£200
Rhifyn 51 Gaeaf 2005 - Cyd
Rhifyn 51 Gaeaf 2005 - Cyd
- No tags were found...
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Cadwyn_51 25/11/05 11:07 am Page 1

Rhifyn 51 Gaeaf 2005

Am ddim/Free

Y cylchgrawn i siaradwyr

The magazine for Welsh

a dysgwyr y Gymraeg

speakers and learners

Cyhoeddir 15,000 o Cadwyn

Cyd ddwywaith y flwyddyn.

Cyfle gwych i hysbysebu.

CYD

Dewch i Gystadlu meddai Dilwyn Iwan a Nia

Diolch i Mattel Inc. a Leisure Trends am eu caniatâd i gynnal y gystadleuaeth

Cystadleuaeth Scrabble Cymraeg 2006

Dysgwyr ar S4C

www.learnons4c.co.uk

Fideo, sain, cefndir,

hanes, mynegi barn,

rhaglenni ar S4C.

Pob lefel 24/7.

3 dosbarth:

agored

dysgwyr

timau o ddau (siaradwr rhugl + dysgwr)

Rowndiau lleol yn dechrau 2 Mawrth 2006

Rowndiau terfynol ar faes Eisteddfod Genedlaethol

Cymru Abertawe a’r Cylch

Gwobr 1af

£200

Am fwy o fanylion ac i gofrestru i gymryd rhan cysylltwch â:

www.cyd.org.uk

swyddfa@cyd.org.uk

01970 622143

Trefnir gan Cyd mewn cydweithrediad a’n partneriaid
Cadwyn_51 25/11/05 11:07 am Page 2

Llywydd Anrhydeddus

Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd

Nigel Callaghan

Is-Gadeirydd

Felicity Roberts

Ysgrifennydd Cofnodion

Dewi Huw Owen

Trysorydd

Lisa Hill

Cadeirydd yr Is-Bwyllgor Marchnata a Chyhoeddi

Meleri Wyn James

Gohebydd Cronfa Dan Lynn James

Emyr-Wyn Francis

Rheolwr y Gogledd

Dororthy Williams 01766 771684 dorothywillaims@yahoo.co.uk

Rheolwr Canolog/Maes

Jaci Taylor

01970 622143 e-bost: jct@aber.ac.uk

Rheolwr y De

Martin Davies 01554 776587 e-bost: davieswizlet@aol.com

Swyddogion Datblygu Cyd

Gwynedd a Môn

Elfyn Morris Williams 01286 831715

Gogledd-ddwyrain

Rheolwr y Gogledd 01766 771684 dorothywillaims@yahoo.co.uk

Ceredigion, Powys, Meirionnydd

Rheolwr Canolog/Maes 01970 622143 swyddfa@cyd.org.uk

Sir Gaerfyrddin a Chwm Tawe

Dafydd Gwylon 01834 813249 ragwen@btinternet.com

Sir Benfro

Rheolwr y De 01554 776587 e-bost: davieswizlet@aol.com

Morgannwg

Rhian James

01685 871002 rhianlj@aol.com

De-ddwyrain Cymru

Padi Phillips

02920 312293 padi@ntlworld.com

Dyma gyfnod pwysig i Cyd. Mae'r mudiad wedi bod yn

gweithio i helpu dysgwyr groesi'r bont ers dros chwarter

canrif erbyn hyn. Mae gennym dros 80 cangen ledled

Cymru ond mae miloedd o ddysgwyr a siaradwyr rhugl

dal heb glywed am y gwaith mae aelodau a

swyddogion Cyd yn ei wneud. Ar hyn o bryd rydym yn

gweithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar werthusiad o

waith Cyd: y gobaith yw y bydd argymhellion yn dod

allan o'r gwaith i helpu Cyd symud ymlaen ac ehangu'n

gwaith drwy Gymru a thu hwnt. Ond i wneud hyn rhaid

i ni gael cefnogaeth gan fwy o ddysgwyr a siaradwyr

rhugl. Dosberthir 15,000 copi o Cadwyn am ddim, ond

mae’r rhan fwyaf yn mynd at bobl nad yw'n aelodau unigol

- ydych CHI'n gefnogwr cenedlaethol eisoes? Os na, beth

am ymuno nawr? Fe fydd eich tâl aelodaeth yn gyfraniad

pwysig at weithgareddau Cyd ond, pwysicach fyth, mae'n

dangos cymaint o bobl sy’n rhan o ymgyrch Cyd i hybu

dyfodol ein hiaith yn ein cymunedau trwy droi dysgwyr yn

ddefnyddwyr y Gymraeg.

This is an important period for Cyd. The organisation has been

working to help learners cross the bridge for over a quarter of

a century. We have over 80 branches throughout Wales but

thousands of learners and fluent speakers are still unaware of

the work that the members and staff do. At the moment we

are working with the Welsh Language Board on an evaluation

of Cyd’s work: the hope is that recommendations will come

out of the work that will help Cyd move forward and extend

the work we do throughout Wales and beyond. But to do this

we need the support of more learners and fluent speakers.

15,000 copies of Cadwyn are distributed free, but the majority

go to people who are not individual members - are YOU a

national supporter already? If not, how about joining now?

Your membership fee will be an important contribution to

Cyd's activities, but even more important, it shows how many

people are part of Cyd's campaign to promote the future of

our language in our communities through turning learners into

users of the language.

