03.09.2015 Views

cylchgrawn

Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd

Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:21 am Page 2

ad

Llywydd Anrhydeddus

Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd

Mary Burdett-Jones

Is-Gadeirydd

Kathryn Hughes

Trysorydd

Emyr-Wyn Francis

Ysgrifennydd Cyffredinol a Chadeirydd yr Is-Bwyllgor

Marchnata a Chyhoeddi

Glyn Saunders-Jones

Rheolwr Swyddfa

Jaci Taylor (01970) 622143 e-bost: jct@aber.ac.uk

Rheolwr y Gogledd a’r Canolbarth

Rhodri Francis (01970) 628599 e-bost: rhf@aber.ac.uk

Rheolwr y De

Martin Davies (01554) 776587 e-bost: davieswizlet@aol.com

Swyddfa Cyd Office

10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion

SY23 2 AU

Ffôn/Ffacs: 01970 622143

e-bost: cyd@aber.ac.uk

y we: www.aber.ac.uk/cyd

Mae Cadwyn Cyd yn ymddangos bedair gwaith y flwyddyn.

Dyddiadau cyhoeddi arferol: Mawrth, Mehefin, Medi, Tachwedd

Mae Cyd yn elusen gofrestredig rhif 518371.

Cefnogir gwaith Cyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Cyhoeddwyd gan/Published by: Cyd, 10 Maes Lowri, Aberystwyth,

Ceredigion SY23 2AU.

Argraffwyd a dyluniwyd gan/Printed and designed by: Cambrian Printers

Swyddog Datblygu newydd Cyd yn Sir

Gaerfyrddin a Chwm Tawe yw John Dixon.

Mae John o Gaerdydd yn enedigol, a dysgodd

e'r Gymraeg yn y 70au cynnar. 'Roedd e'n byw

yn Ninas Powys, ym Mro Morgannwg, tan 1991,

pan symudodd e a'i deulu i fyw yn ardal

Llanpumsaint. Tan yn ddiweddar, bu'n

gweithio i gwmni ymgynghori rhyngwladol, ond

mae bellach yn gweithio’n rhan amser i Cyd a rhan amser ar

ei liwt ei hun fel ymgynghorydd. Mae hefyd yn gwneud

rhywfaint o gyfieithu, ac yn diwtor dosbarth Cymraeg i

Oedolion yn Alltwalis. Mae ei wraig Fran hithau wedi

dysgu'r Gymraeg trwy gwrs Wlpan, hefyd yn y 70au, ac mae

ganddynt dri o blant.

Mae e wrthi ar hyn o bryd yn cwrdd â'r gwahanol grwpiau

ac aelodau Cyd yn ei ardal, ac yn gobeithio cychwyn

grwpiau newydd yn y dyfodol agos hefyd. Mae'n bwriadu

cyd-weithio yn agos gyda'r gwahanol fentrau iaith er mwyn

gwneud y gorau o'r adnoddau prin sydd ar gael.

2

Gair o’r Gadair

Parch ar y ddwy ochr yw’r allwedd i’r berthynas

rhwng y gymuned Gymraeg a’r dysgwyr. Nod Cyd

yw integreiddio dysgwyr yn y gymuned honno yn

hytrach na’u cymathu. Mewn traethawd prifysgol

diffiniodd Cynog Dafis integreiddiad drwy ddweud

bod ‘unigolyn (neu deulu) yn cymryd ei le’n

esmwyth, heb dyndra na gwrthdaro o bwys, mewn cymdeithas y daw iddi o’r

tu allan, ond heb o anghenraid golli ei wahanolrwydd na’r priodoleddau a’i

gwnâi’n bosibl ei adnabod fel “dyn d˘ad” (neu “deulu d˘ad”)’.

Mae Cynog Dafis yn diffinio cymathiad fel ‘[p]roses fwy radicalaidd o

dipyn, sef bod y dyfodiad yn mewnoli gwerthoedd a phriodoleddau y

gymdeithas sy’n ei dderbyn, i’r fath raddau fel iddo ddod yn fwyfwy anodd

ei adnabod fel person a darddodd o gymdeithas arall. Gellir cael graddau o

gymhathiad (sic); go anaml, os o gwbl, y cwblheir yr ail broses gyda

dyfodiad o oedolyn.’

Nod Cyd yw integreiddio, sydd nid yn unig yn fwy realistig ond hefyd yn

cydnabod bod gan y dysgwr rywbeth i’w gyfrannu i’r gymuned Gymraeg.

Yn ôl un tiwtor beth mae dysgwyr yn ei roi iddi hi yw eu gobaith a’u hyder

ynglfln â dyfodol yr iaith Gymraeg. Gan fod y gymuned Gymraeg yn

datblygu’n gyflym gyda phobl yn symud mwy gyda’u gwaith, mae’n haws i

ddysgwyr gael eu derbyn. Mae’r dysgwyr yn awyddus iawn i fod yn rhan

o’r prosiect cenedlaethol o adfer yr iaith Gymraeg ym mhob rhan o Gymru.

Cyfrannu a derbyn. Fe roddodd y diweddar Tudor Henson, a oedd wedi

dysgu Cymraeg yn eithriadol o dda ei hunan, lawer drwy siarad â dysgwyr

ar Gynllun Pontio Cyd. Fe gafodd gymaint o bleser wrth wneud fel y

rhoddodd ei weddw, Nia Henson, rodd o £250 i gangen Cyd Aberystwyth er

cof amdano. Mae rhoddion fel hyn yn galonogol iawn i ni ac rydym yn

ddiolchgar iawn iddi.

Braf yw cael cyfle i ddiolch hefyd i Ann Jones sydd wedi ymddeol fel

Ysgrifennydd Cangen Cyd Aberystwyth ar ôl blynyddoedd lawer o

wasanaeth i Cyd gyda chefnogaeth ei g˘r Gwyn. Wedi byw am flynyddoedd

yn Llundain, doedd Ann ei hunan ddim yn hyderus wrth siarad Cymraeg ond

mae gwirfoddoli gyda Cyd wedi ei helpu hi hefyd. Mae Ann wedi

trosglwyddo’r gwaith yn llwyddiannus iawn i Linda Gay ac eraill.

A hoffech fod yn Ymddiriedolwr Cyd? Mae angen Trysorydd arnom, ac

rydym yn awyddus i gael pobl o wahanol rannau o Gymru. Os ydych yn

fodlon teithio i Aberystwyth ar gyfer cyfarfodydd tua pum gwaith y

flwyddyn (telir treuliau), cysylltwch â ni a dywedwch pa sgiliau a phrofiad

sydd gennych i’w cynnig.

A Word from the

Chair

Respect on both sides is the key to the relationship between the Welshspeaking

community and the learners. Cyd’s aim is to integrate learners

into that community rather than to assimilate them. In a university thesis

Cynog Dafis defined integration as ‘an individual (or a family) taking his or

her (or its) place comfortably, without tension or significant conflict, in a

society to which he or she (or it) comes from outside, without necessarily

losing his or her (or its) distinctness or the characteristics which make it

possible to recognize him or her (or it) as a ‘newcomer’ (or ‘newcomer

family’).

Cynog Dafis defines assimilation as ‘a much more radical process, whereby

the incomer internalizes the values and characteristics of the society which

accepts him or her, to such a degree that it becomes more and more difficult

to recognize him or her as someone who comes from another society. There

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!