03.09.2015 Views

Cynhadledd laith Ifanc

Rhifyn 09 Haf 1992 - Cyd

Rhifyn 09 Haf 1992 - Cyd

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

PAPUR NEWYDD CYD AM DDIM (10c yn y siopau) Rhlfyn Haf 1992 (9)

PAPUR NEWYDDIGYMRY CYMRAEG A DYSGWYR

A NEWSPAPER FOR WELSH LEARNERSAND SPEAKERS

Cynhadledd

laith Ifanc

Daeth 80 o gynrychiolwyr (representatives)

at ei gilydd ym mìs Ebrill i

Gynhadledd gyntaf C YD er mwyn trafod

iaith ifanc, neu 'cymdeithasu yn y Gymraeg

ymhlith pobl ifainc'.

Daeth cynrychiolwyr o fudiadau gwirfoddol (voluntary),

mudiadau ieuenctid, y gwasanaeth ieuenctid

statudol ac ysgolion.

Y prif siaradwr oedd Cefîn Campbell, Cyfarwyddwr

Menter Cwm Gwendraeth. Pwysleisiodd Cefín ei bod

yn rhaid mynd â'r Gymraeg i barthau (domains)

newydd fel clybiau rygbi a chlybiau nos.

Bydd yr anerchiadau a'r argymhellion (the papers and

proposals) yn cael eu cyhoeddi yng nghanol mis

Gorffennaf.

Stori — t.7. Llythyr — t.2

Felicity Roberts, Cadeirydd newydd CYD. Darllenwch ei

geiriau ar d.11.

Tu mewn...

Portread o bentref Llannon.

Newyddion y Gystadleuaeth Gwis.

Gwestai moethus Hamdden.

Ar ôl yr Arholiad.

Emyn newydd sbon.

RHIFYN MAWR YR HAF

ò

The series for beginners, 'Yn siop ypentref', is concerned

with making decisions (or not!). See

page 3.

Cyhoeddir y rhifyn hwn o Cadwyn Cyd

trwy cymorth ariannol TAC Teledwyr

Annibynnol Cymru.

This issue is published with the financial

supportofTAC.

CYD

Llywyddion Anrhydeddus: Dan Lynn

James,

Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd Felicity Roberts

Is-gadeirydd: Shirley Williams

Ysgrifennydd: Lona Davies

Trysorydd: Arthur Burt

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Emrys Wynn

Jones

Cyfarwyddwr:

Siôn Meredith,

Adran y Gymraeg,

Yr Hen Goleg,

Heol y Brenin,

Aberystwyth SY23 2AX

Ffôn: 0970 622143 (24 awr)

Ffacs: 0970 611446

Swyddog Cyswllt De-orllewin Cymru:

Andrea Jones,

Y Ganolfan Deledu,

Sgwâr Dewi Sant,

Abertawe.

Ffôn: 0792 470470

Noddir swydd Siôn Meredith ac Andrea

Jones gan y Swyddfa Gymreig.

Mae CYD yn elusen gofrestredig (rhif

518371).

>s/

Ar draws

1. Ystafell fyw

4. Ar lan y —

5. Ddim yn rhad

7. Ar y teledu (S4C) am 6

o'r gloch

13. Nid chwith; nid Gogledd

14. Codaf fy tua'r

mynyddoedd(Salm 121)

15. Mae o'n byw mewn

coeden

17. Fel arfer yn y canol:

• y dref

CROESAIR

J

a.

13. 1

| dHT1

E7

E

H1

•Ti

• 10

I

r

Croesair gan Mrs Margaret Walker,

Llangollen, un o'r cystadleuwyr

•1

yn Eisteddfod Croesoswallt; Gorffennaf

1991.

Anfonwch yr atebion at Siôn Meredith yn Swyddfa CYD (cyfeiriad ar dudalen 2) erbyn

Medi 30, 1992.

(Byddwn yn cyhoeddi'r atebion yn y rhifyn nesaf.) GWOBR: Tocyn llyfr £5.

BETH YW'R YSTYR?

1

•1•jis

Beth yw'r cyfíeithiad mwya addas o'r idiomau

isod?

(Atebion: tudalen 15)

1) Does dim llawer o Gymraeg rhyngddyn nhw

a. Theydon'tspeakmuch c. They're not very talk-

Welsh

atîve

b. They don't get on d. They're goodfriends

2) Dros ben llestri?

a. Through thick and c. Over the top, out of

thin

control

b. Over the worst d. Up to his eyes in washin

S

3) Wyneb i waered

a. Upside down

b. Back tofront

4) Dan bwysau

a. Underweight

b. Under stress

c. Face toface

d. Facing difficulties

c. Short-changed

d. Under a bus

1

•8

H•

J •

1

J

•ia

I

z

I

j

•î.1

H•

£>• f

Ë

i

I lawr

1. Lle cynhelir yr

Eisteddfod Gerddorol

Gydwladol ym mis

Gorffennaf

2. Melyn neu goch

3. Gofalu ~; meddwl -;

pryderu -

4. Llysiau i demtio asyn

5. Tywysoges Cymru

6. Y rhif cyntaf

8. Ddarllenoch chi y cliw?

Ateb --

9. Ddim yn hen

10. Hen wlad fy nhadau

11. ~ mor glyfar ydych

chi?

12. Y diwrnod cyn heddiw

15. Arôllesu Grist

(talfyriad Lladin)

16. Dosbarth Dwyfor

(talfyriad)

Yn siop y pentref

Penderfynu (deciding)

Mr Jones: Bore da, Mrs Edwards. Sut alla i'ch

helpu chi?

Mrs Edwards: O, bore da, Mr Jones. Wel, dw i ddim yn

siwr. Dw i eisiau rhywbeth i swper. Beth

dych chi'n ei awgrymu (suggest)?

Mr Jones: Bèth am gaws, Mrs Edwards? Mae caws

ardderchog gyda fí heddiw. Ffres iawn.

Mrs Edwards: Caws—dyna syniad da, Mr Jones! Ie!

Mr Jones:

Cymera i gaws, os gwelwch yn dda.

