cylchgrawn
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:33 am Page 10

P E N W Y T H N O S C Y D

Fel arfer roedd y cyfle i fynd ar cwrs Cymraeg yn

atyniadol iawn i mi ond y tro ’ma roedd o’n rhywbeth

hollol wahanol. Nid penwythnos yn y dosbarth oedd o

ond cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg wrth cael hwyl yn yr

awyr agored.

Ar ôl swper nos Wener aeth nifer ohonon ni i’r ‘Off

Licence’ i brynu unrhyw beth a oedd yn gryfach na

choffi i yfed wrth fwynhau cwis Rhodri.

Deffrôdd pawb yn gynnar (!) bore Sadwrn, cael brecwast

ac wedyn i lan y llyn lle roedd y can˘od yn aros

amdanon ni. Cododd y gwynt ond ar ôl tua awr roedd

dau o’r can˘od wedi dychwelyd yn saff ond roedd rhaid

i’r trydydd gael ei achub gan y cwch achub cyn iddyn

nhw gyrraedd Caer!

Ar ôl cinio roedd gwibdaith i’r Bala a chyfle i

ddefnyddio’r iaith yn y siopau a thafarnau. Yn gyntaf

aethon ni i’r ‘Ship’ am beint ac ar ôl gofyn am ddiod yn

fy Nghymraeg gorau daeth yr ymateb ‘I’m sorry but I

don’t speak Welsh’! Felly aethon ni i’r Plas Coch a chael

dipyn o hwyl mewn awyrgylch Cymraeg.

Nos Sadwrn ar ôl swper mawr aeth y criw i’r Eryrod,

tafarn yn Llanuwchllyn. Roedd o’n brofiad gwerthfawr

i glywed pawb yn y dafarn yn defnyddio’r iaith

Gymraeg.

Bore Sul roedden ni’n bwriadu mynd am dro ond cafodd

o ei ganslo ar ôl i’r tywydd droi’n ddiflas. Awgrymodd

Huw y basai’n syniad da i ddatrys nifer o broblemau fel

maen nhw’n gwneud ar gyrsiau ‘adeiladu timau’. Roedd

o’n bleserus iawn er gwaethaf llawer o dwyllo ac wedyn

ymlaen i’r rhaffau dringo (nid fi wrth gwrs), yna cinio a

ffarwelio.

Mwynheuais y penwythnos yn fawr iawn. Roedd cyfle i

gyfarfod â phobl o bob safon ag ymarfer yr iaith wrth

ymlacio, a r˘an dw i’n edrych ymlaen at y cwrs yn Nant

Gwrtheyrn.

Cyn i mi orffen rhaid i mi ddweud diolch i Rhodri, Huw

a thîm Glan-llyn.

Steve Owens

Bwy r y Tir Ad-Cadwyn CYD 24/5/04 1:42 pm Page 1

ARDDANGOSFA

Byw ar yTir

datblygiad amaeth yng Nghymru

12 MAI - 9 HYDREF

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

ABERYSTWYTH

www.llgc.org.uk 01970 632800

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

The National Library of Wales

Aberystwyth

GEIRFA

atyniadol

hollol wahanol

awyr agored

yn gryfach na

yn aros amdanon ni

(g)cael ei achub

gwibdaith

awyrgylch Cymraeg

cafodd o ei ganslo

ar ôl i’r tywydd droi

adeiladu timau

er gwaethaf

yn fawr iawn

edrych ymlaen at

EXHIBITION

Life on the Land

the development of agriculture in Wales

12 MAY - 9 OCTOBER

The National Library of Wales

ABERYSTWYTH

attractive

completely different

open air

stronger than

waiting for us

be rescued

trip

Welsh atmosphere

it was cancelled

after the weather turned

team building

inspite of

very much

looking forward to

10