cylchgrawn
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:28 am Page 6

TAITH GERDDED GREGYNOG

Cynhaliwyd y daith ddiweddara yng Nghregynog ar 3 Ebrill 2004. Roedd rhagolygon y tywydd wedi addo diwrnod

ofnadwy, felly roedd hi’n syndod gweld saith o bobl yn y maes parcio. Er ei bod yn bwrw glaw, roedd pawb yn edrych

ymlaen at gerdded yn yr awyr iach ac ymarfer eu Cymraeg. Penderfynon ni wneud taith fer yn y bore a chyrraedd yn ôl i’r

maes parcio erbyn amser cinio. Penderfynwyd cerdded mewn cylch i'r gogledd o

Gregynog. Ar ôl cychwyn gwlyb roedd y tywydd yn gwella ac roedd y rhan fwyaf

o’r daith yn sych – dan ni'n gallu siarad mwy o Gymraeg pam y mae hi’n braf!!

Cawson ni ginio ger yr ardd dd˘r – roedd y blodau yn ddiddorol a hardd, ond cyn

i ni orffen ein brechdanau, dechreuodd hi fwrw glaw eto. Penderfynodd pawb fynd

adre, diolch i Josie Thomas am arwain y daith. Er hynny, roedden ni'n meddwl y

basai'r tywydd yn gwella eto, a phenderfynon ni gerdded i Fwlch-y-Ffridd (heb

fap, yn anffodus). Stopiodd y glaw ac roedd pawb yn mwynhau’r daith; roedd hi'n

dal yn sych pan gyrhaeddon ni Fwlch-y-Ffridd. Ar y ffordd yn ôl, roedd hi'n

arllwys y glaw – beth bynnag, roedd pawb wedi mwynhau ac roedden ni wedi cael

cyfle i ymarfer ein Cymraeg!

G E I R F A

Keith a Margaret Teare, Llanidloes

Cynhaliwyd y daith ddiweddara

Er ei bod yn bwrw

Yn edrych ymlaen at

awyr iach

Penderfynwyd cerdded

Y basai’r tywydd

the most recent walk was held

even though it was raining

looking forward to

fresh air

it was decided to walk

that the weather would

C E R D D E D Y N S I R F A E S Y F E D

Fel arfer dan ni'n cerdded yn Sir Drefaldwyn, ond weithiau yn rhywle arall. Ar 6 Mawrth 2004 roeddem ni’n cerdded

yn Sir Faesyfed _ yn Fforest Clud (Radnor Forest) a Dyffryn Casgob. Mae’r llun yn dangos y criw yn mwynhau eu

cinio ar ôl taith y bore. Cyn i ni orffen ein cinio, roedd hi'n bwrw cenllysg (raining hailstones) – dim ond cawod

(shower). Ar y ffordd yn ôl, aethon ni i weld Eglwys Sant Mihangel, Casgob. Roedd yno wybodaeth ynglfln â chwedl

Draig y Fforest Clud _ diddorol iawn. Diolch i Stuart Pettifer am daith ardderchog.

Keith a Margaret Teare, Llanidloes

6