun.

156

Mae’r ffwythiannau’n bosibl yn ôl adeiladwaith yr iaith ei hun. Cydlyniad

deinamig yw iaith rhwng y mecanwaith dweud cynhyrchiol a’r hyn a ddywedir, y

cynnyrch ei hun, rhwng ‘gramadeg’a ‘geirfa’. Dyw neidio o gwmpas yr ail tan

anwybyddu’r cyntaf — oherwydd delfryd ynghylch siarad ffwrdd­a­hi ar unwaith ddim

yn mynd i feithrin siaradwyr hyderus amlochrog. Y cyfuniad yw’r ddelfryd. Nid

symleiddio a geisir tan anwybyddu adeiladu ieithyddol cydlynol, er mwyn rhestru

ffwythiannau; ond cynhyrchu’r ail o’r cyntaf.

Yn yr un modd, ond ar y llaw arall, ni ddylid dysgu gramadeg ail iaith yn

academaidd wahân heb ei fod yn arwain yr un pryd mor uniongyrchol ag sy’n bosibl at

siarad ymarferol. Sonia Geraint Wyn Jones yntau yn ei gyfrol Agweddau ar Ddysgu

Iaith (1993) am y cyfuno hwn. Ar ôl cyferbynnu cyrsiau cystrawennol/sefyllfaol â

chyrsiau ffwythiannol, dywed,

Fel y gellid tybio, gellir troi un math o gwrs yn gwrs o fath arall. Gellid, er

enghraifft, droi’r deunydd a geir yn Siarad Sionc tud. 9, (sydd yn

Ramadegol/Gystrawennol) yn un ffwythiannol ei naws.

Yr hyn sy’n f’anesmwytho yngln â’r ‘cyfathrebwyr’, sydd i raddau’n sosioieithyddwyr

(er eu bod yn cyfyngu’n arw ar y teitl glew a pharchus hwnnw), yw’r

negyddu. Ni byddwn yn amau defnyddioldeb ffactorau cymdeithasol wrth astudio’n

llawnach amgylchedd iaith. Er mwyn ymgyfarwyddo ag arferiadau ieithyddol, y mae’n

weddus estyn y defnyddiau felly a’u miniogi a’u coethi o hyd mewn cyrsiau. Ni ddylai

fod pall ar wella sylwedd nac amgylchiadau dysgu iaith. Ond oherwydd honni’u

rhagoriaeth negyddol, teimlid bod ymgyfyngiad i berfformiad a disgwrs, a hynny heb

ddeall yn drwyadl beth a ddigwyddodd mewn strwythureg, a heb sylweddoli’r

gydnabyddiaeth o leoliad Mynegiant o fewn y gwaith ieithyddol.

Hynny yw, canolid ar rwydwaith semantaidd gan neidio’n wyllt o amgylch

cystrawennau. Ac mewn gwirionedd, y rhwydwaith cystrawennol yn ôl y ffwythiant,

nid y ffwythiannau ynddynt eu hunain fel y cyfryw, yw sylwedd canolog y dysgu.

Cludir y rhwydwaith cystrawennol o ffwythiant i ffwythiant ar ôl ei sicrhau yn offeryn

hylaw a diogel yn gyntaf.

Cofiaf weld un tro wers o gwmpas y thema ‘cyfarch’. Fe gyflwynid hanner

dwsin o ffyrdd gwahanol o gyfarch, ynghyd ag atebion, heb fod yna fawr o gyswllt (na

dim bwriad i gael hynny) rhwng y cystrawennau â’i gilydd. Dyma chwiw a droes yn

obsesiwn. Pan fabwysiadwyd y cysyniad o ffwythiant gan y byd ail­iaith, cafwyd

cyfraniad pendant. Pan droes ffwythiant ei gefn ar adeiladwaith iaith, cafwyd

anghymwynas. Bodloner, felly, am dipyn wrth drafod ‘cyfarchiad’ar un neu ddau

‘gyfarchiad’gweddol ddefnyddiol.

Yn yr adwaith bellach sy’n tyfu yn erbyn ffwythiant, y gobaith yw na fychenir

gwerthfawredd y cysyniad hynafol hwnnw. Yn arbennig (i ddysgwyr aeddfed) na

fychaner y perfformiad ymarferol yn ôl anghenion sefyllfaol, seicolegol, a diwylliannol

(ymddygiadol). Mae yna ddigon o fylchau yn nulliau’r gorffennol, bid sir, wrth

ganfod ffolinebau’r ‘cyfathrebwyr’. Un o’r pleidwyr cyfathrebol pennaf yw D. H.

Hymes, a gellid cyfeirio efallai at ei ddadl o blaid dysgu’r ‘anramadegol’yn ôl y

priodoldeb cyd­destunol. Dyma ychydig o chwarae ar yr ymylon, tebyg i ambell chwiw

esoterig a gafwyd yng Nghymru. Byddaf i’n synied, er enghraifft, fod angen i

ddysgwyr feistroli un gystrawen a welais mewn pennawd bras yn un o’r papurau

tabloid Saesneg (‘We was robbed’) braidd yn hwyr yn y cwrs. Diffyg cynildeb a diffyg

synnwyr cyffredin am drefn sy’n gorwedd y tu ôl i amryw gyrsiau gydag ystyriaethau

o’r fath, fel sydd y tu ôl i’r awydd gan rai o’n cyrsiau cyhoeddus i ddysgu mwy nag un

dafodiaith Gymraeg yr un pryd.

157

(viii) Ail iaith yn gyfrwng Pwnc

Pan ddechreuodd ysgolion Cymru gael gwersi yn ôl nodau cyfathrebu neu

ffwythiannau, anwybyddwyd i bob pwrpas bob ystyriaeth arall yn y broses o ddysgu ail

iaith. Cafwyd rhestr ddechreuol o dasgau a oedd, yn ei hanfod, yn ddiderfyn. A

barnwyd mai priodol oedd dechrau’n weddol fuan gyda gweithredoedd megis ‘cyfarch,

mynegi hoffter, gofyn caniatâd, ymddiheuro, holi’r ffordd, trafod diddordebau, mynegi

barn, cytuno, anghytuno, holi yngln ag amser, gofyn am fenthyg rhywbeth, gwneud

trefniadau at y dyfodol’ayyb Dywedwyd: ‘Mae angen trefnu’r maes llafar ar sail cyfres

o dybiannau a ffwythiannau — nid ar sail strwythurau’.

Sylwer ar y gwaharddiad yn y ‘nid’yna. Anwybodaeth o natur dysgu iaith oedd

hynny. Ond dewch inni sylwi ar y wir sefyllfa ddysgu ac ar natur y ffwythiannau

realistig.

Mae’r plant mewn dosbarth. Does dim cefndir arall yn y fan hon ar y pryd.

Dyma’u bywyd beunyddiol. Y realiti yw’r athro o’u blaen neu ynghanol y dosbarth.

Nid holi’r ffordd y maen nhw. Nid ceisio gwybod sut mae prynu sglodion. Mae’r

dysgwyr mewn sefyllfa o ennill gwybodaeth arall. Byddant yn y math hwn o sefyllfa

beunydd yn dysgu ffeithiau neu syniadau newydd. O bosib ar ôl hon byddant yn cael

gwers am fyd natur, hanes neu ddaearyddiaeth, mathemateg, ysgrythur, neu ymarfer

corff. Dyma gryn gyfran o fywyd y plentyn. Maes o law byddant yn mynd allan i

chwarae. Os yw Mandy’n byw yn Sblot, neu rywle realistig cyffelyb, dyw hi ddim yn

debyg o fynd allan i ofyn yn Gymraeg i’r person cyntaf y mae’n cwrdd ag ef, ‘Beth

yw’r ffordd i’r orsaf?’Mae yna ffwythiannau eisoes iddi o flaen ei llygaid, oes, a

sefyllfaoedd, rhai real a chanddynt gyd­destun cyfarwydd. Yn bennaf, dyna gyd­destun

Addysg.

Fe’n hysgogir ni i ailystyried y cynnwys gwybodol mewn gwersi ail­iaith gan

waith gwych a wnaethpwyd yn Ysgol Maes Garmon yn ddiweddar. Disgrifiwyd y

gwaith yn fanwl mewn dau le gan Dr Cen Williams. Mae’r disgrifiad ar gael yn gyntaf

yn Ennill Iaith,(Ysgol Addysg, Prifysgol Cymru, Bangor 2002), ac yn llawnach mewn

adroddiad tua 36,000 o eiriau ar y We. Dyma un o gamre mawr yr ugeinfed ganrif.

Ceir dosbarth cyfan o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed sy’n dod i mewn i addysg

dwyieithog am y tro cyntaf a geid ar ddechrau’r ysgol uwchradd a’r math o raddio

mewn pwyslais pynciol sy’n fuddiol ar y gwastad hwn. Yn groes i’r arfer, sylweddolir

mai’r trefn briodol i gyflwyno pynciau yw:

Cam 1: Pynciau Ymarferol, e.e. Addysg Gorfforol, Technoleg, Celf

Cam 2: Pynciau fel Mathemateg a Gwyddoniaeth

Cam 3: Pynciau dyniaethol gan gynnwys Addysg Grefyddol,

Daearyddiaeth, a Hanes

Wrth reswm, y mae’r dasg o ddysgu iaith (a’i defnyddio fel cyfrwng meddwl a

gwybodaeth) yn gwbl wahanol o fewn cyd­destun oedolion, ac yn sicr o fewn

cyfundrefn addysg lle nad ydym hyd yma wedi cymryd dwyieithedd o ddifri. Ond

rhwng 20au a 70au’r ugeinfed ganrif, cafwyd ymgais arloesol yng Nghymru — hyd yn

oed o fewn y gwersi ail iaith prin a geid o fewn y sefydliad ceidwadol uniaith — i

gymhwyso’r ail iaith at ‘gynnwys’testunol.

Diau fod angen helaethu’r sefyllfaoedd all­ysgol. Mae angen hefyd ddyfeisio

ffyrdd i ysgogi ymddiddan rhwng plant â’i gilydd.

Gwaetha’r modd, gyda dyfodiad y gyfundrefn ffwythiannol amddifad a blêr,

drylliwyd y dull datblygol a ffrwythlon hwn. Ac wrth inni weld eclectigiaeth ffwrdd­âhi

yn tyfu heddiw, yn lle ffwythiannaeth, ni sylweddolwyd yr angen i fod yn gwbl

158

ymwybodol a threfnus wrth ystyried natur unigol a pherthynas Tafod a Mynegiant.

Hynny yw, yr angen i ddeall y broses.

Yn Yr Athro un tro bu Goronwy Phillips yn trafod sut i ddatblygu dysgu drwy

gyfrwng y Gymraeg fel ail iaith o’r tu mewn i ysgolion Saesneg eu hamgylchfyd:

Ymarfer Corff, Gwaith Llaw, ac Ysgrythur yn bynciau da i ddechrau. Maes o law

cyhoeddodd Goronwy Phillips dri llyfr — Llyfr Adar, Natur i Ddysgwyr, a Storïau am

yr Iesu, y cwbl i ddysgwyr, y cyntaf yn cynnwys cwis, gwaith llaw, cân a chroesair; a’r

olaf yn rhoi cyfarwyddyd sut oedd defnyddio’r darnau darllen ynghyd â dril dwyieithog

neu holi ac ateb. Mae’n amlwg yn ôl ysgrifau eraill gan Goronwy Phillips yn Yr Athro

ei fod yn ymwybodol iawn o ddysgu strwythurol.

Pan oedd Gwyn Daniel yn dysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn ardal y Dociau,

Caerdydd, fe gyhoeddodd yn gyfrol wersi daearyddiaeth ail­iaith a brofodd yn arloesol

yng Nghymru. Fe’i holynwyd ef gan Moelwyn D. Preece a oedd yn gweithio ar y pryd

mewn Ysgol Uwchradd Fodern (sef y plant a wrthodwyd gan y Sgolarship) mewn un o

ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Cyhoeddodd yntau rai o’i wersi yn Yr Athro, a

chefais innau’r fraint gyffrous o’i weld ef wrthi’n cyfareddu’r plant gyda gwersi natur,

gwersi hanes, ysgrythur, a daearyddiaeth. I mi dyma ddatblygiad gwreiddiol a

Chymreig. Yn hytrach na cheisio dynwared yn slafaidd wledydd eraill, (fel y

gwnaethpwyd yn ‘oes y cyfathrebu’), y mae’n fath o ddull lle y gallai’r Cymry arwain y

ffordd.

O’r holl arbrofion gwreiddiol a ddatblygodd Cymru ym myd ail iaith yn yr

ugeinfed ganrif, y pwysicaf yn fy mryd i oedd datblygu’r iaith fel cyfrwng. Peth iach a

phriodol yw hi i’r ail iaith gael ei chysylltu â holl weithgaredd yr ysgol: wedyn mae’n

gweithredu fel y dylai iaith ei wneud, ac yn ymgyfoethogi’n naturiol.

Os yw plant Cymru ddi­Gymraeg yn mynd i ennill eu hiaith drwy’r ysgolion fe

fydd dechrau’r math hwn o waith yn gynnar yn y cwrs addysg yn gwbl hanfodol.

Hedyn y datblygiadau hyn a welwyd yn y cyhoeddiadau Cymraeg a gafwyd ar y pwnc

hyd yma. Hynny yw, fe allwn weld fod posibilrwydd, hyd yn oed tu fewn i gyfyngder yr

amser presennol ar yr amserlen, i’r Gymraeg weithredu lawer mwy fel cyfrwng. Ond,

yn ôl arbrofion sydd wedi bod mewn ambell le’n ddiweddar, lle mae’r Gymraeg yn cael

lle sylweddol dros gyfnod byr — h.y. cwrs dwys — mae modd gweld y math hwn o

waith yn blodeuo’n gyflym lwyddiannus.

Mewn arbrawf a gynhaliwyd ychydig o flynyddoedd yn ôl gyda’r Saesneg fel ail

iaith ymysg Pwyliaid rhwng 6 a 11 oed, fe geisiwyd gweld faint o’r ail iaith a oedd yn

angenrheidiol cyn y gellid ei defnyddio hi fel cyfrwng dysgu. Dyma gasgliad yr

awduron ar ffurf tabl:

Testun Oed Geiriau Cyffredinol Geiriau Arbennig Oriau Dysgu

Hanes 11 ­ 15 370 0 35

Bioleg 11 ­ 15 370 4 35

Daearyddiaeth 9 ­ 11 288 0 28

Rhifyddeg 6 ­ 9 132 0 15

Gyda chynllun gofalus does dim rheswm pam na ellir datblygu llawer o’r gwersi

Cymraeg fel ail iaith i’r cyfeiriad yna, ac yna gorlifo i diriogaeth pynciau eraill. Da

fyddai cael yn fuan gyfres o lyfrau ar bynciau megis Natur, Daearyddiaeth, Rhifyddeg,

Hanes ayyb, wedi’u graddio’n bwyllog er mwyn bwrw ymlaen gyda’r arbrawf pwysig

hwn.

159

Er fy mod am gyfnod wedi gorfod cadw llygad, fel rhan o’m gwaith

beunyddiol, ar ddatblygiadau ym myd dysgu iaith mewn gwledydd eraill, sylwais i ddim

y pryd hynny ar yr un wlad a oedd wedi arbrofi mor amrywiol ag y gwnaeth Cymru i’r

cyfeiriad hwn. Dyma ddatblygiad go Gymreig ar y cyfan. A dyma’r datblygiad pwysicaf

ym myd dysgu ail iaith, yn ddiau. Eled o nerth i nerth.

Dywed V. A. Artemov, (1961), ‘The Psychology of Speech and Instruction in

Speaking a Foreign Language’(SCR Education & Psychology Bulletin, Vol. 8, Nos.

3­4, t. 26):

Communication theory shows that in any process of communication is

by signals, including features and conditions, it is possible to lay down

certain requirements for the successful establishment of the teaching

relationship between teachers and pupil. Firstly the subject matter of the

lesson should be related to the other subjects being studied at school,

and be a source of information for them.

Gweler, er enghraifft, ôl­rifynnau’r Athro:

Natur: Margaret Rosser, 1938, 4­9, 39­44, 72­77, ayyb

Hanes: D. O. Roberts, 1938, 10­13, 46­51, 81­82; Gwyn Daniel, 1938, 210­211;

1940, 13­14, 73­75, ayyb

Rhifo: Tom Jones, 1929, 121­125; Abigail Jenkins, 1935, 328­331, 361­364, ayyb

a holl erthyglau amrywiol Moelwyn Preece a gwaith Gwyn Daniel ar Ddaearyddiaeth,

ayyb O! Gymru, gwybyddwch eich gorffennol. Dyna lwybr nas cymerwyd —

gwaetha’r modd; un o lawer.