Nigel A Callaghan

Swyddfa Cyd Office

10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2 AU

Ffôn/Ffacs: 01970 622143

e-bost: swyddfa@cyd.org.uk

y we: www.cyd.org.uk

Mae Cadwyn Cyd yn ymddangos dwy waith y flwyddyn

Dyddiadau cyhoeddi 2006: Mehefin, Tachwedd

Mae Cyd yn elusen gofrestredig rhif 518371

Cefnogir gwaith Cyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

Cyhoeddwyd gan/Published by: Cyd, 10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AU

Argraffwyd a dyluniwyd gan/Printed and designed by: Cambrian Printers

2
Cadwyn_51 25/11/05 11:08 am Page 3

Llinos: Mam, wyt ti eisiau chwarae

‘Dewis Anifail’?

Mam: Ydw, dw i wedi dewis anifail.

Llinos: Ydy e’n byw ar y fferm?

Mam: Nac ydy.

Llinos: Ydy e’n byw yn y s˘?

Mam: Ydy.

Llinos: Ydy e’n fwy na sebra?

Mam: Ydy.

Llinos: Ydy e’n llwyd?

Mam: Ydy.

Llinos: Dw i’n gwybod – eliffant yw e!

Mam: Ie, da iawn Llinos.

Llinos: Mam.....wyt ti eisiau chwarae

eto?

Mam: Aaaaaaaa!

Hazel a Llinos yn chwarae gêm

Sue Massey, Meleri Williams- Swyddog Dysgwyr 2005,

Baudewijn Morgan, Elwyn Hughes – Cadeirydd

Pwyllgor Dysgwyr 2005, Robert Hughes

Mae Cyd yn falch o longyfarch Sue Massey ar

ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni

yn Eisteddfod Gendlaethol Cymru Eryri a’r

Cyffiniau.

Dyma Jane Davidson Gweinidog dros Addysg

a Dysgu Gydol Oes yn cyflwyno’r dlws i Sue

Noson Dysgwr y Flwyddyn

Llongyfarchiadau hefyd i Gwanwyn Bartlett,

Robert Hughes, a Baudewijn Morgan am

gyrraedd y rownd derfynol.

Mae’r 4 yn aelodau Cyd nawr.

3
Cadwyn_51 25/11/05 11:08 am Page 4

Derby

Ysgol Undydd Derby Medi 2005

Roedd dros 40 o bobl wedi cymryd rhan (taken part) yn

Ysgol Undydd Derby eleni. Dyma ni yn yr haul amser

cinio a Jaci wedi dod yr holl ffordd (all the way) o

Aberystwyth i dynnu ein llun. Roedd pobl o bobman -

dysgwyr a Chymry Cymraeg o Derby, Chesterfield,

Nottingham, Belper, Sheffield, a Burton-on-Trent

Diolch i Jonathan Simcock, Tony Rees, Ellen Hutchings,

Delyth Neil, Susan Jones o Gangen Cyd Matlock a’r

Cylch, ynghyd â Chylch Siarad Cymraeg Derby, a Gwyn

Davies a Viv Harris o Gymdeithas Cymry Nottingham a

Chymdeithas Addysg y Gweithwyr Derby (WEA) am

drefnu Ysgol Undydd mor llwyddiannus.

1 2

1. Dyma Marilyn Simcock o Derby, a Helen o Sheffield yn cael hwyl (having fun) wrth olchi’r llestri!

2. Mam a mab yn dysgu siarad Cymraeg gyda’i gilydd

Llais Y Derwent

Yn ôl ym mis Ionawr eleni gwnaeth gr˘p o bobl sy wedi dysgu

Cymraeg yn Derby, benderfynu dechrau cyhoeddi Papur Bro

uniaith Gymraeg ar gyfer Dysgwyr Cymraeg yng

Nghanolbarth Lloegr. Ar hyn o bryd dan ni'n casglu'r erthyglau

am y 4ydd rhifyn, sef Gaeaf 2005. Dan ni’n bwriadu cyhoeddi

Llais Y Derwent bedair gwaith y flwyddyn. Hyd yn hyn mae

’na bobl o Derby, Matlock, Nottingham, Bradford, Belper a

Chymru sy wedi ysgrifennu erthyglau i’r "Llais". Ymhlith y

bobl sy wedi cyfrannu mae ’na nifer o ddysgwyr a Chymry

Cymraeg.

Hefyd, dan ni wedi derbyn cymorth ymarferol sylweddol oddi

wrth Delyth Neil, sef athrawes dosbarth Cymraeg yn Derby.

Diben Llais Y Derwent ydy rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer eu

sgiliau ysgrifennu, ac i gysylltu â dysgwyr eraill. Hefyd dan

ni’n gobeithio tynnu dysgwyr yr iaith Gymraeg a Chymry

Cymraeg sy’n byw yr ochr yma i glawdd Offa at ei gilydd er

mwyn siarad yr iaith.

Dydyn ni ddim yn cynhyrchu nifer fawr o gopïau hyd yn hyn,

dim ond cant, ond dan ni’n edrych ymlaen at ddosbarthu

copïau i bob dosbarth yr iaith Gymraeg yn Lloegr. Felly os oes

gwybodaeth gyda chi ynglfln â dosbarthiadau Cymraeg neu

unigolion sy’n dysgu Cymraeg yn unrhyw rhanbarth yn Lloegr

wnewch chi roi’r wybodaeth i ni! Cysylltwch â Jonathan

Simcock, Golygydd Llais Y Derwent: 01773 827513

Welsh Learners who live in Derby have published a local

newspaper in Welsh for learners who live in England. Llais y

Derwent gives learners a chance to practise their writing skills

and enables them to contact other learners. If you know of any

Welsh classes or individuals who are learning Welsh in

England please pass information on to Jonathan Simcock (with

individuals’ consent of course) .

