Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Rhifyn 41: Gwanwyn 2002 Am ddim/Free

Wlíìl

Y cylchgrawn i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg

The magazine for Welsh speakers and learners

Cyhoeddir 10,000 o

CADWYN CYD dair

gwaith y flwyddyn fel arfer

Cyfle gwych i hysbysebu

C Y D

Dihareb y tymor:

Oni heuir ni fedir fyth

do not sow, you do not reap

O lethrau serth

Patagonia i

fÿnyddoedd oer

Lesotho i godi arian

at achosion da a'r

cwbl ar gefn beic!

Gweler tud 6
C A D W Y N

Llywydd Anrhydeddus:

Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd

Mary Burdett-Jones

Trysorydd

Dave Jeremiah

Cofnodydd

Gwynfor Jones

Mary Burdett-Jones, Rhian James, Rhiain Bebb, Jacì Taylor

Cyfarwyddydd CYD: Jaci Taylor

Swyddog Cyllidol: Alison Jenkins

Swyddog Gweithredol: Chris Smith

Mae CYD yn elusen gofrestredig (rhif 518371)

Mae CADWYN CYD yn ymddangos dair gwaith y flwyddyn.

Dyddiadau cyhoeddi: Mawrth; Mehefìn; Tachwedd

Swyddogion Cyswllt CYD

Swyddfa CYD (dros dro) 01970 622143

Gogledd Ddwyrain Cymru

(Conivy, Dinbych, Sir y Fflint, Wrecsam)

Ceredigion

De Powys

Rhian James (01685) 877183/871002 Morgannwg

Abertawe, Castell Nedd, Port Talbot, Rhondda-Cynon-

Taf, Merthyr Tudful, Penybont-ar-Ogwr, Bro

Morgannwg heblaw am y Barri, Ystradgynlais

Elfyn Morris Williams (01286) 831715 Môn a Gwynedd

Rhiain Bebb (01654) 700101/07799 366872

Gogledd Powys/Meirionnydd

Dafydd Gwylon (01834) 813249 Caerfyrddin a Phenfro

Padi Phillips (01222) 312293 De Ddwyrain Cymru

Blaenau Gwent, Caerfftli, Caerdydd a 'r Barri, Torfaen,

Sir Fynwy, Casnewydd

Swyddogion CYD yn y Mentrau

Marian Powell (01550) 720370 Menter Bro Dinefwr

TÌna Charles (01267) 236037 Menter Bro Myrddin

Martin Davies (01554) 776587 Menter Iaith Llanelli

Swyddfa CYD, 10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AU

Ffôn/ffacs: (01970)622143 e.bost: jjt998@aber.ac.uk y we: www.aber.ac.uk/cyd

Cefnogir gwaith CYD gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

Hoffai CYD ddiolch i Fwrdd yr laith Gymraeg

am y grant o £91,000 am y flwyddyn 2002/2003

GAIR 0'R GADAIR

Rydym newydd gael y newyddion da ein

bod ni wedi ennill Apêl S4C 2002 i wneud

fìdeo drosom a rhoi nifer o gopì'au inni.

Rydym yn ddiolchgar iawn i S4C. Bydd y

fideo yn ddefnyddiol i ddangos i bobl beth

rydym yn ei wneud yn CYD. Gobeithio y

bydd yn barod erbyn yr haf. Bydd rhagor o

newyddion am y fideo yn y rhifyn nesaf.

Mary Burdett-Jones

SWYDDOG CYSWLLT CYD MORGANNWG

Fy enw yw Rhian James ac rwyf yn byw yng Nghwmbach Aberdâr. Mae

gen i ddau o blant a g r sy'n cadw swyddfa bost yn y Rhondda.

Ers dros flwyddyn bellach, rwyf wedi bod yn gweithio rhan arnser fel

rheolwraig swyddfa Menter Iaith ar waith yn Rhondda Cynon Taf.

Mae fy niddordebau yn cynnwys darllen, cerdded a chymdeithasu.

Rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda CYD a gobeithiaf gael cyfle

i'ch cwrdd yn fuan.

SWYDDOG CYSWLLT GOGLEDD

POWYS/MEIRIONYDD

Trist yw nodi fod CYD wedi ffarwelio â Marianne Evans, ein Swyddog

Cyswllt ym Mhowys a Meirionnydd. Dymunwn pob hwyl iddi yn ei

swydd newydd gydag ELWa.

Ar nodyn mwy llawen, estynnwn groeso i Rhiain Bebb, ein Swyddog

Cyswllt newydd yng Ngogledd Powys a Meirionnydd.

Rhian James a Rhiain Bebb have recently been appointed to fillpart time

vacancies left by Anika Popham a Marianne Evans. We wish Anika and

Marianne euery success in their new full time posts. Anika is now the Welsh

tutor organiserfor South Powys and Marianne has joined the staffat ELWa.

GWYL YDYSGWYR

DYDD SADWRN, MAI 4, 2002, 10.30 - 5.00

Yn Ysgol Gyfiin y Strade, Heol Sandy, Llanelli

CYFLE CYD

A wyt ti'n greadigol?

sgrifenna stori • sgrifenna gerdd • sgrifenna gân

sgrifenna sgets • sgrifenna ysgrif

neu gwna gyfìeithiad o stori, cerdd ayb

Bydd cyfle i berfformio rhai o'r eitemau uchod ar y llwyfan

o 4.00 o'r gloch ymlaen.

Anfoner dy gyfraniad drwy bost, e.bost neu ffacs

erbyn 26 Ebrill 2002 at:

Swyddfa CYD, 10 Maes Lowri, Aberystwyth,

Ceredigion SY23 2AU

Ffôn/ffacs: 01970 622143 e.bost: iit998@aber.ac.uk

Cyhoeddwyd gan/'Published by: CYD, 10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AU

Argraffwyd gan/Pr/'nted by: Y Lolfa Dyluniwyd gan/Designed by: Y Lolfa
DWEUD WRTH BAWB AM CYD

Os oes arnoch chi eisiau denu mwy o bobl i gyfarfodydd CYD yn eich ardal chi,

mae hi'n bwysig trefnu cyhoeddusrwydd da i'r cyfarfodydd. Mae nifer o ffyrdd

i roi cyhoeddusrwydd i weithgareddau ac nid oes yn rhaid i hynny gostio'n

ddrud nac o reidrwydd gymryd llawer iawn o amser. Dyma rai awgrymiadau:

• Paratoi taflen yn rhestru gweithgareddau'r gangen dros gyfnod o rai

misoedd, a dosbarthu'r daflen i Gymry Cymraeg a dysgwyr yn yr ardal

• Gallech ofyn i siop neu fusnes lleol i noddi taflen i hysbysebu

gweithgareddau'r gangen. Mae llawer o gwmniau a busnesau yn falch iawn

i noddi taflenni. Mae hynny'n golygu y gallech chi wneud llawer o gopìau

o'r daflen heb fod hynny'n gostus i CYD

• Gallech chi baratoi posteri i'w codi mewn mannau cyhoeddus. Cofiwch fod

posteri gwag i'w cael o swyddfa CYD yn Aberystwyth. Rhaid i bob poster

ac unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd gynnwys logo CYD a logo Bwrdd

yr Iaith Gymraeg

• Anfonwch wybodaeth at y papur bro lleol. Efallai y byddai hi'n bosib trefnu

i gael colofn CYD yn y papur bro, os nad oes colofn ynddo'n barod.