Diwylliant Cymru a’r Ail iaith:

Mae pob athro ail­iaith sy’n dysgu’r Gymraeg hefyd yn genhadwr dros y

diwylliant. Gelwir arno i sôn am gysylltiad lle, llên, person, a thraddodiad, nid yn unig

oherwydd bod yr athrawon hanes weithiau mor esgeulus ac anneallus ynghylch y

pethau hyn. Disgwylir iddo wneud hyn nid yn unig er mwyn ychwanegu lliw a

diddordeb at ei ddefnyddiau ieithyddol. Ond fe ddylai geisio cysylltu’r iaith â bywyd

traddodiadol y Cymry am fod y naill a’r llall yn annatod; mynegiant o’r naill yw’r llall

— dyma’r lle mae’n gartrefol — ac nid yw iaith in vacuo yn iaith mewn gwirionedd o

gwbl.

Tybed a allwn ni nodi pa elfennau amlwg yn y diwylliant Cymreig a ddylai gael

eu hadleisio’n barhaus mewn gwersi ail­iaith?

1. Enwau lleoedd: gwneuthuriad ac ystyr rhai o’r enwau.

2. Daearyddiaeth: lleoliad ac enwau trefi a phentrefi, afonydd, a mynyddoedd. Dylai

siâp Cymru ddod yn rhwydd gyfarwydd i bob plentyn mor gynnar ag sy’n bosibl; ac yn

sicr o wyth oed ymlaen. Fe ddylai ddod i wybod yn o lew ymhle mae’r siroedd, a pha

leoedd sy’n fwyaf adnabyddus ynddyn nhw.

Wedyn fe ddaw gwybodaeth bellach am Gymru — ei diwydiant a’i phoblogaeth, ac yn

y blaen, yn sgil y sylfeini hyn.

3. Hanes a Chwedlau: Mae’n rhaid cysylltu’r lleoedd â phobl ac â’r gorffennol. Prif

bwrpas y wlad yw bod yn gartref i bobl. Y cymeriadau hyn fydd deunydd rhai o’n

gwersi. Fel y gellir dysgu berfau ac arddodiaid drwy fanteisio ar yr enwau lleoedd a’r

ddaearyddiaeth, gellir dysgu enwau ac ansoddeiriau drwy wybodaeth hanesyddol.

4. Caneuon: Mae’r BBC yn manteisio llawer ar y cyfrwng hwn, yn donau ac yn eiriau.

Dichon wrth ddysgu ail iaith mai iawn yw cymhwyso’r iaith i ateb y patrymau sy’n

weddus i’r dysgwr ar y pryd, er bod sefyllfa debyg i sefyllfa draddodiadol y gân werin

yn bosibl weithiau. Ond da i blant ambell dro ddysgu cân Gymreig bwysig — boed yn

160

gân bop ddiweddar iawn, yn hwiangerdd, yn gân werin, yn faled, yn anthem

genedlaethol neu’n emyn — a hynny yn y geiriau gwreiddiol, heb hidio am raddio na

geirfa na gramadeg.

5. Darllen Saesneg: Ni raid i blentyn dyfu i lefel uwchradd ac aeddfed y person sy’n

medru ymgodymu â chyfieithiad o gerddi a chyfieithiad o’r Mabinogion gan eraill cyn y

bydd yn medru mwynhau darllen am Gymru yn Saesneg. Cyhoeddwyd bellach ugeiniau

o lyfrau buddiol ar lawer lefel ac ynghylch llawer agwedd, sy’n dwyn gwybodaeth ac

ymwybod â Chymru o fewn cyrraedd y Sais neu’r Cymro Seisnig.

Yn fyr, Cymru ymysg pethau eraill, ond Cymru’n sicr ac yn bennaf, ddylai fod

ar ganol y gwersi ail­iaith a llawer o waith arall yr ysgol. Fe ddylai’r plant glywed am ei

phethau a gweld ei llun mor aml nes iddi gael ei cherfio ar eu calonnau.

Fe geisiwyd eisoes yn Cyflwyno’r Gymraeg, o goffadwriaeth hynafol, awgrymu

rhai testunau a dulliau o’u trafod yn arbennig ar gyfer Daearyddiaeth a Hanes (tud. 76­

89). Erys, ysywaeth, yn amserol.

Uned hwylus ar gyfer cyflwyno cyfres o wersi cydgysylltiol yw’r sir, e.e.

Ceredigion: Chwedlau am Gantre’r Gwaelod; a Dewi yn Llanddewibrefi (crybwyller

yn y cyd­destun hwn enw’r lle Llan­non) yr enwogion — Dafydd ap Gwilym a Daniel

Rowland, ac yn sicr Twm Siôn Cati.

Sir Gaerfyrddin: Chwedlau Llyn Llech Owain a Llyn y Fan Fach; Hywel Dda; Ficer

Pritchard a’r emynwyr, Gruffydd Jones a’i ysgolion. Y cestyll.

Sir Benfro: Dewi; y Mabinogi; Gerallt Gymro; Jemeima Niclas a Barti Ddu; Rebeca.

Gwynedd: Caneuon — Fflat Huw Puw; Dafydd y Garreg Wen; Gwenno aeth i Ffair

Pwllheli; Madog; y ddau Lywelyn; Lloyd George; yr Wyddfa; Beddgelert a’i stori.

Caneuon — Ffarwel i Blwy Llangywair; Rhyfelgyrch Gwr Harlech; Mynd hefo Deio i

Dywyn; Clychau Aberdyfi; Mari Jones; O. M. Edwards; Urdd Gobaith Cymru. Cestyll.

Sir Drefaldwyn: Cyfieithu’r Beibl — William Morgan; Robert Owen a Richard Wilson;

Ann Griffiths; Cân Deryn y Bwn o’r Banna. Howel Harris.

Sir Ddinbych: Cân — Morfa Rhuddlan; Owain Glyn Dr; Twm o’r Nant; Ceiriog.

Sir Faesyfed: gw. llyfrau gwych Ffransis Payne.

Sir Fôn: Cân — Titrwm Tatrwm; Tuduriaid; Goronwy Owen; J. Morris­Jones.

Sir Forgannwg: Caneuon — Rwy’n caru merch o blwy Penderyn; Bugeilio’r Gwenith

Gwyn (a’r stori); Ffarwel i Langyfelach Lon; Anturiaethau Ifor Bach; Iolo Morganwg;

Dic Penderyn; Guto Nyth Brân; Dr Price o Lantrisant.

Gwent: Dawns Llanofer; Caerllion a’r Rhufeiniaid yng Nghymru; Harri Morgan; Y

Siartwyr.

Sir y Fflint: Cân — Yr Asyn a fu Farw; Daniel Owen.

Ac wrth gwrs at yr uchod fe ellid ychwanegu’r cwbl o’r afonydd a threfi a

mynyddoedd pwysig yn y siroedd, heblaw diwydiannau.

Calendr yr Iaith

yr rhai ohonom am wersi ail iaith Moelwyn Preece, megis yr un am ras gychod

Rhydychen a Chaergrawnt (Yr Athro, XI, 232) a gwersi cyffelyb lle y ceisid clymu

newyddion yr wythnos wrth gynnwys y wers iaith. Hynny yw, digwyddiadau’r dydd.

Gadewch inni fwrw golwg ar y calendr o safbwynt dathliadau hanesyddol

Cymreig ac arall: Y Flwyddyn Newydd, Dydd Gyl Dewi, y Pasg a’r Sulgwyn,

Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, Guto Ffowc, Nadolig.

Newyddion y Dydd

Soniasom am wers Moelwyn Preece ar ras gychod Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae ganddo wers arall (Yr Athro, XI, 323­325) ar griced y gellid ei chymhwyso’n

161

ddigon rhwydd i ryw ddigwyddiad megis buddugoliaeth Morgannwg ar Awstralia. Os

oes un peth yn anad dim a ddysgasom wrth ddarllen gwersi Moelwyn Preece (a rhai

ohonom wrth eu gweld), dyna ydyw — i beidio â bod yn rhy betrus yn nhestun ein

gwersi ail­iaith. Byddwn yn uchelgeisiol. Sylwer ei fod ef bob amser yn gofalu cynnwys

rhyw bwynt o wybodaeth gyffredinol newydd yn ei wers iaith. Pe bai’n sôn am saethu

sbwtnig, dwi’n sir y cynhwysai naill ai enw’r gwyddonydd, y lle, neu’r dyddiad, neu’r

tri, efallai, wrth adeiladu camre ei wers.

Yr hyn sy’n bwysig, heblaw penderfynu ar destun amserol, yw crynhoi’n gynnil

yr eirfa sy’n arbennig ac yn anochel i’r pwnc. A’i graddio. Yn fy marn i, gwell

defnyddio cystrawennau a ddysgwyd eisoes mewn gwers fel hon: nid dyma’r achlysur i

gyflwyno patrymau ieithyddol newydd. Cadwer y gramadeg yna i wers neilltuol.

Ymarfer â hen gystrawennau (h.y. adolygu), dysgu ychydig o eirfa newydd, ac yn anad

dim, dewch i deimlo’r ail iaith fel cyfrwng meddwl. Dyna bwrpas y math hwn o wers.

Ceisier carfanu’r cwestiynau h.y. os na ellir ailadrodd yn blwmp ac yn blaen,

(megis: Beth yw hwn? ayyb — sef bwrw golwg dros yr eirfa gyda help llun), yna

dosbarther y cwestiynau sy’n perthyn i’w gilydd yn grwpiau ar y dechrau fel hyn:

Oes cae criced yn ein hysgol ni?

Oes cae criced yn y Cymer?

Oes cae criced yng Nglyncorrwg? Ydy Llanelli ym Morgannwg?

Ydy Casnewydd ym Morgannwg? Ydy Caerdydd ym Morgannwg?

Beth yw pwrpas y fath ‘ddril’?

Mewn un gair, rhwyddineb. Rhoi hyder a chyflymder; rhoi teimlad i’r plant eu bod

nhw’n gwybod yr ateb. Ac y mae hyn yn hanfodol wrth ddysgu’r ail iaith.

Cyn troi at ymddiddan normal, cyn llunio amrywiol ffurfiau ar gwestiynau neu

atebion, glyner (dros wyth o frawddegau, dyweder) at un ffurf. Gwnewch hi’n ddril,

nes bod y plant yn teimlo’n gartrefol gyda hi. Ac adeiladu y wers fel hyn:

(i) Cyflwyno’r eirfa

(ii) Cyfres o ddriliau

(iii) Datgymaler y driliau nes eu gwneud yn ymddiddan ystwyth.

Gwaith llafar yw hynyna i gyd. Os teimlir llacio neu flino mewn diddordeb, yna

gellid sgrifennu dwy neu dair o frawddegau sy’n crynhoi ffeithiau’r wers, y wybodaeth

newydd. Os oes hwyl ar gwestiyna, yna gadawer y gwaith sgrifennu tan y munudau

diwethaf.

Un o’n beiau ni fel athrawon y Gymraeg (ail­iaith) pan fyddwn yn

mabwysiadu’r dull ffwythiannol, yw arafu’r wers drwy grwydro o ffurf i ffurf, o

anhawster i anhawster, o hyfforddi un math o batrwm i hyfforddi mewn math

gwahanol. Rhinwedd yr hen ddulliau union — naturioldeb rhyddid. Rhinwedd y dulliau

drilio — trefnusrwydd datblygiad. Priodwn hwy mewn dysgu gwybodaeth.

Rhifyddeg

Wrth feddwl am enghreifftio rhifyddeg drwy’r ail iaith, hoffwn gymeradwyo

dulliau a awgrymai Côte a’i gyfeillion yn y llyfr Écouter et Parler.

1. I fyny ac i lawr

Sgrifennu’r rhifolion (nid y rhifeiriau) 1­20 ar y bwrdd du. Ymarfer â dynwared dweud

cyfresi ohonynt, fesul pump. Wedyn, ar ôl adolygu fesul pump, neidio’n ddi­drefn y tu

fewn i’r pump; yna ymestyn hyd at yr 20. Cyfri’n gyflym 1­20 ymlaen, yn ôl odrifau ac

eilrifau. Ymarfer cadwynol a phlith draphlith. Dechrau ar 100, a thynnu saith bob tro.

2. Pa rif sydd ar ôl?

Arddywedyd y rhifeiriau yn Gymraeg a’r plant yn eu nodi fel rhifolion. Rhannu’r

dosbarth yn dimau, a galw’r rhifau fesul un, heb fod yn eu trefn. Wrth i’r athro eu

162

galw, mae’r dysgwyr yn eu dileu ar eu papur. Parhau hyd nes nad erys ond un rhif. Y

tîm a’r mwyaf o aelodau gyda’r rhif cywir sy’n ennill.

3. Adio a Thynnu

Nodi dau rif ar y bwrdd du (e.e. 4 a 6) a dweud: ‘Pedwar a chwech yw deg. Chwech a

phedwar yw deg’. Gwneud y sym ar y bwrdd du wrth adrodd y fformiwla. Dysgwyr yn

adrodd y fformiwla: yna rhoir y sym ‘Pump a phump yw deg’. Ymarfer â’r dull o

wneud symiau nes ei fod yn ddiogel. Yna, fesul tri dysgwr:

Dysgwr 1: naw

Dysgwr 2: chwech

Dysgwr 3: Naw a chwech ydy un deg pump.

Rhaid i bob un o’r ddau gyntaf, bob tro, roi rhif llai na deg er mwyn sicrhau nad

yw’r cyfanswm yn uwch na 20.

Ar gyfer tynnu, dilynir fformiwla cyffelyb: ‘Deg tynnu pedwar ydy chwech.’ayyb

Dysgwr 1: Un deg pump

Dysgwr 2: Un deg un

Dysgwr 3: Un deg pump tynnu un deg un ydy pedwar.

4. Bingo

Bingo cymwysedig: yr holl chwaraewyr yn defnyddio’r un set o rifau.

1 2 3 4

5 6 7 8

9 10 11 12

13 14 15 16

17 18 19 20

Gallant nodi hyn yn eu llyfrau. Hefyd cânt dorri marcwyr lliw o dameidiau o bapur

hirgul a ddosberthir gan yr athro. Bydd ef yn galw fel hyn, e.e. pump a chwech, a rhaid

i’r plant roi marciwr dros ben un deg un (a’r athro hefyd). Y cyntaf i lenwi rhes

groeslin, fertigol, neu lorwedd, sy’n ennill. Gyr pob athro sydd wedi defnyddio Bingo

ar gyfer rhifyddeg fod yma ddyfais ardderchog y gellid ei chymhwyso ar gyfer pob

math o feysydd: felly hefyd yr athro iaith — arian punt a phymtheg ceiniog (cuddio

sgwâr 18) ac yn y blaen; pwysau ayyb

5. Y Teulu

Defnyddia’r athro set o gardluniau, o fechgyn a merched, gydag enw ac oedran

o dan bob un. Dosbartha ychydig o’r rhain wrth ofyn i’r dysgwyr yn eu tro ddisgrifio’u

teulu dychmygol — er enghraifft:

Athro: Faint o frodyr a chwiorydd sydd gynnoch chi? Beth ydy ei oedran ef? (ei

hoedran hi)?

Dysgwr: Mae un brawd a dwy chwaer gen i. Fy mrawd ydy’r hyna. Guto ydy ei enw

ef. Mae e’n un deg naw mlwydd oed. Mae un o’m chwiorydd yn hn na mi. Lowri ydy

ei henw hi. Mae hi’n un deg saith mlwydd oed. Mae’r llall yn ifancach. Mari ydy ei

henw hi. Mae hi’n ddwy flwydd oed.

Ar ôl i un dysgwr ddisgrifio’r teulu dychmygol, fe fydd e’n cyfeirio at ddysgwr

arall, ac fe fydd hwnnw’n disgrifio teulu arall — dan gyfarwyddyd cwestiynau oddi

wrth yr athro efallai. O’r diwedd, fe ofynnir i unigolion ddisgrifio’u teuluoedd

gwirioneddol eu hunain.