Pa fath o gaws, Mrs Edwards? Caws o

Ffrainc? O Loegr? O'r Almaen neu o

Gymru?

Mrs Edwards: O, Mr Jones, dw i ddim yn gwybod. Alla i

ddim penderfynu. Beth dych chi'n ei

feddwl?

Mr Jones: Wel, mae'r caws o Gymru yn flasus (tasty)

iawn.

Mrs Edwards: Dyna ni, 'te—caws o Gymru, os gwelwch

Mr Jones:

yn dda.

Pa un, Mrs Edwards? Caws Caerffdi?

Pencarreg? Caws Ii n? Caws Boidy? ...

Mrs Edwards: Oes cymaint (so much) o gaws Cymreig,

Mr Jones? Mae'n anodd i benderfynu, ond

ydy? Alla i ddim dewis (choose).

Mr Jones:

Dw i'n hoffí caws Pencarreg yn fawr iawn,

Mrs Edwards.

Mrs Edwards: Wel, 'te. Cymera i hwnnw.

Mr Jones: Faint dych chi eisiau, Mrs Edwards? O,

na... fyddwch chi ddim yn gallu penderfynu...

Ga i awgrymu (suggest) hanner

pwys?

Mrs Edwards: Ie, yn union (exactly), Mr Jones. Hanner

pwys o gaws Pencarreg! Faint mae'r caws

yn costio, Mr Jones?

Mr Jones:

Dw i ddim yn gallu penderfynu, Mrs

Edwards. Beth dych chi'n ei feddwl?

CYSTADLEUAETH GWIS CYD

Erbyn Awst 4ydd eleni bydd 90 o dimau wedi ateb

cyfanswm o 9,000 o gwestiynau mewn cystadleuaeth

gwis a drefnir gan CYD.

Noddir y cwis, am yr ail dro yn olynol gan Fanc

Barclays, a dywedodd Mr Gareth Jones, Rheolwr

Manwerthu Barclays yng Ngogledd Cymru, wrth

gyflwyno siec o £300 i CYD yng Nghanolfan Iaith

Clwyd nos Fercher, Mehefin 17:

"Mae Barclays yn falch o fod yn un o brif noddwyr

CYD ac edrychwn ymlaen at weld pa dîm fydd yn

ennill yn y rownd derfynol ym mis Awst."

Bydd 400 o Gymry Cymraeg a dysgwyr o Gymru

gyfan wedi cymryd rhan yn y cwis, o ganghennau

CYD, Merched y Wawr, Urdd Gobaith Cymru a'r

Ffermwyr Ieuainc.

Bydd pump tîm yn cyrraedd y rownd derfynol yn yr

Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ar Awst

4ydd.

Mae'r gystadleuaeth gwis wedi tyfu'n enfawr eleni!

Llynedd roedd 45 tîm yn cymryd rhan yn y rownd

gyntaf, ond eleni mae 90 tîm.

Bydd Barclays hefyd yn noddi'r cwis yn 1993. Beth

am 200 tîm y tro nesaf?

Gareth Jones, Rheolwr Manwerthu Banc Barclays yng Ngogledd Cymru ac Edwin Evans, Rheolwr

Barclays yn Ninbych yn cyflwyno siec i Siôn Meredith, Cyfarwyddwr CYD mewn cyfarfod cwis yng

Nghanolfan laith Clwyd, Dinbych ar Fehefin 17eg, 1992.

0 FIS MEDI YMLAEN SARA EDWARDS SY'N CYFLWYNO

SAITHARYSUL

y rhaglen newyddion i ddysgwyr gan BBC Cymru ar S4C

hefyd o fis Medi

PENAWDAU

Sara Edwards yn cyflwyno cyfres newydd

arloesol i ddysgwyr CA4 i Safon Uwcb, mewn

rhaglen sy'n cyfuno'r teledu a'r cyhifiadur

hom September join Sara on Mondays for

PENAWDAU

a new innovaîive series for leamers at KS4 and

'A' level, based on îbe news programme Saith ar

y Sul with visual and prinîed resource materials

yn yr hydrefhefyd

CIPOLWG

ar gyfer dysgwyr CA3, gyda darlun o fywyd

milfeddyg, posîmon, yr heddlu, argraffwr a

chogyddes

also this autumn and next spríng

CIPOLWG

an opportunity to learn Welsh at KS3 and îo

see Germany through the eyes of Welsh and

German children

Cofiwch hefyd amCATCHPHRASEbobnosar

Radio Wales a Radio Cymru

C Y M R U

W A L E S HELP LLAW I'R DYSGWYR

Cystadleuaeth Cartref Cymraeg

Mae naw cartref yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon

eleni: dau yng Ngwynedd, tri yng Nghlwyd, dau yng

Nghanolbarth Cymru a dau yn y de. Mae dau feirniad wedi

bod yn ymweld â'r cartrefí ym mhob ardal ym mis Mehefin

ac fe fyddan nhw'n cyhoeddi yng nghanol Gorffennaf pwy

sydd yn mynd i'r rownd derfynol.

Llinos Dafis yw cadeirydd y rownd derfynol. Bydd

honno yn cael ei chynnal ym Mhabell y Dysgwyr ar faes yr

Eisteddfod Genedlaeth yn Aberystwyth am hanner dydd

(12.00), ddydd Mercher, Awst 5ed.

Mae CYD a'r Eisteddfod Genedlaethol yn cynnal cystadleuaeth

ar gyfer dysgwyr sydd wedi newid iaith y

cartref.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd a Cwmni Hamdden yn

noddi'r gystadleuaeth. Bydd y teulu sydd yn ennill yn aros

am benwythnos yn un o'r pump gwesty sydd gan gwmni

Hamdden yng Nghymru.

Dyma ddau ohonyn nhw:

Mae Gwesty Cwrt Bleddyn yng nghanol coedwigoedd

gwych, yn agos i Gaerleon—tre Rufeinig ddiddorol iawn.