Anfonwch wybodaeth am weithgareddau CYD at bapurau Ueol eraill hefyd,

yn bapurau Cymraeg a Saesneg

• Gallech chi anfon gwybodaeth hefyd at raglenni radio a'r rhaglen newydd

ar S4C 'Wedi Chwech' (Cwmni Agenda). Mae cyfeiriadau defnyddiol yn

Nyddiadur y Lolfa

• Gallech chi drefìnu i ymweld â chymdeithas Gymraeg leol i siarad am CYD

a cheisio denu Cymry Cymraeg i'r cyfarfodydd

• Y ffordd fwyaf effeithiol o ddenu pobl i gyfarfodydd CYD ydy gofyn i bobl

yn bersonol. Ceisiwch annog pob aelod o'r gangen i ddod â ffrind gydag ef

neu hi i'r cyfarfod nesaf. Pe byddai pob aelod yn gwneud hynny, byddai

aelodaeth y gangen yn dyblu!

• Anfonwch wybodaeth at CADWYN CYD, yn ogystal ag adroddiadau a

lluniau ac unrhyw hanesion difyr ynglyn â gweithgareddau'r gangen.

C A D W Y N

TELL EVERYONE ABOUT CYD

If you would like to attract more people to attend CYD meetings in your

area, it is important to arrange good publicity for the meetings. There are

many ways of publicising activities and it need not be an expense or a great

burden on your time. Here are some suggestions:

• Prepare a leaflet listing all branch activities over a few months for

distribution to both Welsh spealcers and learners in the area

• Ask a local shop or business to sponsor a leaflet publicising the branch's

activities. Many companies and businesses would be very pleased to

sponsor a leaflet. This would allow you to produce many copies of the

leaflet without creating a financial burden for CYD

• Prepare a poster to be displayed in public places. Remember that blank

posters are available from the CYD offìce in Aberystwyth. All posters

and publicity material must include both the CYD and the Welsh

Language Board logos

• Contact your local papur bro - community paper. It might be possible

to organise a CYD column in your papur bro, if one does not already

exist. Send information about CYD to other local papers as well, both

Welsh and English language papers

• Send information to radio programmes. There are useful addresses

listed in the Welsh language diary published by the Lolfa

• Arrange to visit a local Welsh society to speak about CYD and entice

Welsh speakers to branch meetings

• Send information to CADWYN CYD, as well as reports and photos

and any interesting news about CYD branch activities

• Double your membership! The most effective way of attracting people

to CYD meetings is to ask them personally. Try to encourage every

member of the branch to bring a friend with him or her to the next

meeting. If every member were to do this then the branch membership

would double!

Cwis Cenedlaethol CYD 2002

Rowndiau lleol yn dechrau ganol mis Mai.

Local rounds beginning mid May.

Cwis i ddysgwyr a Chymry Cymraeg.

A quizfor Welsh Speakers and Welsh Learners

Hyd at 6 mewn tîm - rhaid bod o leiaf un person sy'n siarad Cymraeg yn

rhugl ac un person sy'n dysgu ee. 2 o siaradwyr Cymraeg a 4 dysgwr.

Up to 6 in a tectm - must have at least one fluent Welsh speaker and one learner

e.g. 2 fluent speakers and 4 learners.

Does dim rhaid i neb ateb cwestiwn yn unigol - gweithio fel tîm - cael

tipyn o hwyl.

No one has to answer a question individually - work as a team - have loads of

fun.

Thefinal will be held at 2.00pm Wednesday 7August 2002 in the Learners

Pavilion at the National Eisteddfod in St. David's

Cofrestrwch ar unwaith trwy gysylltu â Swyddog Cyswllt CYD yn eich

ardal neu swyddfa ganolog CYD.

Register by contacting the CYD Liaison Officer inyour area or CYD's offîce in

Aberystwyth.

Ffi cystadlu: £1 y pen Competition fee: £1 each

DYDDIADUR

9/3/02

1/4/02

Bore - Hyfforddiant Swyddogion Cyswllt CYD a

Swyddogion CYD yn y Mentrau

Prynhawn - Pwyllgor Gwaith CYD

Dyddiad cau Ysgoloriaeth Dan Lynn James

Trefhir rowndiau lleol ym rnhob ardal yn ôl y galw.

Local rounds will be organised in every area according to demand.

Cynhelir y rownd derfynol am 2.00 y prynhawn, dydd Mercher 7 Awst

2002, ym Mhabell y Dysgwyr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro,

Tyddewi.

11/4/02

Mai 2002

4/5/02

6/7/02

Ysgol Dridiau - 'Dehongli Cymru' - Cwis CYD yn y C ps

Rowndiau cyntaf Cwis CYD

G yl y Dysgwyr, Llanelli

Bore - Pwyllgor Gwaith CYD

Prynhawn - Cyfarfod CyflFredinol Blynyddol CYD

BYWYD BETI BACH

gan Toby Oriver

CANOLP** Cw«r UA*-

geri?
C A D W Y N

LFRYN

Teulu Talfryn oddi ar arfordir Llangrannog, Haf 2001
MAGU'N DDWYIEITHOG YN

HYBU'R GYMRAEG

Wyddoch chi mai'r ffordd orau í sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg yw drwy

annog darpar rieni a rhieni ifanc i ddefnyddio Cymraeg gyda'u plant? Mae'r

prosiect trosglwyddo iaith, a ddatblygwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, yn

gweithio yn y gymuned i ddangos manteision dwyieithrwydd i ferched

beichiog a mamau newydd.

Mae'r prosiect yn pwysleisio un o brif negeseuon Bwrdd yr Iaith Gymraeg,

dwy iaith — dwy waith y dewis, ac meddai Rhodri Williams, Cadeirydd y

Bwrdd:

"Mae'r neges yma'n dod yn fwyfwy perthnasol, gyda Chymru'n

datblygu'n wlad hyderus a llwyddiannus. Mae Cymry Cymraeg a di-

Gymraeg yn awyddus i ddatblygu'r iaith ac i sicrhau ein bod yn gweld

cynnydd pendant yn nifer plant a phobl ifanc dwyieithog dros y

blynyddoedd nesaf.

"Caiff plant eu geni gyda'r gallu i redeg a chwarae, i ddysgu a

chwerthin, yn ogystal â'r gallu i fod yn ddwyieithog ac yn amlieithog. Mae

plant bach yn dysgu ieithoedd yn rhwydd iawn, a dyma'r amser gorau i fynd

ati i sicrhau eich bod yn defnyddio Cymraeg yn ogystal â Saesneg gyda'ch

plentyn."