Roedd Jespersen, un o ieithyddion mawr ei gyfnod, yn awgrymu ym 1904 y

dylid dysgu rhifyddeg drwy’r ail­iaith ar ôl mis neu ddau o hyfforddiant, a chymryd

163

gwersi cyflawn i wneud y gwaith. Dangosodd Schweitzer ym 1917 mor naturiol oedd

hyn nid yn unig wrth drafod meysydd geirfaol (arian, maint, amser a.y.b) ond hefyd

wrth gyflwyno gramadeg, unigol a lluosog, cymharu ansoddeiriau, adferfau maint, ayyb

Yngln â lledu ail iaith ar draws y Cwricwlwm, gw. New Perspectives on

Teaching and Learning Modern Languages, gol.. Simon Green (2000), ‘Learner

Autonomy: Why Foreign Languages Should Occupy a Central Role in the

Curriculum’, D. Little, 24­45; ‘Modern Languages within a Policy for Language in

Education’, Christopher Brumfit, 94­104; a hefyd From Communication to

Curriculum, D. Barnes (1976).

(ix) Egwyddorion wrth Raddio Patrymau

Ceisiaf yn awr nid graddio cwrs, ac nid hyd yn oed cyflwyno gynllun penodol o

batrymau graddedig, ond cyflwyno’r egwyddorion i’w hystyried ar gyfer y graddio. Ble

mae’r cwrs yn dechrau? Ym mha ffurf mae un patrwm yn perthyn i batrwm arall? Wrth

ystyried hyn mae yna dipyn go lew o wahaniaeth yn y math o ateb a geir gan

ieithyddiaeth drawsffurfiol Chomsky ar y naill law a strwythureg Seico­Fecanaidd ar y

llall. Un o’r gwahaniaethau mwyaf allweddol yw’r brawddegau sylfaenol.

I’m bryd i, rhestr sydd gan Chomsky, nid cyfundrefn a gyfiawnhawyd yn ôl

datblygiad rhesymegol. Ar sail sythwelediad ynghyd â phrofiad helaeth o ieithyddiaeth,

pliciodd Chomsky ei frawddegau sylfaenol ef o’r awyr, fel petai, heb esbonio sut na

pham. Pragmataidd yw’r cysylltiadau, mae’n ymddangos. Cynigiaf innau ar gyfer

trafodaeth y brawddegau sylfaenol canlynol, ac esbonio’u raison d’être:

1. Gwilym! [Un elfen]

2. Cyrhaeddodd Gwilym. [Dwy elfen]

3. Mae Gwilym yma. [Tair elfen]

Dyna gyfundrefn gyflawn a gorffenedig driol. Y frawddeg sylfaenol Gymraeg. Dyma

hefyd yn hanfodol drefn ddysgu’r baban. Fe ymgysyllta â chyfundrefn elfennaidd y

Rhannau Ymadrodd Traethiadol, a hynny mewn modd anochel, yn ôl yr awgrym a

roddais yn System in Child Language, sef

1. Enw [neu ragenw; neu ymadrodd enwol; neu gymal enwol] hunanddibynnol

o ran swyddogaeth ystyr.

2. Enw + Berf [neu ansoddair; neu ymadrodd berfol/ymadrodd ansoddeiriol;

neu gymal ansoddeiriol] yn dibynnu o ran natur ar yr hunanddibynnol.

3. Enw + Berf + Adferf [yr olaf yn yr ystyr feddyliol safleol a ddiffinnir fel hyn:

sef gair, ymadrodd, neu gymal sy’n dibynnu neu’n pwyso ar ddibyniaeth sydd

eisoes yn dibynnu ar hunanddibyniaeth]

Sut yr ymffurfiodd y triawd clwm hwn? Rhaid cael un cyn cael dau. Rhaid cael

dau cyn cael tri. Mae gan bob elfen ym mhob lefel frawddegol ei chymeriad ei hun.

Maen nhw wedi cael y ffurf unol gan wybodaeth neu sythwelediad gynieithyddol.

Hynny yw, mae pob brawddeg, pob strwythur yn wir, yn cael ei adeiladu o gylch un

egwyddor. Un egwyddor sy’n diffinio un gyfundrefn, ac y mae pob elfen yn ei thro o

fewn y gyfundrefn honno yn ymddwyn yn hollol wreiddiol a gwahanol i’r elfennau

eraill o ran trefn. Ffurfir cyfundrefn o berthnasoedd cydlynol. Yn achos strwythur y

frawddeg sylfaenol, tarddodd yr ymwybod cyffredinol o ddibyniaeth yn hollol ddiosgoi

o ddisgyrchiant. Gellir cynnal y cyfuniad cyferbyniol deuol neu driol yng nghefn

y meddwl yn ddi­fyfyrdod ac yn ‘reddfol’.

1. Hunanddibyniaeth. [Yr Enw yn fath o ganolbwynt disgyrchiant i’r meddwl

ac i’r frawddeg, gan ddechrau’n gyn­aeddfed ynddo’i hun. Gall Enw fod yn

hunan ddigonol. Gelwir ar Enw; ac y mae’n ymddwyn fel angor i iaith.

Dechreua iaith oll mewn Enw].

164

2. Dibyniaeth o’r radd gyntaf. [Dibyniaeth ar Hunanddibyniaeth yr Enw]

Estynnir drwy ychwanegu: ond crëir perthynas drwy ‘bwyso’. Dyma arloesi’r

cysyniad o berthynas.

3. Dibyniaeth o’r ail radd. [Dibyniaeth ar Ddibyniaeth sydd eisoes o ran

swyddogaeth yn pwyso ar Hunanddibyniaeth yr Enw]. Gall hyn fod yn

oleddfiad i’r ail, yn wrthrych i’r ail: gall fod yn air neu’n ymadrodd.

Dyma egwyddor driol a chydberthynas y gellir ei chadw’n isymwybodol gryno

yn yr isymwybod. Fe’i seilir ar ddelwedd elfennaidd. Mae’n ddigon disymwth i beidio

ag ymddangos yn egwyddor ramadegol gymhleth.

Mae’r frawddeg, neu’r gyfundrefn dri­yn­un, yn cynnig, drwy Dafod, ei

fframwaith i’w ddatblygu. Ond o fewn y fframwaith hwnnw, gellir amrywio drwy

drawsffurfiad mewnol. A gellir ychwanegu ato drwy ailadrodd a thrwy drawsffurfiad

allanol. Estynnir yn ymwybodol. Adeiledir ymadrodd. O ymadrodd i ymadrodd.

Adeiledir cymal. O gymal i gymal. Bob un yn cydberthyn yn ôl yr egwyddorion perthyn

a ddisgrifiwyd uchod.

Dyma ni’n symud o Dafod i Fynegiant, o’r hyn a alwai Chomsky yn deep

structure i surface structure. Ond mewn Mynegiant defnyddir strwythurau o hyd.

Amryweba’r arwyneb estynedig ar sail unrhywiaeth y sylfeini, e.e.

Trawsffurfiad Mewnol y Cwestiwn

1. Gwilym?

2. Gyrhaeddodd Gwilym?

3. Ydy Gwilym yma?

Trawsffurfiad Allanol [Ychwanegiad syml]

1. Gwilym a Mair!

2. Cyrhaeddodd Gwilym a syrthiodd.

3. Mae Gwilym yma ac mae Mair acw.

Trawsffurfiad Ymadrodd [Phrase]

Yn lle pob elfen unigol gellir cael disodliad yn ôl cyfundrefn yr Ymadrodd.

Fel y frawddeg, adeiledir yr ymadrodd ansoddeiriol ar sylfeini cyffelyb, e.e.

1. Enw: bachgen

2. Enw + Ansoddair bachgen drwg

3. Enw + Ansoddair + Adferf bachgen drwg iawn

Yn yr ymadrodd berfol:

Berf: + [rhagenw, enw] Mae +

Adferf (neu ymadrodd adferfol,

sef arddodiad + enw/berfenw) wedi dod

Yn yr ymadrodd adferfol

(arddodiad + enw)

ar y llawr.

Yn y gwaith o drefnu graddfa gynyddol mewn iaith, mae yna un ffwythiant

mewn Mynegiant sy’n sefyllfa ar ei ben ei hun goruwch y lleill i gyd. Os ydym yn anelu

at ymddiddan rhydd cyn gynted ag sy’n ddoeth, does dim pwysicach na meistroli’r

dechneg o holi ac ateb. Ac yn hyn o beth, gwelir fel y mae siâp y cwestiynau a holir yn

gymaint mwy sylfaenol i ddysgwr na’r math o sefyllfa neu faes semantaidd y mae’n

gorfod ei drafod yn y broses ddysgu. Siâp a natur y cwestiynau sy’n penderfynu i

raddau siâp yr ateb.

Wrth geisio llunio grid cwestiynau, sef map o’r holl faes, ac ystyried union hyd

a maint y broblem, gwelwn fod yna fathau gwahanol o gwestiynau, ac y gellid eu

dosbarthu’n ystyrlon, a bod y meysydd ffurfiol yn llawer mwy cynnil a mwy

165

cyfundrefnus na’r meysydd deunyddiol neu semantaidd. Mae’n bwysig iawn inni

bwyllo i ystyried hyd a lled y broblem hon. Wedi casglu’r wybodaeth sylfaenol, hynny

yw ar ôl lledu gerbron arolwg o’r holl ddulliau o ofyn cwestiynau, gellir canfod sut

orau y gellid penderfynu beth sydd rwyddaf, hynny yw ymhle o bosib y gellid

defnyddio siâp arbennig o gwestiwn yn gyntaf, yna’n ail, ac yna’n drydydd, pa fath o

gwestiwn sydd fwyaf cyffredin, ac yna, yr un mor bwysig, pa gwestiynau y gellid

cyferbynnu â’i gilydd.

Gadewch inni, felly, osod gerbron ryw fath o grid cyflawn, er mwyn gweld

ble’r ym ni’n ceisio’i gyrraedd erbyn y diwedd. Beth yw maint a chynnwys y dasg? Y

nod fydd cwmpasu hyn gan bwyll fel y bydd gan y dysgwr offeryn nerthol iawn a

sylfaenol odiaeth, mewn ffwythiant cyffredinol, sydd mewn gwirionedd yn diffinio man

cyfarfod mwyaf arwyddocaol y ddau draddodiad mewn dysgu iaith. Oherwydd, mewn

graddio patrymau ac mewn dosbarthu sefyllfaoedd, does dim yn bwysicach na’r hyn

sy’n gyffredin i’r naill a’r llall — sef holi ac ateb.

Sylwer mai’r cwestiwn yw un o’r camre cyntaf tuag at ymddiddan mewn cwrs.

A phriodol yw amlinellu’n llawn beth yw’r rhaglen ganolog ar gyfer cwestiynau drwy

gydol y blynyddoedd cyntaf. Dyma fap o’r diriogaeth. Fe’i dosberthir yn Gwestiynau

Cytundeb ac yn Gwestiynau Gwybodaeth:

I. CYTUNDEB

1. Berfol [Y ferf yn hanfod i’r cwestiwn]

(a) Oes ...? Ydy ...? Oeddwn ...? Fydden ...? ayyb

Ateb: Oes; nac oes; Ydy ... ayyb

(b) Welodd e? Aethoch chi? ayyb

Ateb: Do; naddo

2. Anferfol [Nid y ferf yw hanfod y cwestiwn]

Yn y t mae Twm? Ie.

Coch yw gwallt Megan? Nage.

Yr athro welodd y bachgen? Ie.

Yr athro oedd yn yr ystafell? Ie.

3. Ategu

(a) Gosodiad cadarnhaol + Ategyn negyddol.

Roedd e’n hwyr yn y caffe, ond oedd e?

Mae e’n dod i’r ddawns, ond yw e?

Hwn yw’r ateb, ond e? Nage.

(b) Gosodiad negyddol + Ategyn cadarnhaol.

Doedd e ddim yn hwyr, oedd e?

Fydd hi ddim yn dod i’r ddawns, fydd hi? Bydd.

Nid hwn yw’r ateb, nage? Nage.

II GWYBODAETH

1. Rhagenw

Pwy? Beth? Faint?

Sylwer ar 3ydd person unigol y ferf ‘bod’.

(a) yw: Pwy yw’r dyn? Beth yw e?

(b) sy: Pwy sy’n siarad? Pwy sy yn y Ty? Pwy sy’n dew?

(c) mae: Pwy mae’n siarad amdano? Beth mae’n ei wneud?

(Dibynna yw ar enw neu ragenw; sy gan unrhyw ran ymadrodd arall. Beth yw’r

gwahaniaeth rhwng Pwy sy’n gweld? a Pwy mae e’n ei weld? Yn y cyntaf Pwy yw

perfformiwr y weithred, ac yn yr ail Pwy sy’n derbyn y weithred.)

2. Adferf

166

Ble? Pam? Sut?

Ble mae’r bobl yn mynd heno? Ble mae’n ei wneud? Sut mae’n ei wneud?

(cf. Rhagenw uchod: mae)

3. Dewis

Yn y caffe mae Tom y prynhawn yma neu yn y sinema?

Ydy’r pregethwr yn dod neu ydy e’n mynd?

Nodyn arbennig:

Sylwer ar y cyferbyniad rhwng yr enw (neu’r rhagenw) a’r adferf (neu’r

ymadrodd adferfol) yn y frawddeg bwysleisiol, yn enwedig yw a mae (oedd ac roedd

ayyb)

Enw neu Ragenw

Dyn yw Tom. (h.y. dyn = Tom)

Dyn oedd Tom.

Dyn fydd Tom.

Dyn wnaeth y gwaith yma.

Felly mewn cwestiynau hefyd:

Beth ydw i?

Pwy yw Tom?

Faint oedd e?

P’un fydd yn dod?

ydych chi?

wnaeth y gwaith?

ddechreuodd y gwaith?

Adferfol (neu ymadrodd adferfol)

Yn y t mae Tom (h.y. nid: yn y t = Tom / cf. T Tom yw hwn.)

Ddoe roedd Tom yn cerdded.

Ar y bont gwnaeth y dyn y gwaith yma.

Wrth ei waith bydd Tom bob amser.

Felly mewn cwestiynau hefyd:

Cyferbynner:

Sut dw i?

Ble roedd e? (r yn rhagflaenu llafariad)

Pryd bydd Tom yn dod?

gwnaeth y dyn y gwaith?

’r aethon ni? (r yn rhagflaenu llafariad)

daethon nhw?

(a) Gyda rhagenwau — treiglad meddal os yw’n bosib (e.e. Pwy fydd yn dod?)

(b) Gydag adferfau — heb dreiglad: (e.e. Ble bydd Tom?)

167

Dyna’r amlinelliad o’r holl system gwestiynau gyflawn. Ar ôl ei weld felly,

gellir ystyried ym mha drefn olynol y gellid ei gyflwyno. Bydd y sawl sy’n paratoi’r

cwrs drwy gyferbynnu ac ailadrodd yn gwreiddio’r gwahaniaethau yn nealltwriaeth, cof

ac ymdeimlad y dysgwr.

Ar ôl llunio grid cryno o’r diriogaeth i gyd ar gyfer cwestiyna ac ar gyfer

llunio’r cymalau isradd cychwynnol, pwyllwn ac ystyriwn pa griteria ieithyddol yn

gyntaf, a chymdeithasol yn ail, sydd a wnelont â natur trefn y dysgu.

Yn gyntaf, fe welwn o ran rhwyddineb fod yna rai problemau sy’n fwy anodd

na’i gilydd. Y mae cytundeb/anghytundeb wrth holi ac ateb yn darparu problem

unigryw yn y Gymraeg i ddysgwr, gan nad oes un gair sengl cyson ar gyfer yes, na

chwaith o’r herwydd ar gyfer no. Dyma broblem ddysgu sy’n gofyn sylw a threfn, neu

bydd yn peri anhawster parhaol am gryn amser i ddysgwr. Datrysir y broblem yn syml

drwy raddio iaith yn garcus.

Yn ail, y mae’n amlwg bod y broblem hon yn hawlio dysgu cyferbyniol. Dim

ond drwy adnabod y broblem, a’i hwynebu’n ailadroddol gyferbyniol y daw’r dysgwr i

ganfod ac i ymaflyd yn yr ateb. Rhaid gwahaniaethu yn y meddwl ac yn y dysgu yn

benderfynol rhwng ‘ydw’ac ‘ydy’, yn fuan iawn ar ôl eu meistroli’n unigol. Yna, yn

fuan, bydd angen gwahaniaethu’n benodol ymwybodol rhwng ‘ydy’ac ‘oes’. Ffolineb i

drefnwr cwrs yw gadael iddi. Fe wêl y broblem, a thrwy ymarfer gofalus ac ailadrodd

dethol a threfnedig, fe’i datrysa.

