Rhifyn 46 Gwanwyn 2004 - Cyd
Rhifyn 46 Gwanwyn 2004 - Cyd
Rhifyn 46 Gwanwyn 2004 - Cyd
- No tags were found...
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Rhifyn 46 Gwanwyn 2004 Am ddim/Free

Y c y l c h g r a w n i s i a r a d w y r a d y s g w y r

T h e m a g a z i n e f o r W e l s h

y G y m r a e g

s p e a k e r s a n d l e a r n e r s

CYD

Cyhoeddir 15,000 o Cadwyn

Cyd bedair gwaith y

flwyddyn fel arfer. Cyfle

gwych i hysbysebu.

Tudalen/Page 4

Cystadleuaeth Dysgwyr y

Flwyddyn 2004

Tudalen/Page 7

Gŵyl Iaith y Bala

Tudalen/Page 13

Penwythnos Cyd Glan-llyn

Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2004 - £500

Cwis Cenedlaethol Cyd 2004

Penwythnos Cyd ar y cyd â Nant

Gwrtheyrn

BWRDD

YR IAITH

GYMRAEG

WELSH

LANGUAGE

BOARD
Llywydd Anrhydeddus

Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd

Mary Burdett-Jones

Is-Gadeirydd

Kathryn Hughes

Trysorydd

Emyr-Wyn Francis

Ysgrifennydd Cyffredinol a Chadeirydd yr Is-Bwyllgor

Marchnata a Chyhoeddi

Glyn Saunders-Jones

Rheolwr Swyddfa

Jaci Taylor (01970) 622143 e-bost: jct@aber.ac.uk

Rheolwr y Gogledd a’r Canolbarth

Rhodri Francis (01970) 628599 e-bost: rhf@aber.ac.uk

Rheolwr y De

Martin Davies (01554) 776587 e-bost: davieswizlet@aol.com

Os ydych am wybod pwy yw Swyddog Datblygu Cyd, neu

Swyddog Dysgwyr neu Swyddog Croesi’r Bont yn y fenter

iaith agosaf atoch, cysylltwch â -

If you would like to know who is the Cyd Development Officer,

or the Learners’ Officer or Crossing the Bridge Officer in the

nearest Welsh language initiative to you, contact –

Swyddfa Cyd Office

10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion

SY23 2 AU

Ffôn/Ffacs: 01970 622143

e-bost: cyd@aber.ac.uk

y we: www.aber.ac.uk/cyd

Mae Cadwyn Cyd yn ymddangos bedair gwaith y flwyddyn

Mae Cyd yn elusen gofrestredig rhif 518371.

Cefnogir gwaith Cyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Cyhoeddwyd gan/Published by: Cyd, 10 Maes Lowri, Aberystwyth,

Ceredigion SY23 2AU.

Argraffwyd a dyluniwyd gan/Printed and designed by: Cambrian Printers

2

Gair o’r Gadair

‘The Welsh language now depends on those who

learn it as a second language. May their numbers

multiply until Welsh once again becomes the

language of the majority in Wales’, meddai Heini

Gruffudd yn ei lyfr Welsh Rules. Nid yw pawb eto

wedi sylweddoli hyn, ond gobeithio y bydd yr

arolwg o ddysgu Cymraeg i Oedolion sy’n cael ei ariannu gan ELWa a

gomisiynwyd gan ELWa yn dwyn ffrwyth. Mae’r iaith Gymraeg â lle

arbennig yng Nghymru ac mae angen sicrhau bod pawb sydd eisiau

dysgu Cymraeg yn cael cyfle i wneud hynny.

Mae gwasanaeth Cyd yn mynd law yn llaw â’r dysgu. Ond heb

adnoddau digonol ni fedrwn ateb y galw am ein gwasanaeth a chreu

cyfleoedd i ddysgwyr gwrdd â siaradwyr rhugl sy’n gefnogol ac yn

amyneddgar. Rydym yn ddiolchgar iawn i LloydsTSB am grant o

£5,000 i gyflogi Swyddog Datblygu yng Ngheredigion am ychydig o

oriau yr wythnos am gyfnod byr. Ond mae Rheolwr y Gogledd a’r

Canolbarth yn dal yn gyfrifol am ddarparu cyfleoedd cymdeithasol i

ddysgwyr yn sir Ddinbych, sir Fflint, sir Drefaldwyn, sir Feirionnydd,

sir Faesyfed a’r rhan fwyaf o sir Frycheiniog, ond ni fedrwn fforddio ei

gyflogi am fwy na 31 awr yr wythnos. Gan fod dros 25 mil o bobl

wedi’u cofrestru mewn dosbarthiadau, heb sôn am y rhai sydd wedi

dysgu rhywfaint o Gymraeg, a’r bobl sydd wedi’u magu gyda

rhywfaint o Gymraeg ond sydd heb hyder i’w defnyddio, mae lle i

ddadlau dros fformiwla ariannu ar gyfer Cyd. Byddai £10 y flwyddyn,

llai na £1 y mis, am bob dysgwr sydd wedi’i gofrestru yn gyfredol yn

cynhyrchu dros £250,000 y flwyddyn, a dyna faint o arian sydd ei

angen arnom i ddarparu gwasanaeth sylfaenol ledled Cymru. Rydym

yn ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am ein grant ond dim ond tua

£94,000 yw ein grant eleni.

Braf yw cydnabod yn gyhoeddus haelioni Hywel Davies o Sir Benfro

sydd wedi rhoi £250 ar gyfer Ysgoloriaeth Dan Lynn James. Felly

rydym yn medru rhoi £500 eleni i ddysgwyr sydd am fynd ar gyrsiau.

Llawer o ddiolch iddo. Rydym am gefnogi pobl sy’n mynd i wneud

cyfraniad i’r gymuned Gymraeg.

Un ffordd o wneud cyfraniad i’ch cymuned leol yw mynd yn aelod o

gyngor cymuned. Mae yna brinder ymgeiswyr mewn rhai ardaloedd.

Mae nifer o gynghorau cymuned yn cynnal eu trafodaethau yn

Gymraeg. Peidiwch â phoeni am safon eich Cymraeg. Dyma gyfle i

ddefnyddio’r iaith. Does dim rhaid i’r siaradwyr rhugl droi i’r Saesneg,

dim ond pennu un person i esbonio’n dawel os bydd rhywun yn cael

anhawster. Bydd etholiadau eleni ym mis Mehefin. Beth amdani?