Gallwch chi nofio, hwylio, pysgota, chwarae tenis neu

snwcer, neu jyst ymlacio yn y sauna neu solarium. Ac wrth

gwrs, mae'r bwyd yn ardderchog.

s

HAMDDEN

Mae Coed y Mwstwr yn blas (mansion) Fictorianaidd yn y

wlad hardd ger Pen y Bont ar Ògwr. Mae llawer o anifeiliaid

ac adar gwyllt yn byw yn yr hen goedwig o gwmpas y t . Ar

ôl i chi nofio, neu chwarae tenis neu snwcer, gallwch chi

fwynhau bwyd a gwin sy'n arbennig o dda.

5

DYSG YL

ABERYSTWYTH

Bu llawer o Gymry Cymraeg a dysgwyr y Gymraeg

yn mwynhau eu hunain yn y Ddysg yl flynyddol yn

Aberystwyth ddydd Sadwrn, Mawrth 14, 1992.

Cafodd y Ddysg yl ei threfnu gan CYD ar y cyd

â'r Adran Efrydiau Allanol, CPC Aberystwyth.

Yn y bore cafodd dysgwyr ar bob lefel gyfle i ymarfer

y Gymraeg mewn grwpiau o dan ofal tîm

brwdfrydig o diwtoriaid, Felicity Roberts, Jaci Taylor,

Mari Llwyd ac Alun Jones.

Dechreuodd y prynhawn â Seremoni i Gadeirio'r

bardd buddugol yn yr Eisteddfod. Enillydd Cystadleuaeth

y Gadair oedd Morfudd Bernard, gwraig

sydd wedi ymddeol ac yn byw ym Mhontrhydybeddau

ger Goginan. Enülodd darian a thocyn llyfr

gwerth £10 am gerdd ar y testun 'Tân'.

Beirniad y gystadleuaeth oedd Cynfael Lake,

Swyddog Datblygu'r Radd Allanol, CPC Aberystwyth.

Canmolodd y beirniad yr holl gystadleuwyr,

ac fe roddodd y gydradd ail wobr i Morfudd Bernard

ac Annette Pugh.

Dyma'r ail dro yn olynol i Morfudd Bernard ennill y

Gadair, ac fe enillodd y drydedd wobr ddwy flynedd

yn ôl hefyd.

Cafodd Morfudd ei chyfarch yn ystod y Seremoni

ag englyn gan y Prifardd Alan Llwyd, ac mae'r englyn

yn cyfeirio at ffugenw Morfudd, sef Dyddgu. (Roedd

Morfudd a Dyddgu'n ddwy gariad i Dafydd ap

Gwilym.):

Darfu'r gaeaf. Daeth afiaith Bro Gynin

Heibio i'r genedl eilwaith;

Wyt Ddyddgu'n anwesu'n hiaith;

Wyt Forfudd; wyt haf hirfaith.

(Alan Llwyd)

Daeth Morfudd Bernard yn ôl i Geredigion bum

mlynedd yn ôl ar ôl treulio'r rhan fwyaf o'i bywyd yn

Lloegr. Ond mae ei gwreiddiau yng Ngheredigion.

Aeth ei thadcu a'i mamgu o Geredigion i werthu llaeth

yn Llundain.

CWRS YSGRIFENNU

CREADIGOL

Magu hyder i ysgrifennu yw nod y cwrs. Rhoi

arweiniad, pan fo angen, rhoi profíad newydd, os

dyna yw'r dymuniad, o ysgrifennu deialog,

storiau, ysgrifau, barddoniaeth, cynghanedd ...

dewiswch chi. Os gallwch, rhowch wybod sut

gallwn roi arweiniad. Croeso i chi ddod â'ch

gwaith gyda chi os dymunwch ei drafod.

Nia Royles: Ganed ac addysgwyd yng Nghaerdydd.

Dysgodd ar yr Wlpan cyntaf yng Nghaerdydd

ac yna ym Mangor. Bu dros y blynyddoedd

yn dysgu oedolion ar gyrsiau yng Nghaerdydd,

Bangor, Wrecsam a Phrestatyn. Bu'n weithgar

iawn yn ystod ei chyfnod yn Ymgynghorydd y

Gymraeg yng Nghlwyd yn ysbrydoli dysgwyr o

bob oed.

John Owen: Ganed yn y Rhondda Fach. Astudiodd

Ddrama yng Ngholeg y Drindod dan law

Norah Isaac. Ers deunaw mis bu'n cyfarwyddo

dramâu yn broffesiynol ac yn ysgrifennu ar gyfer

radio a theledu.

YMDDIRIEDOLAETH TALIESIN CYF.

CWRS YSGRIFENNU CREADIGOL

AR GYFER DYSGWYR

16-18 Hydref 1992

yn§ NGHANOLFAN YSGRIFENNU,

TY NEWYDD, LLANYSTUMDWY

Tiwtoriaid: Nia Royles

Tiwtoriaid: John Arwyn Owen

Cysylltwch â: Megan Tomos, T Newydd, Llanystumdwy,

Cricieth, Gwynedd LL577 OLWneu Jfoniwch 0766

522811

Cefnogwch

hysbysebwyr

Morfudd Bernard a'i gwobr.

CYNHADLEDD CYD

Dyma rai o'r syniadau a gafodd eu trafod yn y Gynhadledd:

1. Bod CYD yn galw at ei

gilydd y mudiadau sy'n

gwneud cais am grant yr iaith

Gymraeg gan y Swyddfa

Gymreig er mwyn cytuno

ymlaen llaw ar strategaeth.

2. Bod yr Eisteddfod Genedlaethol

ac Eisteddfod yr Urdd

yn sicrhau (make sure) y

bydd dilyniant (follow-up) i'r

Eisteddfod yn yr ardal (fel

Menter Cwm Gwendraeth).

6.

7.

5. Annog canghennau CYD i

sefydlu gweithgor lleol (to set

up a local working party) i

gynllunio sut i gynyddu'r defnydd

o'r

ardal.

Gymraeg mewn

Bod CYD yn trefnu cyfarfod

â'r Asiantaeth Ieuenctid er

mwyn annog yr Asiantaeth i

weithredu yn y Gymraeg, a

thros y Gymraeg.