Yn drydydd, rhaid cadarnhau a dyfeisio gwahanol amgylchiadau a dethol

ffwythiannau sy’n dilyn ei gilydd, nid rywsut rywsut, ond yn syml am eu bod yn gallu

atgyfnerthu’i gilydd o ran ailadrodd siâp yr holi a’r ateb. Rhan bwysig o waith graddio

iaith cwrs yw sicrhau bod yna gyfle buan a chyson achlysurol i ddychwelyd at broblem

ieithyddol, i’w hymarfer o’r newydd gan adolygu’r hyn a ddysgwyd eisoes heb dybied

‘O! unwaith y mae wedi’i ddysgu gellid ei adael, a symud ymlaen yn ddisylw mwyach

er mwyn trafod problemau eraill’. Y mae grid cwestiwn ac ateb yn gallu darparu

patrymwaith cyflawn o’r ffordd y gellid rowndio’n rheolaidd unrhyw faes semantaidd,

gan ddychwelyd i’w atgyfnerthu.

O gam i gam yr eir yn bell.

Ond pwyller ar bob cam ynghylch beth yw’r cam cysylltiol mwyaf defnyddiol a

mwyaf cysylltiol nesaf.

Yn awr, gadewch imi bwysleisio eto, ni ddisgwylir mewn cwrs fod y dysgwyr

yn ymhél â thermau megis ‘ymadrodd adferfol’, ayyb. Ond fe ddisgwylir bod yr athro

yn cyflwyno’r patrymau brawddegol, tebyg gyda’i debyg. Nid trefniant academaidd i’w

ddysgu’n ddeallol i’r meddwl dadansoddol yw gramadeg yn y cyswllt hwn, ond

patrymwaith i’w drefnu ar gyfer ymarfer.

Yr wyf yn ymwybodol iawn bod y drydedd elfen (yn y frawddeg graidd driol),

sef ‘yr adferfol’yn ôl yr ystyr newydd, yn eang, yn dra chynhwysfawr, ac o’r herwydd

yn gallu peri anawsterau. Fe all fod yn adferf fach gyffredin (ddoe, heddiw), ond fe all

hefyd fod yn wrthrych i’r ferf: ‘arferfol’efallai fyddai’r term gorau. Ond sylwer: nid yn

unig y mae’n cynnal prop priodol ac ystyrlon yn siâp neu fframwaith hanfodol driol y

frawddeg, credaf hefyd ei bod yn ffurfio triawd mewn ymarfer patrymau. Mae

ymdeimlad isymwybodol o berthynas a siâp cof y dysgwr yn cydweddu â chyferbyniad

triol cynhenid yr iaith.

Dewch yn ôl o’r strwythurau at ein cyfeillion, y ffwythiannau. Yn y gwaith

ymarferol o glymu ffwythiant/tybiant/sefyllfa mewn strwythur olynol, gwiw yw

adeiladu tablau disodli o gylch geirfa gydlynol, hynny yw priodi patrwm a geirfa

168

ddethol sefyllfaol, a all esgor ar Seriensystem neu o leiaf gyfres o frawddegau olynol lle

mae’r brawddegau yn canoli ar ei gilydd. Cymerwn y sefyllfa o osod y ford.

Wnewch chi nôl y gyllell

y llwy fawr

y plât ayyb

Oes rhywun wedi gweld y gyllell?

Ydy’r gyllell wrth ochr y drôr?

fforc ar bwys y cwpwrdd?

llwy fawr o dan y silff?

llwyau ar y plât

soser goch

y llawr?

sosban fach

y tân?

Ydy hi

Ydy e

Ydyn ni

Ydych chi

Ydyn nhw

Awgrymir: ar ôl llunio rhestr o ffwythiannau/tybiannau/sefyllfaoedd y

flwyddyn, ac yna llunio rhestr olynol strwythuredig o batrymau, y dasg nesaf — a’r

gamp ddidactig ganolog — yw matsio.

Y dull delfrydol o gyfuno strwythur â sefyllfa yw drwy ystyried o’r dechrau —

Pa sefyllfa a fydd yn dysgu’r strwythur cyntaf? Pa sefyllfa (neu ffwythiant) sy’n addas

i’r ail? Hynny yw, mae’r deunydd fel haenen o dan haenen, neu haenen o fewn haenen.

Felly, mewn cyfrol i ddysgu’r Ysgrythur drwy gyfrwng yr ail iaith, dechreuwyd

gyda map o Israel. a holwyd:

Ble mae Jerwsalem? Mae ... yma.

Môr Galilea?

Bethlehem?

Capernaum?

Samaria?

Nasareth?

Felly y sefydlwyd y brif frawddeg sylfaenol, a hynny o fewn sefyllfa gyfathrebol

o ddefnyddio’r ail iaith fel cyfrwng.

Rhaid oedi a phwysleisio drachefn arwyddocâd yr ymwybod â strwythurau. Fe

aeth yr ‘adwaith amddifad’o ddysgu sefyllfaol noeth, sy’n cawlio trefn a pherthynas

strwythurau, mor eithafol mewn rhai achosion allweddol nes bod y cawl a’i canlynodd

yn wir drasiedi. Rhan hanfodol o’r iaith yw strwythurau. Ac mewn cwrs ymwybodol a

threfnus, lle nad oes amser dysgu afradlon naturiolaidd i’w gael dros gyfnod o

flynyddoedd lawer, na chyswllt naturiolaidd un­ac­un i’r dysgu, na chymhelliad pwysau

enfawr gan y gymdeithas, gwiw yw graddio’n fwriadus. Mae arddull y graddio hwnnw

yn mynd i ddibynnu ar egwyddorion digon elfennol fel:

(1) olyniaeth Pa drefn y dysgir pethau? Pa un sy’n dod o flaen pa un?

(2) grwpio Beth sy’n mynd gyda beth yn unedau bychain?

(3) cydadeiladu Beth sy’n ymuno â beth? (i) ychwanegu (ii) cyfuno

169

(4) rhwyddineb O’r rhwydd i’r anodd

Cyflwynais gynnau fath o fap o diriogaeth holi ac ateb: grid strwythurol ar

gyfer ffwythiant allweddol. Nid digon i mi yw enwi ffwythiant — ac yna ffwrdd â hi.

Ond mae angen sylwi ar gynllunio cystrawennol hefyd; ac yn arbennig mewn un

cyfeiriad.

Grid Cymalau

Mae yna ail fap o ail diriogaeth sydd yn darparu problem mewn graddio

ieithyddol na thâl i’r athro na’r sawl sy’n paratoi cwrs ei gadael yn nwylo siawns. Ni

bydd symud o’r gair unigol i’r ymadrodd unigol yn achosi gormod o anhawster wrth

drwchuso gwead brawddeg. Ond bydd symud o’r ymadrodd i’r cymal yn codi

problemau go newydd sydd yn unigryw i’r Gymraeg ac y mae’n briodol bod yn

ymwybodol iawn ohonynt.

Unwaith eto, ymlaen llaw, cyn penderfynu ym mha drefn y dylid eu cyflwyno,

priodol yw llunio map bras o’r maes. Beth yw hyd a lled y diriogaeth yn derfynol? Beth

fydd yr offeryn isymwybodol yn nwylo’r dysgwr erbyn iddo feistroli’r cymal Cymraeg?

Pa fathau gwahanol o gymalau sydd fel y gellir, ar ôl eu dysgu’n unigol, fricsen ar

fricsen, ddysgu eu cyferbyniad a dod yn anymwybodol gyfarwydd â’u cyferbyniad?

Ystyriaf, ar gyfer graddio’r Gymraeg i’r dysgwr, mai dyma’r ail grid hanfodol y

dylid sicrhau’i fod yn cael ei gadw yng nghefn meddwl y tiwtor sy’n hyfforddi’r iaith yn

drefnus mewn aeddfedrwydd. Dylai’r paratöwr cwrs — er nad y dysgwr ei hun o

anghenraid — fod yn ymwybodol o’r map.

Berf (berfenw) sy’n diffinio pob ‘cymal’, o’i gyferbynnu ag ‘ymadrodd’. Gan

fod berf (neu ferfenw) ym mhob cymal, rhennir yn dri math o gymal sydd yn cyfateb i’r

tair rhan ymadrodd draethiadol arall heblaw’r ferf. Tri phrif fath o gymal eilradd sydd,

felly, sy’n gwasanaethu fel tair o’r rhannau ymadrodd traethiadol: A. Enw, B.

Ansoddair, C. Adferf. Unwaith eto, hunanddibyniaeth, a dau fath gwahanol o

ddibyniaeth sy’n diffinio’r grid.

Cofier: wedi imi geisio amlinellu grid cynhwysfawr ar gyfer cwestiyna, mae’n

amlwg bod angen dilyn hynny maes o law fel hyn â math o grid cyffelyb graddol a mwy

datblygedig ar gyfer cymalau isradd. Maes go gymhleth ond unol arall yw cymalau

isradd yn y Gymraeg. Doeth fyddai lledu’r gwahanol fathau o gymalau dros gyfnod

estynedig, a thrafod pob un yn bwyllog yn ei dro. Heb ddosbarthu wrth y gwraidd, sut

bynnag, hawdd yn yr ail iaith yw cymysgu. Gellid dechrau yn ôl grid fel hyn:

A. GWRTHRYCH BERF (BERFENW): Cymalau Enwol ynddynt eu hunain (er eu

bod mewn safle Seico­Fecanaidd adferfol yn eu perthynas â’r prif gymal.)

1. Ffenomen arbennig yw bod (neu: ‘bod wedi’). Bydd y berfenw yn y cymal isradd yn

dilyn ystyr amser y brif ferf.

Dwi’n gwybod bod Alun yn sâl. [cf. Dwi’n gwybod y drefn.]

Fe glywais i fod y gloch wedi torri.

Fe weli di fod John yn dod.

[Gellid cyflwyno’r rhagenwau hwythau gyda bod yn sgil yr enwau:

Mae mam yn dweud ei fod e’n ddiog. [cf. Mae mam yn dweud y drefn.]

Mae hi’n meddwl eich bod chi’n dod.]

2. Yn sgil bod, gellid symud at amseroedd dyfodol ac amodol beth bynnag yw amser y

brif ferf.

Fe glywais i y bydd e’n dod.

Roedd hi’n addo y gwnâi hi’i gorau.

170

[Fel ‘bod’y mae’r cymal hwn yn ymddwyn fel gwrthrych neu beth, hynny yw fel ‘enw’

ac yn cymryd y fannod neu’r rhagenw dangosol i’r fannod.]

3. Gwrthrych Pwysleisiol.

Dwi’n deall mai ym mis Mai y mae John yn dod.

B. CYMALAU ANSODDEIRIOL

1. Ffenomen arbennig yw sy (neu ‘sy wedi’). A gellid dechrau gyda hwn, 3ydd person,

amser presennol.

‘Wyt ti’n gweld y llong sy’n mynd draw ’fan ’na?’Dyna’r cymal ansoddeiriol

syml. Ond mae yna lawer i’w ddweud o blaid carfanu hynny gyda brawddegau fel:

Pwy sy’n dod? [Dysgir hwn drwy gyferbynnu: ‘Pwy yw’r dyn?’h.y. enw neu

ragenw sy’n dilyn fel arfer.]

Faint sy gyda chi?

Sawl un sy yn yr ystafell?

Beth sy orau?

Cof plentyn sy gen i am John.

2. Yn sgil sy, gellid symud at yr amseroedd eraill: awgrymir treiglad meddal i

gynrychioli’r a sy wedi diflannu i raddau helaeth, ond yn bwysleisiol, ar lafar.

Mae’r dodrefn brynais i’n hen.

3. Gellid gohirio’r trydydd prif fath o gymal isradd ansoddeiriol.

Ble mae’r bechgyn mae’r prifathro wedi’u cosbi? (Dyma’r lle yr oedd ac y

mae’r hen ‘y’yn cael ei defnyddio yn yr iaith lenyddol.)

C. CYMALAU ADFERFOL GOLEDDFOL

(amod, amser, lle, rheswm, canlyniad, pwrpas)

Gellid cyflwyno’r rhain yng nghysgod cymalau B:

1. Berfenw

Gan ddilyn: ‘Dwi’n gwybod eich bod chi’n hapus’

(a) [amod]

(b) [gydag amser]

Er eich bod chi’n hapus, dch chi’n crio.

Oherwydd eich bod chi’n hapus,

Gan eich bod chi’n hapus,

Cyn ichi fod yn hapus,

Ar ôl ichi fod yn hapus,

Berfenwau eraill: cf. Ar ôl ichi ddod; cyn i’r glaw ddechrau; er mwyn ichi glywed.

2. Berf [gydag amser a lle]

Arhoswch nes y clywch chi’r corn.

Pan ddaw’r trên, bydd y plant yn barod.

Diflannodd y cwmwl, tra oedd Gwilym yn pendroni.

Bu farw, fel y cyrhaeddodd y Ty.

Eisteddwch lle y mynnwch.

[Sylwch: (i) Ewch cyn i’r glaw ddechrau — pwysleisir ‘glaw’.

(ii) Ewch cyn y dechreuith y glaw — pwysleisir ‘dechreuith’.]

O’r braidd bod angen dweud nad yw’r grid ei hun yn cael ei gyflwyno i’r dysgwyr. Fe’i

corfforir mewn ymarferion — dialog rhydd, ymarfer â phatrymau, holi ac ateb ayyb

fesul cam, gan adolygu.

(xi) Geirfa (Sefyllfaoedd)

171

Dyma’r maes lle y gall y myfyrdod ynghylch Dysgu Ffwythiannau wneud gwir

gyfraniad. Cafwyd targedau. Cymeradwywn innau Nodau Cyfathrebu, ond iddynt fod

yn gyfansawdd eu natur. Gall Dysgu Ffwythiannau fod yn werthfawr os na byddant yn

‘amddifad.’Ac mae’n bwysig ystyried nid yn unig yr asio wrth strwythurau, eithr hefyd

y ffactorau heblaw arolygu ffwythiannau a thybiannau wrth ddethol geirfa.

Mater o eirfa fel arfer sy’n gwahaniaethu rhwng sefyllfa a sefyllfa. Nid

strwythur. Er pwysiced yw geirfa, nid yw mor ddwfn nac mor sefydlog yn y psyche

dynol â phatrymau neu strwythurau iaith. Oherwydd dyfned strwythurau, o’r golwg fel

petai, bydd nid yn unig y dyn­yn­y­stryd ond athronwyr hefyd (a fu mor hoff o drafod

iaith yn yr ugeinfed ganrif) yn tueddu i gael eu llygatynnu’n ormodol gan ‘eiriau’

unigol ac amddifad. Iddynt hwy, yn rhy fynych, ‘geiriau’yw iaith. Rhyngsefyllfaol yw

strwythurau, bythol bresennol ac anweledig fel yr awyr a anedlir. Ond strwythurau

(gan gynnwys strwythur y gair) yw calon gudd yr iaith. A’r berthynas yw’r gyfrinach.

Gellir bathu geirfa gan bwyllgor ar gyfer maes semantig arbennig; ond gall rhai

strwythurau frigo i’r golwg yn ddisylw, ymron pob ffwythiant neu sefyllfa a fynnir.

Pwysig sylwi o’r herwydd ar y geiriau bach cyffredin sy’n gymharol

ryngsefyllfaol. Mor werthfawr yw defnyddioldeb rhai geiriau o’r fath. Wrth ymdroi yn

ôl cynllun sefyllfaol rhestredig fe ellir cael ein llygatynnu drachefn gan eirfa arbenigol

ar draul geirfa gyffredinol dra aml­ei­defnydd a naturiol ddistadl a chystrawennol.

Ymddengys i mi fod yna drothwy rhwng Tafod a Mynegiant. Cyflwr yw Tafod:

cyflwr hefyd yw Mynegiant: deinamig yw’r gyfathrach rhyngddynt. Ond y mae yna le

rhyngddynt — pont, lle y cronnir Cymhelliad, a lle y cymhwysir y naill i’r llall; a safle

yw lle y storir geirfa. Gyda’r gogwydd yn erbyn Strwythureg, bu’r ffasiwn

Ffwythiannol yn gyfrifol nid yn unig am esgeuluso trefn y berthynas rhwng Tafod a

Mynegiant eithr hefyd am flereiddio’r Trothwy rhyngddynt. Esgeuluswyd myfyrio am y

drefn sydd i’w chael mewn rhai gweddau ar Eirfa.

Wrth ddilyn llwybr gofalus — rhwng Tafod a Mynegiant, strwythur a sefyllfa,

patrwm a ffwythiant — ym maes Didacteg iaith mae angen bod yn bur wyliadwrus

ynghylch chwiwiau’r funud. Collwyd y ffordd yng Nghymru’r saithdegau. Ond y mae

modd tynnu’r Cymry’n ôl i’r lle gynt y collwyd ffordd.