A Word from the

Chair

‘The Welsh language now depends on those who learn it as a second

language. May their numbers multiply until Welsh once again becomes

the language of the majority in Wales’, says Heini Gruffudd in his book

Welsh Rules. Not everyone appreciates this yet, but we hope that the

review of the teaching of Welsh funded by ELWa which was

commissioned by ELWa will bear fruit. The Welsh language has a

special place in Wales and we need to ensure that everyone who wants

to learn Welsh has a chance to do so.

Cyd’s service goes hand in hand with the teaching. But without

sufficient resources we cannot respond to the demand for our service

and create opportunities for learners to meet fluent speakers who are
encouraging and patient. We are grateful to

LloydsTSB for a grant of £5,000 to employ a

Development Officer in Ceredigion for a few

hours a week for a short period. But the

North and Mid-Wales Manager is still

responsible for social opportunities for

learners in Denbighshire, Flintshire,

Montgomeryshire, Merionethshire,

Radnorshire and most of Breconshire, but

we cannot afford to employ him for more

than 31 hours a week. Since there are over

25,000 learners registered in classes, not to

mention those who have learnt some Welsh

in the past, and those who were brought up

with a certain amount of Welsh but lack the

confidence to speak it, there is an argument

for a funding formula for Cyd. £10 a year,

less than £1 a month, for every learner

currently registered would produce over

£250,000, and that’s how much we need to

provide a basic service throughout Wales.

We are grateful to the Welsh Language

Board for our grant but it is only about

£94,000 this year.

It is good to have an opportunity to

acknowledge publicly the generosity of

Hywel Davies of Pembrokeshire who has

given £250 towards the Dan Lynn James

Scholarship. We are now able to give £500

this year to learners who want to go on

courses. Many thanks. We want to

encourage people who are going to make a

contribution to the Welsh-language

community.

One way of making a contribution to your local

community is to become a member of a

community council. There is a shortage of

candidates in some areas. Some community

councils hold their discussions in Welsh. Don’t

worry about the level of your Welsh. This is an

opportunity to use the language. The fluent

speakers don’t need to turn to English, just

appoint one person to explain quietly if

someone has difficulty. There will be elections

in June of this year. What about it?

3
PROFIAD DYSGWR

Nigel Mervyn

Dysgwr Cymraeg ydw i. Symudais i Gymru ym mis Hydref

2000 efo Lynn fy ngwraig a Poppy fy nghi. Doeddwn i ddim

yn siarad Cymraeg o gwbl. Rydym ni wedi bod yn dysgu

Cymraeg ers 2001 a rwan mae Poppy yn deall ychydig o

Gymraeg, hyd yn oed! Rydym ni'n mwynhau byw mewn

hen fwthyn yn ardal Llanfyllin yn Sir Drefaldwyn.

Mi ges i fy ngeni yn Lloegr ym 1957. Roedd fy nain yn

Gymraes. Mi gafodd fy nain ei geni yn y Waunfawr, ger

Caernarfon. Roedd hi'n siarad Cymraeg yn rhugl. Yn

anffodus, doedden ni ddim yn sgwrsio yn Gymraeg pan o'n

i'n ifanc. Yr unig eiriau rwyn gofio yw ‘Caea'r drws’.

Dw i'n gweithio i mi fy hunan. Cyfansoddwr a dylunydd

graffig ydw i. Dw i wedi bod yn berfformiwr a chwaraewr

drymiau ers amser hir – ers i mi fod yn bymtheg oed. Mae

gen i stiwdio fach, lle dw i wedi ysgrifennu

cerddoriaeth offerynnol a chlasurol ar gyfer sioe

Newbury Live a cherddoriaeth fodern ar gyfer

busnesau yng Nghymru ac yn Lloegr. Dw i

wedi ysgrifennu pob math o gerddoriaeth.

Llun Andy Morton

Ers symud i Gymru, dw i wedi ymuno â gr˘p

corawl o'r enw Cantorion Cegydfa. Maen

nhw wedi perfformio cyngherddau yng

Ngregynog ym Mhowys a chapeli yr ardal.

Yn ystod yr haf 2003, mi ges i dipyn o antur!

Mi gymerais i ran yn Cariad@iaith (rhaglen

deledu gan S4C) a oedd yn cael ei ffilmio yn

Nant Gwrtheyrn, Pen Llfln, am wyth

wythnos. Ar ôl y cwrs, (y diwrnod wedyn a

dweud y gwir) mi o'n i'n canu fy nghân Seren

Bell, ym Mhabell y Dysgwyr yn yr

Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod – mi o'n

i wedi cyffroi’n fawr iawn, wrth gwrs!

Enillodd Lynn a Pharti Myllin, y wobr gyntaf yn eu

cystadleuaeth lefaru yn ystod wythnos yr Eisteddfod hefyd.

Mae gen i ychydig o ganeuon wedi’u cyfieithu o Saesneg i

Gymraeg (diolch yn arbennnig i fy nhiwtoriaid am eu help!).

Fy uchelgais ydy ysgrifennu a chanu caneuon yn y Gymraeg

– iaith y nefoedd.

Am wybodaeth bellach:

ffôn: 01691 649105

e-bost: ear2ear@scorpiosongs.com

G E IR F A

Symudais

fy ngwraig

ychydig

mwynhau

hen fwthyn

Mi ges i fy ngeni

Yr unig eiriau

Cyfansoddwr

dylunydd graffig

offerynnol

ymuno â

cyngherddau

Mi gymerais i ran

cyffroi’n fawr iawn

cystadleuaeth lefaru

wedi’u cyfieithu o ..i

uchelgais

I moved

my wife

a little

to enjoy

old cottage

I was born

The only words

Composer

graphic designer

instrumental

to join

concerts

I took part

very excited

recitation competition

translated from … to

ambition

Llun Lynn Watts-Plumpkin

5
DAWNS DWYNWEN 2004

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol trefnodd Menter Bro

Dinefwr Ddawns Dwynwen mewn cydweithrediad â Cyd.

Daeth tua 90 o bobl ynghyd ar 30 Ionawr yn Neuadd y

Coroniaid, Pumsaint, i fwynhau noson hwylus dros ben yng

nghwmni’r band gwerin Ratlin Bog. Dysgwr o Gwm-du yw un

o aelodau’r band, sef Peter Mitchel, a’r galwyr eleni oedd Jean

Hughes, sydd yn diwtor Cymraeg yn ardal Llandeilo a

Llanymddyfri, a Marian Powell, cyn-swyddog Cyd y Fenter.

Roedd Jean a Marian yn dîm hynod o effeithiol ac fe gafodd y

gynulleidfa noson wrth eu bodd gyda thua 30 o ddysgwyr yn

bresennol. Edrychwn ymlaen yn awr at Ddawns Dwynwen

2005.