Gyda bron i 65% o boblogaeth y byd yn gallu defnyddio o leiaf dwy

iaith yn eu bywyd bob dydd, mae mwy a mwy o rieni yng Nghymru'n

dewis magu'u plant yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg, a dengys ymchwil

helaeth dros y blynyddoedd diwethaf fod nifer o fanteision i blant o fod yn

ddwyieithog, er enghraifft:

• gallu meddwl yn fwy creadigol a hyblyg

• gallu siarad â chylch ehangach o bobl na pherson sydd ddim ond yn

siarad un iaith

• creu cyfle i brofi dau ddiwylliant gwahanol

• helpu i deimlo'n rhan o Gymru, a chynyddu'r teimlad o berthyn

• helpu i bontio rhwng cenedlaethau, os oes aelodau h n o'r teulu'n

siarad Cymraeg

• manteision economaidd o fod yn ddwyieithog yn enwedig pan fydd

rhywun yn chwilio am swydd.

"Does dim rhaid i'r ddau riant allu siarad Cymraeg er mwyn sicrhau

dyfodol dwyieithog i'r plentyn. Cyn belled fod un partner yn siarad

Cymraeg gyda'r babi, bydd y plentyn yn si r o ddysgu'r iaith, a bydd hyn

o fantais gwirioneddol iddo ef/iddi hi yn y dyfodol. Felly, os oes aelod o'ch

teulu neu ffrind - neu hyd yn oed chi'ch hun - yn feichiog ar hyn o bryd,

beth am eu hannog i fynd ati i sicrhau fod y plentyn yn ddwyieithog o'r

dechrau?" ychwanegodd Rhodri Williams.

C A D W Y N

MAKING THE BILINGUAL

CHOICE FOR YOUR BABY'S

FUTURE

Did you know that the best way to safeguard the Welsh language is by

encouraging prospective and new parents to use Welsh with their children?

The language transmission project, developed by the Welsh Language

Board, is centred on working in the community to show the benefits of

bilingualism to pregnant women and new mothers. The project stresses one

of the Board's main messages, two languages - twice the choice, and Rhodri

Willliams, Chair of the Board says:

"This message is becoming increasingly true with Welsh confìdence

flourishing and both Welsh and non-Welsh speakers eager to develop the

language and ensure that we see a continuing increase in the number of

bilingual children and young people in Wales during the next few years.

"Children are born with the ability to run and play, to laugh and to

learn, and also with the ability to become bilingual and multilingual. Young

children learn languages very easily and this is the best time to ensure that

you start using Welsh as well as English with your child."

With almost 65% of the world's population able to use at least two

languages in their everyday life, more and more parents in Wales are

choosing to raise their children fluent in both Welsh and English, and

extensive research undertaken over recent years has proved that there are

many advantages to children of being bilingual, for example:

• the ability to think more flexibly and creatively

• being able to communicate with a wider variety of people than a person

who can speak only one language

• the opportunity to enjoy two different cultures

• helping to feel a part of Wales, a sense of belonging

• helping to build a bridge between generations, if grandparents and

other family members speak Welsh

• economic advantages later on when children are job seeking.

"There's no need for both parents to be able to speak Welsh to secure a

bilingual future for the child. The child is sure to learn the language as long

as one partner speaks Welsh to the baby, and this will be of great benefìt to

the child as s/he grows up. So, if a family member or friend - or even you

- are pregnant at the moment, why not encourage them to ensure that the

child is bilingual from the beginning.?" added Rhodri Williams.

PEGI TALFRYN

Dyma gyfweliad rhwng y Cadeirydd, Mary Burdett-Jones, a Pegi Talfryn,

Americanes sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn magu ei phlant yn Gymraeg.

Pegi:

Oeddwn, roeddwn i'n gweithio fel Swyddog y Dysgwyr ar

gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych a'r cyffìniau.

Mary:

Pryd sylweddolodd dy blant dy fod ti wedi dysgu Cymraeg?

Mary:

Oedd hi'n broblem i gael dysgwyr i ddod i'r Eisteddfbd?

Pegi:

Mary:

Pegi:

Roedden nhw'n gwybod fy mod i'n dod o America ond

doedden nhw ddim yn sylweddoli am dipyn fy mod i wedi

dysgu Cymraeg ond fe wnaethon nhw sylweddoli erbyn eu bod

nhw'n bump oed.

Beth yw eu hoedran nhw nawr?

Mae Gwenno yn ddeg, Owain yn wyth, a Siôn bron yn bump.

Mary: Oeddet ti wedi dysgu'r Gymraeg cyn cwrdd â dy r, Ioan

Talfryn?

Pegi:

Mary:

Oedd. Roedd hi'n waith caled i berswadio rhai pobl i f nd â'u

plant yno. Doedden nhw ddim yn sylweddoli ei bod hi'n

ddiwrnod rhad i deulu. Mae plant yn cael mynd i mewn am

ddim, ac mae popeth ar y maes am ddim, paentio wynebau,

gemau, pebyll S4C a'r BBC gyda'r cyfle i weld sêr y teledu,

sioeau pop gyda grwpiau roc. Dyw llawer o bobl ddim yn

sylweddoli bod gweithgareddau i blant yn y Ganolfan Groeso

wrth iddyn nhw fynd mewn i'r Steddfod. Mae'r Steddfod yn

fodern.

Beth yw dy waith di nawr?

Pegi:

Roeddwn i wedi gwneud blwyddyn o gwrs gradd yn y

Gymraeg yn Llambed, gan gynnwys cwrs Wlpan yn yr haf.

Felly dechreuon ni yn Gymraeg. Mae'n anodd newid iaith

perthynas. Wedyn dewisais i gymryd blwyddyn arall i wneud y

cwrs Cymraeg gyda'r Cymry.

Pegi:

Mary:

Rwy'n dysgu yng Nghanolfan Iaith Popeth Cymraeg yn

Ninbych ac yng Ngholeg y Rhyl. Yn y Rhyl, lle rydyn ni'n byw,

rwy'n darlithio yn Saesneg am ddiwylliant Cymru.

Dwi ddim yn gwybod sut rwyt ti'n dod i ben i wneud popeth!

Mary:

Roeddet ti'n gwneud gwaith arbennig llynedd pan gwrddais
C A D W Y N

Taith Feicio yn Lesotho

i godi 110,000

Dolen Cymru sy'n hyrwyddo'r daith, sef y mudiad gwirfoddol sy'n hybu

cysylltiadau rhwng Cymru a Lesotho. Mae Mudiad Cristnogol Myfyrwyr

(MCM) yn helpu gyda'r trefniadau yn Lesotho, ac fe fydd gr p o bobl ifanc

leol yn ymuno â ni ar gyfer y daith.

Y nod: Codi cyfanswm o 10

mil o bunnoedd i brynu

offer i ysgolion ac ysbytai yn

Lesotho.

Pryd: 2 wythnos ar

ddechrau Medi 2002

Faint o bobl: Hyd at 10 o

feicwyr a 2 o gefnogwyr

(gyrru/tynnu Uuniau/trwsio

beics)

Costau: Taith awyr 2 ffordd

i Johannesburg tua £400.

Tua £100 at gost cefnogaeth

(4x4 - angen 2). Mae hyn yn

cynnwys y daith rhwng

Johannesburg a Lesotho.

Llety: Gwersylla neu aros

mewn tai/ysgolion/ ysbytai

(yn holliach gobeithio).