Tra bo llawer o Gymry yn dal i balfalu drwy’r ‘cyrchddull cyfathrebol’

(ffwythiannau, tybiannau ayyb) mae yna feirniadaethau difrifol wedi cael eu seinio y tu

allan i Gymru. Ac y mae’r diffyg Cymreig yn tarddu o ddiffyg cefndir a diffyg

gwybodaeth ym maes Didacteg Iaith ymhlith yr arweinwyr. Ni chafwyd gan bleidwyr y

cyrchddull cyfathrebol ddigon o brofiad o bell bell ffordd yngln ag astudio natur iaith

fel y cyfryw. Ymhlith y beirniaid llymaf ohono y mae Roberts, T. Towards a Learning

Theory in Modern Languages, Occasional Paper No. 2, London: Institute of

Education (1992); Bauckham, I. ‘A Vygotskyan perspective on foreign language

teaching’, yn Roberts, T, (gol.) Languages Forum (4) (1995): 29­31, London.

Institute of Education; Hornsy, A, ‘Authenticity in foreign language learning’; Roberts,

T. (gol.) Languages Forum 2/3 (1994): 6­7, London, Institute of Education; Neuner,

G. a Hunfeld, H., Methoden des fremsprachlichen Deutschunterrichts: Eine

Einführung (1993), Berlin.

Yn saithdegau ac wythdegau’r ugeinfed ganrif daeth yr amaturiaid iaith yn

bwerus drachefn, mae arnaf ofn, ledled y byd. Ar ôl Saussure, Bloomfield,

Troubetzkoy, R. Jakobson, G. Guillaume, Hjelmslev, Fries, Lado, Chomsky, Mackey,

hynny yw ar ôl cewri tri chwarter cyntaf y ganrif, yn gymharol sydyn gostyngodd safon

y meddwl am iaith. Daeth Ol­foderniaeth â blerwch i gipio llawer o fywyd academaidd

y gorllewin. Erbyn rhan olaf yr ugeinfed ganrif, cafwyd arweiniad go anfoddhaol; nid

172

yn gymaint oherwydd ansawdd y meddylwyr a oedd yn rymus ledled Ewrob (gan

gynnwys Cymru) ac America ar y pryd ond yn bennaf oherwydd y rhagdybiaeth

gychwynnol. Collwyd y pwynt. Collwyd trefn. Bodlonwyd ar yr arwyneb.

Anghofiwyd na ellir cyfathrebu cyn bod peirianwaith i’w gyfathrebu. Y peth

cyntaf o bwys a wna plentyn o fewn iaith yw dadansoddi amgylchfyd yn ffurfiol. Yna,

gall gyfathrebu. Proses deuol yw iaith o’r dechrau: y plentyn wyneb­yn­wyneb â’r

sefyllfa, hynny yw yr ymgais i ddadansoddi, i lunio cysylltiadau, i feistroli, i ddeall, i

wahuno (gweld gwahaniaeth a thebygolrwydd) drwy gyfrwng iaith; ac yna, y siaradwr

wyneb­yn­wyneb â siaradwr arall, y Mynegiant. Er enghraifft, cymerer bod y plentyn

yn anelu at gyfathrebu gan ddefnyddio berf: bydd yn rhaid iddo cyn hynny feddu ar

ddealltwriaeth rywfaint o’r drefn rannu amser. Mae’r un peth yn wir pryd bynnag y

trafodir gair; unrhyw air. Y gwir yw bod y gynhysgaeth sylfaenol yn gymharol gynnil.

Ond rhywbeth yw gair sy’n byw a bod mewn brawddegau mewngysylltiol. Ar sail

cronfa gryno o strwythurau, bydd dysgwr yn medru symud allan, drwy fframwaith i

helaethrwydd o eirfa mewn amlder o sefyllfaoedd. Mae’r sefyllfaoedd yn ddi­ben­draw.

Ffug yw llunio rhestr ohonynt: ffug cyfleus. Ond y frawddeg yw’r allwedd. Ar ôl

meddiannu’i hanfod, gellir ei defnyddio. Gellir cysylltu geiriau â’i gilydd. Rhediad yw

iaith i’w feistroli.

Mae’r gyfrol The Communicative Approach to Language Teaching, gol. C. J.

Brunfit a K. Johnson (1979) yn nodweddiadol o’r hyn a ddigwyddasai. Ymgais yw at

ei gilydd i ymwadu â’r dull cyfansawdd o ddysgu iaith — o’r Tafod i’r Mynegiant, o’r

wyneb­yn­wyneb mawr at yr wyneb­yn­wyneb bach, o’r gynhysgaeth i’r cyfathrebu —

ac i godi un ochr yn erbyn yr ochr arall. Tybir mai arferiadau yn hytrach na

chanfyddiadau dadansoddol yw ieithyddiaeth gymwysedig. Ceisir codi seicoleg a

chymdeithaseg yn erbyn ieithyddiaeth, medr cyfathrebol yn erbyn medr ieithyddol.

Nid eclectig ac nid rhestr hwyhwy o syniannau a ffwythiannau yw hanfod iaith.

Cyfundrefn yw sy’n cynnal ac yn esgor ar syniannau a ffwythiannau. Cyfanwaith

cydblethol ffurfiol yw. Nid nofio rywsut rywsut wedi plymio i mewn i sefyllfa a wna.

Ond sythwelir a dysgir y symudiadau yn sylfaenol drwy gystrawennau. Nid gramadeg

‘pur’yw iaith: nid ‘geirfa’bur chwaith. Ac nid bod yn eclectig yw dweud ‘y naill a’r

llall’. Y deuol o fewn un yw’r ateb cywir; bron yr holl ateb. Undod cyd­weol yw. O’r

Tafod (o’r golwg) tua’r Mynegiant (yn y golwg), dyna gyfeiriad rheidiol y meddwl.

O’r ychydig i’r llawer: o’r cyffredinol sydd ym mhen pob siaradwr i’r arbennig ar y

pryd. Mae undod y gyfundrefn strwythurol yn sefydlog yn cwmpasu amryw o’r

ffwythiannau a’r syniannau.

Ar ôl y cyfeiliornad Cymreig tua ‘nodau cyfathrebu’amddifad, a’r difrod a

wnaeth i dipyn o ddysgu ail­iaith yn ein gwlad, a oes rhai gwersi y gellir eu dysgu i’r

dyfodol? Oes; mae angen wrth ddysgu cyflawn, creadigol, effro, a llawer mwy

organaidd, fel y mae angen cael strwythur hefyd i strategaeth weinyddol, i adennill yr

iaith.

1. Rhaid trwytho pob ymgais gan baratowyr gwersi (boed ar y cyfryngau neu yn y

dosbarthiadau) yn y pwynt elfennol yngln â dysgu iaith, mai dysgu yr ydys batrymau

neu strwythurau sy’n sylfaenol wedyn i eirfa ddefnyddiol (a chyfathrebu deunydd

syniant a ffwythiant perthnasol). Hynny yw, mae yna ddwy wedd barhaol i’w storio yn

y pen. Cydlyniad llawn yw iaith.

2. Mae’n rhaid cael canolfan ymchwil lawn­amser, nid i fesur yr anfesuradwy gymhleth

(fel y ceisiwyd yn y dyddiau pryd y ceisid mesur perthynas dwyieithedd a chyrhaeddiad

ar sail rhyw ddau neu dri o ffactorau). Ond, yn sgil y traddodiad cyfoethog o lawer o

ganrifoedd, ac yn wyneb llwyddiant profedig cyfoes i adeiladu cyrsiau, mae angen

173

ymchwil sy’n meddwl ac sy’n rhoi sylw i lawnder crefft adfer iaith o ran deunydd ac

ymarferion, o ran strwythur a ffwythiant. Ni ddylid mesur llwyddiant ar sail cyrsiau

anfoddhaol.

3. Bydder yn ofalus, ar ôl gwibdaith i wlad Pwyl neu i Dsiecoslofacia, neu ar ôl darllen

pum tudalen o’r Reader’s Digest ynghylch dull esoterig ‘dysgwch yn eich cwsg’, neu

beth bynnag, ynghylch troi’n negyddol yn erbyn hanner y traddodiad dysgu iaith

anrhydeddus. (Gwyliwn ninnau sy’n gresynu ynghylch y chwiw nodau cyfathrebu

amddifad fod i’r rhain hefyd eu cyfraniad hynafol i’n dealltwriaeth a’n defnydd o

ddethol geirfa a rhestru rhai ymadroddion parod.) Mae angen ailgydio yn holl

gynhysgaeth yr oesoedd mewn dysgu iaith.

Dethol a Graddio Geirfa

Beth bynnag yw’r oedran i berson ddechrau dysgu ail iaith, mae’n ddiogel dal

mai gorau po fwyaf trefnus mae’r eirfa ieithyddol wedi’i graddio. Dwi’n meddwl fod

cytundeb ar hyn hyd yn oed yng Nghymru, er mai cymharol ychydig o weithredu fu ar

yr egwyddor yn ddiweddar. Mae yna gytundeb hefyd am wn i ar natur y graddio

geirfaol — o’r hysbys i’r anhysbys, o’r rhwydd i’r anodd, o’r hyn sy’n digwydd yn aml

i’r hyn sy’n anamlach. Ac un pwynt arall a fydd yn bwysig ymhellach ymlaen pan

fyddwn ni’n ceisio trafod enghreifftiau penodol a diriaethol: a’i roi yng ngeiriau

Mackey: ‘Does the more teachable come before the less teachable?’Mae yna gytundeb

hefyd am wn i ar ba bethau y dylid eu graddio’n gyffredinol: geirfa, ffurfdroadau

gramadegol, patrymau brawddegol, cynnwys meddyliol, dulliau.

Wrth ddysgu’r iaith, mae’r dysgwr yn tyfu ynddi, gan ychwanegu mwy o’i

phwysau hi drwy ffitio darnau newydd sy’n perthyn i’r darnau sydd yno eisoes. Nid

pentyrru darnau digyswllt yw dysgu iaith, er mai dyna, gwaetha’r modd, yr hyn a wna

llawer o’r gramadegau a’n cyrsiau iaith.

Yn gam neu’n gymwys, dwi’n credu fod cytundeb y dylid graddio’r defnyddiau

yn y modd yna. Ond am ryw reswm, mae’r ceisiadau at gyflawni hynny’n weddol brin

yng Nghymru. Efallai oherwydd ansicrwydd ynghylch sut i wneud y graddio ei hunan.

Neu’n ail, oherwydd teimlad mai anodd yw priodi defnyddiau sydd wedi eu graddio’n

drwyadl drefnus â dulliau sy’n mynd i ysbrydoli a diddori­ennill y dysgwyr. Ond yn

drydydd — yr hen gneuen ffyddlon — oherwydd prinder arian i wneud y gwaith.

(Ystyr hynny bron bob amser yw prinder ewyllys.)

Y gwir yw bod rhai pethau sylfaenol megis graddio geirfa wedi mynd yn angof

yn y brys annheilwng i sgythru’n flêr ar ôl ffwythiannau. Fel y gyr y cyfarwydd, angof

bwriadol neu ddiog yw un o ddogmâu Ol­foderniaeth.

Un agwedd yn unig ar raddio y bu cryn gytundeb yngln â hi gynt yw graddio

geirfa. Yng Nghymru wn i ddim am neb a wnaeth well gwaith cyn y chwedegau na D.

O. Roberts wrth annog geirfa raddedig ar gyfer dysgu ail­iaith. Ac eto, ar lefel yr

Arholiadau Cyhoeddus i’r Gymraeg fel ail iaith, nis gweithredwyd erioed yn ymarferol;

a bu ansicrwydd cyson ysywaeth yngln â pha eiriau y dylai plentyn eu gwybod (a

chael ei brofi ynddynt) erbyn hynny a pha eiriau y dylid eu hesbonio iddo yn y papur

arholiad.

Er enghraifft mewn un flwyddyn fe esbonnid ystyr pryder, rhwydd, a pherth yn

Saesneg ar waelod yr ymarferiad, ond fe adewid archesgob, rhifyddeg, mynwes, ac ers

meitin heb eu hesbonio. Flwyddyn arall fe esbonnid ystyr llyfn, lledu, a gwastad, ond

fe adewid crogai, pendroni, a gwlithog heb eu hesbonio. Ac fe ellid cael enghreifftiau

lawer o’r math yma ar hyd y bedlam. O sylwi ar arwyddocâd amlder yr holl eiriau hyn

mae’n rhaid bod sawl mil yn y ffin yma rhwng gwybodaeth bendant ac amlwg, a’r rhai

174

na wyddys a ddylid fod wedi eu dysgu neu beidio. Nawr, yn fy marn i, mae’n

ymddangos y byddai’r arholiadau cyhoeddus yn decach ac yn fanylach yn eu

mesuriadau (ac yn anhraethol fwy effeithiol) pe cytunid pa eiriau’n hollol y disgwylir i

ddysgwr eu gwybod erbyn blwyddyn yr arholiad. Oherwydd ansicrwydd o du’r arholwr

rhaid iddo adael rhyw fath o fwlch dihangol rhwng y geiriau y dylid eu profi a’r rhai y

gall eu profi: ac o du’r athro a’r dysgwr, y mae yna ansicrwydd ar ôl pasio’r 600 neu

700 cyntaf pa eiriau sy’n deg eu disgwyl mewn arholiad. Byddai manylder ar hyn yn

gwella’r arholiad gryn dipyn ac yn rhoi pendantrwydd disgybledig i’r dysgu.

Ond ymwneud â dethol yn hytrach na graddio mae’r ddadl yna: h.y. ymwneud

â’r cylch cyfun o eirfa y disgwylir ei feistroli erbyn rhyw bwynt neilltuol yn y pen draw.

Ond tu mewn i’r cylch cyfan yna mae yna fodd graddio cryn lawer, er bod graddio

geirfa’n llai pwysig na dethol geirfa, ar ôl i’r dysgwr gael gafael ar yr eirfa adeiladwaith

mwyaf cyffredin.

Does dim amheuaeth fod llawer o’i le ar raddio geirfa’n wyddonol. Ac yng

Nghymru o dro i dro fe fu rhai yn beirniadu diffeithwch di­liw a diflas y ‘Rhestri

geiriau’; ond yr un pryd yn nwylo athro llawn dychymyg, yn nwylo awduron llyfrau a

chylchgronau a phobl y cyfryngau mae modd eu gwneud yn bethau effeithiol a

defnyddiol. A phe bai cytundeb go gyffredinol yn tyfu ynghylch pa gylch geirfa y dylid

ei ddisgwyl ar gyfer y lefelau gwahanol o ddysgu, fe fyddai’r cydweithrediad rhwng yr

holl adnoddau amrywiol sydd ar gael bellach ar gyfer dysgu’r iaith yn gallu cynyddu

effeithiolrwydd yr ymdrechu i gyd.

Bellach, cafwyd trafodaeth gatholig amlochrog, yn arbennig yn y cyfnod hir

1917­1960, ynghylch pa fath o egwyddorion a oedd yn sylfaenol i ddethol geirfa. Er

enghraifft, dywed C. C. Fries ‘Teaching and Learning English as a Foreign

Language’(University of Michigan, Ann Arbor):

In the matter of vocabulary items this stage [h.y. y cyntaf] of learning

must include the chief items (nearly all, in fact) of the first three kinds

— ‘function’words, ‘substitute’words, and words with ‘negative and

affirmative distribution’. All the word lists agree upon the inclusion of

the chief items in these three groups, whether the lists were built upon

frequency counts or upon some logical principle of selection ... There

must be enough ‘content’words to operate the structures that are being

practised and also to represent the chief features of the sound system.

ymlaen fel hyn i drafod yr egwyddorion wrth raddio ar sail geirfa ddethol.

Awgrymais innau ar sail y pamffled Graddio Geirfa (Cyfadran Addysg Aberystwyth)

mai’r cam nesaf oedd dosbarthu’r eirfa’n fanach yn ôl meysydd, e.e. geirfa

adeiladwaith brawddegol (y fannod, arddodiaid, ayyb); enwau yngln â’r t a’i

ddodrefn; ansoddeiriau priodol; y gweithredoedd mwyaf cyffredin; amser; bwyd; y

corff a dillad; ayyb

A dyna farn A. W. Frisby yn Teaching English (Longmans, London) gan

gyfeirio at The Teacher’s Word Book of 30,000 Words (Thorndike & Lorge): ‘We find

for instance, that words like ‘destroy’or ‘almost’stand high in the list while words like

‘eighty’or ‘yours’occur much lower.’Dywed H. R. Huse, Reading and Speaking

Foreign Languages (The University of North Carolina Press):

The error involved in word counts is what Palmer calls ‘the fallacy of

the monolog’, that is, the assumption that monologs alone have the

right to be considered as units. The prefixes and suffixes (minologs)

such as ­less, dis­, re­, ­like, ­er, can be detached and placed in new

175

combinations exactly in the same way as words ... Likewise Wordcounts

... ignore generally the semantic variations which are the most

important matter ...