Tony Rees a Jonathan Simcock

4
Cadwyn_51 25/11/05 11:09 am Page 5

Dyma Nia!

Helo, shwmae! Nia Parry dw i. Dych chi’n meddwl,

pwy ydy Nia Parry?! Arhoswch funud! Dyma dipyn o fy

hanes i!

Dwi’n cyflwyno rhaglenni Cymraeg ar S4C. Dych chi

wedi fy ngweld i ar raglenni i ddysgwyr ‘Cariad@iaith’

a ‘Welsh in a Week’, efallai. Ro’n i’n dysgu Cymraeg i

Janet Street Porter ar Cariad@iaith. Mae rhai pobl yn

dweud, “Mae Janet yn arswydus!” Doedd hi ddim yn

codi ofn arna i!

Roedd gen i fywyd difyr cyn hynny hefyd. Bues i’n

dysgu Saesneg yn Istanbwl am naw mis. Mwynheais i’r

profiad yn fawr iawn. Penderfynais i ddysgu Cymraeg

yn ôl yng Nghymru.

Yna, dechreuais astudio MPhil a gweithio fel tiwtor

Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roedd pobl yn dysgu Saesneg am resymau ariannol

yn Nhwrci. Mae pobl yn dysgu Cymraeg am resymau

emosiynol yng Nghymru.

Dw i wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar. Dw i wedi

bod ar daith o gwmpas Cymru yn dysgu Cymraeg.

Es i i Gaerdydd, Llansamlet, Llandeilo, Doc Penfro,

Amlwch a Wrecsam. Ro’n i’n rhoi blas ar ddysgu’r iaith

i bobl. Roedd pobl yn dweud ar y diwedd, “Dyn ni

wedi enjoio!”

Mae dysgwyr yn bwysig! Dw i’n gweithio i Fwrdd yr

Iaith Gymraeg. Yn ôl cynllun Iaith Pawb y Cynulliad

maen nhw eisiau 5% yn fwy o bobl i siarad Cymraeg

erbyn 2011. Mae dysgwyr Cymraeg yn rhan bwysig

iawn o hynny!

Byddwch yn amyneddgar. Meddyliwch am blant yn

dysgu iaith. Maen nhw’n deall yn gyntaf. Yna, maen

nhw’n siarad.

Peidiwch â meddwl. “Dwi ddim yn siarad Cymraeg! Dwi’n

fethiant!” Siaradwch Gymraeg pan dych chi’n barod.

Colofn Nia Parry

Mae gan S4C Safwe newydd i’ch helpu chi i ddysgu Cymraeg.

Gallwch chi wylio rhaglenni S4C trwy wasgu’r botwm coch i’ch

helpu chi. Ewch i www.s4c.co.uk neu www.acen.co.uk i weld.

Tan tro nesa’ ... hwyl fawr!

Ysgoloriaeth

Dan Lynn James

Scholarship 2006

£250

Dyddiad cau

Closing Date

I Ebrill/April 2006

Manylion a ffurflen gais:

Details and application form:

10 Maes Lowri, Aberystwyth

Ceredigion SY23 2AU

www.cyd.org.uk

Beth yw dy enw di?

Nia Parry.

O ble wyt ti’n dod yn wreiddiol?

Ces i fy ngeni yn Ynys Môn ond ces i fy magu yn Llandrillo yn

Rhos, ger Bae Colwyn.

Beth yw dy waith di?

Dwi’n diwtor Cymraeg a dwi’n cyflwyno rhaglenni teledu ar

S4C.

Ydy dysgwyr yn bwysig?

Ydyn! Maen nhw’n bwysig iawn i ddyfodol y Gymraeg!

Beth wyt ti’n ei wneud yn Cadwyn?

Dwi’n dweud tipyn bach o fy hanes i!

Bydd mwy o hanes Nia yn y rhifyn nesaf o Cadwyn

5
Cadwyn_51 25/11/05 11:09 am Page 6

YN Y SIOP

Judith:

Lowri:

Judith:

Lowri:

Judith:

Lowri:

Judith:

Lowri:

Judith:

Lowri:

Judith:

Lowri:

Judith:

Lowri:

Judith:

Lowri:

Judith:

Lowri:

Judith:

Helo, shwmae?

Helo, shwt y’ch chi?

Iawn, diolch. A chithau?

Iawn.

Dych chi’n brysur yn y siop?

Ydyn. Prysur iawn. Sut allai helpu chi?

Dwi eisiau prynu anrheg. Ond dwi ddim yn

gwybod beth i’w gael.

Dwi’n gweld. Wel, mae digon o ddewis yma.

Oes. Mae popeth yn edrych yn hyfryd!

Diolch yn fawr. I bwy mae’r anrheg?

I Marged.

Wel, beth am ffrâm? Gallwch chi roi llun

ohonoch chi yn y ffrâm.

Dwi ddim yn meddwl! Dydy hi ddim eisiau

edrych ar fy llun i trwy’r amser!

Beth am lyfr pen-blwydd?

Pert iawn! Ond na, dwi ddim yn meddwl. Dwi

ddim eisiau dweud, “Cofiwch fy mhen-blwydd

i Marged.”