Gefeillio (to twin) ysgolion

cyfrwng Cymraeg ag ysgolion

cyfrwng Saesneg.

3. Bod CYD yn cynnal Cynhadledd

yn 1993 ar Farchnata

a Denu pobl at y Gymraeg.

4. Annog myfyrwyr ysgol i

arwyddo cytundeb neu gyfamod

iaith rhwng y Cymry

Cymraeg a'r dysgwyr. (Cytundeb

i siarad Cymraeg.)

8. Sefydlu Asiantaeth Roc

Cymraeg

Cafodd llawer o syniadau

eraill eu trafod hefyd. Er mwyn

cael rhagor o fanylion, gallwch

archebu copi llawn o'r Argymhellion

(yn rhad ac am ddim) neu

gallwch chi brynu copi o Iaith

Ifanc (y gyfrol sydd yn cynnwys

yr holl anerchiadau a'r argymhellion)

am £2.50. Anfonwch at

Swyddfa CYD, neu dewch i'n

gweld ni ym Mhabell y Dysgwyr

yn yr Eisteddfod.

AM OBIIW

3RHIFYN0G0LWG

MERTHYR ..." "MASOCIST..." "MEDDYLIWR HWYA'R UGEINFED GAWMF.

* Torrwch hwn allan a'i ddanfon i

GOLWG, Llanbedr Pont Steffan, Dyfed.

Cymru, SA48 7LX.

Mae diddordeb gennyf mewn cael 3 rhifyn

o GOLWG am ddim. Ar ddiwedd y tair

wythnosbyddgennyfddewisiddalatii'w

dderbyn (ac i dalu amdano*) neu i beidio

â'i gael ymhellach. Anfonwch y manylion

arfrysat:

ENW

CYFEIRIAD

Os yw'n weil gennych, danfonwch y

manylion ar ddarn o bapur, gan enwi'r

rhaglen hon.

PERFFORMIADAU AGORIÌ

tfiAN GELFYDDYDAU CHAPTER

GORFF. 24, 25, 26 am 8.00 y.h.

DD GENEDLAETHOL CYMRU

1 Y CASTELL • ABERYSTWYTO

GORFF. 31 - AWST 8 am 8.00 y.h.

' SWYDDFA DOCYNNAU 0222 4647S8

Hetyd ar gael o Chapter (0222) 399666

Welsh Fudge Shop (0970) 612721

Pabell y Theatrau ar faes yr eisteddfod

MONTIELLIS

Fe gyfansoddodd Monti Ellis yr emyn

arbennig yma, ar gyfer y rhai sy'n dysgu'r

iaith, ar ôl iddo fe wneud cwrs Cymraeg

Sain Dunwyd llynedd. Anfonodd y geiriau

a'r dôn i CYD, ac felly mae CADWYN

CYD yn falch iawn o'r cyfle i'w cyhoeddi

nhw am y tro cyntaf.

Mae Mr Ellis yn 76 oed ac yn byw ym Mryste.

Dechreuodd e gymryd diddordeb yn y Gymraeg

ugain mlynedd yn ôl, ac mae'n dal i deimlo'n gryf dros

yr iaith. Mae e wedi ymddeol nawr o Swyddfa'r Post

(ble roedd e'n gweithio fel 'Senior Telecommunications

Superintenant') ond mae'n dal i gymryd

diddordeb mewn teleffonau, a threnau hefyd. Yng

ngweddill ei amser, mae Monti Ellis yn chwarae'r

organ yn yr eglwys leol ac yn cyfíeithu emynau Cymraeg

i'r Saesneg.

Gobeithio y byddwch chi i gyd yn hoffi'r emyn.

Beth am roi cynnig iddo yn eich cyfarfod CYD

nesaf?

Mae UCAC yn

0

NEWYDD

SBON!

LISTEN AS YOU DRIVE

PLACE NAMES OF NORTH

WEST WALES

GWEITHREDUN

GYMRAEG

UCAC, Pen Roc, Rhodfa'r Môr,

Aberystwyth, Dyfed. SY23 2AZ

Ffôn 0970 61 5577

8

A handy and informative in-car

guide!

NEWYDD AR GYFER Y STEDDFOD:

* SOBIN A'R SAMELIAID

* RICHARD REES (PENNAL)

* ELEN AP ROBERT (SOPRANO)

* MYNEDIAD AM DDIM

* CD HOGIA LLANDEGAI

* GORAU GWERIN (CASGLIAD) - CD

AR CRAI: ADDEWID • SORIANT • TYNAL

TYWYLL • MONIARS • BYD NEWYDD •

ONE-STYLE MDV

ANFONWCH/FFONIWCH AM GATALOG

Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd

Ffôn: 0286 831111 Ffacs: 0286 831497

Sain Dunwyd

Monti Ellis, Bryste

r rr' °" r' r

O, Arglwydd, boed dy fendith

Ar bawb sy'n dysgu'n hiaith

Er garwed fyddo'r llwybr

A'i holl dreigladau maith.

Rho iddynt weledigaeth

O'r ucheldiroedd glân,

Trysordy'n hetifeddiaeth

Llenyddiaeth goeth a chân.

O, Arglwydd, boed dy fendith

Ar bawb sy'n taenu'n hiaith

A nertha hwy, wrth wybod

Mai teilwng yw eu gwaith.

Aed dysgwyr a chefnogwyr

Ein hiaith yn nerthol lu;

Dysg iddynt ei defnyddio

I foli d'enw Di

O, Arglwydd, boed dy fendith

Ar bawb sy'n caru'n hiaith;

Hen wrthglawdd yw i'n pobl

Rhag iddynt fynd yn gaeth.

Daw llif o werthoedd isradd

I'n bygwth ni o hyd;

O, dyro nerth i sefyll

A'u cadw'n ôl i gyd.

MontiEUis, 1992

Geirfa

bendith - blessing;

er garwed - although it (y llwybr) is hard;

gweledigaeth - vision;

etifeddiaeth - inherìtance;

taenu - to spread (to promote);

teilwng - worthy;

Aed dysgwyr... - May learners go...;

gwrthglawdd - rampart (defence).