Ceir beirniadaethau cyffelyb yma ac acw, ac y mae angen bod yn gynhwysol.

Er mai yn y cyfnod diweddar y dechreuwyd cyfrif miliynau o eiriau er mwyn

dethol geirfa yn ôl amlder, nid yw’r criterion hwn yn safon newydd wrth benderfynu pa

eirfa a ddylai gael blaenoriaeth mewn cwrs. A’r gweithgarwch yn ôl cyn belled â’r

nawfed ganrif at Massoretes. Ac yr oedd Comenius yntau (roeddwn bron ag

ychwanegu ‘wrth gwrs’) yn pwysleisio gwerth y wedd hon ar ddysgu iaith.

Pan luniwyd Graddio Geirfa ym 1962 defnyddiwn ddwy astudiaeth yn sail (a’u

goleddfu yng ngoleuni pedwar casgliad arall). Defnyddiwn yn gyntaf ddamcaniaeth

ffrwythlon Helen S. Eaton (1940) wrth iddi gymharu astudiaethau amlder pedair iaith

fodern lle y daeth i’r casgliad fod yna gyfatebiaeth agos rhyngddynt. Cymhwysais y

gyfatebiaeth i’r Gymraeg. Yn y rhestr a gyhoeddais innau, italeiddiais yn ail y geiriau a

gyfatebai i ganlyniadau R. Cyril Hughes yn ei draethawd M.A. ar amlder geiriau plant

wyth mlwydd oed yng Ngheredigion. Yn hanes ysgolheictod Didacteg Iaith, dyma’r

maes dadansoddol lle y cafwyd y sylw mwyaf diwyd yn y gorffennol. Ac ofnaf mai’r

cymhelliad am hynny yn isymwybodol i rywrai oedd y myth mai geirfa oedd hanfod

iaith.

Mae’n wir ddrwg gennyf na wnaethpwyd dim cynnydd a diwygiad yn y

Gymraeg ar gefn yr arloesiad cyntefig hwn wedi 1962. Erbyn hyn teimlaf yn bur

feirniadol o unrhyw griterion unigol ynysedig, gan fod yna wendidau ymhob un; a

thueddbennwn tuag at gyfuniad yn ôl oedran, yn ôl ffwythiannau­dybiannau, a

diddordebau, yn ogystal â ffactorau mwy amlwg a grybwyllaf yn awr. Nid awn yn ôl at

wedd y Dull Unionwyr a fyddai yn fynych, megis y gwnâi ysgolion Pestalozziaidd, yn

dilyn greddf. Ond brysiaf i ystyried criteria eraill ochr yn ochr ag amlder, megis:

Amrediad: Tâl amrediad sylw yn ôl gwasgariad y nifer o wahanol gyd­destunau lle y

defnyddir geiriau, a’r nifer o wahanol bobol. Fe’i cyflyrir felly gan wahanol gyweiriau.

Dyma eto egwyddor gyffredin yng nghyfnod clasurol Groeg a Rhufain. Sylwyd er

hynny ar ddiffygion wrth gynnwys cyweiriau gwahanol yn yr un rhestr a all arwain at

gymysgu cyweiriau’n anfoddhaol.

Cyfleusrwydd: Dyma eto griterion cyffredin yn yr Oesoedd Canol ac yn ystod y

Dadeni. Gouin oedd y cyntaf o’r Dull­Unionwyr diweddar i leisio’r egwyddor. Rhoddir

pwyslais ar sefyllfaoedd bob dydd: rhestrir y geiriau cyntaf sy’n dod i’r meddwl, ac

ystyried amlder y rhain yn ystadegol. Ceisir rhoi cyfrif i angen a defnyddioldeb yn ôl yr

hyn a elwid yn centres d’intérêt; ac y mae hyn yn ystyriaeth flaenllaw mewn cyrsiau fel

Voix et Images de France. Yn ôl beirniadaeth Morris ar hyn, tuedd ymdroi’n benodol

gyda ‘nodau cyfathrebu’neu ‘ffwythiannau’dethol o’r fath oedd cysylltu’r iaith ag

ynysrwydd, yn hytrach na’i chlymu wrth yr egwyddor amgen o ymestyn parhaol.

Cynwysolrwydd (Coverage): Dyma egwyddor debyg i Basic English, lle y sicrheir yn

gyntaf eirfa ddigonol ac ystwyth o eiriau strwythurol a chyffredinol, a geiriau

amlochrog o ran posibiliadau, hynny yw geiriau y mae’u hamrywiaeth defnydd yn

caniatáu iddynt gyflawni sawl swyddogaeth.

Priodol yn fy marn i yw cymryd yr holl griteria hyn i ystyriaeth. Pan ddaeth

‘nodau cyfathrebu’i’r golwg yng Nghymru, cafwyd math o oes dywyll a chyfyngedig

yn hanes dysgu’r iaith. Ond nid oedd a wnelai hynny â ffenomen ‘nodau cyfathrebu’fel

y cyfryw, eithr â’r ymagweddu anghatholig a ddigwyddodd tua’r un pryd, pryd y ceid

cryn anwybodaeth ynghylch amrywiol agweddau ar grefft ail iaith, a chyda hynny y

diffyg gallu i ddefnyddio gwahanol adnoddau didacteg.

176

Yn y pamffledyn a nodais Graddio Geirfa, fe gynigiwyd enghraifft o eirfa wedi

ei llunio, nid yn ôl chwiwiau personol goddrychol, ond yn ôl egwyddorion honedig

wyddonol gwrthrychol.

Heblaw’r rhagymadrodd, fe gyflwynir yr eirfa ei hun mewn dwy ran:

Rhan Gyntaf: Ar sail cyfrifiadau manwl o amlder geiriau pedair iaith —

Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg — fe luniodd Helen S. Eaton eiriadur sy’n

dangos yn eglur fod yna gyfatebiaeth agos rhwng yr amlder defnydd o’r geiriau sy’n

mynegi’r un syniadau ym mhob un o’r pedair iaith. Yna, fe gynigiodd hi ddamcaniaeth

The list will serve as a practical tool in ascertaining a basic

vocabulary for any language — at least any European language —

for, if users of four different languages concur in the need of a means

of expressing these concepts most frequently, it is justifiable to suppose

that people using still other languages would also feel the same need.

Ceisiwyd, wedyn, gymhwyso’r ddamcaniaeth, felly, at y Gymraeg. Nid yw’n

dal. Nid yw’r Gymraeg (oherwydd diffyg hunanlywodraeth) yn iaith wareiddiedig

gyflawn; ac felly, prin yw’r defnydd beunyddiol o rai termau cyfreithiol, masnachol, a

milwrol tra chyffredin oherwydd bod y wlad yn dibynnu ar iaith arall i drafod y rheini.

Eto i gyd, yn y cymhwysiad o eirfa Helen Eaton fe geir canllawiau gwerthfawr; mae

yma ddefnyddiau sylfaenol sy’n rhoi cyfle i feirniadaeth oleuedig adeiladol, a hynny ar

seiliau gwrthrychol. Defnyddiol yw gan nad oes gennym yng Nghymru yr adnoddau

ariannol i allu cynnal ein hun gyfrifiad ar raddfa mor drylwyr ag a wneid ar gyfer yr

ieithoedd a ddefnyddiodd y Fs Eaton.

Ail ran: Rhestr o’r geiriau benthyg o’r Saesneg gan mwyaf. Gobaith yr adran

hon oedd casglu ynghyd yr eirfa honno y byddai dysgwr yn ei hadnabod a’i deall ar

unwaith (yn oddefol), er na wyddai (yn weithredol) pa eiriau Saesneg i’w defnyddio

wrth siarad ei hun. Y gobaith, felly, wrth restru rhai cannoedd o eiriau fel hyn oedd

helaethu’r eirfa oddefol o’r dechrau; ac felly (a) mewn rhaglenni radio a theledu sy’n

dysgu’r iaith (b) mewn cylchgronau i ddysgwyr, neu mewn llyfrau darllen ail­iaith, fe

fyddai helaethrwydd ychwanegol o eirfa wrth law sy’n gallu gwneud cynnwys y darllen

yn fwy amrywiol o lawer.

Yn awr, fel y dwedais, sylfaen i drafodaeth a beirniadaeth yw’r geirfâu hyn; ac

eisoes fe gafwyd rhai pwyntiau beirniadol i’w hystyried oddi wrth athrawon profiadol a

deallus. Hoffwn drafod rhai yn eu tro, fel y’u derbyniwyd hwy:

1. Amheuir gwirionedd y gosodiad: ‘Gwastraff ar amser i raddau yw mygu plentyn a

chanddo iaith arall â geirfa newydd ddi­drefn, ni ddylai’r dysgwr daro wrth air oni

bo’n gwbl angenrheidiol, na rhoi ei amser i ymgynefino ond â’r geiriau mwyaf

cyffredin neu ddefnyddiol iddo ef fel dysgwr.’Profiad rhai athrawon yn hyn o beth yw

bod plentyn bach o bryd i’w gilydd yn dethol drosto’i hun (lle bo hynny’n bosibl), ac

weithiau heb reswm yn y byd. Er enghraifft, fe fynnodd un plentyn ddewis ‘cawrfil’yn

hytrach nag ‘eliffant’.

Hawdd y gellir deall y plentyn yn dewis gair Cymraeg ‘go iawn’fel ‘cawrfil’yn

hytrach na’r benthyciad dienwaededig ‘eliffant’. Ond mae’r enghraifft hon yn profi’r

gosodiad rhwng dyfynodau i’r carn. Does dim hawl, mewn gwirionedd, gan y plentyn i

ddewis. Gwybodaeth sydd yn y canol, nid y plentyn Rouseauaidd. Gair amhosib bellach

yw ‘cawrfil’ac ni ddylid rhoi’r fath ddewis dwl o’i flaen. Fe all ei ‘reswm’ef dros

ddewis gair, os rhoir dewis o’i flaen, fod yn gwbl amherthnasol. Ac ni chlyw ef ddigon

o’r ail iaith i allu dewis yn naturiol fel y dewisodd wrth ddysgu ei iaith gyntaf. Gan mai

cyfyngedig yw’r nifer o eiriau a glyw, dylid dethol y rheini’n ystyriol drosto. Er mor

177

wleidyddol anghywir y gall ymddangos, nid arwain y mae dysgwyr ond yn hyn o beth

dilyn.

2. Geirfa wedi eu seilio ar iaith oedolion ac nid ar iaith plant yw’r eirfa hon, ac felly

rhaid dethol ymhellach er mwyn peidio â beichio plant â geirfa nad oes defnydd iddi.

Beirniadaeth deg (er bod yna gefndir i’r rhestr hon, a gyhoeddwyd, o ymchwil

ar iaith plant Ceredigion). A phan geir ymchwil ymhellach (tebyg i waith Cyril

Hughes), diau y goleuir rhywfaint ar y maes. Ond mae yna un ystyriaeth bwysig i’w

chadw mewn cof. Wrth ddethol geirfa iaith­gyntaf i blant 5 oed, dyweder, ni wneir

hynny ar sail geirfa 5 oed, ond ar sail, dyweder, plant 7 oed. Pam? Wel creaduriaid ar

dwf yw plant, yn cael eu tynnu ymlaen o hyd. Dyna eu hangen a’u rheidrwydd. Felly,

er bod eisiau cadw’r eirfa o fewn cylch amgyffred plant yn bendant, ni raid petruso

rhag estyn tipyn ar eu geirfa, os bydd angen y geiriau arbennig yna yn y pen draw.

Serch hynny, dyma eiriau o’r ‘Eirfa Ddechreuol Weithredol’sy’n codi amheuon cryf:

‘anrhydedd, celfyddyd, datgan, erfyn, ewyllys, golygu, amheuaeth, cyflwr, enaid,

cyfraith, po, dyletswydd, rhoi cyfri am, safbwynt, gwarchod, hyder, llog, rhannol,

sefydlu, cadfridog, dilynol, sefydlog’. Cytunaf fod y rhain — ac enghreifftiau eraill —

yn anfoddhaol. Yr hyn sy’n bwysig i’w gofio yw i’r geiriau hyn ddod i’r eirfa ddethol

am resymau gwrthrychol, er mai doeth yn ddiau yw eu gwrthod ar sail profiad. Rhaid

(i) defnyddio synnwyr cyffredin a (ii) archwilio rhagdybiau’r fethodoleg yn dra

beirniadol.

3. Mae yna eiriau symlach ar lafar sydd wedi magu ystyron sydd bron yn gyfystyr â

rhai llawer anos a geir yn yr Eirfa Ddechreuol Weithredol. Dyma restr o’r geiriau y

gellid eu hepgor, a nodir mewn cromfachau y rhai y dylid eu defnyddio yn eu lle ar y

dechrau: — caniatáu (gadael); gwahanu (rhannu); modd (ffordd); moment (eiliad);

mynegi (dweud); nodi (dangos); peri (gwneud); rhanbarth (ardal); tybied (meddwl);

bwystfil (anifail); cael golwg ar (gweld); cynyddu (tyfu); darparu (paratoi); gorfod

(mae’n rhaid); gweddill (ar ôl); llywodraeth (rheolaeth).

Mae hyn yn bwynt diddorol ar lawer ystyr. Mae’n wir, yn gyntaf, fod

gwahaniaeth, bach efallai, rhwng ystyr y gair a roir ac ystyr y gair a awgrymir rhwng

cromfachau. Mae’n wir hefyd fod geirfa’r Gymraeg yn tueddu i golli llawer ac i

ddibynnu ar gyfystyron bras wrth fod cyfanswm yr eirfa yn lleihau. Dyma bwynt y mae

llenorion yn dod yn gyfarwydd ag ef, fod yr iaith yn ymgyfyngu wrth i’r gymdeithas

ymgyfyngu: mewn cymdeithas sy’n dlawd ei hansawdd, rhaid i’r iaith ymaddasu i fod

yr un mor dlawd. Heddiw fe gollir manylder a meinder, sy’n bwysicach o lawer na

cholli ‘idiomau’neu dafodiaith. Efallai pe bai gennym addysg gyflawn yn Gymraeg, a

‘Financial Times’, a phapurau dyddiol, fe ellid cadw llawer o’r manylder yma: y

manylder syml a geir yn y gwahaniaeth rhwng caniatáu a gadael (a chaniatáu yn fath

arbennig o adael). Yn awr, mewn ieithoedd gwâr mae’r cysgod gwahaniaeth hwn nid

yn unig yn gyfarwydd, ond hefyd yn uchel iawn ei amlder: h.y. mae’r naill air a’r llall yn

cael eu defnyddio’n dra mynych wahanol. Nid felly yn y Gymraeg. Yn yr ardaloedd

gorllewinol, megis Ceredigion, mae yna ymlacio dirywiol ac elfenoli cyffredinol ar

gynnydd ym meinder yr iaith. Hynny sy’n briodol i ateb y newid yn y gymdeithas. Ond,

y cwestiwn yw, os ydym ni’n mynd i adfer yr iaith mewn amgylchfyd modern, oni

ddylai hi geisio bod yr un mor effeithiol a manwl â Saesneg, Sbaeneg, Almaeneg, a

Ffrangeg gan ddefnyddio gwahaniaethau a gyfrifir yn bethau defnyddiol ar raddfa aml

yn yr ieithoedd yna? Ac os ydym yn dysgu’r Gymraeg fel ail iaith i bobl sydd eisoes yn

gymharol fanwl eu meddwl mewn iaith arall, oni ddylem adeiladu’r ail iaith yn eu

meddyliau yn wareiddiedig fanwl?

178

Ni allaf lai nag ychwanegu fod llawer o’r anawsterau a dybiwn yn bresennol yn

y geirfâu dechreuol hyn yn diflannu pan gofiwn mai dysgu’r patrymau ieithyddol yw’r

prif bwyslais ar ddechrau dysgu’r ail iaith, ac mai araf a chymharol ddibwys yw

cynnydd yr eirfa ei hun yn ystod y flwyddyn gyntaf, beth bynnag.

Y prif beth i Gymry ceidwadol yw sylweddoli mor bwysig yw ymddihatru rhag

defnyddio llu o eiriau (megis bugail, ydlan, ayyb) sydd naill ai’n lleol neu’n dymhorol

neu’n achlysurol wrth natur. Meddai Lado,

Various estimates have been made of the minimum necessary number of

words that will enable a student to communicate in ordinary situations.