Beth am sebon persawrus? Mae e’n ogleuo’n

dda.

Mmm, ydy! Mae e’n hyfryd! Ond dwi ddim yn

meddwl. Dwi ddim eisiau dweud, “Dyma

sebon. Achos rwyt ti’n drewi, Marged!”

Pwy yw’r Marged yma? Ai ffrind yw hi?

Na. Marged yw’r fam yng nghyfraith!

Noson gyda Tecwyn Ifan yn

‘Café Loco’

Braf oedd gweld un o gantorion mwyaf

gweithgar (most industrious) Cymru yn dod

i’r Drenewydd i berfformio yn noson ola’

cyfres o nosweithiau Cymraeg sydd wedi eu

cynnal (which have been held) yng

Nghaffe Loco am eleni.

Braf oedd gweld ‘Tecs’ yn esbonio i’r

gynulleidfa hanes a chefndir pob cân yn ei

berfformiad. Roedd ei berfformiad yn llawn

o glasuron o’r gorffennol fel ‘Y Dref Wen’ a

‘Nwy yn y Nen’ yn ogystal â (as well as)

chaneuon o’i gryno ddisg newydd ‘Wybren

Las’.

Mae cynlluniau ar y gweill gan Fenter

Maldwyn a Café Loco i drefnu rhagor o

nosweithiau Cymraeg. Os oes gennych

unrhyw syniadau am bwy yr hoffech ei weld

(you would like to see) yn perfformio

cysylltwch ag Euros 01686 622908 neu e-

bostio eurosr@powys.gov.uk neu

swyddfa@cyd.org.uk

Diolch i Lowri o siop Dots yn Aberystwyth am ei help

gyda’r ddeialog yma.

6
Cadwyn_51 25/11/05 11:10 am Page 7

wah_advert 25/10/05 2:57 pm Page 1

bbc.co.uk/welshathome

TYNNWCH EICH ‘SGIDIAU A GWNEWCH EICH HUNAIN YN GARTREFOL! GALLWCH DDYSGU’R IAITH WRTH DEITHIO O AMGYLCH EIN TY^ 3D. DYMA

WEFAN AR GYFER RHIENI SYDD AM FYND I’R AFAEL Â’R IAITH A CHEFNOGI ADDYSG GYMRAEG EU PLANT.

• Dysgwch hanfodion yr iaith • Sgyrsiwch â dysgwyr eraill • Ymarferwch eich Cymraeg yn y cartref

KICK OFF YOUR SHOES AND MAKE YOURSELF AT HOME! TAKE A TOUR AROUND OUR NEW 3D HOUSE AND LEARN EVERYDAY WELSH. DESIGNED FOR

PARENTS WHO WANT TO GET A HANDLE ON THE LANGUAGE AND SUPPORT THEIR CHILD’S WELSH EDUCATION.

• Get to know the essentials • Take part in a conversation • Practise your Welsh at Home

Enillodd David Greaney

radd BA gydag anrhydedd

Dosbarth Cyntaf yn y

Gymraeg eleni ar ôl treulio

deng mlynedd fel myfyriwr

allanol yn Adran y

Gymraeg, Prifysgol Cymru

Aberystwyth. Nid oedd

astudio ar gyfer y radd yn

hawdd iddo – mae’n

gweithio’n llawn amser ac

yn byw bywyd prysur.

“Mae ‘ymroddiad a

dyfalbarhad’ - arwyddair yr

Adran! - yn gwbl hanfodol,” meddai David, “ac, wrth gwrs, mae’n bwysig

rheoli amser yn effeithiol a bod yn drefnus. Roedd y daith yn hir ond yn

werth yr holl ymdrech. Braint fawr oedd dysgu wrth draed ysgolheigion yr

Adran y Gymraeg. Pob clod a diolch iddynt.”

Mae David yn aelod o Cyd Aberystwyth

7
Cadwyn_51 25/11/05 11:10 am Page 8

w w w . c y d . o r g . u k

Canghennau ac aelodau Cyd sy’n berchen ar y wefan uchod, a nhw fydd yn gyfrifol am reoli a golygu’r rhan fwyaf o’r wybodaeth

arni hi. Bydd staff Cyd yn gyfrifol am rhoi gwybodaeth am weithgareddau cenedlaethol Cyd arni hi ynghyd â dogfennau mewnol.

Bydd Cyd yn monitro cynnwys y wefan yn rheolaidd. Fel bydd mwy a mwy o bobl yn cofrestru i gael cyfrinair a chreu tudalen eu hunain

bydd y wefan yn tyfu. Os oes gennych ddiddordeb i fod yn gyfrifol am dudalen gwe cangen Cyd, neu eich bod am gael tudalen ar

gyfer eich dosbarth cysylltwch â ni swyddfa@cyd.org.uk. Os ydych am wybod am weithgareddau lleol neu yn genedlaethol ewch at

wefan Cyd. Gallwch gofrestru yno i fod ar rhestr e-bost Cyd er mwyn derbyn gwybodaeth am weithgareddau newydd Cyd.

If you are interested in being responsible for a Cyd branch web page, or if you would like to have a web page for your class contact

us swyddfa@cyd.org.uk. If you wish to know about local or national activities go to Cyd’s website. You can register there to be on Cyd’s

e.mail list in order to receive information about new Cyd activitities.