Pontypridd

Helo! Tipyn bach o newyddion oddi wrth Cyd Pontypridd. Fe

gynhaliwyd noson gêmau wythnos neu ddwy yn ôl yn Nghlwb

y Bont. Buon ni’n chwarae dartiau, p˘l, llefaru, cardiau, tipit a

dominos. Roedd y noson yn noson hwyliog ac yn llwyddiant

mawr. Dyma lun o'r tîm buddugol gyda'r cwpan sef David

James, Colin Jones, Avril Price, Julia Roe a Rhona Jones, sef

criw Cwrs Cymraeg

Dwys - Blwyddyn

2. Fe fyddwn ni'n

cynnal y noson hon

eto y flwyddyn

nesa lle bydd cyfle

i'r tîm amddiffyn

y cwpan.

Angharad Davies

Ysgrifennydd

Cyd Pontypridd

6
‘G˘yl laith

y Bala’

Mai/May 14 - 16 2004

Penwythnos o hwyl drwy

gyfrwng y Gymraeg!

Digonedd o weithgareddau

ac adloniant ar gyfer pawb,

a bydd Nia Parry (“Welsh in

a Week”) yn ymuno â ni eto

eleni. Dewch yn llu!

Am fwy o fanylion, cysylltwch â / For more information, contact:

Awel, Antur Penllyn, Y Bala

01678 520 920 / anturpenllyn@btopenworld.com

YBALA

‘Bala’s Welsh

Language

Festival’

A weekend of fun through the

medium of Welsh! There’ll be

plenty of activities and

entertainment for everyone,

and Nia Parry (“Welsh in a

Week”) will be joining us once

again. Don’t miss it!

CANTORION ABERYSTWYTH

yn canu mewn gwasanaeth ( service) Plygain yn

eglwys Llanymawddwy.

Gr˘p o ddysgwyr a Chymry Cymraeg ydyn nhw.

Mae’r Plygain yn wasanaeth lle mae pobl yn

canu hen garolau gwerin ( old folk carols) yn

ddigyfeiliant ( unaccompanied) rhwng canol

Rhagfyr a chanol Ionawr.

Roedd y cantorion yn canu dwy garol o lyfr

newydd Rhiannon Ifans Y Dyrfa Weddus.

Roedd yn brofiad arbennig iawn ( very special

experience) i bawb yn y gr˘p.

Diolch i Bethan Bryn am ddysgu’r côr .

Diolch i Felicity Roberts am drefnu.

Diolch i Rhiannon Ifans am dynnu’r llun.

Rhai o’r criw aeth i noson agoriadol Cangen Cyd

y Bala Ionawr 2004

ABERAERON

O’r chwith - Rhes gefn Helle Michelson, Paul Keyworth,

Ann-Marie Hinde, Nigel Callaghan, Sue Jones Davies, Cynog

Dafis, James Griffiths, Teresa Cody. Rhes flaen – Tricia

Chapman, Jenny Fothergill, Jen Llywelyn, Carrie Fox, Felicity

Roberts, Llinos Dafis

Noson agoriadol Cangen Cyd Aberaeron

Ionawr 2004

7
SIR BENFRO

Cyd newydd ym Maenclochog

Mae gr˘p Cyd newydd yn cyfarfod yn ardal Maenclochog, sir

Benfro. Mae dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd nos Wener

diwetha'r mis, ac mae croeso i ddysgwyr eraill a Chymry ymuno.

Am ragor o fanylion Cyswlltwch â (contact) Tryphena

Williams, rhif ffôn: 01437 563774.

Come and join the new Cyd group in Maenclochog which meets the

last Friday of the month.

Cyd Tyddewi

Mae Cyd Tyddewi yn cwrdd y Sadwrn cyntaf o'r mis.

Ar Ebrill 3ydd mae’r dysgwyr a’r siaradwyr Cymraeg yn bwriadu

ymweld â Chastell Henllys, ac ar Galan Mai ( Mayday), mae Cyd

Tyddewi yn bwriadu ymweld â Fferm Hollybush.

Os hoffech ymuno â Cyd Tyddewi, mae croeso i chi ffonio Rob

Pugh, rhif: 01437 720404, neu Gail Caines, ffon: 01437

720406.

Meets first Saturday of the month.

yr ardal. Adroddodd Geraint beth o hanes y pentre ac yn sôn am rai

o gymeriadau’r cylch. Ymunodd Dysgwraig y Flwyddyn - 2002,

Alice James, â ni hefyd.

Ar yr ail daith, aethon ni ar Lwybr Arfordir Penfro. Averyl Rees

oedd yn arwain. Soniodd Avril am ei hatgofion plentyndod,

(childhood memories), yn mwynhau chwarae ar Draeth Coppet

Hall, ger Saundersfoot. Wedyn cerddodd pawb ar hyd y Llwybr, a

thrwy'r twnel at Bont y Doethyn (Wiseman's Bridge). Mae'r

Llwybr presennol ble'r oedd hen Reilffordd y Gwaith Glo a Haearn

yn mynd o Stepaside i hen Harbwr Saundersfoot.

Y trydydd tro, cwrddon ni yng Ngerddi Coed Colby. Daeth

garddwr y Gerddi, Graham Lewis, i siarad â ni yn Gymraeg, a

dangos rhai o nodweddion arbennig y gerddi i ni. Erbyn hyn mae

Gerddi Colby yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

(National Trust property). Doedd staff y Gerddi ddim yn cofio

unrhyw gr˘p Cymraeg arall yn ymweld â nhw o’r blaen.

Llongyfarchiadau i Cyd Dinbych-y--Pysgod!

Yn ystod yr ymweliad, dysgon ni am hanes Stad Colby, a sut mae

pobl yn trefnu gwaith y Stad heddiw, yn ogystal â chynlluniau

Taith gerdded yn Llanddewi Felffre, Arberth. Mae arweinydd y daith, Geraint Davies yn y

cefn yn yr haul. Mae Dysgwraig y Flwyddyn 2002, Alice Traille James yn y blaen, â sbectol

haul.

Llun: Dafydd Gwylon

Cyd Dinbych-y-Pysgod a Chilgeti

Mae Cyd Cilgeti a Dinbych-y-Pysgod eleni yn cwrdd ar y 3ydd nos

Wener yn y mis – yn Ninbych-y-Pysgod.

Mae croeso i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ymuno â'r gr˘p, a

ffonio'r Cyswllt, "Contact Person", Averyl Rees rhif ffon:

01834 813749.