Portread Pentref

Llannon (Non, mam Dewi Sant)

Yr Hen Sir Gaerfyrddin

Mae Llannon yn lle bach mewn plwyf mawr o'r un enw.

Mae'r plwyf yn ymestyn o'r afon Gwendraeth yn y gogledd

i draffordd (motorway) yr M4 yn y de ac yn cynnwys rhai

o'r pentrefi mwyaf yng Nghymru sef, Y Tymbl a Crosshands,

ac ar un adeg Pontyberem.

Mae Llannon ar y ffin rhwng Cymru ddiwydiannol a

Chymru wledig. Mae'r pentref yn un bach ac yn draddodiadol

(traditionally) yn dibynnu ar amaethyddiaeth

(agriculture) am fywoliaeth (livelihood). Ond yn y pentrefi

eraill, glo oedd y brenin a oedd yn cyflogi (employing) cannoedd

a miloedd o bobl. Caeodd y pwll glo olaf eleni.

Mae Llannon yn llawn o hanes. Mae'n bosib gweld un o'r

Meini Hirion (Standing Stones) mwyaf yn y sir ar fferm

Bryn Maen. Beth am ymweld â'r tolldy (toll house) a'r

ffordd i'r Tymbl neu weld y cwpan 'Bronze Age' o fferm

Gors-y-dre (nawr yn Yr Amgueddfa Genedlaethol).

Casgliad o adeiladau (buüdings) yw'r pentrefi a fel ym

mhob pe tref mae dau fath o adeilad yn bwysicach na'r

lleill, hynny yw, capel/eglwys neu tafarnau. Mae dau gapel

erbyn hyn, Hermon a Llwyn-Têg, un eglwys (dyddiad

ansicr) ac hefyd, ar fferm Pen-Twyn mae hen ysgol (1730-

52) a oedd yn paratoi myfyrwyr (students) ar gyfer y

weinidogaeth (ministry).

Clwb y Ffermwyr leuainc yn gwthio gwely yn 1989 o Gaerfyrddin

i Lanelli gan godi pum mil o bunnoedd tuag at yr ysbyty

newydd yn Llanelli.

Mae hanner y bobl yn ddwyieithog (bilingual) ond tu fas

i'r pentref tuag at (towards) Crosshands a'r Tymbl mae'r

canran (%) yn cynyddu i 80% felly does dim esgus dros

siarad Saesneg os ydych chi'n digwydd gyrru drwy yr ardal,

ond gyda chymaint i wneud yn y fílltirsgwâr, pwy sy eisiau

gyrru drwyddo? Beth am ddod i weld ac aros am sbel?

Neil Baker

Llannon, Llanelli

Os oes syched arnoch chi, beth am drio Cwrw Felinfoel

yn y 'Greyhound' neu y 'Llew Coch' — croeso Cymraeg,

ond peidiwch â chwympo mewn i'r ffynnon yn yr

ystafell 'Pool'!

Y Plas sy nesa ar ein taith o gwmpas Llannon. Hen

dafarn y 'Kings Head' yw y plas, ond newidiodd y 'Squire'

Rhys Goring Thomas yr enw i Plas yn 1860. Erbyn hyn

mae'n fflatiau i nifer o bobl leol.

Er gwaethaf (despite) y tai newydd a newidiadau sy wedi

cyrraedd y pentref, mae pawb yn ceisio cadw ein cymdeithas

yn un fywiog (lively). Mae nifer o gymdeithasau yn

ffynnu (thriving) fel, y Clwb Ffermwyr Ieuainc (Y.F.C.),

clybiau cadw'n heini (Keep fit), 'Bridge', Sefydliad y

Merched (W.I.), Cylch Meithrin a phob nos Fawrth yn y

gaeaf mae dosbarth Cymraeg yn y 'Red Lion'

Un o'r cymdeithasau pwysicaf yn y pentref yw 'Menter

Cwm Gwendraeth' sydd yn hyrwyddo gweithgareddau

(promoting activities) drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae

cangen ym mhob pentref yn y Cwm, yn trefnu 'Gigs' a nosweithiau

difyr (entertaining) a.y.y.b. Gobeithio y bydd y

cynllun yn datblygu.

10

METHU GWELD Y GOLAU

AR DDIWEDD Y 1WNNEL?

ANGEN HELP GYDAG ADNODDAU DYSGU?

MAE CYMORTH AR GAEL AR GYFER RHIENI A

DISGYBLION DRWY GYSYLLTU Â'R

GANOLFAN ASTUDIAETHAU ADDYSG,

PRIFYSGOL CYMRU, YR HEN GOLEG,

ABERYSIWYTH, DYFED SY23 2AX.

< S*(0970) 622121/5

ANELU A T CHWYLDRO IAITH

Wrth ethol swyddogion newydd yn y Cyfarfod Blynyddol Cenedlaethol yn Aberystwyth

ddydd Sadwrn Ebrill 11 eg, roedd mudiad C YD yn dathlu deg mlynedd o weithgarwch yn

ardal Aberystwyth.

Meddai Felicity Roberts, wrth gael ei hethol yn

Gadeirydd Cenedlaethol newydd CYD,

"Yr her i ni fel mudiad heddiw yw parhau i wireddu

gweledigaeth yr Athro Bobi Jones o weithredu fel yr unig

fudiad yng Nghymru sy'n rhoi'r flaenoriaeth i adfer yr iaith

ymhlith oedolion drwy eu hannog a'u cynorthwyo i ddysgu

siarad Cymraeg.

" 'Rydym yn dathlu deg mlynedd o gydweithio brwdfrydig

rhwng Cymry Cymraeg a dysgwyr i helpu dysgwyr i

ymdoddi yn y gymdeithas Gymraeg yng Nghymru.

"Erbyn hyn mae CYD wedi tyfu'n fudiad cenedlaethol

gan fod gennym weithgareddau ym mhob rhan o

Gymru.