Lansiwyd gwefan newydd Cyd (Cyd’s new website was launched) gan Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod

Genedlaethol Cymru Eryri a’r Cyffiniau 2005. Roedd Fflur Lauton Uwch Swyddog Gwybodaeth a Gweithgareddau, Arian i Bawb Cymru

yno i ddweud gair ar ddechrau’r lansiad. Cafwyd (was received) grant gan Arian i Bawb Cymru i greu’r wefan, ac fe’i dyluniwyd (was

designed) gan ‘Technoleg Taliesin Cyf ’.

O’r chwith: Meri Huws Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Nigel Callaghan Cyfarwyddwr Cwmni Technoleg Taliesin a Chadeirydd Cyd, Fflur

Lauton Uwch Swyddog Gwybodaeth a Gweithgareddau Arian i Bawb Cymru

Penwythnos Cyd Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn Y Bala

10 - 12 Mawrth 2006

can˘io, adeiladu rafft, hwylio, bowlio deg, datrys

problemau, cerdded, wal dringo

I archebu lle cysylltwch â Swyddfa Cyd

01970 622143 swyddfa@cyd.org.uk www.cyd.org.uk

Pris:

£95

8
Cadwyn_51 25/11/05 11:11 am Page 9

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a’r Cyffiniau 2005

Diolch i Gangen Cyd Aberystwyth am noddi pabell Cyd ar faes yr Eisteddfod

ROWND DERFYNOL CWIS CENEDLAETHOL CYD

Tîm Prifysgol Cymru Bangor 1af

Sesiwn Gêmau iaith gyda Cyd

Tîm Aberystwyth 2il

Tîm Sir Gâr 3ydd

Diolch i Rhiain Bebb a Gwilym am arwain sesiwn

canu gwerin i Cyd ym Maes D.

9
Cadwyn_51 25/11/05 11:11 am Page 10

SCRABBLE YN GYMRAEG

Gair yn ei le

Alun Pugh (de), y Gweinidog

dros Ddiwylliant, yr Iaith

Gymraeg a Chwaraeon yn

chwarae gêm yng nghwmni

Gwerfyl Pierce Jones a Dewi

Morris Jones o’r Cyngor Llyfrau.

Am y tro cyntaf erioed, mae fersiwn

Cymraeg o’r gêm fwrdd enwog Scrabble

ar gael. Dydy’r llythrennau Q a Z ddim yn

y fersiwn Cymraeg wrth gwrs, ond mae

llythrennau LL, NG a RH yn y gêm. Un o’r

geiriau gyda’r sgôr uchaf yw

ANGENRHEIDIAETH fydd werth 164 o

bwyntiau.

Dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog dros

Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a

Chwaraeon: ‘Mae’r gêm Scrabble yn cael

ei chwarae gan filoedd o bobl ar draws y

byd, ac mae’n newyddion da bod fersiwn

Gymraeg ar gael bellach.’

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones,

Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau bod y

Cyngor wedi credu ers tro y dylai’r gêm fod

ar gael yn Gymraeg ac roedd yn falch

bod y Cyngor wedi gallu cynnig cymorth

ariannol ac ymarferol i gefnogi’r cynllun.

Ychwanegodd: ‘Mae gan y gêm Scrabble

apêl addysgol yn ogystal ag apêl

ehangach fel gêm, ac fe fydd yn cael ei

chroesawu’n fawr gan siaradwyr

Cymraeg, gan gynnwys y nifer cynyddol o

blant ac oedolion sy’n dysgu’r iaith.’

FFEITHIAU AM Y GÊM SCRABBLE

• Daeth Scrabble i Loegr yn 1954.

• Mae dros 100 miliwn o’r gêmau wedi eu

gwerthu mewn 121 o wledydd ar draws

y byd.

FFEITHIAU AM YR IAITH GYMRAEG

• Mae oddeutu hanner miliwn o siaradwyr

Cymraeg.

• Mae’r wyddor Gymraeg yn cynnwys 28

llythyren.

10
Cadwyn_51 25/11/05 11:11 am Page 11

Taith Gerdded Cyd Medi 2005

Ar y chwith: y gr˘p o flaen enghraifft o Greigiau Aberedw

Uchod: yn mwynhau paned yng Nghaffi’r Hen Orsaf ar ôl y daith.

Cychwynnodd deg ohonon ni o Hen Orsaf Erwyd ar fore braf. Ar ôl dringfa eitha serth, cyrhaeddon ni’r

rhostir efo golygfeydd bendigedig o Fannau Brycheiniog a’r Mynydd Du. Cyn i ni gyrraedd Aberedw,

gwelon ni Ogof Llywelyn, wedyn mwynhaodd pawb ginio ardderchog yn y Seven Stars, Aberedw.

Dychwelon ni i Erwyd heibio Creigiau Aberedw (anhygoel!) ac ar lan Afon Gwy. Ar ôl taith odidog roedd

pawb yn barod am baned yng Nghaffi’r Hen Orsaf. Diolch i Gareth Jenkins am arwain y daith a

chynhyrchu gwybodaeth ddiddorol iawn am hanes yr ardal. Dan ni’n ddiolchgar am gefnogaeth

Cyngor Sir Powys tuag at y daith hon. Keith a Margaret Teare

Beth ydy RaW?