Gwestai/'lodges' i'r rhai sydd

eisiau bod yn fwy

cyfforddus! Pawb i dalu

costau llety/bwyd eu hunain, er mae'n debyg y bydd MCM yn helpu gyda'r

rhain.

Beiciau: Pawb i fynd â'i feic ei hun - angen beic mynydd ysgafn.

Y daith: 450 milltir mewn 10 diwrnod o seiclo. Mae'n bosibl gwneud llai

trwy wneud rhannau o'r daith yn unig, neu daith fyrrach o 200 milltir.

Y ffyrdd:Traciau yn y mynyddoedd uchel, gweddill y daith ar ffyrdd iawn.

Tywydd: Gwanwyn cynnar - yn ddigon sych a chynnes (15 -20C), ond yn

oerach yn y mynyddoedd ac yn y nos.

Nawdd: Pawb i godi o leiaf £500 os yn bosibl. Fe fydd yr holl arian yn

mynd at yr achos gan mai ni fydd yn talu'r costau i gyd.

Paratoi: Angen bod yn weddol heini ac yn iach, wedi arfer â seiclo yn y

bryniau/mynyddoedd

Newyddion diweddaraf: Mae Dr Graham Thomas ar ymweliad â Lesotho

ar hyn o bryd yn gwneud arolwg o ysbytai a chlinigau yno a'u hanghenion.

Bydd MCM yn casglu gwybodaeth debyg ar gyfer ysgolion Lesotho.

Cysylltwch â fi am fwy o fanylion, ac i gadarnhau os ydych chi am ddod:

e-bost: j .pye@ccw.gov.uk

ffon: 01248 385573 (dydd) 01248 450356 (nos)

cyfeiriad: Ty'n Pwll, Llanbedrgoch, Ynys Môn LL76 8NX

Jenny Pye

Pwy yw Jenny Pye?

Mae hi'n aelod o CYD.

Hi ydy Swyddog Iaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae hi'n diwtor Cymraeg i Oedolion.

Mae hi'n dysgu 5 dosbarth ym Mangor ac Ynys Môn.

Enillodd Jenny gystadleuaeth 'Dysgwr y Flwyddyn' ym 1988.

Mae hi'n mwynhau'r her (cballenge) o deithiau seiclo hir.

Mae hi am helpu pobl sydd mewn angen, pobl sy'n diodde' (suffering).

Ym 2000 gyda'i mab a 3 pherson arall seiclodd hi ar draws De America.

Seiclon nhw dros 800 o filltiroedd mewn 10 diwrnod trwy Chile a'r Ariannin.

Codon nhw £8,000.

Rhoddon nhw £4,000 i Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd a chafodd ysgolion ac

ysbytai ym Mhatagonia £4,000.

Y flwyddynnesaf mae hi'n gobeithio seiclo trwy Cuba.

Beth am íynd gyda Jenny i Lesotho eleni?

PARTI

BLASU

BWYD

DIRGEL

INDONESIA

gan

Juliet Revell

Annwyl Ffrind

Rown i wedi addo sgrifennu atoch i ddweud am ein parti, a'n bwyd dirgel!

Mae ein t ni yn fach; nid yw'n blas i fìliwnydd, ond mae 'na lawer o

gariad a gofal. Mae 'na le hefyd i ffrindiau arbennig.

Roedd pawb yn garedig, a treulio'n nhw tipyn o amser 'da ni yn blasu

bwyd estron, gyda chywreinrwydd. Teimlwn i'n bryderus ar y pryd.

Roedd pawb yn cloncian yn fodlon, a rhai'n siarad ym hamddenol.

Roedd rhai'n siaradus fel pwll y môr. Rwy'n siwr bod y sgwrsio yn

ddiddorol.

Diolch iddynt i gyd am eu haelioni; rwy'n gwerthfawrogi eu

cefnogaeth enfawr; [ar hyn o bryd, ry'n ni wedi casglu £82.50 at Eisteddfod

Genedlaethol Tyddewi, ac rwy'n falch iawn!]

Roedd yr achlysur wedi codi fy nghalon.

Beth amdanoch chi? Beth yw'ch newyddion chi, tybed?

Hwyl am y tro.

Cofìon

Juliet

Nodyn gan y golygydd

Nid yw Juliet wedi codi'r arian at yr Eisteddfod yn enw CYD, gan fod

hynny yn erbyn rheolau'r Comisiwn Elusennau.

Gemwaith Celtaidd Rhiannon

Gemwaith arbennig wedi ei wneud â llaw

o Arian, Aur ac Aur Cymru

Datblygiad newydd yn agor yn ystod 2002

Gweithdai Arddangos a Siop newydd,

Oriel, Amgueddfa ac Ystafell De Gytnreig

Catalog Post ar gael

Gemwaith Rhiannon, Canolfan Aur Cymru, Tregaron, SY25 6JL

01974 298415 www.rhiannon.co.uk

Mae gan UCAC Gynllun Pontio

i helpu dysgwyr da ddod yn f y rhugl

yn yr iaith. Holwch am fanylion.

UCAC - â'ìgalon yng Nghymru

Pen Roc, Rhodfa'r Môr, Aber/stwyth, Ceredigion SY23 2AZ

Ffôn: 01970-615577 E-bost: swyddfa@ucac.cymru.org
C A D W Y N

OEDDECH CHI'N GWYBOD...?

DEWI SANT A THYDDEWI

• Dewi Sant yw nawddsant Cymru. Roedd e'n arweinydd yr Eglwys

Geltaidd yng Nghymru ac yn sant Celtaidd.

• Ychydig o wybodaeth bendant sydd ar gael amdano heddiw ac mae'n

anodd gwahanu hanes oddi wrth chwedl.

• Dywedir iddo gael ei eni tua'r flwyddyn 520, yn fab i Sant (neu

Sandde), a Non (neu Nonn). Yr oedd ei dad yn frenin Ceredigion, ac

felly y mae'n eithaf posibl mai yn y sir honno y ganed Dewi, os nad yn

ardal Tyddewi.

• Aeth pum can mlynedd heibio cyn bod ei gofìant o'r enw 'Buchedd

Dewi' (yn Lladin 'Vita Davidis') yn cael ei ysgrifennu gan Rhygyfarch,

mab i Sulien a fu'n Archesgob Tyddewi.

• Yn ôl Rhygyfarch cafodd Dewi ei addysgu i ddechrau yn Hen Fynyw

(i'r de o Aberaeron) ac yna gan Paulinus, mynach dall, efallai yn

Llanddeusant.

• Dywedir bod Dewi wedi mynd ar deithiau cenhadol dros rannau o dde

Cymru a gorllewin Lloegr gan sefydlu llawer o eglwysi. Mae hi'n bosibl

fod dylanwad Dewi wedi ymledu i Iwerddon a Llydaw hefyd. Honnir

bod y seintiau Padarn a Teilo wedi mynd gyda Dewi ar ei deithiau a bod

y tri ohonyn nhw wedi mynd ar bererindod i Gaersalem.