"Y Gymraeg yw iaith ein gweithgareddau. Dyna yw cyfraniad

mwyaf gwerthfawr CYD i ddysgwyr. Mae hi mor

anodd i ddysgwyr gael cyfle i siarad Cymraeg, ond mae

CYD yn rhoi'r cyfle hwnnw iddyn nhw.

"Mudiad adfer iaith yw CYD, mudiad i'r Cymry sy'n

barod i ymroi o'u hegni a'u hamser er mwyn gwireddu'r

freuddwyd o weld Cymru'n Gymru Cymraeg ydyw.

Dewch felly ynghyd bobl Cymru—yn Gymry Cymraeg a

Dysgwyr i weithio ym mudiad CYD drwy ddilyn y tair D

bwysig, sef:

Denu pobl at yr iaith,

Dysgu'r iaith a

Defnyddio'r iaith.

" 'Rydym am chwyldroi'r sefyllfa o fod yn un lle mae'r

Gymraeg yn iaith normal bob dydd i leiafrif o bobl i un lle

mae hi felly i'r mwyafrif. Mae'r hyn sydd yn digwydd o dan

adain CYD yn chwyldroadol.

"Cymreigio Cymru gyfan yw'r nod i ni yn y nawdegau."

Mae Felicity Roberts yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac

yn byw ger Aberystwyth. Mae hi'n gyn-gadeirydd ar

CYD Aberystwyth.

Is-Gadeirydd newydd CYD yw Shirley Wilüams o

Groesor ger Penrhyndeudraeth. Mae Shirley'n diwtor

Cymraeg i staff Cyngor Sir Gwynedd.

Siaradodd Jo Knell, Dysgwr y Flwyddyn, yn y cyfarfod

hefyd, a rhannodd ei phrofíadau wrth ddysgu siarad Cymraeg.

Hefyd siaradodd Hywel Evans, Menter a Busnes.

Dywedodd Hywel Evans fod mwy o gyfle nag erioed i

ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg ym myd busnes, fel

cwsmeriaid a phobl fusnes, a rhoddodd anogaeth i aelodau

CYD i fanteisio ar bob cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg ym

myd busnes.

Geirfa

ethol - elect

her - challenge

gwireddu gweledigaeth - to realize a dream

y flaenoríaeth - the priority

adfer - to revive, to promote

brwdfrydig - enthusiastic

ymdoddi - to integrate

cyfraniad mwyaf gwerthfawr CYD - CYD's most valuable

contribution

ymroi - to commit (time and energy)

chwyldroi'r sefyltfa - to turn/change the situation

lleiafrif - a minorìty

mwyafrif - a majority

Da iawn, Mary!

Mae Mary Davies, cyn-gadeirydd cenedlaethol CYD,

newydd ennill gradd anrhydedd yn y Gymraeg. Mae hi

wedi treulio tair blynedd yn astudio yng Ngholeg Prifysgol

Cymru, Aberystwyth. Llongyfarchiadau mawr iddi hi!

(Cofîwch anfon gwybodaeth at Cadwyn CYD am lwyddiannau

aelodau CYD.)

Bydd adloniant gan CYD bob nos

yn yr Eisteddfod:

Gwesty Llety Gwyn, Llanbadarn

Moniars, Neil Rosser, Hin Deg,

Bysedd Ystwyth, Hogia Llandegai..

a llawer mwy.

Shirley Williams, Is-Gaàeirydd CYD.

n

Tocynnau: £2.50 / £3 wrth y drws.

Ar werth yn stondin CYD ym Mhabell y

Dysgwyr.

Yn y rhifyn diwethaf fe ofynon ni i ganghennau

CYD anfon storîau a lluniau atom ni fel rhan o

gystadleuaeth Cadwyn CYD. Yr enillwyr yw

Cangen CYD Coleg Normal, Bangor. Llongyfarchiadau!

Mae nhw'n ennìll £5.

RHAGLEN FYWIOG CYD

Y COLEG NORMAL

Daeth tymor by wiog arall i ben yn y Coleg Normal, a daeth

diwedd hefyd, am y tro, ar weithgareddau C YD yn y coleg.

Cawsom raglen amrywiol iawn y tymor hwn. Dechrau

gyda Sioe y consuriwr Carl Wynn, myfyriwr ar ei drydedd

flwyddyn yn y coleg, a gorffen y tymor gyda Gemau Iaith o

bob math. Sesiwn boblogaidd i'r dechreuwyr oedd Gyrfa

Chwilod, dan arweiniad Mrs Zohrah Evans, darlithydd

Cymraeg newydd yn y coleg. Wedyn cafodd y dysgwyr

mwy profiadol gyfle i holi panel o ddarlithwyr y coleg, ac yn

y llun fe welwch y pedwar darlithydd dewr a ddaeth i ateb

ein cwestiynau—Dr Hywel Wyn Owen, Dr Helen Hughes,

Mr John Coleman a Mr Robert Morris. Roedd yn galondid i'r

dysgwyr fod dau o'r panelwyr wedi dysgu Cymraeg, a

bellach wedi croesi'r bont, ac yn dechrau dysgu trwy

gyfrwng y Gymraeg yn y coleg.

Dawns oedd ar y rhaglen ar Chwefror 4, gyda Julie

Meehan yn arwain y sesiwn. Mae Julie yn hyfforddwraig

(instructor) dawns yma yng Ngwynedd, ac yn dysgu Cymraeg.

Defnyddiodd Julie iaith a gorchmynion syml iawn yn

y sesiwn yma, a chafodd y myfyrwyr ddeunydd gwers ar

gyfer plant yn yr Ysgol Gynradd. Wedi mwynhau'r sesiwn

yn fawr, daeth nifer dda i'r sesiwn Aerobics ar Chwefror 18,

gyda Lisa Wright sy'n fyfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn y

coleg yn arwain. Ar ôl y sesiwn cynhesu {warm up),

dangosodd Lisa ran o fideo Stonc a Roc (Dysgu drwy

Ddawns a Chân) Clwyd i ni, ac wedyn roedd yn rhaid i ni

gopib'r symudiadau ar y fideo.Llawer o hwyl, a phawb yn

chwysu ar y diwedd. Ar ddydd Mawrth Crempog daeth

Mrs Ruth Davies i ddangos rhai syniadau ar gyfer y Pasg.

