03.09.2015 Views

cylchgrawn

Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd

Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:32 am Page 9

Y Prawf

Stori gan Jane Black

Dros y blynyddoedd yr oedd ffermdy Cwmllydan wedi

nythu yng nghysgod y bryn bach rhwng y traeth a’r cwm.

Tfl cerrig ydoedd, y muriau yn dair troedfedd o drwch. Yr

oedd y paent ar y ffenestri sgwâr a’r drysau isel yn

fflawiog, ac yr oedd yn amhosibl dyfalu beth oedd y lliw

gwreiddiol. O gwmpas y ffermdy yr oedd casgliad o hen

dractorau rhydlyd, ceir heb olwynion ac offer fferm wedi

eu gwasgaru yma ac acw mewn gwely o ddanadl poethion.

Ar ochr arall i’r cwm, ar y clogwyn, yn herio’r gwynt

creulon a chwythai yn syth o Fôr Iwerddon, safai fila

goncrid wen a adeiladwyd yn y tridegau fel tfl gwyliau, ei

tho gwastad yn fwy addas i Sbaen na Cheredigion.

Plygai’r planhigion yn yr ardd daclus tuag at y dwyrain fel

pe basent yn ceisio dianc o stormydd yr hydref a ratlai

fframwaith metel y ffenestri.

tad y Cyrnol wedi gosod y tfl i deulu o Lundain. Yn y

pumdegau yr oedd yn well ganddo dreulio ei wyliau yn

Ewrop ac yn ddiweddarach yn y Bahamas ond nid oedd

wedi gwerthu’r tfl. Yr oedd wedi ei osod yn yr haf am rent

sylweddol heb wario llawer ar gynnal a chadw. Pan

etifeddodd y Cyrnol Clifftops yn yr wythdegau yr oedd yn

dal yn y fyddin a pharhaodd â’r un polisi. Ym 1992

gadawodd y Cyrnol y fyddin ac aeth i fyw ar y stad deuluol

yn Swydd Gaerlflr. Yn dilyn cyngor rhai o’i ffrindiau

cyfoethog daeth yn aelod o Lloyd’s ond dewisodd syndicet

anffodus a chollodd bopeth bron. Yr oedd rhaid gwerthu’r

stad i gyflawni ei ymrwymiadau i Lloyd’s a phenderfynodd

symud i Clifftops. Anwybyddai bobl eraill a oedd wedi

ymddeol i’r ardal, ac yr oedd tanysgrifiad y clwb golff

gryn dipyn yn llai nag yng Nghanolbarth Lloegr.

Cewch chi ddarllen gweddill y stori hon ar wefan Cyd

www.aber.ac.uk/cyd

Aled Rhys oedd yr olaf o deulu a oedd wedi bod yn ffermio

yn y cwm am fwy na phedair canrif. Nid oedd wedi ei

addasu ei hun i’r ffordd fodern o ffermio ac o’r braidd y

crafai fywoliaeth. Cawsai nifer o gynigion gan bobl a oedd

yn awyddus i newid y tfl a’r ysguboriau yn fflatiau gwyliau

a llenwi’r cwm â charafannau, ond fyddai Cwmllydan byth

yn ystyried gwerthu’r fferm. Ei etifeddiaeth ydoedd ac yr

oedd yn rhan o’i hunaniaeth. Pan werthasai ei dad y safle

ar y clogwyn yn ystod y dirwasgiad, dewis rhwng hynny a

mynd i’r wal oedd hi. Er bod hynny wedi digwydd cyn ei

enedigaeth yr oedd Cwmllydan yn dal i deimlo yn ddig fod

ei dad wedi colli darn o dir y teulu.

Cartref Cyrnol Montford oedd Clifftops. Yn ystod y

rhyfel, ac am ychydig o flynyddoedd ar ôl hynny, yr oedd

Llun Felicity Elena Haf

Hawlfraint Jane Black

Gwers Yrru yng Ngheredigion

(H = Mr Ifans, Hyfforddwr; N = Nia, Dysgwraig)

H

N

H

N

H

N

H

P’nawn da, Nia.

P’nawn da, Mr Ifans. Siwt ych chi?

Iawn, diolch, Nia. Bant â ni, te. Ar y groesffordd nesaf,

tro i’r dde.

Reit, Mr Ifans. Wps! Sori am y ‘petrol cangarw’.

I’r dde, ddwedais i, Nia, i’r dde!

Wps, sori eto.

Paid â gyrru ar y palmant. Mae pobl yn cerdded yna.

Mae’n ddanjerys.

N O, sori, ond gwelais i Mam yn dod allan o’r siop ddillad

newydd, gyda bag enfawr! Ydych chi’n iawn, Mr Ifans.

Chi’n edrych braidd yn wyn?

H Nac ydw, dw i ddim yn iawn a dw i’n gorffen y wers am

heddiw.

N: O diar. Wel, wela i chi’r wythnos nesaf, te, ar yr un

amser. Hwyl nawr.

H Hwyl! Ffiw!!!

Jill Roberts

9

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!