Meets 3rd Friday evening of the month in Tenby.

Dafydd Gwylon

Mwynhau Crwydro Penfro

gan Robert Davies

Mae Cyd Dinbych-y-Pysgod a Chilgeti wedi trefnu rhaglen o

deithiau cerdded llwyddiannus (successful).

Roedd y daith gyntaf o gwmpas pentre ar y ‘landsker’ - sef

Llanddewi Felffre, ger Hendygwyn ar Daf. Roedd Cymro

Cymraeg, ac aelod o Cyd - Geraint Davies yn ein tywys o gwmpas

Sgwrsio wedi taith gerdded ar y Llwybyr Arfordir ger Saundersfoot. Averyl Rees oedd

yr arweinydd gyda sbectol haul yn y canol. Mae’r tiwtoriaid Wynne Griffiths a Sarah

Eastlake ar y dde.

Llun: Robert Davies

newydd ar gyfer y dyfodol. Diolchwyd i staff y Gerddi gan

Margaret Acton a Dafydd Gwylon.

Aeth Gr˘p Cyd y tro diwetha i ymweld â stad arall sef Stad

Stanbwll (Stackpole). Cerddon ni o Harbwr bach Stanbwll i Draeth

Barafundle, ac ymlaen am Benrhyn Stanbwll. Cawsom saib i

fwynhau'r olygfa, ac roedd hi'n ddigon twym i ddau neu dri o'r

cwmni nofio yn y môr – yn mis Medi!

Roedd pawb wedi helpu i wneud y teithiau yn llwyddiant (success)

trwy naill ai (either) trefnu neu eu harwain yn ogystal ag ymuno yn

yr hwyl. Fe gawson ni gyfle i weld lleoedd prydferth a diddorol,

dysgu pethau newydd, siarad Cymraeg, a mwynhau ein hunain ar yr

un pryd. Os hoffech chi ymuno â ni, mae croeso i chi ffonio Averyl

(01834) 813749.

8
CROESO I DEULUOEDD

gan Rosalind Guinard, Ffrainc

A

ntur go fawr i ferch heb unrhyw brofiad o

fywyd mewn gwledydd estron yw mynd ar i

phen ei hun i aros am fis cyfan gyda theulu

dieithr. Pedair ar bymtheg oed oeddwn i yn

1958. Er fy mod wedi pasio arholiadau

Ffrangeg Safon Uwch, ni allwn lai na

sylweddoli pan oedd y Ffrancwyr ar y trên yn

siarad â’i gilydd, nad oeddwn yn deall gair.

Cefais groeso cynnes iawn mewn bwthyn

mewn pentref bach yng ngorllewin Ffrainc –

bwthyn tebyg iawn i nifer o fythynnod

Cymreig. Roeddynt yn hir ac isel gyda

muriau gwyn. Roedd y bwthyn hwn yn

perthyn i deulu siriol a dymunol, sef

Monsieur a Madame a’u pedwar o blant.

Ffermwr oedd Monsieur ac roedd ei neiant

a’i nithod yn treulio’u gwyliau yn y château

wrth ochr y bwthyn. Bob dydd byddem yn

mynd i’r beudy i odro’r da. Nid oedd dim

byd gwell i ddysgwyr sydd eisiau siarad yn

rhugl na gwrando ar blant sydd yn siarad yn

hollol naturiol. Byddem yn chwarae tenis

ambell waith ar gwrt llawn tyllau, ac yno fe

ddysgais sut i gadw sgôr mewn Ffrangeg.

Gyda’r nos byddai ffrindiau a pherthnasau’n

dod yn aml i gael swper. Yn gyffredinol

gallwn i ddilyn y sgwrs yn eitha da, ond stori

arall oedd paratoi brawddegau cywir fy

hunan. Cofiaf fy mod wedi aros mor hir

ambell dro cyn dweud rhywbeth nes bod y

stori wedi newid!

Pan oeddwn ar fy mhen fy hun gyda

Monsieur a Madame byddent yn siarad yn

araf er mwyn i mi eu deall. Er bod Madame

wedi dysgu Saesneg yn yr ysgol roedd hi’n

ddigon deallus ac yn ddigon gonest i

gyfaddaf bod rhaid iddi beidio cyfieithu bob

amser: byddai’n egluro popeth i mi yn ei

hiaith ei hun. Fel hynny cefais y cyfle i

wrando a gwrando hyd nes i mi ddechrau

meddwl yn Ffrangeg. O mor wyrthiol yw

sylweddoli eich bod yn gallu deall heb

Château de Villandry

Adeiladwyd ( was built) y château gan Jean le Breton yn yr unfed ganrif ar bymtheg ( sixteenth

century ) ar lannau’r Loire yn ystod cyfnod y dadeni ( renaissance).

Am fwy o wybodaeth: http://chateauvillandry.com

gyfieithu, ac yn gallu ateb ar unwaith heb

feddwl am y ramadeg.

Ond nid mater o siarad a deall yn unig yw

dysgu iaith estron. Cyn gallu meistroli

unrhyw iaith yn berffaith, mae’n rhaid i chi

fyw holl ddiwylliant y bobl; eu ffordd o

feddwl, o fwynhau, o fwyta. Cawson lawer o

sgyrsiau a dysgais nid yn unig eiriau ac

idiomau, ond hefyd barn y teulu a’u ffrindiau

am amryw o faterion eraill. Dysgais

bwysigrwydd y teulu yn Ffrainc. Roedd yr

oedolion a’r plant yn mwynhau ymgynnull o

gwmpas y bwrdd – ac o mor wahanol oedd y

bwyd. Roedd yr holl lysiau’n flasus iawn

wedi’u gweini ar ôl y cig gyda saws

arbennig. Roedd ’na gymaint o wahanol

fathau o gaws nad oeddwn wedi’u profi o’r

blaen – Camembert, er enghraifft. Ac wrth

gwrs roedd gwin coch ar y bwrdd bob amser

yn ogystal â d˘r.

Aeth Madame â mi i weld rhai o gestyll y

Loire gan gynnwys Château de Villandry a’r

gerddi ffurfiol, yn ogystal â Langeais, sef

castell canoloesol rhamantus gyda’i dyrau

pigfain.

Pam ddychwelais yn ôl i Loegr roeddwn yn

siarad Ffrangeg yn eitha rhugl – diolch i

deulu arbennig o gymwynasgar o orllewin

Ffrainc.

Teuluoedd Cymraeg: Os ydych chi’n hoffi

cwrdd â phobl, ac os ydych chi eisiau ennill

ychydig o arian, beth am dderbyn dysgwyr o

wahanol rannau o’r byd yn ogystal â

Chymru.

