03.09.2015 Views

cylchgrawn

Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd

Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:37 am Page 13

Chymru’r tai teras a siop Mr Patel ar y gornel? Os felly, sut?

Ym mha Gymru yr hoffech chi fyw? Ai Cymru fewnblyg,

ddiogel ond cul Pentre Simon, ynteu Cymru gosmopolitanaidd

y boblogaeth symudol a’r bywydau ansicr? On’d ydy

diogelwch Pentre Simon weithiau yn fath o gaethiwed?

Ond dyna ddigon o gwestiynau, rhag ofn imi greu camargraff.

Nid nofel drymaidd mo hon. Mae’n anodd dychmygu nofelydd

mwy chwareus na Mihangel Morgan, na neb sy’n sgrifennu

mewn arddull mwy hygyrch. Penodau byr, digon o sgwrsio –

a rhyfeddod newydd ar bob tudalen. Fe fydd eich Cymraeg ar

ei hennill, a fydd Cymru ddim yr un lle ichi ar ôl ei darllen.

GEIRFA

dychymyg

cael blas arni

ar eich sefyll

troi’r dail

addurnedig

ôl-fodernaidd

anghonfensiynol

gwrthgyferbyniol

anorfod

mewnblyg

caethiwed

camargraff

hygyrch

imagination

to get a taste of it

standing up

to turn the pages

ornamental

post-modern

unconventional

contradictory

inevitable

introspective

captivity

wrong impression

approachable

DYSGU CYFANSAWDD

R.M. Jones

Adolygiad gan Cen Williams

Canolfan Bedwyr Prifysgol Cymru, Bangor

Bobi Jones

Braf yw gweld yr Athro Bobi Jones yn troi’n ôl at ddysgu a datblygu

iaith eto ar ôl rhoi cymaint o’i lafur a’i amser i’n goleuo ni ynglfln â

chymaint o agweddau ar ein llenyddiaeth.

Yn Dysgu Cyfansawdd mae’n canolbwyntio ar ddiffygion y cyrsiau

yn fwy na diffygion yr athrawon neu diwtoriaid. Tanlinellir yr hyn a

nodwyd gan Mr Gareth Davies Jones mewn adroddiad ar addysgu’r

ail iaith yn y sector cynradd ganol y nawdegau, sef bod angen

fframwaith ieithyddol neu strwythurol i unrhyw gwrs gyda’r

ffwythiannau yn llawforwyn i’r fframwaith honno. Heb hynny,

dysgu ar gyfer un sefyllfa yn unig a geir ac nid yw’r wybodaeth

ramadegol / ieithyddol na’r hyder yn debyg o drosglwyddo i

sefyllfaoedd eraill. Rhaid wrth (i) raddio a dethol, (ii) cysylltu’r

strwythurau â’i gilydd ac â’r ffwythiannau, (iii) gweld sut y mae

trefnu’r holl elfennau a geir yn yr eclectig yn ddull dysgu cyfansawdd

grymus a llwyddiannus.

Mae yma gyfoeth o gefndir a dysg ac yn Rhan 111 ymdriniaeth lawn

a diddorol â’r gwahanol dechnegau dysgu ail iaith sy’n dueddol o gael

eu hanghofio gan rai erbyn heddiw.

PAN DDAW’R DYDD?

Elfyn Pritchard (Gwasg Gomer, 2003, £7.99)

Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen (Eisteddfod Genedlaethol

Maldwyn a’r gororau 2003)

Adolygiad gan Mary Neal

Yn y nofel hwn cawn gipolwg ar fywyd tri o bobl mewn cyfnod byr

o’u bywydau. Y prif gymeriad yw Eirwyn. Dyn canol oed yw ef,

wedi bod yn briod â Cissie ers dros ugain mlynedd. Athro ydy

Eirwyn, yn dysgu Saesneg yn yr Ysgol Uwchradd.

Cissie yw ei wraig, a’i chwmni hi trwy’r wythnos fel gwraig tfl ydy

ei chi bach Swsi a’r gr˘p o wragedd sy’n cwrdd â’i gilydd yn y caffi

parchus yn y dref i glebran.

Drwy fanylion bychain dangosir bywyd beunyddiol Eirwyn a Cissie.

Mae Eirwyn yn ddyn tawel dan fawd ei wraig, dim cysur yn unman,

methiant yn yr ysgol, dyn gwan yn y capel ac yn y gymuned. Cissie

yn dioddef o ffobias o bob math ac o achos y rhain mae’n rhaid i

Eirwyn ddioddef hefyd. Dyma sail anhapusrwydd eu priodas. Mae

Eirwyn yn hiraethu oblegid nad oes plant a Cissie yn teimlo’n euog

oblegid celwydd ydy’r cwbl. Mae hi wedi twyllo ei g˘r. Mas o’r

twyll hwn mae twyll ar ôl twyll yn dod unwaith mae Gwen brydferth

yn cyrraedd. Dyna stori y nofel hon.

Ar ôl i mi ddarllen i’r diwedd (a rhaid i mi gyfaddef fod y

diweddglo’n un siomedig) roedd fy nheimladau yn hollol gydag

Eirwyn. Dim felly gyda fy ng˘r. Roedd e’n teimlo dros wraig

Eirwyn (ac mewn gwirionedd mae Eirwyn yn dipyn o anorac yn

gwrthod pob ymdrech gan Gwen i’w ddenu i amrywiaeth o

ystafelloedd gwely, nid o achos ei anffyddlondeb i Cissie ond o achos

iddo gael llond plât o bwdin yn gyntaf!).

Ar y cyfan fe wnes i fwynhau’r nofel, sy’n hawdd i’w darllen ac yn

nofel hen ffasiwn fatha nofelau’r chwedegau. Ar gyfer dysgwyr –

nofel berffaith.

GEIRFA

parchus

clebran

bywyd beunyddiol

dan fawd

twyllo

ymdrech

respectable

to chat

everyday life

under the thumb

to deceive

effort

Mae’r ymdriniaeth lawn i’w chael am ddim ar safle gwe www.

aber.ac.uk/cyd

13

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!