Yna ar Fawrth 10, cawsom baned a theisen yn Neuadd y

George a chyfle i sgwrsio wedi tymor llawn a llwyddiannus

arall.

Edrychwn ymlaen yn awr ar gyfer yr Helfa Drysor ar

gampws y coleg, a'r ymweliad â'r Pili Palas, Porthaethwy.

Panel o Ddarlithwyr

O'r chwith i'r dde: Dr Hywel Wyn Owen, Dr Helen Hughes, Mr

John Coleman a Mr Robert Morris

12

SGETS A CHÂN Y COLEG NORMAL

Bore dydd Gwener glawog oedd o, ond hwn oedd uchafbwynt

y tymor i nifer o'r dysgwyr yn y Coleg Normal.

Roedd Neuadd Gynhadledd Menai yn llawn o fyfyrwyr

oedd i dderbyn tystysgrifau am eu llwyddiant yn dysgu'r

Gymraeg yn y coleg. Derbyniodd nifer ohonyn nhw dystysgrifau

Lefelau 1,2 a 3 Cynllun Colegau Cymru fydd yn

eu galluogi i ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn Ysgolion

Cynradd yng Nghlwyd, Gwent a Phowys.

Roedd deuddeg o fyfyrwyr wedi cael llwyddiant yn

arholiad Defnyddio'r Gymraeg i Oedolion—arholiad

gafodd ei gynnal yn y Coleg Normal fis Rhagfyr y

llynedd.

Y myfyrwyr a basiodd Lefel 1

Cymru.

a 2 a 3 Cynllun Colegau

CYNGOR SIR

GWYNEDD

COUN7Y COUNCIL

DOSBARTHIADAU CYMRAEG

YR ADRAN ADDYSG

GAEAF 1992/1993

Eto eleni byddwn yn cynnig llu o

ddosbarthiadau un noson yr wythnos i

ddysgwyr Cymraeg ar draws y Sir.

Mae'r dosbarthiadau yma yn dilyn

fersiwn y Gogledd o'r Cwrs Dosbarth

Nos.

• Bydd Dosbarthiadau Blynyddoedd 1,

2 a 3 ar gael.

Am fanylion pellach neu os ydych am gael

dosbarth yn eich cymdogaeth dowch i gysylltiad

a Mr Peter Williams, Prif Swyddog leuenctid a

Chymuned, Adran Addysg, Swyddfa'r Sir,

Caernarfon. Gwynedd LL55 1SH. Ffôn: [0286]

679190

Un o wasanaethau Adran Addysg Cyngor Sir

Gwynedd i oedolion y Sir

CYD Bryste

Mae gan CYD Bryste (Bristol) bron i bymtheg (15) o aelodau, gan gynnwys dysgwyr a Chymry Cymraeg. 'Rydym yn cyfarfod

mewn t tafarn ym Mryste. Mae rhai o aelodau'r gangen yn cyfarfod yn anffurfîol ar nos Fercher yng nghartref

un o'r aelodau.

Mae nifer o bobl yn ardal Bryste yn gallu siarad Cymraeg. Mae Cymdeithas Cymry Caerodor yn cyfarfod unwaith y mis

er mwyn trefnu adloniant.

Bwriad C YD Bryste yw cysylltu â dysgwyr a Chymry Cymraeg er mwyn ymarfer yr iaith ac ehangu gwybodaeth (increase

knowledge) am ddiwylliant Cymru.

Hoffem gysylltu â changhennau eraill o CYD. Felly cysylltwch â Peter Curtis o Gaerfaddon (Bath) - 0225 426682 neu

Tim Bickell o Fryste - 0272 710140.

Tim Bickell, Bryste

| BLE? o

3 YNG NGHYLCHGRONAU'R URDD £

Archebwch eich copi personol nawr o Adran Q-

• Cylchgronau, Swyddfa'r Urdd, Aberystwyth, Dyfed.

^) Dumunaf archebu 10 rhifyn am flwyddyn ac amgaeaf •

AR ÔL YR ARHOLIAD

(JaneAnn Jones tells of the horrors and compensations of the

exam for Welsh learners, 'Defnyddio'r Gymraeg)

Ymlacio? Dim siawns. Mae'r hen 'adrenalin' yn

rhedeg o hyd. Diar annwyl, y fath ddiwrnod.

Codi yn y tywyllwch am saith o'r gloch am y tro

cyntaf ers tro; tipyn o frecwast am fy mod i'n

teimlo'n sâl; gyrru am fílltiroedd i ryw le od iawn

yn y wlad...

Wedi cyrraedd o'r diwedd, pleser mawr wrth

weld fy ffrindiau, er iddyn nhw edrych mor wan â

fí—efallai mai'r golau trydan am naw o'r gloch

yn y bore oedd yr achos. Ond roedd ein

hwynebau i gyd yn wyn fel yr eira, beth

bynnag.

Roedden ni wrthi yn ysgrifennu am bron i dair

awr. Ateb y cwestiynau yn gywir neu yn

anghywir. Mae rhywbeth hollol wahanol i geisio

ysgrifennu wrth y bwrdd caled ac i eistedd ar y

gadair galed, yn lle mewn cadair freichiau o flaen

y tân, geiriadur mawr wrth law.

Yn y diwedd fe ges i sioc ofnadwy o glywed

"Dau funud i fynd"! Annwyl Dduw. Brysia,

ferch. A dyna fi wedi gorffen mewn pryd.

Ar ôl hynny roedd y prawf llafar yn go hawdd

achos roedd yr arholwr yn ddyn ifanc caredig

iawn. Hefyd, roedden ni mewn stafell fach, ac

roeddwn i'n teimlo yn gartrefol.

Does dim syniad gen i am y canlyniadau

(results). Rydw i'n meddwl o hyd ac o hyd am y

camgymeriadau TWP IAWN a wnes i.