Wyt ti’n teimlo dy fod angen help i allu darllen a ‘sgwennu’n well yn

Gymraeg? Wyt ti’n cael trafferth i lenwi ffurflenni? Helpu’r plant gyda’i

gwaith cartref yn amhosib? Eisiau darllen adroddiadau am bêl-droed

ac yn methu gwneud hynny? Mae yna gynllun gwych gan y BBC ar

gael i dy helpu di. Cynllun fydd hwn i dy helpu i ddarllen a ‘sgwennu’n

well trwy ganolbwyntio ar dy ddiddordebau. Mae’n llawn hwyl a sbri ac

yma i dy helpu DI! Fe fydd yr ymgyrch yn para am dair blynedd. Mae

gwefan Gymraeg ar gael ar hyn o bryd i ti ei defnyddio

bbc.co.uk/cymru/raw. Bydd hysbysebion i’w gweld ar BBC1, rhifyn

arbennig o Eastenders ar DVD a chylchgrawn rhad ac am ddim RaW –

i gyd ar gael i dy helpu di. Yn ogystal a hyn fe fydd llinell hyfforddi

personol yn arbennig ar dy gyfer di. Wyt ti eisiau gwybod mwy? Ffonia’r

rhif yma - 0800 150950. Bydd rhywun arall ar ben arall y ffôn fydd yn

barod i dy helpu di!

Raw is a three year BBC initiative to help improve literacy skills acoss the

UK. They are working with a wide range of partner organisations,

programme makers, presenters and celebrities to help people discover

the unexpected about reading and writing and fill their Raw potential.

11
Cadwyn_51 25/11/05 11:12 am Page 12

Dyma syniad da ar gyfer anrheg Nadolig!

Dyma’r gyflwynwraig (presenter) Siân Lloyd yn cyflwyno cyfres o

fygiau, sef Geiriau o’r Gymraeg, ar stondin Nant Gwrtheyrn yn yr

Eisteddfod Genedlaethol. Y cartwnydd Mumph o Gaernarfon sy

wedi cynllunio’r mygiau (designed the mugs) a Glads, cwmni ei

wraig sy wedi eu cynhyrchu (produced them). Dwedodd Gladwen

Humphreys, perchennog (owner) cwmni Glads mai “holl bwrpas y

mygiau yw hybu’r iaith (promote the language). Bydd y mygiau yn

rhoi cyfle i’r iaith gael ei gweld a’i thrafod dros baned ledled y byd

(all over the world).”

TLWS COFFA ELVET A MAIR ELVET THOMAS 2005

Llongyfarchiadau i Elwyn Hughes, Uwch Gydlynydd Cymraeg i Oedolion,

Prifysgol Cymru Bangor ar ennill y Dlws eleni.

Derbyniodd Elwyn y wobr oherwydd ei gyfraniad i faes Cymraeg i Oedolion, ei

allu arbennig fel Tiwtor ac am iddo ysbrydoli dysgwyr. Mae yn gweithio yn y

maes ers bron i 30 mlynedd a fo sy’n gyfrifol am gyrsiau Wlpan a chyrsiau i

ddysgwyr mwy profiadol ar hyd a lled y Gogledd.

Llawer o ddiolch i Havard a

Rhiannon Gregory am

gyflwyno’r Dlws yn

flynyddol. Dyfernir y wobr

gan Gymdeithas Tiwtoriaid

Cymraeg i Oedolion a

gadeiriwyd gan Helen

Prosser.

Helen Prosser, Elwyn Hughes, Havard Gregory,

Rhiannon Gregory

12
Cadwyn_51 25/11/05 11:12 am Page 13

Offer iaith ar y we

I ddathlu lansiad gwefan newydd Cyd (http://www.cyd.org.uk/) dyma

erthygl sy’n disgrifio’r offer iaith sy’n ar gael yn rhad ac am ddim ar y

we byd eang.

Dychmygwch – rydych chi’n trio ysgrifennu erthygl i Cadwyn a dydych

chi ddim yn gallu meddwl am y gair Cymraeg. Neu efallai, dydych chi

ddim yn si˘r sut i’w sillafu. Mae hyn wedi digwydd i mi sawl gwaith wrth

ysgrifennu’r erthygl ‘ma!

Cafodd Tim Berners-Lee y syniad o greu’r we byd eang ym 1989 ac

roedd y porwr gwe cyntaf ar gael ym 1993. I ddechrau doedd dim

llawer o dudalennau ar gael ac yn bendant doedd dim byd yn y

Gymraeg! Yn ddiweddar mae’r we wedi mynd o nerth i nerth ac erbyn

hyn mae llawer o dudalennau Cymraeg ar y we. Dw i wedi

defnyddio’r Injan Chwilio Google yn y Gymraeg

(http://www.google.com/intl/cy/) i chwilio am y gair “Cymraeg” a dw

i wedi cael dros 33 miliwn o ddolennau! Ond yn yr erthygl hon dw i’n

bwriadu canolbwyntio ar wefannau sy’n eich helpu chi ysgrifennu

Cymraeg.

Mae sawl geiriadur ar gael er enghraifft - http://www.geiriadur.net/ ym

Mhrifysgol Llambed. Mae’n bosib cyfieithu geiriau unigol o’r Gymraeg

i Saesneg neu o Saesneg i’r Gymraeg ond yn anffodus os ydych chi’n

camsillafu’r gair fydd y meddalwedd ddim yn eich helpu chi. Mae’r

geiriadur gan Mark Nodine sydd ar gael ar dudalen

http://www.cs.cf.ac.uk/fun/welsh/LexiconForms.html yn un clyfar iawn!