• Dywedir fod Dewi wedi sefydlu cymdeithas fynachaidd yng Nglyn

Rhosyn (neu Rhosin), ble mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn sefyll

heddiw, yng ngorllewin Sir Benfiro. Treuliodd Dewi weddill ei oes fel

pennaeth y Mynachdy yn Nhyddewi. Yn ôl traddodiad dim ond d r

roedd Dewi yn ei yfed, a chafodd yr enw Dewi Ddyfrwr.

• Mae llawer o chwedlau a gwyrthiau'n gysylltiedig ag enw Dewi. Ble

cyflawnodd Dewi wyrthiau dywedir bod d r yn dechrau llifo. Efallai

mai'r chwedl enwocaf amdano fe yw'r un sy'n gysylltiedig â chyfarfod

o'r Eglwys yn Llanddewibrefì. Pan ddechreuodd Dewi bregethu doedd

y dyrfa fawr ddim yn gallu gweld na chlywed Dewi. Dywedir fod Dewi

wedi rhoi hances ar y llawr ac yna safodd ar yr hances. Cododd y ddaear

o dan ei draed ac felly roedd y bobl yn gallu gweld a chlywed Dewi'n

pregethu.

• Yn ôl Rhygyfarch bu Dewi farw ar ddydd Mawrth y dydd cyntaf o fis

Mawrth, tua'r flwyddyn 588. O'r ddeunawfed ganrif ymlaen daeth y

cyntaf o Fawrth yn yl genedlaethol, sef Dydd G yl Dewi.

• Am ganrifoedd bu Tyddewi'n gyrchfan i bererinion, a'r gred oedd bod

dwy bererindod yno cystal ag un i Rufain, a thair yn gywerth â

phererindod i Gaersalem.

• Dechreuwyd adeiladu'r eglwys gadeiriol bresennol yn 1180 a

chwblhawyd y gwaith tua 1522. Yr eglwys bresennol yw'r drydedd o

leiaf a fu ar y safle.

• O ran maint pentref yw Tyddewi ond oherwydd presenoldeb yr eglwys

gadeiriol y mae'n un sy'n gallu hawlio ei alw'n ddinas, a rhwng 3 a 10

Awst 2002 bydd yn brifddinas ddiwylliannol Cymru. Sut felly, medde

chi. Wel, ar gyrion Tyddewi cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

(Cofiwch ymweld â stondin CYD ym Mhabell y Dysgwyr!)

• Y mae pobl Tyddewi ar flaen y gad yn yr ymdrech i gael g yl banc

arbennig i Gymru ar gyfer G yl Ddewi. Gwyliwch y gofod hwn!

BETHAN GWANAS:

BLODWENJONES A 'R ADERYN PRIN

Gwasg Gomer, 2001, 87 tudalen, £3.50

Mary Burdett-Jones

Dyma lyfr a wnaeth imi chwerthin!

Ynddo cawn hanes merch, yr un

Blodwen ag yn y llyfr Bywyd Blodwen

Jones, sy'n dal i ddysgu Cymraeg. Mae

hi'n ymdrechu i siarad Cymraeg â'i

chydweithwyr yn y llyfrgell. Yno mae

Dei, sy'n gyrru fan y llyfrgell o gwmpas

y pentrefì, yn rhoi cefnogaeth iddi ac yn

esbonio pethau yn yr iaith nad yw hi

ddim yn eu deall, ond mae Gwen, sy'n

gweithio wrth y cownter, yn meddwl ei

bod hi'n wastraff amser siarad Cymraeg â

Blodwen. Mae'r ddau gymeriad hyn yn

lones

Ffynonellau

Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1977)

Chwedlau Gwerin Cymru (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1989)

Chwilota, Cyfrol 3 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1981)

Cymry Enwog (Gwasg Prifysgol Cymru, 1958)

Catchphrase I gan Basil Davies a Cennard Davies, 1980

Data Wales. Index Search Boolcshop

http:/users. aber.ac.uk

Geirfa

Tyddewi — St David's

nawddsant — patron saint

arweinydd — leader

(g)wybodaeth bendant - definite information (hard facts)

anodd gwahanu hanes oddi wrth chwedl - difficult to separate history from

legend

aeth pum can mlynedd heibio — five hundred years passed by

cofiant - biography

Buchedd Dewi - Life of David

Archesgob - Archbishop

yn ôl - according to

addysgu - to be educated (at)

mynach dall — blind monk

dywedir — it is said

ar deithiau cenhadol — on missionary journeys

gan sefydlu - establishing

dylanwad - influence

ymledu — to spread

Iwerddon a Llydaw — Ireland and Brittany

honni - to assert

seintiau - saints

pererindod - pilgrimage

Caersalem - Jerusalem

cymdeithas fynachaidd - monastic community

Eglwys Gadeiriol — Cathedral

gorllewin Sir Benfro — west Pembrokeshire

(g)weddill ei oes - the rest of his life

pennaeth y Mynachdy - head of the Monastery

yn ôl traddodiad — according to tradition

Dewi Ddyfrwr — Dewi the Waterman

gwyrthiau — miracles

yn gysylltiedig â(ag) — associated with

pregethu - preach

tyrfa — crowd

hances - handkerchief

bu Dewi farw — Dewi died

y ddeunawfed ganrif — eighteenth century

canrifoedd - centuries

cyrchfan - destination, meeting place

pererinion — pilgrims

Rhufain — Rome

cyfwerth â(ag) — of equal value

y drydedd o leiaf — the third at least

presenoldeb — presence

prifddinas ddiwylliannol — cultural capital

ar flaen y gad - to be in the vanguard (of a movement)

gwyliwch y gofod hwn - watch this space

dangos y gwahanol agweddau sydd gan y Cymry Cymraeg tuag at

ddysgwyr.

Ond nid yw problemau Blodwen wrth geisio siarad yr iaith yn ddim i

gymharu â'i phroblemau gyda dynion wrth iddi chwilio am Mr RighA

Mae'r llyfr ar ffurf dyddiadur ac mewn arddull hynod o fywiogsy'n llwyddo

i gyflwyno idiomau Cymraeg mewn ffordd ddifyr. Fel yn achos y llyfrau

eraill yn y gyfires Nofelau Nawr mae geiriau anodd yn cael eu hesbonio ar

waelod y tudalen. Ar ddiwedd y llyfr

mae cwpl o dudalennau sy'n tynnu

sylw at rai ffurfìau amser presennol y

ferf bod, esboniad o'r ffordd y mae

gan yn cael ei ddefnyddio yn y

Gogledd, er enghraifft, 'Mae gen i

gar', lle mae pobl o'r De yn dweud

'Mae car 'da fì', a rhai ffurfìau

amodol ar y ferf bod; mae'r nodiadau

yn cyfeirio at dudalennau yn y llyfr

lle mae enghreifftiau o'r ffurfìau yn

digwydd.

ymdrechu make an effort

cydweithwyr colleagues

cefnogaeth encoumgement

agweddau attitudes

i'w gymharu â in comparison with

ar ffurf in the form of

cyflwyno introduce

er enghraifftyôr example

amodol conditional

enghreifftiau examples
C A D W Y N

GRADD ALLANOL

Prifysgol Cymru

Astudio'r Gymraeg??