Basic English uses approximately 1,000 for that purpose, Michael West

considers a vocabulary of 2,000 words, ‘enough for anything, and more

than enough for most things.’

Yr un pryd, hynny yw er cydnabod fod modd ateb rhai o’r beirniadaethau

uchod, mae yna lawer o feirniadaethau y gellid eu codi’n deg o hyd, ac sy’n peri i ni

drafod ein rhestri Cymraeg yn dra gofalus.

Cofiwn am ddosbarthiad adnabyddus Fries, Teaching and Learning English as

a Foreign Language (Michigan, 1945):

The classification into four groups which follows is a practical one

made for the purpose of emphasizing those particular features which are

essential for teaching and learning English.

1. First there are the ‘function words’, those words which, although

some of them may have also full­word meaning content, primarily or

largely as means of expressing relations of grammatical structure ...

2. The second kind of vocabulary items consists of the ‘substitute’

words (geiriau megis rhagenwau) ...

3. The third kind of vocabulary item consists of those that are

distributed in use according to such grammatical matters as the

presence or absence of a negative.

‘They have some.’‘They don’t have any’...

[Un cyffelyb yn Gymraeg yw ‘o gwbl’, a geir yn y Negyddol ond nas

ceir yn y Cadarnhaol.]

4. The large body of ‘content’words constitutes the fourth group of

vocabulary items and the chief material usually considered when the

vocabulary of a language is discussed.

Hoffwn godi un pwynt arall sy’n efell i amryfal bwyntiau eraill yn y drafodaeth

hon (ac yn mynd yn ôl â ni at yr ail iaith fel cyfrwng gwybodaeth).

If language­learners cannot talk, write or read (within limits of their

skill) about what interests them at the time of learning, the language

will soon be regarded as a useless and irrelevant instrument. But in

order to do this, they must have the right words. It does not matter

greatly if these are low down in the frequency counts, or even if they

are not to be found there at all. They are needed to sustain interest and

to make the language learning lively and meaningful to the learners ...

They will have served their purpose, the very important purpose of

enabling the learners to say something they wanted to say ...

Cydnabyddir yn gyffredinol y pwysigrwydd o gyflwyno geirfa iaith newydd cyn

belled ag sy’n gweddu i batrymau o fewn cyd­destun sefyllfa. O ganlyniad, dosberthir

179

geirfa gan athrawon ail­iaith mewn grwpiau semantaidd sy’n fewnol gydlynol.

Ymddengys yn rhesymegol, er enghraifft, i gyflwyno ‘buwch’yn yr un cyd­destun â

‘cae’, yn hytrach nag yn yr un cyd­destun â ‘hofrennydd’. Grwpir geiriau gyda’i gilydd

yn ôl y sefyllfa dan sylw, ac y mae defnyddioldeb neu berthnasoldeb pwnc arbennig i

ddysgwr yn ystyriaeth hanfodol wrth ddethol ac wrth raddio geirfa.

Mewn mynegiant llafar, dyw’r syniadau sydd gan frawddegau ddim yn cael eu

datod y naill oddi wrth y llall, ond ymlynant wrth ei gilydd yn ôl themâu. Wrth gwrs,

nid yn ôl ffordd yr iaith gyntaf o ymddwyn y mae’r athrawon ail­iaith yn rhwym o fwrw

ymlaen. Mae’r dasg o ddysgu ail iaith yn fwy artiffisial na dysgu iaith gyntaf. Er hynny,

diau bod trefnu defnyddiau ieithyddol mewn grwpiau semantaidd yn dal sylw a

diddordeb yn barotach nag a wna cynnwys cymysg.

Yng nghanol y chwedegau rhoddwyd cryn sylw i ‘gyfleusrwydd’geirfa (Ffr.

disponibilité; Saes. availability), a dylanwadwyd ar ddefnyddiau ieithyddol yn Ffrainc,

ac yna yn Québec, Iwerddon, a hyd yn oed yng Nghymru. Yn yr ymchwil, ar y maes

hwn, rhaid oedd rhoi sylw i ddau fater cyn clandro canlyniadau ‘poliau piniwn’a chyn

rhannu a dosbarthu ‘canolbwyntiau diddordeb’mewn ffordd ychydig yn ddadleuol yn

ôl eu gweddau gwahanol. Rhaid oedd diffinio’n eglur beth oedd ‘sefyllfa’ neu

‘ganolbwynt diddordeb’. Roedd yn angenrheidiol pennu canolbwyntiau diddordeb yn

wrthrychol — nid digon oedd hel unrhyw nifer neu unrhyw fath o ‘ganolbwyntiau

diddordeb ffwrdd­â­hi’yn chwiwus oddrychol. Esgeuluswyd hyn oll, ysywaeth, yn y

70­90au anghofus.

Sefyllfaoedd Agored a Chaeedig

Yn y drafodaeth hon, canolwn ein sylw ar ddiffiniad a dosbarthiad sefyllfaoedd

neu ganolbwyntiau diddordeb o safbwynt didactig ymarferol. Gellid am y tro ddisgrifio

enw sefyllfa ieithyddol fel yr enw ar gyfan (neu egwyddor gyffredinol) sy’n uno’r

rhannau (neu’r geiriau unigol) mewn grp semantaidd perthynol. Cwlwm o elfennau

neu o ffactorau yw sefyllfa sy’n ffurfio amgylchiad neu gydwead syniadol personol neu

gymdeithasol. Ym mhob iaith wynebwn ddau brif fath o sefyllfaoedd — y rhai caeedig

a’r rhai agored. Gall sefyllfa gaeedig fod yn gyfyngedig ac yn hawdd i’w diffinio —

‘dyddiau’r wythnos’, er enghraifft, tra bo sefyllfa agored, megis ‘y t’, yn ymagor i

liaws diderfyn o rannau ac agweddau.

Mae cynnwys y sefyllfaoedd caeedig yn gyffredin i holl ddefnyddwyr yr iaith, ac

fe’u cynhyrchir yn gytûn yn yr un ffordd: does dim dewis. Amrywiol ar y llaw arall,

bron yn anochel yw sefyllfaoedd agored: amrywia’r rhestrau, i raddau o gwmpas

canolbwyntiau diddordeb o unigolyn i unigolyn.

Adeiladwyd y sefyllfa gaeedig eisoes, fe’i clymwyd o fewn yr iaith. Math o

ddadansoddiad o realiti arbennig ydyw, a gymerodd ei lle fel rhan o fframwaith

geirfaol. Bydd plentyn, wrth ddysgu’i iaith gyntaf, yn darganfod y realiti yma fel

egwyddor gyffredinol gyn­sefydledig: rhaid iddo ddeall yr egwyddor (neu’r sefyllfa)

gyffredinol cyn iddo amgyffred y rhannau’n iawn. Ond bythol­gyfnewidiol yw’r sefyllfa

agored: argraff gyffredinol yw, y mae’n rhaid i’r paratöwr cwrs ei ddewis yn ôl angen

ymarferol y dysgwyr.

Ymddengys fod gennym ddau isfath o sefyllfa gaeedig — y naill yn sefyllfa

mewn safleoedd a’r llall heb safleoedd. Diffinnir y naill a’r llall yn ôl eu sefyllfa

gyffredinol, ond yn achos y naill y mae safle pob un elfen neu air yn y sefyllfa yn cael ei

raglunio. Yn achos y llall, er y bydd ffiniau’r sefyllfa yn cael eu diffinio’n gadarn, fe all

yr elfennau neu’r geiriau sy’n ei ffurfio sefyll mewn unrhyw fath o berthynas safleol

180

i’w gilydd yn ôl gofynion yr amgylchfyd. Er enghraifft, mewn rhestr o eiriau caeedig,

megis:

Ionawr, Chwefror, ­­­­­, Ebrill, Mai

Un, dau, tri, ­­­­­, pump.

Gwyddom yn union beth yw’r gair coll. Ond yn y rhestr ganlynol:

coch, gwyrdd, oren, brown, ­­­­­, pinc

gwyddom fod y posibiliadau sy’n llenwi’r bwlch yn gyfyngedig ac yn bodoli o fewn

maes penodol caeedig, ond mae trefn yr elfennau yn amherthnasol.

Cymerer enghraifft arall: gellir adeiladu’n sefyllfaol fel hyn:

tad mam plentyn

hwrdd dafad ­­­­­

­­­­­ modryb cefnder

tarw ­­­­­ llo

Ym mhob achos y mae llenwi’r bylchau’n rhwydd. Ond gellir defnyddio enwau

anifeiliaid hefyd mewn sefyllfa gaeedig ddi­safle, e.e. cangar, mwnci, dafad, eliffant,

sebra, ci. Ni chaem drafferth wrth chwilio safle dafad pe caem ein hwynebu gan restri

o lysiau, anifeiliaid, neu fwynau; ond y mae ei safle arbennig o fewn y maes

gwahaniaethol ei hun yn gyfnewidiol. Yn y naill achos a’r llall trefnir y cyfuniad o

elfennau neu eiriau mewn sefyllfa gan egwyddor gyffredinol y cyfan; ond mewn sefyllfa

safleol, mae yna ffurf yn y cyfan hefyd sy’n ein gorfodi i feddwl mewn ffordd benodol.

Ceir gwahanol ddulliau o strwythuro sefyllfa safleol; ond ymddengys nad oes

angen ond tair elfen i fodoli o’i mewn bob tro, sef y gair cyntaf, yr ail air, a’r egwyddor

o berthynas neu analog, e.e.

(i) rhestru: olyniaeth rhif, amser neu le:

cyntaf, ail, ­­­­­

(ii) gwrtheirio:

mynd, dod; i, ­­­­­; mawr,­­­­­; hen, ­­­­­

Adeiladwyd y berthynas arbennig hon ymhellach i mewn i ieithoedd drwy ddefnyddio

rhagddodiaid ac olddodiaid.

(iii) rhagddodiad neu ôl­ddodiad

Gellir eu defnyddio am amryw resymau, ond gall ôl­ddodiad enwol yn fynych fynegi

egwyddor gyffredinol, megis haniaethad:

coch, cochni; brwnt, ­­­­­; gwyrdd, ­­­­­

Gall rhagddodiad negyddu, estyn, neu fawrhau, e.e.

di­drefn, gwrthddweud, gorweithio, archdderwydd, traarglwyddiaethu

(iv) mynegi perthynas gonfensiynol

tarw, buwch; ­­­­­, hwch;

dyn, ­­­­­; ci, ­­­­­;

Mater dadleuol yw a yw’r categorïau morffolegol — megis amser gorffennol

berfau, er enghraifft, i’w cyfrif yn briodol fel sefyllfaoedd; ond os ydynt yn mynegi, fel

yn y fan yma, gwlwm meddyliol sy’n meddu ar ddolen semantaidd neu syniadol o’i

mewn, yna gellid cyfiawnhau tadogi ein diffiniad o ‘sefyllfa’ar y fath achosion ‘ffiniol’.

Mae pob un o’r strwythurau safleol hyn yn meddu ar fframwaith sefydlog syml,

ac y mae nifer a theipoleg y fath strwythurau yn gyfyngedig.

181

Pan archwiliwn y sefyllfaoedd caeedig di­safle, cawn fod a wnelom â

chyfannau a adeiladwyd yn ddiddadl ag elfennau penodol, ond elfennau heb yr un

berthynas benodedig i’w gilydd ar wahân i berthynas i’r cyfan, e.e.

dillad anifeiliaid lliwiau adeiladau rhannau’r corff coed

ffrog mwnci coch plasty braich derwen

trowsus teigr glas ffatri calon onnen

fest camel gwyrdd byngalo pen llwyfen

hosan mochyn melyn palas clust celynnen

ayyb

Mae’r gair dosbarthol ar ben pob un o’r colofnau hyn yn diffinio’r geiriau a

gynhwysir dano. Mae’r fath drefn — o sicrhau enw’r sefyllfa yn dal yn wir ar gyfer yr

holl rannau a gynhwysir dano — yn allwedd i’r sefyllfa gaeedig yn gyffredinol. Mae’r

gair ar y pen yn amgylchu’n semantaidd y cynnwys mewnol sy’n perthyn i’r sefyllfa

hon a hon yn rhinwedd y ffaith ei fod yn cael ei ddiffinio ganddi. Mae’r gair anifail

hefyd yn gallu perthyn i sefyllfa agored sy’n cynnwys porfa, fferm, beudy, marchnad,

ayyb; ond y mae’r rhain yn allanol a heb eu diffinio gan air y pen. Gellid eu cynnwys

mewn sefyllfa heb i honno eu diffinio; yn hytrach, fe’i cysylltir â hi, neu fe’i cynhwysir

mewn cymdeithas â hi.

Mae cymdeithasiad syniadau yn beth real iawn mewn dosbarthiad geirfaol, ond

y mae’r dull o’i fesur ac o adeiladu geirfa ar gyfer sefyllfa agored yn gwbl wahanol i’r

benderfyniaeth wrthrychol a llym sydd i aelodau’r sefyllfa gaeedig. Gall cymdeithasiad

syniadau wahaniaethu rhwng athro a disgybl, a disgybl a disgybl; mae’r math caeedig

ar y llaw arall yn sefydlog ac yn gyffredin i bawb. Fel arfer, y sefyllfa agored — yn

fynych, grp cymhleth o ysgogiadau gwahanol — yw’r hyn y meddylir amdano wrth

sôn am ‘sefyllfa’. Dyma’r hyn sy’n golygu yn ôl Nelson Brooks ‘y pwy, ble, pa bryd,

beth a sut mewn iaith ar waith’. Ni raid iddo fod yn ddeunyddiol. Â Brooks yn ei flaen

i ddweud: ‘Mae cred ac ymddygiad yn tueddu i ddangos yn eglur ddyluniadau a

phatrymau adnabyddedig sy’n clystyru o gwmpas pwyntiau ffocysol mewn meddwl a

gweithgaredd, y gellid cyfeirio atynt, yn niffyg gwell enw, â’r term ‘sefyllfaoedd’.

Gellid yn y fan yma grynhoi un agwedd ar ein casgliadau drwy ddefnyddio un

enghraifft benodol: Dydd Llun

Agored Caeedig Caeedig Caeedig

Safleol

Di­safle

Ffactor Cyffredin Uchaf

(amser)

Lluosrif Cyffredin Lleiaf

(dydd)

Dydd Llun Dydd Sul dau o’r gloch yfory

golchi Dydd Llun Ebrill pen blwydd

comig Dydd Mawrth hwyr Dydd Llun

gwers miwsig Dydd Mercher hanner awr dydd gwaith

ysgol Dydd Iau yfory diwrnod i’r brenin

Miss Jones Dydd Gwener weithiau yl y banc

chwarae pêl Dydd Sadwrn Dydd Llun Dydd Gwener y Groglith

Hynny yw, wrth raddio a charfanu geirfa yn ôl ffwythiannau, sefyllfaoedd neu

feysydd semantaidd, ceir amryfal ystyriaethau — heblaw ffwythiannau. Ac ni wna’r

nodiadau hyn namyn cyfeirio tuag ambell ystyriaeth a allai fod yn berthnasol mewn

182

cwrs gofalus. Ac yn bennaf oll, y pwysigrwydd o ddarganfod y grwpio caeedig sydd ar

waith o fewn y meysydd agored, ac yn ail y grwpio hierarchaidd cydlynol sy’n rhoi

ffurf ar berthynas o fewn y meysydd agored.

183

EPILOG

Ni fwriadwyd y gyfrol hon (Cyfrol 1 gobeithio) ond fel math o amlinelliad

athronyddol o Ddysgu Cyfansawdd. Ymgais oedd i gyffwrdd â pharamedrau’r dasg.

Bellach, yr hyn y carwn ei weld yn ei dilyn yw cyfres o weithiau cyffredinol yn

cyflwyno adnoddau sylfaenol agweddol, yn ôl y dadleuon a gyflwynwyd yn y gyfrol

hon. Wedyn, cyrsiau.

Cyfrol 2: Amlinelliad manylach o brif strwythurau’r iaith wedi’u graddio. Byddai’n

rhaid cyflwyno’r frawddeg graidd dair­rhan yn weddol gynnar:

h.y. Enw / Berf / ‘Adferf’(y dibynnwr ar ddibynnwr). Cysylltir hyn â’r grid

cwestiynau.

Ac fe ddilynid hynny gan ddau gam cnewyllol pellach:

(a) Tair rhan yr ymadrodd / phrase (Enw / Ansoddair / Adferf),

(b) Tair rhan y cymal (Enw­Rhagenw / Berf / Adferf sy’n cynnwys gwrthrych

y ferf)/clause, a’r holl is­ffrydiau sy’n gysylltiedig â’r tri cham hyn, bob un yn ôl

ei phryd. Cysylltir hyn â’r grid cymalau.