‘Minnau yn awr, galwaf ar fy nghyfeillion

Cyffredin ac ysgolhaig

Deuwch ataf i’r adwy

Safwch gyda mi yn y bwlch

Fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl y glendid a

fu.’

Buchedd Garmon gan Saunders Lewis

9
Y PROFIAD O DDARLLEN ...

CYSGOD Y CRYMAN

gan Islwyn Ffowc Elis

Gyda’r newyddion trist am farwolaeth Islwyn

Ffowc Elis, dyma T. Robin Chapman, awdur

Rhywfaint o Anfarwoldeb: cofiant Islwyn Ffowc

Elis, yn cofio am y pleser a gafodd wrth ddarllen

gwaith enwocaf y nofelydd mawr hwnnw – ac yn

ei argymell yn frwd.

Y nofel gynta imi ei darllen pan oeddwn i’n dechrau

dysgu Cymraeg yn 15 oed oedd Cysgod y Cryman

Islwyn Ffowc Elis. Rydw i’n dal i feddwl amdani hyd

heddiw fel ‘llyfr y bont’: y llyfr Cymraeg cynta imi ei

ddarllen ar gyfer Cymry Cymraeg, a’r cynta hefyd ar

gyfer oedolion. Rydw i’n cofio’r wefr o ddal y llyfr

sylweddol yn fy nwylo, troi’r tudalennau, a dweud,

‘Dyma fi wedi darllen hon!’. Profiad penfeddwol.

Fe afaelodd hi ynof i o’r cychwyn. Doeddwn i ddim

yn deall pob gair, wrth gwrs, ond doedd dim ots am

hynny: y stori oedd y peth pwysig. Roeddwn i eisiau

gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd nesa. Roedd

hi mor syml â hynny. A rhywbeth arall. Trwy’r nofel

yma fe ges i fy nghip cynta ar sut roedd Cymry

Cymraeg yn siarad gyda’i gilydd yn naturiol. Roedd

darllen y nofel yn brofiad tebyg i fod yn bryf ar y wal,

yn gwrando ar bobl yn sgwrsio. Fe ddysgais i bob

math o frawddegau ar fy nghof – a’u defnyddio! Hi

oedd fy nghronfa iaith i.

Cymraeg Powys ydy iaith y llyfr: dewis Islwyn Ffowc

Elis am ei fod e’n byw ym Mhowys ar y pryd; ond fe’i

dewisodd hefyd am ei bod hi’n iaith sy’n ddealladwy

i ddarllenwyr y de a’r gogledd fel ei gilydd. Dyna ran

o’r rheswm pam y bu’r nofel yn gymaint o lwyddiant

gyda Chymry Cymraeg, a’r rheswm pam mae hi mor

addas i ddysgwyr hefyd. Stori dda a digonedd o

frawddegau defnyddiol – a’r boddhad o wybod eich

bod chi wedi darllen Llyfr Cymraeg y Ganrif. Oes

angen rhagor o berswâd arnoch chi?

T. Robin Chapman

GEIRFA

Cysgod y Cryman

anfarwoldeb

argymell

sylweddol

Fe afaelodd hi ynof i

fy nghip cyntaf

profiad

pryf ar y wal

brawddegau

cronfa

boddhad

perswâd

Shadow of the Sickle

immortality

recommend

substantial

it gripped me

my first glimpse

experience

fly on the wall

sentences

store

satisfaction

persuasion

Diolch i Gyngor Llyfrau Gymru am gael defnyddio’r llun o Robin Chapman. Tynnwyd y llun yn eu pabell yn ystod Eisteddfod

Genedlaethol Cymru Maldwyn a’r Gororau ar achlysur lansio ei lyfr Rhywfaint o Anfarwoldeb.

Am fwy o wybodaeth am Robin Chapman ac Islwyn Ffowc Elis gweler:

http://www.bbc.co.uk/cymru/adloniant/llyfrau.awdur/chapman.shtml

http://www.bbc.co.uk/cymru.adloniant/llyfrau/adolygiadau/404-islwyn.shtml
Tri Chynnig i

Blodwen Jones

gan Bethan Gwanas (Gwasg Gomer £3.50)

Adolygiad gan Mary Neil

Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres sy’n trin hanes Blodwen

Jones – dysgwraig. Bethan Gwanas yw’r awdures ac

nofelau wedi eu hysgrifennu ar gyfer dysgwyr yw’r

gyfres ‘Nofelau Nawr’.

Ysgrifennwyd y tair nofel ar ffurf dyddiadur, ac mae’r

darllenydd yn dilyn ffawd yr awdures Blodwen Jones

trwy amrywiaeth o anturiaethau yn ei bywyd beunyddiol.

Gwaith bob dydd Blodwen yw llyfrgellydd ac yn y nofel

hon dyma hi yn gweithio yn y llyfrgell deithio a’i gyrru.

Roedd cryn dipyn yn y ddwy nofel gynharach am fywyd

yn y llyfrgell ond does dim llawer amdano yn y gyfrol

ddiweddaraf – a dwi’n gweld ei eisiau. Ond mae llawer o

sôn am fywyd yn y dosbarth Cymraeg ac am y bywyd

cariad anwadol.

Mae’r Dosbarth Cymraeg yn chwarae rôl bwysig yn y

llyfr a’r bobl yn y dosbarth yw prif gymeriadau y nofel.

Mae’n ddiddorol sut mae’r Gymraeg wedi gwella wrth

fynd trwy’r tair cyfrol ac erbyn y gyfrol hon mae’r iaith

yn llifo yn fwy naturiol, ac mae llai o lawer o ‘beth yw

hwn yn Gymraeg?’ Mae’r erifa ar waelod pob tudalen

wedi lleihau hefyd ac felly yn adlewyrchu’r ffaith bod

pethe wedi symud ymlaen – i ni ac i Blodwen a’i chriw.

Dyma Blodwen yn brwydro yn erbyn llu o broblemau

sy’n ei hwynebu o dydd i ddydd: bod yn rhy dew, bod yn

rhy dlawd, y treialon o gadw dyn.

Ond cymeriad hoffus a doniol yw Blodwen ac mae ei

hymateb i ergydion bywyd yn gwneud i fi chwerthin yn

uchel – mae pob merch yn y byd si˘r o fod wedi dioddef

yr un trafferthion

rywbryd.

Fel nofel ar gyfer

dysgwyr dyma un

sy’n dda iawn –

cyfoes a chyffrous,

diddorol a doniol,

ac mae fel chwa o

awyr ffres yn y

byd nofelau ar

gyfer dysgwyr. Y

peth sy’n mhoeni i

nawr yw ai Sion

Prys yw Mr Reit

neu beidio?