Chwilio am gwrs newydd??

Beth am fanteisio ar y cyfle i ennill 40 credyd, Tystysgrif, a

chymryd un cam ar hyd y llwybr i ennill gradd yn y Gymraeg?

Mae'r cwrs DEFNYDDIO'R GYMRAEG yn cynnig hyfforddiant

i'r rhai hynny sy'n awyddus i weHa safon eu Cymraeg

ysgrifenedig, yn ddysgwyr ac yn Gymry Cymraeg fel ei gilydd.

Cynigir dau fodiwl:

MEISTROLI'R IAITH YSGRIFENEDIG

LLENYDDIAETH GYFOES

a dysgir y modiwlau gan ddarlithwyr Adran y Gymraeg,

Prifysgol Cymru Aberystwyth

Os oes gennych ddiddordeb, neu os hoffech dderbyn manylion

pellach ynghyd â ffurflen gais, cysylltwch â:

Mari Elin Jones

Cyfarwyddwr Academaidd y Radd Allanol

Adran y Gymraeg

Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin,

Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AX

Ffôn: 01970-622050 E-bost: mlj@aber.ac.uk

Hybu rhagoriaeth meiun dysgu ac ymchiuil

Cyfarpar Newydd i CYD

Diolch i Gyngor Sir Ceredigion ac Arian i Bawb Cymru am gynnig

grantiau i brynu peiriant llungopì'o a chyfrifiadur newydd.

GWYBODAETH O'R CANGHENNAU

TYDDEWI

Mae CYD Tyddewi yn cwrdd bore Sadwrn cyntaf y mis, ac mae croeso i

ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ymuno. Mae'r gr p yn cwrdd yng nghanol

Tyddewi, yn siop goflfi y "Coach House". Dyma gyfle i ddysgwyr ddefnyddio

eu Cymraeg a chwrdd â pobl sydd â diddordeb yn yr iaith a'r diwylliant

Cymraeg. Mae rhagor o fanylion CYD Tyddewi gyda Rob Pugh [ffôn: 01437

720404] neu Nigel Acton [ffôn: 01437 720758].

Mae llawer o bobl yn y dosbarthiadau Cymraeg yn ardal Tyddewi eleni, yn

rhannol mae'n debyg, o achos bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â sir

Benfro, ym mis Awst.

CLWB CLEBER CRYMYCH

Mae dysgwyr a siaradwyr Cymraeg Bro'r Preseli yn cwrdd fore Gwener cyntaf

bob mis; mae nifer o diwtoriaid Cymraeg hef d yn helpu yn ffyddlon. Cyswllt

newydd y Clwb Cleber yma yw Delia Abbot, rhif ffôn: 01994 448424.

Diolch hef d i Margaret James, y tiwtor fu'n gyswllt gweithgar i Glwb

Cleber Bro'r Preseli am sawl blwyddyn.

BOREAU SADWRN CYMRAEG SIR BENFRO

Mae cyfle i siarad Cymraeg a chymdeithasu ar gael bron bob bore Sadwrn eleni

mewn gwahanol drefi yn sir Benfro. Fore Sadwrn laf a 3ydd y mis, mae CYD

yn cwrdd am goffì yn Hwlffordd, yn Nhafarn y Pembrolce Yeoman. Ar ail fore

Sadwrn y mis, mae'r aelodau yn cwrdd yn Abergwaun, yn y Stafell Goffi, wrth

ochr Siop DJ.

CYD HWLFFORDD

Mae CYD Hwlfifordd yn cwrdd ar nos Iau. Rhyw unwaith y mis mae'r aelodau

yn ymweld ag ardal arall yn sir Benfiro, megis Solfach ac Arberth. Cyswllt CYD

Hwlffordd yw Cefin Knox [ffôn: 01437 762223].

DYSGWYR NEWYDD TREFDRAETH

Mae CYD Trefdraeth yn cwrdd ers tua deuddeng mlynedd o dan arweiniad

cyfeillgar Eiry Ladd Lewis. Roedd cyfarfod mis Rhagfyr diwethaf yn

ardderchog. Ymunodd gr p o ddeuddeg dysgwr newydd gydag aelodau CYD

Trefdraeth, gyda'u tiwtor, Margaret James. Cafodd pawb goffi a phastai Dolig.

Roedd y dysgwyr yn aelodau o ddosbarth newydd yn Nhrefdraeth; mae'r

dosbarth yn astudio'r cwrs "Dosbarth Nos" yn ystod y dydd! Croesawyd pawb

gan Dafydd Gwylon, Swyddog Cyswllt CYD, ac yn fuan roedd pobl CYD a'r

dysgwyr newydd yn cyfnewid enwau a siarad am eu bro enedigol, "places of

origin". Roedd aelodau CYD hef d yn cynnig ambell i gyngor, "advice", a

llawer o gefnogaeth i'r dysgwyr. Roedd y cyfarfod yn un dymunol, gyda llawer

o ddysgwyr newydd. Ry'n ni'n edrych ymlaen at gynnydd, "progress", a

byddwn ni i gyd yn cael llawer o hwyl wrth ddysgu Cymraeg.

Ray Jones

ì

DIGWYDDIADAU CYD CASTELL NEWYDD EMLYN

lOfed o Hydref a'r gangen yn

cwrdd ym Maes Llewelyn pan

gafwyd profiad gwahanol gan yr

aelodau wrth chwarae'r gêm

"Disgrifìo" yng nghwmni'r

cynllunydd sef Robert Davies,

Arberth, ac yntau'n ddysgwr.

Llongyfarchiadau iddo am wneud

mor dda. Talwyd diolchiadau iddo

gan Margaret am noson

ardderchog oedd yn codi sgwrs a

hwyl a phawb wedi enjoio mas

draw ar ôl iddynt ddysgu'r rheolau

rhaid dweud! Margaret oedd yn

ennill y raffl fìsol roddedig gan

Mary Jane. Daethpwyd â'r cyfarfod

i ben gyda the a bisgedi.

"Fy Hoff Miwsig" oedd ar

raglen Tachwedd ac oherwydd fod

noson o gerddoriaeth mor

llwyddiannus y llynedd a'n

Cadeirydd yn absennol ar yr

achlysur hwnnw penderfynwyd ei

ail-gynnal eleni. Felly ar I4eg y mis

daeth nifer dda ynghyd â thapiau

i'w chwarae ac adrodd hanes o'u

dewis. Bu gennym gerddoriaeth

glasurol, opera, canu gwlad a jazz.

Gwnaed y diolchiadau gan

Morwenna a Margaret oedd yn

lwcus unwaith eto gan ennill

gwobr raffl Keith. Gorffennwyd y

cyfarfod gyda chlonc dros baned.