O wel, doed a ddelo! (come what may)

Priodas CYD a Mela!

D a n h a u 1

Y CYLCHGRAWN NATUR

Dewch yn gyfarwydd

ag enwau a thermau

natur a'r amgylchedd

drwy íaith hawdd ei deall.

Allan bedair gwaith

y flwyddyn — 95c — yn eich

siop leol neu drwy

danysgrifiad blwyddyn: £4

Danhaul, Penygroes,

Gwynedd LL54 6NG

Ffôn/Ffacs: 0286 880302

Mae CYD wedi sefydlu partneriaeth (set up a

partnership) â Mela, cylchgrawn lliwgar a

deniadol i ferched.

Mae CYD yn cyhoeddi portread o un o'i

aelodau bob mis mewn Cymraeg gweddol syml.

Ym mis Awst mae portread o Pam Palmer,

enillydd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod

Genedlaethol. Ym mis Medi gallwch chi ddarllen

am Lisa Wright, myfyriwr yng Ngholeg y Normal,

Bangor.

Gallwch chi brynu Mela yn eich siop lyfrau neu

siop bapur yn lleol neu ar faes yr Eisteddfod

Genedlaethol.

G yl Ddrama CYD

Ar Dachwedd 28ain bydd CYD yn cynnal G yl

Ddrama yn Nolgellau.

Bydd canghennau o CYD a dosbarthiadau

dysgwyr yn llwyfannu (to stage) dramâu byrion

neu sgetsys. Does dim cystadleuaeth!

Os hoffech chi berfformio yn yr yl Ddrama,

cysylltwch â Swyddfa CYD neu Pitar Jackson

(0341) 422652.

14

Gwyliau

yn

Llangrannog

Mae Philippa Gibson, un o aelodau CYD

Llangrannog, sydd wedi dysgu Cymraeg ac

erbyn hyn yn dysgu pobl eraill, yn byw ar fferm

yn Llangrannog. Mae hi wedi addasu hen feudy y

fferm er mwyn cynnig gwyliau hunan-gynhaliol

syml iawn—ac yn rhad iawn—i ddysgwyr. Mae

digon o le i 10 o bobl, am £3 yr un y nos.

Dewch, felly, i gael gwyliau syml gyda'ch gr p

CYD neu ddosbarth. Cewch gyfle i ymarfer eich

Cymraeg wrth fwynhau gwyliau ar lan y môr heb

dalu arian mawr!

Mae digon o weithgareddau i'w cael trwy

gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal hyfryd hon, ac

mae'n bosibl i drefnu gwersi Cymraeg os oes

eisiau.

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl chi ar y

fFerm am eich gwyliau ac yn gr p CYD Llangrannog

yn Nhafarn y Pentre bob yn ail nos

Fercher.

Gwledd yr Eisteddfod

Mae gwledd o weithgareddau (a feast of activities)

wedi cael ei threfnu ym Mhabell y Dysgwyr yn yr

Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd cyfle i chi gyfarfod â Meredydd Evans a

Phyllis Kinney a Dysgwr y Flwyddyn. Bydd yna

ganu a dramau a gweithdai o bob math.

Bydd rownd derfynol (final) Cystadleuaeth Gwis

Genedlaethol CYD am hanner dydd (12.00)

ddydd Mawrth, a bydd rownd derfynol y Gystadleuaeth

Cartref Cymraeg am hanner dydd,

ddydd Mercher.

I Lanelwedd eto

Mae CYD yn trefnu Uned Gyhoeddusrwydd

(Publicity Unit) Cymraeg i Oedolion eto eleni ar

Faes y Sioe Amaethyddol (the Royal Welsh

Show) yn Llanelwedd ar Orffennaf 20-23

Os gallwch chi helpu, cysylltwch â'r swyddfa os

gwelwch yn dda.

Cysylltwch â: Philippa Gibson, 0239 654 561

'Ryn ni'n disgwyl amdanoch chi!

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ceredígíon, Aberystwyth

1-8 Awst, 1992

Dewch i Babell y Dysgwyr

* Gwersi iaith

* Adloniant

*Cwis

* Canu a dawnsio

* Cyfarfod â Dysgwr y Flwyddyn

Atebion cwis (o dudalen 3) 1) b : 2) c : 3) a : 4) b

15

Noson Dysgwr y Flwyddyn: nos Fercher, 5 Awst

(Tocynnau ar werth yn y Babell)

Am fwy o fanylion:

Penri Roberts

Trefnydd/Organiser

Swyddfa'r Eisteddfod

6 Y Stryd Fawr

ABERYSTWYTH

Dyfed SY23 1DE

Ffôn: 0970 625685

Gwyliau Cymraeg i bawb yng Nghanolfan

laith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, Awst 22-29, 1992

'Dyma'r gwyliau gorau 'ryn ni wedi ei gael erioed!' Dyna beîh ddywedodd llawer o bobl

oedd yn Nant Gwrtheyrn ar gyfer Miri Awst yn 1991.

Ers 1989 mae cannoedd o bobl wedi mwynhau gwyliau Miri Awst bob haf yn y Nant.

Mae Cymry Cymraeg a dysgwyr o bob oed yn dod at ei gilydd ym Mirí Awst i fwynhau

gweithgareddau diddorol: adloniant, teithiau yn yr ardal a gemau a sgyrsiau—ac mae

digon o bethau i gadw'r plant yn hapus! Ac fe fydd pawb yn mwynhau ymlacio yn

awyrgylch hamddenol y Nant.

Mae Nant Gwrtheyrn yn agos i lan y môr ar Ben Ll n yng Ngwynedd ac yn agos i Barc

Cenedlaethol Eryri. Mae llawer iawn o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg, ac fe gewch chi

gyfle i gyfarfod â rhai ohonyn nhw yn ystod Miri Awst

Manylion pellach: Siôn Meredith, Cyfarwyddwr CYD, Adran y Gymraeg, Yr Hen Goleg,

Heol y Brenin, Aberystwyth, Dyfed SY23 2AX

(0970) 622143 (24 awr).

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!