Rhywsut dwi’n

amau….
LLWYDDO YN LLANELLI

Mae Cyd yn ardal Llanelli, mewn

cydweithrediad â Menter Iaith Llanelli, yn

mynd o nerth i nerth. Mae chwe changen

yn cwrdd bob wythnos, a gweithgareddau

cyson yn cael eu cynnal, i bawb fwynhau.

Roedd adeg y Nadolig yn brysur iawn,

gyda sawl digwyddiad diddorol a

llwyddiannus.

Rhagfyr 5ed Aeth llond bws – tua 50

ohonon ni – i ddathliad Nadolig

Amgueddfa Sain Ffagan, Y Goeden

Nadolig, a chafodd pawb eu swyno gan yr

awyrgylch hyfryd.

Rhagfyr 11eg Cynhaliwyd Noson o Garolau

yng Nghapel Greenfield, Llanelli, gyda Dr.

Terry James yn arwain, ac Alan Fewster

wrth yr organ. Cafwyd eitemau hyfryd gan

blant ysgolion cynradd Ffwrnes, Llanelli, a

Pharc-y-Tywyn, Porth Tywyn, a chanodd y

gynulleidfa o tua 150, hen garolau’r genedl.

Dw i’n siŵr nad oedd y carolau yma wedi

cael eu canu yn Llanelli ers blynyddoedd.

Roedd hi’n wych eu clywed unwaith eto.

Rhagfyr 15ed Roedd llawer o hwyl a sbri yn

ein Parti Nadolig yng nghlwb Sêr y Doc

Newydd, Llanelli. Daeth dros 50 at ei

gilydd i fwynhau gwledd o fwyd, ac yna

cymryd rhan yn y twmpath; rhaid treulio’r

calorïau rhywsut, ond does?

Wedi’r arholiadau …!

Mae llawer ohonoch wrthi’n ‘swoto’ ar

gyfer arholiadau CBAC – mae dysgwyr yr

ardal yma’n gweithio'n galed hefyd. OND,

ar nos Wener, 5ed o Fawrth – ar ôl yr

arholiad Mynediad – bydd aelodau Cyd

Llanelli a Chaerfyrddin yn mynd ar daith i’r

Dafarn Sinc yn Rosebush, Sir Benfro, i

ddathlu ‘bod yn rhydd’!

Cyd Caerfyrddin

Mae’r gangen lwyddiannus hon wedi bod

yn cwrdd ers mis Tachwedd, 2003, ac yn

llwyddo i ddenu mwy a mwy o aelodau.

Dyn ni’n cwrdd bob dydd Mawrth, rhwng

12.30 – 1.30 yp, yn Stiwdio Gymunedol y

BBC, Heol y Priordy, Caerfyrddin. Dewch

draw i fwynhau cwpaned a chlonc.

Cyd Mynydd-y-Garreg

Clwb Rygbi Mynydd-y-Garreg yw’r lle i fod

os dych chi am ymarfer tipyn o’ch

Cymraeg. Dewch i ymuno â ni bob nos Iau,

am 7.30 yh. Bydd croeso mawr i chi i gyd.

Martin Davies

YR IAITH AR WAITH YN YR HEDDLU

O HYN ymlaen (from now on) bydd gan weithwyr Heddlu Gogledd Cymru

ddigonedd i sgwrsio amdano, diolch i sesiwn arbennig a lansiwyd (which was

launched) ym mis Tachwedd 2003.

'Sesiwn Siarad' yw enw'r sesiwn a'i bwrpas (and its purpose) yn syml yw

cael pobl i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg.

‘Mae gennym ni (gyda ni) dros 50 aelod o staff sy'n dysgu Cymraeg mewn

dosbarthiadau rheolaidd yn yr heddlu yn ogystal â (as well as) llawer o staff

sy'n dysgu'n achlysurol (occasionally) ac yn y gymuned. Mae'r mwyafrif

ohonynt (the majority of them) yn chwilio am gyfleoedd i ymarfer y tu allan

i'r stafell ddosbarth,’ meddai Meic Raymant, Ymgynghorydd Iaith Gymraeg,

Heddlu Gogledd Cymru. ‘Trwy'r sesiwn, gallent ennill mwy o hyder

(they would be able to gain more confidence) i siarad Cymraeg â'r cyhoedd.’

Lansiwyd y sesiwn gan Mary Burdett-Jones Cadeirydd Cyd (sef y mudiad sy'n

pontio'r Cymry Cymraeg a dysgwyr), y Cynghorydd ( Councillor) Dafydd Parry

Jones, Cadeirydd Menter Iaith Conwy, a Dirprwy Brif Gwnstabl (Deputy Chief

Constable) Heddlu Gogledd Cymru Clive Wolfendale.

Mae Menter Iaith Conwy mewn partneriaeth (in partnership) â Cyd yn cwrdd a

chostau hwylusydd i gynnal (a facilitator to hold) y sesiynau bob wythnos.

Sesiwn Siarad

Mary Foulkes (dysgwraig) yn

sgwrsio â Siân Brennan

(Cymraes Gymraeg)

Meic Raymant, Ymgynghorydd Iaith Gymraeg,

Mary Burdett-Jones Cadeirydd Cyd, Dirprwy Brif

Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Clive

Wolfendale, y Cynghorydd Dafydd Parry Jones,

Cadeirydd Menter Iaith Conwy

12
GWEITHGAREDDAU - ACTIVITIES 2004

ARGRAFFWYR

CAMBRIAN

Cwmni modern a chyfeillgar

Argraffwyr Llyfrau

• Cylchgronau • Taflenni

o bob math, lliw a llun

HOLWCH AM BRIS!

Penwythnos Cyd

Gwersyll yr Urdd

Glan-llyn y Bala

12 – 14 Mawrth 2004

can˘io, adeiladu rafft,

hwylio,

bowlio deg,

datrys problemau,

cerdded,

wal dringo

Ychydig o le ar ôl

Ffoniwch Rhodri ar

01970 628599

£67

Y s g o l o r ia e t h

D a n L y n n J a m e s

S c h o l a r s h ip 2 0 0 4

£500

Dyddiad cau

Closing Date

I Ebrill/April 2004

Manylion a ffurflen gais:

Details and application form:

10 Maes Lowri, Aberystwyth

Ceredigion SY23 2AU

www.aber.ac.uk/cyd

CWIS CENEDLAETHOL CYD

2004

Cynhelir rowndiau lleol o’r 1 Mai 2004

Ffo^ n: 01970 613027 Ffacs: 01970 615497

P R Y N U E S G I D I A U

g a n K i m J a m e s - W i l l i a m s a K a t e H a m p s o n

S = S io p w r C = C w s m e r

S Ga i’ch helpu chi?