Dathlwyd y Nadolig gan

aelodau'r gangen yng nghwmni

gw r, gwragedd, ffrindiau a rhai

aelodau cangen Bro'r Preseli yn

Plas Rhos y Gilwen ac yn ein

croesawu wrth y drws roedd Ken

ein Cadeirydd. Mewn ystafell

wedi'i haddurno ar gyfer y tymor

arbennig hwn dechreuwyd y noson

gyda gwydraid o win o flaen tân

coed a phawb yn sgwrsio gyda'i

gilydd mewn awyrgylch gyfeillgar

iawn wrth i Marion O'Toole ganu'r

delyn. Ar ôl cinio Nadolig

traddodiadaol a'r gwasanaeth heb

ei ail bu Dilys, Dennis, Steve a

Nesta yn ein diddori trwy ganu

mewn pedwarawd ac ar ben eu

hunain mor dalentog. Ymunodd

pawb â nhw'n canu carolau a

Marion O'Toole oedd y cyfeilydd.

Mwynheuwyd coffì a chlonc cyn i

Bob dynnu'r raffl fawr. Noson

ardderchog, cyfeillgar a hwylus.

Mis Ionawr a'r aelodau wedi

dod â'u haddunedau blwyddyn

newydd. Er gwaetha absenoldeb

cymaint oherwydd salwch, cafwyd

noson dda iawn. Enillwyr y raffl

oedd Nesta a Fleur a diolchodd

Beti i bawb oedd wedi cyfrannu i

hwyl y noson. Daeth y cyfarfod i

ben gyda phaned a chlonc.

Margaret Holman

YN EISIAU

Gwybodaeth

lluniau

o'ch gweithgareddau

ar gyfer Cadwyn

CYD
C A D W Y N

GWYBODAETH O'R CANGHENNAU

CANGEN BRYN

Yn ystod mis Rhagfyr, daeth y Fari Lwyd i

ymweld â CYD y Bryn. Roedd criw o CYD

Cwmafan wedi ymuno gyda ni a rhoddodd

Di, perchennog y Dderwen, wledd o fwyd i ni.

Cawsom noson mas draw ac roedd pawb

mewn llais da.

CANGEN CYD LL N AC EIFIONYDD

Aeth y gangen ar daith trên jazz yr haf

diwethaf i Faentwrog a gwrando ar y band jazz

yn canu.

Dathlu Diwrnod Santes Dwywen yng Nghaernarfon

Daeth ryw ddwsin i ddathlu Santes Dwynwen yng Nghaernarfon gyda Karl

Bohana yn canu a Gina Gwyrfai ar yr organ.

CANGEN CYD LLANBED

Dalthlwyd Parti Nadolig yn Festri Brondeifi, daeth ryw 40 ynghyd i fwynhau

gwledd â chwis.

Dewch Ynghyd - coffî a charolau yng nghartre Rbaiannon Walters, Llangadog, Bu Marian

Powell, Swyddog CYD ym Menter Bro Dinejwr yn arllwys coffì ar gyfer 30 o bobl.

Bro Dinefwr

Mae dysgwyr a Chymry Cymraeg yr ardal wedi bod yn cyfarfod yn gyson

yn ystod yr misoedd diwethaf. Mae Llanymddyfri yn cwrdd bob mis ac

mae pawb wedi cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau diddorol. Mae

Cilycwm a Llandeilo yn cwrdd bob yn ail wythnos mewn tafarn. Bydd

Llangadog yn cwrdd bob mis o hyn ymlaen a Talyllychau yn ystod y

gwyliau. Ar ôl y Pasg bydd yna gyfarfodydd yn dechrau yn Brechfa.

Gêm "Disgrifio" gan Robert Davies

Cawsom noson ddiddorol a chynhyrfus iawn yn Llanymddyfri pan ddaeth

Robert Davies o Sir Benfro a'r gëm yma atom. Mae'n addas i ddysgwyr a

Chymry Cymraeg ac yn llawer o sbort. Mae Robert wedi bod yn brysur

iawn yn gwneud y gêm yma ac fe fyddai yn gwneud noson ddiddorol iawn

i grwpiau eraill.

CANGHENNAU NEWYDD

Mae gan CYD gangen newydd ym Mhrifysgol Bangor.

Cafwyd noson agoriadol dda o gaws a gwin a darlith i ddathlu Santes

Dwynwen, gydag yn agos i ddeugain o í nychwyr.

WRECSAM

Cysylltwch â Bob Edwards am wybodaeth am gyfarfodydd 01978 263459

CYD YN RHYDAMAN

Mae CYD newydd i ddechrau yn ardal Rhydaman. Mae'r Tiwtoriaid

Cymraeg yn helpu i ennyn diddordeb ymysg y Dysgwyr. Mae croeso hefyd

i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr eraill ymuno, a chynnig awgrymiadau. Os

hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi ffonio [neu ffacsio]

Dafydd, rhif ffôn: 01834 813249

Dew

Llyfr Newydd gan

Rhiannon lfan~

Darlunia

Margaret Jor

£5.95 (clawr cí

Gostyngiad o 20% ar bopeth yn

~\ Y Lolfa Talybont Cered

e-bost ylolfa@ylolfa.com

Mwynhau bwyd dirgel Indonesia, acymarfer Cymraeg erbyn Steddfod Tyddewi

Dilys Rees, y tiwtor Cymraeg, ary chwith; Gareth Revell, y gwesteiwr, nesa at Dilys; Dafydd

Gwylon, Swyddog Cyswllt CYD yr ail o'r dde.

| •newydd

lihgo

Enw

Cyfeiriad

Cod Post

Rhifffôn

Llyframddim!

Lingo Newydd

a llyfr am ddim

Tanysgrifiwch am 12 copi om £ 1.25 yr

un (un bob 2 fìs) a byddwch chi'n cael

dewis un o'r 4 llyfr hyn om ddim.

Cyflei Cymry Sêr Teithiau

siarad Jj| Ddoe | Heddiw | Car

Siec yn daladwy i Lingo Newydd am £ 15

Anfonwch at:

Lingo Newydd, d/o Golwg Cyf.,

Blwch Post 4, Llanbedr Pont Stcffan,

CeredigionSA48 7LX

C A D W Y N

... llyfrau

sy'n werth y byd

GWYL

Y DYSGWYR

tMê.

Ffeil-o-fflic

Cyfres newydd o lyfrau darllen ar gyfêr

dysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3

£2.50 yr un

Yr Adran Farchnata, Y Ganolfan Astudiaethau Addysg,

Prifysgol Cymru Aberystwyth, Yr Hen Goleg,

Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AX

T: 01970-622128 F: 01970-622122 E: lij@aber.ac.uk

DYDD SADWRN, MAI 4, 2002, 10.30 - 5.00

Yn Ysgol Gyfiin y Strade, Heol Sandy, Llanelli

Diwrnod llawn o hwyl i'r teulu cyfan

fun dayfor all

I deuluoedd Cymraeg a dysgwyr

Dosbarthiadau/gweithdai/teithiau/sgwrsio/canu

Trefnwch fws o'ch ardal chi

arrange a bus from your area

£3.00 yn unig!

Cysylltwch à/contact- Lowri - Menter Iaith Llanelli

01554 758355 lowri.gwenllian@colegsirgar.ac.uk

•J?

lilTH LLANELLI

nant

wrtheyrn

Ydych chi erioed wedi mynychu un o

gyrsiau preswyl Nant Gwrtheyrn?

Mwynhewch ddarllengyda

chymorth geirfa a nodiadau gwerthfawr!