Er enghraifft os ydych chi’n rhoi “gestyll” i mewn mae’n newid y gair i

“castell” yn awtomatig cyn ei gyfieithu i “castle”.

Mae gan y BBC gasgliad o offer iaith i helpu dysgwyr a siaradwyr rhugl.

Ewch i dudalen http://www.bbc.co.uk/wales/learnwelsh/. Ar y chwith

mae ‘na bethau fel Catchphrase a gemau Cymraeg ond ar y dde

byddwch chi’n gweld yr offer iaith. Mae geiriadur ar gael ond hefyd

gwirydd sillafu a gwirydd treigladau. Mae’n bosib gludo paragraff o

eiriau i mewn i’r ffurflen gwirydd sillafu ac mewn chwinciad byddwch

chi’n gael neges i ddweud os oedd camgymeriadau neu beidio. Os

oes camgymeriadau bydd y meddalwedd yn awgrymu cywiriadau i

chi a rydych chi’n gallu dewis y gair cywir o’r rhestr o eiriau. I

ddefnyddio’r gwirydd treigladau mae’n rhaid i chi deipio dau air i

mewn er enghraifft “cath” a “du” ac mae’r meddalwedd yn dangos

yr ateb cywir sef “cath ddu” ac hefyd yn esbonio y gramadeg i chi.

Nawr beth am i chi roi cynnig ar erthygl am eich profiadau o

ddefnyddio neu ddysgu’r Gymraeg.

Hazel Davey

13
Cadwyn_51 25/11/05 11:12 am Page 14

Welsh Rules

Heini Gruffudd

(Y Lolfa £14.95)

Adolygiad Keith a Margaret Teare)

Roedd gynnon ni “Welcome to

Welsh” gan Heini Gruffudd ar

ein silff lyfrau yn barod. Roedd

o’n ddefnyddiol iawn pan

ddechreuon ni ddysgu’r Iaith. Yr

unig anhawster oedd diffyg

mynegai (lack of an index), o’r

safbwynt hwn mae “Welsh

Rules” yn llawer gwell (a lot

better). Mae mynegai i eiriau yn ddefnyddiol iawn, mae’n

rhywbeth hollol wahanol (completely different) a syniad da iawn.

Hefyd, mae ’na fynegai i ramadeg.

Dan ni’n hoffi trefn y llyfr sy’n hawdd ei ddilyn (easy to follow) ,

mae esboniadau yn Saesneg trwy’r llyfr – Saesneg sy ddim yn rhy

dechnegol, felly dan ni’n gallu ei deall (can understand it)! Hefyd

dan ni’n hoffi’r cyfeiriadau (references) at yr iaith ffurfiol a

thafodieithoedd Gogledd a De. Mae rhan 4 (arddodiaid) yn

arbennig o dda, a dan ni’n meddwl y dylai fod yn orfodol (it

should be compulsory) i bob dysgwr i’w ddarllen e.

Dan ni’n gyfarwydd â synnwyr digrifwch

(sense of humour) Heini Gruffudd – dan

ni’n cytuno y dylech chi gael hwyl pan

ydych chi’n dysgu’r iaith. Mae’n llyfr

gramadeg cynhwysfawr – ardderchog!

Keith a Margaret Teare

Bywyd Blodwen Jones

(2 CD a recordiwyd gan Tympan gyda chyd-weithrediad Gwasg

Gomer £13.99)

Adolygiad gan Lorena Lord

Dyma recordiad o’r nofel gyntaf

mewn cyfres boblogaidd am

fywyd Blodwen Jones.

Ysgrifennwyd y nofelau hyn ar

gyfer dysgwyr. Merch sengl 38

oed yw Blodwen, llyfrgellydd

sy’n byw yng ngogledd Cymru

ac yn dysgu siarad Cymraeg.

Bethan Gwanas yw awdures y

nofel, a Siw Hughes yw’r darllenydd.

Mae’r recordiad yn dilyn fformat dyddiadur y nofel yn ffyddlon

ac mae cyflymdra a bywiogrwydd y darllenydd yn gwneud y

recordiad yn hawdd i’w ddeall, ac yn cadw diddordeb y

gwrandäwr.

Er hynny, byddai wedi bod yn ddefnyddiol i drefnu’r CDs mewn

penodau. Mae pob un yn chwarae am dros 45 munud – sef yr holl

CD (hanner llyfr) ar y tro. Does dim ffordd i ddod o hyd i

adrannau bychain (wythnosau, misoedd, ac ati). Mae dalen yn y

bocs yn cynnwys geirfa fer o tua 50 gair all fod o ddefnydd – piti

nad oedd lle i ragor o eiriau.

I bobl sy ddim wedi ddarllen y nofelau o’r blaen, mae’r CDs yn

gyflwyniad da i’r llyfrau, gan eu bod yn hawdd i’w deall ac maen

nhw’n hwyl. I’r rhai sydd wedi ddarllen y nofel hon, mae’r CDs

yn arf ddefnyddiol er mewn adolygu, gan eich bod chi’n gallu

darllen a gwrando yr un pryd a chysylltu’r iaith lafar a’r iaith

ysgrifenedig.

Os Dianc Rhai

Martin Davis

(Y Lolfa, £9.95)

Adolygiad gan Mary Burdett-Jones

Ysgrifennaf yr adolygiad hwn ar y diwrnod rydym yn coffáu’r

rhai a fu farw yn ystod yr Holocawst, y rhai na ddihangodd.