C Cewch. Rwy i angen welingtons newydd.

S Iawn. Dych chi’n gwybod eich maint?

C Pump, rwy i’n meddwl. Pa liwiau sydd ar gael?

S Gwyrdd, du, neu frown… neu dyma bâr hyfryd pinc.

C Gwych. Ga i’u trio nhw?

S Cewch, wrth gwrs … Sut maen nhw’n teimlo?

C ‘Na drueni, maen nhw’n rhy fach. Ydy’r maint nesa ’da chi?

S A’ i i weld… Nac ydy, mae’n ddrwg gen i. Rydyn ni wedi bod yn

brysur iawn achos bod y tywydd yn mynd i waethygu.

C O wel. Mae’n well gen i welingtons pinc. Oes unrhyw beth arall pinc?

S Dim ond y stilettos yn y ffenest ‘na.

C Ga i’u trio ’te? O hyfryd. Maen nhw’n berffaith. Faint ydyn nhw?

S Maen nhw’n fargen.

C Fe gymera i nhw. Rwy i’n mynd i barti nos Sadwrn …a

bydd rhaid i mi brynu ffrog binc hefyd.

S Dych chi’n dal i fod angen welingtons?

Mae gynnon ni lot o welingtons gwyrdd yn y cefn.

C Iawn. Fe gymera i welingtons gwyrdd a stilettos pinc …

a bydda i’n barod am unrhyw dywydd.

Y s g r if e n n w y d y d d e ia l o g u c h o d m e w n d o s b a r t h C y m r a e g . B e t h a m y s g r if e n n u

d e ia lo g i C a d w y n ? E f a l l a i b y d d e ic h t iw t o r y n b a r o d i’c h h e l p u – g o f y n n w c h .

Cynhelir y rownd derfynol ym Mhabell y

Dysgwyr, Eisteddfod Genedlaethol Cymru,

Casnewydd a’r Cylch

Enillwyr 2003

Cyntaf – Caerdydd

Cydradd ail – Llanelli ac Abertawe

PENWYTHNOS CYD AR Y CYD Â

NANT GWRTHEYRN

29 – 31 Hydref 2004

Gwersi a Gweithgareddau Cymraeg i ddysgwyr

a Chymry Cymraeg

Manylion : Rhodri Francis 01970 628599

13
CYMDEITHAS OWAIN

LAWGOCH

Mae dau aelod o gr˘p Cyd Porth Tywyn, sef Geoff Ifans o

Ben-bre a Caradog Williams o Borth Tywyn, wedi bod ar

ymweliad â Mortagne-sur-mer yn Ffrainc. Mae Mortagne-surmer

yn dre fechan yn ardal y gwinllannoedd ger Bordeaux yn

ne-orllewin Ffrainc. Pwrpas yr ymweliad oedd dathlu rhan o

hanes ein gwlad sydd hyd yma heb gael llawer o sylw.

Mae ardal Mortagne-sur-mer yn Ffrainc yn gysylltiedig ag

Owain ap Thomas ap Rhodri, neu Owain Lawgoch, neu i’r

Ffrancwyr – Yvain de Galles (1300-1378). Roedd Owain yn

llinach Llywelyn Fawr. Er yn alltud yn Ffrainc, roedd yn

ymwybodol iawn o’i dras. Roedd am ddod yn ôl i Gymru i’w

orseddu ei hunan fel Brenin Cymru, ond anfonodd Lloegr

lofrudd i’w ladd, dyn o’r enw John Lamb, ac ofer fu

breuddwyd Owain Lawgoch i ddychwelyd i Gymru.

Roedd Cymuned Mortagne

am ddathlu bywyd

Owain ac am

gydnabod ei

ddewrder yn

brwydro gyda

byddin Ffrainc yn

ymladd yn erbyn y

Saeson. Bellach, ar ôl

gwaith caled ar ran pwyllgor

Cofeb Owain Lawgoch,

Cymdeithas Owain Lawgoch,

Montagne-sur-mer, Ffrainc.

mae cofeb hardd o lechen

(gwaith Emyr Davies o

Ffostrasol) wedi ei dadorchuddio mewn seremoni arbennig a

gynhaliwyd yn Mortagne-sur-mer y llynedd.

Beti Williams

Diolch i’r BBC am gael defnyddio’r llun o Gofeb Owain Lawgoch sydd ar

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newisid 3150000/

newsid 3156300/3156351.stm

Geirfa

gwinllannoedd

yn gysylltiedig

llinach

alltud

cofeb

dadorchuddio

vineyards

linked

lineage

exile

memorial

to unveil

Y Breuddwydiwr – Victor Jara –

y canwr o Chile

gan Tony Corden

Rwyf wedi bod yn edmygwr o gerddoriaeth Victor Jara o wlad

Chile ers blynyddoedd. Y llynedd fe benderfynais ymweld â

Chile gan ei bod yn dri deg mlynedd ers ei farwolaeth. Fe

lofruddiwyd Victor Jara gan y fyddin ar ôl coup milwrol yn

Chile ar yr unfed ar ddeg o fis Medi 1973.

Canwr sosialaidd oedd Victor Jara, a oedd yn dod o deulu

tlawd. Mae ei ganeuon yn brydferth a bythgofiadwy. Maent yn

adlewyrchu ymdrech pobl dlawd yn Chile ac ar draws y byd.

Carcharwyd ef yn dilyn y coup ac fe’i harteithwyd efo llawer

o bobl eraill cyn ei lofruddio.

Yn ystod fy ymweliad â Chile, cefais air gyda’i weddw Joan,

sy’n Saesnes ac yn awdur ei fywgraffiad. Dawnswraig yw

Joan. Hi hefyd sy’n gyfrifol am gymdeithas Victor Jara sy’n

darparu cyfleoedd cerddorol a chyfleoedd dawnsio ar gyfer

pobl ddifreintiedig. Cefais hefyd gyfle i gyfarfod merch Victor

Jara, sef Amanda. Cân enwocaf Victor yw ‘Dwi’n dy gofio di

Amanda’ sef Te Recuerdo Amanda. Rwy’n chwarae offeryn ac

yn cael pleser o chwarae caneuon ac alawon hyfryd Victor

Jara.