Detholîad gwych

o gerddi

N O F E L A U

|\|AWR

Lleoliad gwych ac ysbrydol i ddilyn:

• Cyrsiau 12 diwrnod i ddechreuwyr pur

• Cyrsiau iaith, hanes a diwylliant

Cymraeg

• Cyrsiau i'r teulu

• Penwythnosau blasu'r iaith

Eleni mae'r cyrsiau yn cael eu hachredu gan

Rwydwaith y Coleg Agored ac am y tro cyntaf

gallwch dderbyn cefnogaeth ariannol.

Am fanylion y cyrsiau a chronfa mynediad Nant Gwrtheyrn,

cysylltwch â'r swyddfa ar 01 758 750334

neu ebost nantgwr@aol.com

£7.95

w

jones

a'r adar

nn

Gwanas

çlymau ddoe

ALYSJONES

Stori

sensitif

am Llinos

a'i

gorffennol

poenus.

GOMËR

Llandysul, Ceredigion SA44 4QL

Ffôn: 01559 362371

Ffacs: 01559 363758

e-bost: gwasg@gomer.co.uk

we: www.gomer.co.uk

IO
C A D W Y N

CYMDEITHAS EDWARD LLWYD

Sefydlwyd Cymdeithas Edward Llwyd yn

1978 a hi yw Cymdeithas Genedlaethol

Naturiaethwyr Cymru. Enwir y Gymdeithas

ar ôl Edward Llwyd, a anwyd yn 1660 ac a

alwyd yn ei gyfnod "y naturiaethwr gorau yn

awr yn Ewrop".

Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ac y

mae dros 1,2000 o aelodau led-led Cymru a

thu hwnt. Prif ddibenion y Gymdeithas yw

astudio byd natur, yn cynnwys planhigion,

anifeiliaid a chreigiau, gan hyrwyddo

ymwybyddiaeth o amgylchedd a

threftadaeth naturiol Cymru ac ymgyrchu

dros eu gwarchod. Mae'r Gymdeithas yn:

• trefnu cyfarfodydd awyr-agored ym mhob rhan o Gymru, i astudio ac

i gerdded

• cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol

• trefnu Cyfarfod Blynyddol, a gynhelir yn yr hydref; cyfle i bob aelod

leisio ei farn ar ddyfodol y Gymdeithas ac enwebu aelodau i

wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith

• trefnu darlithoedd a chyfarfodydd cymdeithasol

• cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

• cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn

• cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn

• cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriaid a phlanhigion

• cynnig grantiau (£600) bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd

natur

• lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol

• trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored

Mae aelodaeth yn agorerd i bawb o bob oed sydd â diddordeb ym myd

natur.

Dyma'r tâl blynyddol: Unigolyn - £10; Teulu - £12;

Myfyrwyr, pensiynwr, di-waith - £6

I ymaelodi neu am ragor o fanylion cysylltwch â'r Ysgrifennydd Aelodaeth:

Iwan Roberts, 3 Rhes y Rheilffordd, Rhuthun, Sir Ddinbych LL15 4LJ

W

Canolfan y Celfyddydau

1 Aberystwyth

^y^

Arts Centre

^T

f

Ticket Office

(01970) 62 32 32

Open Ar agor

Mon - Sat Uun - Sadwrn

10am-8pm 10am - 8pm

Cinema •

Theatre •

Light Entertainment •

Special Events •

Classical Music •

Dance •

Children's Events •

Live Music •

Literature •

Exhibitions •

Courses & Workshops •

Café & Bars •

Craft & Design Shop •

Waterstones Bookshop •

There's plenty to choose from!

Swyddfa Docynnau

• Sinema

* Cerddoriaeth G/asuro/

• Theatr

• Adloniant Ysgafn

• Digwyddiadau Arbennig

• Dawns

• Digwyddiadau f Blant

• Cerddoriaeth Fyw

• Uenyddiaeth

• Arddangosfeydd

• Cyrsiau a Gweithdai

• Caffi a Barrau

• Siop Gwaith Crefft a Dylunio

• Siop Uyfrau Waterstones

Mae digon o ddewis i chi!

www.aber.ac.uk/artscentre

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre,

University of Wales, Aberystwyth SY23 3DE

T (01970) 622882 F (01970) 622883 E lla@aber.ac.uk

Enw/ Name

Cyfeiriad/'Address

Côd Post/Post Code

Rhifffôn/7í/«o.

e.bost/' e.mail

Cangen/Branch (os oes un/'ifrelevant)

CEFNOGWCH CYlD SUPPORT CYD

Tâl cefìnogi blwyddyn/annual supporter's fee:

£7 a £2 i fyfyrwyr/students, pensiynwyr/pensioners a'r di-waith/unemployed

Tàl/fee

Cyfraniad/ Contribution £

Tâl Cefnogi Corfforaethol/ Corporate supporters' fee:

£20 i fudiadau gwirfoddol//í?r voluntary organisations and charities

Dim llai na/not less than £50 i gyrff cyhoeddus a phreifat//ôr public andprwate

bodies.

Tâl cefinogi am oes/Indiridual life supporter's fee: £100

Cedwir y wybodaeth uchod ar gronfa ddata yn Swyddfa CYD, Aberysrwyth

The above information will be kept on a data base in CYD's offìce in Aberystwyth

~\ Os nad oes arnoch eisiau i'ch enw, cyfeiriad a rhif ffôn gael eu rhoi i gefnogwyr eraill,

ticiwch y blwch yma os gwelwch yn dda.

Ifyou do not wish your name, address and telephone number to be g en to other

supporters, please tìck this box.

Hoffwn dderbyn gwybodaeth am y gweithgareddau canlynol:

/ would like to rece e information about the following actirities:

J Enw'r gangen agosaf —1 The name ofthe nearest branch

LJ Cyfeillion Uythyr

_J Penpals

J Cyfeillion ffon —1 Pbone pals

Q e.byti

Q e.m@tes

J Ysgoloriaeth Dan Lynn James —1 The Dan Lynn James Scholarship

(£250 y flwyddyn) (£250peryear)

Í-J Cyfamodi â CYD

Q Making a covenant with CYD

Rhodd Gymorth/Giít Aìd £

Rwy'n datgan fy mod yn talu rhagor o dreth incwm a neu drcth enillion cyíalaf na'r

dreth y bydd CYD yn adennill ar fy rhodd/nghyfraniad sef, 28c ym mhob £1 a

roddìr ar hyn o bryd, a fy mod yn fodlon i CYD drin y rhodd uchod a phob rhodd

yn y dyfodol fel rhodd gymorth.

I declare that I pay income tax and/or capital gains tax at least equaJ to the tax that CYD

claims on my donations in the tax year (currently 28p for each £1 you give), and I am

willing for CYD to treat the above donation and all donations in the future as gift aid.

1 Jofnod / Signature

^Ê^ ^Ê^^ Dychwelwch i/Return to:

^ ^ ^^Ê CYD, 10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AU

^ ^ ^T Ffôn/Ffacs: 01970 622143

_, -. _ RhifElusen/CharityNo: 518371