Cyfrol 3: Strwythurau a Chaneuon

Cyfrol 4: Strwythurau a Chwaraeon

Cyfrol 5: Strwythurau a Dramodigau Byrion ynghyd â dosbarthiad o

feysydd Semantaidd. [Mae’n bwysig bod y rhain

yn ymwneud â sefyllfaoedd (ffwythiannau /

tybiannau) y tu allan i amser yr ysgol]

Cyfrol 6: Strwythurau a Phosau

Cyfrol 7: Strwythurau a Darnau Darllen (Lecture Expliquée)

Cyfrol 8: Strwythurau a Mathemateg

Cyfrol 9: Strwythurau a Byd Natur

Cyfrol 10: Strwythurau a Chrefft

Cyfrol 11: Strwythurau a Daearyddiaeth

Cyfrol 12 Strwythurau a Hanes

Cyfrol 13 Strwythurau ac Ymarfer Corff

Cyfrol 14: Astudiaeth Lawnach o’r Iaith Lafar Safonol Ysgrifenedig.

Cyfrol 15:

Cyfrol 16:

Dulliau o Feithrin Cymhelliad

Dosbarthiad a Graddiad o Eirfa’r Gymraeg: grwpio geirfaol (caeedig,

agored; safleol, di­safle; ffwythiannol, hierarchaidd), amlder a

defnyddioldeb

Cyfrol 17: Hanes Dadansoddol Dysgu Ail­Iaith yng Nghymru

Dylid llunio’r rhain yn bennaf fel mwynfeydd cymharol sefydlog adnoddol ar

gyfer gwahanol fathau o wersi a chyrsiau ar eu sail. Ac felly, dylai 3­7 gynnwys

Mynegai i’r patrymau graddedig a gynhwysir.

184

GEIRFA TERMAU

Adeiledd: Strwythur: Adeiladwaith unigol sy’n cyfuno ffactorau yn undod. I mi,

hanfodion sefydliad ar sail perthynas yw ‘strwythur’. Ymdeimlaf â phroses yn y term

‘adeiledd’, y rhoi at ei gilydd, y ddeinameg sydd mewn ‘strwythur’.

Amnewid: Substitute

Amryweb: Range, distribution

Amryweb: Permutation

Amrediad: Range, distribution

Anieithyddol: Heb ddefnyddio iaith. Fel arfer, arwyddion neu ystyriaethau gweledol

/synhwyrol megis y cyferbyniadau delweddol (e.e. y cyferbyniad presennol/absennol)

sydd y tu allan i iaith ond a all fod yn arwyddocaol wrth adeiladu iaith (e.e. tymp y

berfau, person rhagenwau). cf. Cynieithyddol.

Annethol: Heb gael ei ddethol, Ffwrdd â hi ar sail siawns neu ddiffyg trefn.

Anwythol: Inductive: Tynnu casgliadau am y cyffredinol ar sail yr arbennig. Dyma

sylfaen y dull gwyddonol. Dyma hefyd sut yr adeiledir Tafod o Fynegiant.

Atgyrch: Reflex: Ymateb cyflyredig yr Ysgol Ymddygiadol: gw. Ymddygiadaeth.

Brawddegau Craidd: Kernel Sentences

Cydlyniad: Cohesion: Mae holl strwythurau iaith yn gysylltiedig mewn cyfundrefn neu

mewn cyfundrefnau.

Cydweddiad: Analogy

Cyfansawdd: Composite: Yn achos dysgu Ail­Iaith, cyfeirir at gydlynu deuol Tafod a

Mynegiant; Gramadeg a Geirfa. Er y gall Dysgu Cyfansawdd gynnwys nifer o’r hyn a

elwir yn ‘Ddulliau’, nid casgliad o ddulliau a gyfunir yn oddrychol ac a ddewisir yn

fympwyol ydyw. Seilir ef ar ddadansoddiad o natur iaith, sy’n angenrheidiol ddeuol, ac

ar sylwadaeth ar bendilio penodol yn hanes dysgu iaith yn ogystal ag ar sylwebaeth

fanwl ar dwf iaith plant. Nid yw hyd yn oed yn gyfuniad o ddau ‘ddull’; dyweder y

Strwythurol a’r Ffwythiannol, ond cydlyniad o ddulliau yw wedi’u cydlynu ar sail

deuoliaeth adeiledd iaith fel y cyfryw.

Cyfansoddion Unionflaen: Immediate Constituents

Cyfathrebu: Communicate: Trosglwyddo meddwl neu deimlad yn ieithyddol. Dulliau

cyfathrebol yw’r dulliau ffwythiannol­dybiannol. Fel arfer, fe’u seilir ar y rhagdyb y

gellid dysgu siarad, yn fras, drwy feistroli cyfres o ymddiddanion sefyllfaol sy’n corffori

rhai o ffwythiannau mwyaf cyffredin sgyrsio.

185

Cynhwysol: Comprehensive, inclusive

Cynieithyddol: Gellir cyferbynnu delweddau neu egwyddorion cyn dysgu iaith: megis

presenoldeb/absenoldeb, cyferbyniadau sydd wedyn yn cynnal cyfundrefnau iaith.

Cyniferydd Deallusrwydd: IQ/Intelligence Quotient.

Cyrchddull: Approach: Cyfeiriad y dull.

Dadadeiladu: Deconstruct: Datod drwy archwilio’r anamlwg sy’n tanseilio’r amlwg.

Cais archwilio’r anymwybodol sydd o’r tu ôl i’r ymwybodol. Fel arfer, yn y cysyniad

‘gwahuno’, rhydd bwyslais ar y gwahanu.

Didacteg Iaith: Holl faes cyflwyno iaith, gan gynnwys paratoi cyrsiau, gweinyddu,

defnyddiau, llyfrau, yn ogystal â dulliau dysgu.

Diddwythol: Deductive: Tynnu’r arbennig o’r cyffredinol. Dyna sut y rhoddir Tafod ar

waith i gynhyrchu Mynegiant.

Disodli: Substitution

Dril Dwyieithog Patrymog: Patterned Bilingual Dril: Ymarfer â chyfieithu unedau

byrion o lafar, a’r rheini’n cael eu hadeiladu’n olynol yn ôl rhaglen o strwythurau

cydlynol tyfiannol.

Dulleg: Methodoleg: Yr astudiaeth a’r dosbarthiad cyfundrefnus o wahanol ddulliau

cyflwyno ac ymarfer.

Dull Union: Direct Method: Dull yr oedd bri arno yn negawdau cyntaf yr ugeinfed

ganrif, wedi’i seilio ar y dybiaeth y gellid cyflwyno ar lafar (heb ystyried strwythuro) lif

o frawddegau blith draphlith.

Dyniaethau: Humanities: O’u cyferbynnu â’r Gwyddorau materol neu fathemategol;

gellid ystyried rhai dyniaethau yn wyddorau dynol, megis Ieithyddiaeth, Seicoleg,

Cymdeithaseg, ac efallai Economeg, Daearyddiaeth ddynol ayyb. Gwyddorau ydynt

cyn belled ag y gellid darganfod deddfau.

Eclectigiaeth: Eclecticism: Cyfuno gwahanol ddulliau a chyrchddulliau, heb o

anghenraid y weledigaeth o gyfuniad trefnus a chydnabyddiaeth y ddau ffactor

creiddiol Tafod a Mynegiant. Perygl Eclectigiaeth yw colli pwynt iaith drwy dybied,

oherwydd gwendid un dull, mai’r ateb yw cymysgu dulliau. Fel arfer, seilir

eclectigiaeth ar ddiffyg trefn neu ar ddiffyg gwybodaeth ynghylch amlochredd ond

cydadeiladwaith iaith.

Ffonem: Phoneme: Dosbarth lleiaf o nodwedd seiniol: er enghraifft, yr un ffonem [f]

sy’n cynnwys yr hyn a sillefir fel ‘ph’a ‘ff’. Mae ffonemau’n cynnwys llafariaid a

chytseiniaid.

186

Ffwythiant: Function: Uned mewn sefyllfa; tebyg i’r motiff mewn beirniadaeth

lenyddol. Er enghraifft, ‘ymddiheuro’, ‘gofyn caniatâd’. Nid oes diffiniad disgybledig

i’r term, fel sydd ar gyfer term ieithyddol fel ‘ffonem’dyweder. O ganlyniad, y mae’r

nifer o ffwythiannau’n ddiderfyn. Mwy gwyddonol fyddai mynd yn ôl at yr egwyddor o

Eirfa a’i dosbarthiad..

Gramadeg Cenhedlol­Drawsffurfiannol: Generative­Transformational Grammar

Gramadeg Strwythur Ymadroddion: Phrase Structure Grammar

Gwahuno: Gwahanu + Uno: Dwy wedd deall — sylwir ar wahaniaethau (ond chwalfa

fyddai’r rheini heb ganfod perthynas), ac yna sylwir ar debygrwydd; cyferbynnu ynghyd

ag ailadrodd neu ganfod tebygrwydd.

Hwiangerddwyr: Term a ddefnyddid yn chwareus yn y pumdegau a’r chwedegau i

gyfeirio at y rhai a rôi bwyslais ar ‘naturioldeb’chwarae a chanu, dramâu a’r dull

union, heb sylwi ar strwythurau.

Lecture Expliquée: Dull o ddysgu iaith drwy’i seilio ar ddarnau darllen, a esbonnir neu

a drafodir drwy gwestiwn ac ateb, neu drwy unrhyw ymarferiad perthnasol arall.

Lluosedd: Plwraliaeth: y gred fod yn rhaid disgwyl amlder o lwybrau at y gwirionedd

— y mae un llwybr yn gwbl annerbyniol. Llacrwydd amlder yw’r dogma.

Militarwyr: Term a ddefnyddid yn chwareus yn y pumdegau a’r chwedegau i gyfeirio

at y rhai a drefnai strwythurau iaith ac a’u driliai’n ddisgybledig.

Moderniaeth: Rhesymeg faterol ynghyd â goddrychedd ac ymwybod o ffasiwn.

Heblaw’r ymddatod mewn credoau a safonau, ceid o hyd ymwybod pellennig o werth,

trefn a phwrpas. Glynid o hyd wrth reswm.

Monistig: Yn ôl un elfen, o’i chyferbynnu fel arfer â deuoliaeth neu gyferbyniad.

Morffem: Uned ystyrlon leiaf mewn iaith, a all fod yn gaeth neu’n rhydd, e.e. tref (un

forffem rydd); trefol (un forffem rydd ac un gaeth).

Mynegiant: Parole/Discours: Discourse, expression: Cynnyrch terfynol Tafod ar

waith, brawddegau lluosog ac amrywiol yr iaith.

Nodau Cyfathrebu: Communicative Aims: Fel arfer, ysywaeth, rhestrwyd y targedau

dysgu hyn yn ôl yr olwg ffwythiannol ar iaith gan mwyaf, er bod symudiad wedi bod

yn fuan i gyfuno â ‘gramadeg’.

Ôl­foderniaeth: Post­modernism: Tueddir i’w diffinio yn ôl perthynas â Moderniaeth.

Ond tuedda i fod yn fwy unffurf o ran athrawiaeth, gan roi pwys ar siawns,

relatifrwydd, gwrthwynebiad i absoliwt, ymddatodiad lluosedd. Gwedd goeg yw hefyd

ar yr adwaith yn erbyn gwybodaeth y gorffennol ac yn erbyn y cysyniad o drefn. Yn

ôl Ôl­foderniaeth, nid oes y fath beth â gwirionedd cyffredinol: nid oes ond ‘eich

gwirionedd chi’a’m ‘gwirionedd i’. A chyflwynir y casgliad hwnnw fel gwirionedd

187

cyffredinol. Anghrediniaeth yw hefyd ynghylch y cyfundrefnau athronyddol mawr

megis Cristnogaeth, Marcsaeth, Cynnydd, ayyb.

Olynol: Sequential: Un cam yn ymglymu wrth un arall mewn trefn amseryddol.

Pedagogwyr: Pedagogists: Y rhai sy’n ymwneud â’r astudiaeth o gyflwyno addysg,

hefyd — yr athrawon ymarferol eu hunain.

Rhannau Ymadrodd Traethiadol: Predicative Parts of Speech: Ceir tri dosbarth —

(1) enw, (2) berf/ansoddair, (3) adferf. Fe’u cysylltir yn ôl y drefn olynol isymwybodol

o incidence (pwyso ar ei gilydd, dibyniaeth, disgyrchiant).Dyma’r rhannau ymadrodd

sy’n meddu ar y cynnwys ystyrol mwyaf, ac sydd felly’n traethu’n sylweddol am

bethau. Nid cysylltu geiriau a wnânt, fel arddodiaid neu gysyllteiriau. Y rhain yw’r tri

phrop sy’n cynnal sgerbwd y frawddeg (gydag ymestyniadau o’r un patrwm i’r

ymadrodd a’r cymal). Mae’r gyfrol System in Child Language ei hun yn gynlluniedig

ar y triawd hwnnw. Crynhowyd natur y drafodaeth gan Hewson: ‘Word­and­paradigm

grammars are notoriously weak in the area of syntax, and syntactic grammars tend to

ignore morphology, Jones forges the link between the two, and shows syntax as a

simple and natural transcendence of morphology, a passing­out from the prison house

of the word, with its bound structures, into the open arena of recursive syntactic

predictions ...’Hyn sy’n cyfrif pam nad oes ond tair brawddeg graidd gennyf i, ynghyd

ag esboniad pam, yn lle’r rhestr a roddir gan Chomsky, heb esbonio pam.

Seico­Fecaneg Iaith: Yr astudiaeth o Dafod yn bennaf. Cysylltir pob strwythur

ieithyddol yn y bôn â chyferbyniadau deinamig yn yr isymwybod, sy’n anieithyddol

neu’n gynieithyddol. Am eu bod yn dibynnu ar sythwelediad sydyn i’w rhoi ar waith,

cyfyngir pob cyfundrefn i dair elfen ar y mwyaf, ynghyd â chyfundrefn atodol bosibl,

sy’n ddeuol neu’n driol. Olrheinir y modd y mae’r rhain yn troi’n Fynegiant.

Seico­Systemateg: Gwedd ar Seico­Fecaneg, sy’n pwysleisio adeiladwaith y

cyfundrefnau meddyliol.

Semantaidd: Yn ymwneud â gwyddor ystyr.

Strwythur: Structure

Strwythuraeth: Structuralism

Syniant: lluos. syniannau: tybiant

Sythwelediad: Canfyddiad sydyn. Yn achos dysgu a defnyddio iaith fe’i seilir ar

gyferbyniadau o fewn cwlwm ffurfiol neu egwyddor. Sythwelediad disyfyd ar y pryd.

Tafod: Langue: Ffenomen a ddisgrifiwyd yn gyntaf gan Saussure, ond yn fanylach gan

Gustave Guillaume. Cyfundrefn o gyfundrefnau, neu gydlyniad o strwythurau o ran

n, ffurf a synnwyr. Tebyg i Ramadeg. Fe’i hadeiledir yn adnodd cymharol sefydlog

ac yn botensial yn y meddwl, yn barod i esgor (drwy gorffori geirfa) ar liaws o

fynegiannau.

188

Trawsffurfiant: Transformation of form: e.e. troi cadarnhad yn negyddol; cwestiwn

yn ateb; gweithredol yn oddefol.

Trawsnewid: Transform

Trefnres: Sequence: Olyniaeth o eiriau gweithredol wedi’u trefnu’n grp, yn null

Gouin.

Tybiant: Notion: motiff mewn syniadaeth.

Tymp berf: Tense: Mae’r term yn fwy dewisol nag ‘Amser’, gan fod a wnelo ‘Amser’

â modd hefyd.

Ymarfer â Phatrymau: Pattern Practice: dull o ailadrodd strwythurol amrywiol.

Ymddiddan Rhydd: Free Conversation: Gweithred greadigol sy’n lletach na dysgu

hyn a hyn o ffwythiannau ar y cof, ac sydd ar sail ymarfer ystwyth a threfnus yn medru

dweud yn ddelfrydol ‘bopeth’. Dyma nod dysgu ail iaith (mae’n cynnwys deall a

siarad), ynghyd â nodau posibl darllen ac ysgrifennu.

Ymddygiadaeth: Behaviourism: Y gred, yn y cyd­destun ieithyddol, sy’n ystyried y

gellir dysgu iaith fel cyfres o arferiadau yn ôl y patrwm sbardun­ymateb­cadarnhad:

gw. Atgyrch.

189

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!