Pan ddychwelais o Chile mi

drefnais gyngerdd o

gerddoriaeth Victor Jara yn y

Tabernacl ym Machynlleth.

Roedd yn gyngerdd

llwyddiannus iawn. Roedd yr

elw tuag at Sylfaen Victor

Jara ( Victor Jara

Foundation). Rwy’n

bwriadu cynnal penwythnos

o gerddoriaeth o Chile ym

Machynlleth yn 2005.

Am fwy o wybodaeth am

Sylfaen Victor Jara gallwch

gysylltu â mi ar 01654

702166 neu anfonwch neges

e-bost at

tonycorden@hotmail.com.

14
Cyd Cwm Gwendraeth Uchaf

Rhai aelodau o Cyd Cwm Gwendraeth Uchaf yn dathu

pen-blwydd Ffred Bond. Mae Ffred yn enwog am ei

waith i Reilffordd Gwili. Hefyd yn y llun (o’r chwith)

mae Pam Pease (Ysgrifennydd y gangen leol), Ffred,

Dr Peter Griffiths, Enid Smith, Dafydd Gwylon

(Swyddog Datblygu Cyd), Pat Nicholas a Wynford

Nicholas.

Ymddiheuriadau (apologies) gan tîm Cadwyn os

oedd yn edrych fel petae Ffred yn perthyn i

(belonged to) gangen Cyd Bro DJ yn y rhifyn

diwethaf (last issue).

DWEUD FFORTIWN YNG NGHEREDIGION

(R = Rhian Sipsi; M = Mair)

R Dewch i mewn. Croeso. Eisteddwch.

M Diolch.

R Siwt ych chi?

M Iawn, diolch.

R Nawr, dangoswch eich llaw i fi. A! diddorol!

M Beth? Oes rhywbeth yn bod?

R Peidiwch â phoeni! Mae gyda chi law ddiddorol.

M Ydych chi’n gallu gweld rhywbeth?

R Ydw. Byddwch chi’n cael bywyd eithaf hapus,

ond weithiau byddwch chi’n teimlo’n drist.

M A beth arall?

R Byddwch chi’n llwyddiannus yn eich gwaith.

M Beth arall?

R Dw i’n gweld eich bod chi’n briod. Fel arfer, rydych

chi’n hapus iawn, ond weithiau rydych chi’n anhapus.

M Chi’n ardderchog, Rhian. Beth arall?

R Wel, dw i’n gweld eich ffortiwn yn glir—chi’n

mynd i golli llawer o arian yn sydyn iawn.

M A beth arall?

R Sori, dyna’r diwedd. A’r ffi yw …….£25!

Jill Roberts

NEWYDDION O LOEGR

Dysgwyr a Chymry Cymraeg Derby – dyma gyfle

gwych i chi ddod i nabod eich gilydd

Here’s an excellent chance for learners and fluent

Welsh speakers to get to know each other in Derby –

go along and join in and don’t forget to tell your

friends about the meetings.

Cylch Dysgwr Cymraeg Derby

Bob bore Dydd Mawrth. 10-12 o'r gloch

Am fwy o fanylion ffoniwch Jonathan ar 01773 827513

Clych Siarad Cymraeg Matlock

Bob Nos Iau 7-9 o'r gloch. Am fanylion ffoniwch Tony Rees

ar 01629 583615

Caffi Cymraeg Matlock

Te, sgwrs a thelyn. P'nawn Dydd Sul 14ydd Mawrth, 2-4 o'r

gloch. Cafe Good For You, Firs Parade, Matlock,

Derbyshire. Bydd croeso i bawb. Ffoniwch 01629 583615

am fanylion.

Rhestr Aros yn Halifax

Waiting List in Halifax

Medi 2003 roedd 31 o bobl eisiau cofrestru ar gyfer ( enrol)

dosbarth Cymraeg yng Nholeg Keighley, Halifax.

Roedd lle (room) ar gyfer 20 o bobl.

Roedd rhaid i 11 o bobl fynd ar y rhestr aros.

Gobeithio bydd lle i’r bobl ar y rhestr aros cyn bo hir (soon).

Pob lwc i bawb sy’n dysgu Cymraeg yn Halifax a’r tiwtor.

Llundain

Oeddech chi’n gwybod bod llawer o ddosbarthiadau

Cymraeg yn Llundain. Os dych chi eisiau gweld ble maen

nhw, a beth sydd ymlaen yn Llundain, beth am ymweld â’r

wefan www.anoeth.demon.co.uk/digwyddiadur.html. Rydyn

ni’n deall bod llawer o’r dysgwyr eisiau cymdeithasu

(socialize) yn y Gymraeg – beth am sefydlu (establishing)

cangen o Cyd yn Llundain? Bydd angen Cymry Cymraeg

i’w cynorthwyo (to assist them). Cysylltwch â Cyd os

gallwch chi eu helpu os gwelwch yn dda.

Ffordd arall o Gefnogi Cyd

– Giving through the Self–Assessment Return

Cynllun newydd Cyllid y Wlad (Inland Revenue)

O’r cyntaf o Ebrill 2004 os ydych yn gwneud adroddiad ariannol

blynyddol hunanasesiad (Self-Assesment Return) bydd modd i chi

ddewis rhoi unrhyw ad-daliad o dreth incwm (repayment of

income tax) i elusen fel rhodd (as a donation). I wneud rhodd i

Cyd bydd yn rhaid defnyddio côd unigryw Cyd: EAE57SG.

O’r cyntaf o Ebrill bydd enw Cyd a’n côd arbennig wedi’u rhestru

ar wefan Cyllid y Wlad. Am fwy o wybodaeth:

http://www.inlandrevenue.gov.uk/individuals/tmaselfassessment.shtml

15
R h o d d G y m o r t h / G if t A id £

A w n e w c h c h i d d a r l l e n y c a n l y n o l y n o f a l u s ? / P l e a s e r e a d t h e f o l l o w in g c a r e f u l l y

Rwy’n datgan fy mod yn talu rhagor o dreth incwm a/neu dreth enillion cyfalaf na’r dreth y bydd Cyd yn adennill ar fy

rhodd/nghyfraniad/tâl cefnogi, sef 28c ym mhob £1 a roddir ar hyn bryd, a fy mod yn fodlon i Cyd drin y rhodd uchod a phob

rhodd yn y dyfodol fel rhodd gymorth.

I declare that I pay income tax and/or capital gains tax at least equal to the tax that Cyd claims on my donations/supporter’s

fee in the tax year (currently 28p for each £1 you give), and I am willing for Cyd to treat the above donation and all donations in

the future as gift aid.

L l o f n o d / S ig n a t u r e