Mae’n briodol sgrifennu heddiw gan fod y nofel hon yn trafod y

cyfnod hwnnw.

Hugh Eldon-Jones yw enw’r prif gymeriad, bachgen a fagwyd

mewn plasty yn Llfln. Ni chafodd ei fagu i siarad Cymraeg ond

mynnodd ddysgu’r iaith a daeth i gydymdeimlo â

chenedlaetholdeb Cymreig. Dyma adeg y Tân yn Llfln pryd

llosgwyd yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth fel protest yn erbyn y

llywodraeth Brydeinig. Roedd yn gam pwysig yn natblygiad yr

ymwybyddiaeth genedlaethol Gymraeg gan fod yr ysgol fomio yn

bygwth iaith y gymuned fach honno.

Ond yn fyfyriwr yn Rhydychen mae Hugh yn cwrdd ag Iddewes

ifanc, Ilse, sydd wedi dianc rhag y Nazis. Dechreua weld pethau o

safbwynt gwahanol.

Yn ôl yn Llfln mae Cymraes, Ceinwen, sy’n helpu Hugh gyda’i

Gymraeg ac yn meddwl amdano mewn ffordd ramantaidd.

Er i Martin Davis gael ei

eni yng Nghymru fe

gafodd ei fagu yn Lloegr

ac mae wedi dysgu’r

Gymraeg. Yma mae

wedi sgrifennu nofel

sy’n peri i ddyn droi’r

tudalennau er mwyn

gwybod beth sy’n

digwydd nesaf. Mae

ganddo ddawn dweud

stori. Chwarae teg iddo

am daclo pwnc sensitif.

Edrychaf ymlaen at ei

nofel nesaf.

GEIRFA

Os Dianc Rhai

coffáu

commemorate

dihangodd

escaped

priodol

appropriate

trafod

discuss

cymeriad

character

plasty

country house

mynnodd

insisted on

cydymdeimlo

sympathise

cenedlaetholdeb

nationalism

llywodraeth

government

datblygiad

development

ymwybyddiaeth

consciousness

Iddewes

Jewish woman/girl

safbwynt

viewpoint

dawn

gift

14
Cadwyn_51 25/11/05 11:13 am Page 15

Dehongli Cymru

Dydd Mercher 5 Ebrill • Dydd Gwener 7 Ebrill

Rhowch gynnig ar rywbeth newydd yn y Gymraeg

• Gwyddoniaeth

• Y Cyfryngau

• Chwaraeon

• Gwleidyddiaeth

• Hanes

• Diwylliant

˚ Gweithdai

˚ Trafodaethau

˚ Siaradwyr

˚ Ymweliadau

Gormod o ddewis?

Y dewis sy’n siŵr o blesio:

TOCYN LLYFR

Cardiau a thocynnau

ar gael yn eich

siop lyfrau leol.

Hefyd ar gael ar

www.gwales.com

Canolfan Ehangu

Cyfranogaid

Yr Hen Goleg

Stryd y Brenin

Aberystwyth SY23 2AX

01970 621890

hhh@aber.ac.uk

www.aber.ac.uk/wpsi

Castell Brychan, Aberystwyth, SY23 2JB

7192 Dehongli advert.indd 1 24/10/05 4:58:15 pm

Rhodd Gymorth/Gift Aid £

A wnewch chi ddarllen y canlynol yn ofalus? / Please read the following carefully

Rwy’n datgan fy mod yn talu rhagor o dreth incwm a/neu dreth enillion cyfalaf na’r dreth y bydd Cyd yn adennill ar fy

rhodd/nghyfraniad/tâl cefnogi, sef 28c ym mhob £1 a roddir ar hyn bryd, a fy mod yn fodlon i Cyd drin y rhodd uchod a phob

rhodd yn y dyfodol fel rhodd gymorth.

I declare that I pay income tax and/or capital gains tax at least equal to the tax that Cyd claims on my donations/supporter’s

fee in the tax year (currently 28p for each £1 you give), and I am willing for Cyd to treat the above donation and all donations in

the future as gift aid.

Llofnod/Signature

15
Cadwyn_51 25/11/05 11:13 am Page 16

Y WDA a’r Iaith

Gymraeg

Mae cydraddoldeb iaith Cymru, ei

diwylliant a’i hetifeddiaeth yn un o

werthoedd allweddol yr Awdurdod.

Mae’r WDA yn cydnabod pwysigrwydd

y Gymraeg i holl bobl Cymru a bwriedir

hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith

Gymraeg ar bob cyfle.

Trwy ei waith datblygu economaidd

a chymunedol mae’r Awdurdod yn

ceisio cyfrannu at ffyniant yr iaith

Gymraeg i’r dyfodol a bydd darparu ein

gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg yn

unol â dewis ein cwsmeriaid a’n clientiaid

yn rhan bwysig o’r nod hwnnw.

Ffôn: 08457 775566

The WDA and the

Welsh Language

The equality of the language of Wales,

its culture and heritage is one of the

Agency’s key values. The WDA recognises

the importance of the Welsh Language

to the culture and heritage of all the

people of Wales and will seek to promote

and facilitate the use of the Welsh

language at every opportunity.

Through its work in economic and

community development the Agency

seeks to contribute towards the future

prosperity of the Welsh Language and

providing our services in both English

and Welsh according to customer and

client choice will be an important part

of that goal.

Tel: 08457 775577

www.wda.co.uk

ST1 Advert 276 x 190 mm.indd 1

21/10/05 9:50:06 am